11. Dadl Plaid Cymru: Cwricwlwm Newydd Arfaethedig

– Senedd Cymru ar 1 Gorffennaf 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4 ac 8 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliannau 5, 6 a 7 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 ei ddad-ddethol. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:17, 1 Gorffennaf 2020

Yr eitem nesaf o fusnes yw dadl Plaid Cymru ar y cwricwlwm newydd arfaethedig. Dwi'n galw ar Siân Gwenllian i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7342 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn datgan cefnogaeth gyffredinol i bwrpas y cwricwlwm newydd arfaethedig, sef galluogi dysgwyr i ddatblygu fel:

a) dysgwyr uchelgeisiol, galluog, sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau;

b) cyfranwyr mentrus, creadigol sy'n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith;

c) dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd; ac

d) unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

2. Yn cytuno bod cyflwyno’r cwricwlwm newydd yn cynnig cyfle hanesyddol i unioni sawl anghyfiawnder strwythurol yng Nghymru.

3. Yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru bod cyfrifoldeb ar lywodraeth gwlad i gymryd camau penodol i sicrhau bod y cwricwlwm yn gwarantu gwaelodlin o ddarpariaeth i bobl ifanc ar draws Cymru fel mater o hawliau dynol sylfaenol ac yn croesawu y bydd rhai elfennau o’r cwricwlwm newydd yn orfodol o ganlyniad.

4. Yn cytuno y dylai’r elfennau gorfodol o’r cwricwlwm gynnwys:

a) hanes pobl ddu a phobl o liw; a 

b) hanes Cymru.

5. Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a’r Saesneg, ond nad oes angen i’r Saesneg gael ei chynnwys yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyflawni’r nod hwn.

Cynigiwyd y cynnig.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:17, 1 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mae’r misoedd diwethaf wedi gorfodi bob un ohonom ni i gymryd golwg o’r newydd ar yr hyn sydd bwysicaf i ni. Mae hefyd, yn anffodus, wedi amlygu’r anghyfiawnder a’r anghyfartaledd sydd wrth wraidd ein cymdeithas ni o hyd.

Cyn hir, mi fyddwn ni, fel deddfwrfa, yn ymgymryd â’r gwaith pwysig o graffu ar un o’r darnau pwysicaf o ddeddfwriaeth i ddod gerbron y Senedd yma yn ei hanes—deddfwriaeth fydd yn rhoi’r cyfle i ni fynd ati efo llechen lân am y tro cyntaf i ddeddfu i greu cwricwlwm addysg ysgolion pwrpasol i Gymru.

At ei gilydd, mae’r weledigaeth gyffredinol sy’n sail i gyflwyno’r cwricwlwm newydd yn un yr ydym ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â hi. Mae’n cynnig cyfle i wireddu sawl uchelgais ac i gyflawni sawl nod clodwiw. Ar drothwy cyhoeddi’r Bil cwricwlwm ac asesu wythnos nesaf, mi oeddem ni’n teimlo y byddai hi'n amserol manteisio ar y cyfle heddiw i gael trafodaeth benodol ar y cyfleoedd fydd y ddeddfwriaeth yn ei chynnig i unioni anghyfiawnder ac i greu Cymru sy’n fwy cynhwysol i bawb.

Prynhawn yma, dwi am ganolbwyntio ar y tri pheth y mae angen i'r cwricwlwm newydd ei wneud. Mae yna fwy na thri pheth wrth gwrs, ac yn ystod taith y Bil drwy'r Senedd, bydd cyfle inni wyntyllu elfennau pwysig eraill, megis iechyd meddyliol a lles emosiynol. Ond dwi am roi ffocws heddiw ar dair elfen.

Yn gyntaf, rhaid i'r cwricwlwm newydd sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o blant a phobl ifanc yng Nghymru yn dysgu am hanes pobl ddu a phobl o liw, er mwyn atal hiliaeth a hyrwyddo amrywiaeth ddiwylliannol. Yn ail, rhaid iddo fo warantu bod pob disgybl yn dysgu am hanes Cymru, er mwyn cael y cyfle i allu gweld y byd drwy ffenestr y wlad y maen nhw'n astudio ac yn byw ynddi hi. Ac yn drydydd, rhaid iddo fo ein symud ni at sefyllfa lle mae bod yn rhugl yn ein dwy iaith genedlaethol yn dod yn norm, nid yn eithriad, drwy sicrhau bod y cwricwlwm yn prysuro ac yn hwyluso twf addysg cyfrwng Cymraeg.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 5:20, 1 Gorffennaf 2020

Mae'r Llywodraeth eisoes wedi derbyn bod yn rhaid gwneud rhai elfennau o'r cwricwlwm yn statudol mewn deddfwriaeth er mwyn gwarantu bod materion yn cael sylw haeddiannol ac yn cael eu cyflwyno i bob disgybl yn ddiwahân. Mae'n sefyll i reswm mai cyfrifoldeb llywodraeth gwlad ydy rhoi trefniadau cadarn ar waith mewn deddfwriaeth i ddiogelu plant. Ac mae'r Gweinidog i'w llongyfarch felly am ei phenderfyniad i sicrhau y bydd addysg rhyw a pherthnasau iach yn cael ei hystyried yn fater o hawliau dynol sylfaenol yng Nghymru yn y dyfodol.

Ond lle mae'r rhesymeg dros ddilyn trywydd cwbl wahanol gydag addysgu hanes pobl ddu a phobl o liw? Ble mae'r rhesymeg mewn peidio cymhwyso'r un ystyriaethau a'r un meini prawf i'r materion hyn hefyd? Fe glywais i'r barnwr Ray Singh yn dweud yn ddiweddar nad ydy'r drefn wirfoddol o ddysgu am y materion yma wedi gweithio ac, o ganlyniad, fod hanes pobl ddu a phobl o liw, yn ôl ei asesiad o, yn absennol o wersi ysgol i bob pwrpas. Rŵan, dwi yn prysuro i ddweud mai problem systematig ydy hon, ac nid bai ysgolion nac athrawon unigol, fel y cyfryw, ydy hyn.

Ond mae nifer o arbenigwyr yn y maes, gan gynnwys Cyngor Hil Cymru, wedi dadlau bod yn rhaid gwneud hanes BAME yn orfodol, fel rhan o hanes Cymru, yn ein hysgolion ni. A'r wythnos diwethaf, mi gawson ni'r dystiolaeth ddiweddaraf eto, mewn rhes o adroddiadau, o'r angen hwn. Ac yn yr adolygiad, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog, i ddeall effaith anghymesur COVID-19 ar bobl BAME yng Nghymru, fe gafwyd argymhellion pendant yn galw am weithredu, yn ddi-oed, i gynnwys hanes ac addysg BAME a'r Gymanwlad yng nghwricwlwm cenedlaethol Cymru 2022 ar gyfer disgyblion cynradd ac uwchradd.

Mae'r neges yn glir: mae'n rhaid i Lywodraeth fod wrth y llyw, yn gwneud popeth yn ei gallu i waredu hiliaeth o'n cymdeithas. Does bosib nag ydym ni yn mynd i ddirprwyo rhywbeth sydd mor allweddol i'n hymdrechion i waredu hiliaeth o'n cymdeithas i bob corff llywodraethol unigol, neu i weithgor dan oruchwyliaeth Estyn. Does bosib nad dyna'r ffordd fwyaf effeithiol o fynd o'i chwmpas hi. Mi fyddaf i, felly, yn erfyn ar yr Aelodau hynny sydd o'r un farn â mi i wrthod gwelliant y Llywodraeth yn enw Rebecca Evans. Gyda llaw, mi fyddwn ni yn gwrthod y gwelliannau eraill hefyd am eu bod nhw, yn ein barn ni, yn tynnu oddi ar brif neges ein cynnig ni. 

Mi ydwyf i, fel sawl un arall ar draws y Siambr, wedi sôn droeon am yr achos cryf sydd dros gynnwys hanes Cymru fel rhan neilltuol a statudol o'r cwricwlwm, yn ei holl ffurf ac yn ei holl amrywiaeth, wrth reswm. Felly, ni wnaf amlhau geiriau ynglŷn â hynny, dim ond i ddweud bod y drefn bresennol wedi methu â rhoi ffocws priodol ar hanes Cymru ac wedi gwadu cenedlaethau o blant rhag cael dealltwriaeth gyflawn am hanes ein gwlad ein hunain. Hawl pob person ifanc yng Nghymru ydy cael cyfle i allu dirnad a gwerthfawrogi'r byd o'n cwmpas drwy lens y genedl. A'n dyletswydd ni, fel Aelodau o brif gorff democrataidd Cymru, yw ei warantu. 

Ac i gloi, dwi am droi at y drydedd elfen gwnes i sôn amdani hi. Bydd y bwriad i wneud y Saesneg yn statudol ymhob cyfnod dysgu yn golygu bod pob disgybl hyd at saith oed yn derbyn addysg Saesneg yn awtomatig, oni bai fod llywodraethwyr yr ysgol yn optio allan fesul un. Bydd hefyd felly yn rhoi mwy o gyfrifoldeb i lywodraethwyr ysgolion dros bolisi iaith ysgolion unigol ac yn tanseilio rôl strategol awdurdodau lleol wrth gynllunio addysg Gymraeg, gan gynnwys yn y gorllewin, sydd wedi arwain y ffordd efo polisïau trochi iaith.

Byddai deddfu i wneud y Saesneg yn orfodol yn groes i'r gydnabyddiaeth sydd wedi datblygu a'i meithrin yng Nghymru dros y blynyddoedd diwethaf yma, sef y gydnabyddiaeth yna nad maes chwarae gwastad ydy hi rhwng y Gymraeg a'r Saesneg. Er bod y ddwy ohonyn nhw, wrth gwrs, yn ieithoedd cenedlaethol, mae'r gefnogaeth a'r gynhaliaeth sydd eu hangen arnyn nhw yn dra gwahanol. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth honno yng ngwelliant y Ceidwadwyr, ond yn gresynu bod Llywodraeth Cymru yn methu'r pwynt efo hyn.

Fe ddylai'r cwricwlwm newydd fod o gymorth i siroedd Gwynedd, Môn, Ceredigion a sir Gâr, lle sefydlwyd y Gymraeg yn norm yn y cyfnod sylfaen, a chefnogi lledaenu'r arfer orau hwnnw yn ehangach ar draws y wlad. Ond yn hytrach, mae o'n peryglu hynny ac, efallai yn anfwriadol, mae yna berygl iddo fo gael ei danseilio.

