– Senedd Cymru am 5:13 pm ar 18 Ionawr 2023.
Eitem 7 sydd nesaf, dadl Plaid Cymru, rheoli'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd gwladol. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i gyflwyno'r cynnig yma. I barhau efo'r ysbryd rydyn ni wedi ei weld yn y Senedd y prynhawn yma, mi wnaf i bwysleisio bod y cynnig yma â'r bwriad o fod yn adeiladol. Ydy, mae'n feirniadol o reolaeth Llywodraeth Cymru o wasanaethau iechyd a gofal, ac mae hynny, mae gen i ofn, yn seiliedig ar y dystiolaeth glir sydd o'n blaenau ni. Ond mae'r ymgais yma i ddatgan creisis iechyd cenedlaethol yn rhywbeth rydyn ni'n gobeithio all arfogi Llywodraeth Cymru i ymateb yn well i'r heriau.
Cyn-bennaeth ymchwil yn General Motors, Charles Kettering, a ddywedodd bron i ganrif yn ôl bellach fod 'problem wedi'i datgan yn dda yn broblem sydd wedi hanner ei datrys'. Nawr, pan ddatganodd y Senedd hon argyfwng hinsawdd, roedd yn ddatganiad fod yr her newid hinsawdd a wynebem mor eithriadol fel bod angen ei dyrchafu, ei dyrchafu yn ein seice cenedlaethol, a'i dyrchafu o ran pwysigrwydd seneddol, o ran blaenoriaeth Llywodraeth.
Nawr, efallai y byddai Mr Kettering yn gwthio pethau braidd yn bell pe bai'n dweud bod y gydnabyddiaeth honno o raddfa'r her hinsawdd yn golygu bod hanner y gwaith wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r broblem, ond fe wnaeth hynny arwain at newid gêr, rwy'n meddwl. Roedd yn newid gêr yr oedd Llywodraeth Cymru ei hun yn cydnabod y bu'n rhaid ei wneud, oherwydd, os cofiaf, y diwrnod cyn i'r Senedd bleidleisio ar gynnig yn datgan argyfwng hinsawdd, fe wnaeth y Llywodraeth y datganiad hwnnw ei hun. Nawr, roedd y datganiad hwnnw'n gosod cyd-destun newydd lle gwnaed llu o benderfyniadau o'i fewn, ac maent yn dal i gael eu gwneud, o flaenoriaethau polisi ac ariannu i strwythurau'r Llywodraeth y gwneir y penderfyniadau hynny o'u mewn.
Felly, heddiw, rydym yn gofyn am ddatganiad o argyfwng iechyd. Unwaith eto, gwnawn hyn am ein bod yn wynebu heriau sydd mor eithriadol o ddifrifol nes ein bod yn credu bod angen i'r Llywodraeth arfogi ei hun gystal ag y gall i ymdopi â'r sefyllfa, ac yn union fel gyda'r datganiad o argyfwng hinsawdd, rwy'n credu y gallai gwneud y datganiad hwnnw heddiw esgor ar nifer o gamau cadarnhaol. Byddai'n helpu i ganolbwyntio meddyliau ar ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o fynd i'r afael â'r problemau sy'n ein hwynebu. Yn yr un modd, rwy'n credu y byddai'n helpu i ganolbwyntio'r holl bwerau gwario, ni waeth pa mor brin—ac rwy'n gweld bod y Gweinidog cyllid yma gyda ni y prynhawn yma—ar y materion sy'n bwysig, ac nid oes dim yn bwysicach ar hyn o bryd wrth gwrs na datrys yr anghydfod cyflog. Yn olaf, byddwn yn gobeithio y byddai'n gwneud i'r Llywodraeth edrych eto ar ei strwythurau ei hun, efallai, a'i phrosesau, er mwyn sicrhau eu bod yn y sefyllfa orau i ymdrin â'r argyfwng hwn.
Nawr, rwy'n edrych ymlaen at ymateb y Gweinidog i'r bwriad datganedig hwnnw. Wedi'r cyfan, er ei fod yn argyfwng i Lywodraeth ei hun, y peth pwysicaf yw bod hwn yn argyfwng i bawb—i bobl gyffredin ar hyd a lled Cymru, ac wrth gwrs mae'n argyfwng i'n staff iechyd a gofal sy'n gweithio'n galed ddydd ar ôl dydd ar draws y sector iechyd a gofal. Nawr, os nad yw'r Llywodraeth yn mynd i gefnogi ein galwad a chytuno i ddatgan argyfwng iechyd, mae angen inni wybod pam. Ai am nad ydynt yn gweld budd gwneud datganiad ffurfiol o'r fath? Neu am nad ydynt yn cytuno ei fod yn argyfwng? Dywedodd prif weithredwr GIG Cymru wrth ITV News yn gynharach yn y mis na fyddai hi'n ei ddisgrifio fel argyfwng, ond mae'n cydnabod bod y sefyllfa'n un aruthrol o anodd. Dywedodd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf nad oedd yn credu ei fod mewn cyflwr parhaus o argyfwng, a allai fod ychydig yn wahanol, ond heb os roedd yna ddyddiau, meddai, pan fyddai modd maddau i staff ar y rheng flaen am feddwl ei fod.
Nawr, mae bob amser yn ddefnyddiol edrych ar ddiffiniadau. Dyma ambell un. Argyfwng: adeg o anhawster neu berygl dwys; adeg pan fydd yn rhaid gwneud penderfyniad anodd neu bwysig. Mae geiriadur Rhydychen—y byddwn yn aml yn troi ato—yn awgrymu, am 'argyfwng',
'adeg o berygl mawr, anhawster neu amheuaeth pan fydd rhaid datrys problemau neu pan fydd rhaid gwneud penderfyniadau pwysig'.
Nid wyf yn credu y gellid cael gwell diffiniad o ble rydym arni o ran iechyd a gofal yng Nghymru: adeg pan fydd rhaid datrys problemau a phan fydd rhaid gwneud penderfyniadau hynod o bwysig. Mae'n argyfwng ni waeth sut y caiff ei fesur, ac ni allaf feddwl am lawer iawn o benderfyniadau pwysicach y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud nawr na'r rhai a allai ddechrau mynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng sy'n ein hwynebu, gan ddechrau gyda datrys yr anghydfod cyflog i roi'r gweithlu hanfodol wrth galon yr adferiad, ac ymlaen wedyn at yr holl elfennau eraill sy'n galw am newid gêr go iawn.
Ond mae’n rhaid derbyn bod yna greisis yn gyntaf. Mi ddisgrifiais i’r sefyllfa fel oedd hi ar y pryd yn sesiwn gwestiynau iechyd yma yn y Siambr ym mis Rhagfyr, yn cyfeirio ar y pryd at gyfres o heriau, fel oeddem ni’n eu gweld nhw y diwrnod hwnnw, o bwysau’r gaeaf, argyfwng recriwtio a chadw staff, amseroedd aros am driniaeth mewn adrannau brys, amseroedd aros ambiwlans, ac yn y blaen. Mi ofynnais i’r Gweinidog pa gyflwr mae hi’n disgwyl i’r NHS fod ynddo fo erbyn y sesiwn gwestiynau nesaf, sydd o fewn wythnos rŵan. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at nifer o fesurau a oedd i gael eu cyflwyno, a dweud ei bod hi’n gobeithio am ganlyniadau positif.
Ond beth am inni ystyried beth ydyn ni wedi’i weld ers hynny? Gweithredu diwydiannol yn dwysáu, efo mwy o ddyddiadau streic wedi’u galw gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans; ambiwlansys yn sownd tu allan i ysbytai am 32,500 o oriau ar y cyfan ym mis Rhagfyr—100,000 o oriau ydy’r capasiti llawn; a phenderfyniad i adael cleifion o'r ysbyty heb becyn gofal, er gwaethaf y pryderon difrifol mae meddygon wedi’u codi am hynny, a gofalwyr, ac eraill. Dwi’n gwybod bod y Gweinidog yn cyfiawnhau, yn dweud bod hynny’n seiliedig ar dystiolaeth, ond unwaith eto heddiw mewn cyfarfod efo meddygon, mae pryderon difrifol yn cael eu codi ynglŷn â hynny. Dau ddigwyddiad mewnol critigol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr o fewn pythefnos i’w gilydd; bwrdd iechyd bae Abertawe yn annog pobl i aros i ffwrdd o’r ysbyty oni bai bod yna berygl gwirioneddol i fywyd. Ac, wrth gwrs, mae'n bag post ni, pob un ohonom ni fel Aelodau'r Senedd yma, yn dweud stori gwbl eglur am sut mae'r problemau o fewn y gwasanaeth, yr anghynaliadwyedd mae'n rhaid mynd i'r afael â fo, yn cael impact uniongyrchol ar fywydau pobl, ar gleifion a'u profiad nhw, heb sôn, wrth gwrs, am yr holl staff sy'n cysylltu efo ni wedi cyrraedd pen eu tennyn.
