– Senedd Cymru am 2:18 pm ar 28 Mehefin 2016.
Rŷm ni’n symud ymlaen yn awr at yr eitem nesaf, sef dadl ar ganlyniad refferendwm yr Undeb Ewropeaidd. Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.
Diolch, Lywydd. Wel, mae llais democrataidd y bobl wedi cael ei glywed, ac mae'n rhaid i ni barchu hynny, ond mae'n rhaid i ni ddweud bod y ddadl a ragflaenodd y bleidlais ddydd Iau diwethaf wedi profi i fod yn rhwygol iawn i’n cymunedau. Mae'n amser erbyn hyn i roi'r gorau i'r rhethreg ddi-fudd, cynhennus, a gweithio tuag at adfer cydlyniant cymunedol a gwneud yr hyn yr ydym wedi cael ein hethol i'w wneud, a hynny yw cyflawni ar gyfer pobl Cymru. Beth fydd yn dilyn yn awr yw trafodaethau hir, o bosibl yn para blynyddoedd, dan y broses erthygl 50, a ddylai, fel y bydd Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud yn gynharach, ddechrau, yn fy marn i, heb ormod o oedi, gyda'r UE, wrth gwrs, er mwyn taro cytundeb ar y trefniadau ar gyfer tynnu'n ôl ac ailddiffinio ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Nawr, nid oes gan unrhyw un syniad clir o sut y mae 'allan' yn edrych. Dyna'r mater y mae'n rhaid ymaflyd ag ef ar hyn o bryd a bydd honno’n broses gymhleth. Byddwn yn gweithio'n ddiflino yn ystod y cyfnod hwn er mwyn sicrhau nad ydym yn cael ein hesgeuluso ac i frwydro am y fargen orau bosibl i Gymru.
Mae angen i ni wybod, yn gyntaf oll, beth yw gweledigaeth Llywodraeth y DU o’r byd y tu allan i'r UE. Mae angen i ni wybod hynny cyn gynted ag y bo modd er mwyn dod â sefydlogrwydd yn ôl i'r marchnadoedd ac i roi darlun clir o'r hyn sydd gan ein gwlad i'w gynnig i fuddsoddwyr posibl. Rwyf wedi bod yn glir bod y cwmnïau yr wyf wedi siarad â nhw bob amser yn awyddus i ddod i Gymru er mwyn cael mynediad i'r farchnad sengl, ac mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid inni sicrhau nad yw'n cael ei golli fel mantais gystadleuol.
Fel y dywedais ddoe, mae'n hanfodol bod telerau terfynol y cytuniad i adael yr UE yn dod i bob un o'r pedair senedd genedlaethol. Mae hynny'n gyson â datganiad y Prif Weinidog bod hon yn wlad sy'n cynnwys pedair cenedl a’i ymrwymiad i sicrhau y byddwn yn rhan lawn o'r broses drafod gyda Brwsel. Nid yw hynny wedi tanseilio canlyniad yr wythnos diwethaf; mae’n syml yn ychwanegu at yr angen i sicrhau bod unrhyw gytundeb yn cael ei gymeradwyo gan hon, sef senedd etholedig pobl Cymru.
Ddoe penderfynasom ffurfio tîm arbenigol o weision sifil wedi'u sefydlu yn ein swyddfa bresennol ym Mrwsel, yn annibynnol ar Lywodraeth y DU, i archwilio lle y gall ein blaenoriaethau gael eu datblygu yn uniongyrchol gyda'r UE. Bydd hyn yn rhedeg ochr yn ochr, ond ni fwriedir iddo ddisodli, ein cyfranogiad a addawyd yn null negodi Llywodraeth y DU. Mae angen i ni roi sicrwydd i fewnfuddsoddwyr, y rhai sydd wedi dangos ffydd yng Nghymru, ein bod yn dal ar agor ar gyfer busnes a bod gennym lawer i'w gynnig o hyd. Rydym yn benderfynol fel Llywodraeth i barhau i ymgysylltu yn rhyngwladol, i edrych tuag allan a bod o blaid busnes yn ein hymagwedd, a dyna'r hyn fydd yn cynnal hyder busnes. Bydd hefyd yn helpu, wrth gwrs, mewnfuddsoddwyr i gymryd y penderfyniadau cywir yn yr hyn sydd bellach yn amgylchedd ansicr.
Rydym wedi gweithio'n galed ar ddatrys yr argyfwng dur. Mae hynny'n anffodus yn parhau, a byddwn yn parhau i weithio gyda Tata a chefnogi gweithwyr dur wrth i ni geisio wynebu’r heriau enfawr a ddaeth gyda chanlyniad y refferendwm.
Lywydd, rwyf eisoes wedi amlinellu fy mlaenoriaethau uniongyrchol i amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amgylchiadau gwahanol hyn. Yn gyntaf, mae'n rhaid i ni amddiffyn ein swyddi. Gwneud popeth y gallwn er mwyn cynnal hyder a sefydlogrwydd economaidd yw'r brif dasg. Rydym wedi adeiladu perthynas ragweithiol ardderchog gyda busnesau Cymru a mewnfuddsoddwyr, a bydd angen i’r rhain ddwysau yn dilyn pleidlais ddoe.
Yn ail, mae'n rhaid i ni chwarae rhan lawn mewn trafodaethau ynglŷn ag amseru a thelerau tynnu'n ôl y DU o'r UE. Mae ein cyfranogiad yn hanfodol, nid yn unig ar gyfer materion datganoledig uniongyrchol, ond ar gyfer yr ystod gyfan o faterion sy'n effeithio ar fuddiannau cenedlaethol hanfodol i Gymru. Mae'r Prif Weinidog eisoes wedi dweud y dylai Cymru chwarae rhan lawn yn y trafodaethau ar delerau tynnu'n ôl y DU a’n perthynas yn y dyfodol ag Ewrop, a byddaf yn sicrhau bod Llywodraeth y DU yn cadw at ei gair.
Yn drydydd, fel yr wyf wedi dweud sawl gwaith eisoes y prynhawn yma, mae'n hanfodol bod y DU yn trafod cadw mynediad at y 500 miliwn o gwsmeriaid yn y farchnad sengl.
Yn bedwerydd, dylem drafod cyfranogiad parhaus ar delerau cyfredol yn rhaglenni pwysig yr UE fel y polisi amaethyddol cyffredin a chronfeydd strwythurol hyd at ddiwedd 2020, os byddwn yn dal i fod yno yn 2020. Byddai hynny'n hwyluso dilyniant i ddinasyddion, cymunedau, busnesau a buddsoddwyr tra bod trefniadau yn cael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy.
Yn bumed, mae Cymru, fel y gwyddom, yn fuddiolwr net gan yr UE, o rai cannoedd o filiynau o bunnoedd. Erbyn hyn, mae achos llethol am adolygiad mawr ac ar unwaith o fformiwla Barnett, gan gymryd i ystyriaeth yr anghenion sy'n codi o dynnu'n ôl o’r UE, a galwaf heddiw am i’r addewid a wnaed na fydd Cymru yn colli ceiniog i gael ei warantu, a hefyd mai pobl Cymru fydd yn penderfynu sut y caiff yr arian hwnnw ei wario.
Yn olaf, mae tynnu'n ôl o’r UE yn newid cyfansoddiadol enfawr ar gyfer y DU. Mae goblygiadau yr un mor bellgyrhaeddol ar gyfer y setliad datganoli. Mae hynny'n golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng gweinyddiaethau datganoledig a Llywodraeth y DU gael eu rhoi ar sail gwbl wahanol bellach. Fel arall, mae perygl mai’r pris i'w dalu am adael yr UE fydd diwedd y DU, ac mae hynny'n rhywbeth a fydd yn achos pryder i lawer iawn o bobl.
Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, bydd Llywodraeth Cymru yn brwydro dros bobl Cymru ym mhob un o'r meysydd allweddol hynny, ond hefyd yn ymdrechu i uno’r rhaniadau a amlygwyd drwy’r bleidlais hon, gan fynd â Chymru ymlaen gyda'n gilydd, sef yr hyn yr wyf yn ei gredu y mae'r genedl ei eisiau a’i angen nawr. Mae teimladau wedi eu cynhyrfu gan y ddadl hon, mi wn, ond mae'n amser nawr am bwyll, nid adweithio'n ddifeddwl. Bydd llawer yn poeni am y chwerwder a dreiddiodd i'r ymgyrch. Ni fydd hyn yn ein helpu gyda'r heriau sylweddol hyn sydd bellach yn wynebu pob un ohonom. Mae angen hefyd inni ganfod ffordd o siarad â’n gilydd unwaith eto. Efallai y byddwn wedi pleidleisio mewn gwahanol ffyrdd, ond rydym yn dal yn gymdogion, yn ffrindiau ac yn deuluoedd. Rydym yn dal i wynebu'r heriau heddiw yr oeddem yn eu hwynebu ddoe o ran y GIG, yr economi ac addysg, ac mae'n rhaid i ni oresgyn yr heriau hynny a chyflawni dros bobl Cymru. Mae llawer o waith i'w wneud, ond yn anad dim, fy nod fydd y fargen orau i bobl Cymru.
Croesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl hon heddiw. Yn amlwg, oherwydd y refferendwm ddydd Iau diwethaf, mae mandad clir wedi ei roi i'r Llywodraethau ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig nawr i ddeddfu’r dymuniadau hynny. Roedd ymrwymiad clir gan Gymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig eu bod yn dymuno ailgydbwyso eu perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y trafodaethau yn dechrau, ac yn dechrau yn ystod yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf, ac mae'n hanfodol bod llais Cymru yn cael ei glywed. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ar risiau Rhif 10 Downing Street fore dydd Gwener—soniodd yn benodol am y rhan bwysig y bydd Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon ac, yn amlwg, San Steffan yn ei chwarae yn y trafodaethau hyn.
Byddai'n iawn i dalu teyrnged i’r rhan y mae’r Prif Weinidog wedi’i chwarae dros y chwe blynedd a hanner diwethaf fel y Prif Weinidog, ond hefyd, fel arweinydd fy mhlaid fy hun am 10 mlynedd, fel arweinydd yr wrthblaid hefyd. Gallwch edrych ar y— [Torri ar draws.] Gallwch edrych ar y newidiadau sydd wedi'u gwneud. Mae wir yn anffodus, pan ein bod wedi cael sylwadau heddiw am iaith—credaf fod y Prif Weinidog wedi defnyddio’r geiriau 'siarad â’n gilydd eto'—bod sylwadau yn dod i mewn am 'fradychu'. Nid oes bradychu os oes gennych chi egwyddor a chred, ac os ydych yn sefyll ar un ochr i’r egwyddor honno a'ch bod yn sefyll gerbron yr etholwyr; dyna yw dadl wleidyddol. Os yw’r math honno o rethreg yn dod oddi wrth y Blaid Lafur, does dim syndod bod 17 o'r 22 o adrannau etholiadol wedi troi eu cefnau yn amlwg ar y neges yr oeddech yn ceisio ei rhoi i bobl yn y refferendwm hwn.
Dyna'r peth pwysig, wrth symud ymlaen. Rydym wedi estyn allan ar ôl y refferendwm hwn i weithio'n adeiladol i wneud yn siŵr na fydd Cymru yn dioddef yn y trafodaethau hyn, bod llais Cymru yn cael ei glywed, wrth symud ymlaen, ac, yn anad dim, y pwysigrwydd o sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael, wrth symud ymlaen, ac yn parhau. Ond, pan wnaethom ddeffro fore Gwener gyda'r refferendwm, nid oedd y cynlluniau a oedd ar waith wedi dod i ben. Mae'r taliadau i mewn i'r Undeb Ewropeaidd ac allan i'r Undeb Ewropeaidd yn parhau nes bod y trafodaethau wedi dod i ben. Mae'n bwysig bod y trafodaethau hynny'n parhau, a bod sicrwydd yn cael ei roi.
Rwy’n sylweddoli y byddai pobl ar ochr 'aros' y ddadl yn dymuno i ewyllys y bobl beidio â chael ei chlywed ac mewn gwirionedd maent yn pwyntio bys ac yn parhau i ddweud, ‘Ddywedon ni wrthych chi’. Ond mae'n ffaith [Torri ar draws.] Mae'n ffaith [Torri ar draws.] Mae'n ffaith mai’r hyn y mae angen i ni ei wneud ar bob ochr i’r refferendwm yw dod at ein gilydd a gwneud i hyn weithio. [Torri ar draws.] Felly, byddwn yn arloesi, byddwn yn buddsoddi a byddwn yn adeiladu. Dyna'r hyn yr ydym yn ei wneud—rydym yn arloesi yn y ffordd yr ydym yn gwneud busnes, rydym yn arloesi â'r ffordd yr ydym yn cyflawni ar gyfer dyheadau pobl. Ni allwn ddweud y bydd busnes yn parhau fel arfer. Roedd y refferendwm hwn yn fandad clir. Byddwn yn buddsoddi yn y cyfleoedd a chreu Prydain fyd-eang, Cymru fyd-eang—sy'n edrych tuag allan.
Yn y pen draw, mae pobl yn y Siambr hon—ac rwy’n deall pam, am eich bod yn amlwg ar ochr arall y ddadl—. Mae'n hollbwysig—mae'n hollbwysig—i ni wir fanteisio a chyflawni ar y cyfleoedd sydd ar gael i ni, ac rwy’n credu bod y cyfleoedd hynny yno ac y gellir eu sicrhau. [Torri ar draws.] Rwy’n sylweddoli efallai nad ydych yn dymuno gwrando ar yr hyn yr wyf wedi’i ddweud, ond rwyf wedi tynnu sylw yn glir — [Torri ar draws.] Rwyf wedi tynnu sylw yn glir at y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Yn anffodus, dangosodd y Prif Weinidog yn eglur, yn ei ymateb i mi yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, nad oedd ganddo ddiddordeb mewn symud y trafodaethau hynny ymlaen.
Rwyf yn ddiolchgar. Rwyf eisiau rhoi cyfle iddo amlinellu'r cyfleoedd. Efallai y gallai enwi tri.
