– Senedd Cymru am 3:44 pm ar 4 Chwefror 2020.
Symudwn ymlaen nawr at eitem 6, sy'n ddadl ar gyllideb ddrafft 2020-21, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.
Rwy'n falch o gael agor y ddadl y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21. Mae hyn yn datblygu'r ddadl adeiladol a gawsom yn ystod wythnos gyntaf y sesiwn hon. Ers hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Cynulliad wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant a nodwyd yn y gyllideb ddrafft. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r Pwyllgor Cyllid a'r pwyllgorau eraill am wneud hynny, ac am gyhoeddi eu hadroddiadau yn yr amserlen fyrrach nag arfer fel y cytunwyd cyn y Nadolig.
Mae dadl heddiw yn gyfle i mi ddarparu rhai myfyrdodau cynnar ar yr argymhellion a'r themâu cyffredinol sy'n codi wrth graffu, gan ganolbwyntio'n benodol ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid. Cyn i mi wneud hynny, Llywydd, rwyf eisiau cydnabod y cyd-destun ehangach y datblygwyd y gyllideb hon oddi mewn iddo a'r heriau sy'n parhau, cyn atgoffa'r Aelodau sut y mae'r gyllideb hon yn cyflawni ar gyfer pobl Cymru.
Fel yr wyf wedi sôn droeon, mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant amlflwydd y llynedd yn golygu fy mod i mewn sefyllfa i osod cyllideb refeniw a chyfalaf am un flwyddyn yn unig. Er gwaethaf yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 bron yn £300 miliwn yn is mewn termau real o'i chymharu â 2010-11.
O fewn wythnosau i gadarnhau y bydd cyllideb hir ddisgwyliedig y DU yn cael ei chynnal ar 11 Mawrth, mae Llywodraeth y DU unwaith eto wedi amlygu ei dull gweithredu anhrefnus o reoli arian cyhoeddus. Ychydig dros wythnos cyn i ni gyhoeddi ail gyllideb atodol heddiw, cadarnhaodd Llywodraeth y DU addasiadau cadarnhaol a negyddol i'n cyllideb ar gyfer 2019-20. Roedd y rhan fwyaf o'r symiau canlyniadol cadarnhaol wedi eu cadarnhau gan y Trysorlys yn gynharach yn y flwyddyn, ond nid felly'r gostyngiadau.
O'i gymharu â'r tybiaethau cynllunio yr ydym wedi seilio ein cynlluniau arnynt, canlyniad net y newidiadau hyn yw cynnydd bach mewn refeniw, gyda gostyngiad ar yr un pryd o ychydig dros £100 miliwn o gyllid trafodion ariannol a bron i £100 miliwn o gyfalaf cyffredinol. Mae hyn yn gwbl annerbyniol ar yr adeg hon yn y flwyddyn ariannol heb unrhyw rybudd ymlaen llaw, ac nid dyma'r enghraifft gyntaf, o bell ffordd, o Lywodraeth y DU yn anwybyddu'r egwyddorion a nodir yn y datganiad o bolisi ariannu.
Rwyf wedi ysgrifennu at y Prif Ysgrifennydd yn gwrthwynebu'n gryf yr egwyddor o wneud y newidiadau hyn mor hwyr yn y dydd. Nid ydym yn eu derbyn, ac rydym wedi pwyso am ragor o eglurder ynglŷn â'r newidiadau ar lefel y DU sy'n arwain at ostyngiadau canlyniadol.
Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, rydym wedi cytuno y byddwn ni'n ysgwyddo'r gostyngiadau trafodion ariannol eleni, sy'n rheolaeth ariannol ddarbodus o dan yr amgylchiadau. Rwyf hefyd wedi sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl gan y Trysorlys i reoli'r addasiadau eraill wrth i ni symud drwy'r flwyddyn nesaf. Nid yw ein penderfyniad i weithredu fel hyn yn rhagfarnu'r drafodaeth bellach ar y sefyllfa ehangach a'r modd yr ymdriniwyd â'r gostyngiadau a ddygwyd ymlaen.
Ar hyn o bryd, credaf ei bod hefyd yn ddoeth i beidio ag addasu'r cynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21 yr wyf wedi eu cyflwyno gerbron y Cynulliad, o ystyried y tebygolrwydd cryf y bydd ein setliad ar gyfer y flwyddyn nesaf yn newid eto ar 11 Mawrth. Fodd bynnag, mae'n atgyfnerthu ein hachos dros hyblygrwydd cyllid ychwanegol a swyddogaeth fwy ffurfiol i'r Gweinidogion cyllid yn y cyfarfod pedairochrog i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu—thema a nodwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid.
Yn ogystal â newidiadau posibl i'n setliad, gallai cyllideb y DU hefyd gynnwys newidiadau i bolisi treth, a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch y trethi datganoledig yng Nghymru. Yn ogystal ag ystyried cynigion i gyflwyno cyllideb atodol gynnar, rwyf wedi ymrwymo i roi diweddariad cynnar ar effaith cyllideb y DU, gan gynnwys yr effeithiau ar ragolygon treth Cymru.
Llywydd, hoffwn droi at y blaenoriaethau gwario a nodir yn y gyllideb hon. Rwy'n falch o bopeth yr ydym ni wedi ei gyflawni fel Llywodraeth, er gwaethaf yr ansicrwydd a'r cyd-destun heriol yr ydym wedi eu hwynebu. Mae pedwaredd gyllideb y Cynulliad hwn, sy'n darparu ar gyfer blwyddyn lawn derfynol y tymor hwn, yn cyflawni'r addewidion gwariant allweddol a wnaethom ni i bobl Cymru yn 2016 ynghylch prentisiaethau pob oed, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, sicrhau bod triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy, a llawer mwy.
Bydd cyfanswm ein buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy na £8.7 biliwn yn 2020-21, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn; sy'n darparu cynnydd mewn termau real i bob awdurdod lleol drwy £200 miliwn ychwanegol drwy setliad refeniw a chyfalaf y flwyddyn nesaf, a fydd yn gwneud cyfanswm y cyllid bron yn £4.5 biliwn; ac rydym ni'n cefnogi system addysg o'r radd flaenaf drwy'r setliad Llywodraeth Leol a thrwy ein cyllideb addysg £1.8 biliwn.
Mae atal wedi bod wrth wraidd y gyllideb hon, ac fe'i hategir wrth i ni ganolbwyntio ar wyth o flaenoriaethau trawsbynciol, sef: y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Rydym ni'n buddsoddi yn y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith fwyaf dros y tymor hir, ac mae hyn yn cynnwys £175 miliwn o gyfalaf ychwanegol y flwyddyn nesaf, gan ddod â'n buddsoddiad i fwy na £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Cynulliad hwn; a £19 miliwn ychwanegol i helpu rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau, gan adeiladu ar y gweithredu presennol sy'n gyfanswm o fwy na £1 biliwn; a mwy o fuddsoddi mewn iechyd meddwl gwell a'r blynyddoedd cynnar drwy'r cyllid ychwanegol ar gyfer y dull gweithredu ysgol gyfan a Dechrau'n Deg.
Mae hon yn gyllideb sy'n cyflawni lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed, gan adeiladu ar yr ystod eang o fuddsoddiadau yr ydym eisoes yn eu gwneud. Dyna pam, yn y gyllideb gyntaf ers ein datganiad ar argyfwng hinsawdd, yr ydym yn dyrannu pecyn cyfalaf newydd gwerth £140 miliwn i gefnogi ein huchelgais ar gyfer datgarboneiddio ac i amddiffyn ein hamgylchedd gwych.
Llywydd, hoffwn hefyd achub ar y cyfle heddiw i gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n codi o'r broses graffu. Oherwydd bod y broses o adael yr UE ar waith erbyn hyn, mae pwysigrwydd sicrhau newid didrafferth i fframwaith ariannu ôl-UE y DU sy'n cyflawni ar gyfer pob rhan o'r undeb, yn hanfodol. Croesawaf argymhelliad y pwyllgor sy'n cydnabod yr angen i adolygu'r datganiad o bolisi ariannu, a fydd yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun trefniadau gadael yr UE. Rwyf hefyd yn derbyn argymhelliad y Pwyllgor Cyllid y dylem ni barhau i drafod â Llywodraeth y DU i sicrhau cyfarfodydd pedairochrog mwy rheolaidd a strwythuredig rhwng Gweinidogion cyllid y DU. Mae hwn yn fater y byddaf yn ei godi gyda Gweinidog Cyllid yr Alban a Gweinidog Cyllid Gogledd Iwerddon yfory.
Mae'r rhyngweithio rhwng amserlen ein cyllideb ni ac amserlen Llywodraeth y DU yn fater sydd wedi ei ystyried mewn blynyddoedd blaenorol, ond mae'r agwedd anghysurus hon wedi bod yn amlycach eleni. Rwy'n croesawu'r ffaith fod y pwyllgor yn cydnabod bod ein hymagwedd at amseru'r gyllideb eleni yn ymarferol o dan yr amgylchiadau, ac yn cydbwyso'r angen i roi sicrwydd cyllid cynnar i randdeiliaid gyda'r angen i ddarparu amser ar gyfer craffu ar ein cynlluniau.
Mae parhau i fwrw ymlaen â gwelliannau yn ein cyllidebu hefyd yn ystyriaeth bwysig. Am y tro cyntaf, rydym wedi cyhoeddi cynllun gwella'r gyllideb sy'n nodi sut yr ydym yn bwriadu cymryd camau parhaus i ymgorffori Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses y gyllideb. Mae hyn yn cynnwys nifer o feysydd a nodwyd gan y Pwyllgor Cyllid, gan gynnwys gwelliannau i'r ffordd yr ydym ni'n asesu effeithiau ein penderfyniadau ar y gyllideb. Croesawaf ddatganiad Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru y dylid canmol Cymru am fod ar flaen y gad o ran symud tuag at gyllidebu ar gyfer llesiant, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda'r comisiynydd wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun uchelgeisiol hwn.
Rwy'n falch bod y Pwyllgor Cyllid wedi croesawu'r pecyn cyfalaf unigol mwyaf erioed i helpu i frwydro yn erbyn y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n siomedig â'r honiadau nad yw'r camau yr ydym ni'n eu cymryd yn cyd-fynd â'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Bydd y gyllideb ddrafft yn sicrhau buddsoddiad newydd yn y meysydd lle mae'r dystiolaeth gyfredol yn dweud wrthym y gallwn gael yr effaith fwyaf, yn ogystal â buddsoddi mewn mesurau eraill megis £64 miliwn y flwyddyn nesaf i amddiffyn ein cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol ac uniongyrchol newid yn yr hinsawdd. Byddaf i a'm cydweithwyr yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid a rhai pwyllgorau eraill y Cynulliad cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf.
Felly, Llywydd, i gloi, er gwaethaf y cyni parhaus a orfodir ar lefel y DU sy'n tanseilio ein gallu i gyflawni'r buddsoddiad y mae ein gwlad yn ei haeddu, rwy'n falch o gyflwyno cyllideb sy'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer Cymru fwy cyfartal, mwy ffyniannus a gwyrddach.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ar y gyllideb ddrafft gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae'n adroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, ac mi fyddaf i'n ymdrin â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma y prynhawn yma.
Nawr, fel rydym ni wedi clywed, o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas y gyllideb yma gydag etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig a Brexit ac yn y blaen, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod y gyllideb ddrafft hon wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau eithriadol, ac mae hyn wedi effeithio ar allu'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gynllunio.
O ganlyniad i hynny, mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud pob ymdrech i ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y gyllideb ddrafft hon. Mi ddechreuodd hyn nôl ym mis Mehefin y llynedd pan gynhaliwyd digwyddiad rhanddeiliaid cyn y gyllideb yn Aberystwyth. Dyna oedd sylfaen dadl a gynigwyd gan y Pwyllgor Cyllid yma yn y Siambr, a ddilynodd wedyn ym mis Medi'r llynedd, gan roi cyfle i'r Cynulliad drafod blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft.
Eleni, roedd hi'n arbennig o bwysig i gynnal dadl o'r fath o ystyried ansicrwydd amseriad arfaethedig y gyllideb ddrafft. Fodd bynnag, mae'r pwyllgor yn credu y dylid hwyluso dadl fel hyn yn barhaol—hynny yw, bob blwyddyn—i roi cyfle i Aelodau ddylanwadu ar flaenoriaethau a dyraniadau cyllideb yn gynharach yn y broses. Rŷm ni'n gobeithio'n fawr bod y Gweinidog yn cytuno â ni ac y gallwn ni weithio gyda hi i sicrhau y gellir cynnwys dadl fel hyn yn y broses graffu yn y blynyddoedd i ddod.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cyhoeddi, wrth gwrs, y bydd hi bellach yn cyhoeddi ei chyllideb ar 11 Mawrth. Mae'r pwyllgor yn cydnabod y gallai rhagolygon macro-economaidd y Deyrnas Unedig effeithio ar refeniw'r trethi datganoledig a'r addasiadau cysylltiedig i'r grant bloc. Rŷm ni wedi argymell y dylid darparu'r wybodaeth ddiweddaraf cyn gynted â phosibl ar ôl cyllideb y Deyrnas Unedig. Deallwn y bydd angen adlewyrchu effaith cyllideb y Deyrnas Unedig yng nghyllideb atodol gyntaf Llywodraeth Cymru, ac rŷm ni'n croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddod â hyn ymlaen mor gynnar â phosibl, pe bai'r newidiadau yn helaeth.
Yn ystod ein gwaith craffu, fe wnaethom ni adolygu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwario ei chyllideb o £17 biliwn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf, ac ar y cyfan—. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, bod hyn yn gynnydd o £593 miliwn ar gyllideb y llynedd: cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r pwyllgor yn nodi bod Llywodraeth Cymru wedi lledaenu'r cynnydd hwn ar draws pob adran. Fodd bynnag, byddai'r pwyllgor wedi hoffi gweld dull ychydig mwy uchelgeisiol yn cael ei ddefnyddio i'w flaenoriaethu o ran canolbwyntio ar gynaliadwyedd a thrawsnewid gwasanaethau yn y dyfodol.
I symud at faes benthyca a threthiant, fe glywodd y pwyllgor dystiolaeth sy'n awgrymu y bydd cynnydd mewn cyllidebau yn y dyfodol yn anghynaladwy heb fenthyca uwch neu gynnydd mewn trethiant. Rŷm ni'n credu hefyd y bydd angen newid strategaeth i sicrhau bod cyllid digonol ar gael i fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus yn ystod y blynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud ei bod yn gwthio yn erbyn terfynau ei rheolau benthyca arian, ac wedi addo peidio â chodi treth incwm yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Rŷm ni fel pwyllgor wedi cefnogi gofyniad Llywodraeth Cymru am fwy o hyblygrwydd benthyca, ac yn amlwg bydd newidiadau mewn trethiant yn fater i bob plaid yn eu maniffestos wrth inni agosáu at etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf.
Ym mis Ebrill y llynedd, fe gyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig argyfwng hinsawdd yng Nghymru. Rŷm ni wedi clywed cyfeiriad ato fe yn sylwadau'r Gweinidog cyllid. Fodd bynnag, dyw cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ddim yn adlewyrchu ei datganiad ei hun o argyfwng hinsawdd. Er bod y gyllideb ddrafft yn neilltuo, fel y clywsom ni, dyraniad o £140 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf i gefnogi datgarboneiddio, dyw'r pwyllgor ddim yn argyhoeddedig bod gan Lywodraeth Cymru ddealltwriaeth glir o'r effaith y mae ei phenderfyniadau yn ei chael ar allyriadau carbon na'r hinsawdd. Er ein bod ni'n croesawu'r dyraniad o £140 miliwn, mae'n siomedig na chymerwyd dull mwy radical i liniaru newid yn yr hinsawdd.
