– Senedd Cymru am 3:55 pm ar 16 Ionawr 2019.
Symudwn ymlaen yn awr at eitem 6, sef dadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Awtistiaeth (Cymru). Cyn imi alw ar yr Aelod sy'n gyfrifol i wneud y cynnig, a gaf fi wneud apêl? Mae gennym lawer—llawer—o siaradwyr sy'n dymuno siarad, felly, os gallwch docio eich cyfraniadau, byddai hynny'n dda iawn; byddech yn cael mwy o bobl yn rhan o'r ddadl. Ond os na, mae arnaf ofn fy mod yn ymddiheuro yn awr i rai ohonoch; ni chewch eich galw. Felly, os gallwch gadw hynny mewn cof. Felly, fe symudwn ymlaen yn awr at y ddadl, a galwaf ar yr Aelod sy'n gyfrifol am y cynnig i wneud y cynnig hwnnw—Paul Davies.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n falch o agor y ddadl heddiw fel yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil Awtistiaeth (Cymru). Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn ar y cychwyn i ddiolch i Catherine Hunt a'i thîm am eu cymorth aruthrol a'u harweiniad yn ystod datblygiad a hynt y Bil hwn. A gaf fi ddiolch hefyd i Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru a'r rhanddeiliaid a'r bobl ddi-rif ar hyd a lled Cymru sydd wedi helpu i wneud y Bil hwn yn realiti?
Hoffwn ddiolch i bob un o'r pwyllgorau sydd wedi bod yn ystyried ac yn adrodd ar y Bil a'r rhai sydd wedi cyfrannu at waith y pwyllgor drwy ddarparu tystiolaeth. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgorau hynny am eu gwaith yn craffu ar y Bil a'r argymhellion defnyddiol y maent wedi'u gwneud. Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y pwyllgorau yn amlinellu fy ymateb i'r argymhellion a chyhoeddwyd y llythyr cyn y ddadl hon. Rwyf wedi ystyried pob un o'r adroddiadau a'u hargymhellion yn ofalus, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gallu gweld fy ymateb a chydnabod fy mod wedi gwrando ar y pryderon a godwyd. Lle y bo modd, rwyf wedi derbyn yr argymhellion ac rwyf wedi ymrwymo i ymgymryd â gwaith ymchwil pellach neu gyflwyno gwelliannau i'r Bil er mwyn lliniaru pryderon.
Hoffwn ddweud ychydig eiriau'n fyr mewn ymateb i argymhelliad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ynglŷn â'r rhwymedïau sydd ar gael i ddinasyddion os nad ydynt yn cael y gwasanaethau y maent yn eu disgwyl. Llwyr gefnogaf y rhesymeg wrth wraidd yr argymhelliad hwn. Fodd bynnag, fel yr eglurais yn fy ymateb ysgrifenedig, ni allaf ei roi ar waith ar hyn o bryd. Os derbynnir yr egwyddorion cyffredinol, gallaf sicrhau'r Aelodau y buaswn yn hapus i weithio gydag Aelodau, neu i ystyried unrhyw welliannau a gyflwynir yn ystod y cyfnodau diwygio, gyda'r nod o gryfhau'r Bil yn hyn o beth. Rwy'n cydnabod bod aelodau o'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon wedi methu cyrraedd consensws ar ba un ai'r Bil hwn yw'r ffordd orau o gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen mewn gwasanaethau awtistiaeth, ond pwysleisir y ffaith fod angen gwelliannau yn ei adroddiad drwyddo draw. Credaf y bydd fy Mil yn ysgogi'r gwelliannau angenrheidiol.
Fel y dywedais pan gyflwynais y Bil hwn, dangosodd tystiolaeth o'r ddau ymgynghoriad a gynhaliwyd gennyf fod gwasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth yn anghyson ledled Cymru ac mewn rhai ardaloedd, maent yn annigonol. Roedd hyn yn amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd, a ddywedodd fod teuluoedd y clywodd ganddynt wedi bod yn aros ers 10 mlynedd i'r strategaeth awtistiaeth ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt, ond maent yn dal i'w chael hi'n anodd. Pobl go iawn ym mhob un o'n hetholaethau yw'r teuluoedd hyn. Nid yw plant a phobl ifanc sydd ag awtistiaeth yn cyflawni eu potensial. Mae rhieni'n anobeithio am nad yw'r gwasanaethau sydd eu hangen arnynt ar gael. Ni ddylem ddal i fod mewn sefyllfa lle y mae rhieni'n dweud nad yw'r gwasanaethau yno a bod popeth yn frwydr. Mae'r teuluoedd hyn yn haeddu gwell.
Mae pobl ag awtistiaeth wedi aros yn ddigon hir. Mae angen gweithredu ar frys yn awr i sicrhau bod rhagor o wasanaethau cymorth yn cael eu rhoi ar waith. Nid fy marn i yn unig yw honno; dyna gasgliad y pwyllgor iechyd, yn seiliedig ar y dystiolaeth a gafodd yn uniongyrchol gan deuluoedd. Mae'r profiad byw a rennir gyda'r pwyllgor yn tystio i'r ffaith nad yw'r trefniadau presennol yn addas i'r diben. Daeth y pwyllgor i'r casgliad fod yr anawsterau presennol sy'n wynebu pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd wrth geisio cael cymorth yn annerbyniol. Dyna pam y mae'r Bil hwn mor bwysig.
Bydd y Bil yn sicrhau bod strategaeth awtistiaeth genedlaethol Cymru yn ofyniad statudol, a bydd y gwasanaethau y gall pobl ag awtistiaeth ddisgwyl eu cael wedi eu hymgorffori yn y gyfraith. Rwy'n cytuno gyda'r pwyllgor iechyd fod angen dybryd i wella gwasanaethau cymorth awtistiaeth a bod rhaid rhoi sylw i hyn fel blaenoriaeth. Rwy'n credu'n gryf mai deddfu yn y modd hwn yw'r ffordd fwyaf effeithiol ar gyfer cyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael y cymorth y maent yn ei haeddu. Mae fy Mil yn nodi bod awtistiaeth yn gyflwr sy'n galw am fwy o sylw, ac mae'n anfon neges gref fod Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn cael gwasanaethau hygyrch o ansawdd uchel lle bynnag y maent yn byw yng Nghymru ar sail barhaol.
Rwy'n rhannu pryderon a amlygwyd gan y Pwyllgor Cyllid ynglŷn â'r rhyngweithio rhwng Llywodraeth Cymru a'r Bil hwn. Cytunaf yn llwyr â'r pwyllgor fod cyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth ariannol i Aelodau'r Cynulliad wrth iddynt baratoi deddfwriaeth, ac yng ngoleuni ymateb y Prif Weinidog i'r pwyllgor, mae fy mhryderon yn parhau.
Mae'r Gweinidog iechyd wedi dweud yn glir nad yw'n cefnogi'r Bil hwn. Yn lle hynny, mae'n ymgynghori ar god ymarfer ar ddarparu gwasanaethau awtistiaeth. Dywedodd wrth y pwyllgor y bydd y cod yn gwneud popeth y mae'r Bil am ei wneud, ond nid wyf yn credu y bydd y cod yn ddigon i gyflawni'r newidiadau sydd eu hangen i wella gwasanaethau. Caiff fy mhryderon eu rhannu gan y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth ac eraill, ac fe amlinellaf rai o'r rheini heddiw.
Byddai fy Mil yn gosod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi a chyhoeddi strategaeth awtistiaeth, yn ogystal â'i hadolygu a'i ddiwygio yn seiliedig ar asesiad annibynnol, ond nid oes unrhyw gyfeiriad yn y cod at ddyletswyddau ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi, adolygu neu ddiwygio'r cod neu gynllun gweithredu ar awtistiaeth. Mae'n bwysig pwysleisio nad yw'r cod arfaethedig yn orfodaeth ar gyrff iechyd. Testun pryder pellach i bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yw'r ffaith y gall Llywodraeth Cymru wrthdroi'r cod ar unrhyw adeg. Mae hyn yn wahanol iawn i'r drefn barhaol a hollgynhwysol a nodir yn y Bil.
Mae fy Mil yn clymu'r amserlen ar gyfer diagnosis o awtistiaeth wrth y rhai a nodwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE), tri mis rhwng atgyfeirio a dechrau asesu diagnostig. Mae'r amser aros hir am ddiagnosis yn faes pryder enfawr i lawer o bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae safonau NICE yn seiliedig ar dystiolaeth ac arbenigedd clinigol, ond er ei bod yn cydnabod pwysigrwydd ac awdurdod NICE mewn agweddau eraill ar ofal iechyd, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis eu hanwybyddu mewn perthynas ag amseroedd aros ar gyfer gwneud diagnosis o awtistiaeth, ac mae'n parhau i lynu at darged o 26 wythnos ar gyfer plant a hyd yn hyn, ni cheir targed ar gyfer oedolion. Rwyf eto i weld y dystiolaeth y seiliwyd y targed hwn arni.
Mae'r cod wedi ei glymu'n dynn wrth Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ond mae fy Mil i'n cynnwys darpariaethau sy'n llawer ehangach na'r Deddfau hynny. Mae fy Mil yn darparu ar gyfer diwallu anghenion pobl ag awtistiaeth a'u gofalwyr o ran y Gymraeg, cyflogaeth, addysg ac eiriolaeth, ond nid oes unrhyw ddyletswyddau na gofynion yn y cod sy'n ymwneud ag unrhyw un o'r meysydd hyn. Yn lle hynny, mae'r cod yn dweud y dylai byrddau iechyd ac awdurdodau lleol wneud addasiadau rhesymol. Mae hyn lawer yn wannach na'r ddyletswydd statudol yn y Bil, ac yn ei hanfod mae'n galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i wneud mwy o'r un peth. Rwy'n bryderus ynglŷn â chylch gorchwyl cul y cod, gan nad yw'n darparu ar gyfer yr agweddau ehangach ar fywyd unigolyn. Mae dull cyfannol ehangach yn hanfodol os ydym i sicrhau bod pobl ag awtistiaeth yn gallu cyflawni eu potensial, a byw bywydau gwerthfawr a chyflawn. Mae'r dystiolaeth rymus a roddwyd gan deuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth, drwy fy ymgynghoriadau ac yn ystod y gwaith craffu, yn ategu hyn a mwy.
Er bod y Bil yn cynnwys darpariaeth i sicrhau bod gwasanaethau'n adlewyrchu ac yn hwyluso'r broses o bontio rhwng plentyndod a bywyd fel oedolyn, mae'r cod yn cyfeirio at bontio wrth adael ysgol, ond ni cheir unrhyw ofynion neu ddyletswyddau yn y cod i hyrwyddo hyn mewn ffordd ystyrlon. Rydym oll yn ymwybodol o'r rôl werthfawr a chwaraeir gan deuluoedd a ffrindiau drwy ddarparu gofal anffurfiol i'w hanwyliaid, a dyna pam y mae fy Mil yn cryfhau ac yn cefnogi teuluoedd a gofalwyr pobl ag awtistiaeth. Nid oes ymrwymiad o'r fath yn y cod, sydd ond yn cynnwys gofyniad i hysbysu gofalwyr am eu hawl i asesiad o dan y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol. Mae hyn yn peri pryder arbennig i mi, oherwydd nid wyf yn credu ei fod yn ddigonol i ddiwallu anghenion y gofalwyr hynny.