Dirprwy Lywydd, mae hwn yn greisis—does yna ddim amheuaeth am hynny—ac mae hynny'n golygu bod dau ddewis gennym ni: rydyn ni'n cario ymlaen fel rydyn ni neu chwilio am ffordd i roi ffocws newydd i bethau. Mae'n bwysig cydnabod nad ydw i'n amau am eiliad bod y Llywodraeth eisiau mynd i'r afael â'r heriau, ond rhy managerial ydyn nhw, dwi'n credu, a dwi'n reit siŵr bod yna ddim un Aelod yn y Senedd yma fyddai'n hoffi datrys y problemau yn fwy na'r Gweinidog iechyd ei hun, ond dydy'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd o dan ei harweiniad hi ddim yn gweithio. Yn wir, mae un Gweinidog ar ôl y llall wedi methu â chreu'r math o gynaliadwyedd sydd ei angen o fewn ein gwasanaethau iechyd a gofal, a dyna pam ein bod ni'n defnyddio'r gair 'camreoli' yn y cynnig heddiw.
Ond gadewch i ni gytuno felly fod yna greisis, fel cam pwysig a chadarnhaol, ac mi wnaf i'n glir drwy ddweud eto mai'r cam cyntaf cwbl hanfodol ydy setlo'r anghydfodau cyflog. Dwi'n deall bod yr RCN yn ysgrifennu at y Prif Weinidog eto heddiw yn gofyn pam nad ydy o wedi ateb, fel y gwnaeth o addo, i'w llythyr nhw ar 19 Rhagfyr yn galw arno fo i wneud cynnig cyflog gwell. Mi ddywedodd o y byddai o'n ateb ar ôl toriad byr dros y Nadolig. Mae bron yn ddiwedd mis Ionawr. Mae angen ymateb sydd yn dangos sgêl yr argyfwng a derbyn ein bod ni mewn creisis fel dechrau ar gyfnod gwell a mwy cynaliadwy i iechyd, achos mae'n teimlo'n bell iawn i ffwrdd ar hyn o bryd.
A gaf fi ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw, ac fel Ceidwadwyr Cymreig byddwn yn cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd? Mae'r gwasanaeth iechyd mewn argyfwng, ac maent yn eiriau difrifol. Pan fyddwch yn datgan argyfwng iechyd yng Nghymru, maent yn eiriau difrifol y mae'n rhaid ichi feddwl yn ofalus amdanynt cyn eu datgan, a sôn am gamreoli—geiriau difrifol—ond dyna'r union sefyllfa rydym ynddi. Ac am y rhesymau y mae Rhun ap Iorwerth wedi'u hamlinellu, mae'n rhaid ichi gydnabod problem er mwyn gallu symud ymlaen, fel y cafodd ei roi'n dda gan Rhun yn ei sylwadau agoriadol.
Nid wyf yn bychanu'r her a wynebwch, Weinidog, ac mae pwysau enfawr yn dal i ddod, rydym yng nghanol y gaeaf, mae gennym fisoedd gwaeth i ddod, ac nid wyf o dan unrhyw gamargraff ynghylch y pwysau anodd. Mae pwysau anodd mewn gwasanaethau iechyd ym mhob cwr o Ewrop, ym mhob cwr o'r DU. Mae yna heriau yn y GIG ym mhob rhan o'r wlad, ac rwy'n cydnabod hynny wrth gwrs. Ond rydym mewn sefyllfa waeth a mwy sylweddol yng Nghymru. Gennym ni y mae'r amseroedd ymateb ambiwlans arafaf a gofnodwyd, y rhestr aros am driniaeth hiraf a'r amseroedd aros gwaethaf mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ym Mhrydain. Mae hynny'n ffaith a dyna sy'n rhaid i ni ei gydnabod.
Rydym wedi cael rhywfaint o drafodaeth am nyrsio asiantaeth mewn cyfraniadau yn ddiweddar, a soniwyd cryn dipyn am hynny yn y Siambr ddoe, Weinidog, ond mae defnydd o staff asiantaeth wedi dyblu yn ystod y pum mlynedd diwethaf—wedi dyblu—gan gostio £260 miliwn i GIG Cymru yn 2022 yn unig. Roedd nifer y staff asiantaeth a gyflogwyd wedi codi 36 y cant erbyn 2021, sy'n sefyllfa anghynaladwy. Felly, rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael o ddifrif â hyn yn benodol, ac rwy'n cydnabod bod y Gweinidog yn cydnabod hynny hefyd. Ac wrth gwrs, clywais y Prif Weinidog yn dweud ddoe nad yw hyn yn rhywbeth y gellir ei wneud dros nos. Rwy'n gwybod hynny wrth gwrs, ond y pwynt yw y dylai fod wedi dechrau bum mlynedd yn ôl. Mae'r heriau sydd gennym gyda'r gweithlu wedi bod yno ers peth amser.
Fel gwrthbleidiau yn y Siambr hon, ein gwaith ni yw craffu, ein gwaith ni yw eich dwyn chi i gyfrif, Weinidog, a chyflwyno safbwyntiau polisi hefyd a sut y gallem ddatrys rhai o'r problemau, a dweud hynny wrthych chi, Weinidog. Nawr, rwy'n mynd i sôn am hybiau llawfeddygol; rydych chi'n mynd i roi eich llaw ar eich pen eto a dweud, 'O na, mae'n mynd i fynd ymlaen am hybiau llawfeddygol eto fyth.' Ond rwyf innau hefyd yn hapus i symud y sgwrs honno yn ei blaen, Weinidog. I mi, nid wyf yn poeni'n fawr beth mae'n cael ei alw; mae'n ymwneud â chanlyniadau, ac rwy'n gwybod eich bod yn cytuno â hynny hefyd.
Ond y canlyniadau ar hyn o bryd, y sefyllfa rydym ynddi, yw bod amseroedd aros o ddwy flynedd bron â bod wedi cael eu clirio yn Lloegr a'r Alban, ac yng Nghymru, mae gennym 55,000 o bobl yn dal i aros dros ddwy flynedd am driniaeth. Dyna'r sefyllfa. Weinidog, gwn eich bod chi'n aml yn dweud, 'Wel, rydym mewn sefyllfa wahanol yma, mae gennym boblogaeth hŷn a salach', ond onid dyna holl bwynt datganoli? Os na allwn gael polisïau gwahanol a theilwra i gyd-fynd â demograffeg ein gwlad, beth ar y ddaear yw pwynt datganoli? Rhaid inni gael safbwyntiau polisi gwahanol er mwyn ymdrin â'r heriau sydd gennym.
Ac ar hybiau arbenigol, ydw, rwy'n deall yr hyn a amlinellwyd gennych ddoe, Weinidog, ond y pwynt yw, os oes gennych hyb llawfeddygol arbenigol yn ne Cymru, mae'n daith wyth awr i gyd i rywun yng ngogledd Cymru. Felly, byddwn yn awgrymu bod y model a geir yn Lloegr, lle mae gennych hybiau llawfeddygol cyffredinol, nid rhai arbenigol, yn well i wlad sy'n fwy gwledig, a dylai fod hyb llawfeddygol gan y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd ledled Cymru.
Rydym hefyd wedi amlinellu ein cynllun mynediad at feddyg teulu ar gyfer meddygon. Mae angen i bobl weld meddygon er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar y GIG. Mae mwy o rôl i fferyllwyr ei chwarae er mwyn lleihau'r baich ar ein meddygon teulu. Moderneiddio technoleg, cefnogi ein meddygon teulu gyda hynny. Ond ar dechnoleg, rydym hefyd wedi cyflwyno ein bwndel technoleg GIG, a luniwyd i foderneiddio gwasanaethau iechyd a sicrhau eu bod cystal â'r rhai yng ngweddill y DU. E-bresgripsiynau: rydym yn dal i fod filltiroedd ar ei hôl hi ar e-bresgripsiynau. Dylem fod yn bwrw ymlaen â hyn bellach ac yn dal i fyny â gweddill y DU. Datblygu ap GIG: mae hwnnw ar gael mewn rhannau eraill o'r DU, nid yng Nghymru. A chael gwared ar beiriannau ffacs yn ein byrddau iechyd. Sut ein bod yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs yn y GIG yng Nghymru?
