– Senedd Cymru ar 30 Rhagfyr 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Caroline Jones, a gwelliannau 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddetholwyd y gwelliannau eraill a osodwyd.
Mae hynny yn ein galluogi ni, felly, i gynnal y ddadl ar ddiwedd cyfnod pontio'r Undeb Ewropeaidd, a dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford, i wneud y cynnig hynny. Prif Weinidog.
Cynnig NDM7530 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cytundeb mewn egwyddor y daeth Llywodraeth y DU a'r UE iddo ar ein perthynas hirdymor yn y dyfodol ar ddiwedd y cyfnod pontio.
2. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i weithredu'r cytundeb drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas â'r Dyfodol)
3. Yn edifar nad yw mewn sefyllfa i ystyried cydsyniad deddfwriaethol, gan mai ar fyr rybudd y cafodd y Bil ei ddarparu i'r Senedd a'i fod yn cynnwys darpariaethau a all effeithio ar y setliad datganoli.
4. Yn edifar nad yw'r cytundeb niweidiol hwn yn adlewyrchu dyheadau'r Senedd fel y'u hadlewyrchir yn 'Diogelu Dyfodol Cymru' a hefyd yn 'Y Berthynas rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol: Blaenoriaethau negodi i Gymru' ond serch hynny, yn derbyn bod y cytundeb hwn yn llai niweidiol na gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
5. Yn cefnogi’r ymdrechion parhaus i wneud popeth i darfu cyn lleied â phosibl yn y byrdymor ac i leihau'r niwed hirdymor a fydd yn deillio o'r newid yn ein cydberthynas economaidd â'r UE, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru i'r perwyl hwnnw.
Llywydd, yn gyntaf hoffwn ddiolch i chi am gytuno i adalw'r Senedd heddiw. Wrth gyflwyno'r ddadl hon, rwyf am wneud tri phwynt. Yn gyntaf, rhaid croesawu'r ffaith ein bod wedi osgoi'r anrhefn a fyddai wedi bodoli petasem ni wedi gadael y cyfnod pontio heb gytundeb pellach gyda'r Undeb Ewropeaidd. Tan y funud olaf roedd yna bosibilrwydd go iawn y gallem wynebu tollau ar fasnach gyda'n marchnad a'n cyflenwyr pwysicaf. Mae'n anodd credu ein bod yn wynebu'r fath sefyllfa. Ni ddylai unrhyw Lywodraeth gyfrifol fod wedi ystyried torri cysylltiad gyda'r rhwydweithiau Ewropeaidd sy'n ein helpu ni i gadw'n ddiogel rhag terfysgaeth a throseddau cyfundrefnol, ond mae gennym Ysgrifennydd Cartref a oedd yn barod i ystyried hynny.
Nid dyma'r fargen oedd wedi ei haddo i Gymru, ond, mewn byd lle roeddem ond dyddiau i ffwrdd o drychineb gadael heb gytundeb, o leiaf mae gennym gytundeb, waeth pa mor annigonol. Fel y mae Llywodraeth Cymru wedi dadlau'n gyson, o leiaf gyda'r fargen mewn lle mae gennym sylfaen i adeiladu arni. Mae'r berthynas gyda'n partneriaid masnachu agosaf a phwysicaf wedi cael ei diogelu a gallwn ei meithrin a'i chryfhau yn y dyfodol. Yn wir, mae'r cytundeb yn darparu ar gyfer proses o adolygu parhaus. Bydd Llywodraeth Cymru yn dadlau o blaid proses adolygu sy'n gosod sylfaen ar gyfer esblygiad cadarnhaol, ac nid dim ond ffordd i'r Undeb Ewropeaidd a'r Deyrnas Unedig gadw trefn ar ei gilydd.
Lywydd, nid oes gan fy ail bwynt unrhyw beth i'w wneud â pherthynas y DU â gwledydd allanol a phopeth i'w wneud â chyflwr brawychus ein trefniadau cyfansoddiadol mewnol. Dyma'r cytuniad pwysicaf y bydd y DU wedi'i lofnodi ers bron i 50 mlynedd. Mae’n warthus, mewn democratiaeth lle mae'r ddeddfwrfa i fod i ddwyn y Weithrediaeth i gyfrif, fod y Bil i weithredu’r cytuniad yn cael ei wthio drwy ddau Dŷ'r Senedd mewn un diwrnod. Bydd gan Dŷ’r Cyffredin yr hyn sy’n cyfateb i 15 eiliad i drafod pob tudalen o’r cytuniad drafft—llai o amser nag y byddai’n ei gymryd i’w ddarllen, a hyn pan wnaed testun y cytuniad yn gyhoeddus 72 awr yn unig cyn y ddadl honno.
Nawr, pan oedd Mrs Thatcher yn Brif Weinidog y DU—a gwyddom fod rhai yn y Senedd hon yn dal i addoli wrth yr allor ddi-alar honno—cyflwynwyd Bil y Cymunedau Ewropeaidd (Diwygio) 1986 i Dŷ'r Cyffredin ym mis Ebrill ac ni chafodd Gydsyniad Brenhinol tan fis Tachwedd y flwyddyn honno, ac roedd gan Mrs Thatcher fwyafrif o 140 yn Nhŷ'r Cyffredin.
O dan ei holynydd Ceidwadol, treuliodd cytuniad Maastricht 1993 23 diwrnod yng Ngham Pwyllgor Tŷ'r Cyffredin yn unig. Lywydd, rwy'n amau nad yw'r cofnod swyddogol yn cynnwys llawer o achosion lle rwyf wedi cyfeirio’n ffafriol at Mrs Thatcher, ond o leiaf, ymddengys bod y syniad o graffu seneddol wedi golygu rhywbeth iddi.
Wrth gwrs, bydd yr wrthblaid yma yn dweud bod hyn oll yn digwydd oherwydd diffyg amser, fel pe na bai'r Blaid Geidwadol wedi cael pedair blynedd a hanner i gyflawni cytundeb y dywedwyd wrthym mai hwnnw fyddai’r cytundeb hawsaf erioed, neu bydd Prif Weinidog y DU yn ein bygwth gyda’r canlyniadau os na fydd Bil y berthynas yn y dyfodol yn cael ei ddeddfu cyn nos yfory. Ond mae hynny’n gwbl anghywir. Bydd yr UE yn cymhwyso’r cytuniad ar sail dros dro, a bydd gan Senedd Ewrop sawl wythnos i ddeall goblygiadau testun sydd oddeutu'r un hyd â'r Beibl. Pam na allwn ninnau wneud yr un peth? Sut y mae adfer rheolaeth wedi dymchwel mor gyflym i fod heb reolaeth seneddol o gwbl?
Lywydd, dylai'r Senedd hon wrthod cymryd rhan yn y fath esgus o graffu. Y tro cyntaf i Lywodraeth Cymru weld hyd yn oed un cymal o'r cytuniad oedd ar Ddydd Nadolig. Mae'r Bil ei hun, y gofynnwyd inni roi cydsyniad iddo, wedi bod gyda ni am un diwrnod gwaith, a hynny o dan embargo llym. Mae'n amlwg yn amhosibl i unrhyw un yn y Senedd hon fod â dealltwriaeth glir o'r ffyrdd y bydd y Bil hwn yn effeithio ar ein cymhwysedd. Pan gyflwynwyd y cynnig i’w drafod gennym heddiw, Lywydd, ni allem gyfeirio at y Bil gan nad oedd wedi'i gyflwyno ac nid oedd yn gyhoeddus. A phe baem wedi gohirio'r ddadl tan yfory, byddai hynny wedi bod ar ôl i’r Bil gael ei ddeddfu. Nid fel hyn y dylai democratiaeth weithio. A gadewch imi ddweud yn glir, o dan yr amgylchiadau hyn, na fydd y Llywodraeth hon yn cyflwyno cynnig i geisio rhoi na gwrthod cydsyniad o dan amgylchiadau o'r fath.
Nawr, mae gwelliant y Blaid Geidwadol yng Nghymru i’r ddadl yn ein gwahodd i roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil na allant fod wedi'i ystyried. Byddwn yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw, a'r gwelliant yn enw Caroline Jones, sy'n ceisio ailymladd brwydrau y mae'r gwelliant hwnnw ei hun yn dweud y dylid eu hanghofio. Ni allwn gefnogi’r trydydd gwelliant, gan Blaid Cymru, nad yw’n cydnabod bod cytundeb yn well na bod heb gytundeb, am y rhesymau rwyf eisoes wedi’u nodi. Bydd y Llywodraeth yn ymatal ar y pedwerydd gwelliant a’r olaf ar y papur trefn heddiw, Lywydd. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cytundeb, ond nid ydym ychwaith yn credu mai lle’r Senedd yw cyfarwyddo ASau ynglŷn â sut y dylent bleidleisio fwy nag y byddai Aelodau o’r Senedd yn barod i dderbyn cyfarwyddiadau gan bleidiau yn San Steffan.
Lywydd, daw hyn oll â mi at fy nhrydydd pwynt. Pam yn union nad yw Llywodraeth y DU wedi rhoi mwy o amser i Senedd y DU a deddfwrfeydd eraill y DU graffu ar y cytuniad hwn? Mae'r ateb yn syml: mae Llywodraeth y DU yn dymuno rhoi’r Bil ar y llyfr statud cyn i holl fanylion y cytundeb hwn gael amser i ddod i'r amlwg. Ond gwyddom yma y bydd busnesau’n cael cytuniad a fydd yn gwneud masnachu gyda'n marchnad fwyaf a phwysicaf yn ddrytach ac yn anoddach—colli contractau oherwydd trefniadau rheolau tarddiad newydd; cost tystysgrifau iechyd allforio ac archwiliadau iechydol a ffytoiechydol ar gyfer allforion amaethyddol a bwyd, o ran amser ac arian; diwedd cydnabyddiaeth gilyddol mewn perthynas â chymwysterau proffesiynol; y methiant i gynnwys mynediad at y farchnad sengl ar gyfer gwasanaethau'r DU, sy'n golygu y bydd yn rhaid i fusnesau ddibynnu ar 27 set wahanol o reolau cenedlaethol i fasnachu ledled yr UE, pan mai un yn unig sydd ganddynt heddiw. Mae hwn yn gytundeb gwael i fusnes ac i fusnesau yma yng Nghymru.
Ac i'n cyd-ddinasyddion, beth fydd y cytundeb hwn yn ei olygu? Ciwio mewn meysydd awyr, fisâu ar gyfer cyfnodau hirach dramor a cholli’r rhyddid i fyw ac i weithio yn unrhyw le ar draws cyfandir Ewrop, ffonau symudol lle mae galwadau'n costio mwy o lawer neu efallai na fyddant yn gweithio o gwbl, llai o bobl o'r Undeb Ewropeaidd yn gallu gweithio yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn gofalu am bobl yma yng Nghymru sydd angen eu help. Ac i'n pobl ifanc yn benodol, Lywydd, fandaliaeth ddiwylliannol eu hatal rhag cymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, y rhaglen gyfnewid ryngwladol fwyaf erioed, y mae pobl o Gymru wedi gwneud cymaint o waith ar ei llunio a'i meithrin. Yn lle hynny, byddwn yn cael cynnig system Seisnig, oherwydd gadewch inni fod yn onest, dyna a gynigir bellach: cynllun a wnaed yn San Steffan ac a weinyddir yn Whitehall, gyda'r holl gyfrifoldebau sydd gan y Senedd hon dros addysg bellach ac uwch yng Nghymru nid yn unig yn cael eu hisraddio, ond yn cael eu hanwybyddu yn gyfan gwbl.
Lywydd, yn wahanol i bleidiau eraill yma yn y Siambr hon, mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi dadlau bod cytundeb yn well na bod heb gytundeb. Mae hyd yn oed y cytundeb tenau a siomedig hwn, sydd mor wahanol i'r hyn a addawyd, yn well na'r chwerwder a'r anhrefn a fyddai wedi deillio o fod heb gytundeb o gwbl. Bydd y Llywodraeth hon nawr yn dyblu ein hymdrechion i weithio gyda busnesau ym mhob rhan o'n gwlad i gyfyngu ar y difrod y mae'r cytundeb hwn yn parhau i'w wneud, i weithio gyda'n gwasanaethau cyhoeddus i gyfyngu ar y difrod a wneir i ddinasyddion Cymru, yn hen ac ifanc, ac i weithio gyda'n ffrindiau a'n partneriaid yn yr Undeb Ewropeaidd i ailddatgan penderfyniad y genedl Gymreig hon i barhau i edrych tuag allan, gyda phersbectif rhyngwladol, ac i fod yn groesawgar i weddill y byd. Lywydd, diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol pedwar o'r 10 gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw nawr ar Paul Davies i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Paul Davies.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn croesawu'r cytundeb masnach a chydweithrediad rhwng Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn credu ei bod er budd Cymru i roi cefnogaeth i'r cytundeb a rhoi cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer ei weithredu drwy Fil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol).
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU i fanteisio ar gyfleoedd newydd i Gymru sy'n deillio o ddiwedd y cyfnod pontio ar ôl Brexit.
Diolch, Lywydd, a chynigiaf y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
A gaf fi ddweud yn gyntaf fy mod yn falch fod y Prif Weinidog wedi gofyn i'r Senedd ailymgynnull i drafod y mater pwysig hwn? Ac rwy'n falch hefyd y bydd yr Aelodau’n cael cyfle yn ddiweddarach i drafod COVID-19, o ystyried difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd. Ond mae'r Prif Weinidog yn sôn am graffu seneddol. Wel, hoffwn ei atgoffa nad ydym hyd yn oed wedi pleidleisio ar ei reoliadau coronafeirws diweddar, sydd eisoes wedi'u cyflwyno, felly nid wyf yn mynd i dderbyn unrhyw bregeth ar graffu gan Lywodraeth Lafur Cymru.
Nawr, fe fydd yr Aelodau’n ymwybodol, ers canlyniad y refferendwm yn ôl yn 2016, fy mod bob amser wedi dadlau y dylem adael yr Undeb Ewropeaidd gyda chytundeb gan fod hynny’n hanfodol er mwyn diogelu busnesau, bywoliaeth pobl a swyddi. Rwy'n falch iawn felly fod Llywodraeth y DU bellach wedi sicrhau cytundeb masnach rydd gyda'r UE—cytundeb y dywedodd sawl un y byddai'n amhosibl. Heb fod ymhell yn ôl, roedd y codwyr bwganod yn rhagweld bod sicrhau cytundeb mewn 10 i 11 mis yn amhosibl, yn enwedig ynghanol pandemig. Wel, roeddent yn gwbl anghywir. Mae hefyd wedi bod yn amlwg fod rhai, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn dal i ailadrodd yr un hen ddadleuon ynglŷn â pham na ddylem adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond mae'r ddadl honno wedi hen orffen gan fod pobl Cymru wedi gwneud y penderfyniad bedair blynedd a hanner yn ôl. Y gwir amdani bellach yw bod gennym gytundeb masnach rydd gyda’r UE, ac yn lle ei feirniadu am fod yn annigonol, dylai Llywodraeth Lafur Cymru ei gefnogi, yn enwedig o gofio bod arweinydd Plaid Lafur y DU bellach wedi dweud wrth ei gyd-Aelodau yn San Steffan am bleidleisio drosto. Ac rydym wedi clywed droeon gan Lywodraeth Cymru y byddai gadael yr UE heb gytundeb wedi bod yn drychinebus i Gymru. Felly, mae gennym gytundeb; mae angen iddi roi'r gorau i ailadrodd yr hen ddadleuon a'i gefnogi.
