– Senedd Cymru ar 8 Mawrth 2023.
Eitem 7 heddiw yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr adolygiad ffyrdd, a galwaf ar Natasha Asghar i wneud y cynnig.
Cynnig NDM8218 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi adroddiad panel adolygu ffyrdd Llywodraeth Cymru, Dyfodol Buddsoddiad Ffyrdd yng Nghymru.
2. Yn gresynu at y diffyg ymgysylltu gan y panel adolygu ffyrdd gyda'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau a'r trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad.
3. Yn credu bod argymhellion y panel adolygu ffyrdd i roi'r gorau i fuddsoddi mewn prosiectau ffyrdd hanfodol sydd wedi'u cynllunio i wella diogelwch ar y ffyrdd, mynd i'r afael â thagfeydd, lleihau llygredd aer a sicrhau buddion economaidd yn methu â chyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn eu haeddu.
Diolch o galon, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig hwn heddiw fel y gall yr holl Aelodau yma drafod adolygiad ffyrdd y Llywodraeth Lafur a'i pholisïau trafnidiaeth yn iawn. Roedd y ffordd y gwnaed y cyhoeddiad diweddar ar yr adolygiad ffyrdd yn draed moch. Datganiad y Dirprwy Weinidog yn y Siambr hon ychydig cyn y toriad oedd un o'r datganiadau gwaethaf i mi eu clywed hyd yma—datganiad am gasgliad yr adolygiad ffyrdd nad oedd yn amlinellu pa ffyrdd sydd wedi cael sêl bendith a pha rai sydd wedi'u diddymu. Yn hytrach, dewisodd y Dirprwy Weinidog ddatgelu pa brosiectau a oedd wedi'u hachub tra bod llawer ohonom eisoes yn y Siambr, yn mynd ati fel lladd nadroedd i fynd drwy'r ddogfen roeddem newydd ei chael. Mae'n debyg na fyddwn ni byth yn gwybod a oedd hynny'n ymgais fwriadol i osgoi craffu priodol neu'n gamgymeriad diffuant ar ran y Dirprwy Weinidog. Ond o leiaf nawr rydym wedi cael amser i dreulio canlyniad yr adolygiad, ac wedi cael digon o amser heddiw i graffu arno fel y mae'n ei haeddu.
Yn fy marn i, nid yw'r adolygiad ffyrdd yn diwallu anghenion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol Cymru fodern a deinamig. Efallai fod y Dirprwy Weinidog yn credu bod ei waith yn torri tir newydd, yn ddewr, ac yn arwain y byd, ond yn sicr nid yw'r rhai yr effeithir arnynt yn uniongyrchol gan hyn yn rhannu'r farn hon. Mae rhai wedi galw cyhoeddiad y Dirprwy Weinidog yn 'gyflafan ffyrdd Dydd San Ffolant', gydag eraill yn cynnal protestiadau ar raddfa fawr. Cymerwch gymuned Llanbedr, er enghraifft. Roedd pentrefwyr yn credu bod eu diflastod yn dod i ben pan roddwyd sêl bendith i gynlluniau ar gyfer ffordd osgoi Llanbedr yn 2020. Yna, yn fuan ar ôl rhoi stop ar brosiectau adeiladu ffyrdd yng Nghymru, fe wnaethom ddarganfod bod ffordd osgoi Llanbedr yn mynd i gael ei rhoi heibio, er bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario oddeutu £14 miliwn ar y cynllun. Nid yw trigolion Llanbedr yn gallu symud o gwmpas eu pentref yn ddiogel oherwydd problemau traffig, gyda'r ardal yn aml yn dod i stop yn llwyr. Byddai ffordd osgoi wedi rhoi diwedd ar eu hunllef, ac wedi adfer ansawdd bywyd y pentrefwyr. Maent mor ddig, mae'r rhai yr effeithiwyd arnynt gan ymateb difeddwl y Llywodraeth Lafur yn cynllunio protest fawr yn yr ardal yn ddiweddarach y mis hwn, ac a bod yn onest nid wyf yn eu beio.
Mae'n amlwg o edrych ar ganlyniad yr adolygiad ffyrdd fod gogledd Cymru yn cael cam go iawn, fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth Lafur hon. Rwy'n siŵr y bydd fy nghyd-Aelodau'n edrych ar hyn yn fanylach mewn perthynas â ffyrdd penodol yn eu rhannau hwy o'r wlad sydd wedi cael eu hatal, ond gadewch imi gyffwrdd ar ambell un. Mae'r drydedd bont dros y Fenai a llwybr coch sir y Fflint, dau gynllun mawr eu hangen, wedi'u rhoi heibio. Yn ddiweddar, gwelsom pa mor fregus yw Ynys Môn pan fu'n rhaid cau pont Menai oherwydd pryderon ynghylch diogelwch. Arweiniodd hynny at anhrefn traffig mawr yn yr ardal, gan gynnwys tagfeydd trwm, heb sôn am y niwed economaidd a achoswyd i'r ardal o ganlyniad. Byddai trydedd croesfan Menai wedi helpu i wella amseroedd teithio, diogelwch ar y ffyrdd a chadernid. Rwy'n siŵr y bydd nifer o Aelodau gogledd Cymru yma, ynghyd â'u hetholwyr, yn siomedig iawn ynghylch y penderfyniad wrth i bawb ohonom aros yn eiddgar i weld pa ddewisiadau eraill a gaiff eu llunio. Mae trydedd croesfan Menai yn ymuno â llu o brosiectau eraill sy'n cael eu rhoi heibio, gan gynnwys llwybr coch sir y Fflint, gyda rhai'n dadlau y byddai'n lleihau tagfeydd ac yn gwella ansawdd aer yn sylweddol. Mae'r Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd, sefydliad y mae gennyf y parch mwyaf ato ac y gweithiais yn agos gydag ef ers amser hir, wedi rhoi eu dyfarniad i mi ar yr adolygiad ffyrdd, ac mae braidd yn ddamniol a dweud y lleiaf. Meddai Geraint Davies, aelod o fwrdd y Gymdeithas Cludo ar y Ffyrdd:
'Dyma ergyd enfawr i fusnesau'r gadwyn gyflenwi sydd angen rhwydwaith ffyrdd modern, gweithredol i gadw pobl a nwyddau i symud yn effeithlon.'
Aeth Mr Davies rhagddo i ddweud
'Ffyrdd yw'r unig opsiwn i lawer o fusnesau a chymunedau yng Nghymru. Mae tagfeydd ar lwybrau allweddol yn gwneud trafnidiaeth yn ddrutach nag y mae angen iddo fod. Rhaid i Weinidogion gydnabod y gwirioneddau hyn ac ymrwymo i welliannau i ffyrdd fel Ffordd Liniaru'r M4 y mae ei hangen arnom yn ddirfawr.'
Ychwanegodd y gymdeithas, 'Mae cludo nwyddau ar y ffordd nid yn unig yn darparu gwasanaethau hollbwysig i gymunedau anghysbell ac i bobl fregus, mae hefyd yn sbardun i economi'r DU. Drwy beidio â buddsoddi mewn ffyrdd a seilwaith, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud Cymru'n lle anos ar gyfer gwneud busnes.'
Mae fy mewnflwch yn llawn o e-byst gan etholwyr, a phobl ymhellach i ffwrdd hyd yn oed, yn mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch penderfyniad Llafur i atal prosiectau adeiladu ffyrdd. Mae un etholwr, sy'n teithio o'r Coed Duon i Gasnewydd bob dydd ar gyfer gwaith, taith a arferai gymryd ychydig dros 30 munud yn unig—. Mae bellach yn cymryd dros awr i fy etholwr gyrraedd y gwaith, oherwydd mae'r Llywodraeth Lafur yn dod â Chymru i stop drwy fethu mynd i'r afael â thagfeydd. Er ei fod yn croesawu cynlluniau i gyflawni sero net, mae fy etholwr yn dweud ei fod yn credu y bydd y dull presennol o gael gwared ar adeiladu ffyrdd yn amddifadu Cymru o fuddsoddiad yn y dyfodol ac yn mynd â phawb ohonom yn ôl i'r oesoedd tywyll. Mae'n dweud, 'Byddwn bob amser angen ffyrdd ac angen economi iach i ddiwallu anghenion poblogaeth sy'n tyfu. Nid wyf yn credu bod gan unrhyw un yng Nghynulliad Cymru unrhyw syniad sut beth yw teithio i'r gwaith ar yr adegau prysuraf bob dydd. Maent yn gwneud penderfyniadau wrth beidio â byw ym myd go iawn bodau dynol cyffredin.' Hyn gan etholwr, cofiwch.
Mae etholwr arall i mi wedi cael ei orfodi i ganslo ei aelodaeth o ganolfan ddringo dan do boblogaidd yng Nghaerdydd oherwydd faint o amser mae'n cymryd iddo gyrraedd yno o'i gartref. Mae'r hyn a ddylai fod yn daith 35 munud bellach yn cymryd hyd at awr, ac ni all wynebu eistedd mewn traffig drwy'r amser. Ar ôl brwydro gyda thraffig ers cryn dipyn o amser i gyrraedd y ganolfan ddringo, mae bellach wedi penderfynu canslo ei aelodaeth yn llwyr gan nad yw'n gallu dioddef hyn mwyach. Oherwydd methiant y Llywodraeth hon i roi rhwydwaith trafnidiaeth ddigonol i ni, mae gennym fusnesau'n colli arian, ac yn yr achos hwn, mae ffitrwydd, mwynhad ac iechyd meddwl trigolion yn dioddef.
Wel, dyna chi. Nid fy safbwyntiau i yw'r rhain; dyma safbwyntiau rhai o'r bobl ar lawr gwlad, y bobl sy'n defnyddio ein rhwydwaith trafnidiaeth bob dydd. Dyma'r bobl y dylai Llywodraeth Cymru wrando arnynt. Yn anffodus, nid yr etholwyr rwyf newydd eu nodi yw'r unig rai; mewn gwirionedd, fe gollodd gyrwyr yng Nghasnewydd, Caerdydd ac Abertawe 107 awr oherwydd tagfeydd yn 2022 yn unig.
Yn sgil gwaharddiad Llafur ar adeiladu ffyrdd, rydym wedi cael gwybod y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi, ac rwy'n dyfynnu, 'mewn dewisiadau amgen go iawn' yn lle hynny, ac yn rhoi mwy o ffocws ar y rhwydwaith trafnidiaeth. Ond fel sy'n digwydd yn aml gyda'r Llywodraeth hon hyd yma, ofnaf mai rhethreg yn unig yw hyn yn hytrach na gweithredu ystyrlon. Rwy'n dweud hyn oherwydd, hyd yma, nid ydym wedi gweld unrhyw ddewisiadau amgen go iawn gan Lywodraeth Cymru. Yn hytrach, mae Gweinidogion yn torri cyllid hanfodol i fysiau ledled y wlad, yn dileu cyllid ar gyfer teithio llesol, ac yn torri cyllid ar gyfer teithio cynaliadwy. Hefyd, dim ond 47 dyfais gwefru cerbydau trydan sydd gan Gymru i bob 100,000 o'r boblogaeth, sy'n wael iawn o'i gymharu â 699 yn yr Iseldiroedd, 399 yn Lwcsembwrg a 112 yn Ffrainc. Mae angen mynd i'r afael â hyn ar frys, gan ein bod yn mynd i weld mwy o gerbydau trydan ar ein ffyrdd wrth symud ymlaen, yn enwedig yn dilyn gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu ceir petrol a diesel newydd erbyn 2030. Yn ôl proffwydoliaethau Llywodraeth Cymru ei hun, bydd angen rhwng 30,000 a 50,000 o fannau gwefru cyflym ar Gymru erbyn 2030. Afraid dweud, mae amser yn brin.
Rwyf fi a fy nghyd-Aelodau yn y Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gefnogi arloesedd teithio cynaliadwy a theithio gwyrddach. Mae angen i bob un ohonom chwarae ein rhan wrth wneud dewisiadau teithio mwy gwyrdd, ond rhaid i Lywodraeth Cymru beidio â cheisio newid drwy gosbi modurwyr. Cosbi modurwyr yw'r union beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, gyda thaliadau atal tagfeydd ar y gorwel, cyfyngiadau cyflymder 20 mya cyffredinol yn cael eu cyflwyno nawr, a rhoi'r gorau i adeiladu ffyrdd. Mae angen i Lywodraeth Cymru fynd ati o ddifrif i ailystyried ei pholisi trafnidiaeth, oherwydd ar hyn o bryd nid yw'n addas i'r diben.