Dyma'r bedwaredd cyllideb ddrafft i gael ei chyhoeddi, wrth gwrs, ers i Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ddod i rym. Mae'r pwyllgor wedi defnyddio'r Ddeddf fel lens i asesu'r gyllideb ddrafft ers ei deddfu. O ran y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru i ymgorffori'r Ddeddf yn ei phenderfyniadau ar gyfer 2020-21, fe ddywedodd swyddfa comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrthym ni y bu, a dwi'n dyfynnu, newid gweladwy mewn perthynas â datgarboneiddio a gwariant ataliol. Fodd bynnag, a dwi'n dyfynnu ymhellach, roedd cryn dipyn o le i symud ymlaen o hyd, ac, gan ragweld adolygiad o wariant y Deyrnas Unedig yn fuan, mae'r comisiynydd yn annog Llywodraeth Cymru i ddefnyddio hwn fel cyfle i wneud rhagor o benderfyniadau strategol, trawsnewidiol. Mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gall integreiddio'r nodau llesiant yn well wrth gyflwyno cyllidebau yn y dyfodol i ddangos yn fwy cyson sut mae'r Ddeddf wedi ei hymgorffori yn ei phrosesau gwneud penderfyniadau.
Ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener diwethaf, mae ansicrwydd, wrth gwrs, o hyd ynghylch y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Mae effaith Brexit yng Nghymru, gan gynnwys parhad cyllid a ddarparwyd yn flaenorol gan yr Undeb Ewropeaidd, yn enwedig o ran taliadau uniongyrchol i ffermwyr a busnesau eraill yn y sector pysgodfeydd ac amaethyddiaeth yn bryder mawr i'r pwyllgor.
Rŷn ni'n pryderu bod y cyfnod pontio hyd at ddiwedd Rhagfyr eleni, yn cynyddu'r risg na fydd cytundebau masnach ar waith. Yn yr amgylchiadau hyn, fe gredwn ni y byddai angen cymorth pellach gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i leihau'r effaith ar economi Cymru. Ar hyn o bryd, mae Cymru yn cael cyllid gan yr Undeb Erwopeaidd drwy gronfeydd strwythurol a chymorth amaethyddol. Disgwyliad Llywodraeth Cymru yw y bydd cronfeydd strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yn cael eu disodli'n llawn. Fodd bynnag, nid yw'r cytundeb pontio yn cynnwys cymorth amaethyddol ac mi fyddai'r pwyllgor yn croesawu cadarnhad gan Lywodraeth Cymru ei bod wedi cael sicrwydd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y bydd yr arian hwn yn cael ei ddarparu.
Mae'r pwyllgor yn croesawu cynnwys tlodi ym mlaenoriaethau'r gyllideb, ond mae'n credu bod diffyg eglurder yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, ei hamcanion a sut y bydd y gyllideb yn sbarduno gwelliant tymor hir, yn enwedig wrth fynd i'r afael ag achosion sylfaenol tlodi.
Mae angen gwneud rhagor i leihau tlodi yng Nghymru. Mae gormod o bobl mewn swyddi sgiliau isel a/neu gyflog isel. Mi fydd uwchsgilio’r gweithlu a chynyddu cyflogaeth o fudd i economi Cymru waeth beth fydd canlyniad Brexit. Dylai Llywodraeth Cymru felly werthuso ei buddsoddiad mewn rhaglenni i-mewn-i-waith a rhaglenni datblygu economaidd i sicrhau eu bod yn darparu gwerth am arian.
Dwi eisiau diolch i bawb a gyfrannodd yn ystod pob cam o'r broses graffu yma a'r rhai a ddaeth i'r digwyddiad rhanddeiliad yn ogystal â'r rhai a gyflwynodd dystiolaeth ffurfiol. Mae’r cyfan wedi bod o gymorth inni fel pwyllgor i lunio ein canfyddiadau. Dwi'n edrych ymlaen at weld ymateb ffurfiol y Llywodraeth i'n hadroddiad ni cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol fis nesaf. Diolch.
Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl bwysig hon heddiw, dadl, wrth gwrs, am y gyllideb, ond hefyd am ddyfodol pobl Cymru. Gadewch i ni fod yn gwbl glir ynglŷn â chyd-destun y gyllideb hon: ydy, mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod datblygu'r gyllideb hon mewn cyfnod eithriadol o fyr, gyda phroblemau yn ymwneud â'r etholiad cyffredinol i gyd ei osod hefyd yn erbyn cefndir o £600 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol sy'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU. Felly, mae gan drethdalwyr yng Nghymru yr hawl i gwestiynu rhai o benderfyniadau Llywodraeth Cymru o ran buddsoddi yn economi Cymru a datblygu economi Cymru ar ôl Brexit.
Gwelaf hefyd fod naratif y gyllideb yn edrych yn ôl ar gyflawniadau a gwariant Llywodraeth Cymru ar bob adran ers 2016, ond nid yw'n syndod, efallai, mai ychydig o sôn sydd am unrhyw un o'r targedau a fethwyd y mae Gweinidogion, wrth gwrs, yn ymwybodol ohonynt ac rwy'n credu, yn rhannol o leiaf, yn ysbryd tegwch, y byddai'n ddoethach i Lywodraeth Cymru gyfaddef hyn.
Bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn beio Llywodraeth y Deyrnas Unedig am ei gofidiau, er, a bod yn deg â'r Gweinidog, ni chrybwyllwyd cyni yn fanwl iawn tan yn eithaf hwyr yn eich dadl, felly efallai eich bod wedi gwrando ar rai o'm beirniadaethau yn y gorffennol. Ond mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn cyfrifoldeb am ei chamgymeriadau ariannol ei hun. Mae hynny'n rhan o Lywodraeth aeddfed, ddatganoledig sydd â phwerau pellgyrhaeddol a chynyddol.
Felly, beth mae'r cyhoedd yn disgwyl ei weld yn y gyllideb hon? Beth ddylem ni ddisgwyl ei weld? Wel, byddwn yn disgwyl gweld Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn y GIG er mwyn gweddnewid pethau. I fod yn deg, rydych chi wedi rhoi £37 biliwn yn y GIG yng Nghymru ers 2016. Mae hynny'n dra gwahanol i'r toriad cyllid mewn termau real a welsom yn gynharach, rhwng 2011 a 2016, er fy mod i'n gwybod bod hynny pan oedd eich rhagflaenydd yn Weinidog, yn hytrach na chi eich hun. Rydych chi, mi gredaf, fel y soniasoch, yn bwrw ymlaen â gwariant ychwanegol o £400 miliwn ar iechyd, sy'n newyddion cadarnhaol. Mae'r rhain i gyd yn gynnydd o ran arian, felly mae hynny'n dda.
Ond, wrth gwrs, nid yw hynny'n gwneud iawn am y ffaith bod amseroedd aros adrannau damweiniau ac achosion brys wedi bod y rhai gwaethaf a gofnodwyd erioed am ddeufis yn olynol yn 2019 ac mae pedwar o'r saith bwrdd iechyd o dan ryw fath o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru—Betsi Cadwaladr, fel y crybwyllwyd yn gynharach, mewn mesurau arbennig ers dros bedair blynedd a hanner. Mae hwnnw wedi cael tua £83 miliwn mewn costau gwella, ac eto rhagwelir y bydd diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, nid mater o ddarparu mwy o arian yn unig yw hwn, Gweinidog, nage? Mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r arian hwnnw'n ei gyflawni mewn gwirionedd, oherwydd mae dadl am werth am arian i'w thrafod yn y fan yma hefyd.
Dywedir wrthym, yn gyffredinol, bod hon yn gyllideb werdd—disgrifiad gwych, a ffordd glodwiw o geisio symud ymlaen, ond mae'r cwestiwn wedi ei godi: a yw hi'n ddigon uchelgeisiol i fynd i'r afael o ddifrif â'r heriau amgylcheddol yr ydym yn eu hwynebu? A yw'n cyflawni addewidion Llywodraeth Cymru yn ddigonol wrth gyhoeddi argyfwng yn yr hinsawdd, er enghraifft? Nid wyf i'n bersonol yn credu bod digon o fanylion yma ynglŷn â chynnig syniadau newydd ac arloesol o ran sut y bydd y Llywodraeth, er enghraifft, yn cyrraedd ei tharged o ostyngiad o 95 y cant o leiaf mewn nwyon tŷ gwydr, erbyn 2050.
Rwy'n sylweddoli, Gweinidog, fod y rhain yn ymrwymiadau enfawr, beiddgar, ac y byddan nhw angen ewyllys gref i'w cyflawni, ond nid dim ond mater o ddibynnu ar bolisïau hen ffasiwn ddoe i gyflawni'r nodau yw hyn; mae'n ymwneud â chyflwyno gweledigaeth fentrus, hyderus i Gymru, ac mae angen i ni weld cyllideb sy'n sbarduno gweledigaeth, sy'n gwneud pobl Cymru yn rhan ohoni, sy'n ysbrydoli ac yn ysgogi pobl Cymru. Oherwydd mae'r targedau polisi newid hinsawdd hyn yn mynd i fod yn anodd. Ni ddylem amau hynny o gwbl, ac ni ddylai unrhyw Lywodraeth ystyried yr ymrwymiadau hyn yn ddifeddwl. Rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â hynny.
Yn ddiddorol, roeddwn i'n edrych ar y cloc yn gynharach ac roeddech chi'n sôn am gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol—credaf fod hynny oddeutu wyth munud i mewn i'r araith. Cwestiwn sydd wedi ei godi'n aml yn y Pwyllgor Cyllid dros y blynyddoedd yr wyf i wedi bod arno yw hwn: yn ystod y broses o bennu'r gyllideb, a yw deddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol yn ganolog i'r polisi hwnnw o'r cychwyn cyntaf a thrwy gydol yr amser, neu a ystyrir yn rhy aml ei fod yn cael ei gyflwyno fel ychwanegiad tuag at ddiwedd y broses? Dydw i ddim yn gwybod. Rwy'n awgrymu wrthych fy mod i'n credu bod angen i chi gyfiawnhau ymgynghori â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol ar bob cam o'r broses honno, oherwydd, fel yr arferai ein cyd-Aelod diweddar, Steffan Lewis, ei ddweud, beth yw diben deddfwriaeth fel hon, sy'n gosod agenda feiddgar iawn, ond mewn gwirionedd, pan ddaw'n fater o ymarferoldeb llunio polisi, nid yw'n cael ei gynnwys yno yn gynnar yn y broses? Felly mae angen ymdrin â hynny.
Beth am y gogledd? Nid fy sylw i yw hwn yn benodol heddiw, ond wrth gwrs, mae'r ymgeisydd am arweinyddiaeth y Blaid Lafur, sef Lisa Nandy, hefyd wedi codi cwestiwn tebyg. Er bod y gyllideb yn amlinellu £20 miliwn ychwanegol ar gyfer metro gogledd Cymru, sydd i'w groesawu, ac rwyf wedi bod yn gefnogwr mawr o'r camau buddsoddi ar gyfer metro de Cymru, a chredaf fod momentwm da wedi ei ddechrau yn y fan honno, ond mae angen i ni weld hynny'n cael ei ddatblygu drwy bob rhan o'r de. Ac yn sicr mae angen i ni weld momentwm yn y gogledd, ac rwy'n credu bod cwestiwn yn y gogledd ynghylch pa un a yw hynny wedi bod yn digwydd.
Ni ddywedwyd dim, ar wahân i'r metro, am fuddsoddi mewn uwchraddio'r A55, sef anadl einioes economi'r gogledd. Rwy'n credu bod hwn yn gyfle sydd wedi ei wastraffu. Mae angen llwybr trafnidiaeth allweddol o borthladd Caergybi i Lannau Dyfrdwy; yr angen i hwnnw fod yn gwbl barod i ddosbarthu allforion o Iwerddon i weddill y DU nawr ein bod ni yn y cyfnod ar ôl Brexit. A chyda llaw, wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi mewn uwchraddio rhan o'r A55 i helpu i sbarduno economi'r gogledd yn ei blaen, felly, yn sicr, byddai arian Llywodraeth Cymru yn y maes hwn yn cael ei wario'n ddoeth. Nid yw'n arian cyfatebol, yn union, ond mae bron iawn yn cyflawni nod tebyg os yw Llywodraeth y DU yn mynd i ymrwymo arian fel yna.
Wrth gwrs, ni fyddai unrhyw gyllideb gan Lywodraeth Cymru yn gyflawn heb rywfaint o gyllid ar gyfer Maes Awyr Caerdydd, ac mae'r gyllideb yn amlinellu hyd yn oed fwy o arian—£4.8 miliwn, rwy'n credu i chi ei grybwyll, o gyfalaf trafodion ariannol mewn cysylltiad â'r gyllideb hon yn eich araith.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf nawr, Mike.
Ar 31 Rhagfyr 2019, cyhoeddodd y maes awyr golled cyn treth o £18.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol hyd at 31 Mawrth 2019. Rwyf wedi dweud o'r blaen nad wyf i'n credu y dylid rhoi siec wag i'r maes awyr, felly byddwn yn chwilio am sicrwydd nad yw hynny'n mynd i ddigwydd. Rwy'n ildio i Mike Hedges.
Diolch. Rwy'n falch iawn bod hyn wedi digwydd unwaith eto. A gaf i ddweud eich bod wedi sôn am drafnidiaeth yn y gogledd, rydych chi wedi sôn am drafnidiaeth yn y de; beth am y rhai ohonom ni yn y gorllewin a metro'r gorllewin?
Wel, wrth gwrs nid fi yw'r Gweinidog. Hynny yw, oes, mae bylchau yn y gorllewin, ond efallai y byddwch chi eisiau codi hynny eich hun gyda'r Gweinidog yn eich sylwadau eich hun. Ond iawn, rwy'n derbyn y pwynt—pob agwedd, mae angen ystyried pob rhan o Gymru yn gyfartal, ac rwy'n credu mai'r pwynt yr ydych yn ei wneud yw, os ydych chi'n ffafrio un ardal, megis y gogledd, yna byddwch ar eich colled yn awtomatig mewn ardal arall. Rydym wedi cael trafodaethau am hyn yn y gorffennol. Credaf fod achos i'w wneud dros y gogledd, oherwydd ei fod yn aml yn teimlo'n arbennig o ynysig ac yn bell o'r de, ac o Gaerdydd yn benodol. Felly, rwy'n credu bod achos dros wneud hynny. Ond rwy'n deall yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, Mike.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, rwy'n ildio i'r cyn Brif Weinidog.
Mae ef wedi sôn am Faes Awyr Caerdydd. Mae maer dyffryn Tees, sy'n Geidwadwr, wedi gwneud yn fawr o'r ffaith ei fod wedi prynu'r hyn sydd nawr yn faes awyr rhyngwladol Teeside, ac yn bwriadu buddsoddi ynddo a'i fod wedi dweud ei fod yn ased cyhoeddus. Os yw'n wir y gall y maer Ceidwadol yn y fan honno ganmol perchenogaeth gyhoeddus ar faes awyr, pam na all Ceidwadwyr Cymru wneud hynny hefyd?
Wel, dyna i chi gwestiwn. Diolch am y cwestiwn. Wel, sôn am fwrw rhywun i'r pen dwfn heddiw, onid e? Nid wyf yn adnabod y maer hwnnw'n benodol, ond byddwn yn cwestiynu'r hyn a dalodd am y maes awyr i ddechrau, a dalodd mwy na'r disgwyl amdano ac a oes ganddo strategaeth ar gyfer y maes awyr hwnnw. Nid wyf wedi bod yn cwestiynu perchnogaeth y maes awyr, ond rwy'n cwestiynu'r strategaeth sydd y tu ôl i redeg y maes awyr hwnnw ac rwyf hefyd yn cwestiynu rhoi siec wag ar gyfer hynny ac arian parhaus. Felly, gadewch i ni weld strategaeth, gadewch i ni weld gweledigaeth ac rwy'n fwy na pharod i ymchwilio i faer—Tyne oedd e? Dyffryn Tees. Fe edrychaf ar yr hyn y mae'r maer yn ei wneud yno, oherwydd efallai y gallai bob un ohonom ni yn y Siambr hon ddysgu o'r hyn y mae maer Ceidwadol yng ngogledd Lloegr yn ei wneud.