Hoffwn drafod yn awr y feirniadaeth o'r Bil sy'n dweud ei fod yn cael ei arwain gan ddiagnosis. Mae'r honiad yn gamarweiniol. Mae'r Bil yn ymwneud â mwy na diagnosis; yn hytrach mae'n cyflwyno cyfundrefn drosfwaol sy'n ceisio mynd i'r afael â holl anghenion person ag awtistiaeth cyn ac ar ôl diagnosis. Nid yw'r Bil yn nodi yn unman fod diagnosis o awtistiaeth yn ofyniad ar gyfer cael gwasanaethau, neu y dylai fod. Yn wir, nid yw cael diagnosis o awtistiaeth yn basbort awtomatig i wasanaethau. Mae fy Mil yn darparu'n benodol ar gyfer sicrhau y gellir darparu gwasanaethau cyn cael diagnosis ffurfiol.
Honnwyd y bydd y Bil yn arwain at gynnydd yn y nifer sy'n cael diagnosis o awtistiaeth, ond pennir meini prawf diagnostig gan ddatblygiadau yn y wybodaeth wyddonol ac ymarfer proffesiynol, ac ni fydd hynny'n newid o ganlyniad i'r Bil hwn. Ac nid oes modd amddiffyn yn foesol y ddadl y dylai pobl ag awtistiaeth fethu cael diagnosis ar sail ariannol yn unig, neu oherwydd prinder adnoddau. Ar y llaw arall, bydd y gofynion casglu data yn y Bil yn helpu i nodi unrhyw duedd tuag at or-ddiagnosis gan fyrddau iechyd a fydd, yn ei dro, yn arwain at dargedu adnoddau'n fwy effeithlon.
Mae'r dystiolaeth o dreialon presennol yng Nghymru wedi sefydlu'n eglur y gall casglu data allweddol gan y GIG, fel y data a nodir yn adran 6 o'r Bil, arwain at welliannau hirdymor mewn diagnosis o awtistiaeth a darparu gwasanaethau cymorth cysylltiedig. Ni fyddai'r gofynion casglu data cyfyngedig a heb eu profi yn y cod arfaethedig yn cynnig y manteision hyn. Rwy'n derbyn bod mentrau wedi'u datblygu'n ddiweddar, yn enwedig sefydlu'r gwasanaeth awtistiaeth integredig. Mae'r Gweinidog wedi dweud wrth y Cynulliad fod angen amser i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig ymsefydlu. Eto i gyd, mae dau o'r saith gwasanaeth yn dal i fod heb eu rhoi ar waith eto—nid oes disgwyl i orllewin Cymru a'r bae Gorllewinol fod ar waith tan fis Ebrill 2019. Mae'r broses hon wedi cymryd llawer gormod o amser. Sut y gall yr Aelodau fod yn hyderus y bydd y gwasanaeth awtistiaeth integredig yn darparu ar gyfer eu hetholwyr pan fo cynifer ohonynt yn dal i aros i'r gwasanaeth gael ei gyflwyno? At hynny, nid yw'r gwerthusiad terfynol o'r cynllun gweithredu strategol a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig wedi'i gyhoeddi eto. Bydd yr adroddiad terfynol yn darparu tystiolaeth annibynnol bwysig ar effeithiolrwydd cynllun gweithredu strategol Llywodraeth Cymru ar awtistiaeth. A heb weld y wybodaeth hanfodol hon, ni all yr Aelodau wneud asesiad ystyrlon o ddull Llywodraeth Cymru o weithredu.
Hoffwn ddweud yn glir na fydd fy Mil yn arwain at newidiadau enfawr i strwythur a chyfluniad gwasanaethau awtistiaeth, ond mae'n ceisio ategu ac atgyfnerthu datblygiadau sydd eisoes ar y gweill. Mae fy Mil wedi'i gynllunio i ategu a bod yn gydnaws â gweithgareddau presennol Llywodraeth Cymru, ac eithrio gwelliannau allweddol penodol megis amseroedd aros diagnostig, ac fel y cyfryw, mae'n gwbl realistig a chyraeddadwy.
Nid ymwneud â pha un a fydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn dod yn ddeddf y mae'r bleidlais heddiw, ond yn hytrach â chytuno ar yr egwyddorion cyffredinol er mwyn i graffu allu digwydd. Os na dderbynnir yr egwyddorion cyffredinol heddiw, bydd y Bil yn methu, ac ni chaiff yr Aelodau gyfle arall i siapio'r ffordd y caiff gwasanaethau awtistiaeth eu datblygu yng Nghymru. Bydd cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol yn galluogi'r Aelodau i gyflwyno ac i drafod y gwelliannau yr hoffent eu gweld i'r Bil. Dyma'r unig ffordd o sicrhau bod yr Aelodau'n flaenllaw yn y gwaith o siapio datblygiad gwasanaethau awtistiaeth yn y dyfodol. Ni fydd cyfle arall os yw'r Bil yn methu heddiw.
Er bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar god, ni fydd yn ddarostyngedig i graffu i'r un graddau ag y bydd Bil, ac ni fydd yr Aelodau'n cael y gair olaf ar ei gynnwys. Rwy'n credu'n angerddol y bydd fy Mil yn sicrhau gwelliannau gwirioneddol a chynaliadwy i fywydau pobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd yng Nghymru, a gofynnaf i'r Aelodau am eu cefnogaeth i gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil pwysig hwn y prynhawn yma.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cafodd y Bil ei gyfeirio at y pwyllgor iechyd ar gyfer gwaith craffu Cyfnod 1. Fel rhan o hyn, cawsom ystod eang o dystiolaeth. Yn ychwanegol at y gwaith casglu tystiolaeth ffurfiol arferol a wnaed yng nghyfarfodydd y pwyllgor, ymgynghorwyd â phobl efo anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd mewn cyfres o weithdai a gafodd eu trefnu gan dîm allgymorth y Cynulliad dros yr haf. Cyfarfu aelodau'r pwyllgor hefyd efo cynrychiolwyr rhieni ac ymweld ag Autism Spectrum Connections Cymru, siop un-stop sy'n darparu lle diogel i oedolion sydd efo cyflwr sbectrwm awtistiaeth i gael mynediad at ystod eang o gyngor a chymorth, i siarad gyda defnyddwyr gwasanaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a gyfrannodd at y gwaith yma.
Mae awtistiaeth yn gyflwr gydol oes fel dim arall. Dŷn ni wedi siarad efo pobl gydag awtistiaeth a'u teuluoedd sy'n cael trafferth, ac sy'n dweud eu bod nhw wedi aros 10 mlynedd am y strategaethau awtistiaeth i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw ac nad yw wedi digwydd. Mae'r pwyllgor yn deall rhesymeg yr Aelod sy'n gyfrifol wrth gyflwyno'r Bil yma, ac yn cytuno'n llwyr efo'r angen am welliannau yn y ddarpariaeth o wasanaethau i bobl sydd efo'r anhwylder. Dŷn ni wedi gwrando ar bobl sydd â'r anhwylder a'u teuluoedd, a dŷn ni wedi'n hargyhoeddi bod angen gwneud llawer mwy yn y maes hwn, yn enwedig o ran mynediad at wasanaethau cymorth. Mae'r anawsterau presennol y mae pobl efo awtistiaeth a'u teuluoedd yn eu hwynebu'n gyson wrth geisio cael cymorth yn annerbyniol ac mae'n rhaid mynd i'r afael â nhw. Y neges a ddaeth yn amlwg yn ein tystiolaeth yw bod angen mwy o wasanaethau cymorth ar frys i bobl sydd efo'r anhwylder.
Un maes o bryder penodol oedd darparu gwasanaethau ar gyfer pobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth ac sydd ag IQ uchel a heb anabledd dysgu na chyflwr iechyd meddwl yr ymddengys eu bod nhw'n disgyn drwy'r bwlch. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym fod ganddi'r holl bwerau sydd eu hangen arni i sicrhau gwelliannau i wasanaethau awtistiaeth yn y ddeddfwriaeth gyfredol yn y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, Deddf anghenion dysgu ychwanegol a'r tribiwnlys addysg a Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006. Fodd bynnag, dywedodd y rhieni a gymerodd ran yn ein grwpiau ffocws wrthym fod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol yn methu â sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer eu plant am nad yw'r asesiadau'n briodol ar gyfer pobl sydd efo'r anhwylder, ac felly maen nhw'n aml yn methu â chael gofal a chefnogaeth.
Fyddech chi’n cymryd—? Fyddech chi’n cytuno gyda fi fod rhai pobl yn ein rhanbarth ni wedi gorfod teithio i lefydd fel Norwich er mwyn cael cymorth preifat oherwydd eu bod nhw’n aros mor hir am asesiadau? Petasai yna Fil o’r fath sy’n cael ei gyflwyno yma heddiw, byddai modd i sicrhau eu bod nhw’n cael y driniaeth yn gynharach a’u bod nhw’n cael asesiad yn gynharach, a bod hynny yn rhoi rhyw fath o obaith i’r teuluoedd sydd yn dioddef ar hyn o bryd.
Diolch yn fawr, Bethan. Mi fuaswn i’n cytuno. Dyna’r fath o dystiolaeth roedden ni’n ei chael drosodd a throsodd drwy’r ymgynghoriad yma wrth i ni graffu. Dywedodd y rhieni wrthym nad yw'r holl bobl uchel-weithredol sydd efo'r anhwylder yn gymwys am wasanaethau cymdeithasol o dan y Ddeddf, ac er bod ganddyn nhw IQ uchel efallai y bydden nhw'n cael anhawster mawr wrth wneud tasgau dyddiol.
Dywedodd oedolion sydd ag awtistiaeth a gymerodd ran yn ymweliad y pwyllgor ag Autism Spectrum Connections Cymru yma yng Nghaerdydd wrthym eu bod nhw'n teimlo eu bod yn grŵp anweledig yn y gymuned awtistiaeth, gan nad oedden nhw'n perthyn i'r categori plant nac oedolion sydd angen gofal o ddydd i ddydd ac nad ydyn nhw'n effeithio ar ystadegau cyflogadwyedd ac anabledd. Clywsom eu bod nhw'n awyddus i weithio ond yn methu â chael swydd ac mae angen cymorth arnyn nhw i'w helpu i gael gwaith.
Nid ydym ni, fel pwyllgor, wedi gallu dod i gonsensws ynghylch ai'r ddeddfwriaeth hon, ar yr adeg benodol hon, yw'r ffordd fwyaf priodol o gyflawni'r gwelliannau sydd ddirfawr eu hangen. Mae rhai Aelodau'n cefnogi cyflwyno'r Bil yma nawr, gan gredu ei bod yn amserol ac yn angenrheidiol rhoi gwasanaethau ar sail statudol i gyflawni gwelliant lle mae strategaethau blaenorol wedi methu â gwneud hynny, a sicrhau'r newid sy'n ofynnol i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd. Mae Aelodau eraill o'r farn bod angen rhoi mwy o amser i fentrau a deddfwriaeth bresennol ddod i rym. Roedd rhai hefyd yn pryderu ynghylch ffocws y Bil, y mae rhai o'r farn ei fod yn ddiagnosis yn hytrach nag ar sail anghenion, a'r canlyniadau posibl ar bobl na fyddan nhw'n derbyn diagnosis ar gyfer anhwylder sbectrwm awtistiaeth neu sydd â chyflyrau niwrolegol eraill. Fodd bynnag, dŷn ni’n cytuno bod angen pwysig i wella gwasanaethau cymorth i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a'u teuluoedd ledled Cymru, a chredwn fod yn rhaid mynd i'r afael â hyn fel mater o flaenoriaeth.