Gall bysiau chwarae rhan ganolog i gael mwy o bobl allan o'u ceir, ond nawr dywedir wrthym y dylem ddisgwyl toriadau llym i wasanaethau o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth Cymru i ddod â'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau i ben—sgwrs a gafodd llawer ohonom mewn dadl ychydig wythnosau yn ôl. Mae Gweithredwyr Bysiau a Choetsys Cymru, sy'n cynrychioli cwmnïau bach yng Nghymru, yn ofni bod rhwng 65 a 100 y cant o'r gwasanaethau mewn perygl o gael eu torri. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y byddai'n hoffi'n fawr pe bai'n gallu dod o hyd i'r arian i gadw'r cynllun cyllido yn ei le. Wel, pe na bai'r Llywodraeth yn gwastraffu miliynau o bunnoedd ar gynnal maes awyr sy'n methu neu'n prynu Fferm Gilestone, efallai y byddai arian ychwanegol ar gael i'w wario ar y pethau pwysig allan yno. A pheidiwch â sôn am y problemau gyda threnau yma yng Nghymru—mae honno'n ddadl hollol ar wahân ar gyfer diwrnod arall.
I lawer o bobl yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae'n ffaith mai ceir yw'r unig ddewis go iawn ar hyn o bryd oherwydd trafnidiaeth gyhoeddus wael. Mae ffyrdd yn gwbl angenrheidiol ar gyfer pobl yn yr ardaloedd hynny. Mae pobl Cymru angen ac yn haeddu rhwydwaith drafnidiaeth sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, ac wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn cyflawni hynny, gan y bydd unrhyw beth llai na hynny'n annerbyniol. Fodd bynnag, gyda phrosiectau ffyrdd yn cael eu dileu a chyllid ar gyfer teithio cynaliadwy a thrafnidiaeth gyhoeddus yn lleihau, ynghyd â'r holl bolisïau trafnidiaeth anflaengar eraill a welais ers imi fod yn Weinidog trafnidiaeth yr wrthblaid, rwy'n methu gweld sut y gallwn gyflawni hyn yma yng Nghymru.
Rwy'n annog pob Aelod sy'n poeni o ddifrif am drafferthion eu hetholwyr, eu busnesau a'u cymunedau i bleidleisio o blaid ein cynnig heddiw. Diolch, Lywydd.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a dwi'n galw ar Delyth Jewell i gynnig gwelliant 1.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod yr angen am weithredu beiddgar a radical yn y sector trafnidiaeth i helpu i gyflawni allyriadau sero net cyn 2050.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i fuddsoddi mwy brys mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac isadeiledd cerbydau trydan fel bod gan gymunedau ledled Cymru fwy o fynediad at opsiynau trafnidiaeth carbon isel neu di-garbon.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i gynnig ein gwelliant.
Mae angen inni wneud pethau'n wahanol os ydyn ni am gyrraedd net zero erbyn 2050—yn sicr os ydyn ni am fod yn fwy uchelgeisiol a'i chyrraedd erbyn 2035, fel rŷn ni ym Mhlaid Cymru yn datgan. Mae'n rhaid gwneud penderfyniadau anodd. Cyn imi fanylu ar y pwyslais rŷn ni eisiau ei weld ar wella dewisiadau pobl o ran darpariaeth trafnidiaeth cyhoeddus, dwi jest eisiau datgan yn glir unwaith eto bod yr uchelgais a'r sbardun tu ôl i'r penderfyniad yma gan Lywodraeth Cymru yn un dwi'n ei groesawu. Dyw e ddim yn benderfyniad sydd yn mynd i fod yn boblogaidd ym mhobman, ond os ydyn ni dim ond yn gwneud penderfyniadau hawdd a phoblogaidd, bydd dim planed ar ôl i ni. Felly, dwi eisiau jest gwneud hwnna'n glir.
Wrth ddweud hyn, mae'n rhaid inni hefyd gydnabod pwysigrwydd cymryd pobl Cymru ar y daith i'r dyfodol newydd o'n blaenau. Pwrpas ein gwelliant ni yw ailffocysu'r drafodaeth ar yr angen am fwy o fuddsoddiad a sicrwydd i'n darparwyr trafnidiaeth gyhoeddus er mwyn, unwaith eto, gwella a chryfhau dewis pobl, cynnig mwy o agency, fel byddwn ni'n dweud yn Saesneg. Achos dwi'n meddwl bod lot o bobl yn teimlo'n ofnus neu'n bryderus am y newidiadau hyn. Rŷn ni angen ffeindio ffyrdd o esmwytho pryderon pobl, o fodloni'r rhai sy’n poeni, ac i roi hyder iddyn nhw am beth fydd hyn yn ei olygu iddyn nhw.
Ar hyn o bryd, mae nifer o lefydd yng Nghymru lle dydy'r opsiwn o gymryd bws neu trên jest ddim ar gael, neu dydy’r opsiwn ddim yn realistig yng nghyd-destun bywydau pobl. Mae hyn yn arbennig o wir yn y cymoedd ac yn ardaloedd cefn gwlad Cymru, ac mae angen sicrhau na fydd y dyfodol newydd angenrheidiol yma yn arwain at arwahanu ac unigrwydd. Eto, rhaid inni fynd â’r bobl ar y siwrnai gyda ni. Ac mae'n rhaid inni wneud yr opsiwn o deithio ar drafnidiaeth cyhoeddus yn opsiwn hawdd ac opsiwn sy'n haws i bobl ei wneud. Rhwng 2019 a 2020, cynyddwyd prisiau bysys 3.5 y cant ac, yn yr un cyfnod, collwyd rhyw 690 o arosfannau bysiau, sy'n ei gwneud hi'n anoddach fyth i ddal bws. Gwnaeth etholwraig gysylltu â mi wythnos hon yn pwyntio mas ei fod e'n costio £2.20 i fynd ar y bws o yrion Caerffili i mewn i'r dref. Mae hwnna'n siwrnai o 1.5 milltir. A dywedon nhw hefyd, os oedden nhw eisiau mynd i gyngerdd yng Nghaerdydd gyda'r nos, dydy e ddim yn bosibl iddyn nhw gyrraedd adref ar y bws, achos mae’r bws olaf am 9 o'r gloch y nos, a dydy’r etholwraig ddim yn teimlo’n saff yn cerdded adref o'r orsaf trenau. Dwi'n meddwl mae'n rhaid inni edrych ar realiti bywydau pobl a'i wneud e’n bosibl i bobl newid eu ffyrdd nhw o fyw, achos eto, dydyn ni methu jest cario ymlaen yn cael mwy a mwy a mwy o ffyrdd i ddifancoll. Eto, dwi eisiau inni gyrraedd dyfodol lle mae pobl yn gweld bod hyn ddim dim ond yn bosibl ond yn normal.
Cyn imi orffen, Llywydd, gwnaf i jest dweud gair am drenau, achos mae hwnna wedi cael ei grybwyll yn barod yn y ddadl yma. Mae diffyg buddsoddiad yn ein rheilffyrdd yn ein dal ni nôl fel cenedl, a'r Ceidwadwyr yn San Steffan sydd ar fai. Does dim cyfiawnhad am y penderfyniad i wrthod Cymru y biliynau sy'n ddyledus inni am HS2. Mae'n cynrychioli ymosodiad cyfansoddiadol, amgylcheddol a moesol, a does dim cyfiawnhad am hynny. Mae'n rhaid inni ffeindio ffyrdd newydd o fyw, ond mae’n rhaid inni ffeindio ffyrdd o gyrraedd y dyfodol gwyrddach, gyda phawb ar yr un daith gyda'n gilydd, dim neilltuo neu amddifadu cymunedau sydd ddim yn ffitio'r model, ond gwneud y buddsoddiad, mynnu pwerau ychwanegol gan San Steffan, a chreu realiti newydd. Dyna'r ffordd o greu unrhyw lwybr newydd. Dyna'r ffordd i wneud yn siŵr bod hyn yn newid ar gyfer pobl Cymru gyfan.
A gaf fi ddiolch i fy nghyd-Aelod, Darren Millar, am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar yr adolygiad ffyrdd, a hefyd i Natasha Asghar am agor y ddadl heddiw? Mae'n amlwg, o'n hochr ni i'r meinciau yma, ein bod ni'n credu bod adolygiad ffyrdd Llywodraeth Cymru yn un difeddwl a dweud y lleiaf.
Yn fy nghyfraniad heddiw, hoffwn dynnu sylw yn gyntaf at yr effaith y bydd yr adolygiad hwn yn ei chael ar drigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru. Fel y gwyddom, gwaetha'r modd, mae gogledd Cymru yn mynd i fod ar eu colled yn aruthrol oherwydd yr adolygiad hwn. Rydym yn gwybod bod 16 o brosiectau wedi'u cynllunio ar gyfer gogledd Cymru, a bydd 15 o'r rhain naill ai'n cael eu hoedi neu eu diddymu'n gyfan gwbl. Mae pob prosiect adeiladu ac uwchraddio ffyrdd mawr ar draws fy rhanbarth yng ngogledd Cymru wedi dod i stop. Mae'r adolygiad hwn yn gwbl syfrdanol i fy nhrigolion. Ymhlith y prosiectau a ddiddymwyd mae cynlluniau i uwchraddio'r A483 ffordd osgoi Wrecsam, yr A494 Lôn Fawr, ffyrdd Rhuthun a Chorwen, cylchfan yr A483 yn Halton, yr A55 ar gyffyrdd 15 i 16 a 32 i 33, yn ogystal â thrydedd bont y Fenai.
Bydd Llywodraeth Lafur Cymru'n dweud wrthym eto heddiw fod y gwaharddiad hwn ar adeiladu ffyrdd yn hanfodol i ddiogelu'r amgylchedd a lleihau allyriadau carbon, ond yr hyn y maent yn methu ei ddeall eto yw mai trafnidiaeth breifat ar y ffyrdd yw'r unig opsiwn trafnidiaeth ymarferol i lawer o fy nhrigolion yng ngogledd Cymru, gyda thua 84 y cant o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar gar neu feic modur i fyw eu bywydau bob dydd, ac mae'r cerbydau hyn yn mynd yn lanach ac yn wyrddach gyda'r newid cyflym oddi wrth y peiriant tanio mewnol. Fel y mae pwynt 3 y cynnig heddiw yn nodi, nid yw'r adolygiad ffyrdd hwn yn gwneud dim i ddarparu'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru, a'r trigolion rwy'n eu cynrychioli yng ngogledd Cymru, yn ei haeddu.
Wrth gwrs, byddai canlyniad yr adolygiad ffyrdd wedi cael derbyniad llawer mwy cynnes pe bai gennym lefelau digonol a phriodol o drafnidiaeth gyhoeddus yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru. Ond mae pobl y gogledd yn gwybod nad yw hyn yn wir, ac fel tystiolaeth o hyn, rydym yn gwybod bod 11,000 o wasanaethau trên wedi'u canslo gan Trafnidiaeth Cymru dros y tair blynedd diwethaf, ac fe gafodd dros £2 filiwn ei dalu mewn iawndal i'r teithwyr hynny ers 2018. Ac fel y gwyddom, cyhoeddwyd prosiect metro gogledd Cymru saith mlynedd yn ôl bellach, ac eto, mae'r gobaith o gael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig ar gyfer gogledd Cymru gyfan yn ymddangos mor bell ag erioed i'r trigolion rwy'n eu cynrychioli. A hyn oll tra bôm yn parhau i weld symiau sylweddol o fuddsoddiad yn cael ei sianelu tuag at y cynlluniau metro yn ne Cymru—mae hynny mor bell i ffwrdd o'r hyn a welwn yn y gogledd.
Fel yr amlinellir gan Gydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru, wrth edrych ar gefnogi ein hamgylchedd, mae angen inni weithio ar atebion nad ydynt yn niweidio economi Cymru ar yr un pryd. Gall y ddau beth weithio gyda'i gilydd. Mae angen inni weld cynlluniau sy'n cefnogi'r amgylchedd yn bod o fudd i swyddi hefyd, gan sicrhau bod gan bobl swyddi y gallant fod yn falch o'u gwneud.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf, Llyr.
Diolch. Rwy'n cael ychydig bach o drafferth gyda'ch awgrym na fydd unrhyw ffyrdd eraill yn cael eu hadeiladu byth. Mae'n ddigon posibl y bydd y prosiectau sydd wedi'u diddymu'n digwydd mewn ffordd arall. Mae'n ddigon posibl y byddant yn cael eu datblygu mewn cynnig amgen. Felly, mae ceisio cyfleu mai dyma ddiwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru braidd yn anonest. Ac fe gyfeirioch chi at ddatblygu economaidd; mae yna waith ar y gweill nawr i edrych ar greu eithriadau o feini prawf amrywiol ar gyfer safleoedd arwyddocaol o safbwynt datblygu economaidd. Felly, peidiwch â lledaenu'r nonsens ynglŷn â dim mwy o ffyrdd yn cael eu hadeiladu byth, oherwydd mae hynny'n gwbl gamarweiniol.
Wel, rwy'n credu bod yr adolygiad ffyrdd ar gyfer y rhanbarth y mae'r ddau ohonom yn ei gynrychioli yng ngogledd Cymru yn eithriadol o niweidiol. Mae 15 o'r rhaglenni hynny'n cael eu diddymu neu eu hoedi—
Ar eu ffurf bresennol.
