– Senedd Cymru am 12:45 pm ar 15 Ionawr 2019.
Prynhawn da. Ddwy flynedd a hanner yn unig wedi ei ethol yn Aelod Cynulliad dros y de-ddwyrain, ac ond yn 34 oed, mae'n orchwyl trist iawn imi orfod datgan yn y Senedd inni golli ein cyd-Aelod a'n ffrind, Steffan Lewis, dros y penwythnos. Mae ei deulu annwyl a'i ffrindiau yn ymuno â ni heddiw yn yr oriel, wrth inni dalu teyrnged iddo. A gawn ni godi gyda'n gilydd yma yn y Siambr a thrwy ein hystâd yn gyfan i gofio Steffan Lewis?
I agor y teyrngedau y prynhawn yma, Adam Price, arweinydd Plaid Cymru.
Diolch, Llywydd. Cenedl fach ydy Cymru, ond bob rhyw hyn, rŷm ni'n magu cawr. Des i nabod Steffan Lewis gyntaf, mae'n rhaid, dros 20 mlynedd yn ôl, yn sgil isetholiad Islwyn. Clywon ni sôn am y bachgen anhygoel yma o gymoedd Gwent a oedd nid yn unig yn aelod o Blaid Cymru, ond o'r SNP a Mebyon Kernow, ac wedi llwyddo i gael Undeb Rygbi Cymru i nodi hyn yn y rhaglen ar gyfer gêm Cymru-Lloegr pan oedd Steffan yn fascot i dîm Cymru. Doedd Steffan byth yn gwneud unrhyw beth ar ei hanner.
O fewn cwpl o flynyddoedd, roedd Steffan yn annerch cynhadledd y Blaid am y tro cyntaf, yn 14 oed—ddwy flynedd yn iau na William Hague ac, fel roedd e'n hoff o bwyntio mas, yn llawer mwy effeithiol. Hyd yn oed bryd hynny, nid Steffan bach mohono; yr oedd hwn am fod yn fawr. Mi oedd yna ddyfnder rhyfeddol yno o'r cychwyn. Ei fam, Gail, wrth y bwrdd smwddio, ac yntau'n naw a'r cwestiynau'n tasgu fel dŵr o ffynnon. Pryd a ble a pham—ac yn amlach na dim, y 'pam', fel rhyw fath o Vincent Kane o dan brentisiaeth. Gwelwyd y potensial a dyfrwyd y gwreiddiau, â Gail yn uwcholeuo erthyglau'r Western Mail ac yn prynu llyfrau hanes Cymru. Ond nid ysgrifennu straeon na llyfrau hanes oedd tynged hwn, ond ei greu.
Roedd Steffan o'i gorun i'w sawdl yn Gymro tanbaid o'r iawn ryw. Ond roedd hefyd yn ŵr o Went, a gwelodd yr allwedd ar gyfer deall problemau a phosibiliadau'r genedl gyfan yn llwyddiannau a thrasiedïau'r sir arbennig honno. Yng Ngwent y gwelwyd datblygiad cyntaf cenedlaetholdeb Cymreig ar ffurf Cymru Fydd yn cael ei ddarostwng mewn cyfarfod stormus yng Nghasnewydd ym 1896. Ond fe fagodd y sir, yn Steffan ac yn Phil Williams o'i flaen ef, ddau o'r meddyliau mwyaf doeth a chreadigol yn ystod 100 mlynedd y mudiad cenedlaethol cyfoes. Os mai ein tasg ni oedd llunio Cymru newydd, yna yng Ngwent y dechreuodd hynny—y labordy cymdeithasol a roddodd feddygaeth sosialaidd i'r byd. Roedd ei sir ef nid yn unig yn borth i Gymru ond yn allwedd i'w dyfodol hi.
Roedd gan Steffan obsesiwn gyda hanes, fel y sylweddolodd Nia ei chwaer yn fuan iawn—roedd gwyliau'r haf iddyn nhw wrth dyfu i fyny yn daith drwy Gymru benbaladr yn canfod cestyll, brwydrau a mannau geni arwyr ac enwogion. Ond er bod Steffan yn awyddus i ni ddysgu, nid oedd yn dymuno inni gael ein caethiwo gan y gorffennol. Ceisiodd yn ofer berswadio plaid a oedd, hyd nes yn ddiweddar, wedi cadw geiriau Lewis Valentine ar dôn Finlandia gan Sibelius yn anthem swyddogol iddi ei hun, i fabwysiadu cân Fleetwood Mac 'Don't stop thinking about tomorrow', yn ei lle, a ddefnyddiwyd yn gofiadwy iawn, wrth gwrs, gan Bill Clinton yn ei ymgyrch arlywyddol ym 1992. I Steffan, drych ein gorffennol yn aml fyddai'n cynnig gweledigaeth ar gyfer ein dyfodol. Yr araith a draddododd i'n cynhadledd ar ôl cael ei ethol yn ymgeisydd ar gyfer etholiad 2016 sy'n crynhoi hyn orau, ac fe hoffwn i ddarllen ei diweddglo nawr. Dyma Steffan yn ei eiriau ef ei hun:
Rydych chi'n gwybod fy mod i fy hunan wedi fy hyfforddi'n hanesydd, a'm bod yn cael llawer iawn o bleser wrth ystyried a dysgu am ein gorffennol ond, mewn ychydig fisoedd, byddaf yn dad am y tro cyntaf. Mae hynny wedi gwneud imi feddwl llawer iawn mwy am ein dyfodol ni, yn hytrach na'r gorffennol. Beth fydd yn etifeddiaeth i'r genhedlaeth nesaf? Pa lwyddiannau y bydd y genhedlaeth honno'n edrych 'nôl arnyn nhw ac yn eu nodi nhw'n bwyntiau pendant yn hynt ein gwlad? Gyfeillion, mae hyn i gyd nawr yn ein dwylo ni.
Aeth ymlaen i sôn am yr ysbrydoliaeth fawr a gafodd yn sgil y refferendwm yn yr Alban, ond y pwynt i Steffan yw'r dewisiadau a wnaethom ni yma yng Nghymru. Dyma Steffan unwaith eto:
Ac er ein bod ni wedi cael ein hysbrydoli gan eraill i ryw raddau, byddwn yn ffynnu fel mudiad ac fel cenedl dim ond pan gerddwn ein llwybr ni ein hunain, pan fyddwn yn ysbrydoli ein gilydd, pan fyddwn yn dod at ein gilydd i benderfynu ar yn y gogledd a'r de, yn bobl leol a newydd-ddyfodiaid, gyda'n gilydd yn un Gymru tuag at y Gymru rydd.
Ni fydd Steffan, yn anffodus, yn gweld y Gymru honno y bu ef yn breuddwydio amdani. Ond i'w fab, Celyn, a'i genhedlaeth ef, fe osododd y sylfaen, ac yn awr bydd yn rhaid i ni adeiladu'r ffordd. Roedd ef yn deall, fel y cawr arall hwnnw o Gymro, Brân, mai hanfod arweinyddiaeth yw mynd â'r bobl gyda chi, er mwyn codi pontydd. Yng ngeiriau un o'i hoff feirdd, Harri Webb, pe byddem ni'r Cymry ond yn gallu cydsefyll, ni fyddai modd ein gorchfygu ni.
Daeth Steffan â'r araith honno i ben drwy ddweud nad oedd ef am fod yn wleidydd nodweddiadol a rhaffu rhestr hir o addewidion i'r etholwyr. Yn hytrach, roedd ef yn addo un peth yn unig: roedd yn mynd i'n gwneud ni'n falch ohono. Wel, fe wnaethost bawb ohonom ni'n falch, Steffan—yn falch ohonot ti, yn falch o'th adnabod di, a'th alw'n gyfaill a chydweithiwr. Fe wnaethost ti ni'n falch o fod yn Gymry drwy dy esiampl di, a bydd hynny'n parhau. Efallai na fyddi di dy hun yn cyrraedd y fan honno gyda ni, Steffan, ond fe fyddwn ni'n cyrraedd o'th herwydd di. Roedd gan Steffan yr holl gyneddfau i fod, un diwrnod, yn dad i'r genedl. Yn anffodus, ni ddaw hynny i fod, ond bu'n fab perffaith i'r genedl.
Mae'n diolch ni i gyd yn ddiderfyn i ti, Steffan, i'th fam am dy roi di i ni, ac i Shona am dy rannu di gyda ni oll.
Galwaf yn awr ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Diolch, Llywydd.
