– Senedd Cymru ar 4 Mawrth 2020.
Symudwn yn awr at eitem 6 ar yr agenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar blant sy'n derbyn gofal, a galwaf ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7287 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o'r maes gofal ac Adroddiad Blynyddol Rhaglen Grŵp Cynghori'r Gweinidog ar Wella Canlyniadau i Blant ar gyfer 2019.
2. Yn nodi ymhellach bod cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na'r plant hynny nad ydynt mewn gofal.
3. Yn gresynu bod nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant yn ystod y 15 mlynedd diwethaf, a bod bron i 10 y cant o blant mewn gofal wedi bod mewn tri neu fwy o leoliadau.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud y canlynol:
a) adolygu cynlluniau awdurdodau lleol ar frys o ran lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal;
b) cynorthwyo awdurdodau lleol i recriwtio 550 o deuluoedd maeth yng Nghymru i lenwi'r bylchau a ganfuwyd gan y Rhwydwaith Maethu;
c) ymchwilio i gymorth ariannol ac adsefydlu sydd ar gael i rieni mabwysiadol; a
d) sicrhau bod mynediad i gyrsiau rhianta cadarnhaol am ddim yn cael ei gynnig i bob rhiant a gwarcheidwad ledled Cymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae plant sydd wedi cael profiad o ofal a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae bron i ddwy ran o dair o'r unigolion hynny mewn gofal, yn anffodus, oherwydd camdriniaeth neu esgeulustod. Nawr, mae diddordeb wedi'i ddatgan eisoes ar draws y llawr yma mewn cefnogi plant sy'n derbyn gofal gan edrych hefyd ar leihau'r niferoedd hynny'n ddiogel.
Gwnaeth hyd yn oed Prif Weinidog Cymru addewid yn ei faniffesto arweinyddiaeth i sicrhau bod y broblem yn cael sylw ac yn cael ei datrys. Yn anffodus, fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn llithro allan o reolaeth. Ar hyn o bryd, mae 6,845 o blant rhwng 0 a 18 oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol. Dyna gynnydd o 2.1 y cant—21 y cant, mae'n ddrwg gennyf—ers diwedd tymor diwethaf y Cynulliad, ym mis Mawrth 2016, a bu cynnydd o 34 y cant yn y 15 mlynedd diwethaf. Roedd gan Gymru 109 o blant sy'n derbyn gofal ym mhob 10,000 o'r boblogaeth erbyn diwedd mis Mawrth y llynedd, o gymharu â 65 ym mhob 10,000 o'r boblogaeth yn Lloegr. Yn yr un modd, mae Gogledd Iwerddon a'r Alban wedi cofnodi cyfraddau llai difrifol, ac mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi nodi mai'r hyn sy'n drawiadol yw'r cynnydd amlwg a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru, a'r bwlch sy'n lledu rhyngom ni â Lloegr.
Mae arnaf ofn fod Siân Gwenllian, ein cyd-Aelod Cynulliad, yn iawn—mae polisi o dargedau lleihau i awdurdodau lleol yn ateb arwynebol. Mewn gwirionedd, mae'r dystiolaeth yn dangos nad yw Cymru'n mynd i'r afael â'r rhesymau sylfaenol pam fod plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Ymddengys nad yw'r strategaeth yn gweithio, felly mae angen inni adolygu'r cynlluniau a'r rhaglenni cymorth i blant a'u teuluoedd ar frys.
Nawr, rwy'n llwyr o blaid atal ac ymyrryd yn gynnar, ac rwy'n derbyn bod llawer ohonoch chi hefyd, fel grŵp cynghori'r Gweinidog, sydd wedi atgyfnerthu symudiadau tuag at atal. Yn bwysig, tanlinellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus fod cyfle i ddefnyddio gwariant ataliol yn well i sicrhau canlyniadau hirdymor gwell i'n plant. Fodd bynnag, mae lle i wella o hyd. Er enghraifft, er bod £5 miliwn wedi'i roi i 22 awdurdod lleol i ddarparu gwasanaethau ar ffiniau gofal yn 2017-18, mae'r comisiwn cyfiawnder yng Nghymru wedi bod yn amheus ynglŷn â llwyddiant y gwariant hyd yma. Mynegwyd pryder hefyd gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n dweud bod yr arian cyfyngedig sydd ar gael yn mynd yn gynyddol ar ddarparu cymorth brys i blant a theuluoedd sydd eisoes mewn argyfwng, gan adael fawr ddim i'w fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar. Yn bersonol, rwy'n cymeradwyo llwyddiant y rhaglen Troubled Families a lansiwyd gan Lywodraeth y DU yn 2012. Mae wedi gweld gwahaniaeth o 32 y cant yng nghyfran y plant sy'n derbyn gofal. Fel y dywedodd yr Athro Jonathan Portes o Goleg y Brenin, Llundain, effaith fwyaf sylweddol y rhaglen yw lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.
Mae gan Lywodraeth Cymru ffordd bell i fynd i wella cyfleoedd bywyd y plant sy'n mynd i mewn i'r system ofal. Mewn perthynas ag addysg, yng nghyfnod allweddol 2, dim ond 58.3 y cant o blant sy'n derbyn gofal sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â chyfartaledd o 87.8 y cant ledled Cymru. Yng nghyfnod allweddol 4, dim ond 10.9 y cant sy'n cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â thua 60 y cant yn gyffredinol. Daw'r ffeithiau hynny er i'n Prif Weinidog presennol gyd-gyhoeddi 'Codi uchelgais a chyrhaeddiad addysgol plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru: Strategaeth' yn 2016. Gellir cyflawni cynnydd drwy ystyried menter Skolfam yn Sweden a chyflwyno premiwm plant sy'n derbyn gofal.
Nawr, o ran iechyd meddwl, canfu NSPCC fod plant sy'n derbyn gofal bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef anhwylder iechyd meddwl o ryw fath, a naw gwaith yn fwy tebygol o gael anhwylder ymddygiadol. Ac mewn astudiaeth ddiweddar gan Brifysgol Caerdydd, dangoswyd ffeithiau gwirioneddol frawychus am bobl ifanc mewn gofal preswyl, er enghraifft: hwy sy'n sgorio leiaf o ran lles meddyliol; mae 56 y cant wedi cael eu bwlio; a gwelwyd bod canran uwch ohonynt wedi bod yn feddw ac wedi defnyddio canabis yn ystod y mis diwethaf na phlant nad ydynt mewn gofal. Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi addo rhagor o fuddsoddiad ar gyfer iechyd emosiynol a meddyliol pob plentyn a pherson ifanc, ni allaf anwybyddu'r ffaith ein bod ni yn y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, yn teimlo ei fod yn aneglur. Mae angen inni wybod faint yn union sy'n cael ei dargedu at blant sy'n derbyn gofal yn benodol. Sut y caiff ei fonitro o ran ei effaith ar gyflawni argymhellion 'Cadernid meddwl'? O ran dyfodol mwy disglair, mae canfyddiadau gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol a Chymdeithas y Plant yn dangos bod y rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o fod yn ddigartref ac o fod yn dlawd.
Fe allai ac fe ddylai Cymru sicrhau dyfodol gwell na hyn i'n plant, ac mae yna gamau y gallwn eu cymryd. Er enghraifft, unwaith eto, argymhellodd adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y dylai pob plentyn sydd wedi cael profiad o ofal gael gwybod fel mater o drefn am eu hawl i eiriolwr a chael gwybodaeth glir ynglŷn â sut i gael gafael ar yr ystod o wasanaethau eiriolaeth sydd ar gael. Nid yw'r rhain yn ofynion mawr, ond mae angen iddynt fod ar waith. Fodd bynnag, canfu TGP Cymru yn ddiweddar mai dim ond 5 y cant i 10 y cant o gartrefi plant yn y sector preifat sydd â threfniadau eiriolaeth ymweliadau preswyl ar waith. Felly, dylem weithredu hefyd ar alwadau gan Gymdeithas y Plant i helpu i sicrhau bod awdurdodau lleol Cymru yn nodi plant ifanc sy'n wladolion Ewropeaidd yn eu gofal, ac sydd wedi gadael eu gofal, fel y gellir eu cynorthwyo i sicrhau eu statws neu eu dinasyddiaeth os oes angen. Yn yr un modd, mae angen i ni gefnogi trefniadau lleoli plant. Mae'r Rhwydwaith Maethu wedi adrodd bod Cymru angen 550 o deuluoedd maeth ychwanegol i sicrhau bod plant yn cyrraedd y cartref cywir yn gyntaf. Os na lwyddwn i gyflawni hyn, bydd rhai plant yn wynebu cael eu gwahanu oddi wrth eu brodyr a'u chwiorydd eu hunain. Mae awdurdodau lleol wedi dechrau ymuno â'r her recriwtio, ond mae angen i'ch Llywodraeth wneud mwy i'w cynorthwyo.
