1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 1:38 pm ar 28 Chwefror 2018.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.
Diolch yn fawr. Rydw i wedi cael cyfle i ddarllen eich blog chi, lle rydych chi'n trafod diwygio llywodraeth leol, ac roeddwn i'n falch iawn, yn y lle cyntaf, eich bod chi'n crybwyll mai ymateb ydyw, o ryw fath beth bynnag, i gwestiwn y gwnes ei ofyn yn fan hyn i chi ychydig wythnosau yn ôl ynglŷn â'r math o steil roeddech chi am ei fabwysiadu pan yn delio efo llywodraeth leol. Ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi eich ysgogi chi i feddwl, o leiaf, am hynny i gyd.
Mae'r ddadl am ddiwygio llywodraeth leol yn un sydd wedi bod yn danllyd, ac yn un sydd wedi bod yn mynd ymlaen ers blynyddoedd, ond heb unrhyw ddatrysiad. O ddarllen eich blog chi, mae'n swnio fel eich bod chi'n barod i roi unrhyw gynnydd gafodd ei wneud gan eich rhagflaenydd chi, Mark Drakeford, o'r neilltu, ac yn meddwl dechrau eto unwaith eto. Felly, a gaf i ofyn: yn y pedair blynedd diwethaf, wrth i'ch Llywodraeth chi geisio diwygio llywodraeth leol, beth yn union sydd wedi cael ei gyflawni?
Llywydd, rwy'n falch iawn bod fy mlog wedi plesio o leiaf un Aelod fan hyn, ac rwy'n falch iawn ei bod hi wedi'i ddarllen e o leiaf. A gaf i ddweud hyn: beth roeddwn i'n trio'i ddweud yr wythnos diwethaf pan oeddwn i'n ysgrifennu hynny, oedd trio gosod, ac ailosod, perthynas fwy aeddfed rhwng rhannau gwahanol o'r ffordd rydym ni'n llywodraethu Cymru, ac nid wyf i'n credu bod hynny wedi bod mewn lle drwy'r amser yn ystod y degawd diwethaf.
Nid yw'n wir fy mod i wedi gwneud unrhyw benderfyniad o'r fath y mae'r Aelod yn ei ddisgrifio. Mi wnaeth llywodraeth leol eu hunain dweud nad oeddent eisiau cymryd a symud ymlaen gyda'r fath awgrymiadau a chynigion roedd fy rhagflaenydd wedi eu gwneud ynglŷn â gweithio'n rhanbarthol. Nid fy mhenderfyniad i oedd hwnnw, ond penderfyniad llywodraeth leol oedd hwnnw ac roedd aelodau o lywodraeth leol wedi trafod hynny yn eu seminar yng Nghaerdydd ym mis Tachwedd. Felly, wrth ysgrifennu hynny, roeddwn i'n ymateb i beth roedd llywodraeth leol yn ei ddweud ac nid yn dweud beth roeddwn i'n ei ddweud.
Wel, mae'n swnio o hynny mai'r unig beth sydd wedi cael ei gyflawni ydy gwastraffu miloedd o bunnoedd o bres trethdalwyr ac amser swyddogion Llywodraeth Cymru yn cynnal ymgynghoriad ar ôl ymgynghoriad a chynigion ar ddeddfu a fydd rŵan yn cael eu hanwybyddu. O leiaf efo'r Papur Gwyn diweddaraf, mi oedd yna ffordd ymlaen nad oedd yn gorfodi awdurdodau i uno. A gaf i ofyn i ddechrau pa drafodaethau a gafwyd yn y Cabinet cyn i chi benderfynu rhoi'r gorau i ddilyn gwaith eich rhagflaenydd chi? Wedyn, a fedrwch chi egluro i ni heddiw beth ydy'r camau gweithredol nesaf, felly? A fyddwch chi rŵan yn rhoi'r gorau'n llwyr i'r Papur Gwyn a chanlyniadau'r ymgynghoriad a ddaeth yn sgil hwnnw? Beth fydd yr amserlen ar gyfer y tro pedol yma? Ac a fyddwch chi'n creu map newydd ar gyfer uno cynghorau? Ai dyna ydy'r bwriad? Ac os mai hynny ydy'r bwriad, sut ydych chi'n mynd i lwyddo lle methodd Leighton Andrews?