Mae'r ymdeimlad o dristwch a cholled yn ddwys yn y Cynulliad y prynhawn yma, wrth inni feddwl yn bennaf am deulu a chyfeillion Steffan, ond rydym hefyd yn meddwl am y golled i'r Cynulliad hwn a dyfodol ein cenedl. Rwy'n ymwybodol iawn nad oeddwn i, yn wahanol i Aelodau eraill—yn wahanol i Adam, sydd newydd siarad—yn adnabod Steffan o gwbl nes i mi gyfarfod ag ef yma ar ôl iddo gael ei ethol. Ac fel mae'n digwydd, Llywydd, roeddwn i'n rhannu'r un cyfrifoldebau yn Llywodraeth Cymru ar y pryd ag yr oedd ef ar ran Plaid Cymru yn y Siambr, sef siarad ar Brexit a siarad ar gyllid. O ganlyniad, ac yn llawer mwy nag a fyddai wedi digwydd yn gyffredin, cefais fy hun yn ei gwmni. Ac roedd ef, heb rithyn o amheuaeth, yn un o wleidyddion mwyaf graslon a galluog ei genhedlaeth; yn rhywun, fel y mae Adam Price newydd ei ddweud, pan fyddai'n dod i mewn trwy'r drws i drafod rhywbeth a oedd o bwys angerddol iddo ef, ei uchelgais bob amser fyddai ceisio'r fan lle gellid cael tir yn gyffredin a lle gellid cytuno â'n gilydd ar yr hyn sy'n gyfrifoldebau pwysig i ni i gyd. Dyna sut y cefais fy hun yn y diwedd yn gweithio gydag ef ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru', dogfen sydd wedi ein gwasanaethu'n dda iawn yn y ddwy flynedd diwethaf ac a fydd yn parhau, fe wn, yn faen prawf i'r math o wlad yr ydym yn dymuno ei gweld yn y cyd-destun y cawn ni ein hunain ynddo heddiw, a thu hwnt i hynny hefyd, a chawsom sgyrsiau ynghylch cyllid, a threth, a Gwent a'r pethau oedd o bwys iddo yno.
Mae'n anochel, wrth i rywbeth ofnadwy fel hyn ddigwydd, eich bod yn eich cael eich hunan yn cofio ac yn meddwl am y sgyrsiau a gawsoch chi. Roeddwn yn meddwl dros y penwythnos am achlysur pan fuom ni'n siarad gyda'n gilydd am bwysigrwydd gallu cyflwyno ar y cyd gopi o 'Ddiogelu dyfodol Cymru' i Lywodraeth y DU. Roedd yn gynnyrch ein dwy blaid, roedd y ddau ohonom wedi cymryd rhan fawr yn ei gynhyrchu ac roeddem yn dymuno mynd gyda'n gilydd a gwneud yn siŵr ein bod ni'n ei chyflwyno i Lywodraeth y DU. Ac wele, roedd uwch Ysgrifennydd Gwladol yn Llywodraeth y DU yn ymweld â Chaerdydd ac roeddem yn gallu mynd a chyflwyno'r ddogfen iddo. Cyflwynodd Steffan y ddogfen yn yr union ffordd y byddech chi'n ei disgwyl—yn eglur ac yn gryno. Fe gawsom ni ateb gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac, wrth inni adael yr ystafell, dywedodd Steffan wrthyf, 'Wel, os nad oeddwn yn genedlaetholwr cyn i mi ddod i mewn i'r ystafell hon, yn sicr rwyf yn genedlaetholwr wrth imi adael.' [Chwerthin.]
Fel y gwyddoch, roedd Steffan yn unigolyn meddylgar, sensitif ac ymroddedig. Ond roedd yn ddoniol hefyd, yn rhywun y byddech yn mwynhau bod yn ei gwmni, yn rhywun y byddech chi'n dysgu llawer ganddo, hyd yn oed yn yr eiliadau llai ffurfiol hynny. Mae'n anodd iawn meddwl, onid yw, mai chwe wythnos yn unig sydd ers iddo siarad am y tro diwethaf yn y Siambr hon. Ac mae'n galed cofio mai dim ond chwe mis yn ôl sydd ers i nifer ohonom yma yn y de ac yn y gogledd, ar draws y pleidiau yn y Siambr, ymgynnull i gerdded gyda'n gilydd ar hyd y ffrynt yn Llandudno. Roedd hi'n ddiwrnod braf iawn; yn un o'r dyddiau hirfelyn o haf hynny pan ddisgleiria'r haul ac ni allech chi ond bod yn obeithiol ynglŷn â'r dyfodol. A dyma ni, brin chwe mis wedi hynny, yn nyddiau tywyll y gaeaf. Ar ddiwrnod pan
Wyneb yr haul, ar draul galar, na welwn.
Ac, am amser go hir, Llywydd, ni wnawn ninnau godi ein pennau ychwaith.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd.
Rwyf innau hefyd yn codi gyda chalon drom i roi teyrnged i Steffan y prynhawn yma ac, ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad diffuant â Shona ei wraig a Celyn ei fab ac â'i deulu a'i gyfeillion agos. Ni all dim eich paratoi chi ar gyfer colli rhywun mor ifanc.
Er mai dim ond yn 2016 y cafodd ei ethol i'r Cynulliad, roeddwn i'n ymwybodol iawn ei fod yn disgleirio'n gynyddol fel un o sêr ei blaid, ymhell cyn ei ethol, o'r sgyrsiau a gefais gyda rhai o'm cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru. Dywedodd Steffan fod cael ei ethol i'r lle hwn yn swydd ddelfrydol yn ei olwg, ac fe lenwodd ei swydd gydag anrhydedd hyd y diwedd un; gan sicrhau bob amser fod lleisiau ei etholwyr yn cael eu clywed. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, roedd yn amlwg i bawb ei fod yn wleidydd galluog, dawnus ac ymrwymedig iawn, gyda llawer iawn i'w gyfrannu eto.
Ni chofir iddo godi ei lais erioed pan gyflwynai ei gyfraniad, gan fod y Siambr bob amser yn ymdawelu pan siaradai ef, oherwydd roedd pobl yn wirioneddol awyddus i glywed beth oedd ganddo i'w ddweud. Weithiau, efallai, nid oeddwn yn rhy eiddgar i glywed yr hyn oedd ganddo i'w ddweud, gan ei fod bob amser â rhywbeth grymus a deallus i'w ddweud, a oedd weithiau'n gwrthbrofi'n gryf y dadleuon yr oeddem yn eu cyflwyno o'r ochr hon i'r Siambr. Nid yn unig ei fod yn cyflwyno dadleuon grymus a deallus, roedd hefyd bob amser â rhywbeth newydd i'w ychwanegu at y ddadl, rhywbeth nad oedd yr un ohonom ni wedi meddwl amdano. Byddai bob amser yn ymdrin â'r ddadl o wahanol gyfeiriad. Dyna un o'i gryfderau mwyaf yn fy marn i. Er ein bod ni ar wahanol ochrau i'r sbectrwm gwleidyddol, roedd gennyf barch mawr i'w safiad egwyddorol ar faterion a oedd o bwys gwirioneddol. Cofir amdano fel gwleidydd a oedd bob amser yn cadw at ei egwyddorion. Roedd hi'n gwbl eglur i mi pa mor ymroddedig ac ymrwymedig oedd ef i'w etholwyr ac ni fyddai byth yn caniatáu i'w salwch ei rwystro rhag dod yma i gynrychioli ei etholwyr. Bydd y dewrder a ddangosodd drwy gydol ei salwch yn esiampl i ni i gyd.
Rwy'n siŵr y bydd etifeddiaeth Steffan yn parhau drwy ei deulu ac, yn wir, drwy'r Cynulliad hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd mwy fel Steffan yn ymuno â'r byd gwleidyddol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru. Roedd yn fraint ac yn anrhydedd cael adnabod Steffan, ac mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda Shona, Celyn a'i deulu ar yr adeg anodd iawn, iawn hon. Llywydd, dylai pob Senedd gael rhywun fel Steffan. Ond rydym ni'n drist iawn nawr ein bod wedi colli ein Steffan ni. Bydd colled enfawr ar ei ôl ym mhob cwr o'r Siambr hon.
Galwaf nawr at David Rowlands ar ran UKIP.
Diolch, Llywydd. Ar lwyfan etholiad ym Mlaenau Gwent y cwrddais i â Steffan am y tro cyntaf yn ystod etholiadau diwethaf y Cynulliad, ond roedd hi'n amlwg i mi ar y pryd ei fod yn unigolyn eithriadol o ddawnus. Yn ystod ei ddwy flynedd a hanner yn y Cynulliad, rwy'n credu i bawb ohonom weld ei alluoedd arbennig, a gwn y bydd pob un yn y Siambr hon yn cytuno â mi ein bod wedi colli un o'n haelodau mwyaf galluog.
Ar lefel bersonol, er ein bod wrth gwrs yn anghytuno'n wleidyddol, roedd bob amser yn gwrtais a chyfeillgar pryd bynnag y byddem ni'n croesi llwybrau yn adeiladau'r Cynulliad. Rwyf innau'n un sydd yn drist iawn oherwydd ymadawiad Steffan â'r bywyd hwn, ac mae ei deulu yn fy meddyliau ar hyn o bryd yn eu profedigaeth fawr. Ond gobeithio y byddan nhw'n cael rhywfaint o gysur yn ei gyflawniadau sylweddol iawn.
Hwn, o bosib, yw'r cyfraniad anoddaf y bu'n rhaid i mi ei wneud yn y Senedd hon erioed yn y 15 mlynedd yr wyf wedi bod yn Aelod Cynulliad. Mae pob un ohonom ni yn nheulu Plaid Cymru mewn galar eithafol o golli ein cyfaill a'n cydweithiwr, ac mae ein cydymdeimlad o waelod ein calonnau â'i deulu, y gwn eu bod ym mhoen eu hiraeth ar ôl ei golli ef. Ond mae Steffan yn golled i'n cenedl ni hefyd, i'n democratiaeth ni—mae'n golled i'n dyfodol ni.