I'r perwyl yma, dŷn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru gyda'r bwriad o ddatblygu'r gwelliannau hyn. Mae'r rhain yn cynnwys cynyddu’r ddarpariaeth o wasanaethau cymorth anhwylder sbectrwm awtistiaeth uniongyrchol ledled Cymru, y tu hwnt i’r gwasanaethau a gynigir ar hyn o bryd gan y gwasanaeth awtistiaeth integredig, a sicrhau bod gwasanaethau’r trydydd sector yn derbyn cyllid cynaliadwy er mwyn gallu parhau â’u gwasanaethau cymorth arbenigol i bobl sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth a’u hehangu. Yn ail, rhoi cyfarwyddyd i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig i wella cysondeb y gwasanaethau ar draws y rhanbarthau, er mwyn sicrhau dull gweithredu cenedlaethol. Cymryd camau ar fyrder i fynd i'r afael â'r angen clir am gymorth cyflogaeth ar gyfer oedolion sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Nesaf, rhoi cyfarwyddyd i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau bod nifer o lwybrau atgyfeirio priodol a chlir ar gael i bawb, gan gynnwys llwybr gofal sylfaenol penodol, a bod y rhwystrau sy’n bodoli rhwng y sectorau iechyd, y sector gofal a’r sector addysg yn cael eu rhoi i’r neilltu, er enghraifft er mwyn galluogi meddygon teulu i allu atgyfeirio plant i gael cymorth addysgol. Gofyniad gorfodol i bob aelod o staff mewn ysgolion, yn enwedig athrawon a chynorthwywyr addysg, gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn ystod eu hyfforddiant cychwynnol athrawon ac fel rhan o'u datblygiad proffesiynol parhaus.
Gwnaethom hefyd argymhelliad i'r Aelod sy'n gyfrifol, fel dŷn ni wedi ei glywed, pe bai'r Bil yn mynd ymlaen i Gyfnod 2, y dylid cyflwyno gwelliant i sicrhau nad adolygiad barnwrol yw'r unig ffordd sydd ar gael i unigolion fynnu eu hawliau. Nodaf fod yr Aelod sy'n gyfrifol yn derbyn yr egwyddor y tu ôl i'r argymhelliad hwn, ond nid yw wedi gallu nodi ateb ymarferol i fynd i'r afael â'r mater. Mae hyn yn siomedig—ond gellir deall y rhesymau—am ei fod wedi dod o ganlyniad i'n sgyrsiau gyda rhieni a soniodd wrthym am eu pryder ynghylch eu gallu i gael atebion priodol pan fo angen, o ystyried cymhlethdodau proses yr adolygiad barnwrol.
Nid ydym eto, fel pwyllgor, wedi cael ymateb ffurfiol gan Lywodraeth Cymru i’n hargymhellion, ac rwyf yn edrych ymlaen at glywed gan y Gweinidog yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Diolch yn fawr iawn.
Diolch. A gaf fi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn i gael cyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 yma mewn perthynas â goblygiadau ariannol y Bil Awtistiaeth (Cymru).
Nawr, ar yr achlysur hwn, nid oedd modd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol. Dyw hwn ddim yn safbwynt y mae'r pwyllgor am ei chymryd, gan, wrth gwrs, nad yw'n helpu Aelodau'r Cynulliad i graffu ar y ddeddfwriaeth dan sylw.
Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu manylion unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â darparu'r gwasanaethau presennol i'r Aelod sy'n gyfrifol am y Bil. Yn sgil hynny, ni chafodd y pwyllgor gyfle i drafod gwerth am arian opsiynau 1 a 2 yn llawn, gan nad oedd llawer o wybodaeth ar gael am gostau cyfredol Llywodraeth Cymru i lywio trafodaethau o'r fath. Mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth, fel prif ffynhonnell y wybodaeth ariannol, i ymgysylltu â'r broses hon, ac mae gennym ni bryderon sylweddol ynglŷn â diffyg ymgysylltu Llywodraeth Cymru yn yr achos hwn. Nawr, fe roddwyd gryn sylw i'r honiad mai cyfrifoldeb yr Aelod sy'n gyfrifol yw cynhyrchu'r asesiad effaith rheoleiddiol a darparu costau ar ei gyfer e, ond mae gan y Llywodraeth gyfrifoldeb hefyd i ymgysylltu ac i gydweithio'n llawn â'r broses yma. Nawr, mae ein profiad ni ar yr achlysur hwn yn awgrymu nad yw hyn wedi digwydd. Mi ddaeth Ysgrifennydd y Cabinet, fel oedd ei deitl e ar y pryd, i sesiwn dystiolaeth, gan gwestiynu nifer o'r ffigurau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, ni chawsom ni wybod am ei bryderon tan y cyfarfod hwnnw, ac roedd yr Ysgrifennydd Cabinet yn amharod i ddarparu tystiolaeth ysgrifenedig yn cynnwys manylion am ei bryderon ynghylch y costau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Felly, cyfyngwyd ar allu'r pwyllgor i gwestiynu ac i graffu ar y tybiaethau yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.
Yn ystod ein sesiynau tystiolaeth, mi ddaeth hi i'r amlwg nad oedd eglurder ynghylch gwariant penodol y Llywodraeth ar anhwylder sbectrwm awtistiaeth o fewn y darlun ehangach o wariant ar gyflyrau datblygu niwrolegol. Mae'r diffyg gwybodaeth hwn yn peri pryder i'r pwyllgor. Sut y gallwn ni ystyried effeithiolrwydd un o bolisïau'r Llywodraeth heb wybod faint o arian sydd wedi'i wario arno fe? Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu bod ei chynllun strategol diwygiedig ar ASD yn cwmpasu pob un o rannau allweddol y Bil hwn, ac eto, nid oes ganddi unrhyw wybodaeth ariannol am yr hyn sy'n cael ei wario yn y maes yma. Roedd y diffyg gwybodaeth a'r diffyg ymgysylltu hwn yn golygu ei bod hi'n anodd i'r pwyllgor ddod i unrhyw gasgliadau. Er enghraifft, roeddem ni'n ansicr a oedd y galw ychwanegol posib am adnoddau a allai ddeillio o ddull gweithredu diagnosis wedi'i adlewyrchu'n llawn yn yr asesiad effaith rheoleiddiol. Fodd bynnag, nid oedd modd inni brofi'r ansicrwydd hwn yn sgil diffyg gwybodaeth glir am yr arian sy'n cael ei wario ar wasanaethau ASD.
Felly, ar yr achlysur yma, dyw'r pwyllgor ddim yn gallu gwneud penderfyniad ar ddilysrwydd yr asesiad effaith rheoleiddiol hwn. Dyw'r Aelodau ddim wedi cael unrhyw reswm ariannol sylweddol i'r ddeddfwriaeth beidio â symud yn ei blaen, ond dŷn ni ddim wedi gallu pennu a oes unrhyw werth am arian yn y ddeddfwriaeth hon yn sgil y diffyg gwybodaeth ariannol. Nawr, mae llwyddiant deddfwriaeth yn dibynnu ar wybodaeth gywir, ac roedd methu â darparu'r wybodaeth ar yr achlysur hwn wedi rhwystro'r broses graffu.
Rŷn ni'n credu bod hwn yn gynsail sy'n peri pryder, ac yn gynsail na ddylid ei ailadrodd. Mi fydden ni'n annog y Llywodraeth, os yw o'r farn ei bod yn briodol pleidleisio o blaid caniatáu i Fil Aelod symud yn ei flaen ar y cam 'caniatâd i fwrw ymlaen', hynny yw 'leave to proceed'—mi ddylai sicrhau ei bod yn barod i ymgysylltu'n llawn â'r Aelod sy'n gyfrifol. Gall beidio â gwneud hynny arwain at waith craffu gwael, gall arwain at ddefnydd gwael o amser y Cynulliad ac, yn wir, adnoddau'r Cynulliad, ac yn bwysicaf oll, wrth gwrs, gall arwain at annhegwch i randdeiliaid sydd â diddordeb dilys a gwirioneddol yn y pwnc sydd o dan sylw.
Diolch. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Dyma adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Cyflwynwyd adroddiad gennym ar y Bil Awtistiaeth (Cymru) ar 7 Rhagfyr ac fe wnaethom chwe argymhelliad. Rwy'n falch o nodi bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein holl argymhellion, ac os yw'r Bil yn symud ymlaen i Gyfnod 2, edrychwn ymlaen at weld y gwelliannau angenrheidiol yn cael eu cyflwyno. Bydd fy nghyfraniad y prynhawn yma yn canolbwyntio ar ddau o'n hargymhellion: argymhellion 3 a 5. Y cyntaf o'r rhain: yn absenoldeb darpariaethau gorfodi yn y Bil, rydym yn bryderus ei bod hi'n ymddangos mai'r unig rwymedi posibl a allai fod ar gael fyddai camau i ofyn am adolygiad barnwrol, a chredwn fod hynny'n anfoddhaol oherwydd ei gymhlethdod, ei gost uchel a'r perygl o oedi. Mae ein hargymhelliad 3 yn awgrymu y dylai'r Aelod cyfrifol ailystyried a yw'r rhwymedïau sydd ar gael i ddinasyddion o dan y Bil yn briodol, ac os oes angen, dylid cyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu ffordd fwy effeithiol o orfodi darpariaethau'r Bil.
Nodaf fod yr Aelod cyfrifol wedi dweud ei fod, ar hyn o bryd, wedi gallu nodi ffordd ystyrlon o ddiwygio'r Bil yn y cyswllt hwn. Fodd bynnag, rwy'n croesawu ei ymrwymiad i weithio gydag Aelodau ac arbenigwyr eraill gyda'r nod o gryfhau rhwymedïau sydd ar gael o dan y Bil, os yw'n mynd ymlaen i'r cyfnod nesaf. Fodd bynnag, deil hwn i fod yn faes pryder pwysig i'r pwyllgor ac yn wendid yn y Bil ar ei ffurf bresennol.