Os caf i droi'n fyr, yn ystod y munudau olaf, at gefnogi'r economi a threthi busnes, gallai Gweinidogion Cymru, wrth gwrs, fod wedi gostwng trethi busnes cosbol i adfywio'r stryd fawr, y sonnir amdani yn aml yn y Siambr hon, i roi hwb i economi Cymru. Edrychwch, rydym yn dal i fod â rhai o'r trethi busnes drutaf ym Mhrydain Fawr, beth bynnag yw'r rhesymau a roddir dros hynny. Mae'r dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo anfasnachol dros £1 miliwn ac ardrethi busnes yn mynd y tu hwnt i rai ein cymheiriaid yn yr Alban a Lloegr, ac mae bwriad i hynny ddigwydd eto. Efallai fod angen i ni edrych ar hyn i gyd o'r newydd. Efallai fod gennym y pwerau yn y fan yma i wneud rhywbeth gwahanol. Credaf y byddai pleidiau eraill—efallai fod Plaid Cymru wedi crybwyll hyn yn y gorffennol. Efallai fod angen i ni ystyried a ellir ymdrin ag ardrethi busnes mewn ffordd hollol wahanol. Ar hyn o bryd, nid ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw, felly gadewch i ni weld rhywfaint o ryddhad hollbwysig i'n busnesau.
Gan ein bod wedi mynd heibio dyddiad Brexit erbyn hyn, mae'n amlwg yn bwysig ein bod yn mynd ati i ddatblygu ein cysylltiadau allanol ein hunain. Yn gam neu'n gymwys, mae Cymru'n cael ei gweld yn rhy aml fel un sy'n llusgo y tu ôl i weddill y DU pan ddaw'n fater o ddirnadaeth buddsoddwyr byd-eang. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu £2.5 miliwn ychwanegol o gyllid pontio'r UE yn 2020-21 i gefnogi gweithgareddau allforio, masnachu a mewnfuddsoddi, ond mae angen i ni weld mwy o ddefnydd o'r ysgogiadau economaidd datganoledig presennol, megis y system drethu, i ddarparu amgylchedd croesawgar er mwyn i fusnesau fuddsoddi a thyfu. Mae'r Alban wedi adeiladu'n wirioneddol ar y cysylltiad hwn rhwng y system drethi a mewnfuddsoddi. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei weld yn y dyfodol ac mae'n drueni nad ydym ni wedi gweld mwy o hynny yn y gyllideb hon.
Felly, i orffen, Llywydd, gadewch i ni sbarduno Cymru ymlaen. Mae Llywodraeth y DU yn cyflawni'r buddsoddiad mwyaf erioed eleni gyda £790 miliwn yn mynd i gytundebau twf a £500 miliwn i'r fargen ddinesig prifddinas-ranbarth. Mae arian yn mynd i mewn. Beth am weld buddsoddiad tebyg gan Lywodraeth Cymru. Mae gan Gymru ddwy Lywodraeth: mae ganddi Lywodraeth yn y fan yma; mae ganddi hefyd Lywodraeth yn San Steffan. Mae angen i'r llywodraethau hynny gydweithio i sbarduno economi Cymru yn ei blaen nawr ac yn y dyfodol.
Mae yna sawl llinyn mesur i'r ffordd rydym ni ym Mhlaid Cymru yn asesu cyllideb Llywodraeth Lafur. Yn sylfaenol, y cwestiwn rydym ni'n ei ofyn ydy: ydy'r Llywodraeth yn defnyddio ei hadnoddau cyllidol yn y ffordd fwyaf effeithiol i drio trawsnewid Cymru? Ydy'r Llywodraeth yn gallu dweud wrthym ni fod yna gyllido yma sydd yn arloesol, sy'n gyrru nid yn unig gwelliant yn y ffordd y mae gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yng Nghymru, ond yn newid diwylliant gwirioneddol ynglŷn â'r ffordd rydym ni'n meddwl ynglŷn â delifro i bobl Cymru? Yr ateb, dwi'n ofni, yn eithaf clir ydy, 'na'.
Beth sydd gennym ni ydy Llywodraeth Lafur sy'n amharod i fod yn radical ar gefndir o Lywodraeth Geidwadol sydd wedi profi yn gwbl ddi-hid ynglŷn ag effaith torri gwariant cyhoeddus yn drwm am resymau ideolegol am ddegawd a mwy. Allwn ni ddim fforddio mân reoli ar ymylon y gyllideb a disgwyl trawsnewid. Dwi'n ofni bod y gyllideb ddrafft yma yn gyfle arall wedi'i golli i fynd i'r afael â rhai o'r heriau pennaf rydym ni'n eu hwynebu. Oes, mae yna ragor o arian yn y pot y tro yma, mae yna fymryn o le i anadlu ar ôl y 10 mlynedd yna o doriadau llym—dwi'n ofni mai dros dro y mae o serch hynny—ond does yna ddim newid cyfeiriad yma. Does dim arwydd bod y Llywodraeth wedi sylweddoli o'r diwedd bod angen dilyn trywydd gwahanol, neu fel arall yr un heriau, yr un problemau sy'n mynd i godi dro ar ôl tro a fydd dim yn newid.
Mi fuaswn i'n licio diolch i fy nghyn gyd-Aelodau ar y Pwyllgor Cyllid—rwy wedi gadael y pwyllgor bellach—am y sgrwtini manwl sydd wedi bod o'r gyllideb mewn cyfnod llawer rhy fyr. Ac ar y pwynt yma, mi wnaf i ategu eto beth dwi ac eraill wedi'i ddweud o'r blaen: ydy, mae'r amgylchiadau wedi bod yn rhai anarferol, ein bod ni wedi cael etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig ar yr union gyfnod lle buasai'r penderfyniadau cyllidol wedi arfer cael eu gwneud ar lefel Brydeinig. Dyna sydd wedi arwain at ffaith ein bod ni'n delio â chyllideb Gymreig fan hyn heb fod yn gwybod yn union faint ydy'r gyllideb sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Ond mae'r ffaith bod hynny wedi gallu digwydd—ein bod ni yn gorfod dilyn proses sgrwtini heb wybod yn union beth rydym ni'n ei sgrwtineiddio—yn brawf i fi dyw bod ynghlwm mor dynn â system Westminster ddim yn gweithio i Gymru.
Mae yna nifer o elfennau unigol i'r gyllideb yma—ac mi wnaf i gyfeirio atyn nhw—ond mae yna thema, dwi'n credu. Mae yna wendid yn rhedeg drwy'r gyllideb yma, a hwnnw ydy'r methiant i ddechrau meddwl yn wirioneddol ataliol er mwyn tanio'r math o drawsnewid rydym ni ei angen. Edrychwch ar y gyllideb ar gyfer taclo newid hinsawdd—y cyllido mwyaf ataliol posib, efallai. Oes, wrth gwrs mae yna elfennau nid ansylweddol o'r gyllideb yma sydd wedi'u targedu tuag at daclo newid hinsawdd, ond os ydym ni'n rhoi hynny yn y cyd-destun rydym ni ynddo fo, y ffaith ein bod ni fel Senedd, a chithau fel Llywodraeth Cymru, wedi datgan argyfwng hinsawdd yn ddiweddar, mae'r ymateb yn y gyllideb yma i hynny, dwi'n credu, yn annigonol.
Mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn amcangyfrif bod yna gymaint â 28 y cant o gynnydd wedi bod yn yr arian sydd yn cael ei glustnodi ar gyfer datgarboneiddio, sy'n swnio'n grêt, ond mae hi'n ein hatgoffa ni ein bod ni'n dechrau o lefel isel iawn, iawn. Ac, yn allweddol, beth mae'r comisiynydd wedi'i ddweud wrthym ni, sy'n ddamniol, ydy ei bod hi'n ymddangos mai prin iawn ydy'r dystiolaeth o weithredu strategol gan y Llywodraeth—[Torri ar draws.]
Mewn eiliad.
A'r gwendid mwyaf mae hi wedi'i adnabod ydy'r diffyg asesiad o sut mae arian sy'n cael ei glustnodi yn debyg o wneud gwahaniaeth.
Diolch yn fawr. Ynghylch y ffaith eich bod wedi crybwyll bod cynnydd o 28 y cant o ran yr agenda datgarboneiddio, a'r £140 miliwn ar ben yr hyn oedd yno o'r blaen, rydych chi'n hollol gywir i ddweud ein bod ni wedi cyhoeddi argyfwng newid hinsawdd digynsail. Yn hynny o beth, o ble yr hoffech chi weld yr arian hwnnw'n dod? Ai o Lywodraeth Leol ynteu iechyd, ynteu o ble yr hoffech chi fod wedi gweld yr arian hwnnw'n dod i fynd i'r agenda honno?
Iawn. Mater i'r Llywodraeth yw dangos ei bod yn blaenoriaethu drwy ei chyllideb, ac, os byddwn ni'n gwrando ar yr hyn y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi ei ddweud, dyma a ddywedodd hi mewn erthygl ar gyfer y Sefydliad Materion Cymreig fis diwethaf:
a all holl seilwaith y Llywodraeth ateb y cwestiwn o ba un a yw ei gwariant yn cynyddu neu'n gostwng allyriadau carbon yng Nghymru? O'r hyn yr wyf i wedi ei weld yr ateb i'r cwestiwn hwnnw yw na.
Felly, nid mater o faint yn unig ydyw—mae'n ymwneud â sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Mae'r comisiynydd yn mynd ymlaen:
Nid ydym yn gwybod a yw'r buddsoddiad newydd teilwng a phwysig yn yr hinsawdd a natur yn y gyllideb hon yn cael ei ddadwneud gan fusnes fel arfer mewn rhannau eraill o'r Llywodraeth.
Mae hynny'n ddamniol, dwi'n credu. Dyna i chi'r £29 miliwn ar gyfer bysus trydan. Grêt. Mae'r ffigur ei hun yn iawn. Rydych chi'n gwybod yn iawn fy mod i'n ymgyrchydd brwd dros gerbydau trydan, ond, efo cyllideb fel hyn, rydym ni angen tystiolaeth i weld ai rhoi £29 miliwn am fysus newydd ydy'r ffordd orau i gael yr impact mwyaf o ran datgarboneiddio allan o wariant o £29 miliwn. Ac, ar ben hynny, mae yna elfennau o'r gyllideb allai fod yn negyddol, hyd yn oed, o ran eu impact ar yr amgylchedd.
Heb asesiad cynhwysfawr o'r holl benderfyniadau ar wariant,
meddai Sophie Howe,
gall cynnydd cadarnhaol mewn rhai meysydd gael ei danseilio gan brosiectau neu raglenni carbon uchel mewn meysydd eraill. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfle i fod yn arweinydd byd-eang o ran cyllidebu mewn argyfwng hinsawdd, drwy gyhoeddi 'cyfrif effaith carbon' ynghyd â'i chyllideb flynyddol. '
Dydyn nhw ddim wedi cymryd y cyfle yna yn y gyllideb yma. Felly, i ateb y cwestiwn gafodd ei ofyn yn gynharach, nid dim ond o le mae pa arian yn dod ydy o, ond pa neges mae'r Llywodraeth yn ei gyrru allan drwy'r gyllideb drwyddi draw. Nid dim ond mesur a dylanwadu ar gynaliadwyedd amgylcheddol mae'r comisiynydd, wrth gwrs. Rôl y comisiynydd ydy gofyn yn gyffredinol ydy'r penderfyniadau rydym ni'n eu gwneud rwan yn mynd i gael effaith gadarnhaol ar genedlaethau a ddaw ar ein holau ni. Ac mae sut rydym ni'n gwario arian cyhoeddus yn ganolog i hynny: ydym ni'n gwneud y dewisiadau iawn rŵan?
Dyma'r bedwaredd gyllideb ers pasio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, ond dydyn ni'n dal ddim yn gweld newid go iawn mewn diwylliant yn y Llywodraeth. Mae'n rhaid gwneud mwy i sicrhau nad ryw ddarn o bapur ydy'r Ddeddf, ond rhywbeth sy'n sail gadarn i gyllidebau'r dyfodol. Dyna pam rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi ymrwymo i broses gyllidol lesol, yn debyg i Seland Newydd, ac mi ddywedodd swyddogion swyddfa'r comisiynydd eu bod hwythau yn dymuno gweld proses debyg yn cael ei dilyn yma.
Mae iechyd a gofal yn un o'r meysydd eraill lle gallai cymaint fwy o fudd ddod o sicrhau sifft go iawn at system ataliol, a meddwl am y dyfodol rŵan. Cyfran fach iawn o'r gyllideb sydd wedi ei neilltuo ar gyfer gwaith ataliol go iawn. Yn sicr, does yna dim arwydd o drawsnewid, a dwi'n sôn yn fan hyn nid dim ond am wariant ar yr NHS, ond yn hytrach am fethiant i ddod ynghyd yr holl elfennau hynny sy'n cael impact ar iechyd pobl.
Rydym ni'n gwybod yn iawn am y cysylltiad rhwng afiechyd a thlodi. Does yna ddim byd newydd yn y gyllideb yma pan fo'n dod at daclo tlodi. Dro ar ôl tro, mae'r Llywodraeth yn trio'r un pethau yn hytrach na chyflwyno'r math o newid uchelgeisiol sydd ei angen i dynnu'r rhai sydd fwyaf angen help allan o dlodi. Rydym ni'n gweld y pryderon eto am ddiffyg lefelau cyllid mewn meysydd fel tai, digartrefedd, y rhaglen Cefnogi Pobl—y Bevan Foundation yn dweud mai prin ydy'r dystiolaeth o ffyrdd newydd yn cael eu cyflwyno i atal tlodi. Er enghraifft, mae'n feirniadol o'r un hen arfer o roi pwyslais ar nifer y swyddi sy'n cael eu creu, gwaeth beth yw lefel y cyflog na thelerau'r swyddi hynny.
Mae llywodraeth leol, wedyn, yn chwarae rôl gwbl allweddol mewn delifro elfennau ataliol o wasanaethau cyhoeddus. Eto, tra ein bod ni'n gweld cynnydd o £184 miliwn, neu 1.8 y cant mewn termau real, yn y gefnogaeth i gynghorau Cymru, mi oedd Cymdeithas Lywodraeth Leol Cymru wedi amcangyfrif bod cynghorau angen cynnydd o £250 miliwn dim ond i allu sefyll yn llonydd. All llywodraeth leol ddim chwarae rhan lawn ar y dirwedd ataliol rydym ni am ei weld yn datblygu heb gael y gefnogaeth i wneud hynny.
Gwnaf i droi at y Gymraeg yn sydyn. Rydym ni i gyd yn gallu cytuno ar werth anelu at y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg, ond sut mae sgwario efo hynny y gostyngiad mewn termau real o £400,000 mewn gwariant ar yr iaith Gymraeg yn uniongyrchol. Ac, ar ben hynny, mae yna doriad o £1.65 miliwn ar gyfer y Gymraeg o fewn addysg—felly, mewn ysgolion. Mi ges i'r cyfle yn y Siambr yr wythnos diwethaf i wthio'r Gweinidog dros y Gymraeg i beidio â thorri cyllideb dysgu Cymraeg i oedolion. Dwi'n gwybod mai ei barn hi ydy bod efallai eisiau edrych ar wario ar roi cyfleon i bobl siarad y Gymraeg. Tra bod hynny, wrth gwrs, yn bwysig iawn, mewn llefydd fel fy etholaeth i, mae yna hen ddigon o gyfleon i siarad yr iaith—rhoi cyfle i bobl drwy adnoddau dysgu Cymraeg i gael y sgiliau iaith i gymryd rhan yn y pethau hynny sy'n bwysig yn yr etholaethau a'r ardaloedd hynny. Ac, yn eu cyfanrwydd, mae'n ymddangos bod penderfyniadau'r Llywodraeth ar gyllid ar y Gymraeg yn mynd yn gwbl groes i'r hyn sydd ei angen i sicrhau llesiant y Gymraeg mewn blynyddoedd i ddod.