Roedd gan Steffan un o'r ymenyddiau gwleidyddol gorau yng ngwleidyddiaeth Cymru. Roedd wedi darllen yn anhygoel o eang, ac roedd ganddo ddealltwriaeth ryngwladol, a oedd yn golygu ei fod yn gallu tynnu ar enghreifftiau bob amser—enghreifftiau eithaf astrus weithiau—i dynnu sylw at neu brofi ei bwynt. Fel y soniodd eraill, roedd ei gyfraniadau, yn enwedig ar Brexit ond ar faterion eraill hefyd, bob amser yn ystyrlon, yn bwyllog, yn wybodus, ac yn amlach na pheidio—nid bob amser, ond yn amlach na pheidio—byddai Steffan yn cael ei brofi'n iawn yn y pen draw.
Mae digonedd o bobl wedi rhoi teyrnged i gyfraniad gwleidyddol cyhoeddus Steff, a bydd llawer ohonoch chi yma yn ymwybodol iawn o hynny, ond hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau i'n fyr ar Steffan fel person. Buom ni'n gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd am tua thair blynedd cyn iddo gael ei ethol yn Aelod Cynulliad. Roedd yn drylwyr, gallai feddwl yn greadigol, a gallai feddwl yn strategol. Roedd yn hynod o deyrngar a gonest, ac roedd yn barod iawn i ddweud pan fyddai'n anghytuno â rhywbeth neu pan na fyddai'n hoffi rhywbeth. Ond roedd hefyd yn chwarae i'w dîm, yn barod i weithio'n galed iawn i sicrhau llwyddiant pob un o'n hamcanion cyffredin. Gyda Steff, ni waeth pa mor anodd neu anorchfygol y gallai'r broblem ymddangos, ni fyddai byth yn derbyn nad oedd unrhyw ateb i'w gael. Fe aethom ni i''r afael â llawer o broblemau anodd gyda'n gilydd, fe wnaethom ni rai ymyriadau gwleidyddol gwych gyda'n gilydd ac mae gennyf i atgofion rhyfeddol o'm gwaith a'm cyfeillgarwch gyda Steffan, y byddaf i nawr yn gallu eu trysori am byth.
Mae pob un ohonom wedi ein breintio o gael atgofion, a bod yn rhan o'i fywyd, ac rydym ni i gyd yn awyddus i dynnu gyda'n gilydd nawr i gefnogi ei deulu a chefnogi ein gilydd drwy'r wythnosau a'r misoedd anodd nesaf.
Nos da, Steffan. Cwsg yn dawel, fy ffrind.
Fel llawer o rai eraill yn y Siambr hon, dim ond ers iddo gael ei ethol yn 2016 i ymuno â ni yma yr oeddwn i'n adnabod Steffan, ac yn y cyfnod byr hwnnw, mae ei gwrteisi a'i ddeallusrwydd wedi gadael eu hôl arnaf i a llawer un arall, fel y clywn ni o bob rhan o'r Siambr heddiw. Daeth fy nghyd-Aelod Jack Sargeant i'r Siambr hon gyda'r syniad o wleidyddiaeth fwy caredig. Roedd Steffan yn ymgorfforiad o'r wleidyddiaeth fwy caredig honno yr oedd yn dymuno ei weld. Roedd yn gwrtais, roedd gan bobl feddwl uchel ohono, byddai'n ystyried ei ddadleuon a chyflwynai achos cryf, fel y nodwyd eisoes.
Llywydd, mae cyfraniad Steffan i'r Cynulliad wedi cael ei gydnabod gan yr holl Aelodau, ond roedd ei gyfraniad i'r pwyllgor materion allanol yr oedd yn eistedd arno yn enfawr. Deuai ag ystyriaeth feddylgar i'r dadleuon ac fe ddefnyddiai'r ystyriaeth feddylgar honno gydag agenda am yr hyn a fyddai orau i bobl Cymru. Dyna oedd ei gyfraniad ef.
Nawr, fe wyddom i gyd beth oedd ei safbwynt gwleidyddol a'r hyn a oedd o'r pwys mwyaf iddo ef, sef bodolaeth gwladwriaeth genedlaethol annibynnol i Gymru. Ond yn bwysicach yn ei olwg oedd gwelliant gwirioneddol ym mywydau pobl yng Nghymru, a dyna'r hyn a dewisodd ei gyflawni a gweithio ar ei gyfer, ac roedd popeth a wnâi i'r perwyl hwnnw. Daeth â syniadau trawsbynciol ger ein bron, a chraffu ar Weinidogion, nad oedden nhw'n ei fwynhau bob amser chwaith, oherwydd roedden nhw ddrwgdybus iawn o Steffan weithiau pan oedd ef yn y pwyllgor oherwydd roedden nhw'n gwybod beth oedd ar ddod. Fe aeth i bobman i geisio'r wybodaeth honno. Rwy'n cofio iddo ddweud wrthyf i ei fod wedi mynd i Lundain er mwyn mynd o amgylch yr holl lysgenadaethau a swyddfeydd yr is-genhadon i gael gwybod sut beth fyddai Ewrop y dyfodol. Rwy'n cofio iddo ddweud wrthyf hyd yn oed ei fod eisiau trefnu taith i Norwy gyda'i deulu gyda'r bwriad gwirioneddol o fynd at y ffin rhwng Sweden a Norwy i weld beth oedd yn digwydd ar y ffin honno.
Er y byddwn ni'n gweld eisiau ei ddeallusrwydd a'i ffraethineb yma yn y Cynulliad hwn, nid yw hynny'n ddim o'i gymharu â cholled ei deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Mae fy meddyliau a'm gweddïau gyda'i deulu nawr ac i'r dyfodol, ond un peth a wn yw y bydd ei fab yn tyfu i fyny i weld ei uchelgais yn cael ei gwireddu ryw bryd; rwy'n credu hynny. Efallai mai amser byr a gafodd Steffan, ond bydd ei etifeddiaeth yn parhau.
Rwy'n codi i siarad gyda chalon drom ar ran y grŵp Llafur. Yn gyntaf, hoffwn fynegi ein cydymdeimlad ni i gyd â gwraig Steffan, Shona, ei fab, Celyn, a'i holl deulu a'i ffrindiau. Roedd Steffan mor fawr ei barch yng ngolwg Aelodau o bob plaid ar draws y Siambr hon ac roedd llawer o edmygedd ohono. Roedd ei ddeallusrwydd craff yn glir, fel yr oedd ei afael ar y materion allweddol a'i angerdd gwirioneddol i wella cyflwr Cymru. Ac yn y gwaith a wnaeth, yn gyntaf ar gynnig Bil parhad UE, a'i waith ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru' wedi hynny, bydd yn sicr o adael etifeddiaeth rymus yma yng Nghymru.
Hoffwn sôn hefyd am ychydig o bwyntiau personol, gan i mi gyrraedd yn y Siambr hon ym mis Mai 2016, yr un pryd yn union â Steffan, ac fe'm trawyd i'n gyflym iawn pa mor amhleidiol mewn gwirionedd yw natur y Siambr hon hefyd. Steffan wnaeth chwarae'r rhan allweddol wrth dangos hyn i mi yn y lle cyntaf, gan fod y ddau ohonom ni'n gwasanaethu ar BIPA gyda'n gilydd—y Cynulliad Seneddol Prydeinig-Gwyddelig. Rwy'n cofio cyfarfod gydag ef a chynrychiolwyr eraill cyn ein taith gyntaf a theimlo braidd yn anniddig o ran sut y byddwn yn gallu dod ymlaen gydag Aelodau o bleidiau eraill yn ystod y daith honno. Ond neidiodd Steffan dros ben y rhwystrau diogelwch yn Nhŷ Hywel, cymaint oedd ei frwdfrydedd am y gwaith yr oeddem ni ar fin ei wneud, ac yn sicr fe chwalwyd unrhyw rwystrau a oedd yn bodoli.
O hynny ymlaen, fe ddysgais nad oedd dim na allai ef ei drafod a dangos gwybodaeth eang iawn amdano, fel y soniodd yr Aelodau eraill, yn enghreifftiau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol. Roedd dyfnder yr wybodaeth a feddai arno ym mhob maes o wleidyddiaeth a'i angerdd yn gwbl ryfeddol. Ond byddai bron pob sgwrs a gefais gydag ef yn troi'n ôl bob amser at ei deulu, ac roedd hynny'n rhywbeth a wnaeth argraff wirioneddol arnaf i. Roedd yn amlwg yn ddyn teulu i raddau helaeth iawn, yn dad balch iawn, a siaradai'n annwyl iawn am ei wraig a'i rieni hefyd, a sut yr oedden nhw wedi dylanwadu ar ei wleidyddiaeth.
Bydd ei dalent, yn ddi-os, yn golled enfawr i'w blaid, Plaid Cymru, ac yn golled enfawr i genedl y Cymry hefyd, ond wrth gwrs, yn bwysicach, yn golled i'w deulu a'i gyfeillion. Fel Steffan, rwyf innau hefyd yn hanesydd yn y bôn, ac rwy'n hyderus, pan gaiff hanes y pumed Cynulliad hwn ei ysgrifennu a'r bennod hon yn hanes Plaid Cymru, bydd gwaith Steffan yn llusern olau.
