– Senedd Cymru ar 13 Mehefin 2018.
Symudwn at eitem 6, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig. Suzy.
Cynnig NDM6738 Paul Davies
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai 11-17 Mehefin yw wythnos y gofalwyr 2018.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol sy'n cael ei wneud i gymdeithas yng Nghymru gan y rolau y mae'r 370,000 amcangyfrifedig o ofalwyr di-dâl o bob oed yn eu cyflawni.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu polisi Ceidwadwyr Cymru ar grant dyfodol gofalwyr ifanc, a fyddai'n sicrhau bod gofalwyr ifanc yn cael eu cynorthwyo i ymgymryd ag addysg bellach ac uwch amser llawn a chyfleoedd hyfforddi.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi ffigurau yn nodi nifer y gofalwyr y mae eu hanghenion wedi cael eu hasesu ers cyflwyno Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a faint o'r anghenion hynny a aseswyd sydd wedi'u diwallu.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hawl i gael seibiant ar gyfer gofalwyr a'r rheini y maent yn gofalu amdanynt.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, a chynigiaf y cynnig.
Aelodau, mae'n debyg mai'r ffordd hawsaf o ddechrau hyn yw dweud ei bod yn Wythnos y Gofalwyr, a gadewch inni gael dadl am ofalwyr. Mae codi ymwybyddiaeth yn werthfawr iawn, ac mae'n ddefnyddiol cael pwynt, rwy'n credu, ar gyfer nodi ein gwerthfawrogiad. Ond rwy'n tybio mai'r hyn y byddai'r rhan fwyaf o'r 370,000 o ofalwyr di-dâl yn hoffi ein gweld yn ei wneud yw dangos y gwerthfawrogiad hwnnw drwy weithredu yn hytrach na siarad amdano'n unig.
Mae 370,000 o bobl yn fwy na 11 y cant o'r boblogaeth. Mae oddeutu dwy waith y nifer sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd, gan gynnwys y deintyddion a'r staff gweinyddol, y gwyddonwyr a'r meddygon a nyrsys ac ymwelwyr iechyd, y parafeddygon, y staff technegol, y bydwragedd a'r therapyddion. Maent yn darparu gwerth dros £8 biliwn o ofal di-dâl, ac mae hynny'n cyfateb i dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru. Credaf fod hynny'n goblyn o 'ddiolch' sy'n ddyledus gan y genedl hon i'w gofalwyr di-dâl.
Rwy'n gobeithio y bydd y ddadl hon yn fodd proffidiol ac agored o gyfnewid syniadau, a siarad yn uniongyrchol am y pethau hynny sydd o bwys i ofalwyr eu hunain, ac efallai na ddylem roi gormod o bwys ar newidiadau strwythurol heb esboniad cliriach o achos ac effaith. Ond rwy'n falch o weld ei bod wedi denu nifer o welliannau y dof atynt maes o law.
Ond hoffwn ddechrau gyda'r un y credaf ei fod wedi methu'r pwynt yn llwyr ynghylch gofalwyr ewyllys da, sef gwelliant y Llywodraeth—Rhif 1. Nid sylwedd y gwelliant, sy'n gosod stondin y Llywodraeth, ac mae hynny'n iawn, ond y ffaith ei fod yn dileu pwynt 4 y cynnig gwreiddiol—yr union bwynt sy'n eich dwyn chi, Weinidog, i gyfrif am yr addewidion mwyaf gwerthfawr, a statudol yn wir, a wnaethoch i ofalwyr hyd yma. Gallech fod wedi dod i'r Siambr hon, Weinidog, a dweud wrthym yn ddidwyll y byddech, wrth gwrs, yn cyhoeddi ffigurau ynglŷn â faint o anghenion gofalwyr sydd wedi'u hasesu a'u diwallu o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a gallech fod wedi dweud wrthym, yn eithaf rhesymol, gyda 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, na allai'r nifer hon o bobl fod wedi'u cyrraedd ers 2014, ond gan roi syniad efallai ynglŷn â sut yr oedd awdurdodau lleol yn recriwtio ar gyfer y gwaith, neu efallai'n gosod y gwaith ar gontract allanol—nid asesu a diwallu anghenion gofalwyr yn unig, ond nodi gofalwyr newydd y mae gennych gyfrifoldeb statudol amdanynt. Gallech fod wedi dweud wrthym, efallai, ei bod hi'n anodd dod o hyd i aseswyr hyd yn oed, neu eu talu, ac rwy'n credu, i raddau, y byddem wedi deall. Ond mae gwrthod cael eich craffu yn gywilyddus. A ydych chi o ddifrif wedi cael eich rhoi ar y droed ôl i'r fath raddau gan ganfyddiadau 'Dilyn y Ddeddf' Gofalwyr Cymru fis Medi diwethaf, a ddywedodd na chafwyd fawr o dystiolaeth fod blwyddyn lawn gyntaf y Ddeddf yn gwella bywydau gofalwyr?
Nid yw tawelwch byth yn euraid, fel y gwelodd cyd-Aelodau eraill yn y Llywodraeth yr wythnos hon. Mae'n codi amheuon, ac rwy'n tybio bod methiant i arwain cynghorau ar gysondeb ynglŷn â beth sy'n asesiad a beth sy'n ddiwallu anghenion wedi arwain at ddryswch ynglŷn â beth y mae'r gofynion statudol hynny yn ei olygu mewn gwirionedd. Sut y gallwch fod yn sicr fod cynghorau'n gweithredu'n gyfreithlon os nad yw gofalwyr yn gwybod beth yw sail gyfreithiol gwahanol sgyrsiau y maent yn eu cael gydag awdurdodau lleol. Felly, os gwelwch yn dda peidiwch â dweud wrth y Siambr hon nad ydych yn gwybod beth y byddech yn ei gyfrif i gynhyrchu'r ffigurau hyn. Roedd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddeddfwriaeth arloesol, a dylid gallu cyflawni gwaith craffu ar ôl deddfu.
Roeddwn eisoes yn poeni efallai fod yr hawliau a grybwyllwyd gennych yn eich gwelliant yn profi'n ddiystyr, er iddynt gael eu cytuno gan y Cynulliad diwethaf. Gellid dadlau bod unrhyw hawl statudol yn ddiystyr oni bai y ceir unioni statudol cyfatebol, nad yw, wrth gwrs, yn bodoli yma, ond mae'n bendant yn ddiystyr os ydych yn gwadu'r ddeddfwrfa sy'n eich dwyn i gyfrif yn ei gylch.
Byddai'n well pe bai eich corff cynghori gweinidogol, a groesewir gennym, yn gwisgo ei esgidiau cicio penolau i wneud i chi ddal i fyny â'r gwaith o weithredu'r ddeddfwriaeth hon ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 5 i wneud yn siŵr y gallwn graffu ar ba mor galed y maent yn cicio. Gallwch ddisgwyl inni gadw llygad hefyd ar ba mor dda y mae'r cynlluniau gofal cymdeithasol ac iechyd yn datblygu. Hynny yw, yn amlwg, mae llawer o ewyllys da tuag at y rhain, ond rhaid mesur eu llwyddiant ar fwy nag uno gwasanaethau arloesol neu wella statws a chyfrifoldeb gweithwyr proffesiynol gofal canolraddol a gofal cymdeithasol, cleifion hapusach neu hyd yn oed y rhai sy'n cael gofal. Rhaid iddynt wella bywydau'r 11 y cant o'r boblogaeth rydym yn sôn amdanynt heddiw yn ogystal. Os nad yw iechyd ein gofalwyr yn gwella, yn enwedig eu hiechyd meddwl, os nad yw ein gofalwyr ifanc yn cael mwy o amser yn yr ysgol, os yw ein gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn gadael addysg bellach, hyfforddiant neu brentisiaethau oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu, os nad yw busnesau'n cael unrhyw beth ystyrlon o'r rhwydwaith cyflogwyr newydd ar gyfer gofalwyr yr edrychwn ymlaen at glywed mwy amdano, ac os ydym yn dal i sôn am fylchau mewn seibiant ar ddiwedd tymor y Cynulliad hwn, yna bydd yr adolygiad seneddol wedi methu.
Rwy'n siomedig er nad wyf yn synnu bod cynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer grant dyfodol oedolion ifanc sy'n ofalwyr wedi cael derbyniad llai brwd gan y pleidiau yma nag a gafodd gan ofalwyr sy'n oedolion ifanc eu hunain ac Ymddiriedolaeth y Gofalwyr, sy'n siarad ar ran gofalwyr o bob oedran. Ond er gwaethaf y datgysylltiad rhyngoch a'r polisi hwn, credaf y byddwch—mae'n siŵr y byddwch, mewn gwirionedd, yn ymuno â mi i longyfarch Lucy Prentice a phawb yn Gofal Croesffyrdd Sir Gaerfyrddin Ymddiriedolaeth y Gofalwyr am eu hymgyrch i ddiwygio lwfans gofalwyr. Dymunaf bob llwyddiant iddi wrth iddi gyflwyno'r ddadl honno i Lywodraeth y DU a byddaf yn ei chefnogi o ran ei nod.
Fodd bynnag, nid ydym yn cefnogi gwelliant 2 ar hyn, gan nad oes unrhyw sicrwydd y byddai datganoli pwerau yn arwain at ddiwygio fel yr honnir, a byddai'n well gennyf ddefnyddio'r pwerau sydd gennym yn awr i sicrhau'r un canlyniad, gan ganiatáu i oedolion ifanc sy'n ofalwyr baratoi ar gyfer eu dyfodol a buddsoddi yn eu dyfodol eu hunain gan gadw eu teuluoedd gyda'i gilydd ar yr un pryd.
Gan edrych yn gyflym ar y gwelliannau eraill, nid wyf yn gweld mewn gwirionedd sut y mae gwelliant 3 Plaid Cymru yn gwneud llawer o synnwyr. Nid ydym yn cefnogi camfanteisio neu gamddefnyddio opsiynau gweithio hyblyg fwy na chithau, ond does bosib na allwch weld y gallai gweithio hyblyg helpu gofalwyr ifanc sy'n oedolion nad ydynt yn gallu ymrwymo i oriau rheolaidd.
Gwelliant 4—nid oes dim y gallwn anghytuno ag ef yno. Byddem wedi cefnogi gwelliant 6, fel rydym wedi cefnogi'r ymgyrch dros gael cerdyn adnabod, pe na baech wedi drysu'r darlun drwy gyfeirio at drafnidiaeth, gan fod ein grant dyfodol ein hunain yn mynd law yn llaw â'n cerdyn gwyrdd trafnidiaeth ein hunain, sy'n galluogi'r holl bobl ifanc dan 25 oed i ehangu eu gorwelion.
