– Senedd Cymru am 1:34 pm ar 13 Mai 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Mark Drakeford.
Diolch yn fawr, Llywydd. Yn fy natganiad heddiw, byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau'r Senedd ar y camau diweddaraf yn y gwaith o ymateb i'r argyfwng coronafeirws. Yn ôl Deddf Coronafeirws 2020, mae'n rhaid i Weinidogion Cymru adolygu'r rheoliadau bob tair wythnos. Daeth y cyfnod hwnnw i ben ddydd Iau diwethaf, ac ar ddydd Gwener cyhoeddais ein penderfyniadau yn sgil yr arolwg hwnnw. Byddaf yn gosod allan ein penderfyniadau fel Llywodraeth a'r dystiolaeth y tu ôl iddynt. Byddwn yn cadw llygad gofalus ar y dystiolaeth o hyn ymlaen er mwyn dal ati i warchod iechyd pobl Cymru.
Llywydd, unwaith eto, fe roddaf yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Senedd am y camau diweddaraf yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws. Fel yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar faterion nad ydyn nhw'n cael sylw yn y datganiadau sy'n dilyn gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, a Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.
Cyn i mi wneud hynny, hoffwn ddechrau drwy fyfyrio ar ddathliadau diwrnod VE ddydd Gwener yr wythnos diwethaf. Yn amlwg, newidiodd coronafeirws y ffordd y gwnaethom ni nodi'r pen-blwydd pwysig hwn, ond nid oedd yn llai teimladwy na thrawiadol o'r herwydd. Cefais y fraint o siarad â nifer o gyn-filwyr ar Zoom a thros y ffôn, ac ymunais â degau o filoedd o bobl ledled Cymru yn y ddau funud o dawelwch o risiau adeilad Llywodraeth Cymru yng Nghaerdydd. Hyd yn oed yn yr oes llawn argyfyngau sydd ohoni, roedd yn gwbl briodol dod o hyd i'r foment honno a chydnabod yr aberth a wnaed.
Llywydd, yr wythnos diwethaf rhoddais ddiweddariad i'r Aelodau ar gynnydd y clefyd. Yn drist iawn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dweud bod mwy na 1,100 o bobl wedi marw yng Nghymru. Mae person a theulu sy'n galaru y tu ôl i bob rhif, ac mae'r rhain yn ein hatgoffa o'r angen am wyliadwriaeth barhaus a'n hymrwymiad cyffredin i barhau i wneud yr holl bethau hynny sy'n ein helpu ni i achub bywydau. Ac oherwydd yr ymdrechion hynny y mae'r nifer o achosion newydd o goronafeirws a gadarnheir y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn eu cyhoeddi bob dydd wedi parhau i ostwng. Mae tua un o bob 10 o bobl sydd yn yr ysbyty yn cael triniaeth ar gyfer coronafeirws ar hyn o bryd, a phobl sydd â'r clefyd sydd mewn tua un o bob pum gwely gofal critigol, ac mae hyn i lawr o uchafbwynt o 42 y cant yng nghanol mis Ebrill. Wrth gwrs, rwy'n falch iawn o adrodd bod mwy na 3,000 o bobl yng Nghymru wedi gwella o coronafeirws ac wedi gadael yr ysbyty.
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ymateb i effeithiau'r cyfyngiadau symud ar ddinasyddion agored i niwed, fel y dywedais yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n gwybod nad yw'r cartref yn lle diogel i rai pobl, ac mae'n hanfodol bod y rhai sydd angen cymorth yn gallu parhau i'w gael er gwaethaf y cyfyngiadau presennol. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi lansio ymgyrch newydd i wneud yn siŵr bod dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig yn gwybod sut y gallan nhw gael gafael ar gymorth. Mae'n annog pobl sy'n agos iddyn nhw adnabod arwyddion cam-drin domestig a cheisio cymorth i'r rhai nad ydyn nhw'n gallu helpu eu hunain.
Ac yn hyn i gyd, Llywydd, mae gwaith gwirfoddolwyr yn yr argyfwng presennol wir yn ysbrydoli. Mae miloedd o bobl wedi cynnig eu gwasanaethau. Diolch i'r strwythur partneriaeth cryf sydd gennym ni yng Nghymru, cymerodd cynghorau gwirfoddol sirol ac awdurdodau lleol gamau cyflym i baru gwirfoddolwyr gyda'r bobl sydd angen eu cymorth, i ddarparu cymorth ar unwaith ac yn yr hirdymor. Yn Sir Gaerfyrddin, er enghraifft, ymatebodd mwy na 360 o bobl i alwad am gymorth gan yr awdurdod lleol i drefnu dodrefn ac offer yn ysbytai maes y sir o fewn 24 awr i gychwyn yr apêl.
A Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod swyddogaeth hollbwysig y trydydd sector. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd gennym ni y bydd miloedd o elusennau bach yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn cael grant cymorth busnes o £10,000 i'w helpu i ymateb i heriau ariannol COVID-19. Bydd y pecyn £26 miliwn newydd hwn yn cefnogi 2,600 o eiddo ychwanegol â gwerth ardrethol o £12,000 neu is, ac mae hynny'n cynnwys siopau sy'n cael eu rhedeg gan elusennau, safleoedd chwaraeon a chanolfannau cymunedol, nad ydyn nhw, tan nawr, wedi bod yn gymwys ar gyfer y math hwn o gymorth.
Llywydd, trof nawr at yr adolygiad tair wythnos statudol o'r rheoliadau cyfyngiadau symud yng Nghymru, a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf. Hwn oedd yr ail adolygiad i gael ei gynnal, a defnyddiodd y cyngor diweddaraf gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar gyfer Argyfyngau a chyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru.
Er ein bod ni wedi mynd heibio uchafbwynt cychwynnol yr haint, a bod cyfraddau'n parhau i ddisgyn, y cyngor clir gan yr arbenigwyr yw ei bod hi'n rhy gynnar i'r cyfyngiadau gael eu codi. Felly, rydym ni wedi cadw'r rheoliadau aros gartref ar waith ac wedi gwneud tri addasiad bach, a daeth yr addasiadau hyn i rym ddydd Llun. Rydym ni wedi cael gwared ar y cyfyngiad ymarfer corff unwaith y dydd—bydd angen i ymarfer corff ddechrau a gorffen gartref a bod yn lleol; rydym ni wedi caniatáu i ganolfannau garddio agor, os ydyn nhw'n gallu cydymffurfio â'r ddyletswydd cadw pellter corfforol; ac rydym ni wedi galluogi awdurdodau lleol i ddechrau cynllunio ar gyfer ailagor llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu cynghorau.
Y dystiolaeth a oedd yn sail i'n penderfyniad oedd bod cyfradd atgynhyrchu—cyfradd R—y feirws yn parhau i ostwng. Mae'n is nag 1, ond pe byddai'n dechrau ymgripio uwchlaw 1 unwaith eto, byddem ni'n gweld y perygl o dwf cyflymach. Nawr, os cânt eu cynnal, bydd yr amodau hyn yn caniatáu i ni gymryd camau cynyddol dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i lacio'r cyfyngiadau ymhellach, ond dim ond pan fydd hi'n ddiogel i hynny ddigwydd y byddwn ni'n gwneud hynny. Byddwn yn adolygu'r rheoliadau'n gyson er mwyn caniatáu i ni ymateb i'r dystiolaeth ddiweddaraf am y modd y mae'r feirws yn ymddwyn, effeithiolrwydd y cyfyngiadau a'r lefelau cydymffurfio.
Yn hyn i gyd, Llywydd, rydym ni'n parhau i gefnogi ymateb pedair gwlad i godi'r cyfyngiadau symud, ac yn parhau i weithio gyda phob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Ond, bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac amseriad y newidiadau yn cael eu penderfynu gan amodau yma yng Nghymru. Wrth ymateb i'r feirws, rydym ni wedi adeiladu ar ein seilwaith unigryw i Gymru. Mae ein Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru a'n perthynas â busnesau Cymru wedi ein helpu i sicrhau cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol o ffynonellau domestig a rhyngwladol. Ond, lle ceir trefniadau ar sail y DU a all weithio'n dda i ni, byddwn yn rhan o'r rheini hefyd. Ddydd Sul, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU ganolfan bioddiogelwch newydd ar y cyd i gynghori'r pedwar prif swyddog meddygol ar lefel yr haint ar draws y DU. Rydym ni mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch sut y gall hyn weithredu'n fwyaf effeithiol ledled y Deyrnas Unedig, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd wrth i'r prosiect ddatblygu.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddwn yn darparu mwy o fanylion am ein cynlluniau ar gyfer yr wythnosau nesaf. Mae'r rhain yn cael eu datblygu gyda'n partneriaid yn yr undebau llafur, mewn busnesau, mewn llywodraeth leol, yn y GIG ac mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill. Rydym ni'n cynllunio ar gyfer y dyfodol, a phan fydd gwasanaethau yng Nghymru yn agor, gall y cyhoedd fod yn ffyddiog y bydd y trefniadau yn ddiogel ac yn ymarferol.
Llywydd, mae'r argyfwng coronafeirws yn bell iawn o fod drosodd. Mae datblygiad y clefyd yn gofyn am ymateb parhaus â phwyslais dwys iawn. Byddaf yn parhau i adrodd bob wythnos i'r Senedd ar y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch i'r Prif Weinidog. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi dechrau cyhoeddi erbyn hyn y cyngor gwyddonol a thechnegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei dderbyn i helpu i hysbysu ei pholisïau ac i ymateb i COVID-19 yma yng Nghymru. Fel y gwyddoch, mae hyn yn rhywbeth yr wyf i wedi bod yn gofyn amdano ers cryn amser bellach, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig bod y wybodaeth honno'n cael ei chyhoeddi fel y gall pobl Cymru fod â ffydd yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru. Nawr, yn yr un ysbryd hwnnw o dryloywder a bod yn agored gyda'r cyhoedd, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno map ffordd a chynllun eglur ar gyfer codi'r cyfyngiadau symud yng Nghymru.