Ar eu ffurf bresennol—yn union. Felly, beth yw'r cynllun? Mae angen inni weld cynllun ar gyfer gogledd Cymru. Saith mlynedd yn ôl, Llyr Gruffydd, fe gafodd prosiect metro gogledd Cymru ei gyhoeddi, fel y gwyddoch. Nid ydym wedi gweld hwnnw'n digwydd yno hyd yma. Mae angen ei ddatrys.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei godi heddiw, a amlinellir ym mhwynt 2 o'n cynnig, yw'r diffyg ymgysylltiad llwyr rhwng y panel adolygu ffyrdd a'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholedig, awdurdodau lleol, busnesau, y trydydd sector ac eraill yn ystod yr adolygiad. Fel y mynegir gan Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru, mae busnesau bach Cymru yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi cymunedau lleol, yn creu cyfoeth a chyflogaeth, yn sbarduno arloesedd, ac yn helpu Cymru i addasu ac ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Wrth inni symud tuag at sero net, mae'n hanfodol bwysig sicrhau bod eu llais hwythau'n cael ei glywed hefyd, ac nid yw'n cael ei ystyried yn briodol ar hyn o bryd yn fy marn i.
A chlywsom gyfraniad gan Alun Davies ar y meinciau ar yr ochr draw ddoe, yn nodi bod y buddsoddi mewn adeiladu ffyrdd yn ei etholaeth wedi tynnu nifer o fusnesau i mewn a chreu nifer o swyddi yn ei ardal. Mae'n amlwg y gall adeiladu ffyrdd gael effaith gadarnhaol enfawr ar ysgogi buddsoddiad, gan ddenu'r busnesau hynny, creu'r swyddi hynny, a chodi pobl allan o dlodi.
Felly, wrth gloi, Lywydd, gallai cael gwared ar y prosiectau adeiladu ffyrdd sydd wedi'u cyhoeddi yn yr adolygiad ffyrdd gael effaith beryglus ar bobl Cymru. Mae'n gam yn ôl yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd. Yn lle arafu Cymru, dylai Llywodraeth Cymru afael yn yr olwyn a chael Cymru i symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnes, o blaid gweithwyr, sy'n gweithio i yrwyr. Galwaf ar bob Aelod i gefnogi ein cynnig yma heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Gwers hanes fechan. Ni ddyfeisiwyd ffyrdd i ddarparu ar gyfer y peiriant tanio. Dyfeisiwyd ffyrdd i gael pobl o A i B, ymhell cyn i'r peiriant tanio gael ei ddyfeisio, a diben hyn yw addasu ein ffyrdd at ddibenion gwahanol i sicrhau bod sawl ffordd o deithio, ac i gyd-fynd â'n rhwymedigaethau newid hinsawdd. Fe wnaethom i gyd bleidleisio dros leihau ein hallyriadau hinsawdd i gefnogi cenedlaethau heddiw a'r dyfodol, ond rwy'n ofni mai'r cyfan a glywsom hyd yma gan y Ceidwadwyr yw 'Gwnewch beth rwy'n ei ddweud, nid yr hyn rwy'n ei wneud'. Felly, mae'n rhaid inni gysoni ein polisi ffyrdd â'n 'Llwybr Newydd', ein cynlluniau sero net, ac yn wir, ein polisïau cynllunio yn 'Cymru'r Dyfodol'. Felly, yn syml, ni allwn barhau fel rydym wedi'i wneud o'r blaen, oherwydd dyna'r ffordd rydym yn mynd i ddinistrio ein byd yn llwyr.
Felly, mae yna lawer o—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
O'r gorau.
Onid yw'r ymagwedd 'Gwnewch yr hyn a ddywedaf, nid yr hyn a wnaf' wedi'i chyfleu i'r dim yn y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn berchen ar faes awyr?
Nid oes a wnelo hyn â'r maes awyr—[Torri ar draws.] Wel, nid oes gennym awyrennau'n rhedeg ar ffyrdd, ac mae a wnelo hyn â ffyrdd. Mae'n ymwneud â chael meini prawf mwy cydlynol ar gyfer pam ein bod yn mynd i fuddsoddi yn yr allyriadau carbon sy'n cael eu creu gan ffyrdd. Felly, y meini prawf newydd: newid trafnidiaeth yn drafnidiaeth gynaliadwy. Felly, blaenoriaethu—hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy yw blaenoriaethu teithio llesol a beicio; lleihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau ar y ffyrdd, nid oes neb yn mynd i ddadlau yn erbyn hynny, ac addasu ffyrdd i effaith newid hinsawdd. Felly, lle rydym yn gorfod newid y rhwydwaith ffyrdd, sicrhau ein bod yn gwella'r strategaeth perthi ac ymylon ffyrdd o amgylch bywyd gwyllt a lleihau unrhyw effaith y maent yn ei chael ar fyd natur. A chefnogi ffyniant drwy sicrhau bod safleoedd a ddatblygwyd yn cyflawni cyfran uchel o ddulliau trafnidiaeth gynaliadwy. A dyna'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniad i gymeradwyo 17 o'r prosiectau yr edrychodd yr arbenigwyr hyn arnynt ac i gael gwared ar lawer o rai eraill sydd ond yn ailadrodd yr hen ffordd o wneud pethau.
Felly, er enghraifft, roedd yna gynnig i adeiladu ffordd osgoi, gwella ffordd osgoi o amgylch Wrecsam er mwyn gallu darparu ar gyfer datblygiad preifat o dai newydd a oedd yn amlwg wedi ei osod yn y lle anghywir, gan nad oedd yno gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Yn yr un modd, cefais fy mrawychu wrth weld y cynnig gan Gyngor Caerdydd i gytuno i adeiladu 2,500 o gartrefi yng ngogledd Caerdydd, i'r gogledd o fy etholaeth i, heb ddim o'r cysylltiadau trafnidiaeth ar hyn o bryd y byddai eu hangen er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu mynd i'r gwaith ac at ddibenion hamdden naill ai drwy deithio llesol neu drwy drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy. A'r dewis arall yw y byddant yn gwneud yn union yr un fath â'r hyn sy'n digwydd ar safle Redrow gerllaw, sef bod pobl yn mynd i mewn i'w ceir ac yn tagu'r ffyrdd gyda llygredd aer a gwneud bywyd yn uffern i bobl sydd heb gar, heb opsiynau, ac yn byw lle maent yn byw am nad oes ganddynt ddewisiadau, ac yn sicr yn effeithio ar iechyd ein plant. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau bod awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau sy'n cyd-fynd â'r rhwymedigaethau hinsawdd y maent hwythau hefyd wedi'u gwneud i sicrhau na fydd gennym fyd na fydd ein cenedlaethau yn y dyfodol eisiau byw ynddo.
Rwyf am wrthwynebu pwynt 2 yng nghynnig y Torïaid, sef y syniad y dylai'r arbenigwyr hyn fod wedi bod yn gwneud ymarfer ymgysylltu â'r cyhoedd. Na. Gwaith Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru yw hwnnw. Gwaith Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru, nid arbenigwyr trafnidiaeth. Yn amlwg, mae angen inni barhau i ymgynghori â phobl, ond mae cael ymgynghoriadau i wneud popeth yn gwneud i Lywodraethau ymddwyn fel plant ac yn eu gwneud yn analluog i wneud y penderfyniadau cywir. Felly, yn bendant mae angen inni newid, ac rwy'n credu bod yna bob math o drysorau yn adroddiad yr adolygiad ffyrdd, nad yw'n ymddangos bod Natasha Asghar wedi'i ddarllen, sy'n siomedig. Mae ynddo argymhellion gwych ac rwy'n edrych ymlaen at ddadl arall lle bydd gennym ffocws gwahanol yn lle 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth. Gadewch inni barhau fel o'r blaen'.
Gallaf ddweud fy mod i wedi'i ddarllen—nid wyf yr holl ffordd drwodd, rhaid imi gyfaddef, ond bron â bod.
Nawr, hoffwn ddweud, Weinidog—ac rwyf wedi ei godi gyda'r Dirprwy Weinidog—pa mor siomedig wyf fi o weld prosiectau mawr eu hangen yn dod i stop, a hyn ar ôl £9 miliwn ar y cylchfannau hynny ar yr A55. I ni yng ngogledd Cymru, unwaith eto, rydym yn gweld ein hunain yn cael cam. Ond rwyf eisiau gofyn cwestiwn i chi gan fy mod yma, a cheisio ei gael ar glawr. Ar y posibilrwydd o gael gwared ar y gylchfan, yn yr adroddiad, tudalen 22, mae'n sôn bod nodau Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â chael y cylchfannau hynny yno o ran hierarchaeth trafnidiaeth gynaliadwy, ac y gellir eu datblygu mewn astudiaethau ffres gan ddefnyddio'r ffordd amlfoddol ranbarthol o weithio. Felly efallai y gallwch chi esbonio ychydig i mi, oherwydd efallai na fyddai'r prosiect penodol hwnnw wedi'i ddiddymu am byth.
Nodwyd bod saith o brosiectau yn rhai 'na ddylid bwrw ymlaen â nhw', y nifer mwyaf mewn unrhyw ranbarth yng Nghymru. Nodwyd pedwar prosiect fel rhai 'na ddylid bwrw ymlaen â nhw ac eithrio rhai elfennau', a nodwyd bod phedwar prosiect arall 'heb ddigon o wybodaeth i'w hadolygu'. Felly, a fyddwch chi'n dod yn ôl at y rhai sydd 'heb ddigon o wybodaeth i'w hadolygu'? Os oeddent yno, mae'n amlwg fod rhywfaint o ystyriaeth wedi'i rhoi iddynt cyn hynny. Nawr, mae hyn yn ychwanegol at y swm enfawr o £21 miliwn a wariwyd ar ffyrdd a gafodd eu hadolygu yng ngogledd Cymru, sef y swm mwyaf o bell ffordd yn unrhyw ranbarth yng Nghymru, ac felly, y rhanbarth gyda'r mwyaf i'w golli. Mae hwnnw'n swm anhygoel o arian a fyddai, o'i roi tuag at ofal cymdeithasol, dyweder, yn talu ar ei ganfed ar ffurf gwell gofal i fy nhrigolion oedrannus a bregus.
Felly, gyda'i gilydd, mae'n ymddangos bod gogledd Cymru wedi cael mwy o gam na'r rhan fwyaf o ardaloedd. Hyn mewn rhan o'r wlad a chanddi boblogaeth wledig sylweddol sy'n dibynnu ar gysylltiadau traffig da. Roedd amodau targed yn anelu i geisio sicrhau bod 67 y cant o rwydwaith ffyrdd Cymru mewn cyflwr da. A sylwais ar rywbeth arall yn yr adroddiad hefyd. Rydym yn siarad am allyriadau carbon, ac mae'n nodi'n eithaf clir fod allyriadau carbon yn uwch o dan 35 mya, felly rwy'n poeni braidd ynglŷn â'r ffordd rydym yn rhuthro yn ein blaenau gyda'r terfynau 20 mya i leihau allyriadau carbon. Wrth symud ymlaen ar hynny, mae rhywun heb ddarllen ei adroddiad ei hun.
Cymru sydd â'r ganran isaf o ffyrdd mewn cyflwr da; mae 57 y cant o'r rhwydwaith ffyrdd yn cael ei ddisgrifio fel 'da', o'i gymharu â 63 y cant dros y ffin, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU. Nid yw'n ymddangos bod Llywodraeth Lafur Cymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, fel petai wedi sylwi bod yna chwyldro cerbydau trydan yn digwydd, ac mae'n ysgubo drwy'r byd. Yn hytrach na cheisio cofleidio'r dechnoleg hon, mae'r Llywodraeth yn gwneud addewidion gwag am wella trafnidiaeth gyhoeddus. Felly, dylai'r Gweinidog esbonio uchelgeisiau i fy etholwyr yn Aberconwy—wyddoch chi, rydych chi'n siarad am wella trafnidiaeth gyhoeddus ac yna'n cael gwared ar brif lwybr bysiau, y T19, sy'n golygu bod myfyrwyr a disgyblion yn methu mynychu eu lleoedd dysgu.
Fel sy'n cael ei brofi yn Aberconwy, mae Llywodraeth Cymru'n methu darparu'r system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy sydd angen i chi ei sefydlu cyn i chi hyd yn oed sôn am rai o'r pethau niwlog a gwirion sy'n cael eu cynllunio yma ym Mae Caerdydd. Mae eich agenda gwrth-gar mor llym nes ei bod yn ymddangos bod dyfodiad ceir awtonomaidd yn y dyfodol wedi cael ei anwybyddu'n llwyr, ac mae'n deg dweud nad atebodd y Dirprwy Weinidog mewn pwyllgor, pan ofynnais iddo, ac fe wnaeth y Cadeirydd fy atgoffa fy mod wedi gofyn iddo dair gwaith, 'A ydych chi wedi ystyried ceir awtonomaidd, neu geir di-yrrwr, yn eich adolygiad?' Nid oedd unrhyw tystiolaeth i awgrymu eu bod hyd yn oed wedi meddwl am y peth.
