– Senedd Cymru am 3:16 pm ar 18 Ionawr 2023.
Eitem 5 y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, 'Dyfodol bysiau a threnau yng Nghymru'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o allu agor y ddadl yma y prynhawn yma. Liciwn i ddechrau drwy ddiolch i’r holl randdeiliaid a’r holl aelodau o’r cyhoedd hefyd sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor. Dwi'n falch hefyd, wrth gwrs, fod y Gweinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ac eithrio un, ond efallai y down ni at hynny nes ymlaen.
Mae dwy ran i'r adroddiad yma. Mae rhan 1 yn ymdrin â sesiwn graffu flynyddol y pwyllgor gyda Thrafnidiaeth Cymru, ac mae rhan 2 yn ymdrin â materion ehangach yn ymwneud ag adfer gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru ar ôl pandemig COVID-19. Mae e, felly, yn adroddiad eang ei gwmpas, a bydd dim amser i wneud mwy na chyffwrdd â rhai o’r materion mwyaf pwysig wrth i fi agor y drafodaeth yma heddiw.
Yn gyntaf, felly, hoffwn i sôn am ein gwaith craffu ni yng nghyd-destun gwaith Trafnidiaeth Cymru. Roedd y pwyllgor yn pryderu am nifer o agweddau ar drefniadau llywodraethu Trafnidiaeth Cymru. Roedd hyn yn ymwneud yn bennaf â chyhoeddi cynlluniau busnes ac ariannol ac, o ganlyniad, yn ymwneud â thryloywder y sefydliad. I fod yn deg, roedd cyfnod y pandemig yn gyfnod anodd i Drafnidiaeth Cymru. Fe glywson ni fod cyllideb y sefydliad yn ystod y cyfnod hwnnw yn amrywio’n arw a bron iawn yn newid o un wythnos i'r llall. Mae i’w gweld braidd yn annheg inni feirniadu’r sefydliad am beidio â chyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol yn y cyd-destun hwn efallai. Ond wedi dweud hynny, maen nhw’n arfau hanfodol ar gyfer asesu i ba raddau mae Trafnidiaeth Cymru yn llwyddo i fodloni gofynion ei gylch gwaith ac a yw’n sicrhau gwerth am arian. Un o’n hargymhellion ni, felly, oedd y dylai Trafnidiaeth Cymru gael trefn ar ei gynlluniau. O eleni ymlaen, dylai gyhoeddi cynlluniau busnes a chynlluniau ariannol cyn dechrau pob blwyddyn ariannol.
Mae yna broblemau hanesyddol yn ymwneud â chyflwyno dyraniadau cyllideb Trafnidiaeth Cymru sy’n ei gwneud hi bron yn amhosibl craffu ar faint o arian sy’n cael ei ddyrannu ac at ba ddiben. Unwaith eto, roedd gennym ni rywfaint o gydymdeimlad â Thrafnidiaeth Cymru. Fe ddywedodd y prif weithredwr y gallai’r broses o bennu’r gyllideb olygu cynifer â 25 o sgyrsiau dwyochrog gyda gwahanol ddeiliaid cyllideb Llywodraeth Cymru. Nawr, mae hyn i’w weld yn ofnadwy o fiwrocrataidd i ni fel pwyllgor. Dylai bod yn agored ac yn dryloyw fod yn egwyddorion sylfaenol i sefydliad cyhoeddus fel Trafnidiaeth Cymru, a byddai symleiddio’r broses hon yn ein barn ni yn helpu yn hynny o beth.
Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn rhan 1 yr adroddiad, a bod Trafnidiaeth Cymru felly am eu rhoi ar waith. Ers cyhoeddi’r adroddiad, fe welwyd cynnydd da eisoes ym maes llywodraethu a thryloywder. Mi fyddwn ni'n cynnal ein sesiwn graffu flynyddol gyda Thrafnidiaeth Cymru yn ddiweddarach eleni, a byddwn ni, wrth gwrs, yn ailedrych ar y materion yma i weld a yw’r sefyllfa wedi gwella bryd hynny.
Mae ail ran ein hadroddiad ni yn ymdrin â’r mater ehangach, fel roeddwn ni’n dweud, o adfer gwasanaethau bysiau a threnau ar ôl pandemig COVID. Hoffwn ddiolch yn arbennig ar ran y pwyllgor i’r aelodau o’r cyhoedd a gyfrannodd at ein gwaith drwy gymryd rhan yn y grwpiau ffocws a’r cyfweliadau amrywiol a gynhaliwyd gennym ni ar hyd a lled Cymru ar y mater yma. Fe gafodd y pandemig effaith enfawr ar y nifer a oedd yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Roedd gan nifer o bobl ofn mynd ar y bws neu’r trên. Roedd llawer llai o wasanaethau, a phobl yn yr ardaloedd tlotaf, gyda llaw, a gafodd eu taro galetaf yn hynny o beth. Ond roedd llawer o’r newidiadau sylfaenol a welon ni yn digwydd yn ystod y pandemig, pethau fel siopa ar-lein ac efallai’r tueddiad fwyfwy i weithio o gartref, mi oedd y rheini yn dod yn fwyfwy cyffredin yn ein cymdeithas ni cyn y pandemig. Ond wrth gwrs mae wedi dod llawer mwy arferol nawr i bobl, fel dwi’n dweud, i weithio gartref, ac yn y blaen.
Mae bysiau a threnau’n hanfodol nid yn unig er mwyn ein helpu ni i gyrraedd ein targedau newid hinsawdd yma yng Nghymru, ond hefyd i greu cymdeithas lle mae’n hawdd i bobl gael at y gwasanaethau, i gael at yr addysg a’r gwaith sydd eu hangen arnyn nhw i fyw bywyd llawn. Felly, y cwestiwn i ni fel pwyllgor, wrth gwrs, oedd: beth mae angen ei wneud i annog mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus? Ac mae ein hadroddiad ni, fel y byddech chi’n disgwyl, yn ystyried nifer o’r materion hyn.
Mae’n rhaid i newid moddol, modal shift, fod yn ganolog i’r gwaith hwn. Yn gyntaf, mae angen i ni ddeall sut fath o drafnidiaeth gyhoeddus y mae pobl am ei chael a sut maen nhw am ei defnyddio. Pa mor barhaol yw’r newidiadau a welon ni yn ystod y pandemig, ac ers hynny, a beth fydd y patrwm yn y dyfodol? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein holl argymhellion ni yn y maes hwn. Roeddwn yn falch hefyd o weld bod y Dirprwy Weinidog wedi cyfeirio at arolwg teithio cenedlaethol i Gymru yn ei ymateb. Mi fyddwn i’n ddiolchgar pe gallai fe ddweud mwy wrthyn ni, efallai, am yr arolwg a sut y bydd hwnnw yn cael ei ddefnyddio i ddylanwadu ar benderfyniadau ynghylch polisi a’r gyllideb yn y dyfodol, pan fydd e’n ymateb i’r ddadl.
Yn ail, mae angen seilio polisïau ar dargedau priodol. Mae strategaeth drafnidiaeth a chynllun sero net Llywodraeth Cymru yn gosod targedau ar gyfer newid moddol. Er enghraifft, dylai 7 y cant o deithiau gael eu gwneud ar drafnidiaeth gyhoeddus erbyn 2030, a dylai hynny godi i 13 y cant erbyn 2040. Mae’r rhain yn dargedau uchelgeisiol ac, yn sicr, dwi ddim yn mynd i feirniadu’r Dirprwy Weinidog am ddangos uchelgais yn hynny o beth, ond roedd gormod o’n rhanddeiliaid ni yn amau a yw’r math o drafnidiaeth gyhoeddus sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd yn ddigon da i’n rhoi ni ar y trywydd iawn i gyrraedd targed 2030.
Mae angen i ni ei gwneud hi'n hawdd ac yn haws i bobl adael y car gartref a theithio ar y bws neu'r trên. Rŷn ni’n gwybod o'n gwaith gyda rhanddeiliaid mai cost, hwylustod a mynediad at wasanaethau yw'r tri maes pwysicaf i ddefnyddwyr. Gallwn ni drafod cymhlethdodau newid ymddygiad gymaint ag y mynnwn ni, ond byddai ymdrin â’r tri phwynt yna yn sicr yn fan cychwyn da.
Mi ges i'r pleser yn gynharach heddiw o siarad mewn digwyddiad i lansio adroddiad newydd gan Gydffederasiwn Trafnidiaeth Teithwyr Cymru ynghylch annog pobl i deithio ar fws neu ar goets, ar coach, yn lle defnyddio’u ceir. Mae’n werth nodi, gyda llaw, fod materion tebyg iawn yn cael eu codi yn ein hadroddiad ni a’r adroddiad a oedd yn cael ei gyhoeddi’r prynhawn yma.
O ran cost trafnidiaeth gyhoeddus, mi oedd tlodi trafnidiaeth yn peri pryder arbennig i ni fel pwyllgor. Mae tlodi trafnidiaeth yn effeithio’n anghymesur ar rai grwpiau demograffig yn fwy na’i gilydd, yn cynnwys grwpiau megis pobl anabl, pobl hŷn a menywod. Un o’n hargymhellion ni oedd y dylai Llywodraeth Cymru gynnig cymhorthdal i ostwng pris tocynnau a mathau eraill o gymorth ariannol. Hoffwn i glywed mwy gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â’r cynigion hyn.
Fydd hi ddim yn hawdd datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig y bydd yn hawdd i bobl ei ddefnyddio pan fydd ei angen ac sy’n fforddiadwy. I ddechrau, rŷn ni’n gwybod i wneud hynny y bydd angen buddsoddiad sylweddol. Mi fydd yr Aelodau i gyd yn gwybod nad yw’r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi’i ariannu’n ddigonol yn hanesyddol. Sut allwn ni ddatblygu system drafnidiaeth integredig heb fuddsoddiad priodol yn y seilwaith rheilffyrdd? Dwi’n falch bod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod y ddadl dros ddatganoli’r cyfrifoldebau dros reilffyrdd yn llawn, a dros sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dyrannu cyllid teg. Yn wyneb penderfyniadau tebyg i’r rhai a wnaed yng nghyd-destun HS2 a’r ffaith bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, i bob golwg, wedi gwrthod hyd yn oed ystyried dyrannu cyllid priodol i Gymru, mae’n anodd anghytuno â’r ddadl dros ddatganoli.