Felly, Weinidog, nid yw bod yn Weinidog iechyd yng Nghymru yn waith hawdd, yn enwedig os ydych chi'n Weinidog Llafur sy'n cael eich tanseilio'n gyson gan yr wrthblaid Lafur yn San Steffan. Felly, hoffwn ddweud nad oes gan unrhyw blaid fonopoli ar syniadau, ac ar draws pob plaid wleidyddol yn y Siambr hon, gobeithio y gallwn roi syniadau i chi yn adeiladol, Weinidog, i chi eu hystyried. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
I ddatrys argyfwng, mae'n rhaid cydnabod bod yna argyfwng. Mae hi'n wers rydyn ni'n wastad yn dweud wrth ein plant, 'Byddwch yn onest; rydyn ni angen gwybod y gwir', ond mae'r un peth yn wir pan fo'n dod i wasanaethau cyhoeddus. A'r gwir amdani ydy, rydyn ni yn gwybod, pob un ohonom ni, o waith achos, am bobl sydd wedi colli eu bywydau fyddai wedi gallu byw. Mae'r penawdau yna'n gyson, a dyna beth sy'n rhaid inni ganolbwyntio arno fo ydy y bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd a'r bobl hynny sydd yn ddibynnol ar y gwasanaeth iechyd sydd wedi cael eu gadael lawr.
A nid bai y staff mo hyn; a gawn ni ei wneud yn glir? Yn aml, mae'r Gweinidog, wrth sôn, yn cyfeirio yn iawn ynglŷn â'r holl waith arwrol sy'n cael ei wneud gan weithwyr bob dydd yn ein gwasanaeth iechyd ni, ac wrth gwrs mae yna fywydau lu yn cael eu hachub yn ddyddiol. Dydyn ni ddim yn gwadu hynny. Hyd yn oed pan fo byrddau iechyd mewn mesurau arbennig, mae'r gwaith arwrol hwnnw’n parhau, ond mae'r byrddau iechyd hynny yn dal wedi bod mewn mesurau arbennig.
A dyna'r hyn rydyn ni yn gofyn amdano fo heddiw ydy cydnabyddiaeth o'r hyn mae pawb ohonom ni'n ei wybod, mae pawb rydyn ni'n eu cynrychioli yn ei wybod ac mae'r gweithwyr iechyd yn gwybod bod yna argyfwng. Mae'n rhaid cydnabod hynny. Beth sydd yn siomedig ydy bod pob un sedd ddim yn llawn yma, neu fod pobl wedi ymuno ar-lein, fel ein bod ni yn adlewyrchu maint yr ohebiaeth rydyn ni'n ei derbyn o ddydd i ddydd ar y mater hwn, oherwydd does yna ddim argyfwng mwy yn ein hwynebu ni. Dwi'n sicr o hynny, oherwydd mae o'n effeithio ar bopeth ac yn cyd-fynd â'r argyfwng costau byw—wrth gwrs ei fod o.
Yr hyn sydd angen i ni ei gofio yw bod hyn yn digwydd mewn amgylchiadau heriol iawn, ac mae staff yn cyfaddef yn agored eu bod bron â chyrraedd y pen. Wrth ymweld â llinellau piced cyn y Nadolig, a siarad gyda nyrsys sy'n streicio am y tro cyntaf yn eu bywydau, roeddent yn pwysleisio wrthyf fod diogelwch cleifion ar flaen eu meddyliau wrth wneud y penderfyniad i streicio, yn fwy felly hyd yn oed na chyflog. Roeddent yn adrodd am erchyllterau'r hyn roeddent wedi'i brofi yn ystod y pandemig a'r effaith seicolegol barhaus, ynghyd â llwyth gwaith llesteiriol. Maent yn gwneud eu gorau, ond yn gwybod nad yw'r GIG y maent bob amser wedi bod yn falch o weithio iddo yn gallu gwneud ei orau i gleifion ar hyn o bryd. A bob tro y clywant Weinidog yn dweud nad oes argyfwng, maent yn gofyn, 'Os nad yw hwn yn argyfwng, faint gwaeth y maent yn disgwyl iddo fynd?' Nid gwael bob hyn a hyn ydyw—mae'n barhaus i'r bobl sy'n gweithio yn ein gwasanaethau iechyd ac i gleifion sy'n dibynnu ar y gefnogaeth hanfodol honno.
Yn anffodus, gwaethygu mae pethau. Rydyn ni'n gweld esiamplau efo pobl yn dweud, 'Does dim pwynt i mi ffonio'r meddyg', 'Does dim pwynt i mi ffonio am ambiwlans oherwydd dwi ddim yn mynd i gyrraedd yna.'
Mi hoffwn i ganolbwyntio'n benodol ar effaith yr argyfwng ar ferched, sydd, wrth gwrs, yn cyfrif am ychydig dros 50 y cant o boblogaeth Cymru, ac eto mae astudiaethau yn dangos fod bwlch iechyd rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli, a bod rhwystrau i fenywod gael mynediad i'r gofal iechyd sydd ei angen arnynt.
Mae’r diffyg buddsoddiad mewn triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd menywod wedi arwain at gytundeb trawsffiniol ar gyfer triniaeth, ond nid yw hyn yn digwydd bob amser. Yn aml, mae angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar fenywod beichiog, mamau newydd a’r rheini sydd wedi colli baban yn ystod beichiogrwydd, ac yng Nghymru, hyd yn oed cyn y pandemig, nid yw’r menywod hyn bob amser wedi cael ei cefnogi'n dda. Mae ymchwil gynnar yn awgrymu bod yr angen am y gwasanaethau hyn wedi cynyddu’n sylweddol, ond unwaith eto, y rhai sy’n cael eu heffeithio bob amser, megis gan yr argyfwng costau byw, sy’n cael eu heffeithio gan y diffyg mynediad nawr, gan gynnwys mamau du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol a mamau tlotach.
Dim ond os oes digon o fydwragedd yn gweithio yn y GIG ym mhob rhan o Gymru y gallwn ysgogi gwelliant i ofal mamolaeth yng Nghymru. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gadw’r staff cymwys a phrofiadol sydd gennym, a gallwn edrych ar lefelau staffio, ond rydym wedi gweld dro ar ôl tro mai cadw staff profiadol yw’r pryder yma, ac yn aml iawn, caiff nyrsys newydd eu gadael i ofalu am wardiau heb fod ganddynt y profiad hwnnw ac yn y blaen. Felly, mae a wnelo â chadw’r staff profiadol hynny hefyd. Er bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i lunio cynllun iechyd menywod ar gyfer Cymru, a gwelsom yr adroddiad darganfod yn cael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022, nawr hefyd mae angen inni weld y camau gweithredu, y canlyniadau allweddol a’r canlyniadau mesuradwy fel mater o frys. Wedi’r cyfan, mae dyfodol ein GIG yn dibynnu ar hyn. Menywod yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal, a byddai cynllun iechyd menywod yn helpu i leihau afiechyd y gellir ei osgoi yn y gweithlu hwn. Sut y gall Llywodraeth Cymru wella effeithlonrwydd ei GIG os na all ddarparu ar gyfer ei weithwyr?
Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried y camreoli hwnnw—. Ac nid ydym yn sôn am gyfnod y pandemig; mae hyn wedi bod yn digwydd ers datganoli. Mae iechyd dan reolaeth Llafur Cymru. Ni allwn osgoi craffu yma yng Nghymru. Fel y dywedais, os nad yw hwn yn argyfwng, beth sydd? A gawn ni fod yn onest â’r rheini rydym yn eu cynrychioli a’r gweithlu, ac yna cydweithio i wella'r sefyllfa?
Mae ein GIG ar ben ei dennyn. Mae'n rhaid i rywbeth newid. Mae problemau wedi bod ers tro gyda llif cleifion drwy ysbytai. Pan fyddwch yn cyfuno hyn â phwysau cynyddol ar ein gwasanaeth brys a mwy a mwy o gleifion yn cael eu hychwanegu at restrau aros, mae ein staff gweithgar yn cael eu gorfodi i weithio'n galetach, a gweithio'n galetach mewn amodau gwaeth.
Bydd rhai yn y Siambr hon na fyddant am glywed hyn; maent yn gwrthod ei gredu. Wel, peidiwch â chymryd fy ngair i—cymerwch air Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, a ryddhaodd ganfyddiadau porth pwysau'r GIG yn ddiweddar, man lle mae meddygon o bob rhan o Gymru wedi rhannu adroddiadau am gyflwr eu hamodau gwaith, a'r pwysau y maent yn ei wynebu o ddydd i ddydd. O drin cleifion mewn cypyrddau, ar gadeiriau, i weithio shifftiau 12 awr heb egwyl, datgelodd meddygon eu profiadau er mwyn tynnu sylw at y risg i ddiogelwch cleifion a staff. Roedd pryderon eraill yn cynnwys cleifion yn aros hyd at 14 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys fel y normal newydd, cleifion a oedd angen monitorau cardiaidd ddim yn cael eu monitro oherwydd diffyg lle, a chleifion yn cael eu trin yng nghefn ambiwlansys.