Mae yna gadair wag y tu cefn i mi. Mae'n gadair sydd wedi bod yn cael ei chadw yn gynnes i Steff fyth ers iddo ddechrau ar ei frwydr yn erbyn canser ychydig dros flwyddyn yn ôl. Mae'n teimlo fel ddoe. Roeddwn i'n edrych ar ei decst o y diwrnod o'r blaen: 'Fedri di ddod allan o'r pwyllgor i siarad efo fi?', meddai fo. Ac mi oedd hwnnw'n ddiwrnod tywyll.
Ond mi oedd Steff yn benderfynol o barhau i fwrw ei oleuni arnon ni. Mi fyddai'n dal i ddod yma, fel rydyn ni wedi clywed, yn enwedig ar gyfer trafodaethau ar faterion Ewropeaidd, neu i fynnu chwarae teg dros ryw achos neu'i gilydd yng Ngwent a'r de-ddwyrain, bro ei febyd oedd mor annwyl iddo fo.
Yn ei ugeiniau cynnar oedd o pan greodd o argraff arnaf i'n gyntaf. Roeddwn i'n cyflwyno rhaglen hystings deledu o Lynebwy yn ystod isetholiad ym Mlaenau Gwent, a Steff oedd ymgeisydd Plaid Cymru—ymgeisydd ifanc iawn, rhyw 21 oed, dwi'n meddwl oedd o. Dwi'n cofio meddwl ar y pryd, 'Waw, mae hwn yn dda', ac mi oedd o'n dda iawn. Roedd o'n arbennig iawn.
Pleser pur wedyn oedd cael dod yn gydweithiwr iddo fo maes o law, ac i'w alw fo'n ffrind—fi yn etholedig yn gyntaf, er ei fod o ym Mhlaid Cymru ymhell o'm blaen i, yntau yn aelod cwbl allweddol o'r tîm, ac yna mi gafodd o ei ethol. Ac mi oedd cael dod yn Aelod o'n Senedd genedlaethol ni yn golygu popeth iddo fo. I Steff, braint oedd bod yma, yn gwasanaethu ei gymuned, yn gwasanaethu Cymru, ond braint y gymuned honno, braint Cymru a'n braint ninnau i gyd oedd bod Steff wedi penderfynu ymroi i wasanaethu'r genedl yn ei Senedd.
Dyn addfwyn, dyn teg, gwleidydd teg. Dyn anhunanol. Mi welon ni hynny yn y ffordd yr oedd o mor eiddgar i helpu cleifion eraill drwy siarad yn agored am ei ganser. Dyn meddylgar, yn dewis ei eiriau'n ofalus. Roedd o'n atgoffa fi am fy niweddar fam yn hynny o beth, a hithau wedi rhoi cymaint dros Gymru mewn llawer ffordd. A minnau'n clywed mewn teyrngedau iddi hi, 'Byddai dy fam yn dal yn ôl, wedyn pan fyddai hi'n siarad, mi oedden ni'n gwybod bod ganddi hi rywbeth i'w ddweud, ac mi fyddai pawb yn gwrando'. Ac felly oedd Steff. Steff, allaf i ddim rhoi llawer mwy o deyrnged i ti na drwy ddweud dy fod ti'n atgoffa fi o mam. Mi oedd cyfraniad Steff bob amser yn werthfawr.
Daeth gwaith Steff ym mywyd cyhoeddus Cymru i ben yn llawer, llawer rhy gynnar. Mewn ychydig flynyddoedd, gwnaeth gyfraniad a oedd yn gwneud iddo sefyll allan fel gwleidydd â gallu prin ganddo, gydag eglurder gwirioneddol a gweledigaeth ar gyfer ei gymuned a'i wlad, ac fel dyn gonest, cyfiawn, didwyll, penderfynol a chwbl anhunanol. Daeth â phobl at ei gilydd, ac yn hynny o beth, mae'n esiampl i bob un ohonom ni.
Heddiw, rydyn ni'n dweud, 'Diolch, Steff'. Rydyn ni'n dy golli di ac yn colli'r hyn y byddet ti wedi ei wneud droson ni, ond yn diolch am bopeth a wnest ti, am osod y sylfaeni ar gyfer Cymru annibynnol. Rydyn ni'n diolch am dy weledigaeth a dy arweiniad mewn bywyd mor fyr. Do, mi gadwon ni dy gadair yn gynnes, ond nid felly yr oedd hi am fod. Rŵan, mi wnawn ni bopeth i gadw dy fflam ynghyn. Heddwch iti, Steff.
Roeddwn wedi clywed ers amser am Steffan Lewis gan fy nghyn gyd-Aelod a chyd-Weinidog yn y Cynulliad, Jocelyn Davies, a oedd mor falch o'r ymgyrchydd gwleidyddol ifanc hwn a oedd wedi gwirfoddoli yn ei swyddfa hi. A phan ddywedodd hi wrthyf ei bod yn bwriadu ymddiswyddo cyn etholiad 2016, dywedodd ei bod yn falch y byddai hwnnw'n gyfle i Steffan gymryd ei le yn y Cynulliad fel olynydd iddi hi yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros ranbarth y de ddwyrain.
Wrth gwrs, roedd llawer ohonom ni'n adnabod Steffan yn sgil ei waith y tu ôl i'r llenni cyn 2016, yn gweithio fel awdur areithiau i Leanne, ac roeddem yn gwybod—roeddem yn gwybod—y byddai ef yn unigolyn aruthrol pan ddeuai'r amser iddo ef ymuno â byd gwleidyddiaeth cyhoeddus fel Aelod Cynulliad. Ac, wrth gwrs, fe adawodd ei farc o'r diwrnod cyntaf y daeth yn Aelod, yr ieuengaf a etholwyd yn 2016. Rwy'n cofio, fel y bydd llawer hefyd, i Steffan gymryd ei sedd yma yn y Siambr gyda hyder ac eglurder, ond hefyd yn wylaidd o ran ei swydd a'r cyfle yr oedd wedi ei gael—yn glir o ran ei wleidyddiaeth, wrth gwrs. Cofiaf iddo ddweud—a gallwch chi gofio hynny, a'i gydweithwyr hefyd—na fyddai ef yn defnyddio ei gyfrifiadur, oherwydd ei fod yn awyddus i gymryd rhan lawn yn y dadleuon. Nid oedd ef am gael ei gyhuddo fel y cawn ni'n aml: 'Beth ydych chi'n ei wneud yn rhythu ar eich cyfrifiadur o fore gwyn tan nos?' A chredaf iddo gadw at yr addewid honno. Felly, os oedd angen cael gafael arno, roedd yn rhaid ei gael allan o'r Siambr neu anfon neges destun ato.
O'r cychwyn roedd yn barod i weithio y tu hwnt i ffiniau'r pleidiau i gyflawni nodau ac amcanion cyffredin, ac fe gymerodd ef yr awenau yn llefarydd ei blaid wrth inni symud yn fuan tuag at fyd y refferendwm a orfodwyd arnom, gan weithio gyda Llafur ar 'Ddiogelu dyfodol Cymru'. Ac wrth gwrs mae hynny wedi sefyll prawf amser heddiw, fel y dywedodd y Prif Weinidog heddiw, ac yn wir yr wythnos diwethaf. Ond roedd hefyd yn llefarydd cyllid cadarn ac yn arbenigwr yn y maes. Eisteddai ar y pwyllgorau cyllid a'r pwyllgorau materion allanol, fel y gwnawn innau, a phan ymunais â'r pwyllgorau hynny fis Tachwedd diwethaf, roeddwn i'n eu mwynhau nhw gymaint yn fwy pan oedd ef yn gallu ymuno â ni, fel y soniodd Dai Rees, er gwaethaf ei salwch cynyddol a'i driniaethau blin, yr oedd yn eu hwynebu gyda'r fath ddewrder, a bydd pob un ohonom wedi dysgu oddi wrtho. Ond ni fyddai byth, fel y dywedais, yn gadael unrhyw Weinidog Llafur neu gydweithiwr oddi ar y bachyn o ran ei waith craffu, ond roedd bob amser yn gefnogol pan welai achos cyffredin.
Hoffwn dalu teyrnged hefyd i waith Steffan yn hyrwyddo pwysigrwydd Cymru yn y byd, a phwysigrwydd materion allanol. Felly, fe drosglwyddodd yr awenau i mi o ran swyddogaeth y rapporteur yr oedd ef wedi ei wneud gyda Jeremy Miles, pan oedd ef ar y pwyllgor, yn edrych ar gyfleoedd i Gymru yn y byd fel rhan o'n cyfrifoldebau tuag at ddatblygiad rhyngwladol—a gwn y bydd Eluned Morgan yn dwyn hyn yn ei flaen—ond hefyd ar ôl Brexit, yn benderfynol o sicrhau nad oedd Cymru yn cael ei hanwybyddu ac yn cael ei chydnabod o ran diplomyddiaeth, yn ddiwylliannol, yn gymdeithasol ac yn economaidd.
