– Senedd Cymru am 6:29 pm ar 17 Medi 2019.
Sy'n dod â ni at y ddadl olaf, a'r ddadl hynny ar egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Bydd y Bil hwn, os caiff ei basio, yn sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael yr un lefel o ddiogelwch rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r tri phwyllgor sydd wedi gweithio mor galed i graffu ar y Bil hwn. Bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Rwyf i hefyd eisiau cofnodi fy niolch i'r bobl a'r sefydliadau niferus sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'r Llywodraeth hon yn credu bod lleisiau plant a phobl ifanc yn bwysig. Mae'r Cynulliad wedi cefnogi sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, sydd yn ei thro wedi rhoi mwyafrif ei chefnogaeth i'r Bil hwn—pleidleisiodd 70 y cant o'i Haelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Felly dyna lais y bobl ifanc.
Mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros y ddeddfwriaeth hon. Rwyf i wedi ymgyrchu mewn gwirionedd ers 20 mlynedd, ac rwy'n falch iawn ei fod yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r Bil yn frwd, ac rwyf eisiau talu teyrnged i Carl Sargeant, ac am swyddogaeth y ddau wrth ddatblygu'r Bil. Llywydd, rwyf eisiau i'r Aelodau wybod fy mod wedi ystyried yn ofalus ac rwy'n bwriadu derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaed gan bob un o'r tri phwyllgor craffu.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â helpu i ddiogelu hawliau plant. Yn y wlad hon, gallwn ni ymfalchïo bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ganolog i'n hymagwedd ni i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac i'w helpu i gyflawni eu potensial. Nod cyffredinol y Bil yw helpu i ddiogelu hawliau plant, yn unol ag erthygl 19 y Confensiwn—yr hawl i gael amddiffyniad rhag pob math o drais.
Mae angen i ni gydnabod bod termau fel 'smac ysgafn', neu 'smac gariadus' yn trin cosb gorfforol yn ysgafn. Mae gwahanol ddehongliadau ynglŷn â'r hyn y mae smacio ysgafn neu gariadus yn eu golygu, a pha mor aml y cânt eu defnyddio, yn aml gan rieni sy'n credu eu bod yn gwneud y peth iawn ar gyfer eu plentyn. Ac fel y clywodd y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 y gwaith craffu ar y Bil, gall y term 'cosb resymol' ei hun gymylu ffiniau hefyd, gan ei gwneud yn anodd i weithwyr proffesiynol roi cyngor clir a diamwys i rieni. A dyna pam y mae cymaint o gefnogaeth gan bron pob un o'r cyrff proffesiynol, a'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant. A pha bynnag enw sy'n cael ei roi iddi, mae cosb gorfforol yn fater hawliau dynol, sydd, yn ôl y mwyafrif o ymchwilwyr, â'r potensial i achosi niwed i blant.
Waeth pa mor ysgafn y gallai ymddangos, mae CCUHP yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol i blant yn anghydnaws â'u hawliau dynol. Mae llawer o ffyrdd amgen a mwy cadarnhaol o ddisgyblu plentyn nad ydynt yn cynnwys cosb gorfforol. Ni allaf fyth dderbyn ei bod yn dderbyniol i unigolyn mawr daro unigolyn bach. Mae'r Bil hwn yn dod â Chymru yn gwbl unol â CCUHP; mae hefyd yn cyd-fynd ag argymhellion Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, ac â nod datblygu cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig.
Roeddwn i'n falch iawn bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ar wahân i ddau o'i aelodau, wedi argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Roedd y pwyllgor hwnnw a'r Pwyllgor Cyllid yn glir, er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae'n rhaid cael ymgyrch wybodaeth wedi'i chynllunio'n dda i gyd-fynd â'r Bil hwn. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod rhieni yn ymwybodol o ac yn gwybod am hyn yr ydym ni'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelodau ar y pwynt hwn, ac rwyf wedi addo y byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth ynghylch dileu'r amddiffyniad cosb resymol, ac rwyf wedi cymeradwyo ymgyrch ymwybyddiaeth lefel uchel. Byddaf yn cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth i ychwanegu dyletswydd i godi ymwybyddiaeth ar wyneb y Bil.
Maes arall y canolbwyntiwyd arno yw pwysigrwydd cefnogi rhieni i fabwysiadu dulliau rhianta cadarnhaol. Rydym ni eisoes yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni drwy amrywiaeth o raglenni ac ymgyrchoedd, ond bwriadwn gynnal ymarfer mapio i nodi'r bylchau neu'r cyfleoedd i wneud mwy. Ac rwyf wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth am ganlyniad yr adolygiad hwn yn dilyn dadansoddiad a thrafodaethau â'r grŵp arbenigwyr rhianta.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Gwn fod llawer o bobl yn poeni am gael eu troi'n droseddwyr o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'r pwynt yr ydych chi newydd ei wneud am gymorth i deuluoedd yn un pwysig iawn. A ydych chi'n rhagweld, os caiff teulu ei ddal o dan y ddeddfwriaeth hon na fydden nhw'n mynd i'r carchar, y byddai darpariaeth ar gyfer dedfrydu i gynnwys opsiynau i ddarparu rhianta cefnogol, cynadledda grŵp teulu—y math hwnnw o agwedd at hyn—yn hytrach na throseddoli, carcharu a gwahanu teuluoedd? Rwy'n credu mai o'r fan honno y daw llawer o'r ofn ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Felly, a allwch chi sicrhau pobl, os gwelwch yn dda?
Ydw, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon gyda chymorth ar gyfer rieni. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw ceisio gwneud y gwaith rhianta'n haws, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod rhianta'n anodd, ac mae rhieni'n croesawu'r holl gyngor a chymorth sydd ar gael iddynt. Felly, mae'n gwbl hanfodol, pan fyddwn ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ein bod hefyd yn gwneud yn siŵr bod cefnogaeth a chymorth ar gael, a'n bod yn gweithio gyda'r gwahanol asiantaethau—rydym ni'n gweithio gyda'r heddlu i drafod cynlluniau dargyfeirio ac rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill i weld pa gymorth a chefnogaeth y mae'n bosibl eu rhoi. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt hollbwysig.
Felly, yng ngoleuni argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf hefyd wedi ystyried gyda fy nghyd-Aelodau—y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg—ar swyddogaeth rhaglen Plant Iach Cymru a'r cwricwlwm yn cefnogi rhieni presennol, ac yn arfogi plant a phobl ifanc i ddod yn rhieni'r dyfodol. A chredaf bod hynny'n hanfodol iawn, bod yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn helpu i'w paratoi ar gyfer y dyfodol.
Rydym ni eisiau i rianta cadarnhaol fod ein ffordd ni o wneud pethau yng Nghymru, ac os caiff y Bil hwn ei basio, bydd y modd y caiff y Bil ei weithredu yn hollbwysig os yw'r Cynulliad yn pasio'r Bil hwn. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, CAFCASS Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol i ystyried ei effaith a'i weithrediad, gan gynnwys ystyried canllawiau ac anghenion hyfforddi. Rydym ni wedi sefydlu grŵp gweithredu strategol a phedwar grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Cytunaf hefyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bydd angen digon o amser rhwng Cydsyniad Brenhinol a chychwyn er mwyn gwneud y gwaith codi ymwybyddiaeth a gweithredu pwysig.
Rwy'n croesawu bod pwysigrwydd casglu data er mwyn galluogi asesu a gwerthuso effaith y Bil yn cael ei gydnabod. Roedd dod o hyd i ddata a'i ddadansoddi yn flaenoriaeth, ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd o gasglu data perthnasol am gyfnod cyn gweithredu er mwyn sefydlu llinellau sylfaen, ac ar ôl cychwyn, i fonitro'r Bil. Byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i roi ymrwymiad i gynnal gwerthusiad ar ôl gweithredu'r Bil. Byddwn ni hefyd yn cynnal arolygon rheolaidd i olrhain llwyddiant ein gweithgarwch codi ymwybyddiaeth a'r effaith ar y farn gyhoeddus am gosbi plant yn gorfforol.
Rwyf eisiau pwysleisio, fodd bynnag, nad oes unrhyw dystiolaeth ryngwladol sy'n awgrymu y caiff yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol eu llethu gan benderfyniad i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol, ac mae'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cadarnhau hyn hefyd yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor. Hefyd, yr wythnos diwethaf cwrddais â Chomisiynydd Plant yr Alban. Fel y gwyddoch chi, mae'r Alban yn mynd drwy broses debyg. Maen nhw'n cyflwyno Bil ar yr un pryd â ni. Mae Comisiynydd Plant yr Alban yn hanu o Seland Newydd, ac ym mis Awst cyfarfu ef â'r heddlu, gweithwyr cymdeithasol a'r sefydliadau magu plant yn Seland Newydd—ac wrth gwrs, mae gan Seland Newydd awdurdodaeth gyfreithiol debyg i ni ein hunain, a gweithredon nhw hyn 10 mlynedd yn ôl—a dywedodd ef eu bod yn unfrydol eu bod yn gwbl gadarnhaol ynghylch y newid yn eu cyfraith yn y fan honno. Croesawodd gweithwyr cymdeithasol yr eglurder y mae'r gyfraith wedi'i ddarparu, a dywedodd yr heddlu nad oedd wedi arwain at fwy o erlyn. Yn hytrach, yr oedd wedi darparu eglurder i swyddogion ac wedi caniatáu ymyriadau cefnogol. Cyfeiriodd y gweithwyr rheng flaen hyn yn Seland Newydd at y newid cynyddol a fu yn agweddau'r cyhoedd dros y degawd diwethaf, a chefnogir hynny gan arolygon y boblogaeth gan y Llywodraeth. Felly, ystyriais ei bod yn dda iawn cael gwybodaeth uniongyrchol am yr hyn sy'n digwydd yn Seland Newydd.
Ac rwyf am gloi drwy ddweud bod datganoli wedi rhoi cyfle unigryw i Gymru arwain y ffordd ar nifer o faterion yn y DU. Dim ond dau ohonyn nhw: fe wnaethom ni gyflwyno'r tâl o 5c am fagiau siopa, sydd wedi cwtogi'n sylweddol nifer y bagiau siopa untro a ddefnyddir, ac wedyn rhannau eraill o'r DU; fe wnaethom ni newid y gyfraith ar roi organau ac mae gennym ni bellach y gyfradd gydsynio uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni gyfle yn awr i newid y gyfraith ar gosbi plant yn gorfforol a dileu'r amddiffyniad hwn, sydd wedi golygu bod plant yn cael eu trin yn wahanol yng ngolwg y gyfraith. Ni allaf i fy hun feddwl am ddim byd pwysicach y gallwn ni ei wneud nag amddiffyn ein plant mwyaf agored i niwed. Felly, yn y gorffennol, lle mae Cymru wedi arwain, mae eraill wedi dilyn. Gadewch i ni fod yn feiddgar yn yr achos hwn a gadewch i ni gefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Bydd yr Aelodau'n gallu gweld o'n hadroddiad bod y rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid yw Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn cefnogi bod y Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n amlinellu'r rhesymau dros eu safbwynt yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Cyn imi fanylu ar pam mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi'r Bil, rwyf am ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth yn nodi eu barn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhieni a'r cynrychiolwyr hynny o sefydliadau a siaradodd yn uniongyrchol â ni. Mae'n cymryd amser ac ymdrech i bobl wneud hyn. Yn achos y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r lle hwn, gall hefyd gymryd dewrder. Fel pwyllgor, hoffem ni gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd. Hoffwn i hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'n tîm pwyllgor, fel sy'n wir bob tro, sydd wedi rhoi cefnogaeth eithriadol i'r pwyllgor wrth inni ymgymryd â'n gwaith craffu.
O'r cychwyn cyntaf, rwyf eisiau pwysleisio ein bod yn llwyr gydnabod y safbwyntiau cryf ar ddwy ochr y ddadl ynghylch a ddylai'r Bil hwn ddod yn gyfraith. Gobeithiaf fod hyd ein hadroddiad a'r manylion sydd ynddo'n dangos pa mor bwysig yw hi i ni ystyried pob math o safbwynt. Gwyddom ni na fydd cyfran o'r boblogaeth yn cytuno â'n casgliadau. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio bod y dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yn dangos i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil ymrwymiad y Pwyllgor i graffu teg a chadarn ac i ystyried y dystiolaeth a'r safbwyntiau a glywsom.
