– Senedd Cymru am 2:52 pm ar 8 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar yr ymateb i coronafeirws. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Rydym ni'n wynebu pandemig byd-eang, nad ydym ni wedi gweld ei debyg o'r blaen. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob teulu ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn ein cymunedau gwledig, arfordirol ac amaethyddol. Rwy'n cydymdeimlo â phawb y mae hwn wedi effeithio arnyn nhw.
Cyn ac ers fy natganiad llafar arfaethedig ar 24 Mawrth, a ohiriwyd drwy gytundeb y Pwyllgor Busnes, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi ac ymgysylltu â'r rheini sy'n gweithio yn ein sectorau bwyd ynghylch diogelu ein hamgylchedd ac i sicrhau bod seilwaith hanfodol ar waith ac y parheir i reoli heintiau er mwyn pobl Cymru.
Ar 16 Mawrth, cynhaliais gyfarfod bord gron a oedd yn dwyn ynghyd farn ffermwyr, pysgotwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Bu hyn yn hollbwysig o ran cynllunio a mynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol ar draws fy mhortffolio. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio i sicrhau parhad cyflenwadau bwyd, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, fforwm manwerthwyr y DU, y grŵp cyswllt argyfyngau bwyd wrth gefn a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ymhlith eraill.
Yn ogystal â hynny, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp cydnerthedd amaethyddol—fe wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf a bydd trafodaeth bord gron arall yr wythnos nesaf. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â rhanddeiliaid. Mae'r wybodaeth a'r allbynnau o'r Grŵp Cydnerthedd Amaethyddol yn cyfrannu at feddylfryd Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o ymdrin ag effaith y mesurau cynyddol i reoli haint COVID-19.
Gallaf sicrhau Aelodau bod manwerthwyr a chadwyni cyflenwi yn ateb yr her. Mae ein storfeydd bwyd yn cael eu cyflenwi waeth beth fo'u lleoliad. Hoffwn ddiolch o galon i'r gweithlu manwerthu am eu gwaith caled.
Mae dros 85,000 o bobl yng Nghymru wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru am fod ganddyn nhw eisoes gyflwr iechyd tymor hir penodol, sy'n golygu eu bod mewn perygl mawr o fod yn ddifrifol wael o achos y coronafeirws oherwydd problem iechyd ddifrifol sy'n bodoli eisoes. Gofynnwyd iddyn nhw ymgymryd â chyfres o fesurau gwarchod, gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos.
Ar 3 Ebrill, ar y cyd â'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, cyhoeddais fod y bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i riniogydd pobl gymwys na allan nhw ddibynnu ar deulu na ffrindiau i'w helpu. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £15 miliwn ar gael ar gyfer y cynllun danfon bwyd uniongyrchol. Mae'r pecynnau bwyd, y mae pobl yn gofyn amdanyn nhw gan eu hawdurdod lleol, yn darparu gwerth wythnos o fwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau ar gyfer un unigolyn a warchodir. Hefyd, rydym ni bellach wedi cytuno â'r archfarchnadoedd y byddant yn rhoi blaenoriaeth i archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi pobl a warchodir yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae ffermwyr wrth wraidd ein cadwyni bwyd a'n cydnerthedd amgylcheddol, yn fwy fyth yn ystod y pandemig byd-eang hwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais fod gan ffermwyr bellach fis ychwanegol i gyflwyno ffurflen y cais sengl, gyda'r dyddiad cau wedi'i ymestyn i 15 Mehefin. Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gofynion arallgyfeirio o ran cnydau yn dilyn y llifogydd diweddar a'r pwysau ychwanegol oherwydd y sefyllfa gyda'r coronafeirws, cadarnheais hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dileu'r gofynion yn gyfan gwbl ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol 2020. At hynny, mae £5.5 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu at Gynllun y Taliad Sylfaenol a chynllun cymorth Glastir 2019, a ailagorodd ar 1 Ebrill i gefnogi'r 800 o'r contractau neu'r hawlwyr hynny nad ydyn nhw wedi cael taliad. Bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am gymorth drwy'r cynllun er mwyn lliniaru problemau llif arian posibl.
Mae mynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn flaenoriaeth, a byddaf yn cyhoeddi rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru, yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Wrth inni ddod at ein hunain ar ôl yr argyfwng presennol, rhaid inni wneud popeth a allwn ni i atal niweidio ein hecosystemau bregus a helpu natur i ffynnu.
Mae angen inni gofio hefyd, drwy gydol y cyfnod anodd hwn, fod ein gweithwyr hanfodol yn gweithio'n eithriadol o galed bob awr o'r dydd a'r nos dan amgylchiadau heriol i'n cadw ni a'n hanifeiliaid yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys staff Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, yn ogystal â gweithwyr ym maes coed, olew, nwy a thrydan sy'n sicrhau bod ynni ar gael i'n hysbytai, ein cartrefi a'n diwydiannau. Mae ein milfeddygon yn hollbwysig o ran sicrhau iechyd a lles anifeiliaid ac wrth ymdrin ag achosion lle amheuir bod clefydau ar anifeiliaid.
Mae rheoli lledaeniad TB yn dal yn bwysig, ond dim ond os gellir gwneud hynny'n ddiogel y bydd profion yn parhau. Bydd cyfyngiadau symud gwartheg yn berthnasol ar gyfer profion TB hwyr, ond ni chaiff ceidwaid eu hatgyfeirio bellach am gosbau trawsgydymffurfio. Os oes angen cynnal prawf cyn symud, dim ond os yw'r milfeddyg wedi profi pob un o'r anifeiliaid ac wedi dangos eu bod yn negyddol y gellir eu gwerthu. Rhaid hysbysu APHA am ganlyniad pob prawf ac mae'r canllawiau ar brofion TB yn cael eu hadolygu a'u diweddaru bob dydd.
Mae pysgotwyr yn rhan hanfodol o'n cadwyni bwyd a'n cymunedau arfordirol, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi hwythau hefyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. O ganlyniad i argyfwng y coronafeirws, mae'r fasnach pysgod cregyn i Ewrop, sy'n fwy na 90 y cant o allforion bwyd môr Cymru, wedi dymchwel ac mae masnach o fewn y DU wedi dod i ben i bob pwrpas. Felly, rydym yn gweithio'n galed ar fanylion terfynol grant caledi ar gyfer perchnogion cychod trwydded cymwys yng Nghymru er mwyn cefnogi hyfywedd y sector bwyd môr yng Nghymru.
Yn olaf, Llywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bu'n rhaid gohirio COP26. Fodd bynnag, bydd ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd yn parhau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i roi pwys mawr ar gyflawni ein targedau lleihau allyriadau a chynhyrchu ein cynllun cyflawni carbon isel nesaf fel y trefnwyd.
Felly, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid inni gydweithio gyda thosturi, a hynny ar fyrder a chyda gofal, i wynebu'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu ni a goresgyn hyn. Diolch.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n siomedig braidd ei bod wedi cymryd cyhyd i chi gyflwyno datganiad—8 Ebrill—o ystyried faint o amser y buom yn ymdrin â'r argyfwng hwn.
Rwy'n ategu eich geiriau o gefnogaeth i'r gweithwyr rheng flaen sy'n gweithio naill ai yn llenwi silffoedd yr archfarchnadoedd, ar lawr yr archfarchnad, neu gyda'r holl sector prosesu yn ôl i'r cynhyrchwyr cynradd ar draws Cymru, a hefyd yr asiantaethau gorfodi, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gwneud cymaint i ddiogelu ein hamgylchedd yn yr amgylchiadau anodd hyn.
A allwch chi gadarnhau, Weinidog, a fydd ffermwyr yn gallu cael arian sydd ynghlwm wrth y gronfa cydnerthedd economaidd? Mae rhywfaint o amheuaeth am hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y câi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny ei werthfawrogi'n fawr. Oherwydd, hyd yma, nid fu unrhyw arian ar gael i ffermwyr sydd wedi wynebu amrywiadau yn y farchnad—y mae cau'r sector gwasanaethu yn benodol wedi effeithio'n aruthrol arni.
Y sector llaeth: mae o leiaf 25 y cant o'r sector llaeth mewn sefyllfa fregus ar hyn o bryd yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld toriadau o 15 y cant mewn prisiau cig. Hefyd, pan edrychwch chi ar brisiau cig oen—mae colled incwm o 54c y cilogram. Felly, byddai rhywfaint o sicrwydd y bydd y cyllid cydnerthedd ar gael iddyn nhw yn cael ei werthfawrogi'n fawr.
A wnewch chi hefyd gadarnhau mai eich bwriad fyddai dod â chyfnod y taliad sylfaenol ymlaen i fis Hydref o ran talu? Rwy'n deall mai gweithred o ewyllys da gennych chi fyddai hynny ac, yn amlwg, mae arian i fusnesau yn ystyriaeth hanfodol, a gorau po cyntaf y gellir cyflwyno'r arian hwnnw.
A wnewch chi hefyd gadarnhau bod y cynllun talu benthyciadau yr ydych chi wedi'i weithredu dros y ddwy flynedd diwethaf—i wneud y taliadau hynny lle na ellir talu oherwydd arolygiadau ac ati—ar gael eleni ac y caiff y modiwleiddio, y modiwleiddio o 15 y cant a symudwyd gennych chi o golofn 1 i golofn 2, ei glustnodi ar gyfer y sector amaethyddol o dan y cynllun datblygu gwledig?
Rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at y gefnogaeth i'r sector pysgodfeydd, ac rydych chi'n cyfeirio'n gywir at y cwymp yn y cyfleoedd marchnata, yn enwedig yn y farchnad pysgod cregyn. Roeddech chi'n tynnu sylw at y ffaith bod pecyn cymorth yn cael ei lunio; a allech chi roi syniad inni pryd y gallem ni weld y pecyn cymorth hwnnw—pa fath o amserlen ydych chi'n gweithio iddi?