Mi wnaf i gloi, Llywydd: mae cyllideb yn rhan o ddodrefn y Senedd yma, yn rhan o'r dodrefn llywodraethol, ond mae'n fwy na hynny. Mae'n allweddol o ran gosod cyfeiriad. Mae'n dweud sut Lywodraeth sydd gennym ni. Dyma le mae'r rhethreg i fod i droi yn realiti, y prawf o barodrwydd Llywodraeth i weithredu ar eu haddewidion. Oes, mae yna heriau. Mae yna heriau o ran Brexit a beth fydd costau hynny, mae yna heriau o ran dyw'r gyllideb lawn yn dal ddim gennym ni, mae yna ansicrwydd ynglŷn ag am ba hyd fydd y cynnydd sydd wedi dod gan Lywodraeth Prydain yn parhau, ond dydy hon ddim yn gyllideb arloesol, mae'n rhyw groes o salami-slicing—cyllideb lle rydym ni'n gweld pob cyllideb, pob adran, yn codi rhyw fymryn. Dyna, dwi'n ofni, oedd y dull mwyaf di-ddychymyg o gyllido y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi ei ddewis y tro yma.
Diolch i Rhun am ei gyfraniad yna ac am ei wasanaeth ar y Pwyllgor Cyllid. Mae'n ddrwg gennym ein bod wedi ei golli. Ac rwyf hefyd yn croesawu Nick Ramsay yn ôl i'r Siambr ac yn diolch iddo am ei gyfraniad.
Soniodd am y maes awyr, ac yr oedd y Ceidwadwyr yn beirniadu'r gwariant ychwanegol ar hwnnw, a daeth Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, nad yw yn ei le mwyach, yn ôl drwy ddweud: 'Wel, rydych chi wedi gwrthwynebu'r gwariant hwn, ond rydych chi yn ei gefnogi yn Durham Tees', lle y prynodd Ceidwadwr y maes awyr. Rwyf wedi edrych ar faint gafodd ei wario arno, a thalwyd £40 miliwn i fyny ar y Tees, a dim ond 130,000 o deithwyr oedd gan y maes awyr hwnnw.
Felly, er ein bod yn credu bod £52 miliwn yn gryn dipyn i Lywodraeth Cymru ei wario ar Faes Awyr Caerdydd, o'i gymharu ag amcangyfrif KPMG o brisiad o rhwng £25 miliwn a £35 miliwn, mae'n awgrymu, mewn gwirionedd, bod y £52 miliwn yn cymharu'n weddol dda â'r £40 miliwn, pan oedd gan Gaerdydd 1 filiwn o deithwyr o'i gymharu â'r 130,000 yn y fan honno, ond ai dyna'r prisiad cywir, wn i ddim. Ond byddwn yn nodi, mewn ymateb i sylw Carwyn, ymateb pum arweinydd cyngor Llafur i'r ffaith fod maer Ceidwadol wedi prynu'r maes awyr yn Durham Tees: Fe wnaethon nhw rybuddio y byddai cynlluniau'r maer i fuddsoddi arian yn y maes awyr a oedd mewn trafferthion yn creu twll du yn y cynlluniau buddsoddi.
Gobeithio y byddwn yn edrych ar y materion hyn ar sail teilyngdod, yn hytrach na dim ond drwy deyrngarwch pleidiol. Rwy'n credu mai'r pwynt pwysig yr hoffwn i ei wneud, o ran arian yn mynd o'r Llywodraeth i'r maes awyr—ie, os yw'n dwll du ac mae'n cymryd arian parod yn gyson ac nid oes unrhyw bosibilrwydd y bydd yn cynhyrchu arian i wneud ad-daliadau yn y dyfodol, yna ni fyddai hynny'n syniad da. Ond, ar yr ymylon, beth maen nhw'n ei wneud gyda'r arian ychwanegol? Pan gyfarfûm â Roger Lewis ac eraill, pan oedd yn cadeirio'r maes awyr, credaf eu bod wedi dadlau bod o leiaf rhywfaint o'r arian ychwanegol yr oedden nhw'n chwilio amdano yn mynd i gael ei ad-dalu o fewn blwyddyn neu ddwy, o ran unedau manwerthu ychwanegol a gwella terfynellau. Os yw'r ad-daliad hwnnw'n wir, byddai'n synhwyrol i fuddsoddi'r arian ynddo, ac, o gofio mai'r Llywodraeth yw'r cyfranddaliwr, am y tro mae'r ddyletswydd honno'n disgyn ar Lywodraeth Cymru.
Clywsom, fel y dywedodd Nick, ychydig iawn o sôn am gyni gan y Gweinidog Cyllid, o leiaf o'i gymharu â chyfraniadau blaenorol. Fodd bynnag, roedd hi'n pwysleisio—ac roedd ei chymhariaeth hi'n un, unwaith eto, a oedd yn mynd yn ôl i 2010-11, a sut y mae gennym ni, meddai hi, £300 miliwn yn llai nawr nag yr oedd gennym ni bryd hynny mewn termau real. Rwy'n credu ei bod yn fwy o gymorth, wrth graffu ac ystyried y gyllideb, a phenderfynu beth yw ein barn ni, i gymharu beth yw'r gyllideb am y flwyddyn i ddod o'i chymharu â'r flwyddyn flaenorol. Beth ydych chi'n ei wneud mewn gwirionedd yn y gyllideb hon? Ar gyfer hynny, rwy'n credu mai'r rhif pwysig yw'r cynnydd o £593 miliwn mewn gwariant, neu 2.3 y cant mewn termau real.
Credaf fod y Gweinidog cyllid braidd yn annheg i feirniadu Llywodraeth y DU am ei hagwedd anhrefnus tuag at amseru'r gyllideb, gan fy mod i'n credu nad oedd amseriad yr etholiad cyffredinol hwnnw ar 12 Rhagfyr, na'r rheidrwydd i'w gael, yn nwylo Llywodraeth y DU yn llwyr. Roedd gan Aelodau'r wrthblaid yn San Steffan o leiaf gymaint o gyfrifoldeb dros yr amseroedd hynny a'r effaith a gawsant ar broses y gyllideb.
Fodd bynnag, hoffwn ganmol Llywodraeth Cymru am ei hymateb pragmatig i'r anawsterau amseru hynny, ac rwy'n credu ei bod hi wedi cysylltu'n synhwyrol â'r Pwyllgor Cyllid o ran craffu a'r dadleuon a gawsom yn y fan yma. Rwy'n credu ei fod wedi gweithio'n iawn, yng ngoleuni'r heriau a gawsom. Yn sicr, o'i gymharu â Llywodraeth yr Alban, a'r problemau enfawr a gawsant hwy, rwy'n credu ein bod ni wedi rhoi cyfrif da ohonom ein hunain o ran yr amseriadau hynny'n gweithio gyda'i gilydd.
Rwyf hefyd yn credu, yn y cyd-destun hwnnw, ein bod ni, ar y Pwyllgor Cyllid, yn bwriadu rhoi mwy o ystyriaeth i broses y gyllideb, gan gamu'n ôl o fanylion y gyllideb hon i ofyn ai hon yw'r broses gywir. Yr hyn yr wyf i wedi bod yn poeni fwyaf amdano, am y broses a'r ffordd y mae'n gweithio, gan i mi fod ar y Pwyllgor Cyllid o bryd i'w gilydd dros y blynyddoedd, yw bod y gyllideb ddrafft, ac yna'r craffu a'r dadleuon a'r cyfarfodydd i randdeiliaid, yn fy marn i o bosib yn arwain at fwy o ddisgwyliadau gan randdeiliaid, grwpiau â budd, y rhai sy'n cael eu hariannu—ACau yma, i raddau—o'r disgwyliadau o ran newid. Ac rwy'n aros i weld beth sy'n digwydd yng nghyllideb derfynol y Gweinidog Cyllid i weld beth gaiff ei newid bryd hynny.
Ond, os yw'r broses graffu i fod o unrhyw werth—. Hoffwn roi un enghraifft o faes lle credaf fod consensws ar draws y pleidiau, sef gwasanaethau bysiau. Ydy, mae'n braf cael y £29 miliwn hwn o gyllid cyfalaf ar gyfer bysiau trydan, ac rwy'n siŵr y bydd y rhai sy'n eu defnyddio a'r rhai yng nghanol dinasoedd sy'n elwa, efallai, ar lai o lygredd aer o'u herwydd yn gwerthfawrogi'r gwariant hwnnw, ond nid ydym yn glir pa un ai hynny yw gwerth gorau o ran gwariant o'i gymharu â phrosiectau eraill, i'r graddau bod y Gweinidog yn canolbwyntio ar amcanion newid yn yr hinsawdd. Yn amlwg, mae manteision eraill i'r rhain hefyd, ond a yw'r manteision hynny'n fwy na'r rhai a fyddai'n deillio o ddefnyddio'r arian hwnnw o £29 miliwn yn rhywle arall i gefnogi gwasanaethau bysiau?
Codais i a'r Aelod dros Flaenau Gwent y mater hwn dro ar ôl tro mewn pwyllgorau: mewn gwirionedd, os ydych chi, yng Nglynebwy, wedi gweld amlder y gwasanaeth yn cael ei haneru, mae'r cwestiwn a yw'n fws trydan yn llawer llai pwysig na pha un a oes bws o gwbl. Dim ond gobeithio y bydd y Gweinidog, os yw hi'n gwrando ar y craffu—ac mae'n dod oddi wrth Blaid Cymru, ni, y Ceidwadwyr ac o'i meinciau cefn hi ei hun. Nid yw gostyngiad mewn termau real yn y cymhorthdal ar gyfer gwasanaethau bws ar sail refeniw yn cyd-fynd yn dda iawn gyda'i hamcanion honedig ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Ac unwaith eto, hoffwn ei hannog i ailystyried yr agwedd honno cyn y gyllideb derfynol.
Tybed hefyd, o ystyried ein bod ni wedi cael y cyfnod hir hwn o gyni cymharol a'n bod wedi dod allan ohono—dull gweithredu Llywodraeth Cymru yn bennaf yw dosbarthu codiadau gweddol debyg yn gyffredinol. Mae rhai meysydd wedi elwa'n arbennig; gwelaf y Gweinidog dros yr ochr ryngwladol yn ei sedd, ac mae hynny'n ganran sylweddol er ei bod yn eithaf isel o ran cynnydd absoliwt, a gobeithio na fydd yn mynd dros ben llestri wrth agor gormod o swyddfeydd ar draws pob gwlad yn yr UE gyda'r arian ychwanegol, ond mae hynny'n faes mawr o gynnydd.
Ond tybed, o ran y penderfyniad craidd hwnnw—y GIG yn erbyn Llywodraeth Leol—cynnydd tebyg i'r ddau—. Eto i gyd, yr hyn sydd wedi digwydd wrth ymdrin â chyni yng Nghymru yw y bu toriadau cymharol yn y gwasanaeth iechyd o'i gymharu â Lloegr, ac eto mae Llywodraeth Leol wedi cael ei warchod yn llawer mwy nag a gafodd yn achos Llywodraeth Leol yn Lloegr. Arferai Llywodraeth Cymru ddweud wrthym fod angen newid strwythurol mewn Llywodraeth Leol, ac rwy'n cytuno â hwy. Pam mae gennym ni gymaint o gynghorau, 22 o gynghorau unedol, sy'n llawer llai yn gyffredinol na'r rhai yn Lloegr sy'n darparu gwasanaethau unedol? Mae angen taer i geisio annog gweithio rhanbarthol i liniaru rhywfaint ar yr aneffeithlonrwydd hwnnw. Ond yn y pen draw, oni fyddai'n well pe byddai gennym lai o gynghorau a chynghorau mwy a fyddai'n fwy addas i gyflawni'r tasgau hynny?
Fe wnaf ildio i rywun a fydd yn anghytuno'n gryf â'r hyn yr wyf newydd ei ddweud—Mike.
Diolch am ildio. Oni fyddech chi'n derbyn bod y cynghorau yng Nghymru yn sylweddol fwy na'r rheini ar dir mawr Ewrop a Gogledd America?
Mae'n dibynnu at ba gyngor yr ydych yn cyfeirio ato. Byddai rhai o'r gweithgareddau a wneir gan gynghorau unedol yma yn cael eu cyflawni gan daleithiau yn yr Unol Daleithiau, sydd wrth gwrs yn llawer mwy. Ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw: rwy'n credu bod 22 yn ormod, ac rwy'n credu y dylem ni fynnu bod cynghorau lleol yn uno ag o leiaf un arall. Rwy'n credu y dylai Caerdydd a Phowys fod yn eithriadau o ystyried eu maint. Rwy'n credu y dylai fod yn broses o'r gwaelod i fyny gyda chynghorau yn penderfynu ar eu partner uno, yn hytrach na map o'r brig i lawr. Credaf y byddai hynny'n caniatáu i arbedion gael eu defnyddio mewn gwasanaethau rheng flaen. A thra ein bod yn sôn am hynny, byddwn yn torri nifer y cynghorwyr a byddwn yn cwestiynu pam mae angen talu isafswm o £14,000 i bob un, sy'n llawer mwy na'r hyn a welais pan oeddwn i—. Mae gan lawer o gynghorau yn Lloegr yn cael cryn dipyn yn llai, er gwaethaf y ffaith eu bod yn gynghorau unedol mwy na'r rhai sy'n talu'r swm hwnnw.
Yn olaf, edrychaf ymlaen at weld y gyllideb derfynol yn cael ei gwneud. Diolch i'r Gweinidog am graffu o dan amgylchiadau anodd, ac mae'n dda gweld cyllideb lle mae gennym ni rai cyfleoedd i ddefnyddio a buddsoddi rhywfaint o arian ar ôl cymaint o flynyddoedd o gyni. Hir y parhaed hynny nawr bod y Deyrnas Unedig yn wlad annibynnol unwaith eto.
Yn gyntaf, a gaf i ddweud pa mor braf yw gweld cynifer o bobl yn cymryd rhan yn y ddadl hon a honno'n ddadl mor bwysig? Yn rhy aml o lawer, roedd pedwar ohonom yn arfer trafod y gyllideb ac roedd y Gweinidog yn arfer ymateb. Rydym ni'n ymdrin â symiau sylweddol o arian, ac rwy'n credu ei fod yn werth chweil i'r Cynulliad roi dadl lawn iddo. Rwyf am roi sylw i'r ddadl hon mewn dwy ran; yn gyntaf, ar y gyllideb gyffredinol, ac yna ar y gyllideb a gwmpesir gan y meysydd y craffwyd arnyn nhw gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Rwyf eisiau rhoi sylw i'r modd y caiff arian ei wario, oherwydd mae'r cynnydd i'w groesawu, ond mae sut y caiff ei wario o fewn adrannau o leiaf yr un mor bwysig—byddwn yn dadlau bod hynny yn fwy pwysig.
Gellir rhannu swyddogaeth y Llywodraeth i dri maes: iechyd a lles, diogelwch, a'r economi. Gan ddechrau gydag iechyd a lles: nid yw iechyd yn ymwneud ag ysbytai yn unig yn yr un ffordd nad yw gwaith cynnal a chadw ceir i gyd yn ymwneud â thrin ceir mewn garejys. Mae iechyd a lles pobl yn dechrau gyda chael cartref cynnes, sy'n dal dŵr ac sy'n ddiogel, gyda digon o faeth. Bydd atal pobl rhag bod yn ddigartref a darparu llety â chymorth yn cadw llawer o bobl allan o'r ysbyty. Rwyf eisiau tynnu sylw at ddau faes pwysig: darparu tai cymdeithasol fel bod gan bobl gartref; y ddarpariaeth ar gyfer cefnogi pobl nad ydyn nhw'n gallu edrych ar ôl eu hunain i gael cartref lle y cânt eu cynorthwyo. Mae'r rhain yn sylfaenol bwysig i fywydau pobl.