Felly, er bod y Gweinidog yn ceisio honni nad yw hyn yn golygu diwedd ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru, mae'r broses o wneud penderfyniadau gan Lywodraeth Lafur Cymru yn mynd i fod yn wrth-gar a gwrth-ffyrdd. Mae busnesau'n poeni. Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach wedi tynnu sylw at y ffaith mai'r realiti i'r rhan fwyaf o fusnesau bach o hyd yw dibyniaeth angenrheidiol ar drafnidiaeth ffyrdd. Nid gosod y baich mwyaf ar y tlodion, y bregus a'n perchnogion busnesau bach yw'r ffordd o fynd ati i ymladd newid hinsawdd.
Nawr, fe godais hyn gyda'r Cwnsler Cyffredinol: fel y gwyddoch, mae Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn gofyn i bob corff cyhoeddus gyflawni datblygiad cynaliadwy gyda'r nod o gydymffurfio â'r nodau llesiant. Rwyf am atgoffa pobl beth ydynt: Cymru lewyrchus, Cymru iachach a Chymru o gymunedau cydlynus. Bydd y penderfyniad na ddylai 19 cynllun fynd rhagddynt, cynlluniau fel coridor sir y Fflint, cyffyrdd 15 ac 16 yr A55 a'r drydedd bont dros y Fenai, yn niweidio ffyniant, iechyd a chysylltedd cymunedau ledled Cymru. Felly, Weinidog, oherwydd bod y Cwnsler Cyffredinol wedi sôn bod hwn yn fwy o gwestiwn i chi, hoffwn i chi egluro a ydych chi efallai wedi torri eich nodau llesiant eich hun? Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Fel y gallwch chi ddyfalu, dwi eisiau canolbwyntio ar un prosiect yn benodol, sef croesiad y Fenai. Rwy'n dweud 'croesiad y Fenai' achos cofiwch nad gofyn am drydedd bont dros y Fenai ydw i yn angenrheidiol, ond gofyn am groesiad gwydn ydw i. Gwnewch o mewn ffordd arall, heb bont arall, os liciwch chi. Ac mae yna sawl ymchwiliad wedi edrych ar opsiynau eraill—cael gwared ar y tyrrau a lledu'r lôn, rhoi system tair lôn mewn lle, rhoi lonydd newydd ar cantilevers ar ochr pont Britannia. Ond y casgliad dro ar ôl tro ydy mai rhyw fath o bont newydd ydy'r ateb.
Ond, fel dwi'n dweud, gwytnwch yr wyf i'n chwilio amdano fo. Mae'n groesiad bregus, lle mae gwynt neu ddamwain yn gallu cau'r bont am gyfnodau estynedig, ac mae pont y Borth yn annigonol fel rhywbeth i ddisgyn yn ôl arno, ac mi welson ni hynny am gyfnod o dri mis yn ddiweddar. Un storm, un ddamwain, un digwyddiad roedden ni i ffwrdd o gael ein hynysu yn llwyr, a dydy hynny ddim yn sefyllfa dwi'n barod i'w goddef.
Mae yna ddwy ran i beth rydyn ni'n chwilio amdano fo: deuoli y Britannia, yr A55—sicrhau llif traffig, nid mwy o draffig. Mae gweddill y ffordd, cofiwch, i gyd wedi ei deuoli yn barod am gannoedd o filltiroedd, o Iwerddon i ddwyrain Ewrop, o ran y ffordd strategol Ewropeaidd bwysig yna. Dydyn ni ddim yn gofyn am ryw special case ar draws y Fenai, jest bod fel gweddill yr A55. A'r rhan arall ydy caniatáu teithio llesol. Wn i ddim a ydy'r Gweinidog wedi seiclo dros y Britannia—dwi wedi gwneud ambell dro, a dydy o ddim yn braf. Dwi'n reit siŵr dyw'r Gweinidog ddim wedi cerdded drosti, achos dydych chi ddim yn cael cerdded drosti, a chanlyniad hyn ydy bod ardal boblog fawr Llanfairpwll a'r cyffiniau heb unrhyw gyswllt teithio llesol i ardaloedd gwaith Parc Menai ac Ysbyty Gwynedd. Dwi wedi bod yn gweld os oes modd rhoi llwybr cerdded a beicio ar ddec isaf pont Britannia, wrth y rheilffordd. Mae'n bosib, mewn egwyddor, mae'r lle yno, ond mae'r adolygiad ffyrdd wedyn yn cyfeirio at y posibilrwydd bod angen y dec yna ar gyfer lein rheilffordd ychwanegol—
Gaf i dorri ar draws, Rhun ap Iorwerth? Mae rhywun yn moyn ymyrryd arnoch chi. Ydych chi'n cymryd ymyrraeth oddi wrth Jenny Rathbone?
Diolch. Roeddwn eisiau gofyn a ydych chi wedi rhoi llawer o ystyriaeth i ddefnyddio'r bont hŷn dros y Fenai ar gyfer teithio llesol, ar gyfer beicio a cherdded, oherwydd rwy'n derbyn y byddai pont Britannia yn brofiad beicio brawychus? Ac fe wyddom fod rhai problemau gyda'i strwythur, ac fe allai honno fod yn ffordd well o wahanu'r ddwy ran hon o drafnidiaeth, gyda thrafnidiaeth gyhoeddus ynghlwm wrth hynny hefyd o bosibl?
Rwy'n derbyn bod Canol Caerdydd ar ben arall y wlad. Un gymhariaeth fyddai fel gofyn i rywun feicio o Grangetown i Lan yr Afon drwy Lanrhymni: gallwch ei wneud, ond nid yw'n ymarferol. Mae angen inni sicrhau bod y cysylltiadau teithio llesol hynny'n ymarferol ac yn ddeniadol i bobl. Ni wnewch chi gerdded na beicio o Lanfairpwll i Barc Menai, ddau gan llath i ffwrdd, drwy fynd ychydig filltiroedd i'r cyfeiriad arall dros bont Menai.
Mae'r adolygiad ffyrdd, fel rôn i'n dweud, yn cyfeirio at y posibilrwydd o ddefnyddio'r dec isaf ar gyfer ehangu rheilffordd ar gyfer y dyfodol, er mwyn ehangu trafnidiaeth gyhoeddus, a dyna ichi enghraifft yn fanna o'r dryswch yn yr adroddiad ac yn ymateb y Llywodraeth. 'Does dim angen pont,' rydyn ni'n ei glywed, 'Mae angen annog defnydd trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol.' A dwi'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, ond does yna ddim awgrym o sut i ehangu trafnidiaeth gyhoeddus heblaw efallai dwyn llwybr posib ar gyfer teithio llesol.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n drawiadol fod adroddiad yr adolygiad ffyrdd ar y drydedd groesfan yn darllen fel achos dros y groesfan honno. Fe ddyfynnaf yma. Y prif achosion dros newid yw tagfeydd—nid yw hynny ar frig fy rhestr i, mewn gwirionedd, ond—
'tagfeydd a diffyg cadernid' pont Britannia a phont Menai. Byddai'r
'cynllun yn gwella dibynadwyedd cludo nwyddau.'
'Byddai mynediad drwy ddulliau teithio llesol hefyd yn cael ei wella.'
'Mae'r cynllun yn cynnwys gwell llwybrau ar gyfer cerddwyr a beicwyr'.
Mae diffyg cadernid yn gwneud
'Ynys Môn yn gyrchfan llai deniadol ar gyfer buddsoddi'.
'Byddai trydedd groesfan yn goresgyn... pryderon diogelwch.'
'Byddai gwella mynediad lleol ar gyfer teithio llesol'— unwaith eto—'yn fanteisiol.'
'Mae’r amcan o wella hygyrchedd i gerddwyr a beicwyr yn cyd-fynd â’r polisi cyfredol.'
'Mae’r amcan i hyrwyddo diogelwch yn cyd-fynd â’r polisi cyfredol'.
Byddai'n gwella 'dibynadwyedd bysiau'.
'Byddai’r tarfu a achosir gan ddigwyddiadau, cyfyngiadau ar y pontydd neu gau’r pontydd presennol yn digwydd yn llai aml.'
Gallwn barhau. Mae'n dweud wrthym
'Mae’r dadansoddiad cost a budd yn awgrymu y byddai’r cynllun yn darparu gwerth canolig neu uchel am arian'.
Ond dyma'r anhawster: mae'n ymddangos bod y budd hwnnw'n seiliedig ar gyfrifiad economaidd sy'n gysylltiedig, mae'n ymddangos, â chynyddu traffig, nad yw'n rhywbeth rydym ei eisiau, ac sydd, yn sicr, yn gysylltiad ag ynys sydd â phoblogaeth gyfyngedig, a chyda diwedd y lôn yn llythrennol 20 milltir i'r cyfeiriad acw, nid yw'n debyg i'r cynnydd mewn traffig y gallech fod yn ei ysgogi drwy adeiladu ffordd rhwng dwy ganolfan boblogaeth fawr.
Rwy'n ailadrodd eto fod a wnelo hyn â chadernid sylfaenol. Beth am fesur y prosiect o ran gwerth cymdeithasol, gwerth diogelwch, gwerth iechyd hefyd, ac unwaith eto, o ran llesiant economaidd sylfaenol ardal? Roedd dioddefaint busnesau pan gaewyd pont Menai yn real iawn.
I gloi, Weinidog, rwy'n paratoi cyflwyniad i gomisiwn Burns. Gobeithio y byddant hwy hefyd yn gweld bod angen adolygu hyn, ac rwy'n apelio arnoch i gofio pam fod cryfhau croesfannau'r Fenai ar y bwrdd yn y lle cyntaf. Y rheswm am hynny oedd bod angen gwneud hynny. Mae'r achos mor gryf ag erioed.
Diolch i Natasha Asghar am ddod â'r ddadl hon i'r Senedd heddiw yn enw Darren Millar. Rwyf wedi ei ddweud o'r blaen—ac mae llawer o fy nghyd-Aelodau wedi gwneud hynny sawl gwaith—seilwaith ffyrdd a thrafnidiaeth gweddus yw'r allwedd sylfaenol i economi fywiog. Ac fe fyddech chi'n meddwl bod hwnnw'n ddatganiad amlwg i'w wneud, ac eto mae gennym Lywodraeth sy'n mynnu rhwystro cynnydd Cymru ar bob gafael. Rydym wedi dod i ddisgwyl hynny, wrth gwrs, gan Lywodraeth sosialaidd aflwyddiannus sy'n benderfynol o wahardd pethau a mynd â ni'n ôl i'r oesoedd tywyll. Ble mae'r weledigaeth a'r awydd i agor Cymru i fusnes, i swyddi, i dwristiaeth? Fe allem ac fe ddylem fod wedi gweld ffordd liniaru'r M4 erbyn hyn a llu o brosiectau seilwaith eraill, fel yr A470 yng Nghaerffili, cyffordd yr M4 ym Merthyr. Dylem fod yn gweld Llywodraeth uchelgeisiol yn agor Cymru, yn ei gwneud yn hygyrch ac yn fwy agored yn economaidd. Yn anffodus, mae gennym Lywodraeth sy'n benderfynol o gosbi pobl sy'n gyrru ceir, yn cau'r drws ar ddenu mewnfuddsoddiad ac yn dod â Chymru i stop. Mae'n dangos y bydd y Llywodraeth hon yn gwario miliynau ar unrhyw beth ar wahân i wella ein seilwaith ffyrdd.
Nid am hwyl yn unig y bydd pobl yn gyrru. Gallaf eich gweld yn ysgwyd eich pen. Mae angen iddynt gael gwaith, mae angen iddynt gyrraedd apwyntiadau ysbyty, ysgol—llu o resymau. Os ydych chi'n byw ac yn gweithio mewn ardaloedd gwledig fel rwyf i a llawer o bobl ledled Cymru, heb lwybrau trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol yn eu lle, mae'n rhaid i chi yrru. Efallai mai dyna pam fod y Dirprwy Weinidog dros y pedair blynedd diwethaf wedi hawlio treuliau am bron i 12,000 milltir o deithiau ceir, a dim ond tair taith trên. Mae hyn yn dweud wrthyf fod y Gweinidog yn gwybod yn y bôn fod angen ceir a ffyrdd ac mae'n dangos sut mae ef—a'r Llywodraeth hon, eich Llywodraeth chi—wedi methu gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn ystod y ddau ddegawd diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi dewis rhoi ideoleg o flaen blaenoriaethau pobl. Nid yw Plaid Lafur y DU hyd yn oed eisiau cefnogi'r adolygiad ffyrdd hwn. Maent yn gweld ei fod yn hurt ac yn wenwynig. Mae'r rhan fwyaf o aelodau plaid y Dirprwy Weinidog ei hun wedi eu cythruddo gan hyn, fel y gwelwn o'r Siambr wag yma heddiw. Mae'n hen bryd i'r Gweinidog fwrw ati o'r diwedd i wneud rhywbeth cadarnhaol yn ei rôl, fel adeiladu'r ffyrdd sydd eu hangen ar Gymru. Ar ôl dau ddegawd, mae gennym seilwaith trafnidiaeth nad yw'n addas i'r diben ac rwy'n annog pawb i gefnogi ein cynnig heddiw.