O ran archfarchnadoedd, rydym ni wedi clywed dros y penwythnos y bu, yn amlwg, cig o Wlad Pwyl ar y silffoedd mewn llawer o archfarchnadoedd, yn enwedig Asda a Sainsbury's. Rwyf wedi cael cadarnhad heddiw gan Sainsbury's a ddywedodd mai achos unigryw iawn oedd hynny oherwydd amodau'r farchnad. A allwch chi gadarnhau, o'ch trafodaethau ag archfarchnadoedd, eu bod wedi ymrwymo i gaffael a phrynu cynnyrch lleol, oherwydd mae'n ymddangos yn anghyson i mi fod y trethdalwr yn cefnogi llawer o archfarchnadoedd drwy wahanol fentrau, ac eto, maen nhw'n tanseilio amodau'r farchnad drwy fewnforio cynnyrch o'r fath i'r farchnad ddomestig?
A wnewch chi hefyd gadarnhau bod pob archfarchnad—. Credaf imi glywed yn gywir y Prif Weinidog yn cadarnhau hyn, ond rwyf ond eisiau cadarnhad bod enw pob unigolyn a warchodir—nid pobl sy'n agored i niwed ydyn nhw, ond pobl a warchodir—sy'n ymddangos ar restr y Llywodraeth, bellach wedi'u trosglwyddo i'r archfarchnadoedd sy'n gweithredu yng Nghymru ac y bydd yr amseroedd hyn ar gael iddyn nhw os ydyn nhw eisiau manteisio arnyn nhw. Roedd peth dryswch ynghylch pwy yw'r Gweinidog arweiniol yn y maes penodol hwn, oherwydd rwy'n deall bod y Gweinidog llywodraeth leol y bore yma'n dweud ei bod wedi cael trafodaethau helaeth gydag archfarchnadoedd yn y maes penodol hwn. A wnewch chi gadarnhau ai chi ynteu'r Gweinidog llywodraeth leol yw'r Gweinidog arweiniol yn y maes penodol hwn?
Ac o ran hawliau tramwy, ar hyn o bryd, mae disgresiwn, yn ôl a ddeallaf, o ran pa hawliau tramwy a gânt eu cau yng nghefn gwlad, ac mae hyn yn peri pryder sylweddol i rai ardaloedd. Pa drafodaethau y mae eich adran yn eu cael gydag awdurdodau lleol i ddeall bod cysondeb ledled Cymru o ran gweithredu, er mwyn lliniaru unrhyw wrthdaro a allai ddigwydd lle y byddai rhai pobl yn meddwl bod hawl tramwy ar agor ac eraill yn meddwl ei fod ar gau oherwydd y rheoliadau coronafeirws?
A wnewch chi hefyd gadarnhau sut y cynhaliwyd arolygiadau ar ffermydd ledled Cymru? A yw rheolau force majeure yn berthnasol i arolygiadau o'r fath oherwydd yr amgylchiadau unigryw yr ydym ni ynddynt?
Fy sylw olaf: rydych chi wedi tynnu sylw at y parthau perygl nitradau a'ch awydd i gyhoeddi'r rheoliadau hynny ar y wefan. Onid ydych chi'n credu, gyda'r farchnad yn dymchwel yn sgil cynnyrch yn dod oddi ar ffermydd, yr ansicrwydd sy'n bodoli ar hyn o bryd yn yr amgylchedd ledled Cymru, nad nawr yw'r amser i bentyrru mwy o reoliadau ar ddiwydiant sydd mewn helbul? Rydym ni i gyd yn derbyn bod un achos o lygredd yn un yn ormod, ond mae mynd ati nawr i gyhoeddi'r rheoliadau hyn pan na ellir eu gwyntyllu a'u trafod yn llawn a sicrhau y gellir deall mesurau cymorth, os, yn wir, y caiff mesurau cymorth eu cyflwyno, yn weithred gwbl anghywir ar eich rhan chi a'ch adran? Byddwn yn erfyn arnoch chi i aros nes bod yr amodau arferol yn bodoli er mwyn trafod y rheoliadau hyn a rhoi prawf arnyn nhw yn y Senedd yn hytrach na'u cyhoeddi ar wefan y mae Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo. Diolch.
Diolch, Andrew, am y rhestr o gwestiynau. Felly, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ym mhob un o'r meysydd rwy'n gyfrifol amdanyn nhw, ac er mai dyma'r cyfle cyntaf i gael gwneud datganiad yn y Senedd, rwy'n gobeithio—. Rwyf wedi bod yn ymdrin â chwestiynau a gohebiaeth ysgrifenedig di-ri yn ymwneud â materion y Cynulliad, ac mae fy adran wedi ceisio ateb cyn gynted â phosib.
Rydych chi'n gofyn, yn gyntaf, ynghylch a all ffermwyr gael arian o'r gronfa cadernid economaidd. Mae'n debyg bod dau faes yn y fan yma: rwy'n credu os yw ffermwyr wedi arallgyfeirio, felly, er enghraifft, os oes ganddyn nhw fusnes glampio, fe allan nhw yn sicr wneud hynny. Fodd bynnag, o ran gweithgarwch amaethyddol arferol, credaf fod angen inni edrych ar becyn pwrpasol ar gyfer hynny. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd, i weld a oes angen inni edrych ar yr hyn a gynigir o fewn y gronfa gadernid, neu a oes angen pecyn pwrpasol arnom ni. Fel arfer, byddem yn ystyried pecyn pwrpasol.
Mae llaeth yn amlwg yn fater allweddol, ac, unwaith eto, mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud ynghylch hynny. Yn ddiweddar, ddydd Llun rwy'n credu, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Llywodraeth y DU, George Eustice, yn pwysleisio'r angen i bob un ohonom ni gydweithio fel llywodraethau i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd i ddiogelu'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn ynghylch y diwydiant llaeth. Rwyf yn cael o leiaf un neu ddwy drafodaeth yr wythnos gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, ac, yn amlwg, mae effaith adlinio'r gadwyn gyflenwi, yn enwedig o ran cynnyrch llaeth, yn sylweddol. Rwy'n credu mai dyma oedd un o'r pethau cyntaf yr effeithiwyd arno pan chwalodd y sector gwasanaethau bwyd yn gynnar iawn hefyd.
O ran cynllun y taliad sylfaenol, mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn cadw golwg arno—a oes angen y cynllun benthyca arnom ni ym mis Hydref. Fel y dywedoch chi, rydym ni wedi gwneud hynny ers dwy flynedd bellach. Nid wyf wedi cael ymrwymiad gan Lywodraeth y DU o hyd ynglŷn â'r modiwleiddio 15 y cant; rydym ni'n dal i aros am hynny.
Yr amserlen ar gyfer pysgodfeydd, gobeithio yr wythnos hon—. Yn sicr, yr wythnos diwethaf, cefais drafodaeth gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, gyda Jim Evans, ac unwaith eto, rydym yn gweithio yn unol â'r amserlen yr wythnos hon.
Fe wnaethoch chi grybwyll y mater ynghylch cig eidion o Wlad Pwyl, a dygwyd hynny at fy sylw gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf ac yn fy nghyfarfod wythnosol rheolaidd gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'r manwerthwyr—fe'i crybwyllwyd yn y fan honno hefyd. Rydych chi'n gywir: mae Asda a Sainsbury's wedi dweud mai achos unigryw yw hyn, gan fod ganddyn nhw gymaint o alw am friwgig, yn enwedig ar ddechrau'r pandemig pan oedd pobl rwy'n credu yn prynu mewn panig llawer mwy nag y maen nhw—wel, nid wyf yn credu bod pobl yn prynu mewn panig nawr yn y ffordd a welsom ni ar y dechrau.
Mae'r angen i gefnogi ein cynhyrchwyr yn rhywbeth yr wyf wedi sôn amdano gyda phob archfarchnad fawr fy hun. Un o'r pryderon a ddygwyd i fy sylw yn gynnar iawn oedd bod rhai archfarchnadoedd o bosib yn ystyried ad-drefnu eu cynnyrch, ac y gallai hynny effeithio ar gynhyrchwr bach Cymru. Clywais am un enghraifft o hynny. Es i'r afael â hynny yn uniongyrchol gyda'r archfarchnad ac fe roddwyd y gorau i hynny, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Felly, credaf fod pob archfarchnad yn cydnabod bod angen inni hyrwyddo a chefnogi cynhyrchwyr bwyd Cymru pan allwn ni.
O ran yr archfarchnadoedd a'r rhestr o bobl a warchodir, rwy'n arwain ar y maes hwn; fodd bynnag, rwyf yn gweithio'n agos iawn gyda Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol a hefyd gyda Vaughan Gething, ac mae'r tri ohonom ni'n cwrdd ddwywaith yr wythnos ac wedi parhau i wneud hynny ynghylch archfarchnadoedd. Felly, fe wnaethoch chi glywed y Prif Weinidog yn iawn. Roedd gwneud hyn gyda'r archfarchnadoedd yn waith sylweddol, oherwydd mae diogelu data yn bwysig iawn, a doeddwn i ddim yn barod i ryddhau data heb wneud popeth priodol yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Felly, yn ôl a ddeallaf, bydd contractau data gyda phob un o'r wyth archfarchnad fawr wedi'u cwblhau erbyn heddiw, ac fe gaiff yr amseroedd hynny eu neilltuo ar gyfer y bobl hynny a warchodir. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn yr hoffwn i ei ailadrodd: nad pobl sy'n agored i niwed ydyn nhw, maen nhw'n bobl a warchodir. Felly, fel y clywsoch fi'n dweud yn fy natganiad, mae tua 85,000 o lythyrau wedi eu hanfon; y rheini yw'r bobl a warchodir, ac felly, i'r bobl hynny, bydd yr amseroedd ar-lein hynny sydd wedi eu blaenoriaethu ar gael. Dywedodd Sainsbury's a Tesco wrthyf ddydd Llun fod ganddyn nhw tua 100,000 o'r amseroedd hynny ledled y DU.
