– Senedd Cymru ar 4 Rhagfyr 2019.
Eitem 8 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Cymru ar Brexit a masnach yn y dyfodol, a galwaf ar Delyth Jewell i gyflwyno'r cynnig. Delyth.
Cynnig NDM7214 Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
a) bod y DU ar fin gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020;
b) bod trafodaethau masnach anffurfiol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau ynghylch bargen fasnach yn y dyfodol wedi dechrau, ac mae hynny, yn ôl y sôn, yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau/prisio cyffuriau'r GIG;
c) bod cytuniadau rhyngwladol y tu allan i gwmpas pwerau Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
d) bod adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn caniatáu i'r Ysgrifennydd Gwladol gyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd unrhyw gamau sy'n ofynnol at ddibenion gweithredu unrhyw rwymedigaeth ryngwladol.
2. Yn credu:
a) mai'r ffordd orau o wasanaethu dyfodol Cymru fyddai drwy barhau i fod yn aelod o'r UE ac y dylid cynnal refferendwm rhwng aros ac opsiwn credadwy ar gyfer gadael;
b) na ddylai GIG Cymru gael ei orfodi gan Lywodraeth y DU i agor ei farchnad ar gyfer mwy o ddarpariaeth breifat, neu orfod derbyn cynydd mewn costau cyffuriau a osodir arno o ganlyniad i unrhyw gytundeb rhyngwladol sy'n ymestyn patentau ac yn cyfyngu ar y defnydd o gyffuriau generig;
c) byddai cytundeb masnach yn y dyfodol rhwng y DU a'r Unol Daleithiau a fyddai'n cynnwys darpariaethau'n ymwneud â'r GIG yn drychineb i GIG Cymru;
d) bod y system gofal iechyd yn yr Unol Daleithiau wedi methu â rheoleiddio'n briodol y modd y caiff opioidau eu marchnata a'u rhagnodi, ac mae'n nodi bod yr amgylchedd rheoleiddiol annigonol hwn wedi cyfrannu at dros 70,000 o farwolaethau yn yr Unol Daleithiau oherwydd gorddos o opioid yn 2018, a dim ond un enghraifft yw hyn o beryglon dadreoleiddio a allai ddilyn cytundeb masnach a ysgrifennwyd er budd cwmnïau fferyllol yr Unol Daleithiau
e) na ddylai Llywodraeth y DU allu cyfarwyddo Gweinidogion Cymru i gymryd camau mewn meysydd sydd wedi'u datganoli sydd â'r potensial i gael effaith andwyol ar wasanaethau cyhoeddus Cymru.
3. Yn galw am:
a) i seneddau datganoledig y DU gael feto ar faterion masnach sydd â'r potensial i effeithio ar feysydd datganoledig;
b) i Aelodau Seneddol o Gymru gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd;
c) diddymu adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ein GIG mewn perygl enbyd. Wythnos sydd i fynd cyn yr etholiad erbyn hyn. Yr etholiad sydd i fod i gael Brexit wedi'i wneud, yn ôl Boris Johnson. Yn y cyfamser, mae Donald Trump yn ymweld â'r DU i roi sicrwydd i ni nad oes ganddo unrhyw gynlluniau i gael mynediad i'r farchnad am ein GIG. Mae'r ddau safbwynt yn gelwydd. Ni fydd cynlluniau Brexit y Ceidwadwyr yn sicrhau bod Brexit yn cael ei wneud. Dim ond diwedd y dechrau fydd pasio'r cytundeb ymadael, ac mae'r negodiadau ar y berthynas yn y dyfodol eto i ddechrau. Ac mae sicrwydd Donald Trump mor ddibynadwy ag ymrwymiad maniffesto Torïaidd i Gymru, yn anffodus.
Dywedodd Trump ddoe na fyddai'n dymuno i'r GIG fod yn rhan o unrhyw gytundeb, ac nad oedd ganddo syniad chwaith pwy ddechreuodd y si faleisus hon yn y lle cyntaf. Wel, gallaf ei helpu gyda hynny oherwydd mai Donald Trump ei hun wrth gwrs a wnaeth yn union hynny. Yn ystod ymweliad â'r DU ar 4 Mehefin, gofynnwyd iddo a ddylai'r GIG fod ar y bwrdd, a'i ateb oedd:
Pan fyddwch chi'n ymwneud â masnach mae popeth ar y bwrdd, felly'r GIG neu unrhyw beth arall neu lawer mwy na hynny ond bydd popeth ar y bwrdd, yn bendant.
Felly, mae hynny'n glir. Ddeuddydd yn gynharach, roedd y llysgennad Americanaidd, Woody Johnson, wedi dweud yr un peth wrth Andrew Marr. Mae tystiolaeth glir hefyd fod cael mynediad rhannol i'r GIG yn rhan fawr o amcanion masnach yr Unol Daleithiau, sydd i'w canfod mewn dogfen swyddogol gan adran fasnach yr UDA o dan y pennawd 'United States-United Kingdom Negotiations'. Cafwyd rhagor o dystiolaeth yn y dogfennau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur, sy'n dangos bod trafodaethau archwiliadol eisoes yn mynd rhagddynt a bod patentau a phrisiau cyffuriau, yswiriant iechyd a dyfeisiau meddygol wedi'u trafod. A ddoe ddiwethaf, cyfaddefodd Dominic Raab ar Sky News y gallai cwmnïau o'r UDA godi prisiau cyffuriau ar gyfer y GIG yn wir drwy ddarpariaethau sy'n debygol o gael eu gweithredu mewn cytundeb masnach yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol rhoi rhywfaint o fanylion ynglŷn â beth yn union y mae'r UDA ei eisiau yma, a sut y gallai effeithio ar gleifion yma. Nid ydym yn sôn am breifateiddio'r gwasanaeth iechyd cyfan. Ni fyddai gan gwmnïau preifat unrhyw ddiddordeb mewn rhedeg adrannau damweiniau ac achosion brys, er enghraifft, oherwydd, a siarad yn blwmp ac yn blaen, nid oes elw hawdd i'w wneud yno. Yr hyn y maent ei eisiau yw dewis a dethol y rhannau mwyaf proffidiol o'r farchnad, er mwyn dargyfeirio arian o wasanaethau rheng flaen y GIG i bocedi cwmnïau fferyllol mawr yr UDA. Y ffordd symlaf o wneud hyn yw drwy newid rheolau'n ymwneud â phatentau a phrisio cyffuriau, a dyna'n union pam mai'r ddau ffactor hwn sy'n ffurfio'r brif ran o ofynion negodi'r UDA. Nawr, pe bai'r UDA yn llwyddo i gael mynediad llawn i'r farchnad i gyffuriau'r Unol Daleithiau, byddent yn cyfyngu'n fawr ar allu'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i benderfynu pa feddyginiaethau y gall cleifion eu cael. Yn yr Unol Daleithiau, mae prisiau cyffuriau wedi'u chwyddo i lefelau sy'n anweddus a dweud y gwir, oherwydd bod y drefn drwyddedu'n hirfaith ac o dan reolaeth lobïwyr pwerus, sy'n golygu mai ychydig gwmnïau'n unig sy'n meddu ar yr arbenigedd i lywio drwy'r broses.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Pan ddywed fod cwmnïau cyffuriau yr Unol Daleithiau am gael mynediad llawn i'r farchnad i'r GIG mewn perthynas â chyffuriau, beth a olyga wrth 'fynediad llawn i'r farchnad', ac i ba raddau nad oes ganddynt fynediad o'r fath ar hyn o bryd?
Byddai cwmnïau fferyllol mawr yr UDA eisiau dadreoleiddio'r farchnad gyfan, fel y gallai cyffuriau yr Unol Daleithiau gystadlu. Ac mae pawb ohonom wedi darllen y straeon, Mark, ynglŷn â sut y mae fferyllfeydd yn y DU ar hyn o bryd—er enghraifft, ar gyfer unrhyw fath o barasetamol, mae'r pris yn llawer is na'r hyn y byddai ar gyfer cyffur cyfatebol yn yr Unol Daleithiau. Felly, os oes gennych dystiolaeth i'r gwrthwyneb, yn eich cyfraniad y byddwch yn siŵr o'i wneud yn ddiweddarach, buaswn yn falch iawn o'i chlywed.
Ond fel roeddwn yn dweud, mae prisiau cyffuriau'r UDA yn warthus ac ychydig iawn o gwmnïau sydd â'r arbenigedd i lywio drwy'r broses gymhleth sy'n rheoli hynny. Mae hyn felly'n caniatáu i fwlturiaid diegwyddor gaffael cyffuriau di-batent rhad i wthio prisiau i fyny. Felly, pan fydd Trump yn dweud bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel, yr hyn y mae'n ei olygu mewn gwirionedd yw nad ydynt yn cael eu chwyddo'n artiffisial er mwyn cynyddu elw'r diwydiant fferyllol. Felly, dyma'r realiti hunllefus a allai ein hwynebu yn y DU. Pe bai'r UDA yn llwyddo i newid rheolau patentau a phrisiau, byddai'r DU naill ai'n gorfod cynyddu maint cyllideb y GIG yn ddramatig i dalu'r costau ychwanegol enfawr hyn, neu symud arian y GIG o wasanaethau i wariant ar gyffuriau.
Nawr, yr ail fygythiad mwyaf yw'r effaith y byddai dadreoleiddio presgripsiynau cyffuriau yn ei chael ar iechyd cleifion. I weld sut y gall hyn effeithio ar iechyd y cyhoedd, nid oes angen edrych ymhellach na'r argyfwng opioid yn yr Unol Daleithiau, argyfwng sydd wedi arwain at bron 0.5 miliwn o farwolaethau dros yr 20 mlynedd diwethaf. Llwyddodd y diwydiant fferyllol i newid y polisi presgripsiynu yn yr UDA fel bod opioidau yn cael eu presgripsiynu am amrywiaeth eang o resymau y tu hwnt i'r defnydd a fwriadwyd ar eu cyfer, gan arwain at gamddefnydd a dibyniaeth eang. Felly, mae'r bygythiad yn un gwirioneddol.