Gan symud ymlaen, mae'r pŵer i ddiwygio'r diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth yn adran 9 i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn eithriadol o eang. Rydym yn pryderu ynglŷn â'r ymagwedd hon am nifer o resymau. Mae'n amlwg o femorandwm esboniadol yr Aelod cyfrifol fod cryn dipyn o feddwl a gwaith ymchwil wedi mynd i baratoi Bil sy'n ymwneud yn unig ag awtistiaeth. Fodd bynnag, mae'r Bil yn caniatáu defnyddio is-ddeddfwriaeth i ymestyn darpariaethau'r Bil i gynnwys anhwylderau niwroddatblygiadol—term nad yw'r Bil yn ei ddiffinio—amhenodol eraill heb warant y bydd y ddeddfwriaeth honno wedi'i hategu gan yr un lefel o dystiolaeth a dadansoddiad i'w chynnal. Pe bai'r Bil yn cael ei roi mewn grym, a phe defnyddid y pwerau yn adran 9(1), gallai ddod yn Ddeddf awtistiaeth sy'n berthnasol i amrywiaeth o anhwylderau niwroddatblygiadol ac nid awtistiaeth yn unig. Mae potensial i hyn achosi dryswch. At hynny, byddai'n golygu na fyddai is-ddeddfwriaeth a fo'n ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn ddarostyngedig i'r un lefel o graffu â'r Bil awtistiaeth, ond yn hytrach fel darn o is-ddeddfwriaeth, ac y byddai ehangu cymhwysiad y ddeddfwriaeth weithredol yn amodol ar bleidlais i'w derbyn neu ei gwrthod, heb gyfle i ddiwygio'r ddeddfwriaeth honno. O ystyried ehangder y pŵer, nid ydym yn credu y byddai hyd yn oed cymhwyso gweithdrefn uwchgadarnhaol yn goresgyn ein pryderon.
Yn ein barn ni, nid yw dull gweithredu'r Bil yn ymarfer deddfwriaethol da ac ni fyddai'n arwain at ddeddfwriaeth dda. Am y rheswm hwnnw, awgrymodd ein hargymhelliad 5, os yw'r Bil yn symud ymlaen i'r cyfnod nesaf, y dylai'r Aelod cyfrifol gyflwyno gwelliant i adran 9(1) o'r Bil er mwyn dileu paragraff (b) ar y diffiniad o anhwylder sbectrwm awtistiaeth. Wrth ffurfio'r farn hon, rydym yn cydnabod bod y darpariaethau wedi'u cynnwys ar sail ymatebion ymgynghoriad a ddaeth i law'r Aelod cyfrifol. Fodd bynnag, yn ein barn ni, y ffordd briodol o fod wedi cyflawni hyn fyddai cyflwyno Bil yn ymwneud ag anhwylderau niwroddatblygiadol yn gyffredinol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod hefyd y byddai hyn wedi bod y tu allan i delerau'r bleidlais ar gais gwreiddiol yr Aelod cyfrifol, ac roedd ei allu i wneud hyn yn gyfyngedig. Felly, mae'n destun pryder fod hyn yn ymddangos yn rhan o'r Bil.
Rwy'n nodi ac yn croesawu'r ffaith bod yr Aelod cyfrifol wedi derbyn ein casgliadau a'n hargymhellion ar y mater hwn. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwyf am ddweud ar y dechrau fod pawb yn y Siambr hon am wella canlyniadau ac ansawdd bywyd i bobl awtistig a'u teuluoedd. A chytunaf fod angen i gymorth i bobl awtistig fod yn well. Nid yw'r cymorth hwnnw ar gael yn gyson eto, ac i rai teuluoedd mae'n teimlo fel brwydr i gael y cymorth cywir ac fel pe bai'r system yn gweithio yn eu herbyn. Bydd llawer, os nad pob un ohonom ar draws y Siambr hon, wedi clywed am y profiad hwn yn uniongyrchol gan ein hetholwyr, ac yn cydnabod yr effaith y gall hyn ei chael ar deuluoedd y cawsom ein hethol i'w gwasanaethu, ac yn fwy na hynny, mae nifer o bobl ar draws y Siambr yn gyfarwydd â'r profiad hwnnw yn ein teuluoedd ein hunain.
Ceir pryderon dilys a difrifol y mae'r Llywodraeth a minnau o ddifrif yn eu cylch ac wedi ymrwymo i fynd i'r afael â hwy. Dyna pam y mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi'n sylweddol, a bydd yn parhau i fuddsoddi, mewn gwasanaethau newydd. Nid a ddylem wella gwasanaethau i wneud gwahaniaeth go iawn i brofiad byw pobl awtistig a'u teuluoedd sydd wrth wraidd y gwahaniaeth rhyngom yn y Siambr hon; mae'r gwahaniaeth rhyngom yn ymwneud â sut y gallwn wneud y gwahaniaeth hwnnw.
Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Cyllid am ddwyn ynghyd ystod eang o safbwyntiau wrth iddynt graffu ar y ddeddfwriaeth. Mae adroddiadau'r pwyllgorau'n dangos consensws eang ar gyfer ceisio gwneud gwelliannau yn ein gwasanaethau awtistiaeth. Nid oes unrhyw un o adroddiadau pwyllgorau'r Cynulliad yn gwneud argymhelliad cadarnhaol y dylai'r Bil fynd rhagddo. Credwn fod gennym yr holl bwerau deddfwriaethol sydd eu hangen arnom i gyflawni'r gwelliannau gofynnol mewn gwasanaethau awtistiaeth, ac rydym yn cyflawni'r ymrwymiadau a nodwyd gennym yn y strategaeth awtistiaeth. Os na wireddir y gwelliannau rydym wedi ymrwymo i'w gwneud, mae'r drws ar agor i ddeddfwriaeth yn y dyfodol, os byddai hynny'n gwneud y gwahaniaeth y mae pawb ohonom am ei weld.
Rwy'n derbyn efallai eich bod yn ffeithiol gywir pan ddywedoch yn awr nad oedd argymhellion yr un o'r pwyllgorau'n nodi y dylai'r Bil fynd rhagddo, ond dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn huawdl yn ei gyfraniad yn gynharach nad oeddem ni fel pwyllgor yn gallu penderfynu y naill ffordd neu'r llall. Felly, ni wnaethom wrthod y Bil chwaith, dim ond dweud nad oedd digon o gostau wedi'u darparu ar ein cyfer, gan Lywodraeth Cymru yn bennaf, er mwyn iddo allu mynd rhagddo.
Fe ddof at hynny. Mae'n bwynt sy'n destun dadl rhwng y Llywodraeth a'r Pwyllgor Cyllid ynglŷn â darparu gwybodaeth. Rwyf am wneud rhywfaint o gynnydd cyn imi dderbyn ymyriadau pellach.
Rydym wedi dechrau ar gyfres o ddiwygiadau i wneud gwasanaethau'n fwy ymatebol i anghenion unigol pobl awtistig a'u teuluoedd. Cred y mwyafrif clir o'r clinigwyr, y grwpiau proffesiynol, y GIG a llywodraeth leol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon fod y diwygiadau yr ydym wedi eu cyflwyno angen cyfle i weithio a chael eu gwerthuso. Dyna hefyd oedd barn rhai o aelodau'r pwyllgor yn eu hadroddiad. Credaf fod rhaid i'n ffocws yn awr fod ar gyflawni'r ymrwymiadau a wnaethom: cwblhau'r gwaith o gyflwyno'r gwasanaeth awtistiaeth integredig erbyn diwedd y flwyddyn ariannol hon, cwblhau gwaith terfynol ar y cod statudol a fydd yn pennu safonau newydd ar gyfer gofal a gwasanaethau, a'n hymrwymiad i werthuso a dysgu o'r hyn a wnaethom hyd yma.
Rwyf wedi ysgrifennu at yr Aelodau yr wythnos hon yn amlinellu ystod o'n hymrwymiadau i wella a gwerthuso. Rydym yn cydnabod y galw am fwy o gysondeb a wnaed gan y pwyllgor iechyd, ac rydym wedi ymrwymo i wneud yn union hynny, ond ni fydd ein hymrwymiad i wella yn dod i ben adeg y cyfnod pleidleisio heddiw. Mae hwn yn ymrwymiad ar gyfer y dyfodol, ac rwy'n disgwyl i'r Llywodraeth gael ei dwyn i gyfrif am gyflawni'r ymrwymiadau hynny. Y dewis arall sydd gennym ger ein bron heddiw yw deddfwriaeth sydd mewn perygl, er gwaethaf ei bwriad, o wneud niwed yn hytrach na daioni. Os yw'r Bil hwn yn symud ymlaen heddiw, byddai'n rhaid i waith ar y cod statudol arafu gan y byddai angen i swyddogion ganolbwyntio ar y Bil yn lle hynny. Mae'r ymgynghoriad ar y cod statudol hwnnw'n agored tan 1 Mawrth, a buaswn yn annog pawb i leisio barn, gan gynnwys y pwyntiau a wnaeth yr Aelod cyfrifol wrth agor.
Credwn y bydd y cod yn mynd i'r afael â llawer o'r materion craidd a nodwyd yn y Bil, gan gynnwys safonau gwasanaeth statudol a lefelau cymorth y gall pobl ddisgwyl eu cael. Hefyd, fe'i hysgrifennwyd mewn iaith glir a hygyrch na allwn ei gyflawni mewn deddfwriaeth, ac wrth gwrs bydd y cod ar waith yn gynt na'r mesurau a awgrymir yn y Bil. Yn amodol ar ymatebion i'r ymgynghoriad, rwy'n disgwyl y bydd y cod mewn grym cyn diwedd y flwyddyn galendr hon.
Diolch i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. Mae'r hyn rwyf newydd ei glywed yn ymwneud â dyhead, ac rydych wedi dweud os nad yw eich diwygiadau'n gweithio y byddwch yn ystyried deddfwriaeth, ond bod angen i chi weld a yw'r gwaith a wnewch yn awr yn gwreiddio. Eto i gyd, fe gyflwynwyd y Bil isafbris am alcohol gennych ac fe fynnoch chi ei fod yn angenrheidiol—fod y ddeddfwriaeth yn angenrheidiol—heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi hynny o gwbl. Pam fod gennych set wahanol o reolau ar gyfer hwn i'r hyn sydd gennych ar gyfer eich deddfwriaeth eich hun?
Rwy'n gwrthod y gymhariaeth yn llwyr; maent yn faterion hollol wahanol. Mae'r mesurau iechyd y cyhoedd roeddem eisiau eu rhoi ar waith gyda'r Ddeddf isafbris uned o alcohol wedi eu cefnogi gan ystod o dystiolaeth a gyflwynwyd gennym i'r pwyllgorau, ac yn wir, cefnogwyd diben a phwynt y Bil hwnnw gan y pwyllgorau yn y Cynulliad hwn yn ystod eu gwaith craffu. Ond os caiff y Bil hwn ei basio, rydym mewn perygl o ganolbwyntio ein hadnoddau clinigol ar ddiagnosis yn hytrach na gwasanaethau cymorth parhaus. Roedd y comisiynydd plant, colegau brenhinol y meddygon teulu, nyrsys, therapi iaith a lleferydd, seiciatreg, pediatreg ac iechyd plant, a therapi galwedigaethol, Cydffederasiwn y GIG, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru oll yn cydnabod yr angen am gysondeb a gwella pellach. Roeddent oll yn unedig hefyd nad y Bil hwn yw'r ffordd iawn o wneud hynny. Fe gymeraf ymyriad pellach os caniatewch amser i mi wneud hynny, Ddirprwy Lywydd.