Felly, gadewch inni edrych ar y cytundeb yn fwy manwl. Mae'n cyflawni'n llwyr yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn y refferendwm. Mae'r cytundeb hwn yn creu perthynas newydd rhwng y DU a'r UE, perthynas sy'n seiliedig ar fasnach rydd a chydweithredu cyfeillgar. Mae'r cytundeb hwn yn adfer rheolaeth ar ein deddfau, ffiniau, arian, masnach a physgodfeydd, rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai Llywodraeth Cymru, a Phlaid Cymru yn wir, yn ei groesawu, gan ein bod yn eu clywed yn gyson yn dweud eu bod am i fwy o bwerau gael eu datganoli i'r Senedd, ac yn gweiddi am lawer mwy o ymreolaeth. Wel, dyma ni. Mae hyn yn golygu mwy o reolaeth. Ar 1 Ionawr, bydd gan y DU annibyniaeth wleidyddol ac economaidd. Dyma'r cytundeb masnach rydd di-dariff a di-gwota cyntaf i'r UE ei gytuno. Bydd hyn yn newyddion gwych i deuluoedd a busnesau ym mhob rhan o'r DU. Bydd busnesau’n gallu parhau i fasnachu'n ddidrafferth, a bydd pobl yn gallu parhau i brynu nwyddau o Ewrop heb dariffau. Mae'r cytundeb hwn hefyd yn cadw at yr addewid i ddiogelu a hybu ein heconomi, ac yn darparu ar gyfer mynediad parhaus at y farchnad ar draws cwmpas eang o sectorau gwasanaeth allweddol, gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol a gwasanaethau busnes. Bydd y mynediad hwn at y farchnad yn cefnogi buddsoddiad newydd a pharhaus rhwng busnesau. Mewn gwirionedd, mae busnesau wedi croesawu'r cytundeb hwn. Dywedodd cadeirydd polisi Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, Ben Francis, ac rwy’n dyfynnu,
O ystyried pwysigrwydd aruthrol marchnadoedd yr UE yn y gorffennol ac yn y dyfodol i allforwyr llai o Gymru, bydd hyn yn rhyddhad ac yn cael ei groesawu gan fusnesau sydd hefyd yn ymdrin â phwysau aruthrol coronafeirws.
A dywedodd prif swyddog gweithredol Airbus, ac rwy’n dyfynnu,
Mae Airbus yn croesawu’r newyddion fod cytundeb wedi’i sicrhau rhwng yr UE a’r DU.
Golyga’r cytundeb hwn y bydd teithwyr busnes yn gallu teithio’n ddidrafferth rhwng yr UE a'r DU ar gyfer ymweliadau tymor byr, ac mae'r cytundeb ar wasanaethau ariannol yn sicrhau sefydlogrwydd ariannol a diogelwch defnyddwyr. Bydd y cytundeb hwn hefyd yn ein galluogi i gynnal safonau uchel o ran llafur, yr amgylchedd a hinsawdd. Byddai hefyd yn caniatáu inni gyflwyno ein system gymhorthdal fodern ein hunain, fel y gallwn gefnogi busnesau yn well i dyfu ac i ffynnu, a bydd y system gymhorthdal newydd hon yn gweithredu yn y ffordd sy'n gweddu orau i fuddiannau diwydiannau'r DU a Chymru y tu allan i gyfundrefn cymorth gwladwriaethol yr UE.
Bydd y cytundeb hwn hefyd yn cefnogi ein prif amcan, sef blaenoriaethu diogelwch dinasyddion y DU. Mae'n darparu cydweithrediad symlach ar orfodi'r gyfraith, gan sicrhau ein bod yn parhau i fynd i'r afael yn effeithiol â throseddau cyfundrefnol difrifol a gwrthderfysgaeth, gan ddiogelu'r cyhoedd a dod â throseddwyr o flaen eu gwell. Mae hefyd yn darparu ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol ar heriau diogelwch sy'n dod i'r amlwg, megis seiberddiogelwch a diogelwch iechyd, gan gynnwys parhau i weithio gyda’n gilydd i fynd i'r afael â lledaeniad COVID-19.
Nawr, un o'r esgyrn cynnen drwy gydol y negodiadau oedd pysgodfeydd, ond yr hyn y mae'r cytundeb hwn yn ei wneud nawr yw sicrhau ein bod mewn sefyllfa i ailadeiladu ein fflyd bysgota a chynyddu cwotâu, gan wyrdroi'r annhegwch y mae pysgotwyr Prydain wedi'i wynebu ers dros bedwar degawd. Erbyn diwedd y cyfnod pontio pum mlynedd a hanner, bydd gennym reolaeth lawn ar ein dyfroedd, a bydd faint o bysgod sydd ar gael i bysgotwyr y DU wedi codi o hanner i ddwy ran o dair.
Mae'r cytundeb hwn hefyd yn cynnwys trefniadau ar gyfer cwmnïau hedfan a chludwyr nwyddau sy'n rhoi sicrwydd iddynt, ac sy'n rhoi'r gallu i bobl deithio yn ôl ac ymlaen o'r UE ar gyfer gwaith a gwyliau; cytundeb nawdd cymdeithasol a chanddo fuddion ymarferol i ddinasyddion y DU a Chymru, gan gynnwys mynediad at ofal iechyd wrth deithio yn yr UE; a chytundebau ar ynni a fydd o fudd i ddefnyddwyr drwy helpu i gadw prisiau’n isel. Felly, Lywydd, dyna grynodeb o'r cytundeb masnach rydd a negodwyd gan Lywodraeth y DU, cytundeb sydd wedi galw am gyfaddawd ar y ddwy ochr, do, ond cytundeb a fydd o fudd i'r DU ac i'r UE. Felly, gadewch inni gefnogi’r cytundeb hwn, ac felly rwy’n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant, a gwrthod y cynnig negyddol ger ein bron heddiw. Diolch.
Galwaf nawr ar David Rowlands i gynnig gwelliant 2 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. David Rowlands.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn gresynu nad yw'r cytundeb yn adlewyrchu ewyllys pobl Cymru yn llawn, fel y mynegwyd yn refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin 2016, ond yn nodi ei fod yn symud y Deyrnas Unedig o fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r Undeb Ewropeaidd, sydd wedi cael effaith niweidiol ar ein heconomi a sofraniaeth, ac yn rhoi terfyn ar wleidyddiaeth ymrannol a fynegir gan ymgyrchwyr aros wrth wadu'r broses ddemocrataidd.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn ffurfiol yn enw Caroline Jones. Er nad ydym yn credu bod y cytundeb hwn o ddifrif yn adlewyrchu dyheadau pobl Cymru, gobeithiwn ei fod yn ddiwedd ar y rhaniad gwleidyddol sydd wedi agor ym Mhrydain ers penderfyniad democrataidd pobl Prydain i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin 2016. Byddwn yn gobeithio hefyd y bydd yn tawelu’r bobl o blaid aros nad oeddent yn dymuno cydnabod ewyllys pobl Prydain a Chymru fel y’i mynegwyd yn y bleidlais honno, ac sydd wedi ymladd am bedair blynedd hir i wyrdroi penderfyniad democrataidd y bobl, yn enwedig y rheini yn rhanbarthau dosbarth gweithiol Cymru a Lloegr. Nid yw'r cytundeb hwn yn gwbl foddhaol o bell ffordd, ond o ystyried anhyblygrwydd yr UE mewn perthynas â rhai materion, mae'n well na bod heb gytundeb o gwbl. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod pobl Prydain wedi cael llond bol ar y siarâd sydd wedi datblygu ers y bleidlais yn 2016 ac yn dymuno parhau â'u bywydau. Efallai wir y bydd rhywfaint o darfu ar fasnachu ag Ewrop yn y tymor byr, ond bellach gallwn ychwanegu'r Undeb Ewropeaidd at y 60 gwlad arall y mae gennym naill ai egin cytundeb masnach â hwy, neu un sydd eisoes ar waith. Credaf y bydd pragmatiaeth gan y rheini sy'n masnachu—cwmnïau, mawr a bach—yn cael y llaw uchaf ar y dosbarthiadau gwleidyddol, a bydd heriau ymarferol gweithio yn y drefn newydd yn cael eu goresgyn yn gyflym. Dywedaf wrth y Senedd hon mai dim ond ffŵl a fyddai’n tanbrisio egni, ysbryd entrepreneuraidd, dyfeisgarwch, a phenderfyniad cadarn pobl Prydain a Gogledd Iwerddon. Bydd ein hymadawiad ag Ewrop yn gadael i'r holl rinweddau hynny ffynnu wrth inni ddechrau dod yn genedl sy’n masnachu ledled y byd fel y buom yn ei wneud cyn inni gael ein clymu wrth y prosiect gwleidyddol diffygiol rydym yn ei adnabod fel yr Undeb Ewropeaidd. Diolch yn fawr, Lywydd.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 3 a 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Adam Price.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac mae'n bleser gen i symud y gwelliannau sydd wedi eu gosod yn enw Siân Gwenllian.
Mae'r bleidlais sy'n cael ei chynnal yn San Steffan heddiw yn theatr wleidyddol llwyr. Nid oes angen cadarnhau'r cytuniad, gan y gall y Weithrediaeth wneud hynny heb gymeradwyaeth seneddol. Nid oes angen ei weithredu hyd yn oed, gan y gellir gwneud y rhan fwyaf o hynny drwy is-ddeddfwriaeth. Mae'r syniad fod hon rywsut yn bleidlais ar 'ddim cytundeb' yn gelwydd noeth y mae’r gwrthbleidiau yn San Steffan, am eu rhesymau strategol eu hunain, wedi penderfynu ei lyncu'n gyfan gwbl. Y gwir reswm dros y pantomeim seneddol heddiw yw er mwyn i Boris Johnson gael ei foment o olud a nodi’r mandad ar gyfer yr hyn a ddaw nesaf, a'r union ffaith honno a ddylai fod ar flaen ein meddyliau ac yn cryfhau ein gwrthwynebiad. 'Mae'r rhyfel ar ben,' meddai Nigel Farage, ond mae brwydr Prydain newydd ddechrau. Fel y mae sêl bendith y Grŵp Ymchwil Ewropeaidd yn ei brofi y tu hwnt i amheuaeth, dyma’r Brexit caled Torïaidd a oedd ym mreuddwydion tywyllaf Jacob Rees-Mogg. Ni arhosodd asgell dde eithafol y Blaid Geidwadol am y cytundeb hwn yn hytrach na derbyn un Mrs May oherwydd pysgota na Gogledd Iwerddon; buont yn fwy na pharod i fradychu’r addewidion a wnaethant i'r ddwy gymuned hynny. Fe wnaethant aros am y cytundeb hwn oherwydd mai dyma graidd llygredig yr hyn y maent yn ei gynrychioli go iawn: Brexit fel troedle tuag at eu gweledigaeth o Brydain fel archfarchnad y byd lle mai'r unig beth sy’n cael ei wneud yw elw.
Yn y 'cytundeb tenau' hwn—i ddefnyddio ymadrodd y Prif Weinidog—mae'r ymrwymiadau ar safonau llafur a'r amgylchedd yn eithriadol o denau. Ceir ymrwymiad yn unig i beidio â gostwng amddiffyniadau a fyddai'n effeithio ar fasnach neu fuddsoddiad, ond, fel y dywedodd y Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus, mae'n hynod o anodd profi effaith reoleiddiol ar fasnach neu fuddsoddiad, felly mae'r cytundeb i bob pwrpas yn gadael amddiffyniadau i weithwyr ac i’r amgylchedd yn gwbl agored. Rydym ar fin gweld y DU yn cael ei throi'n labordy ar gyfer arbrofion diddiwedd mewn economeg asgell dde eithafol, a dyna pam y bydd pob plaid fawr ond dwy ar yr ynysoedd hyn yn pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw, ac mae hynny'n cynnwys Plaid Lafur yr Alban yn y cynnig gerbron ein chwaer Senedd yno. Rwy'n gobeithio y bydd Aelodau Llafur Cymru yn datgan eu hannibyniaeth hefyd, drwy bleidleisio dros ein gwelliannau. Dywedodd y Prif Weinidog na ddylem fod yn cyfarwyddo ASau, ond yn absenoldeb cynnig cydsyniad deddfwriaethol, gwelliant Plaid Cymru yw'r unig gyfle sydd gan y Senedd bellach i gyfleu ei barn ar y ddeddfwriaeth sydd gerbron Senedd y DU.
Os oedd unrhyw un yn meddwl am un funud fod Brexit yn ymwneud ag adfer sofraniaeth Senedd y DU, yna edrychwch ar y saga druenus hon yn ei chyfanrwydd: dywedwyd celwydd wrth y Frenhines y llynedd er mwyn cau Senedd y DU yn anghyfreithlon, a heddiw, bydd Senedd y DU—fel y nododd Prif Weinidog Cymru—yn trafod 1,246 tudalen o gytuniad a Bil a gyhoeddwyd dros nos mewn ychydig oriau, gan adael y farchnad sengl mewn un diwrnod, pan gymerodd 25 diwrnod o graffu seneddol i ymuno â hi 30 mlynedd yn ôl, a hyd yn oed bryd hynny, roedd ffilibystrwyr diguro fel Bill Cash yn cwyno nad oedd hynny’n ddigon.
Nid yw hyn yn ymwneud â democratiaeth, ac yn sicr nid yw'n ymwneud â'n democratiaeth ni yn y sefydliad hwn. Mae'r cytuniad ei hun yn cadarnhau ein lle fel Senedd israddol, ail ddosbarth sy’n gwbl agored i fympwyon San Steffan. Mae adran 3.11.5 yn y cytuniad yn nodi’n glir mai Senedd San Steffan yn unig a all ddeddfu i wneud yn siŵr fod cymorthdaliadau'n rhydd rhag eu tynnu'n ôl, gyda goblygiadau enfawr o ran arfer ein pwerau ein hunain dros bolisi cymdeithasol ac economaidd. Am y rheswm hwnnw'n unig, dylem wrthwynebu'r Bil perthynas yn y dyfodol heddiw.