Mi fuaswn i'n awgrymu bod yr Aelod yn ailddarllen y blog, efallai, a darllen tu hwnt i'r paragraffau cyntaf, am beth roeddwn yn trio ei ddweud yn fanna. Beth roeddwn i'n trio'i ddweud oedd bod eisiau perthynas tipyn bach yn fwy aeddfed rhwng gwahanol lefelau o lywodraeth a hefyd trio symud i ffwrdd o'r math o drafodaeth yr ydym ni wedi ei chael yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Roeddwn i'n gweld eich bod yn darllen eich ail gwestiwn. Mi fuasai wedi bod yn rhwyddach petai chi wedi gwrando ar yr ateb i'r cwestiwn cyntaf, achos mi ddywedais i yn glir fanna nad fi oedd wedi rhoi o'r neilltu gynigion fy rhagflaenydd. Llywodraeth leol oedd wedi gwneud hynny ac felly, oherwydd hynny, mae'n rhaid i fi ailystyried safbwynt llywodraeth leol ac rydw i'n gwneud hynny ar hyn o bryd. Pan fyddaf i wedi cael amser i ystyried y ffordd ymlaen, byddaf yn dod â datganiad i'r Cynulliad.
Rydw i'n derbyn yn llwyr mai llywodraeth leol sydd wedi dweud wrthych chi, ac rydw i'n dyfynnu o'r blog:
roedd y polisi a etifeddwyd o weithio rhanbarthol gorfodol yn fethiant o’r cychwyn.
Mae hynny'n awgrymu i fi nad oedd e'n runner iddyn nhw. Rydych chi'n cytuno efo nhw, ac felly rydych chi'n mynd i roi'r gorau i'r polisi yna. Dyna oedd y polisi yn y Papur Gwyn. Felly, nid wyf i'n deall beth rydych chi'n drio ei ddweud yn union. Mi fuasai cael eglurder yn ddefnyddiol iawn. Felly, a fedrwch chi gadarnhau heddiw yma a fydd eich gweledigaeth chi, ar sail beth rydych chi wedi ei glywed gan lywodraeth leol, yn cynnwys cydweithio rhanbarthol mandadol fel oedd yn y cynigion gwreiddiol?
Wel, yn amlwg, mae llywodraeth leol wedi dweud nad ydynt eisiau symud i gyfeiriad felly ac rydw i'n derbyn hynny. Nid wyf i'n mynd i drio gorfodi llywodraeth leol i symud i gyfeiriad felly os nad hynny yw beth maen nhw'n moyn gwneud, ac maen nhw wedi bod yn glir nad ydynt eisiau hynny. So, mae'n rhaid inni wedyn ystyried ble rydym ni. Wrth alw am drafodaeth fwy aeddfed, beth rydw i wedi bod yn trio gwneud oedd trafod gyda llywodraeth leol pa fath o bwerau sydd eu hangen ar lefel fwy lleol ac rydym ni wedi cael ymateb i hynny. Wedyn, rydym ni'n ystyried sut rydym ni'n gweithredu polisïau felly. Mae'n bwysig eich bod yn darllen ac yn gweld nid jest y blog i gyd, ond hefyd beth a ddywedwyd gan lywodraeth leol ym mis Tachwedd. Roeddent wedi bod yn glir nad oedd y system—y strwythur—bresennol yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Roeddent yn glir ar hynny. Roeddent hefyd yn glir nad oeddent eisiau symud yn y cyfeiriad roedd Llywodraeth Cymru eisiau iddyn nhw symud iddo fe. So, roedden nhw'n glir ar ddau beth ym mis Tachwedd.
So, mae'n rhaid inni nawr ystyried hynny, a beth liciwn ei wneud yw cael amser i ystyried ac i edrych ar ba opsiynau sydd gyda ni cyn imi symud ymlaen. Roeddwn i'n trio, yn fy mlog, ymestyn y fath o drafodaeth rydym ni wedi'i chael. Efallai'r prynhawn yma nad ydw i wedi llwyddo—nid ydw i'n gwybod, ond liciwn i gael trafodaeth tipyn bach yn fwy eang amboutu lle Llywodraeth Cymru, ein llywodraethau ni ac wedyn pa fath o bwerau sy'n angenrheidiol i lywodraeth leol eu cael ac wedyn symud ymlaen i edrych ar strwythur a fydd yn ein galluogi ni i gynnal gwasanaethau o safon a hefyd sicrhau atebolrwydd democrataidd ar lefel leol. Dyna beth rydw i eisiau ei wneud, a dyna beth fyddaf i'n ei wneud. Unwaith bydd y broses yma wedi dod i ben, byddaf yn dod i fan hyn i wneud datganiad clir ar y cyfeiriad rŷm ni eisiau symud ymlaen ynddo.