I grynhoi, felly, Llywydd, mi ddylem ni, fel gwladwriaeth fod yn ymyrryd lle mae cryfhau cydraddoldeb a hawliau sylfaenol ein dinasyddion ni yn y cwestiwn. Fe ddylem ni ymyrryd lle mae'r status quo yn methu, ac mi ddylem ni ymyrryd lle mae'r dystiolaeth mor gryf y byddai'n esgeulus i ni beidio â gwneud hynny. Mae'n rhaid gweithredu ar lefel genedlaethol lle mae gwneud hynny yn greiddiol i greu newid yng Nghymru. Dwi'n edrych ymlaen i glywed y ddadl a chyfraniadau fy nghyd-seneddwyr ar y pwnc pwysig yma.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:27, 1 Gorffennaf 2020

Dwi wedi dewis yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os caiff gwelliant 2 ei gymeradwyo, yna bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw ar Suzy Davies, felly, nawr i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 ac 8 yn enw Darren Millar. Suzy Davies.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y gall y cwricwlwm newydd, os yw'n llwyddo yn ei amcanion, helpu i ddatblygu dinasyddion hyderus, sy'n gyd-gyfrifol, a fydd yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael ag anghyfiawnder o bob ffynhonnell.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 4, dileu is-bwyntiau 4(a) a 4(b) a rhoi yn eu lle:

hanes Cymru; hanesion y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon; a hanesion rhannau eraill o'r byd, a bod:

(i) pob un o'r uchod i gynnwys hanes pobl dduon a phobl o liw; a

(ii) pob un o'r uchod yn cael eu rhoi mewn cyd-destun;

addysgu sgiliau achub bywyd, fel y nodwyd yn flaenoriaeth gan y Senedd Ieuenctid.

Gwelliant 4—Darren Millar

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

Yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i fod yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg, gan sicrhau bod cymorth ar gyfer dysgu Cymraeg yn ystyried yr effaith fanteisiol a geir eisoes yn sgil y ffaith bod dysgwyr o dan ddylanwad amgylcheddol amlycach i’r Saesneg.

Gwelliant 8—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ailystyried y dyddiad cychwyn ar gyfer gweithredu'r cwricwlwm newydd i ddarparu ar gyfer oedi wrth ei baratoi oherwydd Covid-19.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4 ac 8.

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 5:27, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd, ac ydw, rwy'n cynnig y gwelliannau. A gaf i ddiolch i Blaid Cymru am ddod â'r ddadl hon gerbron? Mae'n bwnc mawr ac rwy'n gwerthfawrogi eu bod eisiau canolbwyntio ar un neu ddau o agweddau heddiw. Felly, rhestr gyflym fydd hon o rai o'r materion a godwyd gan y cynnig a'r gwelliannau. Ond rwy'n credu y gallwn ni nodi'r pethau sylfaenol wrth gefnogi pwyntiau 1 a 3, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei dderbyn. 

Y cyfan y mae ein gwelliant cyntaf yn ei wneud mewn gwirionedd yw gofyn i'r Aelodau ystyried terfynau yr hyn y gallai 'anghyfiawnderau strwythurol' ei olygu. Cyfeiriodd Delyth Jewell at hyn mewn erthygl dros y penwythnos, ac efallai y byddwn yn canfod ein bod yn rhannu ei dadansoddiad—wn i ddim eto. Ond hoffwn i ni, hyd yn oed nawr, ddechrau meddwl am siarad y tu hwnt i'n perthynas â'r wladwriaeth, os mynnwch chi: gwrthsefyll y bwli; rhoi eich hun yn esgidiau pobl eraill; a dod yn fwy llythrennog yn emosiynol ac yn empathetig. Mae'r rhain o bwys mewn ffyrdd bach iawn—y pethau bychain—mewn rhyngweithio dynol bob dydd, yn rhan o'r glud cymdeithasol sy'n araf ddadlynu mewn cyfres gynyddol ddigidol o gydberthnasoedd yn ein bywydau, ac amgylchedd lle mae pobl yn ofni canlyniadau mynegi safbwyntiau gwahanol. Mae'r rhain yn fy nharo fel ysgogiadau cymdeithasol newydd, felly nid wyf yn siŵr a yw 'strwythurol' yn cyfleu hynny i gyd, oherwydd, fel chithau, rwyf innau eisiau gweld cenedlaethau o bobl ifanc yn meddwl am hyn ac yn ystyried ac efallai yn derbyn cyfrifoldeb i fod yn rhagweithiol ynghylch tegwch mewn gwahanol ffyrdd mewn bywyd bob dydd, ac nid dim ond y prif faterion neu drwy rym gwleidyddol.

Fe wnaethom gyflwyno ein gwelliant 4 fel y mae'r pwynt 4 gwreiddiol yn nodi fel pe byddai'r ddau hanes hyn—hanes Cymru a hanes pobl dduon a phobl o liw—yn annibynnol ar ei gilydd, a gwn nad dyna oedd y bwriad. Mae Plaid Cymru yn gwybod ein bod yn cytuno â'r ddau bwynt hyn. Ond mae'r cais hwn i roi cyd-destun yn fater pwysig iawn. Hynny yw, pa mor wirion yw hi y gallaf gael fy holi, yn gwbl ddifrifol, gan gyfaill ifanc, wrth weld bws deulawr yn Abertawe am y tro cyntaf, 'Ai dyna ble'r oedd y bobl dduon yn arfer eistedd?' Mae hyn yn Abertawe. Mae'r cwricwlwm hwn i fod i helpu i fagu ein plant fel meddylwyr beirniadol, datryswyr problemau, ac i ddeall nad oes byth un safbwynt ar unrhyw beth. Fel y trydarodd David Melding—gan sianelu ei 1066 and All That—:

Roedd Syr Thomas Picton yn ddyn drwg ac yn gadfridog penigamp.

Mae cymaint i'w ddeall yn yr un frawddeg honno, ond mae angen i chi archwilio cyd-destun i hyd yn oed ddechrau gwneud hynny, a dyna pam na ellir dysgu hanes Cymru ar wahân i hanes yr ynysoedd hyn yn arbennig, ond y byd yn fwy eang, na heb ddeall bod yr hyn a welwn ni neu'r hyn yr ydym ni'n credu a welwn ni yn ein straeon yn digwydd oherwydd yr hyn a ddigwyddodd o'r blaen neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill.

Nawr, rwyf wedi cynnwys addysgu sgiliau achub bywyd yn y fan yma yn rhan orfodol o'r cwricwlwm, yn rhannol oherwydd bod y syniad wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn y Cynulliad diwethaf, gan gynnwys gan y Gweinidog pan oedd hi yn yr wrthblaid, ac ar gyfer fy nghynigion deddfwriaethol, a gafodd gefnogaeth drawsbleidiol yn y Senedd/Cynulliad hwn, ond yn bennaf oherwydd bod sgiliau achub bywyd wedi cyrraedd brig arolwg ein Senedd Ieuenctid ni ein hunain o sgiliau bywyd, a rheoli straen yn ail. Felly, hwn yw eu blaenoriaeth o ran sgiliau bywyd.

O ran gwelliant 5, rydym ni'n troedio'n ofalus yn y fan yma gan nad ydym ni wedi gweld y Bil hyd yn hyn ac nid ydym ni'n gwybod beth fydd yn ei ddweud am y pwynt a wnaeth Plaid Cymru. Ond mae Siân yn iawn—mae'n amlwg iawn y bydd ein plant yn agored i fwy o ddylanwadwyr o Loegr ac, os ydym ni o ddifrif am ddwyieithrwydd, mae'n rhaid i'r modd y caiff y Gymraeg ei haddysgu gydnabod a darparu ar gyfer hynny, ond mae ein hieithoedd yn gydradd o dan y gyfraith ac mae'r Bil yn ddarn o gyfraith.

Rydym ni'n cefnogi gwelliant 5 a gwelliant 6, sy'n cyd-fynd mor dda â'n polisi tairieithog hirsefydlog ein hunain ar gyfer Cymru.

Mae'n anodd anghytuno â gwelliant 7 ond mae'n anodd ei gyflawni pan fo recriwtio athrawon yn destun pryder mawr.

Felly, yn olaf, at welliant 8, gwahoddodd y Ceidwadwyr Cymreig farn pob ysgol yng Nghymru ynghylch effaith y cyfyngiadau symud ar baratoadau ar gyfer y cwricwlwm, ac mae'r prif ganfyddiadau'n eithaf llwm: dywedodd ychydig o dan hanner yr ysgolion nad oedden nhw'n gwneud unrhyw waith datblygu o gwbl, ac roedd y gweddill yn gwneud dim ond ychydig. Dywedodd saith deg chwech y cant o athrawon wrthym fod y cyfnod hwn yn cael effaith negyddol ar eu paratoi, a'r holl waith a gynlluniwyd ar gyfer yr haf wedi'i ganslo, a, phan ofynnwyd y cwestiwn agored iddyn nhw, 'Pa gefnogaeth y gallai Llywodraeth Cymru ei chynnig ar hyn o bryd i gefnogi eich gwaith datblygu cwricwlwm?', ymateb y mwyafrif, o bell ffordd, oedd, 'Gohirio ei weithredu'—nid ei gyflwyno ond ei weithredu. Mae cynlluniau arweinyddion i dreialu'r cwricwlwm hwn dros gyfnod o flwyddyn wedi'u chwalu ac maen nhw wedi mynd oherwydd COVID, ac mae athrawon eisiau'r cwricwlwm ac maen nhw eisiau ei wneud yn dda. Felly, maen nhw eisiau gwneud cyfiawnder â'ch polisi, yn y bôn, Gweinidog, ac felly, wrth wrando ar y ddadl hon heddiw, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n clywed yr alwad hon ac yn rhoi arwydd heddiw eich bod yn gwrando. Diolch.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 5:32, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 2 yn ffurfiol, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 4 a 5 a rhoi yn eu lle:

Yn cydnabod bod canllawiau Dyniaethau y Cwricwlwm Newydd i Gymru yn 'hyrwyddo dealltwriaeth o’r amrywiaeth ethnig a diwylliannol yng Nghymru' ac yn 'galluogi dysgwyr i ymroi i weithredu cymdeithasol fel dinasyddion cyfranogol, gofalgar o’u cymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang.'

