– Senedd Cymru ar 22 Medi 2021.
Eitem 7 yw dadl Plaid Cymru ar wythnos waith pedwar diwrnod. Galwaf ar Luke Fletcher i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7780 Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y newid mewn arferion gwaith o ganlyniad i bandemig COVID-19 a bod llawer o fanteision lles a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith wedi dod o ganlyniad i hyn.
2. Yn credu bod angen diwygio arferion gwaith i ymateb i heriau'r chwyldro awtomeiddio.
3. Yn nodi â diddordeb bod llywodraethau yn yr Alban, Sbaen ac Iwerddon yn bwriadu cynnal cynlluniau peilot ar lefel genedlaethol ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod.
4. Yn cydnabod bod cynlluniau peilot o wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac wedi arwain at lawer o weithwyr yn symud i oriau byrrach heb ostyngiad mewn cyflog.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Nghymru i archwilio'r manteision i holl weithwyr Cymru, yr economi a'r amgylchedd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r hen ffyrdd o weithio ar ben—neu o leiaf, dyna rwy'n gobeithio y gallwn ei ddweud erbyn diwedd y ddadl hon. Mae canlyniadau pandemig COVID-19 i weithgarwch economaidd, cyflogaeth a'n ffordd o weithio wedi bod yn bellgyrhaeddol. Gyda gweithio gartref yn norm i lawer, gwelodd gweithwyr ledled Cymru a'r byd newid cadarnhaol, amlwg o ran creu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. Nid oedd yn rhaid i lawer o weithwyr gymudo am oriau bob dydd; daeth cyfarfodydd wyneb yn wyneb a ddylai fod wedi bod yn alwad ffôn yn alwad ffôn; a daeth galwad ffôn a allai fod wedi bod yn e-bost yn e-bost. Canfu llawer o weithwyr fod gallu treulio mwy o amser gartref a chyda'u teulu wedi gwella eu lles corfforol a meddyliol.
Er gwaethaf hyn, fel y dengys adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig ar COVID a'r byd gwaith a gyhoeddwyd y llynedd, mae'n wir dweud nad oedd pob gweithiwr wedi elwa o gydbwysedd lles o'r fath a rhwng bywyd a gwaith. Mae wythnos waith pedwar diwrnod, o'i wneud yn iawn, yn un ffordd o sicrhau y gellir cynnwys y manteision hyn yn ein harferion gwaith a'u teimlo gan bob gweithiwr, boed ar gyflogau uwch neu is.
Yr hyn y mae'r pandemig wedi'i ddangos yn glir yw bod newidiadau radical er gwell yn bosibl pan fydd y Llywodraeth yn gwneud pethau'n iawn. Mae economi'r DU wedi bod yn anghytbwys ers tro, gan niweidio gweithwyr ar y naill ben a'r llall, ac mae'r argyfwng presennol yn bygwth gwaethygu'r effeithiau negyddol ar iechyd meddwl i'r miliynau sy'n ei chael hi'n anodd dod o hyd i unrhyw waith neu fwy o waith, a niferoedd tebyg sy'n dymuno lleihau eu horiau. Os yw misoedd cyntaf yr argyfwng yn unrhyw arwydd o'r hyn sydd i ddod, mae hefyd yn awgrymu y bydd yr effeithiau hyn yn cael eu teimlo'n gryfach o lawer gan fenywod ac yn ein gwthio ymhellach oddi wrth economi gyfartal rhwng y rhywiau.
Yn 1930, rhagwelodd John Maynard Keynes na fyddai cyflogeion, 100 mlynedd yn ddiweddarach, yn gweithio mwy na 15 awr yr wythnos. Y rhesymeg y tu ôl i hynny oedd y byddai datblygiadau technolegol cyflym yn rhyddhau'r gweithlu, gan roi mwy o amser ar gyfer hamdden. Mae'n ymddangos bod un agwedd ar y broffwydoliaeth hon yn gywir: erbyn 2030, mae amcangyfrifon ceidwadol yn dangos y bydd 30 y cant o'r swyddi presennol wedi'u colli i awtomeiddio. Mae datblygiadau technolegol yn trawsnewid byd gwaith, ac ar hyn o bryd, ystyrir bod awtomeiddio'n addewid ac yn fygythiad, a'r canfyddiad yw bod yr addewid yn y potensial y gall awtomeiddio ryddhau gweithwyr o lafurwaith oriau hir a chryfhau cyflogau drwy gyfran mewn elw o gynhyrchiant yn y dyfodol, tra bod yr ofn yn y perygl o ddiswyddiadau torfol, wrth i ddatblygiadau mewn technoleg ddechrau lleihau'r galw am lafur, yn ogystal ag ehangu anghydraddoldebau.
Os mai o fudd i'r rhai sydd â chyfran mewn cyfalaf busnes yn unig fyddai'r elw o gynhyrchiant a ragwelir o awtomeiddio, mae perygl inni wireddu'r dyfodol dystopaidd a welwn yn aml wedi'i ddarlunio mewn llyfrau a ffilmiau. Yr hyn sy'n amlwg yn awr yw y bydd byd gwaith yn newid yn eithriadol o gyflym dros y degawd nesaf, a heb ymyriadau polisi blaengar, byddwn yn colli cyfle i rannu manteision awtomeiddio'n deg ar draws cymdeithas ac i wneud cynnydd ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau cymdeithasol. Mae wythnos waith fyrrach yn un ffordd o rannu buddion cynnydd technolegol.
Nawr wrth gwrs, bydd fy nghyd-Aelodau'n siarad am amryw o bwyntiau yn ystod y ddadl hon, ac edrychaf ymlaen at gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr. Ond hoffwn atgoffa'r Aelodau nad oes angen inni edrych yn bell i weld ein cymdogion yn bwrw ymlaen ag wythnos pedwar diwrnod. Mae'r Alban ac Iwerddon, er enghraifft, eisoes wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer cynllun peilot, ac mae Sbaen hefyd wedi cyhoeddi bwriad i dreialu wythnos waith pedwar diwrnod ymhlith cwmnïau sydd â diddordeb mor gynnar â'r hydref hwn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs, Tom.
Diolch i Luke am yr ymyriad. A yw'n ymwybodol fod cynllun peilot Sbaen, i bob golwg, yn cynnwys cymorth sy'n lleihau dros amser, a fyddai, yn amlwg, yn golygu y byddai'n rhaid i gwmnïau Sbaen ddiswyddo gweithwyr o bosibl, neu godi costau ar ddiwedd hynny? Felly, efallai nad y cynllun Sbaeneg y sonioch chi amdano yw'r un y byddwn i'n ei ddefnyddio yn eich enghraifft chi.
Wel, wrth gwrs, roeddwn ar fin symud ymlaen at fodel Gwlad yr Iâ. Ond wrth gwrs, mae ffyrdd eraill o'i wneud, ac mae'n gywir i gyfeirio at rai o'r anfanteision gyda model Sbaen. Ond os edrychwn ar dreial Gwlad yr Iâ, gwelwn fod gweithwyr yno'n cael yr un swm am oriau byrrach, a hefyd yn gweld cynhyrchiant yn aros yr un fath neu'n gwella yn y rhan fwyaf o weithleoedd. Erbyn hyn mae 86 y cant o weithwyr Gwlad yr Iâ naill ai wedi newid i oriau gwaith byrrach am yr un cyflog neu byddant yn cael hawl i wneud hynny. Ac roedd y manteision i iechyd a lles yn glir—dywedodd gweithwyr eu bod yn teimlo llai o straen ac mewn llai o berygl o fod wedi'u gorweithio drwy well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.
Mae'r pwynt olaf hwnnw ar gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith yn arbennig o bwysig mewn perthynas â'r DU. Mae gwybodaeth a ddarparwyd gan Gyngres yr Undebau Llafur yn dangos, yn seiliedig ar ddata cyn y pandemig, fod gweithwyr llawn amser yn y DU wedi gweithio rhai o'r oriau hwyaf yn yr UE, gydag 1.4 miliwn o weithwyr yn gweithio saith diwrnod o'r wythnos.
Ond nid Llywodraethau yn unig sy'n edrych ar wythnos waith pedwar diwrnod. Mae nifer gynyddol o gwmnïau'n dechrau gweld gwerth y syniad; un enghraifft yw Unilever, sy'n bwriadu newid gweithwyr yn Seland Newydd i wythnos waith pedwar diwrnod.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n cytuno na allwn ddisgwyl cynnal y status quo mewn arferion gwaith. Fel y dywedais yn gynharach, mae awtomeiddio, a'r pandemig wrth gwrs, wedi, ac yn mynd i newid byd gwaith am byth. Ni allwn gladdu ein pennau yn y tywod. Er lles pob gweithiwr yng Nghymru, rwy'n gobeithio y byddai'r Senedd hon yn cytuno bod mwy i fywyd na gwaith.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Rwy'n galw ar Joel James i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rhaid imi gyfaddef, mae gennyf gryn gydymdeimlad â'r Dirprwy Weinidog; nid yn unig eich bod yn trafod materion sydd o fewn eich cylch gwaith, ond mae'n ymddangos yn awr fod yn rhaid ichi wastraffu amser gwerthfawr yn trafod materion nad oes gennych unrhyw ddylanwad drostynt o gwbl. Yn wir, credaf fod y Gweinidog wedi dweud yn gyhoeddus o'r blaen nad yw mater yr wythnos waith pedwar diwrnod wedi'i ddatganoli a'i fod y tu allan i gylch gwaith y Llywodraeth hon yng Nghymru.