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. Er bod ymateb Llywodraeth y DU ym mis Gorffennaf 2017 i adroddiad y pwyllgor dethol ar amddiffyn, a oedd yn ymateb i adroddiad blynyddol cyfamod y lluoedd arfog, yn cynnwys sylwadau ar gynnydd—a defnyddiwyd y gair 'cynnydd'—yng Nghymru, nid oes adolygiad annibynnol wedi bod eto ar gynnydd a darpariaeth ledled Cymru ers sefydlu cyfamod y lluoedd arfog. Chi sy'n arwain polisi Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r lluoedd arfog a chyn-filwyr. Pa gynigion sydd gennych felly i gynnal neu gomisiynu adolygiad annibynnol o gynnydd a/neu roi sylw i argymhellion sy'n seiliedig ar dystiolaeth a wnaed gan ymchwiliad pwyllgor lluoedd arfog y Cynulliad i weithrediad cyfamod y lluoedd arfog?
Credaf fod yr Aelod yng nghyfarfod y grŵp hollbleidiol yn gynharach y mis hwn pan oeddwn yn bresennol i ateb cwestiynau ar y materion hynny. A gaf fi ddweud fy mod yn gyfforddus iawn ar hyn o bryd gyda lefel y ddarpariaeth o ran yr hyn y gallwn ei wneud ar gyflawni cyfamod y lluoedd arfog a'n gwasanaethau ar gyfer cyn-filwyr? Credaf y bydd angen inni fynd ychydig ymhellach yn y dyfodol. Cafwyd rhai argymhellion da iawn gan y grŵp hollbleidiol. Mewn atebion blaenorol, rwyf wedi ymrwymo i ystyried pob un o'r argymhellion hynny, a maes o law, pan fyddaf wedi cael cyfle i wneud hynny, byddaf yn rhoi ymateb llawn ar y holl faterion hynny. Ond cytunaf yn llwyr â llefarydd y Ceidwadwyr fod y rhain yn faterion difrifol sy'n galw am ymagwedd ddifrifol.
Diolch. Er y £100,000, rwy'n credu, o gyllid parhad ychwanegol a ddarparwyd ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr, nododd yr adroddiad, neu argymhellodd yr adroddiad, y dylid adolygu'r cyllid ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr a sefydlu targedau ar gyfer mynediad at y gwasanaeth, a chyhoeddi perfformiad yn erbyn y targedau yn rheolaidd. Pan drafodwyd hyn gennym ym mis Tachwedd, roedd y rhestrau aros ar gyfer GIG Cymru i gyn-filwyr yn naw mis yn ardal Abertawe ac yn bum neu chwe mis, ar gyfartaledd, mewn mannau eraill. Er eu bod wedi sicrhau tair blynedd o gyllid ychwanegol gan Help for Heroes i gyflogi tri therapydd amser llawn er mwyn lleihau'r rhestrau aros, roeddent yn disgwyl y byddai'r amseroedd aros yn codi eto heb gymorth ychwanegol. Ac maent hefyd wedi darparu ffigurau i mi sy'n dangos mai 45 y cant yn unig o'r cyn-filwyr y maent yn gweithio â hwy neu a atgyfeiriwyd atynt sydd mewn gwaith. Sut yn union rydych yn ymgysylltu â GIG Cymru i gyn-filwyr er mwyn sicrhau eich bod chi a'ch cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn cael yr holl wybodaeth o ran (a) lefel y galw a (b) eu hargymhellion er mwyn mynd i'r afael â hynny?
Rwy'n gobeithio ein bod yn cael yr holl wybodaeth am y materion hynny, ond a gaf fi ddweud mai'r prif ddull o ymgysylltu, os mynnwch, yw drwy'r grŵp arbenigol sydd gennym ar y materion hyn? Cadeiriais fy nghyfarfod cyntaf o'r grŵp hwnnw yn gynharach y mis hwn fel mae'n digwydd, ac yn fy marn i, roedd yr awyrgylch yno a'r sgwrs a gawsom yno'n cyfleu dyhead i symud yn gyflym iawn ar y cyd gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn gyflawni pob uchelgais a'r ymrwymiadau a roddwyd gennym i gyflawni ar ran cyn-filwyr ac eraill yng nghymuned a theulu'r lluoedd arfog yng Nghymru.