Mae ein GIG yn wynebu perygl clir a real. Y cwestiwn yw beth y gallwn ei wneud yn ei gylch? Y ffordd hawsaf o gael gwared ar y bygythiad yn llwyr fyddai peidio â gadael yr UE. Pe baem yn penderfynu aros yn dilyn refferendwm, byddai'r bygythiad i'n GIG yn diflannu, a byddai gennym fwy o arian i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus hefyd oherwydd byddem wedi osgoi ysgariad drud a dirwasgiad tebygol. Ond os etholir Llywodraeth Dorïaidd wythnos i yfory, mae'n anodd gweld sut y gellid osgoi Brexit caled wedi'i ddilyn gan gytundeb masnach peryglus gyda'r Unol Daleithiau, oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth yn ei gylch. Nid yw hynny'n rhywbeth y gallwn ei anwybyddu am nad yw'n wleidyddol gyfleus inni gyfaddef ei fod yn bosibl yn ystod cyfnod etholiad.
Mae Plaid Cymru yn cynnig tri mesur heddiw i amddiffyn GIG Cymru. Yn gyntaf oll, rydym am i'r deddfwrfeydd datganoledig gael feto ar gytundebau masnach y DU sydd â photensial i effeithio ar feysydd datganoledig. Ni fyddai'r DU yn cynnwys mesurau a fyddai'n annerbyniol i Gymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon pan fydd Stormont yn cael ei ailgynnull, oherwydd byddent yn dymuno osgoi gweld y feto'n cael ei defnyddio. Nid yw ein cynnig yn ddi-gynsail, gan fod ardal Walonia yng Ngwlad Belg yn meddu ar y feto hon ac yn ei defnyddio mewn ffordd gyfrifol. Un waith yn unig y maent wedi'i defnyddio, mewn perthynas â chytundeb masnach CETA rhwng yr UE a Chanada, cyn caniatáu i'r cytundeb fynd rhagddo ar ôl iddynt sicrhau'r consesiwn y gofynnent amdano. Drwy bleidleisio yn erbyn ein cynnig, bydd Llafur yn pleidleisio yn erbyn rhoi feto ar breifateiddio'r GIG. Efallai y byddant am ystyried hyn cyn gwneud hynny.
Rydym hefyd yn galw ar Aelodau Seneddol o Gymru i gefnogi Bil diogelu'r GIG sydd i'w gyflwyno yn San Steffan yn y tymor newydd gan yr SNP gyda chefnogaeth Plaid Cymru. Byddai hyn yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i'r GIG yn erbyn effaith cytundeb masnach yn y dyfodol.
Ac yn olaf, rydym am ddiddymu neu addasu adran 82 o Ddeddf Cymru er mwyn dileu'r pwerau sydd gan San Steffan ar hyn o bryd i orfodi Gweinidogion Cymreig i weithredu cyfarwyddebau i roi cytundebau rhyngwladol ar waith. Ein hofn yw y gallai Llywodraeth y DU ddefnyddio'r adran led anghyfarwydd hon i orfodi mesurau preifateiddio niweidiol ar y GIG yng Nghymru. Eto, ni allaf ddeall pam nad yw Llafur yn cytuno â hyn. Does bosibl na fyddai'n well ganddynt beidio â gadael i Alun Cairns ddweud wrthynt beth i'w wneud mewn meysydd datganoledig? Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi ein cynigion i ddiogelu GIG Cymru rhag bygythiad dwbl Boris Johnson a Donald Trump.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar?
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016.
2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.
3. Yn croesawu'r cyfleoedd i Gymru a fydd yn codi o ganlyniad i gytundebau masnach rydd newydd ar ôl ymadawiad y Deyrnas Unedig o'r UE.
4. Yn cydnabod, o dan y setliad datganoledig, mai mater i Lywodraeth y DU yw'r cyfrifoldeb dros gytuniadau rhyngwladol.
5. Yn cydnabod y sicrwydd a roddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â mynediad i'r farchnad i'r GIG mewn cytundebau masnach yn y dyfodol.
Unwaith eto, mae'r cenedlaetholwyr yn gwadu Brexit. Ar 23 Mehefin 2016 pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru i adael. Pleidleisiodd Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam i adael. Pleidleisiodd Sir Gaerfyrddin i adael. Pleidleisiodd y Rhondda i adael, fel y gwnaeth gweddill Cymoedd de Cymru. Ailadroddwyd y patrwm hwnnw ganddynt yn yr etholiadau Ewropeaidd eleni, a chafodd ei ailadrodd yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed hyd yn oed, pan bleidleisiodd dros 50 y cant dros ymgeiswyr a oedd yn gryf o blaid Brexit ym mis Awst.
Ac eto, mae Aelodau Cynulliad Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Llafur, sydd i fod yma ar fandad democrataidd, yn dal i wrthsefyll ewyllys ddemocrataidd pobl Cymru. Pe bai refferendwm wedi bod ar annibyniaeth Cymru, gyda 52.5 y cant o blaid, mae'n annirnadwy y byddai'r cenedlaetholwyr yn awgrymu nad oedd pobl yn gwybod dros beth roeddent yn pleidleisio, neu'n galw am ei gynnal eto. Yn hytrach na chael Brexit wedi'i wneud a dechrau gwella'r rhaniadau, byddai refferendwm arall yn mynd â'r DU yn ôl i'r dechrau, yn erydu ymddiriedaeth yn y system wleidyddol ac yn gwneud ein democratiaeth yn destun sbort.
Mae gwneud cyhuddiadau am eich gwrthwynebwyr fel ffordd o ennill pleidleisiau hefyd yn erydu ymddiriedaeth, ac mae'r cynnig hwn yn parhau'r codi bwganod am ddyfodol y GIG. Mae maniffesto'r Ceidwadwyr yn gwbl glir: nid yw ein GIG ar werth. Mae'n dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Pan fyddwn yn negodi cytundebau masnach, ni fydd y GIG ar y bwrdd. Ni fydd y pris y mae'r GIG yn ei dalu am gyffuriau ar y bwrdd. Ni fydd y gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu ar y bwrdd.
Yr wythnos diwethaf—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ar bob cyfrif.
A yw'n dweud hefyd nad yw patentau a newid rheolau patentau ar y bwrdd?
Mae'n ddrwg gennyf, ni chlywais yr hyn a ddywedoch chi.
A yw hefyd yn dweud na fydd newidiadau i'r rheolau ar batentau ar y bwrdd? Oherwydd mae hwnnw'n ffactor pwysig wrth benderfynu ar y cyllid a phrisiau'r meddyginiaethau a ddaw o'r tu allan.
Mwy o godi bwganod yw hynny.
Yr wythnos diwethaf yn wir, ni allai Barry Gardiner o'r Blaid Lafur nodi unrhyw dystiolaeth y byddai'r GIG ar y bwrdd mewn trafodaethau masnachol. Mae Jeremy Corbyn wedi honni y byddai cost meddyginiaethau yn y DU o dan gytundeb masnach rydd gydag America £500 miliwn yr wythnos yn uwch. Dyna £27 biliwn y flwyddyn. Fodd bynnag, dim ond £18 biliwn yw cyfanswm bil cyffuriau blynyddol y DU.
Yr wythnos diwethaf, cyhuddodd Jeremy Corbyn Geidwadwyr o gynllwyn yn erbyn y GIG a dywedodd:
Dychmygwch agor bil pum ffigur ar gyfer eich triniaeth ganser. Dychmygwch dalu i roi genedigaeth. Talu i gael archwiliad gan feddyg teulu.
Mae'r tactegau enbyd hyn i greu ofnau yn diraddio gwleidyddiaeth, ac rwy'n gobeithio y bydd pob ochr i'r Siambr yn condemnio'r rhai sy'n aflonyddu ar bobl sâl a bregus gyda'r honiadau ffug hyn. Mae'n dangos pa mor anobeithiol yw'r Blaid Lafur—a Phlaid Cymru—nad oes ganddynt ddim byd cadarnhaol i'w ddweud am ddyfodol Prydain.
Mae saith y cant o wasanaethau GIG y DU mewn dwylo preifat ar hyn o bryd. Nid o dan y Ceidwadwyr y gwelwyd y cynnydd mwyaf mewn gweithgarwch preifat yn y GIG, ond o dan Lywodraethau Llafur Blair a Brown. Dyma'r diweddaraf mewn rhes hir o honiadau propaganda mewn etholiadau cyffredinol—yn 1979, 1983, 1987, 1992, 2010, 2015 a 2017—pan honnodd y Blaid Lafur y byddai'r Ceidwadwyr yn preifateiddio neu'n dinistrio'r GIG pe bai'r blaid yn ennill yr etholiad. Wel, mae'r Ceidwadwyr wedi ennill saith o'r 10 etholiad cyffredinol diwethaf, ac wedi amddiffyn y GIG yn llawer gwell nag y mae Llywodraeth Cymru dan arweiniad Llafur wedi rheoli'r GIG yng Nghymru. Ni allwn ymddiried yn yr unig blaid wleidyddol yn y DU a dorrodd gyllideb y GIG erioed. Mae GIG Cymru yn dal i ymadfer yn sgil penderfyniad Llafur, gyda thargedau aros allweddol i gleifion heb gael eu cyrraedd unwaith yn y degawd diwethaf a chleifion yn gorfod talu'r pris. Nid yw ein GIG yn ddiogel yn nwylo Llafur.
Mae pwynt 3a yng nghynnig Plaid Cymru yn galw am i'r Seneddau datganoledig gael feto ar faterion masnach sy'n amlwg heb eu datganoli. Gwnaeth y DU benderfyniad cyfunol i adael yr UE, a bydd y DU yn negodi cytundebau masnach yn y dyfodol â gweddill y byd. Ac rydym yn credu bod gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae yn hynny, ond un o fanteision eraill ein Teyrnas Unedig yw y gallwn ymgysylltu â gwledydd eraill fel undeb o bedair gwlad, gan roi llawer mwy o ddylanwad inni yn fyd-eang fel màs critigol o bron i 70 miliwn o bobl.
Mae'n drist fod y Blaid Lafur a'r cenedlaetholwyr yn ymladd yr etholiad hwn ar sail codi bwganod. Mae Boris Johnson wedi bod yn glir iawn ynglŷn â'i flaenoriaethau: sicrhau bod Brexit wedi'i wneud erbyn 31 Ionawr i barchu canlyniad y refferendwm; recriwtio mwy o heddlu; buddsoddi yn ein GIG; a rhoi mwy o arian i ysgolion. Mae'n weledigaeth gadarnhaol i fanteisio ar gyfleoedd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, i ddatgloi buddsoddiad yn ein heconomi ac i ryddhau potensial Cymru. Dylai fod gennych gywilydd ohonoch eich hunain.
