– Senedd Cymru am 1:44 pm ar 29 Ebrill 2020.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.
Llywydd, unwaith eto, byddaf yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am ymateb y Llywodraeth i'r argyfwng coronafirws. Rydym yn dal ati i weithio ar frys i ddatrys y pethau mwyaf pwysig, yn cynnwys offer amddiffynnol ar gyfer gweithwyr yn y gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn gweithio i gryfhau'r strwythur iechyd cyhoeddus er mwyn bod yn barod ar gyfer y cam nesaf, pan fyddwn yn barod i ddechrau llacio'r rheolau presennol.
Rydym wedi cyhoeddi ein fframwaith er mwyn rhannu â'r cyhoedd sut y byddwn yn mynd ati i benderfynu ar y camau nesaf. Yn y cyfamser, mae'n bwysig iawn fod pawb yn dal i barchu'r rheolau er mwyn diogelu eu hunain, amddiffyn y gwasanaeth iechyd a gwarchod pobl fregus.
Llywydd, unwaith eto y prynhawn yma, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau allweddol yn ein hymateb i argyfwng y coronafeirws yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Fel ag yn yr wythnosau blaenorol, byddaf yn canolbwyntio ar y materion hynny nad ydyn nhw'n cael eu trafod yn y datganiadau a fydd yn dilyn gan Weinidogion eraill.
Llywydd, ddoe, cyrhaeddodd cyflenwad pwysig o gyfarpar diogelu personol ym Maes Awyr Caerdydd o Gambodia. Fe'i sicrhawyd drwy ymdrechion Llywodraeth Cymru. Byddwn yn rhannu'r cyflenwad hwnnw gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig os oes angen, yn rhan o'r system cyd-gymorth.
Nawr, Llywydd, rwy'n credu bod yr ymateb i argyfwng y coronafeirws yn dangos cryfderau Teyrnas Unedig ddatganoledig. Rydym ni yng Nghymru yn aelodau o gydgefnogaeth ehangach, yn cyfrannu at adnoddau a rennir ac yn eu defnyddio, ond rydym ni hefyd yn gweithredu ar ein liwt ein hunain lle mae ein pwerau datganoledig yn caniatáu i ni hybu buddiannau Cymru. Dyna pam, yn ogystal â sicrhau cyflenwadau mewn mannau eraill, yr ydym ni wedi canolbwyntio ar gryfhau ein cadwyn gyflenwi ddomestig er mwyn helpu i fodloni'r galw uniongyrchol a datblygu cydnerthedd ar gyfer y dyfodol. Mae Transcend Packaging yn Ystrad Mynach, er enghraifft, wedi ymateb i'r alwad i weithredu ac wedi newid ei brosesau i wneud miliwn o warchodwyr wyneb yr wythnos i'r GIG yng Nghymru. Mae ganddo'r gallu i ddyblu'r nifer honno os bydd angen.
Ac am y tro cyntaf, rydym ni'n agos at fod yn hunangynhaliol o ran dillad glanweithiol yng Nghymru. Erbyn diwedd yr wythnos nesaf, byddwn yn gwneud 5,000 yr wythnos, gan ddod â swyddi'n ôl o wledydd tramor a'u hangori yn ein heconomi yng Nghymru. Rydym ni wedi gweithio gyda chwmni yn y DU sy'n cyflenwi dillad glanweithiol i'r GIG, ac yn bennaf gyda thri busnes a mentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae dau o'r rhain yn y gogledd ac mae'r trydydd mewn ffatri yr ydym ni wedi ei chreu o'r newydd yng Nglynebwy, mewn partneriaeth â menter gymdeithasol, gan greu swyddi i 50 o beirianwyr a oedd wedi bod yn ddi-waith yn hirdymor fel arall.
Ond, Llywydd, mae angen i mi esbonio i'r Aelodau nad yw pob cynnig o gymorth yn un dilys yn y pen draw. Mae'n ymddangos yn y pen draw bod bron i un o bob pump o gynigion sy'n cael eu hymchwilio wedyn gan yr arbenigwyr yn ein labordy profi deunyddiau llawfeddygol ein hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn dibynnu ar ardystiad anghywir neu'n gwbl dwyllodrus. Mae pob un o'r cynigion hynny'n cymryd amser ac ymdrech i'w hymchwilio ac mae'n anochel bod hynny'n tynnu sylw oddi wrth ymateb i'r nifer lawer mwy o bosibiliadau hael â bwriadau da.
Yn anffodus, mae rhai wedi manteisio ar y feirws hwn i dargedu pobl agored i niwed. Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd gyngor yr wythnos diwethaf ar osgoi peryglon sgamiau ar-lein a bod yn wyliadwrus o'r peryglon difrifol y mae'r rhain yn eu hachosi i aelodau agored i niwed o'n cymunedau.
Llywydd, wrth i ni roi sylw i natur frys yr argyfwng, mae'n rhaid i ni ddal i ddod o hyd i amser i gydnabod a diogelu diwylliant ac amrywiaeth Cymru. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi parhau i ddarparu canllawiau a chefnogaeth i helpu i ymdrin â goblygiadau'r feirws, gan gynnwys £800,000 i'r Eisteddfod Genedlaethol ac Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rwyf i wedi ysgrifennu at bawb yng Nghymru sy'n cadw gorchymyn Ramadan, gan nodi sut y gellir dathlu'r ŵyl yn ddiogel ac mewn ffyrdd sy'n parchu traddodiadau maith Islam. Ac mewn datganiad ysgrifenedig pwysig a gyhoeddwyd heddiw i nodi blwyddyn ers i'r Senedd hon ddatgan argyfwng hinsawdd, mae Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn nodi'r camau yr ydym ni'n parhau i'w cymryd i adfer colled bioamrywiaeth ac i ymateb i'r newid yn yr hinsawdd yng Nghymru.
Ddoe, fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, cyrhaeddwyd carreg filltir brudd arall wrth i nifer y marwolaethau a gofnodwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru fynd heibio 800. Mae pob un o'r marwolaethau hynny yn unigolyn ac yn berson sydd wedi gadael teulu a ffrindiau sy'n galaru ar ei ôl. I gydnabod anawsterau'r profiad hwnnw, cyhoeddwyd cyllid ychwanegol gennym ni yr wythnos hon i gefnogi gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru i'w helpu i ymateb i'r galwadau ychwanegol am eu cymorth.
O ran yr economi, bydd busnesau ledled Cymru yn dechrau derbyn taliadau grant o gronfa cadernid economaidd Llywodraeth Cymru erbyn diwedd yr wythnos hon. Ers iddi agor wythnos yn ôl, mae'r gronfa wedi cael bron i 9,000 o geisiadau am gymorth. Cafodd y cynllun ei oedi ddydd Llun er mwyn caniatáu i ni ystyried pa newidiadau y gellir eu gwneud o'r profiad hwnnw cyn i ni symud ymlaen at y gyfran nesaf.
Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, cwblhawyd yr adolygiad tair wythnos cyntaf o reoliadau coronafeirws gennym a gwnaethom rai newidiadau cymedrol ond arwyddocaol—rhai i dynhau'r rheolau ac eraill i'w llacio mewn ymateb i bryderon a godwyd. Yn y categori cyntaf, rydym ni'n eglur na ddylai gadael eich cartref am un rheswm olygu ychwanegu gweithgareddau eraill hefyd. Cadarnhawyd gennym ni hefyd bod gofynion cadw pellter corfforol yn berthnasol i'r gweithle, caffis a ffreuturau. Yn yr ail gategori, rydym ni wedi ehangu'r diffiniad o bobl agored i niwed i 'mae darparu cyflenwadau yn esgus rhesymol i adael eich cartref', ac rydym ni wedi llacio'r rheolau i ganiatáu i bobl ag awtistiaeth ac anableddau dysgu, er enghraifft, adael eu cartrefi i ymarfer corff fwy nag unwaith y dydd. Rydym ni wedi ei gwneud yn eglur y caiff busnesau sy'n gallu gweithredu ar sail clicio a chasglu wneud hynny, cyn belled ag y cedwir pellter corfforol.
Llywydd, rydym ni'n cymryd y broses adolygu yn hynod o ddifrif a byddwn yn parhau i wneud hynny mewn ymgynghoriad â phartneriaid, gan gynnwys yr heddlu ac awdurdodau lleol. Rydym ni'n defnyddio'r cyfnod adolygu hwn i gynllunio ar gyfer y cam nesaf, fel y nodais yn y fframwaith a gyhoeddwyd ddydd Gwener. Dyma ddechrau sgwrs gyda phobl yng Nghymru am ein taith allan o gyfyngiadau symud, a cheir tair elfen allweddol i'r dull a nodir yn y fframwaith: rydym ni'n esbonio sut y byddwn ni'n penderfynu pryd y bydd yn ddiogel i ddechrau llacio'r cyfyngiadau presennol; rydym ni wedi nodi sut y byddwn ni'n gwerthuso dewisiadau ar gyfer y mesurau llacio cychwynnol pan fydd yr amser yn iawn; rydym ni eisiau nodi'r mesurau hynny sydd â'r risg isaf a'r effaith gadarnhaol fwyaf ar fywydau pobl a'r economi yng Nghymru. Ac rydym ni wedi cyflwyno ymateb iechyd cyhoeddus a fydd yn cyd-fynd â'r cam o lacio cyfyngiadau. Bydd hyn yn cynnwys gwyliadwriaeth, olrhain cyswllt a phrofi, yn gyflym i nodi ac ymateb i unrhyw fannau lle bydd y coronafeirws yn dod i'r amlwg, ac mae'r gwaith hwn yn cael ei arwain gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithio i gynllunio ar gyfer y dyfodol, gan harneisio'r syniadau gorau o Gymru a chyngor arbenigol o'r tu hwnt i Gymru. Bydd Cymru ar ôl y pandemig yn Gymru wahanol iawn ac mae angen i ni ymateb gyda syniadau newydd sydd wedi eu gwreiddio yn ein gwerthoedd a bydd y Cwnsler Cyffredinol yn arwain y gwaith hwnnw.