Mae nifer o elfennau gwahanol i hynny ac rydych wedi disgrifio'r heriau sy'n ein hwynebu yn y gwasanaeth iechyd. Mae heriau sylweddol yn ein hwynebu o ran addysg hefyd, yn ogystal ag o ran sefydliadau diogel a darpariaeth yng Nghymru. Credaf fod meysydd pwysig yn hynny o beth y mae angen inni barhau i fynd i'r afael â hwy. Rwy'n hyderus ar hyn o bryd fod y strwythur sydd gennym ar waith yn ein cynorthwyo i wneud hynny. Credaf fod cyfarfod y grŵp arbenigol wedi bod yn ddefnyddiol iawn o ran yr her mewn perthynas â'r holl faterion gwahanol hynny, a byddaf yn ymateb i'r grŵp hollbleidiol a'u hadroddiad wedi i mi gael cyfle i ystyried rhai o'u hawgrymiadau ymhellach.
Diolch, ac rwy'n siŵr fod y grŵp cynghori arbenigol yn pwysleisio bod y pwysau ar y gwasanaethau statudol y cyfeirioch chi atynt yn ychwanegu costau diangen—os gallem wneud pethau ychydig yn wahanol, efallai, o ran atal ac ymyrryd yn gynnar yn y maes hwn. Mae un o'r meysydd hynny yn ymwneud â thriniaeth breswyl, ac yn benodol, seibiant ar gyfer pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl cymhleth sydd wedi gwasanaethu yn y lluoedd arfog. Ddydd Llun, cyhoeddwyd datganiad ysgrifenedig gan eich cyd-Aelod, yr Ysgrifennydd iechyd, yn sgil cau cyfleusterau triniaeth breswyl ar gyfer cyn-filwyr yn Audley Court yn Newport, swydd Amwythig, sydd wedi derbyn nifer o atgyfeiriadau o Gymru dros y blynyddoedd. Dywedai'r datganiad:
'Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster preswyl i gyn-filwyr yng Nghymru' a'ch bod wedi comisiynu adroddiad annibynnol ac y
'daethpwyd i'r casgliad nad oedd modd dweud bod y galw a’r angen angenrheidiol yn bodoli i gynnal cyfleuster o’r fath' a bod gwasanaethau cymunedol yn fwy addas. Mewn gwirionedd, yn 2012, argymhellodd adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, 'Gofal Iechyd a Chymuned y Lluoedd Arfog yng Nghymru', y dylai Llywodraeth Cymru ystyried budd sefydlu math o gyfleuster preswyl yng Nghymru ar gyfer cymuned y lluoedd arfog. Roedd hyn yn dilyn cau Tŷ Gwyn yn Llandudno, a oedd yn orlawn, a Pathways, a agorwyd dros dro ger Bangor, ac a oedd yn orlawn gydag atgyfeiriadau o Gymru heb eu hariannu, yn enwedig gan y gwasanaethau heddlu. Roedd llawer o aelodau o gymuned y lluoedd arfog yng Nghymru wedi sôn am yr angen am ganolfan breswyl i gyn-filwyr fel rhywbeth y gallwch ei weld, ei gyffwrdd a'i deimlo, ond argymhellai adroddiad Kennedy, yr adroddiad y cyfeiriodd yr Ysgrifennydd ato, yn erbyn hynny, ar sail cylch gorchwyl a bennwyd gan Lywodraeth Cymru, gan ddod i'r casgliad
'nad oes tystiolaeth, na chefnogaeth gref gan y prif elusennau na chyrff eraill sy’n gweithio yn y maes, i gyfiawnhau cyfleuster preswyl sy’n cefnogi cyn-filwyr sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma, cyn belled â bod capasiti digonol yn bodoli gan ddarparwyr presennol yn y GIG a’r Trydydd Sector.'
Wel, yn amlwg, nid yw'n bodoli. Mae'r dystiolaeth yno na cheir capasiti digonol, ac mewn gwirionedd, mae capasiti'r trydydd sector, yn anffodus, wedi bod yn lleihau mewn rhai ardaloedd. Felly, sut y byddwch, neu a fyddwch, yn ailystyried casgliadau adroddiad Kennedy yng nghyd-destun amgylchiadau 2018 ac yn edrych ar y galw cyffredinol a'r gofynion er mwyn ateb y galw hwnnw ymhlith cymuned y lluoedd arfog yng Nghymru?