Mae’r streiciau diweddar gan nyrsys a gweithwyr ambiwlans yn ddewis olaf gan staff ymroddedig sydd â diogelwch cleifion yn ganolog yn eu gweithredoedd. Dyna ddaeth yn amlwg yn ystod fy ymweliadau â'r llinellau piced: ydy, mae tâl yn bwysig, ond mae diogelwch cleifion yn bwysig hefyd. Ni ddylai staff orfod streicio i wneud eu hamodau gwaith a'r amodau i gleifion yn ddiogel. Mae'n rhaid i rywbeth newid. Fel plaid, rydym bob amser wedi bod ar ochr gweithwyr sy'n ymladd dros gyflog teg ac amodau gwaith diogel. Mae digon o gyfleoedd wedi bod i Lywodraeth Lafur Cymru ddangos eu cefnogaeth i nyrsys. Nid ydynt wedi eu cymryd.
Yr her fwyaf i Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016 yw cynaliadwyedd y gweithlu nyrsio. Mae mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sydd i'w cael o nyrsys newydd gymhwyso neu nyrsys wedi'u recriwtio'n rhyngwladol. Yn anffodus, ni chymerwyd unrhyw gamau gan Lywodraeth Cymru ers adroddiad diwethaf y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2019 i fynd i’r afael â materion cadw nyrsys. Gyda mwy a mwy o bobl yn cael eu hychwanegu at restrau aros bob dydd, mae ein GIG mewn cylch dieflig. Ni allwn gyflymu llif cleifion drwy’r system hyd nes yr eir i’r afael â hynny, ac yn y cyfamser, mae ein staff iechyd a gofal sy’n cael eu gorweithio a heb ddigon o adnoddau yn gweithio ddydd a nos i gadw pethau'n symud, neu fel y mae llawer yn ei wneud, maent yn gadael y proffesiwn, a byth yn dychwelyd.
Mae dros 60 y cant o bobl ar y rhestr aros yn aros am eu hapwyntiad cyntaf fel cleifion allanol. Bydd angen ymdrech system gyfan i leihau'r ffigurau hyn ac i sicrhau bod pobl yn cael eu gweld mewn modd amserol. Mae’r oedi mewn apwyntiadau cleifion allanol, profion diagnostig a llawdriniaethau'n cael effaith drychinebus ar y bobl sy’n aros, yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr. Mae clinigwyr yn nodi enghreifftiau sy'n cynnwys pobl yn mynd at eu meddyg gyntaf pan fo'u canser ar gam hwyr, cataractau mwy cymhleth, a phobl a oedd yn cerdded gyda ffyn bellach angen cadeiriau olwyn.
Rwyf hefyd wedi sôn mewn cyfarfodydd craffu pwyllgorau am anghysondeb y Gweinidog yn galw ar bobl i ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb personol dros wneud ymarfer corff a byw bywydau iach ar adeg pan fo toriadau cynghorau'n digwydd oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth Cymru. Yn fy rhanbarth i, mae’n siŵr fod gan bobl Pontllan-fraith wên goeglyd ar eu hwynebau pan glywsant y Gweinidog iechyd yn sôn am bobl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb am eu hiechyd ar ôl i’r awdurdod lleol, a reolir gan Lafur, wneud popeth yn eu gallu i gau’r ganolfan hamdden leol. Dim ond her gyfreithiol a'u hataliodd. Ar ôl 25 mlynedd o reoli iechyd yng Nghymru, mae angen i staff a chleifion wybod pam y dylent fod â hyder yng ngallu Llafur i wella ein GIG. Nid oes a wnelo hyn â chlirio ôl-groniadau COVID yn unig—roedd y problemau a grybwyllais yn bodoli cyn y pandemig ac mae angen atebion ar frys i'w datrys. Mae cyflwr presennol ein GIG yn annerbyniol, ac ni ellir ei amddiffyn. Rydym mewn argyfwng iechyd. Rwy'n annog yr Aelodau i bleidleisio dros ein cynnig. Diolch yn fawr.
Mae argyfwng iechyd ledled y DU, nid yn unig yng Nghymru, ac mae’r holl dystiolaeth yn dangos bod hyn wedi gwaethygu dros y 12 mlynedd diwethaf ers dechrau cyni a thoriadau i wasanaethau cyhoeddus, ac y bydd yn gwaethygu o dan Lywodraeth Dorïaidd y DU a’u hargyfwng costau byw. Ni allwn edrych ar y GIG ar ei ben ei hun. Mae tai digonol, bwyd, addysg a gwaith teg oll yn cyfrannu at iechyd corfforol a meddyliol da. Flwyddyn ar ôl blwyddyn,gwelais wasanaethau ataliol yn cael eu gwasgu a’u torri wrth i gynghorau edrych ar unrhyw beth anstatudol. Fodd bynnag, mae llawer o’r gwasanaethau hyn wedi’u hachub, diolch i ddewisiadau cyllido Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd, a fydd yn dod i ben cyn bo hir. Mae'n bosibl y bydd y rheini a achubwyd o dan gyni 1 yn cael eu colli o dan gyni 2 a'r holl bwysau y maent oll yn ei wynebu.
Mae lleithder a llwydni mewn cartrefi yn dod yn fwy o broblem gan na all pobl fforddio eu gwresogi. Mae bwyd iach, cynnes, maethlon bellach yn foethusrwydd i lawer. Mae cynyddu cynhyrchiant y tu hwnt i derfyn rhesymol, lle mae pobl yn gorfod gweithio shifftiau 12 awr, dau ddiwrnod ac yna dwy noson, gan chwarae hafoc gyda'ch corff, eich iechyd meddwl a'ch teulu, hefyd yn arwain at oblygiadau. Pan siaradais â nyrsys ar y llinell biced a swyddog heddlu yn Lloegr, y shifftiau 12 awr di-baid a’r diffyg hyblygrwydd oedd yn broblem enfawr, nid cyflogau’n unig. Ac nid oes a wnelo hyn â'r GIG yn unig—mae angen i gyllid gofal iechyd cymdeithasol dyfu'n aruthrol o'r Llywodraeth ganolog yn unol â'r cynnydd yn y boblogaeth sy'n heneiddio. Mae hwnnw'n argyfwng sy'n ein wynebu. Mae mwy o dechnoleg ddatblygol—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Iawn, gwnaf.
Pan gyfarfuoch â’r nyrsys a oedd yn streicio ar y llinell biced, a wnaethoch chi roi gwybod iddynt fod iechyd wedi’i ddatganoli i’r Llywodraeth Lafur yng Nghymru ers bron i 25 mlynedd?
A dweud y gwir, roedd y rhan fwyaf o'r nyrsys yn sylweddoli bod eu cydweithwyr dros y ffin yn Lloegr ar linellau piced hefyd ac roeddent yn gwybod bod hyn yn broblem ledled y DU. A dyna maent yn ymladd drosto—dros gydweithwyr ledled y DU.
Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi anghofio fy lle ar ôl derbyn yr ymyriad. Mae mwy o dechnoleg ddatblygol, mwy o feddyginiaethau ar gael i helpu pobl, ac mae angen cyllid digonol ar hyn. Clywais feddyg yn dweud ar raglen Jeremy Vine, pan oedd ef yn gweithio, mai dim ond 7 y cant o'r gyllideb oedd yn cael ei gwario ar gyffuriau a meddygaeth; bellach, caiff 19 y cant o'r gyllideb ei gwario ar hynny, ond nid yw'r gyllideb wedi tyfu yn unol â hynny.
Mae pob un ohonom yn clywed am lawer o broblemau, ond ceir adroddiadau da hefyd. Bob wythnos, clywaf am fwy'n cael ei wneud yn wahanol yn y gymuned, ac mae hyn i'w weld yn gam da ymlaen. Y penwythnos hwn, dywedodd preswylydd wrthyf ei fod wedi cael llawdriniaeth fawr ar ei galon yn ddiweddar. Gweithiodd Ysbyty Maelor Wrecsam yn agos gydag ysbyty Broadgreen, ac mae bellach yn cael sesiynau adsefydlu ac asesu wythnosol drwy gyfleuster cymunedol yng Nghei Connah. Mae nyrs yn gwirio ei feddyginiaeth ac mae'n cael ymarferion yno, ac mae hi hefyd yn ei ffonio gartref. Dywedodd preswylydd arall wrthyf sut yr e-bostiodd luniau o smotyn nad oedd yn gwella at ei feddyg. Bu modd iddo edrych ar-lein, ei ffonio, a’i atgyfeirio at arbenigwr, a gafodd wared ar y melanoma malaen, a chafodd y mater ei drin yn gyflym gydag un ymweliad yn unig â’r ysbyty—cafodd popeth ei drin ar-lein. Felly, mae’r rhain yn ffyrdd da ymlaen.