Roedd arweinydd Plaid Lafur y DU, Keir Starmer, yn iawn i alw am strategaeth codi cyfyngiadau symud yn San Steffan, ac mae Prif Weinidog y DU wedi cyflwyno cynlluniau Llywodraeth y DU erbyn hyn. Yma yng Nghymru, rydych chi eisoes wedi dweud bod Llywodraeth Cymru yn datblygu ei fframwaith i lunio map ffordd mwy manwl, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pryd yn union y gall pobl Cymru ddisgwyl gweld y map ffordd hwnnw'n cael ei gyhoeddi, ynghyd â chyfres o amserlenni eglur? A wnewch chi hefyd gadarnhau y byddwch chi'n cyhoeddi'r cyngor gwyddonol sy'n sail i'r strategaeth codi cyfyngiadau honno?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Paul Davies am y pwyntiau yna. Rwy'n falch iawn ein bod ni'n cyhoeddi'r cyngor gwyddonol a thechnegol. Rwy'n cytuno'n llwyr â Paul Davies ei bod hi'n bwysig bod y cyhoedd yn gallu gweld y dystiolaeth sylfaenol yr ydym ni'n ei defnyddio wrth wneud y penderfyniadau anodd hyn. Fy ngobaith i yw y byddwn ni'n gallu llunio ein cynllun codi cyfyngiadau, fel y'i galwyd ganddo, yn gyhoeddus ddydd Gwener yr wythnos hon. Mae gwaith yn dal i gael ei wneud arno o hyd. Rwyf i eisiau iddo fod yn eglur ac rwyf i eisiau iddo allu cael ei ddeall yn hawdd gan ddarllenwyr y cyhoedd yng Cymru. Felly, dyna fy uchelgais—y byddwn ni'n ei gyhoeddi ddydd Gwener ac yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n gwneud y gwaith y cyfeiriodd Paul Davies ato: helpu ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru i fod yn eglur am gynlluniau Llywodraeth Cymru ac i ddeall ar ba sail y maen nhw'n cael eu llunio.
Prif Weinidog, rwy'n gofyn am gynllun codi cyfyngiadau symud oherwydd bod pobl Cymru angen yr eglurder hwnnw, ac ar hyn o bryd, mae digon o ddryswch ynglŷn â rheoliadau a chanllawiau Llywodraeth Cymru. Ac fe ddywedaf wrthych chi pam mae dryswch: oherwydd eich bod chi eich hun wedi dweud y gallai dau o bobl o wahanol aelwydydd gyfarfod mewn parc os ydyn nhw'n cadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac yna fe'n hysbysir nad dyma yw cyngor Llywodraeth Cymru ac nad yw aelodau gwahanol aelwydydd yn cael cyfarfod mewn parciau; mae eich Gweinidog addysg wedi dweud bod ysgolion yng Nghymru ar gau tan 1 Mehefin, tra bod eich Cwnsler Cyffredinol yn credu y byddan nhw'n bendant ar gau drwy gydol mis Mehefin; ac mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi dweud ei bod hi'n iawn i bobl yng Nghymru ddechrau pysgota, ar sail ymateb honedig a gafodd gennych chi, ac eto, mewn ymateb i gwestiwn ysgrifenedig a gyflwynwyd gan fy nghyd-Aelod yr Aelod dros Orllewin Clwyd fe'i gwnaed yn benodol eglur gennych chi na ddylai pobl fynd i bysgota tra bod y cyfyngiadau'n weithredol. A nawr, mae'n ymddangos bod hyd yn oed eich Gweinidog iechyd wedi drysu ynghylch pa un a gaiff eistedd ar fainc mewn parc a chael picnic gyda'i deulu ai peidio.
Prif Weinidog, sut mae pobl Cymru i fod i gael unrhyw synnwyr o eglurder yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru pan nad yw'n ymddangos bod eich Gweinidogion eich hun yn deall y rheolau eu hunain? Efallai fod angen i Lywodraeth Cymru ailfeddwl ei strategaeth gyfathrebu fel bod pobl Cymru yn cael y negeseuon cywir.
Wel, Llywydd, nid wyf i'n gwybod pwy wnaeth gynghori arweinydd yr wrthblaid i ddefnyddio hynny fel pwnc cwestiynu, ond pe byddwn i wedi bod yn arweinydd y Blaid Geidwadol yng Nghymru, byddwn yn sicr wedi dweud wrthyn nhw am ailfeddwl. Oherwydd, pe byddai angen cyngor ar eglurder a sut i beidio â drysu'r cyhoedd arnaf i, yn sicr ni fyddwn i'n ei gymryd gan blaid a wnaeth bopeth a allai yr wythnos diwethaf i wneud yn siŵr nad oedd pobl yng Nghymru yn eglur ynghylch sut y byddai'r gyfraith yng Nghymru yn gweithredu.
O ran yr holl bwyntiau y mae'r Aelod wedi eu crybwyll, rwy'n credu bod eglurder yno. Ceir creu helynt—mae pobl yn barod iawn, rwy'n canfod, i geisio cymryd ystyr o eiriau nad yw yno. Pan atebais i gwestiwn am bobl yn cyfarfod, dyna'n union a ddywedais. Rwy'n gweld nad yw pobl yn mynd allan i gyfarfod â phobl eraill—ni chaniateir hynny o dan ein rheoliadau—ond mae pobl sy'n cerdded o'u drws ffrynt eu hunain i lawr eu palmant eu hunain ac yn gweld rhywun arall sydd, ar hap, hefyd yn cerdded ar yr un stryd, ac maen nhw'n gallu dim ond—. Does dim byd yn gwahardd pobl sy'n cyfarfod ar hap yn y modd hwnnw rhag cyfnewid ychydig eiriau â'i gilydd os ydyn nhw ar bellter cymdeithasol oddi wrth ei gilydd. Mae hynny'n hollol wahanol i bobl yn cynllunio'n bwrpasol i adael eu cartrefi i gymryd rhan mewn cyfarfyddiadau o'r fath. Felly, y cwbl rwyf i'n ei wneud yw adlewyrchu gwirioneddau beunyddiol pobl yma yng Nghymru.
Cyn belled ag y caniateir pysgota, fe'i caniateir o dan ein rheoliadau presennol, y rhai a basiwyd i'r gyfraith ddydd Llun, ond mae'n rhaid ei wneud yn lleol ac mae'n rhaid i bobl gadw pellter cymdeithasol. Yma yng Nghymru, rydym ni'n annog pobl i aros gartref. Dyna'r ffordd orau y gallwn ni helpu ein gilydd i oresgyn yr argyfwng hwn. Dyna pam yr ydym ni i gyd yn gwneud yr aberth yr ydym ni'n ei wneud. Ond mae pobl yn cael gadael eu cartrefi fwy nag unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff erbyn hyn, ac os mai eich ffordd chi o ymarfer corff yw cerdded o'ch cartref i afon ac eistedd yno, nid yn agos at bobl eraill, ac i fynd i bysgota, yna caniateir hynny o dan y rheolau yng Nghymru. Ond mae'n rhaid iddo fod yn lleol ac mae'n rhaid gwneud hynny mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol.
A gadewch i mi orffen drwy wneud y pwynt hwnnw unwaith eto. Y cwestiwn y dylai pobl yng Nghymru ofyn iddyn nhw eu hunain yw: a yw fy nhaith oddi wrth fy nrws ffrynt fy hun yn angenrheidiol? Os yw'n angenrheidiol, yna rydych chi'n cael gwneud hynny yn unol â thelerau ein rheoliadau. Ond y cyngor gorau i bob un ohonom ni yw sicrhau cyn lleied a phosibl o gyswllt â phobl eraill, oherwydd wrth wneud hynny, gellir atal cylchrediad y feirws a gall pob un ohonom ni fynd ati i sicrhau diogelwch ein hunain a diogelwch pobl eraill.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Cyn troi at fy nghwestiwn, hoffwn wneud pwynt o drefn ar ddiwedd y datganiad yma, os wnewch chi ganiatáu hynny, ar y ffaith i'r Llywodraeth rannu ei strategaeth arbrofi ac olrhain cysylltiadau wyth munud union cyn dechrau'r sesiwn graffu yma, a heb friffio’r gwrthbleidiau o flaen llaw, fel yr addawyd i mi'r bore yma.
Bythefnos yn ôl, Prif Weinidog, pan ofynnwyd iddo gan Andy Davies o Channel 4 yn y gynhadledd feunyddiol i'r wasg, a oedd gan Lywodraeth Cymru ynau yn ei stoc pandemig pan gyrhaeddodd coronafeirws y DU, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd bod hynny'n wir. A oedd hynny'n gywir mewn gwirionedd?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n—. Rhoddodd y Gweinidog iechyd yr ateb hwnnw; rwy'n siŵr ei fod yn tynnu ar yr wybodaeth orau a oedd ganddo ar y pryd. Nid yw manylion pob eitem a oedd mewn storfa ar ddiwrnod penodol gen i o fy mlaen, ac ni fyddai'n rhesymol disgwyl i mi fod â nhw o fy mlaen. Os oedd yr Aelod eisiau cael y wybodaeth honno, gallai fod wedi cyflwyno un o'i gwestiynau ysgrifenedig niferus i mi a chael yr wybodaeth.
Prif Weinidog, ysgrifenasoch ataf yr wythnos diwethaf mewn ymateb i lythyr a ysgrifennais atoch, yn cadarnhau nad oedd, mewn gwirionedd, yn groes i'r hyn a honnodd y Gweinidog iechyd, unrhyw ynau yn y stoc pandemig rhwng Mehefin 2016 a Chwefror 2020.
Nawr, ym mis Mehefin y llynedd, argymhellodd y grŵp cynghori ar fygythiadau feirws anadlol newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, y pwyllgor sy'n cynghori Llywodraeth y DU ar y stoc pandemig, yn benodol y dylai gynau, a fu'n un o'r prif feysydd a oedd yn peri problemau o ran cyfarpar diogelu personol, yn cael eu hychwanegu ato. Nawr, pan godais yr adroddiad hwnnw gyda chi yn flaenorol, dywedasoch y byddech chi'n mynd i ffwrdd ac yn edrych arno. A allwch chi gadarnhau felly bod rhywun o fewn Llywodraeth Cymru wedi gweld yr argymhelliad hwnnw, ac a allwch chi ddweud pryd y digwyddodd hynny? Neu a wnaeth Llywodraeth y DU fethu â rhannu'r wybodaeth hon a allai fod wedi achub bywydau?
Wel, Llywydd, ni allaf ateb y math hwnnw o gwestiwn manwl yn y fan yma y prynhawn yma. Rwy'n berffaith fodlon i ateb y math hwnnw o gwestiwn manwl, ond nid yw'n un yr wyf i'n credu y gellir ei ateb o dan yr amgylchiadau yr ydym ni ynddyn nhw ar hyn o bryd. Byddaf yn mynd ar drywydd y pwyntiau a wnaeth yr Aelod ac yn ei ateb.