Rwy'n credu bod cyfleoedd enfawr—[Torri ar draws.]—buddsoddiad, arloesedd ac adeiladu dyfodol gwell, brafiach i Brydain fyd-eang, Cymru fyd-eang, a adeiladir ar ffyniant pob rhanbarth o'r Deyrnas Unedig a gwledydd y Deyrnas Unedig. Dyna beth mae pobl ei eisiau, a dyna beth y byddwn yn ei sicrhau os byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn cydio yn y cyfleoedd sydd ar gael i ni. Byddwn yn llwyddo, oherwydd bod y bobl wedi rhoi'r mandad i ni wneud hynny, a byddwn yn llwyddo i fodloni eu dyheadau. Ond, yn y pen draw, os byddwch yn dewis parhau â'r ymgyrch a gafodd ei hymladd yn y refferendwm, byddwn yn siomi pobl.
O'r hyn yr wyf newydd ei glywed, mae'n amlwg nad oes gan yr ymgyrchwyr 'gadael' unrhyw gynllun nac unrhyw syniad am yr hyn y dylem ei wneud nesaf. Ni roddodd y cyfraniad yna a wnaethoch i ni nawr unrhyw beth pendant o gwbl i ni. Ddydd Iau diwethaf, pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, a gwelodd ymgyrch y refferendwm naws o chwerwder ac anesmwythdra yn disgyn ar draws y wlad ac ar draws y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Bydd Llywodraeth y DU yn cyflwyno afal gwenwyn Brexit i brif weinidog newydd ym mis Hydref. Mae telerau Brexit yn aros yn anhysbys, fel yr ydym newydd ei weld. Mae prif wrthblaid y DU, y Blaid Lafur, hefyd wedi llithro i anhrefn dwfn ac nid yw mewn unrhyw sefyllfa ar hyn o bryd i roi unrhyw arweiniad. Ac, i Blaid Cymru, mae bod ar ochr aflwyddiannus y ddadl hon hefyd yn gwneud i ninnau feddwl am yr hyn yr ydym yn ei wneud. Mae pobl nad ydynt o reidrwydd yn anghytuno â Phlaid Cymru ar ein holl bolisïau wedi troi yn erbyn Brwsel fel ffynhonnell o ddicter a rhwystredigaeth, ac am lu o wahanol resymau. Eto i gyd, mae'n rhaid inni gofio bod 48 y cant o'r cyhoedd yng Nghymru wedi pleidleisio i aros. Mae hynny'n cynrychioli dros 772,000 o bobl. Dylai'r pleidleiswyr 'aros' hynny gael eu trin gyda'r parch y maent yn ei haeddu gan unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU a dylent gael cynnig dyfodol cadarnhaol yma yng Nghymru hefyd.
Lywydd, sicrhaodd yr ymgyrch ‘gadael’ fuddugoliaeth ar sail adduned i bobl yma yng Nghymru. Dywedodd arweinydd y grŵp Ceidwadol yma y byddai hyd at £490 miliwn y flwyddyn ar gael i Gymru, y gallem ddewis ei wario ar ein GIG. Mae hyn yn cynrychioli swm o arian uwch na’r hyn a ragwelwyd fel arfer trwy ddiwygio fformiwla Barnett. Mae'r ymgyrch ‘gadael’ hefyd wedi addunedu y byddai pob un o gronfeydd strwythurol a chronfeydd amaethyddol Cymru yn cael eu diogelu, ac, yn eu hadduned, roeddent hefyd yn cynnwys y cronfeydd sydd o fudd i'n prifysgolion, a’n sectorau gwyddoniaeth a thechnoleg. Dywedasant hefyd y gallai'r DU gymryd rheolaeth dros ei ffiniau ei hun ac y gallai hefyd barhau i fasnachu â'r Undeb Ewropeaidd. Dywedodd arweinydd UKIP yng Nghymru mai'r unig bobl a fyddai'n colli eu swyddi fyddai Aelodau’r DU o Senedd Ewrop. Amser a ddengys a fydd yr adduned hon yn cael ei gwireddu, ond, mewn gwirionedd, mae’r addewid o £490 miliwn y flwyddyn yn edrych fel ei fod wedi diflannu yn barod. Mae'n rhaid inni dderbyn mai’r canlyniad oedd gadael, ond mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn bod y bleidlais wedi’i sicrhau ar brosbectws ffug.
Rydym ni yng Nghymru hefyd erbyn hyn yn wynebu Teyrnas Unedig sy'n newid. Mae posibilrwydd cryf, ymhen ychydig flynyddoedd, na fydd Teyrnas Unedig dydd Mercher diwethaf yn bodoli bellach. Mae'r refferendwm, yn hytrach nag uno’r Deyrnas Unedig, wedi ei rhannu, o ran yr Alban a Gogledd Iwerddon. Pan fydd y sefyllfa newydd honno’n dod i'r amlwg, fy marn i yw bod pobl yng Nghymru yn haeddu cael dweud eu dweud ar le Cymru yn y cyd-destun newydd. Mae'n rhaid i hynny gynnwys y dewis o fod yn bartner llawn yn yr ynysoedd hyn, fel gwladwriaeth annibynnol, ar yr amod ein bod yn cadw strwythur undeb rhwng Cymru, Lloegr a gwledydd perthnasol eraill.
Bydd Plaid Cymru hefyd yn rhoi ei sylw i'r sefyllfa uniongyrchol sy'n wynebu'r wlad, wrth i bobl bryderu am eu swyddi, eu bywoliaeth a'u pensiynau. Byddwn yn dwyn yr ymgyrch ‘gadael’ i gyfrif ar ei hadduned i Gymru, gan gynnwys unrhyw Lywodraeth a ddaw i mewn yn y DU. Byddwn yn cymryd camau i gryfhau sefyllfa Cymru yn gyfansoddiadol, heb gynrychioli mewn unrhyw ffordd y bleidlais ‘gadael’ fel pleidlais i grynhoi pwerau ychwanegol yn San Steffan. Rydym yn barod i gydweithredu ag eraill i sicrhau parhad Cymru fel cenedl yn ei rhinwedd ei hun, ond rydym yn glir bod yn rhaid i'r drafodaeth genedlaethol gynnwys yr holl ddewisiadau ac na ddylai Cymru fod yn bartner segur yn nadl y DU.
Mae pleidlais ddydd Iau diwethaf yn rhoi rhywbeth y byddwn wedi meddwl y byddai Plaid Cymru yn ei groesawu—fe'i gelwir yn annibyniaeth genedlaethol; maent yn ymddangos i fod braidd yn ofnus o hyn. Ond, erbyn hyn mae gennym y cyfle i wneud penderfyniadau drosom ein hunain. Gall cyllid yr UE y cyfeiriwyd ato gymaint o weithiau yn y Siambr hon heddiw bellach gael ei ddychwelyd i ni, boed hynny i Senedd San Steffan neu’r Cynulliad hwn yng Nghaerdydd. Ac, ein blaenoriaethau ni, nid blaenoriaethau’r Comisiwn Ewropeaidd, fydd yn bwysig. Ac rydym ni'n atebol, fel y mae Aelodau Seneddol, i etholaethau gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig, a byddwn yn atebol dros ein penderfyniadau yn y blwch pleidleisio, a dyna sut y dylai hi fod.
Rwyf wedi dweud erioed nad oedd y ddadl hon am yr Undeb Ewropeaidd yn ymwneud â chenedlaetholdeb, ond â democratiaeth. Rwy’n cymeradwyo ac yn canmol yr ysbryd y gwnaeth y Prif Weinidog gyflwyno ei ddatganiad funud yn ôl, a oedd yn canolbwyntio ar Gymru sy’n edrych tuag allan a blaengar, a heb ddefnyddio iaith fel yr ydym newydd ei chlywed gan arweinydd Plaid Cymru am sut y mae Brexit yn afal gwenwyn. Mae'n gyfle gwych i Gymru hysbysebu ei hun yn y byd, a chanmol ei galluoedd a’i hentrepreneuriaeth naturiol ei hun yn llawn.
Ydy, mae'n wir fod ansicrwydd yn sgil y bleidlais ddydd Iau diwethaf, yn yr un modd ag yr oedd ansicrwydd pan wnaethom ymuno â'r Undeb Ewropeaidd, neu'r Farchnad Gyffredin, fel yr oedd bryd hynny, ar 1 Ionawr 1973. Bydd newidiadau canlyniadol, does dim amheuaeth am hynny. Ond dyma gyfle gwych sydd gennym. Pam y byddai’r Undeb Ewropeaidd am godi rhwystrau masnach yn erbyn y Deyrnas Unedig pan fod gennym £100 biliwn y flwyddyn o ddiffyg masnach gyda nhw, pan, o ystyried y fasnach ceir yn yr Almaen yn unig, fod gennym £11 biliwn o ddiffyg masnach y flwyddyn? Nid yw gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn mynd i fod eisiau gweld tariffau 10 y cant ar fasnach rhyngom ni oherwydd y byddant yn colli cryn dipyn o ganlyniad i hynny. Mae gennym ddiffyg o £10 biliwn ar fwyd, er enghraifft, yn y wlad hon, o'i gymharu â gweddill yr Undeb Ewropeaidd. Felly ni ddylai fod gan ffermwyr Prydain, unwaith eto, unrhyw reswm i ofni canlyniadau pleidlais dydd Iau diwethaf.
Ond, mae'n rhoi cyfle i ni, fel y dywedais yn fy nghwestiynau i'r Prif Weinidog yn gynharach, i ddyfeisio polisïau sy'n addas ar gyfer ein ffermwyr ein hunain yng Nghymru nawr, a diwydiannau eraill hefyd. O ran dur, er enghraifft, mae gennym nawr y cyfle i ailgymryd ein lle ar fwrdd Sefydliad Masnach y Byd, ac yna mae gennym y rhyddid i gyflwyno tariffau, yn yr un modd â’r Unol Daleithiau, ar ddur a rowliwyd yn oer.
Dwi ddim yn siŵr a yw'n bosibl i ildio—
Caniateir i chi ildio, ond eich dewis chi yw hynny.
A gaf i wneud ymyriad? Rydych newydd amlygu’r posibilrwydd o roi tariffau ar ddur a fewnforir i'r DU. Bydd hynny’n amlwg yn rhoi tariffau ar allforio dur o'r DU o ganlyniad. Gan fod dros 50 y cant o'r dur ym Mhort Talbot mewn gwirionedd yn mynd i'r UE, a ydych chi felly yn cau Port Talbot drwy gyflwyno tariffau o'r fath?
Na, na. Holl bwynt y ddeddfwriaeth gwrth-ddympio, y gallwch ei defnyddio o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, yw nad ydyw ond pan fo dur yn cael ei allforio i’ch gwlad yn is na'r gost ar y farchnad fyd-eang, nid yw hyn yn wir am ddur a gynhyrchir yn yr Undeb Ewropeaidd , ond mae'n wir o ran dur a gynhyrchir yn Tsieina, sef achos yr holl broblemau-—[Torri ar draws]. Wnes i ddim pleidleisio yn ei erbyn, o gwbl. [Torri ar draws]. Ni wnaeth fy mhlaid bleidleisio yn ei erbyn, felly rydych wedi cael eich camarwain, ond nid yw hynny'n syndod, nac yw?
Felly, nid yw'r farchnad sengl yn hollbwysig yn hyn i gyd, oherwydd mai dim ond 4 y cant yw’r tariff cyfartalog y mae’r UE yn ei gymhwyso yn erbyn gwledydd eraill yn y byd, sy'n allforio i mewn i'r farchnad sengl,. Mae tariffau uwch ar ddiwydiannau penodol, wrth gwrs, ac mae ceir yn un ohonynt.
Dylem drafod cytundeb masnach rydd â'r Undeb Ewropeaidd. Dyna'r hyn yr hoffwn i ei weld yn bersonol ac y byddai fy mhlaid yn hoffi ei weld. Y drafferth yw, nid yw'r Undeb Ewropeaidd yn dda iawn am drafod cytundebau masnach rydd, oherwydd dim ond dau ohonynt sydd—Mecsico a De Corea. Mae cytundebau undeb tollau eraill, ond, yn gyffredinol, mae'r cytundebau masnach gyda gwledydd fel India, neu'r Unol Daleithiau, yn cael eu boddi am flynyddoedd mewn trafodaeth ddiddiwedd, gan ein bod yn gorfod cael 27 aelod-wladwriaeth i gytuno. Dyna un o'r problemau gyda'r UE—ei natur anymatebol, oherwydd yr anhyblygrwydd a osodwyd arni gan ei strwythur cyfansoddiadol.
Mae Canghellor yr Almaen wedi dweud heddiw na all Prydain ddisgwyl dewis dim ond y gorau yn y trafodaethau sydd bellach yn mynd i ddechrau, ac rwy’n deall hynny. Nid wyf eisiau unrhyw ddewis; yr unig beth yr wyf ei eisiau yw masnach rydd gyffredinol â'r Undeb Ewropeaidd, ar sail deg a rhydd. Dyna’r cyfan y dylai Prydain ofyn amdano, a dyna’r cyfan y gofynnir i’r UE ei ildio, a fyddai o fudd i'r ddwy ochr. Mae masnach yn digwydd oherwydd ei fod o fudd i'r gwerthwr a'r prynwr—fel arall, ni fyddai'n digwydd.
Felly, does dim rheswm dros fod yn besimistaidd, ar wahân i afresymoldeb gwleidyddion sy'n cymryd rhan yn y trafodaethau ar y naill ochr a'r llall. Nid oes unrhyw reswm i fod yn besimistaidd am ragolygon Cymru. Mae dweud bod canlyniad dydd Iau diwethaf wedi ei gael drwy gyfrwng cyflwyno prosbectws ffug ar ran yr ymgyrch ‘gadael’, wrth gwrs, yn lol. Nid un uned, gydlynol oedd yr ymgyrch ‘gadael’; clymblaid lac o wahanol rymoedd, gwahanol bleidiau, gwahanol grwpiau â budd ydoedd, ac mae gennym i gyd wahanol syniadau ynglŷn â sut y dylai'r dyfodol edrych.