Mae camau cadarnhaol yn cael eu cymryd, ac mae mwy nag erioed o leoedd hyfforddi i nyrsys a phroffesiynau perthynol yn cael eu cynnig, gyda chyrsiau newydd ym Mhrifysgol Glyndŵr, yn y gogledd-ddwyrain, yn ogystal â Bangor, ac ysgol feddygol newydd yn cael ei datblygu yn ogystal ag academi ddeintyddol. Mae mwy o welyau cymunedol ac ailalluogi yn cael eu cynnig yng Nghymru, megis yn Marleyfield ym Mwcle, diolch i’r gronfa gofal integredig a chyllid tai, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny’n parhau hefyd. Yn ddiweddar, ymwelais â hyb llesiant yng nghanol tref Wrecsam, sy’n cynnwys ystafell ymgynghori ar gyfer COVID hir, a chredaf fod un arall yn cael ei hadeiladu ym Mhenygroes, a fydd yn cynnwys ystafell ymgynghori yn y gymuned.
Mae gwasanaeth 'pwyswch 2' GIG 111 yn lansio yng ngogledd Cymru heddiw. Mae'n wasanaeth cyngor iechyd meddwl pwrpasol, sy'n cynnig cymorth i bobl o bob oed drwy rif ffôn sefydledig GIG 111. Ar hyn o bryd, mae hyd at 40 y cant o apwyntiadau meddygon teulu yn ymwneud â phryderon iechyd meddwl, a chyda gwasanaethau gofal sylfaenol yn parhau i wynebu pwysau, bydd y gwasanaeth newydd hwn yn helpu ac yn darparu'r cymorth sydd ei angen. Mae rhaglen newydd, unigryw i drawsnewid iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc yng ngogledd Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol, sef prosiect Bechgyn Coll gan gyngor sir Ddinbych, a ddarparodd fwy o wasanaethau cwnsela mewn ysgolion ar gyfer bechgyn ifanc a dynion rhwng 11 a 18 oed.
Felly, mae llawer yn dal i gael ei wneud, ac rwy'n deall bod gennym argyfwng hefyd, ond wrth gydnabod yr heriau sy'n ein hwynebu, ni ddylem anghofio'r gwaith anhygoel sy'n cael ei wneud gan ein gwasanaethau cyhoeddus anhygoel. Ond mae angen cyllid priodol arnom nawr gan Lywodraeth y DU i’w cefnogi. Diolch.
Mi wnaeth profiadau y pandemig a'r blynyddoedd diwethaf ategu neu atgyfnerthu rhywbeth roeddwn ni i gyd yn ymwybodol iawn ohono fe, sef bod y gweithlu nyrsio o fewn y gwasanaeth iechyd yn un a oedd yn dioddef o ddiffyg niferoedd, a oedd yn dioddef o dâl isel, ac a oedd yn dioddef o forâl hyd yn oed yn is. Rŷn ni wedyn yn gweld, wrth gwrs, gweithwyr ambiwlans yn mynd ar streic. Rŷn ni'n gweld, mae'n debyg, nawr, ei bod hi'n debygol iawn y bydd doctoriaid yng Nghymru yn dilyn y rheini wrth fynd ar streic hefyd, ac mae'n glir bod y sefyllfa bresennol yn anghynaladwy. Mae arweinyddion o fewn y gwasanaeth iechyd yn rhybuddio bod y gwasanaeth ar ymyl dibyn ac yn galw ar y Llywodraeth i wneud popeth o fewn ei grym i ddod â'r NHS yn ôl o'r ymyl dibyn yna, achos rŷn ni i gyd yn gwybod, wrth gwrs, y byddai goblygiadau difrifol iawn i beth allai fod yn dod yn sgil hynny.
Fel plaid, rŷn ni wastad wedi bod ar ochr gweithwyr iechyd a gweithwyr gofal, yn lladmeru dros dâl tecach ac i sicrhau cynaliadwyedd y proffesiwn. Dwi'n siŵr y bydd nifer ohonoch chi'n cofio sut roedd Plaid Cymru yn llais unig iawn am flynyddoedd yn dadlau dros ysgol feddygol ym Mangor—rhywbeth, wrth gwrs, erbyn hyn, mae'r Llywodraeth wedi ei gefnogi. Mi wnes i, ac mae nifer o Aelodau ar y meinciau yma a meinciau eraill wedi, godi'n gyson dros y ddegawd ddiwethaf yn galw am well cynllunio'r gweithlu o fewn y gweithlu iechyd, ond eto dyma ni heddiw, gydag un o bob wyth swydd nyrsio yng ngogledd Cymru yn wag. Canlyniad hynny, wrth gwrs, yw dibyniaeth ar asiantaethau nyrsio a gwariant ar draws Cymru o gannoedd o filiynau dros y blynyddoedd diwethaf.
Ni all Llywodraeth Cymru wrthod y cyfrifoldeb am hyn. Mae'n wir fod llawer o'r pwysau'n ymestyn y tu hwnt i Gymru ac yn effeithio ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ond ni all unrhyw un ddweud na chafodd Llywodraeth Cymru ei rhybuddio dros nifer o flynyddoedd am y bom amser hwn. Ni all unrhyw un wadu ychwaith fod gennych opsiynau i fynd i'r afael â'r argyfwng hwn. Gall pob un ohonom weld bod y ffordd y mae’r Llywodraeth wedi ymdrin â hyn hyd yma wedi ein harwain, i bob pwrpas, i’r sefyllfa rydym ynddi heddiw. Hyd yn oed cyn y streic gan aelodau'r Coleg Nyrsio Brenhinol, gwrthododd y Gweinidog iechyd gyfarfod â fforwm partneriaeth Cymru, er gwaethaf hanes hir y fforwm o bartneriaeth gymdeithasol gynhyrchiol. Roedd y penderfyniad i wrthod cyfarfod â fforwm partneriaeth Cymru yn enghraifft ddiangen o chwarae ar y dibyn, ac yn efelychu ymddygiad y Torïaid. Ond nid yw cyfarfodydd dilynol wedi dwyn ffrwyth. Mae’r cynnig diweddar o daliad amhenodol untro, a wrthodwyd gan yr undebau fel un anfoddhaol, yn rhan o batrwm hirach o ddiffyg strategaeth gydlynol ar gyfer y gweithlu gan y Gweinidog presennol a’i rhagflaenwyr hefyd wrth gwrs, gan fod llawer o hyn ymhell o fod yn newydd.
Rwy’n teimlo bod y Llywodraeth fel tôn gron, yn beio Llywodraeth y DU. Ac wrth gwrs, mae gan Lywodraeth y DU lawer i ateb drosto. Nefoedd, rwy’n codi ac yn dweud hynny yn y Siambr hon yn ddigon aml. Ond i mi, bob tro y mae’r Llywodraeth Lafur hon yn pwyntio bys at Lywodraeth San Steffan, mae’n cryfhau’r ddadl y dylid datganoli rhai o’r pwerau sydd ganddynt yno i'r lle hwn fel nad oes yn rhaid inni ddioddef a bod yn gaeth i'r penderfyniadau niweidiol a wnânt.
Nawr, un penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gyfrifol amdano, wrth gwrs, ac mae'n rhywbeth a godais yr wythnos diwethaf, yw cau ysbytai cymuned ledled Cymru. Clywsom sut mae 12 y cant o welyau ysbyty yn dioddef o oedi wrth ryddhau cleifion, ac mae cau ysbytai cymuned, yn fy marn i, wedi gwaethygu’r sefyllfa honno. Ymateb y Gweinidog oedd bod ysbytai cymuned yn ddrytach; mae hynny'n ddigon posibl. Rwyf wedi gweld ffigurau sy’n adrodd stori wahanol, ond nid oes gennyf unrhyw reswm i amau cywirdeb y Gweinidog yn hynny o beth. Ond wrth gwrs, dywedwyd wrthym ar y pryd, pan oedd y newid hwnnw'n digwydd, nad y gost oedd y rheswm. Y rheswm oedd yr angen i newid i fodel gofal newydd, gwell. Cawsom addewid o ofal cartref gwell, ond ni chafodd hynny byth mo'i gyflawni fel yr addawyd. Fe wnaethom rybuddio ar y pryd am y goblygiadau. Byddwch bob amser angen darpariaeth cam-i-lawr ar gyfer pobl sy'n rhy iach i fod yn yr ysbyty ond heb fod yn ddigon da i fod gartref. Yn y tir canol hwnnw, y ddarpariaeth honno sydd ei hangen. Pan fyddwch yn colli hynny, pam ein bod yn synnu bod cymaint o oedi cyn rhyddhau yn y system, fel y mae pethau ar hyn o bryd? Ac rydym yn gweld yn glir sut mae cau ysbytai cymuned o leiaf yn cyfrannu at yr argyfwng rydym ynddo ar hyn o bryd.