O ran gynau, gadewch i ni fod yn eglur: rydym ni wedi llwyddo i ymdrin â'r pandemig yng Nghymru heb orfod dweud o gwbl wrth y GIG yng Nghymru nad oedd cyflenwad o'r gynau yr oedd eu hangen. O ganlyniad i gyswllt gan GIG Cymru a chan Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi gallu dod â hanner biliwn—mae'n ddrwg gen i, hanner miliwn—0.5 miliwn o ynau drwy Faes Awyr Caerdydd, yr ydym ni wedi gallu helpu i gyflenwi rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig â nhw i ymdrin â'r hyn sydd, yn wir, yn eitem brin yn ystod argyfwng y coronafeirws. Ond nid ydym ni erioed wedi methu â gallu cyflenwi'r rheini i'r GIG yng Nghymru, ac o ganlyniad i'r ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud, mae gennym ni gyflenwad yn ein storfeydd bellach a fydd yn ddigonol ar gyfer yr wythnosau i ddod wrth i ni barhau i fynd ar drywydd ffynonellau cyflenwi eraill, yn ddomestig ac yn rhyngwladol.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi wedi darllen Animal Farm? Pam, pan fyddwch chi'n beicio drwy Bontcanna i'ch rhandir, oeddech chi'n meddwl ei bod hi'n iawn i bobl gymdeithasu â rhywun o'r tu allan i'w haelwyd—ac ni ddywedasoch ar eu palmant eu hunain, ond yn y parc? Onid ydych chi'n deall, er efallai fod gwahardd pobl rhag gyrru i ymarfer corff yn iawn i Bontcanna, ond nid ydyw i lawer sy'n byw mewn mannau eraill? A ydych chi wedi meddwl pa neges y mae'n ei hanfon pan fo'ch Gweinidog iechyd yn ymlacio ar fainc yn yr haul, gyda'i deulu, yn bwyta tecawê, pan fo'r heddlu wedi ymdrin ag eraill a oedd yn gwneud hynny?
Pa Weinidog oedd yn meddwl bod cymaint o frys i newid y rheolau y diwrnod wedyn fel ei fod wedi osgoi pleidlais ymlaen llaw yn Senedd Cymru? Yn hytrach na bod pawb yn ymdrechu gyda'i gilydd ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'n ymddangos bod rhai sy'n fwy cyfartal nag eraill. Yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth y DU i gydgysylltu strategaeth gydlynol, mae'n ymddangos eich bod chi'n ymfalchïo mewn chwarae gyda rheolau dim ond i wneud Cymru ychydig yn wahanol. Sut mae wedi'i seilio ar werthoedd unigryw i Gymru i fynnu bwlch o ddeuddydd rhwng pryd y gall canolfannau garddio agor yng Nghymru a Lloegr?
Yn fwy arwyddocaol, rydym ni'n gweld y farchnad eiddo'n ailagor yn llawn yn Lloegr heddiw, ond yng Nghymru, mae'n dal i fod ar gau am gyfnod amhenodol. Os yw hynny'n golygu nad ydym ni'n codi'r trethi yng Nghymru y maen nhw'n ei wneud yn Lloegr, sut ydym ni'n mynd i godi'r arian ar gyfer ein GIG? A fyddwch chi'n gofyn i Lywodraeth y DU am gymorth?
Yn Lloegr, mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion ddiddymu cyfyngiadau cyn gynted ag y maen nhw'n credu nad oes eu hangen nhw i reoli heintiau. Yng Nghymru, rydych chi newydd gael gwared ar y gofyniad cyfreithiol hwnnw. Yn hytrach, gall Gweinidogion gadw cyfyngiadau am hyd at chwe mis, yn honedig, o dan eich polisi, os ydyn nhw'n cael effaith uchel, gadarnhaol ar gydraddoldeb ac yn cynnig unrhyw gyfleoedd i ehangu cyfranogiad a chymdeithas fwy cynhwysol. Prif Weinidog, onid yw'n bryd i chi gael eich dwyn i gyfrif gan gyfraith sylfaenol y DU sy'n ei gwneud yn ofynnol i bob cyfyngiad fod yn rhesymol a chymesur?
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwbl anghywir yn meddwl nad yw'r gyfraith honno'n berthnasol yng Nghymru. Mae hi yn berthnasol yng Nghymru; mae'n parhau i fod yn berthnasol yng Nghymru.
Rwy'n gwybod. Yn wir, ydy, mae—
Wel, rwy'n credu eich bod chi newydd ddweud eiliad yn ôl—a byddai'n well gennyf i chi beidio â thorri ar fy nhraws, a dweud y gwir. Rwy'n credu eich bod chi wedi dweud—
Ewch ymlaen, Prif Weinidog.
—eiliad yn ôl nad oedd Gweinidogion Cymru bellach wedi'u rhwymo gan yr angen i ddileu cyfyngiadau os canfyddir nad ydyn nhw'n gymesur â'r angen i ymdrin â'r argyfwng. Llywydd, nid yw hynny'n wir. Mae Gweinidogion Cymru wedi eu rhwymo'n llwyr gan y gofyniad hwnnw a bydd hynny'n parhau i fod yn wir.
Nid oeddwn i'n deall yn llwyr y pwyntiau a wnaeth yr aelod ar ddechrau ei gwestiynau niferus, ac rwy'n credu fy mod i wedi ymdrin â nifer ohonyn nhw eisoes. O ran y pwynt a wnaeth am symud yn unol â'r Deyrnas Unedig, doedd dim byd o gwbl yn atal cydweithwyr yn Lloegr rhag penderfynu caniatáu mynediad i ganolfannau garddio ddydd Llun yr wythnos hon pe bydden nhw wedi dewis gwneud hynny. Roeddem ni eisoes wedi cyhoeddi y byddai ein newidiadau yn dechrau o ddydd Llun. Pe bydden nhw wedi dymuno cael dull o ymdrin â hynny ar draws y Deyrnas Unedig gyfan, gallen nhw fod wedi gwneud yr un peth. Mae'n bosibl—gwn fod Mr Reckless yn cael trafferth gyda'r syniad hwn—i bobl yn Lloegr gyd-fynd â'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, nid y ffordd arall yn unig.
O ran y farchnad eiddo, dydym ni ddim yn bwriadu gwneud yr hyn a gyhoeddwyd yn Lloegr. Dim ond nifer gyfyngedig o fesurau, Llywydd, yr wyf i'n credu sy'n ddoeth i Lywodraeth eu cymryd os nad yw'n peryglu ailgylchrediad y feirws a chynnydd i'r gwerth R. Y cyngor a gawsom yn arwain at y newidiadau a wnaed gennym oedd y tri pheth cymedrol hynny, ac roedden nhw'n ddigonol i gadw'r R i lawr yng Nghymru gan gynnig mwy o ryddid i ddinasyddion Cymru. Bob tro y byddwch chi'n ychwanegu pwnc arall i'r repertoire hwnnw, rydych chi'n cynyddu'r risg y bydd R yn codi eto. Cymerwyd y farn gennym ni bod caniatáu i bobl gerdded o gwmpas tai pobl eraill er mwyn agor y farchnad eiddo—nad hwn oedd y pwynt cywir yn y cylch i wneud hynny yng Nghymru. Dyna yw ein barn ni o hyd. Rydym ni'n adolygu hynny, yn ogystal â phopeth arall, yn barhaus gan ein bod ni wedi'n rhwymo, yn dra gwahanol i'r hyn a awgrymodd yr Aelod, i godi cyfyngiadau pan nad ydyn nhw'n gymesur â natur yr argyfwng yr ydym ni'n ei wynebu.
Prif Weinidog, mae fy etholwyr wedi croesawu'n gynnes y penderfyniad a wnaethoch yr wythnos diwethaf i ymestyn y cyfyngiadau symud ac i gadw'r neges 'Aros Gartref' yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn croesawu'n gynnes y camau a gymerasoch. Mae fy nghwestiynau'n ymwneud â therfynau’r penderfyniadau hynny. Mae rhai o'm hetholwyr yn bryderus iawn am y penderfyniad i agor canolfannau garddio pan ellir prynu'r eitemau hynny'n gyffredin yn yr archfarchnad, er enghraifft.
Roeddwn i hefyd eisiau gofyn pa asesiadau effaith a gynhaliwyd ar y penderfyniadau yr ydych chi'n eu gwneud ynglŷn â llacio'r cyfyngiadau symud. Yn arbennig, rwy'n pryderu am y cyhoeddiad ddoe y bydd clybiau golff yn ailagor, ac rwy'n credu ei bod hi'n anodd deall hynny ar adeg pan fo plant yn wynebu cymaint o gyfyngiadau. Rydym ni hefyd yn gwybod bod ynysu cymdeithasol yn cael effaith enfawr ar iechyd meddwl pobl, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed a difreintiedig, nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar bethau fel Skype. Felly, fy nghwestiwn i yw: pa asesiadau o'r effaith ar hawliau plant a gynhaliwyd ar y penderfyniadau hyn yr ydych chi'n eu gwneud, a hefyd pa asesiadau effaith ar gydraddoldeb ehangach sy'n cael eu cynnal? Diolch yn fawr.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiynau yna. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn—mae ei phrofiad yn Nhorfaen yn cael ei adlewyrchu ledled Cymru. Cafwyd cefnogaeth i safbwynt Llywodraeth Cymru o ran bod yn barod i symud allan o gyfyngiadau symud yn y modd mwyaf gofalus a gwyliadwrus.
Rwy'n credu bod y penderfyniad ar ganolfannau garddio mewn gwirionedd wedi cael ei groesawu'n eang hefyd. Mae canolfannau garddio yn gweithredu, ar y cyfan, yn yr awyr agored. Rydym ni'n gwybod bod cylchrediad y feirws yn llawer llai ffyrnig mewn amgylchiadau awyr agored, a, lle mae canolfannau garddio'n gallu agor ac agor yn ddiogel—oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw allu ei wneud yn y ffordd honno hefyd—yna'r cyngor a gawsom oedd y dylem ni ganiatáu i hynny ddigwydd a bod manteision eraill i lesiant ac iechyd meddwl o ganlyniad i'r ffaith fod pobl yn gallu defnyddio'r cyfleusterau hynny ac yna defnyddio cynhyrchion canolfannau garddio yn eu cartrefi eu hunain. A gwerthuswyd pob un o'r mesurau, Llywydd—pob un o'r mesurau—yr ydym ni wedi eu hystyried yn erbyn y profion a nodwyd gennym ni yn ein dogfen fframwaith, a gyhoeddwyd dros bythefnos yn ôl, a ddangosodd sut y byddem ni'n asesu'r ddadl o blaid ac yn erbyn unrhyw gamau penodol o'r math a gyhoeddwyd gennym ni ddydd Llun.
