Daw hynny â ni at y ddadl ar Brexit. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Mark Drakeford.
Cynnig NNDM7170 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn peidio â chytuno i Fil y Cytundeb Ymadael, fel y’i cyflwynwyd yn Nhŷ’r Cyffredin, gael ei wneud yn ddeddf gan Senedd y DU.
2. Yn nodi y bydd Llywodraeth Cymru yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29 i gynorthwyo’r Cynulliad i roi ystyriaeth ffurfiol i gydsyniad maes o law.
Llywydd, i ddechrau, hoffwn ddiolch i chi ac i'r Aelodau am gytuno i gynnal y ddadl hon yn y Cynulliad y prynhawn yma. Wrth ei chyflwyno, hoffwn esbonio pam rydyn ni'n credu na ddylai'r Senedd hon gefnogi'r cytundeb a gytunwyd yn amodol gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'r Cyngor Ewropeaidd ddydd Iau diwethaf fel y mae ar hyn o bryd. Hoffwn i hefyd esbonio ein dull o ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil y cytundeb ymadael. Gadewch imi ddechrau gyda'r cytundeb sy'n cael ei gynnig. Mae'n cynnwys dwy elfen: yn gyntaf, y cytundeb ymadael, a fydd yn ymrwymo'r Deyrnas Unedig o dan gyfraith ryngwladol, ac, yn ail, y datganiad gwleidyddol, sef datganiad fframwaith rhagarweiniol, yn ei hanfod, sy'n nodi bwriad y ddwy ochr o ran perthynas yn y tymor hir.
Yn achos y cytundeb ymadael, yr unig elfen sydd wedi newid ers y fersiwn flaenorol a gytunwyd gyda Theresa May yw'r protocol ar Ogledd Iwerddon. Mae hyn yn ddiddorol ynddo'i hun, gan fod llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol, gan gynnwys sawl aelod o'r Cabinet, wedi cael tröedigaeth, fel petai nhw ar y ffordd i Ddamascus. Mae eu gwrthwynebiad i sawl elfen o'r cytundeb yn ymddangos fel petai wedi diflannu. Fel dwy enghraifft, gallwn restru eu hanghytundeb â rôl barhaus i Lys Cyfiawnder Ewrop o ran hawliau dinasyddion, ac, yn ail, y taliad o ran ymrwymiadau heb eu cwblhau.
Mae'r datganiad gwleidyddol wedi newid yn fwy sylweddol, ond mae wedi newid mewn ffordd gwbl groes i'r hyn y byddem ni eisiau, gan wanhau'r berthynas rhyngom yn y dyfodol i fod yn un fyddai'n seiliedig ar gytundeb masnach rydd yn unig.
Llywydd, mae hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae'n gytundeb gwael i Gymru oherwydd y byddai'n amlwg yn niweidio ein heconomi, yn fwy na dim ein sectorau gweithgynhyrchu a bwyd-amaeth. Byddai'n creu rhwystrau masnach newydd a sylweddol nad ydynt yn dariffau, hyd yn oed pe osgowyd y tariffau eu hunain yn y pen draw. Nawr, nid ydym ni wedi gweld dadansoddiad Llywodraeth y DU o'r effaith economaidd, ond awgrymodd eu modelu blaenorol, yn unol â llawer o ddadansoddiadau economaidd difrifol eraill, y byddai canlyniad o'r fath yn arwain at ddiffyg o tua 6.7 y cant mewn cynnyrch domestig gros dros gyfnod o 15 mlynedd o'i gymharu â'r hyn a fyddai'n digwydd pe baem yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd—canlyniad, mewn geiriau eraill, Llywydd, sy'n fwy na dwywaith cynddrwg na chytundeb Theresa May, a chanlyniad a fyddai'n ein gwneud ni i gyd yn dlotach ac yn bygwth swyddi a buddsoddiad ledled Cymru. Mae'n gytundeb gwael i Gymru, Llywydd, oherwydd nad oes ymrwymiadau sydd wedi'u rhwymo mewn cyfraith i gynnal hawliau a diogelwch cyflogaeth, defnyddwyr a'r amgylchedd, dim ond dyhead yn y datganiad gwleidyddol y gallai Llywodraeth y DU droi ei chefn arno.
Mae'n gytundeb gwael gan na fyddai'n rhoi diwedd ar ansicrwydd—y ffwlbri sy'n cael ei lefaru am 'gyflawni Brexit' fel petai'r cytundeb hwn rywsut yn ddiwedd y ffordd yn hytrach na dim ond y dechrau. Fel y mae rhai o'r Grŵp Ymchwil Ewropeaidd, sydd wedi'u hudo i ildio eu hegwyddorion a chefnogi'r cytundeb hwn, wedi honni eu hunain, mae'n eithaf posib, ar ddiwedd y cyfnod pontio, dim ond 14 mis byr i ffwrdd, y gallem ddal i adael heb gytundeb o gwbl, neu, yn hytrach, gallai Prydain Fawr yn y pen draw adael heb ddim cytundeb, oherwydd mae perthynas hirdymor Gogledd Iwerddon â'r UE wedi'i gosod yn gadarn, o leiaf tan 2024, ac yn ymarferol, bron yn sicr, yn amhenodol.
Nawr, Llywydd, nid wyf yn dod yma y prynhawn yma i feirniadu protocol Gogledd Iwerddon. Mae'n cyflawni ei ddiben—y llinell goch a nodwyd ar ddechrau'r negodiadau gan yr Undeb Ewropeaidd i sicrhau nad oes ffin galed ar Ynys Iwerddon. I ni, mae atal trais rhag dychwelyd i Ogledd Iwerddon yn flaenoriaeth bob amser, ond ni allwn ni esgeuluso effaith y cynigion hyn ar ein porthladdoedd yma yng Nghymru, cynigion yr ydym yn eu hystyried yn rhai difrifol, na'r modd y mae'r cytundeb hwn yn llyffetheirio busnesau Cymru. Ac mae hynny ddwywaith mor wir, Llywydd, oherwydd tra roedd y protocol o'r blaen yn backstop yr oedd 27 aelod yr UE a'r DU wedi ymrwymo i geisio ei osgoi, yr hyn a gynigir nawr yw trefniant parhaol sydd yn rhoi Gogledd Iwerddon mewn parth economaidd gwahanol i Brydain Fawr, gyda ffin galed ym Môr Iwerddon—yr hyn yr honnodd y Prif Weinidog mor ddiweddar â 2 Gorffennaf na fyddai unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol yn cytuno iddo byth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch am dderbyn yr ymyriad. Dim ond ar y pwynt penodol yna. Nid yw hwn yn drefniant parhaol, nac ydyw? Caiff ei ddisodli pe bai cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd ac, yn wir, mae cyfle i Gynulliad Gogledd Iwerddon bleidleisio ar y mater hwn yn rheolaidd er mwyn dod ag ef i ben. Felly, pam ydych chi'n dweud bod hwn yn drefniant parhaol, pan nad dyna'r gwir yn amlwg?
Wel, Llywydd, o ran y pwynt cyntaf, mae'r Aelod wedi camgymryd. Nid yw'n deall beth fyddai'r cytundeb masnach rydd yn ei wneud a pham nad yw'n sicr yn gwneud yr hyn yr oedd yn ei honni. Bu i'w Lywodraeth ef, ar ôl cychwyn yn wreiddiol, ar ôl addo i'r DUP y byddai ganddyn nhw feto ar y cytundeb hwn, wedyn fradychu'r DUP. Yn y dyfodol ni fydd ond angen mwyafrif bychan ar Gynulliad Gogledd Iwerddon, a bydd y mwyafrif bychan hwnnw bob amser yno i ymestyn y trefniant y mae'r cytundeb hwn yn ei amlinellu. Dyna pam fy mod i'n dweud ei fod yn barhaol, a dyna pam fy mod i'n dweud bod eich Prif Weinidog, a aeth i Belfast ac a ddywedodd, fel y dyfynnais yn gynharach y prynhawn yma, 'byth', meddai, 'ni fyddaf byth mewn unrhyw amgylchiadau, o ble bynnag y daw'r awgrym, yn cytuno i ffin ym Môr Iwerddon', a dyna, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, yn union yr hyn y mae wedi'i wneud.
Nawr, os yw safonau Prydeinig yn gwyro oddi wrth safonau'r UE, yna ni fydd busnesau Cymru yn gallu allforio nwyddau sy'n cyrraedd safonau'r DU i Ogledd Iwerddon. Yn fwy cyffredinol, o ran nwyddau o drydydd gwledydd y bydd modd eu rhoi ar y farchnad yng Nghymru, Lloegr a'r Alban o ganlyniad i unrhyw gytundebau masnach newydd, ni fydd modd mewnforio'r nwyddau hynny i Ogledd Iwerddon os nad ydyn nhw hefyd yn bodloni safonau'r UE. Gosodir unrhyw dariffau'r UE sy'n berthnasol ar nwyddau o'r fath hefyd, a dim ond os gellir profi na chânt eu gwerthu i'r Weriniaeth, gan gynnwys fel cydrannau neu gynhwysion cynhyrchion eraill, y gellir hawlio'r tariffau yn ôl. A ddoe, fel y darganfuom, bydd yn rhaid i hyd yn oed nwyddau o Ogledd Iwerddon gael tystysgrifau allforio i deithio i Brydain Fawr, hyd yn oed os oedd y newyddion hynny yn syndod i'r Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, sydd i fod yn gyfrifol am hyn i gyd.
Gadewch i ni fod yn gwbl sicr, Llywydd, fod hyn yn doriad enfawr yn uniondeb economaidd y Deyrnas Unedig, ac yn dor-ymddiriedaeth aruthrol ar ran y Prif Weinidog. Am yr holl resymau hyn, credwn na all ac na ddylai'r Cynulliad Cenedlaethol gefnogi'r cytundeb hwn, ac y dylem ni ddangos nawr mewn termau diamwys na fyddwn ni, yn niffyg newid sylfaenol, yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i ddeddfwriaeth i weithredu'r cytundeb gwael hwn. Nawr, efallai nad yw cydsyniad deddfwriaethol yn derm a ddefnyddir yn eang y tu hwnt i'r Siambr hon, ond y mae'r hyn y mae'n ei olygu yn bwysig. Mae'n golygu mai dim ond os ydym ni wedi cytuno i'r newidiadau hynny y dylai Senedd y DU wneud newidiadau i'n pwerau a'n cyfrifoldebau. Mae'n gonglfaen sylfaenol i'r system sy'n galluogi'r Llywodraeth hon a'r Senedd hon i wneud penderfyniadau sy'n diwallu anghenion Cymru. Ac yn sicr, bydd angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol yma yn y Senedd ar gyfer y ddeddfwriaeth hon, y Bil cytundeb ymadael, sef deddfwriaeth hynod gymhleth o dros 100 o dudalennau, nad oedd y Senedd wedi'i gweld tan ddoe. Yn wir, rydym ni wedi cael llythyr gan yr Adran Dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn gofyn am ein caniatâd.
Nawr, pam hynny? Wel, bydd y Bil, er enghraifft, yn ein cyfyngu am o leiaf flwyddyn rhag pasio unrhyw ddeddfwriaeth sy'n anghydnaws â chyfraith yr UE. Bydd yn sefydlu awdurdod monitro annibynnol i ddiogelu hawliau dinasyddion yr UE, a fydd yn effeithio ar bwerau deddfwriaethol y Cynulliad hwn. Ac mae'n rhoi pwerau ysgubol i Weinidogion y DU i weithredu protocol Gogledd Iwerddon a allai hyd yn oed eu caniatáu ar eu pen eu hunain i newid Deddf Llywodraeth Cymru ei hun.
Llywydd, dyma'r ddeddfwriaeth bwysicaf a mwyaf pellgyrhaeddol i ddod gerbron y Senedd ers degawdau, a'r darn pwysicaf erioed sydd wedi gofyn am ein cydsyniad deddfwriaethol, ac eto mae'r Llywodraeth am ei hyrddio drwy ei holl gyfnodau yn San Steffan mewn llai na 10 diwrnod. Ac mae eisiau i'r Senedd hon a Senedd yr Alban roi cydsyniad deddfwriaethol hyd yn oed yn gyflymach. Mae'n eithaf afresymol. Fel deddfwrfeydd, rhaid inni gael amser i wneud ein gwaith craffu sylfaenol ac i wneud hynny'n gydwybodol ac yn briodol. I'r perwyl hwn, rwyf wedi ysgrifennu, ynghyd â Phrif Weinidog yr Alban, at Brif Weinidog y DU a Llywydd y Cyngor Ewropeaidd, gan ei gwneud hi'n glir ei bod hi'n hanfodol cael estyniad i gyfnod erthygl 50 er mwyn inni gyflawni ein dyletswydd gyfansoddiadol.
Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi ceisio gwthio pethau yn y Senedd drwy fygwth y trychineb o Brexit heb gytundeb, ac mae wedi bod wrthi eto yn Nhŷ'r Cyffredin heddiw—'fy ffordd i neu ddim o gwbl'—ac nid yw hynny'n ffordd o weithredu mewn democratiaeth. Tactegau 'bwli', i ddyfynnu Dominic Grieve, y Twrnai Cyffredinol Ceidwadol yn ystod y degawd hwn.
Nawr, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y Senedd yn gwrthod cytuno ar amserlen sydd â'r unig bwrpas o arbed embaras i Brif Weinidog a fynnodd y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref, 'ei gyflawni neu farw', gyda'r haerllugrwydd yr ydym wedi dod i arfer ag e. Dyna un rheswm pam, wrth inni gynhyrchu memorandwm cydsyniad deddfwriaethol yn ddiweddarach heddiw, fod arnom ni hefyd angen amser priodol i'r Senedd wneud ei gwaith. Dim ond os gwrthodir y cyfle hwn inni y byddaf yn gofyn ichi, Llywydd, ystyried caniatáu i'r Senedd gael cynnig o'r fath ger ei bron yn ystod y naw diwrnod nesaf.
Yn y cyfamser, rhaid i neges y Cynulliad Cenedlaethol hwn i Brif Weinidog y DU fod yn glir: rhaid i'r Senedd hon gael yr amser sydd ei angen i gyflawni'r cyfrifoldebau y mae'r gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni eu cyflawni. Mae arnom ni angen estyniad i erthygl 50 ac, fel sy'n ofynnol o dan y gyfraith, rhaid i'r Prif Weinidog geisio cyflawni hyn yn ddidwyll. Yna mae angen i ni roi'r mater yn ôl i'r bobl mewn refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Os credwch chi fod y cytundeb hwn er budd y wlad hon mewn gwirionedd, ni fydd arnoch chi ofn caniatáu i hynny ddigwydd.
Yn y cyfamser, mae'r cytundeb hwn yn gytundeb gwael i Gymru ac yn gytundeb gwael i'r Deyrnas Unedig. Ni fyddwn yn ei gefnogi fel y mae ac, o'n rhan ni, gwyddom ei bod hi'n well i Gymru aros yn yr Undeb Ewropeaidd.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Paul Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn nodi bod Llywodraeth Ei Mawrhydi wedi sicrhau bargen gyda'r Undeb Ewropeaidd a fydd yn galluogi Cymru, a gweddill y Deyrnas Unedig, i adael ar 31 Hydref 2019.