Llywydd, byddwn yn cymryd camau gofalus a phwyllog wrth i ni ystyried llacio'r cyfyngiadau presennol. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i geisio sicrhau dull gweithredu cyffredin. Byddwn yn gweithio gyda phobl ledled Cymru wrth i ni wynebu'r penderfyniadau anodd sydd o'n blaenau, a byddaf yn parhau i adrodd ar yr holl faterion hyn i'r Senedd bob wythnos. Diolch yn fawr.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, a allaf ddiolch ichi am eich datganiad y prynhawn yma? Nawr, wrth wraidd y Llywodraeth, mae angen ymrwymiad i fod yn agored ac yn dryloyw, ac yn y modd hwnnw hoffwn eich holi'n benodol am danadrodd am farwolaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gymerodd dros fis i gael ei gyhoeddi, a'r tangyadrodd dilynol am farwolaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.
Brif Weinidog, mae'n destun embaras cenedlaethol na all Llywodraeth Cymru hyd yn oed gyhoeddi gwybodaeth gywir am nifer y marwolaethau COVID-19, ac, er fy mod yn derbyn eich bod wedi cyhoeddi adolygiad o'r sefyllfa, mae cwestiynau y mae angen eu hateb o hyd. Rhaid i bobl Cymru fod yn hyderus bod unrhyw wybodaeth a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru a chan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gywir ac yn gyfoes. Felly, o ystyried bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan reolaeth uniongyrchol Llywodraeth Cymru, pam yr oedd system wahanol i weddill GIG Cymru yn cael ei defnyddio o gwbl, a pham y cymerodd gymaint o amser cyn i Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru sylweddoli bod rhywbeth o'i le?
Mae eich adolygiad yn dweud eich bod wedi cael sicrwydd gan y rhan fwyaf o fyrddau iechyd eu bod o'r farn bod eu prosesau wedi bod ac y byddant yn parhau i fod yn gadarn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi bod yn rhaid i'r prosesau ym mhob bwrdd iechyd fod yn gadarn, ac felly beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gweithgaredd hwn yn digwydd? Ac, o ystyried nad yw dau fwrdd iechyd bellach wedi cynhyrchu gwybodaeth gywir yn gywir, pa fecanwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei weithredu'n awr i sicrhau bod sicrwydd ansawdd lleol yn digwydd wrth symud ymlaen?
Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y pwyntiau yna, a hoffwn gytuno ag ef: mae'n bwysig iawn yn wir bod Gweinidogion a phobl Cymru yn gallu bod yn ffyddiog bod y wybodaeth a gyhoeddir gan ein system yn gywir ac yn ddibynadwy. Dyna pam, cyn gynted ag y tynnwyd fy sylw at y ffaith y bu tangofnodi marwolaethau gan Betsi Cadwaladr, y gwnes i sefydlu'r adolygiad a gyhoeddwyd gan y Gweinidog iechyd ddoe.
Mi ydw i'n awyddus i gywiro rhai o'r manylion yng nghwestiwn arweinydd yr wrthblaid, gan mai fel hyn yr oedd trefn y digwyddiadau: roedd Betsi Cadwaladr wedi bod yn cofnodi gwybodaeth gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru. Tan 18 Ebrill, roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cyhoeddi ffigur Cymru gyfan cyffredinol o farwolaethau yn unig, a thybiodd Betsi Cadwaladr—fel yr oedd ganddyn nhw hawl i'w wneud yn fy marn i—bod eu ffigurau'n cael eu hadlewyrchu yn y ffigur cyffredinol hwnnw ar gyfer Cymru. Ar 18 Ebrill, symudodd Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyhoeddi marwolaethau ar lefel byrddau iechyd wedi'u dadgyfuno, a thynnodd Betsi Cadwaladr sylw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn syth at y ffaith nad oedd yn ymddangos bod y ffigurau yr oedden nhw wedi bod yn eu cyflwyno yn cael eu hadlewyrchu yn y ffigur a gyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y lefel ddatgyfunedig. Nawr, fe wnaeth hi gymryd o 18 Ebrill i 23 Ebrill wedyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i drafod yr hyn oedd wedi digwydd ac i gynnal proses dilysu data, a chawsom wybod ar 24 Ebrill beth oedd canlyniadau'r drafodaeth honno. Dyna'r pwynt y dywedais fy mod i eisiau cael sicrwydd pellach yn ei gylch gan Iechyd Cyhoeddus Cymru bod y manylion yr oedden nhw'n eu cyhoeddi yn gwrthsefyll craffu. Ac yna—. Felly, hoffwn fod yn eglur gyda'r Aelod na aeth mis heibio pan oedd pobl yn gwybod am hyn a ddim yn gwneud dim am y peth. Rhybuddiodd Betsi Cadwaladr Iechyd Cyhoeddus Cymru ar y diwrnod y cyhoeddwyd y data datgyfunedig hynny, pan roedden nhw'n gallu gweld bod rhywbeth wedi mynd o'i le, ac yna cymerodd hyd at 23/24 Ebrill i hynny ddod i sylw Llywodraeth Cymru.
Gofynnodd Paul Davies i mi wedyn, Llywydd, beth sydd wedi cael ei wneud i wneud yn siŵr bod y ffigurau o hyn ymlaen yn cael eu hadrodd yn gywir. Bydd yn gweld bod wyth cam gweithredu wedi'u nodi yn yr adroddiad a gyhoeddwyd. Dyma rai o'r rhai mwyaf arwyddocaol: galwadau ffôn wythnosol rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru a phob bwrdd iechyd lleol i wneud yn siŵr nad oes dim yn mynd ar gyfeiliorn; cadarnhad gan y prif swyddog meddygol i bob bwrdd iechyd y dylen nhw ddefnyddio'r system adrodd electronig newydd; mwy o sicrhau ansawdd lleol; archwiliad sicrhau ansawdd pellach gan Iechyd Cyhoeddus Cymru; a nawr, am y tro cyntaf, bydd y system gyfan yn cael ei goruchwylio gan y prif ystadegydd, unigolyn sy'n annibynnol ar y gwasanaeth iechyd ei hun ac sydd bellach yn rhan o'r gwaith o wneud yn siŵr bod y ffigurau a gyhoeddir yn rhai y gallwn ni i gyd fod â ffydd ynddyn nhw.
Wel, rwy'n gobeithio y bydd y mesurau yr ydych chi wedi'u cyflwyno nawr yn ddigon cadarn, oherwydd mae'n bwysig bod gwybodaeth gywir yn cael ei chyhoeddi er mwyn cynnal ffydd y cyhoedd.
Nawr, yr wythnos diwethaf, fel y dywedasoch yn eich datganiad heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei strategaeth ymadael ar gyfer COVID-19, 'Fframwaith ar gyfer adferiad', sy'n ei gwneud yn eglur bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chapasiti a'i gallu i brofi, er mwyn deall lefel yr haint sy'n bresennol yng Nghymru ymhellach. Fodd bynnag, rydym ni'n gwybod y bu nifer o broblemau sylweddol gyda'r rhaglen brofi yng Nghymru ac eto nid yw fframwaith adfer Llywodraeth Cymru yn cynnig unrhyw fanylion am sut y mae capasiti a gallu yn cael eu cyflymu mewn gwirionedd.
Mae'r fframwaith hefyd yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru allu olrhain a dilyn achosion yn y dyfodol, nawr, yn yr haf, a phan fydd y pwysau gwirioneddol yn dod yn ystod misoedd y gaeaf, fel na fydd rhaid i ni ailgyflwyno cyfyngiadau ar ôl i benderfyniad gael ei wneud i'w codi. Mae'n gwbl hanfodol bod gennym ni brofion cymunedol cynhwysfawr yn cael eu cynnal ledled Cymru i drechu'r feirws hwn, ac felly mae'n siomedig clywed bod Llywodraeth Cymru yn dewis peidio â phrofi holl breswylwyr a staff cartrefi gofal.
Felly, Prif Weinidog, efallai y gallech chi ddweud wrthym ni yn eich ymateb sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chapasiti a'i gallu i brofi, yn ogystal â dweud ychydig mwy wrthym ni am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu olrhain a dilyn unrhyw achosion yn y dyfodol. Siawns bod Llywodraeth Cymru, trwy beidio â dewis profi holl staff a phreswylwyr cartrefi gofal ledled Cymru, yn cyfleu'r neges nad yw profi cymunedol mor bwysig â hynny yn y lle cyntaf.
Nawr, mae'r fframwaith ar gyfer adferiad hefyd yn nodi mai un o'r ffactorau i'w hystyried wrth godi cyfyngiadau yw bod angen tystiolaeth y gall GIG Cymru ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig i anghenion gofal iechyd am o leiaf 14 diwrnod os bydd y gyfradd heintio yn mynd uwchlaw 1. Felly, yng ngoleuni fframwaith y Llywodraeth ar gyfer adferiad, a allwch chi ddweud wrthym ni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu dangos mewn gwirionedd y gallai'r gwasanaeth iechyd ymdopi ag unrhyw gynnydd i'r gyfradd heintio yn y dyfodol?
Llywydd, hoffwn ddiolch i Paul Davies unwaith eto am y cwestiynau yna. O ran profion, mae'r cynllun profi presennol sydd ar waith yn cynnwys profi cleifion, perthnasau, aelodau staff, gweithwyr allweddol—pobl sydd ar reng flaen yr argyfwng presennol. Bydd angen trefn brofi wahanol arnom ni wrth i gyfyngiadau gael eu codi, oherwydd, ar yr adeg honno, waeth pa mor ofalus yr awn ni ati, bydd y perygl o coronafeirws yn lledaenu yn y gymuned yn fwy bryd hynny nag y mae nawr, o dan amodau cyfyngiadau symud.