Fodd bynnag, fel gwrthblaid gyfrifol, mae fy mhlaid i'n credu mai ein dyletswydd yw ymateb i bob mater yn y Siambr hon, hyd yn oed os mai'r unig ganlyniad posibl i'r ddadl hon yw y bydd gan Blaid Cymru rywbeth i'w roi yn ei thaflenni. Felly, Ddirprwy Lywydd, hoffwn gynnig yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Ein safbwynt ni yw nad yw'r cynigion ar gyfer wythnos waith pedwar diwrnod yn seiliedig ar realiti, oherwydd dibynnant yn llwyr ar y rhagdybiaeth y bydd cynhyrchiant—cyfradd gwaith yr awr—yn cynyddu os bydd cyflogeion yn gweithio llai o oriau am yr un cyflog. Sut y gall meddygon, nyrsys, dynion tân, athrawon, gyrwyr ambiwlans fod yn fwy cynhyrchiol nag y maent eisoes? Mae mesur cynhyrchiant yn gymhleth iawn—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Diolch ichi am hynny, Joel. Roeddwn yn meddwl tybed a fyddai Joel yn cytuno â mi, ar yr adeg pan oeddent yn ceisio gweithredu penwythnos a gwyliau â thâl, mae'n debygol fod pobl debyg yn dweud yn union yr un peth â chi—ei fod yn afrealistig ac yn amhosibl ei gyflawni.
Wel, nid wyf o reidrwydd yn poeni am y gorffennol—rwy'n poeni mwy am y presennol a'r dyfodol.
Mae mesur cynhyrchiant yn fater cymhleth iawn ac nid oes cydberthynas linellol rhwng gweithio llai, cael eich talu yr un fath a chynnydd mewn cynhyrchiant. Os yw cynhyrchiant yn cynyddu, mae'n golygu bod rhaid i'r cyflogai wneud pum diwrnod o waith mewn pedwar diwrnod. Byddai'r cynigion hyn, yn fy marn i, yn wrthgynhyrchiol i rai pobl oherwydd, wrth i oriau gwaith ddod yn fwy dwys, byddai llai o amser ar gyfer amser egwyl a llai o amser ar gyfer symud rhwng tasgau a lleoliadau. Er y gall cwmnïau mawr iawn leihau llwyth gwaith pobl drwy ostwng nifer y diwrnodau gwaith, rwy'n dadlau y bydd llawer o sefydliadau llai yn dal i ddisgwyl yr un llwyth gwaith am yr un cyflog. Ac felly, yr hyn y bydd wythnos waith pedwar diwrnod yn ei wneud yn y pen draw yw creu rhaniad, lle byddai rhai gweithwyr yn y sector cyhoeddus a sefydliadau mawr yn mwynhau gweithio llai, tra byddai eraill yn gweithio'n galetach dros y pedwar diwrnod mewn ymdrech i gadw busnesau ar agor.
Yn Utah, er enghraifft, rhoddwyd y gorau i'r wythnos waith pedwar diwrnod yn 2011, oherwydd, er bod gweithwyr y sector cyhoeddus wedi mwynhau diwrnod ychwanegol o'r gwaith, cafwyd cryn dipyn o gwynion na allai pobl gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Hefyd, ychydig iawn o fudd y byddai'r cynigion hyn yn eu rhoi o ran iechyd a lles i weithwyr ar y cyflogau isaf, a allai gael eu temtio i chwilio am waith ychwanegol ar y diwrnod ychwanegol y byddent fel arfer wedi gweithio. Mae'n debyg y bydd llawer o sefydliadau, gan gynnwys ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn ei chael hi'n anodd ateb y galw pe bai eu staff yn gweithio llai o oriau. Yn yr un modd, er mwyn sicrhau bod yr un oriau gweithredu ar gael, mae'n ddigon posibl y byddent yn ei chael yn anodd cyflogi staff â chymwysterau digonol sy'n barod i weithio'n rhan-amser, a fyddai wedyn yn effeithio ar argaeledd cyffredinol gwasanaethau. Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig arall ynglŷn ag a fyddai plant ysgol hefyd yn cael addysg am bedwar diwrnod yr wythnos, neu a fyddai'n rhaid i ysgolion gyflogi set lawn o staff addysgu cymwysedig am un diwrnod yn unig.
Nodaf fod Plaid Cymru a Luke wedi sôn am Wlad yr Iâ, ond cynnig y wlad honno yw lleihau'r wythnos waith gyfartalog o 40 awr i tua 36 awr heb ostwng cyflogau. Yn ôl Swyddfa Ystadegau Gwladol y DU, yr wythnos waith gyfartalog yn y DU ychydig cyn COVID oedd 36.9 awr. Felly, mewn theori, mae Gwlad yr Iâ mewn gwirionedd yn lleihau eu horiau gwaith fel eu bod yn debyg i oriau gwaith gwledydd eraill.
Yn olaf, a gaf fi ychwanegu nad yw gorfodi wythnos waith pedwar diwrnod i weithwyr yn cyd-fynd â'r syniad o gymdeithas iach gyda hawliau i ddewis? Yn anffodus, dim ond eu cydweithwyr sydd gan lawer o bobl yn gysylltiadau cymdeithasol ac maent yn treulio amser gyda hwy ar sail reolaidd yn ystod oriau gwaith. Bydd eu gorfodi i golli 20 y cant o'u cyswllt ag eraill, yn ogystal â gwneud eu diwrnod gwaith yn fwy dwys, yn niweidio eu hiechyd meddwl.
Nid oes amheuaeth yn fy meddwl—mae cynnig y dylai Llywodraeth Cymru dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yn ddiystyr, ac yn y pen draw, yn annoeth, fel rwy'n gobeithio ein bod wedi dangos. Nid yw materion cyflogaeth yn rhan o gylch gwaith Llywodraeth Cymru, maent wedi'u cadw'n ôl i Lywodraeth y DU, ac ni ddylem fod yn gwastraffu ein hamser yn trafod cynnig fel hwn. Dyna pam ein bod wedi cynnig ein gwelliannau. Diolch.
Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Lesley Griffiths.
Yn ffurfiol.
Rwy'n falch iawn o siarad yn y ddadl hon y prynhawn yma. A dywedir yn aml fod i syniadau eu moment—moment mewn amser pan fydd yn gwneud synnwyr inni fynd ar eu trywydd. Nawr, fel rhywun a oedd yn arbenigo mewn rheoli newid yn fy rôl flaenorol fel peiriannydd, fy ngwaith i oedd deall pryd oedd y foment honno a sut i baratoi pobl ar gyfer newid. Dyna fy safbwynt ar y syniad o wythnos waith pedwar diwrnod. Rwy'n ei gefnogi a byddaf yn cynnal digwyddiad yfory i'w archwilio ymhellach yng Nghymru.
Lywydd, rwy'n hapus i gefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, os teimlant fod angen amser arnynt i gasglu tystiolaeth ac edrych ar dreialon cyn gweithredu, oherwydd rhaid inni wneud hyn yn iawn. Ond dywedaf wrth y Llywodraeth: wrth gefnogi eich llwybr chi mewn perthynas â hyn yn hytrach na mynd yn syth at dreial, byddwn yn disgwyl ymrwymiad gwirioneddol i fwrw ymlaen â hyn, ac i'r gwasanaeth sifil weithredu'n gyflym a sicrhau bod hyn ar waith yn gyflym lle gallwn weld newid gwirioneddol yn digwydd.
Lywydd, dros 18 mis yn ôl bellach, ysgrifennais erthygl ar gyfer LabourList, y gwn y bydd fy nghyd-Aelodau wedi'i darllen yn drylwyr dros eu gwyliau haf. Awgrymais dri phwnc a syniad y teimlwn eu bod yn cynrychioli'r math o newidiadau beiddgar y mae angen inni eu hystyried yma yng Nghymru. A bydd fy nghyd-Aelodau'n gwybod mai cynlluniau peilot incwm sylfaenol cyffredinol, bargen newydd werdd ar gyfer gweithgynhyrchu ac edrych ar wythnos waith pedwar diwrnod oedd y rheini. Nawr, nid yw'r syniadau hyn yn gweithio ar eu pen eu hunain, ond maent yn sicr yn ategu ei gilydd. Ac rwy'n hapus i ddweud nad fy syniadau i ydynt, ond rwy'n falch iawn fod pleidiau o bob rhan o'r Senedd yn edrych arnynt yn gadarnhaol.
Rhaid inni gydnabod, Lywydd, fod y drefn yn y DU yn annerbyniol. Mae'r straen a'r pwysau ar bobl sy'n gweithio wedi cynyddu ac mae cyflogau wedi aros yn eu hunfan bron. Mae wythnos pedwar diwrnod yn rhoi gwell cydbwysedd bywyd a gwaith i bobl, mae'n caniatáu amser o ansawdd iddynt eu hunain, amser i wirfoddoli, amser i ddysgu, amser i ganiatáu iddynt wneud y dewisiadau y maent yn eu haeddu. Mae hefyd yn helpu i fynd i'r afael â'r epidemig o straen a'r lefelau enfawr o orbryder a ddaw yn sgil bywyd modern. Ac yn hollbwysig, mae'r dystiolaeth yn awgrymu ei fod yn helpu gyda chynhyrchiant. Y realiti i'r rhai sy'n gwrthwynebu wythnos pedwar diwrnod—ac mae angen iddynt dderbyn y realiti hwn—yw ein bod yn gweithio oriau hir iawn yn y wlad hon, ac mae cynhyrchiant yn is nag mewn llawer o wledydd tebyg.