Felly, y cyfan a ddywedaf yw, i ailadrodd yr hyn a ddywedais yn gynharach yn y Siambr hon wrth y Prif Weinidog, y bydd UKIP yn chwarae ei rhan yn llawn wrth ei gynorthwyo ef i gael y fargen orau bosibl yn rhan o'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU a gyda'r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n gobeithio y bydd yn awyddus i gynnwys mân bleidiau eraill yn y tŷ hwn yn y broses hon oherwydd credaf y gallwn helpu i roi mwy o hygrededd a mwy o rym i’w drafodaethau, oherwydd, drwy gael llais unfrydol, yn hyn o beth os nad mewn unrhyw beth arall, rydym yn sicr yn well, yn gryfach ac yn fwy diogel pan ein bod yn gweithredu gyda'n gilydd.
Ddoe, ymunais â phobl ifanc ar risiau'r Senedd—pobl o Gaerdydd a'r Fro yn bennaf a rhai o ymhellach i ffwrdd—a ddaeth i'r Senedd yn galw am ail refferendwm ac am bleidleisiau ar gyfer rhai 16 a 17 mlwydd oed, ac rwy’n meddwl ei fod yn bwysig yn y ddadl hon ein bod yn cydnabod ac yn nodi sut y mae pobl wedi teimlo o ganlyniad i’r bleidlais hon. Roedd Jane Hutt, fel yr Aelod Cynulliad dros Fro Morgannwg, hefyd yno, ac rwy’n meddwl ein bod wedi sylweddoli bod gan y bobl ifanc hyn deimladau angerddol, am y rhwystredigaeth yr oeddent yn ei deimlo am na chawsant unrhyw lais yn y bleidlais hon a'r ffaith fod y mwyafrif llethol y bobl iau a wnaeth bleidleisio wedi pleidleisio dros aros—pleidleisiodd 73 y cant o bobl 18 i 24 mlwydd dros aros. Rwy’n meddwl ei bod yn bwysig i ni gofio—. Rydym wedi gwneud sylwadau, rwy’n meddwl, am y rhaniad mewn cymunedau, ond mae'n rhaid i ni hefyd nodi’r rhaniad hwn yn y gwahanol grwpiau oedran. Rwy'n credu bod y bobl ifanc yn teimlo mor rhwystredig am eu bod yn teimlo bod y cyfleoedd yn cael eu cau iddynt ac na fyddent yn cael y cyfle i wneud llawer o'r pethau y byddent wedi gallu eu gwneud hyd yma— [Torri ar draws. ] Yn sicr.
Diolch yn fawr iawn am dderbyn yr ymyriad yn y fan yna, Julie. A oeddech chi mor siomedig â mi na wnaeth mwy o bobl ifanc gofrestru i bleidleisio ac, felly, pan eu bod yn gwneud yr honiad, efallai, fod pobl hŷn wedi pleidleisio mewn ffordd sy'n eu rhoi dan anfantais, eu bod wedi colli eu cyfle eu hunain i gael eu clywed?
Yn sicr, byddwn wedi croesawu cofrestriad uwch o lawer o bobl ifanc a chanran pleidlais llawer uwch. Rwy’n sicr yn derbyn hynny, ond rwyf am dynnu sylw at deimlad y bobl ifanc nad oeddent yn cael pleidleisio, ac a wnaeth bleidleisio ac a oedd eisiau mynegi eu rhwystredigaeth ynghylch canlyniad y refferendwm. Ac, fel y dywedais, roeddent yn galw am bleidlais i rai 16 a 17 mlwydd oed, a gwn fod hynny’n rhywbeth y gall y Cynulliad hwn fynd i'r afael ag ef yn y dyfodol pan fydd Bil Cymru yn mynd drwyddo. Ond, eu galwad arall oedd am ail refferendwm. Credaf fod yn rhaid i ni barchu’r farn sydd wedi ei dangos gan bobl Cymru, ond y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i ganfod ffyrdd o alluogi Cymru i barhau i gael cymaint o fanteision o fod yn yr UE ag sy'n bosibl oherwydd mae Cymru wedi cael buddion enfawr o'r UE.
Mae'n rhaid i ni hefyd dderbyn, fel y dywedwyd eisoes y prynhawn yma, ei bod mewn gwirionedd yn bleidlais agos yng Nghymru. Pleidleisiodd Caerdydd, wrth gwrs, y brifddinas, 60-40 i aros, a chafodd y bleidlais hon ei hadlewyrchu ym mhob rhan o'r DU. Yn y bôn, pleidleisiodd llawer o'r dinasoedd mwy i aros, gan gynnwys Llundain, Bryste a Chaeredin. Y ffigyrau yng Nghymru oedd 52.5 y cant dros adael a 47.5 y cant dros aros, ac rwy’n ystyried bod hynny yn bleidlais agos. Ond, mae'n ddiddorol ac, o'i gymharu â rhannau eraill o'r DU lle y ceir demograffig debyg a hefyd dosbarth canol bychan, megis gogledd-ddwyrain Lloegr, pleidleisiodd 58 y cant dros adael, ac yng ngorllewin canolbarth Lloegr, roedd 59.3 y cant dros adael. Yng Nghymru, roedd yn ganlyniad agos, ac, wrth gwrs, dywedodd Nigel Farage ei hun pe byddai mwyafrif bychan dros ‘i mewn’ y byddai achos dros gynnal ail refferendwm. Felly, nid wyf yn credu bod y canlyniad yn ganlyniad pendant iawn. Rwy'n credu ei bod yn fuddugoliaeth o drwch blewyn dros ‘adael’ ac rwy’n credu mai'r peth iawn i'w wneud fyddai defnyddio unrhyw gyfle i wirio mai dyma mewn gwirionedd oedd yr hyn yr oedd pobl Cymru ei eisiau, pan eich bod yn ystyried y buddion y mae Cymru wedi’u cael o arian yr UE, yn enwedig pan welwyd bod llawer o'r pethau a ddywedwyd i berswadio pobl i bleidleisio wedi eu dangos i fod wedi eu gwneud o lwch. Hefyd, mae'r pwynt eisoes wedi'i wneud am rwygo’r DU, sy'n debygol, gyda'r Alban yn paratoi ar gyfer deddfwriaeth i gael ail bleidlais ar annibyniaeth. Yn sicr, os bydd hynny'n digwydd, os yw'r cynnig hwnnw ar gael, mae angen i Gymru gael cyfle i roi ei barn ar hynny.
Rwy'n falch iawn bod y Prif Weinidog wedi dweud, ar ôl i’r telerau ymadael gael eu cytuno, y bydd yn ceisio cyfle i Gymru a gwledydd eraill y DU roi eu barn. Unwaith eto, rwy’n credu, ar yr adeg honno, y byddai cyfle i geisio barn y bobl yn ogystal â barn Aelodau y tŷ hwn.
Felly, yn olaf, rwy’n credu bod yn rhaid i ni barhau—i feddwl y gall Cymru barhau ei chysylltiadau â gweddill Ewrop, a bydd yn rhaid i ni wneud ymdrechion pendant iawn, cadarnhaol iawn i wneud hynny. Pethau fel Caerdydd yn aelod o rwydwaith EUROCITIES, er enghraifft; dyna’r ffordd y gallwn barhau i ymestyn allan a chael budd o gyllid ar gyfer y rhwydwaith penodol hwnnw. Diolch.
Mae’n drist iawn fod y ddadl hon heddiw ar Gymru a’r UE yn digwydd yng nghysgod penderfyniad mwyafrif ein cyd-ddinasyddion i dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd, ond dyna oedd eu hawl democrataidd, ac maent wedi ei arfer. Ond gwnaed adduned i bobl y wlad hon, fel y mae arweinydd yr wrthblaid wedi ei ddweud. Roedd yn adduned benodol, ac fe gafodd ei hailadrodd. Roedd yn cynnwys ymrwymiad i gynyddu gwariant ar y gwasanaeth iechyd gwladol, roedd yn cynnwys ymrwymiad y byddai gwladwriaeth Prydain yn talu pob ceiniog o arian yr UE a gollwyd i ffermwyr ac mewn cymorth i gymunedau difreintiedig. Mae Plaid Cymru yn aros yn eiddgar am ymddangosiad, am y tro cyntaf mewn hanes, Prif Weinidog Prydain yn Stryd Downing, ym mis Medi, yn cyhoeddi’r cynnydd digynsail mwyaf erioed mewn buddsoddiad yng Nghymru. Bydd yn rhaid i’r Prif Weinidog newydd hwnnw wneud hynny heb unrhyw arbedion o aelodaeth Ewropeaidd oherwydd, fel y canfuom dros y penwythnos, efallai y bydd y cynllun Brexit yn cynnwys aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd, sy'n dod gyda ffi aelodaeth sylweddol. Gwnaed adduned i bobl y wlad hon, ac mae llawer ohonynt yn byw yng nghymunedau tlotaf y cyfandir hwn. Ni wnaiff Plaid Cymru ganiatáu i rywun ddweud celwydd wrth y bobl hynny. Mae ganddynt lawer gormod i’w golli.
Lywydd, yn yr wythnosau sy'n arwain at benodi Prif Weinidog newydd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i hybu, cystal ag y gall, budd cenedlaethol Cymru. A hoffwn wneud awgrym penodol i'r Prif Weinidog, yr wyf yn gobeithio y bydd yn ei ystyried yn ystod y dyddiau nesaf yn rhan o ymateb ei Lywodraeth. A wnaiff lunio a chyhoeddi, ar gyfer dadl yn y Cynulliad hwn, gynllun lliniaru cenedlaethol ar gyfer Cymru, yn seiliedig ar dair elfen gyffredinol? Yn gyntaf, y camau y gellir eu cymryd yn fewnol, yng Nghymru, i gefnogi’r cymunedau hynny sy'n wynebu'r ansicrwydd mwyaf, megis y gorllewin a'r Cymoedd, a fydd yn chwilio am ffynonellau eraill o gymorth, a chymunedau gwledig, a fydd angen lefelau uwch o gymorth ariannol. A wnaiff ef hefyd ystyried cyflwyno, yn rhan o'r elfen hon, Bil tegwch economaidd, fel bod gennym bolisi datblygu rhanbarthol i gefnogi pob cwr o’n cenedl, gan ddefnyddio'r pwerau cyfalaf cyfyngedig sydd gennym yn y modd gorau?
Yn ail, yn rhan o'r cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, rydym yn awgrymu ail elfen i edrych ar newidiadau sydd eu hangen ar lefel Ynysoedd Prydain sy’n hybu budd cenedlaethol Cymru. Er enghraifft, a fydd y Prif Weinidog yn edrych ar hyrwyddo creu banc buddsoddi'r ynysoedd, tebyg i fodel Banc Buddsoddi Ewrop, i ddarparu cyllid ar gyfer cynlluniau a fyddai fel arall yn cael eu hariannu gan Fanc Buddsoddi Ewrop, a hefyd efallai fel mecanwaith ar gyfer cyflwyno rhaglen cronfeydd strwythurol newydd i ddisodli’r rhai a fydd yn cael eu colli o ganlyniad i ni dynnu'n ôl o’r Undeb Ewropeaidd? A wnaiff ef hefyd ystyried cyhoeddi cynigion ar gyfer y newidiadau cyfansoddiadol sydd eu hangen ar unwaith i gryfhau sefyllfa Cymru fel nad ydym yn cael ein hymgorffori yn awr mewn endid gwrthun Cymru a Lloegr sy'n gweithio yn erbyn ein buddiannau cenedlaethol?
Ac, yn olaf, yn rhan o drydedd elfen y cynllun lliniaru cenedlaethol hwn, a wnaiff y Prif Weinidog ystyried rhoi sylw i sefyllfa Cymru yn y gymuned ryngwladol, gan gynnwys, wrth gwrs, y berthynas newydd y bydd yn rhaid i ni ei hadeiladu â gwledydd eraill yn Ewrop? Yn benodol, a fydd yn ceisio mynediad llawn a dilyffethair i Lywodraeth Cymru i rwydwaith diplomyddol y wladwriaeth Brydeinig, fel y gellir sefydlu llais Cymru ar wahân ar gyfer sicrhau masnach a datblygu cysylltiadau ar draws Ewrop a'r byd ehangach? Dylai'r Prif Weinidog hefyd ystyried adnewyddu ymdrechion i ddenu gwledydd eraill i agor cenadaethau diplomyddol yma yng Nghaerdydd yn rhan o'r broses hon.
Lywydd, pa bynnag ffordd y pleidleisiodd pobl yr wythnos diwethaf, bydd llawer ar bob ochr yn edrych tua'r dyfodol yn bryderus. Eironi trist ymgyrch y refferendwm oedd camddealltwriaeth sylfaenol, ac, yn fy marn i, bwriadol o’r egwyddor o undeb agosach fyth. Mae’r rhan honno o gytuniadau'r UE, wrth gwrs, yn cyfeirio at yr undeb agosach fyth o bobloedd, nid Llywodraethau, Ewrop. Fy ngobaith, efallai yn erbyn pob tebygolrwydd, yw y gall pobl y genedl hon barhau i sefyll gyda phobloedd y cyfandir hwn, ac na fydd y freuddwyd o Gymru yn Ewrop fyth yn marw.
Gyda’r ganran a bleidleisiodd bron i 60 y cant yn uwch nag yn etholiad y Cynulliad ym mis Mai, mae pleidleiswyr Cymru wedi datgan ac mae'n rhaid i ni i gyd barchu'r canlyniadau. Roedd hyn yn ymwneud â hawl democrataidd pobl y genedl hon i benderfynu ar eu tynged eu hunain. Mae arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn wynebu pleidlais o ddiffyg hyder gan ei Aelodau Seneddol ei hun, er gwaethaf y ffaith fod mwyafrif mawr wedi pleidleisio dros aros yn ei etholaeth ei hun. Yma yng Nghymru, ymgyrchodd y Prif Weinidog ac arweinydd yr wrthblaid dros aros yn yr UE, ond mae pobl yn eu hetholaethau eu hunain wedi pleidleisio i adael.