Ar yr adeg honno—rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies—dyna pryd y mae angen i chi gael gallu cymunedol i 'brofi, olrhain ac ynysu'. Mae nifer y profion sydd ar gael yng Nghymru yn cynyddu—2,100 yw'r nifer heddiw; 1,800 oedd y nifer ddiwedd yr wythnos diwethaf—ac rydym ni wedi gwneud cynnydd da, dros yr wythnos diwethaf, i wneud yn siŵr bod preswylwyr cartrefi gofal a staff cartrefi gofal yn gallu cael gafael ar y profion sydd ar gael.
Rydym ni'n cynyddu ein gallu i gynnal profion ymhellach yr wythnos hon—heddiw, drwy agor cyfleusterau yn Llandudno, sy'n rhai drwy ffenest y car a symudol. Bydd cyfleusterau ar gael yn Nant-y-ci yng Nghaerfyrddin o yfory ymlaen. A byddwn yn parhau i gynyddu'r capasiti profi hwnnw.
Y rheswm pam nad ydym ni'n cynnig profion i bawb mewn cartrefi gofal, sy'n symptomatig ac yn asymptomatig, yw oherwydd bod y dystiolaeth glinigol yn dweud wrthym ni nad oes gwerth mewn gwneud hynny. Oherwydd hynny, nid ydym ni'n ei wneud. Rydym ni'n cynnig y profion pan mai'r cyngor i ni yw ei bod hi'n clinigol briodol i wneud hynny. Profi pobl nad oes ganddyn nhw symptomau heddiw—er mwyn i honno fod yn neges ddibynadwy iddyn nhw, byddai'n rhaid i chi eu profi eto yfory, oherwydd gallwch chi fynd o fod heb symptomau i fod â'r symptomau mewn 24 awr. Byddai defnyddio'r capasiti sydd gennym ni yn y ffordd honno yn dargyfeirio'r capasiti oddi wrth lle mae'n werth gwneud pethau o safbwynt clinigol pan nad yw'r achos clinigol dros wneud hynny yn un a gynghorwyd i ni, a dyna pam nad ydym ni'n ei wneud.
Rydym ni'n gweithio gyda'r sector cartrefi gofal i ystyried cylch gwaith profi ehangach yn y cartrefi gofal hynny lle mae'n amlwg bod achosion o coronafeirws. Gallai'r ddadl dros brofion ehangach yn y fan honno fod yn gryfach yn glinigol. Mae hynny'n cael ei archwilio gan ein clinigwyr gyda'r sector cartrefi gofal. Ac, wrth gwrs, os byddwn ni'n cymryd camau pellach i'r cyfeiriad hwnnw, byddwn yn hysbysu'r Cynulliad am hynny.
Pwynt olaf Paul Davies, Llywydd, oedd yr un pwysig ynglŷn â'r GIG yn meddu ar y capasiti i ymdopi â chynnydd i'r coronafeirws wrth i ni lacio'r cyfyngiadau symud. Mae hynny'n rhan o'n fframwaith a'n cynllun. Mae'n rhan o'r rheswm pam yr ydym ni'n parhau i weithio ar gapasiti ysbytai maes yng Nghymru. O heddiw ymlaen, mae gennym ni filoedd o welyau ar gael yn y prif GIG, gan gynnwys 3,000 o welyau gofal acíwt, ac mae gennym ni lai o welyau gofal critigol sy'n llawn heddiw nag oedd gennym ni yr adeg hon yr wythnos diwethaf. Ond nid ydym ni'n dibynnu ar hynny'n parhau i fod yn wir wrth i ni symud y tu hwnt i gyfyngiadau symud, a byddwn yn monitro a, lle bo angen, yn cynyddu'r capasiti sydd gan y gwasanaeth iechyd i wneud yn siŵr, wrth wneud y peth iawn—ac rwyf i yn credu mai dod o hyd i'r ffordd iawn o lacio cyfyngiadau symud yw'r peth iawn—nad ydym ni'n rhoi ein hunain yn ôl yn y sefyllfa yr ydym ni i gyd wedi gweithio mor galed i geisio dod allan ohoni.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Prif Weinidog, mae arweinydd eich plaid wedi dweud ein bod o bosibl ar y trywydd i fod ag un o'r cyfraddau marwolaeth gwaethaf yn Ewrop. Nawr, roedd e'n cyfeirio at y DU wrth gwrs, ond mae'r un peth yn wir am Gymru, gwaetha'r modd. Pam ydym ni wedi gwneud mor wael mewn cymhariaeth â chynifer o wledydd eraill?
Nid wyf i'n credu mai fi yw'r person gorau o reidrwydd i gynnig ateb cynhwysfawr i'r cwestiwn yna, oherwydd bydd yr ateb yn dibynnu ar bobl sydd ag arbenigedd mewn sawl gwahanol ddimensiwn. Hoffwn atgoffa'r Aelod ein bod ni'n wynebu'r sefyllfa yma yng Nghymru, chwe wythnos yn ôl, pan oedd gennym ni ofn gwirioneddol y byddai coronafeirws yn cynyddu i'r graddau y byddai'n mynd yn drech na'n GIG—na fyddai gennym ni welyau mewn gofal critigol nac awyryddion a oedd yn angenrheidiol.
Rwy'n cofio sgwrs ddifrifol iawn gydag arweinydd Plaid Cymru ar un penwythnos, pan soniasom am y sefyllfa annymunol y gallai clinigwyr ei hwynebu lle byddai'n rhaid iddyn nhw ddewis rhwng pobl a fyddai'n cael cynnig triniaeth a'r rhai efallai na fydden nhw. Mae'r holl ymdrechion yr ydym ni wedi eu gwneud—yn y GIG, ym maes gofal cymdeithasol, a chan ddinasyddion Cymru—yn golygu nad ydym ni yn y sefyllfa honno ac nad ydym ni wedi bod yn y sefyllfa honno.
Felly, mae'r cyfraddau marwolaeth yn peri pryder mawr, wrth gwrs, a bydd cymariaethau'n cael eu gwneud o'r hyn sydd wedi digwydd yma a'r hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill, ond wrth wneud hynny gadewch i ni beidio â gwthio i'r neilltu yr ymdrechion aruthrol y mae pobl wedi eu gwneud i osgoi'r sefyllfaoedd anodd a phoenus iawn hynny a oedd, ar un adeg, yn bosibilrwydd realistig yma yng Nghymru.
A gaf i ofyn am gyfarpar diogelu personol? A wnewch chi gyhoeddi cyngor meddygol ffurfiol gan y prif swyddog meddygol ar y defnydd o gyfarpar diogelu, cyfarpar diogelu'r wyneb, gan y cyhoedd? Ac a wnaethoch chi weithredu ar argymhellion y Grŵp Cynghori ar Fygythiadau Feirws Anadlol Newydd a Datblygol, is-bwyllgor y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar gyfer Argyfyngau, pan gynigiodd y dylid ychwanegu feisorau wyneb a gogls llygaid at y stoc pandemig yn 2016, a phan wnaeth yr un peth o ran gynau llawfeddygol ym mis Mehefin y llynedd?
Fe wnaf fy ngorau i ateb cwestiynau'r Aelod am gyngor is-bwyllgor yn 2016—nid wyf i'n credu y bydd yr Aelodau yn disgwyl i mi fod â'r atebion i hynny ar flaenau fy mysedd.
O ran y mater o orchuddion wyneb anfeddygol gan aelodau'r cyhoedd, rydym ni'n parhau i drafod gyda'n prif swyddog meddygol ein hunain y cyngor y byddai'n ei roi ar hynny. Mae gennym ni ddiddordeb, wrth gwrs, yn y canllawiau a gyhoeddwyd yn yr Alban ddoe. Ceir manteision ac anfanteision i unrhyw gamau gweithredu. Mae llawer o aelodau'r cyhoedd eisoes yn gwisgo gorchuddion o'r math hwnnw, ac mae'n amlwg yn rhoi hyder i'r bobl hynny ailafael mewn rhannau o fywyd bob dydd. Mae ein prif swyddog meddygol ein hunain, yn y trafodaethau yr wyf i wedi eu cael gydag ef eisoes, yn cyfeirio at y perygl y gall pobl gymryd sicrwydd ffug o wisgo gorchuddion wyneb o'r math hwnnw. Yn gwbl sicr, pe byddai unrhyw un yn meddwl, â chanddo beswch symptomatig, bod gwisgo mwgwd wyneb yn ei gwneud yn ddiogel i chi fynd allan, ni fyddai'n dilyn cyngor da. Felly, rydym ni'n parhau i drafod gyda'r prif swyddog meddygol. Bydd yn ffurfioli ei gyngor, yn ddi-au, ar ryw adeg, a phan fydd ei gyngor yn ffurfiol, yna wrth gwrs byddaf yn hapus i'w gyhoeddi.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Beth yw pwynt chwarae gyda'r fframwaith cyfreithiol y mae Llywodraeth a Senedd y DU yn ei bennu ar gyfer Lloegr dim ond i'w wneud ychydig yn wahanol yng Nghymru? Pam mae'n bwysig dilyn rheolau ychydig yn wahanol yng Nghymru nag yn Lloegr? Gwelsom lawer o fusnesau'n cau nad oedd yn ofynnol iddyn nhw wneud hynny'n gyfreithiol, ac mae llawer o'r rheini'n gweithio'n galed gyda chwsmeriaid, gweithwyr—weithiau gyda'r Llywodraeth—i geisio dod o hyd i ffyrdd o ailagor yn ddiogel, ac maen nhw'n defnyddio eu synnwyr cyffredin eu hunain a'u gwybodaeth eu hunain am eu busnes unigol i wneud hynny. Ac eto yng Nghymru, bydd yn rhaid iddyn nhw hefyd neidio drwy, cydymffurfio, â rheoliadau cyfreithiol a bennir gan Lywodraeth Cymru, gan Weinidogion a gweision sifil, na fyddant yn deall y busnesau unigol hynny, ac yn y rhan fwyaf o amgylchiadau nid ydyn nhw wedi gweithio mewn busnes eu hunain. Faint o swyddi ydym ni'n mynd i'w colli oherwydd bod cwmnïau'n penderfynu bod ganddyn nhw 20 gwaith yn fwy o fusnes yn Lloegr nag sydd ganddyn nhw yng Nghymru ac nad ydyn nhw eisiau cymryd y risg honno o ran cydymffurfiad â'r rheoliadau cyfreithiol hynny yr ydych chi wedi eu cyflwyno'n benodol i Gymru?