Bu cryn dipyn o drafod, rwy'n credu, ynghylch pobl sy'n agored i niwed, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n llwyr, ond os ydych chi'n edrych, rydym ni'n credu, ledled y DU, bod tua 15 miliwn o bobl y byddid yn eu cyfrif yn bobl agored i niwed yn y ffordd yr ydym ni'n ystyried hynny, felly ni allai'r archfarchnadoedd ymdopi, wrth gwrs, â'r nifer hwnnw o amseroedd danfon ar gyfer siopa ar-lein. Felly, roedd hi'n bwysig iawn sicrhau bod gennym ni'r amseroedd blaenoriaeth ar-lein hynny ar gyfer y bobl a warchodir, a dyna beth yr ydym ni wedi'i wneud.
Rydych chi'n holi am hawliau tramwy, sy'n amlwg yn faes y mae Hannah Blythyn yn arwain arno, ac fel y dywedwch chi yn gwbl gywir, awdurdodau lleol sydd â'r pwerau i gau'r llwybrau troed hynny, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn y maes hwnnw.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn egluro, y cyfan yr wyf wedi'i wneud heddiw yw dweud y byddwn yn rhoi'r rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru. Nid ydyn nhw yn cael eu cyflwyno. Fel y dywedwch chi, ni allwn ni dderbyn llygredd amaethyddol i'r graddau yr ydym ni wedi'i weld. Bu cynnydd sydyn yn ddiweddar—efallai eich bod wedi gweld y datganiad i'r wasg a ddaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru—rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Nid yw llygredd amaethyddol yn rhywbeth y byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei ganiatáu ar eu ffermydd ar unrhyw adeg, felly ni fydd y rhai sy'n dilyn arfer da yn gweld unrhyw newid mawr o ganlyniad i'r rheoliadau hynny. Mae llawer o bobl wedi gweld yr wybodaeth yn y rheoliadau hynny a theimlais ei bod hi'n bwysig rhannu'r wybodaeth honno. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a bu'n rhaid i mi gyhoeddi erbyn yr Hydref, byddwn i'n dweud. Fe wnes i ymrwymo i gyhoeddi a chyflwyno'r rheoliadau erbyn y Pasg; nid wyf yn gwneud hynny, y cyfan rwy'n ei wneud yw cyhoeddi'r rheoliadau drafft, a bydd digon o amser i drafod y rheini yn y Senedd.
Diolch am y datganiad. Dwi hefyd eisiau talu teyrnged i'r rheini oll sy'n gweithio o fewn y sector bwyd i sicrhau bod bwyd yn ein cyrraedd ni, o'r fferm i'r fforc, fel maen nhw'n ei ddweud. Rŷm ni'n gwerthfawrogi eu hymdrechion nhw, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fi, Weinidog, os caf i, fynegi siom ynglŷn â'r datganiad, achos dŷn ni prin wedi cael unrhyw beth newydd yn y datganiad yna. Yr hyn rŷm ni wedi'i gael, i bob pwrpas, yw ailadrodd cyhoeddiadau rŷch chi wedi'u gwneud yn flaenorol.
Yr unig beth newydd rŷch chi wedi'i gyhoeddi, i bob pwrpas, yw'r cyhoeddiad rŷch chi wedi'i wneud ynglŷn â drafft rheoliadau NVZ. Wrth gwrs, rŷch chi'n ymwybodol bod hwn yn un o'r pynciau mwyaf dadleuol rŷch chi wedi bod yn ymrafael ag ef ers blwyddyn a mwy, ac mae'n destun gofid a phryder mawr i'r sector. Felly, pam eich bod chi wedi dewis nawr ar gyfer gwneud cyhoeddiad o'r fath? Mae yna rannau helaeth o'r sector ar eu gliniau, fel rŷm ni wedi clywed, ac dwi'n ofni y byddai'n cael ei weld fel rhywbeth antagonistic, fel rhywbeth calon galed, fel rhywbeth creulon. Dwi dal ddim yn deall y rhesymeg ynglŷn â pham nawr. Dwi'n deall mai drafft yw e; dwi'n deall ei fod e ddim yn dod i rym, ond mi fydd y canfyddiad allan yn y wlad yn un, dwi'n meddwl, bydd yn gadael pobl yn crafu pennau ar adeg pan ddylem ni i gyd fod yn ffocysu ar y gwaith sydd angen ei wneud. Oherwydd, mae pwysau aruthrol, fel rŷch chi'n gwybod, ar y sector yn y cyd-destun sydd ohoni.
Dŷch chi ddim wedi dweud dim byd ynglŷn â chefnogaeth fusnes yn eich datganiad. Rŷch chi wedi ymhelaethu ychydig eiliad yn ôl, ond does yna ddim eglurder wedi bod ers wythnosau lawer ynglŷn ag a ydy ffermwyr yn mynd i allu cael mynediad i ryw fath o gymorth busnes. Mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn ag a ydy pobl yn gymwys ar gyfer yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi. Rŷm ni heddiw, am y tro cyntaf, wedi clywed awgrym efallai eich bod chi yn ystyried rhyw gynllun bespoke. Dwi'n meddwl y byddwn i wedi gwerthfawrogi clywed rhywbeth tebyg i hynny cyn heddiw.
Fel rŷm ni wedi clywed, mae galwadau wedi bod am sicrhau neu ring-fence-io 15 y cant o'r [Anhyglyw.] ar gyfer rhyw fath o top-up i BPS. Mae yna alwadau hefyd, yng nghyd-destun llaeth, wrth gwrs, wedi bod i chi ystyried talu ffi safonol y litr i ffermwyr sy'n gorfod gwaredu eu llaeth. Dwi hefyd wedi clywed nifer o leisiau yn galw am gymryd y gor-gynhyrchiad o laeth allan o'r farchnad trwy, er enghraifft, annog a chynorthwyo proseswyr llaeth i gynhyrchu mwy o gaws, ac i roi ychydig o'r caws yna i mewn i storfeydd. Mae yna nifer o opsiynau posibl, ond dwi'n clywed dim oddi wrthych chi ynglŷn â pha rai o'r rhain ŷch chi yn eu hystyried, os ydych chi o gwbl. Byddwn i wedi gobeithio y byddwn ni wedi cael peth o'r wybodaeth yna heddiw.
Dwi'n nodi eich bod chi'n dweud ychydig am brofion TB yn eich datganiad chi. Wrth gwrs, y realiti yw mi fydd mwy a mwy o ffermwyr yn gorfod hunan-ynysu, mi fydd llai a llai o filfeddygon ar gael i fynd i wneud y profion yma, ac felly, fel y bydd amser yn mynd yn ei flaen, bydd mwy a mwy o ffermydd yn gorfod cael eu cloi i lawr. Felly, pa ystyriaeth ŷch chi'n rhoi i ryw fath o gonsesiwn sy'n seiliedig ar risg? Yn amlwg, dŷn ni ddim eisiau lledaenu TB, ond dŷn ni ddim chwaith eisiau lledaenu COVID-19 trwy orfodi pobl neu i gael pobl i ddod i brofi ar eu ffermydd. Felly, dwi ddim yn clywed oddi wrthych chi sut ŷch chi'n mynd i geisio taro'r cydbwysedd yna.
Rŷch chi'n iawn pan ŷch chi'n dweud bod y sector pysgodfeydd angen cymorth. Yn sicr, maen nhw wedi bod yn aros i glywed oddi wrthych chi. Dŷn ni'n gwybod, er enghraifft, bod pysgotwyr yn Iwerddon erbyn hyn yn cael €350 yr wythnos gan y Llywodraeth, ac yn Ffrainc, €300 yr wythnos. Mae pysgotwyr yn yr Alban yn mynd i dderbyn 50 y cant o'u henillion blynyddol cyfartalog am o leiaf y tri mis nesaf. Allwch chi esbonio pa fath o gynllun rŷch chi'n sôn amdano fe? Ydy e ar hyd y llinellau hynny? Jest inni gael rhyw well syniad na'r hyn rŷm ni wedi clywed hyd yn hyn.
Dwi'n ymwybodol mai'r Dirprwy Weinidog llywodraeth leol sy'n gyfrifol am lwybrau cyhoeddus, ond mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd yn pwyso ar feddyliau nifer o deuluoedd amaethyddol. Fyddwn i ddim, wrth gwrs, yn dadlau y dylid cau pob llwybr cyhoeddus, ond mae yna rai etholwyr, enghraifft, wedi cysylltu â fi sydd â phobl fregus yn byw yn eu cartrefi nhw—pobl sydd â'r risg fwyaf pe bai nhw yn cael COVID-19—mae yna lwybrau cyhoeddus yn pasio heibio eu tai nhw, heibio neu ar draws buarth y fferm, yn agos i'r tŷ. Oni allwch chi sicrhau bod yna elfen yn cael ei chyflwyno lle mae yna achosion tebyg yn medru cael eu delio â nhw mewn ffordd fwy cyson ar draws Cymru, yn hytrach nag, fel rŷn ni wedi clywed, ar ffurf digon random ac ad hoc fel y mae hi ar hyn o bryd? Diolch.
Diolch am y cwestiynau hynny. Fe wnaethoch chi ddechrau gyda'r rheoliadau drafft, a byddwch yn sylweddoli na fu unrhyw beth gelyniaethus ynghylch hynny o gwbl; roeddwn wedi ymrwymo i gyhoeddi'r rheoliadau hynny cyn toriad y Pasg. Nid wyf yn gwybod beth fydd y sefyllfa o ran COVID-19 wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, ac fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, byddwch yn ymwybodol o adroddiad yr UKCCC, yr adroddiad defnydd tir, a'r hyn a gyfeiriodd at yr angen i ni ei wneud—. Nyni fyddai'r unig wlad yn y DU na fyddai wedi gwneud hynny. Ac rwy'n gwybod fod ar Llyr wastad eisiau arddel yr hyn yn yr ydym ni'n ei wneud o ran y newid yn yr hinsawdd, ac mae hwn yn benderfyniad anodd iawn—rwy'n sylweddoli hynny—ond nid wyf yn gwneud unrhyw beth ar hyn o bryd i fod yn elyniaethus, a gallaf eich sicrhau yn llwyr ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar y gwaith sydd wrth law yn fy adran.