Soniwyd eisoes am y daith gerdded gyda Steff, a drefnwyd gan Nia fis Gorffennaf diwethaf. Rwy'n cofio cerdded gyda Dai Lloyd a Jeff Cuthbert ar hyd y gamlas i'r Coed Duon. Bydd yn atgof parhaol i bob un ohonom, a chofiaf y cwtsh gyda Steffan ar y daith honno. I Steffan, roedd mor bwysig ei fod yn codi'r arian hwnnw at Felindre. Ac wrth gwrs, gyda hynny, rwy'n meddwl am ei deulu ac yn cydymdeimlo o'r galon â nhw heddiw, a hefyd yn yr wythnosau a'r misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Steffan, rydych chi wedi gadael etifeddiaeth fawr ar eich ôl yn Gymro Ewropeaidd angerddol, ac yn ddinesydd byd rhyngwladol. Byddwn yn parhau i helpu i fynd ar drywydd yr amcanion hynny er cof amdanoch, oherwydd roeddech chi'n graff iawn yn eich gweledigaeth wleidyddol ac fel unigolyn a gwleidydd balch a neilltuol o Gymru.
Gaf i ddechrau wrth dalu teyrnged, wrth gwrs, i Steffan a'r teulu, ac i gydymdeimlo â'r teulu yn eu profedigaeth? Er, wrth gwrs, efallai fod pobl yn erfyn rhywbeth i ddigwydd, mae'r golled yn dal i fod yn un trwm.
Mae'n anodd i ni amgyffred mai dim ond am amser byr iawn y bu Steffan yn aelod o'r Cynulliad, cymaint oedd ei gyfraniad. Roeddem ni'n eistedd yma yn y Siambr hon ac mewn pwyllgorau, a gwelsom pa mor helaeth oedd ei wybodaeth ac, wrth gwrs, ei awydd i wasanaethu ei wlad. Fe ddaeth yn gyflym iawn yn uchel ei barch yng ngolwg cynifer o amgylch y Siambr hon o bob plaid, a phan siaradai, roedd yr hyn a ddywedai yn dreiddgar ac yn ysgogi'r meddwl bob amser. Roedd hi'n werth gwrando ar Steffan bob amser.
Roedd ganddo gymaint i'w gynnig i'r ddadl ar Brexit drwy ei waith ar ddatblygu gweledigaeth o'r ffordd y dylai Brexit weithio hyd at awgrymu Bil parhad. Ac rwy'n credu mai ef yr oedd yr Aelod cyntaf yn y Siambr hon i awgrymu Bil parhad ac mae'n deilwng o'r clod am hynny.
Ar lefel bersonol, credaf ei bod yn gwbl gywir i ddweud bod pawb yn hoffi Steffan. Roedd yn aelod balch o Blaid Cymru. Rydym i gyd wedi gweld y llun ohono, wrth gwrs, yn annerch cynhadledd Plaid Cymru ym 1987 pan oedd yn 14 oed, rwy'n credu. Byddai hynny wedi gofyn am gryn hyder i allu gwneud hynny. Ond er gwaethaf yr egwyddorion a ddaliai mor gryf, roedd bob amser, wrth gwrs, yn barod i weithio gyda phleidiau eraill pan deimlai fod hynny er lles y genedl. Rydym ni'r gwleidyddion yn aml ag uchelgais o weithio gydag eraill, onid ydym? Ond nid uchelgais yn unig oedd hynny gan Steffan; byddai'n gweithredu hynny hefyd.
Roeddwn i, yn un, a oedd yn cael ei gyfraniad i'r ddadl ar Brexit yn amhrisiadwy, a bydd rhai ohonoch yn gwybod y gofynnwyd i mi mewn cyfweliad teledu cyn y Nadolig i enwi rhai unigolion o bleidiau eraill yr oeddwn i â pharch tuag atynt. Heb amharchu eraill yn y Siambr, Steffan oedd un o'r rheini a enwais.
Roedd y newyddion am y diagnosis o ganser a gafodd Steffan, wrth gwrs, yn achos siom enfawr iddo ef a'i deulu. Nid oes amheuaeth o hynny. Fe soniodd am ei ddiagnosis gyda mi. Gwyddai fod fy ngwraig, Lisa, yn gweithio i Macmillan. Gwyddai mai prognosis anodd iawn oedd hwn, ond, er hynny, fe barhaodd â'i waith a gweithiodd yn galed i godi arian i'r rhai sy'n byw gyda chanser, ac wrth gwrs, bydd yr atgofion hynny yn aros gyda chynifer o'r Aelodau sy'n cofio'r gwaith a wnaeth i godi arian i Felindre. Byddai adegau o deimlo'n isel, wrth gwrs, yn ei frwydr yn erbyn canser, ond gwyddom yn sicr ei fod wedi cael y penderfyniad a'r nerth i ysbrydoli eraill. Ychydig iawn o bobl sydd â'r cyneddfau hynny. Roedd Steffan yn un ohonyn nhw.
Rydym ni wedi colli un o sêr y dyfodol yng ngwleidyddiaeth Cymru, ond mae ei deulu wedi colli mab, brawd, gŵr a thad, a heddiw rydym yn cydsefyll â nhw ac yn cofio Steffan.
Fel pawb yn y Siambr heddiw, dwi hefyd, wrth gwrs, yn anfon fy nghydymdeimlad dwysaf at Shona, Celyn, Gail, Nia a'r teulu i gyd, a dwi am ddiolch i chi am rannu Steffan efo ni. Cafodd ei gipio i ffwrdd yn llawer rhy gynnar, ac mae ei golled yn un drom i'w deulu, yn anad neb, ond hefyd i Blaid Cymru, i bobl y de-ddwyrain, i'r Cynulliad ac i Gymru. Fe gyfrannodd cymaint, ac fe fydd ei ddisgleirdeb yn goleuo'r ffordd i ni. Fe fydd yn ysbrydoliaeth ac fe fydd yn cerdded efo ni ar y daith tuag at y Gymru rydd.
Gwnes i ddod ar draws Steff am y tro cyntaf mewn cyfarfod cyhoeddus ym Mhen-y-groes yn etholaeth Arfon. Roedd Alun Ffred wedi mynnu bod yr hogyn ifanc, disglair yma o Went yn dod atom ni i rannu ei weledigaeth, a dyna a wnaeth, mewn ffordd feddylgar, fanwl, dawel, ond mewn ffordd hollol argyhoeddedig a chredadwy. Roedd ganddo freuddwyd, ac roedd yn credu y byddai'r freuddwyd yn cael ei gwireddu. Dros y blynyddoedd wedyn, byddwn yn cwrdd â Steff mewn cynadleddau a digwyddiadau'r blaid, ac yn 2016, fe ddaeth y ddau ohonnon ni'n Aelodau Cynulliad am y tro cyntaf, a chefais y fraint o eistedd drws nesa iddo fo tan yn weddol ddiweddar.
Fel y clywsom ni yn barod, doedd o ddim yn licio'r sgrin gyfrifiadurol, ac felly, os oedd o eisiau anfon neges at y Llywydd, yn aml byddai'n rhaid mynd drwy fy sgrin i, a finnau wedyn yn tynnu ei goes, 'Nid fi yw dy ysgrifennydd personol di, Steff', ac mi fyddai yntau yn tynnu fy nghoes innau hefyd. Er enghraifft, pan oeddwn i'n defnyddio pob cyfle posibl i wthio am ysgol feddygol i Fangor, mi fyddwn i'n cael, 'Chi gogs yn rhy swnllyd o lawer.' Dyna un ymadrodd y byddai o'n hoff o ddefnyddio. Mi oeddwn i wrth fy modd efo'i ymadroddion bachog. Roeddwn i wrth fy modd yn clywed ei areithiau gofalus, grymus, ond byddai'r asides bach bachog pan fyddai Aelod arall yn siarad yn rhoi gwen ar fy wyneb i. 'Mae hyn yn ofnadwy', pan oedd Gweinidog yn gwrthod ateb cwestiwn neu'n traethu'n ddiflas, a bydda o'n casáu clywed Aelodau'n cyfeirio at y Deyrnas Unedig fel 'our nation', 'our country'. Fe fyddai o bob tro yn cywiro hynny o dan ei wynt—'Cymru ydy'n cenedl ni. Cymru ydy'n gwlad ni.' A pheth arall oedd yn ei gorddi fo oedd cyfeirio at Gymru fel 'cenedl fechan'. 'Ni ddim yn fach', byddai o'n mynnu, 'Ni'n genedl fwy na nifer o wledydd annibynnol eraill.'
Wrth gerdded i'r Siambr neu wrth aros cyn areithio tu ôl i lwyfan, fe fyddai Steff yn dweud hyn wrthyf i, 'Dyma ni, Siân Gwenllian'—'Siân Gwenllian', byth 'Siân'; wastad fy enw llawn—'Dyma ni, Siân Gwenllian, y fenyw o Wynedd, a'r bachan o Went. Awn amdani. Let's go, let's show 'em how it's done.' Gwnaf i fyth anghofio'r geiriau hynny. Roedden ni'n cynrychioli ardaloedd gwahanol iawn i'w gilydd, ond fe wnaeth y bachan o Went gryn argraff arnaf i. A bydd y bachan hynaws, disglair, egwyddorol wastad efo ni yn y Senedd, yn ein cynadleddau ni, yn fy mywyd pob dydd, achos bydd y bachan o Went wastad yn fy nghalon, yn ein calonnau. Steff, mae dy freuddwyd yn fyw, ac fe fydd y freuddwyd yn dod yn wir. Cwsg mewn hedd, gyfaill annwyl.