Pam mae pobl yng Nghymru ddim ond yn cael gadael y tŷ i ymarfer unwaith y dydd, ond nad oes gofyniad cyfatebol yn Lloegr? Pam mae'r un geiriau mewn rheoliadau yn ymddangos i olygu rhywbeth gwahanol yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru, na'r hyn y mae'r heddlu yn ei ddweud wrth bobl yn Lloegr y maen nhw'n ei olygu yno? Er enghraifft, pam mae hi'n iawn mynd mewn car i le priodol i ymarfer corff yn Lloegr, ond nid yng Nghymru mae'n debyg? Pam ddylai fod cyfyngiad ar feicio yng Nghymru ond nid yn Lloegr, ei bod hi rywsut yn dderbyniol gwneud hynny fel ymarfer corff dim ond os yw o fewn pellter rhesymol i gartref rhywun?
Ac roedd y gofynion cyfreithiol yn y rheoliadau yr un fath, rwy'n credu, yng Nghymru ar gyfer codi'r gofynion a'r cyfyngiadau eithriadol hyn a roddwyd ar bobl, bod yn rhaid eu codi cyn gynted nad ydyn nhw'n angenrheidiol neu'n gymesur mwyach ar gyfer y risg o ddal haint coronafeirws, ac mae'n rhaid i Weinidogion Cymru wneud hynny. Mae gan Lywodraeth y DU bum prawf, ond maen nhw'n benodol i'r rheini, yn mynd i'r afael â'r materion hynny. Rydych chi wedi cyhoeddi cyfres lawer ehangach o ddulliau yr ydych chi'n dweud sydd wedi'u gwreiddio yng ngwerthoedd Cymru, ond nid yw'n ymddangos eu bod nhw wedi'u gwreiddio yn y gyfraith y mae'n ofynnol i chi ei chymhwyso. Maen nhw'n cynnwys: a yw'r mesur yn cael effaith gadarnhaol uchel ar gydraddoldeb? A yw'r mesurau'n gyson â'ch cynlluniau ar gyfer Cymru fwy cyfartal a gwyrdd a'u hasesiad gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015? Ac a ydyn nhw'n cynnig cyfleoedd i ehangu cyfranogiad mewn cymdeithas fwy cynhwysol? Heddiw, rydym ni'n credu, beth mae Gordon Brown yn ei feddwl? Pam mae'r pethau hynny yn cael eu cymhwyso yma, ond nid yn Lloegr, i gael allan o'r rheoliadau llym hyn sy'n dinistrio ein heconomi a'n lles?
Wel, Llywydd, mae fel llithro'n ôl nid 20 mlynedd, ond 120 mlynedd. Mae fel pe byddai'r Aelod wedi ysgrifennu'r cofnod enwog hwnnw yn Encyclopaedia Britannica, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr', oherwydd yr ateb i'w gwestiwn yw: pe byddwn i'n cytuno ag ef, beth fyddai pwynt Cynulliad Cenedlaethol Cymru? Beth fyddai pwynt Cymru o gwbl? Oherwydd ei ddadl yn llwyr yw y dylem ni wneud yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud mewn mannau eraill.
Roedd yn anghywir pan ddywedodd, ar y cychwyn, bod Senedd y DU wedi pennu cyfres o reolau yr oeddem ni'n gwyro oddi wrthyn nhw rywsut. Yr hyn a wnaeth Senedd y DU oedd rhoi'r grym i Gymru, i'r Alban, i Ogledd Iwerddon, ac ar wahân i Loegr, wneud rheolau a rheoliadau ar gyfer gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a dyna'n union yr ydym ni wedi ei wneud. A lle mae gennym ni ofynion sy'n wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig—ac rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod pan fydd yn cyflwyno Lloegr yn gyson fel y maen prawf y dylid barnu popeth yr ydym ni'n ei wneud yn ei erbyn—pan fyddwn ni'n gwneud pethau'n wahanol i unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig, rydym ni'n gwneud hynny oherwydd anghenion ac amgylchiadau Cymru.
Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gyflwyno rheolau yn ymwneud â meysydd carafanau a gwersylla. Pam wnaethom ni hynny? Oherwydd ein bod ni'n clywed y neges mor uchel ac eglur o dde-orllewin a gogledd-orllewin Cymru o bobl yn teithio i'r rhannau hynny o Gymru ac yn achosi perygl i iechyd y cyhoedd iddyn nhw eu hunain ac i bobl eraill. Pam yr ydym ni'n dweud, 'Dylech ymarfer corff unwaith y dydd'? Oherwydd bod Gweinidogion ledled y Deyrnas Unedig, gan gynnwys, bydd yn falch o glywed rwy'n siŵr, Gweinidogion Lloegr, yn dweud yn gyson wrth bobl, 'Gadewch eich cartref unwaith y dydd ar gyfer ymarfer corff. ' 'Unwaith y dydd' yw'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud; 'unwaith y dydd' yr ydym ni'n ei olygu; 'unwaith y dydd' yw'r hyn y mae ein rheoliadau yn ei ddweud.
O ran y rheol dau fetr, yr wyf i'n credu yr oedd yn cyfeirio ati, yna rwy'n credu y bydd honno'n ased i fusnesau yng Nghymru, oherwydd yr hyn yr ydym ni'n ei weld yng ngweddill y byd yw nad yw gwrthdroi rheoliadau, agor pethau a oedd wedi cau yn ystod cyfyngiadau symud, yn rhoi dim sicrwydd y bydd pobl yn dod i ymgymryd â'r gweithgareddau hynny. Gallwch agor canolfan siopa, ac os nad yw pobl yn credu ei bod hi'n ddiogel i fynd yno, ni fydd neb yn dod. Gallwch agor gweithleoedd eto, ac os yw pobl sy'n gorfod gweithio yno yn credu nad yw eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried a'u diogelu, byddan nhw'n amharod i fynd i'r fan honno hefyd. Mae ein rheol dau fetr, y mae busnesau cyfrifol yng Nghymru wedi bod yn glynu ati yn fodlon iawn, yn anfon neges at weithwyr yng Nghymru y bydd eu hiechyd a'u llesiant wedi eu hystyried, eu cynllunio a'u rhoi ar waith pan ddaw'n amser i ddychwelyd i'r gweithle, ac y bydd hynny'n gwneud y busnesau hynny'n fwy tebygol o lwyddo na phe na byddem ni wedi gweithredu yn y modd hwnnw.
Prif Weinidog, mae'n Ddiwrnod Cenedlaethol y Gweithwyr Post heddiw, a tybed a wnewch chi ymuno â mi i ddiolch i'r holl bostmyn hynny a'u hundeb llafur, Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu, sy'n gwneud gwaith mor ardderchog drwy gydol y flwyddyn ac sydd, fel gweithwyr allweddol dynodedig yn ystod argyfwng y coronafeirws, wedi gweithio bob awr o'r dydd i wneud yn siŵr bod pob cymuned yn cael ei phost.
Prif Weinidog, mae gen i un pwynt ychwanegol yr hoffwn ei ofyn, ac mae hwnnw'n ymwneud â chyllid llywodraeth leol. Mae'r argyfwng hwn wedi cael effaith ariannol drom ar lywodraeth leol, ac rwy'n deall bod fy awdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, yn colli tua £2.5 miliwn o incwm y mis. Felly, mae hyn yn deillio o'r amrywiaeth fwy o wasanaethau y mae'r cyngor yn eu darparu a'r incwm llai, er enghraifft, o ganlyniad i gau canolfannau hamdden. Mae llywodraeth leol yn wasanaeth rheng flaen hanfodol sydd, unwaith eto, wedi camu i'r adwy. Mae ymateb Rhondda Cynon Taf, nid yn unig yn ystod y pandemig, ond yn ystod y llifogydd yn gynharach eleni, wedi bod yn ardderchog, a hoffwn longyfarch y cyngor a'i arweinydd, Andrew Morgan, a'r holl weithwyr yn Rhondda Cynon Taf am yr hyn y maen nhw wedi ei gyflawni a'r hyn y maen nhw'n parhau i'w wneud. Felly, mae'n iawn ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd hanfodol llywodraeth leol, ond mae angen i ni gydnabod hefyd mai dim ond am ryw gyfnod y gellir cynnal y pwysau ariannol presennol ar lywodraeth leol. Hoffwn ofyn i chi, Prif Weinidog: pa sylwadau sy'n cael eu gwneud i Lywodraeth y DU i sicrhau y bydd cynghorau yng Nghymru ac, yn wir, ledled y Deyrnas Unedig, yn cael y cymorth ariannol sydd ei angen arnyn nhw i oroesi yn ystod y misoedd nesaf?
Lywydd, diolchaf i Mick Antoniw am y cwestiynau yna. Rwy'n falch iawn yn wir o gysylltu fy hun â'r hyn y mae wedi ei ddweud am y gwaith ardderchog y mae gweithwyr post yn ei wneud bob dydd ac y maen nhw wedi ei gynnal yn ystod argyfwng y coronafeirws. Maen nhw'n weithwyr ar y rheng flaen, fel y dywedodd Mick Antoniw, ac rydym ni'n wirioneddol ddiolchgar iddyn nhw am y ffordd y maen nhw wedi cadw'r rhan honno o fywyd arferol i barhau drwy'r argyfwng cyfan.