Fodd bynnag, mae'r wybodaeth honno y byddaf yn ei chyhoeddi mewn rheoliadau drafft wedi bod yn nwylo llawer o bobl eisoes. Er mwyn bod yn dryloyw, credaf ei bod hi'n briodol bod yr wybodaeth honno ar gael. Cafwyd llawer o wybodaeth anghywir, rwy'n credu, ac rwy'n credu nad yw hi ond yn briodol y caiff y rheoliadau eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft a'u bod ar gael i bawb, nid i ychydig o bobl yn unig.
O ran cymorth i fusnesau, fel y dywedoch chi, soniais wrth Andrew R.T. Davies am yr hyn y byddai ffermwyr yn gallu gwneud cais amdano o fewn y cynllun presennol—y gwaith sy'n ymwneud ag edrych ar yr hyn y gallwn ni ei dynnu o'r cynllun hwnnw, os mynnwch chi, ac a oes angen pecyn pwrpasol. Ac yn sicr, fy nhrafodaethau gydag undebau'r ffermwyr—rwy'n credu y bu ganddyn nhw gynllun pwrpasol erioed, felly dyna oedd y rheswm dros edrych ar hynny. Ond mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ac yn amlwg mae angen gwneud hynny ar frys.
O ran llaeth, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd, a soniais fy mod wedi ysgrifennu at George Eustice—nid wyf wedi cael ymateb eto—ond mae'n amlwg bod llaeth yn cael ei drafod gyda rhanddeiliaid. Soniais yn fy natganiad fy mod yn bresennol—o bell, wrth gwrs—yng nghyfarfod y grŵp cydnerthedd amaethyddol. Mae grŵp ffocws llaeth hefyd. Felly, nid wyf yn eithrio unrhyw bosibiliadau, ac fe wnaethoch chi gynnig rhai awgrymiadau, ac rwy'n fodlon iawn i ystyried unrhyw bosibiliadau yn y dyfodol i helpu'r sector llaeth.
O ran TB, credaf fod pawb yn derbyn bod angen inni barhau i gynnal profion TB ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dim ond os yw milfeddygon o'r farn y gellir gwneud hynny'n ddiogel yn unol â'r cyngor iechyd cyhoeddus cyfredol ynghylch COVID-19 y gellir gwneud hynny. Felly, hyd nes y ceir cyngor pellach, ni chaiff ceidwaid eu cyfeirio at yr asiantaeth dalu berthnasol am brofion TB hwyr os ydyn nhw neu'r milfeddyg yn dweud na ellir cwblhau'r prawf. Ac rydych chi'n llygad eich lle, efallai y byddwn ni'n gweld ffermwyr yn hunanynysu ac na fydden nhw eisiau i bobl ddod ar eu fferm, ac rydym ni'n derbyn hynny'n llwyr, a dyna'r rheswm. Ond mae'n rhaid i ni, rwy'n credu, ar hyn o bryd barhau lle bo'n bosib cynnal profion TB. Yn sicr, mae swyddogion wedi bod mewn cyfarfodydd lu gyda gweinyddiaethau eraill y DU i benderfynu ar y safbwynt ar y cyd ynghylch y cyngor presennol o ran profion TB. Rwy'n pwysleisio: ni ddylai hynny ond parhau ar yr amod y gall pawb sy'n gysylltiedig gadw at y gofynion priodol o ran hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol.
O ran pysgodfeydd, fel y dywedais, rydym ni'n gweithio ar gynllun caledi yr wyf yn gobeithio—. Mae'n ddydd Mercher bellach; rwy'n gobeithio cyhoeddi'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gynnig i bysgotwyr. Mae'n hynod o bwysig ein bod yn eu cefnogi oherwydd, fel y soniais yn fy natganiad, rydym ni wedi gweld cwymp llwyr yn eu marchnad.
Credaf mai dyna'r holl gwestiynau. Diolch.
Prynhawn da, Weinidog. Diolch am eich datganiad. Yn amlwg, byddwch yn gwybod bod y gymuned ffermio yn poeni'n arbennig am effaith amharu ar y cadwyni cyflenwi. Gall hyn effeithio'n sylweddol ar allu ffermwyr i gael eu cynnyrch i'r farchnad, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar incwm cyffredinol y ffermwyr. Felly, mae cynrychiolwyr ffermwyr yn gofyn am neilltuo'r gronfa cadernid economaidd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd—ac yn y fan yma rwy'n adleisio ychydig o sylwadau Andrew R.T.—i'w dosbarthu i fusnesau fferm. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni a yw neu a fydd y mesur hwn yn cael ei weithredu? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Gweinidog, bod ffermwyr Prydain ymhlith y rhai mwyaf arloesol ac effeithiol ac effeithlon yn y byd, ond mae angen yr arian arnyn nhw i barhau i gyflawni yn y ffordd wych y buon nhw'n gwneud hyd yma.
Yn ail, Gweinidog, un o bryderon mawr y gymuned ffermio yw'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio llwybrau cyhoeddus, y cyfeiriodd Llyr ato yn gynharach, y mae rhai ohonyn nhw yn dod yn agos at eu ffermdai, sydd, yn ei dro, yn cynyddu'r tebygolrwydd y dônt i gysylltiad â'r coronafeirws. Er na fyddem ni, yn y Blaid Brexit, yn cefnogi cau llwybrau troed, y mae rhai ffermwyr yn gofyn amdano, byddem yn gofyn i Lywodraeth Cymru gychwyn ymgyrch yn tynnu sylw at y cod cefn gwlad, y mae rhai o'r bobl hynny sy'n mynd ar diroedd fferm yn aml yn ei ddiystyru. Mae hyn yn arbennig o amlwg pan nad yw pobl yn cadw cŵn dan reolaeth ac mae'r agwedd hon yn amlwg yn peri pryder mawr i ffermwyr, o gofio bod y tymor wyna ar ei anterth. Felly, unwaith eto, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i ymgyrch yn amlinellu'r prif agweddau ar y cod cefn gwlad?
Diolch, David Rowlands, am y ddau gwestiwn yna. Nid wyf yn hollol siŵr a oeddech chi'n sôn am y modiwleiddio 15 y cant. Os oeddech chi, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, nid ydym ni wedi cael sicrwydd o hyd gan Drysorlys y DU y byddwn yn cael yr arian hwnnw, ac rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiynau ynghylch y gronfa cadernid economaidd i Andrew a Llyr. Cytunaf yn llwyr â chi fod ffermwyr Cymru yn flaengar ac yn sicr mae arnyn nhw angen ein cefnogaeth a byddwn yn gweithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu, ar ôl edrych ar y gronfa cadernid economaidd a phecyn pwrpasol hefyd.
O ran eich ail sylw, rwy'n sicr yn fodlon iawn i hyrwyddo unrhyw beth sy'n diogelu cefn gwlad yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Hannah Blythyn yw'r Gweinidog sy'n arwain ar faes llwybrau cyhoeddus ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi gwneud llawer o waith gydag awdurdodau lleol. Yn benodol ynghylch llwybrau cyhoeddus ar diroedd fferm, rwy'n credu y byddai hawliau cyhoeddus y rhwydwaith—fel y dywedwch chi, ni fyddem ni eisiau eu gweld yn cau. Maen nhw'n bwysig iawn, yn enwedig ar yr adeg hon pan ydym ni'n annog pobl i fynd allan unwaith y dydd i wneud ymarfer corff ac ati. Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ffermwyr yn hapus gyda'r mynediad ar eu tiroedd. Yn sicr, unwaith eto, fe wnes i drafod hyn gydag un o'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf, ac roedden nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthyf, mewn gwirionedd, nad yw'r rhan fwyaf o lwybrau cyhoeddus ar diroedd fferm yn mynd yn agos at eu tai a bod ganddyn nhw'r seilwaith—felly, os meddyliwch chi am gamfeydd, er enghraifft, neu gatiau mochyn—nad yw ffermwyr yn eu defnyddio. Ond, yn amlwg, rwy'n hapus iawn i ystyried pethau ar sail achosion unigol. Mae Llyr wedi siarad â mi o'r blaen mewn gwirionedd am ddigwyddiad arbennig, y mae newydd ei grybwyll eto. Ond ar hyn o bryd, yn sicr nid oes cynlluniau i gau llwybrau troed ar draws tiroedd fferm, ond fel y dywedais, Hannah Blythyn yw'r Gweinidog arweiniol o ran llwybrau troed.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am eich datganiad. Sylwaf y dywedwch chi eich bod wedi cael sicrwydd gan yr archfarchnadoedd y byddant yn blaenoriaethu archebion ar-lein ar gyfer danfon nwyddau i gartrefi'r bobl hynny a warchodir. Heddiw, rwyf wedi cael dau e-bost gan deuluoedd a warchodir, nad ydyn nhw'n cael y gwasanaeth hwnnw gan yr archfarchnadoedd, ac y dywedir wrthyn nhw eu bod yn dal i aros am restr o'r bobl hynny a warchodir cyn iddyn nhw wneud hynny. Mae'n ymddangos bod eu hymateb yn annigonol yn barod. Os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod dan warchodaeth, dylen nhw roi blaenoriaeth i ddanfon nwyddau i gartrefi'r bobl hynny, hyd nes y gallan nhw wirio hynny'n iawn. Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut yr ydym ni'n sicrhau bod archfarchnadoedd yn gweithredu fel y dylen nhw ar y mater pwysig hwn, oherwydd fel arall, yn amlwg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod trefniadau eraill ar gael i'w cadw'n ddiogel os nad oes ganddyn nhw deulu neu gymdogion lleol y gellir ymddiried ynddyn nhw i wneud hynny ar eu rhan.
Yn ail, bu cynnydd sydyn iawn eisoes ym mhrisiau cyfanwerthu llysiau a ffrwythau. Felly, mae sawl peth yn deillio o hynny. Un yw, mae'n ymddangos i mi mai swyddogaeth y Llywodraeth yw cynnull byddin o bobl i alluogi llawer mwy o gynhyrchu garddwriaethol, gan ei bod hi'n anorfod y bydd tarfu ar gyflenwadau o dramor, oherwydd bod y pandemig hwn yn un byd-eang.