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl hon heddiw, achos mae'n gwbl hanfodol ein bod ni'n tynnu sylw at yr heriau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd rhag ofn iddyn nhw gael eu normaleiddio. A dyna'r perygl mawr yw bod y diffygion presennol yn dod yn rhan normal o'r gwasanaeth yn symud ymlaen i'r dyfodol. Dwi hefyd yn croesawu'r cyfle hwn i alw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ystod lawn o bwerau sydd ganddyn nhw i geisio mynd i'r afael â'r amryw broblemau yn y sector iechyd, fel rŷn ni wedi clywed yn barod. Gall, ac fe ddylai, bobl Cymru ddisgwyl gwell na hyn.
Rŷn ni eisoes wedi clywed heno am yr amrywiaeth o faterion cymhleth sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd. Mae amseroedd aros ambiwlansys yn amlygu'n glir y pwysau aruthrol sy'n wynebu'r sector. Ym mis Tachwedd yn unig, roedd 4,600 o alwadau coch wedi eu gwneud i'r gwasanaeth ambiwlans—y nifer uchaf erioed o alwadau coch mewn un mis. Cyrhaeddodd llai na hanner yr ambiwlansys hyn o fewn yr amser targed o wyth munud. Mae gormod o bobl, felly, yn gorfod aros am oriau am ambiwlansys, yn aml yn cael eu hannog i deithio i adrannau A&E eu hunain, ac mewn sawl achos, does dim hyd yn oed ambiwlans ar gael.
Mae cymaint o straeon torcalonnus wedi bod dros y gaeaf hwn. Ychydig cyn y Nadolig, fe welson ni lun hynod o ddirdynol ar y newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol o wraig 93 oed, un o fy etholwyr i, yn gorwedd ar y llawr ar ôl cael ei gadael yn sgrechian mewn poen wrth iddi aros 25 awr am ambiwlans. Ac mae'n bwysig inni gofio, wrth gwrs, y tu ôl i'r straeon niferus hyn a'r ystadegau moel, mae yna bobl go iawn a theuluoedd go iawn yn gwylio eu hanwyliaid mewn poen.
Wrth gwrs, dim ond rhan gyntaf y stori yw aros am ambiwlans. Mae oedi critigol mewn amseroedd ymateb yn cael ei achosi gan orlenwi a phrinder gwelyau ysbyty ar y pen arall, sy’n golygu bod cleifion yn aml yn gorfod aros am oriau mewn ambiwlansys oer y tu allan i adrannau brys cyn y gellir eu derbyn. Cysylltodd etholwr â mi yn ddiweddar i ddweud wrthyf am yr hyn a oedd wedi digwydd i’w hanwylyd, sy’n glaf canser. Er ei bod ar rybudd melyn am ambiwlans, fe'i gorfodwyd serch hynny i aros chwe awr am ambiwlans. Yna, bu'n rhaid iddi aros am chwe awr arall y tu allan i'r adran damweiniau ac achosion brys cyn y gellid ei throsglwyddo. Ym mis Hydref, cofnodwyd 28,143 o 'oriau a gollwyd' am fod criwiau'n gorfod aros gyda chleifion nad oeddent yn gallu cael eu trosglwyddo i ofal unedau brys yng Nghymru. Mae hynny bron yn 30,000 o oriau mewn un mis y gellid ac y dylid bod wedi'u treulio'n ymateb i alwadau eraill lle roedd bywydau pobl yn y fantol.
Yn ôl pennaeth Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, cafwyd rhai digwyddiadau lle roedd parafeddygon wedi dechrau eu shifft, wedi mynd â chlaf i’r adran damweiniau ac achosion brys, wedi eistedd gyda hwy am weddill eu shifft, wedi gorffen eu gwaith ac wedi mynd adref, dim ond i ddychwelyd 12 awr yn ddiweddarach i weld yr un claf eto yn yr un ambiwlans, am nad oeddent wedi gallu mynd i’r adran damweiniau ac achosion brys. Gwn fod hyn yn destun rhwystredigaeth aruthrol i barafeddygon—ac i’r Gweinidog hefyd, rwy’n siŵr—sydd am fod allan yno'n sicrhau bod gofal achub bywyd yn cael ei roi i bawb sydd ei angen.
Yng nghanol popeth sy'n digwydd, mae Llywodraeth Cymru mewn perygl difrifol ar hyn o bryd o golli ffydd a chefnogaeth ein gweithwyr iechyd, a’r cyhoedd yn ehangach, yn ei gallu i reoli’r gwasanaeth iechyd. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod gweithwyr ambiwlans bellach wedi penderfynu mynd ar streic—rhywbeth rwy'n siŵr sydd wedi pwyso yn drwm iawn arnyn nhw.
Mae’n gwbl amlwg bod angen mynd i’r afael â'r pwysau sydd ar y gwasanaeth ambiwlans ar frys oherwydd eu bod yn cael effaith trychinebus ar gleifion a staff. Rwy’n annog Llywodraeth Cymru, felly, i ailddyblu ei hymdrechion, ac i ddefnyddio pob lifer posibl i fynd i’r afael â’r argyfwng gwirioneddol hwn.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i gyfrannu i'r ddadl, Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Lywydd. Nid oeddwn yn siŵr beth oedd Plaid Cymru yn gobeithio'i gyflawni drwy wneud i Lywodraeth Cymru ddatgan argyfwng iechyd yng Nghymru, felly, rwy’n falch fy mod bellach yn ymwybodol o dri phrif bwynt yr hyn roeddech am inni ganolbwyntio arno, ac rwy'n ddiolchgar amdanynt. Felly, un ohonynt oedd helpu i ganolbwyntio ar ddod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i’r afael â’r problemau a wynebwn, a chanolbwyntio ein holl bwerau gwario ar y materion sydd o bwys, a’r prif un yw datrys anghydfodau cyflog yn ogystal ag edrych ar strwythurau’r Llywodraeth.
Gadewch imi ymateb i'r pwyntiau hynny yn eu trefn. Yn gyntaf oll, dod o hyd i ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â'r problemau a wynebwn—rydym yn gwneud hynny. Mae gennym £144 miliwn yn y gronfa integreiddio rhanbarthol sy'n gwneud hynny'n union—edrych am ffyrdd arloesol o wneud pethau. Ac yna, yr holl bwynt i mi yw bod yn rhaid i chi wedyn wneud yr hyn sy'n gweithio ar raddfa fwy. Felly, er enghraifft, rydym yn edrych mewn ffordd arloesol ar y ffordd y mae Caerdydd yn ymdrin â'u hamseroedd aros hir mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ar hyn o bryd, ac mae'n eithaf llwyddiannus, ac rydym nawr yn ceisio gwneud hynny ar raddfa fwy a gwneud hynny ledled Cymru gyfan. Mae gennym gapasiti newydd o welyau cymunedol—mae hynny, unwaith eto, yn ddull arloesol. Ac rwyf wedi dweud dro ar ôl tro fod y chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal argyfwng yn dechrau dwyn ffrwyth go iawn: mae gennym lwyth o fesurau eleni nad oeddent ar waith y llynedd.
Cefais fy synnu'n fawr wrth glywed am strwythurau’r Llywodraeth. Nid wyf yn siŵr a yw ailstrwythuro'n syniad da yng nghanol cyfnod anodd iawn. Rydym yn canolbwyntio'n llwyr ar y gwaith sydd i'w wneud, ond yr hyn a ddywedaf wrthych yw fy mod yn derbyn bod angen inni gael dadl fwy cynhwysfawr ar adeg pan ydym yn gwybod fod gofal yn mynd yn fwy cymhleth a phan fo gennym boblogaeth sy'n heneiddio.
Diolch am dderbyn ymyriad. Un awgrym fyddai sicrhau bod Gweithrediaeth GIG Cymru sydd wedi'i sefydlu yn gorff a all wneud gwahaniaeth gwirioneddol—fod ganddo ddannedd. Dyna'r math o ffocws rwy'n ei olygu o ran strwythurau'r Llywodraeth.