3. Yn gresynu at yr effaith andwyol y bydd oedi ac ansicrwydd pellach yn ei chael ar fusnesau Cymru, y sector cyhoeddus a sefydliadau anllywodraethol eraill.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi Llywodraeth y DU wrth iddi geisio deddfu i sicrhau bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref 2019.
5. Yn credu, pe na bai'r Cytundeb Ymadael yn cael cefnogaeth Senedd y DU, y dylid cynnal etholiad cyffredinol yn y DU.
Diolch, Llywydd, a chodaf i siarad am y gwelliant, a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Ni waeth a yw Llywodraeth Cymru yn derbyn y cytundeb newydd a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd ai peidio, mae'n rhaid cofio bod y cytundeb hwn wedi'i dderbyn gan y ddau bartner a'i fod, o leiaf, yn ymgais i gyflawni canlyniad refferendwm 2016—canlyniad a ddangosodd fod pobl Cymru eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac felly mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn parhau i fod yn rhwystredig wrth glywed y Prif Weinidog yn arddel safbwynt sy'n gwbl groes i ewyllys pobl Cymru, yn enwedig gan nad oes unrhyw beth yn ei sylwadau sy'n parchu canlyniad y refferendwm nac yn dangos unrhyw ymrwymiad i gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw. Nid wyf wedi gweld dim yn y datganiadau diddiwedd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno yn ystod y misoedd diwethaf sy'n dangos unrhyw rithyn o barch tuag at ganlyniad y refferendwm. Yn lle hynny, rydym ni wedi clywed esgusodion dros oedi Brexit, sgorio pwyntiau gwleidyddol cyson a diystyru barn pobl Cymru yn gyfffredinol—[Torri ar draws.] Ddim ar hyn o bryd. Nawr, roedd Jean-Claude Juncker yn gywir i ddweud bod hwn yn gytundeb teg a chytbwys, ac, yn anad dim, mae'n dangos, gydag ymrwymiad i ganfod atebion a chydag agwedd lle mae parodrwydd i gyfaddawdu, y gellir sicrhau cytundeb. Pe bai Llywodraeth Cymru wedi bod yn fwy parod i gyfaddawdu a gweithio gyda Llywodraeth y DU, efallai y gallai Cymru fod wedi cael mwy o ran yn y trafodaethau. Ac rwy'n ildio i'r Aelod dros Flaenau Gwent.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig. Dywed y dylem fod yn parchu canlyniad y refferendwm, ond, wrth gwrs, y Blaid Geidwadol a bleidleisiodd, dri mis ar ôl refferendwm Cymru ar ddatganoli, yn erbyn Ail Ddarlleniad o'r Bil i wireddu'r refferendwm hwnnw. Felly, o ran parchu ewyllys y bobl, nid oes gan y Ceidwadwyr hanes da iawn, nac oes?
Gwyddoch yn iawn—mae'r Aelod yn gwybod yn iawn—fy mod wedi parchu canlyniad y refferendwm a dylai yntau barchu canlyniad y refferendwm hwn. A gadewch imi atgoffa'r Aelod dros Flaenau Gwent fod 62 y cant o'i etholwyr wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ac y dylech fod yn sefyll dros y bobl hynny.
Wrth gwrs, y dewis arall—[Torri ar draws.] Wrth gwrs, y dewis arall yn lle'r Cytundeb sydd ger ein bron yw bwrw ymlaen heb gytundeb. Am fisoedd a misoedd, rydym ni wedi clywed am yr effaith y byddai Brexit 'dim cytundeb' yn ei chael ar Gymru, a dyma un maes lle rwy'n rhannu pryderon y Prif Weinidog. Mae busnesau ac arweinwyr diwydiant ledled Cymru wedi ei gwneud hi'n glir y bydd Cymru'n dioddef os bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Pan fo'n rhaid dewis rhwng un sefyllfa neu'r llall, byddech yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd foesol i osgoi Brexit heb gytundeb, felly mae'n fwy siomedig fyth bod y Prif Weinidog a'i gydweithwyr yn San Steffan yn parhau i lesteirio'r broses hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud—mae'n rhaid i mi ddweud—[Torri ar draws.] Byddaf mewn munud. Rhaid imi ddweud bod yr AS dros Don Valley, Caroline Flint, yn llygad ei lle ddydd Sadwrn i ddweud nad oedd gan rai o'i chyd-Aelodau, a dyfynnaf:
ddim syniad na hyder y byddai cytundeb ger ein bron heddiw a fyddai'n caniatáu i'r rhai ohonom ni yn y Tŷ hwn sydd eisiau cael cytundeb i symud ymlaen a gadael yr Undeb Ewropeaidd erbyn 31 Hydref? O ganlyniad, os bydd y Tŷ yn pleidleisio o blaid gwelliant (a) heddiw, cawn ein gorfodi—hyd yn oed os cymeradwyir cytundeb—i ofyn am estyniad tan 31 Ionawr, gan danlinellu mai dim ond un cymhelliant a oedd gan noddwyr Deddf Benn: gohirio Brexit a'i atal.
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud ei bod hi'n hollol gywir. Mae'n ymwneud â gohirio Brexit ac atal Brexit. Yn wir, mae'r llythyr ar y cyd a lofnodwyd gan Brif Weinidogion Cymru a'r Alban yn cadarnhau bod Caroline Flint yn iawn wedi'r cyfan.
Nawr, dywed adroddiad ar ôl adroddiad wrthym fod yr ansicrwydd presennol ynghylch sut y byddai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi bod yn niweidiol i fusnesau Cymru, a dywedaf wrth y Prif Weinidog: rydym ni bellach mewn sefyllfa i roi terfyn ar yr ansicrwydd presennol hwnnw gyda chytundeb cynhwysfawr, ac felly ni allaf ddeall pam y byddai Llywodraeth Cymru eisiau ymestyn y cyfnod hwnnw o ansicrwydd yn hwy nag sy'n gwbl angenrheidiol. Fodd bynnag, yn lle cydnabod diwedd yr ansicrwydd hwnnw, ymateb y Prif Weinidog i'r cytundeb y cytunwyd arno oedd ei gwneud hi'n glir y byddai cytundeb yn arwain at niwed enfawr i economi Cymru ac i swyddi yng Nghymru, gan fod y Llywodraeth hon mor ymrwymedig i aros yn yr Undeb Ewropeaidd ei bod yn fodlon mynd yn groes i ewyllys pobl Cymru. A dyna yw safbwynt Brexit Llywodraeth Cymru drwyddi draw, onid e? Dim datrysiad, dim strategaeth ac yn sicr dim cefnogaeth i ganlyniad y refferendwm.
Dylai'r Prif Weinidog fod yn onest unwaith ac am byth a chyfaddef nad oes ganddo ef na'i Lywodraeth unrhyw fwriad i gefnogi unrhyw gytundeb sy'n golygu bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac felly mae'n codi'r cwestiwn: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfaddef ar goedd ei bod eisiau dirymu erthygl 50? O leiaf mae Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi datgan yn glir eu bod eisiau atal Brexit. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau fod y gwir ddifrod i economi a swyddi Cymru wedi'i wneud gan Lywodraethau llwyddiannus Llafur Cymru a'r rhai a arweinir gan Lafur, sydd wedi methu â chyflawni ar gyfer busnesau Cymru a diwydiannau Cymru. A gadewch i ni ystyried adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a oedd yn dangos nad yw Cymru wedi manteisio ar y cyllid a oedd ar gael yn y gorffennol a oedd yn gysylltiedig â'r rhwydwaith trafnidiaeth traws-Ewropeaidd. Felly, mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chydweithio â llywodraethau'r DU a'r UE i gefnogi seilwaith Cymru yn well yn y gorffennol. Ac, os bydd gennyf amser, byddaf yn ildio i'r Aelod dros Gaerffili.
Rwy'n credu mai un o'r pethau y mae arweinydd y Ceidwadwyr yn dda yn ei wneud yw craffu. Oni fyddai'n cytuno—a gadewch inni geisio tynnu rhywfaint o'r gwres pleidiol allan o hyn—oni fyddai'n cytuno fod tri diwrnod ar gyfer Bil mor swmpus â hwn yn annigonol i graffu arno'n briodol? Oni fyddai'n cytuno â hynny'n unig?
Wel, Llywydd, ni all y pleidiau gyferbyn ei chael hi bob ffordd. Maen nhw'n honni bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei brysio, ond roedden nhw'n fwy na pharod i wthio Deddf Benn yn gyflymach nag erioed yn San Steffan. Felly, allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. [Torri ar draws.] Allwch chi ddim ei chael hi bob ffordd. Ni allwch ddweud ar y naill law—[Torri ar draws.] Ni allwch ddweud ar y naill law—[Torri ar draws.] Ni allwch ddweud ar y naill law fod hwn wedi cael ei ruthro ac yna rhuthro deddfwriaeth.
Llywydd—[Torri ar draws.] Llywydd—[Torri ar draws.] Llywydd—[Torri ar draws.]
Yr Aelod i orffen mewn tawelwch, os gwelwch yn dda.
Llywydd, mae Llywodraeth y DU yn cyflawni canlyniad y refferendwm yn 2016 ac yn rhoi i bobl Cymru yr hyn y maen nhw ei eisiau: ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn clywed galwadau am ail refferendwm tra bod Llywodraeth Cymru yn achub ar bob cyfle i'n hatgoffa mor gynhennus oedd yr un diwethaf. Fodd bynnag, ymddengys nad yw'r gwrthbleidiau yn San Steffan yn gwybod beth y maen nhw ei eisiau. Maen nhw'n creu rhwystredigaeth yn y broses ac yn symud y pyst. Yn amlwg, doedden nhw ddim yn disgwyl i gytundeb gael ei sicrhau ac eto dydyn nhw ddim eisiau cyflwyno pleidlais o ddiffyg hyder a mynd â'r mater hwn yn ôl at y bobl. Siawns nad yw pobl Cymru'n haeddu gwell. Os yw Llywodraeth Cymru eisiau mynd â hyn yn ôl at y bobl, yna mae'n bryd galw am etholiad cyffredinol, a Llywydd, gall y Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau gyflwyno eu safbwynt i bobl Cymru a gall y bobl ddweud eu dweud unwaith ac am byth.
Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Mae'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi cyflwyno cynnig i Senedd Cymru yn galw am Fil cytundeb ymadael a fydd yn paratoi'r ffordd i wrthod Brexit fel y mae ar hyn o bryd. Ond nid ydynt wedi rhoi unrhyw fanylder yn eu cynnig ynghylch yr hyn yr hoffent ei weld yn lle hynny. Esgeuluso dyletswydd yw hynny, heb unrhyw fath o arweiniad. O ganlyniad, rwyf wedi cyflwyno gwelliant i roi dewis clir i Gymru a ffordd glir ymlaen. Am y tro cyntaf yn hanes ein cenedl, bydd Senedd Cymru'n pleidleisio'n awr ynghylch a ddylid cynnal refferendwm ar sofraniaeth genedlaethol i Gymru pe bai Brexit 'dim cytundeb' yn digwydd. Dyna'r refferendwm y mae Cymru ei angen. Dyna'r refferendwm fu ei angen arnom ni erioed, a gofynnaf ichi beidio â gwarafun y dewis a'r hawl ddemocrataidd i bleidleisio ar ddyfodol ein cenedl i bobl Cymru.
Gall ein gwlad symud ymlaen, ac y mae'n rhaid iddi symud ymlaen o'r llanast a grëwyd gan San Steffan a bwrw ymlaen i sefyll ar ein traed ein hunain fel cenedl falch. Mae'n hen gysyniad, o'r enw democratiaeth. Gofynnaf ichi gefnogi fy ngwelliant heddiw a chefnogi pleidlais ar sofraniaeth genedlaethol i Gymru. Diolch yn fawr.
Unwaith eto, mae gwleidyddiaeth, ein Senedd, gwledydd yr ynysoedd hyn, wedi cael eu gorfodi i ymyl dibyn gan un o'r llywodraethau mwyaf anghyfrifol a di-hid a welsom erioed. Caiff penderfyniad, sydd, rwy'n credu ein bod i gyd yn derbyn, yn un o'r mwyaf tyngedfennol y bydd unrhyw Senedd wedi'i wneud mewn cenedlaethau, ei wthio a'i orfodi ymhen ychydig ddyddiau. Bil, sydd â dros 100 o dudalennau, a gyhoeddwyd dros nos, dim asesiad effaith—ac yn hytrach na gwleidyddiaeth yn mynd rhagddi drwy fyfyrio'n bwyllog, craffu'n effeithiol, yr hyn yr ydym ni'n ei gael yw gwleidyddiaeth yn gweithio drwy ddadlau chwerw a thrwy fygythiadau.
Y bygythiad diweddaraf, wrth gwrs, yw, 'os na fyddwch yn pleidleisio dros ein hamserlen yna byddwn yn tynnu'r Bil cyfan yn ôl a byddwn yn eich dynodi'n elynion y bobl.' Yn yr ysbryd hwnnw, yn anffodus, y mae'r Llywodraeth Geidwadol hon wedi mynd i'r afael â'r mater hwn, yn sicr ers i'r Prif Weinidog presennol gymryd yr awenau. Mae'n gwbl annerbyniol. Sut daethom ni i'r sefyllfa hon? Yn y bôn, mae adain dde eithafol y blaid Dorïaidd nawr yn rheoli'r blaid. A siawns—. Paul Davies, rydych yn gwybod yn well na hyn yng ngwaelod eich calon. Rydych chi wedi ildio. Sut mae'n—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa—[Torri ar draws.] Rydym ni wedi cyrraedd sefyllfa lle cymerwyd mandad refferendwm 2016 fel mandad ar gyfer y Brexit mwyaf eithafol ac anodd posib. Maen nhw hyd yn oed yn galw eu hunain yn 'Spartiaid' heb awgrym o eironi—llu o bobl sy'n credu bod gwleidyddiaeth yn rhyfel sy'n cael ei gynnal drwy ddulliau eraill. Gadewch i ni gofio hyn, nid oedd diwedd da i stori'r Spartiaid, gyda llaw—yn y diwedd cawsant eu polareiddio'n fewnol, eu heithrio'n allanol, ac yn y pen draw roedd yn rhaid iddyn nhw ailymuno â'r gynghrair Achaiaidd yr oedden nhw wedi ei gadael. Mae gwers foesol yna i chi, edrychwch.
Gallai fod wedi bod a dylai fod wedi bod yn wahanol, oni ddylai? Roedd cyfle i gyfaddawdu yma. Er gwaetha'r ffaith ein bod yn blaid sy'n angerddol dros aros, roeddem yn barod i gyfaddawdu. Roeddem yn cefnogi'r dewis gwell o lawer o fod yn aelod o'r farchnad sengl a'r undeb tollau. Yn wir, byddwn yn cefnogi gwelliant heddiw yn San Steffan ar y sail honno. Ond, na, yr hyn a ddigwyddodd yw bod y Llywodraeth Geidwadol wedi ein tywys ymhellach ac ymhellach at ymylon asgell dde eithafol y ddadl hon, ac yn wir, ei phlaid.