Mae'r un peth yn wir am rieni sy'n mabwysiadu, sy'n dod â mi at fy mhwynt olaf. Mae gennyf etholwraig sydd ag un plentyn maeth ac un plentyn wedi'i fabwysiadu. Mae hi'n daer, yn angerddol, eisiau cynnwys y plentyn maeth yn y teulu a dod yn rhiant sy'n mabwysiadu. Ar ôl gofyn iddi a oedd hyn yn mynd i ddigwydd, dywedodd 'na', a'r rheswm am hynny yn syml oedd y gostyngiad sylweddol yn y cymorth a fyddai'n dilyn. Yn aml iawn, pan fydd pobl yn symud o'r model maethu i'r model mabwysiadu, rydych ar eich pen eich hun i raddau helaeth iawn, ac nid yw'n gweithio fel hynny. Dylai'r cymorth ddal i fod ar gael i rieni sy'n mabwysiadu er mwyn cadw'r teuluoedd hyn gyda'i gilydd, ac rwyf wedi ymdrin â dau achos arall lle mae brodyr a chwiorydd wedi wynebu cael eu gwahanu o bosibl oherwydd gall y gofynion cymorth sydd ynghlwm wrth fabwysiadu brodyr a chwiorydd fod yn eithaf dwys. Nid oes dyletswydd ar unrhyw un i gefnogi rhieni sy'n mabwysiadu. Felly, Ddirprwy Weinidog, rwy'n gofyn i chi edrych o ddifrif ar hyn a cheisio cael mwy o'n plant, lle bo angen, i mewn i sefyllfaoedd lle mae rhieni'n mabwysiadu.
Gall sefyllfa plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru fod yn eithaf digalon, ond mae gennyf obaith ar gyfer y dyfodol, ac mae gennyf obaith i'r plant hyn. Gan weithio gyda'n gilydd yn drawsbleidiol yma ac mewn mannau eraill, credaf mai synnwyr cyffredin yw ein cynnig heddiw, dyma sydd ei angen, a byddai'n braf iawn pe gallai Llywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw. Diolch.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Galwaf ar Siân Gwenllian i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei henw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae yna ofid mawr, wrth gwrs, am lefelau cynyddol o blant mewn gofal yng Nghymru, hynny i'r graddau y bu iddo fo ffurfio rhan fawr o adroddiad Thomas, sy'n edrych ar y system gyfiawnder yng Nghymru. Yn yr adroddiad yna, maen nhw'n tynnu sylw at y ffaith fod cyfradd y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru gryn dipyn yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mi glywsom ni rai o'r ffigurau brawychus yna gan y cynigydd. Yr hyn sy'n nodedig o'r ffigurau ydy'r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru, a'r ffaith fod y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn tyfu. Mae'n werthu tynnu sylw'r Senedd at asesiad ac argymhellion adroddiad Thomas ar blant mewn gofal, ac felly dwi'n pwyso ar y Llywodraeth i ymateb yn ffurfiol i'r argymhellion hynny, ac yn enwedig i roi ystyriaeth i'r camau brys a'r argymhellion tymor byr sy'n cael eu hawgrymu.
Yn ôl gweithwyr proffesiynol yn y maes, mae yna nifer o resymau am y newid sylweddol yn yr anghenion sydd yn amlygu eu hunain yn y maes yma. Does dim gwadu, yn gefndir i hyn i gyd, wrth gwrs, mae blynyddoedd o dlodi. Mae polisïau llymder—polisïau llymder gan gynigwyr y ddadl hon heddiw—yn y cefndir yna hefyd; does dim gwadu hynny. Mae newidiadau eraill hefyd, wrth gwrs. Mae newidiadau mewn cymdeithas yn rhan o'r darlun, yn ogystal â materion newydd yn dod i sylw. Er enghraifft: county lines, ymddygiad rhywiol problemus ac anaddas, defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol, cam-drin dros y wê, ac yn y blaen. Ac yn hanesyddol, doedd rhain ddim yn ffactorau amlwg ond, wrth gwrs, maen nhw erbyn hyn.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol ledled Cymru i greu cynlluniau i leihau'r niferoedd sydd mewn gofal, ac mae'r cynlluniau hynny i'w croesawu. Maen nhw'n gallu rhoi ffocws i'r gwasanaethau, gan gydnabod y newidiadau sydd wedi digwydd hefyd. Ond, fel dwi wedi dweud o'r blaen, dydy targedau rhifyddol ddim yn ddull digon effeithiol i leihau niferoedd y plant mewn gofal. Fel rydym ni'n dweud yn ein gwelliant, mae targedau rhifyddol yn ddull arwynebol o geisio mynd i'r afael â'r broblem. Dwi yn credu bod yna dderbyniad o hynny erbyn hyn, a bod yna well ddealltwriaeth o hyn gan y Llywodraeth nag oedd ychydig fisoedd yn ôl, ac dwi yn croesawu hynny.
Mae angen atebion holistaidd: gwaith ataliol; mwy o arian i wasanaethau iechyd meddwl; a chael ffocws aml-asiantaethol yn ein hysgolion ni. Mae gostwng y nifer yn gofyn am atebion cynhwysfawr. Mae'n bosib bod angen newidiadau i ddeddfwriaeth. Mae'n sicr angen edrych ar y broses llysoedd, ac mae angen edrych ar sut mae kinship care yn wahanol yn yr Alban i sut mae o yng Nghymru. Mae angen edrych ar leoliadau gyda rhieni, lle mae plentyn yn byw adref efo rhieni ar orchymyn gofal ac efo cefnogaeth, ond, yn anffodus, mewn rhai ardaloedd, mae'r llysoedd yn gyndyn iawn o gytuno i hynny. Yn sicr, mae angen buddsoddiad mawr mewn gwasanaethau ataliol, a dydy grantiau tymor byr ddim yn ddigon i gynnal y gwasanaethau hynny. Felly, dwi'n croesawu'r hyn y mae'r adroddiad PAC ac adroddiad Thomas yn ei ddweud, sef bod angen gwneud gwelliannau system gyfan er mwyn darparu gwasanaethau amserol a chynnar i deuluoedd, fel eu bod nhw'n cael eu cefnogi i aros efo'i gilydd, efo'r nod yn y pen draw, wrth gwrs, i leihau nifer y plant yn y system ofal.
Cyn cloi, hoffwn i jest sôn am un mater arall y prynhawn yma. Buaswn i yn hoffi diolch i Gymdeithas y Plant am gysylltu efo rhai ohonom ni i sôn am y miloedd o blant Ewropeaidd sydd yn blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig. Rŵan, fe all newidiadau deddfwriaethol yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd greu problemau i blant mewn gofal, yn enwedig wrth iddyn nhw ddod yn oedolion, gan y bydd angen i rai ohonyn nhw gael dogfennau newydd i sicrhau eu statws. Felly, hoffwn gymryd y cyfle i holi Llywodraeth Cymru. Un, a oes gennych chi syniad faint o blant yng Nghymru sydd yn disgyn i'r categori yma? Ac yn ail: beth ydych chi'n gallu ei wneud i helpu awdurdodau lleol, sef y rhieni corfforaethol, i adnabod y plant a gwneud yn siŵr fod y ceisiadau yma'n cael eu gwneud? Mae'n ofnadwy o bwysig nad ydy'r garfan yma o blant mewn gofal yn disgyn drwy'r rhwyd. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw? Neil.
Gwelliant 2—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy’n derbyn gofal a’u rhieni;
b) na ddylai cysylltiad gael ei leihau na’i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu; ac
c) gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen.
Gwelliant 3—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod pobl ifanc sy’n gadael gofal ac a ddaw’n rhieni, hefyd yn wynebu’r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal i chwilio am gefndir o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal.
Gwelliant 6—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod fod ymchwiliadau o gwynion yn gwadu ffeithiau mewn adroddiadau asesu a derbyn mewn cysylltiad â phlant sy’n derbyn gofal, fod yn gyfan gwbl annibynnol a heb i’r cyngor sir y mae’r achwynwr yn cwyno amdano fod yn talu amdanynt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n debyg fod hyn—wel, nid mae'n debyg—hwn yw'r maes rwyf wedi ymwneud fwyaf ag ef dros y ddwy neu dair blynedd ddiwethaf. Efallai nad yw'r Siambr yn gwybod imi gyflogi gweithiwr cymdeithasol profiadol iawn oherwydd nifer yr achosion roeddwn yn eu cael mewn perthynas â phlant sy'n derbyn gofal yn enwedig.
Mae gwelliant 2 yn syml iawn. Mae'n dweud mai llwybr cydnabyddedig da allan o ofal yw drwy gysylltiad o safon uchel rhwng plant sy'n derbyn gofal a'u rhieni. Mae'n syml iawn. Mae'n dweud na ddylai cysylltiad gael ei leihau na'i gyfyngu er cyfleuster i ddarparwyr gofal a gaiff eu talu ac y gall cysylltiad cyfyngedig gadw plant mewn gofal yn hirach na sydd ei angen. Nawr, rwy'n deall nad yw pawb yn y Siambr yn mynd i gefnogi'r gwelliant hwn—mae hynny'n peri cryn syndod i mi. Oherwydd yr hyn sy'n digwydd yw bod cysylltiad yn cael ei gyfyngu rhwng plant sydd am weld eu rhieni a'u rhieni, oherwydd y darparwyr gofal, a darparwyr gofal y sector preifat yn aml iawn. Felly, nid yw er budd gorau'r plentyn; mae er budd gorau cwmni preifat. Felly, hoffwn ofyn i bawb gefnogi gwelliant 2.