Ffordd, neu gyfres o ffyrdd, wedi'u cysylltu gan gylchfannau oedd y cynnig gwreiddiol ar gyfer ffordd osgoi Llanharan, gan ei gwneud yn bosibl agor safle strategol fesul cam, a chysylltu cartrefi a chyfleusterau meddygol newydd ac ysgol newydd â chymuned bresennol yr hen Lanharan ar hyd y prif lwybr o ben gorllewinol yr A473 y tu hwnt i Lanharan, a chaniatáu mynediad i gyfeiriad Tonysguboriau, Llantrisant. Fodd bynnag, dros nifer faith o flynyddoedd—cymerais ran ar bob cam—o ddatblygu'r cynnig hwn, mae newidiadau mewn polisi yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol wedi adlewyrchu newidiadau mawr yn ein gwybodaeth a'n tystiolaeth o effeithiau adeiladu ffyrdd. Efallai fod gan bobl farn wahanol am hyn, wrth gwrs, ond mae'r dystiolaeth—ni waeth beth yw'r farn neu'r safbwyntiau—yn glir iawn ac yn newid y ffordd y mae Llywodraethau pellweledol yn ymateb yn nhermau polisi, a hynny'n briodol.
Dyma rai o'r newidiadau mawr hynny. Yr argyfwng hinsawdd: rydym naill ai'n credu bod yna argyfwng hinsawdd neu nid ydym yn credu hynny. Mae'r holl bleidiau gwleidyddol yn y Senedd hon wedi ei gefnogi ar bapur; yn wir, Llywodraeth Cymru oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddatgan argyfwng hinsawdd—a hynny'n briodol—a chafodd ei dilyn yn fuan iawn gan yr Alban a Lloegr wedyn. Er mwyn ein plant a'n hwyrion—hyd yn oed os nad ni ein hunain—golyga hyn fod angen inni feddwl yn sylfaenol wahanol am y ffordd rydym yn byw a'r ffordd rydym yn gweithio ac yn teithio a llawer mwy.
Rydym hefyd yn unigryw ymhlith gwledydd y Deyrnas Unedig o ran bod gennym gyfrifoldeb statudol i ystyried nid yn unig y genhedlaeth hon ond cenedlaethau'r dyfodol. Pen draw di-droi'n-ôl yr adeiladu ffyrdd di-baid rydym newydd glywed amdano. Ers sawl cenhedlaeth, rydym wedi derbyn y 'doethineb' confensiynol y gallwn adeiladu ein ffordd allan o dagfeydd traffig. Pan fydd ffyrdd yn llenwi, rydym yn adeiladu lôn arall, dwy lôn, ffordd osgoi, ffordd liniaru, ac un arall ac un arall, ac eto mae'r dystiolaeth yn erbyn hyn yn rymus ac yn anwadadwy bellach. Ar yr egwyddor a'r arfer o alw wedi'i ysgogi, pan adeiladir lôn arall neu ffordd osgoi arall, gwelwn fod y traffig yn ehangu'n ddi-baid i'w lenwi. Nid yw ffyrdd newydd a luniwyd yn bennaf ar gyfer trafnidiaeth cerbydau unigol, yn hytrach na thrafnidiaeth gyhoeddus, yn lleihau tagfeydd a llygredd aer, maent yn ei gynyddu. Yn y pen draw, mae cymunedau'n cael eu hamgylchynu gan darmac sy'n ehangu'n barhaus.
Llygredd aer, y lladdwr distaw. Nid yn unig o allyriadau egsôst y daw llygredd aer o fwy o draffig; mae'r cyfuniad o allyriadau egsôst o beiriannau tanio a gronynnau yn amharu ar iechyd anadlol ac yn byrhau hyd oes ar gyfartaledd. Yn fyr, ar gyfer yr hinsawdd, ond hefyd ar gyfer iechyd a bywydau hirach, mae angen inni ailystyried y cynnydd di-baid mewn cerbydau unigol a'r ffyrdd i ddarparu ar gyfer y twf hwnnw. Mae'n lladd pobl ac yn byrhau eu bywydau.
Mae gan bolisi trafnidiaeth gwell lawer o fanteision. Mae'r dystiolaeth wedi tyfu'n rhyngwladol, pan fydd polisi trafnidiaeth yn canolbwyntio ar fuddsoddiad uchel mewn trafnidiaeth gyhoeddus well—ar y ffyrdd, rheilffyrdd a thramiau—a hefyd lle gwneir teithiau byr drwy deithio llesol—beicio, cerdded, ac ati—mae ansawdd bywyd yn gwella, mae canlyniadau i iechyd a chyfraddau marwolaeth yn gwella, mae cymunedau'n teimlo'n fwy diogel, mae ansawdd bywyd i bobl yn y cymunedau hynny'n well, a cheir buddion ychwanegol ond rhesymegol iawn, megis datblygiad siopau a gwasanaethau lleol, y cymdogaethau 15 munud fel y'u gelwir. A cheir llawer mwy o ddadleuon, yn seiliedig ar ddadleuon clir a chymhellol, sy'n cefnogi newidiadau radical Llywodraeth Cymru—radical yn y DU, ond nid yn fyd-eang—i bolisi trafnidiaeth a theithio.
Ond dim ond un rhan o hyn yw'r adolygiad ffyrdd. Mae'r polisi trafnidiaeth cynhwysfawr wedi'i nodi yn 'Llwybr Newydd: strategaeth trafnidiaeth Cymru 2021'; ceir cynigion ar gyfer trafnidiaeth bysiau trawsnewidiol yn 'Un rhwydwaith, un amserlen, un tocyn'; ceir gwaith parhaus yn y cynigion metro ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd, de-orllewin Cymru ac ar gyfer gogledd Cymru; a cheir y buddsoddiad mwyaf erioed, er gwaethaf yr hyn a glywsom, mewn teithio llesol yng Nghymru hefyd. Ond Weinidog, yr amseru a'r bwlch ariannu rhwng gwireddu'r uchelgeisiau hyn ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol a newid dulliau tethio a chyhoeddi'r adolygiad ffyrdd yw'r perygl mwyaf. Mae 'Mind the gap' yn rhywbeth y dylem fod yn ymwybodol ohono yn nhermau polisi, cyflawni ac ariannu, nid yn unig pan fyddwn yn mynd ar y trên.
Rwyf wedi ysgrifennu atoch eisoes, Weinidog, i ofyn am gyfarfod brys, ynghyd ag arweinydd Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, a Chris Elmore AS ac Aelodau lleol. Rwy'n credu y gallwn ddatblygu cynnig newydd ar gyfer safle Llanilid sy'n tynnu traffig a theithiau diangen oddi ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, ac sy'n cysylltu'r rhannau coll, gan gynnwys ar gyfer teithio llesol a llwybrau bws i Donysguboriau a Llantrisant, ac sy'n creu cymunedau haws i fyw ynddynt ac ansawdd bywyd gwell i bobl leol. Ond Weinidog, bydd hyn yn galw am eich cymorth uniongyrchol—ar fysiau a threnau, ar reoli galw, ar deithio llesol, ar newid ymddygiad, a darparu gwelliannau go iawn nawr o ran y tagfeydd gormodol ar yr A473 drwy'r hen dref. Gallai Llanharan a Llanilid fod yn dref enghreifftiol yng Nghymru ar gyfer gwell cymunedau a newid dulliau teithio os ydych chi'n fodlon gweithio gyda ni a'n helpu'n uniongyrchol. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain, felly rwy'n eich gwahodd chi, Weinidog, i ddod allan i gyfarfod â ni yn Llanharan, i weld yr heriau a wynebwn â'ch llygaid eich hun, ac i'n helpu i wneud y newidiadau sydd eu hangen arnom i wneud Llanharan yn well i drigolion a busnesau lleol ac yn gymuned enghreifftiol ar gyfer newid dulliau teithio a ffyrdd gwell o greu cymunedau cyflawn, iach a chynaliadwy. Diolch yn fawr iawn.
Yr argyfwng hinsawdd yw'r her bwysicaf sy'n ein hwynebu. Dyna pam rwy'n cefnogi casgliadau'r adolygiad ffyrdd. Rwyf hefyd yn cefnogi safbwynt y Ceidwadwyr, os mai dyna yw eich safbwynt, ynghylch cau Maes Awyr Caerdydd. Fy her i chi yw: os mai dyna'n wir yw eich safbwynt, cyflwynwch ddadl dros gau Maes Awyr Caerdydd. Rwy'n edrych ymlaen at gyfrannu ati, oherwydd mae'n gyson â'r farn am yr argyfwng hinsawdd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs y gwnaf.
Er eglurder, nid ydym yn argymell cau Maes Awyr Caerdydd. Mewn gwirionedd, rydym wedi cyflwyno dwy strategaeth sydd wedi tynnu sylw at yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr Cymreig ei weld yn digwydd gyda Maes Awyr Caerdydd, sef ei fod yn dod yn faes awyr proffidiol gyda chysylltiadau rhyngwladol ond yn cael ei redeg yn y sector annibynnol.
Diolch o galon am egluro. Felly, mae'n safbwynt ychydig yn annidwyll, onid yw, pan ydych yn dweud wrth y Blaid Lafur, 'Caewch Faes Awyr Caerdydd'. Fy her i'r Blaid Lafur yw: os ydych chi wir yn credu mewn lleihau allyriadau carbon, caewch Faes Awyr Caerdydd.
Mae'n rhaid inni leihau ein hallyriadau carbon, galluogi newid dulliau teithio a gwella diogelwch ar y ffyrdd, a bydd y rhain yn cael eu gwneud yn rhan annatod o'n cynlluniau ffyrdd. Nod yr adolygiad, fel rwy'n ei ddeall, yw seilio penderfyniadau am ffyrdd ar ystod ehangach o feini prawf. Nonsens yw dweud bod yr adolygiad ffyrdd yn golygu bod Cymru ar gau i fusnes. Mae'r dewis rhwng yr economi a'r amgylchedd yn gysyniad deuaidd ffug. Gwyddom y bydd effeithiau economaidd newid hinsawdd yn drychinebus. Ni allwch gynllunio economi yn y tymor hir heb ddeall bod angen i bethau newid, ac mae'r rhan fwyaf o fusnesau arloesol yn gwybod hynny mewn gwirionedd. Rydym yn gwybod, mewn sawl rhan o Gymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y rhai yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru rwy'n eu cynrychioli, mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus yn broblem enfawr. Ond hyd yn oed yn ein dinasoedd, rwy'n gwybod bod cost trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn ormodol. Rwy'n edrych ymlaen at ganlyniad cynllun peilot y bysiau Fflecsi. Rwy'n gobeithio bod y rhan fwyaf o bobl yma wedi gweld y bysiau Fflecsi. Rwy'n gwybod eu bod wedi cael eu treialu mewn sawl rhan o Gymru, ac rwy'n gwybod eu bod yn cael eu defnyddio'n dda yn sir Benfro.
Rwyf eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i rai dan 25 oed. Dyna lle mae angen y newid. Mae'n gynnig radical a fyddai'n helpu i gael pobl allan o'u ceir a newid i ddulliau teithio mwy cynaliadwy. Byddai'n helpu i gyrraedd targedau newid hinsawdd, yn rhoi hwb i wasanaethau, a byddai'n rhoi cymorth i'n pobl ifanc yn enwedig. Rydym i gyd yn wynebu costau byw cynyddol, ond maent yn taro ein pobl ifanc yn fwy na neb. Mae angen inni feddwl hefyd pa fath o ddyfodol economaidd rydym ei eisiau. Buaswn yn dadlau bod angen un sy'n canolbwyntio ar ffyniant a llesiant yn eu hystyr ehangaf, nid yn unig ar un metrig twf, ac fel rhan o hynny, mae angen inni feddwl am gysylltedd yn hytrach na theithio.
I gloi, rwy'n sefyll yma gyda fy helmed dun ar fy mhen. Rwy'n croesawu casgliad yr adolygiad ffyrdd, nid fel diwedd y ddadl, ond fel dechrau dadl lawer ehangach. Rhaid i honno gynnwys darpariaeth well o lawer o drafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn ein hardaloedd gwledig. Ond yn y pen draw, mae'r cyfan yn ymwneud â sut y gallwn siapio system yng Nghymru sy'n ein cysylltu, sy'n cefnogi ffyniant, yn annog llesiant, ac yn bwysicaf oll, sy'n mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Diolch yn fawr iawn.