Mae pobl wedi dweud wrthyf bod ganddynt yr hawl erbyn hyn i ddisgwyl gwahanol fath o wleidyddiaeth yn deillio o fae Caerdydd a'r Senedd. Mae angen i'r Prif Weinidog yn awr ddangos ei allu i ddarparu arweinyddiaeth ar y mater hwn sy'n adlewyrchu barn yr holl bleidiau a holl bobl Cymru.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei araith ymddiswyddo, bydd angen cyd-drafod â'r Undeb Ewropeaidd i gynnwys ymgysylltiad llawn y Llywodraethau datganoledig i sicrhau bod buddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn cael eu diogelu a’u hybu. Mae'n rhaid i ni sicrhau yn gyntaf bod yr arian a oedd yn mynd i mewn i gronfeydd strwythurol a’r polisi amaethyddol cyffredin yn parhau. Mae'n rhaid i ni wedyn sicrhau bod Cymru yn cael ei chyfran o'r arian a ddychwelwyd sydd dros ben. Ac mae'n rhaid sefydlu pwyllgor newydd o Aelodau'r Cynulliad i sbarduno ymateb Cymru i refferendwm yr UE, gan adlewyrchu barn y cyhoedd yng Nghymru yn ei wneuthuriad.
Mae'r Prif Weinidog wedi rhoi amser i ni benderfynu beth ddylai perthynas newydd Prydain ag Ewrop fod trwy oedi hysbysiad erthygl 50 o dan gytuniad Lisbon, a fydd yn cychwyn cyfnod o ddwy flynedd i drafod y trefniadau ar gyfer dod allan oni bai bod y Cyngor Ewropeaidd, mewn cytundeb â’r aelod-wladwriaeth dan sylw, yn unfrydol yn penderfynu ymestyn y cyfnod hwn. Yn y cyfamser, ni fydd unrhyw newid i hawliau pobl i deithio a gweithio ac i’r ffordd y mae ein nwyddau a’n gwasanaethau yn cael eu masnachu, nac i'r ffordd y mae ein heconomi a’n system ariannol yn cael eu rheoleiddio.
Fel y mae Boris Johnson wedi ei ddweud, ni allwn droi ein cefnau ar Ewrop—rydym yn rhan o Ewrop. Rydym yn condemnio yn llwyr y camdrinwyr hiliol sy’n ceisio manteisio ar ganlyniad y refferendwm. Mae'n rhaid i ni fod yn fodel o ddemocratiaeth amlhiliol, aml-ffydd, cyfle cyfartal.
Roedd yr ymateb difeddwl gan y marchnadoedd ariannol yn rhagweladwy, yn hapfuddsoddol ac yn ormodol, ac mae angen barn wrthrychol wrth i farchnadoedd ddechrau ymdawelu. Mae’r Trysorlys, Banc Lloegr a'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol wedi sefydlu cynlluniau wrth gefn cadarn ar gyfer y cyfnod ariannol yn union ar ôl pleidlais ‘gadael’. Bydd y DU yn dal i fod yn y G7, y Gronfa Ariannol Ryngwladol a Chyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig. Mae ein diogelwch bob amser wedi dibynnu ar Gytundeb Sefydliad Gogledd yr Iwerydd, a bydd Prydain hefyd yn parhau i drafod amddiffyn— [Torri ar draws.]—a rhannu cudd-wybodaeth gyda phartneriaid Ewropeaidd. Un ymyriad yn unig.
Diolch yn fawr iawn am ildio. Dim ond mewn ymateb i rai o'ch sylwadau ar oddefgarwch, a ydych chi'n cyfochri eich hun â'r poster ‘breaking point’?
Nac ydw.
Mae ein diogelwch, fel y dywedaf, wedi dibynnu ar NATO erioed. Y tu allan i'r UE, rydym yn adennill y rhyddid i greu cytundebau masnach gan barhau i fasnachu gyda'n partneriaid yn Ewrop. Mae'r DU yn gyfrifol am tua 5.5 miliwn o swyddi ar draws Ewrop. Ni fydd yr UE eisiau rhyfel masnach; bydd eisiau masnach rydd. Mae Markus Kerber, pennaeth y BDI—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yr Almaen —wedi annog yr Almaen a'r UE i lunio cyfundrefn masnach rydd ôl-Brexit sy'n ei galluogi i gynnal a chadw’r lefelau masnach sydd ganddynt â'r DU. Mae'r Canghellor yr Almaen, Angela Merkel, wedi dweud nad oes angen i’r Undeb Ewropeaidd fod yn arbennig o gas mewn unrhyw ffordd yn y trafodaethau â Phrydain ynglŷn â gadael yr UE. Mae’r Arlywydd Obama wedi dweud y bydd y berthynas arbennig rhwng yr Unol Daleithiau a Phrydain yn parhau yn dilyn y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Prydain, wedi'r cyfan, yw mewnfuddsoddwr mwyaf America. Mae Arlywydd Ffrainc, François Hollande, wedi addo cynnal perthynas â Phrydain, yn arbennig yn ymwneud â mewnfudwyr yn croesi rhwng y ddwy wlad a chydweithrediad milwrol ac economaidd. Dywedodd Gweinidog Cyllid Canada:
Rydym yn parchu dewis pobl Prydain a byddwn yn parhau i fod yn bartner cryf i'r DU ac i'r UE. Mae ein hanes a rennir yn ein gwneud yn bartneriaid masnachu naturiol, ac rwy’n edrych ymlaen at gynnal y cysylltiadau economaidd agos hynny.
A gallwn fynd ymlaen, ond mae amser yn brin. Prydain yw un o economïau mwyaf y byd—gwlad fyd-eang sydd eisoes yn cynnal mwy o fasnach y tu allan i'r UE nag unrhyw aelod wladwriaeth arall ac eithrio Malta. Daw ein hunig fygythiad gwirioneddol o'r llais dinistr sy'n ceisio darnio'r Deyrnas Unedig, rhannu ei phobloedd, lleihau ei holl rannau a damnio’r hyn a elwir yn Alban annibynnol i aelodaeth ardal yr ewro a thwll du yn ei chyllideb. Mae hynny'n warthus. Wedi'r cyfan, mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom i ddiogelu sofraniaeth a chyfanrwydd ein Teyrnas Unedig.
Nid oes amheuaeth ein bod i gyd, gyda'n gilydd fel cenedl ac fel pobl, yn sefyll ar drothwy dyfodol cymdeithasol ac economaidd newydd a bod ein pobl wedi eu rhannu'n chwerw ac mae'n rhaid i ni yn awr ddod at ein gilydd i fynd i'r afael â’n dyfodol. Er bod yn rhaid i ni dderbyn y mandad democrataidd ac ewyllys y bobl, mae'n rhaid i ni i gyd gydnabod hefyd y trwch blewyn, fel y cyfeiriwyd ato yn gynharach, a'r effaith sylweddol eisoes ar Gymru. Mae'n hanfodol heddiw ein bod yn dwyn Llywodraeth y DU a'r Prif Weinidog, fel y dywedwyd eisoes, i gyfrif a'u bod yn rhoi ac yn cyflawni eu haddewidion ffug i Gymru ac yn rhoi ein harian yn ôl y gwnaethant ei addo i bobl Cymru yn ystod yr ymgyrch ‘gadael’, yr ydym yn ei anfon i'r UE ar hyn o bryd. Neu ai twyll yw hynny? Mae'n rhaid i bob ceiniog gael ei y mae Cymru’n ei cholli o adael Ewrop gael ei rhoi yn ôl i ni, neu fel arall, mae diffyg democrataidd ac mae'r bobl wedi eu twyllo ac mae'r bobl wedi eu camarwain a dywedwyd celwydd wrth y bobl.
Nid oes amheuaeth bod y refferendwm hwn wedi troi aelod o deulu yn erbyn aelod o deulu a ffrind yn erbyn ffrind. Nid oes unrhyw amheuaeth, heddiw, yn fwy nag erioed, ei bod yn bryd i’n gwlad ganfod undod a chryfder pwrpas wrth symud ymlaen. Yn yr un modd nid oes amheuaeth, fel y dywedwyd eisoes, fod hiliaeth yn cynyddu ac y dylai pob un ohonom fod yn condemnio’r gweithredoedd hyn o droseddau casineb hiliol. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig ac yn unedig wrth weithio i gael y canlyniadau gorau posibl i Gymru ôl-Brexit ac i gael y canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru; bydd pob gewyn ac anadl y weinyddiaeth hon yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru i ennyn effeithiau cadarnhaol allan o'r cyd-destun cyfnod heddwch digyffelyb hwn, ac, yn hollbwysig, bydd pob ymdrech yn cael ei gwneud i drafod y fargen orau i Gymru a busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio meithrin ac ymgysylltu’r farchnad a’r tariffau gorau posibl ar gyfer nwyddau Cymru a werthir yn yr UE, ac mae er budd gorau amaethyddiaeth a physgodfeydd Cymru bod hyn yn cael ei wneud. Fodd bynnag, ni fydd fawr o hyn yn dibynnu arnom ni a Llywodraeth Cymru, ac ni fydd o fewn ein gallu. Heddiw, mae'n ffaith bendant ac nid ffuglen fod effeithiau arwyddocaol a sylweddol eisoes yn taro glannau’r DU o ganlyniad uniongyrchol i'r refferendwm hwn.
Erbyn hyn mae gennym gyd-destun seismig, cyfnewidiol ac anodd i Gymru ar gyfer creu’r sicrwydd, yr eglurder a’r canlyniadau cadarnhaol sydd eu hangen, ac mae'n hollbwysig bod pawb yn deall y cyd-destun. Mae'n berthnasol ac mae'n ganlyniad uniongyrchol i bleidlais ‘gadael’ y genedl y dydd Gwener hwn, er enghraifft, bod y DU eisoes wedi gweld dros y penwythnos ei bod wedi colli ei statws AAA, bod y bunt eisoes wedi cyrraedd ei lefel isaf er 1985, bod busnesau allweddol Cymru a mewnfuddsoddwyr wedi mynegi pryder mawr cyhoeddus dros ddyfodol ar sail tariff gyda marchnad sengl yr UE. Ac mae hyder mewn gweithgynhyrchu yn gostwng yn helaeth a thu hwnt oherwydd ansicrwydd dros weithredu amserlen erthygl 50. Mae hwn yn ansicrwydd a allai effeithio ar swyddi yng Nghymru. Mae'n realiti i'n pobl yng Nghymru fod effaith negyddol ar ddatrys yr ateb Tata ac ar swyddi yng Nghymru. Caiff hyn ei ategu, nid gan wleidyddion, ond gan Airbus, Ford ac eraill.
Er gwaethaf cyd-destun sy'n anodd a llawn gofid, mae pobl y DU wedi pleidleisio fel mwyafrif trwy broses ddemocrataidd ac wedi rhoi mandad democrataidd i adael, y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU yn awr ei anrhydeddu a’i barchu fel ewyllys y bobl, ond ochr yn ochr â'r arian a addawyd gan y DU yn yr ymgyrch ‘gadael’. Mae hyn yn sylfaenol, ac mae'n rhaid i ni gyfaddef na wnaeth y dadleuon dros aros gyrraedd y nod, ond mae'r un mor iawn a phriodol bod ffeithiau yn cael eu deall, bod y cyhoedd yn canfod y materion o bwys o'r malu awyr a bod heriau sylweddol, yr wyf i wedi’u hamlinellu ac sydd, yn ddiau, yn ein hwynebu, yn cael eu deall gan y bobl. Mae'n ffaith galed bod y cyfryngau wedi chwarae rhan ddifflach wrth gyflwyno'r ffeithiau a'r dadleuon, ac y dadleuir hefyd bod gwleidyddion yn ogystal wedi methu â gosod yr agenda honno. Byddwn yn wynebu’r heriau sylweddol i'r DU yn awr yn uniongyrchol, ac, yng Nghymru, yn gweithio i’w goresgyn yn strategol, nid oes amheuaeth gennyf, ond mae'n hanfodol bod heriau economaidd, a chymdeithasol sylweddol o'r fath yn cael eu deall yn llawn ac yn briodol. Mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru a'i phobl ar flaen y gad ac yn ganolog i’n strategaeth, a bod y gwactod hwn a grëwyd gan gythrwfl ac ansicrwydd gwleidyddol ar draws y DU sy’n wynebu pob un ohonom yn cael ei ail-bwytho cyn gynted ag y bo modd. Diolch.
Byddwn innau hefyd yn hoffi diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ddydd Gwener ac am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ddydd Iau, siaradodd pobl y Deyrnas Unedig a siarad yn uchel. Dywedasant: 'Mae Prydain yn well ei byd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd'. Mae'n anffodus iawn nad oedd y Prif Weinidog a roddodd y refferendwm hwn i ni yn ddigon dewr i ddilyn y mater hyd at ei derfyn. Fodd bynnag, mae'n bwysig ein bod i gyd yn awr yn gweithio gyda'n gilydd i sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r DU. Ni ddylai ein trafodaethau ymadael gael eu bwrw i’r cysgod gan ymryson mewnol ac ymgyrchoedd arweinyddiaeth yn y Blaid Geidwadol a'r Blaid Lafur. Mae yna rai sy'n ceisio gwrthod barn y bron i 17.5 miliwn o bleidleiswyr Prydain a bleidleisiodd i adael yr UE. Efallai nad ydynt yn hoffi'r canlyniadau, ond rydym yn byw mewn democratiaeth, a dyna sut mae democratiaeth yn gweithio: y mwyafrif sy'n rheoli. Os edrychwn ni ar y refferendwm a arweiniodd at greu ein Cynulliad, roedd y canlyniad hwnnw’n llawer iawn agosach, ond ni chlywyd yr ochr 'na' yn gweiddi, i geisio osgoi dymuniadau'r etholwyr neu'n ceisio negyddu'r canlyniad yn greadigol. Mae pobl y DU wedi datgan yn glir: maent wedi cael digon ar fiwrocratiaid anetholedig yn dweud wrthynt beth i'w wneud. Maen nhw eisiau dod allan o'r UE, ac mae i fyny i ni, eu cynrychiolwyr etholedig, i sicrhau bod eu dymuniadau yn cael eu gwireddu— [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, ai eisiau ymyrryd ydych chi? [Torri ar draws.] Sefyll etholiad? Do, mi wnes.