Gwelliant 3: mae'n cydnabod bod y rhai sy'n gadael gofal ac a ddaw'n rhieni hefyd yn wynebu'r risg o wahaniaethu ac y gallai fod yn ddefnyddiol ailedrych ar bob achos plentyn mewn gofal—mae'n bwynt allweddol—i weld a oes unrhyw hanes o wahaniaethu yn erbyn rhieni a oedd yn cyfrannu at gadw eu plentyn mewn gofal. Mae gennyf nifer o bobl yn fy meddwl yma—nifer o famau yn enwedig—sydd, yn fy marn i, wedi cael eu trin yn warthus, yn berffaith onest. Yr hyn a welwch yma hefyd yw gwahaniaethu sylfaenol ar sail dosbarth. Mae'r gwelliant hwn yn gofyn inni edrych ar yr achosion hyn er mwyn nodi'r gwahaniaethu a allai fod yn digwydd. Ac yn fy marn i, mae'n sicr yn digwydd, oherwydd pan fyddwch—[Torri ar draws.] Iawn.
Rwy'n nodi eich gwelliant gyda braw, mae'n rhaid i mi ddweud, ac ni fyddaf yn ei gefnogi, oherwydd yn gyntaf oll, ni allaf weld eich bod wedi cyflwyno unrhyw brawf o gwbl i ddweud bod (b) yn welliant dilys. A hefyd, fy mhrofiad i o'r hyn y mae pobl—ar ôl siarad â phlant mewn gofal a chymryd achosion, yn aml iawn, mae'r cysylltiad yn cael ei dorri oherwydd mai dyna sydd orau er lles y plentyn; nid yw byth yn cael ei dorri fel arall.
Gyda phob parch, buaswn yn dweud eich bod yn anghywir, ac ni allaf weld dim o'i le ar ddweud na ddylai asiantaeth gyfyngu ar gysylltiad, yn enwedig pan fydd plant am gael cysylltiad â'u rhieni.
Y gwelliant na wnaethoch siarad amdano yn y fan honno yw'r ongl cyfiawnder. Beth sydd o'i le ar adolygu achosion lle gallai fod gwahaniaethu'n digwydd? Mae'r achos rwy'n meddwl amdano lle mae cysylltiad wedi'i gyfyngu yn deillio o fod y rhieni'n cwyno, a bod y plentyn yn cwyno am gam-drin mewn gofal. Mae hwnnw'n welliant arall—fe ddown at hwnnw yn awr.
Gall hyn fod yn ddadleuol i rai; nid yw'n ddadleuol i mi. Dylai'r ysgogiad i wneud elw gael ei ddileu o ofal plant, a chytunaf 100 y cant â Chomisiynydd Plant Cymru, a gobeithio bod pawb yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Gan fod pobl yn llythrennol yn dod yn filiwnyddion ar sail—. Y swm enfawr o arian a godir ar lywodraeth leol—£300,000, £0.5 miliwn, yn dibynnu ar anghenion y plentyn.
Gwelliant 5, a gobeithio na fydd neb yn gwrthwynebu'r gwelliant hwn. Mae'n mynnu—a dyna'r gair cywir i'w ddefnyddio—fod plant sy'n honni eu bod yn cael eu cam-drin yn cael eu cymryd o ddifrif; y darperir eiriolwr ar eu cyfer; a bod arbenigwr ar amddiffyn plant yn siarad â hwy mewn man diogel er mwyn mynd drwy'r materion a godir. Nawr, os oes unrhyw un allan yno nad yw'n cefnogi hyn, mae angen rheswm da iawn arnynt, oherwydd rwy'n dweud wrthych fod hyn yn digwydd. Ac os oes unrhyw un sy'n credu nad yw'n digwydd, dewch i fy swyddfa a gallwch siarad â rhieni a gallwch weld y cofnodion.
Mae gwelliant 6 yn ymwneud â'r broses gwyno, ac mae Welsh National Party yn credu mewn sofraniaeth i'r unigolyn, i alluogi pobl i gael rheolaeth dros eu bywydau eu hunain. Os oes gennych gwynion ynglŷn â gwasanaethau plant—y nifer sy'n cael eu derbyn a'u hasesu, yn yr achos hwn—y cyngor sy'n talu am y person sy'n cynnal yr ymchwiliad. Cânt eu galw'n annibynnol, ond nid ydynt yn annibynnol am eu bod yn cael eu talu gan y cyngor sydd i fod yn destun i'w hymchwiliad. Yr hyn sy'n digwydd yn gyffredinol yw nad yw'r cwynion yn cael cymaint o sylw ag y dylent.
Hoffwn droi'n fyr iawn at bwynt 2. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chael plant allan o ofal—ac mae cyd-Aelod yn y fan acw newydd siarad yn erbyn hyn—mae angen cysylltiad o ansawdd da rhwng y rhieni a'r plant. A beth y mae hyn yn ei ddweud yma—. Nid yw'n fater ohonoch chi'n dweud nad ydych yn credu bod hyn yn digwydd, ond lle cyfyngir ar gysylltiad er cyfleustra cwmni preifat, mae'r gwelliant hwn yn dweud na ddylai hynny ddigwydd. Yr hyn sydd gennym yma yng Nghymru—fe ddof i ben yn awr, Ddirprwy Lywydd—yw system lle mae hawliau plant yn cael eu hanwybyddu fel mater o drefn. Yr hyn a welaf yn fy ngwaith achos, un achos penodol, yw tramgwydd yn erbyn hawliau dynol. Daw pawb yma o wythnos i wythnos, dywedwn yr un hen bethau—ac rwy'n cytuno â'r rhan fwyaf, a bod yn onest—ond ceir achosion go iawn y mae'n rhaid mynd i'r afael â hwy. Ac ni fyddaf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru oherwydd fy mod yn credu y dylid rhoi camau ar waith, ac ni allaf weld unrhyw ddewis arall ar hyn o bryd ar wahân i'r hyn y mae'r Gweinidog yn ceisio'i wneud drwy gyfrwng targedau. Diolch yn fawr.
Mae gan Gymru rai o'r cyfraddau uchaf o blant sy'n derbyn gofal yn y Deyrnas Unedig. Mae dros 6,800 o blant hyd at 18 mlwydd oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'n ffaith ofnadwy fod nifer y plant sy'n derbyn gofal wedi codi 34 y cant dros y 15 mlynedd diwethaf. Mae'r ffigur yn llawer uwch nag yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon. Erbyn diwedd mis Mawrth 2019, roedd gan Gymru 109 o blant yn derbyn gofal ym mhob 10,000 o bobl. Mae hyn yn cymharu, ar y ffigurau diweddaraf sydd ar gael, i 65 ym mhob 10,000 yn Lloegr a 71 ym mhob 10,000 yng Ngogledd Iwerddon. Gwnaeth y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru sylwadau ar hyn y llynedd a dywedodd,
'Yr hyn sy'n nodedig yw'r cynnydd sylweddol a pharhaus yn y gyfradd yng Nghymru a'r ffaith bod y bwlch rhwng Cymru a Lloegr yn tyfu.'
Agwedd arall ar y mater hwn yw bod y gyfradd yn amrywio'n helaeth rhwng awdurdodau lleol. Yn Sir Gaerfyrddin, mae'r ffigurau'n dangos bod 49 o blant yn derbyn gofal ym mhob 10,000 o bobl. Yn Nhorfaen, 216 yw'r ffigur. Dengys astudiaethau fod graddiant cymdeithasol amlwg yn bodoli lle canfuwyd bod plant yn y 10 y cant o ardaloedd mwyaf difreintiedig 16 gwaith yn fwy tebygol o fod yn destun ymyriadau lles plant na'r rhai yn y 10 y cant o ardaloedd lleiaf difreintiedig.
Daeth Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru i'r casgliad fod pedwar prif ffactor yn cyfrannu at nifer y plant mewn gofal. Un o'r ffactorau a nodwyd yw amddifadedd. Mae hyn yn bwysig gan fod canlyniadau i bobl ifanc mewn gofal yn wael yn gyffredinol—yn waeth na'r canlyniadau i blant y tu allan i'r system ofal.
Mae canlyniadau addysgol hefyd yn peri pryder arbennig. Dim ond 59 y cant o'r plant sy'n derbyn gofal sy'n cyflawni dangosydd pynciau craidd cyfnod allweddol 2, o'i gymharu â chyfartaledd Cymru o bron i 88 y cant. Yng nghyfnod allweddol 4, mae llai nag 11 y cant yn cyflawni'r dangosydd pynciau craidd, o'i gymharu â ffigur cyffredinol o tua 60 y cant. O'r Cymry ifanc sydd wedi gadael gofal, nid oes gan 23 y cant ohonynt unrhyw gymhwyster o gwbl.
Mae prif arolygydd Estyn hefyd wedi nodi nad yw'r bwlch tlodi wedi lleihau. Nid yw gwahaniaethau o ran cyrhaeddiad a phresenoldeb rhwng disgyblion o gefndiroedd breintiedig a difreintiedig wedi cau dros y degawd diwethaf. Mae angen inni dorri'r cylch amddifadedd hwn fel mater o frys, Lywydd. Dros y 10 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi nifer o raglenni ar waith i atal plant rhag mynd i mewn i'r system ofal. Targedai cynllun Dechrau'n Deg blant hyd at bedair oed am gost o fwy na £690 miliwn ers 2006 a gwariwyd £290 miliwn ar Teuluoedd yn Gyntaf ers 2012. Nid oes yr un o'r rhaglenni hyn wedi llwyddo i atal y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal. Mae'r gyllideb ar gyfer 2020-21 wedi argymell adnoddau ychwanegol i fynd i'r afael â'r broblem. Mae'n dyrannu £2.3 miliwn o gyllid iechyd ychwanegol i'r gwasanaeth mabwysiadu, yn ogystal â £900,000 ar waith archwilio ar ddull integredig o gefnogi plant sy'n derbyn gofal mewn addysg.