Mae Mick Antoniw yn llygad ei le, wrth gwrs, am y pwysau ar lywodraeth leol, a gadewch i mi ddweud hefyd fy mod i'n credu bod llywodraeth leol yng Nghymru wedi dangos ei chryfder yn ystod yr wythnosau diwethaf yn darparu gwasanaethau ar y lefel leol honno i bobl lle mae mwyaf o angen. Rydym ni wedi bod yn ffodus iawn, rwy'n credu, i gael llywodraeth leol yng Nghymru dan arweinyddiaeth y Cynghorydd Andrew Morgan, a hynny fel arweinydd Rhondda Cynon Taf, ond hefyd fel arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi darparu £110 miliwn yn uniongyrchol ac yn ychwanegol i lywodraeth leol yng Nghymru, gan ragori ar y £95 miliwn yr ydym ni wedi ei gael mewn symiau canlyniadol gan Lywodraeth y DU at yr un dibenion yn Lloegr. Rydym ni'n gweithio gyda CLlLC sydd, ynghyd â'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, yn cyflwyno sylwadau ar y cyd i Lywodraeth y DU am ragor o gyllid i gymryd y mater o incwm coll i ystyriaeth—mater difrifol iawn i awdurdodau lleol—ac rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn chwarae ein rhan wrth wneud y pwyntiau hynny i gydweithwyr ar lefel y DU hefyd.
Cyhoeddodd y Swyddfa Gartref ar 11 Ebrill ei bod yn gweithio gydag elusennau yn Lloegr i ddarparu £2 filiwn ychwanegol ar gyfer llinellau cymorth a chymorth ar-lein ar gyfer cam-drin domestig. Bron i bythefnos yn ddiweddarach, ysgrifennodd Cymorth i Ferched Cymru at eich Dirprwy Weinidog yn datgan bod gwasanaethau arbenigol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ledled Cymru wedi mynegi dryswch, rhwystredigaeth a phryder ynghylch pa gyllid ychwanegol sy'n cael ei ddarparu mewn ymateb i COVID-19. Felly, ar wahân i'r £1.2 miliwn a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr, pa arian newydd sydd wedi ei neilltuo gan Lywodraeth Cymru felly ar gyfer y gwasanaethau arbenigol hyn yng Nghymru?
Cyhoeddodd Llywodraeth ei Mawrhydi £200 miliwn o arian newydd ar gyfer hosbisau yn Lloegr, deallir y byddai'r dyraniad canlyniadol i Lywodraeth Cymru yn sylweddol fwy na'r cymorth ychwanegol o hyd at £6.3 miliwn a gyhoeddwyd gennych chi ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r pryder a fynegwyd gan hosbisau ledled Cymru na fydd yr arian ychwanegol hwn yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i gynorthwyo a chynnal gwasanaethau hosbis hanfodol yng Nghymru?
Lywydd, unwaith eto, rwy'n gwrthod y dybiaeth gyson hon mai ein gwaith ni yng Nghymru yw barnu ein hunain yn erbyn yr hyn y mae rhywun arall yn ei wneud yn rhywle arall. Nid yw'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol ran o'r Deyrnas Unedig yn dempled i Gymru, ac ni ddylem ni gael ein barnu yn erbyn camau y mae pobl eraill yn dewis eu cymryd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw gwneud penderfyniadau mewn ffordd sy'n diwallu anghenion Cymru, ac yn cyd-fynd ag amgylchiadau Cymru a'n gallu i ymateb iddyn nhw.
Mae'r mater o drais domestig yn un difrifol iawn. Rydym ni'n gwybod o dystiolaeth ledled y byd bod cynnydd i drais domestig yn ystod cyfnodau o gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei weld. Nid oes neb mewn sefyllfa well na'r Dirprwy Weinidog Jane Hutt, sylfaenydd Cymorth i Ferched Cymru ei hun 30 mlynedd a mwy yn ôl, i fod mewn sgyrsiau gyda'r sector hwnnw i ddeall eu hanghenion ac i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb iddyn nhw.
Yn wir, rydym ni wedi cyhoeddi £6.3 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer hosbisau yng Nghymru. Mae hosbisau yng Nghymru yn cael eu hariannu mewn ffordd wahanol i'r ffordd y maen nhw yn Lloegr. Mae'n rhan bwysig iawn o'n tirwedd yma yng Nghymru, gydag ymdrech wirfoddol enfawr sy'n cael ei gwerthfawrogi'n fawr ac sydd wedi cael cefnogaeth dda iawn gan Lywodraeth Cymru drwy'r gwaith yr ydym ni wedi ei wneud, a thrwy'r gwaith y mae'r Farwnes Ilora Finlay wedi ei wneud ar ein rhan. Unwaith eto, rydym ni'n cael trafodaethau cyson, agos a chynhyrchiol, rwy'n credu, gyda'r sector hwnnw yma yng Nghymru, ac rydym ni'n dyfeisio atebion sy'n iawn iddyn nhw ac yn iawn i ni yng Nghymru.
Prif Weinidog, mi fyddwch chi yn ymwybodol iawn fod nifer o ffermydd yng Nghymru, wrth gwrs, yn wynebu trafferthion dybryd yn sgil effaith y coronafeirws ar y sector fwyd. Mae ffermwyr bîff a ffermwyr llaeth yn enwedig yn wynebu colledion eithriadol o hyd at £10,000 y mis mewn nifer o achosion.
Dyw'r busnesau yma ddim yn mynd i allu cario'r lefel yna o golledion a'r lefel yna o ddyledion am yn hir iawn, felly mae gweithredu ar frys ar y mater yma yn rhywbeth allweddol. A dyw'r busnesau yma ychwaith, wrth gwrs, ddim ar y cyfan yn gymwys i gael mynediad at nifer o'r cynlluniau busnes mae'ch Llywodraeth chi eisoes wedi'u cyhoeddi. Felly, fy nghwestiwn i yn syml iawn yw: a wnewch chi fel Prif Weinidog, ac a wnaiff eich Llywodraeth chi, gyflwyno cynllun cefnogi bespoke i ffermwyr Cymru sydd yn ffeindio eu hunain mewn trybini yn sgil y creisis yma? Ac os ŷch chi yn bwriadu gwneud hynny, yna a allwch chi ddweud wrthym ni pryd, oherwydd fel dwi'n dweud, mae amser yn ffactor allweddol yn hyn o beth? Ond os nad ŷch chi yn bwriadu cyflwyno cynllun o'r fath, efallai y gallwch chi esbonio pam.
Llywydd, diolch i Llyr Gruffydd am y cwestiynau yna. Jest i ddweud i ddechrau, dwi’n cydnabod y problemau mae’r maes yma yn eu hwynebu yng nghyd-destun coronafeirws. Rydym ni wedi gweithio’n barod, ac rydym wedi bod yn gweithio trwy’r cyfnod, gyda ffermwyr yn y maes llaeth, er enghraifft, i drio ffeindio mwy o ffyrdd iddyn nhw ddefnyddio’r llaeth maen nhw’n ei gynhyrchu bob dydd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod, lle roedden nhw’n gwerthu llaeth cyn y coronafeirws, dydy’r alwad am laeth ddim yna fel yr oedd hi, ond rydym ni eisiau trio gweithio gyda ffermwyr yng Nghymru i greu cyfleon eraill iddyn nhw ddefnyddio'r llaeth trwy wneud fwy o gaws neu fenyn, neu beth bynnag maen nhw’n gallu ei wneud. Dwi’n gwybod bod y trafodaethau yna’n mynd ymlaen gyda’n swyddogion ni a gydag arweinwyr ffermwyr yma yng Nghymru.
Dwi’n cydnabod yr hyn roedd Llyr Gruffydd yn ei ddweud am ddyledion. Dwi’n siŵr bod lot o bobl yn y maes yn becso am y dyfodol. Dwi’n fodlon siarad, wrth gwrs, gyda Lesley Griffiths am gynllun penodol, fel roedd Llyr Gruffydd yn ei awgrymu, i weld os byddai hwnna’n rhywbeth a allai helpu pobl yn y maes. Os ydyn ni’n gallu tynnu at ei gilydd bopeth rydym ni’n trio ei wneud gyda'n gilydd i helpu pobl yn y maes, dwi’n hollol fodlon i gymryd y cyfle i siarad â’r Gweinidog gyda’r cyfrifoldebau hyn i weld os byddai cynllun o’r fath yna yn help i ddangos beth rydym ni’n ei wneud yn barod a beth rydym ni eisiau ei wneud yn y dyfodol i roi help i bobl yng nghefn gwlad.
A gaf i gysylltu fy hun â'r sylwadau a wnaed hyd yma am lywodraeth leol?
Prif Weinidog, roeddwn i eisiau eich holi chi am fusnesau. Mae'r cymorth i fusnesau wedi ei groesawu'n fawr, ond fel y gwyddoch, cynigir y bydd 178 o swyddi'n cael eu colli yn Safran yng Nghwmbrân, ac mae'r diwydiant awyrofod, yn fy marn i, mewn perygl unigryw oherwydd y pandemig hwn, felly hoffwn ofyn i chi am y wybodaeth ddiweddaraf am ba drafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda Safran ac am eich sicrwydd y byddwch chi'n gweithio gyda Gweinidog yr economi i wneud popeth posibl i geisio achub y swyddi hynny.
Roeddwn i hefyd eisiau holi am gymorth i siopwyr agored i niwed. Mae pethau'n well o lawer gyda'r grŵp a warchodir a siopa ar-lein, ond mae pobl anabl yn dal i gysylltu â mi sydd wedi siopa ar-lein erioed ac nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar slotiau siopa ar-lein erbyn hyn. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud, Prif Weinidog, o ran agor mwy o slotiau i'r siopwyr penodol hynny sydd, er nad ydyn nhw wedi eu gwarchod, angen y cymorth hwnnw? Diolch yn fawr.