I'r perwyl hwn, gwahoddwyd campws gwyddor data y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal dadansoddiad diduedd o'r safbwyntiau a fynegwyd yn ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil. Hoffwn ni gofnodi ein diolch iddyn nhw am eu gwaith. Cawsom ni amrywiaeth eang o wybodaeth, clywsom amrywiaeth eang o safbwyntiau, a rhoddwyd ystyriaeth fanwl i ehangder y dystiolaeth a oedd ar gael i ni.
Rhan bwysig o'n gwaith oedd clywed gan y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen, yn darparu gwasanaethau ac yn meddu ar gyfrifoldeb statudol i amddiffyn plant a gweithredu er eu budd gorau. Roedd hyn yn cynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol, cynrychiolwyr athrawon ac amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, pediatregwyr a seiciatryddion. Dywedodd pob un wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru gan y bydd yn gwneud y gyfraith yn glir.
Dywedwyd wrthym ni y byddai bod â chyfraith gliriach o gymorth i'r rhai hynny sydd yn y rheng flaen i amddiffyn plant yn well, gan gynnwys y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol oherwydd ei fod yn darparu llinell glir iddynt, ac yn bwysig, ffin glir y gall rhieni, plant a'r cyhoedd yn ehangach ei deall yn glir.
Rydym ni'n cydnabod nad oedd y rhan fwyaf o'r unigolion a ymatebodd i'n hymgynghoriad o safbwynt personol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Clywsom ni amrywiaeth eang o resymau dros eu gwrthwynebiad ac rydym ni wedi adlewyrchu'r safbwyntiau hyn yn fanwl yn ein hadroddiad. Roedd mwyafrif yr ymatebion gan unigolion yn canolbwyntio ar sut y byddai dileu'r amddiffyniad yn effeithio ar rieni. Roeddem ni'n glir iawn mai ein prif nod fel pwyllgor yw pwyso a mesur yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei dweud wrthym ni am yr effaith y gallai'r Bil hwn, neu y bydd yn ei chael ar blant, ac a fydd yn gwella'r amddiffyniad y mae'r gyfraith yn ei ddarparu ar eu cyfer.
Ystyriwyd gennym ni hefyd y cyfoeth o dystiolaeth academaidd sy'n bodoli yn y maes hwn. Mae hyn yn amgylchynu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ystyried y dystiolaeth am effeithiau tymor byr a thymor hir cosbi corfforol ar blant, a'r effaith ar ganlyniadau plant mewn gwledydd sydd eisoes wedi'i wahardd.
At ei gilydd, mae'r rhan fwyaf o'n Pwyllgor o'r farn bod dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Nid ydym ni'n argyhoeddedig y gallai nifer fawr o erlyniadau ddeillio o basio'r Bil hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny, ac nid barn yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yw honno ychwaith.
Fe welwyd bod Cymru'n arwain y ffordd i blant a phobl ifanc a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol pan gyflwynodd hi'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Dyma'r ddeddfwriaeth gyntaf o'i math yn y DU, yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Rydym ni, a'r pwyllgorau a'n rhagflaenodd, wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth Cymru fod yn rhaid i'r ymrwymiad deddfwriaethol hwn i hawliau gael ei wireddu ym mywydau plant.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi bod yn glir iawn ei fod eisiau i'r gyfraith ar gosbi corfforol newid yn y DU. Yn fwyaf diweddar, yn 2016, dywedodd y dylem wahardd fel mater o flaenoriaeth bob cosb gorfforol yn y teulu, gan gynnwys diddymu'r holl amddiffyniadau cyfreithiol, megis 'cosb resymol'.
Mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn credu na allwn ni, fel gwlad, ddewis a dethol erthyglau'r confensiwn yr ydym ni'n cydymffurfio â nhw. I ni, bydd pasio'r ddeddfwriaeth hon yn enghraifft glir o sut y mae'n bosibl troi'r dyletswyddau deddfwriaethol presennol hyn yn realiti ystyrlon i blant Cymru.
Yn yr amser sydd ar ôl, hoffwn i droi at y pethau y mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor o'r farn y mae eu hangen i sicrhau bod y Bil hwn yn cyflawni ei nodau datganedig. Wrth argymell y dylai'r Bil ddatblygu, rydym ni'n glir iawn ei bod yn hanfodol bod dau beth ar waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio er lles plant a'u teuluoedd. Yn gyntaf, fe gredwn ni fod cael ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth yn hanfodol. Mae hyn yn sylfaenol i lwyddiant y ddeddfwriaeth hon. Nid ydym ni yn amau bwriad y Llywodraeth bresennol i gynnal yr ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Fodd bynnag, er y bydd gweinyddiaethau'r dyfodol yn etifeddu'r cyfreithiau yr ydym ni yn eu pasio, efallai na fyddant yn rhannu'r un lefel o ymrwymiad i'r dulliau sy'n allweddol i'w gweithredu'n effeithiol. Felly, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn derbyn ein hargymhelliad y dylid diwygio'r Bil i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth o effaith y ddeddfwriaeth.
Yn ail, rydym ni'n argymell bod cymorth cyffredinol yn cael ei ddarparu i rieni ledled Cymru. Mae llawer mwy y mae'n rhaid ei wneud i gynorthwyo teuluoedd a'r heriau anochel a ddaw yn sgil rhianta. Rydym ni o'r farn bod rhoi cymorth i rieni ddysgu am ddewisiadau yn hytrach na chosb gorfforol, a'u defnyddio wrth ddisgyblu eu plant yn hanfodol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni amcanion datganedig y Llywodraeth. Bydd hyn yn galw am newid sylweddol a buddsoddiad strategol.
O ystyried y pwysigrwydd y mae'r pwyllgor yn ei roi ar ddarparu cymorth cyffredinol digonol i rieni, hoffwn i holi'r Dirprwy Weinidog ychydig ymhellach am ei hymateb i argymhellion 7 a 18. Roeddem ni yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ystod y broses graffu bod ymarfer ar y gweill i fapio'r cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru. Felly, rydym ni'n siomedig na fydd canlyniadau'r ymarfer mapio ar gael i ni mewn pryd i lywio cyfnodau diwygio'r Bil hwn. Mae hyn yn peri pryder arbennig i ni o gofio mai dymuniad y Dirprwy Weinidog i beidio ag achub y blaen ar yr ymarfer mapio yw'r rheswm a roddwyd dros fethu â derbyn ein hargymhelliad 18 yn llawn, sy'n galw am y newid sylweddol hwnnw o ran cymorth cyffredinol gyda rhianta cadarnhaol. Byddwn i yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog nodi pam na ddechreuwyd yr ymarfer mapio hwn yn gynharach er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad gymaint o wybodaeth â phosibl ar gael iddo. Er mwyn rhoi sicrwydd i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil hwn y bydd digon o gymorth ar gael i rieni law yn llaw â'r newid hwn yn y gyfraith, byddwn i'n annog y Dirprwy Weinidog i ailystyried yr amserlen bresennol ar gyfer yr ymarfer mapio.
Hoffwn i gloi drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am yr ymateb manwl a roddwyd cyn y ddadl, ac i ailadrodd fy niolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu Cyfnod 1. Diolch yn fawr.
Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch, Llywydd. Cyflwynodd y pwyllgor adroddiad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ar 2 Awst eleni, gan wneud dau argymhelliad yn unig. Hoffwn dynnu sylw at rai pwyntiau ehangach cyn i mi symud ymlaen at ein hargymhellion.
Yn unol â’r drefn ar gyfer ein gwaith craffu ar bob Bil, bu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod materion yn ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad, y defnydd arfaethedig o is-ddeddfwriaeth, a materion eraill yr ydym yn ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd y ddeddfwriaeth.
Er mwyn i Fil fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o’i ddarpariaethau gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Gwnaethom godi’r mater hwn gyda'r Dirprwy Weinidog yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, yn benodol o ran taro cydbwysedd rhwng hawliau’r plentyn i gael ei amddiffyn a hawliau’r rhieni i ddisgyblu eu plentyn.
Rydym yn croesawu ymatebion y Dirprwy Weinidog i'r cwestiynau a ofynnwyd gennym, ac rydym yn nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr asesiad effaith cydraddoldeb, sy'n ymdrin ag erthyglau perthnasol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Fodd bynnag, rydym wedi datgan yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol sy’n ymddangos yn ei memoranda esboniadol yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder ac i hwyluso gwaith craffu effeithiol ar Filiau.
Credwn y dylid sicrhau bod esboniad mwy cynhwysfawr o'r asesiadau a gynhaliwyd mewn perthynas â hawliau dynol yn cael ei gynnwys y memoranda esboniadol. Nodwn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i adolygu'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd yn y memorandwm esboniadol a'r asesiadau effaith a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar ei gwefan.
Hoffwn fod yn glir nad ymgais ydy hwn i danseilio'r asesiadau o gymhwysedd deddfwriaethol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein dull gweithredu yw sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi mewn ffordd gydlynol, dryloyw a hygyrch, a hynny er mwyn hwyluso’r broses graffu a gwella dealltwriaeth ymhlith dinasyddion.
Gwnaethom nodi bod y Bil yn cynnwys un pŵer dirprwyedig sydd ar ffurf Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn pennu’r dyddiad y daw darpariaethau'r Bil i rym, ac ni fydd yn destun gweithdrefn graffu. Felly, er ein bod yn fodlon â’r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi’i nodi ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i is-ddeddfwriaeth, rydym yn nodi’r ffaith y gall y Gorchymyn wneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed. Yn sgil hynny, mae ein hadroddiad yn awgrymu y dylai ein pwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad ystyried yn ofalus y defnydd a wneir o'r pŵer cychwyn hwn.
Yn awr, hoffwn symud ymlaen at ein dau argymhelliad. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel y prif wasanaeth erlyn cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr, yn darparu cyngor ynghylch cyhuddiadau mewn perthynas ag achosion mwy difrifol neu gymhleth, a hynny’n seiliedig ar y cod ar gyfer erlynwyr y Goron a chanllawiau erlyn. Rydym yn cytuno efo'r Dirprwy Weinidog y bydd canllawiau safonol cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron yn hynod bwysig o ran cyflawni amcanion y Bil.
Ar y sail honno, mae ein hargymhelliad cyntaf yn awgrymu y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn sicrhau bod y canllawiau safonol cyhuddo diwygiedig, ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig, ar gael i Aelodau'r Cynulliad ar ffurf drafft cyn trafodion Cyfnod 3 ar y Bil. Nodwn fod y Dirprwy Weinidog, er ei bod yn derbyn egwyddor yr argymhelliad hwn, wedi nodi nad oes modd iddi ddylanwadu ar Wasanaeth Erlyn y Goron ynghylch y broses o ddatblygu’r canllawiau neu’r amserlen gysylltiedig.
Yn olaf, rydym yn nodi bwriad y Dirprwy Weinidog i gynnal adolygiad ôl-weithredu. Yn ein barn ni, dylai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru werthuso ei effeithiolrwydd wrth gyflawni'r amcanion polisi dan sylw. Rydym yn tynnu sylw at Ddeddfau Cymreig eraill sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwerthusiad ôl-weithredu yn cael ei gynnal; er enghraifft, Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.
Ein hail argymhelliad, felly, yw y dylid diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal gwerthusiad ôl-weithredu o'r Bil yma. Awgrymwn y dylid cynnal gwerthusiad o'r fath cyn pen tair blynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, ac y dylai Gweinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau’r gwerthusiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym yn croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog y bydd yn cyflwyno gwelliant at ddibenion gweithredu’r argymhelliad hwn. Nodwn, fodd bynnag, y bydd y gwerthusiad hwnnw’n digwydd o fewn cyfnod o bum mlynedd, yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, fel y nodir yn ein hargymhelliad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas, wrth gwrs, â goblygiadau ariannol y Bil sydd gennym ni dan sylw y prynhawn yma. Rŷn ni wedi gwneud, fel pwyllgor, naw o argymhellion i gyd ac rwy’n falch bod y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi derbyn saith o’r rheini yn llawn ac wedi derbyn dau arall mewn egwyddor. Ac mi wnaf i ganolbwyntio, yn fy nghyfraniad i heno, ar ein canfyddiadau allweddol ni o blith y rheini.