Rwy’n sylweddoli y bydd yr Aelodau Llafur yn ei chael hi’n anodd dilyn llwybr gwahanol i’w harweinydd yn San Steffan, ond mae gennym Brif Weinidog y DU a newidiodd ei farn ar Brexit, yn gwbl sinigaidd, er mwyn dod yn Brif Weinidog y DU. Y peth olaf sydd ei angen arnom yw arweinydd yr wrthblaid sy'n gwneud yr un peth. Pa rai o chwe phrawf Starmer y mae'r cytundeb hwn wedi'u hateb? A yw'n atal ras i'r gwaelod? Mae'n ei galluogi. A yw'n sicrhau diogelwch cenedlaethol? Mae'n ein gwahanu oddi wrth Europol. A yw'n sicrhau'r un buddion yn union â'r farchnad sengl a'r undeb tollau? Mae'n ein rhwygo allan o'r ddau ac yn lapio ein busnesau ym maes gweithgynhyrchu a bwyd, ein ffermwyr, a'n pysgotwyr hefyd, mewn tâp coch, gwyn a glas a fydd yn sicr o'u tagu o dipyn i beth.
A all economi Cymru addasu? Gall. Ni fydd gennym unrhyw ddewis, a bydd newidiadau eraill yn ystod y 10 mlynedd nesaf—deallusrwydd artiffisial, sero-net—yn cynrychioli bygythiadau a chyfleoedd hyd yn oed yn fwy. Ond gwers y pedair blynedd diwethaf yw na ddylem ganiatáu i fympwyon gwleidyddol yn San Steffan bennu ein tynged economaidd fel cenedl. Dim ond drwy hawlio ein hannibyniaeth ein hunain y gallwn wneud hynny—nid eu sofraniaeth ffug hwy, ond ein gwir ddemocratiaeth ein hunain, gan wrthod eu dyfodol hwy a dewis ein dyfodol ein hunain.
Wrth inni agosáu at hanner nos yfory, yr unig ffordd y gallaf ddisgrifio fy nheimladau yw tristwch wrth wynebu'r anorfod. Yn gyntaf, fel eraill, rwyf wedi derbyn y canlyniad hwn ers i'r cytundeb ymadael gael ei fabwysiadu ym mis Ionawr eleni. Bydd da a drwg dadleuon y degawd diwethaf yn cael eu trafod yn y llyfrau hanes, ond bydd pawb ohonom yn wynebu'r realiti ymhen ychydig oriau, ac yn yr wythnosau, y misoedd a'r blynyddoedd i ddod.
Yn ail, rwy'n teimlo'n drist, oherwydd ni waeth beth a ddaw nesaf—ac mae cymaint o hynny’n ddirgelwch i bawb ar hyn o bryd—rwy'n teimlo ein bod wedi gwneud tro gwael â’r genhedlaeth nesaf. Rwy’n ofni y bydd eu bywydau’n dlotach drwy weithredu’r cytundeb hwn, cytundeb sydd i'w weld, ar yr wyneb, yn ymwneud mwy â sofraniaeth nag economeg, mwy â pha un a oes rhaid inni gadw at reolau’r UE yn y llys na chytundeb sy'n sicrhau sefydlogrwydd a thwf economaidd mewn dyfodol ansicr.
Lywydd, cefais fy synnu gan ddatganiad diweddar gan British in Europe, corff sy’n siarad dros y 1.2 miliwn o ddinasyddion y DU sy'n byw ac yn gweithio yn Ewrop. Dywedant fod:
cytundeb wedi'i wneud, ond nid yw’n cymryd lle, ac ni all gymryd lle’r manteision enfawr sy'n newid bywydau o fod yn aelodau o'r UE a dinasyddion yr UE ers 1973.
Daethant i'r casgliad:
fod unrhyw gytundeb ar y berthynas yn y dyfodol yn well na bod heb gytundeb, ond nid yw heddiw’n ddiwrnod i ddathlu'r cyfan sydd wedi’i golli.
Rwy'n cytuno â'r farn honno, ond rwy’n derbyn hefyd fod yn rhaid cymeradwyo'r cytundeb hwn nawr. Nid yw'n ddadl mwyach ynglŷn â sut olwg fyddai ar y dewis arall. Yr unig ddewis arall ar y pwynt hwn yw bod heb gytundeb, ac nid wyf am fynd i'r fan honno, ond nid wyf am ganu ei glodydd ychwaith. Oherwydd rwy'n gwbl sicr y dylai Boris Johnson a'r Torïaid fod yn atebol am y cytundeb hwn a'i Fil canlyniadol. Bydd rhaid iddynt fyw gyda'r hyn y maent wedi'i wneud. Ond er gwaethaf hynny, rwy'n gobeithio, er lles pob un ohonom, y bydd y pethau a addawyd i'r DU yn dwyn ffrwyth—a bod fy ofnau rywsut yn cael eu profi'n anghywir, gan nad ymgeisiais am swydd etholedig i weld bywydau fy etholwyr yn cael eu gwaethygu, felly rwy'n gobeithio y bydd y ffydd a roddodd llawer o fy etholwyr yn y newid hwn yn cael ei gyflawni’n rhannol o leiaf, ac rwy'n gobeithio y tu hwnt i bob gobaith na chawsant eu twyllo, ond a dweud y gwir, o ystyried dull ffwrdd-â-hi Llywodraeth y DU o graffu ar eu cytundeb a’r Bil i’w weithredu, a’u difaterwch llwyr ynglŷn â’r drefn briodol a hawliau’r cenhedloedd datganoledig, rwy’n ofni y daw'n amlwg fod pobl wedi cael eu twyllo.
Maes o law, efallai mai carreg filltir arall yn unig yn ein perthynas gymhleth ag Ewrop fydd gadael yr UE, adeg pan fu llawer yn y DU yn ceisio cerdded ar gyflymder gwahanol, ac i gyfeiriad gwahanol o bosibl, i aelodau’r Undeb Ewropeaidd. Gallai hefyd fod yn adeg sy'n sbarduno llawer yn y Deyrnas Unedig i ddymuno dilyn llwybr gwahanol i'w cymdogion o fewn yr undeb hwnnw. Byddai’n eironig iawn pe bai'r cytundeb a osodwyd ger ein bron, sy’n canolbwyntio i’r fath raddau ar 'sofraniaeth dros economi’, yn arwain at golli'r union sofraniaeth honno. Ond mae hynny ar gyfer rhyw dro arall. I mi, mae'r cytundeb hwn rhwng y DU a'r UE yn dangos pa mor gymhleth fyddai syniadau o'r fath mewn gwirionedd. Mae’r ffaith i hyn ddod—. Am hanner nos yfory, bydd y rheini sy’n masnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd yn wynebu biwrocratiaeth newydd o ganlyniad i'r cytundeb hwn, ac mae hynny'n cynnwys nifer sylweddol o gyflogwyr yn fy etholaeth, a biwrocratiaeth newydd sy'n cynnwys y cyngor partneriaeth newydd, 19 pwyllgor, saith gweithgor, 15 datganiad ac ati. Felly, er fy mod yn croesawu’r ffaith na fydd unrhyw dariffau, yn groes i’r hyn a ddywedwyd wrthym, bydd mwy o fiwrocratiaeth. A gallwn eisoes weld rhai o ganlyniadau'r cytundeb hwn: deisebau'r diwydiant celfyddydau perfformio; colli Erasmus+, oni bai eich bod yn byw yng Ngogledd Iwerddon, wrth gwrs. Wrth wraidd yr holl newid hwn, rwy'n dal i deimlo bod brwydr glir a pharhaus—brwydr wleidyddol—yn y wlad hon, brwydr lle mae elitiaid a'u hystlyswyr wedi perswadio digon o bobl mai pobl eraill sy’n achosi eu problemau, a hynny oll er mwyn i'r elitiaid hynny elwa.
Felly, yn olaf, gan imi ddod i'r byd gwleidyddol ar hyd llwybr llafur cyfundrefnol, neges i undebau llafur y wlad hon: mae angen ichi fod yn barod nawr, mae angen ichi drefnu hyd yn oed yn gryfach, ac mae angen ichi ddiogelu eich amodau gwaith a’ch swyddi yn fwy nag erioed, gan y bydd yr elitiaid Torïaidd yn ceisio beio mwy fyth o bobl eraill pan aiff hyn i gyd o'i le. Byddant yn rhannu ac yn rheoli y tu mewn i'r DU ac yn ceisio atgyfodi'r gelyn mewnol. Yn dilyn y cytundeb hwn, mae'r DU ei hun yn newid mewn mwy o ffyrdd nag y mae unrhyw un ohonom yn sylweddoli eto.
Mae hon yn foment hanesyddol, moment na feddyliodd yr amheuwyr erioed y byddai'n digwydd—mae rhai, yn amlwg, yn dal i fethu derbyn ei fod wedi digwydd. Mae'r Blaid Geidwadol wedi cyflawni: cyflawni addewid a wnaed i'r cyhoedd ym Mhrydain, yn dilyn refferendwm a ddangosodd fod pobl ein cenedl am ddod yn rhydd o grafangau'r Undeb Ewropeaidd ac adfer ein sofraniaeth unwaith eto, gwneud ein deddfau ein hunain, a hwylio ein llong ein hunain unwaith eto. Ac am lwybr rydym eisoes yn ei hwylio—mae Liz Truss a Llywodraeth y DU eisoes yn sicrhau cytundebau masnach gwerth £900 biliwn. Rwy'n llongyfarch y Prif Weinidog a'i dîm negodi a'r Llywodraeth Geidwadol ar sicrhau cytundeb rhagorol i'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn disgwyl i'r Siambr hon groesawu'r cytundeb hwn, cytundeb a fydd o fudd i Gymru.
Mae'r cytundeb a gafwyd gyda'r Undeb Ewropeaidd ar y berthynas yn y dyfodol yn cyflawni'n llawn yr hyn y pleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru drosto yn refferendwm 2016. Mae hwn yn gytundeb roedd llawer yn credu nad oedd modd ei gael, a cheisiodd llawer o rai eraill ei atal mewn ymgais fwriadol i lethu ewyllys y bobl. Mae Aelodau Llafur a Phlaid Cymru o'r Siambr hon wedi gwneud popeth yn eu gallu i ddifrïo'r cytundeb hwn am nad ydynt eto wedi dod i delerau â chanlyniad pleidlais y bobl ym mis Mehefin 2016.
Fel yr addawyd, mae'r cytundeb yn adfer rheolaeth dros ein deddfau, ffiniau, arian, masnach a physgodfeydd, ac mae'n dod ag unrhyw rôl i'r Llys Ewropeaidd yn y DU i ben. O 11 p.m. nos yfory, bydd y Deyrnas Unedig yn adennill ei hannibyniaeth wleidyddol ac economaidd. Mae gennym gyfle nawr i reoli ein tynged ein hunain a ffynnu'n llawn fel gwlad y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Yr hyn y mae'r cytuniad yn ei wneud yw gosod cytundeb masnach rydd syml ac eglur yn lle'r trefniadau fel aelod-wladwriaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Yn union fel rydym am gael cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, rydym am gael cytundeb masnach rydd gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac mae hwn yn rhoi'r cytundeb masnach rydd hwnnw inni, ond wrth gwrs nid ydym bellach yn ddarostyngedig i strwythurau rhwymol yr UE. Gallwn lunio cytundebau masnach â marchnadoedd newydd, gan ailsefydlu ein hunain fel cenedl fasnach rydd ym mhob cwr o'r byd. Mae'r DU eisoes wedi sicrhau cytundebau masnach, fel y dywedais, gwerth dros £900 biliwn ohonynt. Mae'r cytundeb masnach diweddaraf gyda Thwrci yn golygu bod gan y DU gytundebau ar waith bellach gyda 62 o wledydd ledled y byd, ac mae cytundebau masnach rydd gwerth biliynau o bunnoedd gydag America, Canada ac Awstralia yn yr arfaeth ar gyfer 2021. Gyda'i gilydd, dywed dadansoddwyr y gallai hyn roi hwb o £100 biliwn fan lleiaf i economi'r DU dros y degawd nesaf. Dyma'r cytundeb masnach cyntaf yn seiliedig ar ddim tariffau a dim cwotâu i'r Undeb Ewropeaidd ei gytuno erioed. Mae'n newyddion gwych, a chaiff ei groesawu gan fusnesau yng Nghymru, busnesau a fydd yn gallu parhau i fasnachu'n ddidrafferth ac yn ddi-dariff.
Mae'r cytundeb hefyd yn cyflawni ein hymrwymiad i gynnal safonau uchel o ran llafur, yr amgylchedd a hinsawdd, heb roi unrhyw lais i'r UE yn ein rheolau.
Fel merch i ffermwr, rwy'n falch fod y sector ffermio wedi cael sicrwydd mawr ei angen. Marchnad yr UE yw marchnad allforio fwyaf a mwyaf gwerthfawr y DU o hyd, ac mae'r cytundeb hwn yn caniatáu i ffermwyr Cymru barhau i anfon cynnyrch i'r UE yn rhydd o dariffau a chwotâu. Er bod rhai pryderon yn parhau, mae'n rhyddhad mawr i'r diwydiant bwyd a ffermio y byddwn yn parhau i gael mynediad at y farchnad sy'n derbyn bron i dri chwarter allforion bwyd-amaeth Cymru.
Rwy'n siomedig ynglŷn â diwedd pesimistaidd a chywair negyddol cynnig Llywodraeth Cymru, ond efallai na ddylem synnu. Ers y refferendwm bedair blynedd a hanner yn ôl, mae Llafur wedi arddel safbwyntiau dirifedi ar Brexit. Nid oes dim sy'n dangos diffyg polisi Llafur ar Brexit gymaint ag adroddiadau fod Aelodau Seneddol Llafur yn bwriadu anwybyddu cyfarwyddyd Keir Starmer i gefnogi'r cytundeb.
Mae cyfeillion Corbynista Prif Weinidog Cymru wedi nodi y byddant yn pleidleisio yn erbyn y cytundeb, ni waeth beth fo'r canlyniadau i'n gwlad. Gadewch inni gofio, os na chytunir ar y cytundeb hwn, bydd yn sicrhau bod y DU yn gadael yr UE heb unrhyw gytundeb, yn ddarostyngedig i reolau Sefydliad Masnach y Byd. Ai dyna mae Plaid Cymru ei eisiau i Gymru, gwlad a bleidleisiodd i adael yr UE ac i elwa o hynny?