O ran cyllid ar gyfer bysiau, polisi presennol Llywodraeth Cymru yw i 50 y cant o’r bysiau gwasanaeth sy’n llygru fwyaf gael eu disodli gan fysiau heb allyriadau pibellau mwg erbyn 2028, ac i bob tacsi a cherbyd hurio preifat hefyd beidio bod yn cynhyrchu unrhyw allyriadau erbyn 2028—yr un flwyddyn. Nawr, mi fydd y gost o ddatgarboneiddio’r sector bysiau yn uchel, ac mi fydd angen cymorth ariannol ar y sector i gyflawni hynny. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi dweud bod cynlluniau cyflawni’n cael eu paratoi i gyrraedd y targedau a nodir yn Sero Net Cymru, ac mi fyddwn i'n ddiolchgar iawn pe bai o’n dweud mwy wrthym ni am hynny yn ei ymateb.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i ar y dechrau, mae hwn yn adroddiad eang ei gwmpas, a dwi ddim wedi gallu mynd ar ôl pob sgwarnog ac ymdrin â phob dim yn fy nghyfraniad i. Mae'n bosibl y bydd Aelodau eraill, yn amlwg, yn cael cyfle i dynnu sylw at rai ohonyn nhw. Ond hoffwn i gloi drwy ddweud y bydd y blynyddoedd nesaf yn rhai cyffrous iawn i fysiau a threnau. Mae’r Bil diwygio bysiau, wrth gwrs, yn gyfle da i wella gwasanaethau bysiau yng Nghymru ac, yn bwysicaf oll, i sicrhau eu bod nhw'n canolbwyntio mwy ar y cwsmer. Mae cynnydd i’w weld hefyd o ran cynlluniau’r metro, ac mae yna ddarn mawr o waith i ni fel pwyllgor yn cadw llygad ar y datblygiadau yn y maes yna. Ond er ein bod ni yn gweld cynnydd, mae angen gofyn yr un hen gwestiwn: a yw’r cynnydd yma yn digwydd yn ddigon cyflym? Ydy, mae'r sefyllfa ariannol ehangach wedi'i gwneud hi'n anoddach fyth i gyrraedd targedau trafnidiaeth sero net Llywodraeth Cymru, ond y cyfan ddywedaf i wrth gloi'r cyfraniad cyntaf i'r ddadl yma yw, fel pwyllgor, mi fyddwn ni'n sicr yn parhau i asesu cynnydd ac yn parhau, yn sgil hynny, i adrodd yn ôl i’r Senedd yma. Diolch.
Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i’r Cadeirydd, fy nghyd-aelodau o'r pwyllgor, yn ogystal â’r holl banelwyr a staff a’n cefnogodd yn ein gwaith ar yr adroddiad hwn. Nawr, rhwng y pandemig, y streic a’r argyfwng costau byw, mae trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y DU yn wynebu amrywiaeth eang o heriau. Golyga hyn ei bod yn bwysicach nag erioed fod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno cynllun cynaliadwy cydgysylltiedig ar gyfer cwmnïau bysiau a threnau. Mae hefyd yn bwysig edrych ymlaen at y dyfodol. Mae argymhelliad 6 yn yr adroddiad yn nodi
'Dylai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith y mae’n ei wneud gyda phartneriaid eraill i ddeall patrymau teithio yn y dyfodol…a’u heffaith'.
Gwn y bydd gan fy nghyd-Aelod Natasha Asghar fwy i’w ddweud am y gwaith craffu ar Trafnidiaeth Cymru, ond fel Gweinidog newid hinsawdd yr wrthblaid, hoffwn ailadrodd pa mor bwysig yw trafnidiaeth gyhoeddus ar drenau a bysiau i gyflawni ein targedau amgylcheddol. Os yw Llywodraeth Cymru am fodloni rhwymedigaethau sero net Cymru, mae angen i bobl gael mynediad at drafnidiaeth sy'n ddibynadwy ac yn fforddiadwy. Y bore yma, roeddem yn sôn am y cynllun ffyrdd a ataliwyd gan y Dirprwy Weinidog. Mae hynny'n iawn os oes gennych seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus ar waith, ond yn anffodus, nid oes gennym hynny yng Nghymru.
Mae mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig teithio ar fysiau, yn hanfodol i fynd i’r afael â symudedd ac amddifadedd cymdeithasol. Canfu ymchwil Prifysgol De Cymru mai’r ardaloedd mwyaf difreintiedig sydd wedi wynebu'r gostyngiad mwyaf mewn mynediad at wasanaethau oherwydd y pandemig. Mae tystiolaeth gan Trafnidiaeth Cymru yn dangos nad oes gan 13 y cant o gartrefi Cymru fynediad at gar hyd yn oed, ac mae gan 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor. Felly, Weinidog a Ddirprwy Weinidog, mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried beth y gellir ei wneud i helpu ein pobl fwyaf agored i niwed, sy’n aml yn byw mewn ardaloedd sy'n eithaf ynysig yn gymdeithasol. Ni all yr argyfwng costau byw presennol arwain at wneud i'r rheini sy'n ei chael hi'n anodd golli eu mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus.
Mae argymhelliad 15 yn nodi
'Dylai Llywodraeth Cymru nodi pa asesiad y mae wedi’i wneud o effaith costau ynni a’r argyfwng costau byw ar ei thargedau newid moddol.'
Fel y dywedasom yn yr adroddiad, mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cymryd camau i gapio pris tocynnau bws y tu allan i Lundain ar £2. Cadarnhaodd Silviya Barrett fod gwasanaethau bysiau yng Nghymru wedi gostwng 45 y cant yn y 10 mlynedd rhwng 2011-12 a 2020-21, ond yn y flwyddyn ddiwethaf honno, rhwng mis Mawrth 2020 a mis Mawrth 2021, sef blwyddyn gyntaf y pandemig, roedd y toriadau'n 36 y cant. Yn ôl Joe Rossiter, mae’r gostyngiad mewn gwasanaethau rheilffordd a bws wedi cael effaith sylweddol ar ein cymunedau gwledig a—dyma graidd y mater—nid yw’r lleihad yn y gwasanaethau'n effeithio’n gyfartal ar bawb. Bydd pobl mewn cymunedau anghysbell a gwledig yn teimlo effeithiau lleihad yn y gwasanaethau yn anghymesur. Ac fel y nodwn yn yr adroddiad, mae risgiau y gallai’r system fasnachfreinio arfaethedig a amlinellir yn y Bil diwygio bysiau gau'r drws ar weithredwyr llai. Mae’r gweithredwyr hyn, yn enwedig yn y Gymru wledig, mewn sefyllfa dda i ddeall anghenion eu cymunedau lleol ac i ymateb i newidiadau yn y galw. Yn sicr, yn fy etholaeth i, mae gennym Llew Jones, gweithredwr bysiau bach, ac mae'n gweithio'n agos gyda'r gymuned a'r teithwyr. Mae gwasanaeth bws Fflecsi wedi'i gyflwyno bellach hefyd, ac mae hwnnw'n gynllun gwerth chweil.
Rydym yn cytuno â’r awgrym y dylai’r Bil gynnwys darpariaeth i sicrhau y gall cwmnïau llai gymryd rhan yn y broses fasnachfreinio. Rydym yn falch fod y Papur Gwyn yn cydnabod hyn ac yn cynnwys cynigion ar gyfer mynd i'r afael â'r mater. Fodd bynnag, mae angen inni bwysleisio y dylid llunio'r broses mewn ffordd sy'n lleihau cost cyflwyno cynigion ar gyfer y gweithredwyr llai hynny. Er fy mod yn deall y cyfyngiadau ariannol, mae mwy y gellid ei wneud gyda’r sefydliadau sydd eisoes yn eu lle. Yn benodol, rydym wedi gweld tystiolaeth glir o ddiffyg cydgysylltu ar ddarparu trafnidiaeth rhwng gwahanol awdurdodau lleol. Credai Josh Miles fod ‘Bws Cymru’ yn cynnwys llawer o’r meysydd cywir, ond ei brif bryder oedd nad oedd rhai o elfennau sylfaenol y strategaeth yn cael eu cyflawni. Dywedodd fod angen canolbwyntio ar gyflawni, ac
'nid oes gan awdurdodau lleol lawer o staff nac adnoddau i'w rhoi yn y broses ar hyn o bryd…. Felly, mae llawer o bethau'n digwydd ac nid oes gennym gydlyniad na buddsoddiad i gyflawni pethau eto'.
Mae sylwadau fel y rhain a wnaed gan ein tystion yn amlygu y gall diffyg meddwl cydgysylltiedig effeithio ar bolisi trafnidiaeth. Mae’n rhywbeth y mae’r adroddiad eisoes wedi’i nodi ac mae angen inni geisio mynd i’r afael ag ef. Rwy'n derbyn bod rhai o’r safbwyntiau hyn dan ystyriaeth. Mae angen gwell enw da, cysondeb a dibynadwyedd trafnidiaeth gyhoeddus—
Janet, a wnewch chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda?
—os ydym am ddychwelyd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn unol ag argymhelliad 7. Diolch.
Dywedodd yr Athro Mark Barry, a oedd yn un o'n tystion, ac sy'n arbenigwr ar drafnidiaeth, fod Cymru heb gael tegwch gan ecosystem y diwydiant rheilffyrdd dros y 30 i 40 mlynedd diwethaf o ran buddsoddiad a chyllid gwella. Mae hynny'n mynd â ni'n ôl i tua 1980, felly mae hon yn broblem a achoswyd gan weinyddiaethau Ceidwadol a Llafur. Ond mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU yn anodd iawn i'w dilyn o safbwynt rhesymeg unrhyw un o'u dadleuon. Mae dadlau na ddylai'r buddsoddiad HS2 gwerth £52 biliwn greu unrhyw arian canlyniadol i Gymru yn nonsens llwyr. Mae'n ei gwneud yn anodd iawn gweld a ydym yn mynd i allu cael perthynas aeddfed gyda hwy ai peidio, oherwydd, er gwaethaf y ddadl wag honno, maent eto i uwchraddio'r seilwaith ar y brif linell reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin. Mae hynny'n destun pryder arbennig i'r ardal rwy'n ei chynrychioli, gan fod cynllun Burns ar gyfer metro de-ddwyrain Cymru yn rhagdybio mai dwy o'r pedair llinell reilffordd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin fydd asgwrn cefn y cynnig hwnnw. Nid oedd Gweinidog yr economi yn gallu ein goleuo mewn unrhyw fodd ddoe, felly byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn gallu nodi a fu unrhyw lygedyn o obaith y bydd Llywodraeth Rishi Sunak yn rhoi ystyriaeth fwy difrifol i'r mater. Oherwydd mae'n fater o gyfiawnder mewn gwirionedd, yn ogystal â rhywbeth a ddylai ennyn ei sylw os yw am gadw'r DU gyda'i gilydd. Felly, mae hynny'n gwbl allweddol i mi.
Rwy'n credu mai'r mater arall yw'r diwydiant bysiau. Rwy'n falch iawn o glywed gan Janet Finch-Saunders fod bysus Fflecsi yn gweithio i fyny yng ngogledd Cymru. Ac mae hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd gallai hwnnw fod yn fodel i rywle arall lle nad oes cymaint o grynodiad o bobl. Mae'n rhaid imi ddweud bod y buddsoddiad y llwyddasom i'w sicrhau yng Nghaerdydd a Chasnewydd ar gyfer bysus trydan wedi gwella ansawdd aer yr ardaloedd yn aruthrol, oherwydd nid ydynt yn chwydu diesel erchyll bellach. Felly, mae hynny wedi bod yn wych. Diolch yn fawr iawn i Lywodraeth Cymru, sydd wedi grymuso awdurdodau lleol i fwrw ati i wneud cais am yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU. Mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen i awdurdodau lleol eraill wneud mwy yn ei gylch.