Nid oes angen i chi wrando ar Weinidogion sy'n gwneud sylwadau o’u seddi. Ewch ymlaen â'ch cyfraniad.
Cefais fy ethol. Mae'n rhaid i ni anwybyddu deisebau amheus, hunan-les gwleidyddol—do, fe fu deisebau y profwyd bod gwallau ynddynt ar-lein—a hunan-les gwleidyddol a'r rhai sy'n honni na all y Deyrnas Unedig sefyll ar ei phen ei hun. Mae gennym gyfle unwaith mewn oes i gael llawer iawn i Gymru ac i Brydain Fawr, ac rwy’n annog pob ochr i weithio gyda'i gilydd i gael y telerau mynd allan yn iawn. Rydym yn ystyried bod unrhyw weithredoedd o gamwahaniaethu a malais tuag at unrhyw berson yn wrthun.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Onid ydych yn cytuno â mi bod rhywfaint o'r rhethreg yr ydym wedi’i chlywed gan gynrychiolwyr UKIP mewn gwirionedd wedi bwydo’r drwgdeimlad a’r hiliaeth yr ydym wedi’u gweld?
Gallaf eich sicrhau, nad ydych wedi’i chlywed gennyf i, ac nid ydych wedi ei chlywed gan y bobl hyn yma ychwaith. At bwy yr ydych yn cyfeirio?
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall?
Mi wnaf.
Cawsom gwestiwn yn gynharach heddiw sy'n awgrymu bod rhai pobl sy'n gyfreithlon yn y wlad hon, yn ceisio lloches yma—a’r cwestiwn oedd am gost y bobl hynny. Dylai ystyriaethau dyngarol ddod yn gyntaf, does bosib’?
Yr oedd yn gwestiwn gwahanol, rwy’n cyfaddef, ond roedd yn gwestiwn a ofynnwyd gan etholwyr—na, nid gan UKIP, gan etholwyr y gŵr bonheddig.
A ydych yn cysylltu eich hun â'r cwestiwn?
Ni fyddwn yn cymryd ymyriad pellach, pe bawn i yn eich lle chi. Byddwn yn parhau.
Dim problem.
I'r rhai sydd am fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau a llesteirio ein cynnydd o ran sicrhau bargen wych, rwy’n eich annog i wrando ar bobl Prydain a gyflwynodd fandad clir ar gyfer Brexit. Wrth ein cefndryd yn yr Alban, rwy’n dweud: ni allwch fwrw ein hymadawiad oddi ar y cledrau. Efallai bod pleidleiswyr yn yr Alban wedi pleidleisio o blaid aros yn yr UE, ond maent hefyd wedi pleidleisio o fwyafrif llethol i aros yn y DU, a does fawr iawn o amser ers hynny. Aelodau, mae'n rhaid i ni gyflawni dymuniadau democrataidd ein pleidleiswyr yn y DU. Mae'n rhaid i ni sicrhau nad yw ein hetholwyr sy’n derbyn arian gan yr UE ar gyfer eu busnesau a’u cwmnïau yn cael eu siomi gan delerau ein hymadawiad. Mae'n rhaid i ni sicrhau bod ein cytundeb gadael yn cyflawni dros Gymru a'r Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid i ni drechu’r rhai sy'n ceisio rhannu ein cenedl— [Torri ar draws.] Yn union, nid yw cynnen yn talu—ond yn bennaf oll, rhaid i ni hefyd sicrhau ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir i ni gan ein penderfyniad i adael yr UE.
Yn olaf, Lywydd, mae'n rhaid i ni gofio ein bod ni bob un wedi ein hethol gan y cyhoedd—bob un ohonom. Rydym yn eu cynrychioli p’un a wnaethant bleidleisio drosom ni ai peidio, ac mae fy ysgrifbin yn ysgrifennu'r un fath ar gyfer bob etholwr, ni waeth sut y maent wedi pleidleisio a thros bwy. Diolch.
Dawn Bowden— [Torri ar draws.] Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Cefais siom anferth yng nghanlyniad refferendwm yr UE. Drwy gydol yr ymgyrch, ceisiais osod allan yn onest rai o beryglon gadael yr UE, fel yr oeddwn i yn eu gweld. Ymgyrchais o fy nghalon a fy mhen dros yr hyn yr oeddwn yn wirioneddol gredu oedd orau ar gyfer rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig; nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU.
Yr hyn sy'n amlwg yw bod llawer o bobl wedi pleidleisio ar y pethau yr oeddent yn credu fyddai’n deillio o’n gweld yn ymadael â’r UE, yn benodol, diwedd ar fewnfudo. Cafodd hyn ei ysgogi gan yr ymgyrch adael a'r cyfryngau asgell dde adweithiol a gwarthus a gododd gywilydd ar y wlad hon. I lawer, roedd hefyd yn bleidlais daer am newid gan bobl sydd bellach wedi dioddef blynyddoedd o galedi oherwydd y cyni a osodwyd gan y Torïaid. Roedd llawer o bobl yn credu bod yn rhaid i unrhyw beth fod yn well na'r hyn sydd ganddynt yn awr. Rydym bellach yn gwybod yn ddiamheuaeth fod yr ymgyrchwyr gadael wedi camarwain a dweud celwydd wrth y cyhoedd ym Mhrydain, gydag addewidion o roi £350 miliwn yr wythnos i’r GIG a chael rheolaeth ar fewnfudo. Mae hynny nid yn unig wedi atgyfnerthu’r diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddion, mae hefyd wedi gwneud i lawer ddechrau difaru pleidleisio i adael.
Un o fy ofnau eraill ynghylch pleidlais i ‘adael’ bob amser oedd yr effaith y byddai'n ei chael ar hawliau gweithwyr. Rydym eisoes wedi gweld cefnogwyr Brexit blaenllaw yn argymell cael gwared ar hawliau gweithwyr fel rhan o unrhyw drafodaethau gadael.
Gyda llaw, Lywydd, mae'n werth nodi y byddai’r cyfyngiadau a osodwyd ar bleidleisiau streic undebau llafur yn Neddf Undebau Llafur 2016 y Torïaid, a gefnogwyd gan y rhan fwyaf o gefnogwyr Brexit, wedi annilysu canlyniad y refferendwm hwn, oherwydd, mae'n debyg, mae pleidleisiau streic yn rhy bwysig o lawer i ganiatáu i fwyafrif syml o'r rhai sy'n pleidleisio benderfynu canlyniad, yn wahanol i fwyafrif syml ar holl ddyfodol ein cenedl am genedlaethau i ddod.
Efallai mai goblygiad mwyaf trallodus y bleidlais i adael, fel y dywedwyd gan lawer o Aelodau yma heddiw, yw’r achosion niferus o hiliaeth amlwg a chyhoeddus yr ydym wedi bod yn dyst iddynt ers i’r canlyniad hwn gael ei gyhoeddi. Gobeithio bod pawb yn y Siambr hon wedi ei syfrdanu gan hyn, y byddant yn ei wrthod yn llwyr ac y byddant yn codi ar eu traed i amddiffyn a gwarchod unrhyw un sy’n dioddef y fath gasineb—casineb a gafodd ei ysgogi gan rethreg wrth-mewnfudo yr ymgyrch ‘gadael’.
Nawr, er ei bod yn wir fod pobl wedi pleidleisio i adael am nifer o resymau, roedd rhai o'r rheiny nad oeddent yn ymwneud â'r UE o gwbl—ac nid yw hynny'n golygu na ddylem wrando ar eu pryderon. Mae'n rhaid i ni dderbyn mae’r canlyniad oedd y canlyniad, a byddwn yn awr yn dadlau'n gryf bod angen i ni roi diwedd ar yr ansicrwydd sy’n treiddio’r wlad a galw erthygl 50 yn ddi-oed. Dylai'r rhai a oedd yn arwain yr ymgyrch ‘gadael’ fod wedi sefydlu strategaeth i’w galluogi i fod yn barod i drafod ymadawiad cyflym a strwythuredig, i dawelu’r dyfroedd yn y marchnadoedd arian, i ddiogelu swyddi, pensiynau, cartrefi a buddsoddiadau pobl ac yn bwysicach efallai, i ddiogelu dyfodol ein pobl ifanc. Ond fel y gwyddom, nid ydynt wedi gwneud hynny.
Lywydd, rwy’n sôn am ein pobl ifanc, gan mai un peth wnaeth argraff arnaf yn ystod yr ymgyrch oedd eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth o'r hyn sydd yn y fantol—llawer mwy, efallai, na nifer o bobl ddwy neu dair gwaith eu hoedran. Fel y soniodd Julie Morgan, roedd llawer ohonynt na chawsant bleidlais.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, ni wnaf. Ar y penwythnos, cyfarfûm ag Alex, merch 14 mlwydd oed o’r Gurnos, a ddywedodd wrthyf, 'Pam fod hen bobl wedi taflu ein dyfodol ni i ffwrdd?' Yn anffodus, doedd gen i ddim ateb iddi. Felly, ar gyfer Alex a'i ffrindiau ac ar gyfer y cymunedau difreintiedig ym Merthyr Tudful a Rhymni ac mewn mannau eraill, rwy’n annog y Prif Weinidog i fod yn ddi-ildio wrth ddwyn i gyfrif y rhai a blediodd dros adael am yr addewidion a wnaethant. Gwn y bydd yn gweithio i sicrhau nad yw Cymru'n colli ceiniog o ran adfywio, mewnfuddsoddi a chronfeydd datblygu, a gwn y bydd yn ceisio sicrhau cynnydd sylweddol yn y cyllid i Gymru dan fformiwla Barnett ddiwygiedig i wneud yn iawn am unrhyw ddiffyg.
Yn olaf, Lywydd, gan fod angen dwyn cefnogwyr Brexit i gyfrif ar gyfer unrhyw setliad arfaethedig o ran ymadael â’r UE, bydd yn ofynnol iddynt gael cymeradwyaeth a mandad pellach gan y cyhoedd ym Mhrydain, ac edrychaf ymlaen at glywed sut y byddwn yn ymgynghori ar y setliad hwnnw, gan na all unrhyw setliad fod yn ddilys heb gytundeb penodol pobl Prydain.
Wel, mae’r hyn a ddigwyddodd ddydd Iau yn bwysig. Mae'n bwysig, gorff ac enaid, a bydd y goblygiadau yn ymestyn ar hyd y cenedlaethau. Mae'n bwysig yma, mae'n bwysig yn Ewrop, ac mae hefyd yn dweud llawer iawn am gyflwr democratiaethau’r Gorllewin. Roedd hefyd yn siarad am rywbeth penodol iawn, sef ein haelodaeth o'r UE, ond rwy’n meddwl bod yna wersi ehangach i bob un ohonom sydd yn y Cynulliad hwn eu cadw mewn cof wrth i ni wasanaethu ein mandad yn hwn, y pumed Cynulliad, ac mae'n wers, rwy'n credu, y bydd yn rhaid i wleidyddion ar draws y byd ei dysgu hefyd.
Ond yr hyn sy'n bwysig ar unwaith yw penderfynu pa fath o berthynas y dylem ei chael â’r UE yn awr, a hanfod hynny yw pa o fynediad neu aelodaeth o’r farchnad sengl y dylem fwynhau yn awr. Ni ellir osgoi hyn, mae'n rhaid ei wynebu a dyma’r peth mwyaf a fydd yn penderfynu ar ein perthynas yn y dyfodol ac a fydd wrth wraidd sicrhau ein rhagolygon economaidd. Roeddwn i'n meddwl bod y Prif Weinidog yn llygad ei le ddoe wrth bwysleisio, mewn ymateb i gwestiwn gan Aelod SNP, fod Prydain wedi’i hadeiladu ar undeb economaidd ac mae angen i ni weld yr undeb yn ffynnu yn awr, ond hefyd y farchnad sengl sydd wedi'i sefydlu, fel polisi Prydain, i raddau helaeth, o ganol y 1980au, yn Ewrop.
Ymddengys i mi mai economi Cymru yw'r un mwyaf agored i niwed yn y DU, a hon felly yw’r economi sydd fwyaf dibynnol ar gael perthynas effeithiol, adeiladol a chynhyrchiol â'r UE. Rwy’n gobeithio y bydd pob un sy’n cefnogi Brexit yn canolbwyntio ar hynny ac yn awr yn cyfiawnhau eu sicrwydd eu bod yn dal, yn y bôn, yn wir Ewropeaid—fersiwn wahanol o Ewrop; rwy'n barod i gredu hynny—wrth i ni weithio drwy'r manylion yn awr. Ond nid yw’n mynd i fod yn hawdd ei gyflawni, oherwydd pa fath o fynediad sydd gennym i’r farchnad sengl, a ydym yn aelod o EFTA neu beidio, neu'r AEE—mae pob math o oblygiadau i berthynas o’r fath. Mae'n rhaid i ni ddisgwyl trylwyredd gan y rhai a fydd yn awr yn trafod, ac efallai y byddant yn wynebu cryn ansefydlogrwydd economaidd, hefyd, ar union adeg y trafodaethau y mae arnom angen iddynt lwyddo fwyaf.
Bydd yn rhaid i nifer o faterion gael eu harchwilio hefyd am ein dyfodol fel gwladwriaeth Brydeinig—pa fath o DU fydd yn awr yn ymddangos yn sgil Brexit. Bydd yn rhaid i ni addasu mewn ffordd eithaf rhyfeddol er mwyn goroesi, a hynny yn nhermau cyfansoddiadol, ariannol ac economaidd. Mae'r siawns o ymwahaniad Albanaidd wedi cynyddu'n sylweddol. Nid wyf yn gwybod a ydynt yn debygol eto, ond rydym ni ar adeg dyngedfennol, ac mae p’un a ydym yn cadw’r undeb yn un yn dibynnu i raddau helaeth ar ba fath o weledigaeth sydd gennym yn awr ar gyfer y berthynas yr ydym yn dymuno ei chael â'r Undeb Ewropeaidd.