Gwyddom yn awr beth yw safbwynt Prif Weinidog Cymru: mae unrhyw gytundeb yn well na gadael heb gytundeb. Felly, pe bai'r Prif Weinidog wedi bod yn gyfrifol am y negodiadau, mae'n amlwg y byddai wedi derbyn unrhyw delerau a gynigiwyd, gan roi statws cleient yr UE i'r DU i bob pwrpas. Mae Plaid Cymru hefyd wedi rhybuddio ynglŷn â'r risgiau o adael heb gytundeb, ond heddiw dyna maent yn pleidleisio drosto. Oportiwnistiaeth sinigaidd ydyw ac mae'r cyhoedd wedi cael llond bol arno—maent am i'w pleidlais gael ei pharchu a'i gweithredu. Dylech barchu dymuniadau eich etholwyr.
Lywydd, diolch i'r cytundeb hwn, byddwn yn dechrau'r flwyddyn newydd bellach fel cenedl gwbl sofran. Bydd gennym gynllun Turing, sy'n llawer tecach ac i'w groesawu'n fwy na chynllun Erasmus, rhywbeth sydd o fudd i bob person ifanc o bob cefndir, nid y rhai sydd ag arian yn unig—rhywbeth y credais y byddai'r Prif Weinidog yn ei groesawu.
Cafwyd dadleuon angerddol—
Mae eich amser ar ben bellach, Laura Jones, felly os caf ofyn ichi ddod â'ch sylwadau i ben—.
Fe wnaf. Ond wrth i Brexit gael ei gwblhau o'r diwedd, mae'n rhaid i bawb ohonom gefnu ar y rhaniadau a gweithio i sicrhau'r manteision mwyaf posibl i Gymru a'r DU ledled y byd. Mae'n bryd rhoi'r cleddyfau i gadw, Lywodraeth Cymru, a gweithio i wneud yn siŵr eich bod yn chwarae eich rhan ac yn sicrhau'r manteision economaidd y mae pob un ohonom yn y Siambr hon am eu cael i Gymru.
Gadewch i ni fod yn glir, mae'r fargen hon yn cynrychioli Brexit caled. Nid oes mandad ar ei gyfer yng Nghymru, ac nid yw er budd Cymru. Dim tariffs a dim quotas fel mesur llwyddiant—does dim tariffs na quotas gennym ni heddiw. Mae'r effaith ar Gymru yn enbyd. Bydd y rhwystrau di-dariff yn arwain at fwy o fiwrocratiaeth ac, yn ddi-os, byddant yn taro cystadleurwydd cwmnïau Cymru.
Mae risg benodol i Gymru yma o ran y diwydiant gwneud rhannau i geir ac awyrennau—mwy o waith papur a mwy o oedi yn golygu mwy o gostau. Mewn datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf yn unig, nododd Llywodraeth Cymru, a dwi'n dyfynnu, mai canlyniad y fargen hon heb os fyddai economi sy'n
'llai nag y byddai wedi bod o ganlyniad i’r cytundeb hwn, gan olygu y bydd llai o swyddi, cyflogau is, llai o allforion, mwy o fiwrocratiaeth i fusnesau, llai o gydweithredu â'r UE ar ddiogelwch a chymunedau ac aelwydydd tlotach ym mhob rhan o Gymru.'
Ac eto, mae Plaid Lafur Keir Starmer bellach yn ymddangos yn hapus i gefnogi'r fargen yma—dim ymatal, ond yn barod i gefnogi bargen mae'n gwybod y bydd yn gwneud Cymru'n dlotach.
Mae Senedd Cymru wedi bod yn gyson ar bob cam o'r daith ynghylch ceisio cryfhau llaw Cymru ac amddiffyn buddiannau Cymru. Roeddem ni'n barod, fel plaid, i chwarae rhan adeiladol wrth lunio polisi Llywodraeth Cymru yn 'Securing Wales' Future'. Yn anffodus, nid yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw ran ystyrlon wrth ddatblygu'r strategaeth drafod na'r trafodaethau eu hunain, ac mae ein blaenoriaethau ni fel Senedd ar ran pobl Cymru wedi'u hanwybyddu yn llwyr. O ganlyniad, rydym yn cael dewis gwbl ffug rhwng dim bargen a'r fargen sydd wedi'i tharo. Roedd bargeinion amgen i'w gwneud, ond mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dewis anwybyddu'r opsiynau hynny o blaid y Brexit caled yma.
Rhaid gofyn: pam fyddai Senedd Cymru am fod yn anghyson ar y pwynt tyngedfennol yma ac ildio i'r Llywodraeth Geidwadol fwyaf adain dde ac eithafol yn y cyfnod diweddar? I beth ac er lles pwy? Nid pobl, swyddi a dyfodol Cymru, yn sicr.
Mae hon yn fargen ddi-hid, munud olaf gan y Torïaid, a gyhoeddwyd ar drothwy'r Nadolig, yn rhan o gynllun y Torïaid, fel y gellid rhuthro'r fargen drwy Senedd y Deyrnas Unedig gyda chyn lleied o graffu â phosib. Mae'n warthus mai dim ond un dydd sydd gan y Senedd i graffu ar ddogfen 1,200 tudalen, a dim cyfle o gwbl i'n pwyllgorau ni yma, yn Senedd Cymru, i graffu ar effaith hyn oll ar sectorau penodol yng Nghymru. Cyferbynnwch hyn efo'r craffu seneddol adeg cytundeb Maastricht, lle bu misoedd o graffu a dadlau. Mae'r sefyllfa yn warthus, ac, eto, Llafur yn hapus i fod ynghyd â'r broses yma a phleidleisio o'i phlaid.
Na—mae angen bargen newydd i Gymru, nid y fargen hon. Mae hyn oll yn dangos unwaith eto na fydd buddiannau Cymru byth yn cael eu diogelu yn San Steffan. Os nad yw Llywodraeth Cymru'n fodlon cofleidio annibyniaeth, maent yn cofleidio dyfodol i Gymru â'i thynged wedi'i phennu gan Lywodraeth Geidwadol yn San Steffan yn y tymor hir. Bydd cenedlaethau'r dyfodol yn edrych yn ôl ar y pwynt tyngedfennol yma. Ond pam mae Llywodraeth Cymru'n gwrthod sefyll yn y bwlch a dweud wrth y Ceidwadwyr, 'Nid yn ein henwau ni yr ydych chi'n gwneud hyn'? Yr hyn sydd ei angen ar Gymru ydy bargen newydd a fyddai'n rhoi rheolaeth lawn i Senedd Cymru dros yr economi, cyfiawnder a lles—nid dewis ffug, fel sydd o'n blaenau ni heddiw, ond dewis rhwng creu gwlad annibynnol lewyrchus, lle bydd buddiannau Cymru o hyd ar ben y rhestr, neu wlad sydd yn cael ei hanwybyddu o dan reolaeth Llywodraeth adain dde yn barhaol. Felly, mae dewis arall. Ym mis Mai, cawn bleidleisio dros Gymru annibynnol.
Wel, mae'r areithiau chwerw a dystopaidd braidd a glywsom yn gynharach yn y ddadl hon, gan y Prif Weinidog a chan arweinydd Plaid Cymru, yn cadarnhau eu bod yn elynion i ddemocratiaeth, oherwydd nid oes yr un ohonynt erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm yn 2016, pan bleidleisiodd pobl Cymru, yn ogystal â phobl y Deyrnas Unedig, dros adael yr UE. Ac maent wedi gwneud popeth yn eu gallu, yn y pedair blynedd a hanner ers hynny, i geisio tanseilio'r broses gyfan, a gwrthdroi'r canlyniad heb refferendwm arall, yn wir, yw'r safbwynt terfynol y maent wedi'i gyrraedd.
A gwnaeth Dawn Bowden y pwynt pwysig, er nad oedd yn ymddangos ei bod yn ei ddeall, mai ymwneud â sofraniaeth y mae hyn oll. Dyna'r holl bwynt; dyna'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto yn 2016—dros adfer annibyniaeth sofran Prydain fel gwlad. Ac yma, yn Senedd Cymru, mae gennym sefyllfa ryfedd braidd lle mae plaid honedig genedlaetholgar—plaid genedlaethol Cymru—nad yw'n credu yn annibyniaeth wleidyddol Cymru, oherwydd byddai'n well o lawer ganddynt weld Cymru'n cael ei llywodraethu o Frwsel gan bobl nad ydym yn eu hethol, pobl na allwn eu diswyddo ac, at ei gilydd, pobl na allwn mo'u henwi hyd yn oed. Ond nawr, o ganlyniad i'r cytundeb hwn sy'n mynd â ni ymhellach ar hyd y ffordd i adfer ein hannibyniaeth genedlaethol fel y Deyrnas Unedig, byddwn yn gallu cael gwared ar y rhai sy'n llunio ein deddfau os nad ydym yn hoffi'r hyn y maent wedi'i wneud, ac yn fy marn i, dyna yw'r cwestiwn mwyaf sylfaenol i bawb mewn democratiaeth. Ac er bod y cytundeb hwn ymhell o fod yn berffaith, mae'n floc adeiladu pwysig ar y ffordd i gyflawni'r amcan hwnnw.
Rwy'n rhyfeddu at ba mor wan yw'r rhai sy'n gwrthwynebu'r holl broses hon fel pe na bai pobl Prydain, rywsut, yn gallu llwyddo yn y byd. Mae'n wir mai methiant o ran hunanhyder cenedlaethol oedd y cefndir i ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd bron 50 mlynedd yn ôl, oherwydd, yn y dyddiau hynny, roedd Prydain yn llawn cynnen diwydiannol a dirywiad economaidd, ac fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol America, Dean Acheson,
Mae Prydain wedi colli ei hymerodraeth a heb eto ddod o hyd i rôl.
A chredaf mai'r agwedd honno sydd wedi tanseilio'n sylfaenol y cenedlaethau cyfan y bûm yn tyfu fyny drwyddynt. Nawr, mae gennym gyfle i ddechrau o'r newydd, i gefnu ar y dadleuon a gawsom dros y 50 mlynedd diwethaf a bwrw allan i'r byd, gan fanteisio ar yr 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn rym sy'n dirywio yn y byd, o'i gymharu â'r gweddill. Nid yn Ewrop y mae 85 y cant o gynnyrch domestig gros y byd, fel y dywedais, ac mae'r gyfran honno'n mynd i gynyddu yn y blynyddoedd i ddod. Yr heriau mawr yw gwledydd fel India a Tsieina, ac nid heriau'n unig a geir yno, ond cyfleoedd hefyd. Nawr, byddwn yn gallu manteisio'n llawn arnynt drwy ymrwymo i gytundebau masnach, na fu modd inni ei wneud dros y 50 mlynedd diwethaf oherwydd bod hynny'n rhywbeth y mae'r UE wedi'i wneud ar ein rhan—er gwell neu er gwaeth.
Felly, fel y dywedais, nid yw'r cytundeb hwn yn berffaith o bell ffordd. Ac o'r herwydd, mae'n waith anorffenedig. Mae pethau da yn y cytundeb, wrth gwrs. Mae mynd â ni allan o afael parlysedig Llys Cyfiawnder Ewrop ar y naill law, wrth gwrs, yn adfer sofraniaeth gyfreithiol yn gwbl ddiamwys. Ceir cymalau yn y cytundeb y mae angen inni edrych arnynt yn fy marn i. Y cynigion dim atchwelyd ac ailgydbwyso—termau technegol sy'n golygu yn y bôn, os ydym yn gwyro oddi wrth y safonau rheoleiddio y mae'r UE yn eu mabwysiadu, y bydd gofyn inni ystyried a allai fod effeithiau o ran masnach neu fuddsoddi a allai arwain at ryw fath o weithredu dialgar—yn y meysydd hynny, credaf ei bod yn debygol na fydd Llywodraeth y DU yn ddigon eofn i fanteisio ar y cyfleoedd y mae ein rhyddid newydd yn eu rhoi inni. I mi, ymwahanu yw'r peth pwysig, y cyfle i fod yn fwy ystwyth yn y byd, i fod yn fwy cystadleuol â gweddill y byd nag y byddem y tu mewn i'r UE. Dyma'r cyfleoedd y mae angen inni eu deall a'u gweld mewn goleuni cadarnhaol.
Un o'r prif ddiffygion yn y cytundeb hwn, wrth gwrs, yw pysgota, fel y nodwyd gan eraill yn y ddadl. Aberthwyd diwydiant pysgota Prydain 50 mlynedd yn ôl oherwydd bod yr UE—neu'r CEE fel yr oedd bryd hynny—wedi rhoi'r polisi pysgodfeydd cyffredin at ei gilydd yn ystod yr wythnosau olaf cyn inni ymuno â'r gymuned, ac nid oedd gennym lais yn hynny na rhan i'w chwarae wrth gynllunio'r system a wnaeth ddifetha diwydiant pysgota Prydain a'n cymunedau arfordirol yn yr hanner canrif ers hynny. Ar hyn o bryd, dim ond—
Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr, Neil Hamilton. Mae eich amser ar ben.
Felly, 50 mlynedd yn ôl, dywedodd Edward Heath na fyddem yn ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd oni bai ein bod yn cael cydsyniad llawn y Senedd a'r bobl. Ni chafwyd cydsyniad pobl Prydain; ni ofynnwyd amdano. Ni chafodd gydsyniad llawn ein Senedd oherwydd mai mwyafrif o ddim ond wyth a gafodd y Bil a aeth â ni i mewn, mewn pleidlais wedi'i chwipio drwyddi draw 50 mlynedd yn ôl. Pleidlais y bobl yw refferendwm 2016. Rhaid parchu'r bleidlais honno a byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fel gwladwriaeth sofran ar 1 Ionawr.
Mae bob amser yn dda clywed beth yw barn sgweieriaid Wiltshire, ond i'r rhan fwyaf ohonom a etholwyd i eistedd yn y lle hwn, rydym yn arswydo at yr hyn a gyflwynir i ni y bore yma a'r ffordd y caiff busnes ei gyflawni. Cytundeb a gwblhawyd ar noswyl Nadolig, Bil a gyhoeddwyd ddoe, ac mae pobl yn sôn am ddemocratiaeth ac atebolrwydd seneddol. Ni chafwyd cyfle i graffu'n drylwyr ar y ddeddfwriaeth hon. Nid wyf yn deall sut y gallai neb bleidleisio dros y Bil sydd gerbron Senedd y DU y bore yma. Mae'n gytundeb nad yw'n cael ei gadarnhau gan y ddeddfwriaeth hon, a phan glywaf Aelodau Ceidwadol yma'n dweud bod gennym ddewis arall heddiw, dewis i'w wneud rhwng y cytundeb hwn neu fod heb gytundeb, mae hynny'n dweud dau beth wrthyf: nid ydynt yn deall y ddeddfwriaeth sy'n cael ei thrafod yn Llundain y bore yma neu nid ydynt wedi darllen y cytundeb y maent yn ei drafod.