Ie, yn hollol, ac mae hynny'n digwydd eisoes. Felly, dyna pam ein bod wedi bod yn cynnal yr uwchgynadleddau hyn, sydd fwy neu lai wedi’u trefnu gan weithrediaeth y GIG, sydd ar ffurf gysgodol ar hyn o bryd.
Ond roedd gennyf ddiddordeb mawr yn eich pwynt eich bod am inni ganolbwyntio ein holl bwerau gwario ar y materion sydd o bwys, sef datrys yr anghydfod cyflog. Mae llawer o'ch cyd-Aelodau wedi sôn am bethau eraill—fod yn rhaid inni gael ysbytai cymuned hefyd, a bod yn rhaid inni gael mwy o bobl i ymateb i alwadau ambiwlans, a bod prinder gwelyau. Mae honno'n rhestr eithaf hir, felly nid wyf yn siŵr a ydych am inni ganolbwyntio popeth ar yr anghydfod cyflog—
Os gwnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad, byddaf yn falch o egluro hynny eto.
Iawn.
Yr hyn a ddywedais oedd y dylai datrys yr anghydfod cyflog fod ar frig y rhestr.
Iawn. Wel, mae hynny'n iawn. Wel, os yw ar frig y rhestr, rwy'n chwilfrydig iawn, felly—. Rwy'n chwilfrydig iawn, mae gennym gytundeb cydweithio; prin fod sôn am iechyd yn eich cytundeb cydweithio. Mae iechyd meddwl yno; ond nid oes gair am iechyd. A chredaf ei bod yn wirioneddol bwysig i bobl ddeall bod yn rhaid inni ryddhau arian o rywle, ac ni allaf eich gweld yn codi eich llaw i ddweud wrthym yn union ble rydych eisiau inni dorri.
Os gwnaiff y Prif Weinidog ganiatáu imi ddatgelu pam nad yw iechyd wedi’i gynnwys yn y cytundeb cydweithio, rwy’n fwy na pharod i gofnodion y trafodaethau hynny gael eu cyhoeddi.
Mae gennych sefyllfa lle mae gennym gytundeb cydweithio, ac mae arian yn y gyllideb. Os ydych yn dweud bod angen inni ailflaenoriaethu popeth, yna rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn gwbl glir eich bod chi wedi gwneud rhai penderfyniadau. Rydych wedi gwneud penderfyniadau gwleidyddol, ac mae'n rhaid ichi sefyll wrth y rheini.
Nawr, roedd y system, yn enwedig dros y Nadolig, o dan fwy o bwysau nag y mae’r GIG erioed wedi’i brofi. Roedd y galw drwy’r to—roedd gennym COVID, roedd gennym y ffliw, roedd gennym strep A, a daeth pob un ohonynt ar yr un pryd i ychwanegu galw ychwanegol sylweddol ar wasanaeth a oedd eisoes dan bwysau. A pheidiwch ag anghofio: rydym yn dal i fod mewn pandemig, ac rydym hefyd yn ceisio adfer gwasanaethau ar yr un pryd. Awgrymodd y Prif Weinidog yn ddiweddar fod dyddiau, yn sicr, pan oedd yn rhaid ei bod yn teimlo fel argyfwng, i’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaeth ac i’r rheini sy’n darparu’r gwasanaeth, ond ar yr un pryd, pan oedd rhannau o’r system yn teimlo dan warchae, roedd rhannau eraill o’r system yn cyflawni ar raddfa nad ydym erioed wedi’i gweld o’r blaen, a hoffwn ddiolch i’r GIG a’r staff am eu hymdrechion anhygoel.
Felly, gadewch imi roi syniad i chi o raddfa'r hyn rydym yn sôn amdano. Mae gwybodaeth reoli'r GIG ar gyfer mis Rhagfyr yn awgrymu y gwnaed oddeutu 350,000 o gysylltiadau â phractisau meddygon teulu bob wythnos. Am wythnos, cyrhaeddodd hyn 400,000 o gysylltiadau. Mewn mis, cafodd 100,000 o wahanol bobl apwyntiad deintyddol o dan y GIG; cafwyd oddeutu 127,000 o apwyntiadau llygaid; 18,000 o ymgynghoriadau'r cynllun anhwylderau cyffredin mewn fferyllfeydd cymunedol; gwnaed 2,000 o brofion dolur gwddf; a chynhaliwyd 4,000 o ymgynghoriadau gan fferyllwyr-bresgripsiynwyr. Ac yn ychwanegol at hynny—[Torri ar draws.] Na, os nad oes ots gennych, rwy'n mynd i barhau. Yn ychwanegol at hynny, cynhaliwyd 375,000 o ymgynghoriadau gofal eilaidd ym mis Hydref yn unig. Felly, ydy, mae hon yn system sydd o dan straen, ond mae'r GIG yn ymdrin ag oddeutu 2 filiwn o gysylltiadau bob mis. Pob mis. Felly, oes, mae rhannau ohoni o dan straen, ond gadewch inni beidio ag esgus bod y system gyfan mewn argyfwng. Ac ar ben hynny, wrth gwrs, roeddem yn gwneud pethau eraill. Rhoddwyd pigiadau atgyfnerthu COVID i 80 y cant o oedolion dros 65 oed yng Nghymru. Cafodd 75 y cant o bobl dros 65 oed eu brechiadau ffliw—mesurau sy’n anochel yn lleihau’r pwysau a allai fod wedi taro’r system fel arall.
Felly, roedd profiadau’r mwyafrif helaeth o'r bobl hyn yn rhai cadarnhaol, ac rwy’n siŵr na fyddai’r rhan fwyaf ohonynt yn dweud eu bod yn teimlo bod y system mewn argyfwng o ran eu profiad personol. Ond rwy'n cydnabod bod y pwysau wedi bod yn hynod o ddwys ar rai rhannau o'r system, er gwaethaf y gwaith paratoi enfawr a wnaed gennym. Yr holl wasanaethau newydd rydym wedi’u rhoi ar waith—y gwasanaeth 111, canolfannau gofal sylfaenol brys newydd, canolfannau newydd ar gyfer gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod, 100 o staff ambiwlans newydd, fferyllfeydd a all roi cyngor, 508 o welyau cymunedol ychwanegol—mae pob un o’r gwasanaethau hynny wedi dargyfeirio miloedd o bobl oddi wrth adrannau damweiniau ac achosion brys, ac nid oedd dim o hynny'n bodoli y llynedd.
Gwnaeth rhai pobl bwyntiau ynglŷn â gwasanaethau digidol. Mae angen inni fynd yn llawer pellach gyda gwasanaethau digidol. Rydym yn gwario mwy y pen ar wasanaethau digidol nag a wnânt yn Lloegr. Iechyd menywod—mae hynny'n sicr yn uchel iawn ar fy agenda. Hybiau llawfeddygol—ymatebais i lawer o'r pwyntiau a wnaethoch heddiw yn gynharach yn yr wythnos.
Llyr, nid wyf yn gwybod o ble y cawsoch chi'r syniad nad wyf yn cyfarfod â gweithlu'r GIG. Cyfarfûm â hwy ddydd Iau, a chyfarfûm â mwy o bobl eto ddydd Llun. Felly, mae gennym berthynas eithaf da gyda'r undebau mewn gwirionedd. Nid ydym yn cytuno bob amser, ond rydym yn cyfarfod â hwy'n rheolaidd iawn. Gadewch inni beidio ag anghofio bod COVID gyda ni o hyd, a bod oddeutu 7 y cant o'n gweithlu adref yn sâl. Mae hynny’n rhoi pwysau ar y system, wrth gwrs.
O ran rhestri aros yn gyffredinol, roedd yna ostyngiad yng nghyfanswm y bobl sy'n disgwyl triniaeth yn Hydref, ac mae hyn yn duedd dwi'n gobeithio fydd yn parhau yn ystod y misoedd nesaf. Mae'n ddiddorol nodi bod cyfanswm y llwybrau agored yn Lloegr wedi cynyddu 21 y cant dros y 12 mis diwethaf o fis Hydref, tra bod y nifer yng Nghymru wedi cynyddu dim ond 10 y cant yn ystod yr un cyfnod.