Rhaid imi gyfaddef, cefais fy synnu pan ddaeth Mr Johnson yn ôl gyda chytundeb, oherwydd nid oeddwn yn disgwyl iddo yntau hyd yn oed fod yn euog mewn gwirionedd o un o'r gweithredoedd mwyaf o frad ac anonestrwydd gwleidyddol a welais erioed—a defnyddiaf fy ngeiriau'n bwyllog. Fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud, dyma ddyn a aeth i gynhadledd y DUP ac a ddywedodd na allai ac na ddylai unrhyw Lywodraeth Geidwadol Brydeinig gytuno i ffin reoleiddio a thollau ym Môr Iwerddon, a dyna'n union a wnaeth. Mae yna adlais yma, onid oes, o daid undebwriaeth Ulster, Edward Carson, ym 1921 yn dweud:
Am ffŵl oeddwn i! Dim ond pyped oeddwn i, ac felly hefyd Ulster, ac felly hefyd Iwerddon, yn y gêm wleidyddol i gael y Blaid Geidwadol i rym.
Bu felly erioed. Ac mae gwers yma i ni yng Nghymru hefyd: nid dyn y gellir ymddiried ynddo yw'r dyn hwn. Bydd yn gwneud yr hyn a wnaeth i'r DUP i ni hefyd. Peidiwch ag ymddiried yn ei eiriau.
Edrychwch ar y datganiad gwleidyddol—y fersiwn ddiweddaraf ohono—mae'n llawn iaith amodol: 'dylai' nid 'bydd'. Yno y gorwedd y—. Nid oes unrhyw ymrwymiadau rhwymol yno o gwbl. Mae adran 79 yn sôn am 'drin yn yr un modd'. Yr ymadrodd mwyaf amwys posib: 'adeiladu ar'. Rydym i gyd yn gwybod bod 'adeiladu ar'—nid yw'n sail i gredu dim, mewn gwirionedd. Byddwn yn y diwedd yn cael Brexit caled eithafol. Mae'r cyfeiriad yr ydym ni'n symud iddo yn gwbl glir.
Allwn ni ddim derbyn hyn. Nid dyma'r ffordd i redeg gwlad. Yn sicr, nid dyma'r ffordd i ddifetha ein gwlad ni. Mae'n rhaid inni wneud ein gwaith a sefyll yn erbyn y Blaid Geidwadol. Mae'n drueni nad yw'r Blaid Geidwadol yn barod i wneud hynny eu hunain. Sut allwn ni asesu hyn mewn gwirionedd heb hyd yn oed dryloywder effaith economaidd? Yn y pen draw, byddwn mewn sefyllfa lle bydd gan Walwnia fwy o bŵer dros gyfeiriad ein heconomi yn y dyfodol na fydd gennym ni yng Nghymru. Dyna beth sy'n cael ei gynnig i ni. Mae'n rhaid imi ddweud, edrychwch, yr unig ffordd i ddatrys hyn, oherwydd y gwactod arweinyddiaeth sydd yn y Blaid Geidwadol nawr, yw mynd â'r mater yn ôl i'r bobl fel y gallan nhw gael y gair olaf.
Rwy'n codi heddiw gyda siom fawr gan fod y Siambr hon, unwaith eto, yn gwastraffu amser ac arian cyhoeddus Cymru. Mae'r cynnig hwn yn—[Torri ar draws.]—anghyson. Os caiff pwynt 1 o'r cynnig ei basio ac os na fydd Senedd y DU yn gweithredu'r Bil cytundeb ymadael, yna nid yw pwynt 2 yn berthnasol, gan na fyddai angen memorandwm cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae'n gwbl hurt ac nid swyddogaeth y lle hwn yw penderfynu, nage? Mae'n cael ei drafod yn y Senedd ar hyn o bryd, felly pam ar y ddaear ydym ni yn achub y blaen ar unrhyw benderfyniad? Nid yw'r cynnig hwn heddiw yn ddim mwy na sbloets cysylltiadau cyhoeddus i Lywodraeth Cymru a'i helpwyr bach, a bydd fy ngrŵp yn pleidleisio yn ei erbyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd—
[Anghlywadwy.]—ddim yn ei sgript. Mae'n ddrwg gennyf.
Mae hi yn eich caru chi hefyd, Alun.
Ydw, rwy'n eich caru chi hefyd, Alun. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n amddiffyn—[Torri ar draws.] Dechreuaf eto. Dadl Llafur yw na all bleidleisio dros y cytundeb hwn oherwydd nad yw'n diogelu hawliau gweithwyr a'r amgylchedd. Am rwtsh.
Yr hyn a wnaiff, fel yr ydym ni wedi ei drafod yn ddiddiwedd, yw trosglwyddo'r cyfrifoldeb dros wneud hynny o'r UE i Lywodraeth y DU. Pam mae Llafur yn credu na fydd unrhyw Lywodraeth y DU yn diogelu'r hawliau hynny?
Na wnaf. Mae'r rhan fwyaf o hawliau gweithwyr yr ydym ni'n eu mwynhau heddiw mewn gwirionedd yn dod drwy Senedd y DU, yn aml yn dilyn ymgyrchoedd gan eich undebau llafur. Mae llawer o hawliau o'r fath yn y DU yn llawer gwell na'r lleiafswm y mae'r UE yn darparu ar eu cyfer. Er enghraifft, gwyliau â thâl: pedair wythnos yw deddfwriaeth yr UE, mae'n 5.6 wythnos yn y DU. Absenoldeb mamolaeth: 14 wythnos yn yr UE a 52 wythnos yn y DU. Yn y DU, mae'n 90 y cant o'r cyflog am chwe wythnos ac yna £140 am 33 wythnos ar gyflog cyfartal. Roedd hyn yn gyfraith ym 1970, ymhell cyn i'r DU ymuno â'r UE hyd yn oed. O ran cyflogau, nid oes gan yr UE isafswm cyflog, yn wahanol i'r DU, ac mae gennym ni un o'r isafsymiau uchaf yn y byd. O ran gwahaniaethu, roedd gan y DU gyfreithiau ar wahaniaethu ar sail rhyw yn 1975 a gwahaniaethu ar sail hil ym 1965—ymhell cyn yr UE. Iechyd a diogelwch: mae gennym ni yn y DU rai o'r rheolau iechyd a diogelwch yn y gwaith gorau a hynny ers 1974.
Llywydd, yn hytrach na thrafod canlyniad anhysbys pleidlais yn San Steffan, dylai'r Siambr hon fod yn trafod pethau y mae ganddi ddylanwad a grym drostynt: y GIG yng Nghymru, Betsi yn dal i fod yn destun mesurau arbennig; dyfodol ffermio yng Nghymru wedi inni adael yr UE i roi sicrwydd i ffermwyr Cymru; neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—[Torri ar draws.] Llywydd?
Mae hyn yn warthus.
Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf. Neu'r ffaith bod Maes Awyr Caerdydd wedi cael chwistrelliad ariannol arall eto, a'r gogledd unwaith eto ar ei golled o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
Ble oeddech chi pan oeddem ni'n trafod y pethau hyn? Doeddech chi ddim yma.
Y Blaid Lafur yn San Steffan—
Nid oeddech chi yn y Siambr pan oeddem yn trafod y pethau hyn. Byddwch yn bresennol.
Ataliodd y Blaid Lafur yn San Steffan bleidlais ystyrlon, ac eto mae'r Blaid Lafur yng Nghymru eisiau dadl ddiystyr arall a phleidlais ddiystyr arall. Diolch.
Carwyn Jones—[Torri ar draws.] Carwyn Jones.
Diolch, Llywydd. Rwy’n mynd i geisio tawelu pethau ychydig, os caf i. Mae'n berffaith gywir y dylai hwn, Cynulliad Cenedlaethol etholedig pobl Cymru, drafod y materion hyn. Mater cyfreithiol yw'r hyn yr ydym yn ei drafod yma sef cwestiwn ynglŷn â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol. Felly, nid yw'n wastraff amser mewn rhyw ffordd neu'i gilydd; rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod wedi cael cais gan un o adrannau Whitehall ac mae'n gais na fydd, rwy'n amau, yn cael croeso yma. Dydw i ddim yn derbyn y dylem ni, mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, wybod ein lle yma a pheidio â thrafod materion sy'n effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru.
A gaf i atgoffa'r Aelodau hynny sy'n honni, ar feinciau'r Ceidwadwyr, nad oes gan Lywodraeth Cymru strategaeth a'i bod bob amser wedi gwrthwynebu Brexit, y bu inni, yn 2016, ynghyd â Phlaid Cymru, gyhoeddi Papur Gwyn a oedd yn cynnig Brexit? Ac roedd yn Brexit a oedd yn cynnwys, ie, aelodaeth o'r undeb tollau ac roedd yn cynnwys, ie, gymaint o fynediad â phosib i'r farchnad sengl. Nawr, bydd rhai yn dweud, 'Wel, nid Brexit yw hynny.' Nid oes tystiolaeth o hynny o gwbl. A dyma'r broblem. Yn 2016, ni chafwyd dadl ynghylch beth yn union oedd ystyr Brexit heblaw'r ffaith bod yn rhaid i Brydain adael yr UE. Wel, yn fy marn i y byddech chi, yr holl Frecsitwyr allan yna, wedi cael Brexit erbyn hyn pe byddech chi mewn gwirionedd wedi gwrando ar Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn ôl yn 2016, ac ni fyddai Prydain mwyach yn aelod o'r UE. Yn lle hynny, rydym wedi cael tair blynedd a hanner o anhrefn llwyr yn San Steffan.
A, pha synnwyr sydd mewn rhuthro, dros ychydig ddyddiau, y ddeddfwriaeth bwysicaf a osodwyd gerbron y Senedd, byddwn yn dadlau ers o leiaf 50 mlynedd? A ninnau'n mynd i'w thrafod dros ddyddiau? Nid yw hynny'n iawn does bosib. Oll i fodloni terfyn amser artiffisial a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU. Nid oes unrhyw reswm pam fod yn rhaid gwneud hynny erbyn 31 Hydref. Nawr clywn y Prif Weinidog yn dweud, 'Wel, efallai y byddaf yn tynnu'r bleidlais yn ôl.' Wel, beth sydd ganddo i'w guddio, os yw hynny'n wir? Yn sicr, ni all fod yn iawn fod Llywodraeth na all gael ei ffordd ei hun yn dweud, 'os na allwn ni gael ein ffordd, byddwn yn diddymu'r bleidlais.' Nid dyna'r ffordd i lywodraethu ac nid dyna'r ffordd i estyn allan at eraill, chwaith. Y cyfan oherwydd amserlen artiffisial. Fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud, gofynnir inni roi ein cydsyniad heddiw, bron, neu yfory, efallai yr wythnos nesaf, ond mewn cyn lleied o amser nad yw'n bosib cael dadl wybodus, waeth beth fo barn Aelodau amrywiol yn y Siambr hon.
Nid wyf yn derbyn bod y cytundeb hwn yn rhoi sicrwydd. Byddai'n dda gennyf pe bai, ond nid wyf yn derbyn hynny. Mae'n golygu gohirio hyd at ddiwedd 2020, felly bydd trafodaethau dros y flwyddyn nesaf ac os daw'r trafodaethau hynny i ddim yna bydd y Llywodraeth yn penderfynu a yw'r DU yn gadael heb unrhyw gytundeb ai peidio. Nid democratiaeth mo hynny, does bosib. Mae'n flwyddyn arall o ansicrwydd wrth gwrs.
Yn anffodus, dyna sut y penderfynodd yr UE ei fod eisiau cynnal y broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Fe wnaethon nhw ddweud fod yn rhaid gwneud hyn drwy gytundeb ymadael ac yna, ar ôl cytuno ar y cytundeb ymadael hwnnw, y gallai'r trafodaethau ar y berthynas fasnachu â'r UE yn y dyfodol ddigwydd. Felly a ydych chi'n derbyn nad yw hynny mewn gwirionedd yn broblem a achoswyd gan Lywodraeth y DU, ei fod yn broblem a achoswyd gan yr UE?
Beth oeddech chi'n credu fyddai'n digwydd? Mae'r diffyg crebwyll ymhlith Brecsitwyr yn fy syfrdanu i. A byddai, byddai gennym ni sicrwydd pe byddem wedi dweud, 'byddwn yn aros yn yr undeb tollau.' Byddai hynny'n sicrwydd. Byddai problem Iwerddon wedi diflannu. Byddai mater Iwerddon wedi diflannu. Ni fyddai hynny wedi bod yn fater y byddem yn ei drafod heddiw.
Dof yn ôl at Iwerddon. Nid yw'n rhoi unrhyw bleser imi ddweud, 'fe ddywedais wrthych chi dair blynedd yn ôl'—
Ie, dyma ni eto, dyma ni eto. Ie, 3,000 o bobl wedi marw yng Ngogledd Iwerddon; 'dyma ni eto', medd meinciau'r Torïaid. Mae hynny'n dangos yn union beth yw eu barn am Ogledd Iwerddon a pha mor ddall ydynt i fater Iwerddon ei hun. Gadewch imi atgoffa'r Aelodau nad mater o fasnachu yw hyn; cwestiwn o heddwch yw hwn. Mae'n gwestiwn o heddwch. Ers 1998, yn y ddinas y mae fy ngwraig yn hanu ohoni, nid yw pobl yn cael eu lladd yn ddyddiol oherwydd eu crefydd a'u credoau gwleidyddol. Wrth wneud hyn yn wael mae peryg i'r dyddiau hynny ddychwelyd, ac nid oes angen hynny.
Gadewch i ni edrych ar y materion masnach yma. Mae un o'r materion a godais am Ogledd Iwerddon yn effeithio ar Gymru, a dof at hynny mewn eiliad. Pe bai gennych chi nwyddau yn dod o Ogledd Iwerddon, roedd yn ymddangos y gallech fynd i mewn i farchnad Prydain neu i'r farchnad sengl Ewropeaidd heb fod angen unrhyw waith papur ychwanegol. Roedd honno'n fantais gystadleuol a fyddai wedi sicrhau y byddai cwmnïau wedi gadael Cymru ac wedi mynd i Ogledd Iwerddon. Pam fyddech chi'n aros yma pryd y gallech fynd i rywle lle'r oedd gennych chi fynediad agored i'r ddwy farchnad? Nawr, nid wyf i'n gwybod, ac nid yw Steve Barclay, yr Ysgrifennydd Brexit yn gwybod chwaith. Ddoe dywedodd ddau beth hollol wahanol. Dywedodd na fyddai busnesau Gogledd Iwerddon angen tystysgrifau allforio yna dywedodd y byddai eu hangen. Felly beth mae hynny'n ei olygu nawr? Mae angen tystysgrifau allforio arnyn nhw nawr i fynd i'r ddwy farchnad, sy'n ei wneud yn lle llawer gwaeth i wneud busnes mewn gwirionedd. A dyma'r broblem: mae'r ansicrwydd yn anghredadwy, ac nid yw'r rhain yn fanylion bach, mae'r rhain yn fanylion sy'n hynod o bwysig ar gyfer y dyfodol.