O fewn y ddarpariaeth iechyd—ac mae fy mhryder ynghylch maint ardaloedd daearyddol y byrddau iechyd yn hysbys—mae angen i'r cyllid ar gyfer gofal sylfaenol gynyddu. Yr hyn sy'n digwydd yw bod pobl yn methu â chael apwyntiad mewn gofal sylfaenol felly maen nhw'n mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Yn aml, y sefyllfa ddiofyn mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yw bod cleifion yn cael eu cadw i mewn i'w harsylwi am 24 awr pan eu bod yn dod i mewn gyda symptomau amhenodol. Ar adeg rhyddhau o'r ysbyty, mae'n sicrhau bod fferyllfa'r ysbyty yn darparu'r feddyginiaeth, fel y gall cleifion fynd adref yn hytrach nag aros tan y diwrnod canlynol pan fydd y fferyllfa leol yn gallu rhoi eu meddyginiaeth. Pam mae cymaint o gleifion sy'n mynd i'r ysbyty yn gallu gofalu amdanynt eu hunain yn cael eu rhyddhau naill ai i gartrefi nyrsio neu i becyn gofal sylweddol? Er bod hyn yn ddealladwy i gleifion strôc, rwyf i'n credu bod hyn yn llai dealladwy i bobl sy'n mynd i mewn, weithiau ar gyfer llawdriniaethau orthopedig y maen nhw wedi gofyn amdanynt, ac yn y diwedd nid ydyn nhw'n gallu gofalu am eu hunain mwyach.
O ran yr economi, gallwn naill ai geisio gwneud cynnig gwell na phawb arall i ddenu ffatrïoedd cangen, neu gallwn gynhyrchu gweithlu medrus iawn, gan greu ein sectorau diwydiannol ein hunain a chael cyflogwyr yn dod oherwydd ein cymysgedd sgiliau nid ein cymhelliad ariannol. Mae addysg yn allweddol i greu gweithlu sy'n gallu gweddnewid economi Cymru. Mae arian sy'n cael ei wario ar addysg mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion yn fuddsoddiad yn economi Cymru a thwf economaidd, a chredaf fod hynny yn wirioneddol bwysig.
Ar ôl datgan argyfwng newid hinsawdd, dydw i ddim yn credu mai fi yw'r unig berson a oedd yn teimlo ei bod yn siomedig gweld mai'r maes hwn oedd â'r cynnydd lleiaf yn y gyllideb refeniw mewn termau real. O ran y gyllideb, a gaf i ofyn a allai cyllidebau'r dyfodol gael eu hategu gan asesiad cynhwysfawr o'i heffaith carbon gyffredinol? Mae'r gwariant presennol ar ddatgarboneiddio a chynllun ariannu hirdymor yn anghenrheidiol. Er fy mod i'n croesawu'n fawr y gwaith o ddatblygu cynllun twf amgylcheddol a'r arian a ddyrennir i'r cynllun hwnnw, ni fwriedir i'r cynllun gael ei gyhoeddi tan yn ddiweddarach eleni. Sut ydym ni'n mynd i sicrhau bod arian yn cael ei wario'n effeithiol?
Mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd yn cynnal ymchwiliad i dlodi tanwydd ar hyn o bryd. Cafodd targed Llywodraeth Cymru o ddileu tlodi tanwydd erbyn 2018 ei fwrw oddi ar y cledrau gan y chwalfa economaidd a'r cyni dilynnol gan Lywodraethau Ceidwadol, felly nid wyf i'n mynd i'w beio nhw am hynny. Ond yr hyn yr wyf i am ddweud yw, yn fy etholaeth i, mae gen i eiddo hŷn yn y sector rhentu preifat a'r sector perchen-feddianwyr nad oes ynddyn nhw gyfleusterau sylfaenol fel gwres canolog a ffenestri dwbl. Siawns na ddylai ymdrin â'r rhain fod y cam cyntaf tuag at ymdrin â thlodi tanwydd? Hefyd, nid yw'r diffiniad o dlodi tanwydd yn cynnwys y rhai sy'n cadw eu heiddo'n oerach na'r optimwm neu sy'n mynd i'r gwely'n gynnar—ac rwyf wedi siarad â phobl sy'n mynd i'r gwely am chwech o'r gloch y nos oherwydd na allan nhw fforddio cadw eu tŷ yn gynnes—er mwyn arbed costau gwresogi. Nid yw'r bobl hyn mewn tlodi tanwydd yn ôl y diffiniad. Rwyf i'n credu eu bod nhw mewn tlodi tanwydd yn ôl yr hyn y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn ei ddisgrifio fel tlodi tanwydd, oherwydd na allan nhw gadw eu tai yn gynnes.
Mae angen arian i ddiogelu'r amgylchedd, ac mae angen ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru yn ddigonol. Rwyf i'n un o'r bobl hynny nad ydym wedi ein hargyhoeddi bod uno tri chorff gwahanol yn syniad da, ond mae gennym sefydliad sydd fel ag y mae ar hyn o bryd, ac mae angen iddo gael ei ariannu'n ddigonol. Mae angen gwneud llawer iawn o waith i ddiogelu'r amgylchedd. I rai ohonom, mae hynny'n wirioneddol bwysig. A gaf i siarad am rywbeth nad oes llawer o sôn amdano yn aml, ac eithrio gan fy nghyfaill Joyce Watson, sef ardaloedd cadwraeth morol? Mae angen cyllid ar gyfer hynny. Mae angen mwy o barthau cadwraeth morol arnom, ac mae angen eu dynodi, ond nid eu dynodi'n unig, ond cael digon o staff. Does dim pwynt dweud, 'bydd gennym barth cadwraeth forol yn y fan yna', os nad oes arian a staff i'w gefnogi. Ac yn olaf, mae angen gwario arian i atal rhywogaethau rhag diflannu. Dyna beth mae'r newid yn yr hinsawdd yn ei wneud i'r wlad hon, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i atal hynny rhag digwydd.
Rwy'n cytuno â llawer o'r hyn a ddywedodd Mike, yn enwedig ynglŷn â'r mater o gadw pobl yn iach a bod hyn yn mynd i arbed llawer mwy ar y gyllideb iechyd na phe byddem yn lluchio arian drwy'r amser at bethau nad ydyn nhw'n gweithio'n arbennig o dda ar hyn o bryd.
Roeddwn i eisiau siarad am ddyraniad y gyllideb tai, yn enwedig y grantiau tai â chymorth. Oherwydd ddydd Gwener, ymwelais ag un o dai â chymorth Llamau i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed, oed pan fo'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn dal i fod â lle yng nghartref y teulu, naill ai'n rhan-amser neu'n llawn amser. Ond nid yw'r bobl hyn, am ryw reswm neu'i gilydd, yn gallu byw gyda'u teuluoedd ac nid ydyn nhw'n yn barod i ddal eu tenantiaeth eu hunain, boed hynny o ganlyniad i drawma digartrefedd, sy'n eu gwneud yn agored i niwed, neu oherwydd cam-fanteisio rhywiol, neu oherwydd eu bod nhw'n colli'r cymorth a oedd ar gael iddyn nhw yn flaenorol fel plant sy'n derbyn gofal, neu os ydyn nhw yn gaeth i alcohol neu gyffuriau, sy'n golygu ei bod yn amhosibl iddyn nhw ddal eu tenantiaeth eu hunain.
Gwyddom fod y boen o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn gwneud pobl ifanc o'r fath yn fwy tebygol o gael salwch meddwl difrifol neu, fel arall, mynd i'r carchar. Felly, mae'r naill lwybr neu'r llall yn fwy o lawer o dreth ar adnoddau cyhoeddus na'r gwariant ataliol y mae angen i ni ei roi yn y grant cymorth tai. Felly, mae'r gwaith gan Llamau ac eraill i atal pobl rhag disgyn i naill ai droseddu neu argyfwng meddwl yn arbediad enfawr i gymdeithas.
Mae gan Llamau 10 o dai yng Nghaerdydd, ac mae pob un gyda llety byw i rhwng tri a chwech o bobl. Mewn sawl ffordd, nid yw'n wahanol i'r trefniadau a ddefnyddiwyd gan y nifer fawr o fyfyrwyr mewn tai amlfeddiannaeth yn fy etholaeth i. Mae gan bob unigolyn ystafell ei hun, ac maen nhw'n rhannu'r ystafell ymolchi, y gegin a'r ystafell fyw gydag eraill. Mae gwahaniaethau, serch hynny. Mae pob tenant yn Llamau yn cael dewis eu dodrefn ystafell wely a'u haddurniadau eu hunain. Nid yw papur wal pinc at ddant pawb, ond dyna oedd dewis menyw ifanc benodol, a dyna oedd yn gwneud iddi deimlo ei fod yn gartref iddi hi.
Dywed Llamau wrthyf fod tri chwarter, o leiaf, o'r holl bobl ifanc hyn wedyn yn symud ymlaen yn llwyddiannus i ddal eu tenantiaethau eu hunain, neu denantiaeth hyfforddi, naill ai yn y sector cymdeithasol neu mewn tenantiaeth rhentu breifat. Un o nodweddion pwysig eu cymorth yw eu bod yn parhau i gael eu cefnogi am y 12 mis cyntaf gan yr un grŵp o weithwyr proffesiynol y daethant i ymddiried ynddynt nhw tra'r oedden nhw yn y llety â chymorth.
Felly, mae grant Llamau gan wasanaeth atal digartrefedd Cyngor Caerdydd yn talu am bedair rhan o bump o gost y cymorth hwn sydd wedi'i deilwra ac sy'n llawn dychymyg. Mae'n rhaid i'r gweddill—£250,000—ddod o godi arian, ac roeddwn i'n hapus iawn i gefnogi'r digwyddiad cysgu allan yng Nghastell Caerdydd ddechrau mis Rhagfyr, a gefnogwyd gan amrywiaeth enfawr o unigolion a sefydliadau. Ond rwy'n meddwl tybed, ar ôl llwyddiant profedig yr ymyrraeth gyntaf hon ym maes tai, a yw hi'n iawn i ddim ond cael setliad ar ffurf arian sefydlog ar gyfer y llinell hon o'r gyllideb, sydd mewn gwirionedd yn golygu toriad. Heb fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai, mae perygl na fydd gan wasanaethau y gallu i ddiwallu anghenion pobl, ac mae hynny'n amlwg yn broblem enfawr yng Nghaerdydd, lle mae gennym ni nifer sylweddol o bobl sydd naill ai'n ddigartref eisoes neu mewn perygl o fod yn ddigartref.
I droi at fater arall, sef ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i dlodi tanwydd, sy'n mynd rhagddo, mae'n dangos bod llawer mwy y gellir ei wneud i gydgysylltu'r dull. Tybed a ydym ni'n defnyddio'r holl fyrddau gwasanaethau cyhoeddus yn ddigonol i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyd-weithio rhwng gwahanol randdeiliaid
Gall symiau bach o arian fod yn allweddol yn aml, a chymeradwyaf y £5 miliwn yn y gyllideb twf amgylcheddol ar gyfer cronfa lleoedd lleol ar gyfer natur, y gellir ei gweld, fel y dywedodd y Gweinidog, o garreg y drws ac mae'n llawer mwy arwyddocaol o ran ei heffaith na'r £137 miliwn o gyfalaf cyffredinol ar gyfer yr eitem hon. Felly, rwy'n credu y gallem fod yn gwneud llawer mwy o'r math hyn o beth, megis y gronfa tai arloesol, sydd wedi dangos, dro ar ôl tro, y gallwn ni fod yn adeiladu tai llawer gwell na dull Legoland y pum cwmni mawr sy'n adeiladu tai. Diolch.
Rhagwelodd cyllideb Llywodraeth Lafur y DU ym mis Mawrth 2010 y byddai diffyg y DU yn 11 y cant o gynnyrch mewnwladol crynswth yn y flwyddyn honno. Yn ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol, y DU oedd â'r diffyg uchaf ymhlith economïau'r G7 a'r G20. Fe wnaeth datganiad cyllideb Alistair Darling ym mis Mawrth 2010 adolygu'r rhagolwg twf, lleihau benthyca, a nodi y byddai'r diffyg yn fwy na haneru dros bedair blynedd, am fod ei faint yn golygu nad oedd gan y DU ddigon o arian, rhywbeth a ddiffiniwyd fel 'cyni cyllidol'.
Yn ei wiriad iechyd blynyddol ym mis Medi 2010 ar economi'r DU, cefnogodd yr IMF fesurau cyni y Llywodraeth glymbleidiol oedd mewn grym bryd hynny, gan alw cynlluniau Canghellor y DU yn gredadwy ac yn hanfodol, gan ddweud bod y cynllun:
yn lleihau'n fawr y risg o golli ffydd mewn cyllidebau cyhoeddus ac yn cefnogi adferiad cytbwys.
Mae rheolaeth economaidd ddarbodus Llywodraeth y DU ers 2010 wedi lleihau diffyg y DU i lai na 2 y cant o CMC, sy'n is na'r cyfartaledd nawr ymhlith economïau'r G7, gan alluogi Llywodraeth y DU i roi hwb i gyllideb Llywodraeth Cymru nawr. Ond, roedd pedwar o'r pum awdurdod lleol isaf o ran cynnydd mewn cyllid, unwaith eto yr un awdurdodau yn y gogledd—Conwy, Wrecsam, Sir y Fflint ac Ynys Môn—tra bod Sir Fynwy yn dal ar y gwaelod. Dywedodd y Gweinidog llywodraeth leol dro ar ôl tro bod y broses o rannu'r setliad llywodraeth leol rhwng awdurdodau lleol yn cael ei wneud drwy brosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Fodd bynnag, fel y dywedodd uwch gynghorwyr trawsbleidiol yn y gogledd wrthyf, nid yw'r collwyr eisiau herio'n agored y fformiwla ariannu ar y sail, er mwyn elwa, y bydd yn rhaid i gynghorau eraill gael llai o arian. Felly, drwy fabwysiadu agwedd 'nid yw tyrcwn yn pleidleisio i gael Nadolig', ni fydden nhw'n cael unrhyw gefnogaeth allanol.
Serch hynny, mae arweinyddion cynghorau yn y gogledd wedi ysgrifennu at arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud nad yw buddion y setliad dros dro hwn yn cael eu rhannu'n ddigon teg a'i fod yn gadael y rhan fwyaf o'r cynghorau yn y gogledd gyda setliad sylweddol is na chost net pwysau, chwyddiant a newid demograffig. Ac mewn llythyr at y Prif Weinidog, mae arweinydd Conwy yn dweud bod y sefyllfa cyllid allanol gyfunol ledled Cymru mewn ystod eang o rhwng 3 y cant—y gwaethaf—a 5.4 y cant—y gorau, a bod hyn yn achosi cryn bryder. Mae'r rhychwant o 2.4 y cant yr uchaf a fu ers nifer o flynyddoedd.
Wrth ysgrifennu at y Gweinidog llywodraeth leol, Julie James, mae arweinyddion pob un o'r chwe cyngor yn y Gogledd yn datgan yn drawsbleidiol eu bod, ar ôl yr heriau sy'n parhau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020-21, yn dymuno gofyn am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad cyllid llywodraeth leol i'w dalu o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru. Oherwydd, meddai nhw, ar gyfer setliad dros dro 2020-21—mae pedwar o'r pum cyngor isaf yn y gogledd—heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau'r gogledd yn wynebu'r her fwyaf o ran ceisio cwtogi gwasanaethau. Bydd terfyn isaf yn helpu i ddiogelu gwasanaethau a gweithio yn erbyn codiadau sy'n uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor isaf.