Er ei fod yn ddechrau da, credwn fod angen i Lywodraeth Cymru fynd ymhellach i gefnogi plant mewn gofal. Byddem yn cyflwyno premiwm disgyblion ar gyfer plant sy'n derbyn gofal i gefnogi—[Torri ar draws.]—i gefnogi'r plant sydd eisoes yn wynebu bylchau enfawr yn eu cyrhaeddiad addysgol. Lywydd—[Torri ar draws.] Os ydych chi eisiau gofyn rhywbeth, Kirsty, mae croeso i chi wneud hynny.
Ddirprwy Lywydd, mae plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Galwaf ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael yr un cyfleoedd mewn bywyd â'r rhai nad ydynt wedi cael profiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae gennym ni i gyd blant. Mae plant angen cyfle diogel ac iach—cyfle yn eu bywydau yn y dyfodol, i ddod yn ddinasyddion y wlad hon sy'n parchu'r gyfraith. Dyna sy'n creu'r gymdeithas orau, a dyna sy'n creu'r economi orau hefyd. Rydym i gyd yn gweithio tuag at hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn gwrando ac yn sicrhau bod ein plant yn cael gofal priodol gan bawb sy'n gofalu amdanynt. Diolch.
Rwyf am ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod bod consensws trawsbleidiol cryf yng Nghymru fod gan bob un ohonom gyfrifoldeb ar y cyd i sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael. Yr wythnos diwethaf, Ddirprwy Lywydd, gofynnais gwestiwn i'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles AC, am y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd. Mae'n faes diddordeb yr hoffwn fynd ar ei drywydd heddiw.
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £224,000 i awdurdodau lleol Cymru i gynorthwyo dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwneud cais i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE. Y gyfran o'r cyllid hwnnw sy'n mynd i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw £9,500, yn seiliedig ar amcangyfrif o 3,000 o ddinasyddion yr UE yn yr awdurdod lleol hwnnw. Felly, heddiw, rwyf wedi ysgrifennu at y cyngor i ganfod faint o'r 435 o blant sydd wedi cael profiad o ofal sy'n ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a beth y mae'r awdurdod yn ei wneud i sicrhau bod eu statws o fewn y Deyrnas Unedig yn cael ei ddiogelu. Felly, hoffwn ehangu fy nealltwriaeth—os gall y Gweinidog fy helpu—ynglŷn â pha gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi a sicrhau bod awdurdodau lleol fel Caerffili yn nodi pa blant sy'n gymwys ar gyfer y cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd.
Mae ystadegau'n dangos, fel y dywedwyd, fod nifer y plant mewn gofal yng Nghymru yn dal i gynyddu, fel sy'n wir ar draws y Deyrnas Unedig. Dros y 15 mlynedd diwethaf, mae nifer y plant sy'n cael profiad o ofal yng Nghymru wedi codi 34 y cant, ac mae hon yn ffaith a ddylai beri i bawb ohonom oedi i feddwl. Fodd bynnag, mae nifer o ffactorau'n cymell y duedd hon, gan gynnwys tlodi, amddifadedd, ac effeithiau gwirioneddol cyni a newidiadau i'r system les. Ni allwn anwybyddu hynny. Mae cyflwyno'r dreth ystafell wely, toriadau i fudd-daliadau a rhewi budd-daliadau, a'r gostyngiad yng nghyfraddau credyd cynhwysol yn enwedig, wedi taro'r teuluoedd tlotaf yng Nghymru yn galetach na neb. Gwyddom mai materion ariannol yw'r sbardun mwyaf i chwalu teuluoedd, dirywiad iechyd meddwl a'r ysgogiad i gamddefnyddio sylweddau. Felly, rwy'n falch fod y Llywodraeth yma wedi gwneud y mater hwn yn flaenoriaeth.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £9 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i ehangu'r cymorth ar gyfer plant sydd wedi cael profiad o ofal ers 2017. Mae'r arian hwn wedi golygu bod gwasanaethau ar ffiniau gofal bellach ar gael ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Mae wedi arwain at sefydlu cronfa Dydd Gŵyl Dewi sy'n torri tir newydd, ac sydd wedi cefnogi bron 2,000 o bobl ifanc sy'n gadael gofal wrth iddynt bontio i fywyd fel oedolion. Ac mae wedi darparu ar gyfer cyflwyno'r rhaglen Reflect ledled Cymru, sy'n cefnogi rhieni ifanc y mae eu plant wedi cael eu rhoi yn y system ofal. Gwyddom fod hyn yn bwysig. Buddsoddir £15 miliwn arall dros y ddwy flynedd nesaf drwy'r gronfa gofal integredig i ehangu gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod teuluoedd yn cael gwasanaethau di-dor sy'n canolbwyntio ar y teulu ac yn eu cynorthwyo i aros gyda'i gilydd.
Mae'r rhain yn fentrau ymarferol, seiliedig ar gymorth sy'n gweithio. Mae angen i bob un ohonom sicrhau bod plant sy'n derbyn gofal yn cael y gofal a'r cymorth gorau sydd ar gael i'w galluogi i ffynnu mewn amgylchedd diogel a mwynhau'r un cyfleoedd ag y byddai unrhyw blentyn arall yn ei ddisgwyl. Mae pawb ohonom yn y Siambr yn rhieni corfforaethol yn yr ystyr hon. I'r perwyl hwnnw, rhaid inni gydnabod, does bosibl, fod yr oes hon o bolisi cyni Llywodraeth y DU yn niweidio cyfleoedd bywyd y plant tlotaf a mwyaf agored i niwed yng Nghymru a'r DU.
Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Yn anffodus, mae nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal wedi dyblu yn yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er bod yn rhaid i anghenion a diogelwch y plentyn fod yn unig flaenoriaeth bob amser, rhaid inni wneud popeth a allwn i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Oherwydd, fel y mae cynnig y Ceidwadwyr Cymreig yn ei nodi'n gywir, mae cyfleoedd bywyd plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn sylweddol waeth na chyfleoedd bywyd plant nad ydynt mewn gofal.
Rwyf hefyd yn cytuno â Phlaid Cymru nad gosod targedau arwynebol yw'r ateb. Mae'n rhaid inni roi camau cadarnhaol cryf ar waith i atal plant rhag cael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf; rhoi camau ar waith i sicrhau bod gennym rwydwaith gofal maeth â chymorth da ac sydd â'r adnoddau priodol ar gyfer anghenion gofal tymor byr; a gwneud mabwysiadu'n llawer haws i rieni sy'n mabwysiadu.
A hoffwn wneud sylwadau ar araith agoriadol Janet Finch-Saunders, lle dywedodd am y newid o fod yn rhiant maeth i fabwysiadu. Gallaf uniaethu â hynny drwy etholwr a ddywedodd wrthyf am eu profiad hwy. Roedd ganddynt un plentyn biolegol ac roeddent yn awyddus i gael plentyn arall. Nid oedd yn bosibl, felly fe wnaethant fabwysiadu plentyn bach arall, yn gwmni yn ogystal ag i'w garu'n fawr. Dangosodd y plentyn bach arwyddion fod ganddi broblemau iechyd meddwl yn gynnar, ond nid oedd y rhwydwaith cymorth yno, a hyd heddiw, mae teulu'r ferch fach wedi ei chael hi'n anodd ymdopi mewn gwirionedd. Felly, gan nad oedd cymorth ar gael yn ystod y camau cynnar iawn, mae'r teulu cyfan bellach wedi dioddef trawma oherwydd bod dirywiad yn iechyd meddwl y plentyn wedi effeithio ar fywyd y teulu, ac mae'n parhau—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n gwerthfawrogi eich ymyriad, Caroline Jones, ac rwy'n derbyn eich pwynt, a hoffwn ychwanegu'n syml mai'r peth arall sy'n digwydd mewn gwirionedd yw bod plentyn sy'n derbyn gofal yn cael ei fabwysiadu yn y pen draw, mae'r cymorth hwnnw'n diflannu, ac mae'n arwain wedyn at chwalu'r trefniadau mabwysiadu'n llwyr. Gwn yn fy etholaeth fy hun fy mod wedi ymdrin â threfniadau mabwysiadu sydd wedi chwalu o leiaf hanner dwsin o weithiau, ac maent yn wirioneddol dorcalonnus i'r holl bobl sy'n gysylltiedig.
Diolch, Angela. Mae'n amharu'n llwyr ar fywyd y teulu cyfan.
Felly, wrth inni roi camau ar waith i wella cyfleoedd bywyd y rhai sydd mewn gofal hirdymor, boed mewn cartref gofal neu gyda theulu maeth, dywedodd y Comisiwn ar gyfiawnder yng Nghymru fod buddiannau plant yn cael eu hesgeuluso yn y llysoedd teulu a'u bod yn pryderu ynglŷn â'r niferoedd uchel iawn o blant sy'n cael eu rhoi mewn gofal. Felly, er nad wyf bob amser yn cytuno mai datganoli cyfiawnder yw'r ateb, credaf fod rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd i ddeall pam y mae gennym nifer mor uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal, a rhoi camau ar waith i sicrhau nad Cymru yw'r wlad yn y DU sydd â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal. Ar wahân i fynd i'r afael â—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Yn fyr iawn. A fyddech yn cydnabod bod plant sy'n cael eu rhoi mewn sefyllfa lle mae plentyn yn cael profiad o ofal, nad ydynt yn cael eu rhoi yn y sefyllfa honno'n ddifeddwl, a bod proses gyfan wedi ei dilyn, ac mai dyna'r rhan olaf bosibl o'r broses honno cyn i blentyn gael ei roi mewn gofal?