A gaf fi ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw am:
a) i’r sefydliadau datganoledig gael rôl ffurfiol mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol pan fyddant yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig, a hynny i ddigwydd ar bob cam o’r negodiadau a chyda chefnogaeth statudol.
b) confensiwn cyfansoddiadol i’r DU gyfan i sicrhau bod y trefniadau cyfansoddiadol yn y dyfodol yn adlewyrchu hyn ac i atal Llywodraeth y DU rhag diystyru’r Cynulliad Cenedlaethol lle bo’n gweithredu o fewn cymhwysedd datganoledig.
Yn edrych ymlaen at ethol Llywodraeth yn y DU sydd wedi ymrwymo’n llawn i ddiogelu’r GIG yng Nghymru ac ar draws y DU.
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Diolch. Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. O ran realiti'r bygythiad hwn, rydym wedi clywed llawer o bobl yn defnyddio'r ymadrodd 'codi bwganod' ac rwyf am ddweud ychydig bach mwy am fater a grybwyllwyd yng nghyfraniad Delyth Jewell ynglŷn â'r argyfwng opioid yn UDA. Nawr, rydym i gyd wedi clywed amdano. Mae'n codi mewn ffuglen boblogaidd. Mae cannoedd o filoedd o ddinasyddion yr UDA yn gaeth i sylweddau na ddylid bod wedi'u presgripsiynu ar eu cyfer yn y lle cyntaf.
Defnyddir opioidau'n briodol wrth gwrs ar gyfer cleifion sydd â salwch angheuol, sy'n dioddef poen difrifol iawn, ond maent wedi'u presgripsiynu ar draws yr UDA yn ddiwahân ar gyfer pob math o gyflyrau y maent yn gwbl anaddas ar eu cyfer. Priodolwyd dros 70,000 o farwolaethau y llynedd i'r caethiwed hwn; dros 400,000 yn yr 20 mlynedd diwethaf. Felly, sut oedd modd i hyn ddigwydd? Wel, gallodd ddigwydd yn sgil trefn gymhleth a oedd yn ymwneud â dadreoleiddio rhai mathau o gyffuriau, rheoleiddio eraill yn amhriodol, gorchwyddiant mewn perthynas â meddyginiaethau penodol, mwy priodol efallai, fel y mae Delyth Jewell eisoes wedi crybwyll.
Nawr, rwy'n credu bod pawb ohonom yn y Siambr hon—buaswn yn derbyn bod Mark Isherwood hefyd yn ôl pob tebyg—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Oni fyddech yn cytuno bod cannoedd o filoedd o bobl yn y wlad hon yn dioddef yn sgil gorbresgripsiynu cyffuriau—yn y wlad hon, ar hyn o bryd?
Mae'n sicr yn wir fod problemau wedi bod, ond nid oes unrhyw beth yn debyg i raddfa'r argyfwng a wynebwn ar hyn o bryd. Nawr, nid oes neb yn dweud bod ein system bresennol ar gyfer rheoleiddio meddyginiaethau yn berffaith. Mae rhai ohonom ar ein traed yn rheolaidd yn y Siambr hon yn gofyn i'r Gweinidog iechyd sicrhau bod meddyginiaethau ar gael nad ydynt wedi mynd drwy broses NICE, ond y realiti yw fod proses NICE yno i ddiogelu pobl, ac os cawn y cytundeb y mae Donald Trump ei eisiau—ac mae'n berffaith glir mai dyna mae ei eisiau—os cawn y cytundeb hwnnw, bydd yn rhaid i'n GIG fod yn agored i'r mathau o arferion a geir yn yr Unol Daleithiau, oherwydd os ydynt—[Torri ar draws.] Os hoffai Janet Finch-Saunders ymyrryd, buaswn yn falch iawn o glywed ganddi, fel bob amser. Fel arall, efallai y gallai ganiatáu i mi barhau.
Diolch ichi am dderbyn ymyriad. Yn ddiweddar, cysylltodd rhywun sy'n gweithio yn y proffesiwn meddygol yng ngogledd Cymru â mi, ac maent yn datgan yn awr fod y bwrdd iechyd dan ein Gweinidog iechyd eisoes, mewn perthynas â thriniaethau i osod pengliniau a chluniau newydd, yn ymdrin ag America o ran y ddarpariaeth o bengliniau a chluniau, ac mae'r patent ar eu cyfer yn America. Felly, pam nad ydym yn eu prynu'n fewnol yn awr yn ein gwlad? Pam ein bod eisoes yn ymdrin ag America—
Mae'n ddrwg iawn gennyf orfod torri ar draws—
—os yw mor ddrwg?
—Janet, ond mae fy amser yn brin. Wrth gwrs, rydym yn prynu a gwerthu meddyginiaethau ac offer o UDA, ond maent yn ddarostyngedig i system reoleiddio drylwyr sy'n dechrau yn yr Undeb Ewropeaidd ac yn gorffen ym meddygfeydd ein meddygon teulu. Ac rwy'n gwybod pwy rwy'n ymddiried ynddynt a phwy nad wyf yn ymddiried ynddynt. Mae unrhyw un sy'n credu y byddai unrhyw fath o gytundeb ystyrlon i'w wneud ag UDA oni bai fod y materion hyn ar y bwrdd yn byw â'i ben yn y cymylau. Nawr, gwyddom fod hyn yn rhan o'r stratosffer y mae llawer o Geidwadwyr yn byw ynddo, ond y gwirioneddau yw'r gwirioneddau. Oni bai bod gennym stwff i'w roi i UDA, pam y byddent yn taro bargen o gwbl?
Nawr, rwyf am fod yn glir, Ddirprwy Lywydd, wrth i mi ddod â fy sylwadau i ben: wrth gyflwyno'r cynnig hwn heddiw nid yw Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn anochel. Gobeithiwn yn fawr y bydd canlyniad yr etholiad yn un lle bydd digon o Aelodau Seneddol sydd am aros yn yr UE i allu gofyn i'r bobl eto, ond nid yw hynny'n rheswm, fel y dywedodd Delyth Jewell, dros beidio â bod yn barod am yr opsiwn gwaethaf posibl. Nawr, rwy'n credu bod Mark Isherwood yn credu'r hyn a ddywed, ond pan ddarllenwch am y cysylltiadau ar lefelau uchaf y Blaid Geidwadol yn y DU â melinau trafod asgell dde a fyddai'n ddigon hapus i ddatgymalu ein GIG, rhaid imi ddweud fy mod yn credu bod Mark yn siarad drosto'i hun, ac nid wyf yn credu ei fod yn siarad dros fwyafrif y bobl ar y brig yn ei blaid yn San Steffan. A dyna'r bobl sy'n rhaid i ni eu hofni. [Torri ar draws.] Dyna'r bobl sy'n rhaid inni eu hofni. Os hoffai Mark Isherwood ymyrryd, os gwnaiff y Dirprwy Lywydd ganiatáu hynny—. [Torri ar draws.] Wel, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Lywydd—
Wel, nid yw'n codi. Nid yw'n codi, felly parhewch.
—eisoes wedi clywed ganddo.
O, o'r gorau, ydy, mae'n codi.
Gwyddom beth—.
Wel, ie, rydych chi wedi bod yn gwahodd—.
Ai 'ie' neu—?
Rwy'n credu—. Rydych chi wedi ei wahodd. Mae ar ei draed, felly—.
Oherwydd imi gael fy ngwahodd, dyna'r unig reswm. Dyfynnais yn union beth y mae'r adran hon yn y maniffesto yn ei ddatgan. A ydych chi wedi'i ddarllen?
Do, fe wnes, y rhan o'r maniffesto a allai effeithio'n uniongyrchol ar Gymru, a'r broblem yw nad wyf yn ei gredu, ac nid wyf yn siŵr—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr, oherwydd pan fydd cyd-Aelodau Ceidwadol yma'n codi ar eu traed ac yn malu awyr yn hir, daw'r dyfyniad Shakespearaidd i'r meddwl bob amser, 'Me thinks, my lord, he doth protest too much', oherwydd credaf fod yna elfennau y gallech fod lawn mor bryderus â minnau yn eu cylch.
Rwyf am ddod â fy sylwadau i ben drwy ddweud hyn: credaf fod consensws ar feinciau'r Blaid Lafur a Phlaid Cymru fod hwn yn fater difrifol. Yn amlwg, dyna'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi dewis diwygio'r cynnig hwn. Os yw'r Llywodraeth yn credu ei fod yn fater difrifol, yr hyn na allaf ei ddeall yw pam nad yw'n barod i gefnogi gwneud rhywbeth ymarferol yn ei gylch, oherwydd, os yw'r Cwnsler Cyffredinol yn mynd i ofyn imi gredu bod unrhyw Lywodraeth Geidwadol yn mynd i drin unrhyw Lywodraeth Cymru â pharch yn y materion hyn, mae arnaf ofn ei fod yn un arall sydd â'i ben yn y cymylau.
Roeddwn wedi meddwl y byddai'r ddadl hon yn ymwneud â Brexit a masnach, ond clywais lefarydd Plaid Cymru y prynhawn yma mewn cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol yn dweud ei fod yn ymwneud â phreifateiddio'r GIG, ac nid wyf wedi clywed am ddim heblaw preifateiddio'r GIG y prynhawn yma. Fe geisiaf gadw rhag hynny cymaint ag y gallaf a chanolbwyntio ar faterion masnach. I mi gael tynnu sylw at rywbeth, cynhyrchodd y pwyllgor adroddiad neu mae wrthi'n cynhyrchu adroddiad ar gytundebau masnach rhyngwladol. Mae i'w gyhoeddi'n fuan, ac rwy'n annog pawb i'w ddarllen. Fe wnaf osgoi defnyddio gormod ohono heddiw gan ei fod yno i chi ei weld yn y dyfodol.