Rwy'n credu bod y pwynt y mae Lynne Neagle yn ei wneud am ynysu cymdeithasol a phlant yn un pwysig iawn. Nid yw'r cyfyngiadau symud yn dod heb eu costau. Rydym ni'n gwneud hyn oherwydd bod y gwobrau'n fwy, oherwydd ei fod yn achub bywydau yn y presennol, ac rydym ni wedi gweld sut y mae'r golled bywyd honno'n cael effaith mor anghyfartal ar wahanol gymunedau a gwahanol rannau o'r gymuned. Felly, mae'n gwbl briodol ein bod ni'n ei wneud, ond mae hefyd yn briodol, yn y ffordd y mae Lynne Neagle wedi awgrymu, nad ydym ni'n colli golwg ar yr effaith y mae hynny'n ei chael ar fywydau pobl ac ar fywydau plant yn arbennig. Dyna pam y cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams ychydig dros wythnos yn ôl, gronfa i gynorthwyo'r bobl ifanc hynny nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y mathau o gyfleusterau y soniodd Lynne amdanyn nhw, fel y gallan nhw o leiaf fanteisio ar y mathau o ddulliau cyfathrebu electronig at ddibenion addysg, ond hefyd, fel yr ydym ni'n ei wneud, i gadw mewn cysylltiad â theulu a chyfeillion o bell, fel y mae'n rhaid i ni ei wneud. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gadw llygad barcud ar effaith y mesurau hyn ar blant a gwn y bydd Lynne yn ymwybodol y cyhoeddwyd gwybodaeth gennym dim ond yr wythnos hon am y modd yr ydym ni'n casglu safbwyntiau plant yng Nghymru yn uniongyrchol ar sut brofiad fu bod yn blentyn yn ystod argyfwng y coronafeirws, yr effaith y mae wedi ei chael arnyn nhw, a'r hyn y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru ac fel cymdeithas ehangach yng Nghymru ei wneud i'w cynorthwyo nhw wrth i ni ddechrau dod allan o'r argyfwng ei hun.
Prif Weinidog, diben gadael y cartref yw i ymarfer corff. Nid ystyrir bod mynd am dro ac yna cael picnic neu dreulio cyfnod hir ar fainc parc, er enghraifft, yn ymarfer corff, ac ni ystyrir ei fod yn esgus rhesymol. Dyna oedd eich canllawiau a oedd yn weithredol ddydd Sadwrn diwethaf. Pe byddai unigolyn yn prynu bwyd, yn ei fwyta ar fainc gyhoeddus, byddai'n amlwg yn torri'r rheolau. A ddylai ymddiheuro?
Llywydd, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwn o ddull lladd ar bersonoliaeth o ymdrin â'r feirws. [Torri ar draws.] Gallaf glywed—. Clywais yn iawn yr hyn a ofynasoch i mi, diolch yn fawr iawn, ac rwy'n dweud wrthych chi nad wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwnnw o gwestiwn, sydd wedi'i gynllunio'n syml i ymosod ar unigolyn a oedd allan gyda'i deulu, sydd â'r hawl, byddwn i'n dweud, i rywfaint o breifatrwydd yn y ffordd yr oedd yn gwneud pethau, ac a fydd yn siarad drosto'i hun.
Mae hi'n dair wythnos ers i feddygon teulu ar draws Cymru erfyn arnoch chi i wahardd y defnydd o ail gartrefi ac i dynhau pwerau gorfodi er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd, ond dydych chi ddim wedi gweithredu hyd yma. Does bosib, erbyn hyn, fod angen gweithredu, a ninnau ar drothwy'r Sulgwyn ac yn sgil y newidiadau i'r rheolau a'r pwyslais yn Lloegr. Felly hoffwn i ofyn pa fesurau pellach y byddwch chi'n eu rhoi ar waith i sicrhau bod rheoliadau Cymru yn cael eu parchu. A hoffwn i wybod hefyd beth ydy'ch penderfyniad yn sgil y trafodaethau rydych chi'n eu cael efo'r heddlu a'r awdurdodau lleol—gwnaethoch chi sôn am hynny y tro diwethaf i mi bwyso arnoch chi am orfodaeth lymach. A ydych chi yn cytuno efo'r pedwar llu heddlu fod angen cynyddu'r dirwyon sy'n cael eu gosod am deithio diangen?
Wel, diolch i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am fynd ar ôl y pwnc mae hi wedi ei godi unwaith eto y prynhawn yma. Wrth gwrs, rŷn ni'n cymryd beth mae pobl leol yn ei ddweud wrthym ni o ddifrif. Dyna pam roedden ni wedi cael trafodaethau unwaith eto gyda'r awdurdodau lleol a gyda'r heddlu. Fel esboniais i y tro diwethaf, mae nifer o bethau pwysig i'w cymryd i mewn i unrhyw benderfyniad—mae hawliau dynol gyda phobl ac mae'n rhaid inni feddwl am hynny. Y dystiolaeth—mae'n rhaid inni gael y dystiolaeth hefyd o faint o bobl sydd wedi—[Torri ar draws.] Wel, mae'n rhaid inni gael y dystiolaeth; mae'n rhaid inni wybod nifer y bobl sydd wedi dod i Gymru ac sydd yn eu hail gartrefi ar hyn o bryd. Fel esboniais i yn yr ateb i Mark Reckless, rŷn ni'n dal i fod, yng Nghymru, dan y gyfraith sy'n dweud, unrhyw beth rŷn ni'n ei wneud, mae'n rhaid i hwnna fod yn proportionate, a thrwy'r sgyrsiau gyda'r awdurdodau lleol, y casgliad i fi oedd doeddwn i ddim yn ddigon siŵr bod y broblem yn un lle rŷn ni'n dweud wrth bobl, sy'n aros yn eu tai nhw, fod yn rhaid iddyn nhw fynd adref. Nawr, wrth gwrs dŷn ni ddim eisiau i bobl wneud pethau fel yna; rŷn ni'n dweud bob tro wrth bobl i beidio â gwneud hynny.
Yn y sefyllfa nawr, lle mae pobl yn Lloegr yn gallu mynd yn y car i unrhyw le maen nhw ei eisiau yn Lloegr, mae hynny wedi creu mater newydd inni, ac rŷn ni wedi bod yn trefnu hynny gyda'r heddlu yr wythnos yma, ac wrth gwrs rwy'n fodlon siarad â nhw am a yw'r pwerau gyda nhw, a yw'r gosb sydd gyda nhw, o ran pobl sydd ddim yn gwneud beth sy'n angenrheidiol iddyn nhw—os oes rhaid inni wneud mwy. Rŷn ni'n defnyddio lot o bethau ar hyn o bryd. Rŷn ni'n defnyddio'r arwyddion sydd gyda ni ar yr M4 ac yn y gogledd i roi'r neges i bobl sy'n teithio i mewn i Gymru i beidio â gwneud hynny. Rŷn ni'n trio cael pethau yn y papurau lleol yn Lloegr i esbonio i bobl pam rŷn ni'n gwneud beth rŷn ni'n ei wneud yma yng Nghymru. So, rŷn ni'n trio gwneud popeth gallwn ni feddwl i'w wneud ac rŷn ni'n dal i sgwrsio gyda'r heddlu, gyda'r awdurdodau lleol, ac, os yw'r sefyllfa yn newid ac mae'r achos yn cryfhau i wneud pethau eraill, rŷn ni'n hollol agored i wneud hynny.
Prif Weinidog, yn ystod eich cynhadledd i'r wasg ddydd Llun, ac eto yn eich datganiad heddiw, rydych chi wedi crybwyll rhai o'r ffactorau pwysig a helpodd i benderfynu eich proses o wneud penderfyniadau yng Nghymru, gan gynnwys yr anghydraddoldebau iechyd yn ein poblogaeth. Nawr rwy'n gwybod bod rhai pobl yn gweld cyfle i newid yn ein hamgylchiadau presennol, felly, er enghraifft, cyflawni cynlluniau teithio llesol neu fwy o arddio i gynhyrchu eich ffrwythau a'ch llysiau eich hunan, ac ni fyddwn i'n anghytuno â dim o hynny, ond rwy'n credu bod perygl gwirioneddol y bydd y feirws hwn yn creu mwy o anghydraddoldebau iechyd, wedi eu hachosi gan dlodi a dyled sydd wedi ymwreiddio'n ddyfnach fyth, heb gamau parhaus gan Lywodraethau Cymru a'r DU. Felly, a gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, a yw'r pryderon hyn yn rhan o feddylfryd a gwaith cynllunio'r Llywodraeth ynglŷn â'r dyfodol, a beth ydych chi'n ei gredu fydd y camau ôl-COVID cyntaf y bydd eu hangen i ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r anghydraddoldebau hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno'n llwyr â Dawn Bowden. Yr holl dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg yw bod hwn yn feirws sy'n ymosod ar y bobl hynny yn ein cymdeithas sydd fwyaf agored i niwed, ac mae tlodi yn rhywbeth sylfaenol sy'n gwneud pobl yn agored i niwed gan fod pobl dlawd yn tueddu i fyw'n agosach at ei gilydd, ac mae'r feirws yn cylchredeg lle mae pobl mewn ardaloedd mwy poblog. Os ydych chi'n dlawd, rydych chi'n fwy tebygol o fod â chyflyrau iechyd isorweddol, ac mae'n feirws sy'n ymosod ar bobl sydd â chyflyrau iechyd isorweddol. Ac nid oes gennych chi'r adnoddau y mae pobl eraill yn ddigon lwcus i allu manteisio arnyn nhw i amddiffyn eich hun rhag yr argyfwng yr ydym yn ei wynebu.
Felly, mae Dawn Bowden yn llygad ei lle i dynnu sylw at y ffordd y mae'r feirws yn dwysáu anghydraddoldebau iechyd sylfaenol. A phan ddown i allan o hyn i gyd, hoffwn adleisio rhywbeth a ddywedodd y cyn Brif Weinidog wrthyf i yn y sesiwn yr wythnos diwethaf: ni allwn ni ddychwelyd yn syml i'r ffordd yr oedd pethau o'r blaen, lle'r ydym ni'n gwerthfawrogi'n ormodol cyfraniad rhai pobl yn ein cymdeithas nad yw wedi bod o unrhyw ddefnydd ymarferol i ni yn yr argyfwng hwn, ac yn tanbrisio cyfraniad pobl eraill, sef y rhai â'r cyflogau lleiaf yn aml a'r rhai â'r lleiaf o adnoddau.
Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni yn Llywodraeth Cymru, yn sicr. Dyna pam yr ydym ni wedi rhoi, fel y gwyddoch, er enghraifft, £11 miliwn yn fwy i mewn i'n cronfa cymorth dewisol i gael cymorth i bobl yn uniongyrchol—11,000 o daliadau a wnaed eisoes yn uniongyrchol at ddibenion yn gysylltiedig â COVID o'r gronfa cymorth dewisol; talwyd mwy na £670,000 i'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru. A bydd angen i Lywodraeth y DU ddarparu arian sy'n cyfateb i hynny hefyd. Mae'n peri pryder mawr, onid yw, clywed adroddiadau yn y papurau newydd heddiw ynghylch y ffaith fod Llywodraeth y DU yn bwriadu ymdrin â chanlyniadau coronafeirws drwy rewi cyflogau ymhlith gweithwyr y sector cyhoeddus—yr union weithwyr hynny yr ydym ni wedi dibynnu arnyn nhw i'n harwain ni drwy'r argyfwng hwn. Nid dyna'r ffordd i ymateb a, phe byddem ni'n gwneud pethau yn y modd hwnnw, yna bydd yr holl anghydraddoldebau y mae Dawn wedi cyfeirio atyn nhw yn cael eu gwaethygu yn hytrach na'u herydu, fel yr ydym ni'n benderfynol o geisio ei wneud yng Nghymru.