Caiff y cytundeb ei gadarnhau, nid gan y ddeddfwriaeth hon, ond gan Lywodraeth y DU yn defnyddio eu pwerau uchelfreiniol. Roedd Adam Price yn gwbl glir a chywir ynglŷn â hynny. Bydd y cytundeb, a fydd yn effeithio'n ddwfn ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau ac yn ennill ein bywoliaeth, yn dod yn gyfraith heb unrhyw graffu seneddol o gwbl, ac mae'r Torïaid ac eraill yn pregethu wrthym am ddemocratiaeth. Ac mae hyn yn bwysig, oherwydd mae'n ymddangos i mi mai'r cytuniad hwn a'r Bil sy'n ei weithredu yw'r ildiad mwyaf o sofraniaeth y gallaf ei gofio, ond cânt eu gweithredu hefyd gan gipio pŵer sy'n gwthio pob un o'n Seneddau i'r cyrion. Rydym ni, yma, yn mynegi pryder, a hynny'n briodol, am ymosodiadau'r Torïaid ar y Senedd hon ac ar ddemocratiaeth Cymru, ond mae'n ymosodiad ar Senedd y DU yn ogystal, sydd hefyd yn cael ei thanseilio gan gamdriniaeth o Dŷ'r Arglwyddi nawr. Ac mae hwn yn gytundeb sy'n cael y gwaethaf o bob byd. Mae'n tanseilio ein statws rhyngwladol a'n cystadleurwydd economaidd, ac mae'n gwneud hynny heb sicrhau unrhyw sofraniaeth go iawn. Bydd busnesau'n gweld eu gallu i gyflawni busnes gyda'n cymdogion a'n marchnadoedd agosaf a mwyaf yn lleihau ac yn cael eu gwneud yn fwy biwrocrataidd. Caiff gwasanaethau ariannol eu heithrio wrth gwrs, oherwydd ceir rhannau o'r economi lle mae'r Torïaid yn dymuno gweld llai o reoleiddio a goruchwyliaeth, y rhannau sy'n golygu y gallant wneud arian heb y rheoleiddwyr ar eu sodlau.
Gallwn wneud a newid cyfreithiau, gallwn, ac mae'r cytundeb yn darparu cyfleoedd i wneud y newidiadau y mae Neil Hamilton a'r asgell dde am eu gweld. Ond gwyddom hefyd fod y cytundebau ar hawliau gweithwyr ac amddiffyniadau amgylcheddol, yn ogystal â'r ddarpariaeth ar gyfer tegwch yn y farchnad, yn golygu bod y gost o wneud hynny'n rhy uchel yn ymarferol. A gadewch i mi ddweud hyn wrth y Torïaid: mae sofraniaeth yn bodoli pan fyddwch yn yr ystafell yn gwneud penderfyniadau, yn pleidleisio dros y cyfreithiau hynny ac yn llunio'r dyfodol. Nid yw sofraniaeth yn bodoli pan fyddwch ar y tu allan, heb lais na phleidlais, a dyma lle mae'r cytundeb hwn yn ein gadael. Mewn gwirionedd, mae'r UE wedi rhoi tri thro am un i dîm negodi'r DU. Yn lle llinellau coch, cafwyd biwrocratiaeth. Wedi'i bychanu, mae'r DU wedi cilio ar bron bob mater o bwys hirdymor neu strategol.
A gadewch inni gofio eu bod hefyd yn torri'r DU. Mae rhai ohonom yn ddigon hen i gofio'r dyddiau pan gerddodd Boris Johnson allan o Lywodraeth y DU dros fater y ffin ym môr Iwerddon. Wel, mae'r ffin honno'n bodoli nawr. Mae nid yn unig yn bodoli, ond mae'n ffin ddyfnach nag unrhyw beth a ragwelwyd gan Theresa May. Bydd yna archwiliadau arian a chyfalaf rhwng Prydain a Gogledd Iwerddon. Ni allaf feddwl am wlad ddemocrataidd orllewinol arall lle mae hynny'n digwydd. Nid ydym hyd yn oed yn gwybod a fydd Edwards o Gonwy yn gallu allforio ei selsig ardderchog i Ogledd Iwerddon yn y dyfodol. Heddiw mae'n edrych yn debyg fod Llywodraeth Gweriniaeth Iwerddon yn cymryd cyfrifoldeb dros sicrhau llywodraethiant da yng Ngogledd Iwerddon, lle mae'r DU wedi troi ei chefn. Ac mae hyn yn bwysig i ni, oherwydd os ydym am wneud i'r system fframwaith cyffredin weithio—ac rydym wedi bod yn siarad am hyn ers tair blynedd—bydd gennym ddewis: naill ai cynnwys Gogledd Iwerddon a derbyn rheoliadau'r UE, a rôl Llys Cyfiawnder Ewrop a dweud y gwir, ar draws trawstoriad eang o weithgarwch economaidd, neu beidio â chynnwys Gogledd Iwerddon a sefydlu ffin hyd yn oed yn ddyfnach. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud mwy i dorri'r Deyrnas Unedig na Phlaid Cymru mewn 80 mlynedd.
Lywydd, mae gennym sofraniaeth sydd i mi yn edrych fel punt yr Alban. Rydym yn gallu rhoi ein symbolau ar y sofraniaeth hon; mae gennym allu i chwifio ein baneri. Ond fel y gŵyr yr Albanwyr yn rhy dda, ni waeth pwy sydd â'i wyneb ar y bunt, gwneir y penderfyniadau yn Llundain. A'r hyn sydd gennym yma yw sofraniaeth lle gall cefnogwyr yr ymerodraeth Brydeinig a chenedlaetholwyr Lloegr chwifio eu baneri, ond yr hyn y maent wedi'i wneud mewn gwirionedd yw dangos eu diymadferthedd a'u gwendid. Gwneir penderfyniadau pan nad yw Prydain yn yr ystafell mwyach, ac nid dyna'r penderfyniadau a fydd o fantais i'r un ohonom.
Mark Isherwood.
Mae'n ddrwg gennyf, pwy wnaethoch chi ei alw?
Mark Isherwood. Chi.
Mae'n ddrwg gennyf, ni allwn glywed. Mae ein DU wedi sicrhau cytundeb masnach gyda'r UE nad oedd neb yn credu ei fod yn bosibl. Moment wirioneddol hanesyddol i ni Brydeinwyr ar draws ein pedair gwlad. Y tro cyntaf erioed i'r UE gytuno ar gytundeb masnach di-dariff, di-gwota. Cytundeb sy'n galluogi Prydain fyd-eang sy'n edrych tuag allan i sicrhau cytundebau masnach â marchnadoedd newydd fel grym rhyddfrydol sy'n masnachu'n rhydd er gwell yn y byd. Cytundeb sy'n adfer rheolaeth dros arian, ffiniau, cyfreithiau a masnach, tra'n rhoi mynediad i fusnesau Cymru at farchnad yr UE. Cytundeb a ddisgrifiwyd gan Lywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen fel un 'teg a chytbwys', ac fel y dywed gwelliant y Ceidwadwyr Cymreig i'r cynnig hwn, cytundeb y dylem ei groesawu.
Yn hytrach, mae'r politbiwro piwis hwn o wepiau pwdlyd wedi ein galw'n ôl ar gost gyhoeddus fawr ac yn wyneb mwy fyth o ddifaterwch cyhoeddus i ddadl druenus o ragweladwy a chynnig ystrydebol a hawdd. Mwy o swnian a rhincian dannedd, bwrw bai a chodi bwganod. Derbyniwch y peth. Pleidleisiodd y bobl dros Brexit. Mae Brexit wedi'i wneud, ac am y tro cyntaf ers dyddiau cynnar datganoli, ni chawsoch chi eich ffordd eich hun.
Yn y byd go iawn, mae arbenigwyr yn dweud y bydd y cytundeb masnach ar ôl Brexit yn helpu'r economi i ymadfer yn 2021, ar ôl blwyddyn anodd wedi'i dominyddu gan argyfwng coronafeirws. Canmolodd sefydliad busnes mwyaf Prydain, Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, ddewrder Boris Johnson ac arweinwyr gwleidyddol am gyflawniad nodedig. Fel y dywedodd eu cyfarwyddwr cyffredinol:
Mae gan y DU ddyfodol disglair y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd a chyda chytundeb wedi'i sicrhau gallwn ddechrau ein pennod newydd ar dir mwy cadarn.
Yr wythnos diwethaf daeth yn amlwg fod economi'r DU wedi tyfu 16 y cant rhwng mis Gorffennaf a mis Medi—y cynnydd chwarterol mwyaf yn economi'r DU ers dechrau cadw cofnodion. Hyd yn oed cyn y cytundeb, roedd rhagolwg y Trysorlys y mis hwn ar gyfer economi'r DU, yn seiliedig ar gymhariaeth fisol o ragolygon annibynnol, yn rhagweld 5.4 y cant o dwf ar gyfartaledd yn 2021, gyda Goldman Sachs yn disgwyl i'r economi dyfu 7 y cant y flwyddyn nesaf, a J.P. Morgan a Pantheon Macroeconomics yn rhagweld 7.5 y cant. Mae hyd yn oed un o'r cwmnïau cyfrifyddu mwy pesimistaidd, nad oeddent ond wedi rhagweld twf economaidd o 3.3 y cant yn 2021 heb gytundeb wedi ei godi i 6.1 y cant ar ôl i'r cytundeb hael ei gyhoeddi. A bedwar diwrnod yn ôl, cyhoeddodd y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes mai Prydain yw pumed economi fwyaf y byd unwaith eto, a'i bod yn mynd i fynd ymhellach ar y blaen i Ffrainc yn y seithfed safle dros y degawd ar ôl Brexit.
Mae'r cytundeb yn cynnwys ymrwymiad i gynnal safonau uchel o ran llafur, yr amgylchedd a hinsawdd. Mae'r cytundeb yn golygu y gall y DU reoleiddio nawr mewn ffordd sy'n gweddu i economi'r DU a busnesau'r DU, gan gynnwys busnesau Cymru. Mae'r cytundeb yn sicrhau y gall cydweithredu symlach ar orfodi'r gyfraith barhau, ac mae'n darparu ar gyfer cydweithredu rhwng y DU a'r UE yn y dyfodol ar heriau diogelwch sy'n dod i'r amlwg, megis seiberddiogelwch a diogelwch iechyd. Mae'r cytundeb yn caniatáu inni gyflwyno system gymorthdaliadau fodern a all gefnogi busnesau'n well i dyfu a ffynnu. Mae'r cytundeb yn sicrhau mynediad parhaus at y farchnad ar draws cwmpas eang o'r sectorau gwasanaeth hyn, gan gynnwys gwasanaethau proffesiynol a busnes. Mae'r cytundeb yn cynnwys amddiffyniadau ar gyfer marchnad fewnol y DU a lle Gogledd Iwerddon oddi mewn iddi. Mae'r cytundeb yn cynnwys trefniadau i roi sicrwydd i gwmnïau hedfan a chludwyr nwyddau ac mae'n rhoi'r gallu i bobl deithio i'r UE ac oddi yno'n hawdd ar gyfer gwaith a gwyliau. Bydd trigolion y DU yn gallu elwa ar ystod eang o hawliau nawdd cymdeithasol wrth deithio, gweithio a byw yn yr UE, gan gynnwys mynediad at bensiwn gwladol wedi'i uwchraddio a threfniadau gofal iechyd cyfatebol, a fydd yn eu galluogi i gael gofal iechyd angenrheidiol wrth deithio yn yr UE, o dan yr un math o drefniadau sy'n bodoli ar hyn o bryd. Bydd dinasyddion yr UE sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yng Nghymru nawr yn parhau i fwynhau eu hawliau o dan gynllun preswylio'n sefydlog y DU i ddinasyddion yr UE. Bydd cynhyrchion Cymreig byd-enwog fel cig oen Cymru, bara lawr Cymru ac eirin Dinbych yn cael eu diogelu â dynodiadau daearyddol yn yr UE a'r DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod am gael gytundeb, a bellach byddwn yn dod â'r cyfnod pontio i ben gyda chytundeb. Mae'r cytundeb yn darparu parhad a chyfleoedd i economi Cymru, ac yn bodloni ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal safonau uchel. Yn hytrach na pharhau'r chwerwder sy'n gysylltiedig â refferendwm 2016, mae'r cytundeb yn caniatáu i wleidyddiaeth symud ymlaen a chanolbwyntio ei hegni ar y dyfodol. Ond gyda newid mawr daw her a chyfle, ac fel y dywedodd Prif Weinidog y DU,
Rhyddid yw'r hyn a wnewch ohono.
Drosodd atoch chi, Lywodraeth Cymru.
Ni all Plaid Cymru gefnogi'r cytundeb hwn ac ni allwn gefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio. Nid ydym erioed wedi cefnogi unrhyw beth y gwyddom y bydd yn niweidio buddiannau Cymru, ac mae'r cytundeb hwn yn gwneud hynny.
Y cefndir i'r sefyllfa rydym ynddi heddiw yw rhestr hir o addewidion a dorrwyd. Addawyd inni na fyddai Cymru'n colli ceiniog; nawr, gadewch imi eich atgoffa o'r hyn rydym wedi'i golli. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn un dref yn unig, Llanelli, mae cronfeydd strwythurol Ewropeaidd wedi darparu £1.5 miliwn ar gyfer theatr Ffwrnes, sydd wedi dod yn ganolfan gymunedol yn ogystal â chanolfan ddiwylliannol; £2.5 miliwn ar gyfer Plas Llanelly, gan gynnig dyfodol a rhagolygon economaidd cadarn i un o'n hadeiladau hanesyddol mwyaf anarferol; a £2.8 miliwn i ailddatblygu canol ein tref. Mae'n amlwg nawr na fydd cronfa ffyniant gyffredin y DU fel y'i gelwir yn cymryd lle y mathau hyn o fuddsoddiadau o gwbl, ac yn hytrach, caiff ei defnyddio fel math o offeryn i geisio gorfodi polisïau'r DU ar Lywodraeth Cymru—addewid wedi'i dorri.
Cawsom addewid o lai o fiwrocratiaeth, ond bydd y cytundeb hwn yn creu mynydd o fiwrocratiaeth i'r rhai sy'n allforio i'r UE. Bydd yn taro'r sector allforio bwyd yn arbennig o galed. Nid yw busnesau wedi gallu paratoi, gan nad oeddent yn gwybod beth roeddent yn paratoi ar ei gyfer. Pwysodd Ffederasiwn Bwyd a Diod Prydain ar Lywodraeth y DU i ofyn am gyfnod addasu o chwe mis i alluogi busnesau i addasu i'r rheolau newydd. Er bod yr UE yn fodlon, gwrthododd Llywodraeth y DU. Mae hyn yn creu bygythiad difrifol i fusnesau a swyddi mewn sector mor bwysig i Gymru. Mae perygl o darfu'n aruthrol ar gadwyni cyflenwi gweithgynhyrchu, ac mae'n amheus fod gennym ddigon o filfeddygon i gynnal yr archwiliadau iechyd anifeiliaid y bydd eu hangen nawr i allforio i Ewrop. Llai o fiwrocratiaeth? Go brin—addewid wedi'i dorri.