Yn fyr iawn, Weinidog. Credaf eich bod yn camddarlunio safbwynt y comisiynydd plant. Yr hyn y mae hi wedi'i ddweud yw ei fod yn fater dadleuol, ac mae gennyf ei hymateb yma o fy mlaen. Mae'r angen am ddeddfwriaeth yn fater dadleuol. Rwy'n cydnabod yn llwyr eich bod yn gywir o ran yr hyn a ddywedoch am y cyrff eraill a grybwyllwyd gennych, ond credaf y dylech adolygu'r hyn a ddywedoch am y comisiynydd plant, gan nad yw hynny'n gywir.
Rwy'n credu hefyd y gwelwch fod y comisiynydd plant wedi cyfeirio at y risg y byddai cael dull o weithredu a arweinir gan ddiagnosis yn cael ei weld fel tocyn aur i wasanaethau. Roedd y chwe choleg brenhinol yn glir y dylid darparu gwasanaethau ar sail angen, nid diagnosis. Roeddent hefyd yn dweud y byddai'r ymarferwyr arbenigol y byddai eu hangen er mwyn cyflawni cynllun y Bil yn anodd i'w recriwtio, ni waeth a fyddai arian ychwanegol ar gael ai peidio. Ac awgrymai'r dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd y byddai'r Bil yn arwain at ddargyfeirio cyllid ac adnoddau staff i roi sylw i gynlluniau i fynd i'r afael â rhestrau aros ac oddi ar ddarparu gofal mawr ei angen ar ôl diagnosis i blant, oedolion, rhieni a gofalwyr, ac wrth gwrs, fel rheol bydd yr un staff yn darparu gofal sy'n diwallu anghenion pobl nad ydynt wedi cael diagnosis o'r cyflwr neu sydd wedi cael diagnosis o gyflwr niwroddatblygiadol gwahanol. Mae cynrychiolwyr ar ran anhwylderau niwroddatblygiadol eraill yn poeni am yr effeithiau andwyol ar wasanaethau os cyflwynir deddfwriaeth ar gyfer awtistiaeth yn unig ar draul darparu gwasanaethau ehangach. Gwnaethpwyd y pwynt hwnnw'n glir gan glinigwyr a chynrychiolwyr anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor iechyd.
Nid oedd y Pwyllgor Cyllid yn gallu ffurfio safbwynt ynglŷn ag i ba raddau y mae'r Bil yn cyflawni gwerth am arian ac roeddent yn ein beio ni i raddau helaeth, ac rydym yn anghytuno â hynny yn y modd cryfaf. Ni allwn ddarparu gwybodaeth nad ydym yn meddu arni, ac nid gwaith y Llywodraeth yw gwneud gwaith yr Aelod cyfrifol i geisio profi rhinweddau ei gynnig. Fel aelod o'r meinciau cefn, bûm yn cydweithio ar waith newydd i ddeall effaith ariannol y Bil.
Rwyf wedi cyfarfod â phobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd a gofalwyr sy'n cefnogi ein dull o weithredu fel Llywodraeth. Nid yw'n wir fod yr holl bobl awtistig a'u teuluoedd yn cefnogi'r Bil hwn, ac mae fy masged i mewn i'n cadarnhau hynny. Ond bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i wrando a gweithredu ar yr adborth a'r gwerthusiad o'r mesurau rydym yn eu rhoi ar waith. Rydym yn ymrwymedig i gyflawni'r gwelliannau sydd eu hangen arnom drwy gryfhau'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n seiliedig ar anghenion.
Rwyf am gloi drwy ddweud eto fod cytundeb yn y Siambr hon gyda'r Aelod cyfrifol ac ar draws y pleidiau ynglŷn â'r angen i wella gwasanaethau ar gyfer pobl awtistig, ac mae'r Llywodraeth hon yn buddsoddi mewn gwelliant hirdymor, ond ceir anghytundeb o hyd ynglŷn â beth y mae hynny'n ei olygu. Barn gweithwyr proffesiynol iechyd a gofal sy'n gweithio gyda ac ar ran pobl awtistig yw y byddai canlyniadau anfwriadol ac annymunol i'r Bil. Mae hynny'n cynnwys y tebygolrwydd o ailgyfeirio adnoddau a fyddai'n lleihau, nid yn gwella, gofal a chymorth i bobl awtistig a phobl eraill â chyflyrau niwroddatblygiadol, ac rydym yn rhannu'r asesiad hwnnw. Nid ydym yn credu y byddai'r Bil hwn yn sicrhau'r gwelliant hirdymor i wasanaethau a chanlyniadau y mae pawb ohonom eisiau ei weld. Felly, gofynnaf i'r Aelodau gefnogi ein hymgyrch i wella gwasanaethau yn y cyfnod nesaf o ddiwygio, sy'n cynnwys cod statudol. Mae hwn yn ddewis anodd i'r Aelodau ei wneud, ond rwy'n credu o ddifrif na fydd y Bil yn cyflawni yn erbyn y gobeithion a'r dyheadau sydd gan lawer ar ei gyfer. Rwy'n derbyn na fydd Aelodau eraill yn rhannu fy marn. Beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais heddiw, rwy'n rhoi fy ymrwymiad, unwaith eto, i weithio gyda phobl ar draws y Siambr a thu hwnt i wneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol gyda ac ar ran pobl awtistig ar draws y wlad.
Mewn cyfarfod o'r grŵp trawsbleidiol ar awtistiaeth ym mis Tachwedd 2014, dywedodd aelodau o'r gymuned awtistiaeth o bob rhan o Gymru wrthym nad oedd strategaeth awtistiaeth Llywodraeth Cymru yn cyflawni a bod pobl yn cael eu gwthio ymhellach i sefyllfa argyfyngus. Pleidleisiodd y cyfarfod yn unfrydol o blaid Deddf awtistiaeth. Ar 21 Ionawr 2015, arweiniais ddadl Aelod unigol yma a alwai ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru. Pleidleisiodd yr Aelodau o blaid. Ym mis Hydref 2016, arweiniais ddadl yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno Bil Awtistiaeth (Cymru) yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Fe'i trechwyd gan chwip plaid. Felly roeddwn yn falch iawn pan gyflwynodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, gynigion ar gyfer y Bil Arfaethedig Aelod hwn.
Rhaid i awtistiaeth gael hunaniaeth statudol yng Nghymru, gyda dyletswyddau penodol ar awdurdodau lleol a byrddau iechyd, ymhlith eraill. Fel arall, mae dibyniaeth ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru ar anhwylderau sbectrwm awtistig a'r gwasanaeth awtistiaeth integredig yn addo mwy o'r un peth. Bob dydd, mae pobl awtistig neu aelodau o'u teuluoedd yn cysylltu â mi a fy swyddfa mewn argyfwng am nad yw darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn deall, neu eisiau deall, beth yw awtistiaeth, er eu bod wedi dilyn y cwrs hyfforddi. Rydym yn gorfod cynghori darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys y gwasanaeth awtistiaeth integredig, ynglŷn â sut y mae angen gwneud pethau mewn ffordd wahanol gyda phobl awtistig. Fel y mae arweiniad y neuaddau brawdlys yn datgan:
Er mwyn i bobl ag awtistiaeth allu cyfathrebu'n effeithiol, rhaid i'w hanghenion gael eu nodi'n gynnar; rhaid caffael gwybodaeth gefndirol gynhwysfawr am yr unigolyn; rhaid rhoi ystyriaeth ofalus i'r amgylchedd cyfathrebu; rhaid paratoi'r unigolyn yn briodol ar gyfer yr hyn a ddisgwylir ac arfer dull cynlluniedig a hyblyg.
Maent yn ychwanegu:
Rhaid ystyried nid yn unig y mathau o gwestiynau a ofynnir, ond hefyd y modd o wneud hyn. Mae amseriadau, newidiadau i amserlenni a ffactorau amgylcheddol (megis adeiladau prysur) oll yn debygol o effeithio ar ansawdd cyffredinol tystiolaeth yr unigolyn.
Felly, mae'n ddyletswydd ar wasanaethau cyhoeddus i sefydlu ac addasu i anghenion cymdeithasol ac anghenion cyfathrebu unigolion awtistig, cydnabod achosion pryder cynyddol unigolyn awtistig ac felly osgoi trin yr unigolyn awtistig fel y broblem, rhywbeth sy'n digwydd bob dydd wrth inni drafod hyn, ac wrth inni symud ymlaen.
Fel y clywsom gan yr eiriolwr awtistiaeth, 'Agony Autie' yng nghyfarfod diwethaf y grŵp awtistiaeth trawsbleidiol, ceir gormod o ffocws ar ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad, nid beth sy'n llywio'r ymddygiad. Y peth cyntaf i'w ofyn yw: a ydynt mewn poen? Fel y dywed y Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth, daeth yn amlwg fod y darlun a baentiwyd gan Lywodraeth Cymru a rhai cyrff proffesiynol, megis y Colegau Brenhinol, yn bur wahanol i brofiadau byw pobl awtistig a'u teuluoedd.
Mae hyn yn wir am CLlLC hefyd.
Fel rhiant i bobl â chyflyrau niwroamrywiol a nam ar y synhwyrau, nid wyf yn galw am ddeddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol ar eu cyfer, am nad ydynt yn dioddef yr un graddau o wahaniaethu, trawma ac artaith ag y mae pobl awtistig yn eu dioddef yn rhy aml heddiw. Fel y dywedodd mam i fab awtistig a gyflawnodd hunanladdiad yn 2018 wrthyf:
Roedd i'w weld yn ddyn ifanc tawel a siriol—nid ydynt yn gweld y frwydr y mae'r plant hyn yn ei hwynebu bob dydd i oroesi mewn byd niwronodweddiadol.
Yn nodweddiadol o sawl un, dywedodd un fam wrthyf fod ei merch 13 oed wedi bod allan o addysg ers pedair blynedd oherwydd diffyg gwybodaeth a dealltwriaeth o awtistiaeth. Dywedodd un arall wrthyf fod ei merch awtistig 240 milltir i ffwrdd mewn ysbyty iechyd meddwl o ganlyniad i flynyddoedd o orbryder oherwydd diffyg dealltwriaeth, a dywedodd un arall fod adnabod awtistiaeth yn gynnar yn hanfodol gan fod llawer o'r anawsterau cysylltiedig yn elwa o ymyrraeth gynnar. Ni chafodd fy mab 11 oed hyn a bydd ei fywyd yn llawer anos o ganlyniad i hynny.
Dywedodd eraill, er enghraifft, mae bod yn Awtistig fel bod yn rhywbeth nad yw'n berson, fod gan bobl ar y sbectrwm awtistig gyfraniad enfawr i'w roi i gymdeithas ond nid pan fyddant ar goll heb gael eu deall yn iawn, a heb gymorth a chyfleoedd ac fel rhiant i blentyn Awtistig a nyrs ysgol broffesiynol mae'n deg dweud bod gwasanaethau ar gyfer pobl Awtistig yn ddiffygiol.