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

a) gweithio gydag Estyn er mwyn sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru a thu hwnt, a

b) sefydlu gweithgor i oruchwylio’r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, ac adnabod bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol yn ymwneud â chymunedau, cyfraniadau a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Yn cytuno y dylai’r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru

(Cyfieithwyd)

Diolch. Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 5, 6 a 7, a gyflwynwyd ganddo fe.

Gwelliant 5—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y cwricwlwm yn darparu ar gyfer dysgu Cymraeg a bod hyn yn cael ei ategu gan fuddsoddiad i sicrhau bod cyrsiau trochi dwys yn y Gymraeg ar gael yn rhwydd i athrawon a disgyblion fel ei gilydd.  

Gwelliant 6—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar y cwricwlwm newydd i sicrhau bod pob disgybl yn dysgu iaith dramor fodern o flwyddyn 1 yn yr ysgol.

Gwelliant 7—Neil McEvoy

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu mai'r ffordd orau o roi'r cwricwlwm newydd ar waith yn llwyddiannus yw drwy leihau maint dosbarthiadau i lai na 20 o ddisgyblion.

Cynigiwyd gwelliannau 5, 6 a 7.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 5:32, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Miliwn o siaradwyr erbyn 2050: felly, sut ydym ni am wneud hynny? Yr unig ffordd yw trwy fuddsoddi yn radical ac yn drawsnewidiol yn yr iaith Gymraeg.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent

Y Gymraeg ydy'r pedwerydd iaith i mi ei dysgu, a'r unig ffordd i ddysgu iaith yw trochi.

Photo of Neil McEvoy Neil McEvoy Independent 5:33, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Felly, Cymraeg yw'r bedwaredd iaith yr wyf i wedi'i dysgu, a'r unig ffordd o wneud hynny yw drwy drochi, mewn gwirionedd. Dylai cyrsiau trochi fod ar gael yn rhad ac am ddim i bawb: i ddisgyblion, i athrawon, er mwyn i athrawon allu gwella eu sgiliau. Fel arall, dydw i ddim wir yn ein gweld ni'n cyrraedd y targed. Mae angen i ni ddatblygu sylfeini sgiliau. Os edrychwn ni, efallai, ar ffoaduriaid, maen nhw'n dod i Gymru ac mae nhw'n cael gwersi Saesneg am ddim. Wel, fe ddylen nhw gael eu dysgu i siarad Cymraeg hefyd am ein bod ni'n byw yng Nghymru.

Mae'r gwelliant nesaf, gwelliant 6, yn sôn am ieithoedd tramor modern a dylem ni, mewn gwirionedd, fod yn addysgu ieithoedd o flwyddyn 1 ymlaen. Nid oes unrhyw esgus. Unwaith eto, mae angen i ni wella sgiliau staff er mwyn gallu gwneud hynny. Yn yr Iseldiroedd ac ym mhob cwr o'r byd—llawer o leoedd—mae'n gyffredin iawn i bobl fod yn amlieithog drwy eu systemau addysg. Rwy'n cofio mynd i Sbaen a gwylio plant saith oed yn gwneud daearyddiaeth trwy gyfrwng y Saesneg. Roedd yn ddiddorol iawn.

O ran maint dosbarthiadau, crybwyllodd y siaradwr diwethaf hyn, ond yr hyn yr wyf i eisiau ei wneud a'r hyn y mae'r Welsh National Party eisiau ei wneud yw rhoi dosbarthiadau llai yn ôl ar yr agenda. Fel cyn-athro, rwy'n gwybod am yr effaith enfawr a'r gwahaniaeth anferth, yn fwy diwylliannol yn yr ystafell ddosbarth, mewn gwirionedd, ac yn enwedig gyda gwell cydberthnasoedd, pan eich bod yn addysgu dosbarthiadau o lai nag 20, ac rwy'n credu y dylem ni fod â'r nod hwnnw.

Rwy'n clicio ar y sgrin nawr i'r cynnig ei hun, ac rwy'n difaru na wnes i wella hwn, mewn gwirionedd, oherwydd os edrychwch chi ar bwynt 4, mae gennych chi

'a) hanes pobl dduon a phobl o liw; a b) hanes Cymru' a'r trafferthion—. Mae siaradwyr wedi sôn am y gymuned BAME. Wel, du, brown, mae pobl o liw yn rhan o hanes Cymru. Ni yw Hanes Cymru. Rydym ni'n helpu i'w wneud, ac rwy'n credu bod yna ganlyniadau anfwriadol difrifol, neu gallai fod canlyniadau anfwriadol difrifol, gyda geiriad y cynnig. Efallai y dylwn i fod wedi ychwanegu 'yn rhan o', ond wnes i ddim, ond byddai'n dda gennyf pe bawn i wedi gwneud hynny nawr. Rwy'n cofio bod mewn cyfarfod unwaith gyda Betty Campbell, a chafodd hi ei labelu yn 'BME', ac fe ddywedodd Betty, 'I ain't no BME. I'm Welsh.' Ac rwy'n credu na ddylem ni byth, byth anghofio hynny. Rwyf i'n uniaethu fel Cymro a, digwydd bod, mae gen i groen brown, a'r hyn yr wyf i eisiau ei weld yw hanes cwbl gynhwysol o Gymru, lle byddwn yn dysgu yn awtomatig am bob cymuned sydd yn ffurfio ein gwlad, a, phan fydd fy mab yn tyfu i fyny, rwyf eisiau iddo ddysgu am Llywelyn Ein Llyw Olaf, rwyf eisiau iddo ddysgu am Sycharth a llys Owain Glyndŵr, rwyf eisiau iddo ddysgu am y cestyll, a Dolbadarn, er enghraifft, ac am Dŷ Morgan, ac nid dim ond Brwydr Hastings, y Magna Carta, a Harri'r VIII.

Gadewch i ni fynd yn ôl eto at y mater o hil, oherwydd rwy'n credu os ydym ni'n mynd i fynd i'r afael o ddifrif â'r mater o hil, yna mae angen i ni fynd i'r afael â'r mater yn sefydliadol. Edrychwch ar y BBC, a gofynnwch i unrhyw un allan yna sawl newyddiadurwr o liw y maen nhw'n ei weld yng Nghymru? Sawl newyddiadurwr o liw y maen nhw'n eu derbyn ar eu rhaglenni hyfforddi? Faint o fenywod, o ran hynny? Faint o bobl anabl? Wel, mae'r BBC yn teimlo cymaint o gywilydd, dydyn nhw ddim hyd yn oed yn fodlon dweud, oherwydd rwyf wedi gofyn, ond wnawn nhw ddim rhyddhau’r ffigurau, mae'n debyg oherwydd eu bod nhw mor gywilyddus.

Os edrychwn ni ar y Senedd ei hun, yn ystod y cyfyngiadau symud, os oeddech chi yn AS o liw, roeddech chi hanner mor debygol o gael eich dewis i ofyn cwestiwn i'r Prif Weinidog o'i gymharu ag Aelod gwyn. Nawr, mae'r rhain yn faterion sefydliadol o wahaniaethu y mae'n rhaid i'r sefydliad fynd i'r afael â nhw, oherwydd nid ydyn nhw'n cael sylw. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni siarad amdano, mewn gwirionedd, hefyd, yw'r rhwystrau sy'n dal i fod yno, yn atal pobl o liw rhag bod yn rhan o hanes Cymru.

Dim ond i ailadrodd, ni fydd gennym ni byth, erbyn 2050, wlad sydd â miliwn o siaradwyr Cymraeg, lle gall pobl sgwrsio yn Gymraeg neu yn Saesneg, nes bod y cyrsiau trochi hynny gennym. Mae'n beth gwirioneddol sylfaenol. Os bydd unrhyw un yn pleidleisio yn ei erbyn, mae'n sefyllfa frawychus, mewn gwirionedd, oherwydd nid wyf yn gweld sut y gall unrhyw un bleidleisio'n ddifrifol yn erbyn dosbarthiadau cyn-trochi yn y Gymraeg i bobl sy'n byw yng Nghymru. Dyma ein hawl ni, a dylai fod yno'n barod.

Mae angen i ni wella sgiliau pobl. Byddai'r economi yn llawer mwy ystwyth, yn llawer mwy abl i lwyddo pe byddai gennym ni sgiliau iaith gwell. Ac, wrth gwrs, y pwynt olaf yn y fan yna ar faint dosbarthiadau: mae angen i ni ddechrau trafod lleihau maint dosbarthiadau hyd nes y cawn ni'r ffigwr o dan 20. Felly, dyna fy ngwelliannau i, a diolch yn fawr.

Photo of Leanne Wood Leanne Wood Plaid Cymru 5:38, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Does dim amheuaeth bod dysgu ein hanes ni i gyd yn gymaint gwell heddiw nag y bu yn y gorffennol, ac mae arferion addysgu gwych yn digwydd ar hyd a lled y wlad. Y broblem i ni yw nad yw'n gyson. Gallwn ni sicrhau bod yr arfer gorau hwnnw yn gallu bod o fudd i bob plentyn, ble bynnag y mae'n byw. Gyda datblygiad y cwricwlwm newydd, mae gennym ni gyfle i ymuno â'r rhai hynny sydd ar y blaen ym maes addysg flaengar ac addysgu ystod ehangach o hanes i bob disgybl, gan gynnwys hanes Cymru, a ddylai gynnwys hanes pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru ac o Gymru, oherwydd, yn syml iawn, yr hanes hwnnw yw hanes Cymru. Ac rwyf eisiau gweld hanes yn cael ei addysgu o safbwynt menywod a'r dosbarth gweithiol, hefyd. Pan ddaw i hanes, mae'n rhaid i ni gynnwys y cyfan i gyd—y da, y drwg a'r hyll. Mae angen i ni siarad am ymerodraeth, mae angen i ni siarad am gysylltiadau Castell Penrhyn â phlanhigfeydd yn Jamaica, y gwaith copr yn Nyffryn Maesglas yn Nhreffynnon a gynhyrchodd freichledau a ddefnyddiwyd i brynu caethweision, neu deulu Grenfell Abertawe, a fu'n ymwneud yn ddwfn â'r fasnach gaethweision yn El Cobre, Ciwba. Mae angen i ni siarad am gyfraniad cadarnhaol ein cymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwyngalchu etifeddiaeth ddiwydiannol Cymru drwy hepgor cyfraniad cymuned unigryw Tiger Bay yn golygu bod yr anwybodaeth yn parhau. Mae'r morwyr a'r gweithwyr o dros 50 o wledydd a ymsefydlodd yn y gymuned o ganlyniad i'r dociau prysur yn ganolog i ddatblygiad de diwydiannol Cymru. Ond er cymaint y mae hwn yn fater o gynrychiolaeth, mae hefyd yn fater o amddiffyn grwpiau lleiafrifol yng Nghymru. Yn yr un modd â phenderfyniad y Gweinidog i wneud addysg rhyw a pherthnasoedd yn statudol, mae hyn hefyd yn ymwneud â diogelu pobl a deall lleiafrifoedd. Bydd yn cynnig cyfleoedd i herio hiliaeth a senoffobia, ac, fel y dengys gwaith diweddar yr ymgyrch Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, mae hynny'n hanfodol.