Ar y ddadl wirioneddol ddifrifol ynglŷn â sut y cawn bobl allan o'u ceir ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n amlwg fod llawer iawn o waith i'w wneud. Yn y seminar a drefnwyd gan y sefydliad trafnidiaeth gyhoeddus y cymerodd Llyr ran ynddi—ni allwn fynd iddi—clywais fod rhywun wedi awgrymu nad oedd modd prisio pobl allan o ddefnyddio'u ceir oherwydd byddai'n rhaid iddynt godi'r gost o redeg car fwy na £250 cyn y byddai pobl yn rhoi'r gorau i ddefnyddio'u ceir a newid i drafnidiaeth gyhoeddus. Rhaid imi gymryd yn ganiataol fod y ffigur hwnnw gryn dipyn yn uwch bellach, gan fod yswiriant wedi codi'n aruthrol ac mae prisiau petrol wedi codi'n aruthrol. I'r rhan fwyaf o bobl, rhaid ei fod wedi mynd y tu hwnt i £250. Felly, mae hynny'n gyfle i ni, yn ogystal â bygythiad—[Torri ar draws.] Ie.
Rwy'n derbyn y pwynt rydych chi'n ei wneud, er na fyddwn i'n mynd yr holl ffordd i lawr creulondeb y llwybr hwnnw. Ond ni fydd prisio pobl allan o gar ond yn gweithio lle mae trafnidiaeth gyhoeddus ar gael. Mewn llefydd fel y rhai rwy'n eu cynrychioli, nid yw'r drafnidiaeth gyhoeddus honno ar gael, felly yr hyn a wnewch yw taro'r bobl dlotaf a mwyaf bregus.
Rwy'n derbyn y ddadl honno, Alun, ac rwy'n meddwl ei fod yn bwynt da. Ond yn amlwg, mae'n rhaid inni ddatblygu mwy o wasanaethau, ac ni allwn daro pobl. Byddwn o blaid defnyddio'r ysgogiadau cyllidol hynny cyn gynted ag y ceir dewisiadau amgen. Yn amlwg, os edrychwch ar boblogaeth Caerdydd, nid oes angen i bobl ddod â'u ceir i ganol y ddinas, ac mae'n dda ei bod hi'n fwyfwy anodd iddynt wneud hynny. Rwy'n gobeithio y bydd Cyngor Caerdydd yn ddigon dewr i godi pris parcio yng nghanol y ddinas yn sylweddol. Mae pobl yn ciwio'n ddi-fudd i fynd i feysydd parcio penodol adeg y Nadolig, ac mae'n anhygoel—
Mae hon bron â bod yn sgwrs bellach, ond—
Mae'r amser bron ar ben hefyd.
—mae fy etholwyr yn defnyddio'r meysydd parcio hynny, ac mae eich etholwyr chi sy'n gweithio yng nghanol y ddinas yn dibynnu ar y ffaith bod fy etholwyr yn defnyddio Caerdydd fel dinas leol. Ni chawn gyfle i wneud unrhyw beth heblaw gyrru i mewn i Gaerdydd. Mae angen hynny arnom, a'r perygl felly yw eich bod yn creu rhaniad rhwng Caerdydd a'r Cymoedd.
Diolch am eich ymyriad, ac rydych chi'n hollol anghywir. Rydych chi'n anghywir oherwydd—
Jenny, os hoffech ateb y cwestiwn a gorffen wedyn, oherwydd mae'r amser yn dod i ben.
Mae'r system parcio a theithio yn hollol ardderchog. Mae'n costio £2 i'r teulu cyfan ac ni fydd angen ichi drafferthu ceisio dod o hyd i le parcio. Mae'r trefniadau hynny ar gael o gwmpas y ddinas, felly nid yw honno'n ddadl rwyf am ei derbyn.
Rwy'n meddwl bod yna lawer mwy y mae angen inni ei wneud, ond rwyf hefyd yn meddwl bod angen inni wneud llawer mwy i sicrhau bod pobl heb geir yn gallu symud o gwmpas, nid ar gyfer eu teithiau bob dydd yn unig ond hefyd i allu manteisio ar gyfleoedd hamdden, i allu mynd i ymweld â Storey Arms. Rwy'n cofio'r gwasanaeth bws am ddim a ddechreuwyd gan y cyn-Weinidog yr economi, a alluogodd fy etholwyr i gyrraedd Storey Arms am ddim ar ddydd Sadwrn. Byddwn yn awyddus iawn i ganfod beth yn union oedd canlyniad hynny, ac a allem wneud mwy o bethau felly i bobl allu deall bod teithio ar fws yn gyfle gwych.
Diolch i'r Cadeirydd ac i'r tîm clercio am eu gwaith pwysig yn y maes yma. Mae e'n gwbl amlwg—ac mae'n dod yn amlwg wrth i ni glywed y ddadl yma'n barod—bod trafnidiaeth bws a thrên yn chwarae rhan hanfodol wrth i ni geisio cyrraedd ein targedau newid hinsawdd, a chreu cymdeithas lle mae pawb yn gallu cyrraedd y gwasanaethau maen nhw eu hangen, boed hynny yn y maes gofal, hamdden, gwaith, addysg neu unrhyw beth sy'n bwysig i fywydau pobl. Ond, ar hyn o bryd, dydy hynna ddim yn bosibl i bawb. Yn rhy aml o lawer, dydy trafnidiaeth gyhoeddus ddim yn fforddiadwy, dyw e ddim yn arferol, dyw trenau a bysys ddim yn mynd lle mae pobl angen iddyn nhw fynd.
Rwy'n croesawu nod Llywodraeth Cymru i weld 45 y cant o siwrneiau yn digwydd mewn ffordd gynaliadwy erbyn y flwyddyn 2040. Buaswn i yn gofyn hefyd a ydy hynna yn ddigon uchelgeisiol. Hynny yw, efallai dydy'r cynnydd o ryw 1 y cant y flwyddyn rŷn ni wedi sôn amdano yn ystod argyfwng hinsawdd ddim wir yn adlewyrchu'r uchelgais rŷn ni ei angen. Beth yn union mae'r Llywodraeth yn ei wneud, ac yn ei gynllunio, er mwyn ceisio hwyluso pobl i allu gwneud hyn? Dyna ydy gwraidd y broblem, rwy'n meddwl. Mae gennym system reilffordd sy'n aml yn parlysu yn ystod glaw trwm neu wres eithafol, neu os mae'n bwrw eira, neu unrhyw fath o dywydd sydd ddim jest yn arferol, ac mae hyn ond am ddigwydd yn amlach o nawr ymlaen. Mae beth sy'n arferol yn mynd i newid, yn anffodus. Mae trenau yn aml yn hwyr, neu'n cael eu canslo, mae ticedi llawer rhy ddrud ac mae amodau gweithio'r staff yn dirywio, wrth i'r hinsawdd economaidd daro. Mae'n rhyw fath o perfect storm.
Mae'n bwysig bod yn onest mewn gwleidyddiaeth, felly rwy eisiau nodi nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd o bell ffordd. Gwraidd y broblem, a dŷn ni wedi clywed hyn yn barod, yw'r Llywodraeth yn San Steffan, sydd ddim yn malio taten am bobl Cymru—Llywodraeth sydd yn tanariannu ein rheilffyrdd yn fwriadol, drwy ein hamddifadu o £5 biliwn o arian HS2, er enghraifft, arian byddai Llywodraeth Cymru yn gallu ei ddefnyddio i drawsnewid ein rheilffyrdd. Fel dywedodd Jenny, am benderfyniad gobbledegook, beth bynnag ydy hynny yn Gymraeg. Mae datgarboneiddio rheilffyrdd yn her arall i Lywodraeth Cymru. Bydd angen gwella isadeiledd y rheilffyrdd, gwella storfeydd grid, cysylltedd a chapasiti. Mae hyn yn berthnasol ar gyfer cludiant hefyd. Hoffwn glywed mwy, pan dŷn ni yn clywed yr ymateb i'r ddadl gan y Dirprwy Weinidog, am gynnydd yn y maes hwn, yn ogystal â’r camau nesaf o ran datgarboneiddio gan y Llywodraeth.
Gan droi yn olaf at hygyrchedd, fe wnes i holi’r Gweinidog am ddiogelwch menywod ar ein rheilffyrdd yr wythnos diwethaf. Ers hynny rwyf wedi dysgu bod rhai cynghorau, er enghraifft yng Nghasnewydd, yn bwriadu troi goleuadau stryd i ffwrdd yn y nos er mwyn arbed arian. Beth ydy goblygiadau hynny o ran diogelwch menywod sydd eisiau defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus gyda'r nos? Beth mae'r Llywodraeth yn meddwl am hynny?
Wrth symud ymlaen, yn olaf, mae gwella gallu pobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol ar gyfer mynd i’r afael ag annhegwch cymdeithasol a gallu pobl i deithio. Eto mae hyn wedi cael ei godi yn barod. Wrth ystyried nad oes gan 13 y cant o gartrefi yng Nghymru gar, a bod gan 25 y cant o’r bobl sy’n defnyddio bysys anabledd neu salwch hirdymor, a’r ffaith mai’r lleiaf breintiedig a welodd y dirywiad mwyaf o ran gallu pobl i gyrraedd a defnyddio gwasanaethau, mae’n bwysig bod gweithredu yn digwydd nawr. Yr hyn sy’n glir yw bod angen llwybr tuag at ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus am ddim yn y dyfodol, gan ddechrau gyda’r bobl sydd angen hynny fwyaf: pobl ifanc, pobl mewn cymunedau gwledig a phobl ar incwm isel. Yn y cyfamser—ac mi wnaf orffen gyda hyn, Dirprwy Lywydd—a wnaiff Llywodraeth Cymru ddod â chynlluniau ymlaen i fynd i’r afael â thlodi trafnidiaeth?
Diolch i'r Cadeirydd, aelodau'r pwyllgor a thîm clercio'r pwyllgor newid hinsawdd am lunio adroddiad mor gynhwysfawr. Rwy'n falch o weld y dull ar y cyd a ddefnyddir o ystyried gwasanaethau bysiau a threnau gyda'i gilydd. Yn y Senedd ddiwethaf, roeddwn yn aelod o'r Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau, ac fe fwynheais gymryd rhan yn ein hymchwiliadau i fysiau a'r rheilffyrdd ar wahân ar y pryd, ond pwynt a wneuthum sawl tro yr adeg honno, i ardaloedd fel fy rhai i yng Nghwm Cynon, oedd mai bysiau yw'r elfen hanfodol ar gyfer cysylltu cymunedau sy'n gallu bod yn anghysbell â'r rhwydwaith trenau. Ni allwn eu gweld ar wahân, felly rwy'n croesawu dull y pwyllgor o fynd ati. Rwy'n falch hefyd fod y meddylfryd cydgysylltiedig hwn wedi'i wreiddio yng nghynlluniau metro de Cymru, ac mae'n gadarnhaol nodi'r cynnydd tuag at gyflawni hyn, rhywbeth y gallaf ei weld â'm llygaid fy hun yn fy etholaeth. Hoffwn gofnodi fy niolch i dîm Trafnidiaeth Cymru am roi gwybod i mi am ddatblygiadau lleol yn hyn o beth, yn bennaf er mwyn imi allu rhoi gwybod i fy etholwyr yn eu tro.