Wel, weithiau mae'n ddewis olaf, ond yr hyn roeddwn yn ei ddweud oedd, rwy'n credu bod angen mwy o waith atal er mwyn sicrhau nad yw plant yn cael eu rhoi mewn gofal yn y lle cyntaf. Ac nid wyf yn credu bod y rhwydwaith cymorth yno. Felly, rwy'n cytuno â chi—weithiau, ond nid yn gyfan gwbl, Rhianon. Diolch.
Felly, ble roeddwn i? Roeddwn wedi dweud bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU weithio gyda'i gilydd i ddeall pam fod gennym niferoedd mor uchel o blant yn cael eu rhoi mewn gofal, a chymryd camau i sicrhau nad Cymru yw'r wlad â'r gyfran uchaf o blant mewn gofal yn y DU.
Felly, ar wahân i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, rhaid i Lywodraeth Cymru wneud cymaint mwy i wella'r canlyniadau i blant sy'n derbyn gofal. Rhaid inni dorri'r cylch o ddechrau gwael mewn bywyd yn arwain at gyfleoedd gwael mewn bywyd. Mae gwaith gwych yn cael ei wneud ar draws Cymru, ond oherwydd pwysau ar y gweithlu a chyllid, dyna yw'r eithriad yn hytrach na'r norm. Rydym i gyd yn gwybod bod atal yn well na gwella, mae'n rhaid inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau nad yw profiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn atal plant mewn gofal rhag dod yn oedolion iach, gweithgar a chynhyrchiol. Gwyddom yn rhy dda fod plant mewn gofal yn llai tebygol o gael cymwysterau addysgol da, yn profi mwy o broblemau iechyd a lles ac o gael anghenion tai fel oedolion, ac yn wynebu mwy o risg o gamddefnyddio sylweddau. Drwy fuddsoddi i liniaru'r risgiau hyn, byddwn yn gwella'r canlyniadau i'r unigolyn, a byddwn yn gwella ein cymdeithas yn ei chyfanrwydd hefyd.
Fel y dywedais yn gynharach, ceir enghreifftiau gwych o waith ardderchog yn cael ei wneud, a hoffwn dynnu sylw unwaith eto at waith sefydliad Roots Foundation Wales yn fy rhanbarth i. Elusen yw hi sy'n cael ei harwain gan wirfoddolwyr yn Abertawe, gyda'r nod o gefnogi pobl ifanc mewn gofal, rhai sy'n gadael gofal, plant mewn angen ac oedolion sydd wedi gadael gofal gyda chyfnod pontio o fyw'n annibynnol. Maent yn helpu pobl ifanc yn llwyddiannus iawn i bontio i fywyd y tu allan i'r system ofal ac maent yn addysgu'r sgiliau sydd eu hangen i fyw'n annibynnol—sgiliau y mae'r rhan fwyaf ohonom yn eu dysgu gan rieni, ond nad yw plant mewn gofal yn meddu arnynt bob amser, yn anffodus, oherwydd amryw fathau o bwysau. Dylai'r hyn y mae Roots Foundation Wales yn ei wneud ddigwydd fel mater o drefn ac ni ddylai fod angen elusennau fel hyn, ond rwyf fi a'r cannoedd o blant y maent wedi'u cefnogi yn falch eu bod yn bodoli. Fodd bynnag, mae dyletswydd arnom i'r 7,000 o blant sydd mewn gofal i wneud cymaint mwy. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon. Credaf iddi fod yn ddiddorol iawn hyd yn hyn, ac rwy'n sylweddoli efallai mai prif fyrdwn y ddadl yw lleihau nifer y plant mewn gofal mewn ffordd ddiogel, ond wrth drafod cyfleoedd bywyd, sef pwynt 2 ein cynnig, rwy'n credu bod angen inni edrych ar y berthynas rhwng plant sy'n derbyn gofal a'r system addysg y maent ynddi a'r modd y diwellir anghenion y plant hynny. Nid yw'n fater sy'n sefyll ar ei ben ei hun, wrth gwrs. Fel y dywedodd Caroline Jones, gall llu o brofiadau plentyndod beryglu gallu unrhyw blentyn i gael unrhyw beth o'r system addysg ffurfiol i wella eu cyfleoedd bywyd, ond mater i'r system mewn gwirionedd yw ymateb i anghenion y plant a'r rôl a chwaraeir gan bobl bwysig eraill ym mywyd y plentyn, yn hytrach nag fel arall.
Felly, y cwestiwn cyntaf rwyf am ei ofyn yw: pa mor hyderus rydym ni fod gofalwyr maeth yn cael eu cefnogi'n dda a pha mor dda y cânt eu hyfforddi a'u hannog i ganfod y ffyrdd gorau o helpu'r plentyn sydd yn eu gofal i gael y gorau o'u haddysg? Crybwyllwyd hyn eisoes, ond gwnaeth ein pwyllgor plant waith trawiadol iawn ychydig flynyddoedd yn ôl ar ddiffyg cymorth ôl-fabwysiadu effeithiol i rieni newydd, ond credaf fod yr un peth yn mynd i fod yn wir am leoliadau maeth hirdymor—nid y rhai byrrach, ond y gofalwyr maeth mwy hirdymor, gan gynnwys gofalwyr sy'n berthnasau, wrth gwrs, sy'n mynd drwy eu cymysgedd eu hunain o emosiynau cymhleth iawn yn ymwneud â'u teulu eu hunain. Felly rwyf am wneud y pwynt fod pwynt 4(d) ein cynnig yn ymwneud â mwy na diogelwch plentyn, a'u hymddygiad efallai, mae'n ymwneud â chydnabod y gall ysgol fod yn un lle arall i blentyn sy'n derbyn gofal deimlo ei fod ar goll, yn ddiflas a heb fod yn perthyn, neu nad oes neb yn ei ddeall, ac nad yw'n cael cymorth, hyd yn oed yn yr ysgolion sy'n fwyaf effro i anghenion ychwanegol plant sy'n derbyn gofal. Felly, a allwn fod yn sicr a gofyn i ni'n hunain a oes gan ofalwyr maeth yr holl arfau sydd eu hangen arnynt i ymladd dros eu plentyn yn ysgol y plentyn hwnnw? Fel y clywsom eisoes, mae canlyniadau addysgol plant sy'n derbyn gofal yn waeth na rhai eu cyfoedion. Nid wyf am ailadrodd hynny eto.
Wrth gwrs, dylem fod yn falch fod 23 y cant o blant sy'n derbyn gofal bellach yn cael pum TGAU da. Mae hynny wedi cynyddu'n sylweddol yn yr wyth mlynedd diwethaf, ond mae 23 y cant o'r plant hynny'n dal i adael ysgol heb gymwysterau o gwbl. Sut y mae hynny wedi digwydd? Beth sydd wedi mynd mor dda ac mor anghywir ar yr un pryd, oherwydd y tu ôl i'r ffigurau hynny mae eraill a ddylai fod yn destun pryder i ni. Rydym eisoes wedi clywed mai 10.9 y cant o blant sy'n derbyn gofal—sy'n gyfran fach iawn—sy'n cyrraedd y pwynt y gellir ei ddisgwyl yn rhesymol gan blentyn 16 oed. Felly, tybed a welwn ostyngiad yn awr yn yr ystod honno o—[Torri ar draws.] Ie, ar bob cyfrif.
Diolch. Rwy'n llwyr ddeall y dyhead y tu ôl i hynny ac yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gyfan gwbl o ran y ffigur trothwy ar gyfer TGAU. A fyddech hefyd yn cydnabod bod ystod eang o allu ac i rai plant, fod gallu mynychu'r ysgol a dod oddi yno'n un darn yn gyflawniad mawr, ac nad yw'n ymwneud â chymwysterau'n unig?
Rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr, ond os ydych mewn byd lle mae cymwysterau'n golygu cymaint, mae angen inni weithredu mewn ffordd nad yw'n atal plant sydd â phrofiad o ofal yn artiffisial rhag gallu gwneud hynny a manteisio i'r eithaf o'u cymwysterau os gallant. Felly, yn sicr nid yw'n wir fod yn rhaid i bawb gael 6,000 TGAU, waeth beth fo'u cefndir.
Serch hynny, credaf fod hwn yn bwynt pwysig, Rhianon. Mae'r comisiynydd plant ei hun wedi tynnu sylw at y ffaith nad yw 43 y cant o blant sy'n derbyn gofal neu sydd wedi derbyn gofal yn cymryd rhan mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth pan fyddant yn 19 oed, a hynny er bod gan rai ohonynt gymwysterau TGAU eithaf da erbyn hynny. Ac mae'n cymharu â 5 y cant o'u cyfoedion. Felly, er nad cymwysterau yw'r unig beth y dylem ei ystyried, mae'n bwysig fod y plant sy'n gallu eu cael yn eu cael. Pa gyfraniad y mae'n ei wneud i'ch lles os byddwch, ar ôl oes o ysgol, yn dod oddi yno heb unrhyw gymhwyster? Byddai'n eithriadol o hawdd i chi golli hunan-hyder yn llwyr a chithau prin wedi dechrau ar eich bywyd fel oedolyn.