Wrth i hiliaeth a gwahaniaethu ar sail crefydd dyfu mewn ysgolion, gallwn hefyd weld yr effeithiau yn ein system cyfiawnder troseddol. Oni fyddai mwy o ddealltwriaeth yn gwneud gwahaniaeth i achosion drwg-enwog fel un Tri Caerdydd: tri dyn du a gafwyd yn euog yn anghyfiawn o lofruddiaeth yn 1987, yn union ar garreg drws y Senedd? Fe'i hadnabyddir fel un o'r achosion gwaethaf o anghyfiawnder yn hanes system cyfiawnder troseddol Prydain, ac eto nid yw'r gynrychiolaeth anghymesur o bobl dduon ym mhoblogaeth ein carchardai, y tangynrychiolaeth o bobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig mewn swyddi o awdurdod, a thriniaeth wael pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig gan yr heddlu mewn gormod o achosion wedi'u cyfyngu i hanes. Mae'r ystadegau'n dangos faint o broblem yw hyn o hyd heddiw. Gallai ymwreiddio gwrth-hiliaeth yn y cwricwlwm fod yn un cam bach ond arwyddocaol i'w gymryd i ddileu gwahaniaethu systemig a strwythurol yng Nghymru. Mae'n ddyletswydd ar ein deddfwrfa a'n Llywodraeth i sicrhau y caiff ei ymgorffori yn y gyfraith.

Ni allwn ddiystyru elfennau anghyfforddus ein hanes nac, yn wir, ein presennol, dim ond oherwydd y gallen nhw wneud i ni deimlo'n lletchwith. Bydd bod yn onest, yn agored ac yn barod i wrando, herio a chymryd camau i newid sefyllfa pobl sy'n wynebu gwahaniaethu yn ein gwneud ni, fel cenedl, yn fwy ymwybodol o elfennau o ragfarn ac anghydraddoldeb yn ein cymdeithas a'n cymunedau, y mae angen eu hunioni. Mae Plaid Cymru yn credu bod y cwricwlwm newydd hwn yn cynnig cyfle i ni unioni llawer o anghyfiawnderau strwythurol yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio na chaiff y cyfle ei golli.  

Photo of Rhianon Passmore Rhianon Passmore Labour 5:43, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwy'n cefnogi gwelliant 2, fel y'i cyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn arbennig fel yr Aelod o'r Senedd dros Islwyn, rwy'n cefnogi ei dymuniad i fewnosod,

'yn cytuno y dylai'r cwricwlwm newydd gefnogi pob dysgwr i ddysgu Cymraeg a Saesneg.'

Mae Cymru yn wlad sy'n falch o fod yn amlieithog yn hanesyddol gan gynnwys nifer o ieithoedd o bob cwr o'r Gymanwlad a thu hwnt. Yn ôl y gyfraith, rydym ni'n wlad ddwyieithog, gyda'r Gymraeg a'r Saesneg yn mwynhau statws cyfartal, ond mae llawer o'n plant ysgol yn siarad llawer mwy o ieithoedd, ac yn fy hyfforddiant athrawon i ac addysgu ehangach bu'n fraint fawr i mi gael ysgolion profiadol gyda thros 34 o ieithoedd yn cael eu siarad a'r tapestri cyfoethog o fudd diwylliannol sydd wedi plethu o fewn yr ysgolion. O ran cymunedau Islwyn, ein hymagwedd gynhwysol ni sydd o fudd i bob un o'n cymunedau ac sy'n ein gwneud yn genedl y Cymry fel yr ydym ni. Mae'r mwyafrif o'm hetholwyr yn Islwyn yn ddinasyddion Cymru balch sy'n siarad Saesneg yn rhugl, gyda sylfaen Gymraeg fywiog sy'n tyfu ac yn cael ei chefnogi gan ein Llywodraeth Lafur yng Nghymru. Y tapestri hwn o ddewisiadau yr ydym yn ei werthfawrogi er mwyn cynnal y cydraddoldeb yr ydym yn ei goleddu mewn addysg.  

Felly, mae'n wirioneddol siomedig i mi weld Plaid Cymru yn ôl pob golwg yn creu rhaniad gyda'r haeriad pryfoclyd nad oes angen cynnwys y Saesneg yn y rhestr o elfennau gorfodol er mwyn cyrraedd y nod bod pob dysgwr yn rhugl yn y Gymraeg a'r Saesneg. Yn hytrach, mae hyn yn teimlo fel agwedd braidd yn unllygeidiog ac yn un sy'n peri rhwyg ac rwyf hefyd yn cytuno'n llwyr â gwelliant 2 lle mae'n datgan:

'Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i:

'a) weithio gydag Estyn i sicrhau bod ei adolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i... hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig; a

'b) sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu, a nodi bylchau mewn adnoddau neu hyfforddiant presennol sy'n gysylltiedig â chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, eu cyfraniadau a'u profiadau.'

Mae'r ymgyrch Mae Bywydau Du o Bwys wedi bod yn ddatblygiad trasig yn ogystal ag yn ddatblygiad y mae ei angen o hyd yn anffodus, i barhau i godi ymwybyddiaeth ledled ein byd ac wedi'i ail-bwysleisio yn ddychrynllyd, yn anhygoel yr wythnos diwethaf, gan farwolaeth wrthun, arswydus dwy chwaer ddu, yr honnir nad yw wedi'i flaenoriaethu a thynnwyd hunluniau ohonynt yn farw gan swyddogion yr Heddlu Metropolitan.

Yng Nghymru, rydym ni ein hunain yn gwybod, er gwaethaf ein hethos cryf a'n his-adran polisi yn seiliedig ar gydraddoldeb, fod llawer i'w wneud o hyd ar draws cymdeithas. Ni fyddwn yn rhoi'r gorau iddi, fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth ac eraill, gymryd camau breision i ddileu hiliaeth a rhagfarn, oherwydd mae'n rhan o'n DNA. Yn wir, yn neuadd prifddinas Cymru, cafwyd dadl gyhoeddus sydd wedi bod yn amlwg iawn am briodoldeb un o'r cerfluniau yn ei neuadd farmor—neuadd sydd wedi'i haddurno â cherfluniau o arwyr Cymru y pleidleisiwyd drostynt gan y cyhoedd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Mae cerflun Syr Thomas Picton o Hwlffordd, a fu farw yn Waterloo, bellach yn cael ei gondemnio am greulondeb: perchennog caethweision a llywodraethwr trefedigaethol yn Trinidad. Mae'r un cerflun hwnnw, sy'n eistedd mewn neuadd farmor yn cynnwys arwyr gwrywaidd Cymru, yn ymgorffori ac yn wirioneddol ymgnawdoli sut mae pethau yn newid dros amser—agweddau ag arlliw penodol, sy'n aml yn anodd o'n hanes ar y cyd i'w wynebu, o gam-drin hiliol a rhagfarn, y mae dyletswydd arnom ni, fel cenedl o Gymry gyda'n gilydd, i addysgu cenedlaethau'r dyfodol amdanyn nhw.

Rwy'n gwbl ffyddiog y bydd y cwricwlwm newydd arfaethedig i Gymru, ôl-COVID, a ddatblygwyd gan Lywodraeth Cymru, yn dapestri cyfoethog, bywiog, gwerthfawr, wedi'i blethu'n hyderus, er mwyn sicrhau ein bod yn datblygu ein hadnodd mwyaf gwerthfawr—dinasyddion hunanhyderus, medrus, meddylgar a deallus yn emosiynol ar gyfer Cymru a'n byd. Diolch.

Photo of David Rowlands David Rowlands UKIP 5:47, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Ers datganoli, mae ystadegau wedi dangos bod system addysg Cymru, a oedd unwaith yn destun eiddigedd i lawer, wedi dod yn—ac nid wyf yn gwneud unrhyw esgus dros ddefnyddio'r ymadrodd ystrydebol hwn—ras i'r gwaelod. Gallwn felly ddeall awydd y Gweinidog addysg presennol i wella'n sylweddol safon yr addysg sy'n cael ei gyflawni ar hyn o bryd yn ysgolion Cymru, ac mae'n wir i ddweud na ellir gwadu'r dycnwch na'r ymrwymiad llwyr y mae hi'n eu harddangos yn ei swydd. Ond mae'n rhaid i rywun ofyn: ai'r cwricwlwm newydd—yn wir, a yw'n gwricwlwm newydd arall neu a ddylem ni ei alw'n modus operandi—yw'r ateb? Mae hyn yn arbennig o wir os yw'n seiliedig mewn unrhyw ffordd ar egwyddorion Donaldson.

Teimlaf fod cyfiawnhad i ni ofyn y cwestiwn hwn, o gofio bod yr un egwyddorion wedi'u cymhwyso i addysg yr Alban a'u bod wedi difetha yr hyn a oedd unwaith yn yn fodel addysgol mawr ei glod. Ceir barn eang fod safonau addysgol yn yr Alban wedi dirywio'n aruthrol dros y degawd diwethaf. Mae un o arbenigwyr addysg mwyaf blaenllaw yr Alban, yr Athro Lindsay Paterson o Brifysgol Caeredin, yn eithaf deifiol o'r hyn a elwir y cwricwlwm ar gyfer rhagoriaeth, a gyflwynwyd yn yr Alban yn 2010. Dywed ei fod wedi bod yn drychineb i gyrhaeddiad addysgol oherwydd ei fod yn ddiffygiol o ran manylrwydd academaidd a'i fod yn gorsymleiddio'r cwricwlwm yn gyffredinol. Yr hyn sy'n peri'r pryder mwyaf yw ei fod hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ei fod wedi arwain at fwy o anghydraddoldeb addysgol.