Nawr, rwy'n croesawu'r cynnig y prynhawn yma, ac yn enwedig y modd y mae'n ystyried cytundebau rhyngwladol yn y dyfodol a ddylai gael eu strwythuro yn dilyn Brexit. Nid wyf yn anghytuno â dau bwynt cyntaf y cynnig ac yn wir, rwy'n meddwl—roeddwn yn cytuno'n llwyr â phob dim a ddywedodd Delyth Jewell yn hanner cyntaf ei chyfraniad; yr ail hanner sy'n peri trafferthion i mi o bosibl, yn enwedig yr effaith—. Nid wyf am dynnu sylw at effaith cytundeb rhwng y DU ac UDA ar y GIG. Nid oes unrhyw amheuaeth ynglŷn â hynny. Ni waeth beth y mae Mark yn ceisio'i wneud, neu y mae'r Ceidwadwyr yn ceisio'i wneud, i wadu hynny, mae'n debygol o fod ar y bwrdd, ac mae'r drafodaeth—a buom yn sôn am opioidau—yn un agwedd arni. Mae pawb ohonom yn gwybod am feddyginiaethau; rwy'n credu bod Delyth Jewell wedi cyfeirio ato—y costau. Gadewch i mi roi rhai uchafbwyntiau i chi: inswlin, £16.61 yn y wlad hon, £215 yn yr Unol Daleithiau; epipens—ac os ydych yn gwybod am epipens, mae'n rhaid i chi eu cael; nid ydych yn eu defnyddio o reidrwydd, ond mae'n rhaid i chi eu cael, ac ar ôl ychydig, maent yn dyddio ac ni allwch eu defnyddio—£52 yn y wlad hon, £523 yn yr Unol Daleithiau. Nawr, dyna'r math o brisio y mae'r Unol Daleithiau am ei weld yn y DU drwy ddadreoleiddio a chael gwared ar batentau. Felly, mae'n bendant yn fygythiad i'r GIG mewn unrhyw negodiadau masnach. Mae'n real, ac mae'n peryglu ein dinasyddion. Gadewch i ni beidio â chuddio rhag y ffaith honno, ni waeth beth fydd y Ceidwadwyr yn ceisio'i gelu.
Fodd bynnag, y cwestiwn yw hwn: sut y gellir diogelu Cymru rhag gorfod dioddef canlyniadau cytundebau masnach o'r fath? Mae'n gwestiwn sy'n rhaid ei ateb, ond nid wyf yn credu y caiff ei ateb drwy sefydlu feto, er fy mod yn siŵr y byddai Plaid Cymru wrth eu bodd yn gallu defnyddio'r fath wrthodiad fel rheswm arall dros annibyniaeth.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau y byddai gan Lywodraeth Cymru na'r Cynulliad unrhyw lais yn negodi a chadarnhau’r cytundebau hyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle maent yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig. Mae sôn wedi bod am gyd-gyngor gweinidogion ar fasnach ryngwladol—nid yw hynny wedi digwydd eto, ac os yw'n digwydd, a fydd ganddo'r un dannedd â'r cyd-gynghorau gweinidogion eraill, yn enwedig cadernid ac effaith cyd-gynghorau gweinidogion, sydd wedi cael eu beirniadu'n hallt gan lawer yn y Siambr hon? Felly, ar un ystyr, nid yw'n fecanwaith y byddem yn ei gefnogi mewn gwirionedd.
Gellid ystyried bod feto yn gynnig deniadol i lawer sy'n dymuno dangos na all Cymru gael ei gorfodi i weithredu yn erbyn y polisïau yr etholwyd Llywodraeth Cymru arnynt. Fodd bynnag, mae pryderon amlwg yn codi ynghylch amseriad penderfyniad o'r fath. Mae feto'n digwydd ar ddiwedd proses negodi. Yr hyn rydym am ei wneud yw sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynnwys ar ddechrau'r broses. Dyna'r elfen hollbwysig. Mae'n ymwneud â gosod cyfeiriad y negodiadau a chael ei chynnwys wrth sefydlu'r mandad ar gyfer negodiadau. Mae'n golygu bod yn rhan o bethau'n gynnar, bod yn yr ystafell lle mae negodiadau'n cael eu trafod, ac yn enwedig pan fyddant ar gymwyseddau datganoledig, a bod yno pan fydd materion sy'n effeithio ar gymwyseddau datganoledig—. Mae hyn yn aml yn wir ar draws ein cymdogion Ewropeaidd ac mewn mannau eraill yn y byd. Mae'n digwydd.
Mae ymchwil gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at y ffaith mai'r unig enghraifft yn Ewrop, y soniwyd amdani o'r blaen, yw Gwlad Belg, lle gall deddfwrfa is-wladwriaethol unigol a etholwyd atal cytundeb rhag cael ei gadarnhau, a digwyddodd hynny yn achos Walonia yng nghytundeb CETA, nid Fflandrys ac nid Brwsel, ond Walonia, felly dyna un, a arweiniodd at oedi yn y wlad honno gan arwain at oedi gyda chais y 28 gwlad arall ar y pryd. Felly, dyna'r unig enghraifft yn Ewrop.
Mewn gwladwriaethau eraill, mae llywodraethau is-genedlaethol yn rhan o'r broses o ddatblygu polisïau, a gwneir hyn trwy gyfansoddiad a phwerau cyfyngedig a roddir iddynt drwy'r Llywodraeth—cyfansoddiadau ysgrifenedig. Nid oes gennym un o'r rheini—nid oes gennym gyfansoddiad ysgrifenedig, felly mae'n ei gwneud yn anos i ni. Mae'r Almaen yn enghraifft dda, lle mae'r Länder yn dylanwadu ac yn gallu dylanwadu ar gytundebau rhyngwladol a allai effeithio'n negyddol ar eu pwerau. Gwneir hynny drwy roi rôl ffurfiol iddynt yn y trafodaethau a'r negodiadau pan fydd materion wedi'u datganoli. Maent hefyd yn gallu gweithredu drwy ail Senedd, y Bundesrat, yn ogystal. Felly, ceir enghreifftiau lle gall deddfwrfeydd weithio mewn cytundebau heb y feto a dylanwadu ar y cytundebau er lles pennaf eu dinasyddion. Mae hwnnw'n ateb posibl y dylem edrych arno.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru wedi edrych ar yr agenda wrth symud ymlaen ac wedi cyflwyno ei phapurau ei hun yn ddiweddar, 'Diwygio ein hundeb: cydlywodraethu yn y DU'. Yn y ddogfen, mae'n sôn am y peirianwaith rhynglywodraethol sydd ei angen i edrych ar yr agendâu polisi hyn, ac mae angen inni fynd i'r afael â hynny. Mae angen inni edrych ar gynnydd yr agendâu.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Ddirprwy Lywydd, ac felly rwyf am gloi drwy edrych ar welliant y Ceidwadwyr. A dweud y gwir, edrychais arno a meddwl, 'Maent yn gwadu bod pryderon dilys ynglŷn â safbwynt negodi masnach presennol y Llywodraeth hon. Maent yn ceisio'u cau o feddyliau pobl, gan geisio'u cuddio rhag y cyhoedd.' Mae'r gwelliant yn datgan na ddylai fod gennym ran o gwbl mewn negodiadau masnach, am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl. Maent yn meddwl y gall San Steffan wneud yn well ar ein rhan, heb ein cyfranogiad na'n mewnbwn. Credaf y dylent fod â chywilydd o feddwl felly—maent yn cynrychioli pobl Cymru ac eto credant y gall San Steffan wneud yn well ar ran pobl Cymru. Dylai fod arnynt gywilydd o'r gwadu hwnnw.
Nawr, bydd cytundebau masnach yn y dyfodol yn bwysig, ar ôl i ni adael diogelwch y cytundebau rydym wedi elwa arnynt fel aelodau o'r UE, lle mae angen parchu gwledydd datganoledig yn y cytundebau hynny. Ac o'r herwydd, mae'n rhaid eu negodi a chytuno arnynt gan gynnwys y Llywodraethau datganoledig a'r deddfwrfeydd datganoledig yn llawn.
Rhaid imi ddweud, mae'n hynod naïf fod y Blaid Geidwadol yn meddwl y gall y DU, rywsut, ddisgwyl dod i gytundeb â'r Unol Daleithiau sy'n rhoi'n union beth y mae arni ei eisiau i'r DU heb roi rhywfaint o'r hyn y mae ar yr UDA ei eisiau. Rwy'n credu ei bod hyd yn oed yn fwy naïf i feddwl y gall y DU fynnu rywsut fod yr Unol Daleithiau'n cefnu ar elfennau allweddol o'i safbwyntiau negodi sylfaenol. Mae popeth ar y bwrdd; dyna'n hollol amlwg y mae Donald Trump yn ei ddisgwyl. A phan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau mynnu'r hyn sydd, a'r hyn nad yw ar y bwrdd, rwy'n eithaf siŵr y bydd yr Unol Daleithiau'n dweud wrth y DU i fynd i chwilio am fwrdd arall i eistedd wrtho.
Pan fyddwn yn sôn am fasnach, cytundebau masnach a chwilio am gytundebau masnach, mae'n ymwneud â mwy na dim ond yr hyn sy'n cael ei brynu a'i werthu, pa nwyddau y gellir eu prynu a'u gwerthu yn ôl ac ymlaen, mae'n ymwneud hefyd â sut y cânt eu gwerthu, pa reolau sy'n berthnasol i'r gwerthiannau hynny, pa fframweithiau rheoleiddio neu gysoniadau rheoleiddio sydd eu hangen er mwyn caniatáu'r fasnach honno, ac efallai pa dariffau sydd ar rai nwyddau, fel quid pro quo am rai eraill. Mae angen ystyried llu o elfennau, ac nid â nwyddau'n unig y mae'n ymwneud chwaith wrth gwrs, mae'n ymwneud hefyd â gwasanaethau. Ac o ran nwyddau a gwasanaethau, mae'n gwbl amlwg fod bygythiad enbyd i'r GIG o gael cytundeb masnach rhwng y DU a'r UDA, ac ofnaf y byddai'r DU mewn sefyllfa wan iawn yn mynd i mewn i'r negodiadau hynny.