Rydym yn cefnogi gwelliant 8, ond rwyf ychydig yn ddrwgdybus o welliant 9. Efallai mai'r ffordd y cafodd ei eirio yw'r broblem, ond credaf ei fod yn gofyn gormod i blant mor ifanc ag wyth oed ysgwyddo cyfrifoldeb am roi meddyginiaeth neu driniaeth uniongyrchol i rywun arall. Efallai y bydd eich manylion pellach yn rhoi rhywfaint o sicrwydd inni ar hyn, ond ni allwn gefnogi'r geiriad, mae'n ddrwg gennyf.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r aelodau o'r gymuned sy'n gofalu am ofalwyr—sydd efallai'n diwallu eu hanghenion, sydd wedi'u hasesu neu beidio. Bydd gan bawb ohonom enghreifftiau yn ein rhanbarthau neu yn ein hetholaethau, ond rwy'n hoff iawn o un Louise Barham, sydd wedi sefydlu 'caffi lôn y cof' yn y Pîl. Fel y byddwch yn sylweddoli mae'n debyg, mae'n gyfle i bobl â dementia fynd allan i gymdeithasu, a rhannu gweithgareddau o bosibl, ond ei werth mwyaf, rwy'n credu, yw ei fod yn rhoi cyfle hefyd i ofalwyr dreulio amser gyda phobl eraill sy'n wynebu'r un trafferthion, yr un euogrwydd, yr un galar, ac i gael cysur o gwmni ei gilydd. Ni fydd strategaethau Llywodraeth byth yn disodli caredigrwydd dynol, ond rhaid inni wneud yn siŵr nad oes dim yn cael ei roi yn ei ffordd. Diolch i chi.
Diolch. Rwyf wedi dethol y naw gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Julie James yn ffurfiol?
Gwelliant 1—Julie James
Dileu’r cyfan ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod bod Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn rhoi hawl i ofalwyr gael asesiad o’u hanghenion eu hunain fel gofalwyr ac i anghenion cymwys a aseswyd gael eu diwallu gan awdurdodau lleol.
Yn croesawu blaenoriaethau cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer gofalwyr a ffurfio Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar Ofalwyr er mwyn sicrhau bod gweithredu’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau gofalwyr yng Nghymru.
Yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf yn awr ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 2, 3, 5, 6, 7, 8 a 9 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Bethan.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn credu os caiff y broses o weinyddu lles ei datganoli, y gellir dileu anghysonderau o fewn y system fudd-daliadau sy’n cael gwared ar gymorth i ofalwyr sy'n dymuno ymgymryd ag addysg a hyfforddiant.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn nodi bod y farchnad lafur ar gyfer pobl ifanc, gyda'r twf mewn contractau dim oriau ac interniaethau di-dâl fel rhan o lwybrau gyrfa, yn creu rhwystrau ar gyfer gofalwyr ifanc sydd am fynd ar drywydd cyflogaeth am dâl a gyrfaoedd ochr yn ochr â’u cyfrifoldebau gofalu.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osod cerrig milltir ar gyfer y grŵp cynghori gofalwyr ifanc a rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am ei gynnydd yn rheolaidd.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau cysondeb ar draws pob rhan o Gymru yn y broses o gyflwyno'r cerdyn i ofalwyr ifanc, a ddylai gynnwys mynediad i drafnidiaeth am bris gostyngol.
Gwelliant 7—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i egluro faint o’r swm arfaethedig o £3 miliwn ar gyfer gofal seibiant i ofalwyr a gaiff ei ddyrannu i ofalwyr ifanc.
Gwelliant 8—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pob fferyllfa yn gweithredu'r canllawiau ar ganiatáu i ofalwyr ifanc gasglu meddyginiaeth bresgripsiwn ar ran y bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Gwelliant 9—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gofalwyr ifanc yn derbyn hyfforddiant priodol mewn perthynas â gweinyddu meddyginiaeth i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt.
Diolch. Gan mai Wythnos y Gofalwyr yw hon, fel y dywedwyd, mae'n gyfle pwysig inni gael y ddadl hon, un sy'n effeithio'n ddwfn ar fywydau a phrofiadau cymaint o bobl, felly diolch ichi am gyflwyno'r ddadl hon. Cyflwynais gynnig fy hun ar ofalwyr ifanc yr haf diwethaf. A'r wythnos diwethaf, cefais y pleser o groesawu gofalwyr ifanc o YMCA Abertawe a Chaerdydd i'r Cynulliad i gyfarfod â'r Gweinidog plant fel y gallai glywed eu pryderon yn uniongyrchol. Ond fel y mae'r cynnig yn ei wneud yn glir, mae'n bwysig inni ganolbwyntio ar ofalwyr o bob oed hefyd. Maent yn chwarae rhan werthfawr iawn, a heb ymdrechion gofalwyr, byddai ein gwasanaethau cyhoeddus dan bwysau gryn dipyn yn fwy nag sy'n wir ar hyn o bryd. Ond rwy'n teimlo y gallwn gynnig mwy o gefnogaeth i ofalwyr nag a gânt ar hyn o bryd.
Ceir nifer o welliannau Plaid Cymru yr hoffwn eu cynnig yma heddiw, ac mae llawer o'r gwelliannau hynny wedi dod yn uniongyrchol gan y gofalwyr ifanc sydd yma heddiw, rwy'n falch o ddweud. Mae ein gwelliant 2 yn rhywbeth y mae Plaid Cymru wedi'i godi ar achlysuron blaenorol, a byddwn yn parhau i'w godi, oherwydd sut y gall unrhyw un honni eu bod o ddifrif ynglŷn â mynd i'r afael â'r problemau sy'n gynhenid i'r system les os nad ydym yn dangos unrhyw awydd i reoli o leiaf rywfaint ar y system honno ein hunain. Nid wyf yn derbyn unrhyw ddadl semantig fod yn rhaid inni ddiogelu undod y system les ar draws y DU, oherwydd mae hi eisoes yn dameidiog. Mae gan yr Alban reolau gweinyddiaeth ei hun a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwyf wedi blino ar y dadleuon nad ydynt yn gwneud dim heblaw ein hangori wrth bolisi Seisnig nad yw'n gwneud dim i helpu ein dinasyddion yma yng Nghymru.
Credwn fod gwelliant 3 yn bwysig hefyd oherwydd ei fod yn nodi'r problemau economaidd real iawn a'r ansicrwydd sy'n bodoli i gymaint o bobl. Ar gyfer oedolyn ifanc sy'n ofalwr ac sydd â chyfrifoldebau yn y cartref, mae'r ansicrwydd a'r diffyg sefydlogrwydd sy'n gynhenid mewn contractau dim oriau yn rhwystr go iawn. Mae angen cyflogaeth ar ofalwyr o unrhyw oedran a all ganiatáu iddynt barhau'n ofalwyr.
Mae ein gwelliannau eraill yn canolbwyntio ar ofalwyr ifanc, fel rwyf eisoes wedi sôn, gan fod eu hanghenion yn aml wedi mynd yn angof wrth lunio polisi. Y llynedd, mewn dadl ar y pwnc hwn, tynnais sylw at y ffaith nad oedd digon o gynnydd yn cael ei wneud ar weithredu canllawiau priodol a chyson ar gyfer ysgolion ac awdurdodau ar adnabod a darparu cymorth ar gyfer gofalwyr ifanc. Mae'n deg dweud bod y canllawiau a'r hyfforddiant yn dal i ddigwydd ad hoc, gyda rhai mannau'n gwneud yn llawer gwell nag eraill, fel gyda mynediad at wasanaethau seibiant ac amser hamdden. Buaswn yn gwerthfawrogi cael y wybodaeth ddiweddaraf yn fwy rheolaidd gan y bwrdd cynghori gan ei fod wedi'i sefydlu bellach, oherwydd dywedodd gofalwyr ifanc wrthyf nad yw'r newid yn digwydd yn ddigon cyflym ac yn y cyfamser, maent yn gorfod gadael ysgol, fel y dywedodd Suzy Davies, heb y cymwysterau sydd eu hangen arnynt.
At hynny, hoffwn wneud y ddadl y dylid bod wedi cynnwys mwy o grwpiau fel YMCA yn y broses hon. Mae ganddynt brofiad ymarferol o allu gwneud asesiadau gofal, er enghraifft, i gael eu comisiynu i wneud y gwaith hwnnw. Hefyd, rwy'n chwilfrydig braidd pam rydych yn lansio ymchwiliad arall i gardiau adnabod pan fo'r YMCA wedi gwneud y gwaith hwnnw. Ymddengys ei fod wedi diflannu.
Un o'r pethau y soniwyd wrthyf amdano gan ofalwyr ifanc yw'r agweddau ymarferol ar gyflawni eu rôl. Rydym wedi cynnwys trafnidiaeth yn hynny, oherwydd roeddent yn dweud eu bod eisiau mwy na cherdyn i'w ddangos i rywun, roeddent eisiau rhywbeth diriaethol ar y cerdyn hwnnw, a thrafnidiaeth oedd y peth allweddol iddynt. Credaf y byddai gostyngiadau mewn siopau lleol efallai, neu leoedd lleol, yn rhywbeth arall. Maent eisiau mwy na cherdyn a allai greu stigma pellach iddynt, felly roedd hynny'n rhywbeth ganddynt hwy.
Mewn perthynas â'r gwelliant ar hyfforddiant priodol ar gyfer gweinyddu meddyginiaeth, daeth hynny eto gan ofalwr ifanc, oherwydd dywedodd wrthyf ei bod hi'n chwistrellu morffin i'w thad ac nid oedd wedi cael unrhyw hyfforddiant ar hynny. Nid oedd neb wedi gofyn iddi mewn gwirionedd os oedd hi'n iawn ynglŷn â hynny, a oedd yn rhywbeth roedd hi'n teimlo'n gyfforddus yn ei wneud, ond yn syml iawn, roedd yn rhaid iddi ei wneud. Felly, dyna sy'n bwysig i mi. Efallai y credwch fod oedran penodol yn rhy ifanc ac efallai fy mod yn cytuno â chi, ond mae'n rhaid i'r gofalwyr ifanc hyn ei wneud gan nad ydynt yn cael cyfle i beidio â'i wneud. Fe ildiaf.
Diolch. Rwy'n cydnabod yn llwyr yr hyn rydych yn ei ddweud. Bydd gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn y sefyllfa hon. A fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw: pam ar y ddaear eu bod yn y sefyllfa hon? Efallai fod yna ffordd o'i gwmpas yn y ffordd honno.
Yn wir, a gwn fod yna ganllawiau i feddygon teulu—ac rwyf wedi cael y briff hwn—ond mae gofalwyr ifanc yn dwyn y mater hwn i fy sylw: fod prif swyddog fferyllol Cymru wedi anfon nodyn cyfarwyddyd allan yn 2013 ynglŷn â gweinyddu meddyginiaethau a mynediad ar gyfer gofalwyr ifanc. Dyna fater arall—maent yn mynd yno a dywedir wrthynt na allant gael y feddyginiaeth. Yn 2013 oedd hynny, ac maent yn dal i ddweud wrthyf yn awr, yn 2018, nad yw hyn yn digwydd a bod mynediad at feddyginiaeth yn cael ei wrthod iddynt. Os nad ydynt yn ei gael, nid yw eu hanwyliaid yn cael y feddyginiaeth o gwbl. Felly, os mai dogfen ganllawiau yw hon, nid yw'n gweithio o gwbl ar hyn o bryd.