I droi at yr argymhellion yn yr adroddiad, rwyf am gyffwrdd ar ambell bwynt allweddol. Rwy'n credu bod argymhelliad 6 ynghylch deall patrymau teithio yn y dyfodol yn allweddol i'r hyn y mae pawb ohonom am ei gyflawni o ran rhoi rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus drawsnewidiol ar waith sy'n addas i'r diben. Rhaid i'r rhwydwaith hwnnw alluogi dinasyddion Cymru i deithio ar gyfer gwaith ac addysg, hamdden a phleser. Edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth Cymru'n rhyddhau gwybodaeth am ei harolwg trafnidiaeth cenedlaethol arfaethedig maes o law. Edrychaf ymlaen hefyd at glywed pa fecanweithiau a gaiff eu rhoi ar waith fel ei fod yn cyfleu barn a phrofiadau pob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru.
Mae argymhelliad 7 hefyd yn hanfodol bwysig. Rydym eisiau sicrhau bod pobl yn mynd yn ôl ar y bysiau. Rwy'n cymeradwyo'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ond rwy'n bryderus hefyd na fydd cynlluniau sydd ar y gweill i ddeddfu ar fysiau'n cyflawni popeth y gallent ei wneud oni bai, er enghraifft, fod cynghorau'n cael digon o gyllid i redeg gwasanaethau. Er enghraifft, rwy'n ymdrin ag achosion yn fy etholaeth lle nad oes gwasanaeth bws i Gwmdâr neu Gwm-bach ar ôl 5.30 p.m., ac nid llefydd gwledig anghysbell yw'r rhain ond pentrefi ychydig y tu allan i'r dref ei hun, gan adael etholwyr—gyda llawer ohonynt yn hŷn a heb drafnidiaeth breifat—wedi'u hynysu i bob pwrpas. Ni all hynny fod yn rhywbeth y gallwn ganiatáu iddo barhau. Os yw'r gwasanaethau hyn, fel y dywedir wrthyf, yn anghynaladwy i ddarparwyr preifat, sut y bydd hyn yn wahanol i'r awdurdod lleol? Sut mae modd hwyluso hyn yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni? Heb gael hyn yn iawn, y cyfan y gallwn ei gyflawni yw symud y bai am wasanaethau bws gwael i awdurdodau lleol. Felly, rwy'n edrych ymlaen at unrhyw sicrwydd y gall y Dirprwy Weinidog ei roi ar y pwynt hwn.
Mae argymhelliad 8 hefyd yn hanfodol bwysig. Ni fydd y rhwydwaith bysiau arfaethedig gorau yn y byd yn llwyddo os nad oes gennym yrwyr i sicrhau ei fod yn gallu gweithredu. Rwyf wedi cynorthwyo fy nghanghennau undebau llafur yn lleol i ddatrys problemau lleol wrth iddynt godi, ac rwy'n siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gan ein hundebau llafur ran i'w chwarae yn y trafodaethau hyn hefyd. Mae'n rhaid inni gydnabod bod cyflogau teilwng ym mhob ardal, nid dyfarniadau cyflog lleol, ac mae sicrhau amodau gwaith da yn allweddol er mwyn cadw'r gweithlu.
Yn olaf, argymhelliad 9. Mae angen inni ei gwneud yn fforddiadwy i bobl allu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, ond rwy'n pryderu'n fawr y gallai realiti prisiau tocynnau arwain at atal pobl rhag ei defnyddio, yn enwedig wrth ystyried amgylchiadau eraill, fel gwasanaethau'n cael eu canslo ar fyr rybudd. Er enghraifft, ystyriwch os yw rhiant o Ben-y-Waun, un o rannau lleiaf cefnog fy etholaeth, yn mynd â'u dau blentyn sydd yn eu harddegau, er enghraifft, i'w meddygfa agosaf yn Nhrecynon. Byddai'r daith honno ychydig dros 1.5 milltir, ond mae pris tri thocyn yr un faint â chost taith tacsi a fyddai'n mynd â chi o ddrws i ddrws. Mae'n destun pryder fod un darparwr bysiau lleol wedi cyhoeddi y bydd prisiau tocynnau yn codi bron i 10 y cant o ddiwedd y mis hwn, a bydd tocynnau dwyffordd i oedolion hefyd yn cael eu dileu. Rwy'n sylwi ar y gwahanol ffrydiau gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith i geisio cael datrysiad, ac unwaith eto, rwyf hefyd yn cydnabod y pwysau ariannol real iawn sydd ar Weinidogion, ond mae'n rhaid inni gael hyn yn iawn i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis synhwyrol, cynaliadwy, realistig a fforddiadwy. Diolch.
Rwy'n croesawu'r adroddiad hwn. Fel y dywedodd y Cadeirydd wrth agor, rwy'n nodi mai dim ond un o'i 26 o argymhellion a wrthodwyd gan Lywodraeth Cymru. Hoffwn gyfeirio yn fy sylwadau y prynhawn yma hefyd at rai o'r argymhellion y mae'n eu cynnwys. Mae argymhelliad 7 yn cyfeirio at annog teithwyr i ddychwelyd i ddefnyddio gwasanaethau bysiau cyhoeddus. Rwy'n cytuno'n fawr â hyn, fel y bydd llawer o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr a thu hwnt hefyd rwy'n siŵr. Nod Llywodraeth Cymru, o'r diwrnod cyntaf, o'r hyn a glywais, yw cael pobl allan o'u ceir, oddi ar y ffyrdd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn lle hynny. Da iawn. Mae'n nod rhagorol heb unrhyw amheuaeth, a byddai'n lleihau tagfeydd ac allyriadau carbon. Fodd bynnag, ni all weithio heb fod gennym rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cryf ac effeithlon yn y lle cyntaf.
Nid oes amheuaeth fod pobl sy'n byw yma yng Nghymru ac ar draws de-ddwyrain Cymru yn fy rhanbarth i, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod Alun Davies, yn ddibynnol iawn ar geir. Ni allwch wadu'r realiti. Rydym wedi cael dadleuon, areithiau a chwestiynau dirifedi yn y Siambr hon, ac ni all neb wadu yma fod gwasanaethau bws yn annigonol, yn anaml a heb fod yn bodoli ledled Cymru. Mae diffyg gwasanaeth bws teilwng yn tanseilio'r economi ac yn ei gwneud hi'n anos i bobl yn gyffredinol gael mynediad at swyddi a gwasanaethau hanfodol. Roedd nifer y teithiau bws lleol yn gostwng cyn y pandemig, diolch i flynyddoedd o gymorth ariannol annigonol gan Lywodraeth Cymru, yn anffodus, ac nid ydynt wedi dychwelyd i lefelau cyn COVID o hyd. Mae llawer o wasanaethau bws heb ailddechrau ers y pandemig, gan adael preswylwyr wedi'u hynysu yn eu cymunedau. Ar ôl nifer o ddadleuon, cwestiynau ac areithiau yma yn y Senedd, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru o'r diwedd wedi cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau bws ar ôl blynyddoedd o danariannu cronig.
Rwy'n edrych ymlaen at weld cynigion manwl yn datblygu i gefnogi gwasanaethau bws yn y ddeddfwriaeth sydd ar y gweill, ac rwy'n awyddus i weld sut y bydd Llywodraeth Cymru'n helpu ardaloedd gwledig i fforddio bysiau ecogyfeillgar yn y dyfodol. Mae gwir angen inni fynd i'r afael â'r prinder gyrwyr bysiau sydd wedi gadael y sector am gyflog uwch mewn mannau eraill, ac yn hytrach na mynd i sefyllfa, fel y gwelwn gyda meddygon teulu, mae angen inni weithio ar hyn nawr yn hytrach nag yn hwyrach. Mae gwella cyflogau ac amodau gyrwyr lorïau wedi arwain at lawer o yrwyr bysiau yn gadael eu swyddi, gan achosi'r hyn a gafodd ei disgrifio fel y sefyllfa adnoddau fwyaf heriol a welodd y diwydiant bysiau erioed. Mae'n hyfryd ein bod i gyd yn dweud pethau cadarnhaol, ond mae angen inni wneud mwy na siarad nawr mewn perthynas â bysiau.
Mae argymhelliad 23 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ar y sefyllfa ddiweddaraf gyda chostau'r metro. Mae'r prosiect metro yn elfen allweddol yn strategaeth Llywodraeth Cymru i annog pobl oddi ar y ffordd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y pen draw. Ym mis Chwefror 2021, dywedodd prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru y byddai oedi o fisoedd—ac nid blynyddoedd—i gwblhau prosiect metro de Cymru o ganlyniad i'r pandemig, gyda'r dyddiad cwblhau yn 2023 o hyd.
Ym mis Mai y llynedd, dywedodd Trafnidiaeth Cymru fod cost y prosiect metro yn debygol o fod yn sylweddol uwch na'i gyllideb o £734 miliwn, gyda'r gorwariant yn debygol o fod yn ddegau o filiynau o bunnoedd—degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Cafodd cwblhau'r prosiect ei oedi tan 2024, ac ym mis Tachwedd y llynedd, cadarnhawyd y byddai oedi pellach i'r uwchraddio, gyda'r rhagolygon y bydd y rhan fwyaf o'r gwaith yn gorffen yn 2024, ond heb ddyddiad ar gyfer cwblhau'r prosiect yn llawn, sy'n peri pryder i mi a llawer o bobl, rwy'n siŵr. Un o'r rhesymau a roddwyd am yr oedi pellach oedd COVID, er bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud yn flaenorol na fyddai'n achosi oedi y tu hwnt i 2023. Felly, unwaith eto, rwy'n ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog i'n hysbysu pryd y bydd gwaith ar fetro de Cymru yn cael ei gwblhau o'r diwedd. A beth yw'r amcangyfrif diweddaraf o gyfanswm cost prosiect blaenllaw Llywodraeth Cymru i gael pobl oddi ar y ffordd ac i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus?
Mae argymhelliad 25 yn galw ar Trafnidiaeth Cymru i roi diweddariad ynghylch y peilot tocynnau integredig ac egluro beth yw'r camau nesaf. Un o'm gweithredoedd cyntaf ar ôl cael fy ethol i'r Senedd oedd galw am gerdyn teithio i Gymru gyfan er mwyn caniatáu teithiau di-dor ar draws Cymru, un cerdyn yn unig—yn debyg i'r hyn rydych i gyd wedi'i weld mae'n debyg—fel y cerdyn Oyster yn Llundain. Er clod iddo, a rhaid imi roi clod iddo am hyn, ymatebodd y Prif Weinidog gydag optimistiaeth a dweud ei fod yn syniad gwerth ei archwilio a'i fod yn wirioneddol ymroddedig i archwilio'r posibilrwydd o gyflwyno cerdyn o'r fath i bobl Cymru.