Nawr, fel y soniais, peiriannydd ydw i ac rwy'n teimlo bod gennyf ddealltwriaeth o'r hyn sydd gan dechnoleg i'w gynnig yn y dyfodol. Mae awtomeiddio'n digwydd, a gall naill ai ddisodli gweithwyr neu wneud eu bywydau'n haws a chwmnïau'n fwy cynhyrchiol. Yn syml, Lywydd, dylem i gyd rannu manteision awtomeiddio a dylem i gyd fwynhau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith. [Torri ar draws.] Â phleser, James.
Diolch. Gallai wythnos waith pedwar diwrnod greu system ddwy haen gyda gweithwyr, gyda'r rhai sy'n gallu gweithio pedwar diwrnod yr wythnos, a'r rhai yn ein diwydiant prosesu bwyd, ein ffermwyr a'n gyrwyr lorïau, sy'n cadw bwyd ar ein byrddau ac ar ein silffoedd, sy'n methu gwneud hynny. Ac fel rhywun—rwy'n gwybod, eich hun—sy'n hyrwyddo tegwch yn y gweithle, a ydych yn credu bod hynny'n deg, y gallem weld system ddwy haen yma yng Nghymru?
Wel, rwy'n falch iawn fod fy ngwaith ar degwch wedi bod o ddiddordeb brwd i'r Aelod dros Frycheiniog a Sir Faesyfed. Y broblem sydd gennych ar y meinciau draw yno, fel y dywedais o'r blaen—. Mae eich cyd-Aelod wedi'i roi yn syml yn ei gyfraniad nad yw'n poeni am y gorffennol, dim ond am y dyfodol. Y broblem sydd gennych—[Torri ar draws.] Y broblem sydd gennych gyda hynny yw bod y dadleuon wedi dyddio. Felly, pe bawn i'n edrych ar wythnos waith pedwar diwrnod, er enghraifft, yr hyn y byddwn yn ei awgrymu y dylai'r Aelodau ar y fainc honno ei wneud mewn gwirionedd yw cael trafodaeth wybodus, oherwydd rwy'n credu—. Rwy'n croesawu eich cyfraniadau i'r ddadl, gan mai dadl yw hi, ond byddwn yn awgrymu eich bod yn edrych yn fwy cadarnhaol ar y syniadau a'r dystiolaeth sydd ar gael.
Mae llawer o'r dadleuon yn erbyn yr wythnos pedwar diwrnod yn gyfarwydd—maent yn gyfarwydd. Rydym wedi dweud eu bod yn wrthwynebiadau sydd wedi dyddio. Mae Luke Fletcher o Blaid Cymru yn iawn: dyna'r un dadleuon a gafwyd yn erbyn y penwythnos; yr un fath yn erbyn gwyliau â thâl; absenoldeb tadolaeth; hyd yn oed y Deddfau a oedd yn atal plant rhag gweithio. Maent yn honni y bydd yn niweidio cynhyrchiant, ond nid ydynt yn oedi i fynd i'r afael â'r rhesymau go iawn pam y mae cynhyrchiant yn wael yn y DU, am nad ydynt am wynebu hynny.
Lywydd, wrth orffen—ac rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y cynnig pwysig hwn heddiw, ac edrychaf ymlaen at y digwyddiad yfory i barhau'r sgwrs, digwyddiad y gwn fod cyd-Aelodau o bob cwr o'r Siambr yn garedig iawn yn mynd i'w fynychu—rwyf am ddweud fy mod yn falch o gynrychioli Plaid Lafur Cymru a'r mudiad Llafur ehangach, oherwydd daethom i fodolaeth er mwyn sicrhau mwy o degwch i bobl sy'n gweithio ac i mi, mae wythnos pedwar diwrnod yn uchelgais realistig ar gyfer gwneud hynny. Felly, gadewch inni barhau i gael y sgwrs hon. Gadewch inni gyflwyno cynigion fel yr un heddiw i drafod y mater, a gadewch i ni ei wireddu yma yng Nghymru.
Er eu bod wedi effeithio ar bob un ohonom, mae effeithiau'r pandemig wedi bod yn unrhyw beth ond cyfartal. Mae ymchwil yn tanlinellu hyn dro ar ôl tro. Clywn sôn am ddysgu gwersi caled y pandemig, am adeiladu'n ôl yn well, am fanteisio ar y cyfle i newid a gynigir gan y persbectif newydd a orfodwyd arnom gan argyfwng. Mae mabwysiadu ffordd newydd o weithio, wrth gwrs, yn un cyfle o'r fath. Gallai wythnos waith pedwar diwrnod fod yn allweddol i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwnnw, nad oes iddo le mewn cymdeithas fodern ac sydd wedi'i ddatgelu mor glir gan y pandemig, sef anghydraddoldeb rhywiol.
Er bod mwy o fenywod yn gweithio'n rhan-amser na dynion, mae ganddyn nhw lai o amser sy'n rhydd o waith. Maen nhw'n fwy tebygol o fod yn pwytho sawl swydd ran-amser at ei gilydd er mwyn cadw pen uwchben y dŵr. Ond maen nhw'n llawer mwy tebygol o fod â llai o amser rhydd o waith am eu bod nhw'n cyflawni rolau di-dâl. Pan ddaeth y gorchymyn i weithio gartref, roedden i'n rhan o dîm o weithwyr oedd yn famau. Rwy'n gallu tystio i effaith chwalu eu rhwydwaith cymhleth ac allweddol o gefnogaeth: y strwythur bregus o ysgolion, meithrinfeydd, gofalwyr plant, aelodau o'r teulu, ffrindiau ac yn y blaen. Fe ddisgynnodd y rhan helaeth o'r cyfrifoldebau gofal yn ddisymwth ar ysgwyddau menywod yn bennaf, ac mae'r hyn a ddadlennwyd mor glir am anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn rhywbeth y mae'n rhaid inni weithredu i'w newid. Achos, waeth beth fo'u cyflog, mae ymchwil yn dangos bod menywod sy'n gweithio wedi gwneud mwy o ofal plant na dynion sydd ar gyflog tebyg. Mewn ymchwil gan Chwarae Teg, fe welwyd bod menywod wedi gorfod torri eu horiau gwaith er mwyn gallu ymdopi gyda gwaith di-dâl, fel gofalu. A'r menywod mwyaf bregus yn economaidd ac yn gymdeithasol sy'n cael eu heffeithio arnynt yn bennaf.
Ond dyw'r anghydraddoldebau yma ddim yn rhai newydd. Ers degawdau, mae Llywodraethau o bob lliw wedi methu â chefnogi gallu pobl i gwrdd â'u hanghenion sylfaenol a'r rhai sy'n ddibynnol arnynt. Mae yna gysylltiad llawer cryfach hefyd rhwng gorweithio a phroblemau iechyd meddwl menywod. Hyd yn oed cyn y pandemig, roedd y lefelau o straen sy'n gysylltiedig â'r gweithle deirgwaith yn uwch i fenywod. Sut felly byddai wythnos pedwar diwrnod yn helpu taclo anghydraddoldebau?
Gadewch inni fod yn glir, nid yw'r wythnos waith pedwar diwrnod yn ffordd o ddatrys yr holl anghydraddoldebau hyn. Mae angen i'n dealltwriaeth o waith yn ei gyfanrwydd newid, ac mae hyn yn gyraeddadwy yn fy marn i. Mae'r modd y gwnaethom dderbyn arferion gwaith newydd radical mewn cyfnod mor fyr yn dangos hyn. Nid gwaith cyflogedig yw'r unig faes sydd angen ei ailddychmygu, ond byddai'r cyfle a gynigir gan wythnos waith pedwar diwrnod i fenywod yn fwy effeithiol na'r myrdd o adolygiadau a pholisïau cydraddoldeb rhywiol sy'n cael eu defnyddio mewn modd anwastad ac sy'n cael eu monitro mewn modd anwastad, ac sydd felly ond wedi cael llwyddiant cyfyngedig wrth fynd ati i sicrhau tegwch i fenywod. Sawl gwaith y siaradwyd yn y lle hwn am gydbwysedd rhwng y rhywiau mewn bywyd sifil ac mewn gwleidyddiaeth? Bydd rhoi mwy o amser i fenywod fynd ar drywydd bywyd mewn gwaith a thu hwnt i waith yn helpu i gynyddu cyfranogiad a chynrychiolaeth menywod yn y sefydliadau y mae fwyaf o angen iddynt ddeall eu profiadau. Wrth gwrs, rhaid i unrhyw ddiwygio i'r wythnos waith fod o fudd i bob gweithiwr, a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd-gymdeithasol ym mhob maes, fel y clywsom.
Mae ymateb i'r argyfwng hinsawdd yn gofyn am ail-lunio ein system economaidd mewn pob math o ffyrdd. Mae'n rhaid i'r byd gwaith fod wrth galon yr economi sero carbon ac mae oriau gwaith a sut rydyn ni'n diffinio gwaith yn greiddiol i hynny. Er mwyn sicrhau bod gan bawb lais wrth ffurfio'r gymdeithas gynaliadwy y mae'n rhaid inni ei chyd-greu, rhaid sicrhau bod pawb yn cael eu hymrymuso ac yn elwa o'r newidiadau y byddai diwygio'r byd gwaith yn eu meithrin. Rhaid sicrhau nad yw'r gweithwyr ar y cyflogau isaf—a menywod, wrth gwrs, yw'r rhan fwyaf o'r rheini—yn cael eu gorfodi i chwilio am waith ychwanegol neu fethu â chael mynediad at gyfleusterau hamdden neu gefnogaeth gofal fforddiadwy.