Hoffwn orffen gyda'r hyn a ddywedodd Suzy Davies yn go gryf hefyd. O ran asesiadau gofal, gwyddom fod yna rai ardaloedd nad ydynt yn eu cynnal, ac nid yw rhai ardaloedd yn gwybod faint o ofalwyr ifanc sydd ganddynt. Os nad ydym yn gwybod hynny, yn rhinwedd y ffaith mai Deddf yw hon, mae angen inni fonitro hynny, ac mae angen rhoi asesiadau ar waith. Credaf fod YMCA Abertawe, i bob golwg, yn gwybod mwy ynglŷn â faint o ofalwyr ifanc sydd yno na'r awdurdod lleol. Felly, credaf o ddifrif fod yn rhaid gwneud hyn yn glir, a buaswn yn cefnogi pe na bai'r dileu hwnnw'n digwydd oherwydd mae'n rhaid inni allu dwyn y Llywodraeth i gyfrif ar hyn er budd gofalwyr ifanc. Dyna hanfod hyn oll: fel y gallant weld cynnydd, ac na fyddwn yma ymhen pum mlynedd arall yn dweud, 'Wel, beth sy'n digwydd ar y darn hwn o bapur?' Maent o ddifrif eisiau gweld newid yn digwydd yn awr.
A gaf fi alw ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn ei henw hi? Caroline.
Gwelliant 4—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn cydnabod bod gofalwyr di-dâl o bob oed yn arbed dros £8 biliwn y flwyddyn i'r GIG a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru, ac eto mae mwyafrif llethol o ofalwyr yn teimlo nad yw eu cyfraniad yn cael ei werthfawrogi na'i ddeall.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Cytunaf yn llwyr gyda'r cynnig ger ein bron, ac nid yw fy ngwelliant ond yn ceisio tynnu sylw at y cyfraniad amhrisiadwy y mae byddin Cymru o ofalwyr di-dâl yn ei wneud.
Byddai'n rhaid i ni fwy na dyblu ein holl gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol oni bai am y miloedd o bobl sy'n gofalu am rywun annwyl, ffrind neu gymydog. Mae maint eu cyfraniad yn profi, heb rithyn o amheuaeth, fod Cymru'n genedl sy'n gofalu, ond pwy sy'n gofalu am y gofalwyr? Yn anffodus, nid oes digon yn cael ei wneud i gefnogi gofalwyr, ac oherwydd diffyg cefnogaeth, mae llawer yn ei chael hi'n anodd. Nid yw dau o bob tri gofalwr yn cael digon o gwsg. Nid yw dros eu hanner yn cael digon o ymarfer corff ac wedi dioddef iselder oherwydd eu cyfrifoldebau gofalu. Os nad ydym yn edrych ar ôl y gofalwyr hyn, bydd angen gofal arnynt hwy. Roedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i fod i wella'r cymorth i ofalwyr, ond y gwir trist amdani yw nad yw llawer o ofalwyr yn cael yr asesiad o anghenion gofalwyr y mae ganddynt hawl iddo.
Canfu adroddiad 'Care in Crisis?' Age Cymru amrywiad eang yn nifer y bobl dros 65 oed sy'n cael asesiadau o angen, a phan fo pecynnau gofal yn cael eu darparu, yn aml nid oedd unrhyw gymorth yn ystod y nos ar gael. Mae angen cymorth a chefnogaeth ar ofalwyr o bob oed, ac rwy'n gobeithio y bydd adolygiad y Gweinidog o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ymdrin â'r amrywio yn y cymorth o un awdurdod lleol i'r llall. Rhaid inni roi diwedd ar ddiffyg cymorth ddydd a nos, rhoi diwedd ar aros tair i bedair blynedd am ofal seibiant dros nos, a rhoi diwedd ar ofalwyr yn darparu dros 50 awr o ofal heb fawr ddim cymorth os o gwbl.
Er nad wyf yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru yn galw am ddatganoli lles, rhaid gwneud newidiadau i'r system fudd-daliadau. Mae'n warthus fod gofalwyr ifanc yn cael eu gorfodi i ddewis rhwng mynd ar drywydd addysg amser llawn, addysg bellach ac addysg uwch, neu barhau i gael lwfans gofalwr. Mae'n warthus fod lwfans gofalwyr yn is nag unrhyw fath o fudd-daliad o'i fath, ac mae'n warthus fod y rheini sy'n amlwg yn methu gweithio yn colli eu budd-daliadau, gan eu gorfodi hwy a'u gofalwyr i fyw mewn mwy o dlodi. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU am ddiwygiadau lles sy'n deg ac yn gyfiawn.
Wrth i ni ddathlu Wythnos y Gofalwyr, mae'n ddyletswydd ar bawb ohonom i wneud mwy i gefnogi gofalwyr di-dâl. Mae Llywodraeth Cymru yn credu eu bod wedi gwneud hynny gyda chyflwyno'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ond mae'n amlwg nad yw'n gweithio fel y bwriadwyd iddi wneud gan nad yw dwy ran o dair o'r gofalwyr wedi cael cynnig neu wedi gofyn am asesiad o anghenion, ac mae tri chwarter y gofalwyr yn dweud nad ydynt yn cael unrhyw gymorth o gwbl gan eu meddyg teulu. Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy.
Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig a'r holl welliannau, ac eithrio gwelliannau 1 a 4. Drwy wneud hynny, byddwn yn dangos i 370,000 o ofalwyr Cymru faint rydym yn eu gwerthfawrogi ac y byddwn yn gwneud mwy i'w cefnogi yn y dyfodol. Diolch yn fawr.
Hoffwn innau hefyd ddechrau fy nghyfraniad, fel y mae pawb arall wedi gwneud, drwy ddiolch o galon i holl ofalwyr Cymru sydd ar ddyletswydd 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos ac yn anaml iawn yn cael amser iddynt eu hunain. Fel y dywedodd eraill, hebddynt yn wir ni fyddai ein cymdeithas yn gallu gweithredu. Cefais fy syfrdanu gan ffigurau Suzy Davies fod niferoedd y gofalwyr mewn gwirionedd yn fwy na'n GIG yn ei gyfanrwydd, a chredaf y dylem fyfyrio'n ofalus iawn ar hynny.
Mae llawer ohonom yn y Siambr hon wedi bod yn ofalwyr neu'n mynd i fod yn ofalwyr yn y dyfodol—er enghraifft, drwy fod yn rhiant. Ond wrth gwrs, mae pen draw i'r mathau hynny o rolau gofalu. Mae plant yn tyfu fyny yn y pen draw ac yn gadael cartref, gobeithio, ac nid oes raid ichi fod yn gyfrifol amdanynt mwyach. Ond wrth gwrs, os ydych yn ofalwr, rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i adael cartref. Rydych yn gofalu am rywun nad yw byth yn mynd i wella, ac a fydd bob amser yn dibynnu arnoch chi i ofalu amdanynt. Nid oes gennych unrhyw olau ar ben draw eich twnnel. Felly, mae'n ddyletswydd arnom i gynnig rhywfaint o'r golau hwnnw.
Fel Aelod Cynulliad dros etholaeth, mae llawer o fy ngwaith achos yn dod â mi i gysylltiad â gofalwyr o bob oed, ac rydym wedi trafod gofalwyr hŷn yn eithaf mynych yn y Siambr a'r math o gymorth sydd ei angen arnynt. Cefais un achos a ddaeth ataf yr wythnos diwethaf. Cymydog oedd hi mewn gwirionedd, ac mae ganddi hi gymydog oedrannus iawn, sydd heb neb ar ôl yn y byd hwn. Mae angen i'r cymydog oedrannus fynd i Ysbyty Treforys am driniaeth, felly mae'r gymdoges—nad oes ganddi lawer o arian ac mae ei char yn hen ac wedi gweld dyddiau gwell—yn mynd â hi unwaith neu ddwy bob mis am y driniaeth hon. Yn y bôn cysylltodd â mi i ddweud, 'Rwy'n hapus iawn i'w wneud. Nid oes ots gennyf ei wneud. Ni allaf fforddio'r arian petrol. Sut y gallwch chi helpu?' Mae'r unigolyn yn cyflawni'r swyddogaeth ofal hon. Felly, nid yw bob amser wedi'i reoleiddio. Nid yw bob amser, wyddoch chi, yn fater o fod rhywun yn gofalu am rywun arall yn llawn amser. Mae'n fater o garedigrwydd dieithriaid, a dyna sy'n rhaid i ni ei argymell a'i ehangu, ond mae angen inni gefnogi'r caredigrwydd hwnnw gan ddieithriaid.
Am weddill fy nghyfraniad rwyf am sôn am ofalwyr ifanc yn fyr iawn, a gwn fod Bethan wedi gwneud pwyntiau da iawn. Pan oeddwn yn Aelod Cynulliad newydd iawn, euthum i gyfarfod â gofalwr ifanc yn Noc Penfro, ac roedd newydd gael ei chadw i mewn yn yr ysgol. Ar yr adeg honno, credaf ei bod tua 13 a hanner neu 14 oed. Nid oedd wedi gallu rhoi ei gwaith cartref i mewn ar amser. Pan gyrhaeddais ei chartref, cefais fraw o weld ei bod yn edrych ar ôl ei mam a oedd yn dioddef o iselder drwg iawn. Roedd ei mam yn dioddef o iselder oherwydd ei bod yn edrych ar ôl ei mab hŷn anodd, awtistig, a'i gŵr a oedd mewn cadair olwyn. Felly, roedd un ferch fach yn ysgwyddo baich y teulu cyfan hwnnw. Nid oedd gan yr ysgol unrhyw syniad fod ganddi'r fath gyfrifoldeb gofalu, felly pan ai i'r ysgol yn edrych yn hŷn na finnau mae'n siŵr, nid oedd ganddynt unrhyw gydymdeimlad â'r ffaith nad oedd hi wedi gallu gwneud ei gwaith cartref.
Felly, Weinidog, fy nghwestiwn cyntaf i chi yw hwn: rwyf am sôn am y pwynt a wnaeth Bethan hefyd ynglŷn â sut y mae'n rhaid inni sicrhau bod ysgolion yn ymateb i bobl ifanc sy'n ofalwyr. Bydd gofalwyr ifanc yn colli gwerth tua 48 diwrnod o ysgol ar gyfartaledd. Mawredd. Os ydych yn ei ddweud yn gyflym, nid yw'n swnio'n llawer iawn, ydy e? 48 diwrnod. Dyna dros naw wythnos a hanner o ysgol. Nid colli ysgol drwy chwarae triwant neu fynd ar wyliau gyda'ch ffrindiau neu beth bynnag yw hynny. Mae hynny oherwydd eich bod yn edrych ar ôl rhywun ac rydych wedi blino gormod i ddod yn ôl i mewn. Weinidog, hoffwn weld rhyw fath o system lle mae pob plentyn ym mhob ysgol, os oes ganddynt gyfrifoldeb gofalu, yn cael eu cofrestru, yn cael eu cofnodi, yn cael cymorth bugeiliol, ac yn cael oedolyn arall sy'n fwy na hwy, gydag ysgwyddau ychydig yn fwy, sy'n gallu eu helpu i ymladd eu ffordd drwy'r sefyllfa anodd iawn y maent ynddi.