Gallaf weld yr amser, Llywydd. Nid oes unrhyw asesiadau effaith. Ni fyddwn i'n prynu tŷ heb arolwg. Ni fyddwn i'n prynu car heb ei yrru i'w brofi. Pam ar y ddaear y dylwn i dderbyn cytundeb Brexit sydd heb ei asesu'n iawn hyd yn oed? Siawns nad yw hynny'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Ac mae'n effeithio ar Gymru, yn y diwedd. Bydd hyn yn effeithio ar borthladdoedd Cymru. Bydd y tollau'n cael eu gwirio ym mhorthladdoedd Cymru, ac nid oes amheuaeth am hynny.
A'r pwynt olaf a wnaf yw hyn: rwyf yn cytuno y dylai Cynulliad Gogledd Iwerddon allu mynegi ei farn am y berthynas economaidd rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth, ond mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Mae hwnnw'n fater sydd wedi'i ddatganoli. Cyn gynted ag y bydd Llywodraeth y DU yn cyfaddef bod gan Lywodraeth a Chynulliad datganoledig lais dros fater sydd heb ei ddatganoli mewn gwirionedd, rhaid i'r un peth fod yn berthnasol yma, a rhaid i'r un peth fod yn wir am yr Alban. Nid yw'r ddadl bod Cymru'n cael ei chynrychioli yn Senedd y DU yn dal dŵr, oherwydd felly hefyd Gogledd Iwerddon, ac mae'n dod yn ôl at y pwynt yr wyf wedi'i wneud lawer, lawer gwaith yn y gorffennol, a hynny yw ni fydd y DU yn dal wrth ei gilydd oni bai y byddwn yn craffu'n briodol ar bethau fel hyn, ac ni fydd yn dal wrth ei gilydd nes inni gael newid cyfansoddiadol. Dyna'r her i bawb yn y Siambr hon, ond, Llywydd, mae'n rhaid imi ddweud bod mynd â'r ddeddfwriaeth hon drwy'r Senedd mewn ychydig ddyddiau yn warth cyfansoddiadol.
Mae'r cyn-Brif Weinidog bob amser yn siarad ag angerdd mawr am y materion hyn drwy ei gysylltiadau teuluol ac rydym yn parchu hynny. Fodd bynnag, hoffwn ei atgoffa fod cytundeb Mrs May a'r cytundeb presennol yn cael cefnogaeth ac wedi cael cefnogaeth Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon, felly rwy'n gresynu at y rhethreg flodeuog a gawsom gennych chi ar adegau wrth ichi ei thaflu at ein meinciau ni. Rwy'n credu bod hynny'n annheg iawn, a dweud y gwir.
Chi ddywedodd hynny. 'Dyma ni eto', meddech chi.
Ni ddywedais i unrhyw beth. Dim ond eistedd yma yn gwrando roeddwn i.
Credaf mai'r hyn y mae'n rhaid inni ei sylweddoli mewn argyfwng fel hyn yw ein bod wedi cyrraedd yr adeg pan fydd yn rhaid inni benderfynu. Mae ein partneriaid yn yr UE wedi bod yn amyneddgar iawn. Mae angen iddyn nhw symud ymlaen, yn union fel y mae angen i ni symud ymlaen. Byddai'n llawer gwell gennyf i gytundeb Mrs May. Roedd yn ymddangos i mi ei fod yn parchu canlyniad y refferendwm, a oedd yn glir, fod y bobl—yn annisgwyl, o bosib—eisiau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ond roedd y bleidlais yn agos iawn. A hefyd, nid wyf yn credu bod pawb wedi trafod a deall yr holl faterion masnach yn llawn. Nid wyf yn eu deall yn iawn hyd heddiw, ac rwyf wedi eu hastudio'n eithaf manwl. Ac felly roedd elfen o waith ar y gweill, ac roeddwn i'n credu fod gan Mrs May ffordd resymol i ni allu symud ymlaen.
Mae'r cynnig presennol yn ffurf galetach ar Brexit, os yw'n arwain at gyfnod pontio ac yna cytundeb masnach rydd ar ddiwedd 2020. Ond cytundeb ysgariad yn unig yw ei ffurf bresennol i fynd â ni i'r cyfnod pontio. Ac nid wyf yn hoffi'r ffaith y byddai'n rhaid cyflymu'r ddeddfwriaeth. Rwyf o'r farn bod angen archwilio materion cyfansoddiadol yn llawn, ond atgoffaf yr Aelodau ar y meinciau gyferbyn y pasiwyd Deddf parhad Cymru yn gyflym iawn gennych, dan y mesur brys, flwyddyn neu 18 mis yn ôl. Felly, yr hyn sy'n iawn i'r ŵydd sydd iawn i'r ceiliagwydd, mae'n debyg, yn y materion hyn.
Yr hyn sy'n ein hwynebu yw telerau cyfalaf cytundeb, mewn gwirionedd. Bydd y trefniadau ar gyfer Iwerddon a pha fath o ddyfodol allai fod gennym ni pe bai gennym ni gytundeb masnach rydd—caiff hynny i gyd, o ran y berthynas yn y dyfodol, ei bennu yn ystod y cyfnod pontio. Nid yw wedi'i wreiddio yn y ddeddfwriaeth bresennol, a thri chwarter ohono yw'r hyn a gynigiodd Mrs May, wrth gwrs. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn hollol o ddifrif ac yn ofalus iawn ynghylch y pwynt yr ydym ni wedi'i gyrraedd. Fy hun, rwy'n credu, oherwydd yr angen i ruthro'r ddeddfwriaeth, y gall pobl ddweud yn rhesymol bod angen ei harchwilo ymhellach ac, efallai, y dylid ymestyn y dyddiad terfyn o 31 Hydref ychydig. Pe gallai'r sianeli arferol gytuno ar bythefnos neu dair wythnos, neu hyd yn oed bedair wythnos, i adolygu'r cytundeb ysgaru yn drwyadl, credaf y gellid fy mherswadio i gytuno i hynny. Ond y peth yw, rydym ni i gyd yn gwybod bod y rhai nad ydynt eisiau gadael yr UE ac yn parchu canlyniad y refferendwm eisiau naill ai atodi refferendwm at y Bil hwn neu ei gwneud hi'n ofynnol i ni wneud cytundeb tollau gyda'r UE. A byddai hynny, rwy'n meddwl, yn glastwreiddio Brexit, cyn belled ag y mae'r rhai sy'n cefnogi Brexit yn y cwestiwn. A rhaid inni fod yn onest â'r etholwyr y bydd yn gwneud hynny.
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ildiaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Rwyf newydd eich clywed ac, yn amlwg, rydych yn poeni cymaint â mi am y brys, yn enwedig o ran sicrhau amser i edrych ar y dogfennau hyn. Ond rydych chi newydd grybwyll fod pobl eisiau edrych ar y farchnad gyffredin, bod yr undeb tollau yn fater cynhenus i lawer o bobl. Roeddwn yn wynebu llawer o gwestiynau—nad oedden nhw eisiau'r UE ond, pan wnaethon nhw bleidleisio ym 1970, roedd hynny ar gyfer marchnad gyffredin, sydd i bob pwrpas yn undeb tollau. Felly, roedd cyfran fawr o'r bobl yn teimlo mewn gwirionedd nad oedd yr undeb tollau yn broblem, oherwydd eu bod eisiau'r agenda economaidd, ddim eisiau'r agenda wleidyddol oedden nhw.
Wel, wyddoch chi, efallai ein bod wedi cyrraedd adeg lle gallech chi argyhoeddi pobl o hynny, ond, a dweud y gwir, ni fyddai unrhyw beth wedi fy mhlesio yn y blynyddoedd diwethaf yn fwy na newid mawr yn y farn gyhoeddus a thystiolaeth amlwg bod y cyhoedd eisiau pleidlais arall. Y broblem yw, pe byddem ni'n cael pleidlais arall, mae'n ddigon posib mai'r un fyddai'r canlyniad. Ac mae'r dadleuon hyn wedi cael eu gwyntyllu dros y ddwy neu dair blynedd diwethaf, ac nid ydyn nhw wedi newid barn y cyhoedd.
Ond dyma'r sefyllfa y credaf yr ydym ni ynddi nawr: mae gennym ni Lywodraeth wantan na all bellach reoli ei hagenda ei hun ac, a bod yn onest, mae'r syniad y byddai unrhyw Lywodraeth, ar ôl colli'r cynnig ynghylch yr amserlen, yn bwrw ymlaen â deddfwriaeth sylweddol rwy'n credu yn hollol ffansïol. Rydym ni wedi dod i'r diwedd. Mae arnom ni angen Llywodraeth nawr sydd â mandad i weithredu. Mae arnom ni angen etholiad cyffredinol. Mae'n eithaf clir mai dyna'r sefyllfa erbyn hyn. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, dywedodd Prif Weinidog Cymru ein bod yn ofni refferendwm—rwy'n credu ei fod yn golygu Brecsitwyr. Wel, dydw i ddim yn Frecsitwr. Dydw i ddim yn gwybod os ydyn nhw'n ofni refferendwm, neu beidio, ond rwyf yn credu eich bod yn ofni etholiad cyffredinol, ac rwy'n credu mai dyna sydd wrth wraidd eich araith—er yn rymus—y prynhawn yma. Ond a gaf i orffen—?
A wnewch chi ildio?
O, a oes amser imi ildio eto?
Oes.
Ildiaf.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ganiatáu imi. Yr anhawster yw hyn: yn 2017, roedd llawer yn y Siambr hon a gredai fod un canlyniad i'r etholiad; yn wir, cyflawnodd rywbeth aneglur. Beth petai'r etholiad yn arwain at Senedd grog arall? Yna byddem mewn sefyllfa lle nad oes mandad ar gyfer unrhyw beth. Yn yr amgylchiadau hynny, yr unig ffordd allan ohoni, siawns, yw cael refferendwm arall.
Ni all neb ragweld yn sicr beth fydd yn digwydd mewn etholiad cyffredinol, ond ni allaf weld unrhyw ffordd arall heblaw adnewyddu'r Senedd bresennol a cheisio ffurfio Llywodraeth sydd â mandad i weithredu. Efallai mai Llywodraeth glymblaid fydd honno—pwy a ŵyr? Ond dyna'r sefyllfa bob amser, ar adegau peryglus, mewn etholiad cyffredinol. Rhaid ichi wynebu'r etholwyr ac ymdrin â'r canlyniad y maen nhw'n ei roi ichi.
Ond a gaf i wneud yr apêl hon? Y bydd pa Lywodraeth bynnag a etholir yn yr etholiad cyffredinol sy'n rhwym o fod ar y gorwel—rwy'n sicr yn gobeithio ei fod—yn gyntaf ac yn bennaf yn dilyn cwrs unoliaethol, oherwydd yr hyn nad ydym ni eisiau ar ddiwedd 2020 yw ymadael heb gytundeb.
A gaf i ddweud yn gyntaf fy mod i'n cytuno efo David Melding pan ddywedodd o ein bod ni wedi dod i'r diwedd? Dwi ddim yn meddwl bod yna gytundeb gwell, bod yna rhyw ateb euraid all ddatrys y sefyllfa yma yn wleidyddol yn San Steffan. Dyna pam dwi'n credu, ac wedi credu ers tro, mai yr ateb ydy rhoi hyn yn ôl yn nwylo y bobl mewn refferendwm arall. Mae'n bosibl bod yna ddadleuon wedi bod dros y blynyddoedd diwethaf—'Peidiwch â chael refferendwm fel opsiwn achos mi fydd hynny yn gwanhau ein llaw ni mewn trafodaethau.' Mae'n bosib bod yna wirionedd yn hynny, ond os ydyn ni wedi dod i'r pen draw, rŵan ydy'r amser i roi hyn yn ôl yn nwylo'r bobl. Ac mi ddywedaf i hyn: mae'r ffaith bod gen i ferch sy'n 19 oed, ac mae yna gannoedd o filoedd o bobl ifanc fel hi chafodd mo'r hawl i bleidleisio yn y refferendwm yn 2016 oherwydd eu bod nhw’n rhy ifanc, a'u bod nhw rŵan yn ddigon hen i bleidleisio, mae hynny yn ddigon o reswm ynddo'i hun i fynd yn ôl a gofyn iddyn nhw, achos eu dyfodol nhw rydyn ni'n siarad amdano fo. Os ydyn ni am sicrhau bod democratiaeth mor gyfoes ag y gall o fod, mor sensitif ag y gall o fod i wirionedd barn pobl Prydain, nid snapshot dair blynedd a hanner yn ôl, yna gadewch inni fynd yn ôl a chael pleidlais arall.
Ond nid dyna reswm—[Torri ar draws.] Os oes yna rywun eisiau dod i mewn yn fanna, dwi'n hapus iawn i ildio.
Gwnaf. Yn gyntaf oll, oni fyddech yn cytuno eich bod wedi cael deugain mlynedd i brofi i bobl Prydain mai'r Undeb Ewropeaidd yw eu dewis gorau? Ac ar ôl deugain mlynedd o fod yn yr Undeb Ewropeaidd, dywedodd pobl Prydain, 'Nid dyna'r dewis sydd arnom ni ei eisiau. Rydym ni eisiau ymadael â'r Undeb Ewropeaidd oherwydd ein bod yn credu y byddai Prydain yn well ei byd y tu allan i'r undeb hwnnw.'
Gadewch i mi ddweud hyn: yn y refferendwm hwn yr wyf eisiau iddo ddigwydd, os dywed pobl, 'Rydym yn gadael'—fe wnawn ni adael. [Torri ar draws.] [Anghlywadwy.]—o feinciau'r Ceidwadwyr, 'Sawl refferendwm ydych chi eisiau?' Os bydd refferendwm, fel yr ydym yn dymuno nawr—dyna ni, os 'gadael' fydd y canlyniad. Dyma ein dadl ni: nid oedd gennym yr wybodaeth i allu gwneud penderfyniad gwybodus. Nawr, mae honno gennym ni.
Yn gyflym iawn, iawn—pe bai'r refferendwm hwnnw, y refferendwm nesaf, yn dweud, 'Rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd', a fyddech chi wedyn yn derbyn hynny?
Rwyf newydd ddweud hynny.
Ond pam fyddech chi'n derbyn hwnnw ac nid yr un blaenorol?
Rwyf newydd ateb y cwestiwn hwnnw.
A ydych chi'n cymryd un arall?
