– Senedd Cymru ar 8 Chwefror 2022.
Eitem 6 yw'r ddadl ar gyllideb ddrafft 2022 i 2023. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl hon y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23.
Ers ein cyfle cyntaf i gynnal dadl ar y gyllideb ddrafft hon yn y Senedd, mae'r Pwyllgor Cyllid a phwyllgorau eraill y Senedd wedi craffu ar ein cynlluniau gwariant. Cyn i mi roi rhai o'r myfyrdodau cynnar ar y themâu allweddol sy'n deillio o'r craffu, hoffwn fyfyrio ar yr amgylchiadau sydd wedi llunio ac sy'n parhau i lunio ein paratoadau ar gyfer y gyllideb. Cafodd y gyllideb hon ei ffurfio i gydnabod bod y pandemig ac effeithiau cyfyngiadau'r flwyddyn flaenorol ymhell o fod ar ben. Fodd bynnag, rydym ni wedi gosod cyllideb sydd, yn ogystal â chanolbwyntio ar gryfhau'r cymorth i wasanaethau cyhoeddus yn awr, hefyd yn gosod y sylfeini ar gyfer Cymru lewyrchus y tu hwnt i'r pandemig. Mae gennym ni rwymedigaeth i'r rhai y mae'r pandemig wedi effeithio arnyn nhw fwyaf i ddarparu Cymru decach nad yw'n gadael neb ar ei ôl. Mae'r gyllideb hon yn gwneud popeth o fewn ein pwerau a'n cyllid i fynd i'r afael ag effeithiau anghymesur y pandemig.
Rydym ni hefyd yn cydnabod yr angen i edrych i'r tymor hwy i sicrhau ein bod yn gadael Cymru gynaliadwy ar ein holau ni ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Rydym ni wedi gweithredu yn awr i fynd i'r afael â'r angen dybryd i ymateb i'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae ein paratoadau wedi eu harwain gan gefnogi llwybr Cymru at adferiad, gan sicrhau bod Cymru gryfach yn deillio o'r pandemig, ac un sy'n parhau i werthfawrogi cydraddoldeb. Mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o hyn, ac adlewyrchir hyn yn y cyllid refeniw ychwanegol yr ydym yn ei fuddsoddi: £1.3 biliwn ar gyfer y GIG, £60 miliwn o gyllid grant penodol i gefnogi gofal cymdeithasol a gwasanaethau hanfodol eraill, a £743 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod y gyllideb ddrafft hon wedi rhoi sicrwydd i'r sector cyhoeddus ehangach, a'r gydnabyddiaeth o'n hymgysylltiad â phartneriaid. Ochr yn ochr â'n cymorth i'r sector cyhoeddus, byddwn ni hefyd yn parhau i gefnogi'r economi a busnesau gyda buddsoddiad uniongyrchol o £160 miliwn i liniaru effeithiau'r pandemig, a gyda buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus, canol trefi a seilwaith digidol.
Nod y gyllideb hon hefyd yw sicrhau Cymru decach, ac mae ein buddsoddiad o £60 miliwn ychwanegol mewn gofal plant, bron i £65 miliwn mewn adfer a diwygio addysg, a £90 miliwn mewn prydau ysgol am ddim, ar ben buddsoddiadau sylweddol sydd wedi eu gwneud eisoes yn y maes hwn, yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl. Hefyd, mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, wedi ei ysgogi gan gyfradd chwyddiant nas gwelwyd ers dros ddegawd, mae'r gyllideb hon wedi ystyried yr effeithiau ar y rhai mwyaf agored i niwed. Rydym ni wedi gweithredu drwy gynnwys cynlluniau fel ein cynllun treialu incwm sylfaenol ac ategu'r gronfa cymorth dewisol. Rydym ni hefyd wedi galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei holl ysgogiadau i ymateb i'r argyfwng, gan gydnabod nad yw'r ysgogiadau a all gael yr effaith fwyaf ar les ac ynni wedi eu datganoli. Ond ni fyddwn yn hunanfodlon yn ein hymateb ein hunain i helpu'r rhai y mae'r argyfwng yn effeithio arnyn nhw fwyaf. Rwy'n bwriadu cyhoeddi pecyn o fesurau ar gyfer 2021-22 a 2022-23 cyn bo hir, wedi ei dargedu at ble y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.
Mae'r argyfwng hinsawdd a natur yn gofyn am weithredu brys a radical, y math a lywiodd y penderfyniad i greu gweinyddiaeth newydd ar gyfer newid hinsawdd a'r math a arweiniodd at y penderfyniad i gynnal adolygiad ar sail sero o'n holl gyllidebau cyfalaf. Mewn ymateb, rydym wedi llunio strategaeth seilwaith a buddsoddi 10 mlynedd newydd i Gymru a chynllun cyllid buddsoddi tair blynedd, sy'n neilltuo £8 biliwn o gyllid i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur. Mae'n rhaid i bob buddsoddiad yn y cynllun ystyried effaith garbon ei weithgareddau. Wrth wraidd y cynllun hwn mae £1.8 biliwn o gyllid cyfalaf sy'n buddsoddi yn yr argyfyngau hinsawdd a natur, ac mae hyn yn cynnwys buddsoddi yn y goedwig genedlaethol, bioamrywiaeth a mannau gwyrdd, cynhyrchu ynni a datgarboneiddio. Wrth sicrhau bod cymaint â phosibl o'n cyllid cyfalaf ar gael, byddaf hefyd yn amlinellu rhagor o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol yn ein cyllideb derfynol, sy'n cyd-fynd â'n blaenoriaethau. Fe wnaeth y mecanweithiau cymhleth a oedd ar waith gan Lywodraeth y DU i reoli ein proffil ein hunain ei gwneud yn amhosibl cyflwyno cynllun credadwy ar gyfer defnyddio cyfalaf trafodiadau ariannol yn gynharach.
Gan droi at bwyntiau a godwyd wrth graffu, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth o'r camau cadarnhaol yr ydym yn eu cymryd i wella prosesau cyllideb a threth drwy ein cynllun gwella'r gyllideb. Edrychaf ymlaen at ymgysylltu â'r Pwyllgor Cyllid a chydweithwyr ehangach yn y Senedd ar y gwaith pwysig hwn wrth i ni symud ymlaen. Rwy'n credu bod cyfle gwirioneddol i ni gydweithio i roi Cymru ar flaen y gad yn y diwygiadau hyn, yng nghyd-destun y DU ac yn rhyngwladol. Rwyf hefyd yn croesawu'r gydnabyddiaeth o'r graddau y mae gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi effeithio ar ein cynlluniau.
Methodd y setliad cyllidebol heriol o gylch gwariant aml-flwyddyn Llywodraeth y DU, yn enwedig o ran cyfalaf, â mynd i'r afael â'r pryderon sylweddol y mae Cymru'n eu hwynebu. Mae'r diffyg cymorth parhaus gan Lywodraeth y DU ar gyfer COVID, ei methiant i ddarparu cynllun credadwy i ddisodli cyllid yr UE, a'r ffaith iddi anwybyddu ein cais rhesymol am gymorth i adfer tomenni glo a mynd i'r afael â llifogydd, yn rhai enghreifftiau yn unig o ble mae Llywodraeth y DU wedi gwneud drwg â phobl Cymru. Rydym ni hefyd wedi gweld, drwy beidio â chwblhau ei hadolygiad o wariant tan ddiwedd mis Hydref, fod Llywodraeth y DU unwaith eto wedi methu â pharchu datganoli, gan effeithio ar ein cyllideb a'n hamserlen graffu ein hunain. Er fy mod i'n gobeithio dychwelyd at ein hamserlen arferol yn y dyfodol, y realiti yw y byddwn, unwaith eto, ar fympwy Llywodraeth y DU. Ac, wrth gwrs, byddaf yn parhau i alw am barchu datganoli yn fy ymgysylltiad â Llywodraeth y DU.
Yng ngoleuni'r setliad heriol a'r cyd-destun cyllidol cyfnewidiol parhaus, rydym ni wedi gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod cymaint â phosibl o'n cyllid ar gael. Rwyf i'n sicr ein bod ni wedi creu cyllideb ddrafft sy'n defnyddio'r holl ysgogiadau o fewn ein pwerau yn briodol. Er bod y camau yr ydym wedi eu cymryd yn ddoeth, nid ydyn nhw'n rhydd rhag risg. Wrth ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael yn llawn, rydym ni wedi mabwysiadu strategaeth wrth gefn newydd ac wedi gor-raglennu ein cyllidebau cyfalaf. Felly, rwy'n ei gwneud yn glir, heb ragor o gyllid gan Lywodraeth y DU, y byddai'n rhaid i unrhyw alwadau am fwy o gyllid ddod trwy ddadfuddsoddi mewn maes arall. Yn hyn o beth, rwy'n croesawu'r gydnabyddiaeth o'r angen am fwy o hyblygrwydd cyllidebol gan Lywodraeth y DU. Efallai y cawn ni ragor o arian eto gan Lywodraeth y DU yn ystod y flwyddyn, ond yn aml caiff hyn ei ddarparu ar fyr rybudd a heb yr hyblygrwydd sydd ei angen i fanteisio i'r eithaf ar y dyraniadau hyn.
Mae'r gyllideb ddrafft hon yn cyflawni'r ymrwymiadau a wnaed yng nghytundeb cydweithredu Llywodraeth Cymru â Phlaid Cymru. Mae'n cefnogi buddsoddiad mewn 13 o'r meysydd yr ydym wedi cytuno i gydweithio arnyn nhw, er enghraifft buddsoddi £90 miliwn ychwanegol i gefnogi ein huchelgais ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob disgybl ysgol gynradd. Byddaf yn parhau i weithio gydag Aelodau dynodedig yn y meysydd cytundeb hyn. Mae'r gyllideb ddrafft hefyd yn nodi'r buddsoddiad o £20 miliwn ar gyfer plant sy'n derbyn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal o ganlyniad i drafodaethau gyda Jane Dodds.
Hoffwn i ddiolch i bawb sy'n ymwneud â pharatoi'r gyllideb, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid. Mae'r craffu ar ein rhagdybiaethau a'n cynlluniau yn rhan annatod o'r broses, ac er ein bod yn cytuno â'r mwyafrif helaeth o'r argymhellion, mae rhai y bydd angen i ni eu hystyried yng ngoleuni'r cyfyngiadau yr wyf i wedi eu nodi heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Aelodau yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac adroddiadau pwyllgorau eraill y Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 8 Mawrth. I gloi, rwy'n ffyddiog bod gennym ni gyllideb a all gyflawni ein huchelgais a'n gweledigaeth ar gyfer Cymru gryfach, decach a gwyrddach. Rwy'n falch o gyflwyno cyllideb ddrafft sy'n cyflawni dros Gymru, ac edrychaf ymlaen at ddadl adeiladol yn y Senedd. Diolch.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23. Hon yw cyllideb ddrafft gyntaf y Senedd hon a dwi'n falch bod Llywodraeth Cymru, am y tro cyntaf ers 2017, wedi gallu darparu cyllideb amlflwyddyn sy'n nodi cyllid ar gyfer 2022-23 a dyraniadau dangosol ar gyfer y ddwy flynedd ganlynol. Mae hyn wedi cael croeso cynnes gan ein rhanddeiliaid ac mae wedi rhoi lefel o sicrwydd iddynt gynllunio'n fwy effeithiol dros y tymor hirach. Gobeithiwn y bydd hyn yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn dychwelyd i gyhoeddi ei chyllidebau ym mis Hydref, gan ganiatáu i'r pwyllgor ei amserlen arferol o wyth wythnos waith ar gyfer craffu ar y gyllideb. Edrychwn ymlaen hefyd at arwain dadl yn y Cyfarfod Llawn ar flaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn nhymor yr haf, cyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft yn yr hydref.
Hon yw fy nghyllideb ddrafft gyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, ac rwy'n ystyried ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar randdeiliaid fel blaenoriaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth ac a rannodd eu barn gyda ni drwy ein hymgynghoriad, ein sesiynau tystiolaeth a'n grwpiau ffocws, sydd oll wedi helpu i lunio ein canfyddiadau.
Wrth i Gymru ddod allan o'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru, a'r Gweinidog yn benodol, yn wynebu heriau sylweddol wrth ymateb i bwysau economaidd, effeithiau newid hinsawdd, Brexit a lliniaru'r wasgfa ar incwm aelwydydd. Mae pwysau sy'n gysylltiedig â'r pandemig hefyd yn parhau i fod yn arwyddocaol ar gyfer iechyd, llywodraeth leol a busnesau. Mae ein hadroddiad yn gwneud 41 o argymhellion. O ystyried yr amser sydd ar gael, byddaf yn canolbwyntio ar ein prif bryderon.
Mae newid nodedig ac i'w groesawu yn y gyllideb ddrafft hon tuag at adferiad. Mae'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru wedi bod yn well na'r disgwyl ac mae rhagolygon diwygiedig ar gyfer sylfaen drethi Cymru hefyd yn dangos rhagolygon economaidd gwell. Rydym yn croesawu'r cynnydd yn grant bloc Cymru, sydd wedi galluogi Llywodraeth Cymru i gynyddu dyraniadau cyllideb ar draws yr holl grwpiau gwariant. Mae angen mawr am hyn ac mae'n rhoi sylfeini cadarn ar waith ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Fodd bynnag, er bod y gyllideb ddrafft ar gyfer 2022-23 yn cynnwys cynnydd sylweddol, mae'r cynnydd yn y ddwy flynedd ganlynol yn llawer llai, a bydd y blynyddoedd hyn hyd yn oed yn fwy heriol.
Fel pwyllgor, rydym ni hefyd yn pryderu am y rhagolygon cyfyngedig ar gyfer cyllid cyfalaf, sydd, mewn termau real, yn debygol o gael ei dorri dros y cyfnod o dair blynedd. Bydd angen gwneud dewisiadau anodd. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym yn falch o glywed bod y Gweinidog wedi newid ei dull o ddyrannu cyllid ar gyfer prosiectau cyfalaf, sydd â'r bwriad o sicrhau cymaint o gyllid â phosibl, drwy fenthyca a symiau canlyniadol posibl. Fodd bynnag, hoffem ni gadw llygad ar y dull newydd hwn ac rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn adrodd yn ôl ar y sefyllfa gyllid yn ystod y flwyddyn sy'n gysylltiedig â chynlluniau cyfalaf sydd wedi eu gor-raglennu a'i bod yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd am y cyllid a geir yng nghronfa wrth gefn Cymru.
O ran cyllid, mae'r pwyllgor yn credu y dylai Llywodraeth Cymru fod â'r ymreolaeth i wthio cyllid o un flwyddyn i'r nesaf, er mwyn atal unrhyw arian o Gymru rhag cael ei golli. Er mwyn gwneud ei gwaith yn effeithiol, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r hyblygrwydd mwyaf posibl yn y gyllideb, felly rydym yn cefnogi'r Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU am fwy o hyblygrwydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, ym mis Tachwedd y llynedd, cyhoeddwyd y cytundeb cydweithredu rhwng Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru, a oedd yn cynnwys nifer o ymrwymiadau gwariant ychwanegol. Er i'r Gweinidog ddweud wrthym nad oedd y cytundeb yn cael fawr o effaith ar y broses o flaenoriaethu cyllid ar gyfer eleni, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn rhoi eglurder ynghylch sut y caiff y cyllid ar gyfer ymrwymiadau polisi cysylltiedig ei adlewyrchu yn y dyraniadau cyllideb yn y dyfodol.
Hoffwn i droi yn awr at sut mae'r gyllideb ddrafft yn effeithio ar feysydd polisi penodol. Mae'r pwyllgor yn croesawu'r farn bod iechyd, gofal cymdeithasol a llywodraeth leol wedi cael setliad da, sy'n adlewyrchu'r blaenoriaethu gwasanaethau lleol. Rydym ni hefyd yn falch o glywed y sylwadau cadarnhaol ynghylch ymateb a chymorth ariannol Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae'r sectorau hyn yn destun pwysau digynsail. Fel y nodwyd, bydd dyraniadau cyfalaf yn gyfyngiad penodol, o ystyried y galwadau am drawsnewid gwasanaethau, buddsoddi mewn seilwaith a goblygiadau ehangach datgarboneiddio a lleihau effaith amgylcheddol. Er mwyn mynd i'r afael â hyn, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried newid refeniw i gyfalaf yn rhan o gyllidebau'r dyfodol ac yn caniatáu i'r sector iechyd wneud yr un peth, i ddarparu hyblygrwydd, o ystyried y cyllid cyfalaf cyfyngedig sydd ar gael. Rydym hefyd yn pryderu am brinder staff a materion yn ymwneud â'r gweithlu, wrth i staff ddioddef yn sgil absenoldebau oherwydd eu bod wedi eu gorweithio a COVID-19. Mae heriau tymor hwy hefyd i fynd i'r afael â nhw, er enghraifft nifer uchel o swyddi gwag ymhlith staff, wrth i lawer yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol wneud dewisiadau gyrfa amgen, sydd yn aml gyda gwell cyflog. O ganlyniad, mae'r pwyllgor yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn darparu gwybodaeth i ddangos sut y bydd y dyraniadau ar gyfer 2022-23 yn lleddfu'r pwysau uniongyrchol ar staffio ar draws y sectorau iechyd, llywodraeth leol a gofal cymdeithasol.
Dywedodd y busnesau y buom yn siarad â nhw fel pwyllgor wrthym fod yr ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru a'r sectorau y maen nhw'n eu cynrychioli wedi bod yn dda. Roedd cydnabyddiaeth o'r cymorth cyflym a roddodd Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig, yn enwedig yr egwyl i ardrethi busnes, y cynllun ffyrlo, grantiau a benthyciadau. Fodd bynnag, fe wnaethom ni glywed hefyd y gellid gwneud mwy, a dyna pam yr ydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried gwneud rhagor o ddyraniadau yn y gyllideb derfynol i gynyddu'r cymorth ar gyfer rhyddhad ardrethi busnes. Er mwyn galluogi busnesau a manwerthwyr llai i adfer ar ôl y pandemig, rydym yn argymell hefyd fod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddiad mewn seilwaith a sgiliau digidol ac yn helpu'r busnesau hynny i ddatblygu presenoldeb ar-lein.
Gyda’r agenda hinsawdd ac amgylcheddol yn cynyddu yn dilyn uwchgynhadledd dyngedfennol COP26, mae'r pwyllgor yn croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i dargedu buddsoddiadau ar gyfer yr argyfyngau o ran hinsawdd a natur. Efallai y bydd lefel y cyllid newydd a’r cyllid ychwanegol a nodir yn y gyllideb ddrafft, fodd bynnag, yn is na'r hyn sydd ei angen i ymdrin â'r dasg enfawr hon. Mae’n siomedig nad yw’r gyllideb ddrafft yn mynd ymhellach i asesu effaith penderfyniadau gwariant Llywodraeth Cymru o ran carbon. Os yw’r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn sail wirioneddol i Lywodraeth Cymru wneud buddsoddiadau, rhaid iddi gael syniad clir o’r hyn y bydd yn ei chyflawni drwy ei gwariant. Rhaid i Lywodraeth Cymru hefyd amlinellu’r ffyrdd ymarferol y mae’r strategaethau a’r amcanion a amlinellir yn y gyllideb ddrafft yn cael eu rhoi ar waith i gydnabod yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur.