Fel pawb arall yn y Siambr, bydd hiraeth arnaf am Steffan. Roeddwn yn eistedd ar y Pwyllgor Cyllid gydag ef ac fe gawsom ni sbort—nid wyf yn siŵr y byddai neb arall yn credu hynny—pan oeddem ni'n trafod y dreth trafodiadau tir a materion traws-ffiniol. Rwy'n siŵr i Steffan a minnau ymdrin â hynny drwy ddeialog rhyngom ni'n dau, er mawr siom i eraill a oedd yn eistedd yn y Siambr. Ei wybodaeth ddi-ben-draw am ffiniau eraill—pan grybwyllais y 'traws-ffiniol', fe orffennom ni yn y diwedd gyda 1,000 o ddarnau o dir yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, a dywedodd ef, 'Dyw hynny'n ddim—sut ydych chi'n meddwl y mae Portiwgal a Sbaen yn ymdopi, neu'r Walwniaid a'r Fflemiaid? Sut ydych chi'n credu y mae'n gweithio yn y gweddill—? Dywedais i, 'Nid wyf i'n gwybod', a dywedodd ef, 'Wel, rwyf i wedi bod yno. Es yno ar fy ngwyliau i ymweld â'r ffin a'i gweld.' Dywedais i, 'Wel, nid wyf i'n credu y gallwn i ddarbwyllo fy ngwraig i fynd ar wyliau i weld ffiniau ond—.'
Y peth arall a'i gwnâi yn hynod oedd ei fod yn gwrthod defnyddio ei gyfrifiadur yn y Siambr, rhywbeth a oedd yn fy ngwylltio i'n gacwn—ond nid fel yr oedd yn gwylltio Siân Gwenllian, oherwydd yr unig ffordd y gallech chi gysylltu ag ef oedd drwy anfon neges at Siân: 'Siân, a wnewch chi ofyn i Steffan a gaf i siarad ag ef am y dreth trafodiad tir y tu allan?' A byddai hithau'n dweud, 'Nid fi yw ei ysgrifenyddes.' Yn wir, mae'n rhaid mai dyna un o'r pethau a ddywedodd hi wrtho'n fwy aml na dim arall yn ystod ei hamser yma—'Steffan, nid fi yw dy ysgrifenyddes di.' Ond fe wnaethoch chi waith da fel ysgrifenyddes iddo. Credai na ddylid defnyddio cyfrifiadur yn y Siambr. Roedd yn credu hynny a glynodd ato. Ni waeth pa mor drafferthus oedd hynny i'r gweddill ohonom, roedd yn glynu ato.
Roeddwn i'n adnabod Steffan pan oedd yn gweithio yn swyddfa Plaid Cymru. Roeddwn i'n defnyddio'r un gegin ag ef. Mae'n syndod sut y dewch chi i adnabod pobl oherwydd y pethau rhyfeddaf o fewn y Cynulliad. Rwy'n defnyddio'r un gegin â Phlaid Cymru a'r hyn a gofiaf am Steffan yw ei fod bob amser yn serchog, bob amser yn gwrtais a phob amser â gwên ar ei wyneb. Bydd gennyf i hiraeth amdano, ond nid hanner cymaint â'i deulu.
Nid oeddwn i'n adnabod Steffan yn dda iawn, ond roeddwn yn awyddus i godi i ddweud yn fyr iawn ei fod yn ddigon o ryfeddod o ddyn. Yr atgof parhaol sydd gennyf i o Steffan yw digwydd dod ar ei draws yn mynd am dro gyda'i deulu dros forglawdd Caerdydd ryw brynhawn braf ym mis Hydref yn ystod y tywydd twym hwnnw a gawsom. Ac roedd yn deulu hapus, allan gyda Shona a'u mab, yn mwynhau'r heulwen. Ond, i mi, roedd yn foment ingol oherwydd meddyliais tybed faint mwy o atgofion hapus fel hyn y cânt i'w rhannu. Dim ond—. Mae'n golled ddirdynnol i rieni gladdu eu mab cyn ei amser; nid honno yw'r drefn arferol, ac mae hynny, yn amlwg, yn ddychrynllyd o boenus. Ond, yn amlwg, i Shona a Celyn, mae'n agor bwlch enfawr yn eu bywydau nhw. Ac roeddwn i eisiau dweud wrth Celyn fod ei dad yn wleidydd wirioneddol anhygoel, fel y bydd yn sylweddoli pan fydd ychydig yn hŷn, gobeithio, a'i fod yn ddyn dewr, a oedd yn ymarfer y fath o wleidyddiaeth y mae Jack Sargeant yn ei hyrwyddo mor aml.
Rwy'n awyddus i ddweud ei bod wedi bod yn fraint o'r mwyaf cael ei adnabod ef. Ac rwy'n gobeithio y bydd yn ein hysbrydoli ni i wella ein perfformiad a gwella safon y dadlau y dangosodd ef ei bod yn gwbl bosibl ei wneud heb fod yn gwerylgar nac yn or-bleidiol. Felly, diolch yn fawr iawn, Steffan, ac mae ein cydymdeimlad ni—bawb ohonom ni, rwy'n siŵr—â'i deulu.
Roeddwn i ar fin mynd i mewn i Neuadd Goffa Trecelyn nos Wener pan ddaeth y newyddion bod fy ngwrthwynebydd gwleidyddol yn Islwyn, a'm cyd-Aelod annwyl, Steffan Lewis AC, wedi ein gadael ni. Felly, fel mae nifer wedi'i ddweud, rwyf yn cydymdeimlo'n ddwys â gwraig Steffan, Shona, a'i fab, Celyn. Yn ein cyfarfod o aelodau Plaid Lafur Islwyn, roedd tristwch gwirioneddol o glywed y newyddion trasig hyn, a hynny oherwydd personoliaeth Steffan. Cynhaliodd Plaid Lafur Islwyn funud o dawelwch i gofio am Steffan a thalwyd teyrnged i'n cydwladwr. Roedd e'n hynod falch ei fod yn hanu o Islwyn, fel rydym ni eisoes wedi clywed, ac yntau wedi'i fagu yn Cross Keys, ceir atgofion annwyl am ei gyfnod fel plentyn yn Ysgol Gynradd Cwm Gwyddon yn Abercarn, lle'r oedd fy merch innau hefyd yn ddisgybl. A heddiw, rydym ni'n mynegi ein parch at y gwir fab Cymru a gwir fab Islwyn hwn, yr oeddwn i hefyd yn ei barchu'n fawr fel cyd-Aelod o Senedd Cymru, er, fel y dywedais i, yn y pen draw, roedden ni'n wrthwynebwyr gwleidyddol. Er hynny, roedd llawer yr oeddem ni'n cytuno arno, a chredaf inni glywed y teimladau hynny'n glir ac yn groyw yn areithiau heddiw.
Ond, yn y pen draw, roedd Steffan yn unigolyn caredig a sensitif, a oedd yn meddu ar deallusrwydd miniog. Fel mae sawl un wedi'i ddweud, cafodd y ddau ohonom ni ein hethol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2016, ac, fel aelod o'r dosbarth, rwyf innau hefyd yn tystio'n frwd bod Steffan yn wleidydd egnïol ac egwyddorol a oedd â chymaint mwy i'w gyfrannu at fywyd cyhoeddus Cymru. Ac rydym ni eisoes wedi sôn am wleidyddiaeth fwy caredig, y mae Jack Sargeant eisoes wedi sôn yn hirfaith amdano, ac roedd Steffan yn ymgorffori'r wleidyddiaeth fwy caredig honno. Yn yr amser rhy fyr o lawer yr oedd wedi gallu gwasanaethu fel Aelod o'r Cynulliad, dangosodd hyn drwy bopeth a ddywedodd a phopeth a wnaeth—ei allu a'i natur pwyllog. Defnyddiodd ei bwerau deallusol helaeth i ddadlau'r achos o blaid, fel rydym ni wedi clywed yn gynharach yn y Siambr hon, hawl Cynulliad Cymru i gael ei barchu ar ôl trafodaethau Brexit. Ac mae'n debyg mai gwaith Steffan ar Brexit, yn rhinwedd ei swydd fel llefarydd ei blaid ar y pwnc, a gafodd yr effaith fwyaf. Ond, yn bersonol, byddaf bob amser yn ei gofio fel gwleidydd egwyddorol a dyn da—gwas didwyll ac ymroddedig dros bobl Islwyn, a chredaf y bydd pob un ohonom ni yn gweld ei eisiau. Bydded i ti orffwys mewn heddwch, Steffan.
Cofiaf glywed Steffan ar y radio ar gyfer is-etholiad 2006 ym Mlaenau Gwent—ei araith am y datganiad. Roeddwn i yn fy ngwely ac eisteddais i fyny yn y gwely oherwydd bod ei eiriau'n wefreiddiol—yn hynod, hynod ysbrydoledig. Gweithiais gyda Steffan yn 2008, yn etholiadau cyngor Caerffili, a daethon ni i adnabod ein gilydd yn well pan gawson ni ein hethol am y tro cyntaf yn 2016. Ac, ambell brynhawn, byddem ni'n mynd dros y ffordd am ddiod gyflym a sgwrs fach ac yn trafod pob math o bethau, yn enwedig gwleidyddiaeth a sut y byddai modd gwneud pethau yn well, a phêl-droed—Celtic, Dinas Caerdydd. Rwyf yn ddiolchgar iawn i Steffan am y sgyrsiau hynny. Roedd e'n ddyn da iawn, a ddangosodd gymaint o ddewrder ac urddas yn y ffordd y daeth ef yma, ac yn y ffordd yr oedd yn torri ei gŵys ei hun. Mae ei farwolaeth gynamserol yn golled wirioneddol i'n gwlad, a gwir obeithiaf y gall ei deulu gymryd rhywfaint o gysur o'r ffaith fod gan gynifer o bobl—pawb ohonom ni a oedd yn adnabod Steffan—feddwl mor uchel ohono.