Nac ydw, rhaid imi fwrw ymlaen, oherwydd rwyf eisiau siarad am borthladd Caergybi, oherwydd rydym yn sôn heddiw am y cytundeb sydd ar y bwrdd a'r hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yn ymarferol. Gallwn siarad ynghylch yr hyn y byddai gadael ar y telerau a gynigir nawr drwy'r cytundeb ymadael hwn yn ei olygu o ran traffig yng Nghaergybi, o ran tagfeydd yng Nghaergybi, o ran cadw lorïau ar yr A55 ac yn y blaen, a'r anghyfleustra a achosir, ond nid wyf yn mynd i siarad am hynny. Rwy'n mynd i siarad am fy mhryder gwirioneddol ynghylch beth fydd yn digwydd i borthladd Caergybi, sy'n borthladd strategol hynod bwysig, yn sgil yr hyn sy'n cael ei gynnig nawr. Gallwn sôn am frad gwleidyddol yr hyn y mae Boris Johnson wedi'i wneud wrth gynnig gosod ffin ym Môr Iwerddon. Siaradaf, os caf, am ganlyniadau ymarferol hynny.
Mae masnach drwy borthladd Caergybi wedi tyfu tua 700 y cant ers creu'r farchnad sengl. Mae Caergybi yn borthladd hynod bwysig, nid yn unig oherwydd y caiff ei redeg yn dda, mae ganddo staff gwych, ac mae'n borthladd effeithiol ac effeithlon, ond mae'n llwyddiannus oherwydd dyma'r ffordd hawsaf i fasnach lifo o Ewrop drwy Brydain i Iwerddon. Felly, mae llawer o'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr yn bygwth y statws hwnnw sydd gan Gaergybi—y statws breintiedig hwnnw o fod y llwybr gorau ar gyfer masnachu. Mae 50 y cant o'r fasnach drwy Ddulyn a Chaergybi yn dod o Ogledd Iwerddon. Nawr, o dan delerau'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr, byddai elfennau o'r traffig masnach hwnnw yn ddi-dariff, a byddai'n haws iddyn nhw gael mynediad uniongyrchol i borthladdoedd yn yr Alban a Lloegr. Byddai hynny'n rhoi porthladd Caergybi dan anfantais yn uniongyrchol. Gwyddom beth sy'n digwydd o ran cynllunio ar gyfer traffig uniongyrchol ar gyfer masnach o Iwerddon i gyfandir Ewrop. Mae tua 40 y cant o'r fasnach a ddaw drwy borthladd Caergybi yn mynd yn syth dros y bont dir, sef yr hyn yw Prydain, ac ymlaen i gyfandir Ewrop. Gwyddom eisoes fod buddsoddiad yn cael ei wneud i osgoi'r bont dir honno'n gyfan gwbl, fel y dywedodd Andrew Potter o Brifysgol Caerdydd:
Yn hytrach na mynd i'r drafferth o fynd drwy ddau borthladd yn y DU—byddech yn gallu cadw eich lori ar fferi a hwylio o amgylch y DU heb adael yr Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd.
Ac mae trafferth yn wir, yn wirioneddol bwysig yma, oherwydd bod gennym ni rwystrau tariff ac mae gennym ni rwystrau nad ydynt yn dariffau, a'r rhwystrau hynny nad ydynt yn dariffau yw'r pethau sy'n gwneud i fasnach lifo'n gyflym neu'n araf, ac mae'r hyn sydd gennym yn y cynnig hwn, yn y cytundeb ymadael, yn gynnig i wneud Caergybi a thraffig trwy Gymru, sy'n rhoi hwb i economi Cymru, yn drafferthus. A byddwn ar ein colled, oherwydd, yn y pen draw, bydd masnach yn dod o hyd i'r llwybr hawsaf a ni fydd y rhai fydd ar ein colled. A phan ddywedaf 'ni fydd y rhai', rwy'n cyfeirio yn anad dim at y teuluoedd hynny sy'n gweithio'n galed yng Nghaergybi, ar Ynys Môn, a fydd yn gweld y bydd y porthladd hwnnw—a fu mor hanfodol i economi fy etholaeth i, fy nghymuned i—o dan anfantais, ac ni fyddaf byth yn cefnogi cytundeb sy'n rhoi fy nghymuned i o dan anfantais.
Dirprwy Lywydd, mae yna dri phwynt yr oeddwn i eisiau eu cyfrannu yn y ddadl arbennig hon. Mae'r pwynt cyntaf yn ymwneud mewn gwirionedd â'r amserlen ar gyfer ystyried hyn. Dechreuais ddarllen y 450 tudalen yma y bore 'ma. Dydw i ddim yn credu bod yna un person yn y Siambr hon sydd eto wedi cael yr amser neu sydd â'r gallu i ddeall y cynnwys hynod dechnegol hwn.
Nawr, dywedodd Prif Weinidog y DU, os na all gyflawni ei amserlen, y bydd yn diddymu'r Bil. Wel, gwrandewch, rwy'n credu, gyda rhywbeth mor bwysig â hyn, yn gyfansoddiadol, petai'n well ganddo ddiddymu ei Fil Brexit na'i fod yn destun craffu priodol, yna ni ddylai fod wedi ei gyflwyno gerbron y Senedd yn y lle cyntaf. Ac mae hefyd yn gwneud ein gweithdrefnau Seneddol yn gyff gwawd yn rhyngwladol.
Rwy'n gweld y sylw hwn gan y Sefydliad Llywodraethu, sydd wedi rhoi cymaint o gyngor yn ystod y broses hon. Yr hyn a ddywedant yw:
byddai gan y Bil Brexit lai o amser yn Nhŷ'r cyffredin na'r Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau.
Maen nhw'n dweud, bod Deddf, sy'n effeithio, dim ond 19 o anifeiliaid gwyllt ar ôl mewn syrcasau yn y DU—yn eu plith; sebra, dau gamel, tri racŵn a sebw.
Dydw i ddim yn gwybod beth yw sebw.
Pob un ohonynt bellach â'r anrhydedd o fod yn destun mwy o ddadl yn Nhŷ'r Cyffredin na...y cytuniad cyfreithiol hanesyddol sy'n sicrhau ymadawiad y D.U. o'r Undeb Ewropeaidd.
Nid dyma'r ffordd i gyflawni diwygio cyfansoddiadol yn briodol.
Dyna'r pwynt cyntaf a wnaf. Mae'r ail bwynt a wnaf yn ymwneud â hawliau gweithwyr, a fu'n fater mor sylfaenol i lawer ohonom ni. Mae'n fater a oedd yn addewid mor bwysig yn ystod refferendwm Brexit—y byddai gwarantau o ran hawliau gweithwyr. Rwy'n cofio mor galed y buom yn ymladd i gael llofnodi'r benod gymdeithasol, a pha mor falch oeddem ni pan gafodd ei llofnodi yn 1997. Ac rwy'n dweud wrthych chi, roedd hi yn frwydr—roedd hi'n frwydr ar ein hochr ni, oherwydd roedd Blair eisiau dewis a dethol darnau, a'r undebau llafur mewn gwirionedd a ddywedodd, 'na, rydym ni'n cymryd y benod gymdeithasol gyfan, oherwydd rydym ni wedi ymrwymo i Ewrop gymdeithasol.' Rwy'n meddwl am sgwrs gyda Phrif Weinidog Cymru y diwrnod o'r blaen, a ddywedodd, 'ydw, rwy'n cofio'r dadleuon hynny'n dda. Beth oedd safbwynt y Torïaid? 'Naw wfft ichi, Delors.' A dweud y gwir, bu hynny'n rhan o safbwynt y Torïaid fyth ers hynny.
Roedd pwynt a wnaethpwyd yn ddeheuig iawn, mi gredaf, gan Keir Starmer yn ystod y ddadl yn San Steffan, a dyma oedd hwnnw—oherwydd fe glywsom ni heddiw gan UKIP/Brexit; beth bynnag y'u gelwir nhw y dyddiau hyn—os ydych chi'n mynd i wneud y pwynt bod gennym ni delerau ac amodau penodol a deddfwriaeth gyflogaeth sy'n well na safonau'r UE, wel wrth gwrs y pwynt yw bod safonau'r UE wedi bod yn llinell sylfaen erioed. Ni fu unrhyw gyfyngiad erioed ar ddarparu safonau gwell ac uwch, ac os yw'n wir nad ydych chi eisiau cwtogi ar ddeddfwriaeth gyflogaeth, yna pam diddymu'r llinell sylfaen? Yr ateb, fel y gwyddom yn ddigon clir, yw mai'r bwriad yw cael gwared ar y gallu i ddiogelu hawliau cyflogaeth—yr hawliau hynny a gawsom ni o'r bennod gymdeithasol. Ac os darllenwch y ddogfen hon—a darllenais y darnau penodol hynny—nid oes sicrwydd yno y caiff y llinell sylfaen honno ei diogelu mewn unrhyw ffordd, ac ni ellid ei hamddiffyn chwaith, oherwydd er mwyn cael cytundeb masnach â'r Unol Daleithiau, er mwyn inni sicrhau'r cytundeb masnach hwnnw, mae'n rhaid inni gytuno i ddiddymu a gostwng safonau er mwyn cydymffurfio a chael chwarae teg â'r Unol Daleithiau. Felly, dylai'r blaid Dorïaidd fod yn onest mai dyna yw eu bwriad mewn gwirionedd a dyna fu un o'r prif feini tramgwydd erioed o ran aelodaeth o'r UE yn y lle cyntaf beth bynnag—y ffaith iddo gyflwyno'r bennod gymdeithasol honno a bod ganddo'r agenda gymdeithasol benodol honno.
Rwy'n credu mai'r pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw hyn: os edrychwch chi ar adran 36 o'r Bil drafft, ceir y datganiad mwyaf rhyfedd yn y fan honno o ran sofraniaeth, a sofraniaeth ar adeg, mewn gwirionedd, pan fo adran 20 o'r Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu 2010 yn cael ei diddymu hefyd, sef y corff sydd mewn gwirionedd yn rhoi amser i'r Senedd graffu ar gytuniadau rhyngwladol. Caiff hynny ei ddileu yn y Bil, ac nid wyf wedi clywed dim trafodaeth ar hynny eto. Gan roi'r rhan benodol honno o'r neilltu, os edrychwn ni ar y rhan honno o'r Bil sy'n ymwneud â sofraniaeth ac ati, os mai bwriad y Senedd yw dibynnu ar adran 36 a mynd ymlaen yn y fath fodd fel ei bod hi yn y bôn yn rhoi'r farwol i Gonfensiwn Sewel, yna mae hynny unwaith eto'n symudiad arall tuag at chwalu'r Deyrnas Unedig. Cyfeiriaf at yr adran hon yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a aeth gerbron Senedd yr Alban, a chyfeiriant at ein papur ein hunain a drafodwyd ac a gefnogwyd gennym yn y Siambr hon dim ond yr wythnos o'r blaen:
Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynigion a ategodd y syniad o'r Deyrnas Unedig fel cymdeithas wedi'i seilio ar gydnabyddiaeth o sofraniaeth boblogaidd ym mhob rhan o'r DU, a daeth i'r casgliad nad yw'r athrawiaeth draddodiadol o sofraniaeth y Senedd bellach yn darparu sylfaen gadarn ar gyfer cyfansoddiad y DU.
Dyna'r safbwynt a fabwysiadwyd gan y Siambr hon, a gydnabuwyd gan Senedd yr Alban, ond na chafodd ei gydnabod yn unman yn unrhyw un o'r dogfennau hyn. Ac os byddwn ni'n cyrraedd sefyllfa lle mae Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen, dyna ddiwedd confensiwn Sewel a dyna ddiwedd goruchafiaeth y statudau datganoli o fewn strwythur cyfansoddiadol y DU, ac mae'n gam ar y ffordd i chwalu'r Deyrnas Unedig.
Wel, dyma ysgarmes arall eto fyth yn y frwydr ddiddiwedd rhwng Seneddau sydd eisiau aros yn yr Undeb Ewropeaidd a phobl y wlad hon. Dechreuaf drwy atgoffa pobl fod 486 o Aelodau Seneddol o blith 650 wedi pleidleisio i aros, a 49 o Aelodau'r Cynulliad hwn o blith 60 wedi pleidleisio i aros. Bu i'r holl brif bleidiau a ymladdodd yn yr etholiad cyffredinol diwethaf ei ymladd ar yr un geiriad ag a ymddangosodd ym maniffesto'r Blaid Lafur: 'Mae Llafur yn derbyn canlyniad y refferendwm.' Ac maen nhw wedi treulio'r tair blynedd a hanner diwethaf yn gwneud popeth o fewn eu gallu i danseilio'r datganiad hwnnw. Gwyddom nad oedd y Prif Weinidog na'i gyd-Aelodau, nac, yn wir, arweinydd Plaid Cymru a'i gyd-Aelodau, wedi derbyn canlyniad y refferendwm mewn gwirionedd —
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wel, prin fy mod i wedi dechrau eto, ond, ewch ymlaen.
Felly, 'Diogelu Dyfodol Cymru', o ran y ddogfen a basiwyd gan y Siambr hon, nid ydych chi'n teimlo bod hynny'n ymyriad difrifol iawn.
Mae'n ddrwg gennyf, nid wyf yn deall.
Roeddwn yn meddwl ei fod yn eithaf clir—'Diogelu Dyfodol Cymru'.
Mae gennym ni Seneddau sydd eisiau parhau'n aelod o'r Undeb Ewropeaidd, sy'n benderfynol, ac a fu wastad yn benderfynol, i herio ewyllys y bobl. Cyn ymgyrch y refferendwm, cafodd pob arswyd dychmygol ei ddyfeisio gan yr un bobl yn union ynghylch yr hyn a fyddai'n digwydd petaem yn gadael yr undeb tollau a'r farchnad sengl. Byddai pla o gornwyd a brogaod ac ati ac ati. Felly, mae'r syniad nad oedd y dadleuon hyn, yr ydym ni wedi eu hailadrodd yn ddiddiwedd yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, yn rhan o ymgyrch y refferendwm yn ailbobiad hurt o hanes. Dim ond yr wythnos diwethaf roeddem yn siarad am Gatalwnia yn y fan yma, ac roedd arweinydd Plaid Cymru yn traethu'n huawdl am hawl pobl Catalonia i benderfynu ar eu dyfodol eu hunain drwy gyfrwng refferendwm. Mae Llywodraeth Sbaen, wrth gwrs, yn cymryd golwg hollol wahanol. Cyn belled ag y mae Plaid Cymru yn y cwestiwn, yn y dadleuon hyn, maen nhw wedi cymryd swyddogaeth Llywodraeth Sbaen oherwydd eu bod yn benderfynol o'n cadw ni yn undod yr ymerodraeth uwchgenedlaethol, sef disgriafiad Guy Verhofstadt ohono, yr Undeb Ewropeaidd. Ni ddylid byth caniatáu i Brydain a Chymru sicrhau eu rhyddid o'r corff uwchgenedlaethol hwn. Mae Plaid Cymru yn ddigon hapus i ni fod yn wladfa yn ymerodraeth Gwlad Belg; dydyn nhw ddim eisiau i ni fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig. A hurtrwydd y sefyllfa honno, er mor annigonol y gallai fod—ar hyn o bryd mae gennym ni 40 o Aelodau Seneddol yn San Steffan—pe bai Cymru'n annibynnol yn yr Undeb Ewropeaidd, byddai ganddi lond dwrn o aelodau o Senedd Ewrop, byddai gennych chi ganran bitw iawn o'r pleidleisiau yng Nghyngor y Gweinidogion, a byddai gennych chi un Comisiynydd Ewropeaidd, a fyddai dan rwymedigaeth i fod yn annibynnol. Rwy'n ildio.