Dwi'n mynd i ymateb, mewn gwirionedd, yn fy nghyfraniad, i araith huawdl Huw. Roedd Huw yn sôn, wrth gwrs, am yr angen i newid, a dwi'n cytuno'n llwyr efo'r hyn roedd o'n ei ddweud, ond roedd yr hyn roedd Huw yn ei ddweud yn dod o bersbectif ar sbectrwm trefol a dinesig. Mae'r byd yn wahanol iawn yng nghefn gwlad.
Fel y gŵyr pawb, cynllun ffordd osgoi Llanbedr oedd y cyntaf i glywed am ei ffawd. Mi ddaeth y newyddion fel sioc anferthol i bobl leol, a'r bobl yna yn flin. Yn wir, roedd yr awgrymiadau cyn y cyhoeddiad yn sôn y byddai'r cynllun yn mynd rhagddo. Roedd y trigolion a'r gymuned a chymunedau cyfagos wedi bod yn aros am dros 50 mlynedd am ddatblygiad a datrysiad i'w problemau, dim ond i gael eu siomi ar y munud olaf. Ac yn wir, roedd y Llywodraeth wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i mewn i baratoi Mochras ar gyfer datblygiad economaidd hefyd.
Felly, pam fod trigolion Llanbedr mor awyddus am ffordd osgoi? Wel, i'r rhai hynny ohonoch chi sydd ddim yn adnabod y gymuned yna, mi wnaf i baentio darlun i chi. Llanbedr, yn ddi-os, ydy un o bentrefi harddaf Cymru, ac mae'n cael ei rannu gan yr Afon Artro. Dim ond un ffordd sy'n mynd drwy Lanbedr, sef yr A496, y briffordd sy'n cysylltu y Bermo a Harlech, ac er mwyn croesi'r Artro yna mae'n rhaid mynd dros bont fach gul sydd yn dyddio nôl i oes Cromwell. Pan fo lori neu dractor neu hyd yn oed fan yn teithio drosti, yna mae'r pentref i gyd yn dod i stop, ac mae hyn yn digwydd yn rheolaidd. Canlyniad hyn ydy ciwiau hir am hydoedd wrth i gerbydau aros yn amyneddgar er mwyn croesi'r bont, gan ollwng allan eu nwy gwenwynig.
Mae yna sawl ambiwlans wedi methu â chyrraedd cleifion ar amser oherwydd hyn, ac wedi gorfod gofyn am ambiwlans awyr i gyrraedd. Mae yna fusnesau lleol wedi gadael neu yn ystyried gadael oherwydd yr amser drudfawr sy'n cael ei wastraffu yn dadlwytho stoc oherwydd eu bod nhw'n ciwio. Mae rhieni plant bach neu bobl â thrafferthion symudedd yn dewis gyrru rhai cannoedd o lathenni yn unig er mwyn mynd i'r ysgol feithrin neu'r siop, oherwydd bod y bont yn rhy beryglus i gerdded drosto. Ac afraid dweud fod y bont yn heneb gofrestredig gradd II ac nad oes posib gwneud dim byd iddo.
Dwi'n deall y rhesymeg y mae'r Dirprwy Weinidog yn ei ddweud dros beidio ag adeiladu mwy o ffyrdd—mi ddaru Huw sôn am hyn ynghynt—sef y ffaith ei bod hi'n golygu mwy o gerbydau yn mynd ar fwy o ffyrdd, a mwy o ffyrdd, a mwy o gerbydau, a'r cylch seithug yna. Mae hyn yn rhesymeg gwbl, gwbl wir, ond nid ym mhob achos, ac yn sicr nid yn achos Llanbedr. Yn wir, yn Llanbedr, mae gan bawb gar oherwydd y trafferthion yma. Yn wir, mae yna le i ddadlau, o gael y ffordd osgoi, y buasai hynny yn tynnu ceir a cherbydau oddi ar y ffordd fawr, gan alluogi'r rhieni hynny i gerdded i'r ysgol feithrin a galluogi pobl i fynd i'r digwyddiadau yn y neuadd bentref neu fynd i'r siop ger y bont.
Dywed y Dirprwy Weinidog bod angen modal shift, gan ddefnyddio mwy o drafnidiaeth gyhoeddus. Wel, wnaiff y Gweinidog ddim ffeindio cefnogwr mwy brwd na fi yn hynny o beth. Ond does yna ddim buddsoddiad wedi bod yn ein trafnidiaeth gyhoeddus ac, yn wir, fel y saif pethau, mae'n debygol y bydd y llwybrau bysiau sydd yn bodoli'n barod yn y cael eu torri oherwydd y diffyg buddsoddiad yma. Rwy'n cydnabod bod y cynlluniau gwreiddiol wedi bod yn edrych i baratoi ffordd osgoi oedd yn caniatáu cario cerbydau am hyd at 60 mya, ond mae'r cymunedau yno a'r awdurdod lleol, Cyngor Gwynedd, wedi edrych a lliniaru hyn a newid y cynlluniau er mwyn newid y cyflymder i 40 mya er mwyn lleihau allyriadau.
Mewn ymateb blaenorol, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog, yn eithaf dilornus wrthyf i, nad oes neb wedi dweud fod disgwyl i bobl oedrannus seiclo i bob man, ond y gwir ydy, os ydych chi'n darllen yr adroddiad adolygiad ffyrdd i Lanbedr, a gafodd ei gyhoeddi yn ôl yn 2021, mae'n dangos mai’r flaenoriaeth ar gyfer Llanbedr ydy active travel. Mewn cymuned ynysig fel Llanbedr, mae'n agos at amhosib i weithredu active travel er mwyn mynd i'r feddygfa neu er mwyn mynd i negesu. Ond, o gael ffordd osgoi, yna mi fyddai hynny yn galluogi pobl i gerdded a mynd i'r digwyddiadau cymunedol fel roeddwn i'n sôn ynghynt. Ac yn wir, yn ei dystiolaeth i'r pwyllgor amgylchedd yr wythnos diwethaf, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog:
'bydd yna deithiau car bob amser, fel yr unig ffordd ymarferol o deithio o gwmpas...yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, y car fydd y prif ddull teithio bob amser.'
Mae hynny yn hollol wir am Lanbedr. Felly dwi'n galw unwaith eto ar y Llywodraeth i gydweithio efo Cyngor Gwynedd er mwyn datblygu'r cynllun i wneud ffordd osgoi arafach yn Llanbedr a buddsoddi yn gynhwysfawr yn ein trafnidiaeth gyhoeddus yng nghefn gwlad Cymru.
Fel y bydd y Gweinidog yn ei ddweud yn ei hymateb, rwy'n siŵr, ni fydd y gwaith o adeiladu ffyrdd yn dod i ben yn gyfan gwbl. Ond eto, edrychwn ar bob achos ar wahân. Mae angen i adolygiad ffyrdd fod yn rhan o adolygiad trafnidiaeth. Mae cynllun bysiau yn arbennig o bwysig oherwydd mae diffyg cynllun bysiau a gwasanaethau bysiau digonol yn golygu'n aml nad oes dewis arall yn lle gyrru heblaw symud o'r ardal rydych yn byw ynddi ar hyn o bryd. Cofiwch hefyd fod bysiau'n gyrru ar ffyrdd, a thu allan i ardaloedd trefol mawr, mae lonydd bysiau'n brin. Mae bysiau hefyd yn cael eu dal mewn tagfeydd traffig ac mae hynny'n effeithio ar eu hamserlenni. Rwy'n cofio adeg pan oedd polisi'r Blaid Lafur yn cefnogi strategaeth drafnidiaeth integredig. Nid wyf yn siŵr pa bryd y daeth hynny i ben.
Mae tywydd a thopograffi Cymru yn golygu bod beicio a cherdded yn opsiynau anymarferol ar gyfer sawl taith. Nid yw adolygiad trafnidiaeth ond yn gwneud synnwyr o'i gyfuno â chynllun datblygu lleol a strategaeth datblygu economaidd. Maent oll yn ffitio gyda'i gilydd. Ni ellir eu trin ar wahân. Os byddwch yn cael trafnidiaeth yn anghywir, byddwch yn ei gwneud hi'n anodd byw mewn ardal, ac yna byddwch yn dioddef diboblogi demograffig. Bydd yr henoed a'r tlawd yn cael eu gadael ar ôl, bydd y rhai iau a'r rhai mwy cefnog yn gadael—dyma'r realiti wedi'r rhyfel i rai o gymunedau ein Cymoedd a rhai o'n cymunedau gwledig. Nid wyf eisiau gwneud y sefyllfa'n waeth.
Nid yw adeiladu ffordd yn ateb y broblem. Edrychwch ar yr M25. Roedd yr M25 yn ddrud iawn—ffordd fawr yn amgylchynu'r rhan fwyaf o Lundain fwyaf, 117 milltir o draffordd. Er bod yr M25 yn boblogaidd yn ystod y gwaith adeiladu, daeth yn amlwg yn gyflym nad oedd digon o gapasiti traffig. Oherwydd yr ymchwiliad cyhoeddus, nid oedd sawl cyffordd ond yn gwasanaethu ffyrdd lleol lle adeiladwyd datblygiadau swyddfa a manwerthu, gan ddenu hyd yn oed mwy o draffig i'r M25 nag y'i cynlluniwyd ar ei gyfer. Mae'r tagfeydd wedi arwain at gynlluniau rheoli traffig ac ers agor mae'r M25 wedi cael ei lledu'n gynyddol, yn enwedig ger maes awyr Heathrow. Ond eto, mae'r broblem yn parhau. Cafodd ei disgrifio fel maes parcio mwyaf Ewrop. Problem yr M25 yw'r M4 yn ne Cymru—gormod o gyffyrdd yn rhy agos at ei gilydd, mae traffig lleol yn ei defnyddio fel ffordd liniaru leol. Y perygl o adeiladu ffyrdd lliniaru yw bod datblygiadau'n clystyru o'u cwmpas a chyffyrdd, ac mae traffig yn cynyddu'n sylweddol. Rydych yn cyrraedd nôl lle dechreuoch chi yn y pen draw.
Wrth gwrs, yn achos rhai llefydd, nid yw un ffordd osgoi'n ddigon. Fel y mae llawer o Aelodau wedi'i nodi, mae'r A40 yn mynd heibio i'r gogledd o Landeilo, gan fynd heibio ochr ogleddol ystad Parc Dinefwr sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol cyn mynd yn ei blaen i Gaerfyrddin. Nid dim ond unrhyw ffordd yw hon, dyma'r A40, un o'r prif ffyrdd yng Nghymru. Ond rydym am gael ail ffordd osgoi Llandeilo nawr, neu mae cynlluniau ar y gweill ar gyfer adeiladu ail ffordd osgoi Llandeilo. Felly, mae Llandeilo yn cael ffordd osgoi ddeheuol i gyd-fynd â'i ffordd osgoi ogleddol. Tra bo sawl rhan o Gymru sydd angen ffyrdd newydd yn cael eu gadael ar ôl, mae tref Llandeilo'n cael dwy. Mae ganddi wasanaeth bws rheolaidd hefyd ac mae ar reilffordd Calon Cymru, ac mae Abertawe ac ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin o fewn cyrraedd.
Wrth gwrs, fel y dywedodd Mabon ap Gwynfor, mae yna bentref ar arfordir Meirionnydd o'r enw Llanbedr. Mae Llywodraeth Cymru wedi dod â'r cyfan i ben, yn dilyn cyngor gan bwyllgor a ddewisodd o arbenigwyr trafnidiaeth a hinsawdd. Mae'r galwadau am ffordd fynediad un filltir i Lanbedr yn dyddio'n ôl dros ddegawdau. Y gobaith oedd y byddai'r ffordd yn torri 90 y cant o'r traffig drwy'r pentref yn Eryri. Mae wedi bod yn cyfrannu'n uniongyrchol at fwy o draffig. Mae gan Lanbedr drên bob pedair awr; yn sicr nid yw'n rhedeg mor fynych â threnau Calon Cymru. Nid oes llwybr bysiau i Ysbyty Gwynedd a hwnnw yw'r ysbyty lleol.
Rwy'n gobeithio—er nad wyf yn disgwyl—y gall y Gweinidog egluro pam fod adeiladu ffordd yng ngogledd Meirionnydd yn achosi cynnydd mewn traffig a llygredd, ond nad yw ail ffordd osgoi Llandeilo yn gwneud yr un peth.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Mike?
Os gwelwch yn dda.
A fyddech chi'n cytuno â mi mai gwleidyddiaeth 'casgen borc' yw ail ffordd osgoi Llandeilo, a dim byd arall?
Ni allaf ddweud hynny, oherwydd, fel y nodoch chi, neu fel y nododd Darren Millar yn gynharach, nid wyf wedi bod yn rhan o hyn o gwbl; cynhelir y drafodaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ac mae llawer ohonom ar ein meinciau ni'n cael ein gadael allan ohoni.
