– Senedd Cymru ar 26 Chwefror 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Neil McEvoy, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian, gwelliant 5 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 5 a 6 yn enw Neil Hamilton. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol.
Mae'n dod â ni at yr eitem nesaf, sef dadl gan Blaid Brexit, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol. Disgrifiodd Ron Davies ddatganoli fel proses, nid digwyddiad. Mae 'proses sy'n esblygu' yn ffordd arall o ddweud 'dim trefniant sefydlog'. Caiff ein trefniadau cyfansoddiadol eu herio'n gyson a chredwn fod hynny'n fethiant. Gall Llywodraeth Cymru honni yn ei gwelliant mai ein sefydliadau datganoledig presennol yw ewyllys sefydlog pobl Cymru, ond dyna'r cyfan ydyw: honiad. Os yw'r sefydliadau hyn wedi cael cefnogaeth mor sefydlog, pam y mae Llywodraeth Cymru bob amser yn ysu i newid y sefydlogrwydd tybiedig hwnnw?
Wrth gwrs, drwy hanes, mae pobl a sefydliadau'n ysu am arian a phŵer. Mae Llywodraeth Cymru yn y Cynulliad hwn yn mynnu mwy o arian a mwy o bŵer, ac yn honni y caiff ei wario neu ei arfer yn well na Llywodraeth y DU. Ond beth a gyflawnwyd? O ran addysg, mae Cymru'n dal i fod ar waelod y tabl yn y DU o hyd ac yn is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd mewn mathemateg, darllen a gwyddoniaeth ar ganlyniadau PISA. O ran iechyd, mae gennym niferoedd uwch nag erioed yn aros dros 12 awr mewn adran damweiniau ac achosion brys—ddwy waith a hanner yn fwy nag yn Lloegr—ac mae gennym fwrdd iechyd sy'n gaeth i fesurau arbennig am dymor Cynulliad cyfan. Yn y cyfamser, mae'r cyflog wythnosol gros yng Nghymru £50 yn is na chyfartaledd y DU, bwlch sydd wedi tyfu'n aruthrol yn ystod datganoli. A lle mae gan Lywodraeth Cymru ddulliau o wella ein perfformiad economaidd, mae'n methu eu defnyddio'n effeithiol. Gwelwn y costau'n cynyddu o hyd ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, sydd ymhell o fod wedi'i chwblhau, tra gwariwyd £114 miliwn ar ffordd liniaru'r M4 a addawyd, ond sydd wedi ei chanslo bellach, gan dorri de Cymru oddi wrth ffynonellau allweddol o dwf economaidd. Gallwch edrych ymlaen at glywed gan fy nghyd-Aelod Mandy Jones am ogledd Cymru.
Felly, ai ewyllys sefydlog pobl Cymru mewn gwirionedd yw y dylai Llywodraeth y DU gael ei hamddifadu o bŵer, sylwedd ac awdurdod am byth er budd Llywodraeth a Chynulliad Cymru? Nid wyf yn credu hynny. Pleidleisiodd Cymru 4:1 yn erbyn datganoli yn 1979, ac o ffracsiwn o ganran dros fodel cyfyngedig—gan ddatganoli pwerau Gweithredol a gweinyddol Swyddfa Cymru—yn 1997. A dylem wynebu'r ffaith bod llwybr datganoli yng Nghymru wedi digwydd yn sgilwynt yr Alban. Wrth gwrs, ceir llawer o arolygon barn y gallwn sôn amdanynt, ond ar unrhyw fesur, mae'r galw am hunanlywodraeth, ymreolaeth neu annibyniaeth yng Nghymru yn llai nag yn yr Alban. Ond mae Llywodraeth Cymru yn hoffi cael mwy o bŵer, felly dywed fod yn rhaid i ni gael yr un peth â'r Alban. Mae hunan-les sefydliadau a gwleidyddion datganoledig yn gweithredu i gynyddu rhaniad a phwysleisio gwahaniaeth rhwng Cymru a Lloegr. A yw pobl eisiau hynny, ac a yw strwythur datganoli'n gynaliadwy?
Mae'r pwerau mwy sydd gan Lywodraeth a Senedd yr Alban—y rhai a roddwyd drwy'r addewid drwgenwog—yn adlewyrchu ofn gwleidyddion y DU y byddai'r Alban fel arall yn pleidleisio dros annibyniaeth. Nid yw'r un peth yn wir mewn perthynas â Chymru. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a—medd y papur trefn wrthym bellach—Gogledd Cymru yn ysgrifennu llythyrau bygythiol i San Steffan, yn mynnu datganoli'r rheilffyrdd yn llawn, doed a ddelo. Mae'n dweud wrth ASau San Steffan fod yn rhaid ei wneud er mwyn achub yr undeb, o ystyried bod yna symudiad cynyddol dros annibyniaeth i Gymru. Mae arnaf ofn, ar y mater hwn, nad yw'n cael ei gymryd o ddifrif.
Mae'r Prif Weinidog, o leiaf, o ddifrif ynghylch diffyg ariannol Cymru. Yn ôl Canolfan Llywodraethiant Cymru, roedd cyfanswm gwariant y Llywodraeth yng Nghymru yn 2019 yn £13.7 biliwn yn fwy na'r trethi ac incwm arall y Llywodraeth a godwyd yng Nghymru. Mae'r diffyg ariannol hwnnw'n gyfwerth â 19.4 y cant o gynnyrch domestig gros Cymru, o'i gymharu â thua 7 y cant yn yr Alban. Dyma ddadl gref y Prif Weinidog yn erbyn annibyniaeth; galwad Plaid Cymru fod Lloegr yn mynd â £1 o bob £5 a werir yng Nghymru. Eto i gyd, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon cuddio y tu ôl i'r alwad honno, wrth iddi ysu am fwy a mwy o ddatganoli. Yr alwad ddiweddaraf, a fynegwyd mewn adroddiad hir a pharchus a gomisiynwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yw datganoli cyfiawnder a phlismona. Gan fod y llysoedd a'r heddlu'n cydgysylltu â gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi'u datganoli, dywedir wrthym fod yn rhaid eu datganoli hwythau hefyd, er y gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd wrth gwrs. Yn yr un modd, dywedir wrthym ei bod yn afresymegol i ddeddfwrfa beidio â chael ei hawdurdodaeth ei hun, ac felly fod yn rhaid i Gymru gael ei hawdurdodaeth gyfreithiol, ar wahân i gyfraith Lloegr a chyfraith Seisnig. Unwaith eto, gall y rhesymeg honno weithio'r ddwy ffordd.
Beth a wnawn os bydd pleidleiswyr yn Lloegr yn penderfynu eu bod wedi cael digon ar y gost y mae datganoli'n ei achosi iddynt hwy wrth i'r llywodraethu sy'n gyffredin rhyngom erydu? Mae nifer, gan gynnwys yn y Siambr hon, yn cydnabod pa mor galed yw hi i gysoni datganoli yn y DU â rhesymeg systemau gwleidyddol a welwn mewn mannau eraill yn y byd. Ddydd Sadwrn, yn Newcastle, clywais y cyn-Brif Weinidog yn amlinellu ei weledigaeth o DU ffederal. Clywais David Melding yn datblygu ei syniadau yn y maes hwn ar sawl achlysur. Yn wir, clywsom ddoe fod ei gyd-Aelod, Darren Millar, yn ochri ag ef bellach, er nad wyf yn gwybod a yw hynny wedi digwydd drwy rym rhesymeg neu o'i ailadrodd yn ddigon aml. Nid wyf wedi fy mherswadio gan eu hachos. Y rheswm am hynny yw, er fy mod yn pwysleisio'r hyn sy'n gyffredin rhwng Cymru a Lloegr, mae'r gwahaniaethau'n fwy na'r rheini rhwng rhanbarthau Loegr. Ac fel y gwelsom mewn refferendwm yng ngogledd-ddwyrain Lloegr, nid oes llawer o awydd yno i gael Cynulliadau ar wahân. Y dewis arall yn lle hynny, mewn system ffederal, yw Senedd i Loegr. Yn ogystal â'r tebygolrwydd y byddai'n creu haen arall o wleidyddion nad oes galw amdani, byddai pŵer, maint a chyllideb sefydliad o'r fath, a'i Lywodraeth gysylltiedig yn ôl pob tebyg, yn awgrymu goruchafiaeth a fyddai ynddi'i hun yn tueddu i danseilio sefydliadau a fyddai'n parhau ar sail y DU.
Mae nifer o'r Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE, ac sy'n teimlo bod y DU yn cael ei lleihau drwy adael yr UE, yn ofni y bydd hyn yn arwain at uno Iwerddon ac annibyniaeth yr Alban. [Torri ar draws.] Rwy'n ildio i'r Aelod dros Fynwy.
Diolch am ildio, Mark. Rwy'n cofio pan ddywedodd Dafydd Elis-Thomas wrthyf unwaith, neu pan ddywedodd wrth y Siambr hon rai blynyddoedd yn ôl—neu credaf mai ar y radio ydoedd a dweud y gwir, Dafydd—mai'r Wyddfa oedd y copa uchaf yng Nghymru, a chan nad oedd dim yn uwch yn Lloegr, dyna oedd y copa uchaf yn Lloegr hefyd. Rwy'n cofio hynny'n dda. Rydych yn llygad eich lle yn dweud bod Cymru a Lloegr yn wahanol.
Er hynny, onid yw'n werth edrych ar y system ffederal hon? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, ac i fy nghyd-Aelodau ar y fainc flaen yma, yn ffordd i ni allu symud ymlaen i ddiogelu'r DU; ond ar yr un pryd i roi'r math o lais annibynnol i Gymru sydd ei angen arni o fewn y strwythur.
Ie, yr Wyddfa yw'r mynydd uchaf yng Nghymru a Lloegr, yn sicr—[Torri ar draws.] Y mynydd uchaf yng Nghymru hefyd. Mae hynny'n wir hefyd. Nid wyf yn meddwl mai dyna'r mynydd uchaf yn Lloegr, beth bynnag a ddywedodd Dafydd Elis-Thomas yn flaenorol.