Yng Nghymru, mae rhoi'r gorau i'r TASau a thablau cynghrair ysgolion, yn fy marn i, wedi gorsymleiddio addysg. Sut gallwn ni fod yn sicr bod ein disgyblion yn cael eu haddysgu'n dda ac yn cyrraedd y lefelau a ddisgwylir os nad oes gennym brofion rheolaidd? Roedd yna adeg pan oedd profion llawn ym mhob pwnc ar ddiwedd pob tymor ysgol. Oedden, roedden nhw'n cael eu gosod a'u marcio'n fewnol, ond roedden nhw'n ffordd effeithiol iawn o fesur cyflawniadau plentyn.

Ers datganoli, rydym ni wedi gweld Gweinidog ar ôl Gweinidog, a chyda phob newid mae cyfres newydd o bolisïau wedi eu cyflwyno. Beth fu canlyniad y newidiadau hyn? Mwy o ysgolion yn destun mesurau arbennig nag erioed o'r blaen ac, ar wahân i rai eithriadau, cyflawniad academaidd is flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yn wir, yn Nhorfaen, mae hyd yn oed yr adran addysgol ei hun wedi bod yn destun mesurau arbennig. Credaf fod pawb yn y Siambr hon yn cytuno bod yn rhaid i bethau newid. Ond, o gofio y gallai gymryd dros ddegawd i ganlyniadau gwirioneddol y cwricwlwm newydd hwn ddod i rym, mentro ar hap ydym ni mewn gwirionedd gyda chenedlaethau'r dyfodol. Gadewch i ni obeithio na fydd yn ailadrodd y polisi trychinebus hwnnw a gyflwynwyd gan gyn-Brif Weinidog anwybodus, a fynnodd mai'r hyn yr oedd y wlad ei angen oedd 50 y cant o'i phoblogaeth i gael addysg prifysgol; polisi a arweiniodd at ddau ddegawd o gefnu mwy neu lai ar addysg alwedigaethol, lle'r oedd cyn-golegau technegol, a oedd, gan fwyaf, wedi darparu cyfleuster hyfforddi rhagorol ar gyfer sgiliau galwedigaethol, yn cael eu troi'n brifysgolion ar gyfer unrhyw beth heblaw am addysg alwedigaethol.

Gweinidog, rwyf yn gobeithio'n ddiffuant y bydd y mesurau yr ydych yn eu rhoi ar waith yn achubiaeth i'r system addysg yng Nghymru, oherwydd ni allwn fforddio siomi cenedlaethau'r dyfodol am ddau ddegawd arall. Bydd dyfodol economi Cymru yn dibynnu ar y sgiliau y bydd pobl ifanc yn eu meithrin. Credaf fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad gwirioneddol i wella ansawdd addysg bellach ac addysg uwch, yn enwedig o ran mynd i'r afael â phrentisiaethau galwedigaethol. Gobeithiaf y bydd sylfaen y sefydliadau addysg hyn, rhaglen addysgol yr ysgolion, yn arfogi ein pobl ifanc yn ddigonol ar gyfer y ddau sefydliad hyn.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:51, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

'Education is...the soul of a society as it passes from one generation to another.'

Geiriau G.K. Chesterton yw'r rhain, ac maen nhw'n wir: dylai'r gwersi yr ydym yn eu dysgu i'n plant a'n pobl ifanc adlewyrchu gwerthoedd ein cymdeithas, a dylen nhw fod wedi'u gwreiddio yn straeon ein gorffennol—y da a'r drwg.

Er bod llawer y mae Plaid Cymru yn ei groesawu yn y cwricwlwm newydd, rydym ni'n teimlo'n angerddol y dylai'r ffordd y caiff hanes ei addysgu gynnwys elfen orfodol sy'n ystyried adegau allweddol yn hanes ein cenedl. Os nad yw pob plentyn yng Nghymru yn dysgu am yr adegau hyn, gallem amddifadu cenedlaethau o bobl ifanc a'u hatal rhag cael synnwyr o'u hunaniaeth eu hunain. Mae hynny mor wir am ddigwyddiadau fel boddi Capel Celyn a Therfysg Merthyr ag y mae am hanes Tiger Bay a therfysgoedd hil 1919.

Mae'r cynlluniau presennol yn seiliedig ar addysgu plant am eu hanes lleol. Rwyf yn croesawu hynny. Ond mae angen i ni gofio hefyd nad oes y fath beth â hanes lleol yn unig; hanes heb unrhyw gysylltiad â'r cyd-destun cenedlaethol neu ryngwladol ehangach. Yn ogystal â dysgu am ein hanes brodorol, dylai'r cwricwlwm newydd gwmpasu'r rhan y mae Cymru wedi'i chwarae yn hanes y byd. Defnyddiwyd y glo a gollodd waed cymaint o lowyr yn Senghennydd ac Abertyleri i bweru peiriannau'r ymerodraeth, ac fe dreiddiodd caethwasiaeth i ewynnau cymdeithas Cymru hefyd. Fe wyddom, er enghraifft, bod teulu Pennant, perchnogion ystâd Penrhyn, hefyd yn berchenogion ar un o'r ystadau mwyaf yn Jamaica, ac mae peth o'r elw a ddeilliodd yn uniongyrchol o gaethwasiaeth wedi ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru.

Mae cysgodion mwy diweddar hefyd yn achos pryder. Yr wythnos hon, cafodd y murlun 'Cofiwch Dryweryn' ger Aberystwyth ei fandaleiddio gyda swastika a symbol  pŵer gwyn. Fe baentiwyd drostynt yn gyflym, gan roi neges brydlon nad oes croeso i hiliaeth na chasineb yn ein cymunedau, ond ni allwn ychwaith anwybyddu'r ffaith fod y symbolau atgas hynny wedi eu paentio yno yn y lle cyntaf. Mae angen i ni ddysgu plant am agweddau mwy hyll ein hanes er mwyn sicrhau nad yw pethau o'r fath yn digwydd. 

Ond, ceir hefyd gymaint o straeon o ddewrder ac amrywiaeth gydnerth wedi'u canoli ar gymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig Cymru. Nid straeon am ormes yn unig yw'r rhain. Dylai ein plant ddysgu am bobl cymunedau fyrdd sy'n ffurfio Cymru ac sydd wedi chwarae rhannau allweddol ym mhenodau ein hanes cyffredin. Oherwydd caiff pwy ydym ni ei ffurfio gan bwy oeddem ni a'u lunio gan y gwersi yr ydym ni wedi eu dysgu a rhai o'r gwersi yr ydym eto i'w dysgu.

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 5:54, 1 Gorffennaf 2020

Mae cymaint i blant Cymru ymfalchïo ynddo, cymaint i lefain drosto, cymaint i deimlo edifeirwch amdano. Ond, eu straeon nhw ydy'r rhain i gyd, ac er mwyn dysgu o'n hanesion ni fel cenedl mae'n rhaid i blant Cymru ddeall haenau yr hanesion hynny. Wedi'r cwbl, mae'r gair 'Cymru' yn golygu plethiant, cymysgedd, pobl yn byw gyda'i gilydd. Palimpsest o straeon amryw, amryliw ydyn ni oll. Ac os ydyn ni, fel deddfwriaethwyr, am ddysgu gwers arall o hanes ein gwlad, pwysigrwydd a bregusrwydd tynged yr iaith ydy'r wers honno.

Gwnes i ddechrau'r araith fer hon gyda geiriau G.K. Chesterton oedd yn dweud mai enaid cenedl yw ei addysg. Wel, os taw addysg yw ein henaid, ein calon ydy ein hiaith. Fel mae’r hen ddihareb yn dweud,  'cenedl heb iaith, cenedl heb galon'. Dyna'n hetifeddiaeth. Os ydyn ni am weld twf yn y Gymraeg ac nid llithro nôl, mae angen inni ddiogelu statws yr iaith yn ein cwricwlwm. Mae gosod addysg cyfrwng Saesneg fel yr opsiwn rhagosodedig i blant hyd at 7 mlwydd oed yn gam niweidiol sy’n groes i bolisi'r Llywodraeth o hybu'r iaith. Ac os bydd gan fyrddau llywodraethwyr unigol y pŵer i wneud penderfyniadau ar y cwricwlwm, gall hyn arwain at amddifadu rhai disgyblion rhag cael y cyfle i ddysgu'r iaith.

Mae angen arweiniad cenedlaethol ar addysg genedlaethol. Os bydd yr iaith yn cael ei cholli, bydd colled i bob un ohonom ni, nage dim ond y rhai sy'n siarad Cymraeg, ac ni ddaw hi nôl. Felly, rwyf yn erfyn ar y Llywodraeth: byddwch yn wyliadwrus; cefnogwch ein cynnig; cefnogwch blant Cymru; a chefnogwch ein hiaith.

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 5:56, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud bod iaith Siân Gwenllian wedi fy anesmwytho braidd wrth iddi gyflwyno'r ddadl hon, oherwydd roedd hi'n ymddangos i mi ei bod hi'n gweld dysgu hanes nid fel rhywbeth ag arlliw penodol, cymhleth, sy'n gofyn am ddehongliad ac nad yw'n ddu a gwyn, ond fel dim ond cyfle i greu propaganda ar gyfer y ffordd benodol y mae hi'n gweld y byd o ran mater o gymhlethdod cyfoes sy'n gofyn am ymdriniaeth gynnil a sensitif iawn. Ac mae'n ddrwg gen i ddweud bod yr agwedd a arddangoswyd ganddi yn ei haraith yn cael ei dilyn mewn gwirionedd, ar hyn o bryd, yn ein hysgolion yng Nghymru.