Mae'n glir iawn i mi fod buddiannau cryf Cymru'n yn dod i'r amlwg yn awr, a’u bod ymhell y tu hwnt i bleidgarwch. Mae'r DU yn undeb o genhedloedd, ac y mae angen i lunwyr polisi yn San Steffan bwysleisio a chofio hynny wrth iddynt drafod Brexit, ac mae'n rhywbeth y mae angen i ni ei gofio. Rydym ni yma—ni yw fforwm gwleidyddiaeth Cymru ac mae’r cyfrifoldeb hwnnw yn rhywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofleidio yn llawn. I hybu buddiannau Cymru y cytunwyd arnynt, rwy’n credu, felly, y dylid annog gweithio trawsbleidiol grymus yn y Cynulliad—yn y Cynulliad ac, o bosibl, gyda’r Llywodraeth hefyd, wrth iddi gydweithio â holl bleidiau y fforwm hwn. Lywydd, bydd yn rhaid i’r pumed Cynulliad ddangos ei fod yn fforwm y gellir ymddiried ynddo ar gyfer hybu ac amddiffyn buddiannau Cymru yn yr amseroedd hynod heriol a wynebwn yn awr. Os byddwn yn methu, bydd yr alarnad drist honno yn atseinio, 'Cry, the beloved country’.
Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd, am y cyfle i gyfrannu i’r ddadl bwysig hon.
The result of the referendum last week was a profound disappointment. The fact that Wales should choose to reject the relationship that has been so clearly in its interests is a challenge to all of us in this place, and we must respond tangibly, and not with easy rhetoric. The loss to Wales of hundreds of millions of pounds of income every year would be hugely detrimental. We have already seen, in many of our communities, the effect of the UK Government’s austerity cuts, taking money out of households and out of local economies, and this is a challenge on a much, much bigger scale. Coupled with economic uncertainty, both in Wales and across the UK, as companies now inevitably look at whether they are investing here or in the ongoing UK, we are facing a very traumatic period, despite the sunny optimism that very unlikely pair of Pollyannas, the leader of the Welsh Conservatives and the leader of UKIP.
I don’t want to be in a position where Wales qualifies for regional aid—none of us wants that. I want our economy to be robust enough not to need this and to flourish, and our overriding priority is, and must be, an economic policy that enables that.
Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad, ac rwy’n cytuno â'ch geiriau na ddylem fod yn falch o'r ffaith y bu angen cyllid cydgyfeirio arnom yn ystod y cyfnod hwn. Rydym ar yr un ochr ar hyn, ond rwy'n siŵr y byddwch yn ymuno â mi yn fy atgasedd tuag at dôn rhai o bapurau Llundain sy’n pwyso tua’r chwith sydd wedi galw ein hetholwyr a bleidleisiodd i ‘adael’ yn ddifeddwl ac, yn bwysicach fyth, yn ddiddiolch am yr arian sydd wedi dod o Ewrop i helpu i gefnogi'r cymunedau hynny. A ydych yn derbyn, fodd bynnag, y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd rhywfaint o gyfrifoldeb dros beidio ag argyhoeddi’r cymunedau penodol hynny bod arian wedi dod o Ewrop ac wedi’u helpu, yn hytrach na dod yn uniongyrchol o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a'r hyn yr ydym wedi ei ddysgu, pob un ohonom, o hynny am sut yr ydym yn cyfleu sut y caiff arian ei ddefnyddio yn ein cymunedau a phwy sy'n gyfrifol am y penderfyniadau?
Diolch am yr ymyriad hwnnw. Rwy’n derbyn y pwynt y bu sylwadau di-fudd iawn mewn rhywfaint o'r wasg ar ymateb ein cymunedau. Nid wyf yn derbyn y pwynt arall a godwyd gennych, ond rwy’n derbyn pwynt hwnnw, yn sicr.
Mewn gwirionedd, gwnaed addewidion yn ystod yr ymgyrch hon, ac maen nhw wedi cael eu crybwyll eto heddiw ar sawl achlysur, ac yn fy marn i, yr hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yr wythnos diwethaf oedd, ie, cael dod allan o'r UE, ond hefyd am i’r arian a gaiff Cymru ar hyn o bryd gan yr UE i gael ei ad-dalu gan Lywodraeth Prydain. Mae penderfyniad Brexit i ni yng Nghymru yn golygu'r ddau beth hyn gyda’i gilydd, ac mae sut yr ydym yn ymateb i'r penderfyniad hwnnw yn y lle hwn yn hanfodol. Nid wyf i fy hun, yn canfod yn y canlyniad unrhyw ddyhead cyhoeddus ar hyn o bryd i gael setliad datganoli llawer ehangach na'r hyn yr ydym eisoes yn ei drafod, ond bydd yn rhaid aros i weld a yw hynny'n dal i fod yn wir wrth i ddyfodol y Deyrnas Unedig ddatblygu. Ond rwy’n credu bod pobl a bleidleisiodd i adael yr UE wedi gwneud hynny yn y gred gadarn y byddai’r prosiectau, y seilwaith, y rhaglenni sgiliau, ac yn y blaen, sy’n ffurfio rhan hanfodol o'u cymunedau yn parhau ar ryw ffurf. Ac felly, mae'n rhaid i ni ymateb i hynny mewn ffordd bendant. Rwy’n credu mai nawr yw'r amser i ddatrys y cwestiwn o sut y mae Cymru yn cael ei hariannu gan San Steffan, a’i roi ar sylfaen gadarn. Rhaid i ymrwymiad cyllido newydd adlewyrchu gwahanol anghenion pobl Cymru, a rhaid iddo adlewyrchu, yn llawn, y ffaith bod yr arian Ewropeaidd wedi’i golli. Rydym yn cael ein harwain i gredu y bydd Trysorlys ei Mawrhydi yn awr yn gwneud arbediad sylweddol bob blwyddyn, a rhaid i drysorlys Cymru dderbyn ei gyfran deg o hynny. Mae addewidion wedi eu gwneud, ac yn awr yw'r amser iddynt gael eu cadw.
Felly, rwy’n credu bod angen i ni gynnwys gwarant o ran y gyfraith cyllido o fewn pensaernïaeth statudol cyfansoddiad Cymru sy'n dod i'r amlwg. Rhaid iddo ddisgrifio'r egwyddorion lefel uchel sy'n sail i fformiwla ariannu deg. Mae’r cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, wedi dweud mai cydraddoldeb ac ailddosbarthu yw’r egwyddorion arweiniol yn hyn o beth, a rhaid iddo hefyd ddisgrifio sut y byddai anghydfod dros y cyllid hwnnw yn cael ei datrys.
Nid wyf yn credu y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn diolch i ni os ydym yn ymateb i'w dyfarniad—sydd, yn fy marn i, yn ymwneud yn rhannol â pherthnasedd bywyd gwleidyddol i'w bywydau—â thrafodaeth helaeth am ffurf a phwerau San Steffan a Bae Caerdydd. Os ydym wedi cael clywed unrhyw beth gan bobl ledled Cymru, yr angen i ni wneud mwy i ymdrin â'r materion bara menyn, y brwydrau dyddiol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, yw hynny. Ond, yn yr un modd, ni chawn faddeuant os byddwn yn methu â darparu, o ganlyniad i'r bleidlais hon, setliad ar gyfer Cymru sy'n mynd i'r afael, nid dim ond â chwestiwn ein perthynas ffurfiol â'r Undeb Ewropeaidd, ond hefyd sylfaen deg a diogel ar gyfer ariannu Cymru yn y dyfodol.
Yn gyntaf oll, ni allaf gredu bod y Blaid Lafur yn dal i fod yn gwadu gwir ddymuniadau a dyheadau pobl dosbarth gweithiol Cymru. Mae'n rhaid i mi ddweud eu bod yn siarad am ddim ond 2 neu 4 y cant o wahaniaeth yn y bleidlais ‘i mewn’ ac ‘allan’; wel, mewn lleoedd megis Torfaen, Blaenau Gwent a llawer o rannau eraill o gadarnleoedd Llafur yng Nghymru, roedd yn rhywbeth fel 60 y cant i 40 y cant—ac maent yn dal i wadu'r hyn y mae pobl ei eisiau. Wel, y gwir amdani yw, wrth gwrs, rydych wedi bod yn gwadu ar hyd yr amser, oherwydd dylai canlyniadau’r etholiad Ewropeaidd yng Nghymru yn 2014, pryd y bu bron i Blaid Annibyniaeth y DU ddod y blaid gyntaf ers dros 100 mlynedd i drechu'r Blaid Lafur mewn etholiad cenedlaethol, ac yna, wrth gwrs, ym mis Mai pryd y cafodd saith AC o blaid y mae gadael yr UE yn raison d'être iddi eu hethol i'r Senedd, fod wedi agor eich llygaid i’r gwirionedd, nid y blaid Lafur yn unig, ond pob plaid yng Nghymru sydd ag agenda sydd o blaid Ewrop. Yn anhygoel, nid oedd hyn yn wir. Dewisodd pob un o'r pleidiau hyn anwybyddu ewyllys y Cymry. Roedd y canlyniad ddydd Iau yn ganlyniad uniongyrchol i’r gwahaniad rhwng y pleidiau sefydledig ag etholwyr Cymru, ac nid, fel sydd wedi cael ei ledaenu dros y dyddiau diwethaf, yn ganlyniad i unrhyw wybodaeth anghywir bondigrybwyll ar ran yr ochr ‘gadael', neu hyd yn oed y tactegau ofn di-baid a ddefnyddiwyd gan yr ymgyrch ‘aros'.
Fodd bynnag, nid dyma’r amser i unrhyw un a oedd yn ymwneud â'r ymgyrch 'allan' orfoleddu am y canlyniad, yn enwedig y rhai ohonom yn y Cynulliad. Mae goblygiadau’r refferendwm hwn yn llawer rhy bwysig i unrhyw ymblesera o'r fath.
A fyddech chi’n ildio?
Byddwn, iawn.
Diolch. Rwy’n derbyn eich pwynt bod y canlyniad wedi amlygu dadrithiad dwfn i lawer o bobl mewn cymunedau dosbarth gweithiol. Nid wyf yn derbyn ei bod yn ymwneud â’r UE yn unig. Mae'n cynrychioli datgysylltiad llawer dyfnach â’r ffordd y mae ein heconomi yn gweithio. Ond erbyn hyn mae her i'r rhai a wnaeth addewidion ar yr ymgyrch ‘gadael’, oherwydd fe wnaethoch addewidion, ac mae perygl, os nad yw’r addewidiion hynny yn cael eu cadw, y gallai dadrithiad â gwleidyddiaeth fod yn broses wenwynig iawn. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod y rhai a wnaeth honiadau ac addewidion ar eich ochr chi yn anrhydeddu’r ymrwymiadau hynny?
Wel, yr wyf yn croesawu eich ymyriad ar y rhan honno, ond rydych yn dal yn ymddangos i fod yn gwadu'r rhesymau pam eu bod wedi pleidleisio i ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd. Ond rwy'n credu y bydd yr hyn yr af ymlaen i’w ddweud yn ateb y cwestiwn yr ydych wedi’i ofyn yn ôl pob tebyg, a hynny yw fy mod yn dweud, bod goblygiadau’r refferendwm hwn yn llawer rhy bwysig i unrhyw ymblesera o'r fath. Rwyf yn awgrymu i chi ei bod yn amser ar gyfer gweithredu trawsbleidiol a chonsensws fel erioed o'r blaen. Mae'n rhaid i ni ac fe fyddwn ni a oedd yn ymwneud â’r ymgyrch 'allan' yn cefnogi’n llwyr unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru i sicrhau nid yn unig yr arian a addawyd eisoes i Gymru gan Lywodraeth San Steffan, ynghyd, wrth gwrs, â’i hymrwymiad i anrhydeddu cyllid yr holl brosiectau sydd yn awr yn cael eu cyfalafu gan yr UE, ond hefyd i sicrhau ein bod yn cael cyfran deg o'r cronfeydd hynny y bydd Brexit yn eu cynhyrchu. Cyfeiriaf, wrth gwrs, at y gwahaniaeth yn yr hyn y mae’r DU yn ei dalu i mewn i'r Undeb Ewropeaidd a’r hyn y mae'n ei roi yn ôl. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gen i.
Unwaith eto, nid dyma’r amser ar gyfer cecru pleidiol ynghylch canlyniad y refferendwm. Mae'r bobl wedi siarad, ac mae'n fater i ni fel Cynulliad unedig symud ymlaen i sicrhau dyfodol Cymru yn yr arena wleidyddol newydd. Mae rhai o’r doethinebwyr gwleidyddol a oedd mor anghywir ynghylch Ewrop yn awr yn rhagweld y bydd yr undeb yn chwalu. Byddant yn cael eu profi'n anghywir ar hynny eto. Bydd yr undeb yn parhau i fod yn gyfan ac ewyllys mwyafrif llethol pobl Cymru yw y byddwn yn rhan o'r undeb honno.
Gadewch i ni yn awr helpu ac ymddiried yn y 40 AS a anfonwyd i San Steffan, y rhan fwyaf ohonynt yn Aelodau Seneddol Llafur, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, i sicrhau'r canlyniad gorau posibl o’r refferendwm hwn ar ran pobl Cymru. Mae'r Cymry wedi siarad. Gadewch i ni barchu eu barn. Dim ond un atodiad bach: yn 2010 roedd ffigurau'r Llywodraeth yn dangos mai dim ond 2.1 y cant o gwmnïau Cymru mewn gwirionedd oedd yn allforio i'r UE. Gadewch i ni gadw ymadawiad Cymru â’r UE mewn persbectif. Diolch.