Rwyf wedi rhoi sylw difrifol i'r dadleuon. Mae gan lawer o wledydd yn y byd systemau ffederal, ac un o atyniadau posibl system ffederal yw bod llawer, os nad y rhan fwyaf ohonynt, yn sefydlog. Felly, yn hytrach na chael y broses hon o ddatganoli mwy fyth a'r llethr llithrig hwn, mae'n bosibl y gallem roi system sefydlog yn ei lle.
A wnewch chi ildio?
Ildiaf i David, a fydd yn fy addysgu ymhellach ar y pwynt hwn.
Mantais ffederaliaeth yw ei bod yn rhoi llyfr rheolau i chi, ond mae'n bargeinio'n gyson rhwng y lefel y wladwriaeth a lefel yr is-wladwriaeth. Gwelwch hyn yn yr Unol Daleithiau, lle credid bod lefel y dalaith—h.y. yr is-wladwriaeth yn America—yn dirywio, ac ysgrifennwyd llyfrau ar ddiwedd ffederaliaeth. Nawr, rydym yn gweld ei fod yn hollol groes i hynny, gyda Califfornia yn arwain polisi amgylcheddol ar ran y wlad gyfan.
Rwy'n cytuno y bu rhywfaint o lanw a thrai yng ngrym a dylanwad y taleithiau ac yn arbennig, lle bydd talaith yn cyflwyno syniad polisi da ac yn gwneud pethau'n well na thaleithiau eraill, yn aml bydd y taleithiau eraill hynny'n eu mabwysiadu, neu o bosibl bydd y Llywodraeth ffederal yn ceisio ei roi ar waith. Ac oes, mae yna densiynau mewn ffederaliaeth, ac mae'n rhoi grym i oruchaf lys, ond buaswn i'n cynnig, yn yr Unol Daleithiau neu yn yr Almaen, fod systemau ffederal wedi bod yn llawer mwy sefydlog na'r system o ddatganoli a gawsom, a welodd lif cyson o bwerau un ffordd tuag at fwy o ddatganoli.
Nid wyf yn gwybod a fyddwch yn siarad yn nes ymlaen, ond ni chlywaf ateb i'r cwestiwn ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda Lloegr. Ymddengys bod y dadleuon am ffederaliaeth yn fwy diddorol ac yn cael mwy o sylw o lawer yng Nghymru, yr Alban, ac efallai i raddau yng Ngogledd Iwerddon, nag yn Lloegr, ac mae problemau sylweddol ynghlwm wrth y naill neu'r llall o'r modelau hynny o Gynulliad rhanbarthol neu Senedd i Loegr. Rwy'n ei chael yn anodd gweld trefn lywodraethol gynaliadwy yn y DU lle mae gennych Senedd a Llywodraeth Lloegr ar wahân gyda'r fath bŵer, dylanwad a maint o'u cymharu â Llywodraeth y DU. Ac er y byddaf yn gwrando ar gyfraniadau, boed yma neu yn rhywle arall, nid wyf eto wedi gweld ateb i hynny.
Roeddwn yn sôn am y nifer fawr o Aelodau a bleidleisiodd dros aros yn yr UE ac sy'n ystyried bod gadael yr UE yn lleihau'r DU. Rwyf fi, wrth gwrs, yn ei weld yn wahanol. Credaf fod gadael yr UE yn gwella'r DU, felly efallai nad wyf yn rhoi'r pwyslais y bydd eraill yn ei roi ar y risg y bydd yr Alban yn dod yn annibynnol neu Iwerddon yn ailuno. Ond os ydych chi'n disgwyl i'r Alban a Gogledd Iwerddon i fynd yn eu ffordd eu hunain, bydd datganoli i Gymru yn fater byw iawn, a heb fod yn sefydlog, fel y mae gwelliant y Llywodraeth yn honni.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Fe geisiaf wneud ambell bwynt. Dyddiau cynnar datganoli yw'r rhain i raddau helaeth. Rydym yn y broses o sefydlogi, os mynnwch. Ac os edrychwn ar y berthynas rhwng y gwledydd yn yr undeb—dyma un maes y cytunwn arno efallai—yn union fel y credwch chi y bydd y DU yn gryfach o fod wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, rwy'n credu y gallem fod yn gryfach fel gwledydd ar yr ynysoedd hyn drwy ddod yn wledydd annibynnol, gan gytuno ar ddull o gydweithio.
Rhun, rwy'n ymwybodol o'ch barn; nid wyf yn credu bod llawer yn ei rhannu dyna i gyd. Pe na bai Lloegr yn cefnogi parhad y system ddatganoledig bresennol, nid oes gennyf fawr o amheuaeth y byddai Cymru, mewn pleidlais dan orfodaeth, yn dewis y status quo blaenorol neu Lywodraeth bron yn unedig rhwng Cymru a Lloegr, yn hytrach nag annibyniaeth. Credaf, fodd bynnag, fod yna anfanteision sylweddol i'r system cyn-1999 honno, ac mae Llywodraethau Cymru wedi ymwahanu'n eithaf amlwg oddi wrth Loegr, ond heb gyfeirio fawr ddim at bobl Cymru yn ddemocrataidd. Yn ymarferol, roedd Swyddfa Cymru'n gweithredu trefn weddol hunangynhwysol o dan Ysgrifenyddion Gwladol olynol, ar adegau gyda phwyslais polisi gwahanol iawn i weddill Llywodraeth San Steffan. Fodd bynnag, roedd agwedd John Redwood yn dra gwahanol i agwedd Nicholas Edwards, Peter Walker, David Hunt. Prin yw'r rhai a fyddai'n awgrymu bod ei benodiad yn adlewyrchu unrhyw newid democrataidd i'r dde yng nghymdeithas Cymru.
Fy nghynnig i, felly, yw ein bod yn ystyried system lle mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ddatganoledig ond gyda Phrif Weinidog wedi'i ethol yn uniongyrchol ac yn atebol i bobl Cymru, a'r fframwaith deddfwriaethol wedi'i wreiddio yn San Steffan. Byddai hyn yn rhoi diwedd ar ein llwybr llithrig presennol, lle mae datganoli yn broses sydd ond yn digwydd i un cyfeiriad yn unig, gyda mwy a mwy o bwerau'n cael eu datganoli a llai a llai yn cael ei wneud ar lefel y DU. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, Carwyn, ni allaf ildio am nad oes gennyf amser.
Ni fyddai gan Aelodau Seneddol a etholwyd yng Nghymru ond sydd wedi'u sefydlu yn San Steffan ein cymhelliad sefydliadol i fynnu mwy a mwy o rym iddynt eu hunain, gan wasgu'r brêc ar y grymoedd allgyrchol sy'n effeithio ar y DU. Yn hytrach nag anelu at wthio rhaglen ddeddfwriaethol fawr drwodd bob blwyddyn i wneud cyfreithiau Cymru yn fwy gwahanol i gyfreithiau Lloegr, gallai Gweinidogion Cymru gyflwyno eu hachos i uwch-bwyllgor Cymreig gwell lle bydd ganddynt yr achos cryfaf dros ddeddfwriaeth wahanol bellach. Gallai Prif Weinidog etholedig benodi'r gorau a'r disgleiriaf o bob rhan o gymdeithas yng Nghymru fel Gweinidogion Cymru, yn hytrach na mynd â'r deddfwyr oddi wrth eu priod waith, sef craffu. Mae'n bosibl na fyddai hynny, wrth gwrs, yn gweddu i fuddiannau'r holl Aelodau a'r Gweinidogion yma, ond efallai mai dyna'r ffordd iawn ymlaen i Gymru.
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 3, caiff gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 1—Neil McEvoy
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu bod datganoli yng Nghymru wedi cael ei lesteirio hyd yma gan y methiant i ddatganoli rhagor o bwerau.
2. Yn galw am gryfhau datganoli yng Nghymru drwy:
a) datganoli'r doll teithwyr awyr; a
b) datganoli deddfwriaeth y system gyfiawnder yn llawn a chadw sefydliadau cyfiawnder annibynnol Cymru.
Diolch, Lywydd. Mae gormod o bobl yn bychanu Cymru. Rwyf fi yma i ganmol ein gwlad; i siarad am ein potensial, i siarad am fyw mewn man lle gall y freuddwyd Gymreig ddod yn realiti. Nawr, mae gan y Welsh National Party weledigaeth o'n breuddwyd Gymreig. Gallwn fyw mewn cenedl lle ceir tai o ansawdd da i bawb, lle mae pobl yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, Cymru lle gall pobl â syniadau da greu busnesau a swyddi, lle gallwn fod yn wlad sy'n edrych tuag allan, wedi'i chysylltu â'r byd.
Arferai Caerdydd fod yn ail borthladd mwyaf y byd. Gall ein porthladdoedd Cymreig ffynnu eto, gan gludo cynnyrch Cymreig o'r safon uchaf i bob cwr o’r byd. Ond ni fydd y realiti hwn i Gymru yn digwydd tra bod ein gallu i wneud ein penderfyniadau ein hunain mor gyfyngedig. Rwy’n gresynu at fethiannau Llywodraethau Llafur olynol yng Nghymru, ond yr hyn rwy’n gresynu fwyaf yn ei gylch yw ein bod ni fel cenedl yn dal i gael ein hamddifadu o’r cyfle i lywodraethu ein hunain. Llywodraeth gan y bobl: hen gysyniad o'r enw democratiaeth, dyna ydyw.
Ceir dau faes penodol y dylem fod wedi cael rheolaeth drostynt eisoes, sef ffocws fy ngwelliant, ac mae ganddynt reolaeth dros y ddau faes eisoes yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, ond caiff ei wrthod i ni yng Nghymru. Yn gyntaf, y doll teithwyr awyr. Mae'n hurt fod Llundain yn dal i’w reoli. Y rheswm pam nad oes gennym reolaeth dros y dreth hon yw nad yw Maes Awyr Bryste yn hoffi hynny; nid ydynt yn hoffi'r syniad y gallai maes awyr yng Nghymru fod yn fwy cystadleuol, felly gwrthodir rheolaeth i genedl gyfan dros doll teithwyr awyr oherwydd nad yw un ddinas ganolig ei maint y tu allan i Gymru yn ei hoffi. Mae'n sefyllfa anhygoel.