Fis Ebrill diwethaf, siaradais mewn digwyddiad a gynhaliwyd gennyf yn y Cynulliad, Going Gold for Autistic Acceptance, lle roedd oedolion awtistig yn cyflwyno syniadau ynglŷn â sut y gallwn oll gydweithio gyda'n gilydd yn gydgynhyrchiol i sicrhau ein bod yn dechrau mynd i'r afael â'r gwahaniaethu yn erbyn pobl awtistig sydd bellach, ac rwy'n dyfynnu, yn norm yn hytrach nag eithriad.
Dim ond gwleidydd haerllug iawn a fyddai'n credu eu bod yn deall anghenion pobl awtistig yn well na phobl awtistig eu hunain.
Gwnaf yr apêl unwaith eto fod gennyf lawer o siaradwyr, ac mae hyd yn oed munud dros yr amser yn golygu eich bod yn amddifadu rhywun arall o gyfle i siarad. Hefin David.
Yn gyflym iawn, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gydnabod sedd wag Steffan Lewis. Ni chefais gyfle ddoe, a byddaf yn ei golli'n anfesuradwy.
Hoffwn rannu gyda chi, Ddirprwy Lywydd, rai o'r cwestiynau sydd gan riant plentyn ag awtistiaeth. Gallai'r cwestiynau gynnwys: 'A fydd hi'n gallu aros yn ei hysgol? Sut y gallaf ei helpu i oresgyn ei rhwystredigaeth am nad yw hi'n gallu dweud wrthyf beth mae hi eisiau? A fyddwn ni byth yn gallu cael sgwrs? Sut y gallwn ei hyfforddi i fynd i'r toiled ar ei phen ei hun os nad yw hi'n deall y cysyniad? Pwy all fy nysgu sut i'w helpu hi? A fydd hi byth yn gallu dweud wrthyf ei bod hi'n fy ngharu? Rwy'n dweud hynny wrthi hi bob dydd.' Dyma rai o'r cwestiynau sydd gan y rhiant, a fi yw'r rhiant hwnnw, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n datgan buddiant yn y ddadl hon.
Ni fydd fy mhenderfyniad ynglŷn â sut y pleidleisiaf heddiw wedi ei ddylanwadu gan y cyngor pleidleisio a gefais gan y Llywodraeth. Dywedais wrth y prif chwip beth amser yn ôl, pe bawn i'n teimlo ar ôl llawer o feddwl a thrafod gyda rhanddeiliaid fod y Bil hwn yn briodol, y buaswn yn cefnogi ei symud i Gyfnod 2. Bob tro y byddwn yn pleidleisio yn y Siambr hon, rydym yn gwneud hynny er mwyn gwneud bywydau'r bobl a gynrychiolwn yn well. Nid yw fy niddordeb personol yn gorbwyso'r ystyriaeth honno, ond mae'n ei llywio.
Tra bûm yn ystyried, cefais drafodaethau gyda'r Gweinidog—sydd wedi bod mor garedig â chyfarfod â mi ddwywaith—gyda Paul Davies AC, gyda Chymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, gydag arbenigwyr bwrdd iechyd prifysgol Aneurin Bevan, gydag etholwyr yr effeithir arnynt gan awtistiaeth, a chydag aelodau o staff uwch yn ysgol arbennig Trinity Fields lle rwy'n llywodraethwr.
Rwyf wedi ystyried y Bil yn fanwl, yn ogystal â holl adroddiadau'r pwyllgorau. Yn dilyn y trafodaethau hyn, at ei gilydd, nid wyf yn teimlo bod y Bil fel y'i cyflwynwyd ar hyn o bryd yn un y gallaf ei gefnogi, ac mae hwnnw'n benderfyniad a wneuthum yn sgil ystyriaeth fanwl a thrwyadl iawn.
Hoffwn rannu llythyr gyda chi gan rywun rwy'n ei barchu'n fawr iawn—. [Torri ar draws.] Ie.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad, ac mae hwn yn gyfraniad pwysig iawn. A ydych wedi ystyried y gallai gwelliannau yng Nghyfnod 2 ddatrys y pryderon sydd gennych?
Rwyf wedi ystyried i ba raddau y byddai gwelliannau'n effeithiol ac o gofio am y sicrwydd a gawsom gan y Gweinidog iechyd, pe bai angen Bil yn y dyfodol, nid wyf yn meddwl—o ystyried y camau y mae'r Llywodraeth wedi'u cymryd, credaf ei bod yn briodol i ni beidio â symud y Bil hwn i Gyfnod 2, o gofio cymaint o amser wedyn y byddai gwelliannau'n ei gymryd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn derbyn hynny—dweud 'shame' wrthyf pan fo gennyf brofiad personol o hyn. Credaf fod dweud hynny'n amhriodol.
Hoffwn rannu llythyr gyda chi oddi wrth Ian Elliot, sy'n bennaeth ysgol Trinity Fields, a Michelle Fitton, sy'n bennaeth cynorthwyol ac arweinydd ar ran gwasanaeth sbectrwm awtistig Caerffili sy'n uchel iawn ei barch. Dyma bobl y mae gennyf barch anfesuradwy tuag atynt, ac maent wedi codi pryderon yn y dystiolaeth i'r pwyllgor a ddaeth i law. Maent o'r farn nad yw'r Bil yn rhoi digon o bwyslais ar farn plant a phobl ifanc yn unol ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i CCUHP, ac maent yn dweud, mewn llythyr ataf ddoe, y dylid canolbwyntio o bosibl ar ddatblygu'r cod ymarfer a sicrhau adnoddau i hyrwyddo gwasanaethau ar gyfer unigolion ag anhwylderau sbectrwm awtistig ochr yn ochr â Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018. Felly, maent yn argymell peidio â bwrw ymlaen gyda'r Bil.
Mae bwrdd iechyd Aneurin Bevan wedi ysgrifennu ataf i ddweud hoffem hefyd ail-bwysleisio pryderon ynglŷn â deddfwriaeth ar gyfer diagnosis penodol. Mae yna bryderon na fydd y diffiniad ehangach o anhwylderau sbectrwm awtistig a ddefnyddir yn y cynigion yn ddigon hyblyg i adlewyrchu ac ymateb i'r ddealltwriaeth sy'n datblygu'n barhaus o niwro-anableddau. Wrth i gategorïau newydd ddod i'r amlwg byddai angen diwygio'r ddeddfwriaeth yn rheolaidd i adlewyrchu'r ddealltwriaeth newydd hon.
Felly, awgrymir bod hyn yn cadarnhau'r awgrym y dylai unrhyw amddiffyniad, er cymaint o groeso a fyddai iddo ar gyfer anhwylderau sbectrwm awtistig, fod yn seiliedig ar angen ac nid ar ddiagnosis neu gyflwr.
Ceir myrdd o symptomau y mae pobl â chyflwr sbectrwm awtistig yn eu dangos, ac mae'r ffaith nad oes dau unigolyn yn union yr un fath yn ei gwneud yn anodd iawn cynhyrchu deddfwriaeth ymarferol. Rwyf bob amser yn gweithio ar ran unigolion ag awtistiaeth a chyfrifoldebau gofalu am unigolion ag awtistiaeth, a hoffwn annog y Gweinidog i weld yr alwad hon am y Bil fel galwad i weithredu gan bobl yr effeithir arnynt gan awtistiaeth. Fe'm calonogir gan ei lythyr ddoe, a amlinellodd y camau gweithredu cynhwysfawr parhaus y mae wedi'u rhoi ar waith, a chaf fy nghalonogi gan yr araith a wnaeth heddiw.
O'm rhan i, tra byddaf yn disgwyl am ddiagnosis ar gyfer fy merch, ni allaf ond canmol y cymorth arbenigol a gafodd gyda datblygu lleferydd ac iaith, ond bu'n rhaid i ni fel rhieni ymladd amdano. Rwyf hefyd yn croesawu'r cwrs hwyluso cyfathrebu a fynychais fel rhiant, sydd wedi fy ngalluogi i ddatblygu cyfathrebu gweledol gyda fy merch. Ond mae'n wir fod llawer o gwestiynau a llawer o ansicrwydd yn parhau i mi a fy nheulu. Nid wyf yn gwybod beth a ddaw yn y dyfodol a beth yw'r camau nesaf, ond rwyf mor hyderus ag y gallaf fod fod y Llywodraeth yn gweithredu i ddarparu mwy o gymorth i bawb ohonom yr effeithir arnom gan awtistiaeth a'r anghenion a ddaw yn ei sgil.
Rhaid imi ddweud, fel aelod o'r pwyllgor iechyd, dechreuais y broses hon yn teimlo bod gennyf rywfaint o ymwybyddiaeth o'r materion, ond roeddwn ymhell o fod wedi fy argyhoeddi mai deddfwriaeth oedd yr ateb a thrwy'r broses o dderbyn tystiolaeth, rwyf wedi newid fy meddwl.
Cefais fy nigalonni, a fy nhristáu weithiau, gan y dystiolaeth a gawsom gan bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd am yr heriau y maent yn eu hwynebu i gael rhyw fath o ddiagnosis, i ddod o hyd i gymorth lle y mae angen cymorth, a lle y mae'n bodoli, i gael mynediad at y cymorth hwnnw. Roedd rhai o'r straeon yn dorcalonnus, ac mewn rhai mannau yng Nghymru, mae arnaf ofn fod gwasanaethau i bobl ifanc, yn arbennig, fawr gwell nag yr oeddent pan oeddwn yn athrawes anghenion arbennig yn y 1980au. Ceir diffyg cysondeb syfrdanol yn genedlaethol, a lle mae pethau'n dda, maent yn aml yn dibynnu gormod ar unigolion medrus a gofalgar mewn proffesiynau penodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n amlwg o'r ddadl heddiw y gallwn i gyd gytuno na ellir caniatáu i hyn barhau a bod yn rhaid gwneud rhywbeth, felly pam rwyf fi mor argyhoeddedig fod angen deddf arnom? Nawr, mae'n wir mai cymysg oedd y dystiolaeth a gawsom gan ein pwyllgor, ac mae'r gwahaniaethau wedi'u crynhoi gan eraill. Yn fras, roedd y rhai sy'n darparu gwasanaethau neu sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau yn erbyn deddfu. Caiff eu pryderon eu hadlewyrchu yn yr adroddiad. Ni cheisiaf ateb eu pwyntiau i gyd, ond hoffwn ddweud hyn: mae'n amlwg nad yw'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn darparu fframwaith cyfreithiol digonol ar gyfer darparu gwasanaethau i'r holl bobl sydd ag awtistiaeth. Mae'r pryderon a godwyd ynglŷn ag adnoddau yn rhai dilys, wrth gwrs, ac mae angen rhoi sylw iddynt. Ond rhan o drafodaeth ehangach yw hon ynglŷn â darparu adnoddau ar gyfer gofal a chymorth i bawb sydd eu hangen, ac nid yw'n rheswm naill ai dros beidio â deddfu neu dros ddeddfu. Ac wrth gwrs, a siarad yn gyffredinol, anaml y bydd darparwyr gwasanaethau'n dymuno gweld eu gwasanaethau yn ddarostyngedig i fwy o ddeddfwriaeth nag y credant sy'n angenrheidiol.
Helen, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i wneud.