Eleni, bydd aelwydydd yn teimlo pwysau sylweddol ar eu hincwm o ganlyniad i chwyddiant, costau ynni cynyddol a phrisiau nwyddau uwch, a'r aelwydydd tlotaf fydd yn cael eu taro galetaf. Bydd y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am gynnydd ym mhris biliau nwy a thrydan pobl yn peri pryder arbennig i lawer. Mae'r pwyllgor yn nodi ymdrechion parhaus Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng, fel y gronfa cymorth dewisol, cymorth gyda biliau tanwydd gaeaf ac ymestyn prydau ysgol am ddim, er i ni glywed bod gan amrywiaeth o gynlluniau broffil isel, sy'n golygu bod y bobl fwyaf agored i niwed ar eu colled. Mae'r pwyllgor yn annog y Gweinidog i gysylltu â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i sicrhau bod y cyhoedd ac asiantaethau cymorth yn deall bod amrywiaeth o gymorth ar gael. Dylid symleiddio a chydgrynhoi budd-daliadau Cymru. Rydym yn galw am sefydlu un pwynt mynediad sy'n cysylltu ar draws y gwasanaethau a'r cynlluniau allweddol er mwyn i bobl allu cael gafael ar y cymorth y mae ganddyn nhw hawl iddo yn hawdd.
Soniais ar ddechrau’r cyfraniad hwn fod ymgysylltu â phobl ledled Cymru a gwrando ar farn rhanddeiliaid yn flaenoriaeth gen i fel Cadeirydd. Mae dangos effaith y gyllideb yn hollbwysig er mwyn sicrhau ymgysylltiad ystyrlon â’r sectorau a’r sefydliadau hynny yr effeithir arnynt, ac yn rhoi cyfle iddynt lywio a dylanwadu ar benderfyniadau cyllidebol. Rydym wedi argymell felly y dylid ystyried sut y cyflwynir gwybodaeth gyllidebol fel ei bod yn gysylltiedig â chanlyniadau ac effeithiau. Teimlwn y bydd hyn yn helpu gwerthusiad Llywodraeth Cymru ei hun, yn ogystal â chynyddu gallu’r cyhoedd a’r Senedd i ddwyn cyllideb Llywodraeth Cymru i gyfrif.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, mae gwaith craffu ariannol yn bwysicach nag erioed, oherwydd bydd gwariant cyhoeddus ar raddfa fawr yn ofynnol i sicrhau adferiad o’r pandemig a mynd i’r afael â’r pwysau aruthrol y mae Cymru yn eu hwynebu. Fel y dywedodd cyfranwr o un o grwpiau ffocws y pwyllgor wrthym, gallai cynnydd mewn gwariant wneud byd o wahaniaeth wrth inni adfer ar ôl y pandemig. Mae'r pwyllgor yn falch bod y safbwyntiau hynny'n cyd-fynd â blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mater i'r Gweinidog rŵan ydy sicrhau bod gweledigaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei gwireddu. Fel pwyllgor, byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw llygad barcud ar sicrhau bod rhethreg Llywodraeth Cymru yn cyd-fynd â’r realiti. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox i gynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliant yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad, yn ogystal â fy nghyd-Aelod, Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid? Hoffwn i ddiolch yn ddiffuant i chi am y ffordd yr ydych chi wedi rheoli'r pwyllgor drwy'r cylch cyllideb cyntaf hwn; mae wedi bod yn wych gweithio gyda chi. A diolch hefyd i bawb a gyfrannodd at graffu ar y gyllideb bwysig iawn hon.
Dirprwy Lywydd, fel y dywedais i yn fy araith ar y gyllideb ddrafft fis diwethaf, mae nifer o bethau yr wyf i'n eu croesawu yn gyffredinol, er enghraifft y cyllid ychwanegol ar gyfer GIG Cymru, y gwyliau ardrethi busnes a'r cynnydd i setliad llywodraeth leol. Mae angen dyraniadau o'r fath yn fawr i helpu gwasanaethau a busnesau nid yn unig i adfer ar ôl y pandemig, ond i feithrin cydnerthedd a'n rhoi ar lwybr gwell ar gyfer y dyfodol. Mae'n rhaid i mi ailadrodd mai'r rheswm y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu darparu'r cymorth ariannol y mae mawr ei angen ar ein cymunedau a'n gwasanaethau, yw bod Llywodraeth Geidwadol y DU wedi rhoi'r hwb ariannol mwyaf erioed i Gymru. Fodd bynnag, yn y manylion y daw'r broblem, a byddwn ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn craffu'n fanwl ar sut y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio dros y misoedd nesaf i sicrhau ei fod yn cyflawni'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi ei addo—Cymru gryfach, decach a gwyrddach, fel yr ydym newydd ei glywed.
Y rheswm dros ein gwelliant, Dirprwy Lywydd, a'r rheswm y bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y cynnig heddiw, yw ein bod yn dal i fod o'r farn y gall Llywodraeth Cymru wneud mwy yn ei chynigion cyllidebol. Yn wir, mae angen iddi wneud mwy i fynd i'r afael â rhai o'r materion mwyaf arwyddocaol y mae Cymru'n eu hwynebu: yr ôl-groniad yn y GIG yng Nghymru sydd eisoes dan straen ac wedi ei orweithio, sydd wedi arwain at nifer o gofnodion diangen yn ystod COVID, fel yr amseroedd aros uchaf ar gofnod mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, yr amseroedd ymateb ambiwlansys arafaf ar gofnod a'r amseroedd aros hiraf ar gofnod; y galw cynyddol am ofal cymdeithasol, sy'n rhoi straen enfawr ar y sector yn ogystal â nifer o faterion staffio, gan gynnwys cyflog isel, trosiant uchel—[Torri ar draws.] Na, ni fyddaf yn derbyn unrhyw ymyriadau ar hyn o bryd; mae'n ddadl ddwy awr ac mae amser hir i bobl gyfrannu. Maen nhw'n cynnwys cyflogau isel, cyfraddau trosiant uchel a gostyngiad yn nifer y staff mewn rhai ardaloedd. Mae cyflwr bregus economi Cymru hefyd, sydd wedi gorfod ymdrin â chylch o gyfyngiadau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, gan dagu twf a buddsoddiad. Mae'r pandemig wedi amlygu'r materion economaidd strwythurol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu, gan dynnu sylw at yr angen i godi'r gwastad yn y wlad. Ac ymateb i newid hinsawdd a'r argyfyngau natur, a fydd yn dominyddu gwaith y Senedd hon, yn yr hyn a alwodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd yn 'ddegawd arwyddocaol'.
Wrth gwrs, mae gennym ni hefyd y mater presennol yn ymwneud â'r costau byw cynyddol, fel y gwnaethom ei drafod yn gynharach, o ganlyniad i bwysau chwyddiant wrth i'r economi fyd-eang adfer ar ôl y pandemig. Nawr, cyn i'r Aelodau gyferbyn fy nghyhuddo o hyn, nid wyf yn negyddol heb reswm. Y gwir amdani yw bod y pandemig wedi gwaethygu problemau sylweddol a oedd yn bodoli eisoes, gan nad oedd Llywodraethau blaenorol wedi mynd i'r afael â nhw. Er bod y grŵp Llafur yn credu nad nhw na Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddim sydd o'i le yng Nghymru, mae'r rhain yn bethau y bydd angen i'r Llywodraeth, yn wir, yma, a'r Senedd fynd i'r afael â nhw dros y blynyddoedd nesaf, a nhw hefyd yw'r pethau y mae ein hetholwyr yn dymuno ein bod yn canolbwyntio ein hymdrechion arnyn nhw. Dyna pam yn fy araith y mis diwethaf y gwnes i nodi rhai o gynlluniau'r Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer cyllideb Llywodraeth Cymru a fyddai'n cefnogi adferiad ein gwasanaethau cyhoeddus, ond hefyd yn adeiladu cenedl fwy llewyrchus ac uchelgeisiol. Mae ein cynlluniau â chostau yn cynnwys mynd i'r afael ag ôl-groniad y GIG drwy sefydlu canolfannau llawfeddygol rhanbarthol sy'n ysgafn o ran COVID; cefnogi busnesau i adfer ar ôl y pandemig drwy becyn o bolisïau i ddenu pobl yn ôl i'r stryd fawr, yn ogystal ag arian ychwanegol i fusnesau sy'n dal i gael anawsterau wrth dalu am gost COVID; hyrwyddo ymchwil a datblygiad drwy ddarparu dull mwy cydgysylltiedig o ymdrin ag ymchwil a datblygiad; sefydlu partneriaethau a ffrydiau cyllid newydd—dylai hyn fod yn flaenoriaeth benodol i helpu'r wlad i ailgodi'n gryfach, creu swyddi ac annog mewnfuddsoddiad; cymryd camau i leddfu'r pwysau ar deuluoedd drwy ariannu cynllun i rewi'r dreth gyngor i Gymru gyfan am o leiaf dwy flynedd i roi saib ychwanegol i'r teuluoedd hynny; cynyddu cyllid fesul disgybl i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid hanesyddol yn ein hysgolion a recriwtio mwy o athrawon amser llawn i hybu safonau a rhoi'r addysg sydd ei hangen ar bobl ifanc ar ôl dwy flynedd o darfu.
Yr hyn sy'n peri rhwystredigaeth i mi, Dirprwy Lywydd, yw ein bod yn clywed dro ar ôl tro, gan Weinidog ar ôl Gweinidog, sut nad Llywodraeth Cymru yw'r unig ffatri syniadau a bod angen gwaith trawsbleidiol ar faterion o bwys cenedlaethol. Ac roeddwn i'n falch o glywed y Gweinidog yn dweud heddiw ei bod yn dymuno gweithio gyda phob un ohonom ni ar hyn, ac eto nid yw camau gweithredu Llywodraeth Cymru bob amser yn cyfateb i'w rhethreg, ac, yn hytrach, mae'n teimlo mai safbwynt diofyn y Llywodraeth yw troi tuag at y ffordd hawsaf o gael y pleidleisiau angenrheidiol i basio cyllideb—bargen gyda Phlaid, ac, mae'n ymddangos, un gyda'r Aelod Rhyddfrydol hefyd. Ac, unwaith eto—[Torri ar draws.]
Mae'r Aelod wedi dweud yn gynharach na fydd yn derbyn ymyriad ar hyn o bryd.
Ac, unwaith eto, dyma'r hyn sydd gennym ni yn y pen draw. Gweinidog, mae'r ddadl hon yn gyfle i gael cefnogaeth drawsbleidiol wirioneddol i'ch cynlluniau gwariant yn ogystal â sicrhau bod eich cyllideb yn rhoi Cymru ar lwybr gwell. A wnewch chi gyfarfod â mi a chyd-Aelodau o'r ochr hon i'r Siambr i wrando ar ein pryderon yn ogystal â phryderon rhanddeiliaid, ac ystyried ein cynlluniau i sicrhau bod y gyllideb yn cyflawni ei blaenoriaethau?
Gan gyfeirio at gytundeb Llafur/Plaid, sy'n dal i ymddangos yn fath o glymblaid ym mhob dim ond enw, mae pryderon wedi eu codi, er enghraifft gan Ddadansoddiad Cyllidol Cymru, fod y cytundeb yn cynnwys ymrwymiadau gwariant ychwanegol sylweddol. Er enghraifft, fel yr ydym wedi ei glywed, gallai ehangu prydau ysgol am ddim gostio £86 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol; gallai ehangu'r ddarpariaeth gofal plant gostio £40 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol; a bydd angen o leiaf £200 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol i greu gwasanaeth gofal cenedlaethol. Wel, gallwn ni weld yn sicr nad yw Plaid Cymru yn rhad i'w chanlyn, nac ydy? Mae cwestiynau o hyd ynghylch pa mor hawdd eu cyflawni yw rhai o'r ymrwymiadau hyn. Er enghraifft, Gweinidog, sut ydych chi'n ymateb i bryderon gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am y diffyg cyllid cyfalaf ychwanegol ymddangosiadol i fuddsoddi mewn cyfleusterau arlwyo ysgolion i gyflawni'r polisi prydau ysgol? Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi datgan hefyd nad yw'r gyllideb ddrafft yn gwneud dyraniad i ddiwygio'r trefniadau sy'n llywodraethu sut y mae pobl yn talu am ofal ar hyn o bryd. Ydych chi'n cytuno â hyn? Gweinidog, a wnewch chi hefyd roi eglurder ynghylch y cynllunio ariannol yr ydych wedi ei wneud ar gyfer y dyfodol i gyfrifo costio polisïau'r cytundeb cydweithredu a'u hariannu? Ac a yw hyn yn cynnwys cynyddu cyfraddau treth incwm Cymru ar ryw adeg?
Dirprwy Lywydd, wrth archwilio ymhellach, mae'r gyllideb ddrafft yn llwytho swm sylweddol o arian ychwanegol i'r GIG ar y dechrau, ac rwy'n dal i gwestiynu sut y bydd hyn yn effeithio ar gynllunio ariannol tymor canolig a hir ar gyfer gwasanaethau. Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i bryderon sylweddol y pwyllgor iechyd ynghylch methiant llawer o'r byrddau iechyd i sicrhau cynaliadwyedd ariannol a'r angen cyson i Weinidogion eu hachub? At hynny, beth fydd effaith y gostyngiad o £98 miliwn i ddyraniad cyfalaf craidd y GIG ar y trawsnewid gwasanaethau y mae mawr ei angen, fel y nododd Cydffederasiwn y GIG?
Nawr, er fy mod i'n croesawu'r cynnydd i'r setliad llywodraeth leol, mae pryderon o hyd, gyda'r holl bwysau y mae cynghorau'n eu hwynebu, y bydd llawer yn cael eu gadael heb fawr o le ychwanegol i symud. A yw'r Gweinidog yn ystyried unrhyw ddyraniadau pellach i lywodraeth leol er mwyn iddyn nhw allu buddsoddi'n fwy yn eu hardaloedd lleol yn hytrach na dim ond bodloni pwysau chwyddiant? Yn y cyfamser, mae materion hirsefydlog o hyd ynghylch fformiwla ariannu llywodraeth leol ac, yn benodol, bod y bwlch cyllid rhwng y cynghorau sy'n cael y mwyaf a'r lleiaf o gyllid wedi ehangu eto. A yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu ac ailwampio'r fformiwla o'r diwedd fel bod pob cyngor yn cael setliad teg yn gyson, p'un a yw'n gyngor gwledig neu drefol? Nawr, rwy'n gwybod yr ateb stoc—rydym ni wedi ei glywed droeon—ond dyma lle mae angen i'r Llywodraeth arwain, ac arwain o'r tu blaen a chymryd cyfrifoldeb am hyn.
Mae hefyd y mater o newid hinsawdd. Er fy mod i'n croesawu'r cyfalaf o £1.8 biliwn dros y tair blynedd nesaf ar gyfer buddsoddiad gwyrdd, mae £1.6 biliwn o hyn wedi ei ddyrannu i ddatgarboneiddio tai cymdeithasol, gan adael £200 miliwn yn unig o gyfalaf ar gyfer buddsoddiadau eraill. Yn amlwg, ni all hyn fod yn ddigon.
Cyn i mi orffen, Dirprwy Lywydd, hoffwn i sôn am ddyfodol cyllid yr UE. Drwy gydol proses y gyllideb, rydym ni wedi clywed Llywodraeth Cymru yn pardduo Llywodraeth y DU yn gyson ynghylch y mater, yn wir roedd yr Aelodau'n parablu'n helaeth yn gynharach heddiw. Bydd Cymru'n parhau i elwa ar gyllid yr UE tan 2024-25, a bydd Llywodraeth y DU yn ychwanegu yn raddol at y swm sy'n weddill. Mae'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn hapus i godi bwganod am ddyfodol Cymru y tu allan i'r UE yn hytrach nag edrych ar gyfleoedd i godi'r gwastad yn ein cymunedau. Mae Gweinidogion yn sôn bod disodli rhaglenni yn fygythiad i ddatganoli, ond pam na ddylem ni ymddiried yn ein cynghorau a'n cymunedau i gyflawni'r newidiadau y maen nhw'n dymuno eu gweld? Siawns nad ydym ni yn y Siambr hon yn credu mewn egwyddorion is-gorff, onid ydym ni? A yw Gweinidogion yn credu mewn gwirionedd y dylai'r pwerau ddod i ben ym Mae Caerdydd?
Mae angen i'r Aelod ddod i ben yn awr. Mae gen i lawer o siaradwyr sy'n dymuno cyfrannu heddiw.
Mae angen i ni weld Gweinidogion Cymru yn ymgysylltu â rhaglenni newydd, fel y mae llawer o'n cynghorau wedi ei wneud eisoes, felly ein cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i fanteisio ar y cyllid sydd ar ei ffordd i ni. Mae angen i'r gyllideb hon fod yn un o gefnogaeth ac adferiad, ond hefyd yn un o ddyhead a ffyniant, o godi'r gwastad—cyllideb sy'n cyflawni newid gwirioneddol i bobl Cymru o'r diwedd yn hytrach na dim ond potsian o amgylch yr ymylon. Mae'r cyllid mwyaf erioed gan y Llywodraeth yn ogystal â'r cymorth enfawr yn ystod y pandemig yn rhoi cyfle i ni yma yng Nghymru i sicrhau dyfodol gwell, mwy disglair a gwyrddach. Ond fel y mae, mae hon yn gyllideb sy'n methu â chyrraedd y nod mewn nifer o feysydd allweddol, wrth gefnogi ein GIG, ein cymunedau—
Peter, rydych chi wedi mynd dros yr amser. Mae angen i chi orffen.
Rwyf i ar fin gorffen, dirprwy Gadeirydd. Gall y gyllideb wneud mwy ac mae'n rhaid iddi wneud hynny, a dyma pam yr wyf i'n mawr obeithio bod y Gweinidog yn agored i ymgysylltu â ni ar yr ochr hon i'r Siambr ac nid eu cyfeillion Plaid yn unig, fel y gallwn ni, yn un Senedd, ymateb i'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru. Diolch.
Dwi am rannu, gyda'ch caniatâd chi, fy nghyfraniad i yn gyntaf yn fy nghapasiti fel llefarydd fy mhlaid ar gyllid, ac wedyn i fynd ymlaen i wneud rhai sylwadau fel Cadeirydd pwyllgor.
Yn gyntaf, o safbwynt Plaid Cymru, wrth gwrs, rŷn ni yn croesawu, fel clywon ni gan y Cadeirydd, fod hon, o'r diwedd, yn gyllideb aml-flwyddyn. Dwi'n credu ein bod ni wedi aros rhyw bum mlynedd, dwi'n meddwl, i gael bod yn y sefyllfa yma. Mae'n wyrthiol, a dweud y gwir, sut mae cyrff cyhoeddus a'r Llywodraeth ei hunan i raddau, wedi gallu cynllunio mewn sefyllfa neu ar sail mor anwadal, yn gorfod mynd o flwyddyn i flwyddyn oherwydd gwahanol sefyllfaoedd sydd wedi codi ar lefel San Steffan. A gobeithio nawr y bydd y sicrwydd yma'n gallu caniatáu i'n darparwyr gwasanaethau cyhoeddus allu gwasgu pob ceiniog allan o'r pwrs cyhoeddus i wneud yn siŵr ei bod yn gweithio mor galed ag sy'n bosib. Ac mae angen i hynny digwydd, wrth gwrs, achos efallai gallai rhai pobl ddadlau bod y setliad, yn ymddangosiadol, efallai, ar yr olwg gyntaf, yn edrych yn weddol hael; mae'r realiti yn wahanol iawn, yn enwedig os edrychwch chi dros y tair blynedd gyfan.
Rŷn ni'n dal yn gweld oblygiadau Brexit, sydd yn dod â chostau ychwanegol i ni yma yng Nghymru, rŷn ni'n dal i frwydro COVID, rŷn ni'n dal, wrth gwrs, yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur yng Nghymru ac ar draws y byd, a nawr rŷn ni'n gweld y crisis costau byw yn taro. Felly, os ŷch chi'n credu bod y gwasanaeth iechyd, a llywodraeth leol, a darparwyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod o dan bwysau ers blynyddoedd, wel, dyw hynna ddim yn mynd i leihau yn y cyfnod nesaf. Mae'n bosib iawn y bydd e'n dwysáu, ac mae'n rhaid i ni gadw hynny mewn cof. Mae'r Ceidwadwyr yn sefyll lan yn y Siambr hon ac yn awgrymu bod Trysorlys Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn hael â Chymru. Mae'n ffars, yn fy marn i, ac mae'n sarhad, a dweud y gwir. Hyd yn oed petaech chi yn derbyn ei fod e'n setliad gwell na'r disgwyl, beth rŷn ni'n gweld, wrth gwrs, yw Llywodraeth y Deyrnas Unedig efallai yn rhoi gydag un llaw, ond yn cymryd gyda'r llaw arall. Maen nhw'n pocedu £1 biliwn o bres Ewropeaidd a ddylai fod yn dod i Gymru, gwrthod siâr Cymru o bres HS2, tra eu bod nhw'n hapus i'w roi i'r Alban, a'i roi i Ogledd Iwerddon, ond ddim i Gymru, o na. Mae Cymru angen gwybod ei lle pan fo'n dod i dderbyn cyllid o'r fan yna.