Cyfiawnder yng Nghymru. Rwy'n ei chael hi'n anhygoel, unwaith eto, nad yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i ni, yn enwedig pan ydym yn talu 40 y cant o'r bil. Mae ceisio bod yn gyfiawn a cheisio sicrhau cyfiawnder yn ganolog i’r hyn y dylai unrhyw Lywodraeth ei wneud, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw reolaeth dros gyfiawnder. Gallwn wneud deddfau Cymreig yn y lle hwn, ond nid oes gennym awdurdodaeth gyfreithiol Gymreig; ni allwn gysoni ein hanghenion cymdeithasol a’n hanghenion iechyd â chyfiawnder. Rydym yn cyrraedd sefyllfaoedd rhyfedd lle ceir cyfraddau uwch o garchariadau ymhlith y Cymry nag unrhyw wlad arall yng Ngorllewin Ewrop. Mae gennym uwch garchardai hefyd lle mae'n rhaid i ni fewnforio carcharorion o'r tu allan i Gymru i lenwi'r lleoedd, ond os ydych chi'n fenyw, mae'n amhosibl mynd i'r carchar yng Nghymru oherwydd nad oes carchardai menywod yma, a golyga hynny y cewch eich gyrru y tu allan i'ch gwlad lle mae'n rhaid i'ch teulu deithio'n bell i ymweld â chi.
Felly, dyma’r hyn rwy’n gresynu ato go iawn, a gallai Llywodraeth Cymru wneud yn llawer iawn gwell, ond caiff buddiannau hirdymor ein cenedl eu sicrhau trwy sofraniaeth Gymreig—sofraniaeth i'r unigolyn, y gymuned, a sofraniaeth genedlaethol. Cymru lle mae gan bobl bŵer dros eu bywydau eu hunain, lle gall cymunedau benderfynu beth sy'n digwydd ym mhob cymuned a lle rydym yn penderfynu fel cenedl sut rydym yn byw.
Nawr, mae yna bobl yn galw am ddiddymu'r lle hwn, ond mater i bobl sy'n byw yng Nghymru yw'r ffordd y cawn ein llywodraethu. Rwy’n dweud wrth Neil Hamilton yma ar y dde i mi, sy'n cynnig y gwelliant i ddileu Cynulliad Cymru: pe cynhelid refferendwm, ni fyddech yn cael pleidleisio hyd yn oed oherwydd eich bod yn byw yn Lloegr.
Gallwn brynu tŷ.
Mae croeso mawr i chi brynu tŷ.
Gallwn adael fy ngwraig.
Mae yna Gymru y mae'n rhaid i ni ei chreu. Mae yna Gymru y gallwn ei hadeiladu. Felly, gadewch i ni wneud hynny. Diolch yn fawr.
Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2.
Yn ffurfiol.
Galwaf ar Dai Lloyd i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.
2. Yn credu bod Llywodraethau olynol y DU—o dan Lafur a’r Ceidwadwyr—wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.
3. Yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.
4. Yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.
5. Yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.
Diolch yn fawr, Llywydd. Ac ie, dwi yma yn symud gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian, a jest i ddyfynnu, rydym
'yn gresynu wrth hanes anobeithiol Llywodraeth Lafur Cymru sydd wedi bod mewn grym yn barhaus ers dechrau datganoli.'
Yn bellach, rydym
'yn credu bod Llywodraethau olynol y DU—o dan Lafur a’r Ceidwadwyr—wedi llywyddu dros dlodi sy’n pontio’r cenedlaethau a thanfuddsoddi yng Nghymru.'
Yn bellach, rydym
'yn credu y dylai penderfyniadau am ddyfodol Cymru gael eu gwneud gan y rhai sy’n byw ac yn gweithio yma.'
Hefyd, rydym
'yn credu mai meddu ar ysgogiadau economaidd a chyllidol gwlad annibynnol yw’r allwedd i ffyniant Cymru yn y dyfodol.'
A hefyd, rydym
'yn cytuno mai cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru ddylai fod â’r grym i alw refferendwm ar annibyniaeth yn y dyfodol, heb unrhyw feto gan San Steffan.'
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y pwynt hwnnw? Pam ei fod wedi cael gwared ar ei amser yn y Llywodraeth o'r hanes yn ei gynnig?
Nid wyf yn cofio i mi fod yn y Llywodraeth, diolch, Hefin.
Eich plaid, mae'n ddrwg gennyf.
I ateb y cynnig, yn sylfaenol, y Llywodraeth yma sydd yn tanberfformio ac yn methu, nid y sefydliad. Gyda llaw, dŷn ni'n cytuno efo gwelliant Neil McEvoy ond dŷn ni ddim yn gallu pleidleisio drosto fo achos bydd hynny yn disodli ein gwelliant ni.
Wedi dweud hynny i gyd, mae yna ambell lwyddiant wedi bod yn y Senedd yma ers datganoli dros y blynyddoedd. Dŷn ni wedi gweld y gwaharddiad ar ysmygu—yn y fan hyn dechreuodd hynny 19 o flynyddoedd yn ôl, byddwn ni’n dal i aros pe baem ni’n aros am San Steffan; prescriptions am ddim; ysgol feddygol yn Abertawe—roedden ni wedi trio am genhedlaeth am hynny, a datganoli sydd wedi dod â hynny, y Senedd yma sydd wedi dod â hynny; codi tâl am fagiau plastig flynyddoedd cyn Lloegr; newid system o roi organau bron i bum mlynedd yn ôl rŵan; ac isafswm pris alcohol.
Mae rhai pethau wedi cael eu cyflawni yn fan hyn, ond dylai fod wedi cyflawni lawer mwy mewn 20 mlynedd. A gyda Llywodraeth sydd yn tanberfformio, y ffordd ymlaen, yn naturiol, ydy pleidleisio yn eu herbyn nhw pan mae yna etholiad cyffredinol yng Nghymru'r flwyddyn nesaf—pleidleisio i newid y Llywodraeth. Wedi’r cwbl, pan mae Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanast o bethau ac yn tanberfformio, clochdar am etholiad cyffredinol mae pobl, nid galw am ddiddymu San Steffan. Newid y Llywodraeth ydy’r ateb, nid cael gwared ar yr holl sefydliad i fyny'n fanna.
Ac mae yna ddigon o sôn wedi bod am barchu canlyniad y refferendwm yn 2016. Dwi’n sylwi gwnaeth Mark Reckless ddim talu unrhyw sylw i’r refferendwm yn fan hyn yn 2011, achos mae’n rhaid i fi ddweud, mae angen parchu canlyniad pob refferendwm, gan gynnwys refferendwm 2011 hefyd.
A yw'n cofio'r geiriad ar y papur pleidleisio lle dywedai, 'ni all y Cynulliad ddeddfu ar drethiant, beth bynnag fydd canlyniad y bleidlais hon', ac onid yw'n credu y dylid parchu hynny?
Af i â chi yn ôl i 2011, gan, wrth gwrs, doedd Mark Reckless ddim yma ar y pryd, ac yn refferendwm 2011, gwnaeth pobl Cymru ddweud yn glir—64 y cant ohonyn nhw yn dweud ‘ie’; dweud yn glir bod angen mwy o bwerau ar y Senedd yma i wneud ei gwaith yn iawn. Dŷn ni’n dal i aros am wireddu'r ddyhead yna. Mwy o bwerau fan hyn i’w wneud e i weithio yn iawn. Mae angen parchu penderfyniad refferendwm 2011, ac angen parchu’r penderfyniad yna. A hefyd, yn bellach na hynny, cefnogi gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Darren Millar i gynnig gwelliant 4.
Diolch, Lywydd. Syndod braidd oedd y cyfraniad agoriadol i'r ddadl hon oherwydd, wrth gwrs, mae'r cynnig ar y papur trefn yn sôn am fethiant datganoli yng Nghymru ac eto, fe aethoch ymlaen i siarad yn llawer ehangach am ddatganoli ar draws y Deyrnas Unedig a'r heriau amrywiol a allai ei wynebu hynny pe bai system ffederal, i bob pwrpas, yn cael ei chyflwyno.
Mae ein gwelliant, wrth gwrs, wedi'i gynllunio i ddeall yn iawn beth yw'r broblem sylfaenol a wynebwyd gennym yng Nghymru ers dyfodiad datganoli, sef ein bod wedi cael Cynulliad Cenedlaethol sydd wedi'i ddominyddu gan un blaid wleidyddol, a'r blaid wleidyddol honno yw'r Blaid Lafur ac mae wedi bod yn Llywodraeth mewn un ffordd neu'r llall ers 1999. Camgymeriad yw cysylltu methiannau'r Llywodraeth honno â datganoli a dod i'r casgliad anghywir yn sgil hynny, rwy’n credu, nad yw datganoli’n gweithio oherwydd methiannau’r Llywodraeth honno. Credwn fod gan ddatganoli lawer iawn o botensial i drawsnewid y genedl hon yn bwerdy o’r math y credwn y gall fod. Credwn hefyd mai'r ffordd o wneud hynny, wrth gwrs, yw pleidleisio dros y Ceidwadwyr Cymreig yn etholiadau nesaf Senedd Cymru er mwyn i ni gael Llywodraeth fwyafrifol Geidwadol.
Rwy'n credu bod gan Blaid Cymru wyneb braidd i fod yn feirniadol o Lywodraethau olynol dan arweiniad Llafur yn ei chynnig a hithau wedi bod yn rhan o un o'r Llywodraethau hynny am gyfnod o bedair blynedd. A gwn eu bod yn hoffi cael neu’n ymddangos fel pe baent oll wedi anghofio’r pedair blynedd hynny, a hoffem ninnau eu hanghofio hefyd, a dweud y gwir—[Torri ar draws.] Iawn, rwy’n hapus i dderbyn ymyriad.
Rwy'n credu y cofiwch chi yng nghyfraniad Dai Lloyd ei fod yn glir iawn fod datganoli wedi cyflawni rhai pethau da. Cyflwynwyd llawer o'r pethau hynny gan Weinidogion Llywodraeth Plaid Cymru, cyflawnwyd rhai ohonynt gan Weinidogion Llafur neu Ddemocratiaid Rhyddfrydol. Nid ydym yn dweud ei fod yn fethiant llwyr, ond rydym yn dweud nad yw wedi cyrraedd ei botensial ac ar hyn, rwy'n credu y byddem yn cytuno.