Rhaid sicrhau bod diwygio patrymau gwaith yn mynd law yn llaw â diwygio amodau a thelerau gwaith, a dyna pam fod cyfraniad undebau llafur mewn unrhyw drawsnewidiad yn allweddol i amddiffyn y rhai sydd mewn sefyllfa anghyfartal yn gymdeithasol ac yn economaidd rhag cael eu hanfanteisio ymhellach. A dyna pam fod peilot yn hanfodol, a dyna beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i weld yr effeithiau a'r datrysiadau sydd eu hangen i weld sut gallai'r syniad blaengar hwn fod yn rhan o'r ateb i ddileu anghydraddoldebau dwfn sy'n creithio ein cymdeithas ac yn atal datblygiad economi deg a chynaliadwy. Mae gan Gymru gyfle i ddangos i'w phobl ac i'r byd mai dyna yw ein dyhead. Rwy'n eich annog chi i gefnogi'r cynnig.
Prin fod y model gwaith a ddefnyddiwn yn awr wedi newid ers dyddiau ffatri'r penteuluoedd gwrywaidd yn y 1950au. Mae'n fodel sy'n golygu bod menywod yn llawer mwy tebygol o roi'r gorau i weithio i ymgymryd â chyfrifoldebau gofalu, ac ar hyn o bryd mae menywod yn gwneud 60 y cant yn fwy o waith di-dâl na dynion ar gyfartaledd. Ai dyma'r ffordd rydym am fyw mewn gwirionedd? Mae pobl wedi'u gorweithio, yn profi straen mewn gwaith a phroblemau iechyd meddwl, yn colli bod gyda phlant ac yn colli cyfleoedd hamdden ac addysg. Mae COVID wedi gorfodi mwy o weithio hyblyg ac mae hynny'n rhywbeth y dylem geisio ei gadw ar ôl COVID.
Ac mae Cymru mewn sefyllfa dda i arwain yn hyn o beth. Cyflogir traean o'r holl weithwyr yng Nghymru yn y sector cyhoeddus, gan roi cyfle perffaith i ni dreialu wythnos waith pedwar diwrnod. Ar ôl COVID a mwy na degawd o gyni, mae gweithwyr y sector cyhoeddus wedi'u gorweithio, wedi'u llethu ac wedi ymlâdd. Ac mae'n bwysig gwneud prawf straen ar y syniad hwn. Gellid dadlau ei fod yn syniad hawdd ei weithredu yn y sector cyhoeddus, mewn rolau proffesiynol neu swyddi rheoli efallai, ond rhaid inni feddwl, fel y dywedwyd, am yr effaith ar ein gweithwyr llaw, ein ffermwyr, y rhai sy'n gweithio ym myd amaeth. Felly, rwy'n croesawu cynnwys galwad yn y cynnig i dreialu'r wythnos waith pedwar diwrnod mewn gwahanol sectorau. Ond rwyf am bwysleisio y dylai cynllun peilot geisio deall sut ac nid os cyflwynwn y trawsnewidiad hwn sy'n newid bywydau ledled Cymru. Mae'n amlwg fod yna ystyriaethau ymarferol i feddwl amdanynt, ond nid oes gennyf amheuaeth y byddai wythnos waith pedwar diwrnod o fudd i bob gweithiwr ym mhob sector, a byddai o fudd i'n heconomi hefyd.
Ceir cryn dipyn o dystiolaeth hefyd y byddai wythnos waith pedwar diwrnod yn cefnogi ein hymdrechion i ddiogelu ein hamgylchedd yn ogystal. Dyma'r mathau o syniadau y dylem eu trafod, ac ni allwn fforddio eu hanwybyddu. Mae angen i'n heconomi weithio dros bobl a'r blaned, a hyd yma nid yw wedi gwneud hynny. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn syniad cyffrous ac arloesol a allai newid bywydau. Felly, gadewch inni edrych ar sut y gallwn dreialu hyn. Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n ddiolchgar iawn am gael siarad yn y ddadl yma heddiw ar bwnc mor bwysig. Mae gan wythnos waith pedwar diwrnod y potensial i fod yn drawsnewidiol i Gymru, a dylem gefnogi'r syniad am lu o resymau. Mae COVID wedi rhoi cyfle inni adeiladu economi well sy'n gweithio i bobl Cymru, a dylem gofleidio'r cyfle hwn i fod yn flaengar. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn syniad sy'n cyd-fynd yn berffaith â'r her a osododd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru i greu, a dyma'r dyfyniad,
'dull dewr a blaengar o lunio polisïau a meddwl yn hirdymor sy’n rhoi amrywiaeth, yr economi lesiant, mynd i’r afael ag allyriadau a cholli bioamrywiaeth, a dysgu gydol oes ar flaen ein meddyliau.'
Ar fater comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rwy'n ymwybodol o waith ei swyddfa, mewn partneriaeth â'r felin drafod Autonomy, sy'n ymwneud ag wythnos pedwar diwrnod ac incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru. Byddai'n addysgiadol ac yn hanfodol gweld yr adroddiadau llawn fel y gallant helpu i lunio'r ddadl o amgylch y syniadau blaengar hyn. Byddai'n dda cael unrhyw ddiweddariadau gan y Llywodraeth ar yr adroddiadau hynny heddiw.
Bydd llawer ohonom wedi bod mewn swyddi lle cawsom brofiad o fod wedi ein gorweithio. Os ydych chi'n ddigon ffodus i beidio â bod wedi profi hynny, mae'n debygol iawn eich bod yn adnabod rhywun sydd wedi profi hynny. Mae ystadegau Llywodraeth y DU o 2019-20 yn dangos bod mwy na hanner yr afiechyd sy'n gysylltiedig â gwaith y flwyddyn honno'n deillio o straen, iselder neu orbryder yn gysylltiedig â gwaith. Mae ein model gweithio presennol yn achosi niwed di-ben-draw i weithwyr, felly gallai wythnos waith fyrrach helpu i leihau lefelau gorweithio a straen. Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn rhan o'r ateb i'r broblem a achosir gan straen bywyd modern. Bydd yn gwella lles meddyliol, gan y bydd yn caniatáu mwy o amser rhydd i bobl ymlacio.
Rwy'n llefarydd Plaid Cymru ar gymunedau, ac rwy'n gyffrous ynglŷn â'r effaith bosibl y byddai wythnos waith pedwar diwrnod yn ei chael ar gymunedau ledled Cymru, gan y byddai'n cynyddu'r cyfleoedd ar gyfer gwirfoddoli. Byddai'n gwella lles meddyliol, iechyd corfforol a'r ffordd y mae pobl yn edrych ar eu bywydau. Gwyddom hyn o'r treialon yn Utah, a ddangosodd lefelau uwch o wirfoddoli ar ôl arbrawf 12 mis. Mae hyn yn ategu'r syniad fod llawer o'n gweithwyr am fod yn rhan o'r broses o drawsnewid cymdeithas er gwell, os cânt y cyfle.
Er mwyn sicrhau'r enillion niferus hyn i bobl mewn cymdeithas, mae angen inni sicrhau bod rhai egwyddorion a pholisïau ar waith. Ni ddylid colli cyflog, yn bennaf oll. Dylid darparu mannau gwyrdd, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig, ac mae Gwern y Domen yn nalgylch Caerffili yn dod i'r meddwl fel lle y dylem ei warchod. Dylid cael mwy o arian ar gyfer theatrau a'r celfyddydau i annog cyfranogiad y cyhoedd, a dylem ehangu llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a meysydd chwaraeon i gynnig mwy o weithgareddau di-garbon mewn cymunedau lleol. Dylid cael mwy o gefnogaeth i bosibiliadau addysg a hyfforddiant i oedolion fel y gellir eu cyfuno â mwy o amser rhydd i hybu sgiliau.
Mae'r rhain i gyd yn bethau fyddai'n cyfrannu at sicrhau Cymru decach, fwy llewyrchus ac hapusach. Mae'n siŵr bydd hi'n groes i'r graen i rai yn y Siambr hon i gefnogi unrhyw fesur a fyddai'n helpu i greu wythnos waith well i bobl gyffredin, ac rydyn ni'n nabod y bobl rheini. Ond, fodd bynnag, rwy'n galw heddiw arnoch chi sy'n credu mewn hawliau gweithwyr ac yn ystyried eich bod yn wleidyddion blaengar i gefnogi Plaid Cymru yn y ddadl hon, i gefnogi ein cynnig ac i gefnogi gweithwyr Cymru. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Er nad wyf yn cytuno â hi, credaf ei bod yn bwysig cyflwyno pob agwedd ar y ddadl. Ynghanol pandemig byd-eang, argyfwng ynni Ewropeaidd a phrinder bwyd byd-eang, heb sôn am broblemau iechyd a gofal yn y wlad hon, rwy'n credu ei bod yn ddiddorol fod Plaid Cymru wedi dewis y ddadl hon ar rinweddau arbrawf cymdeithasol—neu efallai y dylwn ddweud arbrawf sosialaidd. Nid y gallai'r lle hwn weithredu iwtopia wythnos pedwar diwrnod Plaid Cymru, gan fod hwn yn fater a gadwyd yn ôl i Senedd y DU. Darllenais friff y TUC ddoe, a ofynnai yn y bôn beth oedd peryglon posibl wythnos pedwar diwrnod, a dywedodd nad oes gan y Senedd bŵer i ddeddfu dros yr uchafswm y gall rhywun weithio, ac ni all ychwaith godi'r isafswm cyflog i gydbwyso'r golled ariannol pe bai cyflogwr yn gostwng oriau eu gweithwyr heb gynnydd cyfatebol mewn cyflog yr awr, ac nid oes gan y Senedd bŵer i newid unrhyw un o'r rheolau ynghylch credyd cynhwysol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i lawer o hawlwyr weithio neu chwilio am waith am 35 awr yr wythnos neu fod mewn perygl o gael eu cosbi. Ond—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, fe ildiaf.