Ac, wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod hefyd—dyw e ddim yn rhywbeth newydd—petai cyllidebau Cymru wedi cadw lan â chwyddiant, yna, fel mae'r Gweinidog yn ein hatgoffa ni'n gyson, mi fyddai yna £3 biliwn ychwanegol yn y gyllideb rŷn ni'n ei thrafod heddiw, ond, na. Felly, peidied y Ceidwadwyr â dod fan hyn a dweud wrthym ni pa mor lwcus ŷn ni. Mae'r gwirionedd i'r gwrthwyneb yn llwyr.
Ac, wrth gwrs, erbyn diwedd y drydedd flwyddyn, yn edrych ar yr hyn sydd o'n blaenau ni y prynhawn yma, mi fydd y gyllideb refeniw 0.5 y cant yn unig wedi tyfu dros dair blynedd—dros dair blynedd, dim ond 0.5 y cant. Mi fydd y gyllideb gyfalaf, sef y buddsoddiad yna sydd ei angen mewn isadeiledd i danio'r economi, i greu swyddi yma yng Nghymru—mi fydd hwnnw 11 y cant yn llai. Dyna realiti y gyllideb sydd o'n blaenau ni heddiw. Felly, dwi ddim eisiau clywed rhagor o'r nonsens yna, â phob parch.
O ran gwelliant y Ceidwadwyr, wel, am welliant diog. Mae'n or-gyffredinol, onid yw e? Plague on all your houses yw'r math yna o welliant. Ydych chi'n dweud bod pob elfen o'r gyllideb ddim yn cwrdd â blaenoriaethau pobl Cymru? Dyw hi ddim yn berffaith. Dyw hi ddim yn berffaith, a dwi yn poeni a'n rhannu consýrn am elfennau o'r gyllideb i lywodraeth leol, er enghraifft, ddim o reidrwydd y flwyddyn nesaf, ond yn sicr ym mlwyddyn 2 a 3, lle bydd yr ariannu yn disgyn ymhellach y tu ôl i lefelau chwyddiant.
Dwi'n poeni hefyd fod mwy y gellid a dylid ei wneud i amddiffyn pobl Cymru yn wyneb y crisis costau byw. Bydd rhai o fy nghyfeillion i ar feinciau Plaid Cymru yn ymhelaethu ar hynny yn nes ymlaen yn y ddadl yma.
Ond mae yna elfennau i'w croesawu hefyd, wrth gwrs, sydd yn sicr yn cwrdd â blaenoriaethau pobl Cymru yn fy marn i, yn enwedig yr elfennau yn y gyllideb yma, fel clywon ni gan y Gweinidog, sy'n rhoi ar waith y cytundeb cydweithredu rhwng Plaid Cymru a'r Llywodraeth. Yn lle cwyno ar y cyrion, fel mae'r Ceidwadwyr yn ei wneud, mae Plaid Cymru wedi rholio llawes i fyny ac wedi eistedd lawr gyda'r Llywodraeth i drafod beth allwn ni wneud i fynd i'r afael â'r problemau yma. Yn lle amddiffyn toriadau mewn credyd cynhwysol, mae Plaid Cymru yn y cytundeb yma yn delifro ar brydau ysgol am ddim i blant Cymru. Yn lle leinio pocedi cyfeillion cyfoethog gyda chytundebau PPE digon amheus, fel mae'r Ceidwadwyr wedi'i wneud, mae Plaid Cymru yn y cytundeb cydweithredu yn delifro mwy o ofal am ddim i blant a rhieni Cymru.
Ac mae yna 44 o bolisïau eraill sydd yn cael eu rhoi ar waith yn y cytundeb, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gyllideb yma yn sicrhau ein bod ni'n gallu symud ymlaen gyda'r rheini. Felly, yn wahanol iawn i beth rŷn ni'n ei weld gan y Ceidwadwyr a Llywodraeth San Steffan y dyddiau yma, mae Plaid Cymru yn arddel gwleidyddiaeth gyfrifol, adeiladol sydd yn blaenoriaethu anghenion pobl Cymru, ac mae hynny'n cael ei adlewyrchu i raddau helaeth yn y dyraniadau sydd yn y gyllideb yma.
Dyw hi ddim yn berffaith. Dwi'n cytuno, dyw hi ddim y gyllideb y byddai Plaid Cymru wedi'i gosod yn ei chyflawnder, a dyna pam y byddwn ni ddim yn pleidleisio o blaid y gyllideb. Ond mae yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac mae o leiaf yn cychwyn ar y gwaith o adeiladu'r Gymru rŷn ni eisiau ei gweld.
Mi symudaf i ymlaen nawr i gyfrannu i'r ddadl ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith. Wrth gwrs, mae'n gyllideb ddrafft gyntaf y chweched Senedd. Mae'n dilyn COP26, ac yn rhagflaenu COP15, lle wrth gwrs rŷn ni'n disgwyl gweld targedau bioamrywiaeth byd-eang newydd yn cael eu cytuno. Mae pwysau cynyddol ar lywodraethau ar draws y byd i sicrhau bod gweithredu a buddsoddiadau yn cyd-fynd â'r geiriau cadarnhaol rŷn ni'n eu clywed, ond, wrth gwrs, beth rŷn ni eisiau gweld yw hynny yn cael ei roi ar waith. Ac mae'r chweched Senedd yn cyd-ddigwydd â chyfnod tyngedfennol yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd a dirywiad byd natur. Ac mi fydd camau gweithredu Llywodraeth Cymru dros y pum mlynedd nesaf yn hanfodol wrth benderfynu a all Cymru fodloni ei chyllideb garbon ar gyfer 2021-25, a gwneud digon o gynnydd, wrth gwrs, tuag at ddod yn genedl sero net erbyn 2050 neu, wrth gwrs, yn gynt, gobeithio.
Mae llawer o naratif y Llywodraeth ynghylch y gyllideb ddrafft yn ymwneud â’r angen i lunio ymateb brys a radical, i ddefnyddio geiriau'r Llywodraeth, i’r argyfwng newid hinsawdd. Ac mae’r gyllideb ddrafft yn gyfle i'r Llywodraeth ddangos ei hymrwymiad i wneud yn union hynny drwy ei phenderfyniadau gwariant. Ac mae rhai arwyddion calonogol: mwy o fuddsoddiad ym maes datgarboneiddio tai, yr economi gylchol, coedwigaeth, ynni adnewyddadwy a llifogydd. Ond, wrth gwrs, y prawf go iawn fydd a fydd hyn yn ddigon i sicrhau newid ar y raddfa ac ar y cyflymder sydd angen ei weld.
Nawr, datgarboneiddio trafnidiaeth yw un o'r prif heriau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru. Mae'r strategaeth drafnidiaeth ddiweddar, a hynny'n gwbl briodol, yn gosod targedau ymestynnol, sy'n cynnwys i 50 y cant o fysiau fod yn ddi-allyriad erbyn 2028. Ond fydd cyllid i gefnogi datgarboneiddio gwasanaethau bysiau lleol ddim yn dilyn tan 2023-24. Y cwestiwn yw: pam? Pam hynny? Rŷn ni wedi gofyn i'r Gweinidog am esboniad o hynny. Ochr yn ochr â'r targed ar gyfer bysiau, mae gan Lywodraeth Cymru darged y bydd pob cerbyd tacsi neu gar hurio preifat yn ddi-allyriad erbyn 2028. Wel, bydd angen cymorth ar y sector hwn, gydag unigolion yn hunangyflogedig a’u henillion yn isel, er mwyn iddyn nhw allu trosglwyddo i geir trydan. Yn ein hadroddiad, felly, rŷn ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i nodi map llwybr ar gyfer cyflawni targedau 2028, gan gynnwys manylion y gost ariannol a sut y caiff ei chyflawni. Rŷn ni'n edrych ymlaen, wrth gwrs, at dderbyn ymateb.
Yn olaf ar drafnidiaeth, rydym yn pryderu am y backlog mewn gwaith cynnal a chadw priffyrdd lleol sy’n aros i gael ei wneud, ar gost o tua £1 biliwn. Mae cyflwr ein ffyrdd ni wrth gwrs nid yn unig yn cael effaith ar drafnidiaeth, ond ar bethau eraill, oherwydd y problemau ehangach y gall dadfeilio eu hachosi, er enghraifft, culverts sydd ddim, efallai, yn cael eu cynnal a'u cadw sydd wedyn yn achosi llifogydd. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud wrthym ni y bydd cyllid yn cael ei ailgyfeirio o ganlyniad i'r adolygiad o ffyrdd ond, wrth gwrs, y gofid yw na fydd hynny hyd yn oed yn ddigon i grafu'r wyneb. Ond amser a ddengys.
Symud ymlaen, felly, i’r argyfwng natur, fe fethodd Llywodraeth Cymru gyflawni dros fyd natur yn y bumed Senedd. Fe fethodd gyflawni ymrwymiadau a thargedau cenedlaethol a rhyngwladol. Er bod yr ymchwil wyddonol ddiweddaraf yn awgrymu nad yw’n rhy hwyr i dynnu byd natur yn ôl o’r dibyn, mae angen newid sylweddol a thrawsnewidiol—nid yn y flwyddyn nesaf, nid ymhen pum mlynedd, ond nawr. Ac mae’r gyllideb ddrafft yn awgrymu cynnydd mewn gwariant uniongyrchol ar fioamrywiaeth, ac mae hynny i’w groesawu. Fodd bynnag, mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn gliriach ynglŷn â chyfanswm y cyllid y mae’n ei ddarparu ar gyfer adferiad byd natur, a sut y mae wedyn yn asesu a monitro effaith hyn ar frwydro yn erbyn colli bioamrywiaeth.
Ac, i gloi, mae gan, wrth gwrs, Cyfoeth Naturiol Cymru rôl ganolog o ran gwarchod a gwella'r amgylchedd a chefnogi'r llywodraeth i wireddu ei huchelgais. A'r neges gan randdeiliaid, yn glir iawn ac yn groch iawn, yw bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael trafferth i gyflawni ei rôl yn iawn oherwydd diffyg capasiti a diffyg adnoddau. Mae'r Gweinidog, wrth gwrs, wedi dweud bod gwaith ar droed i adolygu cyllideb Cyfoeth Naturiol Cymru, ac rŷn ni'n croesawu hynny’n fawr iawn fel pwyllgor. Ond mae'n rhaid defnyddio'r cyfle yma i wrthdroi y tuedd hanesyddol o doriadau yng nghyllid Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’n rhaid cytuno ar setliad felly—
Mae'n rhaid i'r Aelod ddod i ben nawr.
—sy’n gymesur â'i rôl a'i chyfrifoldebau. Dŷn ni ddim eisiau bod nôl yn trafod hwn eto flwyddyn nesaf. Diolch.
Hoffwn i ddechrau drwy gofnodi fy niolch i'r Gweinidogion, y Dirprwy Weinidogion a swyddogion Llywodraeth Cymru a roddodd dystiolaeth i ni ar y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg i gefnogi ein gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft eleni. Yn ogystal ag ymddangos gerbron y pwyllgor, rhoddodd Llywodraeth Cymru wybodaeth ysgrifenedig helaeth a manwl i ni. Rydym yn ddiolchgar am eu gwaith caled a'u cydweithrediad, a wnaeth wella ein gallu i graffu ar y gyllideb ddrafft. Fe wnaethom ni ofyn am wybodaeth mor fanwl oherwydd profiadau ein pwyllgor blaenorol, a oedd yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn nodi'n ddigon clir sut yr oedd ei chyllidebau drafft yn cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Yn anffodus, roedd hyn yn wir eleni hefyd. Yn siomedig, ni chyhoeddodd y Llywodraeth asesiadau o'r effaith ar hawliau plant i ddangos sut yr oedd hawliau plant yn llywio dyraniadau cyllideb ar gyfer plant a phobl ifanc. Hepgoriad amlwg oedd nad oedd yn sôn am hawliau plant unwaith yn ei holl asesiad effaith integredig strategol.
Rydym yn pryderu'n fawr fod hwn yn gam yn ôl yn ei rhwymedigaethau statudol o dan Fesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011. Mae'r gyfraith hon yn golygu bod angen i Weinidogion Cymru roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth y maen nhw'n ei wneud. Mae'r dyraniadau ariannol ar draws portffolios Llywodraeth Cymru ymysg y penderfyniadau pwysicaf y mae Gweinidogion Cymru yn eu gwneud. Rydym yn gobeithio bod eleni yn wall anffodus a bod y Llywodraeth yn derbyn ein hargymhellion yn y maes hwn ar gyfer cyllidebau drafft yn y dyfodol.
Gwnaethom nifer o argymhellion cryf, ond hoffwn i dynnu sylw at ddau argymhelliad arall o'n hadroddiad terfynol. Mae'r cyntaf yn ymwneud ag iechyd meddwl amenedigol. Ar hyn o bryd, mae llawer o deuluoedd yn y gogledd a'r canolbarth yn gorfod teithio pellteroedd afresymol o hir i gael gafael ar wasanaethau cymorth iechyd meddwl amenedigol arbenigol. Fe wnaethom ni glywed gan y Dirprwy Weinidog bod cynlluniau i agor darpariaeth newydd ar gyfer y teuluoedd hynny ychydig dros y ffin, ar y cyd â GIG Lloegr, yn cael eu gweithredu'n gyflym. Yn anffodus, clywodd ein pwyllgor blaenorol sicrwydd tebyg yn ôl yn 2017. Rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn egluro pa wasanaethau fydd yn agor i deuluoedd Cymru, a phryd y bydd y gwasanaethau hynny ar gael.
Mae'r ail yn ymwneud â'r lwfans cynhaliaeth addysg. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi newid uchafswm dyfarniad y lwfans cynhaliaeth addysg o £30 ers 2004. Nid yw ychwaith wedi newid uchafswm trothwy incwm aelwydydd ers blwyddyn ariannol 2011-12. Rydym ni o'r farn bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn ffynhonnell amhrisiadwy o incwm i blant a'u teuluoedd. Rydym wedi argymell bod y Llywodraeth yn egluro pam y mae wedi gadael i werth y lwfans mewn termau real ostwng mor sylweddol, ac effaith y gostyngiad hwnnw ar nifer y dysgwyr sy'n gymwys i'w gael.
Mae ein hadroddiad yn gwneud nifer o argymhellion adeiladol eraill ar draws ystod o feysydd polisi hanfodol. Yn fwy cyffredinol, mae'r pwyllgor yn croesawu'r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn 2022-23 ar gyfer plant a phobl ifanc. Yn benodol, rydym yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer ar ôl COVID, a'r cyllid ar ei gyfer.
Rydym wedi cytuno y byddwn yn rhoi sylw arbennig ar hyd y chweched Senedd i gyflawni polisïau. Mae hyn yn berthnasol i lawer o ymrwymiadau a wnaeth Llywodraeth Cymru i ni mewn cysylltiad â'r gyllideb ddrafft. Ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a thu hwnt, bydd fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor a minnau yn gwneud yr hyn a allwn i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn trosi'r ymrwymiadau a'r dyraniadau cyllid hynny yn welliannau gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc o ddydd i ddydd. Diolch.
Prynhawn da, Gweinidog. Diolch yn fawr am y gwaith yr ydych chi wedi ei wneud ar y gyllideb, a diolch am eich ymgysylltiad â mi hefyd. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddechrau drwy groesawu'r cynigion hynny yn y gyllideb. Rydw i a Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn eu cefnogi. Y rheini yw: buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl; cynnydd yn y grant datblygu disgyblion, menter a gyflwynwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol eto; parhau gyda'r cerdyn teithio rhatach i bobl o dan 21; cynllunio i ddarparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn yr ysgol gynradd; a dwi'n edrych ymlaen hefyd i weld rhagor o fanylion am gynigion ynghylch gofal plant. A dwi'n falch hefyd o weld yr ymrwymiad, yn dilyn fy nghynnig i ddiwygio gwasanaethau i blant y llynedd, i fuddsoddi mewn rhaglen o ddiwygio er mwyn sicrhau bod pob plentyn sy'n derbyn gofal yn cael y dechrau gorau mewn bywyd.
Tybed a gaf i ganolbwyntio ar dri maes: trafnidiaeth, iechyd a chladin, y soniais amdanyn nhw yn gynharach yn y Siambr. I ddechrau gyda thrafnidiaeth, rwy'n croesawu'r manylion amlinellol sydd wedi eu darparu o ran cyllid i gynorthwyo trafnidiaeth gyhoeddus a'r agenda datgarboneiddio. Tybed a allwch chi roi rhagor o wybodaeth am sut y bydd dyraniad y gyllideb yn galluogi llwybrau sy'n fuddiol yn gymdeithasol i gael eu cynnal, neu hyd yn oed eu hadfer, a faint o'r gyllideb sydd wedi ei ddyrannu ar hyn o bryd sy'n cael ei gyfeirio tuag at ddatgarboneiddio. A hoffwn i ofyn pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd, yn dilyn fy nadl fer ar drafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bobl dan 25 oed, a sut y gallai'r gyllideb hon roi hwb i'r uchelgais hwnnw.
O ran iechyd, roeddwn i'n meddwl tybed a gaf i ofyn am rywfaint o eglurder ynghylch y cyllid ar gyfer iechyd meddwl. Rwy'n croesawu'r cyllid ychwanegol sydd wedi ei ddyrannu i wasanaethau iechyd meddwl, a'r £10 miliwn ychwanegol ar gyfer plant a phobl ifanc. Gweinidog, rydym yn gwybod bod nifer y bobl ifanc sy'n aros am fwy na phedair wythnos am asesiad iechyd meddwl yr uchaf erioed. Felly, tybed a allech chi rannu rhywfaint o fanylion ychwanegol am sut y byddai hyn yn cael ei ddyrannu. Ac, wrth aros ym maes iechyd eto, rwyf i wedi codi pryderon yn gyson ynghylch deintyddiaeth, yn enwedig yn y canolbarth a'r gorllewin, gyda nifer cynyddol o bobl yn methu â chael mynediad at ddeintydd y GIG hyd yn oed cyn y pandemig. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr arian ychwanegol sydd ar gael, ond mae angen iddo wneud mwy. Felly, byddwn i'n ddiolchgar iawn am ragor o wybodaeth am hynny.
Yn olaf, Gweinidog, o ran cladin—unwaith eto, yr ail dro i mi godi'r mater hwn y prynhawn yma—mae'n argyfwng gwirioneddol ac yn sgandal i'r bobl hynny y mae'n effeithio arnyn nhw. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r manylion sydd wedi eu nodi yn y gyllideb sy'n ymwneud â'r mater hwn. Rwyf i yn pryderu, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o'r dyraniad cyfalaf i ymdrin â'r mater hwn ym mlwyddyn 2024-25, sy'n fy arwain i gredu y bydd yn rhaid i'r mwyafrif llethol o'r rhai sydd wedi eu dal yn y mater hwn aros o leiaf tair blynedd arall cyn y bydd gwaith adfer yn dechrau hyd yn oed. Mae hynny wyth mlynedd ers y drasiedi yn Nhŵr Grenfell. Pan fo'r cynllun pasbort diogelwch adeiladau eisoes wedi derbyn 248 o ddatganiadau o ddiddordeb, a gallwn ddisgwyl cyhoeddiad yn y cam nesaf ym mis Ebrill, hoffwn i ofyn a oes gofyn i'r lesddeiliaid hynny aros yn hirach i waith diogelwch hanfodol gael ei wneud.