Rwyf am gyflwyno un achos arall i chi: bachgen ifanc a'i fam. Byddai'r bachgen ifanc yn dod adref bob dydd, ei galon yn curo'n galed, yn gobeithio y bydd ei fam yn iawn. Roedd ganddi salwch a olygai y byddai'n cwympo i'r llawr yn gwbl ddirybudd. Roeddent yn byw mewn tŷ â grisiau. Roedd yr unig doiled yn y tŷ i fyny'r grisiau. Felly, byddai ofn arno y byddai hi'n mynd i fyny'r grisiau yn ystod y dydd ac y byddai'n disgyn i lawr y grisiau. Ar ôl llawer o lobïo, llwyddasom i gael y cyngor sir i ddod o hyd i fyngalo i'r uned deuluol honno symud i mewn iddo. Problem wedi'i datrys, ond fe ddywedodd y cyngor, 'Na, fe allwch gael y byngalo newydd hyfryd hwn, ond wyddost ti beth, fachgen bach? Mae angen cael gwared ar dy gi anwes.' Dewch. Rhaid inni fod yn fwy caredig. Rydym yn dweud ein bod fel cymdeithas yn dibynnu ar garedigrwydd dieithriaid i helpu i unioni'r diffyg yn ein system am nad oes gennym ddigon o arian, am nad oes gennym ddigon o bobl, ond mawredd, rydym yn gosod rhwystrau yn y system honno. Ac weithiau nid yw'r wladwriaeth ei hun yn dangos y caredigrwydd y gofynnwn amdano.
Felly, Weinidog, cerdyn neu ryw fath o gydnabyddiaeth fod pob plentyn yn yr ysgol yn cael ei nodi. Ac yn olaf, ffordd integredig o sicrhau bod gofalwr ifanc yn cael rhyw fath o gymorth sy'n cydberthyn o fewn y cynghorau sir lleol neu ofalwr cymdeithasol iddynt i'w helpu i ddeall y sefyllfa. Nid ydynt am osgoi cyfrifoldeb; maent yn caru'r aelod o'u teulu, ond mae angen ein help arnynt. Plant ydynt yn gyntaf. Hyd yn oed os ydynt yn 16 neu'n 17, mae'n dal i fod yn faich anferth a thrwm.
Mae gwir raid inni ofalu am ofalwyr, oherwydd os nad ydym yn gwneud hynny, nid ydym yn gweithredu gofal iechyd darbodus, ac yn y pen draw bydd hynny'n peri i'r system fod yn llawer drutach yn ogystal ag yn llawer llai ymatebol i anghenion unigolion sydd angen y gofal hwnnw. Rwy'n meddwl am etholwr oedrannus, yn ei 80au hwyr, sy'n dal i edrych ar ôl ei mab awtistig yn ei 50au. Rwy'n poeni am hynny, oherwydd rwy'n teimlo nad oes cynllun ar gyfer y ffaith anorfod y bydd yr ofalwraig hon yn marw. Ond yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i'r gwasanaethau cymdeithasol ei ystyried.
Credaf hefyd fod angen inni gydnabod ymrwymiad gydol oes rhieni sydd â phlant nad ydynt byth yn mynd i dyfu'n oedolion annibynnol oherwydd anableddau sydd ganddynt. Rwy'n meddwl am y rhieni hyn sy'n gwybod mai gallu gwybyddol plentyn pump oed sydd gan eu plentyn, ac yn anochel, maent yn mynd i farw cyn eu plentyn, ac mae sicrhau bod ganddynt drefniadau hirdymor ar gyfer yr adeg ar ôl iddynt farw mor bwysig iddynt. Hyd yn oed os oes ganddynt arian, mae'n rhaid iddynt wybod pwy sy'n mynd i fod yn gofalu am yr unigolyn pan fyddant wedi mynd, gan nad dyna batrwm arferol pethau, ac mae'n gwbl hanfodol.
Wrth edrych ar y cynllun 'Cymru Iachach', a gyhoeddwyd ddydd Llun, nodaf ein bod yn sôn am weithio mewn gwir bartneriaeth, ond wedyn ni allaf weld fawr o ddim mewn gwirionedd ynglŷn â sut y byddwn yn gweithio ar gydgynhyrchu gyda gofalwyr i ddatblygu'r cynlluniau hyn, oherwydd credaf fod hynny'n gwbl hanfodol. Rwy'n falch iawn o weld ar Twitter fod partneriaeth datblygu rhanbarthol Caerdydd heddiw wedi lansio eu hymrwymiad i ofalwyr, sy'n arwydd o sut y mae'r sefydliad hwnnw, o leiaf, o ddifrif ynglŷn â'r trefniant cytundebol sydd ganddynt gyda gofalwyr. Felly, hoffwn yn fawr glywed gan y Gweinidog sut rydym yn mynd i ymgysylltu â rhieni, nid yn unig siarad â hwy a gwrando arnynt, ond gweithio ar gydgynhyrchu atebion a fydd yn eu galluogi i barhau i fod yn ofalwyr llwyddiannus.
Er bod ein dadl wedi sôn am ein gofalwyr ifanc a'r gwaith gwych a chalonogol y maent yn ei wneud, fel hyrwyddwr pobl hŷn y Ceidwadwyr Cymreig, hoffwn dynnu sylw at waith ein gofalwyr hŷn yng Nghymru. O'n 370,000 o ofalwyr di-dâl, mae tua 24 y cant—dyna 90,000—dros 65 oed, sef y gyfran uchaf yn y DU. Mae 65 y cant yn dweud bod ganddynt broblemau iechyd hirdymor neu anabledd eu hunain. Yn wir, mae dros ddwy ran o dair yn dweud bod yn ofalwr yn effeithio'n niweidiol ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Er bod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi ehangu'r diffiniad o ofalwr ac wedi rhoi newidiadau ar waith i asesiadau gofalwyr, mae Gofalwyr Cymru wedi nodi nad oes llawer o dystiolaeth fod y Ddeddf wedi gwella bywydau ein gofalwyr.
Nawr, mae yna ddau bwynt allweddol yr hoffwn roi sylw iddynt o ran sut y gellid gwella bywydau gofalwyr hŷn, a gofalwyr o bob oed yn wir: asesiadau effeithiol o'r cymorth a'r gefnogaeth sydd eu hangen i barhau i ofalu, a gofal seibiant effeithiol o safon uchel. O ran asesiadau yn benodol, mae Gofalwyr Cymru'n nodi efallai fod cynghorau'n gweithredu'n anghyfreithlon os na wneir gofalwyr yn ymwybodol o'r sail gyfreithiol i'r sgyrsiau neu'r asesiadau y maent yn eu cael, gyda rhai cynghorau yn ôl y sôn yn defnyddio sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' fel asesiad, yn hytrach na chyfarfod ffurfiol a phenodol. Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallai Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau bod awdurdodau lleol yn egluro hyn yn llawn i ofalwyr. Mater sy'n peri mwy o bryder hefyd oedd y ffaith bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfaddef mewn cwestiwn Cynulliad y llynedd, na fyddai'n bosibl pennu faint o ofalwyr a oedd wedi cael asesiad gan awdurdodau lleol oherwydd gwahaniaethau o ran diffiniadau ac amserlenni ar gyfer casglu data. Felly, wrth gwrs, rwyf am annog Llywodraeth Cymru i roi camau ar waith o ddifrif i wella'r sefyllfa, a gofyn sut y mae'n bosibl i'r Llywodraeth fonitro canlyniadau a llwyddiant y polisi hwn heb y data perthnasol.
O ran gofal seibiant, mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wedi tynnu sylw at yr angen am fynediad hyblyg a safonol at seibiant hyblyg. Mae hyblygrwydd yn allweddol yma, oherwydd nid penwythnos i ffwrdd, neu wythnos mewn llety â chymorth yn unig yw gofal seibiant; gall olygu awr yn unig o warchod i alluogi gofalwr i daro i'r siopau, y banc, neu am baned o goffi sydyn gyda'u ffrindiau. Dychmygwch yr effaith y gallai methu gwneud y pethau hynny y byddwn mor aml yn eu cymryd yn ganiataol yn ei chael ar unigolyn.
Rydym yn siarad llawer am unigedd ac unigrwydd pobl hŷn yn y Siambr hon. Gall hyn effeithio ar ofalwyr hefyd. Er eu bod yn cael cwmni'r unigolyn y maent yn darparu gofal ar eu cyfer, gall hyn yn aml eu rhwystro rhag cael amser a hyblygrwydd i weld eu ffrindiau eraill ac aelodau o'u teuluoedd eu hunain. Rydym yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth genedlaethol ar gyfer gofal seibiant, ac addewid y llynedd o gronfa o £3 miliwn i awdurdodau lleol i gefnogi hyn. Ond unwaith eto, ni welwn fawr o dystiolaeth o gynnydd, a buaswn yn croesawu diweddariad gan Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â sut y mae hyn yn cael ei ddatblygu, strwythur y strategaeth hon, sut y mae'r cyllid hwn yn cael ei ddefnyddio gan awdurdodau lleol, a faint o bobl sy'n gweld y manteision ac wedi cael gofal seibiant o dan y cynllun.
Lywydd—Ddirprwy—gwyddom am y gwaith amhrisiadwy y mae gofalwyr yn ei wneud yma yng Nghymru. Gwyddom eu bod yn arbed mwy na £8.1 biliwn y flwyddyn i'n heconomi, ond gall buddsoddi mewn gofalwyr arbed bron £4 am bob £1 a werir, ac mewn termau ariannol gallai manteision iechyd arbed £7.88 i'r system iechyd am pob £1 a werir. Rhaid i bawb ohonom weithio'n galetach i gydnabod eu hymrwymiad anhunanol i gefnogi ein pobl fwyaf agored i niwed, a rhaid inni sicrhau eu bod yn cael ein cefnogaeth lwyr.
Rwy'n disgwyl i Lywodraeth Cymru gefnogi ein cynnig heddiw ac ymrwymo i wella bywydau gofalwyr o bob oed yng Nghymru. Diolch yn fawr.
Rydw i'n falch o gymryd rhan yn y ddadl allweddol bwysig yma. Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl gerbron. Nid ydw i'n gwybod os rydw i wedi crybwyll o'r blaen fy mod i wedi bod yn feddyg teulu ers peth amser, ac wedyn yn delio, ac yn gorfod delio, yn gynyddol â'r math o sefyllfa sydd wedi cael ei olrhain eisoes, a hefyd gan gydnabod rydw i'n dal yn islywydd anrhydeddus o Forget Me Not dementia clubs yn Abertawe, a hefyd, bûm, am flynyddoedd lawer yn y gorffennol, yn ymwneud â Chymdeithas Alzheimer yn Abertawe a Crossroads—Gofalu am Ofalwyr yn Abertawe a Chastell Nedd.