Rwy'n gwerthfawrogi hynny, Gareth. Pan ddarllenoch chi friff Cyngres yr Undebau Llafur, hoffwn wybod a oeddech chi'n ystyried ymuno ag undeb mewn gwirionedd—[Torri ar draws.]—gan fod yr undebau'n achubiaeth i gymaint o weithwyr a phobl dosbarth gweithiol yng Nghymru.
Diolch yn fawr iawn am eich sylw crafog ynglŷn ag undeb, Jack. Nid wyf yn aelod o undeb, ac nid wyf yn arbennig o awyddus i fod, yn anffodus.
Ond efallai mai dyma gynllun mawreddog Plaid Cymru; efallai eu bod am dwyllo'r cyhoedd yng Nghymru i gredu y gallent weithio diwrnod yn llai am yr un cyflog, ond mai dim ond Cymru annibynnol yn cael ei harwain gan Blaid Cymru a allai gyflawni hynny. Wel, ffantasi ydyw, yn union fel yr un y gall Cymru oroesi heb gymorthdaliadau gan drethdalwyr Lloegr. Nid yw'r cynnig yn sôn bod y rhan fwyaf o'r cynlluniau peilot wedi methu am eu bod yn anfforddiadwy. Fel y freuddwyd gwrach iwtopaidd sosialaidd arall, incwm sylfaenol cyffredinol, mae gweithio pedwar diwrnod yn amhosibl ei weithredu.
Fy mhryder mwyaf fel Gweinidog yr wrthblaid dros wasanaethau cymdeithasol yw'r effaith y byddai hyn yn ei chael ar y sector gofal. Ni allwn lenwi'r swyddi sydd eu hangen i ddarparu gofal da a diogel fel y mae, heb sôn am gynyddu'r gweithlu un rhan o bump. Ym mis Awst, nododd prif arolygydd Arolygiaeth Gofal Cymru mewn ysgrifen yr hyn y mae llawer ohonom wedi bod yn ei ddweud ers misoedd—mai recriwtio a chadw staff oedd un o'r pryderon mwyaf mewn perthynas â gofal cymdeithasol: 'Oni bai bod pobl yn dod i mewn i'r gweithlu gofal cymdeithasol, ein hofn ni yw y bydd mwy a mwy o bobl yn y pen draw yn mynd i ofal preswyl yn gynharach nag y bydd angen iddynt ei wneud, neu y byddant yn mynd i'r ysbyty os oes ganddynt broblemau iechyd lluosog.' Mae cartrefi gofal yn dweud eu bod yn gosod hysbysebion recriwtio yn ddyddiol, ac eto ni ddaw unrhyw gais i law. Dywedodd un pennaeth cartref gofal:
'Mae staffio'n enbyd. Nid oes gennym ddigon o bobl yn dod i mewn i'r diwydiant gofal ac mae gennym bobl yn gadael yn eu heidiau.'
Mae mor ddrwg fel bod cannoedd o swyddi gwag yn cael eu hysbysebu bob wythnos. Mae hyn ar ben y prinder cronig a nodwyd cyn y pandemig. Mae Llywodraeth Cymru yn cyfaddef bod angen iddynt recriwtio 20,000 o weithwyr gofal ychwanegol erbyn diwedd y degawd, a hynny i gadw pethau fel y maent heb ystyried bod traean o'r gweithlu'n agosáu at oedran ymddeol. Pe baem yn cefnogi arbrawf cymdeithasol diweddaraf Plaid Cymru, byddai angen 10,000 o staff ychwanegol arnom yfory. Mae'n rhaid i gefnogwyr mwyaf llafar gweithio pedwar diwrnod hyd yn oed gyfaddef bod hynny'n amhosibl. Gadewch inni ganolbwyntio ein hymdrechion ar ddatrys problemau ein sector gofal yn hytrach na cheisio troi Cymru'n rhyw fath o wlad ffantasi iwtopaidd. Rwy'n annog yr Aelodau i wrthod cynnig Plaid Cymru, a chefnogi ein gwelliannau. Diolch yn fawr iawn.
Mabon ap Gwynfor.
Well i fi gael fy hun yn barod, ynte? Diolch yn fawr iawn, Llywydd.
Cymer dy amser, Mabon.
Mi wnaf, diolch. Dwi ddim yn gwybod os ddaru Joel wrando ar y ddadl gyfansoddiadol ddoe, lle clywsom ni am ddeddfwriaeth o'r ymerodraeth Rufeinig, am Hywel Dda, am Iorwerth, ac enghreifftiau eraill mewn hanes. Ond rydw innau am ddechrau trwy droi at hanes er mwyn dangos bod posib mynd i'r afael â heriau mawr cymdeithasol, gan wella safon byw pobl drwy leihau oriau gwaith.
Ystyriwch dwf ein chwaraeon cenedlaethol ni—pêl-droed, rygbi, criced—neu ystyriwch dwf ein trefi glan môr, a threfi sba, neu ehangu gorwelion pobl efo theithiau trên a'r holl rinweddau cymdeithasol a gafwyd o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i'r 1930au, pan gyflwynwyd y penwythnos fel rydyn ni'n ei adnabod heddiw. Daeth y buddiannau yma, i raddau helaeth, yn sgil yr ymgyrch i leihau oriau gwaith pobl yn y cyfnod hwnnw. Heddiw, wrth gwrs, argyfyngau eraill sy'n wynebu ein cymdeithas ni, dim mwy na'r argyfwng newid hinsawdd. Beth bynnag am y rhestr ddaru Gareth ddweud ynghynt, yr argyfwng newid hinsawdd ydy'r un mawr sydd yn wynebu ein planed ni heddiw. Unwaith eto, gallai'r ymgyrch yma i leihau oriau gwaith chwarae rhan bwysig yn y datrysiad.
Sut, felly? Wel, mae asesiadau’n dangos bod sifftio i wythnos waith o bedwar diwrnod heb golli tâl yn medru lleihau ôl troed carbon y Deyrnas Gyfunol o 127 miliwn tunnell y flwyddyn erbyn 2025, sydd yn gwymp o dros 21 y cant yn ein hallyriadau carbon ni. Yn gynharach eleni, rhyddhaodd Platfform adroddiad ar fuddion amgylcheddol wythnos waith llai, a ddangosodd gwymp sylweddol yn y defnydd o drydan oherwydd bod gweithwyr yn gweithio i ffwrdd o'r unedau mawr sydd â pheiriannau defnydd dwys sydd i'w gweld yn ein swyddfeydd ar hyd a lled y wlad. Eto, ddaru Joel gyfeirio at Utah—a does neb yn dweud y bydd hyn yn berffaith; mae yna broblemau yn mynd i fod, a dyna pam ein bod ni'n cyfeirio at beilot—ond yn Utah ddaru'r arbrawf yna arwain at arbedion ynni sylweddol.
Y flwyddyn ddiwethaf, cyhoeddodd Autonomy adroddiad a oedd yn adolygu data o'r defnydd ynni mewn aelwydydd yn y Deyrnas Gyfunol yn ystod dyddiau gwaith o'u cymharu â phenwythnosau. Fe ddaeth yr adroddiad i’r casgliad y byddai penwythnos tri diwrnod yn lleihau allyriadau carbon o 117,000 tunnell yr wythnos. Rŵan, mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn eithriadol mewn sawl ffordd, ond rydyn ni'n gweld patrymau gwaith pobl yn ailsefydlogi, efo ffyrdd yn cychwyn prysuro a thraffig trwm yn ystod yr oriau brig, unwaith eto. Mae tri chwarter y gweithlu yn ein hardaloedd gwledig yn ddibynnol ar deithio i'r gwaith mewn cerbyd preifat. Y car sydd hefyd yn tra-arglwyddiaethu yn y trefi a dinasoedd, efo bron 70 y cant yn defnyddio'r math yma o drafnidiaeth. Mae'n sefyll i reswm y byddai wythnos waith llai o hyd yn cael effaith ar hyn.
Mae gwaith gan Brifysgol Reading yn dangos bod wythnosau byrrach yn arwain at lai o siwrneiau mewn cerbydau preifat. Maen nhw'n amcangyfrif y byddai dros hanner biliwn o filltiroedd yn llai yn cael eu teithio bob wythnos, sydd wrth gwrs yn golygu llai o allyriadau a llai o gostau teithio. Mae'r adroddiad yma gan Brifysgol Reading yn mynd ymhellach, ac yn awgrymu y byddai achosion da fel elusennau sydd angen gwirfoddolwyr yn elwa, fel ddaru Sioned gyfeirio at ynghynt, ac y byddai lles ac iechyd teuluol ar eu hennill wrth i bobl ddweud y byddent yn treulio mwy o amser gartref. Byddai wythnos waith o bedwar diwrnod yn rhyddhau mwy o amser—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Diolch yn fawr iawn. O ran beth a ddywedwch, tybed a allwch egluro i mi sut y byddai hyn yn effeithio ar addysg yng Nghymru.