Ysgrifennais i a grŵp o Aelodau eraill atoch chi yn unigol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch yr hyn y gallai canolfannau garddio ei wneud o ran galluogi pobl i dyfu eu llysiau a'u ffrwythau eu hunain, ond hefyd i wella eu lles, yn gorfforol ac yn feddyliol, pan fônt wedi'u cyfyngu i'w cartrefi, a dylai'r bobl hynny sydd â'r fraint o fod â gardd gael ychydig mwy o amser i'w galluogi i wneud hynny. Felly, a oes unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhoi ynghylch sut y gallwn ni, o leiaf, sicrhau y gellir darparu'r planhigion nad ydyn nhw'n cael eu gwerthu ar hyn o bryd mewn canolfannau garddio sydd wedi cau, drwy ysgolion o bosib, fel y gellir eu plannu, gan na allwn ni golli'r cynnyrch hwnnw?
Ac yn drydydd, hoffwn ofyn ar ran y plant hynny nad ydynt yn gallu chwarae yn yr awyr agored yn eu cartrefi: mae'n gwbl hanfodol iddyn nhw y cedwir ein parciau cyhoeddus ar agor, neu fel arall bydd canlyniadau difrifol iawn, o ran eu lles, ond hefyd yn enwedig os ydyn nhw'n byw mewn cartrefi gorlawn—mae'r parciau'n fannau lle y gallan nhw ddianc rhag y tensiynau sy'n siŵr o fodoli gartref.
Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna. Felly, o ran y rhestr o bobl a warchodir ac archfarchnadoedd, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod y contractau data wedi'u llofnodi yr wythnos hon. Bu hyn yn ddarn sylweddol o waith, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r ffordd y bu'r archfarchnadoedd yn awyddus i weithio gyda ni ar y mater hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Rwy'n credu bod rhai archfarchnadoedd wedi edrych ar eu data eu hunain. Felly, mae'n debyg os oes gennych chi gerdyn teyrngarwch, eich bod yn gwybod beth yw proffil eich siopwyr. Felly, mae rhai archfarchnadoedd wedi bod fymryn yn fwy rhagweithiol wrth wneud hynny. Ond, yn amlwg, dim ond hyn a hyn o amseroedd danfon siopa sydd ganddyn nhw. Rwy'n credu bod siopa ar-lein yn cyfateb i ganran gymharol fach o'r ffordd y mae pobl yn siopa fel arfer. Felly, mae cynyddu hynny yn y ffordd y maen nhw wedi gwneud, rwy'n credu, wedi bod yn eithaf trawiadol.
Felly, erbyn diwedd y diwrnod gwaith heddiw, bydd pob un o'r wyth archfarchnad fawr wedi cael y rhestr ddata honno. Fel y dywedais, roeddwn i eisiau bod yn hollol siŵr nad oeddem ni'n rhannu data na ddylem ni fod yn ei rannu. Efallai fod gwledydd eraill ychydig yn fwy hyblyg, ond rwyf wedi bod yn awyddus iawn ein bod yn drylwyr iawn o ran rhannu'r data hwnnw. Felly, dylai unrhyw un sydd nawr ar y rhestr honno o bobl a warchodir sydd eisiau siopa ar-lein a chael y nwyddau wedi eu danfon i'w cartref allu gwneud hynny.
O ran canolfannau garddio, mae'n amlwg bod yn rhaid iddyn nhw aros ar gau. Rwy'n gwybod y caiff hynny ei adolygu'n barhaus, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw aros ar gau. Ond rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw wedi arallgyfeirio i werthu ar-lein. Mae gennyf i gwmni hadau—menter gymdeithasol—yn fy etholaeth i sy'n gwneud gwaith anhygoel ar-lein ac maen nhw wedi gorfod cyflogi mwy o weithwyr oherwydd eu bod wedi cael cymaint o archebion. Felly, rwy'n credu y gallwn ni weld bod pobl yn llawer mwy awyddus nawr i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, ac mae hynny i'w groesawu.
Ynghylch y gweithwyr sydd fel arfer yn dod i gasglu ffrwythau a llysiau—yn amlwg, yng Nghymru, mae garddwriaeth yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol. Mae oddeutu 1 y cant. Ond, unwaith eto, yn fy nghyfarfodydd wythnosol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried, oherwydd, yn amlwg, bydd effaith ar nifer y bobl sydd fel arfer yn dod i Gymru i'n helpu ni.
Ac nid yw'n ymwneud â bwyd a diod yn unig; fel arfer mae gennym ni gneifwyr defaid sy'n dod o Awstralia a Seland Newydd, felly mae yna broblem fawr yn ymwneud â gweithwyr amaethyddol a'r—. Byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol yn y niferoedd ac mae angen i ni ystyried ffyrdd eraill o annog pobl i wneud y swyddi hyn eleni.
Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â pharciau cyhoeddus. Credaf fod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at y tensiynau a'r anawsterau y bydd pobl yn eu profi o orfod cadw pellter cymdeithasol, ac ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na methu â mynd â'ch plant allan i fannau agored bob dydd. Felly, unwaith eto, nid yw parciau cyhoeddus yn fy mhortffolio, ond byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr y cyfleir y neges honno i bob rhan o'r Llywodraeth.
Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael llif o ymholiadau gan etholwyr sydd wedi bod yn cael trafferth wrth geisio siopa ar-lein. Mae'r rheini'n etholwyr a warchodir ac yn etholwyr sy'n agored i niwed hefyd. Bu dirnadaeth eang iawn y bu siopwyr yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'r rhai yn Lloegr. Felly, rwy'n credu mai fy nghwestiwn cyntaf yw a fyddech yn cydnabod y bu problem gyfathrebu y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hi ar frys gyda siopwyr yng Nghymru.
Rwy'n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am yr archfarchnadoedd yn cael y data ynghylch unigolion a warchodir nawr. Siaradais â phennaeth materion cyhoeddus Sainsbury's fy hun ddoe, ac fe ddywedodd wrthyf eu bod wedi derbyn y data erbyn hyn, ond mae fy etholwyr heddiw yn dal i gael negeseuon e-bost oddi wrth Sainsbury's yn dweud bod y gwaith yn dal ar droed ac na allant gofrestru, ac nid yw hynny'n dderbyniol ac mae angen ei ddatrys ar frys er mwyn i'r bobl sydd i fod i gael eu gwarchod, gael eu gwarchod. Mae'r parseli bwyd yn bethau da a chlodwiw, ond mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau cael eu siopa eu hunain a gofalu am eu hunain, ac mae angen inni ddatrys hynny ar frys.
Fe wnaethoch chi gyfeirio at y grŵp yr ydych chi ynddo gyda Julie James a Vaughan Gething. Rwyf hefyd yn bryderus gan fy mod yn dal i glywed gan etholwyr sydd ar y rhestr o unigolion a warchodir ond nad ydynt wedi derbyn y llythyr sydd ar eu cyfer, ac nid yw pob meddyg teulu â'r un ymagwedd tuag at gleifion a warchodir, felly mae yna broblem ynglŷn â phobl yn gallu cael y gefnogaeth honno yn y lle cyntaf. Felly, hoffwn ofyn i chi godi hynny gyda Julie James a gyda Vaughan Gething er mwyn i ni gael ymagwedd gyson tuag at y rhai a warchodir ledled Cymru.
Ac yna mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â phobl sy'n agored i niwed yn fwy cyffredinol, gan fod hwnnw mewn gwirionedd yn grŵp enfawr sydd y tu allan i'r grŵp o unigolion a warchodir. Mae pobl sydd â phroblemau golwg a phobl eraill sy'n agored i niwed sydd wedi siopa ar-lein erioed wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydyn nhw mwyach yn gallu cael blwch amser siopa ar-lein. Felly, hoffwn ofyn i chi beth yn eich barn chi yw'r ateb i'r bobl hynny, oherwydd nid wyf yn credu ei bod hi'n realistig i lywodraeth leol fynd â bwyd at yr holl bobl hyn—neu wirfoddolwyr—a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio'n rhagweithiol gydag archfarchnadoedd i roi hwb gwirioneddol i'r capasiti ar-lein hwnnw. Rwy'n gwybod ei fod yn her, ond, os gallwn gynyddu capasiti ar-lein, bydd hynny hefyd yn helpu i ymbellhau'n gymdeithasol, gyda llai o bobl yn mynd i siopa yn y lle cyntaf. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi beth yw eich cynlluniau, yn y dyfodol, i weithio'n rhagweithiol fel Llywodraeth gyda'r archfarchnadoedd i roi hwb gwirioneddol i'r capasiti ar-lein fel y gall hynny ddiwallu anghenion nid yn unig y rhai a warchodir ond y rhai sy'n agored i niwed yng Nghymru, sy'n grŵp mwy o lawer. Diolch.
Diolch, Lynne, am y cwestiynau yna. Dylwn ddechrau drwy ddweud nad yw pobl yng Nghymru wedi bod dan anfantais. Fy nealltwriaeth i yw nad oedd ond—. Ddydd Llun, dim ond un archfarchnad oedd wedi cael y data o Loegr. Felly, un archfarchnad oedd hi ddydd Llun. Roedd gennym ni dair archfarchnad ddydd Llun a oedd â'n data ni. Roeddem wedi llofnodi'r contractau data ddydd Llun. Felly, cyn belled ag y gwn i, roeddem ni ar y blaen, nid ar ei hôl hi. Felly, yn sicr, dydyn nhw ddim wedi bod dan anfantais.
Fe wnaethoch chi sôn fod rhai pobl ar y rhestr warchod—ac rwyf innau hefyd yn cael llawer o waith achos etholaethol ynghylch hyn—dydyn nhw heb gael y llythyrau. Daw oddi wrth bobl sy'n credu y dylen nhw fod ar y rhestr warchod. Byddaf yn sicr dwyn hynny i sylw Vaughan Gething, ond fy nealltwriaeth i yw, os wnaiff pobl gysylltu â'u meddyg teulu, dylen nhw gael gwybod wedyn os ydyn nhw ar y rhestr a phryd y cânt eu llythyr, ond, eto, rwy'n credu, erbyn heddiw, y dylai pawb ar y rhestr warchod fod wedi cael eu llythyr, ond byddaf yn sicr yn crybwyll hyn yn fy nghyfarfod nesaf gyda Vaughan a Julie James.