Mae angen i ni hefyd weld diwedd ar economïau ffug, sy'n golygu bod gwasanaethau ymyrraeth ac atal cynnar allweddol sy'n cael eu darparu gan y trydydd sector yn cael eu hamddifadu o gyllid, gan ychwanegu miliynau at y pwysau cost ar wasanaethau statudol. Fel y clywsom yn ddiweddar mewn dadl yn y fan yma, nid oes arian statudol ar gael ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd wedi cael profedigaeth. Mae elusennau yng Nghymru sy'n darparu cymorth hanfodol i bobl awtistig a'u teuluoedd hefyd yn adrodd nad oes unrhyw gyllid statudol. Mae Cyngor Cymru i'r Deillion wedi rhybuddio bod symudiad Llywodraeth Cymru oddi wrth y model cyllid craidd i ariannu prosiectau yn golygu bod cynaliadwyedd y sefydliadau ymbarél penodol yng Nghymru o dan fygythiad yn fuan iawn. Wrth ymateb i'r setliad arian sefydlog ar gyfer y grant cymorth tai yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru—toriad mewn termau real—mae Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymorth i Ferched Cymru yn rhybuddio bod gwasanaethau atal digartrefedd a chefnogi byw wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol erbyn hyn. Fel y dywedodd darparwr gwasanaeth byw â chymorth yn y gogledd wrthyf yn ystod ymweliad ddydd Gwener diwethaf, bydd hyn yn arwain at bwysau cynyddol ar y GIG, adrannau damweiniau ac achosion brys a gwasanaethau golau glas, gan ychwanegu bod hyn, ynghyd ag ailddosbarthu grant cynnal tai arfaethedig Llywodraeth Cymru, yn ddinistriol i'r gogledd, lle bydd pum awdurdod lleol yn colli rhwng 25 y cant a 40 y cant o'u cyllid i'r de. Mae'r canlyniadau o ran llochesi, hosteli a chymorth sy'n gysylltiedig â thai sy'n galluogi pobl i fynd i'r afael â'r problemau cymhleth sydd wedi eu hatal rhag byw'r bywydau y gallen nhw eu byw, fel y clywsom, yn ddinistriol iawn. Rwy'n gobeithio na chaniateir i hyn ddigwydd.
Fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, hoffwn gyfeirio at ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft a basiwyd yr wythnos diwethaf. Yn hwnnw, Llywydd, fe wnaethom ailadrodd ein barn y byddai Llywodraeth Cymru ar ei hennill, y byddai Cymru ar ei hennill o gael strategaeth trechu tlodi a fyddai'n rhoi gwell pwyslais ar y materion pwysig iawn hynny. Rydym yn croesawu'r £18 miliwn ychwanegol ar draws portffolios ar gyfer trechu tlodi yn y gyllideb ddrafft, gan fynd i'r afael, er enghraifft, â thlodi mislif, y grant amddifadedd disgyblion, llwgu yn ystod y gwyliau, prydau ysgol ac yn wir tlodi tanwydd. Ond rydym yn credu y byddai strategaeth fwy cydlynol, sy'n tynnu holl waith Llywodraeth Cymru ar fynd i'r afael â thlodi at ei gilydd, yn fwy effeithiol ac rydym yn credu y dylid rhoi mwy o bwyslais ar fynd i'r afael â'r hyn sy'n achosi tlodi yn hytrach na'r symptomau.
Roedd ein prif argymhelliad yn yr adroddiad, Llywydd, yn ymwneud â'r dyraniadau yn y gyllideb i'r grant cymorth tai a llinell y gyllideb ar gyfer atal digartrefedd. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi gwneud llawer o waith fel pwyllgor yn edrych ar gysgu ar y stryd yng Nghymru. Rydym wedi croesawu'r cynnydd yn y gweithgarwch a'r pwyslais y mae Llywodraeth Cymru wedi ei roi ar y mater hwn yn ystod y misoedd diwethaf, ac yn arbennig, sefydlu'r grŵp gweithredu digartrefedd a'r ffaith fod y Llywodraeth wedi derbyn y gyfres gyntaf o argymhellion gan y grŵp.
Ym mhob rhan o'n gwaith, mae wedi bod yn glir bod her arbennig yn y maes hwn i newid o ddarparu cymorth adweithiol brys wrth, ac ar yr un pryd, ail-lunio gwasanaethau i ddarparu mwy o gymorth ataliol. Mae cost amlwg i ddarparu'r ddau fath o wasanaeth ar yr un pryd. Fel y dywedwn yn ein hadroddiad, mae unrhyw gynnydd mewn cyllid yn debygol o fod dros dro tan fydd y gwaith ataliol yn dechrau dwyn ffrwyth a'n bod yn symud tuag at gyflawni'r nod o wneud digartrefedd yn brin, yn fyrhoedlog ac na fydd yn digwydd yr eildro.
Felly, nid ydym yn credu bod cynnal yr arian ar gyfer y grant cynnal tai a'r llinell gyllideb atal digartrefedd ar yr un lefelau â 2019-20 yn ddigonol—mae hynny, i bob pwrpas, yn doriad mewn termau real. Er i Lywodraeth Cymru ddweud wrthym fod y cynnydd mewn cyllid yn y blynyddoedd blaenorol wedi ei gynnal i gefnogi ei huchelgeisiau, awgrymodd eraill yn y sector nad oedd y cynnydd yn y gyllideb yn ddigonol. Er gwaethaf arian ychwanegol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dywedodd y sector wrthym fod y nifer gynyddol o achosion y maen nhw yn ymdrin â hwy a'u cymhlethdod yn golygu eu bod yn dal i'w chael yn anodd darparu'r holl gymorth angenrheidiol yn y lle cywir ar yr adeg gywir.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan bod lleihau digartrefedd yn flaenoriaeth. Gallwn weld y blaenoriaethu hwn yn y dewisiadau polisi sy'n cael eu gwneud, ond nid ydym yn credu ein bod yn ei weld yn ddigonol o fewn dyraniadau cyllideb 2020-21. Mae rhyddhau'r ffigurau o'r cyfrif cysgu ar y stryd blynyddol heddiw yn dangos cynnydd yn y niferoedd sy'n cysgu ar y stryd, a chredwn fod hyn yn dangos yr angen i fynd i'r afael â'r mater hwn nawr. Rydym yn cydnabod bod cyfyngiadau i'r cyfrif ei hun, ond rydym yn dal i gredu ei fod yn tanlinellu pwysigrwydd sicrhau bod digon o arian ar gael i fynd i'r afael â'r broblem hon. Nid yw gwarchod y gyllideb yn ddigon; mae angen ei chynyddu.
Felly, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r dyraniad cyllid yng nghyllideb 2020-21 ar gyfer cymorth tai ac atal digartrefedd. Mae'r gost ddynol yn ogystal â chost ariannol digartrefedd i wasanaethau cyhoeddus yn rhy uchel i beidio â gwneud hyn. Diolch yn fawr.
Rwy'n siarad fel Cadeirydd y pwyllgor iechyd. Fel rhan o ystyriaeth y pwyllgor o'r gyllideb ddrafft, clywsom dystiolaeth gan y Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol mewn perthynas â chyllid iechyd a gofal cymdeithasol, a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth mewn perthynas â chyllid ar gyfer chwaraeon a gweithgareddau corfforol.
Yn ogystal, rydym wedi cymryd rhan mewn rhaglen graffu ar yr holl fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau dros dymor yr haf, sydd wedi cynnwys craffu ar eu perfformiad ariannol. A'r ddau brif beth sy'n dod allan ydy atal a thrawsnewid.
Trawsnewid ac atal. Yn dilyn y broses o graffu ar gyllideb y llynedd, fe wnaethom godi pryderon ynghylch gallu sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol i brif ffrydio gweithgareddau trawsnewid gwasanaethau, o gofio'r pwysau o ran galw a chost sydd arnyn nhw a methiant parhaus mwyafrif y byrddau iechyd i beidio â cholli arian.
Nid yw'r sefyllfa eleni yn fawr gwell ac, felly, rydym yn parhau i bryderu am gapasiti ym mhob rhan o'r system i ysgogi trawsnewid ar y raddfa a'r cyflymder sydd ei hangen.
Ynglŷn ag atal, ac o ystyried y pwyslais cynyddol yn y maes hwn, mae'n siomedig bod Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yn disgrifio ei bod wedi gweld:
tystiolaeth brin bod y Llywodraeth wedi ceisio cymhwyso'r diffiniad o atal ar draws gwariant mewn modd systematig a chadarn.
Nodwn fod gwaith yn cael ei wneud gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i wella'r broses o fesur gwariant ar atal. Serch hynny, rydym yn pryderu nad yw'r gyllideb hon yn dangos bod symudiad amlwg tuag at brif-ffrydio ataliad a thrawsnewid gwasanaethau. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru, yng nghylchoedd y gyllideb yn y dyfodol, yn dangos sut y bydd ei dyraniadau cyllid yn cefnogi newid hirdymor, cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol integredig. Ac yn rhan o hyn, rydym yn disgwyl gweld mwy o bwyslais strategol ar drawsnewid ac atal yn y gyllideb, a chyflwyniad cliriach o'r arian a ddyrennir ar gyfer dibenion atal a thrawsnewid.
Mae anallu parhaus nifer o fyrddau iechyd i reoli eu cyllid yn parhau i beri pryder. Dim ond tri bwrdd iechyd sy'n cyflawni eu dyletswyddau ariannol statudol o gyflawni cydbwysedd ariannol a chael cynllun tymor canolig integredig cymeradwy dros dair blynedd. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol ynghylch sut y bydd pob bwrdd iechyd yn gallu buddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau a'u sicrhau, o gofio y bydd cyllid trawsnewid penodol yn dod i ben yn 2021.
Gwyddom fod £83 miliwn wedi ei ddarparu i Betsi Cadwaladr dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cymorth ymyrraeth a gwella. Fodd bynnag, nid yw'n glir faint o arian sy'n cael ei ddarparu i gefnogi'r tri bwrdd iechyd arall mewn ymyraethau wedi eu targedu, na'r hyn y defnyddir yr arian hwn ar ei gyfer. Felly, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y manylion hyn ar gael, ynghyd â manylion am sut y caiff yr arian hwn ei wario, sut y caiff y gwariant hwnnw ei fonitro, a sut y mae'n sicrhau gwerth am arian.
Wrth graffu ar gyllideb drafft y llynedd, un pryder sylweddol i ni oedd bod cyfran gwariant y byrddau iechyd sy'n mynd ar ofal sylfaenol wedi aros yn weddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Roedd hyn yn awgrymu nad oedd y newid mewn adnoddau tuag at ofal sylfaenol yn cael ei wireddu. Rydym felly yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu eglurder mewn cylchoedd cyllideb yn y dyfodol, er mwyn ein galluogi i weld yn gliriach sut y mae'r cyllid yn cefnogi'r newid mewn adnoddau i'r gymuned.
O ran iechyd meddwl, rydym yn dal yn bryderus bod diffyg cydraddoldeb o hyd rhwng iechyd meddwl a chorfforol, a'r ffordd y cânt eu cefnogi. Yn ein hadroddiad ar atal hunanladdiad yng Nghymru, 'Busnes Pawb', nodwyd gennym ei bod yn annerbyniol nad yw gwasanaethau iechyd meddwl yn cael eu blaenoriaethu yn yr un modd ag iechyd corfforol. Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i fuddsoddi £13 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau iechyd meddwl—gan ddod â'r dyraniad sydd wedi ei neilltuo i fwy na £700 miliwn—rydym yn bryderus ynghylch ein gallu i graffu'n effeithiol ar wariant ar iechyd meddwl, o ystyried y diffyg dadansoddiad manwl o'r dyraniad sydd wedi ei neilltuo a'r anghysondeb yn y ffordd y mae byrddau iechyd yn casglu ac yn darparu gwybodaeth. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi dadansoddiad i ni o'r £700 miliwn hwn.
Gan droi at ofal cymdeithasol, rydym yn dal i bryderu am y gweithlu gofal cymdeithasol a breuder gwasanaethau. Roedd yr anghysondeb rhwng y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol o ran telerau ac amodau cyflogaeth, yn ogystal â pharch yn bryder allweddol. Ac, yn amlwg, aethom i'r afael â nifer o'r materion hyn yn y datganiad cynharach. Byddem yn dweud, y dylai cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol gael ei gyfeirio at wasanaethau i atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf a bod angen gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol—cronfa wirioneddol drawsnewidiol,
I gloi, sy'n dod â mi at gyllid y trydydd sector. Un thema a gododd dro ar ôl tro yn ystod ein hymchwiliadau yn y Cynulliad hwn oedd yr angen am drefniant ariannu cynaliadwy, syml a hirdymor ar gyfer cyrff y trydydd sector er mwyn gallu cynllunio'n fwy effeithiol, gan arwain at gyflawni gwasanaethau mewn modd cyson a chynaliadwy. Rydym wedi argymell y dylid darparu cyllid ar sail bob tair blynedd o leiaf, ac rydym wedi annog Llywodraeth Cymru i symud tuag at hyn fel mater o flaenoriaeth. Felly, mae'n siomedig iawn clywed gan nifer o sefydliadau, sy'n darparu gwasanaethau hanfodol i rai o'n grwpiau mwyaf agored i niwed, na fydd eu cyllid yn cael ei adnewyddu o fis Ebrill 2020 ymlaen. Diolch yn fawr.
A gaf i groesawu'r ffaith fod gennym y cyfle i ddatblygu cyllideb Cymru ar gyfer 2020-21 er gwaethaf yr anawsterau a'r amgylchiadau yn ymwneud â'r broses hon eleni? Mae'r anawsterau hynny wedi cynnwys, fel y clywsom eisoes, yr amserlen ar gyfer pennu cyllideb eleni, gan ei gwneud yn llawer mwy heriol nag arfer i ACau y meinciau cefn yn enwedig i ddarparu craffu effeithiol. Rwy'n gwybod nad bai'r Llywodraeth hon yw hynny, ond mae'n werth ei nodi serch hynny. Yr hyn y byddwn i yn ei ddweud yw bod llawer i'w groesawu yng nghyllideb eleni, yn enwedig y buddsoddiad parhaus yn y GIG yng Nghymru, a chynnydd sylweddol mewn cyllid i lywodraeth leol eleni, ac mae llawer o bethau y gallwn i roi sylwadau arnynt.
Fodd bynnag, hoffwn innau ychwanegu fy llais at yr un mater sy'n codi o'r gwaith craffu a wnaed gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a nodwyd gan y Cadeirydd, John Griffiths, ac a godwyd hefyd gan Jenny Rathbone a Mark Isherwood, ond sydd angen ei atgyfnerthu, sef y dyraniad yn y gyllideb ar gyfer y grant cymorth tai a'r llinell atal digartrefedd, ac mae'r ddau ohonyn nhw yn statig eleni.
O ystyried y pwysigrwydd yr ydym yn ei roi ar fynd i'r afael â materion tai, mae'r agwedd hon ar y gyllideb sydd ger ein bron heddiw yn anffodus, a dweud y lleiaf. Fel eraill, rwy'n siŵr, rwyf wedi gweld yn fy etholaeth fy hun buddion y grant hwn a'r cyfeiriad polisi cyffredinol o ymdrin â digartrefedd a chefnogaeth mewn achosion o gam-drin domestig, er enghraifft. Ond rwyf hefyd yn gweld, o'r gwaith achos sy'n dod drwy fy swyddfa, mai dim ond crafu'r wyneb yr ydym ac, i asiantaethau sy'n ceisio darparu cymorth tai i'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau, mae'n mynd yn fwy o her flwyddyn ar ôl blwyddyn. Ac fel y cyfeiriwyd ato eisoes, mae'n ymddangos bod hyn wedi ei gadarnhau gan ddatganiad y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol heddiw ar y nifer sy'n cysgu ar y stryd, sy'n dangos cynnydd o ryw 17 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yr wythnos diwethaf, gofynnwyd i mi siarad mewn digwyddiad a oedd yn dathlu gwaith y prosiect Tai yn Gyntaf ym Merthyr Tudful, cynllun arloesol sy'n cael ei ddarparu gan Fyddin yr Iachawdwriaeth ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Mae'r math o gymorth sydd ei angen mewn prosiectau Tai yn Gyntaf yn ddwys ac mae'n ddrud. Dim ond pedwar neu bump o bobl y mae'r prosiect ym Merthyr yn gallu eu cefnogi, er ein bod yn gwybod bod yr angen yn fwy o lawer. Mae'r prosiect, fel pob prosiect o'r fath, yn gyfyngedig o ran amser ac yn dibynnu ar gyllid grant. Yn fy marn i, mae angen sicrwydd cyllid a'r sicrwydd o fwy o arian yn flynyddol ar wasanaethau tai hanfodol, boed hynny'n brosiectau Tai yn Gyntaf, llochesi i fenywod neu gymorth ar gyfer ymyrraeth gynnar i atal digartrefedd, fel bod y prosiectau hyn yn gallu parhau i ymdopi â chostau darparu'r gwasanaethau.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn manylu ar y pryderon hynny a sut y gallai'r llinell gyllideb statig effeithio ar amcanion a bennwyd gan Lywodraeth Cymru ei hun. Felly, i ddyfynnu o adroddiad y pwyllgor,
'dylai Llywodraeth Cymru ystyried cynyddu'r arian sydd ar gael i ariannu cymorth tai a digartrefedd.'