Wrth gwrs, does neb yn dweud y buasai hyn yn berffaith. Yr hyn yr ydym yn ei gynnig fan hyn, a'r hyn dwi'n meddwl bod y meinciau acw ddim yn dallt, ydy mai cynnig peilot ydyn ni er mwyn gweld sut y buasai'n effeithio ar addysg, ar amaethyddiaeth ac ar y sectorau i gyd. Felly dyna pam dwi ddim yn dallt eich bod chi'n gwrthwynebu hyn; profwch ni'n anghywir.
Byddai wythnos waith o bedwar diwrnod yn rhyddhau mwy o amser a lle ym mywydau pobl ar gyfer gweithgareddau mwy llesol a boddhaol, a byddai hefyd yn llai niweidiol yn amgylcheddol, ac yn cyfoethogi yn anghymesur bywydau pobl mewn amryw ffyrdd. Mae astudiaethau Ffrainc yn atgyfnerthu hyn, gan ddangos bod gan y rhai sy'n gweithio oriau hwy batrymau amgylcheddol mwy niweidiol. Wrth adolygu effaith lleihau oriau gwaith i 35 awr yr wythnos yno, er enghraifft, gwelir tueddiadau amlwg tuag at weithgareddau mwy domestig gan ddefnyddio llai o garbon, a threulio mwy o amser yng nghwmni'r teulu, gyda newid diwylliant cadarnhaol o ganlyniad. Felly mae'r gwobrau amgylcheddol yn sylweddol. Mae'n rhaid treialu'r syniad yma er mwyn pwyso a mesur effaith lawn y syniad. Cefnogwch ein cynnig ni. Diolch.
Rwy'n credu bod cynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd fel mesur yn mynd yn rhy bell. Mae cyfradd straen, iselder a gorbryder sy'n gysylltiedig â gwaith yn parhau i godi ledled y DU. Roedd chwarter yr holl ddiwrnodau salwch y llynedd yn ganlyniad i lwyth gwaith, gan gostio biliynau o bunnoedd i fusnesau a'r sector cyhoeddus. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd meddwl, ac mae Aelodau ar bob ochr yn gwybod nad oes gennym adnoddau na staff GIG i drin y symptomau'n ddigonol.
Nid peiriannau yw gweithwyr. Mae gan weithwyr deuluoedd a bywydau i'w byw. Efallai fod angen inni weithio er mwyn byw, ond ni ddylem fyw er mwyn gweithio. Credaf y dylai iechyd, lles a hapusrwydd fod yn fesur, nid cynnyrch domestig gros a chynhyrchiant yn unig. Mae pobl yn cael eu gwasgu i farwolaeth wrth gynyddu cynhyrchiant ac effeithlonrwydd i wneud arian drwy'r amser. Ni allant wneud mwy.
Gwn o'm profiad personol fel gweithiwr post fod gweithwyr o dan bwysau cyson i weithio dyddiau hirach, heb sicrwydd o fwy o oriau dan gontract. Bellach, mae pawb sy'n dechrau o'r newydd yn y Post Brenhinol yn cael cynnig wythnos waith 25 awr, ond mae disgwyl iddynt weithio 35, 40 awr yr wythnos. Roedd rhai o'r rowndiau y byddwn i'n eu gwneud yn cynnwys 600 o dai ar un rownd. Roedd yn rhaid imi gerdded 12 milltir y dydd i gwblhau'r rownd honno. Maent newydd ei godi i 800 o dai ar y rownd honno am fod y cyfrifiadur yn dweud bod modd gwneud hynny. Roeddwn yn ffodus fy mod yn ei wneud bedwar diwrnod yr wythnos ochr yn ochr â fy ngwaith fel cynghorydd, felly roedd gennyf ddyddiau pan allwn orffwys. Ond rwy'n gwybod bod y gweithwyr post, y rhai newydd sy'n gorfod gwneud y rowndiau hirach hyn, yn gweithio'u hunain yn dwll. Mae'n effeithio ar eu cymalau, eu hiechyd a'u lles.
Mae hwn yn fater pellgyrhaeddol. Mae cyfraddau cadw athrawon yn parhau i ostwng. Mae mwyfwy o gysylltiad rhwng y lefel uchel o drosiant staff yn y GIG a chydbwysedd gwael rhwng bywyd a gwaith. Dyma rydym yn ei glywed drwy'r amser, onid e? Bydd rhai'n honni na allwn fforddio wythnos pedwar diwrnod. Mae hynny'n anwybyddu'r dystiolaeth sy'n dangos mwy o gynhyrchiant ar ôl cyflwyno wythnos pedwar diwrnod. Mae cyfyngu'r ddadl i ymarfer cost syml yn anwybyddu cost enfawr salwch meddwl i'n cymdeithas a'n heconomi, a'r manteision y mae cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith yn eu cynnig i les unigolion.
A gaf fi ddweud hefyd fy mod wedi bod yn edrych ar swyddi ar-lein—mae fy ngŵr wedi bod yn edrych hefyd—ond mae rhai o'r patrymau shifftiau bellach yn erchyll? Gwelais un swydd; roedd yn galw am weithio 12 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos am yr wythnos gyfan, wedyn byddech yn cael yr wythnos ganlynol i ffwrdd. Sut y gallwch chi ofalu am eich teulu wrth wneud hynny? Sut y gallwch chi drefnu i gasglu plant o'r ysgol? Ni allaf weld sut y byddai hynny'n digwydd. A'ch cloc corfforol hefyd, yn gweithio saith diwrnod, 12 awr y dydd am wythnos, ac wythnos i ffwrdd. Mae hyn eto oherwydd cynhyrchiant ac effeithlonrwydd, oherwydd mae ffatrïoedd yn gweithio mewn shifftiau 12 awr. Fe'i gwelais hefyd pan oeddwn yn aelod cabinet dros wasanaethau stryd, rhaid imi gyfaddef—ceisio cadw'r cerbydau i symud, oherwydd bod hynny'n hybu effeithlonrwydd. Ond nid robotiaid yw pobl. Mae'r cyfan yn gadael ei effaith.
Mae'r mudiad Llafur wedi bod yn gyfrifol am newid aruthrol yn y wlad hon, o'r penwythnos i wyliau â thâl, isafswm cyflog a phensiynau'r gweithle. A gaf fi ddweud fy mod yn falch o'm cyd-Aelod Jack Sargeant am roi sylw i'r mater hwn? Oherwydd roeddwn wedi clywed am hyn o'r blaen. A diolch eto am gyflwyno'r ddadl yma heddiw, Luke. Rwy'n cefnogi cynnig Llywodraeth Cymru i archwilio'r dystiolaeth sydd ar gael fel y gall ein mudiad barhau i fod ar flaen y gad yn sicrhau mwy o degwch i weithwyr yng Nghymru. Mae'n rhaid i hyn ddigwydd. Rwy'n credu ein bod ar ymyl y dibyn. Felly, diolch yn fawr.
Galwaf nawr ar y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol i gyfrannu—Hannah Blythyn.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon heddiw a'r cyfle i gyfrannu ar ran Llywodraeth Cymru. Mae pandemig y coronafeirws wedi trawsnewid y ffordd yr edrychwn ar bron bopeth yn ein bywydau bob dydd, gan gynnwys byd gwaith, ac mae wedi rhoi momentwm ychwanegol i'r posibilrwydd o sicrhau cydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith sy'n cefnogi ein lles personol a chyfunol.
Mae cyflymder a graddfa'r newid yn y byd gwaith yn aruthrol, ac mae'r pandemig wedi cynyddu diddordeb mewn arferion mwy hyblyg, o weithio o bell a gweithio'n agosach i'r cartref yn fwy hirdymor i ystyriaethau mwy amlwg ynglŷn â newid i wythnos waith pedwar diwrnod. Mae'r model traddodiadol o ddiwrnod wyth awr, pum diwrnod yr wythnos wedi'i dreulio mewn man gwaith penodol yn gynyddol anghydnaws â'r ffordd y mae llawer o weithwyr eisiau byw eu bywydau, ac nid dyma'r ffordd y mae llawer o gyflogwyr am drefnu eu gweithgarwch eu hunain chwaith.
Nid yw'r parhad yn y cynnydd mewn gweithio o bell ac awtomeiddio, fel y clywsom, yn ddim ond dau o'r grymoedd sy'n gweithredu fel—[Torri ar draws.] Yn gyflym.
Gyda'r cytundeb cydweithredu y ceisiwch ei weithio gyda Phlaid Cymru, a fydd hyn yn un o'r eitemau ar yr agenda rydych yn bwriadu cydweithio arni? [Aelodau o'r Senedd: 'O.']