Mae'r Gweinidog Addysg, wrth gwrs, yn rhoi ymhell dros £100 miliwn tuag at y grant datblygu disgyblion. Rwy'n dychmygu eich bod yn teimlo braidd yn rhwystredig ynglŷn â chynnydd y canlyniadau i'n plant mwyaf difreintiedig, gan gynnwys ein plant sy'n derbyn gofal. Mae Estyn yn tynnu sylw, wrth gwrs, at y ffaith bod y ddarpariaeth yn amrywiol iawn, felly efallai fod hynny'n rhywbeth lle gallwn gael rhywfaint o drosolwg gweinidogol arno. Ond mae eich fersiwn chi o'n premiwm plant sy'n derbyn gofal yn mynd i gonsortia; fe sonioch am hynny eich hun ychydig wythnosau'n ôl. Rwy'n eithaf awyddus i ddarganfod faint o arian sy'n mynd yn uniongyrchol i ysgolion i'w helpu i gynorthwyo plant sy'n derbyn gofal i ganfod eu ffordd drwy'r cwricwlwm newydd, a chyfrannu at system ysgol gyfan sy'n meithrin plant sy'n derbyn gofal yn dda, gan mai un peth yw adnoddau ar-lein ond mae angen amser ar athrawon i'w hasesu a'u defnyddio.
Ddirprwy Weinidog, rwy'n meddwl mai dyma lle byddai rhywfaint o waith trawslywodraethol yn ddefnyddiol. Mae Gweinidogion ac Aelodau wedi bod yn sôn am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ers amser maith, ac roeddwn braidd yn siomedig wrth glywed mai dim ond yn awr yr archwilir ymagwedd gyfannol, y soniodd Siân Gwenllian amdani, tuag at blant ac addysg yn benodol, pan fo lles a'r gallu i gyflawni potensial wedi'u plethu'n dda.
Hoffwn orffen, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt a godwyd gan Janet Finch-Saunders am raglen Skolfam a ddatblygwyd yn Sweden—ac mae Llywodraeth Cymru yn hoff iawn o Sweden—sef system ar gyfer plant mewn gofal maeth, sy'n gwbl seiliedig ar ymrwymiad amlasiantaethol a mapio. Gwelai fod cyrhaeddiad cyfranogwyr yn gwella'n fawr a bod canlyniadau mewn profion safonedig yn gwella'n sylweddol. Ond yr hyn a oedd yn bwysig i mi oedd edrych ar nifer y plant ifanc a gyflawnodd y canlyniadau gofynnol i fynychu addysg ôl-16: rydym yn dychwelyd at gyfleoedd bywyd. Cyflawnodd 100 y cant o'r rhai ar y cynllun hwn y graddau hynny o'i gymharu â 67 y cant o blant mewn gofal na wnaeth hynny. Nawr, dyna 100 y cant o blant, dyna 100 y cant ohonynt wedi'u hargyhoeddi bod ganddynt ddyfodol a fyddai'n gwrthsefyll eu gorffennol, ac rwy'n credu mai dyna'r math o uchelgais y mae angen inni chwilio amdano yma yn Llywodraeth Cymru. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Pan gyfeiriwn at blant sy'n derbyn gofal, golygwn y plant a'r bobl ifanc sy'n derbyn gofal gan y wladwriaeth mewn modd a ddisgrifir o dan ddeddfwriaeth y DU a Chymru, boed hynny mewn sefydliadau gwladol neu o dan ryw fath o drefniant maethu. Yn anffodus, mae plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n byw yng ngofal y wladwriaeth yn dal i fod yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae nifer y plant sy'n destun achosion gofal wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r mwyafrif yn cael eu rhoi mewn gofal yn sgil honiad o gam-drin neu esgeuluso ar ran rhieni neu deulu.
Mae'n ffaith anffodus fod canlyniadau plant sy'n derbyn gofal yn waeth na chanlyniadau eu cyfoedion mewn perthynas ag addysg ac iechyd meddwl, fel y crybwyllwyd sawl gwaith yn gynharach, gyda llawer ohonynt yn teimlo'n ynysig ac yn dal i fod yn agored i niwed tra byddant mewn gofal. Er y cafwyd rhywfaint o welliant yn y system ofal, mae llawer o bobl ifanc yn dal i fynd ymlaen i gael profiadau bywyd gwael wrth adael gofal y wladwriaeth, yn cynnwys problemau mewn perthynas â thlodi, a diffyg llety a gwaith addas.
Mae'n hollbwysig, felly, y dylai symud plant o gartref teuluol fod yn ddewis olaf bob tro. Mae'n ddealladwy fod gweithwyr cymdeithasol yn rhy ofalus, o gofio bod rhai penderfyniadau a wnaed gan eu cydweithwyr wedi'u condemnio mewn achosion proffil uchel yn ddiweddar. Fodd bynnag, mae'n ffaith hefyd y gall ymagwedd rhy eiddgar weithredu yn erbyn lles gorau'r plentyn weithiau, ac felly yn erbyn lles y teulu.
Roedd y Prif Weinidog, yn ei anerchiad etholiadol i'r swydd y mae bellach ynddi, yn sylweddoli bod gormod o blant yn cael eu symud o deuluoedd yng Nghymru. Cyfeiriodd hefyd at osod targedau, targed i bob awdurdod lleol leihau nifer y plant o'r ardal honno—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—sy'n cael eu symud o ofal y teulu, gan gynnwys—. Wrth gwrs y gwnaf.
Diolch am hynny. A fyddech yn cydnabod, o ran cael gormod o blant mewn awdurdod lleol yn cael eu rhoi mewn gofal, fel rydych newydd ei ddweud, ei fod yn seiliedig ar asesiad unigol o bob achos unigol? Ac mae'n rhaid i hynny fynd drwy broses hir a maith, nad oes gennyf amser i fynd drwyddi ar hyn o bryd. Mae'n rhaid gwneud hynny oherwydd sefyllfa benodol y plentyn dan sylw, a dyna'r unig ffactor sy'n gysylltiedig â hyn.
Rwy'n sicr yn cydnabod hynny, Rhianon, ond mae'n ymddangos o'r ystadegau sydd gennym yng Nghymru, o'u cymharu â'r rhai sydd ganddynt yn Lloegr a'r rhannau eraill o'r DU, ei bod yn ymddangos bod ymagwedd rhy eiddgar yng Nghymru gan y gweithwyr cymdeithasol sy'n edrych ar ôl y plant hyn, ac fe ddof at yr hyn sy'n digwydd wedyn.
Ac rwyf am edrych yn unig ar yr hyn sy'n digwydd pan fydd y plant yn cael eu rhoi mewn gofal. Mae teuluoedd y cafodd plant eu cymryd oddi wrthynt yn ei chael hi'n anodd iawn gwyrdroi penderfyniadau gwasanaethau cymdeithasol mewn perthynas â symud eu plentyn neu eu plant. Mae'r ffaith bod llysoedd teulu yn llysoedd caeedig, gan gynnwys eithrio newyddiadurwyr, yn golygu nad oes craffu annibynnol ar y gweithdrefnau barnwrol. Mae llawer o rwystrau hefyd i deuluoedd rhag gallu sicrhau cynrychiolaeth gyfreithiol dda oherwydd gallai fod gwrthdaro buddiannau lle mae cwmnïau cyfreithwyr mawr yn aml yn ymwneud â busnes awdurdodau lleol.
Mae symud plentyn o ofal ei rieni naturiol yn ddigwyddiad trawmatig, i'r plentyn ac i'r teulu, gan gynnwys i deidiau a neiniau a theulu agos. Mae'n hanfodol felly y gellir craffu'n drylwyr ar benderfyniadau o'r fath drwy'r system farnwrol. Ceir llawer o dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod hyn bron yn amhosibl o dan y system gyfreithiol bresennol. Er ein bod yn cydnabod bod llawer o'r dulliau cyfreithiol y tu hwnt i gymwyseddau Llywodraeth Cymru, byddem yn eich annog i ymyrryd lle bo hynny'n bosibl er mwyn gallu craffu'n gywir ar holl faes symud plant i ofal y wladwriaeth neu farnu pwy ddylai gael rheolaeth rhiant.
A wnewch chi ildio?
Y gwir amdani yw nad yw llysoedd teulu caeedig—
A ydych chi'n ildio?
—er lles y plant. Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n ymddiheuro.
Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych yn ei ddweud am y system llysoedd teulu. Felly, oni chredwch y gallem ei wneud yn well yng Nghymru pe bai gennym ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain yma?
Wel, nid wyf yn siŵr y byddai hynny'n digwydd. Mae'n rhaid inni gael sefyllfa lle mae cydnabyddiaeth i'r ffaith bod llysoedd teulu sy'n eistedd yn gyfrinachol yn anghywir. Pan oeddwn yn ynad, gallwn gyfarwyddo'r holl newyddiadurwyr mewn llys—gallwn roi cyfyngiadau adrodd ar y newyddiadurwyr hynny. Ni welaf unrhyw reswm pam na ellir gosod y cyfyngiadau hynny mewn llysoedd teulu. Rwy'n derbyn na ddylem adael i'r cyhoedd ddod i lysoedd teulu, ond pam na ddylem gael newyddiadurwyr i wneud yn siŵr fod craffu'n cael ei gyflawni ar yr hyn sy'n digwydd? Rwy'n credu ei bod yn warthus nad oes.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o gael cyfle i ymateb i’r ddadl hon heddiw, a hoffwn ddiolch i’r Ceidwadwyr am ddod â’r ddadl hon i’r Siambr. Rwy'n credu bod llawer o ddiddordeb wedi’i ddangos a llawer o bwyntiau pwysig iawn wedi'u gwneud. Felly, diolch am hynny.