Prif Weinidog, soniasoch yn eich datganiad am bobl nad ydyn nhw'n teimlo'n arbennig o ddiogel gartref drwy'r amser, ac mae fy nghwestiwn i'n cael ei gymell gan fy mhryderon amdanyn nhw a nifer gynyddol o etholwyr sy'n cysylltu â mi ynglŷn â'u hiechyd meddwl, a chwestiynau sy'n codi o ganllawiau Llywodraeth Cymru ynghylch aros gartref. Dim ond i fod yn eglur, nid yw hyn yn ymwneud â gwahaniaethau rhwng Cymru a Lloegr ond canllawiau Llywodraeth Cymru ei hun, a adlewyrchwyd, a dweud y gwir, yn eich sylwadau dryslyd a wnaed ychydig ddyddiau yn ôl.
Pan fyddwch chi'n ei chyhoeddi ddydd Gwener, a fydd y dystiolaeth wyddonol yr ydych chi'n dibynnu arni'n llwyr yn tynnu sylw penodol at y dystiolaeth sy'n ategu'r ffaith bod cynulliad o ddau o bobl o wahanol aelwydydd yn ddiogel, neu ei bod yn ddiogel i ddau o bobl o wahanol aelwydydd ddigwydd gweld ei gilydd mewn llyfrgell, ond nid i ddau o bobl o wahanol aelwydydd, lle na fu unrhyw symptomau ers wythnosau, fynd am dro gyda'i gilydd yn fwriadol gan gadw pellter cymdeithasol, yn hytrach na'r cyfarfod ar hap y cyfeiriasoch ato'n gynharach?
Ac a fydd hefyd yn tynnu sylw at y dystiolaeth sy'n dweud ei bod hi'n ddiogel i yrru a chyfarfod gydag unrhyw un mewn canolfan arddio, yn amodol ar gadw pellter cymdeithasol, ond nad yw'n ddiogel gyrru—cewch gerdded neu feicio, ond nid gyrru—i'ch llyn neu'ch traeth agosaf i fynd i bysgota ar eich pen eich hun? Neu a allwch chi gadarnhau mai ystyr 'lleol' mewn gwirionedd yw 'agosaf' o dan yr amgylchiadau hynny?
Wel, Llywydd, mae 'lleol' yn golygu'r ddealltwriaeth gyffredin a phob dydd o'r hyn yw 'lleol'. Ein cyngor ni i bobl yng Nghymru yw aros gartref: aros gartref, diogelu'r GIG ac achub bywydau. Dyna fu ein neges dros y chwe wythnos diwethaf a dyna yw ein neges ni nawr. Felly, os ydych chi'n gadael eich cartref i ymarfer corff neu at ddibenion eraill, arhoswch yn lleol, oherwydd drwy aros yn lleol rydych chi'n cadw'n ddiogel. Nid yw'n wahoddiad i neidio i'ch car a gyrru i rywle arall i wneud pethau y gallech chi eu gwneud yr un mor hawdd ar droed ac o gartref.
Felly, nid yw rhai pethau'n cael eu gwneud mor hawdd yn y ffordd honno, ac efallai y bydd yn rhaid i chi fod yn eich car os oes yn rhaid i chi fod, ond dim ond pan fydd yn rhaid i chi fod, nid oherwydd ei fod yn rhywbeth a fyddai'n gyfleus i chi neu'n rywbeth difyr i'w wneud. Po fwyaf y byddwch chi'n teithio, po fwyaf y byddwn ni'n mynd o gwmpas, y mwyaf y bydd y feirws yn lledaenu. A chynlluniwyd yr holl ymdrechion a wnaed gennym i atal hynny rhag digwydd, ac rydym ni wedi llwyddo i wneud hynny. Felly, yr hyn nad ydym ni eisiau ei wneud yw peryglu hynny drwy annog pobl i wneud pethau sy'n ychwanegu at y lefelau risg.
Fe wnaethom benderfyniad wedi'i bwyso a'i fesur yn ofalus i wneud tri pheth yr oeddem ni'n meddwl y gallem ni eu rhoi ar gael i bobl yng Nghymru gan barhau i aros islaw'r lefel y bydd y gwerth R yn codi ac y bydd y feirws yn dechrau cylchredeg eto. Dyna'r lens y dylai pobl fod yn ei defnyddio i feddwl am unrhyw un o'r penderfyniadau hyn. Po fwyaf y byddwn ni'n ei wneud y tu allan i'r cartref, ac yn enwedig pan na fyddwn ni'n ei wneud yn lleol, y mwyaf fydd y risgiau y byddwn ni'n eu hachosi i'n gilydd, ac mae cyngor Llywodraeth Cymru a'r cyngor gwyddonol yr ydym ni'n ei ddefnyddio i gyd yn eglur ynghylch hynny. Does dim rhaid iddo ddrysu neb. Ac nid yw'n ddefnyddiol, yn fy marn i, i geisio byth a beunydd dod o hyd i ffyrdd y gallwch chi dynnu brawddegau i un cyfeiriad neu'r llall er mwyn achosi ychydig o ddryswch. Mae'r sefyllfa yng Nghymru yn syml: arhoswch gartref, arhoswch yn lleol a chadwch yn ddiogel.
Mae gofalwyr wedi cael eu talu a'u gwerthfawrogi'n druenus o annigonol ers amser maith, ac mae eich polisi i roi £500 i ofalwyr i'w groesawu, ond nid yw'n mynd yn ddigon pell. Dylai fod gan bob gweithiwr cartref gofal, gan gynnwys cogyddion a glanhawyr, hawl i gael y taliad hwnnw gan eu bod hwythau mewn perygl hefyd. Mae gofalwyr di-dâl yn haeddu cael eu cydnabod hefyd, yn fy marn i. Felly, a wnewch chi ymrwymo i gydnabod pawb sy'n ofalwr, neu sy'n gweithio mewn cartref gofal, gyda'r taliad untro hwn? A chan nad yw'r taliad untro hwn yn mynd i'r afael â chyflog isel parhaus gofalwyr, a wnewch chi gytuno i wneud yr un fath ag y gwnaeth Llywodraeth yr SNP yn yr Alban, a rhoi codiad cyflog o 3.3 y cant ar unwaith i'r holl staff gofal cymdeithasol?
Wel, diolchaf i Leanne Wood am hynna, a hoffwn ymuno â hi i gydnabod y gwaith y mae gofalwyr, gofalwyr anffurfiol, a'r bobl sy'n gwneud swyddi mor bwysig yn y sector gofal yn ei wneud. Roedd ein penderfyniad i gynnig £500 i'r holl bobl hynny sy'n darparu gofal personol uniongyrchol mewn lleoliadau cartref a phreswyl yn un a oedd yn cydbwyso ein dymuniad i ddarparu'r gydnabyddiaeth honno yn erbyn y cyfyngiadau ariannol presennol yr ydym ni'n eu hwynebu. Felly, yr hyn yr wyf i'n hapus iawn i'w ddweud yw ein bod ni'n parhau i edrych ar hynny. Os oes cyfle i wneud mwy, byddem ni wir yn hoffi gwneud mwy. Nid yw'n ymwneud â dibrisio cyfraniad pobl eraill nad ydyn nhw'n darparu gofal personol uniongyrchol ond sy'n darparu gwasanaethau pwysig eraill yn y sector, ond os ydych chi'n llunio cynllun, mae'n rhaid i chi gael rhai meini prawf y gall y cynllun weithredu yn unol â nhw, ac mae'n rhaid i chi allu ei ddarparu gyda'r gyllideb sydd ar gael i Lywodraeth Cymru. Mae'n mynd i gostio £32 miliwn i ddarparu ar gyfer y 64,000 o bobl sydd wedi'u cynnwys yn y cynllun fel y'i cyhoeddwyd, a byddwn yn parhau i adolygu hynny'n ofalus iawn a gweld a yw'n bosibl gwneud mwy yn y dyfodol.
Rydym ni wedi dewis ei wneud yn y modd hwnnw yn hytrach na'r ffordd y mae Llywodraeth yr Alban wedi ei wneud, a cheir rhai manteision, rwy'n credu, i'n £500 ni, gan ei fod yn fesur blaengar. Rydym ni'n ei gynnig i bob gweithiwr gofal sy'n darparu gofal personol, faint bynnag o oriau maen nhw'n eu gweithio. Felly, mae'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i'r rhai sydd â'r lleiaf. A chan feddwl am y cwestiwn yr oedd Dawn Bowden yn ei ofyn am anghydraddoldeb a'n gallu i geisio cael rhywfaint o effaith ar hynny, mae ein cynllun wedi ei gynllunio gyda rhai agweddau bwriadol arno i wneud yn siŵr bod y cymorth yn cael ei deimlo fwyaf gan y rhai sydd fwyaf angen cymorth.
Rwy'n croesawu'n fawr iawn y £500 yr ydym ni wedi ei roi i weithwyr gofal, oherwydd maen nhw'n sicr ar y rheng flaen o ran risg, yn gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn byw mewn amgylchiadau agos iawn. Rwyf i hefyd yn croesawu'n fawr yr unedau profi symudol a lansiwyd i alluogi preswylwyr a staff mewn cartrefi gofal i gael eu profi, i weld a yw'r feirws ganddyn nhw. Ond rwy'n siŵr y gwnewch chi gydnabod nad yw un uned brofi symudol ar gyfer Caerdydd a'r Fro gyfan yn ddigonol ar gyfer yr holl gartrefi gofal a'r holl bobl hŷn agored i niwed hynny y mae angen i ni eu diogelu. Felly roeddwn i eisiau eich holi am eich cynlluniau ar gyfer ein galluogi i gynyddu yn enfawr nifer yr unedau profi. Mae un adroddiad yn sôn am 94 o dimau yn gweithio saith diwrnod yr wythnos. Mae'n ymddangos na allwn ni ddibynnu ar bersonél iechyd oni bai ein bod ni eisiau gweld yr holl ymyraethau iechyd pwysig eraill y maen nhw'n eu darparu yn cael eu rhoi o'r neilltu, ac ni fyddwn i eisiau gweld hynny. Felly, roeddwn i'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i recriwtio pobl eraill. Yn eich datganiad, fe wnaethoch chi dalu teyrnged i'r sector gwirfoddol, ac rwy'n ymwybodol, yn Sheffield, yr arweiniwyd yr arbrawf ar gyfer profi ac olrhain gan gyfarwyddwr iechyd y cyhoedd sydd wedi ymddeol; mae hefyd yn cynnwys gwirfoddolwyr yn cynorthwyo'r agwedd olrhain ar y broses.
A gaf i gwestiwn gan Jenny Rathbone nawr?