Fodd bynnag, os yw'r Llywodraeth yn credu bod ffyrdd ychwanegol yn creu mwy o draffig a llygredd, pam na allent gau ffordd gyswllt bae dwyreiniol Caerdydd i geir, lorïau a beiciau modur, a chaniatáu i fysiau a beicwyr yn unig ei defnyddio, os mai dyna'r ateb? Rydym angen strategaeth drafnidiaeth integredig sy'n gysylltiedig â thai, datblygu masnachol a diwydiannol. Nid ffyrdd newydd yw'r ateb ym mhob man, ond mae eu hangen mewn rhai llefydd. Yr hyn sy'n gweithio yw'r hyn sy'n bwysig.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James.
Rwy'n aros i feicroffon Julie James gael ei agor. Ie, dyna chi. Diolch.
Diolch, Lywydd.
Lywydd, mae'n gwbl amlwg fod yna rai gwirioneddau economaidd sylfaenol sy'n anhysbys i feinciau'r Torïaid. Nid yw twf economaidd a gweithredu ar yr hinsawdd yn amcanion sy'n gwrth-ddweud ei gilydd; byddai'r niwed economaidd mwyaf yn deillio o fethiant i atal newid hinsawdd direolaeth. Mae'r cydbwysedd y mae'n rhaid inni geisio ei sicrhau yn un sy'n osgoi polisïau sydd, drwy beidio ag ystyried ffactorau economaidd ac amgylcheddol, yn hunandrechol.
Dyma'r adolygiad gwraidd a brig cyntaf o adeiladu ffyrdd yng Nghymru ers cenedlaethau, a daw yng nghanol argyfwng natur a hinsawdd, argyfwng costau byw, ac ar adeg pan fo Llywodraeth Cymru yn wynebu pwysau ariannol digynsail. Felly, er cymaint y gallai'r Torïaid fod eisiau troi'r cloc yn ôl, ni allwn barhau fel rydym wedi'i wneud dros y 60 neu 70 mlynedd diwethaf, a ninnau'n gwybod y bydd rhaid inni wneud toriadau carbon dyfnach yn y 10 mlynedd nesaf nag y llwyddasom i'w gwneud yn y 30 mlynedd diwethaf; pan ydym yn gwybod bod trafnidiaeth, hyd yma, wedi llusgo'i draed ar y llwybr i ddatgarboneiddio; a phan fo cymaint o rywogaethau yng Nghymru—un o bob chwe rhywogaeth yn ôl yr adroddiad diweddaraf ar gyflwr byd natur—mewn perygl difrifol o ddiflannu.
Rydym yn gweithredu yma yng Nghymru er mwyn ceisio cyflawni ein hymrwymiadau sero net a'n cyfrifoldebau amgylcheddol ehangach. Pa mor aml y clywais eiriau cynnes gan y Torïaid yn y Siambr hon ynglŷn â mynd i'r afael â newid hinsawdd a gwarchod bioamrywiaeth? Ond er gwaetha'r geiriau cynnes hynny, ni allaf gofio unrhyw awgrym difrifol neu adeiladol gan y Ceidwadwyr Cymreig mewn ymateb i heriau mawr ein hoes. Felly, efallai y gallent ddechrau gosod eu llwybr amgen tuag at sero net gyda rhywbeth y maent wedi ymrwymo iddo go iawn. A thra'u bod wrthi, byddai'n dda gwybod a ydynt yn cytuno gyda'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, sydd hefyd yn cynghori Llywodraeth San Steffan wrth gwrs, ac sydd wedi nodi y bydd diffyg gweithredu ar newid hinsawdd yn costio tua 4 y cant i 6 y cant o gynnyrch domestig gros bob blwyddyn. Hyd yn oed pe byddem wedi bod eisiau parhau i ddatblygu pob un o'r 55 cynllun yr edrychwyd arnynt yn rhan o'r adolygiad ffyrdd, y gwir amdani yw nad oes gennym arian i wneud hynny.
A gaf fi dorri ar draws y Gweinidog a gofyn a yw'n fodlon derbyn ymyriad gan Mark Isherwood?
Lywydd, hoffwn ddatblygu fy nadl ymhellach, ac yna efallai, os hoffai Mark ymyrryd ychydig yn nes ymlaen, byddaf yn hapus iawn i dderbyn.
Iawn. Parhewch.
Roeddwn eisiau tynnu sylw at y ffaith bod yr adolygiad ffyrdd yn edrych ar gost derfynol cynlluniau datblygu arfaethedig nad ydynt wedi cael cymeradwyaeth adeiladu a lle na chafodd chyllid cyfalaf ei ddyrannu ar gyfer eu cyflawni. A dyna holl bwynt llwybr buddsoddi: rhywbeth y mae'n ymddangos nad yw'r Torïaid yn ei ddeall. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu, mae rhai'n mynd yn eu blaenau a cheir eraill nad ydynt yn mynd yn eu blaenau, a chyda'n cyllideb gyfalaf bellach 8 y cant yn is mewn termau real oherwydd anllythrennedd economaidd Llywodraeth bresennol y DU a'r rhai a ragflaenodd y Llywodraeth Dorïaidd benodol hon, nid oes gennym y buddsoddiad cyfalaf sydd ei angen i wneud yr holl ymyriadau economaidd y mae angen i bob Llywodraeth eu gwneud, ac oherwydd y penderfyniadau byrbwyll hynny a wnaed yn San Steffan, mae'n rhaid inni flaenoriaethu nawr.
Felly, beth am edrych ar esiampl llwybr coch sir y Fflint. Roedd y gwaith datblygu y mae ymgynghorwyr wedi'i wneud i gefnogi'r prosiect yn dangos bod tagfeydd lleol wedi dychwelyd i'r lefelau presennol o fewn 15 mlynedd i'w adeiladu, yn debyg iawn i enghraifft yr M25 a grybwyllwyd gan Mike Hedges.
A wnewch chi dderbyn ymyriad nawr, Weinidog? Gofynnwyd i mi eto.
Iawn—ewch amdani, Mark.
Diolch.
Pam nad ydych chi wedi cydnabod bod y 'Llywodraeth Dorïaidd bresennol' wedi gwahardd gwerthu ceir a faniau petrol a diesel newydd o 2030 ymlaen, ac y bydd pob car a fan newydd heb unrhyw allyriadau yn y bibell fwg erbyn 2035, sy'n golygu bod angen rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y dyfodol, cynllunio nawr a darparu ar gyfer y rhwydwaith hwnnw, o ystyried y nifer o geir technoleg newydd a fydd ar y ffyrdd erbyn hynny yn sicr?
Wel, rwy'n anghytuno'n sylfaenol â hynny, Mark. Os ydych chi'n cyfnewid yr holl geir presennol sydd ar y ffordd am gerbydau trydan neu gerbydau allyriadau isel, bydd gennych argyfwng hinsawdd gwahanol i edrych arno. Yr hyn sydd ei angen arnom yma yw ateb gwahanol i drafnidiaeth nad yw'n dibynnu ar drafnidiaeth ceir unigol.
Beth bynnag, gadewch i mi droi'n ôl at fy enghraifft o lwybr coch sir y Fflint. Byddai £300 miliwn o bunnoedd wedi'i wario—arian nad yw ar gael wedyn i'w wario ar ddewisiadau amgen—i adeiladu ffordd ddeuol drwy goetir hynafol yn ystod argyfwng natur; £300 miliwn ar brosiect a fyddai wedi cynyddu allyriadau carbon 423,000 tunnell yn ystod argyfwng hinsawdd, ac eto o fewn degawd a hanner i'w adeiladu byddai lefelau tagfeydd wedi codi'n ôl i'r lefelau a welwn heddiw. Nid wyf yn gallu deall sut y gall unrhyw un feddwl bod honno'n ffordd gall o fuddsoddi arian. Tra wyf wrthi, mae gwir angen i'r Torïaid sy'n paldaruo am y swm o arian nad yw'n cael ei fuddsoddi yng ngogledd Cymru wneud eu symiau; rwy'n credu bod angen ichi gael golwg ar yr hyn a gafodd ei gynnig ar gyfer yr M4 yn ne Cymru, os ydych chi am wneud y gymhariaeth mewn gwirionedd.
Yn hytrach, byddwn yn buddsoddi'n gynaliadwy yng ngogledd Cymru. Nid oedd y buddsoddiad a gynigiwyd yno yn gyson â'n hymrwymiadau o dan Ddeddf cenedlaethau'r dyfodol, nac ychwaith yn cyd-fynd â'r hyn y dywedasom y byddem yn ei wneud yn strategaeth trafnidiaeth Cymru ac nid yw'n gyson â'n targedau statudol ar newid hinsawdd. Y rheswm pam y sefydlwyd y panel adolygu ffyrdd annibynnol oedd i brofi cynlluniau fel y llwybr coch, a gafodd eu rhoi ar y gweill cyn inni gytuno ar y polisïau hyn, yn erbyn ein hymrwymiadau ac yn erbyn egwyddorion cyfundrefnol Llywodraeth Cymru. Nid yw'n waharddiad ar adeiladu ffyrdd, yn gwbl amlwg, a byddwn yn gweithio gyda chomisiwn Burns i weithredu dewis arall o gynllun cynaliadwy, a dyna yw'r peth cywir i'w wneud yn amlwg.
Felly, i fod yn glir, Lywydd, ymarfer polisi technegol yw hwn, ac nid rhywbeth y byddai unrhyw Lywodraeth yn ymgynghori arno'n uniongyrchol. Y cam strategaeth, a'r cam cynllunio, yw'r amser i ymgysylltu â'r cyhoedd a rhanddeiliaid, ac wrth gwrs, rydym wedi gwneud hynny a byddwn yn gwneud cymaint o hynny ag y gallwn. Yn wir, mae comisiwn Burns yng ngogledd Cymru bellach yn ymgynghori fel rhan o'i waith, a phan fydd awdurdodau lleol wedi cynhyrchu eu cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol newydd byddant hwythau hefyd yn ymgynghori arnynt, a hynny'n gwbl briodol.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn dweud bod angen inni,
'gyflawni'r seilwaith trafnidiaeth y mae pobl Cymru yn ei haeddu.'
Rydym yn cytuno'n llwyr. Mae angen inni ddiogelu ein seilwaith ar gyfer y dyfodol i ymdrin â'r heriau y gwyddom eu bod ar y ffordd. Byddwn yn parhau i fuddsoddi yn ein seilwaith ffyrdd. Byddwn yn gwneud mwy i gynnal a chadw'r ffyrdd sydd gennym a byddwn yn adeiladu ffyrdd newydd sy'n bodloni ein pedwar prawf polisi. Byddwn yn gweithio gyda'n hawdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau a all fynd i'r afael â'n problemau trafnidiaeth heb ychwanegu at yr heriau eraill, ac rydym yn hyderus iawn fod hynny i gyd yn ymarferol iawn.
Gadewch inni edrych ar hyn yn gymesur. Er mwyn dechrau ar lwybr tuag at sero net erbyn 2050, mae angen i ni leihau'r defnydd o geir 10 y cant, felly y cyfan rydym yn ei wneud mewn gwirionedd—
Weinidog, mae yna gais arall am ymyriad, y tro hwn gan Huw Irranca-Davies.
Yn sicr. [Chwerthin.]
Weinidog, diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad. Os bydd arweinwyr awdurdodau lleol yn cysylltu â chi yn yr ardaloedd hynny lle dywedwyd wrth lunwyr cynlluniau i feddwl eto ynglŷn â'u cyflwyno, lle mae angen ichi ddangos bod cynllun hefyd yn arwain at ostyngiad yn lefelau trafnidiaeth cerbydau unigol, a wnewch chi gadarnhau y byddwch yn mynd ati i drafod cynigion gyda nhw er mwyn gwneud i hyn weithio, ac y byddwch yn gweld sut y gall Llywodraeth Cymru eu helpu i wneud hynny hefyd?
Byddwn, Huw, wrth gwrs y byddwn, a byddwn yn mynd ati'n rhagweithiol i wneud hynny; rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n hawdurdodau lleol, ac wrth gwrs y byddwn yn gweithio gyda nhw ar eu cynlluniau trafnidiaeth lleol wrth iddynt eu cyflwyno.
Mae angen inni edrych ar hyn yn gymesur. Er mwyn cyrraedd sero net erbyn 2050, mae angen i ni leihau'r defnydd o geir 10 y cant. Felly, y cyfan rydym yn sôn amdano yw newid un o bob deg taith mewn car preifat i ddull teithio cynaliadwy. Rwy'n gwybod bod hynny'n drysu uchelgeisiau Natasha Asghar, ond mewn gwirionedd, nid gwahardd ffy0rdd mohono. Mae gwir angen inni edrych ar hyn yn gymesur. Yn ogystal â lleihau allyriadau, bydd y gostyngiad yn lleihau tagfeydd, yn lleihau llygredd aer, yn cyfyngu ar lygredd sŵn is ac yn rhoi mwy o ddewis i bobl mewn perthynas â sut maent yn teithio. Ar hyn o bryd, mae llawer gormod o bobl yn cael eu hamddifadu o'r dewis hwnnw; mae pobl sy'n dibynnu ar fysiau yn cael eu hamddifadu o well gwasanaethau oherwydd bod ein buddsoddiad wedi cael ei luchio tuag at lif ddiddiwedd o ffyrdd newydd. Yn y cyfamser, mae eraill yn teimlo eu bod yn cael eu gorfodi i fod yn berchen ar gar ar ôl car am nad oes ganddynt ddewis arall. Os ydym eisiau gwella dewis, ac os ydych eisiau cynyddu rhyddid, os ydym eisiau cryfhau cymunedau, mae angen inni symud buddsoddiad tuag at system drafnidiaeth gyhoeddus integredig a modern.