Yn gyntaf, rwyf am gydnabod gwaith defnyddiol iawn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'i ymchwiliad i blant a phobl ifanc sydd wedi cael profiad o ofal, ac rwyf hefyd am gydnabod gwaith grŵp cynghori’r Gweinidog dan gadeiryddiaeth fedrus iawn David Melding, ac rwy’n falch o weld ei fod yn y Siambr heddiw. Ac yn dilyn ei gyhoeddiad ar y penwythnos, hoffwn dalu teyrnged i David am ei gyfraniad enfawr i blant yng Nghymru. Rwyf wedi gweithio gyda David—rydym wedi gweithio gyda'n gilydd ar y mater hwn—ers blynyddoedd lawer, ac mae ei gyfraniad i blant yng Nghymru yn anfesuradwy. Felly, diolch, David.
Er fy mod yn falch o weld cynnydd y rhaglen Canlyniadau i Blant, credaf ei bod yn bwysig iawn inni beidio â llaesu dwylo. Dangosodd ystadegau ym mis Mawrth 2019 fod nifer y plant a oedd yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol wedi parhau i gynyddu 7 y cant ar y flwyddyn flaenorol , ac yn amlwg, mae cynnydd yn siomedig, ond mae'n bwysig iawn nodi, am yr ail flwyddyn yn olynol, fod nifer y plant sy'n dechrau derbyn gofal wedi gostwng.
Mae'n bwysig iawn fod plant yn cael lleoliadau sefydlog. Mae data 2018 a 2019 yn dangos bod 9 y cant o blant wedi symud lleoliad dair gwaith neu fwy. Mae'r ffigurau hyn wedi aros yn sefydlog dros gyfnod o amser, a chredaf fod yn rhaid i ni gydnabod bod angen symud lleoliadau weithiau a bod hynny er lles gorau plant, ond rydym am i blant gael cymaint o sefydlogrwydd â phosibl.
Mae'r maes gwaith hwn yn gymhleth ac rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws y system gyfan, a soniwyd am lawer o'r meysydd hynny heddiw, gan gynnwys yr awdurdod lleol, gwasanaethau cymdeithasol, y farnwriaeth, iechyd, addysg, tai a'r trydydd sector ac mae gan y sefydliadau hyn oll rôl bwysig i'w chwarae yn helpu i gadw teuluoedd yn ddiogel gyda'i gilydd a lleihau'r angen i blant gael eu rhoi mewn gofal.
Mae'r cynnig yn cyflwyno nifer o alwadau ar y Llywodraeth, felly rwyf am ymdrin â'r rhain yn eu tro—yn gyntaf, adolygu cynlluniau disgwyliadau lleihau awdurdodau lleol. Rydym eisoes yn gwneud hyn drwy ein grŵp dysgu ac adborth gan gymheiriaid. Roedd cynnydd awdurdodau lleol yn ystod y chwe mis cyntaf yn dangos bod y gyfradd sy'n derbyn gofal wedi arafu. Er y bu cynnydd yn ystod y cyfnod hwn, roedd ar gyfradd o 1.3 y cant, ac mae cynnydd y blynyddoedd blaenorol wedi bod oddeutu 7 y cant. Rwyf am rybuddio nad yw'r ffigurau hyn wedi'u dilysu, ond rwy'n gobeithio y bydd y duedd hon yn parhau. Ar gyfer y chwe mis cyntaf y mae hynny.
Mae'r rhesymau dros y cynnydd yn y boblogaeth sy'n derbyn gofal yn gymhleth, fel y dywedodd Siân Gwenllian yn ei gwelliant, ond rwy'n gwbl sicr fod cais y Prif Weinidog i awdurdodau lleol osod targedau lleihau wedi hoelio ein meddyliau ac wedi annog dull system gyfan o atal. Ac rydym ar y daith honno o welliant a rhaid i ni gynnal momentwm. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, y targedau yw'r targedau a gyflwynwyd gan yr awdurdodau lleol, nid oes unrhyw gosbau, a dim ond rhan o ddull gweithredu system gyfan ydynt.
O ran gofalwyr maeth, rydym yn parhau i helpu awdurdodau lleol i recriwtio mwy o ofalwyr maeth drwy'r fframwaith maethu cenedlaethol, ac eleni fe wnaethom ddarparu £100,000 ychwanegol i ddatblygu ei strategaeth farchnata. Yn yr un modd, rydym yn ymdrechu i sicrhau bod gwasanaethau mabwysiadu yng Nghymru cystal ag y gallant fod. Yn 2019-20, darparwyd cyllid digynsail o £3.2 miliwn gennym i awdurdodau lleol ac asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol i wella cymorth mabwysiadu, i'w ddarparu drwy'r fframwaith cymorth mabwysiadu ar gyfer Cymru. Mynychais symposiwm ar fabwysiadu ddoe yn y Deml Heddwch, ac er bod pawb yn cydnabod bod cryn ffordd i fynd, gan fod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn meysydd pwysig o gymorth ôl-fabwysiadu bellach, yn sicr ceir teimlad—ac mae rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd heddiw ynglŷn â'r ffaith bod rhieni'n ei chael hi'n anodd ymdopi ar ôl mabwysiadu—rydym yn bendant yn ceisio mynd i'r afael â hynny. Roeddwn yn rhan o'r ymchwiliad cyntaf a edrychodd ar fabwysiadu, a buaswn yn dweud bod gwelliant wedi bod ers hynny, ond mae ffordd bell i fynd o hyd. [Torri ar draws.] Iawn.
Diolch am ildio, Julie. Ar ddechrau eich cyfraniad, fe sonioch am waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn y maes hwn a edrychodd ar bob un o'r meysydd hyn. Fel y gwyddoch, fe wnaethom bwynt o gymryd tystiolaeth gan y bobl ifanc eu hunain, ac un o'r negeseuon pwysicaf a gawsom gan y bobl ifanc hynny oedd pwysigrwydd sefydlogrwydd, yn enwedig o ran lleoliadau. Efallai y bydd rhai pobl ifanc yn cael 20, 25 o leoliadau mewn un flwyddyn. Felly, pan fyddwch yn edrych ar y dull system gyfan hwn, a ydych yn gwerthfawrogi cyfraniad y pwyllgor yn awgrymu y dylai fod mwy o sefydlogrwydd i bobl ifanc ac y dylid eu rhoi yng nghanol y broses, nid dim ond dweud wrthynt beth sy'n mynd i ddigwydd iddynt?
Yn bendant. Rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn—rhaid i'r plant fod yn ganolog i hyn—ac rwy'n gwerthfawrogi'r gwaith a wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y mater.
Mae dyletswydd statudol ar awdurdodau lleol i asesu'r angen am wasanaethau cymorth mabwysiadu ar gyfer teuluoedd unigol sy'n mabwysiadu, gan gynnwys gwneud asesiad ar gyfer cymorth ariannol i ddiwallu anghenion penodol plant. Mae gennym bolisi Cymru gyfan sy'n pennu'r meini prawf a'r amgylchiadau y gellir talu lwfans mabwysiadu, y broses asesu ac adolygu, a'r hyn y gellir rhoi cymorth tuag ato.
Fel Llywodraeth, rydym wedi rhoi ffocws cadarn ar rianta cadarnhaol ac yn cydnabod gwerth cymorth rhianta. Mae ein grŵp gweithredu arbenigol ar rianta yn ystyried sut y gellir darparu cymorth rhianta yn y ffordd fwyaf effeithiol ledled Cymru. Ac nid wyf am ragdybio canlyniad eu gwaith, ond hoffwn bwysleisio, er bod lle i gymorth rhianta fel rhan o gwrs, mae dulliau eraill ar gael ac maent yn effeithiol mewn gwahanol amgylchiadau.
Yng ngoleuni'r hyn rwyf newydd ei egluro, byddaf yn cefnogi'r cynnig gwreiddiol, ond ni fyddaf yn cefnogi gwelliant Siân Gwenllian oherwydd nid wyf yn derbyn y geiriau am y targedau. Ond diolch iddi am ei barn ystyriol ac am dynnu sylw at adolygiad Thomas.
Ac mewn perthynas â'r cynllun statws preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE—a soniodd Rhianon am hyn hefyd—ceir 115 o blant cymwys yng Nghymru, ac rydym yn gweithio gyda'r Swyddfa Gartref, yr awdurdodau lleol, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gefnogi'r broses o wneud cais ar gyfer y plant hyn. Ac rydym mewn cysylltiad rheolaidd â'r awdurdodau lleol ynglŷn â'r mater hwn.
O ran gwelliannau Neil McEvoy, yn amlwg, yn yr holl waith rydym yn ei wneud gyda phlant, mae'n rhaid i'w diogelwch fod yn brif ffactor wrth benderfynu ar yr hyn a wnawn. Ond mae cysylltiad â rhieni'n bwysig iawn, ac yn rhan allweddol o'r broses o ailuno teuluoedd ar ôl i blentyn dreulio rhywfaint o amser mewn gofal, ynghyd â chymorth parhaus. Felly, byddaf yn cefnogi'r gwelliant hwnnw. Rwy'n cytuno ynglŷn â phwysigrwydd eiriolwyr, ac mae'r trefniadau hyn eisoes yn y gyfraith ac yn y canllawiau, felly byddaf yn cefnogi hynny hefyd.