Mae’r rhan fwyaf o gostau’r Bil, wrth gwrs, yn gysylltiedig â gwaith codi ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe wnaethon ni glywed bod deddfwriaeth debyg yn cael ei hystyried gan Senedd yr Alban, ac yn wahanol i ddull Llywodraeth Cymru, mae Bil yr Alban yn rhoi dyletswydd ar wyneb y Bil sy’n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion yr Alban godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o effaith y Bil. Nawr, o ystyried y bydd yr ymgyrch yn hanfodol o ran gweithredu’r Bil, rŷn ni’n credu y dylid defnyddio’r un dull yng Nghymru. A dwi'n falch iawn nawr, wrth gwrs, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac argymhelliad tebyg gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac y bydd yn cyflwyno gwelliant i’r perwyl hwnnw.
Rŷn ni hefyd yn falch o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi rhoi ei chymeradwyaeth ar gyfer ymgyrch ddwys, gan ddyrannu oddeutu £2.2 miliwn dros gyfnod o tua chwe blynedd, ac y bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, yn benodol sut y mae'n bwriadu cyrraedd unigolion perthnasol. Rŷn ni’n edrych ymlaen at weld y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys, wrth gwrs, mewn memorandwm esboniadol diwygiedig ar ddiwedd Cyfnod 2.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fe glywon ni nad oedd y costau i'r gwasanaethau cymdeithasol yn hysbys ar hyn o bryd oherwydd diffyg data sylfaenol. Nawr, gan fod yr amddiffyniad cosb resymol eisoes yn bodoli, dyw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ddim yn casglu gwybodaeth benodol am gosb gorfforol. O ystyried y cyfnod hir ar gyfer datblygu’r Bil hwn, rŷn ni yn credu y dylai mwy o gynnydd fod wedi cael ei wneud o ran pennu cost sylfaenol ar gyfer atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i flaenoriaethu'r gwaith hwn a bod swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio cael amcangyfrif o nifer yr atgyfeiriadau cyfredol i wasanaethau cymdeithasol.
Nawr, fe amcangyfrifir ei bod hi'n debygol y bydd rhyw 274 o atgyfeiriadau y flwyddyn i’r heddlu mewn perthynas â diddymu’r amddiffyniad, a bod yna gost fesul uned o £650, sy'n rhoi cyfanswm cost, felly, o £178,000. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai nifer yr achosion sy'n arwain at erlyniad yn lleihau dros amser o ganlyniad i'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ni hefyd y byddai erlyniadau yn digwydd dim ond os yw hynny er budd y cyhoedd ac er budd y plentyn, ac yr hoffai drafod atebion cymunedol megis cynlluniau dargyfeirio a rhai o'r materion gododd Leanne Wood yn gynharach. Rŷn ni'n falch ei bod hi wedi derbyn argymhelliad 5 gan y Pwyllgor Cyllid a bod gwaith yn cael ei wneud o ran y goblygiadau cost ar gyfer cynlluniau dargyfeirio.
Rŷn ni hefyd yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 6 ac y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ddarparu data sy'n dangos cysylltiad clir rhwng nifer yr achosion a gaiff eu hatgyfeirio i’r heddlu a nifer yr erlyniadau sy'n dod, wedyn, yn sgil hynny.
Dwi am gloi jest wrth sôn ychydig am y grŵp gweithredu. Mae’n ymddangos fel pe bai gan y grŵp gweithredu rôl allweddol i'w chwarae wrth asesu'r gweithgareddau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r Bil yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dyw’r asesiad effaith rheoleiddiol ddim yn cynnwys costau adnoddau’r grŵp. Mae’r pwyllgor yn credu bod yr amser y bydd gweithwyr proffesiynol yn ei dreulio fel aelodau o’r grŵp hwn yn gost cyfle—an opportunity cost—ac felly fod yn rhaid i’r grŵp gynnig gwerth am arian. Rŷn ni'n falch, felly, fod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 8 ac y bydd yn cyhoeddi cynllun gwaith lefel uchel ar gyfer y grŵp gweithredu. Ac felly, gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i chi am eich gwrandawiad?
Mae gen i lawer o siaradwyr sydd wedi mynegi awydd i siarad yn y ddadl hon. Os gall Aelodau fod mor gryno â phosibl, byddai hynny'n ddefnyddiol er mwyn ein galluogi i alw cynifer o siaradwyr â phosibl. Rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth o safbwyntiau yn cael eu mynegi y prynhawn yma ar y mater hwn, felly byddwn yn ceisio galw cynifer o siaradwyr â phosibl ond disgwyliwch i'r sesiwn hon ymestyn yn hwy na'r cyfnod 60 munud a neilltuwyd. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad yn erbyn egwyddorion sylfaenol y Bil hwn, Bil sy'n gweld y Llywodraeth hon yn ymyrryd yn amhriodol ac yn ormodol ym mywyd teuluol. Yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw ymagwedd gwladwriaeth famaeth, sy'n anghytuno mai rhieni sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y gosb neu'r ddisgyblaeth briodol i blentyn. Rydym yn gwybod o adolygiad gan Lywodraeth y DU nad yw'n ymddangos bod llawer o ddefnydd o'r amddiffyniad. Yn yr un modd, rhwng 2009 a 2017, dim ond tair gwaith y codwyd yr amddiffyniad, mewn achosion pan wnaed penderfyniad i gyhuddo. Felly, nid yw'r amddiffyniad wedi bod yn llesteirio llawer o rieni sydd mewn gwirionedd wedi achosi dim mwy na chochi'r croen am gyfnod byr rhag cael eu dwyn i gyfrif. Felly, mae'n ymddangos bod yr honiad mai arwydd o ddangos rhinwedd yw'r ymarfer cyfan hwn yn hollol gywir. Yn yr achos hwn, ni ellir cyfiawnhau amharu ymhellach ar hawliau rhieni o ran bywyd preifat a theuluol, rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod yr ymyrraeth wedi'i chyfiawnhau gan yr angen i amddiffyn hawliau plant, ond ydy hi? Nac ydy yn fy marn i. Mae'r memorandwm esboniadol yn cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw dystiolaeth ymchwil sy'n dangos yn benodol bod effeithiau smac ysgafn yn awr ac yn y man yn niweidiol i blant. Yn wir, cefnogir hyn gan yr adolygiad 'Cosb Gorfforol Rhiant: Canlyniadau Plant ac Agweddau'.
Mae tystiolaeth i ddangos bod poen emosiynol yn cael ei brosesu yn yr un rhan o'r ymennydd â phoen corfforol mewn gwirionedd. Mae'r Cymdeithion Seicoleg annibynnol yn dweud wrthym fod cosb gorfforol yn llai niweidiol na rhai dulliau eraill nad ydyn nhw'n gorfforol, fel gemau meddwl, ac y byddai anfon plentyn i ystafell a'i gadw ar wahân am nifer o oriau yn beth niweidiol iawn, iawn i'w wneud. Nid oedd unrhyw syndod, felly, mai dim ond hanner y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad oedd yn cytuno y bydd y cynnig deddfwriaethol yn cyflawni'r nod o amddiffyn hawliau plant. Felly, ni ellir anwybyddu cyngor yr Athro Larzelere—mai dewis gwell fyddai nodi'r gosb fwyaf priodol. Fel y mae hi, mae llawer o rieni da yng Nghymru ac rydym ni ar y trywydd iawn erbyn hyn i'w gwneud yn droseddwyr a hynny'n afresymol.
Cyfaddefir yn y memorandwm esboniadol y bydd rhieni, os cyflwynir adroddiad arnyn nhw, yn cael eu cyhuddo, eu herlyn a'u collfarnu, neu'n cael cynnig gwarediad statudol y tu allan i'r llys, a fyddai'n cael ei ddatgelu fel gwybodaeth am gollfarn ar wiriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwaeth fyth yw bod prif gwnstabl de Cymru wedi cyfaddef y bydd adroddiadau am ymddygiad troseddol honedig yn dal i ymddangos, hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw wedi'i erlyn.
Gofynnaf i'r Siambr hon: a ydym ni wirioneddol eisiau i rieni o'r fath weld eu cyfleoedd gyrfaol yn cael eu herio a llesteirio ar deithio i rai gwledydd o ganlyniad i fân ddigwyddiad a chael gwared ar yr amddiffyniad? A ydym ni hyd yn oed wedi meddwl am y ffaith y gall cosbi'r rhiant achosi niwed i'r plentyn hefyd? Nodwyd yn y pwyllgor bod uwch swyddogion yng Nghymru wedi rhybuddio y gellir symud plant o'u cartref teuluol wrth i achosion gael eu herlyn. Esboniwyd hefyd y gallai'r gwaharddiad beri oedi yn achos rhai o'r 6,500 o achosion llys lle na all rhieni gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant, a gwneud smacio yn arf mewn achosion o ysgariad.
Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar y Dirprwy Weinidog. Mae hi ei hun wedi cyfaddef bod adroddiadau maleisus yn debygol o ddigwydd gan gyn-bartneriaid. Mae'n wir bod yn rhaid i'r heddlu eisoes nodi achosion gwirioneddol, a bod hybiau diogelu amlasiantaeth yn cael eu defnyddio i ddeall cyd-destun teuluoedd. Er gwaethaf ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 17 yn eu portreadu fel bod yn ddigyffro am y ffaith nad oes hyb ym mhob ardal, mewn tystiolaeth, nododd comisiynydd heddlu a throseddu fod angen mwy o lefelau cyllid, a chytunodd yn y bôn ei fod yn destun pryder bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfraith nad yw'n ei hariannu o ran yr effaith fwy ar ein heddlu. Mae cyllid yn broblem fwy fyth wrth gwestiynu effaith y Bil ar wasanaethau cymdeithasol. Yn syfrdanol, ymddengys bod y Dirprwy Weinidog yn anymwybodol o'r pwysau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei roi ar yr argyfwng ariannol yn y gwasanaethau cymdeithasol.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Nid yw hi mewn gwirionedd wedi cyfrifo'r costau ychwanegol posibl, sy'n golygu ei bod yn gofyn i ni gefnogi Bil sydd â goblygiadau ariannol anhysbys difrifol i awdurdodau lleol sy'n ei chael hi'n anodd. Mae hynny'n anghyfrifol iawn. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, edrychwch ar gasgliadau adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac argymhelliad 20 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymateb iddo drwy ddweud:
efallai na fydd hi'n bosibl darparu amcangyfrifon manylach o'r costau anhysbys.
A wnewch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi baglu o ran ymwybyddiaeth hefyd. Gwn fod y Bil yn un o'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur Cymru, ond rwy'n credu y byddai'n gyfrifol—
Mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i. Na, mae'n ddrwg gen i. Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef un o'r pwyllgorau a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwy'n falch iawn o gymeradwyo ei argymhellion i chi. Rwy'n credu bod ein gwaith craffu wedi bod yn drylwyr, ac a gaf i hefyd ychwanegu fy niolch innau at rai Lynne Neagle i'r unigolion a'r sefydliadau hynny a roddodd o'u hamser i ddod i mewn a thrafod gyda ni y materion sy'n codi o'r hyn sydd, ar wyneb y Bil, yn fater cul iawn? Ond, er bod y Bil yn gul o bosibl o ran ei gwmpas i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol i blant, roedd y dystiolaeth a glywsom yn eang iawn, ac yn hynod arwyddocaol yn y ddadl ynghylch hawliau'r plentyn. Fel pwyllgor, buom yn trafod y dystiolaeth mewn ffordd adeiladol, yn fy marn i, ond, y tro hwn, roedd hi'n anffodus nad oedd pob aelod o'r pwyllgor wedi gallu cytuno ar bob un o'r argymhellion—arwydd, yn ddiamheuol, o'r farn gref ar ddwy ochr y ddadl.