Mae arnaf ofn, Janet Finch-Saunders, fy mod yn credu bod ateb y cwestiwn hwnnw ymhell uwchlaw'r hyn y caf fy nhalu i'w wneud. Felly, fel y clywsoch yn gynt, dim ond dau o'r grymoedd sy'n gweithredu i wthio a thynnu tuag at batrymau gwaith gwahanol yw'r cynnydd mewn gweithio o bell a phethau fel awtomeiddio. Newidiadau sy'n cyflwyno her, ond cyfle hefyd: her, oherwydd nid yw arferion gwaith hen ffasiwn ac sydd wedi dyddio yn addas i'r diben mwyach, a chyfle oherwydd bod cynnig dewisiadau go iawn ynglŷn â phryd a sut y mae gweithwyr yn gweithio yn galw am ddull blaengar a chyfiawn o ystyried arferion gwaith. Heb fod yn rhy hir yn ôl, y farn fwyaf cyffredin o sawl cyfeiriad oedd nad oedd gweithio gartref yn bosibl, na fyddai'n gweithio, ac na fyddai pobl yn gweithio hyd yn oed. Ac eto, gan gydnabod, fel y clywsom, y realiti gwahanol ac anodd i lawer o weithwyr, mae'r pandemig wedi profi fel arall. Mae Luke Fletcher wedi sôn sut y mae angen inni ei wneud yn y ffordd gywir pan symudwn tuag ato, a gwarchod rhag unrhyw ganlyniadau anfwriadol a sicrhau bod hynny—. Gyda'r pandemig, gwelsom y gallai rhai gweithwyr weithio gartref, ac i rai fel fi, dyna oedd y ffordd orau o weithio oherwydd fy mod yn lwcus iawn i fod â lle, ystafell, i weithio ynddi, ond i lawer o bobl roedd yn anodd. Felly, mae angen inni sicrhau ein bod, fel y dywedwch, yn ystyried unrhyw newidiadau blaengar mewn ffordd flaengar a theg er mwyn sicrhau cyfle cyfartal.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Sylwaf fod y Ceidwadwyr wedi dweud nad yw hyn wedi'i ddatganoli, ond mae gweithlu Llywodraeth Cymru, y gwasanaeth sifil, yn sicr o dan reolaeth Llywodraeth Cymru. A yw Llywodraeth Cymru wedi ystyried treialu'r math hwn o gynllun o fewn y gwasanaeth sifil?
Os nad oes ots gan yr Aelod, fe ddeuaf at ein dull o weithredu wrth inni fynd drwy'r—. Rwy'n ceisio mynd drwy fy nghyfraniad yn yr amser a neilltuwyd. Ond diolch ichi am y cyfraniad i roi cyfle inni feddwl ble y gallai'r cyfleoedd hynny fod er mwyn edrych ar bethau fel hyn yn y dyfodol.
Ni ddylai hyn ymwneud â symud tuag at fyd ôl-waith, ond yn hytrach â gwireddu byd gwaith sy'n llawn urddas, yn weddus ac sydd â lles wrth ei wraidd—lles y gweithiwr, yr economi a'n hamgylchedd. A bydd yn golygu bod llais y gweithiwr yn cael ei glywed a'i gynrychioli a bydd angen partneriaeth gymdeithasol rhwng undebau llafur a chyflogwyr.
Ac rwy'n cytuno ynglŷn â phwysigrwydd edrych ar y dystiolaeth ryngwladol honno, megis y cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod yng Ngwlad yr Iâ, a byddaf hefyd yn rhoi sylw manwl i ddatblygiadau mewn mannau eraill, yn llawer agosach at adref, gan gynnwys yn yr Alban, lle clywsom fod gwaith ar y gweill i ddatblygu cynllun peilot wythnos waith pedwar diwrnod, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru eisoes mewn cysylltiad â'u cymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban sy'n gweithio ar y cynllun peilot hwnnw, felly byddwn yn dilyn hynny'n agos iawn ac yn siarad â hwy am hynny.
Lle'r ydym wedi diwygio cynnig gwreiddiol Plaid Cymru, gwnaethom hynny'n unig am ein bod yn credu bod mabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn dda, ac mae hynny'n golygu mynd ati i ystyried y cynnydd a wnaed drwy'r cynlluniau peilot mewn gwledydd eraill, ac archwilio'r gwersi y gall Cymru eu dysgu, ond hefyd ei osod o fewn cyd-destun ehangach gwella gwaith yng Nghymru.
Mae cynllun peilot Gwlad yr Iâ, a welodd y sector cyhoeddus yn symud o wythnos 40 awr i wythnos 35 neu 36 awr, wedi darparu tystiolaeth galonogol. Er enghraifft, roedd cynhyrchiant a darparu gwasanaethau wedi aros yr un fath neu wedi gwella ar draws y rhan fwyaf o weithleoedd y treial. Fodd bynnag, grŵp cymharol fach o weithwyr oedd ynghlwm wrth y cynllun, gyda'r rhan fwyaf ohonynt wedi'u cyflogi'n llawn amser, felly mae angen inni ystyried hynny'n ofalus yn rhan o'r darlun cyfan, wrth inni ddod i gasgliadau.
Yn y cyd-destun hwnnw, mae hefyd yn bwysig cydnabod bod y gwaith ar gynllun peilot yr Alban yn dal i fod yn ei gamau cynnar. Maent yn gweithio drwy nifer o faterion i lunio cynllun peilot trwyadl, ac edrychwn ymlaen at weld y manylion pellach a ddaw o'r Alban ac at ystyried y dystiolaeth sy'n deillio o'r cynlluniau peilot yn Iwerddon ac yn Sbaen. Gwn fod fy nghyd-Aelod Jack Sargeant—fy nghymydog etholaethol Jack Sargeant—yn cynnal digwyddiad ar yr union bwnc hwn nos yfory, ac rwy'n awyddus iawn, ochr yn ochr â'r ddadl hon heddiw, i glywed am y profiadau hynny, nid y posibiliadau'n unig, ond ynglŷn â mynd i'r afael â rhai o'r heriau y clywsom amdanynt heddiw i wneud yn siŵr—. Wyddoch chi, ni allwn ddeddfu ar gyfer uchafswm oriau, ond sut y gallwn ddefnyddio ysgogiadau eraill, a hefyd sut y gallwn ei wneud mewn ffordd sy'n sicrhau cyfle cyfartal i weithwyr ar draws y sectorau?
Rydym yn gwrthwynebu gwelliant 3 a gyflwynwyd gan Darren Millar ac y siaradodd Joel James amdano. Nid oes unrhyw gwestiwn o orfodi wythnos pedwar diwrnod ar gyflogwyr a gweithwyr yng Nghymru. Credwn mewn partneriaeth gymdeithasol a llais cyfartal i gyflogwyr a gweithwyr. Yn yr un modd, ni fyddwn yn cefnogi gwelliant 4, hefyd yn enw Darren Millar, sy'n ein hatgoffa bod materion cyflogaeth wedi'u cadw'n ôl i Senedd y DU. Nid oes a wnelo'r ddadl hon â deddfu ar faterion cyflogaeth; mae'n ymwneud â sut y gallwn ddefnyddio ein dulliau ni i ysgogi a hyrwyddo arferion gwaith mwy blaengar. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, o'r cyfraniadau ar feinciau'r Ceidwadwyr, mae'n edrych yn debyg nad yw'r rhethreg a'r sloganau ynghylch codi'r gwastad yn berthnasol i weithwyr a gweithleoedd.
Byddwn yn parhau i roi sylw manwl i'r dystiolaeth ynglŷn ag wythnos waith pedwar diwrnod, yn enwedig tystiolaeth y gall wythnos waith pedwar diwrnod wella cydbwysedd bywyd a gwaith pobl, ein helpu i leihau allyriadau carbon a llygredd aer a chefnogi cydraddoldeb rhywiol, heb arwain at golli cyflog neu leihau telerau ac amodau, gan gynnal cynhyrchiant, a'i wella, gobeithio.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatblygu gwaith teg, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud gwaith ehangach i edrych ar ddyfodol gwaith teg yng Nghymru, ac o'r herwydd, edrychwn ymlaen at ddilyn datblygiadau cynlluniau peilot mewn gwledydd eraill ac at ddysgu gwersi ganddynt fel rhan o'r gwaith hwn dros y misoedd nesaf, ac rwy'n edrych ymlaen at allu cydweithio mewn partneriaeth i fwrw ymlaen â hynny. Diolch.
Galwaf nawr ar Luke Fletcher i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau, ac wrth gwrs, i'r Dirprwy Weinidog am eu cyfraniadau heddiw.
Rhaid imi ddweud fy mod yn poeni y gallem golli cyfle yma. Nodaf fod gwelliant y Llywodraeth yn cael gwared ar yr alwad am gynllun peilot yma yng Nghymru, ac rwy'n deall yr hyn y mae'r Dirprwy Weinidog newydd ei ddweud ynglŷn â chefnogi dull sy'n seiliedig ar dystiolaeth. Wel, byddwn yn dweud mai un ffordd o gasglu tystiolaeth yw gwneud ein cynllun peilot ein hunain. Gadewch inni gael yr uchelgais i'w wneud ein hunain. Mae hwnnw'n gyfle a gollwyd yn fy marn i. Nid oes gennym unrhyw beth i'w golli wrth fynd ar drywydd wythnos waith pedwar diwrnod, a byddwn yn gobeithio y byddai'r Aelodau'n cytuno, fan lleiaf, y dylem ei dreialu yma yng Nghymru.