Fel llawer o rai eraill yma heddiw, Lywydd, mae’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd a'i chanlyniadau yn destun pryder mawr i mi. Rwy’n credu ein bod ni wir ar dir newydd yn awr, ac rwy’n teimlo'n bryderus iawn o ran diogelwch a heddwch ar y cyd yn Ewrop a thu hwnt; ein mynediad, wrth gwrs, at y farchnad sengl, sydd mor bwysig; mewnfuddsoddiad ac, yn wir, buddsoddi cyffredinol yma yng Nghymru ac ar draws y DU yn ein heconomi; a hefyd, wrth gwrs, o ran colli cyllid Ewropeaidd.
Un prosiect sy’n dod yn amlwg i’r meddwl yw’r metro, prosiect yr wyf yn hynod gefnogol ohono, fel y gwn y mae llawer o rai eraill yma hefyd. Rwy'n credu ei fod yn syniad mawr, o ran ein heconomi yn y de-ddwyrain, ac o ran cysylltedd ar ffryntiau economaidd a chymdeithasol. Nawr, mae'n ansicr a fydd gennym yr arian i fynd â’r prosiect yn ei flaen fel y bwriadwyd ac mor gyflym ag y bwriadwyd, ac rwy'n gobeithio y bydd unrhyw ansicrwydd yn cael ei ddatrys cyn gynted ag y bo modd.
Hefyd, fel y mae eraill wedi crybwyll, Lywydd, rwy'n bryderus iawn, iawn am gydlyniant cymunedol. Nid dim ond mater yr ymosodiadau uniongyrchol ac, yn wir, y bygwth y mae pobl wedi’i brofi yn sgil canlyniad refferendwm yr UE, ond hefyd y pryder sydd wedi'i gynhyrchu yn ein cymunedau. Rwy'n credu y gall pob un ohonom chwarae rhan yma, ar bob lefel o'r Llywodraeth a'r gymdeithas ddinesig, wrth ei gwneud yn glir y byddwn yn cefnogi pobl yn ein cymunedau ni waeth beth yw eu cefndir ac ni waeth beth yw eu cenedligrwydd neu eu hethnigrwydd. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb yn hynny o beth yn y cyfnod anodd hwn.
Y mater nesaf yr hoffwn sôn amdano, y mae eraill hefyd wedi’i grybwyll, Lywydd, yw tlodi, dieithrio ac allgáu. Rwy'n credu ei fod yn gwbl glir, pan edrychwn ar y pleidleisio a phatrwm y pleidleisio, fod llawer o bobl yn ein cymunedau â’r ymdeimlad hwnnw o anobaith ac nad ydynt yn gwneud yn dda yn economaidd ac o ran ansawdd eu bywyd ar hyn o bryd. Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae'n ddealladwy, pan roddir cyfle iddynt, i gyflwyno neges gref i roi cic, fel petai, i’r hyn y maent yn ei weld fel y sefydliad, yr elît gwleidyddol—sut bynnag y maent yn ei ddisgrifio—byddant yn cymryd y cyfle hwnnw, weithiau bron heb ystyried y materion gwirioneddol sydd yn y fantol. Rwy'n credu bod elfen gref o hynny yn y bleidlais benodol hon ac mae angen i ni gydnabod y teimlad hwnnw, nid yn unig ar gyfer y bleidlais benodol honno ond yn gyffredinol. Mae angen i ni wneud mwy o ymdrech o lawer i fynd i'r afael â thlodi, i greu mwy o gynwysoldeb yn ein cymunedau ac i adeiladu ein heconomi er budd pawb.
Yn olaf, Lywydd, hoffwn droi at ryngwladoldeb a Chymru, gan fy mod yn cofio, fel un o Aelodau gwreiddiol y Cynulliad—nid oes llawer ohonom ar ôl erbyn hyn—yn y cyfnod yn arwain at sefydlu’r Cynulliad, ac yn ei fisoedd a blynyddoedd cynnar, roedd llawer o bobl yn bryderus iawn ynghylch plwyfoldeb—y byddai'r Cynulliad yn fewnblyg ac y byddai Cymru yn dod yn fwy mewnblyg ac yn edrych llai tuag allan. Rwy'n falch o ddweud nad wyf yn credu mai dyna’r profiad o gwbl. Rwy'n meddwl bod y Cynulliad a Chymru wedi bod yn edrych tuag allan yn fawr iawn, ac mae Gweinidogion, Aelodau'r Cynulliad, cymdeithas ddinesig a sefydliadau yng Nghymru wedi bod yn rhan o hynny.
Bu amryw o sianeli a phrosesau sydd wedi hwyluso hynny. Rydym wedi dod yn aelodau o lawer o grwpiau rhyngwladol, ond mae llawer iawn ohono yn troi o amgylch ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, boed yn Weinidogion Cymru yn mynychu cyfarfodydd Cyngor y Gweinidogion ac, yn wir, yn siarad dros Gymru yno, neu’r Pwyllgor Rhanbarthau neu ymweliadau gan Aelodau'r Cynulliad ac eraill i Frwsel a mannau eraill yn Ewrop. Mae sawl agwedd i’r ymgysylltu hwnnw, ond mae llawer iawn ohono, o reidrwydd, yn troi o gwmpas ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Rydym yn rhan o Ewrop, byddwn yn parhau i fod yn rhan o Ewrop ac mae angen inni edrych, rwy’n credu, ar sut yr ydym sianelu'r ymgysylltu hynny â gwledydd Ewrop a'r Undeb Ewropeaidd yn sgil y bleidlais hon.
Mae nifer o agweddau eraill, wrth gwrs, yr wyf yn frwdfrydig iawn yn eu cylch o ran ein rhyngwladoldeb, fel y rhaglen ar gyfer Affrica, y credaf sydd wedi bod yn llwyddiant mawr i Gymru a Llywodraeth Cymru ar sawl lefel. Ond, yn sicr, mae aelodaeth o’r Undeb Ewropeaidd wrth wraidd llawer o'r ymgysylltu rhyngwladol hwnnw.
Felly, i gloi, Lywydd, yr wyf wir yn credu y byddai pob un ohonom yma—bron pob un ohonom beth bynnag—am weld Cymru yn agored i'r byd a'r byd ar agor i Gymru. Ac, yn sgil canlyniad y refferendwm, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn gweithio tuag at y rhyngwladoldeb hwnnw, ac yma yng Nghymru ein bod yn gwneud yn siŵr ein bod yn oddefgar, ein bod yn gynhwysol, ein bod yn croesawu gwahaniaeth. Dyna'r math o Gymru yr wyf i am ei weld.
Rwy’n galw ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Roeddwn i'n gwybod, pan gafodd y ddadl hon ei chyflwyno, a phan ddechreuodd, y byddem yn treulio llawer o amser mae'n debyg yn ailredeg digwyddiadau a dadleuon yr wythnos diwethaf. Ond mae'r canlyniad yno. Mae'n iawn i ddweud ei fod yn agos, ond yna roedd sefydlu'r sefydliad hwn yn ganlyniad refferendwm agos yn ogystal—wedi’i gryfhau lawer wedi hynny wrth gwrs, yn 2011. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth Caroline Jones fod yna bobl oedd yn ceisio gwrthdroi'r canlyniad. Yn 2001, roedd gan faniffesto’r Ceidwadwyr ymrwymiad i gynnal refferendwm er mwyn galluogi pobl i wrthdroi’r canlyniad. Hen hanes yw hynny erbyn hyn, yn ffodus. Ond mae yno: mae’r canlyniad yno; nid oes mynd yn ôl arno. Yn fy marn i, nid oes galw am ail refferendwm. Rwy'n meddwl bod peryglon mawr yn hynny. Os oes galw am ail refferendwm, bydd y rhai a bleidleisiodd i adael yn digio fwy fyth a bydd y dicter yn cael ei drosi yn rhywbeth mwy annymunol. Byddant yn gweld bod ymgais i ddadwneud eu barn nhw, barn y mwyafrif, fel y maent yn ei weld, ac mae peryglon mawr yn hynny o beth. Felly, rwy’n gwybod bod eraill wedi sôn am hyn, ond dwi ddim yn meddwl y byddai cynnal ail refferendwm yn beth doeth ar hyn o bryd.
A gaf i droi at yr hyn a ddywedodd arweinydd yr wrthblaid? Mae ef wedi lleoli ei hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y ddadl—
Mae'n ddrwg gennyf, mae arweinydd yr wrthblaid yn fenyw a Phlaid Cymru yw’r wrthblaid.
Maddeuwch i mi; arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—hen arferion, yn anffodus. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, yr hyn a ddywedodd—ei fod wedi cyflwyno’i hun fel rhywun sy'n gallu ychwanegu at y weledigaeth ar gyfer y dyfodol i Gymru. Yr hyn a glywsom heddiw oedd malu awyr blodeuog. Gofynnwyd iddo—. [Torri ar draws.] Rwy’n ceisio mynd i mewn i ysbryd y ddadl a bod yn garedig. Gofynnais iddo roi rhyw syniad i ni o'r cyfleoedd sy'n bodoli ac fe fethodd ag enwi un. Nawr, nid wyf yn ymhyfrydu yn hynny, oherwydd y perygl yw bod y rhai sydd wedi gwneud addewidion ar yr ochr ‘gadael’ yn gweld yr addewidion hynny yn chwalu. Bydd y bobl hynny a bleidleisiodd ‘gadael’ wedyn yn cymryd eu dicter allan mewn ffyrdd gwahanol, a fydd yn golygu y byddwn yn gweld cefnogaeth i bleidiau eithafol, hiliol y dde eithaf. Dyna fy mhryder mawr, mawr, ac felly mae dyletswydd a chyfrifoldeb ar bob un ohonom, gan gynnwys yr ymgyrchwyr ‘gadael’, i egluro beth sy'n digwydd nesaf ac i wneud hynny yn gyflym, yn hytrach na dweud, 'Wel, bydd pob dim yn iawn; bydd yna arloesi yma' a beth bynnag a ddywedodd. Mae angen mwy na malu awyr arnom; mae angen manylion arnom ni.
Rwy’n dweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig—rwyf wedi ei gael yn iawn y tro hwn—bod yn rhaid i’r bleidlais hon beidio â chael ei defnyddio fel rheswm i hidlo pwerau i ffwrdd oddi wrth bobl Cymru. Mae ei union eiriau gen i o fy mlaen, yr hyn a ddywedodd y prynhawn yma. Dywedodd, ac rwy’n dyfynnu:
mae'n hanfodol bod buddiannau Cymru yn cael eu hamddiffyn a’u diogelu—
Iawn.
—a bod cymunedau sydd wedi cael yr arian hwn wedi’i wario yn cael yr hyder y bydd yr arian yn parhau boed yn dod o'r Trysorlys yn Llundain neu Lywodraeth Cymru.
Ni all Llywodraeth Cymru wneud yr arian hwnnw i fyny; gallaf ddweud hynny wrthych yn nawr. Ac yna ychwanegodd:
Gallai’r arian hwnnw... ddod yn uniongyrchol o San Steffan .... Pam y dylai Llywodraeth Cymru drin yr arian?
Dyna beth ddywedodd. Rwy'n dweud hyn wrtho yn awr: mae datblygu economaidd wedi'i ddatganoli.
Wrth gwrs.
Siawns, mae hwnnw’n gwestiwn dilys i’w ofyn, a mater i ni yn y sefydliad hwn, fel gwleidyddion— [Torri ar draws.] Ac mae’n fater i ni yn y sefydliad hwn, a gwleidyddion o bob plaid, i wneud yn siŵr bod yr iaith yr ydym yn setlo arni mewn gwirionedd yn cynrychioli beth fydd yn sicrhau'r fargen orau i Gymru. Mae'n rhaid i ni ofyn y cwestiynau anodd i gael yr atebion sy'n ofynnol gennym.
Mae wedi treulio misoedd a misoedd yn cwyno am arian yn cael ei reoli o Frwsel, gan ddweud y dylai ddod i Gymru, ac mae bellach yn dweud y dylai gael ei reoli gan y Trysorlys yn Llundain. Nid yw hynny yn cyd-fynd â datganoli. Nid dyna'r hyn a addawyd gan yr ymgyrch ‘gadael’. Ni fyddwn ni fyth yn cefnogi hynny, neu yn cytuno â hynny, yn y Cynulliad hwn, ar yr ochr hon ac eraill y tŷ. Mae'n rhaid iddo roi'r gorau i feddwl fel rhywun sy’n eistedd yn San Steffan a meddwl am rywun sy’n eistedd yng Nghymru, a dechrau meddwl am yr hyn y mae'n ei olygu i Gymru. Nid oes achos, dim achos o gwbl, dros awgrymu na ddylai'r arian a gawsom gan Ewrop ddod i Gymru, ond mae'n debyg y dylai eistedd yn Llundain, yn ôl disgresiwn y Trysorlys o ran sut y caiff ei wario. Dyna beth a ddywedodd. Ac yn awr mae’n cael ei ddal gan ei eiriau ei hun, y gwnaeth eu gwadu yn gynharach yn y Siambr. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun—pe gallech weld eu hwynebau—. Mae angen iddo esbonio i’w blaid ei hun pam, yn sydyn, bod yr hyn a ddywedwyd, yr addewid a wnaed y byddai'r arian hwn yn dod i Gymru, yn awr yn mynd i beidio â dod i Gymru i’r Cynulliad etholedig hwn i benderfynu sut i’w wario. Ac mae hynny’n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Heb ei ailadrodd gan UKIP—heb ei ailadrodd gan UKIP. Mae'n dangos i ba gyfeiriad y mae’r Ceidwadwyr yn mynd.