Nawr, gallwn siarad am wasanaethau. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud wrthych nad oes ganddynt unrhyw argymhellion i werthu'r GIG. Wrth gwrs, yr hyn na fyddant yn ei atal yw'r farwolaeth drwy fil o doriadau, cyflwyno mwy a mwy o elfennau preifat, cwmnïau preifat yn gweithio o fewn y GIG, yn elwa o'r GIG. Yn anffodus, gwelwn hynny gan y Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru hefyd. A bydd darparwyr gwasanaethau iechyd yn yr Unol Daleithiau yn fwlturaidd, yn cylchu'r GIG yn y DU, gan edrych am ffyrdd i mewn drwy gytundeb masnach rhwng yr Unol Daleithiau a'r DU.
Ond rwy'n mynd i ganolbwyntio ar gyffuriau. Cofnodwyd Trump yn dweud ei fod yn credu bod prisiau cyffuriau yn Ewrop yn rhy isel. Mae diwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau wedi cyflwyno dadleuon i negodwyr masnach yr UDA yn cwyno am rwystrau mynediad hirsefydlog y DU i'r farchnad. Mae'n bosibl y bydd cytundebau masnach, er enghraifft, yn ei gwneud yn ofynnol i NICE newid y ffordd y mae'n arfarnu costeffeithiolrwydd cyffuriau. Gallai hynny fod yn un o elfennau'r print mân mewn cytundeb masnach o'r fath. A gallai olygu newidiadau i drefniadau prynu cyfunol, oherwydd caiff trefniadau o'r fath eu gweld gan rai yn niwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r Llywodraeth, mae'n ymddangos, fel rhai gwrth-gystadleuol.
Nawr, dylem i gyd ddeall y bydd cynyddu amddiffyniadau patent yn golygu mwy o gostau i'r GIG—cyfeiriwyd at hynny eisoes. Rydych yn cadw'r amddiffyniadau patent sy'n cadw rhai cyffuriau'n ddrud iawn ac yn amlwg, gallai hynny effeithio arnom ni, pe bai'n rhaid i'r GIG dalu'r prisiau hynny.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch, Rhun. A fyddech yn cytuno bod gennym gytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau ymhell cyn inni ymuno â'r UE a bod cyfle ar hyd yr amser, o 1948 pan gawsom y GIG, hyd at 1975 pan aethom i mewn i'r UE, i ddiwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau a'r holl ddiwydiannau eraill fod wedi gwneud yn union beth rydych chi'n ei ddweud i'r GIG bryd hynny?
Dau beth: cytundebau organig oedd y rheini a gyrhaeddwyd dros amser, yn hytrach na'r ffordd druenus y mae'r Deyrnas Unedig yn begian am gytundeb gan yr Unol Daleithiau, ond hefyd, cenhedlaeth arall yw hon yn awr. Nid yr un genhedlaeth yw hi, David, ac roedd honno'n adeg cyn fy ngeni i. Mae angen inni ystyried yr adeg y bydd fy mhlant a fy wyrion yn byw, oherwydd dyna'r adegau y mae angen inni eu diogelu yn awr.
Cyfeiriais at y cyffuriau a ddiogelir gan batentau; mae ofnau gwirioneddol ynghylch cyffuriau generig hefyd. Mae'r ffordd y mae'r system yn gweithio yn yr Unol Daleithiau, rydym wedi'i weld yn stori Martin Shkreli—cefnogwr Trump, sy'n ddrwgweithredwr a gafwyd yn euog—yn y ffordd y defnyddiodd gyffuriau generig a gwthio eu prisiau i fyny yn yr Unol Daleithiau. Pan fydd gennych gyffur generig, byddech yn disgwyl i rymoedd economaidd ddod yn weithredol a gwthio'r costau i lawr. Y gwrthwyneb sy'n wir oherwydd y mae'r Unol Daleithiau'n gweithio. Rydym yn lobïo yn yr Unol Daleithiau i sicrhau—. Mae'n broses hirfaith pan fydd cwmni eisiau cyflwyno cyffur generig. Dyna'r math o broses y byddant eisiau ei chyflwyno yma hefyd. Un enghraifft yw Cuprimine, sy'n gyffur arbenigol. Fe'i cymeradwywyd yn yr Unol Daleithiau yn 1970, cyffur generig a'i bris ar hyn o bryd yn $31,000 am 20 o gapsiwlau yn yr Unol Daleithiau. Cost y cyffur generig cyfatebol ym Mhrydain yw $230 am 120 o gapsiwlau. Dyna'r math o system, y fframwaith rheoleiddio, y cyd-destun y byddai'r cwmnïau fferyllol yn yr Unol Daleithiau'n dymuno gweithredu o'i fewn ac ymdrin â gwasanaeth iechyd gwladol y Deyrnas Unedig.
Fe'i gadawaf yn y fan honno, ond nid wyf yn credu am eiliad pan fydd Trump a Boris Johnson, am resymau etholiadol yn yr etholiad cyffredinol hwn, yn dweud bod y GIG rywsut yn mynd i gael ei adael heb ei gyffwrdd; mae'n amlwg nad yw hynny'n wir, a bydd diwydiant fferyllol yr Unol Daleithiau yn sicrhau nad yw hynny'n wir.
Rwy'n llongyfarch Plaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon a chynnig eithaf hirfaith. Byddai'n her i ymateb i bob pwynt ynddo, ond yn gyffredinol, nid wyf yn gwybod a yw Plaid Cymru wedi cyflwyno'r cynnig hwn oherwydd ei fod yn ymdrech sinigaidd i fanteisio ar y GIG a chodi bwganod am gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau cyn yr etholiad, neu a yw'n deillio o bryder gwirioneddol, er yn gyfeiliornus, ynglŷn â'r ffordd y mae'r farchnad iechyd a rheoleiddio yn gweithredu yn yr Unol Daleithiau.
Rwy'n cytuno â phwynt 1(a) eu cynnig ynglŷn â gadael yr UE ar 31 Ionawr 2020, ac rwy'n credu bod pwyntiau 1(c) a (d) yn ffeithiol. Ond rwy'n credu fy mod am fynd i'r afael â phwynt 1(b) a'r cyfeiriadau yn 2(b) ac (c) at eu credoau yn gyfunol. Maent yn cyfeirio at farchnadeiddio patentau. Caiff patentau eu cyhoeddi gan Lywodraethau neu eu swyddfeydd patentau a chânt eu gorfodi drwy'r llysoedd. Gall rhywun sydd â phatent brynu neu werthu'r patent hwnnw, ond ni chredaf y bydd unrhyw negodiadau masnach yn dylanwadu ar brynu na gwerthu patentau.
Y cyfeiriadau—credaf yn fras eu bod yn creu nifer o ofnau. Un, ac rwy'n credu bod awgrym wedi'i wneud nad ydynt yn credu hyn mewn gwirionedd, yw fod y GIG yn mynd i gael ei werthu i ddarparwyr o'r Unol Daleithiau. Mae'r GIG yn costio tua £140 biliwn y flwyddyn ledled y DU, ac at ei gilydd nid yw'n derbyn refeniw, felly nid yw'n ddeniadol i ddarparwr preifat geisio ei brynu. Yn amlwg, mae yna faterion eraill y byddaf yn troi atynt, ond fe dderbyniaf yr ymyriad gan Rhun.
Yn fyr iawn, fel y dywedais yn fy nghyfraniad yn gynharach, nid yw'n fater o werthu'r GIG fel un uned; mae'n ymwneud â'r sector preifat yn cael troedle mwy a mwy o fewn y GIG, ac yn elwa o'r GIG.
Rwy'n parchu'r pwynt hwnnw, ac rwy'n meddwl bod Plaid Cymru wedi bod yn glir nad ydynt yn awgrymu gwerthu ehangach yn y ffordd y mae rhai pobl ar ochr Corbyn wedi'i wneud o bosibl. Er mwyn mynd i'r afael â'r pwynt a wnânt, credaf mai'r ehangu mwyaf a welwyd gan y sector preifat i mewn i'r GIG oedd y canolfannau diagnosteg a thriniaeth a gyflwynwyd gan Lywodraeth Blair. Deddfwyd ar eu cyfer, yn Lloegr o leiaf—[Torri ar draws.] Yn wir, mae'r Prif Weinidog yn gwneud y pwynt cywir na chawsant eu cyflwyno yng Nghymru. Nid wyf yn derbyn yr ymyriad; mae angen i mi fwrw yn fy mlaen. Yr hyn a wnaethant oedd—cawsant eu cyflwyno yn Lloegr yn 2003 ac mae iddynt hanes cymysg. Nid wyf yma i'w hamddiffyn. Credaf eu bod wedi cael rhywfaint o lwyddiant cyfyngedig yn lleihau rhestrau aros mewn ardaloedd penodol, ond credaf hefyd y gellir cyfiawnhau peth o'r feirniadaeth ohonynt am ddewis a dethol yr achosion hawsaf. Ond o ran unrhyw effaith fasnachol yn sgil y rhain, ni welaf sut y byddai'n niweidiol iawn, oherwydd yn y wlad hon, rydym wedi tueddu i beidio â bod yn ddiffyndollol yn y sector cyhoeddus. Mae rheolau ynglŷn â hynny o fewn yr UE, ond nid ydym wedi tueddu i hepgor darparwyr o'r tu allan i'r UE. Mewn rhai meysydd lle mae tendro cystadleuol gorfodol—yn wir, galwai am fynediad cyfartal i wledydd tramor. Rydym yn tueddu i'w roi beth bynnag.
Yn ddi-os, mewn cytundeb masnach gyda'r Unol Daleithiau, hoffem ddileu rhai o ddarpariaethau eu 'Buy American Act' yn eu sector cyhoeddus, ond yn gyffredinol, nid wyf yn credu bod ein sector cyhoeddus yn arbennig o ddiffyndollol. Ac yn achos un o'r canolfannau diagnosteg a thriniaeth hynny, pe bai darparwr o'r Unol Daleithiau wedi dod i mewn ac wedi cynnig ei wneud yn rhatach neu ar sail ansawdd gwell na darparwyr eraill, tybiaf y byddai Llywodraeth Blair wedi derbyn hynny. Ar ôl llunio contract gyda'r darparwr hwnnw, a fyddem wedyn am i hynny gael ei ddiddymu gan Lywodraeth yn y dyfodol? Buaswn yn disgwyl i'n llysoedd amddiffyn buddsoddwr o dramor yn y cyd-destun hwnnw beth bynnag, ac rwy'n amau y bydd yr UDA yn bryderus iawn am hynny yn y ffordd yr oedd gyda'r bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig, oherwydd pryderon am rai llysoedd Ewropeaidd mewn rhai gwledydd, nid ydynt o reidrwydd—[Anghlywadw.] Cymeraf yr ymyriad yn fyr.