Ond, Llywydd, yn fy nghyfraniad i, hoffwn sôn am bedwar maes tystiolaeth a glywsom. Yn gyntaf, ac rwy'n credu wrth wraidd y newid hwn yn y gyfraith, mae cydnabod hawliau'r plentyn, ac, yn sgil hynny, angen i rieni ymwneud â ffurfiau mwy effeithiol o gamau unioni. A dyna pam rwy'n cefnogi'r angen am gyfnod i baratoi ar gyfer gweithredu'r newid yn y gyfraith, pe byddai'n cael ei basio gan y Cynulliad hwn. Oherwydd nid yw'n ymwneud â'r gyfraith yn unig; mae hefyd yn newid pwysig yn niwylliant rhianta. Ac felly rwy'n falch iawn o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r gwelliant i godi ymwybyddiaeth ar wyneb y Bil, yn unol â chais dau o'r pwyllgorau.
Felly, mae angen cyfnod o baratoi ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud drwy ymgyrchoedd hysbysebu a gwybodaeth i'r cyhoedd, gyda bydwragedd ac eraill sy'n helpu rhieni, cyn i'r newid yn y gyfraith gael ei gyflwyno. Yn ail, fy niddordeb i yn y Bil hwn oedd deall, yn y ffordd orau posibl, goblygiadau ymarferol dileu'r amddiffyniad cyfreithiol hwn. Cyn cyflwyno'r Bil, roeddwn i wedi clywed llawer o ymgyrchwyr yn honni ei fod yn bwysig, yn symbolaidd efallai, er mwyn sicrhau hawliau llawn i blant yng Nghymru. Ond, hyd yn hyn, nid oeddwn wedi cael y cyfle i holi'n fanwl, gydag ymarferwyr gwaith cymdeithasol, gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac ati, beth yn union fyddai'r cymhwysiad ymarferol—goblygiad, mae'n ddrwg gen i—y newid yn y gyfraith. Felly, roeddwn i, ac rwyf i, yn awyddus i gael sicrwydd, wrth gael gwared ar yr amddiffyniad hwn, nad ydym ni'n creu sefyllfa lle mae gwasanaethau cymdeithasol, heddluoedd ac erlynwyr sydd dan bwysau yn wynebu baich gweithgarwch llawer mwy. Ac, ar y pwynt hwn, mae'r dystiolaeth a glywsom wedi tawelu fy meddwl yn ddigonol i barhau i gefnogi'r Bil yn y maes arbennig hwnnw.
Yn drydydd, hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd argymhelliad 4—pwysigrwydd llwybrau dargyfeiriol yr ydym wedi clywed eraill yn eu trafod hefyd, pan fydd achosion yn codi ar ôl i'r newidiadau a fyddai'n dod yn gyfraith pe byddai'r Bil hwn yn dod yn gyfraith. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gwneir digon o baratoi er mwyn i gynlluniau dargyfeiriol allu canolbwyntio ar annog a chynorthwyo rhieni yn hytrach na'u cosbi. A gwn fod y Dirprwy Weinidog yn cytuno bod hon yn ystyriaeth bwysig, ac mae hi wedi cadarnhau hynny eto heddiw.
Ac mae hynny'n fy arwain at fy mhedwerydd pwynt a'r pwynt olaf, a grynhoir yn Argymhelliad 8 yr adroddiad hwn. Rwy'n credu y bydd costau ychwanegol yn deillio o'r Bil hwn o ran y cymorth ychwanegol y bydd ei angen ar rieni, ac ar gyfer sefydliadau statudol a'r trydydd sector sy'n ceisio darparu'r cymorth hwnnw. Ac er na allwn ni, ar hyn o bryd, fod yn glir ynglŷn â'r costau hynny, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fonitro'r costau a'r gwasanaethau ariannu hynny y nodir eu bod yn hanfodol i'r newidiadau llwyddiannus sydd eu hangen.
Mae'r sicrwydd a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru yn gywir y bydd peth o'r ansicrwydd ynghylch y costau yn cael eu goresgyn. Ond bydd hynny'n dibynnu ar gael proses werthuso gadarn, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i gynnwys yn argymhellion 13 ac 16 ein pwyllgor. Llywydd, mae'r gwerthusiad Cyfnod 1 hwn o'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn eang ac yn llawn gwybodaeth, ac mae'n iawn, yn fy marn i, ein bod yn bwrw ymlaen ag ef.
I gloi, rwyf i o'r farn na ddylem ni gael ein camgyfeirio drwy ddefnyddio terminoleg sy'n pylu'r difrifoldeb fel 'smacio' neu 'tap ysgafn', sy'n swnio'n iawn mewn ffordd, ond mewn gwirionedd nid yw'n iawn. Mae'n dal yn daro plentyn, a pha bynnag amheuon sydd gan bobl—ac rwy'n dweud hyn fel mam a oedd yn ei chael hi'n anodd disgyblu fy mhlant ar adegau pan oedden nhw'n fach—mae'n rhaid i ni gydnabod na all taro plentyn fod yn iawn. Yn ogystal â bod yn niweidiol i'r plentyn, gall anfon y neges gwbl anghywir iddyn nhw yn eu blynyddoedd ffurfiannol, sef bod defnyddio cosb gorfforol yn ffordd dderbyniol o sicrhau ymddygiad da. Bydd y ddeddfwriaeth yn cyflwyno eglurder nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, a bydd y gyfraith ynghylch hawliau plant yn well o gael yr eglurder hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn derbyn yr argymhellion fel y'u nodir yn adroddiad y pwyllgor.
Mae Plaid Cymru yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil plant (Cymru) sydd gerbron heddiw, ac, fel aelod o'r pwyllgor plant a phobl ifanc, dwi wedi cael llawer iawn o gyfleon i wrando yn ofalus ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyflwyno Bil o'r math. Dwi wedi cael fy argyhoeddi yn llwyr mai dim ond daioni a ddaw i blant Cymru yn sgil y newid bychan yma i ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr mi ddylid caniatáu i'r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfwriaethol y Cynulliad.
Mae dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Law yn llaw â chyflwyno'r Bil mae'n rhaid gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd efo'r heriau anochel sy'n wynebu ni i gyd wrth fagu plant, ac mae Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc wedi sôn am bwysigrwydd ehangu'r cymorth hwnnw, ac edrychwn ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymarferion mapio, ac, yn bwysicach, i weld beth fydd y camau i'w cymryd yn sgil hynny.
Yn sydyn iawn, pam ddylai'r gyfraith newid? Wel, mae yna nifer o resymau da iawn dros greu'r newid yma. Mi ddylai plant gael amddiffyniad cydradd i oedolion yn erbyn trais, a hynny drwy gyfraith. Dydy cosb resymol ddim yn cael ei derbyn fel amddiffyniad ar gyfer achos o ymosod cyffredin pan fydd y dioddefwr dros 16 oed, felly pam yn y byd bod angen un rheol i blant o dan 16 oed a rheol arall i bawb arall?
Yn ôl erthygl 19 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, mae'n rhaid cymryd pob cam posib i amddiffyn plant tra eu bod nhw yng ngofal eu rhieni neu bersonau eraill. Mae Cymru wedi mabwysiadu'r confensiwn hwnnw fel sylfaen creu polisi dros blant a phobl ifanc yng Nghymru, a hynny nôl yn 2004. Felly, mae'n ddyletswydd, byddwn i'n dadlau, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, i newid y gyfraith.
Mae cael gwared â'r amddiffyniad cosb resymol yn newid bychan iawn i'r gyfraith, ac fe fydd yn effeithio ar nifer bychan iawn o bobl. Mi fydd canllawiau dedfrydu erlyniaeth y Goron—fydd ddim yn rhaid i'r rheini newid, achos mi glywsom ni yn y pwyllgor mi fydd angen penderfynu ym mhob achos os yw erlyniaeth o fudd i'r cyhoedd ac o fudd i'r plentyn.
Roedd adolygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i effeithlonrwydd Deddf Plant 2004 wedi darganfod bod yna ddiffyg dealltwriaeth o'r gyfraith bresennol, a bod nifer yn meddwl bod adran 58 yn caniatáu cosb ffisegol. Mae ymarferwyr fel gweithwyr cymdeithasol sydd eisiau cynghori rhieni i beidio â tharo eu plant yn ei gweld hi'n anodd gwneud hynny oherwydd y safbwynt cyfreithiol. Felly, mi fyddai dileu'r amffddiffyniad yma yn gwneud eu gwaith nhw gymaint yn haws ac mi fyddai'r sefyllfa yn llawer mwy eglur i bawb.
Am yr holl resymau yna, felly, dwi'n falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yma, a dwi'n diolch i Julie Morgan am ei gwaith manwl a'i dyfalbarhad efo hwn.
Nid yw fy safbwynt i ar y Bil hwn wedi newid ers y tro diwethaf iddo gael ei drafod yn y Siambr hon, pan rannais fy mhrofiad fy hun o gamdriniaeth fel plentyn ac fel oedolyn ifanc. I ddechrau, rwy'n credu y byddai werth i chi ddangos i'r Siambr hon ac, yn bwysicach, y cyhoedd yr hyn yr ydych chi yn ei olygu wrth 'smacio' mewn gwirionedd. Mae sbectrwm enfawr rhwng tap ar y llaw a phwniad yn yr wyneb, ac fe ddylwn i wybod hynny. Felly, a wnewch chi ddangos beth yr ydych chi'n ei gredu mewn gwirionedd yw 'smac' fel sy'n cael ei wahardd gan yr hyn a elwir yn waharddiad ar smacio?
Wedi dweud hynny, yn y ddadl ehangach hon, rwy'n credu ei bod yn naturiol, wrth feddwl am ddileu amddiffyniad, ac am lysoedd a throseddolrwydd, i feddwl ar unwaith am y mathau mwy eithafol o drais sy'n arwain at anafiadau fel cleisiau a llygaid duon. Ond nid dyna yr ydym ni'n siarad amdano yn y fan yma, nage, oherwydd cam-drin yw hynny. Yn fy marn i, mae'r Bil hwn yn ymyrraeth anghymesur ym mywyd teuluol gan y wladwriaeth, ac ni allaf gefnogi'r lefel honno o ymyrraeth. Gallai arwain at erlyn rhieni cariadus am ddefnyddio smac ysgafn. Ni fyddai hyn er lles y plant, ni fyddai hyn er lles y rhieni, nac er lles y gweithwyr proffesiynol fydd yn gorfod plismona hyn. Rwy'n cofio trafodaeth ddiweddar am ganlyniadau plant sy'n derbyn gofal, lle mae eich Llywodraeth, yn ddigon teg, yn annog mesurau ataliol i sicrhau bod llai o blant yn mynd i'r system ofal. Soniais bryd hynny am y galw sydd ar staff gwasanaethau cymdeithasol, yr un staff a fydd yn ymdrin â'u hachosion adweithiol blaenorol, eu hachosion ataliol newydd a'r achosion smacio newydd hyn. Nid yw rhieni sy'n defnyddio disgyblaeth gorfforol ysgafn ar eu plant yn ceisio eu brifo, ac nid yw'r dystiolaeth yn dangos bod tap ysgafn yn gwneud dim i niweidio plentyn o gwbl. Yn wir, mewn rhai sefyllfaoedd, mae'n gallu cyfleu perygl i blentyn mewn ffordd nad yw rhesymu geiriol yn gallu ei wneud.
Nid yw'n iawn bod y Llywodraeth Cymru hon yn gwneud rhieni'n droseddwyr os ydyn nhw'n dewis disgyblu eu plant yn y modd hwn. Dyma enghraifft berffaith o wleidyddion o'r tu allan yn gorfodi eu barn eu hunain ar rianta ar y cyhoedd yn gyffredinol. Os daw'r Bil hwn yn gyfraith, bydd yn rhaid i weithwyr proffesiynol ganlyn cannoedd o rieni sy'n smacio, yn hytrach na threulio'u hamser yn mynd i'r afael â cham-drin plant gwirioneddol. Rydych chi wedi amcangyfrif y byddai 548 o rieni y flwyddyn yn cael eu dal o dan waharddiad smacio. Mae hynny'n llwyth gwaith ychwanegol enfawr i weithwyr proffesiynol y rheng flaen. Trwy dynnu sylw swyddogion yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol i'r achosion hyn, gall plant sydd yn yr un sefyllfa erchyll ag yr oeddwn innau flynyddoedd yn ôl gael eu hanwybyddu. Nid wyf i'n barod i gymryd y risg honno.