Rwy'n gorffen unwaith eto, Gweinidog, drwy ddiolch i chi am eich ymgysylltiad ac am eich cefnogaeth i rai o'r materion yr wyf i wedi eu cyflwyno yn y gyllideb. Diolch yn fawr iawn. Diolch.
Byddai'r ddadl hon yn cael ei gwella pe bai gennym ni gynigion amgen, hyd yn oed os dim ond ar lefel cyllidebau gweinidogol, gan y Ceidwadwyr, nad oedden nhw'n fodlon derbyn unrhyw ymyriadau, a Phlaid Cymru. Mae'n hawdd gwario arian ychwanegol. Efallai y dylech chi ddweud o le yr ydych am ei gymryd.
Byddaf i'n cefnogi'r gyllideb, ond y cwestiwn allweddol yw: beth fydd yn cael ei gyflawni am y gwariant ychwanegol? Rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan Lywodraeth y DU am ei setliad cyllideb aml-flwyddyn, ac rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi manteisio ar adolygiad gwariant tair blynedd i roi sicrwydd cyllid i sefydliadau, gan ddarparu dyraniadau dros dro ar gyfer 2023-24 a 2024-25. Bydd pobl sy'n gweithio yn y sector gwirfoddol nad ydyn nhw wedi cael hysbysiad terfynu swydd yn anrheg Nadolig eleni oherwydd nad ydyn nhw'n gwybod a fyddan nhw'n cael eu hariannu i'r flwyddyn ganlynol.
Rwyf i hefyd yn croesawu'r ffaith bod y dyraniad wedi ei ddarparu dros y cyfnod o dair blynedd wedi rhoi cyfle i Lywodraeth Cymru ddarparu cynnydd sylweddol mewn cyllid refeniw yn 2022-23. Fodd bynnag, mae'r cynnydd yn 2023-24 a 2024-25 yn llawer mwy cymedrol, ac mae rhai sefydliadau'n cael eu cyllidebau wedi eu rhewi mewn termau arian parod ar lefel 2022-23. Rwy'n croesawu gor-ymrwymiad y gwariant cyfalaf, oherwydd dylai osgoi tanwariant cyfalaf wrth i gynlluniau lithro yn ystod y flwyddyn. Mae'n anochel y bydd cynlluniau cyfalaf yn llithro yn ystod y flwyddyn.
Mae'n hawdd gwario arian. Yr her i'r Llywodraeth yw ei wario'n fuddiol. Rwyf wedi fy siomi nad yw Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r pum E Saesneg. Effeithiolrwydd: a oedd y gwariant yn effeithiol yn y flwyddyn flaenorol ac a wnaeth gyflawni'r hyn oedd ei angen? Effeithlonrwydd: a gafodd adnoddau eu defnyddio yn effeithlon y llynedd? Os na, beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau defnydd effeithlon o adnoddau eleni? Cydraddoldeb: a yw gwariant y gyllideb yn deg i bob grŵp? Clywais Jayne Bryant yn siarad yn gynharach am blant; rwy'n siŵr bod rhywun yn mynd i sôn am fenywod, ac mae rhywun arall yn mynd i sôn am bobl hŷn yn ddiweddarach yn y ddadl hon. Tegwch: a yw'r gyllideb yn deg i Gymru gyfan, nid am flwyddyn yn unig ond dros sawl blwyddyn? A'r amgylchedd: beth yw effaith ddisgwyliedig y gyllideb ar garbon a bioamrywiaeth?
Er bod Deddf Cenedlaethau'r Dyfodol yn ymdrin â'r un olaf, mae angen mynd i'r afael â'r pedwar cyntaf. Pam mae rhai ardaloedd yn y DU, Gogledd America ac Ewrop yn llwyddiannus yn economaidd, gyda chyflogau uchel, sgiliau uchel a chynhyrchiant uchel? Maen nhw'n darparu'r offeryn economaidd pwysicaf—nid rhoi llwgrwobrwyon i bobl ddod; addysg yw'r offeryn economaidd pwysicaf. Os oes angen i chi ddarparu cymhellion ariannol i gwmnïau ddod ag unedau cangen, nid ydyn nhw eisiau dod. Trwy ddarparu'r capasiti ymchwil mewn prifysgolion, a darparu gweithlu medrus iawn, bydd clystyrau o gwmnïau'n dechrau ffurfio. Yna, bydd yr economi'n tyfu, a bydd cyflogau'n cynyddu.
Hefyd, mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar ac addysg yn parhau i fod yn un o'r dulliau mwyaf pwerus o fynd i'r afael ag anghydraddoldeb, i ymgorffori camau atal a buddsoddi yn ein cenedlaethau yn y dyfodol, fel nad oes neb yn cael ei adael ar ei ôl. Gyda'r ddarpariaeth gyffredinol o brydau ysgol am ddim mewn ysgolion cynradd gwladol, mae'n amlwg y bydd defnyddio prydau ysgol am ddim fel dangosydd cyllid addysgol ychwanegol yn diflannu. Rwy'n credu bod angen i ni wybod beth fydd yn disodli hynny.
Gan droi at effeithlonrwydd, mae angen i'r gwasanaeth iechyd gael ei hebrwng—. Roeddwn i'n mynd i ddweud i mewn i'r unfed ganrif ar hugain, ond yn sicr i mewn i ran olaf yr ugeinfed ganrif. Caiff presgripsiynau eu hargraffu, eu llofnodi, eu darparu â llaw; pam na allwn ni gael e-bresgripsiynau? Pam na ellir eu llenwi ar-lein gyda llofnod ar-lein ac yna eu hanfon at y fferyllydd perthnasol? Efallai y bydd pryderon ynghylch rhai cyffuriau, yn enwedig cyffuriau sy'n seiliedig ar opiwm, ond gellir cynnwys mesurau diogelu ar eu cyfer nhw. Un o'r pethau a synnodd lawer ohonom yn y pwyllgor iechyd—ac rwy'n siŵr y bydd Russell George yn sôn amdano'n ddiweddarach—yw bod peiriannau ffacs nid yn unig yn dal i gael eu defnyddio ond yn dal i gael eu prynu yn y gwasanaeth iechyd.
Beth mae'r byrddau iechyd yn ei wneud i gynyddu effeithlonrwydd ynni? Gan fod byrddau iechyd yn cael arian ychwanegol, sut maen nhw'n mynd i wella cynhyrchiant mewn ysbytai? Mae'n ymddangos bod gennym y syniad hwn eich bod yn rhoi'r arian a bydd popeth yn iawn. Wel, rydych chi'n rhoi'r arian ac nid yw popeth yn iawn, ac mae angen i ni fynd i'r afael â pham nad yw'n iawn, a gwneud yn siŵr ei fod yn iawn yn y dyfodol. Ac mae dweud, 'Mae angen mwy o arian ar gyfer iechyd' neu 'Mae angen mwy o arian arnom ar gyfer rhywbeth arall', mae hynny'n iawn, mae'n hawdd, mae'n wleidyddiaeth dda; mae'n economeg wael. Rwy'n credu mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod yr arian yn cael ei wario'n effeithiol ac yn effeithlon, ac rydym yn gwybod nad yw prynu peiriannau ffacs i'w weld ar y rhestr o wariant sy'n effeithiol nac yn effeithlon.
Rwy'n rhagweld, ac rwy'n gobeithio y byddaf i'n anghywir, y bydd y byrddau iechyd yn cael y cynnydd a bydd y gyfran a roddir i ofal iechyd sylfaenol yn gostwng eto, felly bydd canran y gwariant ar iechyd sylfaenol yn gostwng. Mae Llywodraeth Cymru wedi creu sefydliadau mawr fel CNC, Betsi Cadwaladr a gwasanaeth ambiwlans Cymru; ar ba bwynt y mae'r Llywodraeth yn penderfynu nad ydyn nhw'n gweithio a bod angen eu rhannu'n unedau llai? A fydd y gyllideb hon yn caniatáu i hynny ddigwydd?
Yn olaf, mae angen i ni ddatrys problem rheoli gweithredol yn y sector cyhoeddus, er mwyn gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd. Mae angen i ni ganolbwyntio ar ganlyniadau, a llawer llai ar fewnbynnau a faint o arian rydym yn ei wario. Beth ydym ni'n ei gael am ein harian?
Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn parhau, wrth gwrs, i fod ar flaen ymateb Cymru i'r pandemig. Ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, hoffwn i ddiolch i bawb ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys y gwirfoddolwyr niferus a channoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru. Dylem fod yn ddiolchgar iawn iddyn nhw.
Mae'r sector iechyd a gofal cymdeithasol hefyd yn gweithio'n galed i adfer a chynnal y gwasanaethau hanfodol nad ydyn nhw'n ymwneud â COVID y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw. Maen nhw hefyd yn edrych, wrth gwrs, at y dyfodol, tuag at ailosod ar ôl y pandemig, sy'n cynnig cyfle i ddatblygu system fwy cydnerth a helpu pobl yng Nghymru i fyw bywyd hirach ac iachach. Heb sector gofal cymdeithasol sefydlog a chadarn ac effeithiol, ni allwn ni fod yn ffyddiog wrth gwrs y bydd pobl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, ac mae perygl y byddwn ni'n gweld yr effaith ar wasanaethau iechyd yn gwaethygu, hyd yn oed.
Felly, yn barod, mae gormod o bobl yn gorfod treulio gormod o amser yn yr ysbyty oherwydd nid oes modd darparu pecynnau gofal addas. Mae eraill yn cael eu rhyddhau heb becynnau gofal digonol. Oni bai fod y materion hyn yn cael eu datrys, gall yr arian sy'n cael ei ddyrannu i wasanaethau iechyd barhau i gynyddu o flwyddyn i flwyddyn heb ddarparu gwasanaethau mwy integredig na gwella canlyniadau. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, mae'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn croesawu'r cynnydd yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, nid ydym ni wedi ein sicrhau eto y bydd y dyraniadau yn y gyllideb ddrafft yn ddigon i ymateb i'r pwysau uniongyrchol nac i ddarparu sefydlogrwydd tymor hwy. Yn fater o'r brys mwyaf, mae angen rhagor o eglurder, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru ynghylch yr hyn a fydd yn y tymor presennol i ymdrin â'r gweithlu a phwysau eraill sy'n wynebu darparwyr gofal cymdeithasol a pha gynlluniau wrth gefn sydd ar waith i sicrhau bod pobl yn parhau i dderbyn y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw, os bydd y pwysau sy'n wynebu'r sector yn gwaethygu.
Mae pwysau sylweddol hefyd ar ein gwasanaethau iechyd, wrth gwrs, ac mae aelodau'r pwyllgor a minnau'n pryderu'n fawr fod yr hyn sy'n cyfateb i un o bob pump o bobl yng Nghymru ar restrau aros, y mae llawer ohonyn nhw'n aros am gyfnodau hir ac ansicr, mewn poen, anghysur, trallod a hefyd mewn llawer o achosion yn wynebu caledi ariannol yn y cyfnod hwnnw hefyd. Felly, mae'r rhain yn faterion y byddwn ni'n eu trafod gyda'r Gweinidog yn ddiweddarach yr wythnos hon fel rhan o'n hymchwiliad i effaith ôl-groniadau amseroedd aros.
Rydym ni'n falch o weld y buddsoddiad yn y broses o adfer gwasanaethau'r GIG; fodd bynnag, byddem ni'n croesawu mwy o fanylion gan y Llywodraeth ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn asesu sut y bydd y cyllid ar gyfer cynllun adfer y GIG yn digwydd, sydd, wrth gwrs, i'w gyhoeddi ym mis Ebrill. Felly rydym ni'n amlwg yn awyddus iawn i weld y ffyrdd newydd o weithio, modelau newydd o ddarparu gwasanaethau a chyflawni canlyniadau a phrofiadau i bobl y mae angen gwasanaethau iechyd a gofal arnyn nhw. Rwy'n credu bod trawsnewid ystyrlon a pharhaus yn gwbl angenrheidiol, ac mae fy marn i yn gydnaws â barn Mike Hedges o ran e-bresgripsiynu. Nid oeddwn i'n mynd i sôn am hyn, ond, ydy, wrth gwrs, mae Mike yn gywir: gwnaethom ni glywed bythefnos yn ôl fod y GIG nid yn unig yn dal i ddefnyddio peiriannau ffacs, ond eu bod dal yn prynu peiriannau ffacs. Felly, rydym ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i'w defnyddio o ran ei chyllideb ynghylch sbarduno trawsnewid a mwy o gydnerthedd o fewn GIG Cymru.
Rhoddodd Deddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 ddyletswydd statudol i fyrddau iechyd adennill eu costau dros gyfnod treigl o dair blynedd, felly mae'n siomedig bod dau fwrdd iechyd yn dal i fethu'n gyson â gweithredu o fewn eu cyllidebau a thraean dim ond yn adennill eu costau o ganlyniad i'r miliynau o bunnoedd o gymorth ychwanegol bob blwyddyn. Felly, rydym ni'n cytuno â'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nad yw hon yn system gynaliadwy, ac nid yw'n deg ar fyrddau iechyd sy'n gwneud y peth iawn ac yn cadw o fewn eu cyllidebau.
Mae'r gronfa integreiddio rhanbarthol iechyd a gofal cymdeithasol newydd a'r gronfa gyfalaf newydd ar gyfer gofal cymdeithasol yn seiliau canolog agenda trawsnewid Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym ni'n nodi bod cronfeydd trawsnewid blaenorol wedi'u beirniadu gan Archwilio Cymru yn 2019 ar sail nad oedd fawr o dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif ffrydio a'u hariannu fel rhan o'r broses o ddarparu gwasanaethau craidd cyrff cyhoeddus.
Ac wrth gwrs, nid yw'n ymwneud â thrawsnewid ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig—nid yw'n ddigon gwneud hynny'n unig—mae angen i ni hefyd drawsnewid sut yr ydym ni'n meddwl am iechyd a sut yr ydym ni'n sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys a bod pawb yn ymwneud â hynny. Rydym ni'n gwybod bod lefel uchel o glefydau cronig ledled Cymru; mae'n rhy uchel ac mae gormod o faterion yn ymwneud â ffyrdd o fyw nad ydyn nhw'n iach, ac mae hyn oll yn rhy gyffredin o lawer. Felly, mae helpu pawb yn ein cymunedau—
Mae angen i'r Aelod ddod i ben nawr.
—i fyw bywyd iachach bydd angen gweithredu ar draws y Llywodraeth er mwyn ymdrin â'r achosion sylfaenol. Mae hynny'n cynnwys tai, tlodi a chyfle i fanteisio ar fwyd fforddiadwy ac iachach.
Ac wrth orffen, Dirprwy Lywydd, mae angen i ni, wrth gwrs, ymdrin â'r anghydraddoldebau iechyd niferus, ac mae angen mwy o eglurder arnom ni ynghylch sut y caiff cyllid yn y gyllideb ei dargedu i sicrhau bod gwariant yn cyflawni'r canlyniadau a ddymunir, gyda phobl yng Nghymru yn byw bywyd hirach ac iachach. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Byddaf i'n siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a hoffwn i ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am fynychu sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.
Mae ein pwyllgor yn croesawu'r setliad llywodraeth leol. Gwnaethom ni glywed gan y sector ei fod yn hael a bydd yn galluogi awdurdodau lleol i ymgymryd â chynllunio tymor hwy yn hytrach nag ymateb i bwysau uniongyrchol yn unig. Ond rydym ni'n pryderu am y gostyngiad mewn cyllid cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol, sy'n rhan o ostyngiad ehangach mewn gwariant cyfalaf ar draws y gyllideb. Felly, rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru a CLlLC yn cydweithio i archwilio ffyrdd eraill o gefnogi cyllidebau cyfalaf mwy ar gyfer llywodraeth leol, gan gynnwys y swyddogaeth o fenthyca â chymorth.
Rydym ni hefyd yn pryderu ynghylch yr anawsterau parhaus y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu o ran recriwtio a chadw staff ar draws pob maes gwasanaeth, ond yn enwedig ym maes gofal cymdeithasol. Cyfeiriodd y Gweinidog at £60 miliwn o gyllid uniongyrchol ychwanegol ar gyfer diwygio'r sector gofal; fodd bynnag, hoffem ni wybod sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y bydd yr arian hwn yn cyflawni ei nodau. Rydym ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru, cyn cyhoeddi'r gyllideb derfynol, yn rhoi rhagor o wybodaeth ynghylch sut y bydd yr arian ychwanegol hwn yn cyfrannu at gynaliadwyedd hirdymor y sector.
O ran tai, rydym ni'n croesawu'r ymrwymiad i ddiwygio gwasanaethau digartrefedd i ganolbwyntio ar atal ac ailgartrefu'n gyflym. Fodd bynnag, rydym ni'n pryderu bod nifer digynsail o bobl mewn llety dros dro ar hyn o bryd. Mae'r data diweddaraf ar gyfer mis Hydref 2021 yn dangos bod dros 7,000 o bobl mewn llety dros dro brys a bod 1,728 yn blant dibynnol dan 16 oed. Mae angen symud pobl i lety parhaol hirdymor os yw digartrefedd i fod yn rhywbeth prin, tymor byr ac nad yw'n cael ei ailadrodd, megis nod Llywodraeth Cymru yn ei strategaeth. Rydym ni'n pryderu y gallai awdurdodau lleol wynebu heriau ariannol os bydd nifer y bobl mewn llety dros dro yn parhau i gynyddu. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn monitro'n agos y pwysau ar lety brys dros dro, fel bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau angenrheidiol i sicrhau nad oes neb yn cael ei adael heb lety.
Ac, wrth i'r pandemig ddod i ben, ni fydd awdurdodau lleol yn gallu helpu pobl heb droi at arian cyhoeddus. Mae cyflwyno deddfwriaeth iechyd y cyhoedd i ymestyn cymorth a chefnogaeth i bobl yn y sefyllfa hon wedi rhoi achubiaeth i lawer yn ystod y pandemig. Felly, mae'n peri pryder mawr y gallai rhai pobl ddisgyn drwy'r bylchau a pheidio â bod yn gymwys i gael cymorth unwaith y bydd argyfwng iechyd y cyhoedd ar ben. Felly, rydym ni'n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ei bod yn dal i allu ymestyn cymorth a chefnogaeth sy'n gysylltiedig â thai i bobl nad ydyn nhw'n gallu cael arian cyhoeddus.
Mae pryder y bydd Llywodraeth Cymru yn cael problemau gyda chwyddiant prisiau defnyddiau, tarfu ar y gadwyn gyflenwi a phrinder llafur medrus wrth geisio adeiladu cartrefi cymdeithasol newydd, carbon isel i'w rhentu. Rydym ni'n poeni am yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar y targed o 20,000 o dai fforddiadwy, yn enwedig gan ein bod ni wedi clywed efallai na fydd y ffigur hwn yn ddigonol i ymdrin â phroblemau gyda chyflenwadau tai yng Nghymru. Ac o ran cartrefi carbon isel, rydym ni hefyd yn pryderu a yw'r dyraniad cyllideb ar gyfer datgarboneiddio yn ddigonol i alluogi awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i ddatgarboneiddio eu stoc. Gan fod Llywodraeth Cymru wedi datgan argyfwng hinsawdd, mae hyn yn rhywbeth y dylai gael ei flaenoriaethu, ac rydym ni wedi gofyn i'r Gweinidog roi manylion ynghylch sut y mae dyraniad y gyllideb yn ddigonol i ddatblygu gwaith ôl-osod ar y lefel a'r cyflymder sydd ei angen.