Anfonwyd ataf yn ddiweddar, gan riant pryderus o dde Cymru, gwaith cartref a oedd wedi'i osod ar gyfer plentyn saith mlwydd oed, ac roedd y rhiant hwn yn bryderus iawn yn ei gylch. Oherwydd roedd wedi codi o ganlyniad i achos George Floyd ac yn seiliedig ar ddeunydd a gyhoeddwyd gan Mae Bywydau Du o Bwys. Roedd yn cynnwys ffotograff o blentyn bach yn dal poster Mae Bywydau Du o Bwys, a gofynnwyd amryw o gwestiynau i'w hateb. Ac yna, roedd y sylw gan yr athro ar y diwedd yn rhywbeth fel hyn, ac rwy'n dyfynnu yn y fan yma, gan y gofynnwyd i'r plentyn wneud fideo:

Felly, rhowch eich holl egni i hyn a gwneud i'ch araith gyfrif. Mae hwn yn bwnc mor bwysig, ac nid yw'n digwydd ddim ond ymhell i ffwrdd yn America, ond mae'n wir i'n ffrindiau ninnau hefyd.

Wel, nawr, nid addysg yw hyn, ond gweithredaeth, oherwydd os edrychwch chi ar achos George Floyd, ac os oes tystiolaeth yn y fan yma o hiliaeth yn yr heddlu yn America, fe welwch fod y darlun yn llawer mwy cymhleth nag yr hoffai'r penawdau i ni ei gredu. Mae ystadegau'r FBI ar gyfer 2016 yn dangos bod 2,870 o bobl dduon wedi eu llofruddio yn y flwyddyn honno, ond roedd 2,570 o'r bobl a oedd wedi eu llofruddio hefyd yn ddu. Cafodd tair mil, pedwar cant, naw deg a naw o bobl wyn eu llofruddio, ond roedd 2,854 o'r llofruddion hynny yn wyn. Felly, mae mwyafrif llethol y llofruddiaethau yn cael eu cyflawni mewn gwirionedd gan bobl o'r un ethnigrwydd â'i gilydd yn yr Unol Daleithiau. Ac os cymerwch chi'r ffigurau rhwng 2015 a 2019, roedd pobl dduon yn cyfrif am 26.4 y cant o bob un o'r rheini a laddwyd gan heddlu UDA. Wel, roedd bron dwbl y ffigur hwnnw—50.3 y cant—yn wyn. Ond, yn yr un modd, er mai dim ond 12 y cant o boblogaeth America sy'n ddu, maen nhw'n gyfrifol am 52.5 y cant o'r holl lofruddiaethau, gyda mwyafrif helaeth o'r dioddefwyr yn ddu. Felly, os ydym ni'n mynd i geisio cymryd o achos George Floyd—[Anghlywadwy]—ar gyfer hiliaeth yn y gymdeithas orllewinol gyfan, rwy'n credu ein bod yn gwneud anghymwynas sylweddol.

Wrth gwrs, os ydym yn cysylltu hyn yn ôl i'r hyn sydd wedi digwydd mewn hanes o'r blaen, gallai'r un math o ogwyddo ac ystumio ddigwydd. Mae'n rhaid i hanes gael ei weld, os yw am gael ei addysgu'n iawn, yng nghyd-destun ei gyfnod, ac, fel y dywedodd David Melding, Syr Thomas Picton, wrth gwrs, roedd yn greadur ei gyfnod. Caethwasiaeth: nid oes unrhyw un yn cefnogi caethwasiaeth heddiw, ac roedd Prydain yn gwbl allweddol o ran dileu caethwasiaeth yn y byd gorllewinol.

Roedd Syr Thomas More, ffigwr hanesyddol blaenllaw, a gafodd ei ganoneiddio yn ystod fy oes i, yn credu mewn llosgi camgredwyr. A ddylem ni gael gwared ar yr holl ddelweddau o Syr Thomas More oherwydd ei fod yn credu mewn dienyddio barbaraidd? Ceir mudiad i gael gwared ar y cerflun o Gystennin Fawr o flaen Cadeirlan Caerefrog. Cystennin Fawr oedd y dyn a wnaeth droi'r ymerodraeth Rufeinig yn Gristnogol, ond, wrth gwrs, roedd yr ymerodraeth Rufeinig wedi'i seilio ar gaethwasiaeth, ac roedd Cystennin Fawr ei hun yn berchen ar lawer o gaethweision.

Mae'n rhaid i ni gael synnwyr o bersbectif. Dyna beth yw hanes, does bosib. Ni ddylid dysgu hanes fel modd o bropaganda mewn ysgolion. Dylai addysgu hanes mewn ysgolion fod yn gynhwysol, wrth gwrs, ac mae lleiafrifoedd du ac ethnig yn chwarae rhan, fel y mae Neil McEvoy wedi ei ddweud yn argyhoeddiadol iawn yn ei araith, yn ein hanes, a dylid ymdrin â hynny'n briodol. Ond dylid addysgu holl hanes y Deyrnas Unedig, Cymru a'r byd ehangach, gan gynnwys unigolion a wnaeth hanes, beth bynnag oedd eu cefndir ethnig a beth bynnag yr ydym ni'n ei feddwl, gan ddarllen wrth edrych yn ôl, am eu hymddygiad gyda safbwynt yr unfed ganrif ar hugain ohono.

Mae caethwasiaeth ei hun yn bwnc cymhleth i'w addysgu, oherwydd, ydym, rydym ni'n gwybod popeth am ryfel cartref America ac am erchyllterau caethwasiaeth yn y de, ond mae'n fwy na mater o bobl wyn yn caethiwo pobl dduon. Roedd 171 o berchenogion duon ar gaethweision yn Ne Carolina yng nghyfrifiad 1860, a'r mwyaf ohonyn nhw oedd William Ellison Jr, a oedd ei hun yn gyn-gaethwas, a oedd wedi dod yn ddyn busnes llwyddiannus, ac roedd ef ei hun yn berchen ar 63 o gaethweision duon. Felly, ydy, mae hanes yn gymhleth, a dylid addysgu hyn i bobl ifanc, a'r hyn y dylid ei addysgu yn fwyaf oll yw cwestiynu'r hyn a ddywedir wrthynt a sut i wahaniaethu rhwng propaganda a ffeithiau. Mae beth sy'n ffaith ynddo'i hun yn anodd iawn ei bennu mewn hanes—

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:01, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Mae eich amser wedi dod i ben, Neil Hamilton. A allwch chi ddod â'ch sylwadau i ddiweddglo?

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP

(Cyfieithwyd)

Gwnaf, fe orffennaf ar y pwynt yna. Diolch.

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 6:02, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Byddaf yn cefnogi gwelliant 2, oherwydd credaf ei fod yn cyfleu'r dasg sydd o'n blaenau yn fwy huawdl: gwneud ein system addysg yn fwy perthnasol i bobl ifanc heddiw a'r heriau y bydd yn rhaid iddyn nhw fynd i'r afael â hwy yn y byd cythryblus y byddan nhw'n ei etifeddu gennym ni. Rwy'n ddiolchgar i Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth, nid yn unig am y gwaith y maen nhw wedi bod yn ei wneud gydag ysgolion dros y degawd diwethaf, ond hefyd am eu harolwg diweddaraf ar hiliaeth yng Nghymru. Mae'n ddefnyddiol i'n hatgoffa o faint yr heriau sydd o'n blaenau. Ni fydd y rhain yn cael eu datrys drwy sloganau gor-syml na eiriau calonogol, na fyddant yn datrys y canrifoedd o hiliaeth sydd wedi'u gwreiddio yn ein hanes.

O'r arolwg hwn o hiliaeth yng Nghymru, gwyddom fod o leiaf dwy ran o dair o'r ymatebwyr wedi bod yn dyst i ryw fath o hiliaeth neu wedi ei ddioddef. Felly, bydd mynd i'r afael a'n hanes trefedigol, yr erchyllterau a gyflawnwyd yn ein henw ni, yn daith boenus i bob un ohonom ni.

Mae heddiw yn nodi blwyddyn ers marwolaeth Christopher Kapessa, bachgen 13 oed a foddodd yn yr Afon Cynon. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud nad oes unrhyw fudd cyhoeddus i ddwyn cyhuddiad o ddynladdiad yn erbyn pa bynnag ddisgybl a'i gwthiodd i'r afon, ond rwy'n credu bod popeth yr ydym wedi ei glywed am George Floyd a llawer o gamweddau cyfiawnder eraill yn ategu pwysigrwydd sicrhau ein bod yn ymdrin â phob trosedd yn deg a bod yn rhaid i ni fynd i'r afael â'r gwahaniaethu anymwybodol sy'n wir am y rhan fwyaf ohonom ni.

Rwy'n credu bod cymhlethdodau yr her hon wedi cael sylw gofalus iawn mewn cyfres ddiweddar ar Channel 4 o'r enw The School That Tried to End Racism, ac roedd wir yn dangos pa mor anodd oedd hi i'r disgyblion 11 a 12 mlwydd oed gwyn a'r rhai nad oedden nhw'n wyn, ond yn enwedig y disgyblion gwyn. Nid yw'n ymwneud â lliw croen yn unig. Mae gwahaniaethu ar sail cenedligrwydd a chrefydd hefyd yn cael sylw yn yr arolwg Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth fel achosion arwyddocaol o hiliaeth, yn enwedig yn ein hysgolion uwchradd. Felly, am y rheswm hwnnw'n unig, mae'n bwysig iawn bod pob disgybl yn ymwneud â'r cwricwlwm crefydd, gwerthoedd a moeseg, oherwydd mae angen i bob disgybl gofleidio'r gwerthoedd hynny a'r foeseg honno yn ogystal â dealltwriaeth o grefyddau ei gilydd, neu ddim crefydd.

Yn y grŵp trawsbleidiol ar ffydd y bûm ynddo ddoe, roedd rhai cynrychiolwyr ysgolion ffydd yn bryderus ynghylch yr hyn y mae'r cwricwlwm newydd yn ei olygu i'w cenhadaeth. Byddwn i'n dweud wrthyn nhw mai taith yw crefydd, nid digwyddiad, ac mae'n adlewyrchu gwerthoedd ac arferion ein cymdeithasau. Pan ymwelodd Pope Francis â Pharaguay yn 2015, fe wnaeth gydbwyso'r ymddiheuriad a wnaeth am droseddau'r Eglwys Gatholig yn erbyn y bobl frodorol yn ystod concwest trefedigaethol cyfandiroedd America gyda chanmoliaeth uchel o'r cenadaethau Jeswit a ffynnodd yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg a'r ail ganrif ar bymtheg yno. Rwyf wedi cael y fraint o ymweld â'r hyn sydd ar ôl o'r cenadaethau gwych hynny yn Paraguay, a hoffwn i holl bobl Cymru ddysgu am y gymdeithas sydd bron yn wtopaidd lle'r oedd celfyddyd, cerddoriaeth a ffyniant economaidd yn ffynnu, wedi'i hysbrydoli gan werthoedd a moeseg y Jeswitiaid.