Buaswn yn cytuno’n llwyr â chi y bu rhai cyflawniadau yng Nghymru dros gyfnod datganoli a chyfeiriodd Dai at rai ohonynt: yr ardoll ar fagiau plastig a gynigiwyd gennym ni ar y meinciau hyn, er enghraifft; amddiffyn caeau chwarae ysgolion, a oedd hefyd yn rhywbeth a gynigiwyd gennym ni; gweithredu deddfwriaeth newydd ar iechyd meddwl—rhywbeth a ddaeth o'r meinciau hyn hefyd—rhywbeth yr hoffwn ei ddathlu; ac yn wir, y gwaith cydweithredol a wnaethom i gyd ar gyflwyno gwaharddiad ar ysmygu mewn mannau cyhoeddus. Felly, cafwyd rhai cyflawniadau arwyddocaol, rwy'n credu, dros y blynyddoedd diwethaf, ond wrth gwrs rhaid inni beidio ag anghofio chwaith y bu rhai methiannau sylweddol hefyd ar ran y Llywodraeth Lafur, a dyna yw ffocws ein cynnig wrth gwrs.
Felly, credwn ei bod yn destun gofid mawr mai ein system addysg yw'r waethaf yn y Deyrnas Unedig. Mae hynny oherwydd dewisiadau a wnaed gan y Blaid Lafur a chynorthwywyr y Blaid Lafur dros y blynyddoedd o ran eu penderfyniadau polisi, a roddwyd ar waith. Credwn ei bod yn destun gofid mawr fod ein gwasanaeth iechyd yn llusgo ar ôl ar gymaint o fesurau o gymharu â gwasanaethau iechyd eraill mewn rhannau o'r Deyrnas Unedig hefyd. Credwn hefyd ei fod yn destun gofid mawr fod ein heconomi yn dal i fod yn un o'r economïau tlotaf yn Ewrop, er ein bod wedi derbyn symiau sylweddol o gymorth yr UE, a’r cyfan wedi'i reoli gan Lywodraethau Llafur Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf.
Dyna pam y credwn ei bod hi'n bwysig tynnu sylw at y gwahaniaeth rhwng datganoli a pherfformiad y Llywodraeth yma a dyna yw diben ein cynnig. Rwy’n mawr obeithio y bydd pobl yn ei gefnogi pan ddaw’r cyfnod pleidleisio yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Galwaf ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 5 a 6, a gyflwynwyd yn ei enw.
Diolch, Lywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliannau a gyflwynwyd yn fy enw. Rwy'n cytuno â Darren Millar nad yw hyn o reidrwydd yn golygu y gallai datganoli fod wedi llwyddo a'i fod oherwydd ein bod wedi cael Llywodraeth Lafur, wedi’i chynnal gan Blaid Cymru, am oes gyfan y Cynulliad hwn mewn rhyw ddull neu fodd—naill ai ar ffurf clymblaid â hi neu ar ddechrau'r Cynulliad hwn, wrth gwrs, roeddent yn allweddol wrth bleidleisio dros adael i’r Llywodraeth Lafur ddychwelyd i rym o dan y cyn Brif Weinidog, felly mae Plaid Cymru yr un mor gyfrifol am fethiannau'r Llywodraeth Lafur.
Dywedodd Dai Lloyd yn ei araith y dylem barchu canlyniad refferendwm 2011, sy’n codi chwerthin ymhlith y rhai nad oedd am barchu canlyniad y refferendwm yn 2016 ac a oedd am wyrdroi penderfyniad pobl Prydain a Chymru cyn iddo gael ei weithredu hyd yn oed. Cymerodd 41 mlynedd i ni o 1975 ymlaen i gael refferendwm arall ar yr UE. Mae wedi bod yn genhedlaeth ers y refferendwm cyntaf i sefydlu Cynulliad yng Nghymru a chredaf, ar ôl 25 mlynedd o fethiant, methiant di-ildio gan Lywodraeth Lafur barhaol, ei bod yn bryd caniatáu i bobl Cymru fynegi eu barn unwaith eto. Yn bersonol, ni fuaswn yn gwrthwynebu cael refferendwm ar annibyniaeth fel rhan o hynny. Ni welaf unrhyw reswm pam na ddylid rhoi hynny gerbron pobl Cymru hefyd. Felly gobeithio y bydd Plaid Cymru yn cefnogi fy ngalwad am refferendwm ar yr opsiynau amrywiol y gall pobl Cymru benderfynu rhyngddynt.
Nid oes amheuaeth fod dadrithiad sylweddol wedi tyfu yng Nghymru, o ddau ben y sbectrwm yma, yn y blynyddoedd diwethaf. Yn ôl yr arolwg barn diweddaraf gan YouGov, ym mis Ionawr, roedd 21 y cant o'r rhai a ymatebodd yn ffafrio annibyniaeth, ond roedd 24 y cant am gael gwared ar y lle hwn. Dyna 46 y cant y naill ffordd neu'r llall sy'n mynegi ffurf eithafol ar anfodlonrwydd â pherfformiad y Cynulliad. Hyd nes y dechreuodd Gareth Bennett godi'r mater beth amser yn ôl, nid oedd neb yn y Cynulliad yn rhoi llais i'r lleiafrif sylweddol iawn sydd bellach am weld y lle hwn yn cael ei ddiddymu. Rwy'n falch o weld Plaid Brexit yn dilyn yn ein sgilwynt, ond nid wyf yn siŵr a yw perchennog Plaid Brexit yn gwybod am y newid polisi sydd wedi'i fabwysiadu. Efallai y cawn wybod am hynny yn nes ymlaen.
Ceir dadleuon o blaid datganoli, wrth gwrs—yn wir, rwyf wedi eu gwneud fy hun yn y Cynulliad hwn, yn gynharach. Gwelais yr hyn y gallai datganoli fod wedi'i wneud mewn rhannau eraill o'r byd, a phe bai gennym Lywodraeth a oedd yn barod i gyflwyno polisïau a allai ddechrau datrys rhai o'r problemau y tynnwyd sylw atynt yn y ddadl hon hyd yma, gallwn ei gefnogi—[Torri ar draws.]
Diolch am ildio, Neil. Rydych chi wedi gwneud cyfraniad diddorol iawn. Rwy'n credu ei bod yn ddadl sy'n ysgogi'r meddwl. A fyddech yn cytuno, fel y dywedodd Darren Millar yn gynharach, fod yn rhaid inni wahaniaethu rhwng datganoli a Llywodraeth Cymru? Yn rhy aml, nid yw pobl yn gwneud hynny. Er enghraifft, pe baech chi'n Brif Weinidog eich hun, efallai y byddech chi'n edrych ychydig yn fwy cydymdeimladol ar ddatganoli.
Wel, dyna syniad diddorol.
Ond dyna'r broblem, ein bod ni yng Nghymru wedi byw dan wladwriaeth un blaid barhaol. Ac oherwydd fy mod i'n ystyried hynny'n wendid na ellir ei wella yn y system y deuthum i'r casgliad nid yn unig fod datganoli wedi methu, ond bydd bob amser yn methu oherwydd bod y diwylliant gwleidyddol yn golygu nad yw unrhyw un sydd i'r dde o'r canol byth yn mynd i gael Llywodraeth y byddant yn fodlon â hi. Ac rwy’n meddwl mai dyna'r gwendid gyda gwelliant y Ceidwadwyr hefyd. [Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr fod gennyf amser. Wel, fe ildiaf i'r cyn Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Dim ond dau bwynt: yn gyntaf, mae gan genhedloedd seneddau. Pe na bai gan Gymru unrhyw fath o sefydliad democrataidd fel hwn ond fod gan yr Alban un, fod gan Ogledd Iwerddon un a bod un yn San Steffan, ni fyddem yn genedl, byddem mewn sefyllfa i bob pwrpas lle byddem yn llai pwysig mewn gwirionedd na Manceinion neu Lundain, sydd â sefydliadau democrataidd. Yn ail, yr hyn y mae'n ei ddadlau yw bod pobl yng Nghymru yn rhy dwp i bleidleisio dros ei fath ef o wleidyddiaeth, felly dylid diddymu'r sefydliad hwn o ganlyniad. Nawr mae'n dadlau mai democratiaeth yw'r broblem go iawn, nid y Cynulliad.
Na. Y cyfan rwy'n ei ddweud yw bod y sefydliadau democrataidd sy'n llywodraethu Cymru'n eithrio barn cyfran sylweddol iawn o'r boblogaeth yn barhaol, ac mae hynny'n wendid mawr yn y system. Pan oeddwn yn San Steffan, gwelais yr ochr arall i'r geiniog hon, a arweiniodd at Senedd yr Alban. Oherwydd câi pobl yr Alban eu cynrychioli'n barhaol yn San Steffan gan blaid nad oeddent yn ei chymeradwyo. Ni allem ddweud hynny yma yng Nghymru, neu i'r un graddau o leiaf.
Mae catalog methiannau Llywodraeth Cymru yn niferus iawn. Rydym yn dihoeni ar waelod y tablau incwm yn y Deyrnas Unedig o gryn dipyn. Mae ein hincwm yma yng Nghymru oddeutu 75 y cant o incwm cyfartalog y DU. Ceir pob math o broblemau tlodi yng Nghymru nad yw Llywodraeth Lafur Cymru wedi mynd i'r afael â hwy—tlodi tanwydd, er enghraifft, sydd wedi'i wneud hyd yn oed yn waeth gan eu polisi o godi prisiau ynni. Mae cymaint o bethau eraill hefyd, nad oes gennyf amser i'w trafod yn awr, yn anffodus.
Ond y broblem fawr yw mai Llywodraeth y DU sydd â'r arian. Mae'r diffyg ariannol sydd gennym yng Nghymru, fel y nodwyd, yn gyfran sylweddol iawn o'n cynnyrch domestig gros, ac ni ellir ei dalu heb arian a ddaw gan drethdalwyr Lloegr. Felly, os yw Cymru am gael unrhyw obaith o newid cyflwr truenus economi Cymru a safonau byw pobl Cymru, ni ellir gwneud hynny heblaw drwy'r pŵer mwy sydd gan Lywodraeth y DU.