Llywydd, roedd llais Steffan yn llais cryf ar y cyfansoddiad. Roedd ganddo ddealltwriaeth ddofn a oedd yn caniatáu iddo droedio uchelfannau syniadaeth wleidyddol. Llywydd, cafodd y ddau ohonon ni ein hethol yn 1999, ac nid wyf yn meddwl i mi erioed glywed rhywun yn traethu mor hael ar faterion sylfaenol. Roedd ei wybodaeth am y broses seneddol a'i ddefnydd ohoni yn caniatáu iddo hyrwyddo cysyniad y Ddeddf parhad, fel rydym ni wedi'i glywed, rhywbeth a roddodd bwysau ar Lywodraethau Cymru a'r DU ar adeg allweddol yn ein hanes fel sefydliad.
Fodd bynnag, nid oedd awdurdod Steffan ar faterion cyfansoddiadol, yn rhywbeth sych na haniaethol; roedd yn siarad gydag egni ac angerdd. Ond, roedd hefyd yn parchu barn pobl eraill, fel fi, a oedd yn aml yn dod i gasgliadau gwahanol. Yr hyn a welais yn fwyaf urddasol ac argyhoeddiadol yn syniadau cyfansoddiadol Steffan oedd yr angen am ddemocratiaeth seneddol ystyriol. Dyna'r hyn sydd wedi cael ei ffurfio gan wledydd cartref y Deyrnas Unedig. Dyma yw ein prif wreiddyn— rhywbeth y dylen ni i gyd ei drysori, pa un ai Cymru annibynnol neu DU ddatganoledig ar ei newydd wedd yw ein nod yn y pen draw. Ac mae angen doethineb o'r fath arnom ni heddiw o bob dydd, wrth i Brexit gyrraedd adeg penderfyniad yn y Senedd.
Un o'r sgyrsiau diwethaf a gefais â Steffan oedd ynghylch hanes doniol ac amharchus Alan Watkins am gwymp Mrs Thatcher, A Conservative Coup. Ac roedd Steffan yn berchen ar yr hiwmor direidus hwnnw hefyd, gan weld ffolineb gwleidyddiaeth sy'n ymbellhau o'i sylfeini cadarn, fel y mae'r llyfr hwnnw yn ei ddisgrifio'n grefftus.
Estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant i deulu a ffrindiau Steffan. Gobeithio y byddwch yn cael eich cysuro o wybod na fydd llais diffuant Steffan byth yn mynd yn anghof i ni.
Wrth reswm, mae colli Steffan mor ifanc yn ergyd drychinebus i'w deulu a'i ffrindiau, i'w blaid, Plaid Cymru, i'r Cynulliad yn ei gyfanrwydd, ac i Gymru, o gofio pwysigrwydd Steffan Lewis fel ffigur gwleidyddol a'r gallu oedd ganddo, yr ymrwymiad oedd ganddo, yr ydym wedi clywed sôn amdano ar draws y Siambr heddiw.
O'm rhan i, Llywydd, y tro cyntaf yr wyf i'n cofio siarad â Steffan ar ôl iddo ddod yn Aelod o'r Cynulliad, oedd pan ddaeth ef â'r rhinweddau hynny i'r amlwg, a'r teimlad dwys a oedd ganddo dros Went, fel y clywsom gan Adam ac eraill, pan ddaeth Steffan ataf yn gynnar iawn a dweud cymaint oedd ei ymrwymiad i weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol a chymaint oedd ei ymrwymiad i ddeall Gwent, cynrychioli buddiannau Gwent, ac i fod yn hyrwyddwr ar gyfer y rhan honno o Gymru. Maes o law, daeth yn amlwg iawn ei fod yn hollol ddiffuant am hynny, fel yr oedd am bopeth arall hefyd. Felly, rwy'n gwybod fy mod i'n siarad ar ran pob un o fy nghyd-Aelodau AC Llafur Gwent— mae Rhianon Passmore wedi siarad drosti hi ei hun, fel petai—ond mae pob un ohonom ni yn cydnabod bod Steffan mor ymroddedig a diffuant yn yr ymdeimlad hwnnw dros Went ac mor benderfynol o wneud popeth a allai ar ran Gwent, ond i weithio ar draws y pleidiau, ac yn wir gydag amrywiaeth o sefydliadau, i'r perwyl hwnnw.
Fel y mae eraill, rwyf innau'n cofio'r daith gerdded i godi arian dros Felindre, pryd yr oedd hi mor amlwg beth oedd hyd a lled a phwysigrwydd y gefnogaeth a oedd i Steffan gan deulu a ffrindiau, y pleidiau gwleidyddol—unwaith eto, ar draws y Siambr—gwahanol sefydliadau y bu ef yn gweithio gyda nhw dros y blynyddoedd, a sawl un arall. Roedd hefyd yn amlwg gymaint o gysur oedd hynny i Steffan, pa mor bwysig oedd tynnu nerth o'r gefnogaeth honno iddo, a oedd i'w gweld ar y daith gerdded, ond a oedd i'w gweld yn eangach o lawer ac yn fwy cyffredinol hefyd.
Hefyd, Llywydd, hoffwn innau adleisio yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud ynghylch pa mor ddewr oedd Steffan wrth ddefnyddio'r profiad ofnadwy hwnnw o ddioddef o ganser er lles cyffredinol—i fod mor barod i siarad am y profiad, i wneud cyfweliadau, i wneud datganiadau cyhoeddus, i gymryd rhan mewn trafodaethau, gan wybod pa mor bwysig oedd hynny i bobl eraill sy'n dioddef o ganser a'u teuluoedd a'u ffrindiau. Aeth i gryn fanylder, sydd yn amlwg bwysig, arwyddocaol a llesol i bobl eraill sy'n dioddef o ganser, eu teuluoedd a'u ffrindiau.
Wrth reswm, yr oedd yn hynod emosiynol hefyd ddarllen am yr hunangofiant yr oedd yn ei baratoi ar gyfer ei fab, ei fab ifanc, a fyddai'n gallu ei ddarllen pan fydd yn hŷn ac yn gallu deall ei dad yn well a deall daliadau a gwerthoedd ac egwyddorion ei dad a'u defnyddio i gyfrannu at ei fywyd ei hun a gwneud ei gyfraniad ei hun.
Felly, Llywydd, dymunaf adleisio, ar ran fy nghyd-Aelodau Llafur lleol yr hyn a ddywedodd cynifer o bobl eraill: dyn pa mor hoffus, diffuant, ymrwymedig, dawnus, talentog oedd Steffan Lewis a pha mor bwysig oedd i'w wlad. Rwyf innau, fel y mae eraill wedi ei ddweud, yn gobeithio bod hynny'n rhywfaint o gysur i'w deulu a'i ffrindiau ar adeg mor anhygoel o anodd.
Siaradais ddiwethaf â Steffan yn ystod ei ymweliad olaf â'r Cynulliad cyn y Nadolig, pryd yr wyf yn cofio sgwrsio ag ef y tu allan i'r Siambr hon mewn toriad yn y ddadl. Roedd yn amlwg y pryd hwnnw pa mor sâl yr ydoedd. Dywedais i wrtho ein bod ni i gyd—pob un ohonon ni yn y Siambr—yn ei gefnogi. Diolchodd i mi am hynny a dweud mai ei waith fel Aelod Cynulliad a oedd yn ei gynnal, a oedd yn ei ysbrydoli, ac roedd yr anwyldeb, y cariad, yr oedd e'n ei deimlo gan bob un ohonom ni Aelodau'r Cynulliad yn gwneud y gwahaniaeth hwnnw iddo.
Fel y mae ei blaid ei hun, yr oedd ef yn meddwl y byd ohoni, ac Aelodau eraill yn y Siambr hon wedi ei ddweud, bachgen Gwent oedd ef. Roedd e'n arfer fy ngalw i yn 'bachgen Mynwy'. Fe wnes i dynnu sylw at y ffaith mai o Gwmbrân oeddwn i'n dod yn wreiddiol a gwelais ei lygaid bach yn goleuo wrth feddwl am bob math o bethau sarhaus neu ymadroddion newydd y byddai'n gallu eu defnyddio mewn dadleuon ar draws y Siambr. [Chwerthin.] Yn anffodus, ni fydd y dadleuon hynny'n digwydd. Ond bydd ei etifeddiaeth, a'r teimladau y gwnaeth ef annog pob un ohonom ni i'w teimlo, o ba ran bynnag o Gymru fyddai hynny, yn rhywbeth a fydd yn aros gyda fi am byth.