Llywydd, hoffwn ddiolch i Lynne Neagle am y ddau bwynt yna. Mae coronafeirws yn argyfwng busnes yn ogystal ag argyfwng iechyd, ac mae hynny'n cael ei deimlo ymhlith rhai cyflogwyr mawr iawn yma yng Nghymru. Rwy'n credu bod sicrwydd ynglŷn â'r cynllun ffyrlo, fel bod cwmnïau'n gwybod nad yw'n mynd i ddod i ben yn ddisymwth, y gallan nhw barhau i ddal eu gafael ar eu gweithluoedd ac nad oes angen iddyn nhw symud i ddiswyddo, yn allweddol i ymdrin â'r mathau o broblemau y mae Lynne Neagle yn eu nodi yn ei hetholaeth ei hun ond sydd yno mewn sawl rhan arall o Gymru hefyd. Mae'r rheini'n gwmnïau nad ydyn nhw eisiau gadael i'w staff fynd gan eu bod nhw'n colli'r sgiliau y maen nhw eu hunain, mewn llawer o achosion, wedi buddsoddi yn eu tyfu dros flynyddoedd lawer. Ond mae'r cynllun ffyrlo yn dod i ben nid gymaint â hynny o wythnosau o nawr. Mae'r Canghellor wedi cyhoeddi un estyniad byr iddo; mae angen iddo gyhoeddi estyniadau pellach, yn enwedig i'r sectorau mwyaf agored i niwed, o'r math y mae Lynne wedi eu nodi. Ac rydym ni'n parhau i ddadlau'r achos hwnnw yn eglur iawn iddo. Ond y cwbl y bydd diwedd cyflym a sydyn i'r cynllun ffyrlo yn ei wneud fydd arwain at gostau i Lywodraeth y DU, gan symud o'r cynllun ffyrlo i gostau diswyddo a chostau budd-daliadau. Felly, byddai'n llawer gwell parhau i fuddsoddi i helpu'r cwmnïau hynny i gael dyfodol llwyddiannus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n gwneud yr hyn a allwn ni trwy Weinidog yr economi a'i dîm i helpu mewn achosion penodol.
Cyn belled ag y mae siopwyr yn y cwestiwn, diolch i Lynne am yr hyn a ddywedodd am y gwelliant i'r sefyllfa. Rwy'n credu eu bod nhw'n llawer mwy ffyddiog nawr bod y rhai yn y grŵp a warchodir yn gallu cael mynediad at siopa ar-lein. I bobl y tu allan i'r grŵp hwnnw sy'n canfod nad ydyn nhw bellach yn gallu cael mynediad fel yr oedden nhw, rwy'n credu mai eu canolfan awdurdod lleol yw'r lle cyntaf iddyn nhw gysylltu ag ef. Ac efallai y bydd trefniadau eraill y gellir eu rhoi ar waith lle gall pobl ddal i gael y bwyd sydd ei angen arnyn nhw, a gall pobl anabl ac eraill nad oes ganddyn nhw rwydweithiau cymorth ddibynnu ar y cymorth y gall awdurdodau lleol ei roi iddyn nhw. Efallai na fydd hyn yn digwydd trwy drefniant siopa ar-lein, ond gwirfoddolwr yn mynd i'r siop, yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw ac yn ei ddanfon iddyn nhw. Ac yn unol â'r hyn a ddywedodd Lynne Neagle ac y mae eraill wedi ei ddweud, mae awdurdodau lleol yng Nghymru, rwy'n credu, yn dangos yn llwyddiannus eu bod nhw'n gallu camu i'r adwy lle mae gennym ni bobl agored i niwed nad oes ganddyn nhw rwydweithiau eraill y gallan nhw fanteisio arnyn nhw.
Prif Weinidog, ers i chi newid y meini prawf ar gyfer y diwydiant hunanarlwyo o ran y grantiau sy'n berthnasol, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi—ffermwyr, asiantaethau gosod—lle mae ganddyn nhw rai unedau hunanarlwyo a dyma eu hunig incwm. Roedd rhai eisoes wedi ei gael, wrth gwrs, cyn i chi gyflwyno'r canllawiau newydd hynny, ac felly fy nghwestiwn i yw: sut gallwch chi gysoni hyn nawr gyda'r rhai nad oes ganddyn nhw incwm yn dod i mewn oherwydd y canllawiau a roddwyd ar waith erbyn hyn? Mae'r safleoedd hynny wedi cau a does ganddyn nhw ddim incwm yn dod i mewn.
Yn gyntaf oll, Llywydd, i sicrhau'r Aelod y bydd unigolion sydd eisoes wedi cael cymorth yn gallu cadw'r cymorth y maen nhw wedi ei gael; nid ydym ni'n ceisio ei adfachu oddi wrthyn nhw. Rydym ni wedi newid y cyngor i lywodraeth leol ynghylch llety hunanarlwyo oherwydd y sylwadau a dderbyniwyd gennym ni gan awdurdodau lleol yng Nghymru, gan gynnwys ei hawdurdod hi ei hun yng Nghonwy dan arweiniad y Ceidwadwyr, nad oedd y system yn gweithredu yn y ffordd a oedd yn gwneud yn siŵr bod cymorth yn mynd i'r bobl iawn. Felly, y cwbl yr ydym ni'n ei ddweud yw bod pobl sy'n dibynnu ar osod llety hunanarlwyo, lle mae'r incwm y maen nhw'n ei gael o hynny yn amlwg yn rhan sylweddol o'u hincwm, yna os gallan nhw ddangos hynny, gall awdurdodau lleol barhau i roi cymorth iddyn nhw. Ond roeddem ni'n talu miliynau o bunnoedd—dyma a ddywedodd yr awdurdodau lleol wrthym ni—i bobl yr oedd eu hincwm hunanarlwyo yn ychwanegiad ymylol at yr incwm yr oedd ganddyn nhw eisoes; roedd ar ymyl eu hincwm, nid yn ganolog iddo.
Rydym ni wedi ymateb i'r sylwadau hynny. Mae gennym ni gyfres o reolau ar waith yr wyf i'n credu sy'n caniatáu i ni wahaniaethu rhwng pobl a oedd yn dibynnu ar hyn fel eu prif incwm a'u prif fusnes, a phobl nad oedd hyn mor ganolog â hynny i'w hincwm, ac a fydd yn caniatáu i ni ddefnyddio'r arian hwnnw a fyddai fel arall yn mynd i bobl o fantais ymylol i eraill sydd ei angen yn llawer fwy taer. Mae gan awdurdodau lleol ddisgresiwn, felly os bydd awdurdodau lleol yn dod o hyd i achosion, yna bydd yr Aelod yn gallu siarad â'i hawdurdod lleol, ac os ydyn nhw o'r farn ei bod hi'n iawn i arfer y disgresiwn hwnnw, maen nhw'n gallu gwneud hynny o dan y rheolau yr ydym ni wedi eu llunio gyda nhw.
Prif Weinidog, ddydd Iau diwethaf, cyhoeddodd eich Llywodraeth newid polisi yn ymwneud â phrofi pobl yn symud o'r ysbyty yn ôl i gartrefi gofal. Tan ddiwedd yr wythnos diwethaf, roedd preswylwyr cartrefi gofal yn symud yn rheolaidd rhwng ysbytai a chartrefi gofal heb gael eu profi, ond mae hynny wedi ei ddatrys erbyn hyn. Ond rwyf i wedi siarad ag un rheolwr cartref gofal sy'n credu ei bod hi'n debygol iawn bod y feirws wedi dod i mewn i'r cartref gofal yn y modd hwnnw, a gwrthodwyd cais i breswylydd gael ei brofi cyn gadael yr ysbyty. Ers hynny mae'r cartref gofal hwnnw wedi dioddef nifer o farwolaethau y maen nhw'n amau eu bod nhw'n gysylltiedig â COVID-19. Ond, Prif Weinidog, o ystyried hyn i gyd a'r ffaith bod data'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu bod marwolaethau o COVID-19 mewn cartrefi gofal yn llawer uwch na'r hyn a feddyliwyd yn wreiddiol, pa sicrwydd allwch chi ei roi i ni nad yw methiant Llywodraeth Cymru i brofi preswylwyr cartrefi gofal wedi arwain at nifer o achosion a marwolaethau mewn cartrefi gofal yng Nghymru?
Llywydd, roedd llawer iawn o 'amau', 'efallai' a 'gallai fod' yn y cwestiwn yna. Yr hyn a wnaeth Llywodraeth Cymru oedd dilyn y cyngor clinigol a gawsom nad oedd profi rhywun sy'n gadael ysbyty heb unrhyw symptomau o coronafeirws, yn mynd i gartref gofal, yn rhywbeth a oedd yn cynnig unrhyw sicrwydd clinigol i chi. Profwyd unrhyw un â symptomau o'r cychwyn. Dim ond pobl nad oedd ganddyn nhw unrhyw arwyddion o gwbl o coronafeirws na chawsant eu profi, a'r cyngor clinigol i ni oedd na fyddai prawf i'r unigolyn hwnnw yn cynnig unrhyw sicrwydd dibynadwy i chi a fyddai'n gwneud unrhyw wahaniaeth i'r penderfyniadau a oedd yn cael eu gwneud am y person hwnnw.
Y rheswm pam y newidiwyd y canllawiau gennym ni oedd nid oherwydd bod y cyngor clinigol wedi newid, ond oherwydd ein bod ni'n cydnabod yr angen i roi ffydd i bobl yn y sector, bod pryderon am bobl yn cael eu rhyddhau o'r ysbyty heb brawf hyd yn oed pan nad oedd gan yr unigolyn hwnnw unrhyw arwyddion o coronafeirws o gwbl, a chan ein bod ni'n cydnabod y pryderon hynny a'r angen i roi ffydd i bobl yn y sector hwnnw, newidiwyd ein trefniadau fel y bydd pobl sy'n gadael ysbytai, pa un a oes ganddyn nhw unrhyw symptomau o coronafeirws ai peidio, yn cael eu profi cyn iddyn nhw adael erbyn hyn, ac, yn wir, rydym ni'n ymestyn hynny i unrhyw leoliad y mae rhywun yn mynd i gartref gofal ohono—nid o ysbytai'n unig, ond unrhyw le mae rhywun sy'n mynd i gartref gofal yn symud ohono yng Nghymru, y bydd y person hwnnw'n cael ei brofi ar gyfer coronafeirws erbyn hyn.