Fodd bynnag, ni fyddaf yn cefnogi'r gwelliannau eraill am resymau y byddaf yn eu hegluro. Rwyf innau hefyd yn pryderu y gallai'r rhai sy'n gadael gofal ac a ddaw'n rhieni yn wynebu'r risg o wahaniaethu. Rydym am i awdurdodau lleol newid eu hagwedd tuag at atal gwell, ac mae'r mater hwn yn rhan o'r agenda honno. Mae'r rhaglen Reflect a ariannir gennym, ac y soniwyd amdani eisoes, yn darparu cymorth mawr ei angen i rieni, ac rydym eisoes yn disgwyl llawer gan awdurdodau lleol, felly nid ydym am ychwanegu archwiliad mawr o ffeiliau achos at eu llwyth gwaith.
Mae ailgydbwyso'r sector gofal cymdeithasol i gefnogi twf maethu a gofal preswyl awdurdodau lleol a lleihau dibyniaeth ar y sector preifat yn bolisi Llywodraeth. Ar hyn o bryd, fodd bynnag, mae angen rhywfaint o ddarpariaeth breifat o ansawdd da arnom. Felly, ni allaf gytuno â geiriad y gwelliant hwnnw, oherwydd mae gennym blant yn y ddarpariaeth honno ar hyn o bryd, felly ni allwn gytuno ar eiriad y gwelliant hwnnw.
Ac ar y broses gwyno, mae rheoliadau Cymru 2014 a'r canllawiau yn darparu ar gyfer ymchwilydd annibynnol nad yw'n aelod nac yn swyddog o'r awdurdod lleol. Felly, ni allaf gefnogi'r gwelliant hwnnw.
Rwy'n ymwybodol fod angen imi gwblhau fy sylwadau, ac roedd llawer mwy o faterion y credaf y gallem fod wedi'u trafod. Gwn fod pwyntiau pwysig iawn wedi'u gwneud am addysg, ond rwyf am bwysleisio'r pwynt mewn ymateb i Oscar fod gennym grant datblygu disgyblion sydd wedi'i anelu'n benodol at blant mewn gofal, yn ogystal â phlant eraill. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig i'w wneud.
Ond yn olaf, hoffwn orffen, fel y gwnaeth Janet Finch-Saunders, ar nodyn cadarnhaol, a gwn fod David Rowlands wedi sôn am Roots Foundation yn Abertawe. Ymwelais â Roots Foundation, a chredaf eu bod yn gwneud gwaith rhagorol yno. I lawer o blant, rwy'n credu bod rhaid inni ddweud mai bod mewn gofal yw'r hyn sydd orau er eu lles a bod hynny'n cynnig sefydlogrwydd a diogelwch, fel y mae ymatebion i'r arolwg Bright Spots wedi'i ddangos. Rwyf wedi cyfarfod â rhai sy'n gadael gofal ac sy'n gwneud yn rhagorol, yn cyflawni'n academaidd ac yn llwyddo i fyw bywydau annibynnol a bodlon. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig gorffen ar y nodyn cadarnhaol hwnnw.
Diolch. Galwaf ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl.
Diolch. Diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi cyfrannu. Janet Finch-Saunders a agorodd y ddadl, wrth gwrs, gan ddweud bod y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd yn llithro allan o reolaeth gyda nifer y plant sy'n derbyn gofal yn codi 34 y cant dros 15 mlynedd, 6,845 o blant rhwng dim a 18 oed yn derbyn gofal gan awdurdodau lleol ar hyn o bryd, a nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru ym mhob 10,000 bellach yn llawer uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a hefyd yn uwch nag yn yr Alban ar sail y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd. Soniodd fod y comisiwn cyfiawnder yn amheus ynghylch effeithiolrwydd gwariant yng Nghymru hyd yma ar yr agenda hon, fod angen rhoi blaenoriaeth i ymyrraeth gynnar er mwyn lleihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal, a gwella cyfleoedd bywyd. Dywedodd fod plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal bum gwaith yn fwy tebygol o ddioddef cyflyrau iechyd meddwl na phlant nad ydynt mewn gofal, ac felly mae angen inni wybod nid yn unig faint sy'n cael ei dargedu tuag at blant sy'n derbyn gofal, ond hefyd sut y mae hyn yn cael ei fonitro. Gyda'r rhai sy'n gadael gofal yn wynebu mwy o risg o ddigartrefedd a thlodi, dywedodd fod angen i'r rhai sy'n gadael gofal gael eiriolwr, ac i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru nodi a chefnogi plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru sy'n gymwys i wneud ceisiadau i'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr UE, rhywbeth y soniodd llawer o bobl amdano, a'r angen i gynorthwyo rhieni sy'n mabwysiadu i gadw brodyr a chwiorydd gyda'i gilydd. Gorffennodd ar nodyn cadarnhaol am obaith i'r dyfodol a gobaith i'r plant hyn.
Cyfeiriodd Siân Gwenllian eto at adroddiad Thomas, fod canran y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn uwch nag yn Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bod angen i Lywodraeth Cymru ymateb i'r bwlch sy'n ehangu rhwng Cymru a Lloegr. Cyfeiriodd at faterion sy'n dod i'r amlwg, megis llinellau cyffuriau a cham-drin ar-lein, yr angen am ddull amlasiantaethol mewn nifer o feysydd, ac ysgolion a llysoedd yn benodol, a buddsoddi cynaliadwy mewn gwasanaethau ataliol i gadw teuluoedd gyda'i gilydd.
Mynegodd Neil McEvoy nifer o bryderon, gan gynnwys yr angen am gysylltiad—neu bryder ynghylch cyfyngu ar gysylltiad—rhwng plant sydd eisiau gweld rhieni a'u rhieni; y gall rhieni eu hunain fod mewn perygl o wahaniaethu; y dylai plant sy’n gwneud honiadau ynghylch cam-drin gael eu cymryd o ddifrif; a bod angen i ymchwiliadau i gwynion fod yn hollol annibynnol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny.
Soniodd Mohammad Asghar eto am y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, gan nodi y bu cynnydd trawiadol yn nifer y plant mewn gofal yng Nghymru ac amrywio eang rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, ac yna archwiliodd hynny ymhellach, a'r angen i dorri’r cylch o amddifadedd, lle mae Llywodraeth Cymru wedi lansio nifer o raglenni ac wedi buddsoddi'n enfawr yn y rheini, ond nid oes yr un ohonynt hyd yn hyn wedi atal y cynnydd yn nifer y plant sy'n derbyn gofal.
Cyfeiriodd Rhianon Passmore at y consensws trawsbleidiol cryf i sicrhau bod plant sydd wedi cael profiad o ofal yn cael y gefnogaeth orau sydd ar gael, a phwysigrwydd gwasanaethau ymyrraeth gynnar ac atal. Soniodd Caroline Jones am fuddiannau plant yn cael eu hesgeuluso yn y llysoedd teulu, yr angen i dorri cylch dechrau gwael mewn bywyd yn arwain at gyfleoedd bywyd gwael, ac fel nifer o bobl, cyfeiriodd wedi hynny at waith gwych y Roots Foundation, ac unwaith eto pwysleisiodd y rhan allweddol a chwaraeir gan y sector gwirfoddol, a phwysigrwydd hanfodol buddsoddi yng ngwasanaethau allweddol ymyrraeth gynnar ac atal y sector gwirfoddol er mwyn gwella bywydau a defnyddio arian yn well ac atal pwysau ar wasanaethau statudol.
Yn olaf—neu bron yn olaf, os gallaf ddod o hyd i fy nhudalen olaf, gan fod cymaint o ddarnau o bapur yma—cawsom Suzy Davies, yn olaf ond un, yn dweud bod yn rhaid i'r system ymateb i anghenion plant, nid fel arall; pwysigrwydd cefnogi gofalwyr maeth, cyrsiau rhianta cadarnhaol, a mynediad at hyfforddiant ac addysg, ac ennill cymwysterau i roi dyfodol i bob unigolyn ifanc. Soniodd David Rowlands—dywedodd fod nifer y plant sy'n destun achosion gofal yn cynyddu'n sylweddol, ac y dylai symud plant o'r cartref teuluol fod yn ddewis olaf bob amser. Mae symud plentyn yn ddinistriol nid yn unig i'r rhieni, ond hefyd i neiniau a theidiau, na ddylem byth mo’u hanghofio, a'r teulu ehangach. A mynegodd bryder ynghylch y llysoedd teulu yn eistedd yn gyfrinachol.
Gorffennodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan, trwy ganmol, yn briodol, grŵp cynghori’r Gweinidog a gadeirir yn fedrus gan David Melding; pwysigrwydd, fodd bynnag, peidio â llaesu dwylo; pwysigrwydd lleoliadau sefydlog lle bynnag y bo modd. Dywedodd fod y maes gwaith hwn yn gymhleth, yn amlasiantaethol, ac er bod y gyfradd sy'n derbyn gofal wedi arafu, mae'r niferoedd heb eu dilysu hyd yn hyn. Dywedodd ein bod ar daith o welliant a bod yn rhaid i ni gadw momentwm, ond mae ffordd bell i fynd. Yn amlwg, mae'r ffigurau a'r adroddiadau hyn yn dystiolaeth o hynny. Fel y cytunodd, rhaid i blant fod yn y canol yn hyn. Wrth gwrs, rydym yn croesawu’r ffaith iddi ddweud y bydd yn cefnogi’r cynnig. Felly, rwyf am gloi trwy alw ar bawb i ymuno â'r Dirprwy Weinidog i gefnogi ein cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gallai fod yn gyflymach na hynny. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.