Bydd ymchwilio i deuluoedd ynghylch smacio plant yn drawmatig i blant hefyd. Clywodd y pwyllgor plant dystiolaeth y gallai plant gael eu symud oddi wrth eu teuluoedd yn ystod ymchwiliad i smacio. O ddifrif? A wnewch chi gadarnhau, pan fo mwy nag un plentyn mewn teulu o dan yr amgylchiadau hyn, a fyddai'r holl blant yn cael eu symud? Mae grwpiau heddlu'n mynd ymlaen i ddweud na ddylid tanbrisio effaith emosiynol symud rhiant o leoliad teulu ar blentyn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Lynne Neagle, fel Cadeirydd, fe wnaethoch chi ddweud eich hun nad yw'r rhan fwyaf o'r oedolion a oedd yn rhan o'r arolwg yn dymuno cael y gyfraith hon, ond, fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i wneud hynny beth bynnag.
Llywydd, y rhai sy'n cam-drin plant yw'r rhai y mae angen iddyn nhw deimlo pwysau llawn y gyfraith, nid rhieni cariadus sy'n defnyddio smac ysgafn. Er nad ydym yn hyrwyddo cosb gorfforol o unrhyw fath, mae grŵp y Blaid Brexit yn hyrwyddo hawl rhieni i fagu eu plant fel y maen nhw'n gweld yn dda, o fewn cyfyngiadau'r gyfraith a'r amddiffyniadau sydd eisoes ar waith. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r Bil hwn.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am amlinellu rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i'r Bil hwn? Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rydym ni wedi anghytuno droeon yn y Siambr hon ar y mater penodol hwn, ac rwy'n credu bod pawb yn cael eu llywio gan eu profiadau eu hunain fel mam neu dad ac o ran eu magwraeth eu hunain yn y mater penodol hwn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na fyddaf i'n pleidleisio i ganiatáu i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth fynd drwy'r Cynulliad heddiw, oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud eisoes, gofynnir inni roi caniatâd i Fil symud ymlaen i'w gyfnod nesaf, i fod yn gyfraith, a fydd yn arwain at wneud degau o filoedd o rieni cariadus ledled Cymru sy'n defnyddio ambell i smac i ddisgyblu eu plant yn droseddwyr o bosibl.
Nawr, fel y dywedwyd eisoes, mae magu plant yn ddigon anodd fel y mae hi, ac mae angen i ni estyn ein cefnogaeth i rieni a'u hannog a'u galluogi i ddefnyddio ffurfiau eraill ar ddisgyblu. Nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n dymuno annog hynny drwy raglenni rhianta, ond hoffwn i weld, fel yr hoffai'r pwyllgor hefyd, gynnig cyffredinol o'r rhaglenni hynny, yn yr un modd ag y ceir cynnig cyffredinol o bethau fel dosbarthiadau cynenedigol cyn i fabanod gael eu geni. Felly, yn hytrach na chosbi rhieni, rwy'n credu bod angen i ni gynnig y dewisiadau eraill hyn iddyn nhw a sicrhau bod y cyrsiau hynny ar gael yn gyffredinol.
Nid oes cefnogaeth gan y cyhoedd i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Gwn y byddwch yn dweud, 'Cafodd ei gynnwys yn ein maniffesto, a dyna pam mae gennym fandad i'w wneud', ond y realiti, fel y gwyddom ni i gyd, yw nad yw'r rhan fwyaf o'n maniffestos, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, yn cael eu darllen yn fanwl. Nid oedd hyn yn rhywbeth y tynnwyd sylw ato ym mhob un daflen a roddwyd trwy ddrysau pobl. Pryd bynnag y gofynnwyd am farn y cyhoedd ar hyn, mae'r ymateb wedi bod yn glir iawn, hynny yw: nid yw'r mwyafrif llethol, rhwng dwy ran o dair a thri chwarter y bobl, o'r farn y dylid cyflwyno gwaharddiad ar smacio. Maen nhw'n cydnabod, wyddoch chi, fel y mae llawer ohonom ni sy'n gwrthwynebu'r Bil hwn heddiw, bod gennym ddeddfwriaeth gynhwysfawr ar waith eisoes y mae'r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol ac eraill yn ei defnyddio i erlyn achosion yn erbyn pobl sy'n cam-drin eu plant, a hynny'n gwbl briodol oherwydd, wrth gwrs, dylai'r bobl hynny deimlo pwysau llawn y gyfraith ac ateb i'r canlyniadau os ydyn nhw'n cam-drin eu plant. Ond mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n defnyddio ambell i smac yn gwneud hynny o fewn perthynas gariadus â'r plentyn y maen nhw'n dymuno iddo dyfu i fyny i fod yn oedolyn cyfrifol ac yn rhywun a all gyfrannu at gymdeithas yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol ein bod ni'n cosbi rhieni sydd â'r galon a'r ysgogaeth honno yn sail i'w disgyblaeth, yn wahanol, efallai, i rieni eraill sy'n cam-drin eu plant.
Rydym ni wedi sôn am rai o'r canlyniadau posibl—mae Aelodau eraill wedi gwneud hynny—o ran yr amser y bydd y gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn ei ddefnyddio er mwyn ymchwilio i'r mathau hyn o achosion pryd y gallai'r achosion o gam-drin gwirioneddol gael eu hanwybyddu. Ond, o ran y canlyniadau mewn gwledydd eraill—a chyfeiriodd y Gweinidog at Seland newydd yn gynharach—rydym ni'n gwybod bod cannoedd o achosion y flwyddyn yn Seland Newydd sy'n mynd drwy'r llysoedd. Cafwyd 55 o erlyniadau, er enghraifft, a hynny yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Collodd rhieni eu swyddi o ganlyniad i smacio eu plant. Gwelsom ni rieni'n cael eu gwahanu oddi wrth eu plant, gan achosi'r math o niwed yr ydym ni wedi clywed sy'n gallu ddigwydd mewn sefyllfaoedd o'r fath. Wrth edrych ar yr enghreifftiau hynny a'r ffaith bod pobl yn dal i smacio eu plant yn Seland Newydd—mae tua thraean o rieni, yn ôl arolygon, yn dal i smacio eu plant er gwaethaf y gwaharddiad—rydym ni'n gallu gweld nad yw hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, yn hytrach na newid y gyfraith yn ddiangen, byddwn i'n annog y Llywodraeth i ddefnyddio'i hadnoddau, i ddefnyddio'r dawn sydd yn adran y Llywodraeth, i ddarparu cymhellion cadarnhaol i helpu rhieni i fagu eu plant mewn ffordd lle nad oes rhaid iddyn nhw smacio neu smacio yn llai aml.
Gallai'r costau hyn, wrth gwrs, gynyddu y tu hwnt i reolaeth. Nid oes gennym ni unrhyw syniad beth ydyn nhw; ni fu amcangyfrif yn y rhannau ariannol o'r memorandwm esboniadol. Byddai'n anghyfrifol, a dweud y gwir, i ni eistedd yn y fan yma ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn i ganiatáu i'r darn hwn o ddeddfwriaeth fynd rhagddo pan nad oes pris ynghlwm wrtho. Ac rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar hynny a meddwl am farn ein hetholwyr, y bydd y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn gwrthwynebu'r Bil hwn, cyn i ni bleidleisio arno heddiw.
Wel, rwyf i'n cefnogi'r Bil hwn yn llawn ac yn frwd, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd rhoi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol a darparu mwy o eglurder drwy sicrhau bod plant yn gydradd ag oedolion. Ac mae'n hen bryd hefyd o ran bod yn gyson â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac mae'n hen bryd rhoi mwy o amddiffyniad i'n plant a sicrhau bod eu hurddas, mewn gwirionedd, yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi'n briodol.
Siawns na fyddwn i ar fy mhen fy hun, Dirprwy Lywydd, yn gweld adleisiau o ddadleuon blaenorol yn y ddadl yr ydym wedi'i chlywed heddiw. Rwy'n cofio'n dda pan es i i'r ysgol—a siawns bod Aelodau eraill yn bresennol yn y Siambr hon heddiw a gafodd brofiadau tebyg—roedd y gansen, roedd y pren mesur, roedd y daps, roedd offer eraill i daro plant gyda nhw, a phan gafwyd cynnig i ddiddymu cosb gorfforol mewn ysgolion, cafwyd protest a gwnaeth llawer o wleidyddion y pwyntiau rwy'n credu ein bod ni wedi'u clywed heddiw, y byddai hyn yn tanseilio disgyblaeth, y byddai'n wrthgynhyrchiol, nad oedd yn angenrheidiol, y dylai fod yn fater i'r ysgolion ac, yn wir, barn y cyhoedd i benderfynu beth oedd yn digwydd yn ein hysgolion. Nawr, diolch byth ddywedwn i, mae ein hysgolion yn lleoedd gwahanol iawn i'r ffordd yr oedden nhw bryd hynny, a byddwn i'n dweud y bu'n newid er gwell o lawer. Cyflawnir disgyblaeth erbyn hyn mewn ffyrdd llawer mwy cadarnhaol.
Ac mae ysgolion, yn wir, heddiw yn ceisio meithrin parch yn eu disgyblion tuag at blant eraill a phobl yn gyffredinol. Dywedir wrthyn nhw am fod â dwylo caredig, i beidio â defnyddio grym corfforol i geisio cael plant eraill i wneud yr hyn y maen nhw eisiau iddyn nhw ei wneud. Maen nhw'n cael eu dysgu'n glir ac yn gyson iawn nad yw defnyddio grym corfforol yn iawn, nad yw bwlio yn iawn. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach, mae'r syniad y gall person mawr daro person bach a bod hynny'n deg ac yn iawn yn neges bryderus iawn i'w rhoi i'n plant, yn fy marn i, pan ein bod yn ceisio mynd i'r afael â bwlio yn yr ysgol ac, yn wir, bwlio yn gyffredinol.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, os ydych chi'n caniatáu taro yn y cartref yn y ffordd a ganiateir ar hyn o bryd gydag amddiffyniad o gosb resymol, mae'n tanseilio'r negeseuon hynny y mae ysgolion yn ceisio eu cymell yn ein disgyblion. Ac rwy'n credu bod y negeseuon hynny y maen nhw'n eu hanfon drwy addysg heddiw yn bwysig iawn yn wir o ran y ffordd y mae ein cymdeithas yn gyffredinol a'r amddiffyniad a ddaw yn sgil hynny, nid yn unig i blant mewn ysgolion heddiw, ond pan fyddan nhw'n tyfu'n oedolion, yr amddiffyniad y bydd yr oedolion hynny'n ei fwynhau hefyd, oherwydd bydd plant yn ystyried grym corfforol mewn ffordd wahanol iawn.
Felly, i mi, mae'n fesur blaengar iawn. Byddai'n sicrhau mwy o gysondeb â'n rhwymedigaethau hawliau dynol, y ffordd y mae ein hysgolion yn datblygu eu haddysg a'u dulliau addysgu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf ildio i Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio. Roeddwn i eisiau sôn am y mater o gysondeb â rhwymedigaethau hawliau dynol. Wrth gwrs, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sôn am drais corfforol a meddyliol, nid trais corfforol yn unig. O gofio ein bod ni wedi clywed, ac mae pawb i'w weld yn derbyn, y dystiolaeth bod cyfyngu plentyn i ystafell neu weiddi a sgrechian yn ei wyneb neu anwybyddu'r plentyn hefyd yn gallu achosi niwed i blentyn, pam nad yw'r Llywodraeth yn deddfu ar hyn, yn eich barn chi? Nid oes unrhyw gysondeb, nac oes?
Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi dweud y byddai pecyn o fesurau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n ymwneud â rhianta cadarnhaol a sicrhau y bydd y cyngor a'r cymorth a'r arweiniad ar gael i sicrhau'r rhianta cadarnhaol hwnnw, ac rwy'n credu y byddai hynny'n mynd i'r afael â'r materion hynny yr ydych chi'n eu codi hefyd.