Felly, rydym ni wedi clywed y ffigyrau. Rydym ni wedi clywed am y gwaith ymroddedig gan ofalwyr, a gwaith hanfodol, yn wir, gan ofalwyr o bob oed. A beth rydym ni'n sôn amdano ydy gofalwyr anffurfiol, wrth gwrs. Mae gyda ni system o ofalwyr ffurfiol, cyflogedig, ond, yn ei hanfod, brynhawn yma rydym ni'n sôn am ofalwyr anffurfiol, sydd ddim yn cael eu talu. Ac rydym ni yn sôn am beth oedd Angela Burns yn ei ddweud, am garedigrwydd naturiol, achos dyna beth yr ydym ni'n sôn amdano fo yn fan hyn—mae gyda ni ein gwasanaethau statudol, fel y gwasanaeth iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, ond mae'r gwasanaethau statudol yna yn gyfan gwbl ddibynnol ar ofalwyr anffurfiol, di-dâl, fel rydym ni wedi ei glywed, neu buasai'r system jest yn cwympo ar wahân yn deilchion—am deuluoedd ac ati sydd yn gorfod gofalu am anwyliaid, a hefyd yn ymhyfrydu ac yn falch o allu gofalu am anwyliaid, ac eisiau gwneud hynny, ond eisiau rhagor o gefnogaeth, ac, yn wir, hyfforddiant i ddelio â'r sefyllfaoedd anodd yna maen nhw'n ffeindio o bryd i'w gilydd.
Wrth gwrs, mae'r system gymdeithasol dan ormes o achos sgil effeithiau llymder, dim digon o arian, sy'n codi'r trothwy yna i dderbyn cymorth statudol oddi wrth lywodraeth leol. Mae'n rhaid i chi fod â salwch gweddol angheuol rŵan i allu cael gofal yn eich cartref, er enghraifft. Ac, o ochr y gwasanaeth iechyd, mae ein meddygfeydd teuluol ni'r dyddiau yma'n llawn o bobl sydd yn eu 80au. Ugain mlynedd yn ôl, mater prin iawn oedd gweld rhywun yn eu 80au, achos nid oedd yna lot o bobl yn eu 80au bryd hynny. Ond, nawr, mae ein meddygfeydd ni yn llawn pobl yn eu 80au, sy'n destun, wrth gwrs, dathliad llwyddiant y gwasanaeth iechyd, ond mae'r bobl hyn yn aml hefyd efo amryw o afiechydon ac yn gorfod aros gartref rŵan. Ac, wrth gwrs, mae'r gofal yn y cartref hefyd. Ac mae'r pwysau yn disgyn wedyn ar y wraig neu'r gŵr, sydd hefyd yn eu henaint, fel rydym ni wedi ei glywed gan eraill.
Felly, dyna pam—. Ac, wrth siarad efo pobl sy'n gorfod delio â'r sefyllfa yma, ac eisiau delio â'r sefyllfa o salwch yn y cartref, maen nhw eisiau i anwyliaid aros adref, ond maen nhw hefyd eisiau gwybod mwy am y sefyllfa. Maen nhw eisiau hyfforddiant, fel rydym ni wedi ei glywed—yr angen am chwistrellu morffin ac ati. Mae hynny'n sefyllfa weddol gyffredin ac mae pobl eisiau gwybod sut i wneud hynny. Nid ydyn nhw wastad eisiau galw am y meddyg neu am y nyrs—maen nhw eisiau gwneud y gofal eu hunain—ond maen nhw'n pryderu am a ydyn nhw'n gwneud y peth iawn ai peidio—nid ydyn nhw'n gwybod. Mae angen dybryd i gael y gefnogaeth yna a'r hyfforddiant lled arbenigol yna fel y byddan nhw'n teimlo yn fwy cysurus eu byd i allu gofalu am bobl adref, heb feddwl, 'O, efallai rwy'n gwneud y peth anghywir'. Mae angen y wybodaeth a'r hyfforddiant yna.
Wrth gwrs, yn naturiol, mae yna enghreifftiau clodwiw o gefnogaeth sydd ar gael o'r sector wirfoddol, ac nid jest gan y mudiadau yna yr ydw i wedi'u crybwyll, fel Cymdeithas Alzheimer ac ati, ond hefyd Age Cymru ac, yn benodol felly, y clybiau syml yma, Forget Me Not Clubs, yn Abertawe—ie, darparu panad o de ydy hynny, i ddangos cefnogaeth i ofalwyr, i jest rhoi seibiant am gwpl o oriau i'r sawl sydd gyda dementia a'r sawl sy'n gofalu amdanyn nhw hefyd i allu mynd allan efo'i gilydd a chael rhyw fath o seibiant o'r pwysau sydd yn y cartref. Ac rydym ni wedi clywed am y mentrau sy'n cefnogi ein gofalwyr ifanc hefyd.
Mae'r cloc yn tician ymlaen, ond mae yna hefyd angen dybryd am fwy o seibiant. Pan ŷch chi mewn sefyllfa o dan bwysau, o dan ormes, yn y cartref, ie, rydych chi'n derbyn ychydig bach o wybodaeth gan y nyrs neu gan y meddyg, ond mae'r pwysau o orfod gofalu rownd y cloc, fel yr ydym ni wedi ei glywed. A beth yr ydych chi ei eisiau ydy seibiant. Mae angen mwy o seibiant, anffurfiol a ffurfiol. Mae yna nifer yn sector wirfoddol sy'n gallu darparu seibiant—jest eistedd efo rhywun am gwpl o oriau. Dyna beth mae Crossroads yn ei wneud, er enghraifft, i alluogi rhywun jest i fynd allan i siopa, ontefe? Mae'r pwysau mor angerddol. Mae eisiau'r rhyddid yna jest i allu delio â'r sefyllfa.
Ond, yn bennaf oll—dyna'r pwynt roeddwn i eisiau ei wneud wrth gloi—mae'r angen yna i gael mwy o wybodaeth, i roi mwy o hyfforddiant, answyddogol a swyddogol, i'r sawl sy'n gofalu yn y cartref, i'w harfogi nhw i ymdopi'n well â sefyllfaoedd. Maen nhw'n ddigon anodd fel y mae hi heb sôn bod yn rhaid iddyn nhw bryderu a ydyn nhw wastad yn gwneud y peth iawn ai peidio. Diolch yn fawr.
Mae'n amlwg fod gofalwyr yn chwarae rhan hanfodol yn ein cymdeithas. Boed yn ariannol neu'n gymdeithasol, ni ellir gorbwysleisio'r cyfraniad a wneir gan ofalwyr. Nid yn unig fod mwy o bobl yn gofalu, ond maent yn gofalu am fwy o amser. Ac mae nifer y bobl sydd angen gofal a'r nifer sydd angen gofal am gyfnodau hirach o amser wedi cynyddu'n sylweddol. Mae'n hanfodol felly ein bod yn cydnabod i ba raddau y mae ein heconomi yn dibynnu ar y gofal di-dâl a ddarperir gan deuluoedd a ffrindiau.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n clywed yr holl gyd-Aelodau yma. Mae fy ngwraig wedi bod yn anabl dros y 12 mlynedd ddiwethaf ac yn ddiweddar iawn fe gafodd strôc. Nid oes gofalwr—rwyf fi a fy nheulu yn edrych ar ei hôl ddydd ar ôl dydd. Yr hyn a wnawn, rydym yn rhoi ei meddyginiaeth y mae'n rhaid iddi ei gymryd bum gwaith y dydd mewn potiau gwahanol, ac yn rhoi'r amserau arnynt, ac yna, pan fyddaf yn dod yma, rwy'n rhoi larwm ar ei ffôn symudol ac yn ei roi o fewn cyrraedd iddi. Mae hi'n cael trafferthion wrth godi yn y bore—mae hynny'n beth arall. Ni all godi. Dros y 12 mlynedd diwethaf, nid wyf wedi cael gwyliau am na allaf ei gadael ar ei phen ei hun. Mae hi'n edrych yn iach fel cneuen, ond mewn gwirionedd mae hi'n gwbl anabl. Mae ei chorff yn cymryd llawer o feddyginiaeth bob dydd. Fel mae'n digwydd, gallaf ddychmygu—. Mae'r hyn y mae gofalwyr yn ei wneud yn y wlad hon yn un o'r swyddi mwyaf aruchel, di-dâl, ar ran eu hanwyliaid. Nid wyf yn meddwl y gall y genedl dalu digon iddynt, gyda phobl ifanc rhwng 12 a 18 oed—mae un o bob 20 o'n pobl ifanc yn colli ysgol oherwydd eu bod yn gofalu am eu hanwyliaid. Rwy'n siŵr fod fy merch—mewn gwirionedd, pan fydd hi'n dod adref, byddaf yn mynd ar deithiau Cynulliad a phethau eraill. Fel arall, ni allaf adael y wlad.
Pe na bai cyfran fach o'r bobl sy'n darparu gofal yn gallu gwneud hynny mwyach, byddai baich y gost yn sylweddol. Mae'r ddadl hon y prynhawn yma yn ymwneud â chefnogi gofalwyr fel eu bod yn gallu parhau i wneud y gwaith hanfodol rydym yn ei werthfawrogi cymaint. Hoffwn gyfeirio fy sylwadau y prynhawn yma at un agwedd ar y cymorth hwn: yr hawl i seibiant hyblyg o ansawdd uchel. Os ydych yn ofalwr yn edrych ar ôl aelod o'r teulu neu ffrind, mae'n waith hynod o werth chweil ond yn heriol iawn hefyd. Gall seibiant, hyd yn oed am ychydig ddyddiau'n unig, roi hwb i'ch egni a'ch brwdfrydedd. Mae gwybod y gallwch ddianc am seibiant ynddo'i hun yn gymhelliant mawr, yn enwedig pan ydych yn hyderus y bydd y person rydych yn gofalu amdanynt yn cael gofal da yn eich absenoldeb.
Ond fel y dywedodd Ymddiriedolaeth y Gofalwyr wrth y Pwyllgor Cyllid yn ddiweddar, gall fod yn arbennig o anodd i ofalwyr gael gofal seibiant, er gwaethaf eu hawl i'w gael. Aeth yr ymddiriedolaeth rhagddi i awgrymu y dylai awdurdodau lleol glustnodi cyllid ar gyfer toriad byr a seibiant fel rhan o ffrwd ariannu hirdymor. Byddai hyn yn cael ei gyd-drefnu gan y trydydd sector a'i ddarparu mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol. Mae Ymddiriedolaeth y Gofalwyr yn amcangyfrif y byddai cronfa les i ofalwyr, yn debyg i'r gronfa seibiant byr yn yr Alban, yn fesur ataliol buddsoddi-i-arbed. Maent yn honni—ac rwy'n dyfynnu—y byddai buddsoddi
£1.4 miliwn y flwyddyn…yn cynhyrchu dros 53,000 awr o seibiannau ychwanegol i ofalwyr.
Byddai hyn yn cael effaith enfawr ar eu hiechyd a'u lles ond hefyd ar gynaliadwyedd gofalu am anghenion cynyddol gymhleth yn y cartref. Yn gyfnewid am fuddsoddiad cymharol fach, byddai i'r gronfa hon fantais hirdymor o helpu i liniaru galw ychwanegol neu anghynaladwy ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol lleol.
Rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i gyflwyno a datblygu strategaeth seibiant genedlaethol. Maent wedi addo £3 miliwn o arian ychwanegol i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant. Ond mae cynnydd yn erbyn yr ymrwymiad wedi bod yn araf ac nid ydym yn gwybod eto sut y defnyddiwyd yr arian hwn gan awdurdodau lleol.
Ddirprwy Lywydd, awgrymodd asesiad effaith a gyhoeddwyd gan yr adran iechyd yn Lloegr ym mis Hydref 2014 y byddai pob £1 a werir ar gefnogi gofalwyr yn arbed £1.47 i gynghorau mewn costau gofal amgen ac yn creu budd o £7.88 i'r system iechyd ehangach. Mae gofalwyr yn gwneud mwy nag erioed i gefnogi eraill. Mater i ni yw sicrhau eu bod yn cael y gefnogaeth a'r gydnabyddiaeth y maent ei hangen ac yn ei haeddu yng Nghymru. Diolch.
Fel llawer o gyd-Aelodau yma heddiw, rwyf finnau hefyd wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi a hyrwyddo gwaith gofalwyr yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Fel y dywedwyd, mae yna 370,000 o ofalwyr yng Nghymru, sef 12 y cant o'r boblogaeth, a'r gyfran uchaf yn unrhyw ran o'r DU. Rydym yn gwybod bod gofalwyr sy'n darparu cymorth yn arbed yr hyn sy'n cyfateb i dros £8 biliwn y flwyddyn i'r wladwriaeth. Mae hwnnw'n swm syfrdanol, ac mae'n amlygu'r ddyled sydd arnom i ofalwyr. Nid yw ond yn iawn ein bod yn cydnabod hyn drwy sicrhau ein bod yn diwallu anghenion y gofalwyr eu hunain.
Rwy'n falch fod y ddyletswydd hon wedi ei hymgorffori yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Byddaf yn cefnogi'r gwelliant yn enw arweinydd y tŷ sy'n adlewyrchu hyn. Rwyf hefyd yn falch fod rôl gofalwyr ac yn bwysicaf oll, yr angen i barhau i gefnogi a buddsoddi yn eu gwaith di-dâl, sy'n aml heb ei gydnabod wedi'i gynnwys yn 'Cymru Iachach'. Er mwyn cyflawni'r nodau pwysig sydd wedi'u cynnwys yng nghynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid inni fod yn ofalus na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol sy'n gosod mwy o faich ar ysgwyddau gofalwyr. Rhaid inni hefyd gofio fod bod yn ofalwr yn rhywbeth a all ddigwydd i unrhyw un ohonom. Fel y mae Gofalwyr Cymru yn ein hatgoffa, bob dydd, daw 6,000 o bobl yn ofalwyr. Mae Wythnos y Gofalwyr, sy'n cyd-daro, yn bwysig iawn, â Diwrnod Empathi 2018, yn gyfle i ni roi gofalwyr yn y canol a gwneud yn siŵr y gallwn ymateb i'r hyn sy'n gallu bod yn brofiad hynod o anodd ac unig.
Rwyf am fynd i'r afael yn awr â'r heriau penodol a wynebir gan ofalwyr ifanc. Dyma faes lle mae gennyf rywfaint o brofiad proffesiynol. Fel athrawes ysgol uwchradd, roeddwn yn ymwneud â darparu gofal a chymorth bugeiliol i ofalwyr ifanc, a gwn yn iawn am yr effaith y gall eu cyfrifoldebau eu cael ar eu hastudiaethau academaidd, eu bywyd cymdeithasol, eu hyder a'u lles. Yn rhy aml, yr her i athrawon mewn gwirionedd yw nodi pwy sy'n ofalwyr, oherwydd gall plant ddod atoch neu gael eu hanfon atoch am amryw o wahanol resymau, ond ni fyddwch yn gweld tan i chi ymchwilio a phlicio'r haenau o broblemau eu bod yn gofalu am berthynas. Nid ydynt yn ystyried eu hunain yn ofalwyr; maent yn credu eu bod yn gwneud yr hyn sy'n rhaid ei wneud i helpu i gynnal eu teuluoedd, dyna i gyd.
Felly, rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gydag Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru ar ddatblygu canllaw cam wrth gam i ysgolion ar ofalwyr ifanc. Fe'i lluniwyd i helpu i adnabod a chefnogi gofalwyr mewn lleoliadau addysgol cyn gynted â phosibl. Edrychaf ymlaen hefyd at yr adolygiad thematig y mae Gweinidogion wedi cyhoeddi y bydd yn cael ei gynnal gan Estyn i'r modd y caiff gofalwyr ifanc eu nodi a'u cefnogi yn yr ysgol ac yn y colegau.
Yn fy mwrdeistref sirol yn Rhondda Cynon Taf, mae pob ysgol uwchradd yn hyrwyddwr gofalwyr ifanc dynodedig, ac mae'r broses wedi dechrau cyflwyno rolau tebyg mewn ysgolion cynradd hefyd, gan sicrhau bod gan bob plentyn ac unigolyn ifanc sy'n ofalwr unigolyn amlwg y gallant droi atynt am gymorth a chyngor. Ac mewn gwirionedd mae hynny mor bwysig. Rwy'n ffodus—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar hynny, os oes gennych amser? Diolch. Yr hyrwyddwyr gofalwyr rydych yn sôn amdanynt mewn ysgolion—a ydych yn rhagweld mai rhan o'u rôl fydd sicrhau eu bod yn cael asesiad ffurfiol gan awdurdodau lleol neu bwy bynnag y bydd y gwaith wedi'i roi ar gontract allanol iddynt ac y caiff anghenion y gofalwyr hynny eu diwallu yn sgil hynny? Ac a ydych chi hefyd, fel aelod o feinciau cefn y blaid sy'n llywodraethu, yn cytuno y dylid cyhoeddi'r wybodaeth honno?
Wel, mae gan hyrwyddwyr gofalwyr rôl fwy anffurfiol yn cefnogi pobl ifanc ac wrth gwrs, mae yna wasanaethau eraill yn rhan o hyn, megis gwasanaethau cymdeithasol. Felly, mae hwn yn fath o ymateb sylfaenol ar lawr gwlad sy'n darparu'r cymorth a'r gofal o ddydd i ddydd hwnnw.
Yn fy etholaeth fy hun, rwy'n ffodus o gael prosiect gofalwyr ifanc cryf iawn. Mae prosiect gofalwyr ifanc Gweithredu dros Blant Rhondda Cynon Taf yn gwneud gwaith arloesol a chadarnhaol sy'n wirioneddol bwysig. Ar hyn o bryd, maent yn darparu gwasanaethau i 79 o rai rhwng pump a 18 oed ar draws y fwrdeistref sirol. Plant sy'n gofalu am rieni'n unig yw'r rhain, gan fod yna brosiect arall yn cynnig cymorth i ofalwyr sy'n frodyr a chwiorydd. Efallai mai crafu'r wyneb yn unig y mae'n ei wneud gan y gallai fod llawer mwy o blant a phobl ifanc yn darparu gofal nad ydynt wedi cael eu nodi eto. Mae'r prosiect yn darparu gweithgareddau grŵp sy'n briodol i oedran mewn lleoliadau cymunedol, gan roi cyfle i blant a phobl ifanc fynd i ffwrdd, i gael seibiant, i gael ychydig o hwyl ac i allu bod yn blant. Maent hefyd yn darparu cymorth emosiynol ac ymarferol. Gallai hynny olygu mewn perthynas ag addysg, ond pethau ymarferol hefyd. Mae rhai o'r storïau am y bobl ifanc aruthrol y maent yn eu helpu yn syfrdanol, fel y plentyn ifanc a helpai ei mam i baratoi poteli, newid cewyn a golchi dillad ar gyfer ei brawd neu chwaer newydd-anedig. Roedd y fam wedi cael strôc wrth roi genedigaeth, a thair oed oedd yr ofalwraig ifanc honno.
Er mai nod y prosiect yw cynorthwyo gofalwyr ifanc a'u teuluoedd i gael y gwasanaeth gorau, rwyf am orffen drwy roi'r llwyfan i'r gofalwyr ifanc hynny. Un o'r ffyrdd y mae Rhondda Cynon Taf wedi eu helpu yw drwy sefydlu Young Carers Aloud, eu côr sydd wedi ennill gwobrau. Mae eu caneuon i gyd ar gael ar YouTube. Buaswn yn annog yr ACau i wrando arno. Fel y dywed geiriau eu caneuon, yr hyn y byddent yn ei hoffi yw i bobl eu helpu i gyrraedd yno, nid rhyw ddiwrnod, ond yn awr.
Diolch. Galwaf ar y Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r cyfle i drafod y mater pwysig hwn, ac fe hoffwn i ddiolch i'm cyd Aelodau Cynulliad am eu holl gyfraniadau. Mae cryfder y drafodaeth yn dangos yn glir bod rhaid i'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth i sicrhau bod gofalwyr yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnyn nhw i fyw yn dda.
Fe wnaf fy ngorau i fynd i'r afael â'r prif bwyntiau a godwyd, er mai amser, fel arfer, yw'r gelyn yma, gan fod yna lawer o welliannau a nifer o bwyntiau wedi cael sylw.
Hoffwn ddechrau gyda gwelliant 4. Gofalwyr di-dâl, yn wir, sy'n darparu 96 y cant o'r gofal yng Nghymru ac mae'n werth dros £8 biliwn. Mae hyn yn hollol anghredadwy; mae'n dangos y gwerth economaidd cudd sydd wedi'i ychwanegu at y tosturi a'r cariad a'r gofal y maent yn ei ddangos. Mae'n peri pryder i mi fod rhai gofalwyr yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ond rydym bellach yn siarad fwyfwy â gofalwyr sy'n teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi, ac sy'n teimlo bod Llywodraeth Cymru a phartneriaid ar lawr gwlad yn cymryd sylw ohonynt a'n bod yn rhoi camau rhagweithiol iawn ar waith i sicrhau y gallant gael cymorth ymarferol i gefnogi eu hiechyd a'u lles eu hunain hefyd.
Mae ein deddfwriaeth drawsnewidiol, sydd wedi'i chrybwyll, Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn rhoi hawl i ofalwyr gael cymorth sy'n gyfartal â'r cymorth y mae'r unigolyn y maent yn gofalu amdanynt yn ei gael. Mae hawl gan holl ofalwyr Cymru i gael asesiad gofalwr er mwyn nodi'r cymorth sydd ei angen arnynt a rhaid i awdurdodau lleol ddiwallu anghenion cymwys. Ac os caf droi at bwynt Suzy: nid wyf yn gwybod a ydych chi'n gwybod am yr adroddiad blynyddol cyntaf a gyhoeddwyd ar y data sy'n ymwneud ag oedolion sy'n derbyn cymorth gofal a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2017. Roedd yn dweud bod 6,207 o asesiadau o angen am gymorth wedi'u cynnal rhwng 6 Ebrill 2016 a 31 Mawrth 2017, gan arwain at ddarparu 1,823 o gynlluniau cymorth, ond hefyd ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid ar ddatblygu data newydd mwy cadarn ar gyfer 2019-20 ymlaen. Rydym hefyd ar fin comisiynu gwerthusiad annibynnol o'r Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant—[Torri ar draws.] Fe drof at agweddau eraill mewn eiliad. Rwy'n mynd i fod yn brin o amser, ond os gallaf, fe ildiaf mewn eiliad—
Yn gyflym iawn, diolch i chi am y wybodaeth honno. Wrth gwrs, yr hyn na chawsom o'r adroddiad hwnnw oedd dealltwriaeth glir o beth y mae 'asesiad' yn ei olygu, felly roedd yn galonogol clywed eich sylwadau canlynol.