Gwrandewais yn ofalus ar y pwyntiau eraill a wnaethpwyd gan Aelodau eraill, yn enwedig ar arweinydd yr wrthblaid, gwrandewais arni’n ofalus. Nid yw hi a minnau yn yr un sefyllfa pan ddaw at yr hyn y mae hi wedi’i awgrymu heddiw, sef annibyniaeth yn yr UE, gan fod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr UE. Rwy'n meddwl bod anawsterau wrth awgrymu'r ffordd honno ymlaen, pan fod pobl eisoes wedi dweud eu bod eisiau gadael. Ond mae'n iawn dweud bod angen newid cyfansoddiadol. Ni all y DU fynd ymlaen fel y mae, neu ni fydd yn mynd ymlaen. Nid wyf yn rhannu optimistiaeth yr Aelod David Rowlands y bydd y DU yn parhau am byth a diwrnod. Dyma’r bygythiad mwyaf i'r DU sydd wedi ei beri erioed. Rydym yn gweld y polau piniwn eto yn yr Alban—nid bod unrhyw un yn gallu ymddiried mewn polau, o reidrwydd, ond rwy’n ofni fod yr hyn sy'n digwydd yn yr Alban yn wahanol iawn i'r hyn oedd yn digwydd yno yn 2014, ac fe fydd yna effaith ar Gymru. Rydym yn gwybod y bydd yna effaith ar Ogledd Iwerddon.
Rwyf yn y sefyllfa ryfedd hon yn awr, ble, o'r pedwar yn fy nghartref, fi yw'r unig un na fydd yn y dyfodol â hawl i fyw a gweithio yn unrhyw le yn yr UE. Bydd pawb arall, oherwydd bod ganddynt genedligrwydd deuol. Ac mae'n dangos bod hyd yn oed teuluoedd mewn sefyllfaoedd gwahanol oherwydd y bleidlais a ddigwyddodd yr wythnos diwethaf.
Rydym yn gwybod, yng Ngogledd Iwerddon, bod problemau gyda'r ffin, oherwydd ei fod yn ffin agored, a bydd y polisi mewnfudo ar y ddwy ochr yn wahanol. Ac felly mae materion mawr ynghylch sut y bydd y ffin honno yn cael ei monitro, a sut y bydd y ffin yn cael ei phatrolio. Nid ydynt yn faterion sy'n effeithio yn uniongyrchol arnom ni yng Nghymru, ond maent yn effeithio ar y DU a'i pherthynas â'r Undeb Ewropeaidd trwy’r ffin honno ar y tir.
A gaf i ymdrin â'r mater o fasnach rydd? Mae mynediad at y farchnad sengl yn gwbl sylfaenol hanfodol i ffyniant Cymru. Os na chawn fynediad rhydd a dilyffethair at y farchnad sengl, bydd llawer o'n busnesau yn cael eu rhoi o dan anfantais na fydd yn berthnasol i’w cystadleuwyr mewn mannau eraill yn yr UE. Os ydych yn edrych ar y diwydiant modurol, mae tariff o 5 y cant ar rannau modurol, tariff o 10 y cant ar fewnforio ceir; rheolau Sefydliad Masnach y Byd yw’r rhain. Mae hynny'n effeithio ar gynifer o ffatrïoedd modurol Cymru, nid lleiaf fy un fy hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Oni bai fod cytundeb masnach ar y bwrdd sy'n cael gwared ar yr ofn a’r perygl o dariffau, ni fydd y ffatrïoedd hynny yn gallu cystadlu, oherwydd bydd yr hyn y maen nhw'n ei gynhyrchu yn awtomatig yn fwy costus na ffatrïoedd mewn mannau eraill. Nawr, mae’r awgrym wedi ei wneud, wel, mae Ewrop yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn ei allforio yn ôl. Wel, mae’r Undeb Ewropeaidd wyth gwaith yn fwy na'r DU, felly, mewn termau ariannol, wrth gwrs mae mwy yn cael ei allforio o'r UE i Brydain na'r ffordd arall. Ond, os ydych yn edrych ar y canrannau, mae bron i 50 y cant o'r hyn y mae'r DU yn ei allforio yn mynd i'r UE. Mae'r symudiad yn ôl rhwng 7 y cant a 10 y cant. A dweud y gwir, rydym yn llawer mwy dibynnol ar allu allforio’n rhydd i mewn i'r UE nag y mae’r UE i ni.
Os byddwn yn edrych ar y farchnad ceir, mae pobl wedi dweud, 'Wel, bydd gweithgynhyrchwyr ceir Almaeneg yn awyddus i allforio'. Yr anhawster yw y gall brandiau fel BMW allforio gyda thariff o 10 y cant a bydd pobl yn dal i’w prynu nhw, oherwydd bod pobl yn ei weld fel car mawreddog i'w brynu. Nid yw'n berthnasol i bob brand o gar, a dyna’r perygl sy'n ein hwynebu. Felly, mae'n gwbl hanfodol bod y symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau yn parhau rhwng y DU a'r UE.
Nawr, mae'n rhaid i ni gofio, yn y trafodaethau a fydd yn digwydd, y bydd Llywodraeth y DU, yn anochel, yn cymryd yr awenau. Bydd gennym ein dull ein hunain o drafod â’r UE. Ond bydd Llywodraeth y DU yn trafod yn bennaf fel Llywodraeth y DU, ond weithiau fel Llywodraeth Lloegr, pan ddaw at amaethyddiaeth a physgodfeydd. Ni fydd yn trafod fel y DU bob amser. Dyna pam, i mi, mae'n gwbl hanfodol, pan fydd bargen ar y bwrdd, ei bod yn cael ei chadarnhau ar wahân gan bob un o'r seneddau cenedlaethol. Yna byddwn yn cael ymrwymiad priodol i unrhyw gytundeb masnach. Nid yw'n ddigon da i’r Senedd yn San Steffan yn unig ei gadarnhau, pan fydd meysydd megis amaethyddiaeth a physgodfeydd, sydd wedi eu datganoli'n llwyr, yn cael eu heffeithio. Ac felly, mae'n rhaid i’r ddeddfwrfa etholedig hon gael llais cryf—yn wir, proses gadarnhau ar gyfer hynny.
Cododd yr Aelod Steffan Lewis rai pwyntiau pwysig. Trafododd yn gyntaf oll—siaradodd yn gyntaf oll—am yr angen am Fil tegwch economaidd. Dydw i ddim yn hollol siŵr beth fyddai hynny'n ei olygu. Nid wyf yn golygu hynny mewn ffordd feirniadol, dydw i ddim yn hollol glir am y peth, oherwydd yr hyn yr ydym yn ei weld yw, pan fo buddsoddwyr yn dod i Gymru, maent am fynd i safle penodol yng Nghymru. Ni allwch ddweud wrthynt, "Ni allwch fynd i’r fan yna; mae'n rhaid i chi fynd i’r fan yna’. Felly, nid oedd Aston Martin erioed yn bwriadu mynd i unrhyw le heblaw Sain Tathan. Nid oedd yn mynd i fynd i unrhyw le arall. Felly, nid yw mor hawdd ag y mae'n swnio i ddweud, 'Wel, byddwn yn sicrhau bod buddsoddiad yn teithio ar hyd a lled Cymru’, gan nad yw cwmnïau preifat yn gweithio fel’na. Mae buddsoddiad cyhoeddus yn haws, yn amlwg; ond mae buddsoddiad preifat yn llawer mwy anodd.
Soniodd am fanc buddsoddi yr ynysoedd—diddorol a rhywbeth, wrth gwrs, rwy'n siŵr y bydd yn cael ei archwilio yn ystod y misoedd sydd i ddod, a siaradodd hefyd am Gymru yn torri ei chwys ei hun yn y byd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod Masnach a Buddsoddi y DU wedi bod yn hynod gefnogol i ni wrth i ni deithio o amgylch y byd. Rydym wedi derbyn cefnogaeth ganddynt. Mae llysgenadaethau o gwmpas y byd wedi bod yn ddim ond cefnogol i ni o ran denu buddsoddiad i Gymru. Rydym wedi agor swyddfeydd mewn gwahanol rannau o'r byd lle’r ydym yn gwybod y gallwn ni fod yn effeithiol wrth ychwanegu rhywbeth mwy o ran llais Cymru. Ond nid wyf yn credu y bydd canlyniad yr wythnos diwethaf yn newid ein gallu i werthu ein hunain i'r byd o ran bod yn gallu cyflwyno Cymru i'r byd. Bydd yn effeithio, wrth gwrs, ar yr hyn yr ydym yn gallu ei gynnig o ran mynediad at farchnad os nad oes cytundeb ar y bwrdd. Un o'r materion yr ydym bob amser yn ymgodymu ag ef yw, os ydym yn ystyried ehangu ein presenoldeb mewn gwlad arbennig, a ydym yn ehangu presenoldeb mewn un wlad neu a ydym yn agor swyddfa mewn un arall? Mae'r rhain yn faterion yr ydym yn ymgodymu â nhw yn gyson. Ond rydym yn gwybod bod y swyddfeydd yn yr Unol Daleithiau ac India, yn arbennig, yn hynod, hynod o bwysig o ran cyflwyno Cymru fel lle i fuddsoddi, a bydd hynny'n parhau.
Gwrandewais yn ofalus ar Mark Isherwood. Flynyddoedd lawer yn ôl, bydd yr Aelodau'n cofio Steve Wright pan oedd ar Radio 1. Roedd ganddo gymeriad o'r enw Mr Angry o Purley, a oedd yn rhywun a oedd yn dechrau’n dawel ac yna'n cynddeiriogi, bron yn tagu ar ei gynddaredd ei hun. Wel, fe wnaeth ef hynny eto heddiw. Mae ef, wedi'r cyfan, yn rhywun yn y Siambr hon a’n disgrifiodd ni unwaith ar y meinciau hyn fel 'ffasgwyr adain chwith'. Felly, rwy’n cofio’r ymadrodd hwnnw. Ond rhaid i mi ddweud wrtho, mae'n sôn am gynhwysiant—am flynyddoedd roedd gan ei blaid ef Ysgrifenyddion Gwladol Cymru nad oedd hyd yn oed yn cynrychioli etholaethau Cymreig. Ni fyddwn yn cymryd gwersi gan y blaid Geidwadol am gynhwysiant pan oedd ganddynt bobl yn ein cynrychioli nad oedd ganddynt unrhyw gysylltiad o gwbl â phobl Cymru. Diolch byth, mae’r dyddiau hynny wedi newid.
Gwrandewais ar yr hyn a oedd gan Caroline Jones i'w ddweud ac rwy’n meddwl fy mod wedi delio â hynny o ran yr hyn a ddywedodd am agosrwydd canlyniad y refferendwm. Ond mae'n rhaid i ni ddeall y dywedir bod yna gyfleoedd. Dydyn nhw ddim yn amlwg eto—ddim yn amlwg eto. Nid wyf wedi clywed dim yn y Siambr hon sy'n cyflwyno eu hunain fel cyfleoedd. Rydym yn gwybod bod yna heriau. Iawn, dyna beth mae pobl Cymru wedi’i gyflwyno a dyna beth y mae pobl Prydain wedi’i gyflwyno; mae'n rhaid i ni fwrw ymlaen â'r gwaith. Ond mae'n hynod o bwysig, fel yr wyf wedi dweud, i’r ymgyrchwyr ‘gadael’ feddwl am syniad o sut y maent yn credu y bydd y DU yn edrych. Pa fath o berthynas sydd gennym â’r UE? Pa fath o berthynas sydd gennym ar lwyfan y byd? Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir— [Torri ar draws.] —mewn eiliad. Os nad yw hynny'n groyw ac yn glir, yna bydd y bwlch hwnnw yn cael ei lenwi gan y rhai sydd yn fwy eithafol.
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Rwy’n cytuno â rhai o'r sylwadau a wnaed gan David Rowlands yn gynharach. A ydych yn rhannu fy mhryder ein bod yn cael digon o drafferth cael yr arian sy’n ddyledus i ni allan o'r Trysorlys beth bynnag, ac yr ydym wedi gwneud ers 1999 oherwydd y ffordd y mae fformiwla Barnett wedi gweithio dros y cyfnod hwnnw, felly, pan ddaw at gael arian ychwanegol o'r Trysorlys i gymryd lle'r arian yr ydym yn ei gael ar hyn o bryd o Frwsel, bydd honno’n dasg wirionedd heriol a does dim sicrwydd ein bod yn mynd i gael hynny, a dyna pam mae angen y fframwaith cyllidol arnom i weithredu?
Mae croeso i'r Aelod ar y meinciau hyn fynegi’i farn bob amser. Ond mae'n iawn—mae’n iawn. Gan y bydd yr Aelodau'n gwybod bod cael arian allan o'r Trysorlys, tegwch, fformiwla Barnett, toll teithwyr awyr—yr ateb oedd 'na' bob amser, oherwydd nid yw pobl Cymru a’u barn yn bwysig yn ôl pob golwg. Wel, mae’n rhaid i hynny newid. Mae eraill wedi ei ddweud yn y Siambr hon a byddaf yn ailadrodd unwaith eto: ein harian ni yw e ac mae angen iddo ddod i Gymru er mwyn i’r ddeddfwrfa hon benderfynu sut y caiff yr arian ei ddosbarthu. Ni fydd unrhyw beth arall yn dderbyniol.
Felly, rydym yn wynebu byd gwahanol, math gwahanol o wleidyddiaeth, a byd ansicr iawn. Nid ydym yn gwybod beth fydd y berthynas â’r UE. Nid ydym yn gwybod sut fydd y DU, os yw'n bodoli, yn edrych dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Yr hyn sy'n hynod o bwysig, yn fy marn i, i bob un ohonom yn y Siambr hon, yw darparu atebion. Efallai na fyddant yn atebion y byddwn ni i gyd yn cytuno arnynt, ond, os byddwn yn methu â darparu gweledigaeth ar gyfer ffordd ymlaen, pa bynnag wahaniaethau sydd rhwng y gwahanol weledigaethau, yna bydd y bwlch yn cael ei lenwi gan y rhai y mae eu barn yn llawer mwy eithafol. Rydym weithiau yn credu na allai’r 1930au a'r amodau hynny fyth ddychwelyd, ond dydw i ddim yn argyhoeddedig. Felly, mae'n bwysig i wleidyddion democrataidd wneud yn siŵr eu bod yn adennill hyder y cyhoedd, adennill ymddiriedaeth y cyhoedd, a gwneud yn siŵr bod gennym ffyniant, cyfiawnder a thegwch i'n cenedl.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.