Mae dros 50 o wledydd, fe wyddom, eisoes wedi gwneud y newid hwn ac yn gweld y manteision. Ar y cyfan, mae'n brofiad cadarnhaol, ac rwyf i'n dymuno gweld plant yng Nghymru, teuluoedd yng Nghymru a rhieni yng Nghymru yn cael y profiad cadarnhaol hwnnw hefyd. Rwyf i yn credu bod angen i ni anfon y negeseuon cywir a bydd y newid hwn yn anfon y negeseuon cywir hynny. Mae angen i ni newid disgwyliadau rhieni. Yr uned deuluol yw'r bloc adeiladu hanfodol mewn cymdeithas. Dylai fod yn uned gariadus, gynnes a chefnogol, mor gariadus, cynnes a chefnogol â phosibl. Dylai alluogi personoliaethau plant i ddatblygu a ffynnu. Bydd rhianta cadarnhaol yn caniatáu hynny. Mae'n ffordd well o osod ffiniau na tharo, ac mae'n rhan bwysig o feithrin, yn fy marn i, y math o deuluoedd cariadus yr ydym ni'n dymuno eu gweld yma yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r Bil blaengar hwn yn fawr iawn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w gyflwyno.
David Melding.
Diolch am alw arnaf i siarad yn y ddadl wirioneddol bwysig hon. Rydym ni wedi bod yn trafod hyn ers y Cynulliad cyntaf, ac fe wnaeth ychydig ohonom ni, rwy'n credu, gymryd rhan mewn sawl dadl a gawsom yn y Cynulliad cyntaf, rwy'n credu, ac rwy'n dal i fod o'r farn bod gwaharddiad yn briodol. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran sut y caiff ei weithredu. Yn wahanol i'r Cynulliad cyntaf, rwy'n ofni na fydd gennyf ddau o'm cyd-Aelodau yn fy nghefnogi, ond rwy'n cofio i dri allan o naw o'r grŵp Ceidwadwyr yn y Cynulliad cyntaf gefnogi newid yn y gyfraith.
Yn ôl bryd hynny, ar ddechrau'r 2000au, dim ond llond dwrn o wledydd oedd wedi gwahardd smacio mewn gwirionedd, ac, fel y dywedodd John wrthym ni gynnau, mae 56 o wledydd wedi gwneud hynny bellach, gan ddechrau â Sweden yn 1979, a heddiw gan gynnwys y rhan fwyaf o wledydd Ewrop—Prydain yw un o'r ychydig i gadw'r amddiffyniad—ac maen nhw'n cynnwys yr Almaen, Iwerddon, Ffrainc, Malta a gwladwriaethau'r Baltig. Rwy'n credu bod yr ystod honno, dim ond yn y fan honno, fel sampl, yn dangos i chi cymaint y mae symud i sefyllfa gliriach ar gael gwared ar gosb gyfreithiol fel amddiffyniad wedi'i normaleiddio bellach. Ac ymhellach i ffwrdd, mae gwledydd fel Israel, sy'n ddiwylliant gwahanol eto, wedi symud yn gryf ac wedi gweld newid sylweddol o ran ymddygiad yn dilyn eu newid yn y gyfraith i wahardd smacio.
Mae dull cyffredin iawn yn y gwledydd hyn, ac nid yw hynny'n golygu troi rhieni'n droseddwyr. Ac rwy'n derbyn, yn ein system cyfraith gyffredin, gyda'n pwyslais ar y system gyfreithiol—nid oes gennym god sifil, fel sydd ganddyn nhw mewn gwledydd fel Ffrainc—mae gennym ni fwy o her yn y fan yma, ac mae angen i ni fod yn ymwybodol o hynny, ac mae'r pwyntiau hynny wedi'u gwneud yn dda. Ond mae'r newid yn y sefyllfa gyfreithiol yn y gwledydd hyn wedi bod yn llwyddiannus oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar gefnogi rhieni, ac mae angen i ni ganolbwyntio ar hynny y prynhawn yma.
Mae ein safbwynt cyfreithiol ein hunain yn dyddio'n ôl i 1860, a'r newidiadau yn agweddau'r cyhoedd at gosbi corfforol—wyddoch chi, gallech chi gael eich chwipio yn y lluoedd arfog, heb sôn am mewn carchardai, a chael eich curo mewn ysgolion, yn ddifrifol, bryd hynny. A bu newid enfawr a chyson i wahardd yr arferion hyn. Nawr, yn amlwg, nid yw smacio yn gosb ddifrifol o gwbl, ond credaf ei fod yn rhan o'r continwwm hwn, o ran sut yr ydym ni'n gweld eraill, ac yn parchu eraill, ac yn cydnabod eu hawliau, ac yn annog pobl i fabwysiadu ymddygiad gwell. Ac mae disgyblaeth briodol, wrth gwrs, bob amser yn ofynnol—ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf i'n siarad fel rhiant, felly rwy'n credu mai arweiniad Dr Melding i rianta yw hyn yn y fan yma. Ond nid ydych chi'n rhoi unrhyw fantais i blant os nad ydych chi'n eu disgyblu nhw—mae'n swyddogaeth bwysig iawn, iawn.
Felly, rwyf i'n dymuno canmol, yn arbennig, gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n credu ei fod yn un o'r adroddiadau gorau a gynhyrchwyd erioed yng Nghyfnod 1, o ran ei ystod, ei gydbwysedd, a chan ddyfynnu tystiolaeth nad yw'n gwbl gyson—mae'n deg i'r rhai hynny sydd â barn wahanol. A dyna yn bendant y ffordd gywir o fynd i'r afael â hyn, oherwydd gall calonnau hael arddel barn wahanol iawn ar y mater hwn—ac mae'n rhaid i mi ddweud bod Mandy wedi mynegi hynny â huodledd anhygoel. Ond rwy'n argyhoeddedig bod cydbwysedd y dystiolaeth ac arferion rhieni, sy'n rhywbeth arwyddocaol iawn, yn dangos yn gryf bod angen diwygio.
Hoffwn ddweud llawer mwy, ond rwyf eisiau gorffen yn arbennig gyda'r argymhellion, a oedd, yn fy marn i, yn rymus iawn yn adroddiad y pwyllgor. Argymhelliad 3—ymgyrch wybodaeth a gweithredu cymesur. Fy nealltwriaeth i yw y bydd smacio yn cael ei ystyried yn drosedd ddibwys. Ni fyddai'n briodol ar gyfer ymchwiliad troseddol neu gosb lawdrwm. Dim ond pe byddai'n cael ei hailadrodd a'i hailadrodd a'i hailadrodd y byddai trosedd ddibwys yn denu'r lefel honno o sylw gan y llysoedd, yn fy marn i. Dyna yr ydym ni'n ei ystyried.
Argymhelliad 4—canolbwyntio ar gefnogi rhieni nid eu cosbi. Argymhelliad 5—canllawiau clir ar gyfer awdurdodau gorfodi'r gyfraith. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Argymhelliad 7—gwasanaethau cymorth i rieni. Rwy'n gwybod bod hynny eisoes wedi'i drafod. Ac yn olaf, rwy'n credu ei bod yn ddoeth iawn—argymhelliad 13—i ryw fath o waith craffu ar ôl deddfu gael ei wneud gan y weithrediaeth. Efallai y dylem ni wneud hynny hefyd. Oherwydd bydd yn bwysig gweld sut y mae'r newid hwn yn y gyfraith yn gweithio yn ymarferol.
Ond rwy'n falch o weld y Bil hwn gerbron y Cynulliad o'r diwedd. Rwyf wir yn dymuno y byddai hynny wedi digwydd 20 mlynedd yn ôl. Roedd rhesymau pam na allai, yn enwedig gan nad oedd gennym bwerau deddfu. Ond byddaf yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn yn frwd.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi mynd heibio'r amser a neilltuwyd ar gyfer y ddadl hon, ond gan fod yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd y Llywydd pan ddechreuodd y ddadl, bwriadaf yn awr—. Mae gen i nifer o siaradwyr ac rwy'n bwriadu gofyn iddyn nhw yn awr i gyfyngu eu cyfraniadau i dair munud er mwyn sicrhau nad oes rhaid i mi ddweud wrth rywun, 'Chewch chi ddim siarad'. Felly, tair munud o hyn ymlaen, ac yna bydd y Gweinidog yn ymateb a byddwn ni'n gweld sut y byddwn ni'n mynd o'r fan honno. Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw. Rwyf wedi cael llwyth o alwadau a negeseuon e-bost gan rieni pryderus sy'n ofni y byddan nhw'n cael eu troi'n droseddwyr o ganlyniad i gynigion Llywodraeth Cymru.
Nid wyf i'n dadlau o blaid ymosod ar blant ar raddfa eang. Yn wir, fel athro ac fel rhywun a ofalodd am ddau blentyn am flynyddoedd lawer, gallaf gadarnhau na chafon nhw erioed eu ceryddu'n gorfforol. Mae'r amddiffyniad cosb resymol yn caniatáu i riant cariadus roi smac ysgafn iawn i'w blentyn. Nid yw'r amddiffyniad yn caniatáu i riant guro ei blentyn nes ei fod yn gleisiau drosto. Nid yw cerydd rhesymol yn gam-drin. Y modd o ddisgyblu gan riant cariadus ydyw. Penderfyniad y rhiant cariadus yw pa un a ddylid defnyddio cosb resymol ai peidio, ac nid penderfyniad y wladwriaeth i'w gwahardd.
Mae cefnogaeth aruthrol ymhlith rhieni i'r safbwynt hwn. Roedd tri chwarter y rhieni a holwyd o'r farn na ddylid troi smacio yn drosedd. Bydd troseddoli rhieni cariadus hefyd yn rhoi mwy o straen ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig annog y cyhoedd i roi gwybod i awdurdodau os ydyn nhw'n credu eu bod wedi gweld neu wedi cael gwybod bod plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol.
Yn hytrach nag ymchwilio i achosion gwirioneddol o gam-drin, bydd adnoddau'n cael eu dargyfeirio i ymchwilio ac erlyn rhieni sydd wedi tapio neu smacio eu plentyn yn ysgafn. Bydd gan y rhieni hynny gofnod troseddol a bydd y canlyniadau'n enbyd. Byddan nhw'n cael eu hatal rhag gweithio gyda phlant. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gallai fod cannoedd o achosion o'r fath bob blwyddyn, ond eto nid yw'n siŵr pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar wasanaethau cymdeithasol, y llysoedd teulu, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Nid oes angen y ddeddfwriaeth hon o gwbl. O dan y gyfraith bresennol, os yw rhiant yn smacio ei blentyn mor galed fel ei fod yn gadael marc sylweddol, mae'r rhiant yn wynebu dirwy, gorchymyn cymunedol, neu hyd at bum mlynedd mewn carchar. Gadewch i ni adael y gyfraith fel y mae hi, ond efallai cynnig gwybodaeth i rieni am ffyrdd eraill o geryddu eu plant, drwy weithio gyda'n gilydd fel gwleidyddion ac nid pechu yn erbyn rhieni cariadus. Mae'n rhaid i ni ganiatáu i rieni benderfynu ar y ffordd orau o ddisgyblu eu plentyn, gan eu haddysgu ar yr un pryd am ddewisiadau eraill, a chanolbwyntio'n llwyr ar erlyn y rhai hynny sy'n cam-drin eu plant yn gorfforol.
Nid wyf i'n cefnogi smacio, ond nid wyf i ychwaith yn cefnogi dweud wrth rieni eraill sut i fagu eu plant. Nid Bil llesiant plant yw hwn. Rwy'n gwybod oherwydd fy mod i wedi ceisio ei ddiwygio ond nid oedd yn bosibl. Fy mhrif bryder â'r Bil hwn yw fy mod i o'r farn, os y bydd yn dod yn gyfraith, y gallai ei gwneud yn haws i gam-drin plant.