Diolch. Mewn perthynas â'r ddogfen 460 tudalen rydym yn cyfeirio ati ar y potensial ar gyfer masnach, ac rydym wedi siarad ychydig bach am ddiagnosteg, beth oedd diben y ddogfen honno yn eich tyb chi? Sut y byddech yn aralleirio'r ddogfen astrus honno, y gwyddom bellach ei bod ar gael yn gyhoeddus i unrhyw un ei chodi ac edrych arni?
Wel, trafodaethau anffurfiol gyda grwpiau perthnasol ydynt yn hytrach na negodiadau, oherwydd ein dehongliad neilltuol o gyfraith yr UE. O ran y darnau y mae Llafur wedi tynnu sylw atynt ac yn ceisio gwneud rhywbeth mawr ohonynt, nid oes yr un ohonynt i'w weld i mi yn brawf digamsyniol o unrhyw beth. Rwy'n credu mai mater patentau yw'r un y maent wedi'i ystumio fwyaf yn ôl pob tebyg. Ond yn fras, mae system batent y DU a'r Unol Daleithiau yn gymharol debyg o ran lefel a hyd yr amddiffyniad a roddir. Mae'r hyn sy'n digwydd yn yr Unol Daleithiau i raddau helaeth yn adlewyrchu strwythur eu marchnad a'r ffordd y mae'r cwmnïau yswiriant yn gweithio. Oherwydd mai'r GIG yw'r prynwr cyffuriau monopsoni, ac oherwydd bod gennym y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal i ystyried a yw'n mynd i fod yn gosteffeithiol, dyna'r ddau beth sy'n cadw costau'n isel ym marchnad y DU.
Yr hyn sy'n gwneud prisiau cyffuriau'n drybeilig o uchel mewn rhannau o'r GIG—ac mae'n wir fod GlaxoSmithKilne ac AstraZeneca yn elwa hefyd o hynny pan fyddant yn gwerthu i'r UDA—yw strwythur lle mae'r cwmnïau yswiriant yn prynu'r cyffuriau hyn heb reolaeth effeithiol ar gostau. Ac mae hynny'n rhannol oherwydd bod llawer o gyflogwyr yn dal i gynnig cynlluniau i weithwyr lle gallant fynd at unrhyw feddyg y dymunant, ac os yw'r meddyg hwnnw'n presgripsiynu, bydd y cwmni yswiriant yn talu'r cwmni cyffuriau. Felly, nid oes cystadleuaeth effeithiol o ran y farchnad na rheoleiddio cyffredinol neu ddarparwr monopsoni, fel sydd gennym ni.
Nid yw trafodaethau masnach yn mynd i ddylanwadu ar ddim o'r pethau hynny. Am y rheswm hwnnw, rwy'n ystyried mai codi bwganod yw hyn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am yr opioidau, a chredaf fod hynny'n adlewyrchu ymddygiad presgripsiynu yn y farchnad a natur y berthynas rhwng y claf a'r meddyg, sy'n annhebyg i'r hyn sydd gennym yn y wlad hon, ac na fyddai gennym ni waeth pa gytundeb masnach a fyddai gennym â'r Unol Daleithiau.
I ymdrin yn gyflym â phwynt 3, nid ydym yn cytuno â feto ar bolisi masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl ac nid ydym yn cefnogi Cymru sofran annibynnol yn y ffordd y mae Plaid Cymru yn ei wneud. Byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr, y credwn ei fod yn eithaf gonest o gofio ei bod yn gyfnod cyn etholiad, a byddwn yn ymatal ar gynnig y Llywodraeth, gan fod gennym rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ceisio'i wneud ac rydym yn credu y dylai Cymru gael rôl ymgynghorol briodol mewn negodiadau masnach. Ond nid ydym yn credu mewn cael feto na chyfansoddiad ffederal gyda'r Goruchaf Lys yn ei oruchwylio yn y ffordd y credaf eu bod yn awgrymu.
O ran y ddadl hon ar y GIG ac ar gytundebau masnach, un o'r pethau y mae cynnig Plaid Cymru yn galw amdano yw i'r GIG yng Nghymru gael ei ddiogelu gan y gyfraith fel nad yw cymhwysedd datganoledig yn cael ei golli ar ôl Brexit. Nawr, mae Delyth, Rhun a Helen wedi amlinellu'r achos yn huawdl, oherwydd rydym yn byw mewn cyfnod brawychus—cyfnod anodd, ansicr a phegynol. Arweiniodd digwyddiadau cythryblus at greu'r GIG yn y lle cyntaf. Dileodd Aneurin Bevan ofnau unigolion ynglŷn â thalu am ofal iechyd. Fel cymuned, fel gwlad, mae pawb ohonom yn ysgwyddo'r gost ar y cyd, fel nad yw unigolion yn cael eu gwneud yn fethdalwyr er mwyn talu am eu hiechyd. Cofiwch, nid ydym wedi cyrraedd yno mewn perthynas â gofal cymdeithasol o hyd, ond stori ar gyfer diwrnod arall yw honno.
Nawr, mae fy mab ieuengaf yn byw yn Oklahoma yn UDA. Ac felly, fel teulu, gwyddom bopeth am yr heriau o dalu am ofal iechyd fel unigolion drwy yswiriant iechyd, yn dibynnu a oes gennych chi swydd a pha fath o swydd. Ac yn union fel yswiriant car, gall y premiwm fod yn uchel iawn os oes gennych risgiau ychwanegol. Mor uchel, weithiau, fel nad oes modd i chi gael yswiriant. Ac yn amlwg, os oes rhywbeth arall ar ben hynny, fel profion pelydr-x neu brofion gwaed neu gyffuriau unigol, mae'r gost yn codi. Codir tâl arnoch fel unigolyn. Felly, gall olygu biliau gofal iechyd drud iawn i unigolion.
Nawr, fe'i clywsom—'Codi bwganod yw hyn i gyd', clywaf bobl yn dweud, ond cawn ein hamddiffyn yma yng Nghymru rhag realiti'r GIG mewn mannau eraill ar yr ynysoedd hyn hyd yn oed. Rydym yn cwyno am y GIG yma yng Nghymru, ond mae'r GIG yng Nghymru'n cyflawni gwyrthiau beunyddiol ar y nesaf peth i ddim, gyda staff eithriadol, hynod o wych dan ormod o bwysau, ond sy'n mynd y filltir ychwanegol honno, a ninnau'n anghofio'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.
Nawr, fe wnaeth Llywodraeth Cymru'n Un yma yng Nghymru, rhwng 2007 a 2011, wahardd comisiynu meddygon teulu a'r fenter cyllid preifat ym maes iechyd. Nid felly yn Lloegr, lle mae comisiynu meddygon teulu bellach yn digwydd ar ffurf grwpiau comisiynu clinigol. Maent wedi'u dadreoleiddio i raddau helaeth ac yn galluogi rhannau enfawr o'r GIG yn Lloegr i gael eu preifateiddio bellach o ganlyniad i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2012, deddf drychinebus, a chreadigaeth faleisus Andrew Lansley. Felly, o ganlyniad, mae gofal iechyd preifat Virgin wedi cael gwerth dros £2 biliwn o waith GIG yn y blynyddoedd diwethaf, gyda dros 400 o gontractau yn amrywio o ofal dementia i'r henoed—dewis a dethol, fel y crybwyllodd Delyth—y rhaglenni imiwneiddio ysgolion sy'n breifat mewn llawer o ardaloedd yn Lloegr, i ofal iechyd mewn carchardai, gweithredu ymddiriedolaethau GIG a gwasanaethau meddygon teulu unigol. Dyna beth y mae gofal iechyd Virgin yn ei wneud yn awr.
Ac mae tafelli enfawr o wasanaethau iechyd meddwl eisoes wedi'u preifateiddio ac yn cael eu gweithredu am elw mawr gan gwmnïau gofal iechyd Americanaidd yn Lloegr heddiw—unedau preswyl preifat a weithredir gan gwmnïau o America ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl heriol i'r glasoed ac oedolion ar gyfer awtistiaeth, anabledd dysgu, problemau cymhleth, natur drafferthus. Maent yn codi crocbris ar y GIG a llywodraeth leol am eu gwasanaethau, a gall pobl o Gymru fod yn yr unedau hyn a chodir tâl ar ein gwasanaethau cyhoeddus yn sgil hynny. Dyna'r realiti heddiw.
Mae Arcadia, corfforaeth iechyd a leolir yn Tennessee, yn brolio ynglŷn ag ennill £188 miliwn mewn cwta dri mis gan wasanaethau cyhoeddus Prydain yn ôl adroddiadau yr wythnos hon. Mae Cygnet yn sefydliad iechyd arall yn yr Unol Daleithiau sy'n ennill miliynau wrth weithredu yn yr un meysydd iechyd meddwl cymhleth lle nad oes gennym ddarpariaeth breswyl yn y GIG. Felly, nid oes pwynt gweiddi nad yw'r GIG ar werth. Mae rhannau mawr ohono eisoes wedi'u gwerthu. Ond iechyd meddwl yw hynny, onid e? Mae'n iawn—nid oes neb yn poeni.
Ac mae ein data iechyd personol yn gyfle euraid i gewri fferyllol Americanaidd hefyd. Rhaid inni ddeddfu i warchod ein data personol ein hunain. 'Adfer rheolaeth', fel y dywedodd rhywun rhywbryd. A pheidiwch â gadael i mi ddechrau ar ddadreoleiddio presgripsiynu gan nad oes gennyf ddigon o amser, ond mae David Rees a Rhun wedi rhoi sylw trylwyr i hynny.
Felly, yr alwad o'r cynnig hwn yw pleidleisio i amddiffyn y GIG yng Nghymru drwy'r gyfraith. Os ydych chi'n meddwl mai codi bwganod ydyw ac nad yw byth yn mynd i ddigwydd, er yr holl dystiolaeth o'r realiti ar lawr gwlad ei fod yn digwydd eisoes, wel, beth am bleidleisio dros y ddeddfwriaeth beth bynnag? Oherwydd os na chaiff byth mo'i gweithredu, pa niwed sydd yna? Ond os ydych yn meddwl, os ydych yn credu'n wirioneddol, fel rydym ni, fod y GIG yng Nghymru mewn perygl, pleidleisiwch dros y cynnig hwn gan Blaid Cymru i ddiogelu trysor godidog ein GIG mewn cyfraith. Gall Walonia wneud hynny.