Mae dau o'r 11 carcharor gwleidyddol Catalaneg yn gyfeillion personol i mi. Euthum i garchar VI Madrid i ymweld â nhw, a gofynnais iddyn nhw, 'beth ddywedech chi wrth bobl fel y rhai a fyddai'n dweud, "Wel, edrychwch, yr Undeb Ewropeaidd—"'. Ac rwy'n gresynu at ymateb yr Undeb Ewropeaidd, a rhai o'r aelod-wladwriaethau—nid pob un—gan gynnwys Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn ofnadwy yn hyn o beth. 'Ond beth ddywedech chi?' Dywedodd, 'Edrychwch, mae arnon ni eisiau i Gymru fod yno gyda Chatalonia yn Ewrop y bobol yr ydym ni'n ceisio ei chreu.' Dyna'r dyfodol i ni fel cenhedloedd bach. Mae arnom ni angen y teulu hwnnw o genhedloedd Ewropeaidd lle, yn wahanol i'r undeb hwn, y byddwn yn bartner cyfartal, yn cael ein parchu. Dyna'r weledigaeth yr ydym ni'n ymladd amdani—rhywbeth na fyddech chi byth yn ei ddeall.
Nid oes angen tanseilio mwy ar hurtrwydd yr honiad y byddai Cymru'n gyfartal â'r Almaen yn yr Undeb Ewropeaidd. Rydym ni i gyd yn gwybod am ddeinameg fewnol y ffordd y mae'r Undeb Ewropeaidd yn gweithio. [Torri ar draws.] Rwy'n credu bod yn rhaid i mi symud ymlaen gyda fy araith. [Torri ar draws.] Rhaid imi symud ymlaen gyda'm haraith.
Dewch yn eich blaen, ildiwch.
Gall y bonheddwr anrhydeddus, yr wyf yn ei barchu'n fawr, wneud ei araith ei hun, ond rwy'n mynd i fwrw ymlaen â'm un i.
Yn y bôn, mater o ddemocratiaeth yw hyn yn y pen draw, ac ni allwn ni gael ail refferendwm ar aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd hyd nes y byddwn wedi cyflawni'r cyntaf. Dyna holl ddiben y broses hon. Dyna pam, fel y dywedodd David Melding, fel un sy'n frwd o blaid Ewrop, fod yn rhaid inni barchu dymuniadau'r bobl neu fel arall danseilio'r ffydd mewn democratiaeth yn ein gwlad ein hunain. Ac rydym ni i gyd yn gwybod bod y ddadl ynglŷn â'r amserlen yn San Steffan—rwy'n cytuno, mewn gwirionedd, nad yw tri diwrnod yn ddigon i ymdrin â chymhlethdodau Bil o'r math hwn—ond gwyddom oll fod y dadleuon ynglŷn ag amserlenni yn sylfaenol yn ymwneud ag ymestyn yr oedi am gyfnod amhenodol fel nad yw Prydain byth yn gadael yr UE. Mae fel Hotel California—rydych chi'n llofnodi i adael, ond ni allwch chi fyth fynd. Wel, bydd pobl Prydain yn cael eu ffordd yn y pen draw, waeth pa mor hir y mae'n ei gymryd. Pleidleisiodd 53 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru ac ym Mhrydain i adael yr UE, ac ni allwn ni barhau fel hyn am gyfnod amhenodol, gan wadu iddynt yr hyn y gwnaethant bleidleisio drosto. Rwy'n credu, fel y dywedodd David Melding, mai etholiad cyffredinol yw'r ffordd ymlaen.
Mae'r hyn yr ydyn ni'n ei wneud heddiw, rwy'n meddwl, yn tanseilio'r ffydd yn y lle hwn—does dim ots gennyf i am hynny, nid oes llawer o ffydd ynddo beth bynnag y tu allan i'r adeilad hwn. Ond rydym ni'n tanseilio mwy na hynny—ffydd mewn democratiaeth ei hun, ac am hynny rwy'n poeni amdano o ddifrif. Os bu erioed Wobr Nobel am ragrith, rydym yn gwybod y byddai digon o ymgeiswyr ar gyfer honno yn arweinyddiaeth Plaid Cymru ac arweinyddiaeth y Blaid Lafur a holl sefydliad gwleidyddol y wlad hon.
Felly, rwy'n dweud nad yw'n bwysig beth yr ydym yn ei wneud yma heddiw. Nid ydym ni hyd yn oed yn gwybod eto a yw'r Tŷ'r Cyffredin yn mynd i ganiatáu i Boris Johnson gael ei gytundeb. Yn bersonol, nid wyf yn credu hynny, ac felly bydd hynny'n gwneud yr holl broses hon yn ofer. Felly, yr hyn y dylem ni ei wneud, fel gwleidyddion, yw cyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Prydain, sef ein meistri, drosto.
Byddaf yn ceisio cadw hyn yn gryno, ond rwyf newydd glywed y sylwadau gan yr Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn tynnu sylw at ffigurau ffug mewn gwirionedd—nid 53 y cant mohono ond 52 y cant, dim ond i'w gywiro. Rwy'n gwybod ei fod yn hoffi gorliwio, hyd yn oed o un.
Mae'n bwysig ein bod yn deall democratiaeth, a'r hyn y mae democratiaeth yn ei olygu yw cymryd ein hamser i ymdrin â materion a chraffu arnyn nhw. Nawr, dau beth. O ran y Bil—nid ydym yn trafod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol am nad yw wedi'i gyflwyno eto—ond, o ran y Bil, mae Llywodraeth sy'n ceisio cyflawni rhywbeth mewn tri diwrnod yn cuddio rhag craffu, oherwydd mae'r ddogfen hon, fel y dywedodd Mick Antoniw—120 tudalen o Fil, 126 tudalen o femorandwm esboniadol, hyd yn hyn wyth tudalen o welliannau, ynghyd â 500 tudalen a mwy y cytundeb ymadael ei hun, a'r datganiad gwleidyddol sydd ynghlwm wrth hynny—os gall unrhyw un ddarllen hynny i gyd a'i ddeall, nid ei dreulio'n unig, ond deall yr hyn y mae'n ei olygu yn y cyfnod o dri diwrnod, wel, maen nhw'n dweud anwireddau, oherwydd mae'n amhosib. Rwy'n edrych drwy hyn, rwy'n ceisio ei ddarllen, ond mae wedi cymryd amser hir i mi fynd i'r afael ag ef gan fod gennych chi lawer o groesgyfeirio yn y Bil hwn at agweddau eraill ac at ddatganiadau gwleidyddol eraill. Mae'r Bil hefyd yn dweud, drwy gyfrwng y datganiad gwleidyddol, na allwch ei newid—na allwch chi newid y datganiad gwleidyddol. Mae paragraff 31 (3) yn dweud eich bod yn cadw at hyn yn y dyfodol—mae'n raid i unrhyw un gadw at y datganiad gwleidyddol hwn yn y dyfodol. Mae hynny'n bwysig.
Felly, mae'n rhaid i chi weithio drwy'r Bil hwn. Mae'n rhaid i chi graffu ar y Bil hwn yn ofalus iawn, ac mae tri diwrnod yn jôc. Nawr, soniodd pobl nad oes angen iddo fod yn dri diwrnod mewn gwirionedd. Yna dywedwch wrth eich Llywodraeth, 'Cymerwch amser; cymerwch yr amser sydd ei angen arnoch chi i wneud hynny, craffwch arno fel y mae angen ichi ei wneud.' Does dim brys. Nid yw Senedd Ewrop yn mynd i gadarnhau hyn erbyn 31 Hydref, gan eu bod eisoes wedi dweud nad ydynt yn mynd i wneud hynny yr wythnos hon. Nid oes cyfarfod llawn yn eistedd yr wythnos nesaf. Dydyn nhw ddim yn mynd i'w wneud tan ar ôl 31 Hydref. Nid oes brys ac eithrio ego Boris Johnson i ddweud, 'Cefais hwn drwy Dŷ'r Cyffredin erbyn 31 Hydref', fel datganiad gwleidyddol mewn etholiad cyffredinol.
Pe baem ni dim ond yn sôn am yr unig fater o sut i drafod Bil mor fawr â hyn yn briodol, byddwn yn cytuno â chi; mae'n gofyn am amser ac mae'n amlwg na chaiff hynny. Fodd bynnag, mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y prynhawn yma, yn y termau mwyaf pendant—ac mae'n angerddol drosto ac mae ganddo hawl i'w farn—nad oes arno eisiau unrhyw gytundeb; mae eisiau aros yn yr UE. A dyna'r broblem, ynte? Mae hyn i gyd yn ymgais i lesteirio'r broses a gwrthod penderfyniad ar hyn o bryd ar hanfodion y cytundeb hwn a gytunwyd rhwng Llywodraeth y DU a'r UE.
Yn amlwg, ni fyddwch chi na minnau'n cytuno ar y safbwynt hwnnw. Af yn ôl at y cynnig ei hun mewn munud, ond mae'r ddadl ar y Bil, yr ydych chi eisoes wedi cytuno, a chredaf fod pawb yn eu calonnau yn y Siambr hon yn cytuno, na allwch chi wneud y gwaith yr ydych chi i fod i'w wneud mewn tri diwrnod. Mae'n amhosib, yn enwedig ar fater cyfansoddiadol mor bwysig, sydd, fel y dywedodd Rhun, yn effeithio ar ddyfodol ein cenhedlaeth iau. Mae angen inni wneud hynny'n iawn.
Nawr, pan ddown at y cytundeb ei hun, ie, efallai nad oes gennym ni'r un farn am y cytundeb hwnnw. Ac mae agweddau pwysig. Ble mae'r dadansoddiad o'r effaith economaidd fel y gallwn ni gloriannu sut mae'r cytundeb hwn yn mynd i'r afael â rhai o'r pryderon a oedd gennym ni yn y cytundebau blaenorol? Rydym ni wedi gwneud llawer o waith yn y Siambr hon, ac mewn gwahanol bwyllgorau, i edrych ar effaith cytundebau blaenorol, boed yn ymadael heb gytundeb, cytundeb Theresa May, neu agweddau eraill, a gwyddom fod pob un yn effeithio arnom ni mewn modd negyddol, nid cadarnhaol. Felly, beth fydd effaith y cytundeb penodol hwn? Nid ydym ni wedi ei weld. Gwyddom fod y cyfnod pontio, mewn gwirionedd, yn 14 mis ar gyfer cytundeb masnach rydd. Nid oes neb wedi dweud wrthyf eto y gallant wneud cytundeb masnach rydd mewn 14 mis. Cawsom Lysgennad y Ffindir yn y pwyllgor ddoe—mae David yn gwybod hyn—a oedd yn amlwg yn pryderu'n ddirfawr am gwblhau cytundeb o'r fath ymhen 14 mis. Ac os ydych chi eisiau estyniad, mae'n rhaid i chi wneud y penderfyniad hwnnw erbyn mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf, nid mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf. Felly, mewn gwirionedd, mae gennych chi wyth mis i benderfynu a oes angen estyniad i'r cyfnod pontio, ac nid yw'r Llywodraeth bresennol yn rhoi'r hyder imi y bydd hyd yn oed yn ceisio'r estyniad hwnnw, felly gallem adael heb gytundeb ym mis Rhagfyr y flwyddyn nesaf.
Nawr, rydym ni'n siarad am agweddau ar y cytundeb, gyda'r rheolau tarddiad yn dal i gael eu hamau, ac, mewn gwirionedd, mae'r cytundeb hwn yn gwneud y rheolau tarddiad yn fwy anodd. Mae hynny'n peri pryder i fusnesau a'u cludiant a'u hallforio. Rydym yn dal i fod â'r mater o'r penderfyniad i neidio dros ddibyn os nad ydym yn ofalus. Mae hynny'n dal yno. Mae angen inni edrych yn ofalus iawn ar yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio'i wneud. Nid yw, fel y mae Aelodau ar y fainc hon a gyferbyn yn ei ddweud, yn ceisio cyflawni'r refferendwm; mewn gwirionedd, mae'n ceisio cadw addewidion rhywun a geisiodd am arweinyddiaeth ei blaid. Dyna beth yw hyn. Nid yw'n ymwneud â beth sy'n dda i'r wlad hon—mae'n ymwneud â beth sy'n dda i Boris Johnson. Dyna wir fyrdwn y Bil hwn, a gwir fyrdwn y cytundeb hwn. Dewch—trodd ei gefn ar y DUP cyn gynted ag y gallai, oherwydd gwyddai mai dyna'r ffordd orau iddo gael rhywbeth erbyn 31 Hydref. Felly, pwy arall fydd yn cefnu arnynt, a phryd fydd yn cefnu arnom ni? Ar 31 Rhagfyr 2020, oherwydd dyna a wnaiff—ni allwch chi ymddiried ynddo i ddweud neu wneud unrhyw beth yn wahanol. Felly, mae holl bwyslais y ddadl hon mewn gwirionedd ynghylch: a yw hyn yn gwneud mwy o les, ac a yw'n cyflawni'r hyn a eglurwyd gan Brif Weinidog Cymru a chyn-Brif Weinidog Cymru oedd safbwynt Llywodraeth Cymru, oedd y safbwynt erioed—parchu'r refferendwm, ond diogelu swyddi a'r economi? A yw'r cytundeb hwn yn gwneud hynny? Yr ateb yw 'nac ydy', oherwydd ei fod mewn gwirionedd yn waeth na chytundeb Theresa May, yr oeddem yn gwybod a fyddai'n niweidio ein heconomi. Yna mae'n rhaid i chi gwestiynu: pam y mae'n rhuthro hyn? Am nad yw eisiau ei wneud yn destun craffu, oherwydd, mewn gwirionedd, mae eisiau mynd i mewn i etholiad cyffredinol gydag un neges: 'Fe wnes i gyflawni hyn i chi'. Dyna beth yw diben hyn. Nid yw'n ymwneud â chyflawni ewyllys y bobl—mae'n ymwneud â chyflawni ar ran y blaid Dorïaidd. Mae angen i ni wneud yn siŵr mai'r neges o'r fan yma yw: nid yw hynny'n ddigon da i bobl Cymru. Mae pobl Cymru'n haeddu gwell na hynny, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn cynrychioli fy etholwyr i, eich etholwyr chi, a'r hyn sydd orau iddyn nhw.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau am y mater o gydsynio. Mae nifer o fethiannau yn y Bil cytundeb ymadael sydd wedi'u hamlinellu y prynhawn yma, ond y prif beth ymhlith y diffygion hyn yw'r modd y mae Llywodraeth Boris Johnson yn ceisio ei orfodi gyda'r amserlen hurt hon yn San Steffan, heb roi digon o amser i San Steffan neu'r gweinyddiaethau datganoledig graffu arno'n briodol. Nawr byddai'r Bil hwn, pe bai'n cael ei basio, yn methu â rhoi'r amser i'r lle hwn graffu ar gytundebau masnach rydd yn y dyfodol, ac ni fyddai ychwaith yn cynnig cyfle i'r bobl gael dweud eu dweud yn derfynol drwy ail refferendwm. Nawr, rwy'n gwybod fod Aelodau ledled y Siambr wedi dweud droeon yn y ddadl hon, a sawl gwaith mewn dadleuon eraill, fod y bobl eisoes wedi cael cyfle i bleidleisio. Wel, do, fe wnaethon nhw bleidleisio; fe wnaethon nhw bleidleisio pan ddywedwyd wrthyn nhw y caem ni'r cytundeb hawsaf mewn hanes, ac y byddem yn cael £350 miliwn yn ychwanegol bob wythnos i'r GIG—celwyddau sydd wedi cael eu hamlygu yn ystod y tair blynedd ers hynny. Nawr, rhaid i gydsyniad fod yn wybodus; rhaid ei geisio eto pan fydd pethau'n newid. Pan fydd yr amgylchiadau'n newid, ni allwch chi ragdybio bod y cydsyniad wedi aros yr un fath. Ymddengys i mi fod hynny'n bwynt sylfaenol. Fe wnaf i dderbyn yr ymyriad.