Yn wir. Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi am yr ymyriad hwnnw.
Nawr, y llynedd—. Gyda llaw, mae'r asesiad hwn hefyd yn cynnwys y cyfeiriad at ofal seibiant ym mhwynt 5 y cynnig gwreiddiol, ac rwyf wedi bod yn rhoi camau ar waith i sicrhau bod yr hawliau ehangach hyn yn cael eu gwireddu, a dyna yw hanfod hyn. Nawr, y llynedd, cyhoeddais £3 miliwn o gyllid cylchol newydd i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddarparu gofal seibiant ychwanegol ar gyfer gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr ifanc, sydd wedi cael eu crybwyll. Ac o ran gwelliant 7, mae hyn yn cynorthwyo awdurdodau lleol i ddatblygu gofal seibiant ychwanegol yn seiliedig ar anghenion gofalwyr yn eu hardal. Hwy sydd yn y sefyllfa orau i farnu sut y dylid defnyddio hwn. Ond hefyd, gall byrddau partneriaeth rhanbarthol ddefnyddio'r gronfa gofal integredig hefyd i gefnogi gofalwyr. Rydym wedi ryddhau £50 miliwn o arian refeniw yn 2018-19, a chaiff gofalwyr eu cydnabod fel un o'r grwpiau craidd y dylai'r arian hwn fynd tuag ato.
Mewn perthynas â phwynt 4 y cynnig gwreiddiol, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i fonitro effaith y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, fel y dywedais, a chyhoeddi data a'i wneud yn fwy cadarn. Dangosodd yr adroddiad blynyddol cyntaf y cyfeiriais ato nad oes digon o ofalwyr yn cael asesiad ar hyn o bryd. Felly, o wybod hyn, ac yn seiliedig ar ymgysylltiad â gofalwyr a sefydliadau cynrychiadol, cyhoeddais dair blaenoriaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr yng Nghymru, sef: cefnogi bywydau ochr yn ochr â gofalu, nodi a chydnabod gofalwyr, a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr. Ochr yn ochr â hynny, rwyf wedi ymrwymo dros £1 filiwn yn 2018-19 i gefnogi cynnydd yn erbyn y blaenoriaethau cenedlaethol hyn. Ond yn ogystal, bydd grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr yn darparu fforwm cenedlaethol yn awr ar gyfer llywio gwelliannau i ofalwyr a darparu ymateb traws-sector i'r heriau sy'n wynebu gofalwyr. Gan gyfeirio at welliant 5, ac i gydnabod y materion sy'n effeithio ar ofalwyr ifanc, rydym wedi gwahodd Plant yng Nghymru, y sefydliad y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyllido i redeg y rhwydwaith gofalwyr ifanc, a'r comisiynydd plant, i ymuno â'r grŵp hwn. Byddaf yn mynychu'r cyfarfod cyntaf a fydd yn cyfarfod y mis hwn, a byddwn yn cael diweddariadau rheolaidd gan grŵp y Gweinidog.
Nawr, gellir gweld effeithiau gofalu mewn sawl rhan wahanol o fywydau pobl. Felly, rhaid i gymorth i ofalwyr fod yn drawsadrannol, yn drawslywodraethol. Felly, gan gyfeirio at bwynt 3 y cynnig gwreiddiol, gwyddom fod gofalwyr ifanc yn wynebu rhwystrau ychwanegol i addysg, ac maent yn cynnwys rhwystrau ariannol. Felly, rwy'n falch iawn fod newidiadau a wnaed yn sgil adolygiad Diamond o gyllid addysg uwch a chyllid myfyrwyr yn golygu, o 2018-19, y bydd gan bob myfyriwr hawl i gymorth ariannol sy'n cyfateb i'r cyflog byw cenedlaethol tra byddant yn astudio. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n agos hefyd, fel y crybwyllwyd gan Vikki ac eraill, gydag ysgolion a cholegau er mwyn sicrhau nad yw gofalwyr ifanc, a allai fod yn absennol yn amlach na'u cyfoedion, dan anfantais o ran cael mynediad at grantiau addysgol. Gall gofalwyr fod yn hyderus y byddant yn derbyn cymorth ariannol priodol tra byddant yn astudio.
Gan symud ymlaen yn awr at welliant 3, rydym yn cydnabod yr anawsterau y gall pob gofalwr eu hwynebu wrth gydbwyso swydd yn erbyn y galwadau o fod yn ofalwr di-dâl. Rydym wedi dyfarnu cyllid i Gofalwyr Cymru yn 2018-19 ar gyfer rhwydwaith Cyflogwyr Gofalwyr Cymru, ac roeddwn yn falch o'i lansio y bore yma. Bydd y prosiect hwn yn cynorthwyo cyflogwyr mawr a bach ledled Cymru i greu gweithle mwy ffafriol i ofalwyr drwy gymorth un i un, hyfforddiant a digwyddiadau. Ar gyfer oedolion ifanc sy'n ymuno â'r gweithlu, dylai'r cymorth a gynigir gan Gyrfa Cymru fod yn addas ar gyfer yr unigolyn. Ar gyfer gofalwyr ifanc, dylai cyngor ystyried y cyfrifoldebau gofalu gan ganolbwyntio ar opsiynau sydd ar gael—codi dyheadau, meithrin hyder a chefnogi cynlluniau mwy hirdymor.
Os caf droi at welliant 6, mae gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc wedi mynegi diddordeb cryf yn y cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn ariannu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr—. Roedd hi'n bleser, gyda llaw, gallu cyfarfod â YMCA gyda Bethan yr wythnos diwethaf—fe drof at hynny mewn eiliad. Ond ar hyn o bryd rydym yn ariannu Ymddiriedolaeth y Gofalwyr i gefnogi datblygiad y cardiau hyn. Bydd y cardiau adnabod, a fydd yn atal pobl ifanc rhag gorfod datgelu gwybodaeth am eu rôl fel gofalwyr dro ar ôl tro ac yn egluro, ac yn eu cynorthwyo i ddod o hyd i gymorth, yn cael eu cynllunio gyda gofalwyr ifanc a'u profi gyda gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys athrawon, meddygon a fferyllwyr. [Torri ar draws.] Os caf droi at rai o'r manylion, oherwydd mae'n—. Roedd y gwaith YMCA yn ddefnyddiol iawn ynddo'i hun, ond mae hyn yn mynd y tu hwnt i hynny. Mae'n ymwneud â darparu amrywiaeth o opsiynau i Lywodraeth Cymru ar gyfer dylunio'r cerdyn adnabod cenedlaethol, a ddatblygir gyda gofalwyr ifanc, ac a brofir gan amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, cynhyrchu'r pecyn cymorth, y canllawiau a'r adnoddau yn electronig ac yn ddwyieithog, hwyluso trafodaeth genedlaethol chwarterol o amgylch y bwrdd er mwyn i wasanaethau gofalwyr allu datrys problemau, cymorth gan gymheiriaid, dysgu, hwyluso'r broses genedlaethol i ofalwyr ifanc allu rhoi adborth yn ddienw am eu profiadau o ymgeisio am gerdyn adnabod a'i ddefnyddio, a darparu adroddiadau chwarterol wedyn i Lywodraeth Cymru a gwasanaethau gofalwyr—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser, Bethan. Mae'n wir ddrwg gennyf. Buaswn wrth fy modd, ond nid oes gennyf amser. Rydym yn hyrwyddo'r cerdyn adnabod i ofalwyr ifanc drwy bartneriaid rhwydwaith a sianeli cyfryngau cymdeithasol, a chyflwynir adroddiadau cynnydd yn rheolaidd at sylw grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr.
Nawr, ychydig o bethau eraill wrth orffen. Rwyf wedi siarad ag Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth, sy'n awyddus iawn i weithio gyda mi i archwilio'r cymorth sydd ar gael yn y presennol ac a allai fod ar gael yn y dyfodol i helpu gofalwyr ifanc yng Nghymru gyda chostau trafnidiaeth ac i archwilio a ellid cysylltu hyn, yn wir, â'r cerdyn adnabod. Felly, buaswn yn annog yr Aelodau i gefnogi gwelliant 1 i'r prif gynnig, a gwelliannau 4, 6, 8 a 9 hefyd, yn yr ysbryd y cynhaliwyd y ddadl hon ynddo, ac ysbryd cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod Wythnos y Gofalwyr. Nid yw rhai ohonynt yn berffaith, ond mae'r ysbryd a'r bwriad yn dda a gallwn eu cefnogi.
Rwy'n brin o amser, felly—
Daliwch ati. Parhewch.
Dirprwy Lywydd, ni allwn fforddio eistedd yn ôl ar y mater o gefnogi gofalwyr. Ni ddylai llesiant corfforol a meddyliol y bobl sy'n cyfrannu fwyaf i'r gymdeithas fod ar waelod ein rhestr o flaenoriaethau.
Ni ddylent fod ar waelod y rhestr; dylent fod ar frig y rhestr. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r syniadau y mae'r Aelodau wedi eu cyflwyno heddiw—syniadau yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd, a grŵp cynghori'r Gweinidog—i wneud y ffordd yr ydym yn cefnogi gofalwyr, yn ifanc a hen, yn real wrth inni symud ymlaen, oherwydd gwyddom fod eu tosturi, eu cariad, a'u gofal yn amhrisiadwy, a byddai'r effaith economaidd pe bai'n rhaid inni ddarparu gofal amgen yn eu lle yn gwbl anfforddiadwy. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn. A gaf fi alw ar Mark Isherwood i ymateb i'r ddadl?
Diolch i bawb am eu cyfraniad yn ystod Wythnos y Gofalwyr 2018. Fel y dywedodd Suzy Davies ar y dechrau, rhaid inni wella bywydau'r 11 y cant o'r boblogaeth yr ydym yn sôn amdanynt heddiw. Ac fel y dywedodd, mae i Lywodraeth Cymru wrthod cael ei chraffu yn gywilyddus, yn dilyn eu methiant yn ymarferol i arwain cynghorau ar beth y mae'r canllawiau statudol yn y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn ei olygu mewn gwirionedd. Nid yw'n syndod, meddai, fod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig i gefnogi oedolion ifanc sy'n ofalwyr wedi plesio oedolion ifanc sy'n ofalwyr yn fwy na Llywodraeth Cymru, er fy mod yn nodi sylwadau'r Gweinidog ar y diwedd. Ac wrth gwrs, fe ddiolchodd i'r rhai sy'n gofalu am ofalwyr.