Hoffwn ddweud rhywbeth hefyd am gynllun addysg AaGIC a gyhoeddwyd heddiw. Mae'n hollol gywir fod angen mwy o nyrsys, a dyna pam ein bod wedi sicrhau cynnydd o 8 y cant tuag at yr arian a rown i hyfforddi pobl: bydd £281 miliwn yn cael ei fuddsoddi i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr GIG, ac mae hynny'n cynnwys y ffaith y bydd gennym 400 yn rhagor o leoedd hyfforddi nyrsys wedi'u creu yn 2023 a 2024. Mae hwnnw'n gynnydd o 54 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. Felly, os edrychwch ar fanylion yr hyn a wnawn gyda hyfforddiant, yn amlwg nid yw'n rhywbeth nad ydym wedi bod yn ei wneud ers blynyddoedd; dyma arian rydym wedi bod yn ei roi yn y system flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gennym gynnydd o 54 y cant yn nifer y bobl sy'n gweithio yn y GIG o'i gymharu ag 20 mlynedd yn ôl.
Nid yw hyn yn rhywbeth nad ydym wedi paratoi ar ei gyfer; ond mae'r galw'n cynyddu'n aruthrol, a'r hyn a welsom oedd COVID, strep A, a'r ffliw i gyd yn dod at ei gilydd dros y cyfnod anodd hwnnw, ac nid ydym wedi dod allan ohoni eto. Gadewch inni fod yn glir am hyn—mae'r tywydd yn oer iawn, ac rwy'n disgwyl gweld effaith y tywydd oer ar y gwasanaethau. Felly, bydd yn parhau i fod yn anodd tu hwnt. Mae hyn yn rhywbeth y mae systemau ym mhob rhan o'r byd yn ei wynebu. Ond gadewch inni fod yn gwbl glir nad yw 10 mlynedd o gyni Torïaidd wedi helpu, a'r ffaith amdani yw, er bod cynnydd yn y gyllideb, o tua 2010 i 2019, roedd oddeutu 16 y cant yn y DU; roedd yn gynnydd o 38 y cant yn yr Almaen. Nawr, mae canlyniad i hynny; maent yn adnabod poblogaeth sy'n heneiddio. Rydych chi'n gwybod ac mae pawb yn gwybod yma fod yr hyn a gewch yn ychwanegol tuag at wariant ar iechyd yn Lloegr, ein bod ni'n cael swm cymesur, cyfartal yn dod i Gymru, ac nid yw hynny wedi digwydd—[Torri ar draws.]—i'r graddau—. Iawn, mwy, ond hoffwn gael ychydig mwy na'r hyn rydych chi wedi'i roi i mewn. Ceisiwch ymddwyn ychydig yn fwy fel yr Almaen, a byddem mewn lle llawer gwell. Diolch yn fawr.
Rhun ap Iorwerth, nawr, i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Fy ofn mwyaf y prynhawn yma fyddai y byddwn yn clywed y Gweinidog yn dweud, 'Rydym eisoes yn gwneud popeth sydd angen ei wneud i ddatrys yr argyfwng.' Yr hyn a glywsom oedd y Gweinidog yn dweud bod popeth eisoes ar y gweill, mae popeth eisoes yn cael ei wneud i ddatrys yr argyfwng. Mae'n amlwg nad yw hynny'n digwydd, ac mae'n groes i'r holl dystiolaeth sydd gennym o'n blaenau. Gwrthododd dderbyn y gair 'argyfwng'—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Gwnaf, yn sicr.
Rwy'n dweud hyn yn gwbl onest a diffuant, onid ydych chi'n meddwl, ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur Cymru yn rheoli'r gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ac ar adegau wedi ei chynnal gan Blaid Cymru—rydych chi wedi bod yn y Llywodraeth eich hun yma—onid ydych chi'n credu mai dyma'r amser i gael Llywodraeth Geidwadol i Gymru ym Mae Caerdydd?
Nid oes gennyf ddigon o amser i ddisgrifio'r niwed y credaf y byddai cael y Ceidwadwyr wrth y llyw yn ei achosi i'r gwasanaeth iechyd gwladol. Fe symudaf ymlaen yn gyflym, ac yn ôl at y sylwadau a glywsom gan y Gweinidog iechyd, a oedd unwaith eto'n osgoi'r bai, dro ar ôl tro, a dywedodd fod y galw wedi bod yn ddigynsail. Wrth gwrs fod y galw'n ddigynsail, ond mae'r galw digynsail hwnnw'n rhan o'r hyn sy'n creu'r argyfwng. Mae'n fethiant i ymdrin â'r galw digynsail hwnnw, a'r ffactorau hynny sydd wedi arwain at y galw digynsail hwnnw a blynyddoedd o gamreoli'r agenda ataliol y mae gwir angen inni weld newid gêr arni neu byddwn yn ôl yma ymhen 25 mlynedd eto yn siarad am yr un problemau.
Roedd y Gweinidog am roi'r bai ar y cytundeb cydweithio. Mae yna reswm da iawn pam fod iechyd—. Mae gofal cymdeithasol, yn sicr iawn, yn y cytundeb cydweithio. Mae rheswm da iawn pam nad yw iechyd yno, gan ein bod yn anghytuno â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag iechyd, a dyna pam na allwn gytuno ar ffordd ymlaen ar hynny. Ond gwrthododd y Gweinidog ddefnyddio'r gair 'argyfwng', gan fabwysiadu agwedd debyg i'r Prif Weinidog wythnos yn ôl: 'Weithiau mae'n teimlo fel argyfwng', 'Mae yna ddyddiau pan fo'n wael.' Roedd Carolyn Thomas yn hapus i gyfaddef bod yna argyfwng yng Nghymru, fel yng ngweddill y DU, fel y dywedodd. Fe glywsom eich arweinydd Llafur, Syr Keir Starmer, yn dweud heddiw fod yna argyfwng iechyd, a galwodd ar Rishi Sunak i roi'r gorau i feio eraill ac ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb a chyfaddef bod y GIG, o dan ei oruchwyliaeth ef, mewn argyfwng. Wel, o dan eich goruchwyliaeth chi, mae'r GIG mewn argyfwng yng Nghymru, ac mae'n fy mhoeni'n fawr na wnewch chi gyfaddef hynny.
Sylwadau pwysig iawn gan Cefin Campbell, a ddywedodd na ddylem byth dderbyn normaleiddio cyflwr presennol y GIG. Mae hynny'n golygu peidio â derbyn bod yn rhaid iddi fod fel hyn. Mae hynny'n golygu derbyn bod y rhain yn amseroedd eithriadol ac felly, fod angen inni gamu i'r adwy, ei dderbyn am yr hyn ydyw, sef argyfwng. Gallwch ei alw'n 'emergency' os hoffwch—yr un gair ydyw yn Gymraeg. Ond mae angen inni gael y cyfaddefiad fod rhaid i rywbeth gwahanol ddigwydd.
Fel finnau, nid oedd Russell George yn bychanu maint yr her. Fe wnaeth y pwynt hefyd ein bod yn defnyddio geiriau'n ofalus. Rydym yn defnyddio 'camreoli' yn ofalus, rydym yn defnyddio 'argyfwng' yn ofalus. Fe wnaf fesur fy ngeiriau'n ofalus a gofyn iddo bwyso ar ei feistri Ceidwadol i fynd i'r afael â'r modd truenus y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu tanariannu. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog Llafur ar hynny. Ond ni all guddio y tu ôl i'r realiti, oherwydd mae ganddi gyfrifoldeb i gyflawni ar gyfer y GIG yng Nghymru. Fel y dywedodd Llyr Gruffydd, ni all ymwrthod â'r cyfrifoldeb.
Rwyf am orffen gyda dyfyniad o fyd busnes. Mae'r hanner cyntaf yn dweud,
'Mae rheoli'n ymwneud â gwneud pethau'n iawn.'
Rwyf wedi cyhuddo Llafur eto heddiw, fel y gwneuthum sawl gwaith yn y gorffennol, o fod yn rhy reolaethol yn ei dull o redeg y GIG. Felly, mae rheolaeth yn ymwneud â gwneud pethau'n iawn. Yn anffodus, yn rhy aml nid yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gwneud rhai o'r pethau allweddol yn iawn. Ond mae yna ail hanner i'r dyfyniad:
'Mae rheolaeth yn ymwneud â gwneud pethau'n iawn; mae arweinyddiaeth yn ymwneud â gwneud y pethau iawn.'
Mae angen gwneud y pethau iawn nawr yn fwy nag erioed. Dyna'r arweinyddiaeth y mae pobl eisiau ei gweld gan Lywodraeth Cymru. Mae hynny'n golygu gwneud pethau'n wahanol, gan gyfaddef ei bod hi'n argyfwng, neu bydd yr argyfwng yn dyfnhau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad. Felly, byddwn ni'n pleidleisio ar y cynnig yna yn ystod y cyfnod pleidleisio.
Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch, rydyn ni'n symud yn syth i'r cyfnod pleidleisio.