Wel, o ystyried y 53 y cant a bleidleisiodd yn 2016, a datblygiad eich dadleuon—rhagdybiaeth bod pobl yn gwybod mwy erbyn y blynyddoedd dilynol, ac yn arbennig hyd at 2019—gwelodd 19 allan o 22 o ardaloedd cyngor fwyafrif yn pleidleisio dros y Blaid Brexit yn yr etholiad Ewropeaidd. Yn etholiad Brycheiniog a sir Faesyfed, pleidleisiodd dros hanner y rhai a bleidleisiodd dros ymgeiswyr oedd yn gadarn o blaid Brexit. Dydy'r farn ddim wedi newid. Ac mae pobl lle yr wyf i'n byw—cefnogwyr Llafur lle yr wyf i'n byw—yn mynegi eu llid cynyddol yn y ffordd y cânt eu trin gan y lle hwn a phobl yn San Steffan.
[Torri ar draws.] Ie, yn union. Diolch am yr ymyriad, ond byddwn yn dweud, gyda phob parch, yn hytrach na chael trafodaethau dirprwyol am etholiadau dirprwyol ynghylch yr hyn y gallwn ei ddarllen am yr hyn y gallai hyn ei olygu, pam na chawn ni gwestiwn syml mewn gwirionedd? Rwy'n derbyn y pwynt, ond credaf fod angen gwneud hyn yn iawn, a gofyn y cwestiwn uniongyrchol yn hytrach na chael etholiad cyffredinol dirprwyol yn lle hynny.
Nawr, yn y pen draw, mae cydsyniad yn ymwneud â phŵer. Mae'n golygu bod dwy ochr yn dod i gytundeb pan fydd un ochr mewn sefyllfa o bŵer neu awdurdod ac mae'r llall yn rhoi caniatâd i rywbeth ddigwydd. Mae'n seiliedig ar ymddiriedaeth. Nawr, byddwn i'n dweud yn y fan yma yr enillwyd ymddiriedaeth ein hetholwyr yn anonest yn 2016, tra bo cydsyniad ar gyfer y cytundeb arbennig hwn heb ei ennill o gwbl. A, Llywydd—Dirprwy Lywydd—mae'n rhaid ceisio cydsyniad. Mae angen i Aelodau Seneddol hefyd ac Aelodau Cynulliad, Aelodau Senedd yr Alban ac Aelodau o’r Cynulliad Deddfwriaethol ddeall yr hyn yr ydym ni'n pleidleisio arno cyn i ni gydsynio. Mae hi'n anffodus tu hwnt na fydd unrhyw asesiadau effaith yn cael eu darparu. Sut allwn ni gydsynio i rywbeth heb wybod beth fydd ei effaith ar ein hetholwyr? Ni ellir cadw lles ein hetholwyr yn y dyfodol yn wystl i haerllugrwydd Boris Johnson a'i benderfyniad i gyflawni rhywbeth mewn pryd i fodloni terfyn amser mympwyol.
Llywydd, mae'n rhaid cael—. Dirprwy Lywydd, mae'n rhaid cael chwarae teg. Bydd gofyn i Gynulliad Gogledd Iwerddon, o dan y cytundeb hwn, roi ei gydsyniad gweithredol bob pedair blynedd i'r drefn barhau. Ni chaiff ein Senedd yr un cyfle, na Senedd yr Alban chwaith. Mae'n debyg nad oes angen ein cydsyniad ni. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe wnaf i dderbyn ymyriad.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi. Mewn sefyllfa absenoldeb cydsyniad ar gyfer natur y datblygiadau hyn, a yw hi'n cytuno â mi y bydd symudiad carlam—? Os cawn ni Brexit 'dim cytundeb' mewn 11 diwrnod neu 11 mis, bydd yn cyflymu'r symudiad tuag at refferendwm ar undod yng Ngogledd Iwerddon, i refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban, ac, fel yr ydym ni wedi'i ddweud, mae achos cryf bryd hynny, a byddem ni eisiau gweld refferendwm annibyniaeth yma yng Nghymru. Er y byddwn ni'n cefnogi'r gwelliant, mae'n bwysig iawn, os bydd cydsyniad ar sail gwybodaeth, ein bod yn defnyddio iaith glir, felly dylem ni siarad am refferendwm annibyniaeth, nid cysyniad annelwig fel sofraniaeth.
Ie, diolch. Byddwn i'n cytuno, ac fel yr wyf wedi'i ddweud yn ddiweddar yn yr Alban, gallai digwyddiadau ein goddiweddyd yn gyflym iawn. Mae angen inni roi marcwyr gweithredol ar waith a chynllunio ar gyfer refferendwm annibyniaeth, a gallai hynny ddigwydd yn fwy ar frys o lawer nag y credwn ni, felly byddwn i yn sicr yn cytuno â'r pwynt hwnnw.
Ond, Dirprwy Llywydd, nid oes hierarchaeth o gydsyniad, oni bai bod hierarchaeth rywsut neu'i gilydd o fewn yr undeb hwn a bod rhai rhannau cyfansoddol yn cael eu ffafrio'n fwy nag eraill. Nawr, gan fynd yn ôl at y pwynt yr oeddwn i'n ei wneud am Ogledd Iwerddon, nid wyf yn gwarafun Stormont y cyfle hwnnw i roi eu cydsyniad gweithredol. Rwyf i ond yn gofyn bod yr un cyfle yn cael ei roi i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig. Mae cydsyniad yn ddeuaidd: rydych chi naill ai'n rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, gweithredol neu beidio. Nid oes unrhyw beth yn y canol. Mae angen i bobl ddeall yr hyn y maen nhw'n pleidleisio drosto—methiant democratiaeth yw unrhyw beth arall. Yn aml, defnyddir yr ymadrodd, 'Deddfu ar frys, cewch ddigon o amser i ddifaru'. Mae angen amser arnom ni i graffu ar y Bil yn effeithiol. Dyn a ŵyr beth fydd yr effaith os na wnawn ni hynny, oherwydd yn sicr ni allwn wybod hynny heb yr asesiadau.
Rwy'n ymwybodol o'r amser. Mae sinigiaeth Llywodraeth y DU wrth geisio cyfyngu'r holl ddadleuon am y newid economaidd a chyfansoddiadol mwyaf mewn cenhedlaeth i dri diwrnod pitw yn San Steffan yn ddirmygus. Mae angen rhagor o amser cyn y gellir ystyried cydsyniad hyd yn oed ar ddeddfwriaeth bellgyrhaeddol a fydd yn ein rhwygo ni o'r farchnad sengl, yn newid ein trefniadau masnachu ni yn sylweddol gyda'n partner masnachu mwyaf, ac yn cyfyngu ar dwf cynnyrch domestig gros am genedlaethau, a dylai ein Senedd peidio â chael ei rhuthro na'i gwthio o'r neilltu yn y broses; dylid dangos parch i ni, oherwydd mae'n rhaid cael cydsyniad.
Ac, yn olaf, Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Yr eironi llethol, wrth gwrs, o'r Bil hwn yw mai'r peth cyntaf y mae'n ei wneud yw ailosod cyfraith Ewrop ar y wlad hon. Yn gyntaf, erthygl 1, cymal 1, mae'n ailosod cyfraith Ewrop ar y Deyrnas Unedig gyfan, ond mae'n gwneud hynny heb unrhyw gyfle inni wedyn ddylanwadu ar y ffordd y caiff y gyfraith honno ei ffurfio. A dyna y dywedir wrthym ni ei fod yn gytundeb da. Y cytundeb da, wrth gwrs, yw'r hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd, lle'r ydym ni'n arwain datblygiad cyfraith Ewrop, lle'r ydym ni'n llunio datblygiad cyfraith Ewrop, lle'r ydym ni'n arwain y meddylfryd ar draws y cyfandir cyfan, lle mae gan y Deyrnas Unedig swyddogaeth uchel ei pharch a lle pwysig yn creu polisïau Ewropeaidd. O un sy'n gwneud penderfyniadau i un sy'n cymryd penderfyniadau—Prydain ddrylliedig, yn destun sbort ledled cynghorau'r byd. Dyna y mae'r Bil hwn yn ei gyflawni. Ond mae hefyd yn dirymu ein Bil democratiaeth, yn dirymu ein sefydliadau democrataidd.
Nid un o rannau mwyaf pryderus y ddadl yr ydym ni'n ei chlywed, yr ydym yn ei gweld yn digwydd ar hyn o bryd, yw'r ddadl sy'n dweud, 'a ydych chi'n gywir neu a yw rhywun arall yn gywir?', nid dadl a thrafodaeth am y ffeithiau, ond y sarhad y mae llawer ohonom ni'n ei gael, ac yr wyf i'n ei chael ar y cyfryngau cymdeithasol ar hyn o bryd—nad oes gennyf hawl bellach i farn, nad oes gennyf gyfle mwyach i ddadlau dros yr achos y cefais fy ethol i ddadlau drosto, nad oes gennyf y cyfle mwyach i sefyll yma neu rywle arall a dadlau dros hynny yr wyf yn ei gredu. Nid democratiaeth yw hynny—nid democratiaeth yw hynny. Ac nid yw hunan-lywodraeth yn golygu dweud, 'Dyma Fil—mae gennych chi dri diwrnod, a dyna fe'. Nid democratiaeth yw hynny ychwaith. Nid dyna'r ddemocratiaeth y mae llawer ohonom ni'n ei deall. Mae ewyllys y bobl wedi troi'n sofran, ond pwy sy'n cymrodeddu'r ewyllys honno? Dywedir wrthym ni nad y bobl sy'n cael eu hethol gan y bobl hynny ydyn nhw, wrth gwrs; y rheolwyr cronfeydd rhagfantoli, y cyfoethog a'r pwerus, perchenogion papurau newydd, y bancwyr alltraeth. Mae un peth yn gyffredin i bob un ohonyn nhw, maen nhw'n ceisio osgoi talu treth y DU, ac yna maen nhw'n dweud wrthym ni mai nhw sy'n gwybod beth yw ewyllys y bobl, nid y bobl sy'n cael eu hethol gan boblogaeth y wlad hon, ac nid y rhai sy'n gwasanaethu pobl yn wlad hon—mae barnwyr yn 'elynion i'r bobl'; mae gennym ni 'y Senedd yn erbyn y bobl'. Nid democratiaeth yw hyn. Mae hyn yn dirymu democratiaeth Brydeinig.
Ac i ddweud wrth Senedd y DU bod gennych chi dri diwrnod i ddarllen drwy Fil o 122 o dudalennau—ac mae David Melding yn gwneud ei orau i ddadlau'r achos dros yr hen Lywodraeth bwdr hon, ond mae'n rhaid imi ddweud wrtho, bod y bwndel o bapurau sydd ar gael, y byddai'n rhaid ichi eu deall i graffu ar y Bil hwn, yn fwy na 1,000 o dudalennau, ac nid yw hynny'n cynnwys, wrth gwrs, y dadansoddiad o'r effaith economaidd, sydd heb ei wneud, ac nid yw ychwaith yn cynnwys Deddf y llynedd, y Ddeddf ymadael, y mae'r Bil hwn yn ceisio ei diwygio. Nawr, nid oedd cyn arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig hyd yn oed yn sylweddoli bod y Ddeddf honno'n bodoli, felly, o ran dadlau'r achos bod angen mwy o amser arnom ni ar gyfer craffu, nid wyf yn argyhoeddedig bod y Ceidwadwyr ar dir cadarn iawn.
Ond mae hyd yn oed y cyfle i ddarllen drwyddo ar unwaith yn dweud wrthym ni fod peryglon gwirioneddol gyda'r Bil hwn. Mae cymal 30 yn glir iawn—dim ond Gweinidog y Goron all wneud cais am estyniad i gyfnod pontio. A yw'r Llywodraeth wedi dysgu dim o'r ychydig fisoedd diwethaf? Mae'n creu'r cyfle i gyflwyno Brexit caled drwy'r drws cefn. Mae'n atal pobl rhag dadlau dros fath gwahanol o Brexit. Mae'n atal pobl rhag dadlau dros estyniad pellach, os oes angen hynny. Yr hyn y mae'n ei wneud yw cyflwyno rhywbeth drwy'r drws cefn—mae'n nodweddiadol o Boris Johnson. Ac mae'n gwneud hynny heb roi cyfle i ni ddweud ein dweud yn iawn dros gysylltiadau yn y dyfodol. Ychydig iawn o drosolwg o drafodaethau dyfodol gan Senedd y DU a dim o gwbl gan y Senedd hon y mae cymal 31 yn ei roi. Ar ôl datganiad cychwynnol o amcanion caiff Gweinidog y Goron wneud datganiad ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Caiff, ar unrhyw adeg—nid oes unrhyw gyfle yn y Bil hwn i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Dim o gwbl. Bydd y lle hwn, y Senedd hon, ond yn derbyn adroddiad ar ôl y digwyddiad. Mae'r rhai hynny ohonom ni sy'n eistedd ar y pwyllgor materion allanol yn gwybod—ac rydym ni wedi gweld hyn yn ein dadleuon a'n trafodaethau ar gytuniadau rhyngwladol—os ydych am ddylanwadu ar ba ffurf y bydd gan y negodi, rydych yn gwneud hynny ar ddechrau'r negodi hwnnw ac nid ar ei ddiwedd, eto, nid yw'r Senedd hon wedi cael unrhyw gyfle i ddylanwadu ar ffurf y negodiadau hynny—dim swyddogaeth i Gymru, dim swyddogaeth i'r Senedd hon, dim swyddogaeth i Lywodraeth Cymru, ac yna cawn bregeth ar ddemocratiaeth. Rydym ni eisoes wedi clywed am y sefyllfa yng Ngogledd Iwerddon, a dywedaf o ddifrif i'r ASau Llafur hynny sydd heno yn ymddiried yn Boris Johnson ar hawliau gweithwyr, efallai fod angen iddyn nhw fynd i Strangers' a chael sgwrs â'r DUP a gweld pa mor bell yr oedd addewidion Boris Johnson mewn gwirionedd yn cyrraedd, a gweld faint y gellir ymddiried yn Boris Johnson, oherwydd, pan safodd y prynhawn yma yn Nhŷ'r Cyffredin a dweud 'ie' dro ar ôl tro wrth i ASau Llafur ofyn am sicrwydd, gallech chi weld y DUP yn eistedd yno yn dweud, 'Ie, clywsom ni yr un addewidion ein hunain'.