Mae hwn yn fater a godwyd mewn sesiwn holi flaenorol gan yr Aelod dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Ymrwymais bryd hynny i ystyried y materion a godwyd gennych y prynhawn yma. Byddwch yn gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi cyhoeddi £100,000 ychwanegol i gynyddu capasiti ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gymuned, ac mae hefyd wedi ymrwymo i ystyried a deall sut y mae'r gwasanaethau hynny'n cael eu defnyddio ac a oes angen inni gynyddu ein capasiti yn y gwasanaethau hynny. Ond rwy'n derbyn bod y pwynt a godwch yn un dilys a phwysig iawn ac mae'n fater y byddwn yn ei ystyried yn ofalus. Ac os credwn fod angen newid yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych, yna yn sicr, mae honno'n sgwrs y byddaf yn ei chael gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd, a byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i wneud cyhoeddiadau ynglŷn â hynny.
Llefarydd UKIP, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Roeddwn yn awyddus i ofyn ychydig gwestiynau, os caf, ynghylch eich datganiad diweddar ar ddiwygio trefniadau etholiadol llywodraeth leol yng Nghymru. Un o'ch diwygiadau arfaethedig yw ymestyn y bleidlais i bobl 16 ac 17 oed. Un o'r dadleuon a ddefnyddiwyd yn ddiweddar i gefnogi'r newid hwnnw yw egwyddor dim trethiant heb gynrychiolaeth, ond nodaf nad yw pobl 16 a 17 oed i fod i dalu'r dreth gyngor mewn gwirionedd, ac mae ffigurau CThEM ar gyfer 2014-15 yn awgrymu mai oddeutu 15 y cant yn unig o bobl 16 a 17 oed sy'n talu unrhyw dreth incwm. Felly, credaf fod ymestyn y bleidlais yn nod canmoladwy, ond tybed: a oes dadl efallai y gallem ymestyn y bleidlais i rai pobl 16 a 17 oed ond efallai y dylid ei hymestyn i'r rheini sy'n talu treth mewn gwirionedd?
Nid wyf yn hollol siŵr beth yw'r pwynt y mae'r Aelod yn ceisio'i wneud, ond gallaf ddweud wrtho fod y penderfyniad i ymestyn y bleidlais i bobl 16 a 17 oed mewn etholiadau lleol—ac rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gwneud yr un peth maes o law—yn ymwneud ag ymestyn a dyfnhau'r etholfraint er mwyn galluogi pobl yn ein cymunedau drwyddi draw i chwarae rhan weithredol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â dyfodol y cymunedau hynny. Yn sicr, barn y Llywodraeth hon, a'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y Siambr hon, rwy'n credu, yw y dylai pobl 16 a 17 oed yn bendant allu cymryd rhan mewn dadleuon a thrafodaethau gwleidyddol, ac y dylent allu pleidleisio a chymryd rhan yn y penderfyniadau a fydd yn effeithio ar eu bywydau a bywydau eu ffrindiau, cymdogion a theuluoedd. Credaf ein bod ar ganol proses o adnewyddu a newid ar hyn o bryd. Edrychaf ymlaen at ymestyn yr etholfraint er mwyn ein galluogi i gynnal etholiadau lleol ar yr etholfraint newydd, a fydd hefyd, wrth gwrs, yn ceisio sicrhau y bydd yr holl wladolion tramor sy'n byw yn ein cymunedau hefyd yn cael pleidleisio.
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r cynigion hynny hefyd. Os caf gyfyngu'r cwestiynau hyn i fater y bobl 16 a 17 oed am y tro, pwynt arall cysylltiedig, efallai, yw ein bod yn y Cynulliad wedi cyflwyno deddfwriaeth yn ddiweddar a oedd i bob pwrpas yn gwahardd pobl 16 ac 17 oed rhag defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau. Roeddem ni yn UKIP yn cefnogi'r deddfau Llywodraeth hynny. Os ydych bellach yn dweud y dylai fod gan bobl 16 a 17 oed hawl awtomatig i bleidleisio, fel eu bod yn gallu arfer crebwyll gwleidyddol, ond ar yr un pryd, nad ydynt yn gallu arfer crebwyll mewn perthynas â materion fel defnyddio gwelyau haul neu dyllu eu tafodau, onid yw hynny'n creu anghysondeb? A allwch weld sut y gallai'r etholwyr feddwl bod agweddau Llywodraeth Cymru yn anghyson, gan ei bod yn ymddangos bod y ddwy agwedd yn groes i'w gilydd?