Y rheswm y dechreuais ymhél yn weithredol â gwleidyddiaeth oedd oherwydd colli grym a rheolaeth yn ddiddiwedd i Frwsel. Rwy'n rhywun sy'n credu y dylai pŵer fod mor agos â phosibl at y bobl. Credaf fod llywodraeth, ac y dylai fod bob amser, yn was i'r bobl ac nid yn feistr.
Gadewch inni edrych ar realiti. Bydd rhai pobl yng Nghymru yn wynebu gaeaf caled yn byw ar y strydoedd. Mae staff y GIG yn ymdrin â'r anhrefn a ddaw'n anochel gyda'r gaeaf. Bydd yr henoed a'r tlawd yn dewis rhwng gwresogi a bwyta, ac mae gennym bwerau ychwanegol a allai fod yn drawsnewidiol i gyrraedd y Cynulliad o ganlyniad i adael yr UE. Er mawr rwystredigaeth a siom i mi, mae'r sefydliad hwn yn treulio ein hamser, amser pobl Cymru yn wir, yn trafod beth rydym am alw ein hunain a beth rydym am alw'r sefydliad hwn. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth fod y teimladau hyn yn cael eu hadleisio ar draws fy rhanbarth. Ni fydd newid enw'r sefydliad hwn neu newid ein teitlau'n mynd i'r afael ag unrhyw rai o'r materion hynny. Ni fydd newid ein teitl o 'Aelod Cynulliad' i 'Aelod Senedd' neu hyd yn oed 'Seneddwr' yn helpu unrhyw etholwr. Dylai ein hamser fod wedi cael ei dreulio'n gwella bywydau ein hetholwyr, nid ein curriculum vitae.
Mae'r trethdalwr yng Nghymru eisoes yn talu am ormod o wleidyddion. Mae tua dwywaith cymaint o bobl yn byw yn yr Alban nag yng Nghymru ond mae ganddynt lai o gynghorwyr. Eisteddais yn y Siambr hon pan siaradodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus am yr angen i ddiwygio llywodraeth leol, ond mae'r Llywodraeth hon bellach yn cefnu ar hynny am na allant wneud unrhyw benderfyniadau anodd. Yn ystod etholiad diwethaf y Cynulliad, fel y rhan fwyaf o'r Aelodau yn y Siambr hon, mynychais hustyngau gydag etholwyr lle roeddent yn mynegi pryderon ynghylch pethau fel Betsi Cadwaladr a'r GIG yng ngogledd Cymru. Y gwir trist yw y bydd y bwrdd iechyd yn dal i fod dan fesurau arbennig yn yr etholiad nesaf, er gwaethaf yr addewidion gan bleidiau o gwmpas y Siambr hon. Mae hyn yn fethiant ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd.
Mae'r A55 yn ffordd hanfodol sy'n cysylltu gogledd Cymru. Mae'r diffyg buddsoddiad yn y ffordd honno'n cael effaith negyddol ar economi gogledd Cymru. Mae cerbydau llonydd mewn traffig hefyd yn effeithio ar ein hamgylchedd. Mae hyn hefyd yn fethiant ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd. Mae'r diffyg buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffordd a bws yng ngogledd Cymru, y seilwaith ffyrdd sy'n dadfeilio, y diffyg cysylltiad ffôn a rhyngrwyd oll yn fethiannau ar ran y Llywodraeth Lafur a'r sefydliad hwn yn ei gyfanrwydd. Nid yw'n gweithio, ac rwy'n annog pob Aelod i gefnogi ein cynnig heddiw heb ei diwygio.
A gaf fi wneud ymyriad byr iawn? Diolch. A oeddech chi yma pan gawsom ddadl am Betsi Cadwaladr ychydig wythnosau yn ôl? A oeddech chi yma pan gawsom ddadl ar yr A55 yn gynharach y prynhawn yma? A oeddech chi yma pan drafodasom gysylltiad band eang ychydig fisoedd yn ôl? Oherwydd mae'n ymddangos i mi eich bod chi'n hollol anymwybodol o'r hyn sy'n digwydd yn y lle hwn.
Nid oes dim ohono'n gweithio.
Lywydd, nid oeddwn yn bwriadu siarad, ond ar ôl gwrando ar y cyfraniadau, meddyliais y dylwn. Un o'r materion nad eir i'r afael ag ef byth gan y bobl sydd am weld diddymu'r Cynulliad yw'r hyn y mae'n ei olygu i weddill y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a pham na ddylai Cymru, yn unig mae'n ymddangos, gael ei llais ei hun. Pam na ddylai Cymru'n unig—cymharwch ni â'r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr, Ynys Manaw, Jersey, Guernsey, dewiswch chi, Gibraltar—gael ein hawdurdodaeth gyfreithiol ein hunain? Pam, ymhen dwy flynedd, y bydd modd cael eich arestio am drosedd yn Lloegr nad yw'n drosedd yn Lloegr? Hynny yw, os ydych yn taro plentyn, ni allwch ddefnyddio cosb resymol yn amddiffyniad. Bydd modd i chi gael eich arestio yn Newcastle am drosedd nad yw'n drosedd yn Newcastle. Nonsens cyfreithiol yw hynny. Lol llwyr. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl. Ac nid yw mater awdurdodaeth mor radical ag y mae pobl yn ei feddwl. Mae'n normal, mewn gwirionedd. Dyma'r sefyllfa annormal lle nad oes gan Senedd awdurdodaeth.
Gwrandewais ar ddadleuon Mark Reckless. Fe'u cyflwynodd mewn digwyddiad a fynychwyd gennym ein dau yn Newcastle. Rhaid imi ei atgoffa na wnaethom geisio pwerau i amrywio'r dreth incwm. Fe'u gorfodwyd arnom, i bob pwrpas, gan Lywodraeth Geidwadol. Dyna beth a ddigwyddodd. Felly nid yw fel pe baem wedi twyllo pobl Cymru yn 2011. Penderfynodd Llywodraeth Geidwadol fod arnom angen—ac nid wyf o reidrwydd yn anghytuno â'r rhesymeg—cael pwerau codi refeniw er mwyn gallu benthyca. Ond nid oedd yn rhywbeth roeddem yn ei geisio'n benodol, oherwydd nid oedd gan Ogledd Iwerddon bwerau codi refeniw, ond roedd ganddynt allu i fenthyca.
A wyf yn credu y dylai Cymru fod yn gyfartal â'r Alban a Gogledd Iwerddon? Ydw. Ac fe'i clywais ddydd Sadwrn yn dweud gyda balchder fod ei daid yn Fianna Fáil TD, felly, yn aelod o'r lluoedd gwrth-gytuniad yn rhyfel cartref Iwerddon. Ond onid yw honno'n wers i ni? Pe bai Iwerddon wedi cael ymreolaeth—ac fe wyddom fod y rhyfel byd cyntaf wedi tarfu ar hynny—efallai na fyddai Iwerddon yn annibynnol heddiw. Diffyg anhyblygrwydd system San Steffan a arweiniodd at dorri un rhan o'r DU oddi ar y gweddill yn ôl yn 1921, oherwydd nid yw'r DU, cofiwch, yn 100 oed hyd yn oed gyda'i ffiniau presennol. Fy nadl i fyddai—ac rwy'n gwrando ar yr hyn y mae'n ei ddweud ynglŷn â ble y daw hyn i ben, mai proses yw datganoli nid digwyddiad, ble mae'n dod i ben—i mi, mae'n dod i ben gyda strwythur sy'n gwneud popeth yn glir. Mae eraill yn y Siambr am gael annibyniaeth. Nid wyf fi eisiau hynny; i mi, mae'n bedair tiriogaeth gyda'u pwerau eu hunain a senedd ffederal, beth bynnag rydych chi am ei alw, ar y brig.
Nid yw'n golygu mwy o wleidyddion. Nid oes angen 600 o ASau mewn senedd ffederal. Ychydig iawn o wasanaethau y mae Llywodraeth y DU yn eu darparu ar draws y DU i gyd, ychydig iawn: rheoli ffiniau, arian cyfred, polisi cyllidol, a dyna ni fwy neu lai. Mae trwyddedu cerbydau hyd yn oed wedi'u datganoli yng Ngogledd Iwerddon, ac ni wneir hynny gan—. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf? Amddiffyn. Roeddwn i'n gwybod fy mod wedi methu un. Nid wyf yn dymuno datganoli amddiffyn. Ac felly, mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried. Ni fyddai angen ichi gael Senedd fawr yn y DU er mwyn craffu ar Lywodraeth y DU o dan yr amgylchiadau hynny.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r syniad hwn mai bai sefydliad ydyw—. Nawr, mae'n gwbl ddemocrataidd, wrth gwrs, i eraill yn y Siambr feirniadu Llywodraeth Cymru. Nid wyf yn cytuno â'r hyn y maent wedi'i ddweud, ond dyna yw diben y Siambr, i gael dadleuon o'r fath, a phe na bai'r Siambr hon yma, ni fyddai'r dadleuon hynny'n digwydd. Mewn gwirionedd, ni fyddai gan yr un ohonom yn y Siambr hon lais. Ni fyddai unrhyw ddadl o gwbl. A dyna rywbeth y mae'n rhaid i ni ei gofio oherwydd gallwn ddadlau mai grym maleisus oedd San Steffan yn yr 1980au yng Nghymru. Dinistriodd y diwydiant glo. Dinistriodd y diwydiant dur. Gallwn ddadlau, 'Wel, y broblem yw San Steffan, gadewch inni ddiddymu San Steffan.' Yn yr un modd, gallech ddadlau mai democratiaeth yw'r broblem: 'Gadewch inni gael gwared ar ddemocratiaeth oherwydd y broblem yw bod pobl yng Nghymru yn pleidleisio dros y pleidiau anghywir.' Ac nid yw'n deg nad oes llais gan y dde-ganol—wel, mae'n galw ei hun yn dde-ganol, Neil Hamilton—yng Nghymru. Enillwch etholiadau.