Rwy'n gwybod bod y mater o dai ag atal digartrefedd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae ein polisïau bob amser wedi bod yn arloesol mewn cymaint o ffyrdd, ond rwy'n disgwyl i'r Gweinidog fy sicrhau am ddau beth: yn gyntaf, bod y gwaith amhrisiadwy a wneir drwy'r llinell gyllideb hon, yr wyf wedi ei amlinellu'n fyr yn fy nghyfraniad, yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth Cymru; ac yn ail, pe byddai'r cyfle'n codi, yna bydd arian ychwanegol yn cael ei ddargyfeirio i ddiwallu anghenion sefydliadau yn y sector hwn, oherwydd yn erbyn cefndir o lai o gyllid, i lawr o £139 miliwn yn 2011-12 i £124 miliwn eleni, 2019-20, mae'n anodd gweld sut y gallwn ni adeiladu a datblygu'r gwasanaethau hyn y mae llawer o sefydliadau'n gweithio mor galed i'w darparu mewn amgylchiadau mor anodd, ac nid oes gennyf amheuaeth na fydd hyn yn cael ei gadarnhau pan fydd y grŵp gweithredu ar ddigartrefedd yn adrodd yn ystod yr wythnosau nesaf.
Siaradaf heddiw fel Cadeirydd Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Cynulliad. Bob blwyddyn, rydym yn ystyried sut mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer plant a phobl ifanc Cymru. Caiff y gwaith hwn ei lywio gan y craffu ariannol y byddwn yn ei brif ffrydio i'n holl waith a bydd yn cael ei wneud gyda dull gweithredu hawliau plant yn ganolog iddo. Drwy gydol y Cynulliad hwn, rydym wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth glir am sut mae hi wedi asesu effaith ei phenderfyniadau ariannol ar blant a phobl ifanc. Nid yw hyn yn unig oherwydd ein bod ni'n credu y dylai Gweinidogion wneud hyn, mae oherwydd bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw asesu effaith eu penderfyniadau ar hawliau plant.
Y llynedd, buom yn gweithio'n agos gyda'r pwyllgorau cyllid a chydraddoldeb i alw am welliannau i'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn asesu effaith penderfyniadau cyllidebol ar wahanol grwpiau o'r boblogaeth. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn dal i weithio ar roi ein hargymhellion ar waith, nid yw'r wybodaeth a ddaeth gyda'r gyllideb ddrafft eleni wedi gwneud unrhyw beth i dawelu ein pryderon hirsefydlog ynghylch sut y mae hawliau'r plentyn yn llywio penderfyniadau ariannol mor bwysig. Am y rheswm hwnnw, rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddychwelyd at gyhoeddi asesiad o'r effaith ar hawliau plant unigol ar ei chyllideb ddrafft. Rydym yn credu bod hyn yn angenrheidiol tan y gallwn fod yn sicr bod yr asesiad integredig strategol o effaith yn dangos bod y ddyletswydd i roi sylw dyledus i CCUHP wedi ei hystyried.
Gan droi yn awr at faterion penodol yn ein hadroddiad, nid oes gennyf amser i drafod popeth, felly canolbwyntiaf ar y meysydd sydd wedi eu hategu gan yr ymchwiliadau polisi manwl a gynhaliwyd gennym yn y Cynulliad hwn. Hoffwn ddechrau gyda chyllid ysgolion. Rydym wedi edrych ar hyn yn fanwl eto eleni. Rydym yn croesawu'r cynnydd yng nghyllid awdurdodau lleol yn setliad 2020-21, a'r ymrwymiad a roddwyd gan lywodraeth leol i'w ddefnyddio i flaenoriaethu cyllid ar gyfer ysgolion a gofal cymdeithasol. Er hynny, gwyddom o'n gwaith penodol yn y maes hwn fod pryderon difrifol, o fewn y sector ac ymhlith y cyhoedd, ynglŷn â chyllido ysgolion. O ganlyniad, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fonitro'r cyllid hwn yn gadarn ac i ddangos i'r Cynulliad bod yr arian hwn, mewn gwirionedd, yn cyrraedd ein hysgolion.
Gan droi yn awr at y cwricwlwm newydd, o ystyried cynlluniau diwygio uchelgeisiol Llywodraeth Cymru, rydym yn croesawu'r dyraniadau a wnaed i ddarparu'r dysgu proffesiynol angenrheidiol i athrawon allu paratoi'n ddigonol. Rydym wedi dweud yn gyson bod yn rhaid mai'r gweithlu yw ein hased cryfaf os ydym am wneud y gorau o'r cyfle unwaith mewn cenhedlaeth hwn. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu'r holl arian i gefnogi'r broses o ddiwygio'r cwricwlwm yn ofalus. Credwn fod hyn yn hanfodol i sicrhau bod y cwricwlwm newydd yn cael ei roi ar waith mewn modd effeithiol.
Ni fydd yn peri syndod i'r Siambr hon glywed bod dyraniadau sy'n ymwneud â gweithredu ein hadroddiad 'Cadernid Meddwl' yn ganolbwynt allweddol i ni eleni. Mae dilyn yr arian sy'n berthnasol i iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn her sylweddol i Aelodau a rhanddeiliaid fel ei gilydd, felly buom yn edrych arno mewn modd mor fanwl ag y gallem. Rydym yn croesawu'r cyllid sylweddol y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu i gefnogi gwasanaethau ar gyfer iechyd meddwl a lles emosiynol plant a phobl ifanc. Fodd bynnag, o ystyried y symiau a fuddsoddwyd, gwelsom fod yr wybodaeth a oedd ar gael am sut y dylid mesur canlyniadau hyn yn ddiffygiol iawn. Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ailystyried sut y mae'n monitro cyllid yn y maes hwn.
Ym maes iechyd meddwl amenedigol, mae bron i dair blynedd wedi mynd heibio ers i ni alw am weithredu ar frys i gynnig darpariaeth arbenigol ar gyfer mamau a babanod yng Nghymru. Rydym yn pryderu'n fawr nad oes unrhyw ffigur wedi ei nodi yn y gyllideb ddrafft o hyd ar gyfer y ddarpariaeth barhaol o unedau mamau a babanod yng Nghymru, heb sôn am uned wedi ei sefydlu. Rydym yn cydnabod bod gwasanaeth dros dro yn cael ei ddatblygu, ond nid yw hyn hyd yn oed yn gweithredu eto. Mae'n rhaid i hyn newid, a byddwn yn mynd ar drywydd hyn yn drylwyr yn ystod y mis nesaf.
Yn olaf, ac yn bwysig iawn, trof at gefnogaeth i blant sy'n derbyn gofal. Fe'i dywedais yn y ddadl hon y llynedd ac fe'i dywedaf eto: plant sy'n derbyn gofal yw rhai o'n pobl ifanc fwyaf agored i niwed. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol ar gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal. Wrth i ni graffu ar y gyllideb, clywsom na ofynnwyd i awdurdodau lleol gostio'r cynlluniau hyn. O ystyried y pwysau ar y gwasanaethau i blant, rydym o'r farn ei bod yn hanfodol cael syniad o'r costau cysylltiedig. Mae hyn er mwyn sicrhau y gellir eu cyflawni'n ddiogel ac yn fforddiadwy. Rydym yn unfryd yn ein barn bod yn rhaid i ddiogelwch plant a phobl ifanc fod yn hollbwysig mewn unrhyw gynlluniau i leihau nifer y plant sy'n derbyn gofal.
Mae ein hadroddiad yn crybwyll nifer o feysydd pwysig iawn eraill, ac edrychaf ymlaen at gael ymateb ysgrifenedig Llywodraeth Cymru i'n holl argymhellion cyn ein dadl ar y gyllideb ddrafft derfynol yn ddiweddarach y tymor hwn. Diolch.
Roeddwn i'n gwenu wrth wrando ar gyfraniad Mike Hedges yn gynharach yn y ddadl hon, wrth iddo drafod adegau pryd y cymerodd ran mewn dadleuon pan nad oedd ond ychydig iawn o Aelodau yn bresennol ac ychydig iawn o Aelodau a gyfrannodd mewn gwirionedd. Mae fy nodiadau yn dweud 'ychydig iawn oedd yn bresennol'. Rwy'n credu bod angen i ni feddwl yn galed am sut yr ydym ni'n rheoli proses y gyllideb yn y lle hwn. Mae'r Pwyllgor Cyllid, rwyf yn credu, wedi gwneud gwaith da iawn ar sut y byddem ni'n symud at broses ddeddfwriaethol, ac rwy'n sicr yn credu bod angen llawer mwy o ymgysylltu o bob ochr i'r Siambr yn y broses o wneud y penderfyniadau hollol allweddol hyn.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A gaf i ofyn iddo, gyda'i brofiad hir, pam mae ef yn credu bod pethau wedi newid cymaint fel bod gennym erbyn hyn bresenoldeb a chyfranogiad da mewn dadleuon fel hon, ond nad oedd llawer yn mynychu yn y gorffennol?
Nid wyf yn credu bod gennym—dyna'n union yw fy mhwynt. Credaf fod angen i ni sicrhau bod gennym ni fwy o gyfranogiad o bob ochr i'r Siambr yn y materion hyn, a chredaf fod angen i ni sicrhau ein bod yn gallu craffu ar waith y Llywodraeth mewn modd mwy dwys, gan edrych ar y blaenoriaethau cyffredinol yn hytrach na dim ond dadansoddi'r gyllideb linell wrth linell.
Yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, nid wyf i eisiau canolbwyntio ar benderfyniadau gwario unigol ond hoffwn edrych ar rai o'r themâu ehangach hynny, oherwydd dechreuwyd y broses hon gennym ni eleni gyda dadl a gynhaliwyd fis Medi diwethaf lle ceisiodd aelodau'r Pwyllgor Cyllid ddarganfod beth oedd blaenoriaethau'r lle hwn, y Senedd, cyn i ni glywed gan y Llywodraeth. Oherwydd yn y gorffennol, wrth gwrs, rydym ni bob amser wedi ymateb i benderfyniadau'r Llywodraeth yn hytrach na'i gwneud yn eglur ar ddechrau'r broses beth rydym ni'n credu ddylai blaenoriaethau'r Llywodraeth fod. Rwy'n gobeithio y gallwn ni fwrw ymlaen â hynny: sefydlu proses ddeddfwriaethol i wneud hyn yn rhan ddyfnach o'n trafodion yma.
Ond o ran lle'r ydym ni yma, y themâu y byddwn i eisiau rhoi sylw iddyn nhw yw'r hinsawdd, y cydbwysedd rhwng refeniw a gwariant, ac yna lle'r ydym ni arni o ran y dyfodol. Y dystiolaeth a gawsom ni fel Pwyllgor Cyllid oedd: a yw hon yn gyllideb sy'n adlewyrchu'r pwysigrwydd y mae'r Llywodraeth yn ei neilltuo i argyfwng hinsawdd? Mae'n amlwg mai'r ateb i hynny yw 'nac ydy', ac rwy'n credu ein bod ni wedi cael ymatebion tebyg gan bwyllgorau eraill ac ar wahanol ochrau i'r Siambr. Mae'n amlwg nad yw'n gyllideb a fydd yn gweddnewid yn sylfaenol y ffordd y mae'r Llywodraeth yn cyflawni ei busnes. Rwy'n credu bod honno'n feirniadaeth deg i'w gwneud.
Ond gwahanol ffordd o edrych ar hyn fyddai: sut fyddai'r gyllideb honno'n edrych mewn gwirionedd? Os byddaf yn meddwl yn ofalus am hyn, nid wyf i wedi fy argyhoeddi bod gan y Llywodraeth o fewn ei phwerau heddiw yr adnoddau ar gael i ddarparu'r math hwnnw o gyllideb hinsawdd. Yr hyn yr wyf i'n credu y mae angen i ni ei wneud yw edrych yn fwy sylfaenol ar y defnydd o'r pwerau sydd ar gael i'r lle hwn. Bu llawer o sgwrsio yma'r prynhawn yma ac ar achlysuron eraill am ymosodiadau'r Llywodraeth ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig a'u proses o gyni cyllidol. Wel, yn sicr, nid wyf i'n mynd i amddiffyn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am eiliad, ond yr hyn y byddwn i'n ei ddweud wrth Lywodraeth Cymru yw y byddai'r ymosodiadau hynny'n llawer mwy cryf pe bai'r Llywodraeth hon wedi defnyddio ei holl bwerau mewn ffordd fwy dwys i leddfu effaith cyni cyllidol na'r hyn a wnaed. Rwy'n credu bod hynny'n siom sy'n parhau i lawer ohonom ni.
Clywsom mewn dadl gynharach y prynhawn yma bod y Gweinidog iechyd yn ystyried edrych ar bwerau i godi trethi er mwyn ymdrin â gofal cymdeithasol. Mae'n ddadl yr wyf i wedi bod yn ei gwneud ers blynyddoedd lawer. Ni allwn ariannu ein huchelgeisiau ar draws holl feysydd y Llywodraeth gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni, ac mae'n rhaid i ni edrych yn fwy gofalus ar y sylfaen drethi. Mae'n rhaid i ni gael sgyrsiau llawer mwy dwys am drethiant nag esgus bod sgwrs am y gyllideb yn ddadl ar wariant cyhoeddus yn unig, sef yr hyn y bu ein dadleuon yn bennaf.
Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych yn llawer mwy gofalus ar sut rydym ni'n defnyddio'r pwerau sydd ar gael i ni. Rwyf i eisiau gweld mwy o radicaliaeth gan y Llywodraeth, rwyf i eisiau gweld y Llywodraeth yn meddwl yn fwy radical, rwyf i eisiau gweld y Llywodraeth yn defnyddio'r cyfle i symud yn gyflymach o ran y math o drethiant yr ydym ni'n ei ddefnyddio. Mae'r pwerau dros dreth incwm gennym ni; gwn fod y Llywodraeth yn edrych tuag at fathau eraill o drethiant ar hyn o bryd, ond rwyf i eisiau i hynny ddigwydd gyda mwy o hwb ymlaen.
Ond gadewch i mi orffen gyda hyn. A yw hon yn gyllideb ar gyfer y dyfodol? Rydym ni'n gwybod, dros y tymor canolig, er gwaethaf brwdfrydedd ac optimistiaeth gynharach Mark Reckless ynghylch effaith Brexit ar y diwydiant ceir—sydd er clod iddo, a bod yn deg—rydym ni'n gwybod o ddarllen y gwaith papur sy'n sail i'r gyllideb hon bod y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol a phrif economegydd y Llywodraeth ei hun yn gweld ansicrwydd yn y tymor canolig. Rydym ni hefyd yn gwybod, a chyfeiriwyd ato'n gynharach yn y ddadl hon, bod Cymru'n wlad sy'n cael ei gorlywodraethu'n ddifrifol, bod yn well gennym ni yn rhy aml neilltuo adnoddau prin i sefydlu pwyllgor ar ôl pwyllgor ar ôl pwyllgor, yn hytrach na neilltuo'r arian hwnnw i'r rheng flaen. Rydym ni i gyd yn gwybod bod hyn yn wir ac yn sicr fel Gweinidog llywodraeth leol, cefais sgyrsiau ar bob ochr i'r Siambr ac yn anaml y cafwyd llawer o anghytuno yn breifat—llawer yn gyhoeddus, ond nid yn breifat—ac rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni edrych yn ofalus iawn ar sut rydym ni'n llywodraethu'r wlad hon. Yr hyn sy'n fy siomi'n ddirfawr o ran y gyllideb hon yw ei bod hi'n gyllideb ar gyfer y byrdymor ac nid y tymor canolig na'r hirdymor. Yr hyn nad ydym yn ei wneud yw edrych ar sut y gallwn ni gael yr effaith fwyaf posibl ar reng flaen gwasanaethau cyhoeddus, diogelu gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus, diogelu ansawdd gwasanaethau cyhoeddus ac i ba raddau y maen nhw ar gael—yn hytrach, 'Fe wnawn ni sefydlu pwyllgor' oherwydd dyna'r ateb hawsaf, mewnol i'n problemau.