Rydym ni angen cwricwlwm newydd sy'n paratoi disgyblion yn briodol ar gyfer tapestri cymhleth a chyfoethog ein treftadaeth, a'r rhan y mae'n rhaid i Gymru ei chwarae wrth lywio ein byd i ffwrdd oddi wrth rhyfel a hunan-ddinistr. Rydym ni angen system addysg sy'n eu galluogi i chwarae eu rhan yn ein pentref byd-eang, lle'r ydym ni'n byw ac yn marw o'r un pandemig a'r un argyfwng hinsawdd. Byddai peidio â newid yn golygu na fyddem yn cydymffurfio ag erthygl 29 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn i baratoi'r plentyn ar gyfer bywyd cyfrifol mewn cymdeithas rydd mewn ysbryd o ddealltwriaeth, heddwch, goddefgarwch, cydraddoldeb rhwng y rhywiau a chyfeillgarwch ymhlith grwpiau ethnig, cenedlaethol a chrefyddol pawb.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:06, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Siân Gwenllian a Phlaid Cymru am y cyfle i drafod y cwricwlwm newydd arfaethedig. Fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, disgwylir i'r Bil cwricwlwm ac asesu, yn amodol ar benderfyniad y Llywydd, gael ei gyflwyno cyn toriad yr haf. Mae Plaid Cymru yn gywir i gydnabod y cwricwlwm newydd fel cyfle hanesyddol, ac mae'n hanesyddol oherwydd y bydd yn rhoi cyfle i ni sefydlu dull o weithredu cwricwlwm sydd, am y tro cyntaf, wedi ei greu gan athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr addysg ac academyddion yng Nghymru ar gyfer dysgwyr Cymru. Caiff egwyddorion a chredoau'r cwricwlwm newydd eu cydnabod yn rhyngwladol, ac mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn gefnogol iawn o'n hymagwedd, gan ddisgrifio Cymru fel bod, ac rwy'n dyfynnu:

ar y llwybr i drawsnewid y ffordd y mae plant yn dysgu.

Mae'r Bil yn ceisio sefydlu fframwaith cwricwlwm i Gymru, y sail ddeddfwriaethol i ddarparu lefel o gysondeb a thegwch i ddysgwyr wrth roi hyblygrwydd i ysgolion a lleoliadau ddarparu cyfleoedd dysgu ymgysylltiol a phenodol. Mae'n pwysleisio, o fewn fframwaith cenedlaethol, mai ysgolion ac ymarferwyr sydd yn y sefyllfa orau i wneud penderfyniadau am anghenion eu dysgwyr penodol a'r cyfleoedd ar eu cyfer, gan gynnwys dewis pynciau a gweithgareddau a fydd yn cefnogi eu dysgu orau. Nid yw rhestru cynnwys ar lefel genedlaethol yn gwarantu dysgu ystyrlon mewn unrhyw ffordd, dim ond bod pynciau penodol yn cael eu cynnwys i raddau amrywiol. Yn hytrach, mae canllawiau cwricwlwm Cymru yn mynegi pa gysyniadau a hanfodion dysgu ddylai fod yn sail i amrywiaeth o wahanol bynciau a gweithgareddau.

Mae angen i addysg ymwneud â chymaint mwy na rhestr. Mae angen arloesedd a dawn greadigol ymarferwyr i ddod â dysgu yn fyw i blant, a thrwy'r Bil hwn bydd Cymru yn rhoi anghenion ei dysgwyr yn gyntaf, ac yn ganolog, ac yn ysgogi ac yn ennyn diddordeb ymarferwyr ac athrawon i'w cefnogi.

Mae canllawiau cwricwlwm Cymru, a gyhoeddwyd gennyf ym mis Ionawr, yn nodi hanfodion dysgu. Ni fydd y Bil na'i ddogfennau cysylltiedig yn pennu rhestr lawn o bynciau na gweithgareddau penodol. Fodd bynnag, bydd angen i ni barhau i weithio gyda phartneriaid i helpu i ddarparu adnoddau dysgu i gefnogi ysgolion yn yr ymdrech heriol ond hollbwysig hon.

Gan droi'n gyntaf at faes lle'r wyf i'n teimlo'n gryf fod angen i ni wella yn ogystal â datblygu ein dealltwriaeth, ac i wella'r ffordd yr ydym yn cefnogi dysgu, mae'r digwyddiadau diweddar yn America, ar draws y byd yn wir, wedi ein hatgoffa i gyd o bwysigrwydd pob agwedd ar ein hanes. Cyhoeddodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf y byddwn wir yn gweithio gydag Estyn i sicrhau bod eu hadolygiad o hanes Cymru yn rhoi ystyriaeth lawn i hanes, hunaniaeth a diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig.

Photo of Kirsty Williams Kirsty Williams Liberal Democrat 6:10, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rydym ni wedi cyhoeddi ein bod ni hefyd yn sefydlu gweithgor i oruchwylio'r gwaith o ddatblygu adnoddau dysgu ac i nodi bylchau presennol mewn adnoddau a hyfforddiant. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, yn y gwaith hwnnw, fod hynny yn edrych yn ehangach o lawer na dim ond y pwnc hanes. Yn hytrach, rwyf i'n awyddus i hynny fod yn ymdrech wirioneddol drawsgwricwlaidd, gan gynnwys esiamplau da cadarnhaol a dysgu trwy ein hamgylchedd diwylliannol ehangach, gan gynnwys cyfraniadau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru i lenyddiaeth, y cyfryngau, chwaraeon, yr economi. Mae'n rhaid iddo ymwneud â chymaint mwy na'r pwnc hanes yn unig. Ond, wrth gwrs, fe fydd yn adeiladu ar Fis Hanes Pobl Dduon a'r trafodaethau a'r ymgynghori parhaus â rhanddeiliaid a chyngor hil Cymru, ar feysydd lle bydd eu gwybodaeth a'u harbenigedd yn helpu i lywio cyfeiriad a darparu atebion i faterion penodol.

Nawr, o fewn y cwricwlwm i Gymru, byddwn yn deddfu ar ei ddibenion, ac un o'r pedwar diben yw y dylai dysgwyr ddatblygu yn ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a'r byd sy'n gwybod am eu diwylliant, eu cymuned a'u cymdeithas a'r byd, yn awr ac yn y gorffennol, ac yn parchu anghenion a hawliau pobl eraill fel aelodau o gymdeithas amrywiol.

Mae tangynrychiolaeth cymunedau duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg hefyd yn fater yr hoffwn i fynd ati i geisio'i gywiro. Rydym ni wedi sefydlu prosiect i edrych yn benodol ar y materion sy'n ymwneud â recriwtio i raglenni addysg gychwynnol athrawon ac i'r gweithlu yn fwy cyffredinol. Rydym ni wedi comisiynu Cyngor y Gweithlu Addysg i gynnal adolygiad o'r data sydd ar gael i gefnogi datblygiad ein polisïau newydd yn y maes hwn, ac rydym ni hefyd yn ymgysylltu â'r rhanddeiliaid perthnasol, megis y fforwm hil a ffydd a Thîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru. Bydd ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid eraill yn cynyddu wrth i'r prosiect fynd rhagddo, a byddwn yn defnyddio'r data a'r wybodaeth a ddarperir gan randdeiliaid i ddatblygu polisïau i fynd i'r afael yn strategol â'r prinder cronig o gynrychiolwyr duon Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y gweithlu addysg. Rwyf i'n dymuno i'n plant weld eu cymunedau yn cael eu hadlewyrchu yn y rhai hynny sy'n sefyll o'u blaen eu dosbarthiadau.

Fel sydd wedi ei grybwyll, mae'r canllawiau ar gyfer y cwricwlwm newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd defnyddio cyd-destunau lleol a chenedlaethol ym mhob rhan o ddysgu. Yn benodol, mae'n nodi y dylai ymarferwyr gefnogi dysgwyr i ddatblygu ymdeimlad dilys o gynefin, gan ddatblygu gwybodaeth o wahanol ddiwylliannau a hanesion, eu galluogi i ddatblygu ymdeimlad cryf o hunaniaeth unigol a deall sut y mae hynny wedi ei gysylltu a'i ffurfio gan ddylanwadau ehangach y byd. Mae canllawiau ar gyfer maes dysgu a phrofiad y dyniaethau yn cyfeirio at yr angen am amlygiad cyson i straeon ardal y dysgwyr a stori Cymru, yn ogystal â stori'r byd ehangach, er mwyn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o natur gymhleth, amlblwyfol ac amrywiol ein cenedl a chymdeithasau eraill.

Bydd maes dysgu a phrofiad y dyniaethau hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddysgu am eu treftadaeth a'u hymdeimlad o le drwy astudiaeth o Gymru a'u cynefin. Yn hollbwysig, fel sydd wedi ei grybwyll sawl gwaith y prynhawn yma, bydd yn caniatáu i ddysgwyr ddatblygu meddwl sy'n holi ac yn cwestiynu, a bydd yn archwilio ac yn ymchwilio i'r byd—yn y gorffennol, y presennol a'r dyfodol—eu hunain. Bydd ystyried gwahanol safbwyntiau, gan gynnwys rhai pobl dduon acc Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng nghyd-destun diwylliannau Cymru, yn helpu i hyrwyddo dealltwriaeth o'r amrywiaeth ethnig a diwylliannol sydd yng Nghymru. At ei gilydd, bydd y profiadau hyn yn helpu dysgwyr i werthfawrogi faint y maen nhw'n rhan o gymuned ryngwladol ehangach, gan feithrin ymdeimlad o berthyn a all eu hannog i gyfrannu'n gadarnhaol at eu cymunedau, gan gynnwys recordio fideos ynglŷn â pham mae bywydau pobl dduon yn bwysig. Rwy'n hyderus y bydd hyn yn arwain at ddysgu a gwybodaeth well na rhagnodi hyn yn ddim mwy na thopig y mae'n rhaid ei gynnwys yn y cwricwlwm mewn pwnc unigol.