Yn olaf, rydym ni'n croesawu'r refeniw ychwanegol yn y gyllideb ddrafft i gefnogi arolygon diogelwch tân a chreu pasbortau cyweirio adeiladau ar gyfer pob adeilad uchel ledled Cymru. Rydym ni'n sylweddoli mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw penderfynu beth sydd o'i le ar yr adeiladau hyn. Fodd bynnag, mae'n rhaid bod rhoi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid, yn ogystal â gwybodaeth am ddiogelwch eu hadeiladau, yn flaenoriaeth. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i'r rhai yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae angen rhoi atebion i lesddeiliaid a thenantiaid ynghylch sut y caiff yr arian ei ddefnyddio cyn gynted â phosibl, fel bod ganddyn nhw o leiaf rywfaint o eglurder a sicrwydd ar yr adeg anodd hon. Rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau na fydd yn rhaid i lesddeiliaid dalu am gostau cywiro, ac y dylai'r gwaith o wella diogelwch yr adeiladau hyn fwrw ymlaen ar frys. Diolch yn fawr.
A gaf i, yn gyntaf, ddiolch i'r Gweinidog cyllid a'r Llywodraeth am ddod â'r ddadl yma gerbron y Senedd? Mi fyddaf i'n cyfrannu i'r ddadl yma ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol. O ystyried maint helaeth cylch gorchwyl y pwyllgor, mi wnaf i ffocysu ar y prif bwyntiau rydym wedi eu nodi yn dilyn ein gwaith craffu.
Ers sefydlu'r pwyllgor ym mis Mehefin y llynedd, mae cylch gorchwyl y pwyllgor wedi ei ymestyn i gynnwys cysylltiadau rhyngwladol. Ac er bach yw maint y cyllid sydd wedi ei neilltuo ar gyfer y gwaith hwn, tua £8 miliwn i gyd, mae'n hynod bwysig. Yn sgil Brexit, mae rôl Cymru ar y llwyfan rhyngwladol nawr yn bwysicach nag erioed o'r blaen. Yn anffodus, roedden ni fel pwyllgor yn siomedig â lefel y wybodaeth a oedd wedi'i rhannu gyda ni ar y pwnc hwn. Rwy'n cyfeirio'n benodol at brinder y naratif yn nogfen y gyllideb ddrafft a hefyd y wybodaeth a rannwyd gyda'r pwyllgor fel tystiolaeth ysgrifenedig. Mi wnaeth hyn ein gwaith craffu ni gymaint yn anoddach. Mae tryloywder yn eithriadol o bwysig i'n gwaith craffu ni, felly rydym yn erfyn ar y Llywodraeth i nodi hyn ac i sicrhau ei bod yn fwy agored ac yn darparu mwy o wybodaeth y flwyddyn nesaf.
I droi at chwaraeon, yn ei thystiolaeth ysgrifenedig i'r pwyllgor, dywedodd y Llywodraeth:
'Gall chwaraeon fod yn offeryn iechyd ataliol mwyaf effeithiol y wlad ond mae angen mwy o flaenoriaethu traws-sector i greu'r newidiadau cynaliadwy hirdymor mewn cyfranogiad.'
Er gwaethaf y neges yma, dyw e ddim yn amlwg yn y setliad ariannol ar gyfer chwaraeon. Cynnydd pitw o 1 y cant mewn cyllid refeniw a gostyngiad o 7 y cant yn y gyllideb gyfalaf sydd ar gyfer chwaraeon. 'Nid wy'n gofyn bywyd moethus, aur y byd na'i berlau mân' medd un o emynau enwocaf ein cenedl. Nid ydym ni yn gofyn am holl adnoddau na chyllid y Llywodraeth, ond beth hoffem wybod yw pa weithred sydd yn cynnal y fath ddatganiad. Os oes yna wariant arall mewn adrannau eraill, er enghraifft, yna mae'n bwysig bod y Llywodraeth yn sôn amdano er mwyn cyfiawnhau y naratif pwysig yma wrth inni adfer iechyd ein cenedl, ac, rŷn ni i gyd yn gobeithio, wrth ddod mas o'r pandemig.
Nesaf, hoffwn i sôn am bryder ynghylch toriadau i gyllidebau cyfalaf y llyfrgell a'r amgueddfa genedlaethol. Bydd cyllid cyfalaf ar gyfer y sefydliadau hyn yn gostwng 32 a 33 y cant yn y flwyddyn ariannol nesaf. Fel yr amlinellwyd yn adolygiad wedi'i deilwra y llyfrgell genedlaethol, rhagwelir y bydd angen hyd at £26 miliwn mewn cyllid cyfalaf i wneud gwaith cynnal a chadw a gwelliannau angenrheidiol i'r llyfrgell. Mae'r ddau sefydliad hyn yn drysorau mawr i'n cenedl. Rydym ni fel pwyllgor yn bryderus yr hiraf y bydd yn ei gymryd i gwblhau gwaith cyfalaf, yr hiraf y gallai rhai o gasgliadau pwysicaf y genedl fod dan fygythiad. Felly, 'cadarna'r mur po arwa'r garreg' yw ein neges i'r Llywodraeth. Rydym yn erfyn arnoch i amlinellu sut y byddwch yn darparu'r adnodd angenrheidiol i'r ddau sefydliad i sicrhau eu bod yn medru parhau i warchod trysorau'r genedl.
I orffen, Ddirprwy Lywydd, o ran yr iaith Gymraeg, rydym ni fel pwyllgor yn croesawu'n fawr y cyllid ychwanegol ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Fodd bynnag, rydym o'r farn mai’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn cydio yn yr iaith yn llawn, ac felly yn gadael yr ysgol yn rhugl yn y Gymraeg, yw eu bod yn cael eu trochi yn yr iaith o oedran cynnar iawn. Mae hyn yn golygu buddsoddiad sylweddol yn narpariaeth y blynyddoedd cynnar a throsglwyddiad iaith. I'r perwyl hwn, fe fydd hi'n bwysig i'r Llywodraeth esbonio goblygiadau o ran adnoddau er mwyn cyrraedd y targed o agor 60 o gylchoedd meithrin ychwanegol yn ystod tymor y Senedd hon. A chawn weld, wedi cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad diweddar, faint o waith fydd i'w wneud eto er mwyn cyrraedd targed 2050. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Mewn sawl ffordd, mae hon yn gyllideb ragorol mewn amgylchiadau anodd iawn. Byddwn i'n croesawu'r buddsoddiad yn adferiad y GIG, y gefnogaeth i bobl sy'n agored i niwed, y warant i bobl ifanc, y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol, y peilot incwm sylfaenol, cyflawni ein rhwymedigaethau wrth ymateb i newid hinsawdd. Mae'r holl faterion gwahanol hyn a llawer mwy yn ddilysnod Llywodraeth flaengar.
Ond gadewch i mi ddweud hyn: yr ydym ni wedi gwrando ar ddadl ac wedi cymryd rhan mewn dadl y prynhawn yma nad yw hi wedi bod yn ddadl am gyllideb, mae hi wedi bod yn ddadl am wariant—hanner dadl ar y gyllideb. Gan nad wyf i wedi clywed araith, ac eithrio Mike Hedges o bosibl, nad yw wedi ceisio ymdrin â materion incwm yn ogystal â gwariant. Bydd pob Aelod o'r wrthblaid, yn eu hareithiau, yn gwario pob punt ddwywaith. Nid yw hynny'n ffordd dda o gynnal busnes yn y lle hwn. Byddwn i'n gwahodd y Gweinidog, ar ddiwedd y ddadl hon y prynhawn yma, i gyflwyno datganiad arall ar bolisi treth ac incwm sy'n deillio o drethiant, oherwydd mae angen i ni fod yn trafod incwm yn ogystal â gwariant. Dyna ddilysnod Senedd sy'n deall ei swyddogaeth.
Hefyd, mae angen i ni drafod maint a ffurf Llywodraeth Cymru. Rydym ni'n gwneud galwadau mawr ar Lywodraeth Cymru, ac felly y dylem ni. Rhaid i'n disgwyliadau o ran Llywodraeth Cymru fod yn uchel, rhaid iddyn nhw fod yn heriol. Ond y gwirionedd yw nad wyf i'n argyhoeddedig bod gennym ni Lywodraeth sydd â'r ffurf neu'r maint cywir i gyflawni'r ymrwymiadau y mae'n eu gwneud a'r disgwyliadau sydd gennym ni i gyd ohoni.
Mae deng mlynedd o gyni wedi dryllio model llawer o'n gwasanaethau cyhoeddus, ond mae hefyd wedi cael effaith ddofn, ddifäol ar ein sector cyhoeddus cyfan a sut y gallwn ni gydweithio a chyflawni ar gyfer y dyfodol. Ac mae Brexit yn her fwy i Lywodraeth Cymru nag efallai i Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Am y tro cyntaf, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru nid yn unig gyflawni polisi ond datblygu polisi hefyd. A oes gennym ni'r bobl sy'n gallu gwneud hynny? A oes gennym ni'r bobl sy'n gallu ysgrifennu'r cyfreithiau a fydd yn cyflawni'r uchelgeisiau sydd gennym ni a'r cyfrifoldebau yr ydym ni wedi'u hennill? Nid wyf i wedi fy argyhoeddi mai 'oes' yw'r ateb i'r cwestiwn hwnnw. Rydym ni wedi clywed Gweinidogion yn dod i mewn i'r Siambr hon i ddweud wrthym ni na allan nhw gyflwyno deddfwriaeth am nad oes ganddyn nhw'r adnoddau ar gael. Mae hynny'n arwydd o Lywodraeth nad oes ganddi'r adnoddau sydd ar gael iddi i gyflawni ei chyfrifoldebau.
O ran lle yr ydym ni nawr, mae angen i ni ystyried rhai o'r pethau hyn ac mae angen i ni edrych yn galed ar sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle cyllid coll yr UE. Rwy'n ddigon hen i gofio yn y Senedd ddiwethaf Simon Hart yn dod i'r pwyllgor materion allanol, wedi'i gadeirio gan y Dirprwy Lywydd, ac yn rhoi ymrwymiad cwbl glir a diamwys pendant na fyddai ceiniog yn cael ei cholli o gyllid yr UE—byddai £375 miliwn yn cael ei ddarparu. Roedd ef naill ai'n fwriadol ddim yn dweud y gwir neu mae e'n ddi-glem. Nid yw'n gallu sefyll dros Gymru yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwy'n dueddol o feddwl, a dweud y gwir, ei fod yn fwy di-glem nag anonest. Rwy'n dueddol o feddwl bod Llywodraeth y DU, fel y cafodd ei ddweud yn gynharach, yn credu y gallan nhw lwyddo i gadw Cymru'n brin o arian mewn ffordd na allan nhw ei gwneud gyda'r Alban ac maen nhw'n gwneud hynny. Mae'r mater sy'n parhau ynghylch tanfuddsoddi ar y rheilffyrdd yn rhywbeth sy'n mynd i'n llusgo ni nôl dro ar ôl tro.
Felly, beth ydym ni'n ei wneud ynghylch y peth? Wel, mae rhai ohonom ni'n gwneud areithiau yn ei gylch, ac felly y dylem ni. Ond mae angen i ni hefyd ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle'r cyllid hwnnw. Mae cannoedd o filiynau o bunnau bob blwyddyn wedi'u cymryd o Gymru o ganlyniad uniongyrchol i fethiannau Brexit ac o ganlyniad i gelwyddau, a dweud y gwir, a gafodd eu dweud gan bobl a oedd yn ei hyrwyddo. Mae honno'n ffaith na allwch chi ddianc rhagddi. Felly, mae angen i ni ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn ei le. Mae angen i ni ystyried sut yr ydym ni'n cael rhywbeth yn lle'r cyllid hwnnw, ac rwy'n credu bod angen i ni drafod a dadlau hynny.
Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog am gadarnhad, wrth iddi grynhoi heddiw, fod rhaglen y Cymoedd Technoleg yn fy etholaeth i—. Ymrwymiad maniffesto Llafur Cymru oedd cyflawni'r rhaglen £100 miliwn yn fy etholaeth i, ac rwyf eisiau iddi gadarnhau y prynhawn yma y bydd y rhaglen hon yn cael ei chyflwyno'n llawn, ym Mlaenau Gwent, fel y gwnaethom ni glywed gan Weinidogion o'r blaen.
Ac yn olaf, mae Mike Hedges yn aml yn gwneud y cyfraniadau mwyaf diddorol yn ystod y prynhawniau pan yr ydym ni'n cael y dadleuon hyn, a gwnaeth ef hynny eto heddiw. Oherwydd, yn hytrach na dim ond dod yma gyda rhestr siopa, yr hyn a wnaeth ef oedd gofyn sut yr ydym ni'n mynd i gyflawni'r hyn yr ydym ni wedi'i addo, beth yr ydym ni'n mynd i'w wneud mewn gwirionedd. Rwy'n credu ei fod e'n hollol gywir, ac rwy'n dweud hynny eto, fod angen i ni gael amcanion ac amserlenni a therfynau amser a disgwyliadau llawer cliriach wedi'u rhoi i ni gan y Llywodraeth. Nid yw'n ddigon i ddweud, 'Mae gennym ni broblem, dyma £10 miliwn; mae gennym ni broblem fwy, dyma £20 miliwn; mae gennym ni broblem llawer mwy'—
Alun, a wnewch chi gloi nawr, os gwelwch yn dda.
Nid oeddwn i am fynd ymhellach, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu i mi gyrraedd cyn belled ag y gallwn i gyda hynna. Ond yr hyn y mae angen i ni ei wneud yw sicrhau bod gennym ni'r amcanion a gafodd eu pennu gan y Llywodraeth cyn y rhaglenni hyn—amcanion, amserlenni, targedau—fel y gallwn ni ddwyn y Llywodraeth i gyfrif yn y dyfodol am gyflawni, neu am beidio â chyflawni, yr ymrwymiadau y maen nhw'n eu gwneud y prynhawn yma. Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd.
Diolch i Lywodraeth Cymru a'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw ar gyllideb ddrafft 2022-23, cyllideb ddrafft yr wyf fi, ac rwy'n siŵr y mae llawer o bobl ledled Cymru wedi bod yn aros yn eiddgar amdani. Rwy'n siŵr y gall pob Aelod ar draws y Siambr gytuno bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg anodd, wrth i ni barhau i symud allan o bandemig COVID-19. Fodd bynnag, mae'n amlwg o'n hochr ni o'r Siambr nad yw'r gyllideb hon yn mynd yn ddigon pell i gyflawni blaenoriaethau pobl Cymru. Fel y cafodd ei amlinellu gan fy nghyd-Aelod Peter Fox yn ei ymateb i'r gyllideb ddrafft hon, mae ein gwasanaethau lleol wedi mynd o dan bwysau aruthrol yn dilyn y pandemig. Rwyf i wedi sôn droeon yn y Siambr o'r blaen ei bod yn eithriadol o bwysig dal i nodi yn ystod y pandemig hwn fod cynghorau yn arbennig wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyl i ddarparu gwasanaethau eithriadol i'n cymunedau lleol.
Gweinidog, fel y gwyddoch chi'n iawn, mae cynghorau, wrth gwrs, wedi croesawu'r setliad llywodraeth leol yn gyffredinol ar gynnydd o 9.4 y cant ar gyfartaledd ar draws y cynghorau hynny. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod hynny ar ôl blynyddoedd a blynyddoedd o danariannu i gynghorau ledled Cymru. Mae'n bwysig nodi hefyd bod rhai heriau o ran y ffordd y cafodd yr arian hwn ei ddyrannu, ac rwy'n credu ei fod yn rhywbeth y soniodd Llyr Gruffydd amdano o'r blaen o ran ariannu cynghorau yn y dyfodol hefyd. Un enghraifft y byddaf i'n tynnu sylw ati—rwy'n siŵr na fyddwch chi'n synnu'n ormodol at hyn—yw y bydd Cyngor Sir Fynwy sydd yn cael ei arwain gan y Ceidwadwyr, sy'n cael ei gynnal yn dda iawn, a gaf i ychwanegu, yn cael y cynnydd uchaf mewn cyllid allanol cyfanredol y flwyddyn nesaf, ond o ran y cyllid hwnnw y pen, fesul preswylydd yno, dyma'r isaf ar tua £1,200 y pen, yn hollol wahanol i'r £1,900 y pen hwnnw fesul preswylydd ym Mlaenau Gwent. [Torri ar draws.] Derbyniaf yr ymyriad, Llywydd.
Diolch, Sam Rowlands. Y rheswm am hynny, wrth gwrs, yw bod ganddyn nhw fwy o allu i gael arian i mewn o'u treth gyngor. Mae dros hanner yr eiddo yn sir Fynwy yn uwch na band D; ym Mlaenau Gwent, mae ymhell dros hanner ym mand A.
Diolch am y cyfraniad, Mike Hedges. Rwy'n credu bod yr hyn yr ydych chi'n cyfeirio ato yn amlwg yn awydd i drethu rhai ardaloedd yn llawer mwy sylweddol nag eraill. Wrth gwrs, yr hyn y mae angen i ni ei weld yw setliad teg er budd trigolion ledled Cymru. Mae'r gwahaniaeth hwnnw i mi yn gyfle nad ymdriniwyd ag ef.
Rwyf i hefyd yn siomedig o weld nad oes unrhyw sôn o hyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch adolygiad annibynnol o'r dull presennol o ddosbarthu cyllid ar gyfer cynghorau. Mae'n dal yn glir nawr bod y system bresennol yn rhoi llawer o gynghorau gwledig dan anfantais, sydd, yn fy marn i, yn bwynt arall y cyfeiriodd Peter Fox ato, ac nid yw'n gyfredol ar nifer o fetrigau. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog hefyd yn rhannu fy mhryder, er gwaethaf cynnydd swmpus yn y setliad llywodraeth leol, y bydd y rhan fwyaf o gynghorau'n dal i gynyddu'r dreth gyngor, a nhw sy'n sefyll yn y siambrau cyngor hynny ac yn cymryd y feirniadaeth am hynny gan eu hetholwyr, pan fyddan nhw, mewn gwirionedd, yn gorfod ymdrin â chyllidebau heriol iawn eu hunain.
Pryder arall a ddaeth gan arweinwyr cynghorau yn ystod sesiwn dystiolaeth y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ynghylch y gyllideb fu gostyngiad yn y cyllid cyfalaf hefyd. Mae'r gyllideb ddrafft yn dyrannu tua £150 miliwn o gyllid cyfalaf i gynghorau, tua £50 miliwn yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol. Mae hyn yn peri pryder sylweddol—rwy'n credu bod Cadeirydd y pwyllgor wedi tynnu sylw at hyn—o ran ceisio ffyrdd eraill y byddai modd dosbarthu'r cyllid cyfalaf hwnnw i ganiatáu i gynghorau gyflawni'r pethau y mae'r Llywodraeth yn awyddus i'w gweld yn digwydd yng Nghymru.
Cyfle arall sydd wedi'i golli, yn fy marn i, yw yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sy'n ymwneud â gofal cymdeithasol, ac mae hynny eisoes wedi'i grybwyll yn y ddadl hon heddiw. Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, er eu bod yn croesawu'r £500 o daliadau ychwanegol yn ystod y pandemig, nad ydyn nhw'n mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael â heriau hirdymor y sector, ac yn arbennig y pryderon ynghylch recriwtio a chadw staff yn yr ardal honno. Nid yw'n ymddangos bod y gyllideb hon yn ymdrin â'r mater hwn.
Fel plaid leoliaeth yma—ac yr wyf i wedi sôn amdani nifer o weithiau o ran y gefnogaeth honno a'r penderfyniadau sy'n digwydd mor agos at lawr gwlad â phosibl, Gweinidog—byddwch chi eisoes yn ymwybodol iawn o fy mhryderon i ynghylch cyflwyno'r cyd-bwyllgorau corfforaethol, ac, yng nghyd-destun y gyllideb, yr effaith niweidiol y gallai hyn ei chael ar effaith cyllid cynghorau. Rwy'n cydnabod bod arian wedi'i ddarparu i gynghorau i'w weithredu yn y flwyddyn gyntaf, ond rwy'n pryderu ynghylch y diffyg cyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Byddwn i'n erfyn, pa benderfyniadau bynnag sy'n cael eu gwneud yn hyn o beth, nad ydyn nhw ar draul y gofynion a'r cyllidebau presennol o fewn llywodraeth leol.