Felly, roeddwn i'n meddwl tybed beth allai strategaeth y Llywodraeth ar gyfer cynnwys byddin gyfan o bobl newydd, gan gynnwys gwirfoddolwyr, yn yr ymgyrch profi torfol sydd ei hangen i gymryd rheolaeth dros ymlediad COVID-19 fod.
Diolchaf i Jenny Rathbone am y cwestiwn yna. Wrth gwrs, mae gennym ni gynlluniau i ehangu'n sylweddol nifer y profion y byddwn ni'n gallu eu darparu yng Nghymru pan fyddwn ni'n symud i mewn i'r byd newydd o brofi, olrhain a diogelu. A bydd hynny'n golygu ffyrdd newydd o ddarparu profion yn uniongyrchol i ble mae pobl yn byw—trefn profion cartref ehangach—yn ogystal â'r unedau profi symudol sydd gennym ni ar hyn o bryd. Ac wrth gwrs, mae Jenny Rathbone yn iawn wrth ddweud y bydd angen llawer mwy o bobl i gymryd rhan mewn gwaith olrhain cyswllt pan fyddwn ni'n symud i'r system honno sy'n fwy seiliedig ar y gymuned. Ac mae hi'n iawn hefyd na allwn ni gymryd y bobl hynny o swyddi iechyd pwysig y maen nhw'n eu gwneud ar hyn o bryd.
Nawr, bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn ateb cwestiynau ar hyn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, a gwn nad ydych chi eisiau i ni drafod pethau y bydd y ddau ohonom ni'n rhoi sylw iddyn nhw. Ond yn y ddogfen profi, olrhain, diogelu yr ydym ni wedi ei chyhoeddi yn gynharach heddiw, mae'n dweud ein bod ni'n chwilio am tua 1,000 o bobl yn y lle cyntaf pan fydd y system yn cychwyn. Ac rydym ni'n credu y bydd y rhan fwyaf o'r bobl hynny'n dod o awdurdodau lleol—pobl nad ydyn nhw'n gallu gwneud y swyddi y bydden nhw'n eu gwneud fel rheol, ond sy'n cael eu talu gan awdurdodau lleol ac y gellir eu rhoi ar waith wedyn yn y ffordd newydd hon. Mae'r gwirfoddolwyr wedi gwneud gwaith gwych ledled Cymru yn argyfwng y coronafeirws—rydym ni wedi cael 7,000 o bobl yn ymgymryd â gweithgareddau yn ymwneud â coronafeirws ledled Cymru—ond bydd angen y 1,000 hynny o bobl bob wythnos am wythnosau lawer i ddod, ac mae amgylchiadau gwirfoddolwyr yn anochel yn gyfnewidiol braidd—efallai y byddan nhw eu hunain yn dychwelyd i'r gwaith, efallai y bydd ganddyn nhw bethau eraill y maen nhw angen eu gwneud. Felly, ein teimladau cyntaf ar hyn o bryd yw mai recriwtio'r 1,000 o bobl hynny yn bennaf drwy ein hawdurdodau lleol, fel bod pobl yn cael eu talu am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ac yn gallu neilltuo eu hwythnos waith i'w wneud, fydd y ffordd y byddwn ni'n mynd ati i recriwtio'r staff y bydd eu hangen arnom ni.
Ar y cychwyn, y rheswm am gyflwyno'r cyfyngiadau llym ar ryddid dynol a hawl pobl i weithio oedd amddiffyn y GIG rhag cael ei lethu. Mae'n ymddangos bellach ei fod wedi newid i atal y ffactor R, ffactor atgynhyrchu'r clefyd, rhag codi uwchlaw 1. Ond onid yw'r Prif Weinidog yn deall mai ffolineb yw hyn?
Ysgrifennodd yr Athro Giesecke, prif gynghorydd Llywodraeth Sweden ar y coronafeirws, erthygl yn The Lancet yr wythnos diwethaf, pryd y dywedodd bod y clefyd yn lledaenu bron bob amser o bobl iau heb unrhyw symptomau neu symptomau gwan i bobl eraill a fydd hefyd â symptomau ysgafn. Ychydig iawn y gallwn ni ei wneud i atal lledaeniad hwn. Efallai y bydd cyfyngiadau symud yn oedi achosion difrifol am gyfnod, ond ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu llacio, bydd achosion yn ailymddangos. Rwy'n disgwyl, os byddwn ni'n cyfrif nifer y marwolaethau o COVID ym mhob gwlad flwyddyn o nawr, y bydd y ffigurau'n debyg, waeth beth fo'r mesurau a gymerwyd. Dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, yn gwbl briodol, bod y cyfyngiadau symud yn gynhyrchydd mawr o dlodi ac anghydraddoldeb, felly mae'n rhaid i ni godi'r cyfyngiadau mor gyflym ag sy'n gyson â rhwystro'r gwasanaeth iechyd rhag cael ei lethu yn ei allu i drin achosion difrifol.
Yn Sweden, mae cyfradd heintio'r clefyd yn llai nag yma ym Mhrydain mewn gwirionedd. Ac yn sir Stockholm, mae chwarter y boblogaeth wedi cael yr haint hwn erbyn hyn, ond nid yw'r cyfraddau marwolaeth yn Sweden, er eu bod yn uwch na'u cymdogion, yn wahanol iawn i'r cyfraddau marwolaeth yng ngwledydd eraill gorllewin Ewrop. Felly, onid yw e'n gweld bod buddiannau gorau cyffredinol pobl y wlad hon yn deillio o fod yn feiddgar, yn hytrach na bod yn betrus, sef yr hyn y mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru eisiau ei wneud?
Llywydd, ymddiheuriadau fy mod i wedi ei chael hi'n anodd clywed ychydig o'r hyn yr oedd yr Aelod yn ei ddweud, ond rwy'n credu mai byrdwn ei ddadl yw ein bod ni'n 'ffôl', rwy'n credu oedd y gair a ddefnyddiodd, i ganolbwyntio ar y gwerth R ac y dylem ni fod yn feiddgar. Wel, gadewch i mi ddweud wrtho beth fyddai bod yn feiddgar yn ei olygu: rydym ni'n credu mai 0.8 yw'r gwerth R yng Nghymru ar hyn o bryd, a hyd yn oed ar 0.8 mae'n rhaid i ni ragweld y bydd 800 o ddinasyddion ychwanegol yng Nghymru yn marw oherwydd y feirws dros y tri mis nesaf. Pe byddai'r rhif R yn codi i 1.1—felly mae hynny'n nifer fach iawn o ddegfed rhan o un—pe byddai'n cynyddu i 1.1, byddai nifer y marwolaethau dros y cyfnod hwnnw o dri mis yn 7,200. Felly pris bod yn feiddgar yw marwolaeth 6,500 o bobl yng Nghymru.
Rwy'n gweld nad yw'r Aelod yn cytuno, ond nid fi sy'n dweud hyn. Rwyf i'n rhoi iddo'r ffigurau gorau posibl y mae ein epidemiolegwyr a'n meddygon iechyd cyhoeddus yn eu cynnig. Ac mae hwn yn ffigur y cytunir arno ar draws y Deyrnas Unedig. Ar 0.8, gallai 800 o bobl, yn anffodus dros ben, farw dros y tri mis nesaf. Ar 1.1—dim ond y cynnydd bach iawn hwnnw—mae'n 7,200. Mae'n hawdd eistedd yn y fan yma a bod yn feiddgar. Nid wyf i'n barod i fod yn feiddgar pan fyddai'n rhaid i 6,500 o'n cyd-ddinasyddion ddwyn baich y beiddgarwch hwnnw.
Cyn i mi alw ar Huw Irranca-Davies, a gaf i wneud yn siŵr bod yr Aelodau yn rhoi eu meicroffonau yn agos at eu cegau pan eu bod nhw'n siarad? Dim ond newydd sylwi wyf i efallai nad oedd hynny'n wir am feicroffon Neil Hamilton y tro yna, ond roedd hi fwy neu lai yn bosibl clywed. Felly, dim ond i atgoffa yr holl Aelodau, a—phwy ddywedais i? Ie, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Llywydd. Gobeithio eich bod yn gallu fy nghlywed i.
Ydw.
A gaf i ofyn i chi, Prif Weinidog, am eich syniadau sy'n dod i'r amlwg am y gwaith sy'n cael ei wneud gan y Cwnsler Cyffredinol ar ailadeiladu ar ôl COVID-19, a'r gwaith tebyg sy'n cael ei ddatblygu gan rai o feiri'r dinasoedd mawr yn Lloegr ar y thema 'adeiladu'n ôl yn well'? Yn y drychineb barhaus ofnadwy hon o coronafeirws, mae pobl hefyd wedi gweld, yn uniongyrchol, fanteision aer glanach, llai o draffig, a strydoedd a chymunedau haws byw ynddyn nhw mewn mannau a oedd wedi eu tagu gan lygredd a thagfeydd gynt. Ac o dan y cyfyngiadau symud, mae pobl wedi gweld drostyn nhw eu hunain fanteision ansawdd bywyd mannau gwyrdd, bywiog, o'u cymharu â tharmac a choncrid, a mwy o le a rhyddid i gerdded a beicio yn hytrach na gyrru. Felly, Prif Weinidog, a gaf i ofyn pa fesurau y gellir eu rhoi ar waith nawr, ac yn y dyfodol wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio, i alluogi mwy a mwy o bobl i fynd o le i le ar gyfer gwaith a hamdden trwy gerdded a beicio, yn enwedig tra bo capasiti cludiant cyhoeddus yn parhau i fod yn gyfyngedig, fel y gallwn ni osgoi dychweliad trychinebus i dagfeydd traffig, llygredd aer a sŵn a'r effeithiau iechyd cysylltiedig, ac fel y gallwn ni ymateb i argyfwng sylfaenol gwirioneddol y newid yn yr hinsawdd?
Llywydd, diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. A gaf i ddechrau drwy edmygu'r deyrnged y gallaf i ei gweld y tu ôl iddo i bobl o gwm Llynfi a gollodd eu bywydau wrth ymladd ffasgiaeth yn ystod y 1930au?
Bydd wedi gweld y datganiad a gyhoeddwyd gan fy nghydweithiwr Lee Waters yr wythnos diwethaf, yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb erbyn 21 Mai gan bob awdurdod lleol i fanteisio ar y ffaith nad yw ffyrdd yn agos at fod mor brysur ag y bydden nhw fel arall i geisio cadw rhai o'r manteision y mae Huw Irranca-Davies wedi cyfeirio atyn nhw. Rydym ni i gyd o leiaf wedi elwa yn ystod yr argyfwng hwn ar y gostyngiadau i lygredd aer a llygredd sŵn, a dydym ni wir ddim eisiau mynd yn ôl i ail-greu'r holl anawsterau hynny os gallwn ni eu hosgoi, oherwydd yr effeithiau ar iechyd a'r effaith ar y newid yn yr hinsawdd yr oeddem ni'n gwybod yr oedden nhw'n eu cael.