Nid wyf am sefyll yma ac ymddiheuro bod fy mhlaid wedi bod yn llwyddiannus dros yr 20 mlynedd diwethaf. Rwy'n gwybod ei bod yn mynd yn anos gyda phob etholiad—wrth gwrs ei fod. Mae pobl yn dweud, 'Wel, rydych chi mewn grym ers tro byd', ac rwy'n gwybod bod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i chi weithio'n galed i'w ymladd. Ond mae dweud bod pobl yng Nghymru yn rhy dwp i bob pwrpas i bleidleisio dros y math iawn o wleidyddiaeth a bod hynny'n rheswm dros ddiddymu'r sefydliad a grewyd ganddynt hwy eu hunain yn 1997, ac y penderfynasant hwy eu hunain yn 2011 drwy fwyafrif o bron i ddau i un—a byddai wedi bod yn uwch pe na bai'r arolygon barn wedi dangos y byddai'n fuddugoliaeth glir. Penderfynasant o ddau i un yn 2011, naw mlynedd yn ôl yn unig, y dylem gael pwerau sylfaenol yma yng Nghymru. Roedd hi'n amlwg dros beth y pleidleisiodd pobl ac roedd pobl yn ei wneud fel mater o falchder a chafwyd ymgyrch drawsbleidiol, a bod yn deg, a oedd yn cefnogi hynny.
Ac yn olaf, rwyf am ddweud hyn: fel y dywedais yn gynharach, ni allwch esgus bod yn unrhyw fath o genedl os nad oes gennych unrhyw strwythur gwleidyddol, yn enwedig mewn gwlad fel y DU lle byddai Senedd gan yr Alban, Cynulliad gan Ogledd Iwerddon, Manceinion, Llundain, Senedd San Steffan, a dim gan Gymru. Mae gan Gernyw hyd yn oed gyngor sir. Ac mae'r syniad rywsut fod ASau Cymreig mor brin o waith fel y gallant graffu ar faer Cymreig—yr unig ffordd y gallaf ei ddisgrifio—ffantasi lwyr yw honno. Rwy'n siŵr eu bod yn cael eu llethu gan waith fel y mae. Ac wrth gwrs, mae'n methu mynd i'r afael â'r cwestiwn: a yw hynny'n golygu felly y gallai'r 40 o ASau Cymreig gychwyn eu deddfwriaeth eu hunain? Oherwydd os nad yw hynny'n wir, mae hynny'n mynd yn uniongyrchol groes i ganlyniad y refferendwm yn 2011 pan benderfynodd pobl Cymru o fwyafrif helaeth mai dyma lle byddai deddfwriaeth sylfaenol yn cael ei drafftio a'i phasio mewn meysydd datganoledig.
Rwyf wedi bod wrthi am fwy o amser nag y bwriadwn, Lywydd, ond does bosibl, ar draws y DU i gyd, nad yw'r amser wedi dod i gael setliad cyfansoddiadol sefydlog er budd pawb.
Rwyf wedi gwrando ar y cyfraniadau. Rwy'n credu eu bod yn feddylgar ac yn ddifyr a gwamal. Nid wyf am gynnig disgrifiad o bob siaradwr. Ond rwy'n meddwl mewn unrhyw system newydd o Lywodraeth, fod angen i chi edrych ar y sefydliadau, ac mae'r Llywodraeth yn sefydliad pwysig ond mae'r ddeddfwrfa o leiaf yr un mor bwysig. Mewn gwirionedd, o'r ddeddfwrfa y caiff y Weithrediaeth ei hawdurdod. Mewn adolygiad o'r hyn a wnaethom dros yr 20 mlynedd diwethaf, rwyf am sôn am yr hyn yr ystyriaf eu bod yn rhai o'r pethau rydym wedi arwain arnynt yn y DU. Cafodd bron bob un—yn wir, cafodd pob un o'r rhain gefnogaeth drawsbleidiol, hyd y cofiaf.
Y comisiynydd plant. Dyna oedd ein hymateb i'r adroddiad, 'Ar Goll Mewn Gofal'. Rydym yn dal i weld yr effeithiau 20 mlynedd yn ddiweddarach ynghylch safbwynt gwahanol iawn ynglŷn â beth yw hawliau plant a'r rhai sydd yng ngofal y wladwriaeth. Mae pob awdurdodaeth arall yn y DU wedi ei efelychu.
Y cyfnod sylfaen—a oes unrhyw un yn ei gofio—a ddilynodd adolygiad Caergrawnt, adolygiad gan Lywodraeth y DU, neu Gymru a Lloegr—adolygiad gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr? Gwrthodwyd adolygiad Caergrawnt yn gadarn yn nyddiau olaf Llywodraeth Blair, rwy'n credu; efallai mai Mr Brown ydoedd. A bod yn deg, bwriodd y Blaid Lafur yma ymlaen â hyn. Nawr, hyd y gwn, mae addysg blynyddoedd cynnar, sy'n seiliedig ar chwarae, yn cael ei derbyn ledled y DU, ac fe'i derbyniais yn ôl bryd hynny. Mae'n debyg mai fi oedd yr unig Geidwadwr, ond efallai fod gennyf gynghreiriaid eraill bryd hynny.
Crybwyllwyd y Mesur iechyd meddwl gan Darren ac fe'i cynigiwyd gan Jonathan Morgan. Mae'r Ddeddf teithio llesol—un o'r darnau gorau i—. Er i'r Llywodraeth ei fabwysiadu, fe ddeilliodd o'r sector dinesig, o dan arweiniad fy nghyfaill mawr Lee Waters a Sustrans ar y pryd. Y Ddeddf meinweoedd dynol, neu ganiatâd tybiedig, yr anghytunais â hi gyda llaw, ond byddai unrhyw un a wyliodd y ffordd yr aeth y Gweinidog iechyd, sef ein Prif Weinidog bellach, â'r ddeddfwriaeth honno drwy ei chyfnodau, gyda'r holl ddoethineb a sensitifrwydd y gallai calonnau hael fod â safbwyntiau gwahanol iawn yn ei chylch, gallech ddangos hynny mewn unrhyw seminar o gwmpas y byd ynglŷn â sut y dylai deddfwrfa weithredu. Wedyn, un arall—Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n credu mai nodwedd fawr o lwyddiant honno yw ei bod yn gwneud mwy i ddal y Llywodraeth a'i pasiodd i gyfrif nag y credaf eu bod wedi sylweddoli ar y pryd, mae'n debyg. Ond efallai y gwnewch chi ganiatáu imi wneud y sylw braidd yn bigog hwnnw.
Y cwestiwn yw: a yw ymreolaeth wleidyddol Gymreig wedi dod yn ewyllys sefydlog? Wel, sut bynnag y gwnewch ei gyflwyno, ac mae'n rhaid i chi weithio'n eithaf caled, gallwch gael tua 20 y cant o'r boblogaeth i ddweud eu bod am i'r Cynulliad gael ei ddiddymu. Nawr, mae ceisio ychwanegu at y ffigur hwnnw y 25 y cant sydd bellach yn credu mewn annibyniaeth braidd yn dwyllodrus yn fy marn i, oherwydd credaf fod yn rhaid ichi ddweud bod o leiaf 80 y cant o'r bobl am gael ymreolaeth wleidyddol, ac mae rhai am ei gweld i'r fath raddau fel y byddai'n gyfystyr ag annibyniaeth. Mae'r arolygon barn yn nodi hyn yn gyson. Nawr, mae rhywfaint o wirionedd ein bod wedi gorfod gweithio ar hyn. Rwyf wedi dweud mewn rhai areithiau a wneuthum yn y gorffennol, yn enwedig i fyfyrwyr o dramor, fod gennym gonfensiwn gwleidyddol hir, oherwydd ein bod wedi dechrau gyda model rhyfedd iawn. A bod yn deg, efallai mai dyna oedd yr unig fodel yn 1997 a allai fod wedi pasio mewn refferendwm. Nid wyf yn beirniadu barn bragmatig y Llywodraeth Lafur bryd hynny. Ond cawsom ryw fath o fersiwn 101 o ymreolaeth wleidyddol, a bu'n rhaid inni weithio arno. A'r canlyniad oedd llwyddiant hynod y refferendwm yn 2011. A chwaraeais ran fach iawn yn egluro wrth David Cameron beth y byddai'n ei olygu pe bai dwy ran o dair o'r lle hwn, o dan Ddeddf 2006, yn pleidleisio o blaid refferendwm, a bod y Senedd wedyn yn gwadu hynny drwy bleidlais syml. A dywedodd 'O, un funud fach, am beth rydym yn sôn—y byddem yn pleidleisio yn y Senedd i ddweud bod y Cynulliad yn anghywir ar ôl pleidlais o ddwy ran o dair i ofyn i bobl Cymru a oeddent am gael pwerau deddfu llawn?' Ac er tegwch iddo, gwelodd gymaint o nonsens oedd hynny. Ac fel y dywed yn ei hunangofiant, roedd ganddo waith i'w wneud wedyn i argyhoeddi rhai yn y gymuned wleidyddol o'r realiti hwnnw. Ac rwy'n falch ei fod wedi gwneud hynny.
Yn fy marn i, bydd angen mwy o fecanweithiau ffederal. Rwy'n credu, yn Lloegr, mai mater i'r Saeson yw pa sefydliadau gwleidyddol y maent am eu cael. Mae perygl, os ceir Llywodraeth Seisnig, fel Lloegr gyfan, gallai fod yn drech na Llywodraeth Brydeinig. Rwy'n credu bod hwnnw'n berygl gwirioneddol, a dyna pam y mae'n well gennyf y math o uwch-ddinasoliaeth rydym yn ei weld bellach. A gadewch i ni beidio ag anghofio—mae gan Loegr sefydliad datganoledig, sef Cynulliad Llundain.