Rydym yn gwybod nad oes gennym arian i wneud yr holl fuddsoddiadau trafnidiaeth gyhoeddus sydd eu hangen arnom nawr, ond fel mae ein rhaglen metro £1.6 biliwn a'n buddsoddiad uchaf erioed mewn teithio llesol yn dangos, rydym yn gwneud cynnydd. Felly, Lywydd, rydym yn rhoi £60 miliwn y flwyddyn tuag at docynnau teithio consesiynol gorfodol. Mae hyn yn darparu teithio am ddim i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Rydym yn rhoi £2 filiwn y flwyddyn tuag at y cynllun fyngherdynteithio, sy'n cynnig traean oddi ar gost tocynnau bws i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed. Drwy'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, rydym yn darparu £25 miliwn o gyllid grant i awdurdodau lleol, i gyd-fynd â chost gwasanaethau bysiau ar dendr, ynghyd â chymorth i drafnidiaeth gymunedol, ac yn ychwanegol at hynny, rydym wedi gwario £3.2 miliwn y flwyddyn—
Bydd angen ichi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr, Weinidog. Rwyf wedi rhoi amser ychwanegol ar gyfer yr ymyriadau, felly os gallwch ddirwyn i ben nawr.
Diolch, Lywydd. Mae'n anodd iawn, onid yw, i ateb yr holl bwyntiau a godwyd mewn dadl o'r math hwn yn yr amser byr iawn sydd gennym ar gael i ni. Felly, byddwn yn cyflwyno dadl yn ystod amser y Llywodraeth i gael mwy o amser i drafod hyn.
Ond Lywydd, i grynhoi, diau mai newid dull o weithredu yw'r peth iawn i'w wneud, ond er mwyn bod yn effeithiol mae angen inni wneud y peth iawn i'w wneud yn beth hawsaf i'w wneud, fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud droeon, oherwydd mae pobl yn fwy tueddol o wneud yr hyn sy'n hawdd ei wneud. Ond yn fyr, Lywydd, rydym yn symud ymlaen at ddyfodol disglair, sy'n gynaliadwy yn economaidd ac yn amgylcheddol, ond fel mae'r ddadl hon yn dangos, mae'r Torïaid yn gaeth i weledigaeth ffug, or-hiraethus o'r gorffennol, ac maent eisiau gweld dyfodol dystopaidd lle mae mwy a mwy o'n cefn gwlad yn cael ei ddifetha gan draffig, a lle mae ein hinsawdd a'r byd natur hanfodol sy'n ei gynnal yn cael eu dinistrio. Rwy'n gwybod pa ddyfodol rwy'n ei gefnogi, ac rwy'n gwybod pa ddyfodol mae pobl Cymru, fel y dengys yr holl arolygon barn, yn ei gefnogi hefyd. Diolch.
Tom Giffard i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau a gyfrannodd at ein dadl heddiw? Cyfrannodd nifer o Aelodau, mewn gwirionedd, felly fe fyddwch yn falch o glywed nad wyf am enwi pawb ac ymateb i'w pwyntiau yn unol â hynny. Ond roeddwn eisiau crybwyll datganiad agoriadol Natasha Asghar a'i hangerdd am drafnidiaeth yng Nghymru. Rwy'n credu bod ei gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trafnidiaeth yng Nghymru yn amlwg iawn yn ei chyfraniad hi.
Rydym wedi clywed o bob rhan o'r Siambr heddiw pa mor ddibynnol yw pob ardal o Gymru ar seilwaith ffyrdd da. Mae llawer o'r cynlluniau adeiladu ffyrdd hyn yn hanfodol i helpu economïau a chymunedau lleol i ffynnu, ac efallai ein bod wedi clywed yn y ddadl fod hynny'n fwy amlwg yng ngogledd Cymru nag yn unman arall, wrth i Sam Rowlands a Janet Finch-Saunders dynnu sylw at y prosiectau mawr y rhoddwyd stop arnynt yno. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â Rhun ap Iorwerth, sydd wedi gorfod cydbwyso cefnogaeth lawn ei blaid i gynlluniau diweddaraf Llafur, fel maent yn ei wneud mor aml, gydag awydd clir ei etholwyr am drydedd croesfan i Ynys Môn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs, fe fydd yn gwybod bod ei etholwyr yn cefnogi'r drydedd groesfan honno ac nid oes raid i'w Haelod Seneddol, Virginia Crosbie, gerdded y rhaff dynn ar hynny.
Wel, mae'n gweithio'r ddwy ffordd, oherwydd mae angen ichi gofio hefyd fod Aelodau o'ch meinciau chi wedi gwrthwynebu'r llwybr coch.
Rwy'n credu inni glywed gan Sam Rowlands fel Aelod dros Ogledd Cymru ei fod yn cefnogi'r llwybr coch i fynd drwy sir y Fflint yn fawr iawn.
Fel rydym hefyd wedi clywed, mae'r Dirprwy Weinidog a'r panel a greodd wedi methu gwrando ar unrhyw un o bryderon y cymunedau ac wedi diystyru eu holl bryderon, gan fwrw ymlaen â'u hagenda gul eu hunain yn lle hynny heb gynnig unrhyw ddewisiadau amgen addas. Clywsom gan Delyth Jewell ac eraill ein bod yn wynebu moment dyngedfennol lle mae Cymru, yn ogystal â chanslo prosiectau ffyrdd hanfodol, yn wynebu argyfwng yn ei system drafnidiaeth. Mae'n cynnwys pryderon ynghylch y 65 y cant i 100 y cant o wasanaethau bysiau sy'n wynebu cael eu torri gan gwmnïau bach oherwydd diffyg cyllid, fod nifer y teithiau bws yn gostwng, fod 11,000 o deithiau trên wedi'u canslo dros y tair blynedd diwethaf, a bod un o bob chwech o deithwyr trên yn anfodlon â gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
Os mai dyma yw ymateb Cymru i newid hinsawdd, fel y clywsom gan bobl fel Jenny Rathbone, Huw Irranca-Davies a Jane Dodds, onid yw'n rhyfedd na fu unrhyw ysgogiad o gwbl i gynyddu'r defnydd o gerbydau trydan, a fydd yn ffactor o bwys i leihau allyriadau? Pam nad oes gennym fwy nag ychydig dros 1,400 o fannau gwefru cyhoeddus yma yng Nghymru, ymhell islaw'r 50,000 man gwefru cyflym y mae Llywodraeth Cymru ei hun wedi rhagweld y bydd eu hangen erbyn 2030? A pham mai dim ond 94 o fysiau di-allyriadau sy'n weithredol a hynny mewn pedwar awdurdod?
Yr awdurdodau sydd wedi cael bysiau trydan yw'r rhai sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am gyllid gan Lywodraeth y DU, ac fe ddylem fod yn ddiolchgar iawn am hynny. Ond mewn perthynas â mannau gwefru trydan, rhaid imi eich atgoffa nad llywodraethau sy'n gyfrifol am orsafoedd petrol, ac yn yr un modd, nid llywodraethau sy'n gyfrifol am fannau gwefru trydan ychwaith. Mae yna gyfrifoldeb, rwy'n cytuno, i ni sicrhau bod cymunedau'n manteisio ar gyfleoedd i osod mannau gwefru trydan yn eu pentrefi a'u trefi fel y gallant wneud rhywfaint o arian o hynny, gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy yn eu hardal, ond nid gwaith y Llywodraeth yw trosglwyddo i fannau gwefru trydan.
Mae gan y Llywodraeth rôl i annog gosod pwyntiau gwefru. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad, Jenny, fod 39 pwynt gwefru i bob 100,000 o'r boblogaeth yng Nghymru. Yn Lloegr, mae'n 52. Mae gwahaniaeth amlwg ar hyd ein ffin yma yng Nghymru hefyd, a hynny oherwydd natur ragweithiol Llywodraeth y DU nad ydym yn ei gweld yma yng Nghymru. Ac os yw'n ymwneud ag arbed arian, mae'n rhyfedd fod rhewi adeiladu ffyrdd yn yr adolygiad hwn wedi dechrau cyn i unrhyw bwysau chwyddiant ddod i'r amlwg. Os mai mantoli'r llyfrau yw'r nod, mae'n syfrdanol fod Llywodraeth Cymru wedi gwario £180 miliwn ar brosiectau adeiladu ffyrdd na chawsant eu dechrau, ffyrdd i unman yn llythrennol, y gellir ei ddiystyru mor hawdd. Os yw hi mor anodd dod o hyd i arian, un arbediad da fyddai'r £30 miliwn y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario ar derfyn cyflymder o 20 mya. Mae 10 mlynedd wedi mynd heibio ers Deddf Teithio Llesol (Cymru), Lywydd, ond mae'n edrych yn debyg ein bod wedi mynd wysg ein cefnau: llai o deithiau bws, o leiaf 30 y cant o'r boblogaeth ym mhob un o ranbarthau Cymru mewn tlodi trafnidiaeth, a chynlluniau peilot trafnidiaeth gynaliadwy, gan gynnwys e-feiciau ac e-feiciau cargo, nad ydynt yn dangos unrhyw gynnydd, a'r cyfan oherwydd diffyg buddsoddiad a pholisi sy'n newid yn barhaus. Fodd bynnag, mae'r panel a'r Dirprwy Weinidog yn dibynnu'n llwyr ar deithio llesol a system drafnidiaeth gyhoeddus sydd angen eu diwygio'n enbyd.
Mae cymudwyr a busnesau Cymru'n cael eu gwthio'n barhaus tuag at yrru fel ffurf ddibynadwy ar drafnidiaeth oherwydd bod system trafnidiaeth gyhoeddus Cymru'n methu cyflawni. Fodd bynnag, yn hytrach na chael system drafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy sy'n cael defnydd da cyn gwahardd prosiectau adeiladu ffyrdd, bellach cawn ein gadael yn y sefyllfa hurt hon lle bydd defnyddwyr ffyrdd yn achosi mwy o allyriadau oherwydd terfyn cyflymder o 20 mya, lle byddant yn talu mwy fyth os caiff rhwydwaith codi tâl ar ddefnyddwyr ffyrdd ei gyflwyno yng Nghymru—syniad y nododd y Dirprwy Weinidog fod ganddo ddiddordeb ynddo—ac ni fydd yn gallu gwneud defnydd effeithlon o'r ceir trydan y gofynnir iddynt newid iddynt erbyn 2030 oherwydd prinder pwyntiau gwefru. [Torri ar draws.] Rwyf wedi derbyn digon o ymyriadau.
Mae'n eithaf eironig fod y gyllideb derfynol wedi'i phasio ddoe, gan ei bod yn dangos toriadau sylweddol i drafnidiaeth, hyd yn oed mewn meysydd lle mae'r Dirprwy Weinidog eisiau canolbwyntio arnynt. Nid yn unig y bu gostyngiad o 17 y cant mewn cyllid cyfalaf ar gyfer teithio cynaliadwy o'i gymharu â'r gyllideb ddangosol, gwelwyd toriad o £10 miliwn i deithio llesol a thoriad o £22 miliwn i gymorth ar gyfer bysiau. Ni all honno fod yn sefyllfa y gellir goddef iddi barhau ochr yn ochr â thoriad i brosiectau ffyrdd.
Felly, mae byrdwn y cynnig yn syml, Lywydd: mae'r adolygiad ffyrdd wedi methu darparu'r seilwaith trafnidiaeth sydd ei angen ar Gymru. Yn hytrach, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y rhwydwaith trafnidiaeth yng Nghymru yn gallu darparu ar gyfer y galw. Drwy fethu gwneud hynny, efallai y dylai geiriau enwog y Dirprwy Weinidog, 'Nid ydym yn gwybod yn iawn beth rydym yn ei wneud ar economi Cymru' gael eu diweddaru nawr i, 'Nid ydym yn gwybod beth rydym yn ei wneud ar system drafnidiaeth Cymru ychwaith.' Oherwydd oni bai ei fod yn dod o hyd i ateb, nid am y ffyrdd y bydd rhaid iddo boeni, ond yn hytrach, am yr aelodau anhapus ar feinciau cefn Llafur yn dweud wrtho am ei hel hi oddi yma.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu?
Edrychwch, nid wyf am wneud eich gwaith drosoch chi, felly canolbwyntiwch os gwelwch yn dda.
Dwi'n credu ein bod ni wedi clywed gwrthwynebiad oddi wrth Blaid Cymru. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig tan y cyfnod pleidleisio.