Ym mis Hydref y llynedd, mewn ateb i gwestiwn ysgrifenedig yn gofyn am ddiweddariad ar y cynlluniau hyn, dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd,
'Rydym yn parhau i weithio gyda Trafnidiaeth Cymru i archwilio opsiynau ar gyfer tocynnau integredig'.
Felly, wrth symud ymlaen, gadewch imi gofnodi fy nheimladau yma heddiw pan ddywedaf fy mod yn siomedig iawn ynghylch y diffyg cynnydd ar y mater hwn, ac er i Trafnidiaeth Cymru roi tudalen ar eu gwefan yn dweud y byddai'r cerdyn teithio yn dod yn fuan, fe wnaethant ei thynnu i lawr yr un mor sydyn. Hoffwn ofyn am ddiweddariadau rheolaidd yn y Senedd hon ar ddarparu cerdyn teithio i Gymru gyfan gan y bydd yn sylfaen i rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gref a chynaliadwy yma yng Nghymru i bobl Cymru, oherwydd os na weithiwn arno nawr, nid wyf yn teimlo y gwnawn ni byth lwyddo i gyflawni rhwydwaith bysiau a rheilffyrdd cryf yma i bobl Cymru.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor ac i dîm clercio'r pwyllgor am gynhyrchu'r adroddiad hwn. Wrth gwrs, y prawf y byddaf yn ei sefydlu ar gyfer polisi'r Llywodraeth yw sut mae'n effeithio ar bobl Blaenau Gwent, oherwydd yr hyn a fwynheais leiaf—nid wyf yn gwybod a oedd hynny'n wir am unrhyw un arall—yn y ddadl gyda Jenny Rathbone yn gynharach oedd y gwahaniaeth ym mhrofiad pobl yng nghanol Caerdydd a'r bobl sy'n byw ym mlaenau'r Cymoedd. Ac rwy'n credu ei fod yn wahaniaeth pwysig, oherwydd yr hyn a safai allan i mi yn yr adroddiad oedd y pwyslais ar newid ymddygiad, ac fe bwysleisiodd y Cadeirydd hynny yn ei gyflwyniad. A bydd newid ymddygiad ond yn digwydd os oes dewisiadau amgen hyfyw i ddefnyddio'r car. Ac yn rhy aml o lawer yn achos fy etholaeth i—y bobl rwy'n eu cynrychioli—nid yw'r dewisiadau amgen hynny'n bodoli.
Ddirprwy Weinidog, dyma lle mae'r prawf i'r Llywodraeth, oherwydd efallai fy mod wedi treulio gormod o amser yn y Siambr hon yn gwrando ar areithiau gweinidogol, ac a bod yn onest mae rhai o'r areithiau hynny wedi fy siomi. Oherwydd clywais y cyfraniadau—y bydd y Dirprwy Weinidog yn eu gwneud y prynhawn yma, mae'n siŵr—ynglŷn â sut mae Llywodraeth Cymru eisiau inni symud o'r car i'r bws neu'r rheilffordd neu beth bynnag. Ac yna, wrth gwrs, rwy'n eu gweld yn adeiladu ysbyty mawr—ac rwy'n gefnogol iawn i adeiladu Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân—roedd gennym fws bob awr i Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni; dim bws o gwbl i ysbyty'r Faenor. Ac am bum mlynedd fe addawodd Gweinidogion yn y lle hwn y byddai'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Mae'r Gweinidog presennol wedi addo y bydd yn ymchwilio iddo, ond heddiw, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli. Felly, nid yw'n ddigon da i'r Llywodraeth ddweud ei bod am i'r bobl wneud hyn i gyd ac yna ei gwneud hi'n anos i bobl ddefnyddio'r gwasanaethau mewn gwirionedd. Ac yn rhy aml, nid yw'r gwasanaethau hynny'n bodoli, ac nid yw hynny'n deg ac nid yw'n iawn.
Wyddoch chi, un o fy ngofidiau mawr yn y lle hwn—. Efallai na fydd yr Aelodau'n credu hyn, ond roeddwn i'n ddistaw pan ddigwyddodd, a dylwn fod wedi agor fy ngheg. Pan ddiddymwyd gweithrediaeth trafnidiaeth y de-ddwyrain—ni allaf gofio'r enw cywir—gan Weinidog blaenorol, diddymodd holl allu llywodraeth leol ac eraill i gydlynu ac i gynllunio trafnidiaeth. Nawr, rwy'n deall, wrth gwrs, fod hyn yn cael ei ailgyflwyno drwy gyd-bwyllgorau corfforedig—ac rydym yn deall nawr fod y Ceidwadwyr yn sydyn iawn yn cefnogi'r pethau hyn, ac rwy'n croesawu eu tröedigaeth—ond mae angen y lefel hon o gydlynu oherwydd—. Cyfarfûm ag etholwr mewn cymhorthfa yng Nghwm y llynedd, ac roedd yn egluro i mi y byddai'n rhaid iddo fynd drwy Fryn-mawr i gyrraedd ysbyty'r Faenor. Nawr, mae unrhyw un sy'n gwybod am ddaearyddiaeth Cymoedd de Cymru yn gwybod nad ydych chi'n tueddu i deithio i'r de drwy deithio i'r gogledd. Ac mae'n annheg rhoi pobl fregus yn y sefyllfa hon. Fe wyddom—ac rydym wedi archwilio hyn ar sawl achlysur yn y lle hwn—mai diwygiadau Thatcher a ddinistriodd y diwydiant bysiau. Rydym yn deall hynny. Ond hefyd, rydym wedi bod â chyfrifoldeb yn y lle hwn ers dros 20 mlynedd, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn dangos bod hynny'n golygu rhywbeth mewn gwirionedd. Ac rwyf am i'r Dirprwy Weinidog, wrth ymateb i'r ddadl hon, egluro sut mae newid ymddygiad yn digwydd ochr yn ochr â chydraddoldeb, fel bod fy etholwyr yn cael yr un cyfle â'r etholwyr y mae Jenny Rathbone yn eu cynrychioli. Ac fe ildiaf.
Ar fater cydraddoldeb, tybed a wnaethoch chi nodi, yn yr adroddiad, yr awgrym gan yr Athro Barry, y dylem efallai gael pobl hŷn, nad ydynt yn talu o gwbl ar hyn o bryd, i dalu £1, a byddai hynny wedyn yn rhoi mwy o arian i ostwng prisiau i bobl eraill efallai, yn enwedig pobl iau o dan 25 oed. Nawr, rwy'n gwybod mai dyma'r greal sanctaidd, ond ychydig iawn o arian ychwanegol sydd yna yn y system, ac efallai y gallwn annog rhai pobl i dalu—
Jenny, efallai y byddwch yn synnu, ond rwy'n dathlu fy mhen-blwydd yn bum deg naw y mis nesaf, felly mae fy meddyliau'n datblygu, gawn ni ddweud, ynglŷn â'r tocyn bws, ac efallai y dylwn ddatgan diddordeb ynddo. Ond edrychwch—
A fyddech chi'n barod i dalu £1?
Byddwn, fe fyddwn i'n barod i dalu £1. Ond rwyf hefyd yn credu efallai y dylem fod yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus am ddim, neu gyfradd gyffredinol o £1 i bawb, i ble bynnag y byddant yn teithio, ar unrhyw adeg. Rwy'n credu bod angen inni feddwl am fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac gosod rhwystrau i drafnidiaeth gyhoeddus.
Felly, nid oes gennyf safbwyntiau di-ildio fel sydd gennym yn rhy aml yn y Siambr hon, a byddwn yn barod i edrych ar unrhyw un o'r gwahanol enghreifftiau o ffyrdd o annog buddsoddiad yn y system. Ond i mi, y pwrpas yw gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn haws i'w defnyddio. Ac os yw hynny'n golygu cyfradd gyffredinol o £1 i bawb, boed hynny fel y bo. Ond hoffwn sicrhau na chawn system docynnau anhrefnus fel sydd gennym ar hyn o bryd. Ac rwy'n gresynu'n barhaus—. Ac rwy'n clywed beth mae'r Aelodau gyferbyn yn ei ddweud, ac mae'n dda gweld arweinydd yr wrthblaid yn y Siambr ar gyfer y ddadl hon. Yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthynt, yn gyfan gwbl o ddifrif, yw nad oes gennych obaith o gwbl o gyflawni unrhyw un o'r uchelgeisiau y mae Natasha Asghar wedi'u disgrifio y prynhawn yma hyd nes y caiff y cyfrifoldeb am seilwaith rheilffyrdd ei ddatganoli i'r lle hwn, oherwydd yn syml iawn, nid oes arian yn y system. Caiff arian ei ddwyn oddi wrth drethdalwyr Cymru ddydd ar ôl dydd ar ôl dydd. Mae'r penderfyniadau a wnaed dros HS2 yn warthus—yn gwbl warthus—a dylai'r Ceidwadwyr godi llais a'u gwrthwynebu—
Alun, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
—yn yr un ffordd ag y gwnawn ni mewn mannau eraill. Felly, rwy'n ddiolchgar am eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.
Weinidog, wrth ateb y ddadl hon, rwyf am weld cydraddoldeb yn y ffordd y caiff pobl ar hyd a lled y wlad eu trin, ac rwyf am ichi basio prawf Blaenau Gwent. Rwyf am i chi ei basio'n rhagorol, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cael buddsoddiad yn y bysiau, y rheilffordd, ac integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth sy'n golygu bod fy etholwyr yn cael yr un cyfleoedd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ag etholwyr Jenny, ac fe wnawn ni addo, wedyn, na fyddwn yn achosi ciwiau yn eich mannau parcio yng nghanol Caerdydd, Jenny. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ategu fy niolch innau i'r pwyllgor am yr holl waith ar y mater allweddol bwysig yma? Ac, yn debyg iawn, dwi'n cytuno efo nifer o'r pwyntiau a gododd Alun Davies. Mae hwn yn fater o gyfartaledd, a phwyntiau cyffelyb roeddwn innau eisiau eu codi ar ran trigolion Canol De Cymru. Os ydych chi'n meddwl pa mor—. Dwi'n cynrychioli ardal Caerdydd, lle mae hi'n haws o lawer i chi newid eich arfer, i ddewis peidio â chael car, oherwydd pethau amgen. Rydyn ni'n teithio wedyn tuag at Bontypridd ac yn bellach i'r Cymoedd, fel roedd Vikki Howells yn cyfeirio ato—. Wel, mae hynny i gyd o fewn fy rhanbarth i, ac mae'r cwynion dwi'n eu cael yn ddyddiol gan bobl lle nad oes ganddyn nhw drafnidiaeth amgen, does dim car, felly, pan dydy'r bws neu'r trên ddim yna, maen nhw'n hollol, hollol gaeth i'w tai—. Mae hynny'n golygu colli cyfleoedd o ran gwaith, ond yn bwysig hefyd colli cyfle ar gyfer apwyntiadau meddygol, sydd yn eithriadol o anodd i'w cael dyddiau yma, ond hefyd o ran cael eu plant i'w hysgol ar amser neu gasglu plant sy'n sâl. Mae yna anghyfartaledd mawr yn bodoli ar y funud. Pan ydyn ni'n sôn ynglŷn â newid arferion, mae nifer o'r bobl yn fy rhanbarth i yn defnyddio'r bws neu'r trên oherwydd dyna'r unig beth sydd ar gael iddyn nhw, ond y broblem a'r cwynion rydyn ni'n eu cael rŵan ydy dyw'r trenau yna ddim yn rhedeg. Rydyn ni'n gwybod am yr uwchraddio o ran y metro, sydd i'w groesawu'n fawr, ond y drwg ydy dyw'r bysus yna ddim yn troi i fyny os dydy'r trenau ddim yn rhedeg, ac yn aml mae bysus yn cael eu canslo.