Felly, rwy'n credu y gallwn edrych ar y cyflawniad hwn fel un gwych, wedi'i wneud yn hael gan bron bob plaid, beth bynnag, i wneud llywodraethu gwleidyddol yng Nghymru yn endid llawer mwy cydlynol. Ac yn awr y cyfan sydd gennym ar ôl sy'n hurtrwydd go iawn yw'r awdurdodaeth gyfreithiol nad ydym yn meddu arni, fel bod deddfau a wneir yn y Senedd hon yn ymestyn i gynnwys Cymru a Lloegr, ond yng Nghymru yn unig y cânt eu cymhwyso. Os gallwch siarad unrhyw synnwyr ynghylch yr egwyddor honno, buaswn yn falch o'ch clywed. Ond Lywydd, rwy'n credu y dylem gofio bod llwyddiannau mawr wedi bod. Yr heriau, y camgymeriadau, maent i gyd yno hefyd, ond mewn gwirionedd, mae datganoli wedi gweithio.
Lywydd, roeddwn wedi meddwl ddwywaith ynglŷn â chymryd rhan yn y ddadl, oherwydd, yng ngoleuni popeth sy'n digwydd, roedd y cyfan yn ymddangos braidd yn anamserol, ond hefyd yn un lle mae'n dod gan blaid sydd heb unrhyw fandad democrataidd yn y Siambr hon. Mae'n gynnig a gyflwynir gan blaid nad yw erioed wedi'i hethol i'r Cynulliad hwn; ni fu erioed etholiad Cynulliad lle mae Plaid Brexit wedi ymddangos ar unrhyw bapur pleidleisio; nid ydynt erioed wedi cael cefnogaeth unrhyw faniffesto neu gynnig polisi yng Nghynulliad Cymru; ac i bob pwrpas, mae eu presenoldeb yn y Siambr hon yn ganlyniad annisgwyl system etholiadol a fwriadwyd i ehangu cynrychiolaeth ddemocrataidd, ond sydd, yn fy marn i, wedi cael ei chamddefnyddio i danseilio ei gwir amcan democrataidd.
Ac mae'n rhaid ichi ofyn beth yw gwir bwrpas y cynnig hwn. Wel, rwy'n credu ei fod yn ymgais fanteisgar i ymelwa ar leiafrif o boblyddiaeth wrth-wleidyddol, yn y gobaith y bydd yn rhoi rhywfaint o sail etholiadol iddynt yn ystod etholiadau nesaf y Cynulliad pan fyddant yn dymuno dychwelyd i'r Siambr hon. Yn fy marn i, mae'n gynnig sy'n ymgais sinigaidd a digywilydd i hybu buddiannau breintiedig a goroesiad gwleidyddol. A daw un o'r gwelliannau gan Aelod na all hyd yn oed drafferthu byw yng Nghymru. Mewn gwledydd eraill, mae'r gêm hon o newid pleidiau, ailenwi, ail-greu, yn ôl mympwyon a hunan-fudd yr unigolion dan sylw, yn annemocrataidd, ac rwy'n ei ystyried yn annemocrataidd—wel, yn sicr mewn gwledydd eraill, byddai'n cael ei ystyried yn annemocrataidd. Ac mae creu'r Cynulliad hwn—y Senedd hon bellach—yn ganlyniad i fandadau amryw o etholiadau cyffredinol a refferenda, ac mae mandad democrataidd clir o'i blaid.
Mae datganoli i mi yn ymwneud â grymuso, mae'n ymwneud â datganoli grym a'i ddwyn mor agos at y bobl ag y bo modd. Mae'n wir fod llawer iawn o hyder wedi'i golli yn ein system wleidyddol ddemocrataidd, a bod y rhaniadau dwfn yn ein cymdeithas ynglŷn â Brexit wedi cyfrannu at hyn, yn ddiau, a rhaid inni fynd i'r afael â hyn. Ond mae'n rhaid i ni barhau i edrych ar ffyrdd o rymuso cymunedau fwyfwy, ac atgyfnerthu llywodraeth leol a chymunedau, a sicrhau bod y rhain yn digwydd o fewn fframwaith o werthoedd cyffredin. Ac ni ddylem anwybyddu'r hyn y gallasom ei gyflawni hyd yma drwy ddatganoli grym i bobl Cymru, fel y mae datganoli wedi ein galluogi i'w gyflawni.
Mae'r rheini ohonom a gafodd eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli, yn enwedig cyfnod Thatcher, yn ymwybodol iawn o fethiannau'r system wleidyddol ganolog, unbenaethol, o'r brig i lawr roeddem yn ddarostyngedig iddi. Ac ers hynny, gyda datganoli, rydym wedi atal preifateiddio'r GIG, er enghraifft, fel sy'n digwydd yn Lloegr. Rydym wedi gwrthsefyll y preifateiddio a'r darnio sy'n digwydd yno ym myd addysg. Rydym wedi gwrthwynebu ymdrechion i gyflwyno systemau addysg detholus fel sy'n digwydd yn Lloegr. Ac rydym wedi gwarchod gweithwyr amaethyddol yng Nghymru, hawliau gweithwyr y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi arwain y ffordd ym maes partneriaeth gymdeithasol, trawsblannu organau, hawliau tenantiaid, ac yn economaidd mae lefelau cyflogaeth yn uwch nag a welwyd ers degawdau—lefelau cyflogaeth na fyddem ond wedi breuddwydio amdanynt ddegawdau'n ôl. Yng Nghymru mae gennym y rhaglen adeiladu ysgolion fwyaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac rydym yn darparu meddyginiaeth am ddim yng Nghymru, yn wahanol i Loegr. Ac rydym bellach yn ymestyn ein hawl ddemocrataidd i bleidleisio i gynnwys pobl ifanc 16 oed.
Felly, rydym wedi cyflawni hyn, ac rydym wedi cyflawni llawer mwy, mewn degawd o gyni gan y Torïaid, sydd wedi ein hamddifadu o biliynau o bunnoedd o arian cyhoeddus. Ac wrth gwrs mae ffordd bell i fynd, a llawer i'w wneud, ac mae yna fethiannau, ac mae yna bethau sy'n mynd o chwith. Ond ar hynny, fe ddywedaf hyn, a dywedaf wrth y rhai na chawsant eu magu yn ystod y cyfnod cyn datganoli: pan soniwn am y camgymeriadau a wnaethom, a'r pethau sy'n mynd o chwith, wel, mae hynny'n digwydd am ein bod yn gwybod amdanynt, gallwn eu trafod, gallwn ddwyn y Llywodraeth i gyfrif. Yn y cyfnod cyn datganoli, ni allem byth wneud hynny—nid oeddem yn gwybod amdanynt, ac roeddent wedi'u cuddio. Dyna'r math o ddemocratiaeth a oedd gennym bryd hynny, a dyna pam fod datganoli grym mor bwysig, a pham fod datganoli mor bwysig. Gallwn yn awr ddwyn ein gwleidyddion a'n sefydliadau gwleidyddol i gyfrif mewn ffordd na allem byth mo'i wneud o'r blaen.
Mae'r cynnig hwn, Lywydd, yn negyddol, mae'n gynnig dinistriol, o'r math rydym wedi dysgu ei ddisgwyl gan y dde eithafol. Nid yw'n cyfrannu dim at yr heriau sy'n wynebu Cymru, a dylid ei wrthod yn llwyr.
Rwy'n ddiolchgar iawn eich bod wedi caniatáu i mi ddod i mewn ar ddiwedd y ddadl hon. Nid oeddwn yn bwriadu siarad, ond mewn gwirionedd, rwy'n teimlo bod ei chynnwys yn peri pryder mawr i mi.
Rwy'n gwrthod yn llwyr yr holl syniad y dylid cyfyngu ar ddatganoli mewn unrhyw fodd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud—ac nid wyf am sefyll yma chwaith i ddweud mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw hollti'r gwahaniaeth rhwng y Cynulliad a'r Senedd, a wyddoch chi, Llywodraeth ofnadwy Cymru. Oherwydd, mewn gwirionedd, mae angen i ni i gyd edrych ar ein hunain, oherwydd nid ydym wedi bod yn ddewr, ac rydym yn y sefyllfa hon heddiw oherwydd nad ydym wedi bod yn ddewr. Nid ydym wedi pleidleisio dros fwy o Aelodau Cynulliad, ac mae eu hangen arnom. Pam y mae eu hangen arnom? Mae eu hangen arnom, mewn gwirionedd, oherwydd eich bod chi wedi bod mewn grym ers amser maith, a phe bai gennych aelodau rhydd ar y meinciau cefn, pe bai gennych fwy o Aelodau Cynulliad, gallech gael y dadansoddiad beirniadol hwnnw a'r craffu beirniadol hwnnw sydd mor bwysig o—[Torri ar draws.] Na, rydych yn ei wneud yn awr, ond mae rhyddid ynghlwm wrth niferoedd. Mae mwy o ryddid gyda niferoedd yn y gwrthbleidiau hefyd. Mae angen inni gael system bwyllgorau well. Mae angen i ni ystyried sut y gallwn ddiwygio deddfwriaeth yn y dyfodol. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw cael Senedd gadarn ac effeithiol yma. Mae angen inni ymgorffori gwelliannau, nid ceisio lleihau a thynnu nôl. Oherwydd rwyf fi gyda Carwyn yn llwyr ar hyn, ac rwy'n siarad fel rhywun a gafodd ei geni yn Lloegr, ac a fu'n byw am y rhan fwyaf o fy mywyd yn y dwyrain pell, ac fe ddeuthum yma 20 mlynedd yn ôl. Mae fy mhlant yn Gymry, rwy'n hawlio Cymreictod, rwy'n dwli ar y Senedd hon, rwy'n wirioneddol falch ohoni, ac nid wyf yn deall yn iawn pam na ddylai pobl Cymru gael yr un hawliau'n union â fy ngŵr annwyl sy'n Albanwr, neu fy ffrindiau yn Senedd Iwerddon. Felly, yn bendant—mae'n rhaid i ni fod yn gyfartal. Sut y gallwn gael gwared ar y tensiwn a'r cydbwysedd hwnnw â Lloegr—unwaith eto, gwlad rwy'n ei charu, yn ei pharchu ac yn ei hedmygu, ond grym gwleidyddol sy'n llawer mwy na ni—nid wyf yn gwybod. A dyna'r pethau y mae angen inni weithio arnynt.