O fy nghefndir fy hun, a gaf fi ddweud, fel meddyg teulu, yn aml pan fyddaf yn wynebu claf lle nad oes gwasanaeth—a'i fod yn ddibynnol ar y diagnosis—nid oes unfrydedd barn broffesiynol chwaith, ac rwy'n cefnogi Bil awtistiaeth?
Diolch am eich ymyriad, Dai—a minnau hefyd, wrth gwrs. Nawr, ar ochr arall y ddadl hon mae gennym y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, a'r sefydliadau sy'n eu cynrychioli. Drwy'r broses hon, yn bersonol ni chlywais unrhyw leisiau o'r grŵp hwn yn gwrthwynebu'r ddeddfwriaeth, er fy mod yn derbyn yn llawn na all hynny gynnwys pob barn, ac fe glywais, a gwrandewais yn ofalus iawn, ar beth oedd gan Hefin David i'w ddweud—er bod llawer o aelodau o deuluoedd yn dweud yn glir, wrth gwrs, na fyddai deddfwriaeth yn ddigon ar ei phen ei hun.
Fel y dywedais, roeddent yn disgrifio'r heriau enfawr a wynebir o ran mynediad at wasanaethau. Fe'm trawyd yn arbennig gan rieni a oedd wedi cyfrannu at ymgynghoriadau blaenorol, a oedd wedi eistedd mewn gweithgorau cenedlaethol a lleol, wedi cyfrannu cannoedd o oriau o gyngor a chymorth am ddim—a chlywed ganddynt wedyn nad oes unrhyw beth wedi newid yn eu canfyddiad hwy. Heb rym cyfreithiol nid ydynt yn credu y bydd unrhyw beth yn newid. Rhaid imi ddweud wrth y Gweinidog fod y teuluoedd hyn yn teimlo eu bod wedi clywed hyn i gyd o'r blaen.
Nawr, mae safbwynt y Llywodraeth, yr hoffwn gyfeirio ato'n fyr, yn rhyfedd a dweud y lleiaf. Ar y naill law, dywed y Gweinidog nad oes angen diagnosis, a bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn pennu sut y dylid darparu cymorth i bobl, yn seiliedig ar angen, heb ddiagnosis ffurfiol. Buaswn yn rhoi cefnogaeth lwyr i'r safbwynt hwnnw, ond mae'r holl dystiolaeth a gawsom ar y pwyllgor iechyd yn dangos nad yw hynny'n wir. Yn enwedig i blant ag awtistiaeth, heb ddiagnosis, nid oes unrhyw beth yn digwydd. Nid yw'n digwydd, a hyd yn oed pe bai'n digwydd, ni fydd rhai o'r bobl sydd ag awtistiaeth byth yn cyrraedd y trothwy ar gyfer y math o gymorth y lluniwyd y Ddeddf honno ar ei gyfer.
Nawr, mae'r Gweinidog yn dweud bod deddfwriaeth ar gyfer cyflyrau penodol yn ddi-fudd ac nad oes mo'i hangen. Eto, ar yr un pryd, mae'n argymell cyflwyno cod statudol ar gyfer cyflwr penodol. Nawr, wyddoch chi, Ddirprwy Lywydd, nid yw hyn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl. Rwy'n eithaf cyfarwydd â chael negeseuon cymysg gan y Llywodraeth hon, ond nid yn aml y maent yn gwrth-ddweud ei hunain yn agored fel y gwnaeth y Gweinidog yn un o'n cyfarfodydd.
Nid yw'r teuluoedd yn credu, ar y cyfan, fod cod yn ddigon. A yw'r ddeddfwriaeth hon yn berffaith? Wel, mae'n bosibl nad ydyw, ac mae'r Aelod sy'n ei chyflwyno wedi cydnabod hyn. Mae yna bryderon ynglŷn â'r anhawster i orfodi hawliau, a gwn ei fod wedi cytuno i edrych ar hyn. Efallai bod gorbwyslais ar asesu a diagnosis, yn hytrach na'r hawl statudol i gael gwasanaethau. Unwaith eto, mae'r Aelod sy'n noddi wedi dweud yn glir ei fod yn hapus i weithio gydag eraill i fynd i'r afael â hyn drwy gyfnod nesaf y broses.
Fel y teuluoedd, mae arnaf ofn nad wyf yn argyhoeddedig, ar ôl bod drwy'r broses flaenorol o greu'r strategaeth, fod unrhyw beth heblaw deddfwriaeth yn mynd i sicrhau'r hyn y maent yn eu haeddu i'r cyd-ddinasyddion hyn. Ar y sail honno, ac ar ran y bobl ag awtistiaeth a'u teuluoedd, gan gynnwys y rheini yn yr oriel yma heddiw, rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r Senedd. Gadewch i ni ganiatáu i'r ddeddfwriaeth symud ymlaen i'r cyfnod nesaf.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am gyflwyno'r Bil hwn. Rwy'n cefnogi'r Bil yn llwyr ac yn cytuno â phopeth a ddywedwyd hyd yma o'i blaid, felly fe geisiaf beidio ag ailadrodd y pwyntiau a wnaed eisoes.
Ond i droi at un o'r cyflwyniadau a gawsom yn erbyn y Bil, rwy'n siŵr fod pawb yma wedi cael yr e-bost ynglŷn â'r Bil, wedi'i ysgrifennu gan nifer o glinigwyr sy'n pryderu, os caiff y Bil ei basio, y collir ffocws ar gyflyrau y mae eu heffaith yr un mor fawr ag i'r rhai sy'n dioddef o anhwylder sbectrwm awtistig ond nad ydynt wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistig, ac felly nid ydynt yn cael eu cynnwys yn y Bil hwn a'r targedau a'r atebolrwydd a gyflwynir gan y Bil hwn. I'r clinigwyr hynny, buaswn yn ateb nad bai'r Bil fydd unrhyw fethiant ar ran GIG Llafur Cymru i ddiwallu anghenion plant nad ydynt wedi cael diagnosis o anhwylder sbectrwm awtistig. Bai'r Llywodraeth fydd hynny, a'i methiannau olynol hyd yma sydd wedi golygu bod angen y Bil hwn. Deallaf y pryderon sydd gan glinigwyr ynglŷn â chanlyniadau anfwriadol posibl y Bil. Mae'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi ei wylio bob amser, yn amlwg, ond gallai'r cyfraniad llawn bwriad da i'r ddadl hon weithredu i osgoi rhoi'r bai ar y Llywodraeth am gamreoli GIG Cymru mewn gwirionedd. Mater i'r Llywodraeth Lafur fydd i ba raddau y caiff plant sydd ag anghenion eraill eu hanwybyddu. Ni fydd y Bil hwn yn peri i unrhyw un gael ei anwybyddu; dim ond y ffordd y mae Llafur yn rhedeg GIG Cymru fydd yn peri hynny.
Ni allwn bleidleisio yn erbyn y Bil hwn am ein bod yn ofni nad yw'r Llywodraeth yn ddigon cymwys i allu ymdrin ag ef. Mae pobl Cymru angen i anallu'r Llywodraeth gael ei amlygu a'i herio, nid ei oddef a'i dderbyn. Felly, gyda phob dyledus barch i'r clinigwyr a nododd y pryderon, mae arnaf ofn na fydd dilyn eu cyngor ond yn gwneud i Lywodraeth Cymru deimlo'n well, yn hytrach na'r bobl sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig y mae eu hanghenion wedi eu hesgeuluso ers cyhyd.
Byddai'n well gan bawb ohonom pe na bai angen y Bil hwn. Byddai pawb ohonom yn dymuno gweld y GIG yn diwallu anghenion unigolion ag anhwylderau sbectrwm awtistig, ond gwyddom hefyd nad yw hynny'n digwydd. Nid yw'n ddigon da inni ddweud, 'Gadewch i ni beidio â gwneud dim yn ei gylch am fod angen ymdrin â diffygion eraill hefyd'—y ddadl diagnosis yn erbyn angen. Pe baem yn teimlo'r angen i gyflwyno Biliau ychwanegol i fynd i'r afael â dffygion y GIG dan arweiniad Llafur, dylem wneud hynny. Mae gwrthod mynd i'r afael â phroblem ar y sail nad yw'n ymdrin â holl ddiffygion y GIG ychydig fel meddyg yn gwrthod trin symptomau hirsefydlog claf hyd nes y doir o hyd i wellhad i'r clefyd gwaelodol. Ni allwn adael i'r rhai sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig ddioddef yn hwy tra doir o hyd i wellhad i'r ffordd ddi-glem y mae Llafur yn rhedeg y GIG, felly rwy'n annog yr holl Aelodau i bleidleisio o blaid y Bil hwn.
I droi at yr ail bwynt a wnaeth y clinigwyr, gwelir yn fwyaf amlwg fod y GIG yn gwneud cam â theuluoedd mewn angen yn yr ail bwynt a godir ganddynt, pan ddywedant fod yna berygl y bydd unigolion neu deuluoedd yn teimlo mai eu gobaith gorau o gael y cymorth sydd ei angen arnynt yw drwy gael y diagnosis penodol hwnnw, h.y. anhwylder sbectrwm awtistig. Pe bai'r GIG a gwasanaethau cymorth yn gweithredu fel y dylent, ni fyddai hyn yn broblem, ond nid yw'r ffaith ei bod yn broblem yn golygu na ddylem wneud unrhyw beth. Fel y dengys ffiasgo Betsi Cadwaladr, nid yn unig nad yw'r Llywodraeth yn gallu rhedeg y GIG ar lefel strategol, ni allant wneud hynny ar lefel uniongyrchol chwaith. Ategir y farn honno gan yr e-bost a gawsom gan y clinigwyr.
Felly, mewn gwirionedd, yr unig reswm pam fod angen y Bil hwn yw oherwydd bod y Llywodraeth Lafur wedi methu argyhoeddi GIG Cymru a sefydliadau eraill i ddarparu'r cymorth a'r gwasanaethau sydd eu hangen ar unigolion ag anhwylder sbectrwm awtistig. Rydym yn gwybod bod yna unigolion eraill, grwpiau o bobl a chymunedau yn cael eu siomi ar hyn o bryd gan y Llywodraeth Lafur ond, heddiw, anhwylderau sbectrwm awtistig sydd o dan sylw, ac er mwyn cael y cymorth sydd ei angen arnynt i rai sy'n byw ag anhwylderau sbectrwm awtistig, rwy'n annog pawb i gefnogi'r Bil hwn heddiw. Diolch.
Mae rhieni plant ag awtistiaeth y siaradaf â hwy'n teimlo nad ydynt yn cael y cymorth sydd ei angen, er bod y rhai sydd â phlant yn mynychu Ysgol Pen-y-Bryn, sy'n ysgol arbennig o dda yn fy etholaeth, yn canmol yr ysgol. Nid oes gennyf amheuaeth fod y Bil presennol yn ddiffygiol. Fodd bynnag, mae'n rhaid gwneud rhywbeth. Mae Llywodraeth Cymru wedi dechrau nifer o gynlluniau, ac mae yna ddadl dros aros iddynt gael eu gwerthuso. Yr hyn rwyf am i'r Gweinidog ei ddweud yn hollol bendant wrthyf heddiw er mwyn i mi beidio â phleidleisio dros y Bil yw, os gwelir bod y gwerthusiad yn dangos nad yw'r cynlluniau hyn a gyflwynodd y Llywodraeth yn gweithio, y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno ei Bil ei hun yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Credaf fod angen inni sicrhau bod yr hyn sydd ei angen ar gyfer y bobl yn cael ei gyflwyno, ac y caiff Bil wedi'i gynhyrchu gan y Llywodraeth ei lunio yn y fath fodd fel y byddai'n cael y budd llawn o gefnogaeth y Llywodraeth, ac yn cael ei basio. Diolch.