Mi oeddwn i'n eithriadol o falch o weld argymhelliad 8 yn benodol, oherwydd mi ydyn ni'n gwybod bod yna argyfwng o ran recriwtio. Mae'n rhaid i ni gofio wedyn am yr ystadegau, y bobl y tu hwnt i'r ystadegau hynny. A finnau wedi bod yn gynghorydd, mae nifer o bobl ym Mhontypridd dal efo fy rhif ffôn i, a dwi'n cael tecst bob tro dydy un bws am 16:29 yn y prynhawn, sef y bws olaf, sydd yn mynd i fyny'r mynydd ym Mhontypridd, ddim yn rhedeg. Dwi'n cael tecst bron bob dydd dyw'r gwasanaeth hwnnw ddim yn rhedeg, a'r un un gwasanaethau dwi'n clywed amdanyn nhw dro ar ôl tro. Felly, mae hyn yn broblem wedyn i bobl, a dydyn ni ddim yn sôn am bobl jest mewn cefn gwlad. Rydyn ni'n gwybod am y broblem aruthrol yno, ond rydych chi'n gallu byw mewn tref fel Pontypridd, yn gallu gweld y siopau, gweld yr holl bethau sy'n mynd ymlaen, ond methu â'u cyrraedd nhw os nad oes gennych chi gar ac os nad ydych chi'n ddigon abl i allu cerdded. A dwi'n meddwl wedyn, mi ydyn ni'n edrych wedyn o ran cydraddoldeb, oherwydd hyd yn oed os oes gennych chi'r pàs bws yna, hyd yn oed os ydych chi'n gallu ei fforddio, os dydy'r gwasanaeth ddim yna, mae'n ffaith bod pobl yn gaeth yn eu tai.
Un o'r pethau oedd yn fy mhryderu i yn fawr iawn, o siarad gyda phobl ifanc yn fy rhanbarth i, oedd y diffyg hyder sydd ganddyn nhw erbyn hyn o ran mynd ar fws neu drên, oherwydd mae amryw ohonyn nhw heb gael y cyfle i wneud hynny o gwbl oherwydd y pandemig, i allu gwneud yr ambell siwrnai yna heb eu rhieni am y tro cyntaf, ac mae yna nifer o gynlluniau rŵan lle mae gweithwyr ieuenctid yn gorfod mynd â phlant a phobl ifanc am y tro cyntaf ar fws a dangos iddyn nhw sut mae'r system yn gweithio, bron yn dal eu llaw nhw drwy'r broses honno. Felly, un o'r pethau mi oeddwn i'n mynd i holi—. Os ydyn ni'n mynd i newid arferion, yn amlwg, mae dechrau efo pobl ifanc yn mynd i fod yn allweddol bwysig. Felly, o ran y gefnogaeth ymarferol honno, sydd yn gallu bod yn gostus iawn, sut ydyn ni'n mynd i fod yn defnyddio'r cwricwlwm newydd, er enghraifft, er mwyn hyrwyddo mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus a normaleiddio hynny, felly? Oherwydd, yn amlwg, mae yna nifer o gamau fan hyn o ran trawsnewid y system i'r dyfodol, ond mae'n allweddol bwysig ein bod ni'n cefnogi pobl drwy'r broses honno hefyd, oherwydd, mewn gwledydd lle mae wedi'i normaleiddio, mae pawb yn gwybod sut mae pethau'n gweithio.
Ond mae yna bethau mwy sylfaenol. Dwi hefyd yn meddwl bod y mater o gost yn un pwysig. Rydyn ni'n clywed mewn pwyllgorau eraill ar y funud am nad yw plant a phobl ifanc yn cyrraedd yr ysgol os nad ydyn nhw o fewn y dalgylch o allu cael tocyn bws am ddim i'r ysgol. Felly, mae cost yn rhwystr, a dwi'n meddwl bod yn rhaid inni edrych ar yr holl ystod yna. Ond fe fyddwn i'n gobeithio y byddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno efo fi na ddylem ni weld sefyllfa lle mae person ifanc yn cael gwrthod mynediad ar fws sydd yn mynd â nhw i'r ysgol oherwydd dyw'r arian ddim ganddyn nhw. Ac mi fyddwn i'n gobeithio ein bod ni'n gallu edrych ar fesurau o ran gwrth-dlodi rŵan a'r argyfwng costau byw i ddelio efo'r argyfwng sydd yna rŵan o ran cost trafnidiaeth, sydd yn atal pobl rhag cyrraedd ysgolion. Os caf i adael i Sioned Williams ddod i mewn.
Diolch, Heledd. A fyddech chi'n cytuno mai un o'r carfannau o bobl ifanc sy'n cael eu heffeithio'n fawr gan yr argyfwng costau byw a hefyd cost uchel trafnidiaeth yw myfyrwyr? Maen nhw'n aml iawn yn gorfod byw mewn dinasoedd. Rŷn ni'n gwybod eu bod nhw'n gorfod weithiau byw ar gyrion dinasoedd, oherwydd bod cost mor uchel o ran rhent yng nghanol dinasoedd, ac maen nhw wedi dweud wrthyf i eu bod yn gorfod teithio mewn wedyn ar gyfer dosbarthiadau ac, wrth gwrs, fel clywon ni gan Jenny, maen nhw'n ymhlith y bobl ifanc yna sydd ddim yn medru cael pris gostyngedig ar drafnidiaeth. Ydych chi'n credu y dylen nhw hefyd fod yn flaenoriaeth?
Yn sicr, a dwi'n meddwl bod hynny'n ymestyn—pan wyf yn sôn am bobl ifanc, nid dim ond y rhai mewn ysgolion yw. A byddwn i'n gofyn i'r Dirprwy Weinidog adlewyrchu ar hynny. Dwi'n gweld bod amser yn dod i ben, ond, yn debyg iawn i Alun Davies, mater o gydraddoldeb ydy o a sut ydym ni'n mynd i sicrhau hyd yn oed bod y gwasanaethau sydd i fod yno rŵan yn rhedeg—dyna ydy un o'r pethau, heb sôn am ymestyn y gwasanaethau ar gyfer y dyfodol. Diolch.
Diolch. Rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn rhaff achub i lawer, gan sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae'n fater cymdeithasol, yn ogystal â chynnal mynediad at waith. Rwy'n gwybod, mewn ardaloedd gwledig, mai'r daith ar y bws yw lle mae teithwyr rheolaidd yn mwynhau sgwrs gymdeithasol gyda'i gilydd a'r gyrrwr, ac rydym wedi clywed yn y pwyllgor diwylliant a chwaraeon bod trafnidiaeth gyhoeddus yn hanfodol er mwyn sicrhau mynediad teg at byllau nofio a chlybiau chwaraeon. Mynediad at apwyntiadau meddygol yw un o'r pryderon mwyaf i drigolion.
Ond mae rhedeg trafnidiaeth bws yn ddrud. Mae angen iddi gael ei hintegreiddio â thrafnidiaeth ysgol i helpu i sybsideiddio teithiau am weddill y dydd, ac rwy'n ymwybodol bod Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 yn cael ei adolygu, ond mae angen inni ddeall mater cost ac adnoddau. Yn y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai yr wythnos diwethaf, siaradodd arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y frwydr ddyddiol o sicrhau bod digon o weithredwyr i gyflawni cytundebau trafnidiaeth ysgol a sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn cael ei adael ar ôl. Mae cynnydd o 40 y cant wedi bod mewn prisiau, gan greu pwysau enfawr yn y gyllideb. Rwy'n dal i fod braidd yn bryderus ynghylch gallu cyd-bwyllgorau corfforedig i ddarparu trafnidiaeth, sy'n hynod gymhleth. Roedd gan un awdurdod lleol 450 o gontractau, 350 yn rhai ysgol, ac mae swyddogion yn cyfathrebu'n dda gyda gweithredwyr yn ddyddiol, gan eu helpu i gynnal gwasanaethau pan allant fod ar fin dymchwel, neu ofyn iddynt gamu i'r adwy ar y funud olaf pan fo angen. Mae atebolrwydd yn bwysig, i sicrhau na fydd yr un plentyn nac oedolyn bregus yn cael ei adael ar ôl.
Mae caffael bysiau yn ddrud hefyd. Maent yn amrywio o £350,000 i £450,000 am un bws, ac mae'n gallu costio rhwng £350,000 a £700,000 i gynnal gwasanaeth. Os nad yw teithiau'n rhai masnachol, maent yn cael eu stopio, a dyna pryd mae cynghorau wedi camu i'r adwy gyda chymorthdaliadau, ond mae tri chyngor eisoes wedi tynnu cymorthdaliadau yn ôl dros y blynyddoedd diwethaf yn ystod cyni, ac rwy'n ymwybodol fod llawer mwy wedi eu rhoi ar y bwrdd eleni fel arbedion cost. Felly, bydd angen ystyried hynny. Pe bai Llywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru, yn gallu helpu gyda chaffael, gan ddefnyddio prynu ar raddfa, gallai helpu gyda chynaliadwyedd i weithredwyr ac awdurdodau lleol neu wasanaethau comisiynu cyd-bwyllgorau corfforedig. Ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae'r Dirprwy Weinidog efallai'n edrych arno.
Mae trigolion yn hoff o wasanaeth bws sydd wedi ei drefnu, ond mae llawer yn gorfod derbyn newid, ac mae'r gwasanaeth bysiau Fflecsi, sy'n gweithredu yng ngogledd Cymru, yn cael ei groesawu ac mae'n ymddangos ei fod yn gweithio'n dda iawn pan fydd trigolion a theithwyr yn derbyn newid. Mae dibynadwyedd ac amserlenni clir yn bwysig er mwyn annog pobl i ddefnyddio trafnidiaeth bws a chael ffydd ynddi. Gall un profiad drwg eu digalonni yn gyfan gwbl. A gall un newid mewn amserlen fysiau gan weithredwr olygu bod rhaid diweddaru 150 o safleoedd bws wedyn, ac mae hwnnw'n waith llafurus sy'n cael ei orfodi ar awdurdodau lleol nad oes ganddynt adnoddau. Felly, bydd masnachfreinio, wrth symud ymlaen, yn ddefnyddiol iawn gyda hynny, oherwydd gallant gomisiynu gwasanaethau am gyfnod hwy, lle na fydd gweithredwyr yn eu newid a'u torri o fewn y flwyddyn. Felly, bydd hynny i'w groesawu'n fawr. Mae gyrrwr bws cyfeillgar, cymwynasgar a chynorthwyydd platfform trên yn amhrisiadwy ac yn gwneud byd o wahaniaeth o ran gwneud i bobl deimlo'n hyderus wrth ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig os oes ganddynt anawsterau corfforol neu feddyliol, ac fe drafodwyd hynny y bore yma ar y radio hefyd.