Ond i fod yn eglur gyda'r Aelod, mae'r cyngor meddygol a chlinigol yn parhau yr un fath drwy gydol y broses: sef nad yw profi rhywun nad oes ganddo symptomau yn cynnig unrhyw beth defnyddiol i chi wrth wneud y penderfyniadau iawn ar gyfer y person hwnnw. Rydym ni wedi ei wneud oherwydd ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr, i'r bobl hynny sy'n darparu gwasanaeth mor hanfodol i bobl, ac sydd â phryderon, ein bod ni'n gwneud pethau y gallwn ni eu gwneud i roi'r hyder iddyn nhw sydd ei angen i barhau i ddarparu'r gwasanaeth hanfodol y maen nhw'n ei ddarparu.
Mae canlyniadau'r cyfyngiadau syfrdanol ar weithgarwch economaidd yn ystod yr wythnosau diwethaf yn debygol o fod yn fwy hyd yn oed na dirwasgiad mawr 1929-31. Mae hynny'n golygu y bydd y sylfaen drethu yn mynd i fod yn sylweddol llai a bydd llai o arian i'w wario ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn y dyfodol. Felly, mae'n hanfodol bwysig bod cyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted â phosibl. Wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gymryd i ystyriaeth yr effaith ar y coronafeirws ei hun, ond serch hynny, dylai'r Llywodraeth fynd i gyfeiriad rhyddid economaidd er budd pob un ohonom ni.
Yn hyn o beth, tybed a wnaiff y Prif Weinidog ystyried y gwahaniaeth rhwng Cymru wledig a Chymru drefol. Mae llawer mwy o siawns o ddal y feirws mewn ardaloedd trefol poblog nag mewn ardaloedd gwledig, ac, felly, a allem ni lunio cynllun lle gallwn ni lacio'r cyfyngiadau hyn yn gyflymach mewn ardaloedd gwledig gwasgarog eu poblogaeth nag mewn ardaloedd trefol poblog iawn?
Wel, gadewch i mi ddechrau, Llywydd, drwy gytuno â'r hyn a ddywedodd Neil Hamilton am arwyddocâd y cyfyngiadau yr ydym ni'n gofyn i bawb gadw atyn nhw. Nid wyf yn bychanu o gwbl yr hyn yr ydym ni'n ei ofyn gan bobl. Yr hyn yr wyf i'n anghytuno ag ef yw fy mod i'n credu ei fod eisiau gwrthbwyso'r hyn yr ydym ni'n ei wneud dros iechyd pobl a'r hyn yr ydym ni'n ei wneud dros yr economi, ac eisiau i ni roi'r economi o flaen iechyd fel pe byddai'r pethau hyn yn cystadlu â'i gilydd. Nid wyf i'n credu bod dim byd gwaeth y gallem ni ei wneud dros yr economi na dileu cyfyngiadau gan arwain at uchafbwynt sylweddol arall o coronafeirws yn ddiweddarach yn y flwyddyn, lle y gallai fod yn rhaid ailgyflwyno'r mesurau llym presennol. Rwy'n credu y byddai hynny'n fwy niweidiol yn economaidd nag ystyried mesurau iechyd ac economi fel rhai law yn llaw yn hytrach na mewn gwrthwynebiad i'w gilydd, a gwneud y peth iawn ar gyfer iechyd pobl yw gwneud y peth iawn ar gyfer yr economi. Ac mae hynny'n golygu gwneud y pethau hyn mewn ffordd sy'n rhoi lens iechyd y cyhoedd yn gyntaf, sy'n ofalus, sy'n bwyllog, sy'n edrych bob amser ar y dystiolaeth o effaith unrhyw gamau yr ydym ni'n eu cymryd, ac sy'n gwneud yn siŵr, wrth i ni symud allan o'r cyfyngiadau symud—ac rwyf i eisiau symud allan o'r cyfyngiadau symud; rwy'n cytuno ag ef yn hynny o beth bod yn rhaid i ni ddod o hyd i lwybr allan o hyn—ein bod ni'n gwneud hynny mewn ffordd nad yw'n niweidio ein heconomi ymhellach drwy ganiatáu i'r feirws gylchredeg yn gyflym o amgylch y gymuned eto.
Rwy'n deall y pwynt y mae Mr Hamilton yn ei wneud ynghylch bod pethau'n wahanol yn y Gymru wledig a threfol, ond mae'r holl negeseuon yr wyf i'n eu cael o gefn gwlad Cymru yn negeseuon o bryder am wneud pethau'n rhy gyflym yno, gan gynnwys caniatáu i lawer o ymwelwyr o rannau eraill o'r wlad lle mae'r feirws wedi bod mewn cylchrediad cyflymach, ddod i'r rhannau hynny o Gymru. Ac os ydym ni'n sôn am agor economi'r Gymru wledig, yna mae'n anochel y byddai twristiaeth ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn gystadleuydd difrifol iawn yn hynny o beth, ac rwy'n credu bod lefel y pryder lleol a allai gael ei greu o wneud hynny yn drech yn fy marn i na rhai o'r dadleuon y gellir eu gwneud dros wahaniaethu rhwng cyd-destunau trefol a gwledig. Byddai pobl yn ofni bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn tanseilio'r union amodau y cyfeiriodd Mr Hamilton atyn nhw, lle nad yw'r feirws yn cylchredeg mewn cymunedau gwledig. Ac er nad wyf i'n diystyru'r ddadl—rwy'n credu ei fod yn cyfeirio at ddadl briodol—mae'n debyg fy mod i'n dod i wahanol gasgliad ynglŷn â sut y dylem ni ymateb iddi.
Prif Weinidog, rwyf wedi cael llawer iawn o adborth cadarnhaol gan fusnesau yng Nghwm Cynon ynghylch y gronfa cadernid economaidd a sut mae'n cau'r bylchau yn y ddarpariaeth gan Lywodraeth y DU. Ond mae sawl busnes wedi cysylltu â mi hefyd sy'n methu â chael yr arian ar hyn o bryd gan eu bod o dan y trothwy TAW o £85,000. A gaf i ofyn pa waith sy'n cael ei wneud ynglŷn â'r bwlch hwn fel y gall busnesau gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i oroesi?
Ac ar nodyn hollol wahanol, roeddwn i'n falch iawn o weld ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fwydo disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim yn ystod gwyliau ysgol drwy gydol cyfnod y coronafeirws. Os dangosir bod y ddarpariaeth hon wedi cyrraedd ei nod, sef sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd, pa ystyriaeth y gellid ei rhoi i weld a ellid darparu gwasanaeth o'r fath 365 diwrnod y flwyddyn, gan adeiladu ar y rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol?
Diolch i Vikki Howells am y ddau gwestiwn yna. Rwy'n credu bod cymorth i fusnesau yng Nghymru yn fwy eang nag mewn unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ac mae'r ffordd yr ydym ni'n defnyddio ein cronfa cadernid economaidd mewn gwirionedd yn llenwi rhai o'r bylchau a oedd yn bodoli ar ôl i Lywodraeth y DU weithredu—ac rwyf bob amser yn dweud wrth grybwyll hynny ein bod yn cydnabod y camau sylweddol y maen nhw wedi eu cymryd i ddarparu cymorth i fusnesau.
Rydym ni wedi oedi'r cynllun o ddydd Llun ymlaen, ac un o'r rhesymau am hynny yw ein bod eisiau edrych i weld a allwn ni ei fireinio. Roedd rheswm da dros ddefnyddio'r mecanwaith trothwy TAW, gan ei fod yn fodd o gael mynediad i'r system sy'n golygu ei bod yn llawer haws i fusnesau gael ein cymorth. Ac un o'r pethau yr oeddem ni'n pryderu amdanyn nhw gyda'n cronfa oedd cael y cymorth hwnnw i fusnesau cyn gynted â phosibl. Un o anfanteision cymorth y DU—sydd, rwy'n cydnabod, yn elfen o'r raddfa y mae'n rhaid iddi weithredu arni—yw bod rhywfaint o'r cymorth hwnnw wedi cymryd amser maith i gyrraedd lle mae ei angen, ac rydym ni yn gwneud ein gorau i gael ein cymorth i ddwylo'r busnesau hynny cyn gynted â phosibl. Mae bod wedi eich cofrestru at ddibenion TAW yn ein galluogi i hepgor llawer o bethau eraill y byddai wedi bod angen i ni ofyn i fusnesau eu gwneud, er mwyn sefydlu eu bod yn fusnes dilys ac felly'n gymwys i gael arian cyhoeddus. Yr hyn yr ydym yn ceisio ei weld, yn rhan o'r adolygiad, yw a oes unrhyw beth y gallem ni ei wneud i fynd i'r afael â'r mater y mae Vikki Howells wedi ei godi.
Ac unwaith eto, diolch am yr hyn a ddywedodd am brydau ysgol am ddim. Ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig—nid wyf yn amau o gwbl y bydd Mr Reckless eisiau gwybod pam y gwnaethom ni unrhyw beth o flaen Lloegr, ond ni oedd y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i ariannu a gwarantu y byddwn yn darparu prydau ysgol am ddim i blant yng Nghymru yn ystod gweddill yr argyfwng, hyd at fis Medi, gan adeiladu ar lwyddiant y rhaglen cyfoethogi gwyliau'r ysgol.