Dof i ben, Llywydd, oherwydd rwy'n gwybod y byddwch chi'n awyddus i mi wneud hynny. O ran llywodraeth leol, mae rhannau o gyllideb Llywodraeth Cymru yn mynd i gefnogi cynghorau i wneud y gwelliant hwnnw, ond yn fy marn i mae gormod o gyfleoedd yn cael eu colli a allent fod wedi caniatáu i gynghorau ffynnu hyd yn oed ymhellach a bod hyd yn oed yn fwy cynaliadwy. Ond hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ymgysylltu'n barhaus ag aelodau'r pwyllgor, y mae'r Cadeirydd John Griffiths yn ei gadeirio, ac rwy'n edrych ymlaen at barhau i graffu a chynnig dewisiadau eraill i'n hochr ni o'r gyllideb. Diolch.
Mae ein trafodaeth heddiw ar y gyllideb ddrafft yn digwydd o dan amgylchiadau eithriadol iawn, amgylchiadau sy'n galw am weithredu radical ac uchelgais nas gwelwyd ei thebyg, os ydym fel cenedl am sicrhau adferiad sy'n deg ac yn effeithiol. Ydy, mae'r pandemig wedi rhoi pwysau digynsail ar wariant cyhoeddus yng Nghymru, ac mae'r argyfwng costau byw sy'n taro ein cymunedau yn dwysáu'r pwysau hynny, yn enwedig wrth i Lywodraeth San Steffan fynnu gwasgu mor drwm ar ein haelwydydd drwy'r penderfyniad creulon i dorri'r credyd cynhwysol, drwy gynyddu lefelau yswiriant gwladol. A nawr, yn wyneb y cynnydd syfrdanol ym mhris ynni, maent wedi cynnig mesurau cwbl annigonol i gefnogi teuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Ond roedd y sefyllfa cyn COVID o ran anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd a lefelau ac effaith tlodi yn gywilyddus, yn rhannol wedi ei achosi, wrth gwrs, gan ddegawd o bolisïau llymder Llywodraeth Dorïaidd San Steffan, sy'n poeni dim am Gymru na phobl gyffredin. Yn rhy aml, yn hytrach na medru cynllunio'n flaengar i drawsnewid ein dyfodol fel cenedl, i atal y tlodi a'r anghydraddoldeb a oedd yn broblem ymhell cyn COVID, i wireddu gweledigaeth, mae cyllideb Llywodraeth Cymru yn cael ei throi i mewn i darian, yn gorfod amddiffyn pobl Cymru gymaint ag sy'n bosib rhag camau didostur y Torïaid yn Llundain a'u hawydd gwaelodol i amddiffyn eu buddion eu hunain. Ond rhaid tanlinellu hefyd ddiffyg Llywodraeth Cymru i gymryd y camau polisi breision oedd eu hangen dros 20 mlynedd a mwy i sicrhau bod yna Gymru deg a llewyrchus yn cael ei chreu.
Er ei bod hi'n anodd iawn, felly, i Lywodraeth Cymru a ninnau fel Senedd heddiw o fewn undeb anghyfartal a threfn gyllido annheg wireddu ein dymuniad a'n hangen sylfaenol i fedru cynllunio ymlaen i'r tymor hirach, rwy'n falch bod y cytundeb cydweithio â Phlaid Cymru wedi llwyddo i wthio'r rhaglen lywodraethu mewn cyfeiriad mwy radical, fel soniodd Llyr Gruffydd, sy'n dipyn o gamp o ystyried yr heriau presennol a ffiniau pwerau'r Senedd. Yn y ddadl hon y llynedd, fe ddefnyddiodd Plaid Cymru'r cyfle i sôn am ein cynlluniau ar gyfer prydau ysgol am ddim i bob plentyn, ac rwy'n edrych ymlaen at ddadleuon y gyllideb sydd i ddod dros y blynyddoedd nesaf i sicrhau bod hynny'n troi'n realiti.
Er bod y cytundeb cydweithio mewn lle, nid ein cyllideb ddrafft ni yw hon, wrth gwrs, sy'n cael ei thrafod heddiw—cyllideb ddrafft Llywodraeth Lafur Cymru yw hi, ac rydym o'r farn bod yna sawl cyfle yn cael ei golli i flaenoriaethu atal mwy o deuluoedd Cymru rhag syrthio i dlodi a rhag effeithiau dinistriol yr argyfwng costau byw. O dan yr amgylchiadau, rwy'n meddwl bod yna achos cryf i ystyried cadw'r hyblygrwydd yn y gronfa cymorth dewisol, gostwng y cap cynnydd rhent ar dai cymdeithasol i ddim mwy na chwyddiant yn barhaol, ac atal prisiau tocynnau trên rhag cynyddu.
Rhaid croesawu'r cynnydd i ddyraniad awdurdodau lleol yn y gyllideb ddrafft, ond pa drafodaethau sydd wedi digwydd gyda'r awdurdodau yma o ran cael coelcerth dyledion i'r rhai sydd ag ôl-ddyledion treth cyngor, er enghraifft—rhywbeth a fyddai'n gwneud gwahaniaeth mawr i'r miloedd o aelwydydd sydd eisoes mewn dyled, ac i'r miloedd yn fwy sy'n cael eu gwthio i ddyled ar hyn o bryd? A beth am sicrhau bod y cynllun cymorth tanwydd gaeaf yn cael ei ymestyn fel bod pawb sy'n byw mewn tlodi tanwydd yn ei dderbyn, nid yn unig y rheini sy'n derbyn budd-dal prawf modd?
Rwy'n gwybod o'm gwaith ar y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol fod craffu wedi bod yn anodd iawn o ystyried y ffenestr fer o amser fu gennym i asesu'r gyllideb ddrafft—ffenestr sydd wedi bod yn culhau, fel rŷn ni wedi clywed, yn raddol dros y tair blynedd diwethaf. Gobeithio bydd y setliad aml-flwyddyn hon yn golygu y bydd mwy o gyfle i'r Senedd ac i eraill y tu hwnt i'r Senedd fedru ymgymryd â'r dasg o graffu yn fwy trwyadl mewn blynyddoedd i ddod. Mae'r pwyllgor hefyd wedi argymell bod angen adolygiadau asesiadau effaith y gyllideb, ac rwy'n gobeithio bod mesur a chadw golwg ofalus o effeithiau'r argyfwng costau byw yn gallu bod yn rhan o hynny. Mae hyn yn gwbl hanfodol os yw'r Llywodraeth am wireddu nod ei rhaglen lywodraethu o greu Cymru gyfartal.
Ydy, mae pob penderfyniad cyllidebol yn digwydd mewn cyfnod arbennig o anodd ar hyn o bryd, rwy'n cydnabod hynny, ond rhaid pwysleisio cyfrifoldeb y Llywodraeth i liniaru effeithiau erchyll y trychineb costau byw. Rwy'n obeithiol ac yn grediniol bod cyfnod o'n blaenau lle gallwn adael esgeuluster San Steffan a'r undeb anghyfartal y tu ôl i ni. Ac wrth i ni ddod trwy lanast Brexit ac argyfwng COVID, gallwn gyrraedd at fan lle y gallwn fod yn fwy uchelgeisiol a blaengar o ran yr hyn rydym eisiau ei gyflawni fel cenedl, dros ein pobl, fel bod newid gwirioneddol yn digwydd, a bod pobl Cymru yn cael y cyfiawnder economaidd a chymdeithasol y maen nhw'n ei haeddu. Diolch.
Jenny Rathbone, cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Jenny.
Diolch, Llywydd. Rwy'n gwerthfawrogi'r anawsterau enfawr y mae Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu wrth geisio creu cyllideb nad yw'n gadael i'r boblogaeth syrthio i fwy byth o dlodi ac anghydraddoldeb ar yr adeg anodd hon, gyda'r argyfwng costau byw sydd wedi dechrau cynyddu, a dweud y gwir, yn ystod y misoedd diwethaf. Nododd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, mewn tystiolaeth i'n pwyllgor, y bydd aelwydydd incwm isel yn wynebu toriad o £290 o ran y gostyngiad yn eu hincwm budd-daliadau, dim ond oherwydd bod y Trysorlys wedi penderfynu cysylltu'r cynnydd mewn budd-daliadau y flwyddyn nesaf â'r gyfradd chwyddiant ym mis Medi, yn hytrach nag ym mis Rhagfyr, ac mae hynny'n enghraifft glir iawn o rai o'r problemau yr wyf i'n siŵr bod Llywodraeth Cymru yn eu hwynebu.
Cawsom ni hyfforddiant defnyddiol iawn ar graffu ar gyllideb sy'n sensitif i gydraddoldeb, ond oherwydd cyfyngiadau amser, eleni gwnaethom ni benderfynu peidio â mabwysiadu dulliau arloesol megis cyllidebu ar sail rhywedd neu gynigion polisi prawfesur tlodi yn y cylch cyllideb hwn, ond gobeithiwn y gallwn ni ddod yn ôl at hynny yn y dyfodol.
Rydym ni'n hoffi'r ffaith bod tystiolaeth sylweddol bod Llywodraeth Cymru yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 fel man cychwyn i lunio ffurf ei chyllideb, ond roeddem ni hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg manylion a gafodd eu darparu yn yr asesiadau effaith integredig strategol y mae angen ymdrin â nhw. Ac nid wyf i'n credu bod Llywodraeth Cymru wedi sôn am y ffaith bod Chwarae Teg yn benodol, yn eu tystiolaeth nhw, wedi dweud nad yw'n addas i'r diben mewn gwirionedd, yr asesiad effaith strategol, oherwydd o'i ddarllen mae fel pe bai'n gydnabyddiaeth o faterion sy'n cael eu hwynebu gan grwpiau penodol, ond mae wedi'i ddatgysylltu o unrhyw ymrwymiadau neu gamau gweithredu sylweddol. Mae hyn yn rhywbeth nad yw'n newydd, gan fod y pwyllgorau cyllid, cydraddoldeb a llywodraeth leol, ynghyd â'r pwyllgor plant a phobl ifanc yn y pumed Senedd, wedi gwneud asesiad ar y cyd o hyn i gyd, gan ddod i'r casgliad nad oedd yr asesiad effaith strategol yn darparu dadansoddiad effeithiol o benderfyniadau gwario. Felly, rwy'n credu bod cryn dipyn o waith i'w wneud ar hynny.
Rydym ni'n cymeradwyo'n fawr sefydlu uned dystiolaeth a data cydraddoldeb newydd Llywodraeth Cymru. Mae hyn wedi'i ategu hefyd gan gomisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol, oherwydd mae angen i ni wybod o ddifrif pa mor bell yr ydym ni i ffwrdd o'r heriau sydd o'n blaenau, neu fel arall nid oes gennym ni syniad lle mae angen i ni roi'r adnoddau a'r ymdrech. Er enghraifft, nid ydym ni'n gwybod faint o staff o leiafrifoedd ethnig yr ydym ni'n eu cyflogi yn y sector gofal plant ac ym mha gymunedau a, heb hynny, ni allwn ni asesu pa mor bell i ffwrdd yr ydym ni o gael gweithlu gofal plant sy'n adlewyrchu ei boblogaeth. Rydym ni'n ymwybodol bod y bwlch cyflog rhwng y rhywiau wedi ehangu. Cawsom ni gyhoeddiad ddoe gan Chwarae Teg a wnaeth gyflwyno'r dystiolaeth hon. Os ydym ni wir eisiau cael Cymru fwy cyfartal, mae gwir angen i ni wybod ble mae'r grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, ac ym mha sectorau cyflogaeth, a'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn ei gylch.
Mae'n amlwg, bron i 100 mlynedd ers y bleidlais gyffredinol i fenywod, ei bod yn annerbyniol mai dim ond 26 y cant o gynghorwyr llywodraeth leol sy'n fenywod, ac rwy'n gobeithio y bydd pleidiau gwleidyddol yn rhoi sylw i'r mater hwnnw.
Mae'n amlwg bod costau byw yn ystyriaeth bwysig, ond rydym ni'n falch iawn o'r ffordd y mae'r Llywodraeth wedi mynd i'r afael â'r gronfa gynghori sengl a'r gronfa cymorth dewisol. Rwy'n credu eu bod wedi bod yn adnoddau defnyddiol iawn. Gwnaethom ni glywed tystiolaeth o'r ffordd y maen nhw wedi arwain at gynnydd yn nifer y bobl sydd â hawl i gael budd-daliadau, sydd yn amlwg wedi dod â mwy o arian i economi Cymru. Ac felly mae hynny'n llwyddiant gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru, ac felly rydym ni'n falch iawn o'r cynnydd o £1.7 miliwn yn y gronfa gynghori sengl, sy'n ddefnydd da o'r arian.
Ers cyhoeddi ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, rydym ni wedi cael cyfle i wneud ein gwaith craffu blynyddol ar gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwyf i eisiau siarad yn fyr am rai materion pwysig, a sôn am rai materion eraill gan Russell George, Mike Hedges ac Alun Davies.
Yn gyntaf, mae gwariant ataliol yn hanfodol. Rwy'n sylweddoli bod fframweithiau perfformiad yng nghanol pandemig yn anodd iawn eu cynnal, ond rhaid i ni feddwl am y costau sy'n gysylltiedig â pheidio ag ymdrin â mwy o bwyslais yn y fframweithiau perfformiad ar wariant ataliol ar ofal iechyd. Fel arall, ni allai'r cynnydd mewn cyllidebau iechyd roi'r budd sydd ei angen arnom ni. Gwyddom ni fod angen i ni wella o COVID, ond pe byddem ni wedi gweithredu'n gynharach ar atal, efallai y byddem ni wedi cael cyfradd is o farwolaethau. Felly, mae hwn yn fater pwysig iawn.
Mae angen i mi dynnu eich sylw chi at yr amser, mae'n ddrwg gennyf i. Mae'r amser eisoes ar ben ac mae gennyf i lawer o siaradwyr ar ôl, felly os wnewch chi ddod â'ch—
Rwyf i eisiau crynhoi drwy ddweud bod ein pryder ychwanegol ni'n ymwneud â'r—. Does dim cynnydd ar hyn o bryd yng nghyllideb comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Hi yw'r comisiynydd ymhlith y pedwar comisiynydd sy'n cael yr arian lleiaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl i'w swyddfa ymgymryd â chyrff cyhoeddus ychwanegol a'u cefnogi a chraffu arnyn nhw heb arian ychwanegol? Nid yw hynny'n gwneud synnwyr. Yn benodol, o bryder mawr yw'r ffaith bod o dan eich ymarfer cysoni cyllideb newydd, na fydd comisiynwyr nawr yn gallu cadw arian mewn cronfeydd wrth gefn ar gyfer gwneud ymchwiliadau statudol. Rwy'n credu bod angen herio hynny'n bendant, oherwydd os nad oes gennych chi arian wrth gefn, a'ch bod chi'n gorfod mynd at Lywodraeth Cymru i fegian iddyn nhw wneud adolygiad statudol, i Lywodraeth Cymru, efallai, mae'n cyflwyno gwrthdaro buddiannau clir. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth yr hoffwn i fod Llywodraeth Cymru yn ymateb iddo a'i gywiro.
Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Hoffwn i ganolbwyntio ar gyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer yr economi. Mae'r pandemig wedi cael effaith enfawr ar fusnesau a bywoliaethau ledled Cymru, ac mae'r gyllideb hon yn gyfle i ychwanegu adnoddau a chymorth y mae mawr eu hangen ar fusnesau a'u gosod nhw ar y trywydd iawn ar ôl y pandemig. Fodd bynnag, mae nifer o bryderon ynglŷn â'r gyllideb ddrafft, gan gynnwys pryderon ynghylch y pecyn cymorth i fusnesau yr effeithwyd arnyn nhw gan y cyfyngiadau diweddar, yn ogystal â phryderon ynghylch dyrannu cyllid ar gyfer yr economi ymwelwyr, ymchwil ac arloesi, sgiliau a sawl maes rhaglen arall. Felly, os oes un neges neu ddatganiad yn cael ei gymryd o fy nghyfraniad y prynhawn yma, yna hwnnw yw bod rhaid egluro'r dyraniadau cyllid yn fwy penodol, a bod yn rhaid i lefel y manylion sy'n gysylltiedig â rhaglenni'r Llywodraeth gael ei hegluro'n well.
Nawr, mae Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig wedi clywed tystiolaeth gan Weinidog yr economi, ac rwy'n ddiolchgar iddo am ei amser, ac am y dystiolaeth a roddodd i'r pwyllgor. Yn ein sesiwn dystiolaeth, holodd y pwyllgor y Gweinidog yn benodol ynghylch lefel y cymorth i fusnesau yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar, a bydd yr Aelodau'n gweld o'n hadroddiad ein bod ni wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn ystyried datblygu pecyn o gymorth wedi'i dargedu i gefnogi adferiad economaidd yn y sectorau hynny yr effeithiwyd arnyn nhw fwyaf gan y cyfyngiadau diweddar. Mae gwaith gan gomisiwn Cymdeithas Diwydiannau Nos Cymru yn datgelu bod busnesau, ar gyfartaledd, yn ystod y pandemig, yn wynebu lefelau dyled presennol o tua £184,000, a bod traean o fusnesau'n ofni cau neu fethu o fewn mis heb gymorth cymesur brys gan y Llywodraeth. Bydd yr Aelodau'n cofio sylwadau REKOM UK, sydd â thri chlwb nos yng Nghymru; roedden nhw'n teimlo bod y sector yn cael ei neilltuo eto ar ôl penderfyniad Llywodraeth Cymru i gau'r sector. Felly, rwy'n mawr obeithio y bydd Gweinidogion yn myfyrio ar yr argymhellion wedi'u hamlygu yn adroddiad y pwyllgor ac yn gweithio gyda'r sector i ddiogelu ei gynaliadwyedd ar gyfer y dyfodol a rhoi'r adnoddau sydd eu hangen arno i fynd yn ôl ar ei draed.
Nawr, ystyriodd y pwyllgor hefyd effaith y gyllideb ddrafft ar yr economi ymwelwyr, ac rwyf i eisiau ailadrodd galwadau Cynghrair Twristiaeth Cymru am ddadansoddiad cynhwysfawr o wariant uniongyrchol ac anuniongyrchol gan Lywodraeth Cymru ar yr economi ymwelwyr ac asesiad cywir o'r hyn a gafodd ei wario ar dwf gwirioneddol. Gwnaethon nhw hi'n glir hefyd, yn wahanol i Awdurdod Twristiaeth Prydain, VisitScotland a Thwristiaeth Iwerddon, sy'n gyrff twristiaeth cenedlaethol hyd braich, nad yw Croeso Cymru yn cynhyrchu adroddiad blynyddol a set o gyfrifon safonol sydd ar gael i'r cyhoedd, ac felly mae deall ei gyllideb yn anodd iawn i randdeiliaid. Felly, efallai wrth ymateb i'r ddadl hon, bydd y Gweinidog cyllid yn dweud wrthym ni pa drafodaethau sydd wedi'u cynnal i wneud cyllid y Llywodraeth ar dwristiaeth yn fwy tryloyw fel y gallwn ni i gyd ddeall ei effaith yn well a sicrhau bod rhywfaint o atebolrwydd priodol, yn y ffordd y mae sefydliadau fel Cyfoeth Naturiol Cymru eisoes yn ei wneud.