Mae recriwtio a chadw gyrwyr yn broblem. Mae Arriva Cymru yn talu llai i yrwyr yng Nghymru, o dan eu cytundeb, sy'n annheg ac yn achosi problem, gan eu bod yn croesi'r ffin ac yn pasio cydweithwyr yn ddyddiol, ac mae'n rhywbeth y mae'r undebau'n ceisio ei ddatrys. Os yw awdurdodau lleol yn gallu cael trwydded gweithredwr, sy'n rhywbeth y mae rhai wedi edrych arno yn y gorffennol, efallai y gallai gweithredwyr gyrwyr y gwasanaethau ar y stryd gael trwydded a hyfforddiant i fod yn yrwyr bysiau a llenwi bylchau a adewir ar ôl gan weithredwyr os ydym am chwilio am fodel masnachfreinio gydag awdurdodau lleol yn camu i mewn hefyd. Mae problem gorlenwi ar drenau gogledd Cymru o hyd, ond rwy'n falch o weld bod y mark 4 yn ôl ar y gwasanaeth. Gwych. Maent wedi cael eu hadnewyddu. Ac mae mwy o wasanaethau rheilffordd wedi cael eu haddo.
Nid yw streiciau presennol y gweithwyr rheilffordd yn ymwneud â chyflogau'n unig, maent yn ymwneud â sicrhau bod llinellau a signalau yn cael eu cynnal gan weithredwyr profiadol, cymwys, a bod yna gardiaid ar drenau a staff platfform digonol i sicrhau diogelwch pob teithiwr, a dyna pam rwy'n cefnogi'r streiciau a'r trafodaethau sy'n digwydd.
Mae prisiau tocynnau integredig y gellir eu defnyddio ar draws gweithredwyr yn bwysig hefyd, yn ogystal â chynnal trafnidiaeth ar draws y ffin, gan fod gennym ffin agored. Ac rwy'n croesawu'r tocyn 1Bws yn fawr—rwy'n credu mai y llynedd y cafodd hwnnw ei ddefnyddio fel model, a chafodd groeso mawr—y gellir ei ddefnyddio ar draws gwahanol weithredwyr. Mae angen ariannu'r rhwydwaith rheilffyrdd yn well. Rydym angen y £5 biliwn o HS2. Nid yw'r rhwydwaith rheilffyrdd erioed wedi ei ariannu ei hun, byth ers iddo gael ei ddatblygu, oherwydd pan oedd llinellau rheilffyrdd yn cael eu hadeiladu roeddent yn cystadlu â'i gilydd o'r dechrau ac nid oeddent yn cwmpasu'r ardal gyfan.
Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru eisiau cyflwyno prisiau tecach. Byddai'n wych cael tocyn un pris cyffredinol; rwy'n credu efallai y bydd yn rhaid ichi edrych ar y syniad o £1 i sybsideiddio eraill. Ond rwy'n deall bod angen inni gael y rhwydwaith yn ei le yn gyntaf, ac rwy'n croesawu'r ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru a'r Dirprwy Weinidog a'i holl ymdrechion i geisio datrys hyn, ynghyd â Trafnidiaeth Cymru. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, Lee Waters.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bob cyd-Aelod am ddadl ddiddorol. Rwy'n credu bod achos cyffredin, eto, yn y Siambr hon, dros wella realiti trafnidiaeth gyhoeddus a chyflawni ein dyhead cyffredin o newid dulliau teithio i fynd i'r afael â chyfiawnder cymdeithasol yn ogystal â'r argyfwng hinsawdd. Mae hi ychydig yn rhwystredig, ac rwy'n ymwybodol o'r eironi, imi glywed y rhestr o broblemau y mae'r Aelodau wedi'u nodi y prynhawn yma, pwyntiau rwy'n cytuno â hwy ac rwyf wedi bod yn eu gwneud ers blynyddoedd lawer fy hun, a fy mod erbyn hyn mewn sefyllfa lle rwy'n ceisio troi'r heriau'n atebion, ac mae'n amlwg yn haws dweud na gwneud gyda'r pethau hyn.
Rydym yn wynebu pwysau mawr ar hyn o bryd. Mae gennym gostau cynyddol—felly, mae pob cynllun a weithredwn yn costio mwy i'w ddarparu—ac mae ein cyllid yn gostwng, sy'n rhwystredig iawn, ar adeg wrth gwrs pan nad yw'r sector trafnidiaeth gyhoeddus, y rhwydwaith rheilffyrdd a'r rhwydwaith bysiau, wedi adfer ers y pandemig. Felly, mae'n costio mwy i redeg gwasanaethau. Ac rydym wedi achub y diwydiant bysiau preifat rhag mynd i'r wal yn barhaus drwy'r pandemig, drwy ein cynllun brys ar gyfer y sector bysiau. Mae disgwyl i hwnnw gael ei adnewyddu yn y misoedd nesaf, ac mae gennym lai o arian. Rwy'n poeni'n wirioneddol am yr effaith y bydd y cyllid yn ei gael ar grebachu ein rhwydwaith bysiau. Ac fel y mae'r Aelodau wedi'i nodi, mae'r diwydiant bysiau yn wynebu problemau recriwtio a chadw gyrwyr bysiau ei hun, yn ogystal â chostau tanwydd cynyddol, ac rwy'n pryderu nad yw'r gwasanaethau hyn yn gweithredu eisoes yn aml, ac mae Sioned Williams wedi rhoi enghraifft dda i ni ym Mhontypridd—maddeuwch i mi, Heledd Fychan a roddodd yr enghraifft i ni ym Mhontypridd—o fysiau ddim yn dod. Felly, yn hollol amlwg, mae cwmnïau bysiau yn ei chael hi'n anodd cynnal eu hamserlen bresennol, a fy mhryder i yw, gan fod rhaid i ni gwtogi ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau, oherwydd ein bod yn dod allan o'r pandemig ac am nad yw'r cyllid ar gael, y byddant yn ein beio ni am grebachu'r rhwydwaith bysiau er mai ni wnaeth achub y rhwydwaith bysiau yn y lle cyntaf wrth gwrs. Mae hyn, rwy'n credu, yn mynd at wraidd methiannau'r model preifat sydd gennym.
Cododd Alun Davies yr enghraifft wych o broblem ysbyty'r Faenor unwaith eto, lle cafodd ysbyty ei adeiladu yn y lle cyntaf heb ystyried trafnidiaeth gyhoeddus. Yma, mae gennym ddiffyg cysylltiad rhwng gwahanol wasanaethau, lle nad yw trafnidiaeth yn cael ei ystyried gan ddarparwyr addysg neu iechyd tan yn rhy hwyr. Ac mae'n sôn yn benodol am—[Torri ar draws.] A gaf fi ateb y pwynt yn gyntaf? Mae'n gwneud pwynt penodol o ddweud nad oes gwasanaeth bws ar gael o Flaenau Gwent i ysbyty'r Faenor, ac mae hynny, unwaith eto, yn achosi llawer o rwystredigaeth. Rydym wedi trafod y peth nifer o weithiau, a'r gwir amdani yw ein bod wedi ceisio rhoi gwasanaeth ar waith i fynd o'i etholaeth i ysbyty'r Faenor, ond mae'r ffordd y mae'r farchnad yn gweithio wedi ein rhwystro. Os oes yna wasanaeth bws sy'n cael ei ariannu'n gyhoeddus yn cystadlu â gwasanaeth sy'n cael ei redeg yn fasnachol, mae'r gweithredwyr yn gallu ein herio'n gyfreithlon, a dyna sydd wedi digwydd yn yr achos hwn. Rydym wedi ceisio rhoi'r gwasanaeth yn ei le. Mae darparwr sy'n darparu rhan fach iawn o'r llwybr wedi ein herio ni ar hynny, ac o ganlyniad mae popeth wedi dod i stop ac etholwyr Alun Davies sy'n dioddef. Nid yw'n ddigon da, ac mae'n hynod rwystredig fod y fframwaith cyfreithiol yn ein hatal rhag darparu gwasanaeth trafnidiaeth gyhoeddus integredig, fel y mae'n ei wneud i docyn sengl Natasha Asghar sydd wedi'i grybwyll droeon, fel y mae hi'n gwybod yn iawn, neu'n sicr fe ddylai wybod. Mae'r ffordd y mae'r system gyfreithiol bresennol wedi'i sefydlu yn ei gwneud yn amhosibl gwneud hynny, a dyna pam rydym yn awyddus i ddiwygio'r system drwy'r Bil bysiau, ac rwy'n croesawu'r gefnogaeth gyson y mae hi wedi'i ddangos i Fil bysiau, ac rwy'n edrych ymlaen at geisio llunio hwnnw ar sail drawsbleidiol i gyflawni ein huchelgais gyffredin. Felly, mae gennym gynlluniau ac rydym yn gweithio'n galed i fynd i'r afael â phroblemau sylfaenol mewn perthynas â'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer y diwydiant bysiau.
Roeddwn yn credu bod y drafodaeth rhwng Jenny Rathbone ac Alun Davies yn un ddefnyddiol iawn, ac rwy'n credu bod y Siambr hon ar ei gorau pan fydd pobl yn rhoi eu hareithiau heibio ac yn ymateb i'r ddadl, sef yr hyn rwyf am geisio ei wneud y prynhawn yma, oherwydd roedd y pwyntiau a wnaeth y ddau ohonynt yn hollol gywir. Mae Jenny Rathbone yn iawn: mae angen i ni annog pobl i beidio â theithio i ganol dinasoedd pan fydd dewisiadau amgen ar gael, ac rydym eisiau creu dewisiadau amgen gwell. Ac rwy'n codi fy het i Gyngor Caerdydd am fod yn ddigon dewr i ddatblygu cynllun codi tâl am dagfeydd, a byddant yn neilltuo'r arian hwnnw ar gyfer prosiect traws-reilffordd fel y'i gelwir yng Nghaerdydd i wella gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus metro yng Nghaerdydd. Dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae'n heriol yn wleidyddol, ond dyna'r peth iawn i'w wneud ac rydym yn gweithio gyda hwy.
Mae Alun Davies hefyd yn iawn nad yw'r gwasanaethau ar gyfer ei etholwyr ar gael weithiau, ac yn sicr nid ydynt yn ddigon da i roi dewis amgen realistig i bobl. Rwyf newydd gael gwared ar fy ail gar, sy'n brofiad newydd i mi, ac rwy'n ceisio teithio o gwmpas ar y tren ac ar feic trydan. A gallaf ddweud wrthych ei fod yn anodd. Mae'n rhwystredig, mae'n aml yn anghyfleus, ac mae arnaf ofn mai dyna yw'r realiti—nid ar gyfer pob taith; mae'n wych ar gyfer rhai teithiau. Ond mae yna adegau, gyda thaith heb ei chynllunio, neu ar adegau pan nad yw trenau'n dod oherwydd prinder staff, oherwydd y tywydd, oherwydd pob math o resymau dilys, lle mae'n rhwystredig iawn i deithiwr. Ac oni bai ein bod yn newid y realiti hwnnw, ni fyddwn byth yn cyrraedd ein targed i newid dulliau teithio ac ni fyddwn byth yn cyrraedd ein targed newid hinsawdd. Rwy'n gweld bod Alun Davies eisiau ymyrryd, ac rwy'n hapus iddo wneud hynny.