Fe wnaethoch chi sôn hefyd, yn y cwestiwn cyntaf, fod rhai o'ch etholwyr yn dal i gael negeseuon e-bost yn dweud ei fod yn waith sydd ar droed. Rwy'n cytuno nad yw hynny'n dderbyniol. Fel y dywedsoch chi eich hun, mae Sainsbury's wedi eich hysbysu eu bod bellach wedi cael y data, felly rwy'n credu bod angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod eu gwefannau yn gyfredol a byddaf yn gadael y datganiad hwn ac yn gwneud yn siŵr bod swyddogion yn cysylltu â phob un o'r wyth archfarchnad i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, oherwydd does dim byd mwy rhwystredig na mynd ar wefan pan nad yw'r wybodaeth gywir yno ichi.
Mae eich cwestiwn ynglŷn â phobl sy'n agored i niwed yn un gwirioneddol bwysig, ac rwyf wedi cyfeirio ato ychydig yn gynharach—ac rydym yn credu, ledled y DU, fod tua 15 miliwn o bobl sy'n agored i niwed yn ôl pob tebyg; y bobl y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, pobl sydd â phroblemau golwg, er enghraifft. Ond, yn yr un modd, er fy mod wedi gweithio'n rhagweithiol iawn gyda'r archfarchnadoedd, nid ydyn nhw'n gallu rhoi hwb i'w slotiau ar-lein yn y ffordd y credaf y mae rhai pobl yn disgwyl iddyn nhw ei wneud. Maen nhw hefyd yn ymdopi â—. Mae 20 y cant o staff rhai o'r archfarchnadoedd wedi ynysu eu hunain. Ni allan nhw brynu fflyd o faniau ar amrantiad. Mae llawer ohonyn nhw wedi llwyddo i gynyddu eu slotiau ar-lein, rhai ohonyn nhw yn sylweddol. Mae un archfarchnad—sef Morrisons—mae ganddyn nhw lawer iawn yn siopa ar-lein ac maen nhw wedi llwyddo i roi hwb i'w slotiau mewn ffordd nad yw'r lleill wedi llwyddo i'w wneud. Fodd bynnag, mae gan Tesco a Sainsbury's bellach 100,000 o slotiau y maen nhw'n eu cadw ar gyfer y grŵp blaenoriaeth hwnnw, ar gyfer y grŵp hwnnw a warchodir.
Rwy'n credu eich bod yn iawn ynghylch y parseli bwyd. Maen nhw yno i bobl sydd ar y rhestr o rai a warchodir sydd â neb o gwbl i ddod â bwyd iddyn nhw. Rwy'n falch iawn a hoffwn dalu teyrnged i'm swyddogion yn yr is-adran fwyd sydd wedi gwneud gwaith anhygoel i gael y parseli bwyd hyn mor gyflym. A phob un o'r 22 o awdurdodau lleol: rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw, oherwydd eu bod nhw'n bartner yn hyn. Mae system gadarn iawn yn ei lle erbyn hyn, yn gyflym iawn, i ddosbarthu'r parseli bwyd hynny. Ond nid yw'n addas i bawb, ac ni fydd rhai pobl yn gymwys ar eu cyfer. Ni fydd ar rai pobl eu heisiau nhw, a byddant yn parhau i siopa ar-lein, ond rwy'n credu, yn realistig, bod yr archfarchnadoedd yn gwneud popeth yn eu gallu, a'u bod yn parhau i wneud popeth yn eu gallu. Pan ymunais â chyfarfod y manwerthwyr ddydd Llun yr oedd DEFRA wedi ei drefnu—unwaith eto, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd wedi sicrhau staff ychwanegol i ymdopi â'r rhai sy'n hunanynysu ac sy'n sâl, ond rwy'n fodlon iawn parhau i weithio'n rhagweithiol iawn gyda'r archfarchnadoedd i geisio gwneud popeth a allaf.
Prynhawn da, Weinidog. Os gallaf, ar ddatganiad heddiw—y sôn am yr 85,000 o slotiau ar gyfer y rhestr o'r rhai a warchodir, ac i wir gymeradwyo'r sylwadau gan Lynne Neagle AC. Mae hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar gyngor gan y prif swyddog meddygol yng Nghymru, pan ddywedodd y byddai pawb wedi cael eu llythyrau erbyn dydd Llun, 6 Ebrill. Wel, yn sicr yn Aberconwy, mae pobl sydd nid yn unig yn credu y dylen nhw gael eu gwarchod, ond sydd mewn gwirionedd ag anhwylderau meddygol eithaf difrifol yn cysylltu â mi'n rheolaidd. Un enghraifft yw rhywun sydd â phroblemau anadlu difrifol, ac maen nhw ar y rhestr aros frys am drawsblaniad ysgyfaint dwbl ar hyn o bryd. Nawr, pan ânt yn ôl at eu meddyg teulu, mae'r meddyg teulu yn ei gwneud yn gwbl glir ac yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw arweiniad, dydyn nhw ddim yn gwybod unrhyw beth am y porth hwn sy'n bodoli i feddygon teulu mae'n debyg, a dywedir wrthyn nhw, 'O, dewch yn ôl ddiwrnod arall, neu cysylltwch â ni rywbryd eto, a siaradwch â'r derbynnydd, ond nid wyf yn gwybod dim amdano'. Ac mae gen i nifer o etholwyr sydd ag anhwylderau difrifol y mae cofnod meddygol ohonynt ac a fyddai fel arfer, oherwydd y cofnodion meddygol sydd ganddyn nhw, yn cael eu hystyried fel rhai a warchodir. Felly, os wnewch chi siarad â'r ysgrifennydd iechyd i sicrhau y gallwch chi eu hychwanegu nhw, oherwydd yn amlwg, byddwn ni'n mynd ar eu holau ar ran ein hetholwyr, ond rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o gyfle i chi eu hychwanegu at eich rhestr o'r rhai a warchodir.
Nawr, yn amlwg, mae gan Aberconwy sector bwyd a diod gwych, ac, fel pob busnes, oherwydd COVID-19, mae'r sector yn ei chael hi'n anodd. Mae rhai busnesau'n gorfod cael gwared ar fwyd—mae wedi cael ei grybwyll gan ein ffermwyr llaeth sy'n gorfod gwaredu llaeth. Felly, hoffwn wybod pa gamau cyflym y gallwch eu rhoi ar waith i gefnogi ein ffermwyr llaeth.
Hefyd, cwestiwn arall sydd gennyf i: yn sgil y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020, a ddaeth i rym ddoe, a wnewch chi egluro, Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn fesurau rhesymol i'w cymryd gan rai fel cigyddion, y rhai sydd bellach yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflenwi bwyd, cynhyrchwyr bwyd a chwmnïau cyflenwi? Beth yw'r mesurau rhesymol hynny y mae'n rhaid i'r busnesau hynny eu cymryd i gydymffurfio â'r angen i sicrhau bod pobl ar eu safle yn cadw 2m o'i gilydd? Gan fod rhai cwmnïau wedi dweud wrthyf i, 'Bydd yn rhaid inni haneru nifer y bobl os ydym ni am lynu'n gaeth wrth y rheolau hynny. A gawn ni arweiniad pryd, os nad ydym o anghenraid yn bodloni'r rheol 2m, y gellir rhoi canllawiau ataliol ar waith? Oherwydd nid yw'n ymarferol, ar hyn o bryd, iddyn nhw leihau nifer eu staff—gan na fyddan nhw wedyn yn gallu cyflawni'r rhwymedigaeth honno i gyflenwi neu, yn wir, i brosesu bwyd.
Cwestiwn arall sydd gen i: fel y gwyddoch chi efallai, mae gwinllannoedd yng Nghymru yn cael eu hystyried yn weithgareddau ffermio, ac felly nid ydyn nhw'n talu ardrethi busnes, felly nid oes ganddyn nhw werth ardrethol. Pa gymorth fyddai ar gael iddyn nhw? A fyddan nhw'n gallu manteisio ar y gronfa cadernid economaidd?
Cwestiwn tri: mae ein ffermwyr yn chwarae rhan hollbwysig o ran bwydo ein cenedl, ond gallai rhai—wel, rwy'n credu eu bod i gyd erbyn hyn—yn dioddef effeithiau negyddol yn sgil y gostyngiad sylweddol mewn prisiau wrth gât y fferm o ganlyniad i newidiadau i batrymau prynu defnyddwyr a chau rhai allfeydd yn y sector gwasanaethau bwyd. A fyddant yn cael rhywfaint o gymorth ariannol a phryd?
Fy nghwestiwn olaf, Gweinidog: codwyd pryderon gyda mi ynglŷn â'r blychau bwyd sy'n cael eu dosbarthu. Rwy'n ymwybodol bod pobl yn cael gwared ar rywfaint o'r bwyd hwn, oherwydd nid ydyn nhw yn ei hoffi, ysywaeth, ond, yn bwysicach, mae gan bobl ofynion deietegol ac, yn wir, alergeddau bwyd. Felly, pa ystyriaethau sydd ynglwm â'r broses o lunio'r blychau hyn i ystyried y rhai sydd â gofynion deietegol penodol ac, yn wir, alergeddau bwyd? Diolch.
Diolch, Janet, am y rhestr yna o gwestiynau. Ynghylch y grŵp o bobl a warchodir, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cwestiynau yn ymwneud â phobl sydd heb gael y llythyrau, a byddaf yn sicr yn trafod hynny gyda'r Gweinidog iechyd. Rwyf eisoes wedi dwyn hynny at sylw'r Gweinidog iechyd—dywedais mewn ateb cynharach bod etholwyr wedi cysylltu â mi. Ond rwy'n credu bod hanfod eich cwestiwn ynghylch 'a allwn ni ychwanegu pobl at y rhestr warchod?', ac, yn sicr, gallwn—gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi.
Yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar lawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod, fel yr economi, yn amlwg, yn gyffredinol. Yn sicr, rwyf wedi clywed am lawer o fusnesau—yn enwedig bwytai a'r sector gwasanaethau bwyd—a roddodd fwyd yn y dechrau, pan gyflwynwyd y mesurau hyn. Gwinllannoedd—nid wyf wedi cael dim yn benodol ynghylch gwinllannoedd. Rwyf yn ymwybodol iawn o'r un yn eich etholaeth chi. Ond, yn sicr, fy nealltwriaeth i yw y byddent yn gallu elwa ar y cymorth o'r gronfa argyfwng economaidd.
Rydych yn codi pwynt pwysig iawn am flychau bwyd, oherwydd, gallwch ddychmygu, er mwyn dosbarthu'r blychau bwyd hynny mor gyflym â phosib, fe wnaethom ni ddefnyddio yr un ddau gwmni ag yr oedd DEFRA wedi'u defnyddio hefyd, am eu bod yno ac yn barod i weithredu, ac roedd yn haws inni gael y mesurau caffael mewn cysylltiad â dosbarthu'r bwyd hwnnw. Felly, nid ystyriwyd gofynion deietegol, oherwydd, i'r rhai ohonoch chi nad ydych yn gwybod, mae blwch arferol yn cynnwys amrywiaeth o eitemau—mae ganddo laeth oes hir, mae ganddo gynnyrch tun, mae ganddo basta, mae ganddo bapur tŷ bach, grawnfwyd brecwast. Mae'r cynnwys wedi'i labelu'n glir iawn.
Ond un peth yr oeddwn i'n awyddus iawn—wel, roedd dau beth yr oeddwn i'n awyddus iawn i'w gwneud. Rydym ni wedi gwneud hyn, i ddechrau, am 12 wythnos, ond, yn yr un modd, hoffwn weld mwy o ffrwythau a llysiau, os oes modd o gwbl, yn y blychau hynny. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Aeth y blwch bwyd cyntaf allan ddydd Iau diwethaf, felly nid wyf yn siŵr os ydym yn dal yn wythnos un neu a ydym nawr yn mynd i wythnos dau o ran y blychau cyflenwi bwyd hynny, ond yn sicr erbyn wythnos tri, roeddwn i eisiau edrych ar y posibilrwydd o roi rhywfaint o fwyd ffres, ffrwythau a llysiau ffres, i mewn i'r blychau hynny. Felly, gobeithio, o fewn y—yn amlwg mae'r wythnos nesaf yn cael ei hystyried yn doriad, gobeithio pan ddown yn ôl y byddwn yn gallu gwneud hynny. Mae angen inni edrych hefyd ar y gofynion deietegol, ac yn enwedig os oes gan bobl gyflwr iechyd y mae angen i bobl gael y cynnyrch hwnnw. Felly, mae'n darparu bwyd hanfodol i bobl, ond rwyf—. Wyddoch chi, mae'n wych gweld y blychau hynny'n cyrraedd stepen drws pobl. Mae'n anodd iawn cael un ateb sy'n addas i bawb, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli bod angen cael y bwyd hwnnw allan ar unwaith.
Tri chwestiwn cyflym i orffen yr eitem hon ar yr agenda. Helen Mary Jones yn gyntaf.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad, ac ategaf yr hyn y mae pawb arall wedi'i ddweud ynglŷn â pha mor bwysig yw'r gwaith y mae pawb yn ein sector bwyd yn ei wneud, o ffermydd i'n siopau ac i'r gweithwyr siopau, a gwn fod hynny'n achosi cryn straen i rai ohonyn nhw.
O ran darpariaeth archfarchnadoedd, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog nawr y dylid bod yr holl restrau wedi eu darparu, ac roeddwn yn falch o'i chlywed yn dweud wrth Janet Finch-Saunders y byddwn yn gallu ychwanegu pobl at y rhestrau hynny. Soniwyd, er enghraifft, yn natganiad y Prif Weinidog am bobl â chlefyd niwronau motor yr ymddengys eu bod wedi cael eu diystyru'n gyfan gwbl. A gaf i ofyn i'r Gweinidog beth fyddai'r ffordd orau i ni symud ymlaen, fel Aelodau, os ydym yn cael sylwadau—fel y mae Lynne Neagle, a minnau, a llawer ohonom—gan etholwyr sy'n dal i gael eu hysbysu, fel cwsmeriaid archfarchnadoedd na allant ddefnyddio'r slotiau neu nad oes ganddyn nhw'r wybodaeth gywir? A fyddai'n ddoeth i ni ysgrifennu at y Gweinidog, neu a fyddai'n well ganddi pe baem ni'n codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r archfarchnadoedd, oherwydd, yn aml—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod—gallwn wneud pethau'n iawn yn genedlaethol, ond o ran eu bod yn gweithio ar lefel leol i bobl, mae'r wybodaeth sy'n dod i ni fel aelodau etholedig yn bwysig iawn?
Ynghylch darparu blychau bwyd, rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am yr angen i sicrhau bod hyn ar waith yn gyflym a gwn y bu yn achubiaeth lwyr i rai o'm hetholwyr. Cyfeiriodd y Gweinidog at awdurdodau lleol fel partner allweddol yn hyn i gyd. Tybed wrth i'r cynllun fynd rhagddo, y gallai hi ragweld y bydden nhw'n chwarae fwy o ran yn y broses caffael—gyda'r adnoddau'n dod yn sgil hynny, wrth gwrs—oherwydd gallai hynny fod yn gyfle. Mae'n sôn am gael mwy o fwyd ffres yn y blychau hynny, gallai fod yn gyfle hefyd drwy gynnwys awdurdodau lleol i gefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol. Felly, tybed a fyddai hi'n ystyried hynny eto wrth i bethau symud ymlaen.
Ynghylch mater gwahanol, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod llochesi anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig iawn o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac, wrth gwrs, caiff y llochesi hynny i gyd eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan lochesi yn fy rhanbarth sy'n tynnu sylw at y ffaith bod eu gwaith codi arian i gyd, wrth gwrs, yn dibynnu ar weithgareddau cymdeithasol, ar eu siopau—pob peth sydd wedi gorfod dod i ben. Tybed a all y Gweinidog heddiw ymrwymo i roi rhywfaint o ystyriaeth i ba gymorth a allai fod ar gael iddyn nhw, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'r anifeiliaid yn dal angen bwyd ac efallai y bydd angen gofal milfeddygol a bydd angen talu am hwnnw.
Ac, yn olaf, rwyf wedi cael sylwadau sy'n awgrymu i mi nad yw rhai elfennau o'r cymorth busnes presennol yn gweithio'n dda iawn i fusnesau twristiaeth—gallai llawer ohonyn nhw wrth gwrs fod yn ffermydd wedi arallgyfeirio. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n barc carafanau, ni fyddwch yn cael unrhyw incwm, ond ni fyddwch yn gallu rhoi seibiant i'ch staff o reidrwydd oherwydd y bydd eu hangen i dorri'r gwair, gwneud gwaith cynnal a chadw. Rwy'n sylweddoli mai mater i bortffolio Ken Skates yw hwn yn bennaf, ond tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw drafod ymhellach gyda Ken Skates gyda'r bwriad o sicrhau bod gennym ni becynnau cymorth busnes ar gael a fydd yn gweithio mewn gwirionedd i'r busnesau gwledig hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn cytuno eu bod yn bwysig iawn.
Diolch, Helen Mary, ac yn sicr, o ran y pwynt olaf yna, fe wnaf godi hynny gyda Ken Skates ynghylch y cymorth i fusnesau. Eich cwestiynau penodol eraill, felly. Rwy'n credu eich bod yn iawn ynghylch ein gweithlu manwerthu; maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed. Gwelsom y cynnydd enfawr hwnnw yn nifer y bobl a oedd yn pentyrru nwyddau ac mae hyn fwy neu lai wedi dod i ben. Yn sicr, yn y trafodaethau yr wyf wedi eu cael gyda'r archfarchnadoedd, maen nhw wedi gwneud hynny'n glir iawn sef bod y cyfnod prysuraf cychwynnol hwnnw wedi dod i ben bellach a'u bod nhw'n gallu llenwi eu silffoedd fel bod pobl—. Roedd ein staff yn y GIG sy'n gweithio'n galed iawn, yn cyrraedd eu harchfarchnad leol am 5 o'r gloch fel arfer i brynu llaeth a bara ac yn methu â gwneud hynny; nid yw hynny'n digwydd bellach, a dylech chi nawr allu siopa yn y ffordd arferol. Rwy'n falch iawn bod archfarchnadoedd hefyd wedi sicrhau'r amseroedd gwarchodedig hynny ar gyfer ein gweithwyr GIG, a oedd wir eu hangen, a hefyd ar gyfer yr henoed ar y dechrau, ond mae hynny'n amlwg wedi newid, a hefyd y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod llawer o archfarchnadoedd wedi sicrhau bod ganddyn nhw'r amseroedd gwarchodedig hynny ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd.
Rwy'n credu bod anghysondeb, hefyd, o ran—a byddai hyn wedi arwain, hefyd, at ein gweithwyr manwerthu yn ei chael hi'n anodd—amddiffyn eu hunain. Felly, i'r rheini ohonom ni sy'n mynd i archfarchnadoedd, gwelwn nawr fod gan y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd sgriniau, ac, unwaith eto, fe'm sicrhawyd gan yr holl archfarchnadoedd y byddai'r sgriniau hynny ar gael erbyn diwedd yr wythnos diwethaf.
Ynghylch y blychau bwyd, rwy'n deall yr hyn y mae Helen Mary yn ei ddweud am awdurdodau lleol, ond rwy'n credu ein bod wedi gofyn llawer gan ein hawdurdodau lleol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni system gadarn iawn ar waith. Mae pob un o'r 22 o awdurdodau lleol wedi cofrestru ar gyfer y cynllun cyflenwi bocsys bwyd. Bob dydd, rwy'n cael manylion am y nifer diweddaraf o becynnau bwyd sydd wedi eu dosbarthu ym mhob awdurdod lleol. Rwy'n credu bod y rhif ym Merthyr Tudful dros 400, hyd at ddoe. Mewn rhai awdurdodau lleol, nid yw gymaint â hynny, ond mae pawb wedi ymrwymo iddo nawr, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn.