Soniodd Mike Hedges am y Pwyllgor Cyllid. Ces i'r fraint o eistedd wrth ochr Steffan—sydd i'w weld yn amser hir iawn, ond, wrth gwrs, dim ond cwpl o flynyddoedd, ers 2016, yr oeddem ni ar y pwyllgor hwnnw gyda'n gilydd. Ac rydych chi'n iawn, Mike, roedd ef wrth ei fodd yn sôn am y ffin, neu, mewn gwirionedd, ymosod ar bobl a oedd yn dymuno siarad am y ffin, a byddai'n tynnu sylw at y ffaith fod yna ffiniau ledled y byd nad ydyn nhw'n achosi unrhyw broblemau o gwbl o ran masnachu ac o ran gwledydd yn bodoli ar wahân. Roedd e'n iawn yn hynny o beth. Hefyd, pryd bynnag y byddai trafodaethau ynghylch Brexit neu gyni, byddwn i'n clywed y llais bach hwn yn fy nghlust, ei lais ef ydoedd, a byddai ef yn fy mhrocio i, a byddai'n dweud, 'Dy griw di yw hyn eto, yntê? Dyna dy griw di yn San Steffan. Sut galli di fyw 'da dy hunan?' Yn y pen draw, byddwn i'n symud y gadair ychydig i'r dde fel nad oedd yn bosibl iddo gyrraedd mwyach.
Ond roedd yn fraint adnabod Steffan ers iddo gael ei ethol yn 2016. Rwy'n credu ei bod yn hawdd iawn dweud bod pobl yn gadael etifeddiaeth, ond, yn fy marn i, fel y dywedodd y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones gynnau, mae ei etifeddiaeth ef yn un enfawr. Rwy'n credu, yn ei ffordd ei hun, ei fod wedi effeithio ar bawb yng Nghymru, a pha un a ydych chi'n cytuno â'r polisi cenedlaetholaidd ai peidio, neu o ba blaid wleidyddol bynnag yr ydych chi wedi dod, rwy'n credu iddo fe werthu neges ei blaid mor dda fel ei fod wedi denu pawb arall yng Nghymru ychydig yn nes at ei freuddwyd, ac rwy'n credu, beth bynnag fydd yn digwydd yn y dyfodol i'n gwlad odidog yr oedd ef mor falch ohoni, daeth ef â'i freuddwyd ychydig yn nes at realiti pawb.
Dyma ddiwrnod du iawn. Mae'n anrhydedd i fi allu sefyll yn fan hyn i dalu teyrnged i ti, Steffan. Dŷn ni, yn naturiol, yn cydymdeimlo'n ddwys iawn gyda dy deulu, gyda dy ffrindiau, ac mae yna fwlch yn y sedd nesaf ataf i. Dydy'r sgrin dal ddim ymlaen. Ond mae yna fwlch enfawr yn ein grŵp ni, yn ein calonnau, yn ein bywydau—bwlch lle bu Steffan. Steffan oedd Aelod ieuengaf grŵp Plaid Cymru; babi ein grŵp ni, gyda theulu ifanc, ac mae'n calonnau ni yn torri.
Roeddet ti'n ysbrydoliaeth i ni i gyd, gweithiwr dygn ac ymroddedig, yn byw bob munud dros Gymru, dros ddyfodol cenedlaethol ein gwlad. Byddaf yn cofio'r trafodaethau di-rif dros y blynyddoedd lawer dwi wedi dy nabod di, ers yr isetholiad nôl yn y 1990au—roeddwn i yna yn Islwyn hefyd—y trafodaethau droeon am hanes Cymru, hanes anrhydeddus ein gwlad, fel ffordd i ysbrydoli cenedl nad yw'n gwybod ei hanes.
Ac roedd yn ddyn manylder, hefyd, manylion cywrain deddfwriaethol, ac ef oedd crëwr Bil parhad Cymru. Roedd Steffan yn ymwybodol iawn o fygythiad Brexit i fodolaeth gwirioneddol Cymru, a gweithiodd yn ddiflino i adeiladu tarian ddeddfwriaethol amddiffynnol ar gyfer ein pobl. Roedd Steffan yn ysbrydoliaeth lwyr i mi yn bersonol, i'r blaid hon sydd gennym, i'r Senedd hon ac i Gymru; seren ddisglair, fel y dywedodd llawer, gyda thalent a dewrder enfawr, yn enwedig yn ystod y misoedd diwethaf, yn ogystal ag ysbryd cydnerth, cydnerthedd y mae ei angen arnom ni i gyd nawr. Rydym ni'n gweddïo dros deulu Steffan, ydym. Nid yw ein colled ni yn ddim o'i gymharu â'u colled nhw.
Rydym ni'n dweud yn aml ar y meinciau, cadeiriau, hyn y Blaid, ein bod yn sefyll ar ysgwyddau arwyr hanes Cymru a oedd yn dyheu am ryddid cenedlaethol, y mwyaf urddasol o achosion. Mae Steffan yw un o'r arwyr hynny erbyn hyn.
Cwsg mewn hedd, Steffan bach.
Diolch i bob Aelod am eich teyrngedau. Mae'n amlwg bod Steffan, yn ei amser rhy fyr o lawer yma, wedi gwneud argraff ar draws y Siambr. Wrth eistedd yn y fan yma, fel yr wyf, rwy'n sylwi ar lawer ohonoch chi'n teipio tra bod dadleuon yn digwydd o'ch cwmpas. Nid oedd Steffan, fel yr ydym wedi clywed, yn teipio. Trefnodd i'w gyfrifiadur gael ei analluogi pan ddaeth i'w sedd fel ei fod yn gallu gwrando ar ddadleuon a chymryd rhan mewn dadleuon. Wrth gwrs, dysgodd fod anfantais i hynny, gan nad oedd modd iddo anfon neges ataf i ofyn am gael ei alw mewn dadl. Er hynny, dysgodd yn gyflym fod gwên fach ddireidus neu neges destun, neu Siân Gwenllian, yn un mor berswadiol ar gyfer cael ei alw i siarad.
A phwy na fyddai'n galw Steffan Lewis? Roedd yr hyn yr oedd ganddo i'w ddweud yn werth ei glywed. Byddwn i yn eich gwylio chi i gyd, Prif Weinidogion ddoe a heddiw, Gweinidogion, Aelodau'r meinciau cefn—roedd pob un ohonoch chi'n gwrando ar yr hyn oedd gan Steffan i'w ddweud. Roedd yn siarad ag awdurdod tawel, syniadaeth glir, rhywbeth gwreiddiol i'w ddweud bob amser. Steffan oedd yr un i herio uniongrededd y dydd, a digwyddodd hynny mor aml o fewn Plaid Cymru ag o fewn y Siambr hon.
Mi gwrddais i â Steffan yn gyntaf yn ystod y Cynulliad cyntaf, pan oedd e'n gwneud profiad gwaith gyda Jocelyn Davies yn ei arddegau cynnar. Dechreuodd Steffan ei fywyd gwleidyddol yn ifanc iawn. Mi oedd e'n angerddol yn ei wleidyddiaeth bryd hynny, ac mi wireddodd ei freuddwyd yn 2016 i gael ei ethol i'w Senedd genedlaethol ac i olynu Jocelyn Davies. Er i'w fywyd fod yn fyr, fe baciodd Steffan lot fawr mewn i'w fywyd, ac ein hatgoffa taw nid wrth hyd fywyd mae gwir fesur gwerth y bywyd hwnnw.
Yn wahanol i nifer ohonon ni, mi oedd Steffan yn gwybod pob manylyn o hanes ei wlad, a sawl gwlad arall, nid er mwyn rhamantu'r hanes hwnnw, ond yn hytrach i ddeall yr hanes er mwyn cynllunio'r dyfodol, lle'r oedd popeth yn bosib i'w wlad. Ac, er yn llefarydd cryf dros Gymoedd y de-ddwyrain, dros Went, bro ei febyd, lle'r oedd treftadaeth ei ddwy iaith—y Saesneg a'r Gymraeg—yn bwysig iddo fe, uno Cymru oedd un o'r negeseuon parhaol gan Steffan. Mi oedd e'n gwylltio os oedd e'n clywed gormod o sôn am y gogledd neu'r gorllewin. Iddo fe, roedd Cymru'n un.
Dyn oedd Steffan â'r cyffredin a'r anghyffredin yn perthyn iddo—yn garedig ac yn ddidwyll a chwbl o ddifri am ei uchelgais i'w wlad. Mi fydd ei esiampl ef yn gyrru nifer ohonom ni i weithio'n galetach i wireddu ei freuddwydion i'w wlad a'i gymuned, ac yn ei enw e.
Wrth inni gloi'r cyfarfod teyrnged yma, dwi'n cymryd y cyfle eto i gydymdeimlo ar ein rhan ni oll gyda theulu Steffan: ei wraig, Shona, a'i fab bach, Celyn; ei fam, Gail; ei chwaer, Nia; a Neil, sydd yma hefyd heddiw. Mi fyddwn ni'n meddwl amdanoch chi yn y dyddiau a'r misoedd anodd i ddod. Mi fyddwn ni'n cofio'n annwyl iawn am ein ffrind Steffan Lewis, ac yn diolch i chi'r teulu am ei rannu gyda ni. Yng ngeiriau'r bardd Annest Glyn yn ystod y dyddiau diwethaf yma:
'Enaid yw sy'n dal ar dân,
Nid diffodd a wna Steffan.'
Diolch, Steffan. Diolch, bawb.