A gaf fi alw yn awr ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu’r cyfle i ymateb i’r ddadl hon. Mae’n amserol oherwydd mae’n rhoi goblygiadau ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd o dan y chwyddwydr, felly hefyd ganlyniadau posibl ymddiried mewn Llywodraeth Dorïaidd dan arweiniad Boris Johnson i ymgymryd â’r broses honno.
Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi’r cynnig gwreiddiol i raddau helaeth. Adlewyrcha safbwynt y mwyafrif o Aelodau’r Senedd y dylai’r Deyrnas Unedig barhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd ac na ddylai’r egwyddor y cafodd y gwasanaeth iechyd gwladol ei sefydlu yn unol â hi, sef bod gwasanaethau yn rhad ac am ddim adeg eu darparu, gael eu rhoi yn y fantol.
Rydym ni hefyd yn cytuno bod y setliad cyfansoddiadol presennol yn gwbl annigonol i ymdopi â heriau dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Mynegon ni ein barn ar hyn yn gwbl glir yn ein dogfennau polisi, 'Brexit a Datganoli' a 'Diwygio ein Hundeb'. Os na fyddwn ni’n parhau yn aelod o’r Undeb Ewropeaidd, yna mae perygl y bydd y llinell rhwng negodiadau rhyngwladol a meysydd lle mae cymhwysedd wedi'i ddatganoli yn cael ei chroesi.
Rydym ni wedi cynnal sawl dadl ar Brexit yn y Siambr hon, ond, er gwaethaf hynny, rydym ni'n dal i glywed gan y rheini sydd am 'get Brexit done' neu 'clean-break Brexit', galwadau sydd yn gwbl niweidiol i fuddiannau Cymru. Amlygwyd unwaith eto y niwed a fyddai'n cael ei achosi pe byddai'r Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn y tymor byr a'r tymor hir gan y National Institute of Economic and Social Research yn yr wythnos diwethaf. Fe ddaethon nhw i'r casgliad, yn union fel y mae economegwyr Llywodraeth Cymru wedi'i wneud, mai bach iawn yw'r manteision o negodi cytundebau masnach rydd gyda gwledydd nad ydyn nhw'n perthyn i'r Undeb Ewropeaidd. Ar y llaw arall, byddai'r niwed yn sgil ymadael â marchnad sengl ac undeb tollau'r Undeb Ewropeaidd yn sylweddol ac yn parhau am flynyddoedd maith i ddod.
Mae cael Brexit wedi'i wneud yn golygu difrodi'r economi, peryglu bywoliaeth ein dinasyddion ac amddifadu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol o'r buddsoddiad sydd ei angen. Eto i gyd, mae'r Ceidwadwyr yn ystod ymgyrch yr etholiad unwaith eto wedi bod yn gwneud addewidion nad oes unrhyw fodd o'u cyflawni, er enghraifft, y gallwn droi ein cefn ar ddull yr UE o weithredu cymorth gwladwriaethol a chystadleuaeth a dal i gael cytundeb masnach well na'r un gyda'r Undeb Ewropeaidd. Os byddant yn dychwelyd i rym, duw a'n helpo, byddant yn sylweddoli'n fuan fod hyn yn rysáit ar gyfer methiant y negodiadau.
Felly, gan droi at y gwelliannau gan y Ceidwadwyr Cymreig, er ein bod wrth gwrs yn cefnogi rhinweddau masnach rydd, mae perygl mawr i fuddiannau Prydain pe bai Llywodraeth Doraidd yn rhuthro i gofleidio gweinyddiaeth America yn gyntaf Trump, gweinyddiaeth sydd wedi dangos ei bod lawn mor ddidostur a di-hid yn gweld masnach fel gêm 'swm sero', lle na all America ennill heblaw ei bod yn dinistrio buddiannau ei phartner negodi. Ni allwn gredu'r sicrwydd a roddwyd gan Boris Johnson na fydd y GIG byth yn cael ei aberthu mewn negodiadau gyda'r UE fwy nag y gallem gredu y byddai'n cyflawni Brexit erbyn 31 Hydref doed a ddelo.
Gadewch imi fod yn gwbl glir: mae'r GIG yng Nghymru yn cael ei weithredu yng Nghymru ar gyfer Cymru, ac o dan y Llywodraeth hon, bydd yn parhau yn nwylo'r cyhoedd. Nid yw ein GIG ar werth. Ac mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwneud yr un camgymeriadau yn ei pharatoadau ar gyfer negodiadau masnach â'r Unol Daleithiau ag a wnaeth wrth ddechrau negodi'r cytundeb ymadael â'r Undeb Ewropeaidd—cyfuniad angheuol o ddifaterwch, anwybodaeth a gorbwysleisio cryfder ein llaw negodi yn druenus. Mae wedi methu—nid yw hyd yn oed wedi ymdrechu, mewn gwirionedd—mynegi gweledigaeth ar gyfer masnach yn y dyfodol a rennir gan holl Lywodraethau'r Deyrnas Unedig, a cheir diffyg tryloywder llwyr hefyd. Nid yw'r DU wedi cyhoeddi mandad negodi drafft hyd yn oed ar gyfer negodiadau â'r Unol Daleithiau. Ond gwyddom erbyn hyn, wrth gwrs, fel y nodwyd yn y ddadl eisoes, fod misoedd o drafodaethau cudd eisoes wedi digwydd, wedi'u crynhoi mewn mwy na 400 o dudalennau o nodiadau a chofnodion. Mae hyn yn tanio drwgdybiaeth ac yn tanseilio ymddiriedaeth, yn enwedig pan allai'r effaith ar bobl, ar fusnesau, ar gymunedau ar draws y DU gyfan fod mor ddifrifol.
Mewn cyferbyniad, rydym wedi dweud yn glir wrth Lywodraeth y DU fod angen i ni ymwneud yn ffurfiol ac yn strwythuredig â phob agwedd ar negodiadau masnach, sy'n dod â mi at ran olaf y cynnig gan Blaid Cymru. Mae'r cynnig yn nodi'r heriau cywir, ond nid yr atebion cywir, mae arnaf ofn. Fel Llywodraeth, rydym o blaid ailwampio'r cyfansoddiad fel ei fod yn llwyr gydnabod ac yn parchu awdurdod cyfartal y pedair Llywodraeth a Senedd i ymdrin â materion sydd o fewn eu cymhwysedd.
Ond nid yw hyd yn oed cyfansoddiadau cwbl ffederal fel Canada, fel yr Almaen, Awstralia neu UDA yn rhoi feto i lywodraethau unigol is-na-lefel-llywodraeth-ffederal ar gytundebau masnach. A buaswn yn pwysleisio bod hyn yn wir yng Nghanada hefyd, lle mae ymwneud eu taleithiau ym mhroses gynhwysfawr y cytundeb economaidd a masnach yn aml yn cael ei gynnig fel enghraifft. Byddai gwneud hynny, wrth gwrs, yn gwneud rôl y Llywodraeth ffederal yn cynnal negodiadau rhyngwladol yn amhosibl yn ymarferol. Yn hytrach, maent yn sefydlu hawliau llywodraethau gwladwriaethol, llywodraethau talaith, neu lywodraethau Länder i helpu i ffurfio negodiadau, ac yn cynnwys y posibilrwydd mewn rhai achosion, fel y crybwyllodd David Rees yn ei gyfraniad, fod y Länder yn gweithredu ar y cyd i rwystro cytuniadau, boed hynny drwy eu cynrychiolaeth, fel y dywedodd David, yn y seneddau ffederal.
Yng Ngwlad Belg yn unig y mae gan lywodraethau unigol ar lefel wladwriaethol rôl ffurfiol yn cadarnhau ac o bosibl, yn nacáu cytundebau rhyngwladol. Ond mae'r setliad datganoli yng Ngwlad Belg yn datganoli masnach, ond nid yw'n datganoli iechyd. Felly, dyna arwydd inni o'r gofal sy'n rhaid inni ei gymryd wrth edrych ar gynsail mewn mannau eraill. Ac mae'r rheini sy'n dadlau dros feto ar gytundebau rhyngwladol gan y Senedd, neu gan Senedd yr Alban, i bob pwrpas yn argymell peidio â diwygio, a diddymu'r undeb yn ymarferol. Ac er nad wyf yn cefnogi'r amcan hwnnw o gwbl, rwy'n credu y byddai o leiaf wedi bod yn fwy tryloyw i adlewyrchu hynny yn y cynnig.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Ai eich blaenoriaeth yw diogelu'r undeb neu'r GIG?
Ein blaenoriaeth yw diogelu'r undeb a'r GIG, a'r ffordd orau o wneud hynny yw ethol Llywodraeth Lafur i San Steffan ar ôl yr etholiad hwn. Ein blaenoriaeth yw parhau, mewn gwirionedd, i bwyso ar Lywodraeth y DU i adael i Lywodraeth Cymru gymryd rhan lawn ar bob cam o'r broses negodi ryngwladol ar faterion datganoledig, a hefyd i gael llais mewn materion sy'n effeithio ar gyfrifoldebau datganoledig.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, yn sicr.
Mae enghraifft ddiddorol iawn sydd eisoes wedi dod i sylw'r pwyllgor, dan gadeiryddiaeth alluog David Rees, sef negodi, neu ail-negodi, cytundeb masnach rhwng y DU a Korea, o'i gymharu â'r cytundeb masnach blaenorol rhwng yr UE a Korea. Yng nghytundebau masnach yr UE, mae wedi dod yn arfer cyffredin i roi hawliau dynol yn rhan o'r cytundeb cyfreithiol rwymol. Mae'n arfer cyffredin. Yn y cytundeb rhwng y DU a Korea, mae wedi cael ei israddio i ran o'r protocol ysgrifenedig sy'n dod gydag ef. Nawr, ar y sail honno, mae'n hanfodol ein bod yn ymgysylltu ar faterion a ddatganolwyd, sy'n cynnwys fframweithiau polisi llesiant cenedlaethau'r dyfodol, fel y gallwn ddweud wrth Weinidogion y DU nad ydynt i israddio rhwymedigaethau hawliau dynol ar unrhyw gyfrif pan allai hynny wneud pobl ym mhen draw'r byd yn dlotach pan fyddwn yn cymryd cynnyrch a gwasanaethau ganddynt.