Rwy'n ymgyrchu i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed mewn achosion pan fyddan nhw'n honni eu bod yn cael eu cam-drin, ond nad oes neb yn gwrando arnyn nhw, ac nid wyf i'n ffyddiog, yn sefyll yma heddiw, bod pob achos o gam-drin honedig yn cael ei ymchwilio'n iawn. Mae gennyf gyfarfod gyda phennaeth diogelu'r cyhoedd yn ne Cymru cyn bo hir, oherwydd ceir achosion pan fo plant yn honni eu bod wedi cael eu cam-drin, ond nid ydyn nhw wedi cael eu cyfweld mewn mannau diogel, ac nid ydyn nhw wedi cael eu cyfweld i ffwrdd oddi wrth y camdriniwr honedig. Mae'r rhain yn bryderon mawr.
Mae'r system yn fwy na gwegian. Mae'n fwy na gwegian. Ac mae'n wir nad oes digon o adnoddau gan yr heddlu. Mae unrhyw achos o gam-drin yn cymryd llawer iawn o amser. Llawer iawn. Os daw'r Bil hwn yn gyfraith, yna mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r heddlu ymchwilio i nifer fawr o achosion. Ni all y Llywodraeth hyd yn oed ddweud faint ohonyn nhw. Felly, gallem ni o bosibl weld nifer dirifedi o rieni parchus yn cael eu gollwng i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, a gallai hynny olygu bod y rhai sy'n cael eu cam-drin yn manteisio ar y ffaith y byddai gan yr heddlu gyn lleied o adnoddau a bod gormod o waith ganddyn nhw. Felly, gallai fod gennych chi bobl allan yna nad ydyn nhw'n cael eu herlyn oherwydd nad oes digon o adnoddau ar gael.
Rwyf eisiau dyfynnu'r uwch swyddog heddlu sy'n dal i wasanaethu a ysgrifennodd atom ni i gyd, a dywedodd ef nad oes angen—. Wel, ef neu hi, mewn gwirionedd; nid wyf i'n gwybod. Mae wedi'i ddilysu. Mae ef neu hi yn ddienw, ond wedi'i ddilysu.
Nid oes angen gwaharddiad ar smacio. Mae'r deddfau presennol yn gweithio'n dda. Mae plant eisoes yn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin a niwed corfforol. Fel swyddogion rydym ni'n gwybod ble mae'r llinell yn cael ei thynnu ac mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod hynny. Dim ond y math ysgafnaf o smacio y mae'r amddiffyniad cosb resymol yn ei gwmpasu. Mae'n atal rhieni rhag cael eu trin fel troseddwyr heb unrhyw reswm da.
Mae'r swyddog yn parhau:
Ychwanegwch hyn at y risg o honiadau ffug gan blant anfodlon neu ŵr neu wraig sy'n ceisio pardduo enw da wrth fynd drwy ysgariad ac mae gennych chi ffordd sicr o greu llanastr.
Oherwydd mae unrhyw un sy'n gwneud unrhyw beth ym maes cyfraith teulu yn gwybod pan geir gwrthdaro ceir hefyd lawer o honiadau ffug—mae'n rhan o'r gêm cyfraith deuluol, ond bydd hyn yn golygu y caiff rhieni eu troseddoli, a'r plant fydd yn talu'r pris am hynny, yn emosiynol, yn fy marn i, hefyd. Mae hon yn gyfraith wael. Mae'n gyfraith wael a byddaf i'n pleidleisio yn ei herbyn.
Rwy'n rhiant i chwech o blant, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar. Rwy'n rhiant bedydd, yn daid, yn ewythr ac yn hen ewythr. Nid wyf i wedi siarad ag unrhyw berson y tu allan i'r swigen ym Mae Caerdydd sy'n cefnogi'r Bil hwn. Fel y dywedais wrth siarad yn nadl yr Aelodau yn y fan yma yn 2011 ar ddod â chosb gyfreithlon i ben, roedd adran 58 o Ddeddf Plant 2004 yn cyfyngu ar y defnydd o'r amddiffyniad cosb resymol fel na allai gael ei ddefnyddio bellach pan fo pobl yn cael eu cyhuddo o droseddau yn erbyn plentyn, megis achosi gwir niwed corfforol neu greulondeb. Gan ddyfynnu Gwasanaeth Erlyn y Goron, dywedais ar gyfer mân ymosodiadau a gyflawnir gan oedolyn ar blentyn sy'n arwain at anafiadau megis crafiadau, cripiadau, mân gleisio, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad ddu, y cyhuddiad priodol fel arfer fydd gwir niwed corfforol ac nid yw'r amddiffyniad "cosb resymol" ar gael ar ei gyfer mwyach. Fodd bynnag, os nad yw'r anaf yn ddim mwy na chochi'r croen, a bod yr anaf yn fyrhoedlog ac yn bitw...mae'r amddiffyniad cosb resymol ar gael o hyd.
Fel y deuthum i gasgliad wedyn, yn hytrach na throseddoli rhieni cariadus sy'n defnyddio smacio o bryd i'w gilydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth amlwg rhwng smacio a cham-drin plant.
Clywsom, funud yn ôl, am uwch swyddog profiadol mewn heddlu o Gymru a ddywedodd:
Rwy'n cael fy rhwystro rhag siarad yn gyhoeddus, ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i geisio annog y Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i wahardd smacio plant.
Dywedodd:
Dim ond y math ysgafnaf o smacio y mae'r amddiffyniad cosb resymol yn ei gwmpasu...Bydd dileu'r amddiffyniad yn dileu unrhyw ddisgresiwn sydd gennym ni. Bydd yn arwain at drawma i deuluoedd parchus.
Mae gohebiaeth helaeth a dderbyniwyd gan etholwyr am hyn i gyd wedi gofyn i mi wrthwynebu'r Bil hwn. Mae gweddill fy araith felly yn dod yn gyfan gwbl o'u geiriau nhw, a dyfynnaf ohonynt.
Mae saith o bob 10 o bobl yn gwrthwynebu Bil smacio Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n gweld y byddai er lles rhieni, plant nac unrhyw un arall mewn cymdeithas i wneud smacio'n drosedd. Byddai cam o'r fath yn anfon y neges gwbl anghywir i rieni sy'n cael trafferthion wrth fagu eu plant. Rwy'n tybio bod y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein smacio fel plant, nid gan rieni sy'n droseddwyr, ond gan rieni cariadus, gofalgar, a oedd ddim ond yn dymuno sicrhau ein lles, ein diogelwch a'n dysgu ni yr hyn sy'n iawn a'r hyn nad yw'n iawn. Ni fyddem yn cyhuddo ein rhieni o gam-drin neu'n credu eu bod yn droseddwyr. Mewn gwirionedd, y rhai hynny a fyddai'n galw hyn yn drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant ac o niweidio eu buddiannau yn y dyfodol a rhai'r gymdeithas yn gyffredinol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ydych chi'n credu y dylai cam-drin domestig fod yn gyfreithlon os caiff ei wneud gan bartner cariadus?
Na, yn bendant—
Beth yw'r gwahaniaeth, felly?
—ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt y dylem wahaniaethu'n bendant rhwng yr hyn yr ydym wedi bod yn sôn amdano heddiw ac arswyd cam-drin domestig, boed yn gorfforol neu fel arall.
Yr un yw'r pŵer. Mae'r anghydbwysedd o ran pŵer yr un fath.
Mae gwahaniaeth enfawr, ac, fel rhiant, rwy'n gwybod hynny'n dda iawn.
Nawr, mewn gwirionedd, y rhai sy'n ei alw'n drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant. Mae'r gyfraith, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn gam diogelu digonol rhag cam-drin corfforol afresymol. Byddai plant sy'n dioddef cam-drin go iawn yn wynebu mwy o risg oherwydd bod yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu llethu gan adroddiadau amherthnasol ac mae'n drueni mawr y caniateir i leiafrif uchel eu cloch ddylanwadu ar hyn.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nawr, rwy'n sylweddoli bod angen amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn gorfforol, ac rwy'n siŵr bod pawb yn y fan yma yn cytuno ar hynny. Ond mae gennym gyfreithiau sydd wedi bod ar waith ers amser hir sydd eisoes yn darparu'r diogelwch hwn, felly rwy'n rhyfeddu at yr angen i greu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â throsedd y gellir ymdrin â hi'n iawn eisoes o dan y Deddfau presennol.
Pan gododd y Gweinidog fater y gwaharddiad ar smacio mewn datganiad yma ym mis Mawrth, dywedodd nid denu mwy o bobl i'r system cyfiawnder troseddol yw ein bwriad ni.
Pe byddai hynny'n wir, efallai y gellid ystyried y Bil arfaethedig hwn yn ddarn eithaf diniwed o ddangos ein bod yn rhinweddol. Fodd bynnag, rwy'n poeni na fydd hyn yn wir mewn gwirionedd. Rwy'n poeni mai'r hyn a allai ddigwydd yw y byddwn ni'n gweld pobl nad ydyn nhw yn cam-drin eu plant yn cael eu hymchwilio, a'u bywydau efallai'n cael eu chwalu o ganlyniad i ryw gŵyn annilys yn eu herbyn, efallai hyd yn oed cwyn faleisus.
Dirprwy Lywydd, mae'r hyn sydd gan yr heddlu ar hyn o bryd yn rhyw lefel o ddisgresiwn. Os derbynnir cwyn, nad ydyn nhw'n teimlo nad oes llawer o gyfiawnhad iddi, yna mae ganddyn nhw'r disgresiwn i beidio â chynnal ymchwiliad llawn. Mae yna amddiffyniad o gosb resymol. Nawr, nid yw'r Gweinidog wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth bod oedolion sydd wir yn cam-drin yn dianc rhag eu cosb haeddiannol oherwydd yr amddiffyniad hwn. Yn wir, ni fydd y Bil newydd yn gwneud dim byd ystyrlon i ychwanegu at bŵer yr heddlu yn y maes hwn. Ond yr hyn y bydd yn ei wneud yw dileu disgresiwn yr heddlu fel y bydd yn rhaid iddyn nhw yn y dyfodol ymchwilio'n llawn i bob cwyn a wneir, hyd yn oed os yw'n un y maen nhw eu hunain yn ei gredu ei bod yn ddi-sail, yn faleisus neu hyd yn oed yn flinderus. Bydd hyn yn arwain yn anochel at lwyth gwaith trymach i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sydd eisoes yn methu ag ymchwilio'n iawn i droseddau difrifol fel y mae hi oherwydd y llwyth gwaith sydd ganddyn nhw eisoes.
Rwy'n sicr y bydd hefyd yn arwain at erlyn pobl hollol ddiniwed. Ac er na fydd llawer ohonyn nhw, yn y pen draw, yn cael eu collfarnu, ni fydd yr holl rigmarôl o gael eu cyfweld gan yr heddlu, ac mewn llawer o achosion, o ymddangos yn y llys, yn brofiad pleserus.
Os caf droi at atodiad 7 o'r memorandwm esboniadol, gallwn weld bod hwn yn dyfynnu enghraifft Seland Newydd, ac eglurir mai'r dystiolaeth yn Seland Newydd oedd, ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio, y byddai nifer yr achosion y byddai'r heddlu'n gorfod ymchwilio iddyn nhw yn dyblu mewn gwirionedd. Yng Nghymru, os cymerwn yr amcanestyniad hwnnw, mae'n golygu ein bod yn mynd o tua 274 o achosion y flwyddyn i tua 548 o achosion. Felly, mae'r syniad hwn nad ydym ni'n mynd i droseddoli pobl drwy basio'r ddeddfwriaeth hon, a'n bod ni'n helpu pobl i gael eu cyfeirio tuag at rianta cadarnhaol, yn gwbl ffug. Os ydym ni'n dymuno cyfeirio pobl at rianta cadarnhaol, gallwn ni gael rhaglen wario sy'n ymrwymo i'r perwyl hwnnw. Nid oes angen i ni greu ton newydd o erlyniadau.
Rwy'n credu bod hon yn ddeddfwriaeth annoeth iawn a fydd yn cael effaith andwyol ar fywyd teuluol yng Nghymru, ac yn y pen draw bydd yn arwain at fwy o bobl ddiniwed yn cael eu tynnu i mewn i ymchwiliadau troseddol. Ni fydd yn amddiffyn yr un plentyn ychwanegol rhag cael ei gam-drin yn gorfforol, gan ei fod eisoes wedi'i ddiogelu dan gyfreithiau presennol. Felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth hon.
Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, gan gyd-fynd â barn y mwyafrif o aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gyflwynodd adroddiad trwyadl a chytbwys. Mae'r pwyllgor wedi archwilio'r dystiolaeth, ysgrifenedig a llafar, y gwersi rhyngwladol a gwersi eraill fel y bo'n briodol, ac wedi dod i'r casgliad drwy fwyafrif clir ei bod yn bryd dileu'r amddiffyniad o gosb resymol o'r llyfr statud, ac fe'u cefnogir gan lawer o bobl o ran y casgliad hwnnw.
Dadl yw hon heddiw, wrth gwrs, ar yr egwyddorion cyffredinol, a bydd llawer i'w drafod yn fanwl wrth i'r adroddiad fynd ymlaen i'r pwyllgor. Mae'n siŵr y bydd y manylion yn cynnwys yr angen i ddefnyddio a, phan fo angen, adeiladu ar brofiad helaeth ac arbenigedd rhaglenni rhianta cadarnhaol sydd eisoes wedi'u sefydlu yng Nghymru; yr angen i bob partner gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am y dulliau cadarnhaol o rianta hynny, yr ydym yn parhau i'w hehangu yng Nghymru, gan dynnu ar yr arferion a'r dystiolaeth ryngwladol orau; yr angen i roi digon o adnoddau i'r gwahanol fentrau rhianta cadarnhaol sydd ar waith ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn hygyrch, yn ôl y gofyn, ym mhob cymuned ac i bob teulu; yr angen i barhau'r gwaith dwfn sydd eisoes yn mynd rhagddo rhwng y Gweinidog a'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac i gyd-gysylltu ag adrannau Llywodraeth y DU yn ôl yr angen i roi canllawiau effeithiol ar waith ar gyfer swyddogion rheng flaen a gwasanaethau rheng flaen eraill gweithwyr proffesiynol, gan adeiladu, mae'n rhaid i mi ddweud, ar eu profiad a'u harbenigedd sydd eisoes yn helaeth o ran gwneud penderfyniadau arbenigol a gwybodus mewn sefyllfaoedd domestig ac ar sail aml-asiantaeth, yn enwedig gyda'r gwaith presennol sydd ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd; yr angen i ymchwilio ymhellach i'r potensial ar gyfer cynlluniau dargyfeiriol i helpu rhieni sydd angen y cymorth ychwanegol, pan na ystyrir bod erlyniad yn briodol nac y ffordd fwyaf effeithiol ymlaen ar gyfer y teulu na'r plentyn; a'r angen i osgoi rhuthro cychwyn y Bil hwn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol er mwyn caniatáu digon o amser i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth yn cael eu darparu i rieni, i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau ac i ddiweddaru, yn ôl yr angen, yr hyfforddiant a'r arweiniad. Nawr, rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r holl faterion hyn, fel yr awgrymodd hi yn ei sylwadau agoriadol.
Pan gyhoeddais, wythnosau i mewn i fy nghyfnod fel Gweinidog, y byddai Llywodraeth Cymru, gyda chymorth y Cabinet, wir yn symud ymlaen i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol, ymddangosai bod hyn wedi bod yn annisgwyl i lawer o bobl. Eto i gyd, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn syndod o gwbl mewn sawl ffordd. Mae'n dilyn y dystiolaeth orau sydd ar gael am fanteision gydol oes dulliau rhianta cadarnhaol ar gyfer plant wrth iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion. Mae'n dilyn y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo yng Nghymru ynglŷn â rhianta cadarnhaol ers blynyddoedd lawer. Mae'n dilyn newidiadau mewn dulliau rhianta dros flynyddoedd lawer, nad yw'n feirniadaeth o'n rhieni na'n teidiau a'n neiniau, ond mae'n gydnabyddiaeth syml ein bod wedi esblygu dros y blynyddoedd ein dull o bennu'r ffiniau a'r ddisgyblaeth honno, gan roi cosb corfforol i'r naill ochr a hybu rhianta cadarnhaol. Ac mae'n dilyn yr esiampl a osodwyd mewn llawer o wledydd eraill, sydd â systemau cyfreithiol a chymdeithasol gwahanol iawn, mae'n rhaid cyfaddef, sydd eisoes wedi newid i ddilyn y dystiolaeth.
Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr bod yr holl gymorth, y canllawiau a'r adnoddau sydd eu hangen ar rieni a gweithwyr proffesiynol rheng flaen ar gael. Ond, ar yr egwyddor gyffredinol o ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol, apeliaf at yr holl gyd-Aelodau yn y fan yma heddiw i gefnogi'r Bil hwn, nad yw'n creu unrhyw drosedd newydd ond sy'n dileu anomaledd hanesyddol o'r llyfr statud, a gadewch i ni ddyblu ein hymdrechion ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig: rhianta cadarnhaol a'r dylanwad buddiol y gall hynny ei gael ar y genhedlaeth hon a chenedlaethau o blant yng Nghymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i yn awr alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw, ac rwy'n diolch iddyn nhw eto am eu hadroddiadau manwl iawn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i'r Bil barhau. Yn amlwg, oherwydd y cyfyngiadau amser, nid wyf yn mynd i allu ymateb i' r nifer helaeth o bwyntiau sydd wedi'u gwneud heddiw, ond rwy'n diolch i chi am eich holl gyfraniadau rhesymegol a meddylgar. Mae yna raniad barn ar draws y Siambr, ond rwyf i'n teimlo ein bod wedi gallu cyflwyno ein pwyntiau, ar y cyfan, mewn ffordd wâr, ystyriol, ac rydym wedi gallu trafod y materion hyn mewn ffordd adeiladol, gan ystyried i ble y byddwn yn symud ymlaen o hyn.
Fel rwy'n dweud, nid wyf i'n mynd i allu ymateb i bwyntiau unigol, ond byddwn yn hapus iawn i'w trafod gydag Aelodau unigol. Hoffwn orffen drwy wneud rhai pwyntiau cyffredinol. Mae llawer o bwyntiau wedi'u gwneud am droseddoli rhieni, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gofio bod gennym gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth hon gan yr heddlu, gan brif gwnstabliaid yr heddlu, gan y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn foddhaol. Hoffwn hefyd ailadrodd, gan ei fod wedi ei godi unwaith eto yn y ddadl heddiw, na fydd yr heddlu ddim ond yn gweithredu er budd y cyhoedd ac er budd y plentyn dan sylw, ac ar sail tystiolaeth. A chredaf mai'r holl dystiolaeth sydd gennym o'r ddeddfwriaeth hon sy'n cael ei chyflwyno mewn gwledydd eraill yw nad oes cynnydd mawr mewn erlyniadau ac nad yw rhieni'n cael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac, mewn gwirionedd, roedd tystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor plant ac phobl ifanc gan yr heddlu yn dweud:
rydym yn gwneud llawer mwy o'n gwaith drwy bresenoldeb gwirfoddol a chyfweliadau, ac mae'n debyg y byddai llawer o'r achosion y byddem yn eu dychmygu o dan y newid deddfwriaethol hwn yn berthnasol i hynny.
Ac un o'r prif gwnstabliaid oedd hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Clywaf yr hyn yr ydych yn ei ddweud ac nid oes gennyf amheuaeth nad ydych chi o ddifrif yn dymuno i bobl gael eu dal gan bwysau'r gyfraith yn ddiangen, ond nid yw'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn wir, wrth gwrs, oherwydd os edrychwch chi ar rai o'r enghreifftiau eraill, gan gynnwys Seland Newydd, a nodwyd gennyf yn gynharach, rydych chi wedi gweld pwysau'r gyfraith yn gwahanu teuluoedd, rydych chi wedi ei weld yn erlyn rhieni cariadus, ac rydych chi wedi gweld, o ganlyniad i hyn, bod llawer o rieni yn cael cofnodion troseddol sydd wedyn wedi arwain at golli eu swyddi ac, yn wir, methu â theithio dramor i rai gwledydd. Nid dyna'r math o sefyllfa yr ydym ni eisiau ei gweld yn datblygu yng Nghymru, felly byddwn yn erfyn arnoch chi i roi'r gorau i'r ddeddfwriaeth hon ac yn hytrach ystyried y pethau eraill hyn y gall y Llywodraeth eu gwneud heb ddeddfwriaeth er mwyn hybu ffyrdd priodol o fagu plant ledled Cymru.
Wel, mae'r dystiolaeth y mae Darren Millar yn ei chyflwyno o Seland Newydd yn wahanol iawn i'r dystiolaeth yr wyf wedi'i darllen, ac mae'r adroddiadau uniongyrchol yr wyf i wedi'u cael am yr hyn sydd wedi digwydd yn Seland Newydd yn nodi ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn, bod 10 mlynedd wedi arwain at ddarn llwyddiannus iawn o ddeddfwriaeth y maen nhw'n falch ohono. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n edrych ar rywbeth gwahanol iawn i'r hyn yr wyf i'n ei weld.
Felly, o ran yr heddlu, fel yr wyf yn ei dweud, mae gennym eu cefnogaeth lwyr ac rydym yn cydweithio'n agos iawn â nhw. Thema arall sydd wedi codi yw'r pwysau sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol, yn arbennig, ac ar y staff rheng flaen. Ac, unwaith eto, rydym ni wedi cael llawer o drafodaethau a dadlau gydag aelodau'r gwasanaethau cymdeithasol a gwn eu bod nhw wedi rhoi tystiolaeth, eto, i'r pwyllgor plant a phobl ifanc, ac, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ailadrodd bod y gwasanaethau cymdeithasol yn llwyr gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Mae'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar y rheng flaen, sy'n gweithio gyda phlant, sy'n helpu rhieni, yn dymuno i'r ddeddfwriaeth hon fynd trwodd, gan ei bod yn gwneud eu gwaith nhw gymaint yn haws gan eu bod yn glir o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud, sut y gallan nhw helpu, a sut y gallan nhw gynghori rhieni. Felly, mae gennym ni'r holl bobl hynny yr ydych chi'n poeni amdanyn nhw, am y gwasanaethau cymdeithasol a'r baich—maen nhw yn gwbl gefnogol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried hynny, bod yr holl weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gweithio ar y rheng flaen mewn modd proffesiynol yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon.
Ac yna'r trydydd pwynt yr hoffwn i ei wneud, mewn gwirionedd, yw'r mater ynghylch y gefnogaeth ar gyfer y Bil. Roedd y sylwadau i'r pwyllgor plant a phobl ifanc: sefydliadau cymorth proffesiynol, yn gwbl gefnogol. Ond roedd ymatebion unigol gan rieni, ar y cyfan, yn negyddol. Rydym wedi gwneud arolygon cynrychioliadol o rieni ac o'r cyhoedd o'r Llywodraeth ac yn sicr mae'n ymddangos bod tuedd bod llawer mwy o bobl yn derbyn y ddeddfwriaeth hon a llawer mwy o'r farn mai dyma'r cyfeiriad iawn i fynd iddo. Ymhlith pobl iau, mae'n gryf iawn, iawn, oherwydd mae 60 y cant o'r rhai hynny sydd rhwng 16 a 35 oed yn credu nad oes angen smacio plentyn, ac mae hynny'n bobl iau, ac yn enwedig rhieni sydd â phlant o dan saith oed. Ac felly rwy'n meddwl mai dyma—. Rydym ni'n cyd-fynd â'r oes; mae pethau'n symud.
Clywsom mewn cyfraniadau i'r ddadl fod yna adeg pan oeddem ni'n credu ei bod yn gwbl anghywir i—roeddem ni'n credu ei bod yn iawn i blant gael eu taro mewn ysgolion; roedd yna stŵr ynghylch cael gwared ar gosb gorfforol. Nawr, rydym ni'n symud ymlaen i'r cam nesaf. Gwn fod y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf i fod yn rhaid imi orffen, ond rwyf eisiau gorffen, a dweud y gwir, drwy ddweud diolch, i chi i gyd, am eich holl gyfraniadau, pa ochr bynnag yr oeddech chi arni, oherwydd rwy'n credu—. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n llwyddo i gael y bleidlais yma heddiw i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a byddaf yn falch iawn o'r ddeddfwriaeth os bydd y Senedd Cymru hon yn ei phasio.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.