Rwy'n credu bod angen llawer iawn mwy o radicaliaeth arnom ni, a'r gyllideb yw lle'r ydym ni'n datgan ein gwerthoedd fel Llywodraeth ac fel Senedd. Ac rwy'n credu bod ein cyllideb, yn aml iawn, er bod ganddi ymylon radicalaidd iddi, yn ei hanfod, yn rhy geidwadol i wynebu'r heriau sy'n wynebu'r wlad hon.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Pan gawsom gyfle i drafod y gyllideb ddrafft yn y ddadl ar y datganiad ar y gyllideb ddrafft dim ond wythnos neu ddwy yn ôl, ymatebais yn eithaf manwl i'r materion a godwyd ynghylch tlodi, y GIG, y Gymraeg, a'r setliad llywodraeth leol, felly rwy'n bwriadu defnyddio fy amser yn ymateb i'r ddadl y prynhawn yma trwy edrych ar rai o'r meysydd eraill y mae cyd-Aelodau wedi sôn amdanyn nhw yn y ddadl heddiw ac yn y gorffennol, na chefais gyfle i edrych arnyn nhw y tro diwethaf.
Rwy'n credu bod thema datgarboneiddio wedi bod yn amlwg dros ben yn y cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod bod y cyllid ychwanegol o £96 miliwn ar gyfer mesurau datgarboneiddio yn rhan o'r £140 miliwn ehangach hwnnw sy'n edrych ar ddatgarboneiddio a bioamrywiaeth yn un rhan yn unig o'r darlun. Gallwch edrych drwy'r holl waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a thrwy'r gyllideb gyfan i weld ble'r ydym ni'n gwneud cynnydd o ran mynd i'r afael â datgarboneiddio. Felly, un enghraifft fyddai'r £48 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddefnyddio i gynyddu lefel y grant tai cymdeithasol sydd ar gael. Felly, nawr, mae pob tŷ newydd yng Nghymru yn cael ei adeiladu yn unol â safon ansawdd tai Cymru, ac mae hynny, wrth gwrs, yn gwella effeithlonrwydd ynni ac yn lleihau'r allyriadau o wresogi domestig.
Rydym ni hefyd yn buddsoddi bron i £21 miliwn drwy ein cynllun gweithredu economaidd yn 2020-21, ac mae hynny'n ymwneud â sbarduno twf cynaliadwy a mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn unig, drwy'r galwadau i fusnesau preifat weithredu, y mae angen iddyn nhw ei wneud os ydyn nhw eisiau cael mynediad at gronfa dyfodol yr economi. Ac, yn amlwg, mae hynny hefyd yn chwarae rhan flaenllaw iawn yn y contract economaidd hefyd. Felly, gallwch weld datgarboneiddio'n rhedeg drwy'r holl bethau hynny.
Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cyhoeddi ein cynllun cyflawni carbon isel, sy'n nodi amrywiaeth eang o gamau gweithredu a blaenoriaethau i'r Llywodraeth. Ers tair blynedd bellach, rydym ni wedi bod yn darparu cyllid ychwanegol i weithredu'r Ddeddf teithio llesol, sy'n rhoi'r ddyletswydd gyfreithiol honno ar awdurdodau lleol i wella eu llwybrau teithio llesol—sydd, unwaith eto, yn bwysig iawn ar gyfer datgarboneiddio. Ac mae ein gwasanaeth ynni Llywodraeth Cymru wedi bod yn buddsoddi mewn benthyciadau dim llog ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i ddarparu prosiectau ynni ac effeithlonrwydd ynni. Ac, ar gyfer 2020-21, rydym ni'n cyfrannu £4 miliwn arall o gyfalaf tuag at hynny.
Wrth gwrs, pan edrychwn ni ar y diwydiant ffermio, rydym ni'n gwybod y rhan bwysig y gall hwnnw ei chwarae o ran ein helpu ni gyda'n dyheadau o ran datgarboneiddio. Felly, gwnaed £40 miliwn ar gael drwy'r grant busnes fferm tuag at fuddsoddiad cyfalaf mewn offer a pheiriannau y nodwyd ymlaen llaw eu bod yn cynnig manteision eglur a mesuradwy i fentrau fferm, a cheir £1.5 miliwn ychwanegol yn 2020-21 yn hynny o beth. Felly, nid yw'n ymwneud â'r £96 miliwn ychwanegol yn unig—mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â gwneud pethau trwy gyllideb gyfan Llywodraeth Cymru.
Rydym ni'n cymryd ein cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd o ran y meysydd lle gallwn ni gael yr effaith orau a mwyaf dwfn, ac maen nhw'n dweud wrthym ni bod datgarboneiddio'r sector trafnidiaeth ffyrdd yn hanfodol i gyflawni targed sero net. A dyna pam mae dros £60 miliwn o'r buddsoddiad ychwanegol a dargedir mewn datgarboneiddio ar gyfer y sector trafnidiaeth yn uniongyrchol. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n edrych ymlaen at weld Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd yn rhoi mwy o gyngor i Gymru yn ystod y flwyddyn hon ar y ffordd orau y gallwn ni gyflawni'r daith honno tuag at ddyfodol di-garbon. Wrth gwrs, rwy'n deall dymuniad fy nghyd-Aelodau i gael yr asesiadau effaith carbon hynny i ddeall effaith ein gwariant yn well. Mae'n aruthrol o anodd ei wneud; rydym ni'n edrych i weld a yw hyn yn cael ei wneud yn llwyddiannus yn rhyngwladol. Dydyn ni ddim wedi dod o hyd i enghraifft eto. Efallai yr edrychwn ni tuag at gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol i ddangos, drwy'r gwaith y mae'n ei wneud yn ei chyllideb, rhyw fath o lwybr i'n tywys ni i ddatblygu asesiad effaith carbon, efallai. Ond rydym ni'n eglur iawn y dylem ni'n sicr, lle gellir ei wneud, wneud ymdrechion i wneud hynny.
Un enghraifft lle gallwn ddangos effaith ein gwariant ar garbon, er enghraifft, yw'r £7.9 miliwn ychwanegol i gefnogi amrywiaeth o fesurau ansawdd aer, gan gynnwys cymell cerbydau hacni a gyrwyr hurio preifat yng Nghaerdydd i uwchraddio i gerbydau sydd â lefel isel iawn o allyriadau. Nawr, yn seiliedig ar ein tybiaethau presennol, gellir sicrhau arbedion carbon deuocsid amcangyfrifedig o tua 3,300 tunnell y flwyddyn. Felly, dyna un maes lle gallwn ni ei ddangos, ac rwy'n awyddus iawn bod cydweithwyr ar draws y Llywodraeth yn archwilio ffyrdd y gallwn ni ddangos hyn ymhellach yn y dyfodol, oherwydd rwy'n cydnabod ac yn deall ac yn cytuno â'r dymuniad i wneud mwy yn y maes hwnnw.
Rhoddwyd enghraifft cyllideb llesiant Seland Newydd fel ffordd y gallwn ni edrych ymhellach ar wella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud, ac rydym ni'n ymgysylltu â Seland Newydd yn rhan o'r rhwydwaith hwnnw o wledydd sy'n cyllidebu ar gyfer llesiant—felly, rhannu gwybodaeth—oherwydd maen nhw'n awyddus iawn i wybod beth rydym ni'n ei wneud yma hefyd. Ond gallaf roi'r sicrwydd hwnnw bod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi cymryd rhan gyda ni yn natblygiad y gyllideb drwyddi draw, ac rydych chi'n gweld hynny'n arbennig, rwy'n credu, yng nghynllun gwella'r gyllideb, a gyhoeddwyd gennym ni am y tro cyntaf erioed eleni. Mae hwnnw'n cymryd gorwel pum mlynedd, gan ystyried sut y gallwn ni geisio gwreiddio Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol yn well, ac yn arbennig, rwy'n meddwl, atal, yn y gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar draws y Llywodraeth gyfan.
O ran atal, rwy'n credu bod yr enghraifft a roddodd Mike Hedges o ran y buddsoddiad y mae'n rhaid i ni ei wneud ym maes tai yn enghraifft dda iawn, oherwydd, fel y disgrifiodd, gall effaith tai gwael ar unigolyn fod yn niweidiol iawn mewn cymaint o ffyrdd.
Diolch am dderbyn ymyriad, Gweinidog. Ar y mater hwnnw o gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n falch o glywed eich bod chi wedi dweud ei bod hi wedi cymryd rhan drwy gydol y broses, ond roedd pwynt ychydig yn ehangach na hynny, sef, wrth gwrs, cyllideb â strategaeth a luniwyd gyda chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol sy'n sail iddi ac yn edrych dwy, dair, pedair, pum mlynedd i'r dyfodol. Gwn eich bod chi wedi crybwyll hyn i ni fel pwyllgor o'r blaen, ond efallai y gallwch chi roi sicrwydd i ni hefyd bod y math hwnnw o strategaeth gynaliadwy, tymor hwy yn sail i'r gyllideb hon a chyllidebau'r dyfodol.
Os edrychwch chi'n benodol ar gynllun gwella'r gyllideb, byddwch yn gweld golwg yn ôl ar yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud yn y blynyddoedd diwethaf i geisio sicrhau bod y Ddeddf yn hysbysu'r gwaith o baratoi'r gyllideb, ond, unwaith eto, mae'n edrych ymlaen hyd at bum mlynedd arall o ran sut y gallwn ni geisio gwreiddio'r Ddeddf yn well yn ein ffyrdd o weithio ar draws y Llywodraeth gyfan. Cymeradwyaf y ddogfen honno i'm cyd-Aelodau.
Mae atal, wrth gwrs, yn ymwneud â chymaint o bethau, ond, fel roeddwn i'n dweud, mae tai yn elfen arbennig o bwysig. Felly, yn y gyllideb, byddwch yn gweld £108 miliwn o fuddsoddiad parhaus i gynorthwyo landlordiaid cymdeithasol i sicrhau bod y safon ansawdd tai yn cael ei bodloni yn ein 225,000 o gartrefi cymdeithasol. Mae hynny'n dipyn o gamp. Byddwch yn gweld £50 miliwn o gyfalaf trafodion ariannol yn ein rhaglen benthyciadau tai, a diben hwnnw yw cynorthwyo landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ariannu cynlluniau datblygu ar gyfer tai cymdeithasol newydd a helpu, yn hollbwysig, i ddechrau datgarboneiddio'r cartrefi presennol hynny, a £400,000 i roi cyngor ar ynni yn y cartref ac ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd ymhlith cartrefi incwm isel.
Maes arall na chawsom gyfle i siarad llawer amdano yn y ddadl flaenorol oedd pwysigrwydd addysg a'r blynyddoedd cynnar yn yr agenda ataliol, oherwydd mae addysg yn amlwg yn un o'r buddsoddiadau pwysicaf y gallwn ni eu gwneud i wella cyfleoedd bywyd plant, yn enwedig y rhai o gymunedau difreintiedig a'r rhai â nodweddion gwarchodedig. Felly, rhai enghreifftiau penodol fyddai'r £10 miliwn i gynorthwyo darpariaeth y cwricwlwm newydd i Gymru, sydd wrth wraidd ein cynllun gweithredu i godi safonau ysgolion. Ategir hynny gan £3 miliwn ychwanegol ar gyfer datblygu rhwydweithiau cenedlaethol, a £15 miliwn arall ar gyfer y dysgu proffesiynol i sicrhau bod ein proffesiwn addysgu yn cael y cymorth sydd ei angen arno. Rwy'n arbennig o falch gyda'r buddsoddiad ychwanegol o £8 miliwn i gynorthwyo plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol i gael addysg o ansawdd uchel a gwireddu eu potensial.
Soniwyd am faes awyr Caerdydd ychydig o weithiau, ac, ar 21 Hydref, cyhoeddodd fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, gyfleuster benthyciad masnachol estynedig i'r maes awyr. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod, o'r £21.2 miliwn, bod £4.8 miliwn wedi'i neilltuo ar gyfer 2020-21 ac wedi ei adlewyrchu yn y gyllideb hon. Felly, nid yw hwnnw'n arian newydd mewn unrhyw ffordd—fe'i cyhoeddwyd eisoes—ac mae ail-gyllido'n weithgaredd normal a phriodol.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd bod meysydd awyr yn cael eu prisio ar sail yr enillion cyn llog, treth, dibrisiant ac amorteiddio, ac mae hwnnw'n fesur sylfaenol o'r ffordd y caiff meysydd awyr eu prisio'n fyd-eang. Mae prisiad Maes Awyr Caerdydd yn hynny o beth wedi cynyddu o £7,000 i £77,000, felly mae hwnnw'n amlwg yn gynnydd mawr, ac mae'n adlewyrchu'r twf cryf yn refeniw'r maes awyr, a oedd 34% yn uwch o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol. Felly, mae hynny dim ond mewn ymateb i rai o'r materion a godwyd ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd ar ddechrau'r ddadl. Ond, i atgoffa cyd-Aelodau hefyd, o'r meysydd awyr byd-eang sy'n gwasanaethu teithiau awyr a drefnwyd, dim ond 14 y cant ohonyn nhw sydd ddim mewn perchenogaeth gyhoeddus, felly mae meysydd awyr fel Charles de Gaulle ym Mharis, Schiphol yn Amsterdam, a JFK yn Efrog Newydd i gyd yn eiddo cyhoeddus, ac mewn gwirionedd dylai ein pryder fod ynghylch y wasgfa y mae Llywodraeth y DU yn ei rhoi ar feysydd awyr llai a rhanbarthol.
Dim ond ychydig eiliadau sydd gen i ar ôl i fyfyrio ar fater dyfodol ardrethi busnes, y cyfeiriwyd ato gan lefarydd yr wrthblaid hefyd. Mae Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â chyfres fawr o waith ymchwil i helpu i'n hysbysu am y newidiadau posibl yr hoffem ni eu gwneud i drethi lleol efallai—ardrethi annomestig a'r dreth gyngor, felly—a byddwn yn cyhoeddi cyfres o adroddiadau ymchwil dros yr wythnosau nesaf a fydd yn ein helpu ni ac eraill, gobeithio, i ddechrau llunio eu syniadau i greu gweledigaeth o ran ble y gallai'r trethi hynny fynd yn y dyfodol.
Felly, i gloi, bydd gennym ni gyllideb Llywodraeth y DU ar 11 Mawrth, a gallai honno arwain at oblygiadau eithaf mawr i'n cynlluniau gwario ni. Bydd hefyd yn cael ei hategu gan ragolygon economaidd a chyllidol newydd gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, a allai effeithio ar ragolygon y refeniw trethi datganoledig a hefyd yr addasiadau i'r grant bloc cysylltiedig. Gallai Llywodraeth y DU hefyd wneud newidiadau i bolisi treth a allai effeithio ar benderfyniadau ynghylch trethi datganoledig yng Nghymru, felly rwy'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau ac i'r Cynulliad am yr effeithiau hynny cyn gynted â phosibl, ac edrychaf ymlaen yn fawr at ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid ar y gwaith y mae'n ei wneud pan fydd yn ystyried y broses o bennu cyllideb, ac rwy'n arbennig o awyddus i ddweud ar goedd nawr pa mor awyddus yr wyf i dderbyn eich argymhelliad ynghylch dadl gynnar yn y flwyddyn ariannol, gan fy mod i'n credu bod hynny'n arbennig a ddiddorol a defnyddiol ar ddechrau'r broses hon.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, tan y cyfnod pleidleisio.