Crybwyllodd Bethan Sayed nifer o bwyntiau perthnasol iawn. Cyfeiriodd at gontractau dim oriau a gofalwyr ifanc—ac mae'n destun pryder dwfn mai Cymru sydd â'r lefel uchaf o gontractau nad ydynt yn rhai parhaol, gan gynnwys contractau dim oriau, sy'n briodol ar gyfer rhai, ond caiff gormod o bobl eu gorfodi i ymrwymo iddynt er mai dyna'r llwybr anghywir ar eu cyfer—gan fod y canllawiau, yr hyfforddiant a mynediad at wasanaethau seibiant yn digwydd ar sail ad hoc; pwysigrwydd trafnidiaeth i ofalwyr ifanc; rhwystrau i ofalwyr ifanc rhag cael mynediad at feddyginiaeth i helpu eu hanwyliaid; a'r angen i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Gofynnodd Caroline Jones, 'Pwy sy'n gofalu am y gofalwyr?' Ac mae llawer yn ei chael hi'n anodd—nid yw dau o bob tri yn cael digon o gwsg, ac mae gormod yn dioddef o iselder, ac mae Age Cymru yn nodi amrywiadau eang o ran y gofal. Dywedodd fod angen inni wneud mwy i gefnogi gofalwyr di-dâl a galluogi gofalwyr ifanc i gyfuno gofalu ag addysg a hyfforddiant.
Diolchodd Angela Burns o galon i ofalwyr yng Nghymru y byddai cymdeithas yn dod i stop heb eu cyfraniad. Soniodd am garedigrwydd dieithriaid ac yna cyfeiriodd at un neu ddau o achosion, yn enwedig disgybl nad oedd yn cyflwyno ei gwaith cartref yn brydlon, ond nad oedd gan yr ysgol unrhyw syniad am ei chyfrifoldeb gofalu, a gofalwr ifanc arall y dywedwyd wrthynt am gael gwared ar eu ci pan gawsant eu hailgartrefu'n llwyddiannus fel arall.
Soniodd Jenny Rathbone am ofal iechyd darbodus, sy'n golygu bod yn rhaid inni werthfawrogi ein gofalwyr, a'r angen am drefniadau hirdymor ar ôl i riant gofalwr farw, ac yn allweddol, fod angen inni weithio ar gydgynhyrchu gyda gofalwyr.
Canmolodd Janet Finch-Saunders ofalwyr ifanc, ond tynnodd sylw wedyn at waith gofalwyr hŷn, gyda llawer ohonynt yn anabl neu'n dioddef problemau iechyd hirdymor eu hunain, a llawer sy'n byw mewn amgylchiadau ynysig ac unig. Tynnodd sylw at y ffaith y gallai cynghorau fod yn gweithredu'n anghyfreithlon. Soniodd am y diffyg data ar asesiadau gofalwyr, yr angen am seibiant hyblyg ac o ansawdd uchel, ac y gallai buddsoddi mewn gofalwyr arbed £7.88 i'r system iechyd am bob £1 a werir.
Cyfeiriodd Dr Dai at y ffaith bod gwasanaethau statudol yn llwyr ddibynnol ar ofalwyr di-dâl anffurfiol, fod meddygfeydd meddygon teulu bellach yn llawn o bobl hŷn sydd angen gofal yn y cartref a bod angen cefnogi eu gofalwyr gyda gwybodaeth a chymorth, ac yn allweddol eto—gwaith y sector gwirfoddol yn darparu cymorth.
Soniodd Mohammad Asghar fod mwy o bobl yn gofalu ac yn gofalu am amser hwy. Siaradodd yn deimladwy am ei brofiad personol a'i wraig hyfryd, ac rwy'n dweud hynny oherwydd fy mod yn ei hadnabod ac mae hi'n hyfryd. Soniodd am fudd seibiant hyblyg o ansawdd uchel i lesiant a dywedodd nad ydym yn gwybod sut y mae awdurdodau lleol yn defnyddio'r arian y maent yn ei gael.
Siaradodd Vikki Howells am yr angen i osgoi canlyniadau anfwriadol, am y baich ychwanegol ar ofalwyr, a gofalwyr ifanc nad ydynt yn galw eu hunain yn ofalwyr, a rôl hyrwyddwyr gofalwyr ifanc mewn ysgolion.
Yna dywedodd Huw Irranca-Davies, y Gweinidog, wrth ymateb ar ran y Llywodraeth, fod y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant wedi rhoi hawl i ofalwyr sy'n gyfartal â'r hawl sydd gan yr unigolyn yn eu gofal, fod gan bob un hawl i asesiad a rhaid i'r holl awdurdodau lleol ateb y gofyniad hwnnw. Soniodd am arian seibiant cylchol i awdurdodau lleol, sut yr oedd wedi gwahodd Plant yng Nghymru a'r comisiynydd plant i ymuno â'i grŵp gweinidogol, ac o 2018-19 ymlaen, y gall gofalwyr fod yn hyderus y byddant yn cael cymorth ariannol tra'n astudio. Soniodd am ariannu'r gwaith o ddatblygu cardiau adnabod i ofalwyr, sy'n arbennig o berthnasol i athrawon, meddygon a fferyllwyr. Hoffwn nodi bod hyn wedi ei dreialu'n llwyddiannus, gyda chefnogaeth y comisiynydd plant, gan Barnardo's sir y Fflint. Flynyddoedd lawer yn ôl, daethant yma, a rhoi cyflwyniad yn ei gylch ac ni ddigwyddodd dim. Felly, gobeithio, y tro hwn, nad yw hanes yn ailadrodd ei hun. Oherwydd fel y casglodd y Gweinidog, ni allwn eistedd yn ôl ar fater cefnogi gofalwyr.
Nawr, dywed cod ymarfer Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
'Un peth sy’n hollbwysig i’r dull a’r system gyfan yw bod ymarferwyr yn cyd-gynhyrchu gyda phlant, pobl ifanc, gofalwyr a theuluoedd, a chydag oedolion, gofalwyr a theuluoedd... i sicrhau bod pobl yn bartneriaid cyfartal yn y gwaith o gynllunio a darparu eu gofal. Bydd hyn yn cynnwys pennu’r hyn sy’n bwysig iddynt a’r canlyniadau lles y maent am eu cyflawni. Rhaid i awdurdodau lleol beidio â gwneud unrhyw benderfyniadau yn seiliedig ar ragdybiaethau ynglŷn ag amgylchiadau person.'
Ac unwaith eto:
'Dylai pobl fod yn rhan o’r gwaith o gynllunio a gweithredu gwasanaethau'.
Fodd bynnag, gwn fod y Gweinidog yn gyfarwydd â chylchlythyr y gaeaf Cynghrair Henoed Cymru—credaf eu bod wedi cyfarfod ag ef wedyn i drafod y mater. Gan gyfeirio at y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, roeddent yn dweud nad yw'r gwirioneddau sy'n deillio o'r Ddeddf yn cyflawni'r disgwyliadau cychwynnol; fod yna ddiffyg parhaus yn y ddarpariaeth eiriolaeth; nad yw sgyrsiau 'beth sy'n bwysig' yn digwydd fel y rhagwelwyd; fod gwasanaethau cyngor a gwybodaeth awdurdodau lleol yn dal i gael eu gweld fel rhai problematig mewn sawl rhan o Gymru; fod cynrychiolwyr y trydydd sector ar fyrddau partneriaeth rhanbarthol yn nodi eu bod yn teimlo fel pe baent yn cael eu hallgáu; fod y trydydd sector yn cael eu gweld fel rhai sy'n chwarae rhan ymylol, heb fawr o gyfranogiad strategol os o gwbl a heb fawr o fewnbwn yn y broses o gynllunio rhaglen; a'i bod yn ymddangos bod anghenion unigolion yn dal heb eu diwallu mewn gormod o achosion.
Yr unig reswm pam y setlwyd achos adolygiad barnwrol y mis diwethaf a oedd yn ymwneud â methiant i asesu a diwallu anghenion oedolyn ifanc awtistig ac i ystyried parodrwydd a gallu gofalwr ei rhiant i ddiwallu angen cyn cynnal gwrandawiad llawn oedd oherwydd bod Cyngor Sir y Fflint wedi cytuno i ddarparu ymddiheuriad ffurfiol a rhoi iawndal. Mae'r achos hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd asesiadau cynhwysfawr i bobl sydd angen gofal a chymorth a'u gofalwyr, yn unol â'r ddeddfwriaeth. Ac er i'r achos gael ei setlo cyn cynnal gwrandawiad llawn, mae'n darparu cipolwg gwerthfawr er hynny ar sut y bwriedir i'r ddeddfwriaeth hon gael ei chymhwyso, ond sut y mae awdurdodau lleol yn dal i wneud camgymeriadau mawr yn aml.
Ddoe ddiwethaf, cefais e-bost gan riant sy'n gofalu a ddywedai hyn:
Fel oedolyn awtistig fy hun, rwy'n cael trafferth i nodi pan na chyflawnir y ddyletswydd.
Cyfeiriodd at ei thri o blant ei hun, ac mae dau ohonynt eisoes wedi cael diagnosis eu bod ar y sbectrwm, a daeth i'r casgliad:
Gan fod yr ysgol i'w gweld yn benderfynol nad yw'r problemau y mae'r bechgyn yn cael trafferth â hwy yn gysylltiedig â'u hawtistiaeth, nid oes gennyf syniad sut i sicrhau'r cymorth sydd ei angen arnynt.
Cefais e-bost gan riant arall sy'n gofalu yn sir y Fflint yn ystod y ddadl hon, rhiant plentyn awtistig gydag amryfal anghenion heb eu diwallu, ac roedd hi'n dweud hyn:
Rwy'n dal heb gael asesiad gofalwr o fy anghenion ac anghenion fy merch, er fy mod wedi gofyn am un gyntaf ym mis Ionawr 2014 ac wedi codi'r mater dro ar ôl tro.
Gwyddom fod y gwerthusiad dros dro o'r strategaeth awtistiaeth integredig wedi dweud bod y dull o'r brig i lawr, yn hytrach na chydgynhyrchu, wedi llesteirio'r ffordd ymlaen. Mae gennyf lawer o enghreifftiau eraill mewn llawer o siroedd eraill.
Gallwn fod wedi mynd ymlaen i sôn am Wrecsam a Chonwy ac amrywiaeth o wahanol sefyllfaoedd lle nad yw pethau'n gweithio fel y bwriada'r ddeddfwriaeth iddynt wneud, oherwydd bod gormod o bobl mewn grym yn amharod i rannu'r pŵer hwnnw ac yn dewis a dethol o'r canllawiau, y codau a'r ddeddfwriaeth. Oni bai bod Llywodraeth Cymru yn barod i ddangos arweiniad a'u hwynebu, a gwneud iddynt gydnabod beth y mae hyn yn ei olygu, gyda hyfforddiant priodol a chymorth pan fo angen, mae straeon fel hyn yn mynd i barhau, yn anffodus.
Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.