Ond gadewch inni edrych arnom ein hunain yn gyntaf, oherwydd sawl gwaith y mae pobl yn absennol mewn pwyllgorau? Sawl gwaith nad yw pobl yn darllen y papurau? Sawl gwaith na fydd pobl yn trafferthu gwneud gwaith craffu cywir? Sawl gwaith na fydd pobl yn trafferthu darllen deddfwriaeth a gwneud yr holl welliannau hynny? Rydym am fod yn Senedd dda yma. Rhaid inni wneud yn well, ac yna cawn ddechrau dadlau am y gweddill. Ond peidiwch—peidiwch—â gadael i fethiannau fod yn rheswm pam y dylai pobl ddweud 'na' wrth Senedd Cymru.
Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i gyfrannu, Jeremy Miles.
Diolch, Lywydd. Mae hwn yn gynnig i chwilio am bennawd gan blaid sy'n chwilio am bwrpas. Mae'n ymgais eithaf amrwd gan Blaid Brexit—ac mae'r cliw yn yr enw—i ddod o hyd i darged newydd i ymosod arno gan na allant feio'r Undeb Ewropeaidd mwyach am yr holl drafferthion. Pwy sydd nesaf ar y rhestr o dargedau? Yr union sefydliad y maent yn dewis eistedd ynddo. Ond Lywydd, mae'n ymddangos i mi fod yna wrth-ddweud sylfaenol wrth wraidd ymgais Plaid Brexit i newid ei ffocws o achos sydd wedi ei ennill i un rwy'n mawr obeithio ac yn disgwyl ei fod yn un na allant ei ennill.
Roedd eu hymgyrch yn erbyn yr UE wedi'i seilio ar bryderon pobl mewn cymunedau ledled y DU fod penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud yn rhy bell o'u cymunedau. Eu targed newydd yw'r Senedd hon. A beth bynnag arall a gaiff ei ddweud amdanom, ar y cyfan, rydym wedi ymwreiddio yn ein cymunedau ac yn hapus iawn i gael ein dwyn i gyfrif gan ein hetholwyr.
Felly, beth y mae 'adfer rheolaeth' yn ei olygu mewn gwirionedd? Pan anfonodd yr etholwyr neges eu bod yn teimlo'n analluog i ddylanwadu ar y penderfyniad tyngedfennol yn eu bywydau, a ydym mewn difrif i gredu mai'r hyn roeddent am ei weld mewn gwirionedd oedd canoli'r holl bŵer hwnnw mewn milltir sgwâr o amgylch San Steffan, unbennaeth etholedig gan Lywodraeth y DU, sydd â mwyafrif mawr, a all sathru ar unrhyw un o'r ffynonellau eraill o gyfreithlondeb yn y DU, boed yn sefydliadau datganoledig, llywodraeth leol neu'r farnwriaeth? Nid wyf yn credu hynny.
Lywydd, mae'r Senedd hon yn dal yn gymharol ifanc—byddwn yn cyrraedd ein pen-blwydd yn un ar hugain oed cyn bo hir—ac nid yw datganoli yng Nghymru wedi bod yn statig mewn unrhyw fodd. Rydym wedi newid o fod yn gorff corfforaethol i fod yn Senedd, o fod yn llunwyr is-ddeddfwriaeth i fod yn ddeddfwrfa deddfwriaeth sylfaenol, gyda phwerau treth cynyddol ac awydd i gael rhagor o ddatganoli. Erbyn hyn, mae gennym allu i wneud dewisiadau sy'n well ac yn wahanol ac sy'n gweddu'n well i bobl Cymru. Ac rwy'n credu ei fod yn gyflawniad gwirioneddol, er bod y model datganoli wedi newid, fod egwyddor datganoli wedi dod yn ewyllys bendant pobl Cymru erbyn hyn, ac mae'r clod am y cyflawniad hwnnw i'w rannu gan bob un o'r pleidiau prif ffrwd a gynrychiolir yn y Siambr hon. Felly, gadewch i ni wrthod y cynnig am yr hyn ydyw—ymgais i danseilio ewyllys pobl Cymru gan blaid sydd ar ei gwely angau.
Trof at y gwelliannau. Mae gwelliant Plaid Cymru, fel y dywedodd Hefin David, yn ymosod ar Lywodraethau olynol yng Nghymru, er eu bod yn rhan o'r hyn y dywedwn i, o leiaf, ei bod yn Llywodraeth glymblaid lwyddiannus rhwng 2007 a 2011. Mae gwelliant 1 yn un nad ydym yn anghytuno â'i sylwedd o gwbl, ond rydym am allu pleidleisio ar y gwelliant a osodwyd gennym, sy'n cyfleu natur drawsbleidiol a dinesig y setliad datganoli yma yng Nghymru. Clywais gyfraniadau gwych o feinciau'r Ceidwadwyr yng nghyswllt datganoli. Nid oedd y gwelliant, yn fy marn i, yn cyfleu hynny. Roeddwn wedi meddwl efallai eich bod yn disgwyl am gyfeiriad o San Steffan; credaf efallai fod hynny'n annheg, o ystyried y cyfraniadau a gafwyd yn y ddadl. Ac fel dyn a achubwyd o ebargofiant gwleidyddol gan ddatganoli, credwn fod Neil Hamilton wedi gwneud cyfraniad arbennig o anniolchgar wrth gynnig ei welliant, am ei fod yn synhwyro ei dranc gwleidyddol yn y lle hwn efallai, ac yn troi ei olygon at swydd etholedig ar fwrdd iechyd yn rhywle yn y dyfodol, efallai.
Ond o ddifrif, Lywydd, mewn byd rhyngddibynnol cymhleth a rhwydweithiol yn fyd-eang, lle na ellir ymdrin â rhai problemau—fel newid hinsawdd—ac eithrio ar draws awdurdodaethau, rhaid teilwra eraill—fel gofal cymdeithasol neu addysg— o ran yr atebion iddynt, yn ôl angen lleol. Yr hyn sydd ei angen arnom yn y math hwnnw o fyd yw model gwasgaredig o bŵer a democratiaeth a gwneud penderfyniadau, sy'n cydnabod ac yn dathlu rôl sefydliadau datganoledig fel y Senedd hon, a all greu seneddwyr sydd wedi rhoi areithiau heddiw fel Carwyn Jones, David Melding, Angela Burns ac eraill, a dylem ymfalchïo yn y cyfraniad y mae'r sefydliad hwn yn ei wneud i Gymru ac i ddemocratiaeth Cymru, a pheidio â'i fychanu. Felly, Lywydd, gofynnaf i'r Aelodau wrthod y cynnig a chefnogi gwelliant y Llywodraeth.
Mark Reckless i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Rwy'n gresynu braidd at gywair y ddau gyfraniad diweddaraf oddi ar feinciau Llafur, oherwydd roeddwn yn meddwl bod llawer o'r cyfraniadau cyn hynny yn feddylgar iawn ac roeddem yn cael dadl dda. Ac a gaf fi atgoffa'r Gweinidog, yn arbennig, pan fydd yn siarad am danseilio democratiaeth, fod Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Nawr, efallai fod Mick Antoniw'n hoff o ddweud bod y farn honno, neu ein statws, a'r hyn a ddywedwn, fod yn rhaid bod hynny wedi'i barchu, yn mynd yn groes i ddemocratiaeth rywsut neu'n un eithafol—[Torri ar draws.] Nid oes gennyf amser i dderbyn ymyriad. Mae'n ddrwg gennyf.
Ond fe ddywedoch chi y byddech yn parchu'r refferendwm hwnnw, ond wedyn fe dreulioch chi dair blynedd a hanner yn ceisio ei danseilio. Diolch byth, fe golloch chi, ond ceir canlyniadau i'r tair blynedd a hanner honno o ran sut y mae pobl yng Nghymru'n teimlo am y sefydliad hwn a'ch Llywodraeth. Nawr, mae Dai Lloyd yn siarad am y gwahaniaeth rhwng Llywodraeth Cymru a'r sefydliad hwn—a siaradodd eraill am hynny hefyd—ond wrth gwrs, i ddechrau, am nifer o flynyddoedd, yr un endid oeddent, ac mae'r iaith honno'n dal i barhau. Ond fe welwn, pan soniwn am yr hyn a ddywed Plaid Cymru, na fu unrhyw newid grym yn y lle hwn. Ac mae'r Ceidwadwyr yn dweud pa mor wych y gallai datganoli fod pe bai gennym Lywodraeth Geidwadol, ond sut y bydd hynny byth yn digwydd pan ddywed Plaid Cymru na fyddant byth yn gweithio gyda chi? Os na fyddwch yn gweithio i gyflwyno Llywodraeth amgen, ni cheir newid grym, a chyfeirir anhapusrwydd a siom pobl ynglŷn â gwleidyddiaeth yn naturiol at y sefydliad, wedi'i ychwanegu at y tair blynedd a hanner o geisio atal Brexit.
Ac rydym yn clywed o hyd am refferendwm 2011, ond yr hyn a ddywedodd oedd: pŵer deddfu llawn mewn 20 maes datganoledig. Ac roedd y system a'i rhagflaenai'n eithaf hurt ac nid oedd yn gwneud unrhyw synnwyr i neb. Do, fe bleidleisiodd Cymru o blaid hynny, ond wedyn fe newidioch chi hynny i fod yn fodel pwerau a gadwyd yn ôl, gan ddatganoli'r holl bwerau ac eithrio mewn meysydd a gadwyd yn ôl i San Steffan, ac yn benodol, roedd gennych ddatganiad ar y papur pleidleisio a ddywedai na all y Cynulliad ddeddfu ar drethi beth bynnag fyddai canlyniad y bleidlais hon. Yn 2014, roeddwn yn AS a bleidleisiodd eto yn San Steffan i ddeddfu ar gyfer hynny. Ond yn 2017, ar ôl sefyll yn 2015 a 2016 ar faniffesto o barchu hynny, fe wnaethoch ei wrthdroi, ni chawsoch y refferendwm, a gorfodwyd pwerau codi trethi ar Gymru. Rwy'n credu bod pris i'w dalu am hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, ar yr eitem, tan y cyfnod pleidleisio.