Rhoddodd y Prif Weinidog ei ymrwymiad personol inni na fyddem yn cael ein tynnu allan o raglen Erasmus, ac mae hynny wedi digwydd. Mae Prif Weinidog Cymru'n iawn i ddisgrifio hyn fel gweithred o fandaliaeth ddiwylliannol. Gwyddom am y niwed y bydd hyn yn ei wneud i brifysgolion, ond ni ellir cyfrif y niwed mewn cyfleoedd a gollwyd i unigolion, ac nid myfyrwyr prifysgol yn unig. Rwyf am ddweud wrthych am ddyn ifanc rwy'n ei adnabod o'r enw John. Roedd yn ddyn ifanc a chanddo broblemau, a chefndir teuluol anodd, roedd ganddo broblemau cyffuriau ac alcohol, a phan oeddwn yn cefnogi elusen genedlaethol ym maes gwaith ieuenctid yng Nghymru, gallasom ei gynorthwyo i gymryd rhan mewn rhaglen wirfoddoli Erasmus yn Sbaen. Daeth yn ôl, yn ei eiriau ei hun, yn 'berson gwahanol'—yn fwy hyderus, yn fwy sicr, yn gallu gweld dyfodol iddo'i hun. Dywedodd fod cymryd rhan yn y rhaglen honno wedi achub ei fywyd. Ni fydd pobl ifanc fel John yn cael y cyfleoedd hyn mwyach, ac mae ymhell o fod yn glir y bydd y rhaglen a gaiff ei chreu yn Lloegr i gymryd ei lle yn cynnig unrhyw beth tebyg iddi. Dywedwyd wrthym y byddem yn aros o fewn y rhaglen Erasmus. Mae Llywodraeth y DU nid yn unig yn gwrthod talu am hynny, ond mae'n ei gwneud yn glir iawn y byddai'n atal Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru rhag prynu i mewn iddi pe baent yn dewis gwneud hynny—addewid wedi'i dorri.
Ddirprwy Lywydd, mae'r cytundeb hwn yn gyfystyr â Brexit caled, ac wrth i'w ganlyniadau ddod yn glir, bydd pobl, yn enwedig pobl ifanc y mae eu dyfodol yn dibynnu ar y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud dros y ddeuddydd hyn, yn gofyn pam y caniatawyd hyn, pam y gadawyd i hyn ddigwydd. Mae'n bwysig fod cenedlaethau'r dyfodol yn gwybod na chafodd y cytundeb gwael hwn ei basio'n ddiwrthwynebiad. Rydym yn ei wrthwynebu, ac mae'n darparu tystiolaeth glir na ellir ymddiried yn San Steffan i weithredu er budd pobl Cymru. Ddirprwy Lywydd, mae arnom angen cytundeb newydd, mae arnom angen Llywodraeth newydd yma yng Nghymru a fydd yn sefyll yn ddigyfaddawd dros ein buddiannau ni ac na fydd yn gorfod edrych dros ei hysgwydd ar yr hyn y mae eraill yn ei wneud ar ben arall yr M4. Rhaid inni gael annibyniaeth, yr hawl i negodi'n uniongyrchol â'n cymdogion a'n partneriaid i sicrhau'r dyfodol rydym am ei gael. Mae'n bryd inni fynnu rheolaeth ar ein dyfodol ein hunain.
Mae hwn yn gytundeb masnach na welwyd mo'i debyg. Mae'n ddigynsail i Lywodraeth ymrwymo i gytuniad masnach sy'n ychwanegu haenau a haenau o fiwrocratiaeth at y broses o werthu neu brynu nwyddau rydym am eu cyfnewid gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Mae'r rhan fwyaf o gytundebau masnach yn cael gwared ar rwystrau i fasnachu, nid eu cynyddu.
Mae’r baich gwirfoddol hwn y mae'n rhaid i ni ei ddwyn yn deillio o obsesiwn â sofraniaeth, fel pe baem, yng nghanol pandemig byd-eang ac argyfwng hinsawdd, rywsut yn weithredwyr annibynnol sy'n rheoli ein tynged ein hunain. O drwch blewyn, rydym wedi llwyddo i osgoi sefyllfa hyd yn oed yn fwy niweidiol gadael heb gytundeb, a heb os, mae’r lluniau o filoedd o yrwyr lorïau wedi'u pentyrru yng Nghaint a mannau eraill wedi helpu i ddangos beth fyddai gadael heb gytundeb yn ei olygu. Ond byddai hynny wedi ychwanegu tollau neu dariffau at unrhyw nwyddau y byddem yn eu mewnforio, yn enwedig bwyd. Yn sicr, byddai'r effeithiau ar y cymunedau rwy’n eu cynrychioli wedi bod yn gwbl ddinistriol.
Bydd elfen leiaf drwg y cytundeb tenau hwn yn dal i gynyddu prisiau unrhyw beth rydym yn ei fewnforio neu'n ei allforio. Mae'n anochel y bydd y fiwrocratiaeth sydd ynghlwm wrth lenwi ffurflenni a gwirio cydymffurfiaeth yn arwain at gost a fydd yn cael ei throsglwyddo i'r defnyddiwr yn y rhan fwyaf o achosion. Nid oedd angen i bethau fod fel hyn; nid oedd refferendwm 2016 yn sôn o gwbl am adael y farchnad sengl. Y cwestiwn oedd a ddylai'r Deyrnas Unedig barhau i fod yn aelod o'r UE ai peidio. Dim sôn am adael y farchnad sengl a dim trafodaeth y tu hwnt i gatalog o gelwyddau ynglŷn â’r hyn y byddai hynny'n ei olygu. Yn sicr, byddai wedi bod yn gwbl bosibl gadael yr UE a pharhau i fod yn rhan o'r farchnad sengl. Dewis gwleidyddol oedd hwn gan yr elfen dde eithafol sydd bellach yn dominyddu'r blaid Dorïaidd, gyda chymorth eu ffrindiau yn UKIP, y mae rhai ohonynt yn bresennol yn y Senedd hon.
Amser a ddengys ai’r darlun heulog a baentiwyd gan David Rowlands yw’r dyfodol sydd bellach yn wynebu Cymru. Bydd, fe fydd cyfleoedd i fusnesau entrepreneuraidd nodi bylchau mewn cadwyni cyflenwi, i ddarparu nwyddau yn lle nwyddau a fewnforir neu rannau o nwyddau, ac efallai y bydd y cyfle hwnnw’n gyfle go iawn i lawer o fentrau bach, a phob lwc iddynt. Ond mae'r rhwystrau nad ydynt yn dariffau yn gwneud model ‘mewn union bryd’ yr archfarchnadoedd i gludo bron bob cynnyrch ffres o rannau eraill o Ewrop yn fwyfwy anneniadol ac annibynadwy, felly mae'n ddigon posibl y bydd cyfleoedd newydd yn codi i arddwriaeth yng Nghymru, ac rwy’n croesawu hynny wrth gwrs. Ond perygl y rhwystrau hyn nad ydynt yn dariffau yw y bydd cwmnïau rhyngwladol yn colli amynedd gyda'r fiwrocratiaeth a'r oedi sy'n gysylltiedig â lleoli rhan o'u busnes yng Nghymru neu Brydain gyda chyflenwyr allweddol a marchnadoedd gwerthu ar dir mawr Ewrop, ac y byddant yn defnyddio'r cyfnod pontio i drosglwyddo eu gweithgarwch i rywle arall yn Ewrop. Byddai hynny'n arwain at ganlyniadau dinistriol i sawl rhan o Gymru, yn enwedig Glannau Dyfrdwy.
Ar bysgota, ydy, mae'n atal difodiant diwydiant pysgota Cymru, a fyddai wedi bod yn ganlyniad i adael heb gytundeb, ond mae Paul Davies yn twyllo’i hun os yw'n rhagweld dyfodol aur i ddiwydiant pysgota Cymru. Rwy'n siŵr y bydd y pum sefydliad gwerth miliynau lawer sy'n dominyddu diwydiant pysgota Prydain yn falch iawn o gael cyfran fwy a mwy o ddalfa'r DU, sy’n anghyraeddadwy i fusnesau pysgota Cymru gan nad yw eu cychod bach ar y glannau yn gallu cyrraedd y dyfroedd dyfnion. Oni bai ein bod yn rhoi camau rheoleiddiol ar waith yn gyflym, bydd y cyfoeth hwn yn cael ei lyncu gan y lluosfiliwnyddion sydd eisoes yn dominyddu diwydiant pysgota Prydain, ac mae hynny'n arwydd o’r hyn a allai ddigwydd i lawer o rannau eraill o'n diwydiannau hefyd.
Gan droi at safbwyntiau fy etholwyr, mae'r penderfyniad i atal ein pobl ifanc rhag parhau i gael cyfle i astudio yn Ewrop—mor agos, ond mor wahanol yn ddiwylliannol—wedi'i gondemnio gan lawer. Mae'n dangos meddylfryd Lloegr fach Llywodraeth Johnson ar ei fwyaf annymunol. Mae'n rhaid inni gofio mai'r rheswm pam y sefydlwyd y prosiect Ewropeaidd o gwbl oedd er mwyn atal rhyfeloedd rhwng ein gwledydd yn y dyfodol, ac roedd y rhaglen Erasmus+ ryfeddol hon—a luniwyd gan Gymro balch, Hywel Ceri Jones—o ddifrif yn helpu pobl ifanc i barchu a dathlu gwahaniaethau a dysgu o gryfderau ein gilydd. Nawr, yn ei lle, mae Llywodraeth y DU am—
A wnewch chi ddod â'ch cyfraniad i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf—anfon pobl ifanc i ben draw’r byd heb ganiatáu i bobl yn y gwledydd hynny ymweld â'n gwlad ni hyd yn oed. Mae hynny'n gwbl nodweddiadol o'r dyfodol rwy’n ei ofni, sef Llywodraeth y DU nad oes ganddi unrhyw barch at fuddiannau ein gwahanol wledydd, ond yn hytrach, buddiannau cul y blaid Dorïaidd a'i ffrindocratiaeth yn Llundain a'r de-ddwyrain.
Diolch. Nick Ramsay.
Nid yw’n gadael imi droi’r sain ymlaen.
Rydym yn eich clywed nawr.
A allwch chi fy nghlywed?
Gallwn.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar ddechrau'r ddadl hon, mae'n beth da fod y DU yn gadael yr UE gyda chytundeb. Yn fy marn i, byddai'r dewis arall wedi bod yn ofnadwy, er fy mod yn parchu barn y rheini sy'n anghytuno â hyn, safbwynt a eglurwyd yn huawdl heddiw gan Alun Davies ac eraill. Yn y pen draw, credaf y byddai gadael y cyfnod pontio heb gytundeb wedi creu risg enfawr i economi’r DU a Chymru ar adeg, gadewch inni wynebu’r peth, pan ydym yn buddsoddi cymaint o egni'n brwydro yn erbyn y pandemig. A beth bynnag y mae’r Prif Weinidog yn ei feddwl o feinciau’r wrthblaid a’n ffetisiau, a gaf fi ei sicrhau nad wyf yn un o’r rheini sy’n addoli wrth allor Margaret Thatcher bob bore? Serch hynny, yn debyg iddo ef, rwy'n cydnabod ei bod o blaid democratiaeth ar bob lefel, a'i bod, wrth gwrs, flynyddoedd yn ôl, yn frwd ei chefnogaeth i weld y DU yn ymuno â'r Gymuned Economaidd Ewropeaidd. Felly, daeth tro ar fyd.
Fel y mae Prif Weinidog Cymru wedi’i ddweud, mae hyn oll yn y gorffennol, ac mae'n fater o gytundeb neu ddim cytundeb. Yr hyn sy'n darparu sylfaen ar gyfer y dyfodol, yn fy marn i, yw'r cyntaf o'r rheini—y cytundeb hwn neu ddim cytundeb, dylwn ddweud. Bydd busnesau ledled Cymru yn croesawu’r newyddion fod y cytundeb yn diogelu masnach heb dariffau, yn y tymor canolig o leiaf, a symudiad pobl fusnes ledled yr UE ar gyfer teithiau busnes tymor byr. Pleidleisiais i aros yn yr UE yn 2016, fel y gwnaeth y mwyafrif yn fy etholaeth, ond mae'n rhaid inni gydnabod bod y rhan fwyaf o'r rheini a bleidleisiodd wedi pleidleisio i adael. Mae mwy na phedair blynedd wedi bod ers hynny, a cheir dyhead bellach i ddod ynghyd. Rwyf hefyd yn realydd, ac nid yw'r cytundeb hwn yn berffaith—mae'n bell o fod. Ond nid oedd y broses o adael byth yn mynd i fod yn hawdd, ac mae cytundebau’n aml yn cael eu cyrraedd ar yr unfed awr ar ddeg, ac mae agweddau ar y cytundebau hynny y byddai'r ddwy ochr yn awyddus i ailedrych arnynt ar ryw adeg yn y dyfodol.
Dywedodd Adam Price, yn ei araith angerddol yn gynharach, nad yw’r cytundeb hwn yn cynnig yr un amddiffyniadau i’n heconomi ag y mae aelodaeth o’r UE a’r farchnad gyffredin yn eu cynnig, ac mae hynny'n wir wrth gwrs. Mae hynny'n gwbl glir, gan nad ydym yn rhan o'r UE mwyach, ac am hanner nos ar yr unfed ar ddeg ar hugain, bydd y cyfnod pontio ei hun yn dod i ben hefyd. Nawr, efallai fod hynny’n siomedig i lawer, ond dyna ein sefyllfa ar hyn o bryd. Felly, mae'n bwysig ein bod yn gadael ar y telerau gorau posibl. Fel y dywedodd y cyn Ganghellor, Ken Clarke, byddai Brexit heb gytundeb wedi gwthio economi’r DU yn ôl dros 50 mlynedd. Wel, diolch byth, mae hynny wedi’i osgoi. Mae gennym sail i adeiladu arni ac i symud ymlaen, a chredaf ei bod yn bwysig nawr fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhoi cynlluniau ar waith i adeiladu ar y cytundeb hwn wrth inni symud ymlaen, ymladd y pandemig a cheisio adeiladu nôl yn well ac adeiladu nôl yn wyrddach.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru wrthym pa mor ofnadwy oedd y cytundeb hwn, yn union fel y dywedodd wrthym pa mor ofnadwy oedd y tair fersiwn o gytundeb Theresa May, ac yn union fel y dywed wrthym pa mor ofnadwy y byddai gadael heb gytundeb. O’i ran ef, yr unig gytundeb y gallai ei gefnogi yw aelodaeth barhaus o'r UE, ac yn hytrach na chefnogi'r penderfyniad democrataidd a wnaed gan Gymru a'r DU, penderfynodd yn hytrach gyda'i Lywodraeth a'r sefydliad hwn y byddai'n cynrychioli'r lleiafrif a bleidleisiodd i aros yn unig. Nawr, wrth gwrs, o safbwynt cynrychioli Plaid Diddymu Cynulliad Cymru, rwy'n croesawu'r ffaith bod hynny wedi helpu i fwrw amheuaeth ar ddatganoli, gan fod y sefydliad hwn wedi ceisio atal Brexit ac ewyllys ddemocrataidd pobl Prydain. Diolch byth, cafodd ei drechu.