Nawr, wrth i ni ailgodi, ar ôl y pandemig, mae gennym ni gyfle i wneud pethau'n wahanol, ac wrth wraidd cynlluniau Llywodraeth Cymru dylai fod yna ymrwymiad i'r agenda sgiliau. Ym mis Hydref, cyhoeddodd Archwilio Cymru adroddiad difrifol iawn ar addysg uwch ac addysg bellach, ac rwyf i eisiau tynnu sylw'r Aelodau at y casgliad y bydd yn heriol i Lywodraeth Cymru ddarparu 125,000 o brentisiaethau pob oed a gwarant i bobl ifanc mewn cyd-destun economaidd anodd. Rwy'n ategu barn Archwilio Cymru, ac mae'n rhywbeth yr wyf i wedi'i godi gyda Gweinidog yr economi fy hun: mae'n hanfodol ein bod ni'n gallu gweld yn union sut y caiff y prentisiaethau gradd a'r warant i bobl ifanc eu hariannu, a gobeithio y bydd y Gweinidog cyllid yn ymrwymo i ddarparu'r lefel honno o dryloywder. Mae adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn argymell yn benodol bod Llywodraeth Cymru yn nodi sut y mae'n bwriadu gwario'r dyraniad ar gyfer prentisiaethau gradd a'i chynlluniau ar gyfer ehangu'r cyrsiau a chynyddu amrywiaeth prentisiaid gradd, yn unol ag adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn 2020. Ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gadarnhaol i'r argymhelliad penodol hwnnw.
Yn olaf, Llywydd, rwyf i eisiau sôn yn fyr am ymchwil ac arloesi ac ailadrodd fy ngalwadau blaenorol i weithredu argymhellion heb eu gwireddu yn adolygiadau Diamond a Reid. Darparodd yr Athro Reid ddwy set o argymhellion gwariant, un pe bai gan Lywodraeth Cymru reolaeth lawn dros gyllid newydd, ac un pe na fyddai ganddyn nhw hynny. Ac felly nid oes rheswm pam nad oes modd gweithredu'r olaf nawr. Mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ynghylch pum blaenoriaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer ymchwil, datblygu ac arloesi, ond ni fydd y blaenoriaethau hynny'n cael eu gwireddu heb fod yr argymhellion hynny'n cael eu gweithredu. Felly, unwaith eto, rwy'n annog Llywodraeth Cymru i weithredu'r argymhellion hynny, yn enwedig o gofio bod yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn rhoi adnoddau i Lywodraeth Cymru gyflawni'r argymhellion hynny.
Ac felly wrth gloi, Llywydd, rwy'n credu mai'r gofyniad mwyaf ar Lywodraeth Cymru yn y gyllideb ddrafft hon yw tryloywder. Yn y rhan fwyaf o feysydd rhaglenni, mae manylion niwlog ond dim arwyddion clir o sut mae cyllid yn cael ei ddyrannu, ac oherwydd hynny, mae craffu'n gyfyngedig ac mae'n anodd pennu effeithiolrwydd a gwerth am arian yn gywir. Ac felly, rwy'n annog y Gweinidog i ddarparu'r manylion hynny a sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth yn darparu gwybodaeth mor agored a thryloyw â phosibl. Diolch yn fawr.
Mae gennyf ychydig o bwyntiau i'w gwneud. Yn gyntaf, mae'r cytundeb cydweithredu a'r hyn y mae'n bwriadu ei gyflawni yn rhywbeth yr wyf wir yn eithaf balch ohono, yn enwedig o ran prydau ysgol am ddim. Ac mae'n rhaid dweud, mae dweud nad yw'r gyllideb yn cyflawni o gwbl i bobl yng Nghymru yn gwbl anghywir. A yw'n berffaith? Na. Ond, cymerwch hyn wrth rywun a oedd ar brydau ysgol am ddim, bydd y polisi hwnnw'n unig yn mynd mor bell i helpu teuluoedd â phlant sy'n byw mewn tlodi. Nid oes amheuaeth am hynny. Ac fe'i cyflwynwyd gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru, yn gweithio gyda'i gilydd.
Gwerthfawrogais yr ymateb a gefais gan y Llywodraeth i gwestiwn ysgrifenedig ar 10 Ionawr yn ymwneud â rhoi mwy o gymorth yn gynnar ar gyfer prydau ysgol am ddim. Amlygwyd mai'r dyddiad cychwyn ar gyfer dechrau prydau ysgol am ddim fyddai mis Medi 2022. Gobeithio bod y Llywodraeth yn ystyried sut y gallem gyflymu'r broses hon, gan gyflwyno prydau ysgol am ddim yn gynharach yn benodol. Mae'r Gweinidog wedi rhoi cyllideb tair blynedd y tro hwn, ac rwy'n gwerthfawrogi bod hynny'n cyfyngu ar hyblygrwydd, ond a oes rhyw ffordd o roi mwy o'r cyllid a ddyrannwyd yn gynnar? Nawr mae'r angen, mae yn y presennol ac mae'n cael ei waethygu gan yr argyfwng costau byw, a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr clywed a yw hyn yn rhywbeth y bydd y Llywodraeth yn ei ystyried.
Yn ail, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy awydd i weld y lwfans cynhaliaeth addysg yn mynd ymhellach, ac roeddwn yn gwerthfawrogi ei hymateb i mi yng nghwestiynau'r llefarwyr yr wythnos diwethaf, pan godais y posibilrwydd o ehangu'r lwfans. Rwyf eisiau ailbwysleisio faint o achubiaeth yw'r lwfans i fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig, yn enwedig pan fyddwn ni'n cyrraedd addysg ôl-16. Rydym ni'n derbyn yn gyffredinol mai addysg yw'r llwybr gorau allan o dlodi, a bydd cadw myfyrwyr ôl-16 yn cael yr effaith ddymunol honno o roi cyfleoedd a sgiliau pellach i'r rhai hynny sydd o gefndiroedd difreintiedig. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog ei hun yn gweld pa mor bwysig yw'r lwfans i'r myfyrwyr hynny, ac rwy'n gobeithio y gall hi roi sicrwydd, os oes gan y Llywodraeth gyllid pellach y bydd yn ceisio ehangu'r lwfans fel blaenoriaeth.
Yn olaf, nodwn y gwariant ar yr argyfwng hinsawdd a natur yn y gyllideb, ond rwyf yn ei chael yn anodd deall sut y gallwn ni gysoni'r gwariant hwn â'r bygythiad i gyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel y nododd Jenny Rathbone, sydd wedi chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o gynghori a sicrhau bod sector cyhoeddus Cymru yn gwneud ei ran ar faterion fel datgarboneiddio a'r newid gwyrdd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Cydnabu'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus
'Nid yw cyllideb Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol wedi rhoi
capasiti digonol i’w swyddfa i roi’r lefel o gefnogaeth ymarferol a’r lefel o gefnogaeth sy’n benodol i’r sector i gyrff cyhoeddus y maent wedi galw amdanynt er mwyn gweithredu’r Ddeddf ar waith.'
Felly, os yw'r Llywodraeth o ddifrif ynghylch gwneud i'r dull hwn sy'n arwain y byd weithio, mae cydnabod y bylchau gweithredu sy'n bodoli yn hollbwysig. Oni ddylai'r Llywodraeth fod yn sicrhau bod gan y comisiynydd ddigon o adnoddau i wneud y gwaith? Mae cyllideb swyddfa'r comisiynydd eisoes yn un o'r cyllidebau swyddfa isaf ar gyfer unrhyw gomisiynydd yng Nghymru, a'r pwynt penodol sy'n peri pryder, i fod yn glir, yw bod cyllideb comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn golygu na allan nhw gario arian drosodd i'r flwyddyn newydd. Ac o fy nealltwriaeth i, mae hyn yn broblem oherwydd mae gwneud hynny wedi bod yn rhan fawr o'r ffordd y mae ei swyddfa wedi gweithredu. Gallai hyn atal y comisiynydd rhag gallu parhau i gynghori cyrff cyhoeddus, gan adael dim ond digon o adnoddau i gyflawni'r dyletswyddau statudol o ran monitro. Byddwn yn ddiolchgar iawn pe gallai'r Gweinidog roi rhywfaint o eglurder i'r Siambr ar y pwynt hwnnw.
A gaf i ddatgan fy mod yn gynghorydd sir yn sir y Fflint? Mae'r cynnydd o 9.4 y cant i awdurdodau lleol yng Nghymru i'w groesawu, yn ogystal â'r gyllideb tair blynedd, a fydd yn helpu gyda chynllunio. Rwyf yn ymwybodol bod y setliad dros dro yn Lloegr wedi darparu cynnydd is o 6.9 y cant i gynghorau, a gyda'r rhagdybiaeth eu bod yn codi eu treth gyngor o'r uchafswm a ganiateir heb refferendwm. Ac roedd llawer o gyllid awdurdodau lleol yr Alban wedi'i neilltuo.
Yn ystod datganiad y Gweinidog ar y gyllideb ddrafft, codais bryderon ynghylch cyllid ar gyfer priffyrdd a gynhelir gan gynghorau, a fe wnaf barhau i wneud hynny yn awr. Mae'n bryder gwirioneddol y bydd y cyllid cyfalaf gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru yn gostwng 11 y cant erbyn cyllideb 2024-25, ac o dan gronfa adolygu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn y bydd Cymru yn ei gael eleni, o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Rwyf yn ymwybodol bod y gwaith seilwaith mawr ar yr A55 sy'n digwydd ar hyn o bryd yng ngogledd-orllewin Cymru, a fydd hefyd yn cynnwys draenio i'w wneud yn fwy cydnerth i lifogydd, yn cael ei ariannu gyda £20 miliwn o Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.
Amlygwyd yn adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai bwysigrwydd cynnal y ffyrdd sydd gennym eisoes, nid yn unig i fodurwyr ond i gerddwyr a beicwyr hefyd, y mae tyllau yn y ffordd yn fygythiad mwy fyth iddynt. Mae'r cyllid grant blynyddol ychwanegol diweddar gan Lywodraeth Cymru o £20 miliwn wedi rhoi cyfle i awdurdodau atal rhywfaint o ddirywiad yn y priffyrdd sydd wedi digwydd o ganlyniad uniongyrchol i flynyddoedd o gyni y Torïaid. Ac felly, rwyf yn croesawu'n fawr y cyhoeddiad a wnaed gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chyllid yr wythnos diwethaf y byddai cyllid cyfalaf ychwanegol o £70 miliwn yn ystod y flwyddyn yn cael ei roi i gynghorau, gan gynnwys ar gyfer priffyrdd, a fydd, gobeithio, yn cael ei glustnodi gan fy mod yn gwybod y pwysau sydd ar wahanol adrannau llywodraeth leol wrth bennu eu rhaglen gyfalaf, cystadlu i gyfateb arian Llywodraeth Cymru ar gyfer cynlluniau rhaglenni cyfalaf clodwiw, pwysig, fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, darpariaeth gofal plant ac adeiladu cartrefi di-garbon i'w rhentu.
Wrth symud ymlaen, mae angen cynllun cynnal a chadw wedi'i gynllunio a chyllid ar gyfer priffyrdd. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi sut y gellir mynd i'r afael â'r ôl-groniad sylweddol o ran cynnal a chadw ffyrdd a phriffyrdd ar y rhwydwaith ffyrdd lleol a chefnffyrdd, ac egluro'r sail ar gyfer y penderfyniad i beidio â pharhau â'r grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Dylai hyn gynnwys manylion unrhyw asesiad a wnaed o effaith y penderfyniad ar y rhwydwaith ffyrdd lleol, yn ogystal â gwerth am arian mewn cynnal a chadw priffyrdd lleol, diogelwch ar y ffyrdd, ac yn y blaen.
Dros y blynyddoedd, cafwyd rhai enghreifftiau da o waith ar y cyd ar yr ased priffyrdd a wnaed gan Lywodraeth Cymru a chynghorau, fel y prosiect ôl-groniad cenedlaethol o waith cynnal a chadw priffyrdd a chontractau rheoli asedau. A datblygwyd y prosiectau hyn gan Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru, y corff ar gyfer swyddogion technegol priffyrdd awdurdodau lleol. Roedd un o ganlyniadau cadarnhaol blaenorol y mentrau hyn yn cynnwys y fenter benthyca llywodraeth leol, a oedd yn darparu cymorth ariannol y mae mawr ei angen ar gyfer cyfundrefnau cynnal a chadw gwell i wella'r rhwydwaith priffyrdd presennol ledled Cymru ar gyfer y cyhoedd sy'n teithio.
Mae wedi'i godi sawl gwaith yn y fan yma fod nifer o briffyrdd yn y gogledd hefyd yn cael eu heffeithio gan y stormydd cynyddol o ganlyniad i newid hinsawdd, gan arwain at eu cau yn llawn neu yn rhannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae hyn wedi effeithio ar gymunedau yn Llangoed a Phenmon yn Ynys Môn, yn Nhrecelyn yn Wrecsam, y bont ger Tremeirchion yn sir Ddinbych a thirlithriad yn Ffrith, sir y Fflint, bob un yn costio mwy nag y mae gan yr awdurdodau lleol gyllid ar ei gyfer. Rwyf yn ymwybodol y bydd yr un yn Ffrith yn costio £3.8 miliwn i'w ddatrys. O fy ymchwiliadau diweddar, rwy'n gwybod bod y cynllun cymorth cyllid brys, a elwid gynt yn gynllun Bellwin, sydd ar gael i ddarparu cymorth ariannol brys i helpu awdurdodau lleol dalu costau anfesuradwy, na ellir eu hyswirio y maen nhw'n eu hysgwyddo wrth ymdopi ag achosion brys yn eu hardal. Ac mae'r gronfa cadernid brys, y byddaf yn sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn ymwybodol ohoni. Rwy'n gobeithio y bydd y meysydd pwysig hyn yn cyd-fynd â chylch gwaith y cyllid, ond mae gennyf rai pryderon.
Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i archwilio ffyrdd eraill o gefnogi cyllidebau cyfalaf mwy ar gyfer llywodraeth leol yn y dyfodol, gan gynnwys swyddogaeth benthyca â chymorth i ariannu'r ôl-groniad o waith cynnal a chadw ffyrdd, a mynd i'r afael â ffyrdd y mae trychinebau naturiol yn effeithio arnynt. Diolch.
Hoffwn gyfeirio'r Aelodau at fy nghofrestr buddiannau, gan fy mod yn aelod o Gyngor Sir Penfro a Chlwb Ffermwyr Ifanc Cymru. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl hon, a thrwy adleisio geiriau fy nghyd-Aelod, AS Mynwy: yn y manylion y ceir y gwirionedd, yn sicr. Ac mae'n amlwg o'r ddadl y prynhawn yma, yn dilyn yr hwb ariannol mwyaf erioed gan Lywodraeth y DU, nad yw'r gyllideb hon yn mynd yn ddigon pell i gyflawni dros bobl Cymru. Yn y bôn, nid yw'r gyllideb hon yn bodloni nifer o ddisgwyliadau, sydd wedi fy ngadael yn methu â chefnogi'r eitem a gyflwynwyd y prynhawn yma. Er fy mod yn croesawu ymrwymiad y Gweinidog materion gwledig i gynnal cynllun taliadau sylfaenol Llywodraeth Cymru drwy gydol 2022, nid yw'r diwydiant amaethyddol wedi cael sicrwydd eto y bydd y cynllun taliadau sylfaenol yn parhau yn 2023 a hyd nes y caiff y cynllun ffermio cynaliadwy ei lansio yn 2025. Felly, a all y Gweinidog cyllid gynnig unrhyw sicrwydd am ddyfodol y cynllun taliadau sylfaenol yn ystod y ddwy flynedd hyn? Rwy'n siŵr y bydd yn cydnabod pwysigrwydd y cynllun taliadau sylfaenol o ran cynorthwyo'r gymuned amaethyddol i lywio pandemig COVID-19 gan sicrhau hefyd y gall y diwydiant oroesi'r cynnydd mewn costau ac adnoddau. Ni ellir tanbrisio manteision economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol ffermydd teuluol. Rwyf yn siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod y cynllun taliadau sylfaenol yr un mor bwysig ag erioed o ran ategu parhad cynhyrchu bwyd o ansawdd uchel yng Nghymru—rhywbeth y mae arnaf ofn y bydd y cynllun ffermio cynaliadwy yn ei anwybyddu.
Roeddwn yn falch o weld Llywodraeth Cymru yn cyflwyno'r cynllun lles anifeiliaid, sy'n ceisio gwella lles anifeiliaid Cymru, gan gynnwys ein hanifeiliaid anwes. Gwell hwyr na hwyrach. Er fy mod yn dal i gredu'n gryf bod mwy i'w wneud, mae'r strategaeth hon yn gam i'r cyfeiriad cywir. Yn wir, rhan sylweddol o'r cynnig hwn oedd prosiect hyfforddiant gorfodi awdurdodau lleol Llywodraeth Cymru—model hyfforddi ar gyfer Cymru gyfan a oedd yn ceisio datblygu safon diwydiant i holl swyddogion gorfodi awdurdodau lleol ddysgu oddi wrtho. Er bod hwn yn gynnig pwysig sy'n ceisio sefydlu cydraddoldeb ledled Cymru, rhaid iddo hefyd fod â chyllid digonol, difrifol ac wedi ei glustnodi sy'n sail i union ddiben y prosiect. Yn wir, roedd y Gweinidog materion gwledig yn iawn pan ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu:
'os nad yw'r gorfodi yn gweithio, yna nid ydych yn mynd i wneud unrhyw gynnydd'.
Ni ddylid caniatáu i gost ariannol gorfodi rheoliadau lles anifeiliaid newydd Llywodraeth Cymru ddisgyn ar ein hawdurdodau lleol sydd wedi'u gorymestyn a heb ddigon o adnoddau. Er fy mod yn cydnabod bod awdurdodau lleol wedi cael cynnydd yn eu cyllid ar gyfer y cyfnod 2022-23, rwyf yn dal yn bryderus nad oes unrhyw fesurau diogelu ar waith i sicrhau bod y llwybr ariannu hwn yn parhau heibio i'r pwynt y mae'r cynllun lles anifeiliaid wedi dod i ben.
Ac eto, efallai'n fwy pryderus, nid dyma'r unig enghraifft lle mae hyn yn wir. Mae rheoliadau dŵr newydd Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'n sylweddol y baich ar gorff Llywodraeth Cymru ei hun, Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru), sy'n fwy adnabyddus i bob un ohonom ni fel yr NVZs, sef Parthau Perygl Nitradau, yn ychwanegu llwyth gwaith enfawr i Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ei gwneud yn ofynnol i tua 60 o staff amser llawn ychwanegol ddarparu'r cynnyrch hyfyw lleiaf, neu 200 o staff eraill i gyflawni'r rheoliadau ar eu ffurf lawn. Ac eto, nid oes sôn am hyn yn naratif cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn hytrach na rhoi'r cyllid sydd ei angen ar y sefydliad i fodloni eu diffygion staffio, maen nhw, yn hytrach, wedi derbyn cyfanswm o £7.2 miliwn mewn cronfeydd cyfalaf er mwyn darparu seilwaith TGCh gweithredol wedi'i ddiweddaru. Rwy'n credu bod hyn yn gamflaenoriaeth llwyr. Er fy mod yn dal i gredu bod gwell polisïau i wella ansawdd dŵr yma yng Nghymru, os yw'r Llywodraeth hon yn mynnu bod yna NVZs, yna dylai o leiaf ariannu Cyfoeth Naturiol Cymru yn iawn fel y gallan nhw wneud y gwaith o orfodi'r rheoliadau. Er y gall y Llywodraeth geisio llunio'r gyllideb hon yn gadarnhaol, realiti'r sefyllfa yw ei bod yn methu'n sylfaenol â bodloni naratif polisi'r Llywodraeth hon. Nid yw'n gwneud fawr ddim i liniaru'r cyfyngiadau ariannu difrifol sydd nid yn unig yn wynebu ein hawdurdodau lleol ond asiantaethau fel Cyfoeth Naturiol Cymru, sydd, yn ddyddiol, yn gorfod cydbwyso pwysau rheoliadau Llywodraeth Cymru yn erbyn eu gallu eu hunain i gyflawni eu nodau a'u hamcanion craidd. Hapus i ildio.