Hoffwn ddiolch i Paul Davies am ei ymdrechion parhaus i wneud Deddf awtistiaeth ar gyfer Cymru yn realiti. Bydd y Bil hwn yn helpu i gyflawni'r hyn y mae pobl ag anhwylderau sbectrwm awtistig wedi bod yn galw amdano ers blynyddoedd—camau gweithredu i wella gwasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, camau y mae'r cynllun gweithredu ar anhwylderau'r sbectrwm awtistig wedi methu eu cyflawni hyd yma.
Ar nifer o achlysuron, mae'r Gweinidog wedi gwadu bod unrhyw angen am y Bil hwn, ond mae'n amlwg mai ychydig iawn a wnaeth strategaethau blaenorol a deddfwriaeth bresennol i wella gwasanaethau ar gyfer plant ac oedolion ar y sbectrwm awtistig. Dylai fod yn destun cywilydd cenedlaethol mewn sawl rhan o Gymru na cheir llwybrau clir i gael diagnosis o awtistiaeth, er i'r gwasanaeth awtistiaeth integredig gael ei gyflwyno.
Yn ôl arolwg gam Gymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth Cymru, bu oddeutu chwech o bob 10 o bobl yn aros am fwy na blwyddyn i gael diagnosis, a bu traean yn aros am bron i ddwy flynedd. Bydd Bil Paul yn gosod dyletswydd ar bob bwrdd iechyd i wneud yn siŵr fod llwybr clir i ddiagnosis ar gael yn gyhoeddus. Bydd y Bil yn sicrhau bod staff sy'n gweithio yn ein GIG a'r sector gofal cymdeithasol yng Nghymru wedi'u hyfforddi a'u paratoi'n well i gefnogi'r rhai sydd ar y sbectrwm awtistig ac yn helpu i roi diwedd ar y bylchau yn y gwasanaethau hyn. Mae pobl ar y sbectrwm yn cael gwasanaethau sydd naill ai'n canolbwyntio ar anghenion dysgu ychwanegol neu ar ddarpariaeth iechyd meddwl, ac mae llawer, yn anffodus, yn disgyn rhwng y bylchau sy'n bodoli rhwng ein gwasanaethau iechyd a gwasanaethau addysg.
Aeth ychydig dros ddegawd ers cyhoeddi'r cynllun gweithredu strategol ar awtistiaeth, ac ychydig iawn sydd wedi newid i'r rhai sydd ar y sbectrwm. Gwelwyd methiant systematig Gweinidogion Llywodraeth Cymru olynol i gyflawni unrhyw welliannau amlwg i wasanaethau awtistiaeth yng Nghymru, ac eto maent yn gwrthwynebu'r Bil hwn, yn dweud bod deddfwriaeth yn ddiangen. Wel, ni fyddai'r bobl a gynorthwyais yn fy rhanbarth i yn cytuno â'r geiriau hynny. Rydym wedi hen basio'r angen am eiriau. Mae'n amser gweithredu yn awr. Mae pawb ohonom wedi cael cannoedd o negeseuon e-bost gan rai sydd ag anhwylderau sbectrwm awtistig a'u teuluoedd yn ein hannog i gefnogi'r Bil hwn. Maent yn gwybod yn rhy dda, gwaetha'r modd, nad yw geiriau caredig yn ddigon. Mae angen Deddf awtistiaeth ar Gymru ac mae ei hangen yn awr. Rwy'n cefnogi Paul a'i Fil yn llawn ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.
Diolch. Rydym wedi mynd dros yr amser, ac felly, rwy'n ymddiheuro i weddill y bobl a oedd eisiau siarad yn y ddadl bwysig hon. Galwaf yn awr ar yr Aelod cyfrifol, Paul Davies, i ymateb i'r ddadl.
Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon y prynhawn yma? Yn anffodus, ni fydd gennyf amser i gyfeirio at y pwyntiau a wnaed gan bob un o'r Aelodau.
Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Gadeiryddion y pwyllgorau perthnasol am roi eu safbwyntiau'n glir? Cadarnhaodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon nad oedd y pwyllgor wedi cyrraedd consensws ar y Bil hwn, ond mae'r pwyllgor yn glir, mae angen inni weld gwelliannau go iawn i wasanaethau ar gyfer pobl ag awtistiaeth. Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi dweud yn glir heddiw pa mor bwysig yw cael y wybodaeth gywir a phriodol er mwyn craffu ar ddeddfwriaeth, a mynegodd bryder y pwyllgor nad oedd y Llywodraeth wedi rhoi gwybodaeth berthnasol i mi, fel yr Aelod cyfrifol, ac felly mae hyn wedi bod rhwystro'r pwyllgor rhag gallu dod i gasgliad. Yn sicr, mae gwersi i'w dysgu yma o ran y Llywodraeth.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ymateb i'r ddadl hon, ond rwy'n hynod siomedig y bydd yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Gwn fod y Gweinidog wedi ceisio dadlau nad yw pwyllgorau'r Cynulliad yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon yn gadarnhaol, ond mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn nad oedd y pwyllgorau yn erbyn y Bil chwaith. Fe'i gwnaethant yn glir ei fod yn fater i'r Cynulliad hwn yn awr.
Unwaith eto, dadleuodd y Gweinidog fod y cod yn rhagori ar y ddeddfwriaeth hon, ond wrth gwrs, rwy'n anghytuno ag ef ar hynny ac nid wyf am ailadrodd y dadleuon gan fy mod wedi rhoi'r rhesymau yn fy sylwadau agoriadol. Fodd bynnag, y cyfan y buaswn yn ei ddweud wrtho yw y byddai'r cod yn cael ei gwmpasu yn y ddeddfwriaeth hon yng Nghyfnodau 2 a 3. Felly, dyma fy neges iddo: adeiladir fy Mil ar rai o'r mesurau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, bydd yn ategu rhywfaint o waith da y Llywodraeth, ac felly rwy'n ei annog ef a'i Lywodraeth i ailystyried eu safbwynt.
Rwy'n ddiolchgar i Helen Mary Jones am ddadlau'n bwerus pam y dylid cefnogi'r Bil hwn, ac mae'n enghraifft dda o rywun a berswadiwyd mai deddfwriaeth yw'r ffordd orau ymlaen. Ac mae hi'n llygad ei lle fod y Llywodraeth yn gwrth-ddweud ei hun, oherwydd, ar y naill law, mae'n dadlau nad ydym angen deddf ar gyfer cyflyrau penodol, ond ar y llaw arall mae'n cyflwyno cod penodol. Ni allwch ei chael hi'r ddwy ffordd.
Rwy'n credu y bydd y Bil hwn yn gwella gwasanaethau i bobl ag awtistiaeth ledled Cymru a hoffwn annog yr Aelodau nid yn unig i wrando arnaf fi, ond i wrando ar y llu o elusennau, o ymgyrchwyr, o deuluoedd sy'n byw gydag awtistiaeth sy'n effeithio arnynt drwy'r dydd bob dydd. Mae'r gymuned awtistig wedi bod yn gwbl glir ar y mater hwn ac wedi rhannu eu straeon a'u profiadau niferus gyda mi. Mae cymaint o straeon yn dorcalonnus, ac maent yn ymgyrchu am ddeddfwriaeth i roi amddiffyniad a sicrwydd iddynt i'w cyfeirio at wasanaethau a fydd yn helpu i wella ansawdd eu bywydau hwy a'r bobl o'u hamgylch. Mae'n gwbl hanfodol ar gyfer diffinio'r gwahaniaeth rhwng yr hyn y mae Llywodraeth Cymru i'w gweld yn awyddus i'w gael a'r hyn y mae'r gymuned awtistig ei eisiau. Mae perygl yma y bydd mesurau'r Llywodraeth yn caniatáu i'r Llywodraeth wneud rhagor o'r un peth. Byddai'r gyfraith yn amddiffyn anghenion yr unigolion a'u teuluoedd.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cofio'r stori a adroddais wrth y Siambr y llynedd am fam y gallwn ei galw'n 'Sarah'. Newidiwyd ei henw i ddiogelu ei chyfrinachedd. Soniais sut y byddai ei phlentyn yn cael pwl difrifol o dymer, sut y byddai'n colli pob rheolaeth a dechrau crafu ei llygaid ei hun fel bod yn rhaid i Sarah ei hatal a sut nad oedd ei brodyr yn deall pam roedd eu chwaer weithiau'n eu taro a pham nad oedd eu mam yn dweud y drefn wrthi. Roedd gan Sarah swydd, roedd hi'n gofalu am ei theulu ac yn ymladd—nid wyf yn defnyddio'r gair hwnnw'n ysgafn—i gael diagnosis. Dywedodd wrthyf ei bod hi'n gorfod ymladd am bopeth. Ni ddylai orfod ymladd. Dylai gael yr hyn sydd ei angen arni i gefnogi ei merch a'i theulu i'w helpu i fyw bywyd mor normal ag y gallent. Un enghraifft drist yn unig yw hon. Ceir llu o rai eraill yng nghymunedau pawb ohonom.
Bydd y ddeddfwriaeth sylfaenol hon yn gymorth mawr i wella bywydau pobl sy'n byw gydag awtistiaeth ledled Cymru. Mae gennym ddyletswydd gofal i'r holl breswylwyr, ac mae angen inni roi cyfleoedd wedi'u teilwra iddynt a fydd yn rhagori ar eu disgwyliadau ac yn rhoi cyfleoedd iddynt wireddu eu potensial. Rwy'n annog pob Aelod i feddwl am eu hetholwyr ac i fwrw eu pleidleisiau drostynt heddiw. Anogaf yr Aelodau i ystyried yr ohebiaeth a gawsom, a fydd yn dangos cryfder y teimlad ar y mater hwn. Os yw'r Bil yn methu heddiw, dyna hi. Galluogi'r Bil i fynd ymlaen at y camau nesaf o'r gwaith craffu fyddai hyn y prynhawn yma, nid pasio'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio o blaid y cynnig hwn.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
A gaf fi ddweud wrth y Siambr, gyda phob parch, mai dyna'r ail dro i mi glywed rhywun yn dweud 'shame' pan na fydd pleidlais at eu dant? Rydym yn ceisio siarad—[Torri ar draws.] Esgusodwch fi. Rydym yn ceisio siarad am wleidyddiaeth fwy caredig. Rydym yn ceisio arfer gwleidyddiaeth fwy caredig yn y Siambr hon, ac mae i Aelodau eraill weiddi pan fydd gan rywun farn wahanol, o ystyried yr hyn rydym newydd fynd drwyddo, rwy'n cael hynny'n dipyn o embaras i'r Cynulliad hwn, ac rwyf am ofyn i'r Aelodau hynny ystyried eu hymddygiad.