Yn olaf, mae cymal 22 yn galluogi Gweinidogion i wneud unrhyw reoliadau y maen nhw'n eu dewis—unrhyw rai y maen nhw'n eu dewis—ar fater Gogledd Iwerddon, eto drwy reoliadau, eto y tu hwnt i graffu gan y Senedd. Mae hynny'n codi cwestiwn am le Cymru. Mae cymal 36 yn gymal ecsentrig i'w ganfod mewn unrhyw ddarn o ddeddfwriaeth, ac wedi'i ddrafftio, mae'n debyg, gan Bill Cash er mwyn rhoi pleser amheus iddo. Ond gadewch i mi ddweud hyn—gadewch i mi ddweud hyn—rydym ni wedi newid y modd y caiff yr ynysoedd hyn eu llywodraethu'n sylweddol, ac rydym ni wedi gwneud hynny gyda chydsyniad y bobl. Rydym ni wedi gwneud hynny ar bob adeg yn unol â chyfansoddiad sy'n datblygu. Mae gan gymal 36 y pŵer i roi terfyn ar y Deyrnas Unedig oherwydd, pan fydd Senedd y DU yn ceisio chwalu democratiaethau newydd Prydain yn llwyr, bydd pobl Prydain yn dweud, 'Nid dyna'r ydym ni eisiau', ac yna ein lle ni, cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru, yw penderfynu beth yr ydym ni eisiau ei wneud ynglŷn â hynny. Yr wythnos diwethaf—
A allwn ni ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—rydym ni wedi bod yn dadlau ac yn trafod—. Fe wnaf ddod â'm sylwadau i ben. Amlinellodd y Prif Weinidog farn cyffrous a radical ar ddyfodol Prydain. Fy ngwir ofn yw y cawn Fil sy'n cychwyn fel Bil dirymu democratiaeth a fydd yn dod i ben gyda diddymu Deddf y Deyrnas Unedig.
A gaf i alw ar y Prif Weinidog nawr i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Ni wnaf geisio ymateb yn unigol i'r holl bwyntiau niferus sydd wedi cael eu gwneud, ond ceisiaf fynd i'r afael â nifer o'r themâu allweddol y credaf i ni eu clywed yn y ddadl. Felly, thema sydd wedi dod o gyfraniad cychwynnol Paul Davies drwy gydol y prynhawn yw amseru. Beth sydd mor hynod am 31 Hydref? Pam mae rhaid i'r Bil hwn gael ei gwblhau mor hynod o gyflym? Wel, rwyf i wedi clywed pobl yn dweud, 'Wel, mae darnau eraill o ddeddfwriaeth wedi cael eu gwneud yn gyflym hefyd.' Mae'n wir. Cafodd Deddf Cŵn Peryglus 1991 ei rhuthro drwy'r Senedd mewn dim ond ychydig ddyddiau, ac ystyriwch chi pa mor llwyddiannus mae honno wedi bod. Ond siawns—siawns—bod yna fater o helaethdra yma. Un peth yw mynd â Bil bach drwy'r ddeddfwrfa hon neu'r llall ar hast, rhywbeth arall yn llwyr yw gosod perthynas ddigyfnewid yn ei lle a fydd yn para am genedlaethau yn erbyn terfyn amser hollol artiffisial y mae Prif Weinidog y DU wedi'i ddyfeisio iddo'i hun.
Y prynhawn yma, yn Nhŷ'r Cyffredin, dywedodd Rory Stewart y bydd y Bil hwn yn cael ei halogi gan staen anghyfreithlondeb, gan na fydd wedi cael yr ystyriaeth, y cyfle priodol i bobl gael dweud yr hyn y maen nhw eisiau ei ddweud, i'w ddarllen yn y manylder y mae'n ei haeddu, oherwydd yr amserlen hon. Mae chwipiaid Llafur yn Nhŷ'r Cyffredin wedi ysgrifennu y prynhawn yma, mewn cam anarferol, lythyr cyhoeddus at reolwyr busnes y Llywodraeth sy'n cynnig trafod amserlen—amserlen a fyddai'n caniatáu i'r Bil fynd yn ei flaen, ond a fyddai'n caniatáu iddo ddigwydd mewn modd trefnus, lle y gellir parchu hawliau'r lle hwn a Senedd yr Alban, yn ogystal â hawliau Senedd y DU. Ac o bob dadl yr wyf wedi'i chlywed y prynhawn yma ar ochr honno'r ddadl, mae'n ymddangos i mi mai hon yw'r ddadl sy'n argyhoeddi.
Rydym ni wedi clywed cryn dipyn y prynhawn yma, Dirprwy Lywydd, ynglŷn â mandad di-ddiwedd 2016—mandad mymiedig, y mandad na ellir byth ei ddad-wneud. Ac eto, fel y dywedwyd gan gyfres o bobl o amgylch y Siambr—a gwnaeth Rhun ap Iorwerth, yn fy marn i, ei gyfleu yn dda iawn—mae cymaint wedi digwydd ers hynny, cymaint o bobl y mae eu dyfodol yn y fantol yn awr eisiau cael y cyfle i ddweud eu dweud ar y cytundeb hwn. Yn ôl yn 2016, ni wyddai neb â pha gytundeb y byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, mae pobl yn haeddu cyfle i ddweud ai dyma'r hyn yr oedden nhw'n meddwl y bydden nhw'n pleidleisio drosto. Ac os felly, ac os dyna y mae pobl yn ei benderfynu, yna rydw i'n cytuno â phobl eraill: os dyna mae pobl yn ei benderfynu, dyna fydd hi. Dyna fydd diwedd y ddadl hon, oherwydd y tro hwn, mae pobl yn gwybod yr hyn y maen nhw'n ei brynu. Y tro diwethaf, nid oedden nhw'n gwybod unrhyw beth. Gwelwyd bws wedi'i blastro gan gelwyddau a oedd yn ddull arferol yr ymgyrch 'gadael'. Y tro hwn, ni fyddan nhw'n gallu gwneud hynny, oherwydd bod yna gytundeb. Mae yna gytundeb y bydd pobl yn gallu ei weld, os cawn nhw ddigon o amser i allu ei ddarllen. A dyna pam nad yw'r ddadl hon ynglŷn â 'fe wnaethom ni bleidleisio unwaith a dyna ddiwedd ar ddemocratiaeth' yn syml, yn dal dŵr.
Ac un o'r rhesymau pam nad yw'n dal dŵr yw oherwydd y thema—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i.
Diolch, Prif Weinidog. Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd ymyriad. A ydych chi'n credu mai'r rheswm pam mae cynifer o gefnogwyr Brexit yn y Siambr hon yn gwrthwynebu'r syniad o gael ail refferendwm a galluogi pobl i ddweud eu dweud yw y byddai'r canlyniad yn un gwahanol y tro hwn, a dyna y maen nhw'n ei ofni?
Wel, byddwn i'n ei roi yn wahanol, gan gytuno â'r pwynt y mae Carwyn Jones wedi'i wneud. Byddwn i'n ei roi fel hyn: beth maen nhw'n ei ofni? Beth maen nhw'n ei ofni? Dro ar ôl tro maen nhw'n ymddangos o amgylch y Siambr hon yn dweud wrthym ni mai dyma'r cytundeb gorau a welwn ni byth. Ac os felly, beth sydd i'w hofni—
A allwn ni wrando ar y Prif Weinidog, os gwelwch yn dda?
—wrth ofyn i'r etholwyr a ydyn nhw'n cytuno â nhw? Byddaf i'n cymryd y risg o fynd allan yno a dadlau dros yr hyn yr wyf i'n ei gredu ynddo; dydyn nhw ddim yn barod i fentro gwneud hynny eu hunain. Ac un o'r rhesymau—[Torri ar draws.] Na, rwy'n ceisio gwneud ychydig o gynnydd.
Un o'r rhesymau pam nad yw hyn yn gweithio yw oherwydd thema fawr arall yn y ddadl hon, sef ymddiriedaeth. Nododd Adam Price yn gynharach ei fod yn hanfodol i'r ffordd y cynhaliwyd y ddadl Brexit. Daeth David Rees yn ôl ato yn ddiweddarach yn y ddadl. Ni allech ymddiried yn y Prif Weinidog hwn. Ni allech ymddiried ynddo. Edrychwch ar ei record.
Gofynnodd Mandy Jones, mewn cyfraniad a oedd yn herio parodi, i Gynulliad Cymru, 'Beth am ymddiried yn y Torïaid? Pam na ddylid ymddiried yn y Torïaid yma yng Nghymru? Ar ôl ein holl flynyddoedd o brofiad. Wel, nid ydym ni'n ymddiried yn y Torïaid, ac nid ydym ni'n mynd i ymddiried ynddyn nhw am bob rheswm da na ellir ymddiried ynddynt. Rydym ni'n ymwybodol o hynny o'n hanes ac rydym ni'n ymwybodol o hynny eto heddiw.
Gadewch imi fynd ymlaen, Dirprwy Lywydd, i ymdrin â nifer o faterion yn ymwneud â sylwedd, sef sylwedd y cytundeb ei hun. Fel y dywedodd Adam Price, mae'n gytundeb Brexit caled. Ni fydd ei sylwedd yn gweithio i Gymru. Roeddem ni'n barod—ein plaid ni, Plaid Cymru—i roi ffurf o adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi gadael trefniadau gwleidyddol yr Undeb Ewropeaidd gan ddiogelu economi Cymru, ac fe wnaethom geisio—bobl bach, fe wnaethom ni geisio—perswadio Llywodraeth y DU i gymryd y syniad hwnnw o ddifrif. Caiff Mrs May—
Diolch am dderbyn yr ymyriad. I ddangos ein bod yn ceisio cael cytundeb da i Gymru, a fyddech chi'n cytuno pan ddywedodd Dominic Raab ychydig ddyddiau'n ôl fod hon yn gytundeb gwych i Ogledd Iwerddon gan ei fod yn cadw mynediad di-dor at y farchnad sengl, sy'n bradychu'r hyn sy'n digwydd yma rhywfaint?
Wel, rwy'n credu bod hwnnw'n sylw craff iawn. Mae'n fy atgoffa i y byddai cytundeb Papur Gwyn Chequers Mrs May wedi cael aliniad rheoliadol deinamig ar gyfer nwyddau a chynhyrchion bwyd-amaeth, felly byddem ni wedi cael mynediad i'r farchnad sengl, ac roedd ganddo drefniant tollau ynddo. Nid ni a gerddodd i ffwrdd o gytundeb Mrs May; yr Ysgrifennydd Tramor ar y pryd a gerddodd i ffwrdd o'r cytundeb hwnnw. Dominic Raab a wnaeth wrthod cefnogi'r cytundeb hwnnw. Nid pobl ar ochr hon i'r Siambr a drechodd Mrs May. Pobl y tu ôl iddi hi ac ar ei hochr hi ei hun yr oeddynt. O ganlyniad, mae gennym ni'r Brexit caled hwn. Ni fyddwn ni'n ei gefnogi am yr holl resymau yr ydych chi wedi'u clywed: yr effaith ar Gaergybi, yr effaith ar y broses heddwch, yr effaith ar hawliau gweithwyr, y ffaith bod trap-ddôr Brexit wedi'i folltio i'r cytundeb y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud.
Dywedodd Darren Millar, gan gamddeall hyn, yn debyg i bwyntiau eraill, fod trap-ddôr Brexit yno gan fod yr Undeb Ewropeaidd wedi mynnu hynny. Nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae Prif Weinidog y DU yn gwbl abl i roi cymal yn ei Fil sy'n dweud, 'Ar ddiwedd y cyfnod pontio, y Senedd fydd yn penderfynu a yw'n'—nid y Llywodraeth yn rhydd o unrhyw oruchwyliaeth Seneddol. Wedi'r cyfan, bydd gan Seneddau Ewrop i gyd bleidlais ar hyn, ond mae'n debyg nad yw'n ddigon da i bobl y Blaid Geidwadol sy'n mynnu 'adennill rheolaeth'.
Ac yn y fantol yma hefyd y mae dyfodol y Deyrnas Unedig, fel yr ydym ni wedi'i glywed. Os yw'r Cynulliad hwn yn penderfynu peidio â rhoi ei gydsyniad, gobeithiaf y bydd Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn dweud wrth eu Llywodraeth pa mor ddifrifol y bydd os ydyn nhw'n penderfynu ddefnyddio confensiwn Sewel i ddiystyru barn y Cynulliad Cenedlaethol hwn. Rwy'n credu weithiau nad oes gan Aelodau'r Llywodraeth Geidwadol unrhyw diddordeb o gwbl yn nyfodol y Deyrnas Unedig, eu bod yn barod i weithredu mewn ffyrdd sy'n gwbl ddiofal o'i huniondeb. Ac mae rhywbeth sylfaenol bwysig yn y fantol yma, a dylen nhw ddefnyddio'r dylanwad sydd ganddyn nhw, y cysylltiadau sydd ganddyn nhw, i wneud yn siŵr eu bod nhw'n deall hynny.
I gloi, Dirprwy Lywydd, gadewch imi orffen gyda phwynt a wnaeth Delyth Jewell tua diwedd y ddadl, oherwydd mae hyn hyn i gyd yn ymwneud â chydsynio. Mae hyn yn ymwneud â chydsynio. Ac mae'r ddogfen a drafodwyd gennym ni yma yr wythnos diwethaf—yr 20 pwynt—yn ei gwneud yn glir bod hon, yn ein barn ni, yn Deyrnas Unedig sydd ond yn gallu gweithredu ar sail cydsyniad, undeb gwirfoddol o bedair gwlad lle'r ydym ni'n dewis gweithredu gyda'n gilydd, a chydsynio yw ystyr y broses honno. Dyna pam mae gennym ni broses cydsynio deddfwriaethol, ac mae angen rhoi'r amser sydd ei angen ar y broses cydsynio deddfwriaethol honno, mae angen iddi gael ei thrin â'r parch y mae'n ei haeddu, a dadl heddiw yw dechrau, nid diwedd, y broses honno.
Diolch. Y cynnig yw derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan yr amser pleidleisio.