Rydym wedi clywed gan sawl Aelod yma heddiw am y manteision i gymdeithas y gallai wythnos waith pedwar diwrnod eu cynnig. Er enghraifft, bydd yn gwella iechyd meddwl a lles gweithwyr, fel y nododd Carolyn Thomas; bydd yn hyrwyddo cydraddoldeb rhywiol, fel y nododd Sioned Williams; a daw â manteision amgylcheddol yn ei sgil, fel y nododd Mabon ap Gwynfor, drwy'r gostyngiad cysylltiedig mewn amseroedd cymudo. A yw'n ateb i bob dim? Wel, mae Sioned a Jack eisoes wedi ateb y cwestiwn hwnnw: na, nid yw'n ateb i bob dim. Ac fel y soniodd Jack mewn gwirionedd, rhan o becyn cynyddol o bolisïau ydyw, megis incwm sylfaenol cyffredinol, er enghraifft.
Ond hoffwn nodi gwelliant y Ceidwadwyr hefyd. Gobeithio fy mod wedi cael pethau o chwith yma, ond i mi, mae'n ymddangos bod y Ceidwadwyr, drwy ddileu cyfeiriadau at dreialon rhyngwladol, yn claddu eu pennau yn y tywod. Mae'r enghreifftiau rhyngwladol hynny'n dangos inni sut y gall treial wythnos waith pedwar diwrnod weithio—mae tystiolaeth bendant yno inni edrych arni. Er mwyn sicrhau, er enghraifft, nad yw cyflogau'n gostwng wrth i oriau gwaith gael eu lleihau, bydd angen i Lywodraethau ddeddfu fel bod enillion cynhyrchiant o ddatblygiadau mewn meysydd fel awtomeiddio yn cael eu dosbarthu ymhlith y gweithlu yn hytrach na chwyddo elw busnesau mawr yn unig. Ac mae'r treialon rhyngwladol hynny wedi dangos inni sut y gall hyn weithio.
Ar fater pwerau a gadwyd yn ôl ym maes cyflogaeth, y cyfeiriodd Joel James a Gareth Davies ato, nid dyna'r darlun cyfan. Cyfeiriodd y Dirprwy Weinidog, Jane Dodds a Hefin David at hyn. Mae oriau llawer o weithwyr yn y sector cyhoeddus yn dod o dan bwerau datganoledig Cymru, ac mewn llawer o ranbarthau, mae 25 y cant o gyflogaeth yn y sector cyhoeddus. Felly, gallai Cymru ddefnyddio'r sector cyhoeddus fel 'sector arloesi' a dechrau drwy dreialu wythnos waith pedwar diwrnod yno. Mae cyfle hefyd i ddefnyddio Deddf gwaith teg Cymru a chymell wythnosau gwaith byrrach drwy ei gynnwys yn y strategaeth gaffael, sy'n hollol iawn i'w wneud yn ôl adran 60 o Ddeddf Cymru 2006, neu felly mae rhywun sy'n gwybod llawer mwy na fi am hyn yn ei ddweud wrthyf. Mae maint y sector, wrth gwrs, yn golygu y gall ddylanwadu ar oriau gwaith mewn sectorau eraill hefyd. Ac wrth gwrs, gall sefydliadau'r trydydd sector hefyd arwain drwy esiampl.
Mae COVID-19 wedi achosi newid i arferion gwaith, gyda thystiolaeth yn awgrymu bod cywasgu'r wythnos waith gyda gostyngiad bach mewn oriau gwaith yn fanteisiol mewn sawl ffordd. Roedd maniffesto Plaid Cymru ar gyfer etholiad y Senedd yn 2021 yn datgan:
'archwilio cyfleoedd i hyrwyddo wythnos weithio fyrrach a chydbwysedd gwell rhwng bywyd a gwaith.'
Mae wythnos waith pedwar diwrnod yn un o'r cyfleoedd hynny, ac edrychaf ymlaen at weld y ddadl hon yn mynd y tu hwnt i'r Siambr. Mae nifer o Aelodau eisoes wedi sôn am ddigwyddiad Jack Sargeant a drefnwyd ar gyfer yfory. I'r rhai nad ydynt wedi'u hargyhoeddi, byddwn yn erfyn arnoch i fynd i'r digwyddiad hwnnw i wrando ar y dadleuon.
Ac wrth gwrs, rwyf am gyfeirio, hefyd, at rywbeth y mae Ysgrifennydd Cyffredinol y TUC, Frances O'Grady, wedi'i ddweud am yr wythnos waith pedwar diwrnod, ac rwy'n dyfynnu:
'Yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ymgyrchodd undebau am ddiwrnod wyth awr. Yn yr ugeinfed ganrif, enillasom yr hawl i benwythnos deuddydd o hyd a gwyliau â thâl. Felly, ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, gadewch i ni godi ein huchelgais eto.'
Mae'n credu, yn y ganrif hon, y gallwn ennill wythnos waith pedwar diwrnod, gyda thâl gweddus i bawb. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r awydd hwnnw. I'r rhai nad ydynt wedi'u hargyhoeddi eto, mae'n siŵr bod yna rai nad oeddent wedi'u hargyhoeddi gan fanteision cael penwythnos, fel y soniais yn gynharach. Felly, cadwch feddwl agored. Ymunwch â ni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs, ewch amdani.
Diolch, Luke. Gwrandewais ar y ddadl hon gyda diddordeb gwirioneddol, ond yr hyn a welais wrth ymweld â busnesau yn fy etholaeth fy hun yw bod llawer o gyflogwyr am fod yn hyblyg eu hunain, ac rwy'n gweld hyn yn enwedig o ganlyniad i'r pandemig. Pan fyddaf yn ymweld â busnesau, mae cyflogwyr yn cynnig yr hyn sy'n gweddu i'r gweithwyr am eu bod am gael y gweithwyr gorau i'w busnes. Maent eisoes yn cynnig, os nad pedwar diwrnod, 'A ydych chi am orffen yn gynnar? A yw'n well gennych orffen ganol y prynhawn er mwyn casglu'r plant?' ac yn y blaen. Felly, tybed i ba raddau y credwch fod grymoedd y farchnad efallai'n gyrru'r newid y gallech chi fod am ei weld mewn gwirionedd, ac y cytunaf innau hefyd ag ef.
Wel, rwy'n falch o glywed bod rhai busnesau'n bwriadu dilyn y llwybr hwn, ond y gwir amdani yw nad yw pob busnes yn cynnig yr un math o fanteision. Rwy'n credu ei bod hi'n ddyletswydd ar Lywodraeth i fandadu wythnos waith pedwar diwrnod.
Mewn sawl ffordd hefyd, ac rwy'n cyfeirio at rywbeth a drafodwyd yn gynharach—ni allaf gofio pa un o fy nghyd-Aelodau Ceidwadol a'i cododd—. Clywais y dadleuon, wrth gwrs, na fydd wythnos waith pedwar diwrnod yn gweithio, ond credaf hefyd ei bod yn ddyletswydd ar feinciau'r Ceidwadwyr i brofi inni fod y system bresennol yn gweithio. Oherwydd y realiti yw nad yw'n gweithio o gwbl. Rhaid inni ddechrau meddwl am ffyrdd ymlaen a fydd yn helpu'r rheini mewn cymdeithas sy'n cael eu gorweithio, yn union fel y gweithwyr post y soniodd Carolyn Thomas amdanynt, ond hefyd pobl fel fi, a arferai weithio yn y sector lletygarwch.
Wrth gwrs, cyfeiriwyd at y sector gofal a'r anawsterau y maent yn eu cael i recriwtio gweithwyr newydd. Credaf mai Gareth Davies a gododd hyn. Byddwn yn dadlau, mewn gwirionedd—ac rwy'n siŵr fy mod wedi clywed hyn sawl gwaith yn y Siambr hon—mai'r rheswm y maent yn ei chael yn anodd recriwtio gofalwyr newydd yw oherwydd y problemau gyda'r cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith o fewn y sector gofal, a'u bod wedi'u gorweithio. Bydd rhywbeth fel hyn yn mynd i'r afael â hynny.
Diolch, Luke. Ar y pwynt hwnnw'n unig, ni fyddai'r galw am wasanaethau, a'r hyn sydd ei angen ar gleifion o fewn y sector gofal, yn gydnaws ag wythnos pedwar diwrnod beth bynnag. Ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn ymdrin â rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas, sy'n galw am y gofal 24 awr saith diwrnod yr wythnos na fyddai wythnos pedwar diwrnod yn ei hwyluso.
Wel, diolch i Gareth am y pwynt hwnnw, ac rwy'n falch iddo ei godi mewn gwirionedd oherwydd mae gennym eisoes enghreifftiau o wasanaethau sy'n rhedeg saith diwrnod yr wythnos, sy'n defnyddio pethau o'r enw rotas—bwytai, er enghraifft. Roedd y bwyty roeddwn i'n gweithio ynddo, Jamie's Italian, ar agor saith diwrnod yr wythnos, ond nid oeddwn i'n gweithio saith diwrnod. Cefais fy ngosod ar rota i weithio dyddiau penodol. Felly, rwy'n gobeithio y byddai hynny'n ateb y cwestiwn y mae Gareth yn ei ofyn yno.
I gloi, Lywydd, mae wythnos waith pedwar diwrnod yn un ffordd o fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Mae'n un ffordd o ddiogelu ein heconomi ar gyfer y dyfodol a darparu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith i bobl Cymru. Diolch yn fawr.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio, sydd ar fin digwydd, ond mae angen inni gymryd toriad byr er mwyn trefnu ar gyfer y bleidlais honno. Felly, toriad byr yn awr.