O ran y ffrwythau a'r llysiau ffres, soniais yn fy ateb cynharach ein bod wedi ymrwymo i'r blychau hyn am 12 wythnos, ond drwy gydol y 12 wythnos hynny, gallwn er enghraifft, sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau yn y blychau hynny. Ar ddiwedd y 12 wythnos, efallai y gallem ni ystyried defnyddio cynhyrchwyr o Gymru, gan fy mod yn awyddus iawn i wneud hynny.
Y pwynt a godwch am lochesi anifeiliaid, ac yn amlwg i lawer o elusennau, maen nhw wedi gweld, mae'n debyg, ddiwedd ar eu gwaith codi arian a hefyd eu gweithgaredd masnachu, os ydynt yn rhedeg siop, er enghraifft. Mae hyn yn rhan o bortffolio Jane Hutt, a gwn ei bod wedi cynnal trafodaethau ynghylch cymorth i elusennau. Y bore yma, gwahoddodd y Prif Weinidog Ruth Marks i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith y mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a phartneriaethau sector y cynghorau gwirfoddol lleol wedi bod yn ei wneud ynglŷn â hyn. Ond, unwaith eto, byddaf yn codi'r pwynt hwn gyda Jane Hutt.
Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr holl bethau hynny y mae pobl wedi eu gofyn, ac eithrio ynghylch llwybrau troed. Pan gyhoeddwyd y rheoliad, cafwyd cyfnod adolygu 28 diwrnod hefyd. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog pryd fydd hi'n gwneud cyhoeddiad, ar ôl cynnal yr adolygiad hwnnw, oherwydd ymhen pythefnos bydd angen i hynny ddigwydd.
Rwyf eisiau holi sut yr ydym yn mynd i lwyddo i gael y cnydau yn y ddaear, ac a ydych chi wedi cael trafodaethau parhaus ynghylch cael gafael ar weithwyr, oherwydd mae'n amlwg iawn y gallai pobl sydd efallai heb waith, groesawu'r cyfle i helpu yn hyn o beth. Byddai unrhyw newyddion diweddar ynghylch hynny a allai fod gennych chi yn cael ei groesawu'n fawr.
Ond rwyf hefyd eisiau gofyn cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn, a hynny am ganolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion, ac, ynghyd â hynny, mae'n debyg busnesau eraill sy'n dioddef dirywiad. Felly, mae cwestiwn ehangach yma ynglŷn â sut y byddwn ni, fel Llywodraeth a chymuned sy'n cefnogi busnesau yn fwy cyffredinol, yn helpu pobl nid yn unig i arallgyfeirio o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ond i arallgyfeirio yn y ffordd y maen nhw'n gwerthu'r hyn y maen nhw'n ei wneud a sut yr ydym ni'n eu cefnogi wrth fwrw ymlaen. Rwy'n credu bod achos clir yma dros fuddsoddi yn y moddion hynny beth bynnag ydyn nhw, boed yn hyfforddiant, boed yn dechnoleg, neu beth bynnag ydyn nhw, i helpu busnesau sydd wedi ehangu, sydd yn gweithredu fel arfer yn y drefn bresennol, ond sydd angen mynd ar-lein er mwyn bod yn hunangynhaliol mewn cyfnod fel hwn nawr, ac mae wedi gwneud inni feddwl yn fwy i raddau helaeth, mae'n debyg am foderneiddio'r busnesau. Diolch.
Diolch, Joyce. O ran y llwybrau troed a'r cyfnod o 28 diwrnod, bydd yn rhaid i Hannah Blythyn eu hadolygu, a byddaf yn sicrhau ei bod yn ymwybodol o'ch cwestiwn.
Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych yn ei godi am gnydau yn y ddaear yn bwysig iawn, a chyfeiriais o'r blaen at y miloedd o bobl sy'n dod—wyddoch chi, gweithwyr amaethyddol tymhorol—ac yn amlwg mae hwnnw'n fater enfawr. Nid yw'n ymwneud â'r rhan arddwriaethol o amaethyddiaeth yn unig; y bobl eraill sy'n dod i'n helpu ni i gneifio defaid, er enghraifft. Mae hwnnw'n faes arall sydd wedi'i godi. Felly, rwyf yn cyfarfod yn wythnosol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros DEFRA a chymheiriaid mewn gweinyddiaeth ddatganoledig, ac mae gweithwyr amaethyddol hefyd yn cael eu crybwyll mewn rhyw fath o—ni allaf gofio beth yw'r enw ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r grŵp rhynglywodraethol gweinidogol ydyw. Rwyf wedi bod yn bresennol ddwywaith yn y grŵp hwnnw yn Llywodraeth y DU—mae hwnnw'n gyfarfod a gadeirir gan Michael Gove—lle mae'r sector gwaith a'r gweithlu amaethyddol wedi dod ar yr agenda. Felly mae'n amlwg yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni edrych arno. Fel y dywedsoch chi, mae yna bobl a all fod ar seibiant ar hyn o bryd, felly un o'r cwestiynau yr wyf i wedi bod yn ei ofyn yw: os oes gweithiwr ar seibiant sy'n cael cyflog ar hyn o bryd ac yn awyddus i wneud gwaith ychwanegol ym myd amaeth, o ran yr arian y mae'n ei gael, sy'n bwysig, a fydd hwn yn newid? Oherwydd yn amlwg byddai pobl eisiau sicrhau bod eu henillion yn ddiogel.
O ran canolfannau garddio, soniais fod rhai ohonyn nhw nawr yn gwerthu ar-lein. Dydw i ddim yn siŵr a ydyn nhw wedi cael cymorth busnes penodol gan bortffolio Ken Skates, ond rwy'n siŵr bod cyngor y gallem ni ei rannu gyda nhw er mwyn gallu gwneud hynny.
Cyn i mi symud at y cwestiwn nesaf, Llywydd, sylweddolais nad oeddwn wedi ateb Janet Finch-Saunders ynghylch y rheol 2m. Yn amlwg, i fusnesau bwyd—yn sicr, cododd proseswyr cig eu pryderon gyda mi yr wythnos diwethaf, a gwnes sylwadau amdanyn nhw. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi bod gan bob gweithle ran i'w chwarae wrth atal lledaeniad y coronafeirws, a'u bod nhw'n mynd ati mewn modd cymesur. Byddem yn gobeithio bod pob man o'r fath yn mynd ati mewn modd cymesur, a gwn fod nifer o fusnesau wedi haneru—nid haneru nifer y gweithwyr, ond gwneud yn siŵr bod y lle yn fwy. Mewn rhai meysydd, ni allwch chi wneud hynny. Felly, er enghraifft, ni allai deintydd fod 2m oddi wrth glaf, ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o gam rhesymol.
Bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi bod busnesau tymhorol yn y gorllewin a'r canolbarth yn enwedig yn hanfodol bwysig i'r economi, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yn anorfod, mae'r rhan fwyaf o incwm eu tymor bellach o dan fygythiad, ac mae'n bosib iawn y bydd rhai busnesau yn ennill dim yn ystod y gwanwyn na'r haf. Mae hynny'n creu bygythiadau difrifol iawn o ran yr hyn a ddaw ar ôl i'r argyfwng hwn ddod i ben, ac mae angen inni flaengynllunio rhywfaint, felly, ar gyfer y sefyllfa o ran llif arian a allai godi yn yr hydref ac yn y gaeaf. Yn hyn o beth, er bod busnesau wedi bod yn cael llawer o help gan y Llywodraeth, megis y cynllun cadw swyddi, lle y telir 80 y cant o gostau gweithiwr ar seibiant, er hynny, mae'n rhaid i'r busnesau barhau i dalu'r ffigur hwnnw o 20 y cant, ac fel y nododd Helen Mary Jones yng nghyswllt costau diogelwch a chostau cynnal a chadw, maen nhw'n parhau drwy gydol yr argyfwng hwn, er nad oes incwm yn dod i mewn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'r hyn fydd yn dilyn yn syth ar ôl yr haf i helpu'r busnesau hyn i oroesi'r gaeaf a chodi eto, oherwydd mae'n amlwg y bydd yn cymryd 12 mis, 18 mis, efallai dwy flynedd i oresgyn y problemau sydd wedi'u hachosi yn ystod yr wythnosau diwethaf.
Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, sef nad yw'r sefyllfa hon yn mynd i wella ar ei phen ei hun yn gyflym iawn. Mae hon yn mynd i fod yn broblem barhaus i gynifer o fusnesau. Rydych yn llygad eich lle: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi ein busnesau yn sylweddol. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog, Ken Skates, yn edrych ar hyn ac ar beth arall fydd ei angen. Felly yn sicr o ran fy mhortffolio i, soniais y byddaf yn cyhoeddi cefnogaeth i bysgodfeydd, er enghraifft. Dydw i ddim yn gwybod faint o amser y cymerith hi cyn bydd y farchnad yn ôl ar ei thraed ac y bydd cychod yn gallu mynd allan i'r môr. Felly, yn amlwg, wrth i mi edrych ar y cynllun hwnnw, mae angen imi edrych arno nid yn unig nawr ond yn y tymor hwy hefyd. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd dderbyn ei bod hi'n mynd i gymryd amser hir i adfer ar ôl hyn. Roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch peidio â bod eisiau mynd yn ôl i'r drefn arferol; rwy'n credu ein bod ni wedi gweld cydweithio a chydweithredu i'r graddau na welsom ni o'r blaen.
Diolch yn fawr i'r Gweinidog.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24 a 12.40, oni bai y bydd Aelod yn gwrthwynebu, caiff y cynigion ar gyfer egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) eu rhoi gyda'i gilydd i'w trafod ac i bleidleisio yn eu cylch. Nid oes gwrthwynebiad. Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Fe wnawn ni hynny.
Cyn inni symud ymlaen at y drafodaeth honno, rwy'n atal trafodion nawr am 15 munud.