Ie, a dyna'r union rôl y gofynnwn amdani, y pwyswn amdani, cael rhan mewn negodiadau, yn y broses o gytuno ar y mandadau hynny, a rôl uniongyrchol mewn negodiadau. A'r rheswm am hynny yw y gallwn sefyll yn uniongyrchol dros fuddiannau Cymru mewn perthynas â chymwyseddau datganoledig. A bydd gan y Senedd hon rôl graffu wedyn, yn cwestiynu ac yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cynrychioli buddiannau Cymru yn yr union ffordd honno. Byddai trefniadau cydweithio a chytuno cadarn rhwng y Llywodraethau sy'n hwyluso gwaith craffu gan yr holl ddeddfwrfeydd perthnasol yn helpu i sicrhau na fyddai sefyllfaoedd byth yn codi lle gallai Llywodraeth y DU gyfiawnhau defnyddio pwerau ymyrraeth eithafol, fel y rhai yn adran 82 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ac er y gall fod angen y pwerau hynny mewn achosion eithafol i atal y tair Llywodraeth arall rhag bod ar drugaredd un, byddai eu defnydd mewn unrhyw sefyllfa arall yn anfad mewn termau cyfansoddiadol.
Mae angen diwygio'r setliad datganoli i adlewyrchu'r newid yn y cyd-destun ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol, ond nid ateb cyflym yw hwn. Rydym wedi galw am gonfensiwn cyfansoddiadol, ac mae'n rhaid i'r broses honno fynd i'r afael â'r cwestiynau pwysig hyn ynghylch cysylltiadau rhyngwladol a datganoli, fel rydym wedi dadlau'n fanwl mewn man arall.
Ddirprwy Lywydd, galwaf ar yr Aelodau i gefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Diolch. A gaf fi alw ar Delyth Jewell i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd. Wel, diolch i bawb wnaeth gyfrannu i'r ddadl yma heno. Diolch i David Rees am ei gyfraniad, oedd yn cytuno gyda rhan o'n cynnig ni o leiaf. Rwy'n cytuno â beth mae David yn ei ddweud am y bygythiad i'r NHS. Yn amlwg, buasem ni ddim, ym Mhlaid Cymru, dim ond eisiau feto, a dyna pam mae e ddim ond yn un o'r pethau dŷn ni'n ei gynnig yn ein cynnig ni heddiw. Ond rwy'n cytuno gyda analysis David o ran gwelliant y Ceidwadwyr, oherwydd bydd San Steffan byth yn ein rhoi ni yn gyntaf.
Fe wnaeth Helen Mary Jones esbonio beth fyddai effaith dadreoleiddio ar ddiogelwch cleifion, ac rwy'n siŵr y bydd llawer oedd yn gwrando yn cytuno bod yn rhaid inni atal sefyllfa o'r fath rhag codi. Fel dywedodd hi, mae'r system NICE yno er mwyn diogelu pobl. Rwy'n falch bod Mark Reckless o leiaf yn cytuno â'r dystiolaeth am yr opioids. Roedd cyfraniad Rhun hefyd yn werthfawr dros ben wrth iddo esbonio beth fyddai effaith y cynnydd mewn prisiau ar gyffuriau mae'r Unol Daleithiau ei eisiau ar gyllideb ein gwasanaeth iechyd. Diolch i Dai Lloyd am ddod â phersbectif rheng flaen i'r ddadl unwaith eto ac am ei araith angerddol.
Nawr, o ran y ffordd y clywsom Mark Isherwood, David Rowlands ac eraill yn gwadu eu bod yn meddwl nad oes gan yr Unol Daleithiau unrhyw fwriad o gael mynediad at y GIG, rwy'n credu bod hynny'n rhyfeddol yn wyneb yr holl dystiolaeth. Mae Trump wedi bod yn agored am ei bolisi 'America yn gyntaf'. Dywedodd ar 4 Mehefin ei fod am i'r GIG fod ar y bwrdd mewn cytundeb masnach, ac mae gennym dystiolaeth o ddogfennau a ryddhawyd yr wythnos diwethaf, a ddangosai fod marchnadeiddio prisiau cyffuriau, patentau, dyfeisiau meddygol ac yswiriant iechyd wedi cael ei drafod. Mae gennym gopi o flaenoriaethau negodi adran fasnach yr Unol Daleithiau. Mae'r dystiolaeth yn aruthrol ac ni allaf ond dod i'r casgliad fod rhai pobl yn gwrthod derbyn y realiti hwn am nad yw'n cyd-fynd â'u safbwynt hwy am y byd. Rwy'n ofni nad yw'n safbwynt rwy'n ei rannu.
O ran yr hyn a glywsom oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr yn bennaf am eu ffydd y bydd Boris Johnson yn cadw ei air mewn perthynas â'r GIG, rwy'n credu y bydd pobl Cymru yn gwybod yn iawn na ellir ymddiried yn yr addewidion y mae'n eu gwneud. Dywedodd Boris Johnson mewn colofn yn The Telegraph yn y gorffennol ei fod am godi tâl ar gleifion i weld eu meddyg teulu; dywedodd wrth Business Insider y byddai pobl yn gwerthfawrogi'r GIG yn fwy pe bai'n rhaid iddynt dalu amdano; galwodd am chwalu'r hyn a alwodd yn GIG 'monolithig, monopolistig' yn Nhŷ'r Cyffredin. A'r hyn sy'n peri'r pryder mwyaf, rwy'n credu, yw fod ei wir gredoau wedi'u hadlewyrchu mewn sylwadau a wnaeth mewn araith i'r Ganolfan Astudiaethau Polisi. Dywedodd fod gan 16 y cant 'o'n rhywogaeth ni'—ei eiriau ef—IQ isel ac y dylid gwneud mwy i gefnogi'r 2 y cant gyda'r IQ uchaf. Dywedodd
Po galetaf y byddwch yn ysgwyd y pecyn, hawsaf oll fydd i rai creision ŷd gyrraedd y brig.
Darlun Darwinaidd o'r byd yw hwn yn y pen draw. Yr hyn y mae Boris Johnson yn ei gredu yw y dylai pobl sy'n agored i niwed gael eu gadael i bydru fel bod y mwyaf llwyddiannus 'o'n rhywogaeth ni'—ei eiriau ef unwaith eto—yn gallu ffynnu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf dderbyn ymyriad.
A gytunech hefyd nad Boris Johnson yn unig yw hyn? Ideoleg yw hon sy'n gyffredin ym mhob rhan o'r Cabinet, ac os edrychwch ar eiriau Dominic Raab yn y llyfr a gyhoeddodd heb fod mor bell yn ôl â hynny, yr un athroniaeth yn union yw hi eu bod am werthu rhannau, yn araf neu'n gyflym, o'n GIG i'r UDA.
Diolch am yr ymyriad. Rwy'n cytuno nad yw hyn yn rhywbeth sy'n canolbwyntio'n llwyr ar Boris Johnson. Rwy'n credu bod nifer o Aelodau'r Cabinet—wel, y Cabinet presennol ydynt o hyd—fel y dywedoch chi, fel Dominic Raab, y credaf fod peth o hyn—. Mae fel yr olwg Ddickensaidd ar y byd fod y byd ffyniannus yn cynaeafu'r holl wobrau ac rwy'n cytuno â'r dadansoddiad hwnnw. Mae'n peri pryder mawr. Unwaith eto, gobeithio, rwy'n erfyn ar Aelodau meinciau cefn Llafur i gefnogi'r cynnig, am mai gwerthu'r GIG fyddai'r ffordd orau i'r blaid honno wireddu'r weledigaeth ddystopaidd hon.
Mae'n rhaid imi ddweud bod disgrifio pryderon dilys am ddyfodol ein GIG fel 'codi bwganod', 'tactegau enbyd i greu ofnau' ac 'aflonyddu ar bobl agored i niwed sy'n defnyddio'r GIG' yn rhyfeddol. Credaf fod y sylw olaf yn arbennig yn sarhaus o ystyried mai amddiffyn pobl agored i niwed yw diben y cynnig hwn.
Gwrandewais yn astud iawn ar esboniad y Gweinidog ynglŷn â pham nad ydynt am gael feto ar gytundebau masnach a pham nad ydynt am newid y gyfraith i atal Llywodraeth y DU rhag gallu preifateiddio'r GIG. Dywedodd fod Plaid Cymru, yr hyn rydym yn ei gynnig, yn swnio'n rhy debyg i annibyniaeth at ei ddant ef—sylw a adleisiwyd gan David Rees, ac un roeddwn braidd yn siomedig yn ei gylch. Rwy'n cefnogi annibyniaeth, nid wyf byth am wadu hynny, ond nid dyna rydym yn ei argymell heddiw. Galwn yn syml am roi feto i Gymru ar unrhyw gytundeb masnach a fyddai'n gallu gwneud niwed i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Gallai hyn weithio'n dda iawn yn ymarferol. Ni fyddai Llywodraeth y DU am inni ddymchwel cytundeb masnach drwy ddefnyddio'r feto. Felly, byddai'n rhaid iddynt negodi o'r dechrau fel bod gennym gytundeb sy'n cadw ein GIG yn gyfan. Byddai'n cyflawni'r hyn y mae Llywodraeth Cymru ei eisiau, sef bod y llywodraethau a'r deddfwrfeydd datganoledig yn gallu dylanwadu ar negodiadau masnach cyn iddynt ddechrau, sef yr hyn y credaf fod Huw Irranca-Davies yn cyfeirio ato yn ei gyfraniad.
Rwy'n credu ei bod yn drist iawn fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu dyfodol undeb sydd wedi gadael Cymru'n amddifad a heb unrhyw bŵer dros ddyfodol ein GIG. Rwy'n annog Aelodau meinciau cefn Llafur i geisio darbwyllo'r Llywodraeth i ailasesu ei blaenoriaethau cyn iddi fynd yn rhy hwyr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.