Credaf fod y rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol y gallai cyrraedd llawn oed ar gyfer gwahanol fathau o weithgarwch cymdeithasol, beth bynnag y bo, ddigwydd ar oedran ychydig yn wahanol ar gyfer gwahanol faterion, ac rydym yn ymwybodol o hynny. Efallai y bydd unigolyn 16 oed yn gallu pleidleisio ond ni fydd yn gallu gyrru. Rydym yn ymwybodol o'r materion hyn.
Yr hyn rwy'n gobeithio ei wneud yw gwneud rhywbeth ychydig yn wahanol, sef buddsoddi mewn cymunedau mwy cydlynus, lle mae pobl yn teimlo eu bod wedi eu hetholfreinio a'u bod yn gallu chwarae rhan lawn drwy sicrhau bod pobl nid yn unig yn cael yr hawl i bleidleisio a'r gallu i fwrw'r bleidlais honno, ond hefyd, wrth gwrs, eu bod yn cael y wybodaeth a'r gallu i allu cymryd rhan mewn sgyrsiau gwleidyddol a dadleuon gwleidyddol ynghylch dyfodol y cymunedau hynny. Rwy'n gobeithio y gallwn fynd ymhellach a sicrhau wedyn ein bod yn ymestyn y gallu i bleidleisio mewn pob math o ffyrdd gwahanol, o bleidleisio electronig i bleidleisio ar wahanol ddyddiau, a sicrhau bod pobl, waeth pwy ydynt yn ein cymunedau yng Nghymru, yn gallu chwarae rhan lawn yn y broses o benderfynu ar ddyfodol y cymunedau hynny.
Ie, fe nodoch y pwynt pwysig fod angen y wybodaeth ar bobl. Os ydych am roi'r cyfrifoldeb o bleidleisio iddynt, mae angen y wybodaeth arnynt, a chredaf fod hwnnw'n bwynt hollbwysig. Nawr, fe ddywedoch chi yn eich datganiad:
'Mewn ysgolion, bydd y thema dinasyddiaeth weithgar mewn addysg bersonol a chymdeithasol yn rhoi dealltwriaeth i bobl ifanc o wleidyddiaeth a'r hawl i bleidleisio.'
Dyna ddiwedd eich dyfyniad. Nawr, yn ddiweddar, mae ymgyrchwyr ifanc—sy'n cefnogi'r hyn rydych yn ei wneud ac sy'n awyddus i'r bleidlais gael ei hymestyn i bobl 16 a 17 oed—wedi dweud bod llawer ohonynt yn teimlo nad yw'r hyn sydd ganddynt mewn ysgolion ar hyn o bryd o ran y thema dinasyddiaeth weithgar, y cyfeirioch chi ati, yn ddigonol mewn gwirionedd ar gyfer rhoi'r wybodaeth wleidyddol honno iddynt. Felly, tybed a oeddech yn gobeithio newid yr elfen honno o'r cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru, gan weithio gyda'r Gweinidog addysg, neu a yw eich datganiad yn nodi eich bod yn credu bod y system addysg yn darparu'r wybodaeth honno i bobl 16 a 17 oed ar hyn o bryd?
Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod yn adnewyddu'r cwricwlwm yn ei gyfanrwydd ar hyn o bryd. A gaf fi ddweud hyn? Cofiaf i'r Aelod roi cyfweliad i'r cyfryngau yn ystod yr ymgyrch etholiadol lle y dywedodd nad oedd byth yn canfasio, byth yn curo ar ddrysau pobl, gan ei fod yn ystyried hynny'n ymyrraeth ofnadwy ar eu bywydau. Hoffwn awgrymu bod yr Aelod yn curo ar rai drysau ac yn siarad â phobl y mae'n gobeithio eu cynrychioli. Pe bai'n gwneud hynny, byddai'n gweld rhai pobl 16 a 17 oed brwdfrydig iawn—pobl ifanc sy'n awyddus i chwarae rhan yn y broses o lunio dyfodol eu cymunedau, pobl ifanc â'r wybodaeth a'r weledigaeth ar gyfer yr hyn y maent yn dymuno'i weld yn y dyfodol. Felly, nid wyf o'r un farn ag ef, ond rwy'n derbyn bod angen inni sicrhau, drwy adnewyddu'r cwricwlwm, fod y cwricwlwm yn cynnwys y materion hyn yn llawn. Ond efallai bod gennyf lawer mwy o ffydd mewn pobl 16 ac 17 oed na'r Aelod o UKIP.