Yn yr alwad honno am ddatganiadau o ddiddordeb gan awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth arian gan Lywodraeth Cymru, rydym ni'n disgwyl i awdurdodau lleol gyflwyno cynigion ar gyfer lledu llwybrau troed, lonydd beicio dros dro, cyfyngiadau cyflymder, gwelliannau i seilwaith bysiau a phethau eraill a bod awdurdodau lleol, mewn modd llawn dychymyg, fel y mae'r galwad am gynigion yn ei wneud yn eglur, yn defnyddio'r ennyd sydd gennym ni i geisio cynnwys yn barhaol yn ein seilwaith rai o'r manteision yr ydym ni wedi eu gweld o gael gostyngiad mawr i draffig yn ystod yr wythnosau diwethaf, gyda'r manteision yr ydym ni'n eu cael ohono nawr ac yn dymuno gallu parhau i weld y manteision hynny yn y dyfodol.
A gaf i ofyn, Prif Weinidog—? Gwrandewais yn astud iawn ar eich ateb i Andrew R.T. Davies yn gynharach, ond, mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf yn fodlon iawn ag ef. Mae'n amlwg iawn, o'r canllawiau a oedd ar waith yma yng Nghymru ddydd Sadwrn na ellir ystyried bod mynd am dro a chael picnic yn ymarfer corff ac na fwriedir iddo fod yn esgus rhesymol. Newidiwyd y canllawiau gennych chi ddydd Llun, a bydd llawer o bobl yn meddwl efallai mai'r rheswm am hynny yw'r ffaith y tynnwyd llun y Gweinidog iechyd yn eistedd ar fainc y parc yn cael picnic gyda'i deulu dros y penwythnos.
Nawr, mae'n edrych i'r cyhoedd fel bod un rheol i'r Gweinidog iechyd a rheol arall iddyn nhw. Felly, onid ydych chi'n cytuno â mi bod Vaughan Gething wedi cael ei tsips? A phryd ydych chi'n mynd i'w dynnu oddi ar y fainc yn y parc a'i roi ar fainc yr eilyddion, lle y dylai fod?
Llywydd, rwyf i eisoes wedi dweud, nid wyf i'n mynd i gael fy nhynnu i mewn i'r math hwnnw o ymosodiad personol di-chwaeth ar neb. Nid picnic yw saib byr i ganiatáu i blentyn fwyta yn iaith neb, a dim ond iddo gael gwybod, cyn iddo geisio lledaenu'r math o sarhad a geisiodd yn ei gwestiwn, gwnaed y penderfyniadau a wnaeth Llywodraeth Cymru ar y mesurau yr oeddem ni'n mynd i'w newid ddydd Iau yr wythnos diwethaf. Fe'u gwnaed mewn cyfarfod Cabinet a gofnodwyd yn briodol ac yn swyddogol; nid oedd a wnelo dim ag unrhyw ddigwyddiad y mae e'n cyfeirio ato a dylai roi'r gorau i geisio awgrymu hynny.
Rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn cytuno â mi, er bod yr estyniad i'r cynllun cadw swyddi, y cynllun ffyrlo, i'w groesawu, ei bod hi'n wirioneddol anffodus bod gennym ni tua 22,000 o ddinasyddion Cymru o hyd a ddylai fod wedi gallu cael eu helpu gan y cynllun hwnnw nad ydyn nhw'n cael eu helpu, oherwydd eu bod nhw'n newid swydd ar adeg cyflwyno'r cynllun.
A gaf i ofyn i'r Prif Weinidog am ddau beth y prynhawn yma? A wnaiff ef ymrwymo i barhau, fel y gwn fod Gweinidog yr economi eisoes wedi ei wneud, i eirioli i Lywodraeth y DU ar ran y dinasyddion hynny yng Nghymru sydd wedi cael eu heithrio o'r cynllun yn anfwriadol, rwy'n credu, ond yn annheg iawn? Ac a wnaiff ef hefyd gael trafodaethau gyda Gweinidog Cymru dros yr economi i weld a oes unrhyw bosibilrwydd, os bydd y Canghellor yn parhau i fod yn ddi-ildio ar y mater hwn, y gallai Llywodraeth Cymru roi rhywfaint o gymorth i'r dinasyddion hynny sydd wedi cael eu siomi? Dylwn fod yn eglur yn y fan yma, Llywydd, nid wyf i'n awgrymu y byddai Llywodraeth Cymru yn gallu fforddio disodli ffyrlo, ond efallai y bydd rhyw fath o gymorth arall y gellir ei ddarparu os na ellir perswadio'r Canghellor i gynnwys y bobl hyn.
Llywydd, a gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am yr awgrymiadau adeiladol iawn yna? Rwyf yn rhannu gyda hi ein bod ni'n croesawu'r cynllun ffyrlo a'n bod ni'n croesawu ei estyniad, ac rwy'n credu ei bod hi'n iawn hefyd. Ond nid oedd yr annhegwch ynddo, yn enwedig i'r bobl hynny a oedd yn newid swydd ar y pryd, yn annhegwch bwriadol, ond mae'n annhegwch gwirioneddol ym mywydau'r unigolion hynny, ac rydym a byddwn yn parhau i wneud y pwyntiau hynny yn uniongyrchol i Lywodraeth y DU wrth i dystiolaeth o rai o agweddau anfwriadol y cynlluniau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth y DU ddod yn fwy amlwg.
Bydd Helen Mary Jones yn gwybod ein bod ni wedi rhewi ein cronfa cadernid economaidd ein hunain er mwyn ei phwyso a'i mesur, i weld a oes unrhyw fireinio y gallem ni ei wneud er mwyn gallu llenwi rhai bylchau ychwanegol yn y ddarpariaeth a wnaed gan Lywodraeth y DU. Rydym ni'n gweithio'n galed y tu mewn i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd i weld a oes unrhyw ffyrdd eraill y gallem ni gasglu rhywfaint o arian gyda'i gilydd i gryfhau'r gronfa honno ymhellach fyth. A byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr fy mod i'n trafod gyda Ken Skates trafferthion y bobl y mae Helen Mary Jones wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.
Prif Weinidog, wrth i ni fynd drwy'r pandemig hwn, mae'n dod yn fwyfwy amlwg bod mwy o achosion o'r clefyd yn ein cymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Gwn fod gwaith yn mynd rhagddo ar lefel Cymru ac ar lefel y DU i geisio deall y rhesymau am hynny, a mynd i'r afael â hynny mewn modd mor effeithiol â phosibl. Ond, wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud, Prif Weinidog, ac efallai ein bod yn symud tuag at brofi, olrhain a diogelu, rwy'n credu y bydd angen cryfach eto i sicrhau bod ymgysylltu â'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig, cyfathrebu a chyfleu negeseuon yn bopeth y mae angen iddo fod, o ystyried gwahaniaethau iaith a diwylliannol. Felly, tybed a fydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei hymdrechion i sicrhau ein bod yn deall ac yn ymgysylltu â'n cymunedau lleiafrifoedd ethnig yn fwy effeithiol fyth o ystyried y bygythiad arbennig y mae'r feirws ofnadwy hwn yn ei achosi iddyn nhw.
Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am y cwestiynau pwysig yna? Rwy'n credu fy mod wedi dweud yr wythnos diwethaf wrth ateb cwestiynau fy mod i'n mynd, yn ystod gweddill y prynhawn, i fod yn bresennol yn rhan o gyfarfod y grŵp cynghori yr ydym ni wedi'i sefydlu o gymunedau pobl dduon a lleiafrifoedd ethnig. Ac fe wnes i hynny yn wir, ac rwy'n edrych ymlaen at rai o'r argymhellion o'r gwaith sy'n cael ei gadeirio gan y Barnwr Ray Singh ac sy'n cynnwys pobl o amrywiaeth eang o gymunedau perthnasol yng Nghymru.
Adleisiwyd y pwynt a mae John Griffiths wedi ei wneud y prynhawn yma yn y rhan honno o'r sgwrs y llwyddais i wrando arni, sef y bydd angen dull gweithredu gwahanol ar gyfer ymgysylltu ar lefel y gymuned, ac wrth i ni symud tuag at brofi, olrhain a diogelu, bydd llawer o'r hyn y bydd hynny'n dibynnu arno yn seiliedig ar y we ac ar y ffôn, ond bydd angen i ni gael rhywfaint o gapasiti o bobl sy'n gallu cerdded o gwmpas mewn cymunedau a chyfathrebu â phobl yn y ffordd honno. Felly, rydym ni'n ystyried hynny, rydym ni'n ystyried y pwyntiau a wnaeth John am iaith a llythrennedd, a sut yr ydym ni'n trosglwyddo negeseuon i gymunedau nad ydyn nhw'n debygol o gael eu gwybodaeth na'u cyngor o gyfryngau mwy confensiynol. Felly, diolchaf iddo am godi'r pwyntiau hynny. Hoffwn ei sicrhau eu bod yn cael eu trafod mewn ffordd fywiog yn y grŵp cynghori a bod yr elfen honno o'u meddylfryd yn gwneud gwahaniaeth i'r ffordd y bydd cynllunio ymarferol ar gyfer y gwasanaeth profi, olrhain a diogelu yn cael ei ddylunio a'i ddarparu yng Nghymru.
Brif Weinidog, mae Animal Farm wedi ei grybwyll, ac rwy'n siŵr bod Mark Reckless yn gwneud dynwarediad da yn y fan yna o fod y Boxer i Napoleon Nigel Farage. Rwyf yn gobeithio, wrth gwrs, na fydd yn y pen draw yn cael ei gymryd i ffwrdd, ac ni fyddwn eisiau i hynny ddigwydd chwaith.
Daniel Kawczynski yw'r cymeriad Snowball, efallai, onid e—yr AS Ceidwadol dros Amwythig sydd, mewn ymateb i fethu â mynd i'r traeth, am ddiddymu Llywodraeth a Senedd y wlad lle mae'r traeth hwnnw wedi ei leoli, ac a bod yn deg, mae aelodau o'i blaid ei hun wedi ei gondemnio am hynny. Rwy'n siŵr hefyd y bydd yn ymuno â mi i gondemnio cydweithiwr seneddol Darren Millar, sef David Jones, sydd ar yr union eiliad hwn ar Twitter yn defnyddio'r hashnod #StayAlert ac sy'n defnyddio is-bennawd Llywodraeth arall. Rwy'n gwybod ei fod yn aml yn ceisio esgus ei fod yn byw yn Lloegr, ond mae hwn yn gamgymeriad arall o safbwynt ei etholwyr. Rwy'n siŵr iawn y bydd Darren Millar yn ymuno yn y condemniad hwnnw.
Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi bod yr hyn yr ydym ni wedi ei glywed heddiw ynghylch y Gweinidog iechyd yn gamarweiniol iawn? Mae gennym ni sefyllfa yn y fan yma lle mae rhywun yn mynd allan am dro, i ymarfer corff gyda'i deulu, gan gynnwys plentyn pum mlwydd oed. Yna, maen nhw'n cael bwyd am fod y plentyn pum mlwydd oed yn llwglyd, ac yn eistedd i lawr a'i fwyta. Wel, mae'n ddrwg gen i, ond ni fyddai neb teg, rhesymol nac yn wir cymesur mewn unrhyw ffordd yn gweld hynny fel bod unrhyw beth heb fod yn iawn. Ac rwy'n amheus am hyn oherwydd ddydd Gwener, cawsom y cyhoeddiad am yr hyn a oedd yn digwydd yng Nghymru a dydd Sul yn Lloegr. Nid yw'r Sun fel arfer yn cymryd unrhyw ddiddordeb o gwbl yng Nghymru. Tybed a yw'r Prif Weinidog yn gwybod, efallai, a wnaeth rhywun ofyn i'r Sun wneud hyn ac mae'r ffaith ei fod wedi ei ddefnyddio heddiw yn achosi peth pryder i mi.
Yn olaf, Prif Weinidog, a gaf i ofyn hyn i chi—? Rydych chi wedi bod o gymorth mawr i egluro'r sefyllfa o ran golff a physgota yn arbennig, ac rydych chi wedi dweud—ac mae'n ymddangos yn eithaf clir i mi—mai'r sefyllfa ddiofyn yw aros gartref ond, wrth gwrs, mae yna eithriadau. Un eithriad yw gwneud rhywbeth angenrheidiol—mynd, efallai, i'r archfarchnad lle mae angen gyrru i'r archfarchnad agosaf. Mae cymaint â hynny, rwy'n credu, yn amlwg i'r cyhoedd. Ond rydych chi hefyd wedi dweud, wrth gwrs, bod ymarfer corff yn rheswm arall. Nid yw ymarfer corff yn angenrheidiol, ond serch hynny, mae'n cael ei ganiatáu. A'r hyn sy'n glir yw bod rheolau llymach, gydag ymarfer corff, yn yr ystyr na ddylai pobl yrru i wneud ymarfer corff. Nid oes angen gwneud hynny beth bynnag; nid yw hynny'n hanfodol nac yn angenrheidiol. Ond, wrth gwrs, yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud heddiw yw egluro'r sefyllfa o ran rhai chwaraeon a gweithgareddau hamdden. O ran golff, rwy'n credu ei bod hi'n iawn, mae'n debyg, i ddweud, onid yw hi, na ddylai clybiau golff agor mewn gwirionedd, ond y gellid agor cyrsiau golff drwy ddefnyddio'r mesurau diogelu priodol a dilyn y rheolau priodol? Pan ddaw'n fater o bysgota, wrth gwrs—
A gaf i ofyn i Carwyn Jones ddod at ei gwestiwn, os gwelwch yn dda?
Rwyf yn dod ato. Rwy'n gwybod fy mod yn trethu eich amynedd, Llywydd. A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am roi'r eglurder eto am bysgota? Ar hyn o bryd, nid yw'n dywydd da i bysgota, mae'n rhaid i mi ddweud—
Does dim angen i ni wybod sut mae'r tywydd. Rydym ni i gyd yn gwybod bod y tywydd yn dda. A gawn ni ddod at y cwestiwn?
Roeddwn i'n mynd i ddweud yn syml: a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr eglurder y mae wedi ei roi ynglŷn â golff a physgota yn enwedig ac, wrth gwrs, yr eglurder y mae wedi ei ddarparu ar gyfer y cyfan o'r wythnosau diwethaf yn wahanol i'r hyn yr ydym wedi ei weld weithiau dros y ffin yn Lloegr?
Prif Weinidog.
Wel, diolch i Carwyn Jones am y pwyntiau yna. Rwy'n credu bod y sefyllfa yng Nghymru yn glir. Y cyngor yw, 'Arhoswch gartref'. Rydych chi'n gadael cartref drwy eithriad, a phan eich bod yn ymwneud ag un o'r eithriadau, yna byddwch yn aros mor lleol ag sy'n bosibl ar gyfer yr eithriadau hynny, oherwydd dyna sut yr ydym ni'n helpu i achub bywydau.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaeth fy nghyd-Aelod, Carwyn Jones, am Vaughan Gething a'i deulu. Rwy'n ofni nad wyf yn darllen papur newydd y Sun, felly dydw i ddim yn gallu helpu'r cyn Brif Weinidog yn hynny o beth.
Gadewch i mi fynd at y pwyntiau mawr a wnaeth ar ddechrau ei gyfraniad. Rwyf eisiau bod yn glir, Llywydd, fod Llywodraeth Cymru yn credu mewn dull pedair gwlad. Rydym ni'n credu bod gennym ni ddull pedair gwlad o hyd, oherwydd bod pob un o bedair rhan y Deyrnas Unedig yn dal i symud i'r un cyfeiriad yn yr un ffordd ofalus a gwyliadwrus. Yr hyn nad ydych chi eisiau ei wneud yw troi'r defnydd cyfreithlon o bwerau'r Senedd, er mwyn mireinio'r pethau hynny fel eu bod yn addas i Gymru, yn rhywbeth sy'n ymrannu fel yr oedd yr Aelod Seneddol dros yr Amwythig mor amlwg yn fwriadol yn ei wneud, neu, yn wir, yn ddryslyd. Mae'r cyngor yng Nghymru yn glir: arhoswch gartref, amddiffynnwch y GIG, achubwch fywydau. Dylai pob Aelod Seneddol fod yn dweud wrth ddinasyddion Cymru beth yw'r sefyllfa yma yng Nghymru, ac nid yw'n ddim ond dryslyd pan fo pobl yn ceisio gwneud rhywbeth gwahanol.
Yn olaf, Jack Sargeant.
[Anhyglyw.]—rhwng Cymru a Lloegr yn Alun a Glannau Dyfrdwy. Fodd bynnag, mae stryd yn fy etholaeth i o'r enw Boundary Lane, ac mae trigolion ar bob ochr i'r stryd honno yn y naill wlad neu'r llall. I'r trigolion, roedd datganiad y Prif Weinidog ddydd Sul yn achosi dryswch gwirioneddol, yn enwedig ym maes gwaith. Mae trigolion sy'n gweithio yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn gan ddeddfau cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle a gyflwynwyd gan eich Llywodraeth chi; nid yw hynny'n wir am y rhai hynny sy'n gweithio yn Lloegr. A wnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, i alw ar Boris Johnson a Llywodraeth y DU i gyflwyno cyfreithiau a rheolau tebyg i amddiffyn fy etholwyr sy'n gweithio dros y ffin yn Lloegr?
Diolch i Jack Sargeant am hynna. Llywydd, fe wnaethom ni roi'r rheol 2 fetr yn y rheoliadau yng Nghymru i roi hyder i weithwyr, pe bydden nhw'n mynd i'r gwaith, y byddai eu cyflogwyr wedi cymryd pob cam rhesymol i warchod eu hiechyd a'u lles, ac mae'r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yng Nghymru yn gwneud yn union hynny. Rwy'n credu bod y ffaith y bu gennym y rheol honno yn y gyfraith yma yng Nghymru dros y wythnosau diwethaf yn rhoi dechrau da i ni o ran cael pobl i fynd yn ôl i weithio gyda'r hyder sydd ei angen arnyn nhw i ddiogelu eu hiechyd a'u lles. Felly, rwy'n credu ein bod ni wedi gwneud y peth iawn. Rwy'n credu ei fod wedi helpu. Rwy'n credu y byddai'n helpu mewn rhannau eraill hefyd i gael y rheol honno yn y gyfraith, oherwydd mae'n un peth i annog pobl i wneud rhywbeth, a pheth arall i roi hyder iddyn nhw, mewn cyfnod pan fo pobl yn ofnus am eu diogelwch eu hunain a diogelwch eu teuluoedd, y gallan nhw wneud y pethau y maen nhw'n cael eu hannog i'w gwneud mewn ffordd nad yw'n eu rhoi nhw mewn perygl. Rydym ni wedi gweithio'n galed iawn yma yng Nghymru gyda'n hundebau llafur, gyda'n cyflogwyr a'n sefydliadau cyflogwyr, ac rwy'n credu bod hynny'n talu ar ei ganfed wrth alluogi dinasyddion Cymru i ddychwelyd i'r gwaith gan wybod eu bod yn ddiogel, a bod gan bobl sy'n byw yng Nghymru ac sy'n gweithio ar ochr arall ein ffin hawl i gael lefel gyfartal o sicrwydd.
Diolch i'r Prif Weinidog. Pwynt o drefn gan arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Yn gynharach heddiw, cyhoeddodd y Llywodraeth 'Profi Olrhain Diogelu', sydd, mae'n debyg, mewn gwirionedd, yn un o'r dogfennau pwysicaf y mae wedi'i chyhoeddi hyd yn hyn yn rhan o'i pholisi ynghylch y feirws. Fe'i cyhoeddwyd am 13:22, felly ni fydd yr Aelodau wedi cael y cyfle, yn amlwg, i astudio'r ddogfen—wyth tudalen o hyd—yn y manylder angenrheidiol. Hwn fydd ein hunig gyfle heddiw i graffu ar y Llywodraeth a gofyn cwestiynau i'r Gweinidog ynghylch y strategaeth hon am y saith diwrnod nesaf, felly tybed a fyddech yn ystyried, Llywydd, defnyddio'r pŵer sydd gennych chi o dan adran 12.18 o'r Rheolau Sefydlog i alw am seibiant byr o hanner awr er mwyn i Aelodau gael cyfle i ddarllen y ddogfen cyn ymateb i ddatganiad y Gweinidog Iechyd, neu, fel arall, gan ddefnyddio'r pŵer sydd gennych o dan adran 12.17, newid trefn y datganiadau heddiw fel y cawn ni ddatganiad y Gweinidog iechyd yn nes ymlaen yn y prynhawn, gan roi cyfle unwaith eto i Aelodau ddarllen y ddogfen strategaeth yn gyntaf, fel y gallan nhw ofyn cwestiynau am bolisi'r Llywodraeth gyda'r wybodaeth lawn yn eu meddiant.
Diolch am y pwynt o drefn yna. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae hi yn arfer da dosbarthu datganiadau cyn eu cyflwyno, ac rwy'n sylweddoli bod hwn yn ddatganiad pwysig yr ydym ar fin ei glywed, ond nid wyf yn credu ei bod hi'n briodol ar hyn o bryd i ohirio'r datganiad hwnnw, felly gobeithiaf y tynnwyd sylw'r holl Aelodau gan Adam Price at y ddogfen a ddosbarthwyd am 13:22, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog iechyd yn cyfeirio at hynny yn ystod y datganiad. Ond, fel y dywedais, arfer da yw rhoi cymaint o amser â phosib i Aelodau ystyried gwybodaeth bwysig.