Rwyf bob amser yn ddiolchgar am onestrwydd y Gweinidog. Mae'n braf ei glywed, ac rydym i gyd yn ei werthfawrogi. Gadewch imi ddweud un peth, ac rwy'n edmygu eich dyfalbarhad gyda beic trydan. Pe baech yn byw yn Nhredegar y bore yma, ni fyddech wedi ei fwynhau. Ond ynglŷn â'r broblem yng Nghaerdydd, oherwydd mae'n fater pwysig, mae'n hynod annheg y byddai'n rhaid i fy etholwyr i ac etholwyr o lefydd eraill yn y Cymoedd, y mae Caerdydd yn dibynnu arnynt mewn manwerthu a chyflogaeth broffesiynol a phopeth, dalu tâl atal tagfeydd sy'n talu am welliannau yng Nghaerdydd ac nid gwelliannau yn y Cymoedd ac mewn mannau eraill. Mae hynny'n hollol annheg. Ac i bobl fel fi, ni fyddwn byth yn gallu cael fy mherswadio i gefnogi hynny. Felly, mae angen inni ddod o hyd i rywbeth sy'n deg ac yn gyfartal i bawb sy'n defnyddio'r system drafnidiaeth hon.
Wel, fe wnaeth Alun Davies fy herio i basio prawf Blaenau Gwent yn gynharach, a gallaf ddweud wrtho fod yna brawf Alun Davies hefyd, sy'n cael ei gymhwyso i'r tâl tagfeydd, oherwydd mae Julie James a minnau wedi bod yn cael sgyrsiau gweithredol gyda Chaerdydd am gynllun y tâl tagfeydd, ac mae'r pwyntiau y mae'n eu gwneud yn gwbl deg ac mae angen eu cynnwys yn nghynllun y system. Ond byddwn yn dweud y byddai hyd yn oed ei etholwyr, sy'n dod i mewn i Gaerdydd, yn elwa o lai o dagfeydd yng Nghaerdydd. Felly, mae o fudd i bawb, nid yn unig—. Rwy'n credu bod y rhaniad hwn braidd yn ffug. Byddwn yn casáu creu rhyfel diwylliant rhwng Caerdydd a'r Cymoedd. Ond mae hanfod ei bwynt yn un teg, ac mae'n cael ei gynnwys yng nghynllun y system. Gobeithio bod hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd iddo.
Gwnaed nifer o bwyntiau eraill, Ddirprwy Lywydd. Craidd y mater, fel gwlad, ar draws y DU, yw nad ydym wedi bod yn buddsoddi digon mewn trafnidiaeth gyhoeddus dros gyfnod sylweddol i ni allu cael y math o wasanaethau a gawn pan fyddwn yn ymweld â'r cyfandir. A dyna yw craidd y broblem. A nawr rydym yn wynebu'r anhawster o geisio ailddosbarthu cyfran rhy fach o wariant cyhoeddus i ateb gofynion y gwasanaeth llawer gwell sydd ei angen arnom er mwyn mynd i'r afael â thlodi trafnidiaeth, fel y soniodd Llyr Huws Gruffydd a Delyth Jewell, sy'n gwbl gywir yn fy marn i, ac mae'r diwygiadau bysiau'n ymwneud llawn cymaint â chyfiawnder cymdeithasol ag y mae'n ymwneud â chyfiawnder hinsawdd. Ond heb y cyllid, nid ydym yn gallu gwneud yr holl bethau rydym eisiau eu gwneud.
Bydd strwythur newydd y cyd-bwyllgorau corfforedig yn helpu, bydd cydweithio rhanbarthol yn helpu, ond yn y pen draw, mae angen inni gael yr arian yno i ariannu'r gwasanaethau, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb ohonom ei wynebu gyda'n gilydd. Rydym yn cyflwyno'r newidiadau i'r gwifrau a fydd yn gwella'r gwasanaeth rheilffyrdd, yn gwella'r gwasanaeth bysiau, yn gwella'r gwasanaeth teithio llesol, i gynnig datgymhellion yn ogystal â symud cyllid oddi wrth gynlluniau adeiladu ffyrdd newydd, ac rydym yn gobeithio cyflwyno canlyniadau'r adolygiad ffyrdd yn fuan. Felly, rydym yn gwneud llawer, ond nid ydym yn gwneud cymaint ag y byddem i gyd eisiau inni ei wneud oherwydd yn syml iawn, nid oes gennym arian i'w wneud. Diolch.
Galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl.
Wel, diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd.
A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan mewn dadl ysgogol a diddorol iawn? A dweud y gwir, roedd yn un o'r dadleuon gorau imi gael y fraint o gymryd rhan ynddi ers tro. Yn amlwg, mae amser yn golygu na allaf ailadrodd popeth a ddywedodd pawb, byddwch yn falch o glywed, ond byddaf yn canolbwyntio ar ychydig o bwyntiau perthnasol.
Daeth y Gweinidog yn ôl at yr adolygiad ffyrdd ar y diwedd, sef un o'r pethau cyntaf a grybwyllwyd yn y ddadl hon. Yn amlwg, rydym yn gobeithio y bydd arbedion o unrhyw brosiectau nad ydynt yn mynd rhagddynt yn cael eu defnyddio ar gyfer teithio cynaliadwy, ac mae'n rhywbeth y mae'r pwyllgor yn arbennig o awyddus i'w weld, a byddai hynny o bosibl yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau'n ymwneud â chyllid, er na fydd yn ddigon i ateb yr her y mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu.
Cafwyd cyfeiriadau at wasanaethau gwledig hefyd: rhaid inni beidio ag anghofio y byddai newid dulliau teithio mewn cymunedau gwledig yn wahanol iawn i newid dulliau teithio mewn cymunedau trefol, ac efallai fod angen adlewyrchu hynny'n well mewn targedau mwy manwl, er enghraifft, mewn perthynas â rhai o'r materion hyn, ond mae hynny'n sicr yn rhywbeth rydym i gyd yn ymwybodol iawn ohono.
Ydy, mae Cymru'n cael ei gwasanaethu'n wael gan ecosystem y rheilffyrdd, ac mae'r Athro Mark Barry wedi gwneud cyfraniadau gwerthfawr iawn i'n gwaith ar annhegwch HS2. Gan droi'n ôl at arian eto, ai swm sy'n cyfateb i £2 filiwn yr wythnos am yr 20 mlynedd nesaf rydym yn ei gyfrannu rwy'n meddwl? Felly, yn amlwg, mae llawer i'w ddweud am hynny.
Hoffwn gywiro un peth am y gost o yrru car: fe wneuthum wirio'r adroddiad tra oeddech chi'n siarad. Rwy'n credu i chi ddweud £250; mae'n agos at 250 y cant o gynnydd. Felly, mae'n gynnydd o 227 y cant erbyn 2050. Heb unrhyw ymyriadau pellach, a buddsoddiad mewn bysiau a choetsys, mae'n gynnydd o 227 y cant erbyn 2050 er mwyn llywio graddfa'r newid sydd ei angen i ddulliau teithio i gefnogi sero net. Ond roedd y dull abwyd a ffon i'w weld yn glir iawn mewn llawer o'r dystiolaeth a gawsom; mae angen ichi gael abwyd, ond mae angen ichi gael ffon hefyd er mwyn gwneud i'r newid hwnnw ddigwydd.
Cafwyd nifer o gyfeiriadau at yr anghyfiawnder cymdeithasol mewn perthynas â mynediad at wasanaethau, sy'n amlwg yn adlewyrchu ystadegau gwahanol ar fynediad at geir a dibyniaeth pobl anabl yn arbennig: mae 25 y cant yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. 'Mae angen gwneud mwy' oedd un alwad. Wel, rydym i gyd wedi dweud hynny, onid ydym, mewn ffyrdd gwahanol? Mae hyd yn oed y Gweinidog yn cydnabod hynny. Fel Cadeirydd, byddwn yn dweud bod llawer yn digwydd. Mae llawer yn cael ei gynllunio, mae llawer o waith ar y gweill. Rwy'n credu bod y Gweinidog ei hun wedi dweud mai'r her nawr yw ei wneud yn weithredol—mae llawer o hyn yn ymwneud â dechrau cyflawni mewn gwirionedd.
Materion sy'n ymwneud â metro de Cymru; pryd fydd hwnnw'n cael ei gwblhau? Wel, meddyliwch am fetro gogledd Cymru, sydd ar drywydd gwahanol iawn hefyd, byddwn yn dychmygu, ond mae ar y rhestr o bethau i'w gwneud, sy'n mynd yn hwy bob dydd.
Mae tocynnau wedi'u sybsideiddio, wrth gwrs, yn bwysig iawn, ond maent yn ddiwerth os nad oes gwasanaeth bws i'w gael yn y lle cyntaf. Felly, mae'r rheini'n amlwg yn mynd law yn llaw. Mae recriwtio gyrwyr yn rhywbeth y gwnaeth y pwyllgor gyffwrdd ag ef ac mae nifer o'r Aelodau wedi cyffwrdd ag ef hefyd, rwy'n credu. A straeon am fysiau ddim yn dod; cafodd y pwynt ei wneud gan nifer o bobl mewn ffyrdd gwahanol. Mae'n tanseilio hyder pobl wrth ddefnyddio bysiau. Os na allwch chi ddibynnu arno, nid ydych yn mynd i'w ddefnyddio yn y dyfodol. Ac yn benodol, annog myfyrwyr a phobl ifanc i ddefnyddio bysiau; dyna pryd y gallwch sefydlu arfer am oes, ac os ydych yn gweld y bobl hynny'n cael eu gwthio i ffwrdd mewn gwahanol ffyrdd, yna'n amlwg nid yw hynny'n mynd i ddigwydd.
Felly, fe wnaeth y Llywodraeth achub y sector bysiau rhag mynd i'r wal yn ystod COVID, a rhaid inni beidio ag anghofio hynny. Mae yna fethiannau enfawr yn deillio o'r ffaith ei fod yn wasanaeth preifat; mae'r fframwaith cyfreithiol yn gweithio yn erbyn y math o wasanaeth rydym eisiau ei weld. Mae'r rhain—fel y dywedodd y Gweinidog—yn broblemau sylfaenol y mae angen mynd i'r afael â hwy. Ond fel y clywsom, yn y Siambr hon heddiw, mae gennym achos cyffredin dros fynd i'r afael â'r heriau hynny, ac mae'r pwyllgor, wrth gwrs, yn barod i chwarae ein rhan yn y broses honno hefyd, i sicrhau ein bod yn cyrraedd lle rydym am fod gyda gwasanaethau bysiau a threnau yng Nghymru. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly derbynir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.