Rwyf i am droi yn awr at y mater arall a godwyd gan Plaid, a hoffwn i ddechrau trwy ail-ddatgan fy nghefnogaeth i addysg cyfrwng Cymraeg a chydnabod hefyd y gwaith pwysig sy'n cael ei wneud yn ein hysgolion a'n lleoliadau sy'n darparu rhaglenni trochi yn y Gymraeg. Nid yw fy nyheadau ar gyfer y Gymraeg wedi newid, ac fel y dywedais i wrth lansio'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, bydd y Bil hwn yn galluogi rhaglenni trochi Cymraeg i barhau, gan roi sylfaen gyfreithiol gadarn iddo a chryfhau ei sefyllfa fel elfen allweddol o gyrraedd ein dyheadau, fel dull gweithredu addysgeg sydd wedi ei brofi—dull y mae fy mhlant i fy hun wedi elwa arno.

Rwyf i wedi siarad â Siân yn unigol ynghylch y mater trochi yn y gorffennol, ac rwy'n cydnabod bod ganddi bryderon ynghylch yr agwedd benodol hon ar y Bil. Rwy'n credu, yn wir, ac rwy'n gobeithio, y byddai Siân yn derbyn ein bod ni i gyd yn dod i hyn o'r un lle, sef cefnogi addysg drochi yn y Gymraeg. A gallaf i sicrhau pawb—cyd-Aelodau o'r Senedd ac, yn wir, rhanddeiliaid—y byddaf i'n ceisio parhau i drafod ac ymgysylltu ar y materion hyn yn ystod hynt y Bil trwy'r Senedd, er mwyn i ni allu sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu bod yn hyderus bod y dyhead o fod yn wlad ddwyieithog yn cael ei wireddu.

Felly, i gloi, Llywydd, hoffwn i ddiolch unwaith eto i fy nghyd-Aelodau am eu cyfraniad at y ddadl hon, ac rwy'n edrych ymlaen, gyda'ch caniatâd, at gyflwyno'r Bil yn ffurfiol cyn bo hir.

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:15, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Rwyf i wedi cael gwybod am un cais am ymyriad. Darren Millar. Darren, mae angen i chi ddad-dawelu eich meicroffon.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative 6:16, 1 Gorffennaf 2020

(Cyfieithwyd)

Ymddiheuriadau. Diolch, Llywydd. Roeddwn i eisiau myfyrio ar rai o'r sylwadau y mae Aelodau wedi eu gwneud, os caf i. Rwy'n falch iawn o weld bod consensws bod angen i ni newid pethau o ran y cwricwlwm a chynnwys ein gwersi hanes yma yng Nghymru ac, wrth gwrs, yr angen i wella mynediad i adnoddau er mwyn ein galluogi i gyflawni'r uchelgais hwn i ddatblygu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Rwy'n credu bod y rhain yn amcanion gwych, ac mae'n rhaid i'n system addysg fod yn barod i'w cyflawni.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone yn gynharach at gyfarfod diweddar y grŵp trawsbleidiol ar ffydd, ac fe wnaeth y grŵp trawsbleidiol hwnnw drafod yn helaeth newidiadau i'r cwricwlwm addysg grefyddol, sydd, wrth gwrs, yn mynd i gael ei ailenwi a'i ail-frandio yn 'crefydd, moeseg a gwerthoedd'. Ac er bod llawer iawn o optimistiaeth bod hynny'n cynnig cyfle gwych yn y dyfodol, mae yna rai pryderon ynghylch gallu'r sector, os mynnwch chi—y sector ffydd—i allu ymateb i'r ymgynghoriad parhaus sy'n digwydd ar hyn o bryd. Gan fod pawb wedi bod dan gyfyngiadau symud, nid yw llawer o sefydliadau a grwpiau wedi gallu cyfarfod, gan gynnwys cynghorau ymgynghorol sefydlog lleol ar addysg grefyddol.

Felly, rwyf i'n gobeithio bod y Gweinidog yn gallu myfyrio ar hynny a darparu estyniad byr efallai i alluogi pobl i ystyried cynigion Llywodraeth Cymru yn llawn ac ymateb yn llawnach iddyn nhw er mwyn i chi allu ymdrin ag unrhyw faterion a godir, gan fy mod i yn credu bod pryder, os bydd pethau yn parhau ar garlam, yna mae'n bosibl y bydd problemau o ran gweithredu newid sylweddol mewn gwirionedd yn y dyfodol.

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 6:18, 1 Gorffennaf 2020

Diolch yn fawr iawn, a diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Dwi yn meddwl ei bod hi yn amserol iawn inni gael y drafodaeth yma cyn i'r Bil ddechrau ar ei daith drwy'r Senedd. Ac, yn sicr, mi fydd gennym ni faterion eraill y byddem ni hefyd eisiau edrych arnyn nhw wrth i'r cwricwlwm fynd yn ei flaen, gan gynnwys y materion roedd Darren Millar yn eu codi ynglŷn ag addysg yn ymwneud efo gwahanol grefyddau, a'r materion roedd Suzy yn sôn amdanyn nhw o ran sgiliau bywyd ac, yn sicr, materion yn ymwneud efo llesiant ac iechyd meddyliol ac emosiynol ein plant a pobl ifanc ni—i gyd yn feysydd pwysig iawn inni fod yn craffu arnyn nhw wrth inni symud yn ein blaenau. 

Ond y prynhawn yma, wrth gwrs, roeddem ni yn canolbwyntio ar rai agweddau penodol. Wrth gwrs, mae'n rhaid gwneud y pwynt wrth gwrs fod hanes pobl ddu a phobl o liw yn rhan o hanes Cymru. Dwi'n eistedd fan hyn rŵan yn y Felinheli. Lawr y lôn, mae castell Penrhyn, ac mi oedd Leanne Wood a Delyth Jewell yn sôn am hyn—castell Penrhyn a gafodd ei adeiladu gan y teulu Pennant, a oedd wedi gwneud eu harian, wrth gwrs, allan o'r diwydiant siwgr, a oedd yn dibynnu ar gaethwasiaeth. Doeddwn i ddim yn gwybod yr hanes yna pan oeddwn i'n tyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1950au a'r 1960au. Doedd yna neb yn siarad am hynny, am y cefndir hwnnw, ac roedd hynny yn ein hamddifadu ni i gyd, onid oedd, fel plant, o ddealltwriaeth o'r hanes o'n cwmpas ni, ond hefyd dealltwriaeth o hanes am rannau eraill o'r byd, lle roedd yna orthrwm wedi bod yn digwydd. A dim ond yn ddiweddar iawn mae'r ardal yma wedi dechrau siarad am hynny i gyd.

A pheidiwn â gadael i'r math yna o sefyllfa ddigwydd eto. Roeddwn i yn gwybod mwy am wragedd Harri'r VIII nag oeddwn i am hanes beth oedd yn digwydd efo'r teulu Pennant. Ac wrth gwrs mae yna arfer dda. Mae yna esiamplau gwych o athrawon sydd wedi bod yn cyflwyno y math o hanes y byddwn i wedi eisiau i mi ei gael, ac mae pethau wedi gwella ers y cyfnod pan oeddwn i yn yr ysgol. Ond does yna ddim cysondeb yn aml iawn, a dylen ni ddim gorfod dibynnu ar bocedi o esiampl dda.

Ac mae'n awduron ni a'n artistiaid ni hefyd wedi bod yn ein goleuo ni i'r hyn sydd wedi bod yn digwydd yn ein hanes ni, a ninnau efallai ddim yn ymwybodol ohonyn nhw. A buaswn i'n eich cyfeirio chi gyd at waith Manon Steffan Ros am sefyllfa y teulu Pennant yng nghastell Penrhyn, a'r ddealltwriaeth ddofn mae hi wedi llwyddo i greu—ond dim ond yn 2018 roedd hi'n creu'r gwaith yna. Mae hwnna yn rhan bwysig iawn o'n dealltwriaeth ni wrth inni symud ymlaen. 

Felly, jest yn sydyn ynglŷn ag ochr y Gymraeg a'r trochi, dwi yn derbyn bod y Gweinidog yn cytuno'n llwyr efo pwysigrwydd trochi ieithyddol, ac efallai mai canlyniadau cwbl anfwriadol sydd yn digwydd yn fan hyn efo'r ddeddfwriaeth. Dwi'n ddiolchgar iawn am eich cynnig chi inni fedru trafod ac i geisio ffurf o eiriad gobeithio fydd yn cyflawni'r hyn mae'r ddwy ohonon ni eisiau ei weld yn digwydd, sef gweld ein dinasyddion ni yn tyfu i fyny yn bobl ddwyieithog, a chyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr. Wedyn, diolch yn fawr iawn i chi am hynny. 

Felly, mae'r Bil yn cychwyn ar ei daith yn go fuan. Mi gawn ni i gyd gyfrannu i'r gwaith pwysig yna rŵan o graffu. Mi gawn ni i gyd geisio gwneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth yma yn mynd i greu y newidiadau strwythurol sydd eu hangen. Dwi yn credu bod angen i rai materion fod yn orfodol ar wyneb y Bil, er mwyn creu y newidiadau strwythurol, er mwyn gwaredu hiliaeth, er enghraifft, o'n cymdeithas ni. Dwi'n credu ei fod o yn rhy benagored fel mae o ar hyn o bryd, ond mi gawn ni'r drafodaeth yna wrth symud ymlaen. Ac mae yna rai pethau yn barod mae'r Gweinidog yn ei weld yn ddigon pwysig i fod ar flaen y Bil, yn ymwneud efo addysg rhyw ac addysg perthnasoedd iach, a dwi'n cyd-fynd yn llwyr efo hynny. Fy nadl i ydy mae angen i faterion eraill o bwysigrwydd mawr gael eu gosod mewn statud hefyd, er mwyn cael cysondeb ar draws Cymru. 

Photo of Elin Jones Elin Jones Plaid Cymru 6:23, 1 Gorffennaf 2020

Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei wella? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, mae yna wrthwynebiad, a dwi'n gohirio'r eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.