Ar y cyfan, mae'r coronafeirws yn brofiad eithaf annymunol, ac yn brofiad trist iawn, iawn i lawer o deuluoedd yng Nghymru. Ond bydd rhai pethau y byddwn yn eu dysgu o'r holl brofiad hwn yn wersi cadarnhaol. A'r ffordd yr ydym ni wedi gallu ymateb i blant sy'n agored i niwed, a pharhau i gynnig cymorth iddyn nhw, fydd un o'r agweddau y byddwn ni eisiau edrych arnyn nhw i weld a oes pethau y gallwn ni eu gwneud yn wahanol ac yn well yn y dyfodol.
Brif Weinidog, mi gefais i gyfarfod buddiol iawn efo Cymdeithas Twristiaeth Ynys Môn yr wythnos diwethaf. Ac mi fuaswn i'n licio diolch yn fawr iawn i'r sector am ymateb mor dda i'r sefyllfa anodd y maen nhw ynddi hi, a chymaint o'u haelodau nhw yn wynebu colledion difrifol. Buaswn i wrth fy modd yn eu gweld nhw yn gallu ail-gydio yn eu busnes, ond, wrth gwrs, allwn ni ddim ar hyn o bryd.
Mae yna ŵyl y banc ar y ffordd y penwythnos ar ôl nesaf. Gallwn ni ddim fforddio agor y llifddorau ar y penwythnos hwnnw, felly, gaf i wahodd y Prif Weinidog i wneud datganiad clir na fyddwn ni, mewn unrhyw ffordd, yn llacio rheoliadau a allai wneud i bobl feddwl bod yna groeso iddyn nhw ddod yn ôl i Gymru i dreulio amser mewn ardaloedd hardd fel sydd gennym ni yma? At eto mae hynny. Felly, a gawn ni'r datganiad yna os gwelwch yn dda?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am y pwynt pwysig yna. Fel y dywedais i wrth Neil Hamilton: wrth gwrs ein bod ni'n meddwl am fusnesau twristiaeth ledled Cymru a dwi'n gwybod, achos rwy wedi clywed oddi wrth nifer o bobl yn y sefyllfa yna a'r problemau maen nhw'n eu hwynebu, ond i mi, dyw'r ateb ddim jest i agor pethau heb gael popeth yn ei le cyn rŷn ni'n gallu bod yn hyderus bod gwneud hynny ddim yn mynd i greu problemau yn y maes iechyd, wrth gwrs.
Dwi wedi clywed beth ddywedodd y comisiynydd heddlu yn y gogledd am wŷl y banc, a dwi'n siarad gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig am y pwynt yna. Achos, fel yr oedd Rhun yn ei ddweud, rŷn ni'n gallu dweud a gwneud rhywbeth yma yng Nghymru, ond mae'n bwysig i gael y neges yna i bobl eraill. Dydyn ni ddim eisiau gweld pobl yn teithio i mewn i Gymru dros ŵyl y banc a chreu'r problemau rŷn ni'n gwybod y bydd hwnna'n eu creu. A mae'n bwysig i gael y neges yna allan, nid jest yma yng Nghymru ond y tu allan i Gymru hefyd. Dyna pam rŷn ni'n siarad gyda Llywodraethau eraill—i ddweud yr un peth wrth ein gilydd.
Yn olaf, Carwyn Jones.
Ymddiheuraf am y mater technegol a'm rhwystrodd rhag ymuno pan ddylwn i fod wedi gwneud. Mae hynny wedi'i ddatrys nawr, fel y gallwch chi weld. Prif Weinidog, a ydych chi'n rhannu fy anobaith weithiau bod yn dal i fod rhai pobl sy'n credu y dylem ni, yng Nghymru, ein cymharu ein hunain â Lloegr bob amser? Tua 20 mlynedd yn ôl, gwelais ohebiaeth gan y prif swyddog meddygol ar y pryd yn rhybuddio am beryglon y cysylltiad rhwng enseffalopathi sbyngffurf buchol—BSE—a chlefyd Creutzfeldt-Jakob—CJD—a'r ymateb gan ei swyddog cyfatebol yn Llywodraeth y DU yn y bôn oedd, 'rydych chi yng Nghymru; gwnewch fel yr ydym ni'n dweud'—geiriau i'r perwyl hwnnw. Pa mor drist yw hi bod yr hyn sydd yn deillio o gymhleth israddoldeb—mae'n rhaid bod Lloegr rywsut yn well—yn dal i fod gyda ni. Gallem ni ddadlau, wrth gwrs, mae'r hyn y mae Lloegr wedi ei wneud mewn gwirionedd yw ymwahanu oddi wrth Gymru ac nid y ffordd arall.
A gaf i droi eich sylw at y profi? O'r hyn yr wyf yn ei ddeall, felly, rydych chi'n dweud mai prin yw gwerth clinigol profion oni bai bod pobl yn cael eu profi yn ddyddiol. Felly, nid yw cynnig prawf i rywun am ei fod mewn grŵp agored i niwed o unrhyw werth o gwbl oni bai bod yr un unigolyn yn cael ei brofi bob dydd er mwyn gweld a oes ganddo'r feirws, os nad oes ganddo symptomau pan gynhelir y prawf cyntaf.
Yr ail bwynt yw hyn: fe ddaw amser pan fydd hyn i gyd wedi dod i ben ac rydym yn gobeithio, wrth gwrs, y daw'r amser hwnnw ynghynt yn hytrach nag yn hwyrach, ond i'r rhai ohonom ni sy'n cofio cwymp y banciau yn 2008, pryd y cymerodd bancwyr gynilion yr oedd pobl wedi llafurio i'w hel a mynd â nhw, i bob pwrpas, i gasino bancio a'u taflu i ffwrdd, cawsant eu hachub gan bobl sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus—y bobl hynny sydd nawr yn gweithio'n galed iawn ar gyflogau pitw; y bobl hynny sydd wedi rhoi eu holl amser—oriau lawer iawn, bob un dydd—i achub bywydau a gofalu am bobl. Nhw oedd y bobl drwy rewi eu cyflogau a thrwy gyni cyllidol a orfodwyd i dalu am yr hyn yr oedd pobl eraill wedi ei wneud. A allwch chi roi sicrwydd i mi, Prif Weinidog, pan fo hyn ar ben, na fydd y bil ar gyfer yr arian a fenthycir gan Lywodraeth y DU yn syrthio'n anghymesur ar ysgwyddau gweithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio mor galed, ond yn hytrach, y byddwn yn edrych ar bêl-droedwyr â chyflogau breision; y byddwn yn edrych ar fusnesau mawr, y mae llawer ohonyn nhw—mae rhai ohonyn nhw yn gwneud—ond mae llawer ohonyn nhw nad ydynt yn talu eu cyfran deg o dreth, ac y byddwn yn cymryd y mater o osgoi trethi o ddifrif er mwyn sicrhau bod y rhai sydd â'r cefn mwyaf llydan yn gallu talu yn y dyfodol a hefyd nad yw'r rhai sy'n rhoi cymaint ar hyn o bryd yn cael eu cosbi, o gofio'r ffaith eu bod yn achub cymaint o fywydau?
Llywydd, a gaf i ddiolch i Carwyn am y tri phwynt yna? Rwyf innau yn rhannu ei anobaith am yr agwedd 'gwnewch fel yr ydym ni'n dweud' at ddatganoli. Ond, yn bersonol, dydw i erioed wedi bodloni ar y syniad bod datganoli yn ymwneud â chymariaethau cystadleuol gyda rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Mae yn ymwneud yn llawer, llawer mwy â phob un ohonom ni yn gwneud y pethau sydd yn ein tyb ni yn iawn yn ein lleoedd ein hunain a dysgu oddi wrth ein gilydd yn yr arbrawf y mae hynny yn naturiol yn ei greu.
Mae Carwyn yn gwneud sylw pwysig iawn am brofi. Os nad oes gennych chi symptomau heddiw, nid yw hynny'n golygu na fyddwch chi wedi cael y feirws erbyn yfory. Os ydych chi'n mynd i geisio â chael unrhyw werth mewn profi pobl nad oes ganddyn nhw symptomau, byddai'n rhaid i chi ei wneud bob dydd, ac mae'r rheini yn brofion sy'n cael eu tynnu i ffwrdd wedyn oddi wrth y bobl y mae gwir angen eu profi pryd y gellir dod i gasgliadau priodol. Felly, rwy'n deall bod pobl rywsut yn credu bod cael prawf yn rhoi ateb i chi ac yn creu cyfres o bethau pendant, ond nid yw hynny'n wir os nad ydych chi'n defnyddio'r profion yn y ffordd gywir, ac rydym ni'n ceisio eu defnyddio yn y ffordd gywir yma yng Nghymru.
Ac a gaf i gloi, Llywydd, drwy adleisio popeth a ddywedodd Carwyn Jones yn ei sylwadau olaf? Mae'n adleisio dadl a wnaeth yn ystod 10 mlynedd o gyni na ddylai pris argyfwng y banciau gael ei lwytho ar ysgwyddau'r rhai sy'n lleiaf abl i'w oddef. Ac eto, dyna'n union a welsom ni: pobl na chynyddwyd eu budd-daliadau flwyddyn ar ôl blwyddyn; pobl y cadwyd eu cyflogau i lawr flwyddyn ar ôl blwyddyn; yr holl bobl hynny sy'n gwneud yr holl bethau y bu'n rhaid i ni eu gwerthfawrogi yn ystod yr argyfwng hwn nad oedden nhw yn cael eu gwerthfawrogi o gwbl. Ac ni allwn ni ac ni ddylem ni ganiatáu i Lywodraeth y DU gredu mai'r ateb i'r gwario, angenrheidiol a phriodol, a wnaed er mwyn ymdrin â'r coronafeirws, yw ei adfachu drwy ailgyflwyno cyni, lle mae'r holl gostau'n disgyn ar yr holl bobl hynny sydd wedi gwneud y mwyaf i'n helpu ni i ddod drwy hyn gyda'n gilydd.
Diolch i'r Prif Weinidog.