O'm rhan i, mae'r cytundeb hwn fwy neu lai yn union ble yr hoffwn fod o ran pa mor agos yw'r berthynas barhaus â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n well gennyf hyn na dim cytundeb, gan gynnwys am resymau y mae eraill wedi sôn amdanynt. Yn sicr, mae'n well gennyf hyn na threfniant tebyg i gytundeb yr AEE neu drefniant o’r math a gynigiwyd gan Theresa May, a fyddai wedi ein cadw'n llawer agosach at yr Undeb Ewropeaidd. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i fy ngwrthwynebwyr, yn enwedig y Prif Weinidog, yn y Blaid Lafur am bopeth y maent wedi'i wneud i sicrhau'r cytundeb hwn. Gallent fod wedi dewis cytundeb o’r math a gynigiwyd gan Theresa May, gallent fod wedi gwthio am rywbeth efallai, a chael rhywbeth tebycach i'r AEE. Fe wnaethant ddewis peidio, a dewis gamblo ar geisio rhwystro Brexit. Diolch i chi am hynny, oherwydd beth y mae hyn wedi’i roi i ni: cytundeb sy'n adfer annibyniaeth ein gwlad. Hoffwn ddiolch hefyd, yn yr un modd, i'r 28 Aelod Seneddol Ceidwadol spartaidd, fel y'u gelwir, a wrthododd dderbyn trydydd cytundeb Theresa May hyd yn oed. Hoffwn ddiolch i Boris. Hoffwn ddiolch i'r Arglwydd Frost am ei negodiadau diflino, yn ogystal â dau DC: Dominic Cummings, am bopeth a wnaeth i gadw hyn ar y trywydd iawn, ac yn benodol am atal estyniad; a David Cameron, a roddodd y refferendwm i ni yn y lle cyntaf, a byddaf yn fythol ddiolchgar iddo am hynny, fel y gwn y bydd llawer o bobl eraill.
Mae’r cytundeb hwn yn cael gwared ar awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop o’n gwlad yn gyfan gwbl. Credaf fod hynny'n anhygoel—canlyniad bendigedig. Mae hefyd yn rhoi terfyn ar y warant arestio Ewropeaidd, sy'n beth da iawn yn fy marn i, a chredaf fod y trefniadau a fydd ar waith yn ei lle yn synhwyrol iawn ac yn sicrhau cydbwysedd da. Ac wrth gwrs, mae'n ein tynnu allan o'r farchnad sengl. Yn lle hynny, mae gennym gytundeb masnach rydd, a dyna rwyf ei eisiau, a chredaf ei bod yn dda iawn fod gennym y rheolau tarddiad llaciaf i gael eu negodi erioed, hyd y gwelaf. Maent yn cynnwys cyfuno llawn, yn ogystal â didoliad defnyddiol ar gyfer y sector modurol, yn enwedig mewn perthynas â batris trydan. Credaf fod hynny'n dda iawn. Y meysydd—. Rwy'n siomedig, wrth gwrs, nad yw pysgota cystal ag y byddwn wedi hoffi, ac wrth gwrs, yr hyn sydd wedi digwydd i Ogledd Iwerddon. Ond mae arnaf ofn fod hynny'n adlewyrchu dilyniant y negodiadau y cytunodd Theresa May arnynt gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac a gefnogwyd gan y Blaid Lafur. Yn hytrach, dylem fod wedi bod yn cyfnewid arian ar y diwedd am yr hyn roeddem ei eisiau, yn hytrach na bod eisoes wedi ildio llawer o'r pwerau y dylem eu cael ar gyfer Gogledd Iwerddon ac yna gwneud y trefniadau sydd gennym ar gyfer pysgota.
Serch hynny, ar bysgota, os yw'n cymryd tan 2026, byddwn wedyn yn gallu adfer y cyfan, llawer, o'r tri chwarter o'r hyn y mae'r UE yn parhau i’w bysgota yn ein dyfroedd, a chredaf y byddwn mewn sefyllfa dda i wneud hynny, gan mai’r unig dri maes y gall yr UE dalu'r pwyth yn ôl ynddynt yw'r trefniadau ar reolau tarddiad batris, a chredaf y cânt eu diddymu'n raddol beth bynnag, y budd. Ni chredaf y byddai talu'r pwyth yn ôl ym maes ynni, lle mae cyflenwadau enfawr o drydan yn cael eu hanfon atom wedyn, yn gredadwy. Felly, byddai hynny’n gadael Ffrainc a Sbaen yn unig i ddadlau y dylai eu defnyddwyr orfod talu tollau i'r Comisiwn Ewropeaidd fel cosb i ni pe baem yn eu cau allan o'n dyfroedd. Yna, byddem yn yr un sefyllfa â Gwlad yr Iâ a Norwy o ran talu'r tariffau hynny. Felly, credaf ei bod yn llawer mwy tebygol y byddwn yn cael negodiad a fydd o fantais fawr i ni oherwydd y ffordd y mae hynny wedi'i strwythuro.
Yn olaf, credaf mai’r unig beth sydd ar ôl gan y rheini sy’n gwrthwynebu hyn yw eu rhagolygon y bydd yr economi'n dirywio, ac wrth gwrs, beth os na fydd hynny’n digwydd? Credaf ei bod yn llawer mwy tebygol y bydd ein gwlad yn perfformio'n well na'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, ac yn enwedig yn y tymor agos, rwy'n credu—rwy'n hoffi masnach rydd, mae'n well gennyf gael llai o rwystrau a llai o rwystrau nad ydynt yn dariffau—i'r graddau fod gennym ddiffyg masnach enfawr gyda'r UE, os ydych yn gwneud y fasnach honno'n anoddach, os ydych yn creu amodau mwy heriol, bydd hynny'n annog cryn dipyn o gynhyrchu yn lle mewnforio, yn y tymor byr o leiaf, a'r hyn y bydd hynny'n ei olygu yw hwb i alw cyfanredol yn y DU ar adeg pan fo'r galw ledled Ewrop yn wan. Felly, rwy'n obeithiol ynghylch ein heconomi. Rwy’n cefnogi’r cytundeb hwn gan ei fod yn sicrhau ein bod yn masnachu gydag Ewrop ond yn ein llywodraethu ein hunain, a’n bod unwaith eto yn fwy na seren ar faner rhywun arall.
Lywydd, ers bron i 100 mlynedd, mae Senedd y DU wedi bod yn poeni ynglŷn â'r posibilrwydd o gamddefnyddio a thanseilio democratiaeth o ganlyniad i gytundebau masnach ryngwladol, a dyna pam y datblygwyd confensiwn, a roddwyd ar waith yn y pen draw yn 2010 gan y Ddeddf Diwygio Cyfansoddiadol a Llywodraethu. Roedd yn enghraifft o Senedd y DU yn adfer rheolaeth. Roedd hyn, o leiaf, yn rhoi cyfnod o 21 diwrnod i Senedd y DU graffu ar gytundebau masnach, ac os oedd yn teimlo bod angen, i gynnal dadl a phleidlais. Nawr, mae Bil yr Undeb Ewropeaidd (Perthynas yn y Dyfodol) wedi'i gyflwyno i osgoi craffu democrataidd effeithiol yn San Steffan ac yng ngwledydd y DU, ac mae goblygiadau'r Bil a'r cytundeb yn enfawr. Maent yn effeithio ar y modd yr arferir pwerau yng Nghymru a'r DU, ac maent yn canoli grym enfawr yn nwylo Gweinidogion y Llywodraeth, yn enwedig yn San Steffan. Nawr, mae hyn, yn fy marn i, yn ddirmyg yn erbyn y Senedd, ac mae'n sarhad ar Senedd Cymru a phobl Cymru, gan ei fod yn ein hatal rhag gallu ystyried mater cydsyniad deddfwriaethol. Mae hynny'n tanseilio confensiwn Sewel, ac mae'n tanseilio Deddf Cymru 2017, a roddodd statws deddfwriaethol i Sewel. Felly, mae'r ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi mynd i’r afael â hyn yn tanseilio democratiaeth seneddol ledled y DU ymhellach.
Gan ddychwelyd at y Bil a’r cytundeb masnach, yr unig beth y gellid ei ddweud o'i blaid yw ei fod yn darparu lle hanfodol i fusnesau Cymru allu anadlu, gan ganiatáu graddau cyfyngedig o fasnach ddirwystr am yr ychydig flynyddoedd nesaf. Byddai effaith uniongyrchol y dewis arall ar economi Cymru, sef mwy o dariffau a chyfyngiadau ar y ffin, fel y dywedwyd, wedi difetha rhannau cyfan o amaethyddiaeth Cymru a'r economi weithgynhyrchu. Ond ar wahân i hyn, mae'n gytundeb gwael iawn i Gymru a'r DU, ac unwaith eto, mae'n datgelu pa mor ddi-glem yw arweinyddiaeth y Llywodraeth Dorïaidd.
Yn y tymor hir, mae'n newyddion da iawn i'r UE, gan ei fod yn galluogi rhaglen bontio Ewropeaidd ar gyfer adleoli gwasanaethau ariannol a gweithgynhyrchu o'r DU yn raddol, proses a ddechreuodd gyda Brexit sawl blwyddyn yn ôl ac sydd bellach yn cynyddu'n gyflym. Ei effaith ar ein diwydiannau dur a modurol fydd dirywio buddsoddiad newydd yn raddol a’i adleoli. Felly, bydd y cytundeb, ar ei ffurf bresennol, yn parhau'r broses sydd newydd ddechrau o getoeiddio economi'r DU, wrth i borthladdoedd Cymru gael eu hosgoi er mwyn cael cysylltiadau uniongyrchol a dilyffethair rhwng Ewrop ac Iwerddon. Nid yw'r cytundeb yn darparu unrhyw amddiffyniadau tymor hir i hawliau gweithwyr nac i gynnal safonau amgylcheddol a bwyd, ac mewn gwirionedd, mae'n darparu'r union fecanwaith ar gyfer eu diddymu, a dyna a fwriadwyd heb amheuaeth, er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau. Hefyd, rhaid inni beidio â thwyllo’n hunain y bydd cytundeb masnach Biden yn gwneud unrhyw beth heblaw amddiffyn ac ehangu buddiannau'r Unol Daleithiau, sydd eisoes yn canolbwyntio ar fwy o gydweithrediad â'r UE, pan glywsoch sylwadau Biden ar ôl iddo gael ei ethol, yn gwthio'r DU i is-haen eilradd o ymgysylltiad. Nid yw'n cynnig unrhyw amddiffyniad i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac yn benodol y gwasanaeth iechyd gwladol, rhag trefniadau rheibus o'r fath, ac mewn gwirionedd, mae’n paratoi'r ffordd ar gyfer preifateiddio.
Nawr, mae diddymu Erasmus yn gam sydd eisoes wedi’i ddisgrifio fel fandaliaeth addysgol a diwylliannol, ac rwy'n annog Llywodraeth Cymru i fynd ati hyd eithaf ei gallu i archwilio’r posibilrwydd o sefydlu ein cytundeb Erasmus Cymru-UE ein hunain.
Nid yw Cymru’n rhan o'r cytundeb hwn—mae'n ôl-ystyriaeth. Mae anwybyddu buddion Cymru wedi’i atgyfnerthu gan y Ddeddf marchnad fewnol, sy'n dod â chonfensiwn Sewel i ben ac yn ailganoli grym mewn nifer fach o ddwylo yn Rhif 10 Stryd Downing, a hyd yn oed yn osgoi Senedd y DU. Felly, yr wythnos hon, rydym wedi gweld taflen asgell dde eithafol sarhaus yn cael ei dosbarthu yn ein cymunedau yn galw am ddiddymu Senedd Cymru. Nawr, mae cefnogaeth asgell dde plaid Dorïaidd Cymru i’r prosiect hwn yno i bawb ei gweld. Dyma'r un bobl a oedd y tu ôl i ymgyrch Brexit—cenedlaetholwyr Eingl-Brydeinig sy'n falch o weld yr Alban yn gadael y DU a Chymru’n cael ei hysbaddu. Pe baent yn llwyddo, byddai’n ddiwedd ar Gymru, a fyddai’n dod yn ddim mwy na rhanbarth yn Lloegr, gan nad diddymu’r Senedd yn unig y mae’r bobl hyn yn dymuno’i wneud, maent am ddiddymu Cymru, gyda chefnogaeth y Torïaid Cymreig, y bydd eu gweithredoedd, mae’n rhaid imi ddweud, yn cael eu cofio fel un o'r enghreifftiau mwyaf o frad yn erbyn y wlad hon.
Lywydd, mae'r cloc yn tician ar ddyfodol y DU, gyda Llywodraeth Dorïaidd nad oes ganddi unrhyw ddiddordeb yng Nghymru. Mae'r Torïaid truenus wedi dod yn gefnogwyr ymraniad y DU, sydd, ymddengys i mi, yn fwy a mwy deniadol ac anochel o fis i fis. Felly, mae'n hanfodol bellach fod sosialwyr, rhyddfrydwyr a phobl flaengar ledled Cymru yn dod ynghyd i gynllunio dyfodol newydd i Gymru ac i wledydd a rhanbarthau eraill y DU, a dywedaf fod yn rhaid inni wneud hyn cyn ei bod yn rhy hwyr.
Dwi'n gofyn i chi gefnogi dau welliant Plaid Cymru heddiw. Brexit caled ydy dêl Johnson. Dydy pobl Cymru ddim wedi rhoi mandad ar gyfer Brexit caled. Mae'n rhaid i'r Senedd yma ddangos gwrthwynebiad chwyrn iddo fo. Nid dewis rhwng dau ddrwg ydy'n gwaith ni heddiw yma. Yn hytrach, ein gwaith ni heddiw ydy arwyddo, drwy bleidlais symbolaidd, fod dêl Johnson yn niweidiol i Gymru ac nad ydyn ni yn ei chefnogi hi. Mi fyddai pleidleisio dros ein gwelliant 4 ni yn sicrhau'r safiad yna gan Senedd Cymru.
Mae Plaid Cymru wedi bod yn glir o'r dechrau: wnawn ni ddim cydsynio i danseilio economi a hawliau pobl Cymru, na chydsynio i niweidio dyfodol y cenedlaethau a ddaw ar ein holau ni. Doedd Plaid Cymru ddim yn rhan o greu saga Brexit. Mae'n gweledigaeth ni yn un sy'n ymestyn allan o Gymru at Ewrop a'r byd. Ond, nid y ffaith bod y Deyrnas Unedig wedi gadael sydd o dan sylw heddiw. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni roi pleidlais fydd yn agor y drws i niwed pellgyrhaeddol i'n gwlad. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru eisiau i ni gydsynio i fater nad ydym ni wedi cael cyfle i'w graffu e hyd yn oed. Pleidlais symbolaidd, rhoi sêl bendith i'r Toris yn San Steffan gael gweithredu cytundeb Johnson, cytundeb fydd wedi cael ei arwyddo ymhen oriau, efo'r broses ddemocrataidd yn cael ei diystyru’n llwyr. Felly, mae hi'n iawn i ni wrthod cefnogi'r fait accompli hwn heddiw.
Awydd criw o ddeinosoriaid Ceidwadol i ddal gafael ar bŵer—'Britannia rules the waves'—arweiniodd at Brexit. Ysgytwad olaf cynffon y deinosor ymerodrol, cyfalafol. Doedd hynny'n golygu dim i'r to iau gafodd gymaint o siom gyda'r canlyniad. Diolch i ffolineb David Cameron, fe fagodd prosiect Brexit stêm. Aeth yn brosiect ffals am bŵer a cholli pŵer, ac, fel dywedodd Adam Price rywdro, roedd pobl yn gofyn y cwestiwn iawn, sef, 'Beth sydd o'i le efo'n bywydau ni? Pam rydym ni'n teimlo'n ddi-rym a rhwystredig?' a rhai yn dod o hyd i'r ateb anghywir yn Brexit, ac, ar ben hynny, y spin, y celwyddau a'r addewidion ffals. Mae pobl Cymru yn dal i ofyn y cwestiwn cywir, 'Sut fedrwn ni greu bywydau gwell i'n plant?', ac mae mwy a mwy o bobl yn dod o hyd i ateb gwahanol y tro yma ac yn ymuno â rhengoedd Yes Cymru.
Nid trwy Brexit caled Johnson y byddwn yn teimlo'n rymus a hyderus, ac yn sicr nid trwy feddwl rywsut y gall Britannia ymerodrol reoli'r tonnau unwaith eto. Y ffordd ymlaen ydy annibyniaeth i Gymru—take back control go iawn y tro yma a chreu ein dyfodol ein hunain, dêl well i holl bobl Cymru, troi siom ein pobl ifanc yn llawenydd a chreu gobaith o'r newydd ar gyfer cymunedau ym mhob rhan o Gymru.
Diolch. Ac yn olaf, Caroline Jones.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn wahanol i Lywodraeth Cymru, byddaf fi, a mwyafrif pleidleiswyr Cymru, yn cefnogi cytundeb Brexit a diwedd y cyfnod pontio ar ddiwedd yr wythnos hon. O'r diwedd, rydym yn rhydd rhag rheolaeth fiwrocrataidd yr UE, a gallwn edrych ymlaen at berthynas fasnach rydd fodern â gweddill y byd yn hytrach na pharhau i fod wedi ein clymu wrth floc masnachu ynysig, diffyndollol. Bellach, gall Cymru fwynhau'r syniad o fasnach ddi-dariff gyda gweddill y byd, a dyna sut y dylid masnachu bob amser. Rydym yn rhydd i brynu a gwerthu nwyddau heb gyfyngiadau. Yn anffodus, nid dyma'r dull a roddir ar waith gan yr UE. Byddai'n well ganddynt amddiffyn tyfwyr olewydd Sbaen, ffermwyr Ffrainc, gwneuthurwyr ceir yr Almaen na masnachu'n deg ar lwyfan byd-eang.
Rydym yn cynyddu masnach drwy gynhyrchu cynhyrchion unigryw y mae pobl am eu prynu, ac wrth gwrs, cawsom ein cyflyru i ddewis ffordd o weithredu gan gorfforaethau mawr sy'n blaenoriaethu elw dros bopeth arall. Gwelsom enghraifft o hyn yr wythnos diwethaf, pan fu ein porthladdoedd dan warchae gan y Ffrancwyr o dan yr esgus eu bod yn atal lledaeniad COVID-19. Roedd yr archfarchnadoedd mawr yn rhybuddio am brinder bwyd oherwydd ôl-groniad mewn porthladdoedd. Gwrthwynebodd ffermwyr Prydain eu honiadau, ond yn hytrach na phrynu cynnyrch Prydeinig o safon, fe wnaeth yr archfarchnadoedd drefnu awyren gargo i gludo bwyd tramor rhatach yma. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin wedi dinistrio ein cynhyrchiant domestig, a chan ein bod bellach yn rhydd o'r polisïau hyn, rwy'n gobeithio y gallwn ddod yn fwy hunangynhaliol o ran bwyd ac y bydd yr archfarchnadoedd yn blaenoriaethu cynnyrch Prydain. Ac mae'r pandemig hwn wedi dangos na allwn ddibynnu ar fasnach sy'n llifo'n rhydd bob amser. Gellir cau ffiniau dros nos. Fe wnaeth aelod-wladwriaethau'r UE hyd yn oed anwybyddu Schengen pan oedd hynny’n gyfleus iddynt.
O'r diwedd, rydym yn rhydd rhag yr UE ac mae'n bryd inni edrych ymlaen at ddyfodol gwell i Gymru, a chredaf yn llwyr yn y dyfodol gwell hwnnw, er gwaethaf y degawdau o danfuddsoddi gan Lafur a'r Torïaid yn ein seilwaith. Mae'r diffyg buddsoddiad hwn wedi ein dal yn ôl, ac rwy'n gobeithio y bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn gwneud gwelliannau mawr i’n seilwaith ffyrdd, rheilffyrdd a chyfathrebu i sicrhau bod Cymru'n barod i gystadlu ar lwyfan byd-eang. Gallwn fod yn arloesol a gallwn arwain y byd os oes gennym y seilwaith cywir yn ei le.
Y bygythiad mwyaf sy'n wynebu ein gwlad a'n rhywogaeth o hyd yw newid hinsawdd, ond mae hefyd yn rhoi cyfle i ni. Rydym yn ddigon bach ac yn ddigon hyblyg i groesawu’r economi werdd, a chyda'r buddsoddiad cywir, gallwn arwain y byd mewn technoleg werdd. Gallwn ddatblygu technoleg adnewyddadwy, fel môr-lynnoedd llanw, os ydym yn barod i ganolbwyntio ar fargen werdd newydd. Rwy’n annog Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau’r buddion mwyaf posibl wrth inni ddadrwymo ein gwlad o dâp coch yr UE, ac rwyf hefyd yn annog y ddwy Lywodraeth i weithio gyda’i gilydd yn gadarnhaol, gyda’i gilydd dros Gymru a’r DU. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. Nid oes yr un Aelod wedi dweud ei fod yn dymuno gwneud ymyriad, felly galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i ymateb i'r ddadl. Jeremy Miles.
Dirprwy Lywydd, gaf i ddechrau drwy gydnabod y synnwyr o ryddhad sydd ar led bod cytundeb yn bodoli, er mor annigonol yw hwnnw? O'i gymharu â'r opsiwn arall o adael y cyfnod pontio heb gytundeb, mae'n sicr bod yr opsiwn hwn yn well. Ond y gwir amdani, Llywydd, yw bod Llywodraethau ar draws y Deyrnas Unedig wedi treulio pedair blynedd a hanner a symiau aruthrol o arian a chyfalaf gwleidyddol i gyrraedd pwynt lle mae gyda ni ddau opsiwn: bargen wan neu ddim bargen o gwbl. Dyna'r realiti. Petai cyfran fach o'r ymdrech honno wedi'i ffocysu ar greu sail gefnogaeth eang, gallem ni fod wedi cael bargen a fyddai'n delifro ar ganlyniad y refferendwm, ond hefyd yn cadw cysylltiadau economaidd agosach. Mae cyfran helaeth o'r cyfrifoldeb am hynny wrth draed Llywodraethau Ceidwadol yn San Steffan sydd wedi bod â mwy o gonsyrn am undod eu plaid nag am ddiogelu incwm a bywoliaeth pobl Cymru a gweddill y Deyrnas Unedig.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu efallai fod arweinydd yr wrthblaid wedi darllen crynodeb hyrwyddo Llywodraeth y DU yn hytrach na'r cytundeb ei hun, fel y dywedodd Alun Davies. Cyfeiria Paul Davies ato fel cytundeb masnach rydd, ond mae'r cytundeb hwn yn golygu, o 1 Ionawr ymlaen, y bydd allforwyr Cymru yn wynebu masnach gyda'n partner mwyaf sy'n llawer llai rhydd, gyda rhwystrau cwbl newydd i fasnach, ac, ar ben hynny, bydd gan ein hasiantaethau gorfodi lai o offerynnau at eu defnydd i'n cadw'n ddiogel, a bydd gan ein dinasyddion lai o hawliau i fyw lle ac yn y modd y dewisant.
Ac ar adeg pan fo gweddill y byd yn gweithio gyda'i gilydd ac yn dod yn fwy rhyngddibynnol ac integredig, mae Llywodraeth y DU wedi ein gwthio tuag at fod yn ynysig drwy flaenoriaethu syniad hollol anfodern ac afreal sofraniaeth. Ni allai disgrifiad Siân Gwenllian yn ei chyfraniad i'r cynnig fel gwahoddiad i gefnogi'r nodwedd hon yn llythrennol fod ymhellach o'r realiti.
Byddem ni yn Llywodraeth Cymru wedi gosod llwybr gwahanol, ond rydym drwyddi draw wedi ceisio chwarae rôl adeiladol wrth ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar negodiadau—blaenoriaethau clir wedi'u cefnogi gan dystiolaeth gadarn. Mae'n ofid i mi na chawsom ein cynnwys gan Lywodraeth y DU yn y negodiadau ar unrhyw adeg yn y ffordd roedd y Senedd hon a phobl Cymru yn ei disgwyl. Dim ond oriau cyn iddo gael ei gyhoeddi y cawsom fanylion y cytundeb ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, dim ond y noson cyn iddo gael ei roi ar-lein y cawsom fersiwn ddrafft o'r Bil.
Nododd Mick Antoniw yn ei sylwadau y ffordd roedd Llywodraeth y DU wedi methu ystyried atebolrwydd democrataidd yn y Bil hwn, ac ni all fod yn sail i'r Senedd hon gydsynio i un o'r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth ers cenhedlaeth. Ar y sail honno, rydym yn gwrthod gwelliant y Ceidwadwyr ac rydym hefyd yn gwrthod gwelliant Caroline Jones, sy'n disgrifio byd mor bell o realiti bywydau pobl ac a fyddai'n niweidio bywoliaeth pobl yng Nghymru i'r fath raddau.
O ran y gwelliannau gan Blaid Cymru, ar welliant 3 byddwn yn pleidleisio yn erbyn, nid am ein bod yn anghytuno â gair o'r hyn y byddai'n ei ychwanegu—rhywbeth a nodwyd gan Dai Lloyd, ac yn wir roedd yn ailadrodd geiriau'r Prif Weinidog wrth wneud hynny—ond oherwydd yr hyn y byddai'n ei ddileu. Er mor wan yw'r cytundeb, gofynnir inni gredu fod Plaid Cymru bellach yn credu nad yw gadael heb gytundeb yn waeth. Wel, nid yw hwnnw'n safbwynt credadwy. Byddwn yn ymatal ar welliant 4. Er gwaethaf yr hyn a ddywed arweinydd Plaid Cymru, y gwir amdani yw y byddai ef, bob un ohonom yn wir, yn gandryll pe bai Senedd San Steffan yn ein cyfarwyddo ni sut y dylem bleidleisio, felly ni allwn gyhoeddi gwaharddebau tebyg iddynt hwy.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn droi at ein parodrwydd ar gyfer yr hyn y mae Michael Gove yn ei galw'n 'daith ysgytiog' dros yr wythnosau nesaf. Mae'r llwybr a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a'u penderfyniad i fwrw ymlaen o dan unrhyw amgylchiadau a phob amgylchiad, waeth pa mor heriol, wedi golygu y buom yn paratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yn sgil anrhaith gwaethaf yr epidemig COVID. Ond yn ein cynllun gweithredu ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, rydym wedi nodi beth rydym yn ei wneud i fynd i'r afael â'r risgiau posibl o darfu ar y cyflenwad nwyddau ac i baratoi busnesau a gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer y newidiadau mawr sy'n dod i rym o nos yfory ymlaen. Cawn ein barnu, a hynny'n briodol, ar y ffordd y defnyddiwn yr ychydig ysgogiadau sydd gennym at ein defnydd, a byddwn yn sicrhau bod Llywodraeth y DU hefyd yn cael ei dwyn i gyfrif am y gweithredoedd y maent yn gyfrifol amdanynt.
Ddirprwy Lywydd, rydym yn oriau olaf y cyfnod pontio ac ychydig yn fwy na diwrnod i ffwrdd o berthynas newydd â'n partneriaid Ewropeaidd. Nid oes angen unrhyw gyngor ar Lywodraeth Cymru gan feinciau'r Ceidwadwyr ynglŷn ag edrych i'r dyfodol. Yn sicr, nid ni yw'r rhai sydd wedi cael ein llyncu gan ryw hiraeth niwlog am orffennol wedi'i ddelfrydu yn yr ymdrech hon. Ond wrth edrych fel y gwnawn i'r dyfodol, Ddirprwy Lywydd, fel y dywedodd Dawn Bowden wrthym yn ei chyfraniad heddiw: gadewch inni beidio ag anghofio mai negodiadau Llywodraeth y DU oedd y rhain, a chytundeb Llywodraeth y DU yw hwn. A hwy, yn y pen draw, fydd angen eu dwyn i gyfrif gan bobl Cymru am ei ganlyniadau.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gallaf weld llaw wedi'i chodi a chlywais wrthwynebiad. Diolch. O'r gorau, iawn, diolch. Felly, fe ohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon nawr tan y cyfnod pleidleisio.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y cyfarfod am bum munud cyn inni symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio. Diolch.