Rwy'n deall eich dadl bod angen mwy o arian ar Cyfoeth Naturiol Cymru i fynd ar drywydd yr holl bobl sy'n llygru ein hafonydd, ond tybed a allech chi nodi o ble y credwch y gallai fod angen i'r arian ddod ohono i wneud hynny? Er enghraifft, a fyddech chi'n cefnogi cynnig Undeb Amaethwyr Cymru i gapio taliadau sylfaenol, fel nad ydym yn ariannu miliwnyddion?
Wel, yn sicr, ac rydym wedi siarad llawer yn y Siambr hon am gronfeydd creu coetir Glastir sy'n mynd dros y ffin i wledydd eraill sy'n prynu—cwmnïau eraill sy'n prynu— tir amaethyddol gorau Cymru ar gyfer coedwigo yn bod yn ddymunol ac yn dderbyniol i'r Llywodraeth hon wrth dderbyn arian grant drwy goetir Glastir. Felly, mae cyllid ar gael.
Fodd bynnag, fe wnaf ildio, gan fy mod yn ymwybodol o'r amser. Ni allwn anwybyddu goblygiadau ariannol cyfarwyddo awdurdodau lleol ac asiantaethau i weithredu a gorfodi polisi Llywodraeth Cymru. Os yw Llywodraeth Cymru o ddifrif ynghylch cyflawni'r polisïau hyn, rhaid iddyn nhw ddeffro i'r realiti o orfod eu gorfodi, a diwedd y gân yw'r geiniog. Diolch yn fawr.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog, Rebecca Evans, am ei dull o weithredu a'i dull o ymgysylltu â Phwyllgor Cyllid y Senedd i graffu ar y gyllideb ddrafft deg iawn, werdd a blaengar hon. A hoffwn ddiolch hefyd i'n cyd-Aelodau cyllid a'n Cadeirydd cadarn iawn.
Mae Cymru wedi dioddef ac mae'n parhau i ddioddef pandemig byd-eang sydd wedi arwain at siglo hanfodion a model ein heconomi ni yng Nghymru. Mae'r ddwy flynedd ddiwethaf wedi cael effaith fawr ar bob un ohonom ni, ond, i rai, yr aberth eithaf, ac ni ddylem ni yn y lle hwn byth anghofio.
Llywydd, wrth i ni o bosibl weld bywyd ar ôl y pandemig ar y gorwel, rydym ni yn awr yn edrych ar gyfradd sylfaenol chwyddiant sy'n codi'n sydyn iawn, ac argyfwng costau byw ac ynni y Torïaid sy'n effeithio'n ddwys ar fywydau pob dyn, menyw a phlentyn yn fy etholaeth i, sef Islwyn. Yn anghredadwy, yn un o wledydd cyfoethocaf y byd yn 2022, mae cyd-ddinasyddion yn wynebu'r dewis annymunol, amhosibl rhwng gwresogi neu fwyta. Nid yw hyn, fel y mae'n ymddangos y mae'r Torïaid yn ei gredu, yn rhethreg wleidyddol nac yn jôc wael; mae'n real, oherwydd bydd rhai pobl yn marw eleni oherwydd na allan nhw fforddio gwresogi eu cartrefi, a hyn i gyd wrth i'r llechau, twbercwlosis a diffyg maeth dychwelyd i'n hysbytai yn y Deyrnas Unedig oherwydd system les nad yw'n gweithredu, sydd wedi torri.
Cefndir y cymysgedd peryglus hwn yw Llywodraeth Dorïaidd y DU dan arweiniad Prif Weinidog sydd, a dyfynnaf, 'ddim yn glown i gyd'—geiriau ei gyfarwyddwr cyfathrebu newydd, Guto Harri. A tra bod Laurel a Hardy yn hapus yn canu 'I will survive', mae poblogaeth Cymru yn cael trafferth bob dydd dim ond i roi bwyd ar y bwrdd i'w teuluoedd. Mae'r ddeuoliaeth hon yn crynhoi'r myopia Torïaidd a welwn ni yn y Siambr, ac mae Boris a'i Lywodraeth y DU Dorïaidd wedi cyfaddef o'r diwedd na fydd yn amnewid cyllid yr UE yn llawn i Gymru am dair blynedd, er iddo ddweud yn gyson wrthym ac o fewn y Siambr hon na fyddai pobl Cymru geiniog yn dlotach pan adawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd. Sut y gallwn ni ymddiried mewn sylwadau o'r fath?
Er bod y Torïaid wedi siomi Cymru, mae'r gyllideb hon gan Lywodraeth Lafur Cymru yn sefyll dros bobl Cymru, ac rwyf i'n erfyn, yn erfyn ar y Torïaid Cymreig gyferbyn i wneud yr un peth. I'r gwrthwyneb, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn buddsoddi'n agos at £1.3 biliwn—[Torri ar draws.]—byddwn i, ond rwy'n ymwybodol iawn o'r amser a hoffwn orffen; nid y tro hwn, Janet—gan fuddsoddi'n agos at £1.3 biliwn yn ein gwasanaeth GIG yng Nghymru, sefyll dros awdurdodau lleol, sydd wedi cael buddsoddiad uniongyrchol ychwanegol o £750 miliwn i'r grant cynnal refeniw, a £100 miliwn ychwanegol wedi'i dargedu at iechyd meddwl, gan gefnogi'r sector gofal cymdeithasol gyda chyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i dalu costau ychwanegol y cyflog byw go iawn, buddsoddi mewn addysg gyda £320 miliwn ychwanegol hyd at ddiwedd y tymor i barhau i ddiwygio a chefnogi addysg ledled Cymru.
Ac mae'n iawn bod Llywodraeth Cymru a'n Gweinidog yr Economi yn buddsoddi yn y cynlluniau treialu dysgu personol a'r gwarant i bobl ifanc, a bod argymhellion y Pwyllgor Cyllid ynghylch drafftio a gwerthuso penderfyniadau ar y gyllideb, sy'n cynnwys, wrth ei ffynhonnell, y tlotaf yn ein cymdeithas, sy'n parhau i fod yn fenywod, yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu yr adborth ar y newidiadau newydd o ran cryfhau Grŵp Cynghorol y Gyllideb ar Gydraddoldeb a'r grŵp cynghori newydd ar wella'r gyllideb. Ond, fel y mae Jenny Rathbone eisoes wedi'i ddweud wrthym ni heddiw, mae'n gwbl bwysig bod gan Gymru brosesau asesu effaith strategol cyfannol a chroestoriadol rhagorol, a'n bod yn archwilio cyllidebu ar sail rhyw i Gymru.
Mae'n iawn bod y Pwyllgor Cyllid yn gwneud y gwaith hwn ac yn drafftio ac yn gwerthuso argymhellion o'r fath. Mae Llywodraeth Lafur Cymru, i gloi, Llywydd, yn buddsoddi £366 miliwn dros y tair blynedd nesaf i ddarparu 125,000 o brentisiaethau o bob oed, gan fuddsoddi mewn gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg, mewn seiber, mewn diogelwch a chenedlaethau'r dyfodol. A heddiw, nid yfory, yw hynny, rydym ni'n buddsoddi yn nyfodol Cymru. Rydym ni'n buddsoddi ym mhobl Cymru, ac rwy'n cymeradwyo'r gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru hon i'r lle hwn. Cymru gryfach, Cymru decach a Chymru wyrddach—cyllideb ddrafft sy'n ceisio sefydlu Cymru gyfiawn. Diolch.
Mae'n bleser cymryd rhan mewn dadl mor bwysig. Mae'n cael ei hystyried yn eang fel un o uchafbwyntiau calendr gwleidyddol Cymru.
Pedair wythnos yn ôl, roeddwn yn feirniadol iawn o'r effaith y byddai'r gyllideb hon yn ei chael ar ein gwasanaethau iechyd a gofal. Yn ystod y pedair wythnos hynny, mae'r sefyllfa wedi dod yn llawer cliriach. Mae'r sefyllfa sy'n wynebu iechyd a gofal cymdeithasol yn llwm, ac ychydig iawn o effaith ar y gorau a gaiff y gyllideb hon ar y ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Ni wnaf ail-adrodd fy nadl ar y cyflog byw gwirioneddol—yr wyf wedi siarad amdano gryn dipyn—ond mae wedi dod yn amlwg nad fi yw'r unig un i leisio pryderon. Mae'r fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn dweud na fydd y cyflog byw gwirioneddol yn ddigonol i gefnogi, cadw na recriwtio gweithwyr gofal. Roedd Cyngres yr Undebau Llafur yn fwy damniol. Fe wnaethon nhw ddweud bod £9.90 yr awr yn rhy isel a bod y setliad yn methu â chynnwys ffactorau eraill sy'n ffurfio cydnabyddiaeth cyflog deg. Fel y nododd y Fforwm Gofal Cenedlaethol, mae prinder staff eisoes yn rhoi pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol, ac maen nhw'n disgwyl i'r sefyllfa waethygu dros y misoedd nesaf.
Roedd y gyllideb hon yn gyfle delfrydol i fynd i'r afael â'r prinder staff gyda chytundeb uchelgeisiol i staff, ac eto dewisodd Llywodraeth Cymru wneud y lleiaf posibl. Gallen nhw fod wedi dewis alinio gofal cymdeithasol â graddfeydd cyflog y GIG, cam a fyddai'n costio tua £54 miliwn yn ôl amcangyfrifon Llywodraeth Cymru ei hun. Yn wir, byddai'n well ganddyn nhw fynd am yr opsiwn rhad, yn ôl llawer yn y sector, na fydd yn gwneud fawr ddim i wella argyfwng sy'n gwaethygu. Gyda'r arbedion a wnaed, fe wnaethon nhw benderfynu gwario £10 miliwn ar baratoi'r tir i ddileu elw preifat o'r sector gofal plant. Dylai hynny ddweud popeth y mae angen i chi ei wybod am y Llywodraeth hon a'u cyllideb. Yn hytrach na gwobrwyo a gwerthfawrogi ein staff gofal gweithgar, byddai'n well ganddyn nhw wario arian cyhoeddus ar fynd ar drywydd fendeta ideolegol yn erbyn y sector preifat—sector preifat sy'n darparu dros dri chwarter y gofal yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ie, yn sicr.
Diolch. O ran y datganiad diwethaf hwnnw, gwyddom ni i gyd fod arnom angen economi gymysg fywiog o ran gofal, boed hynny mewn meithrinfa neu ofal plant neu mewn gofal iechyd i'r henoed. A fyddech chi hefyd yn cydnabod, pan fyddwn yn mynd i'r afael â phrinder arian yn y pwrs cyhoeddus, oherwydd toriadau grant bloc Cymru mewn termau real—mewn termau real—fod—
Na, mae hynny'n ddigon o ymyriad. Rwy'n awgrymu i Aelodau sydd wedi gwrthod ymyriadau eu hunain i feddwl efallai a oes amser ar gyfer ymyriadau ar hyn o bryd. Gareth Davies.
Diolch, Lywydd. Roedd yn fwy o araith, rwy'n credu, nag ymyriad.
Ond dyma'r sector preifat sy'n cwmpasu 80 y cant. Nid dim ond piso dryw yn y môr; hwn yw'r môr. Mae prinder yn y sector gofal yn cael effaith wanychol ar ein GIG. Fel y nododd y Gweinidog ei hun, mae gennym tua 1,000 o bobl sy'n iach yn feddygol yn ein gwelyau ysbyty na ellir eu rhyddhau oherwydd diffyg gofal cymdeithasol. Ond mae'r gyllideb hon wedi rhoi pwysau ychwanegol ar GIG sydd eisoes yn gwegian. Ar yr wyneb, mae'n edrych fel bod y gyllideb ar gyfer y GIG yn un hael, ond, fel popeth yn y Llywodraeth hon, a'r hyn sydd wedi ei grybwyll ychydig o weithiau yn y ddadl hon, yn y manylion y ceir y gwirionedd.
Mae cronfa adfer y GIG yn annhebygol o wneud unrhyw wahaniaeth i'r twll du enfawr. Mae byrddau iechyd yn parhau i orwario'n aruthrol, ac mae gennym rai o'r amseroedd aros gwaethaf yn y DU. Mae dros hanner cleifion Cymru yn aros mwy na 26 wythnos i ddechrau triniaeth. Nid rhifau ar fantolen yn unig yw'r rhain; bywydau pobl ydyn nhw: cannoedd o filoedd o bobl yn dioddef oherwydd oedi, miloedd o gleifion yn marw oherwydd oedi. Ble mae'r cynigion radical i fynd i'r afael â'r argyfwng parhaus mewn iechyd a gofal? Nid yw'n ymddangos eu bod ar radar Llywodraeth Cymru. Dim canolfannau llawfeddygol rhanbarthol sy’n rhydd o COVID. Yn hytrach, mae gennym doriad i'r gyllideb gyfalaf, sydd wedi poeni arweinwyr y GIG, gan na fyddant yn awr yn gallu darparu'r offer na'r safleoedd diweddaraf i drin cleifion. Yr hyn sydd gennym yw cyllideb ddrafft sy'n methu â chyflawni ar gyfer iechyd a gofal, ac sy'n methu dinasyddion a chleifion Cymru, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein gwelliant a gwrthod y gyllideb hon.
Huw Irranca-Davies, Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth.
Diolch, Llywydd. Mae'n galonogol iawn i allu cyfrannu i'r ddadl hon ar y gyllideb fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, gan mai dyma'r tro cyntaf i'r pwyllgor hwn graffu ar y gyllideb.
Felly, mae hyn hefyd yn garreg filltir bwysig wrth graffu ar wariant Llywodraeth Cymru sy'n gysylltiedig â chyfiawnder, ac rwy'n gobeithio, drwy ein gwaith, ein bod yn dechrau taflu goleuni ar y mater pwysig iawn hwn. Fel rhan o'r gwaith craffu a thryloywder cynyddol hwn, rydym yn ddiolchgar iawn i'r Prif Weinidog am ymateb i'n cais a darparu gwybodaeth am wariant ar gyfiawnder cyn ein sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol. Nododd y wybodaeth hon yn fras sut y dyrennir adnoddau i weithgarwch sy'n gysylltiedig â chyfiawnder ym mhob prif grŵp gwariant ac ar draws portffolios gweinidogol amrywiol, ac mae hynny'n wirioneddol ddefnyddiol ac yn cael ei groesawu'n fawr.
Nawr, at ei gilydd, gwnaethom saith argymhelliad, o ystyried nad yw gwariant ar gyfiawnder wedi'i ddadgyfuno ar hyn o bryd, yn gyffredinol i geisio cael mwy o eglurder, gan edrych ymlaen at sut y dylid darparu'r wybodaeth honno mewn cyllidebau yn y dyfodol hefyd. Felly, er enghraifft, gwnaethom argymell y dylai Llywodraeth Cymru roi mwy o fanylion am sut y defnyddir y £4.2 miliwn a ddyrannwyd ar gyfer Tribiwnlysoedd Cymru, yn enwedig o ystyried y swyddogaeth bwysig y mae'r tribiwnlysoedd wedi'i chwarae wrth ymateb i heriau'r coronafeirws a'r angen i weithredu o bell, sydd wedi bod yn destun dadl yn y Siambr hon o'r blaen.
Nid yw'n syndod, efallai, ein bod wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio tuag at ddadgyfuno gwariant ar gyfiawnder. Yn ogystal â hyn, gwnaethom argymell hefyd y dylai ei rhaglen waith cyfiawnder gynnwys camau mesuradwy a rhaglenni penodol sy'n cael eu costio'n llawn, gydag adroddiad blynyddol yn tynnu sylw at y cynnydd o ran cyflawni a gwerthuso canlyniadau cydrannau unigol. Credwn y bydd ein saith argymhelliad, os cânt eu gweithredu, yn helpu Llywodraeth Cymru i gyflawni argymhelliad gan y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru, sef i Lywodraeth Cymru gryfhau arweinyddiaeth ac atebolrwydd ar faterion cyfiawnder. A sylwais yn y sylwadau rhagarweiniol fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr argymhellion wrth symud ymlaen.
Felly, hoffwn droi'n awr at fater pwysig defnydd Llywodraeth Cymru o Filiau'r DU i ddeddfu a'i femoranda cydsyniad deddfwriaethol canlyniadol. Nawr, mae'n syndod bod eu defnydd wedi dod yn nodwedd amlwg—hyd yma o leiaf yn y chweched Senedd hon—o'r modd y mae Llywodraeth Cymru wedi cyflawni eu hamcanion polisi yn ddeddfwriaethol. Nawr, gan roi o'r neilltu am y tro rinweddau, neu fel arall, y dull hwn, mae'r cyfiawnhad a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru wedi arwain at fater capasiti Llywodraeth Cymru i ddeddfu a'r adnoddau a ddyrennir i'r dasg hon. Ac, yn wir, codwyd hyn gan fy nghyd-Aelod ar y pwyllgor, Alun Davies, yn gynharach. Mewn llythyr cyn ein hawgrym tystiolaeth gyda'r Cwnsler Cyffredinol, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym ac rwy'n dyfynnu:
'bod angen i Lywodraeth Cymru ystyried pob Bil Llywodraeth y DU yn ofalus, a chydbwyso'r angen i amddiffyn y setliad datganoli presennol cyn belled ag y bo modd'— cyn belled ag y bo modd—
'a'r egwyddor y dylem ddeddfu ein hunain yma yng Nghymru, gyda chyfleoedd a allai godi i wella'r gyfraith i ddinasyddion Cymru', gan edrych i ben arall yr M4.
Nawr, mae'r sylwadau hyn yn drawiadol oherwydd eu harwyddocâd cyfansoddiadol a'u perthnasedd i egwyddorion democrataidd sylfaenol—sybsidiaredd, datganoli ac yn y blaen. At hynny, rhaid i ni beidio ag anghofio bod swyddogaeth ddeddfu wrth wraidd swyddogaeth y Senedd hon. Yn ogystal, mae angen bod yn agored ac yn dryloyw ynghylch sut y bydd yr ymrwymiadau deddfwriaethol yn rhaglen lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cael eu cyflawni. Felly, am yr holl resymau hyn y mae'n bwysig deall sut y mae Llywodraeth Cymru yn cyllidebu i sicrhau bod digon o gapasiti i ddeddfu a chyflwyno ei chynigion deddfwriaethol—materion a godais gyda'r Gweinidog cyllid yr wythnos diwethaf yma yn y Cyfarfod Llawn.
Felly, mae'r tri argymhelliad terfynol sy'n deillio o'n gwaith craffu ar y gyllideb ddrafft yn ceisio canfod data sylfaenol, er mwyn ceisio deall yn well yr heriau deddfwriaethol a wynebir gan Lywodraeth Cymru. Rydym yn cydnabod bod rhai o'r heriau presennol yn deillio o ganlyniadau gadael yr UE a'r pandemig coronafeirws. Fodd bynnag, fel y cydnabu'r Cwnsler Cyffredinol, mae angen i ni hefyd ddechrau meddwl am weddill y chweched Senedd a thu hwnt. Felly, yn benodol, rydym yn awyddus i ddysgu am lefel yr adnoddau sydd ar gael o fewn y gyllideb ddrafft i gynyddu gallu Llywodraeth Cymru i gyflawni deddfwriaeth a wnaed yng Nghymru, gan gynnwys recriwtio staff newydd a chynyddu arbenigedd—mae Aelodau eraill wedi sôn am hyn hefyd. O gofio ein bod wedi bod yn gwneud deddfwriaeth sylfaenol ers tua 15 mlynedd eisoes, hyderwn y bydd hyn yn adeiladu ar y strategaethau hyfforddi a recriwtio presennol ac yn peidio â dechrau o sylfaen sero.
Felly, diolch i fy nghyd-aelodau yn y pwyllgor a'n tîm clercio am y gwaith craffu a dadansoddi diwyd, fel bob amser, ac edrychwn ymlaen at ymateb y Gweinidog i'r ddadl.
Y Gweinidog cyllid nawr i ymateb i'r ddadl. Rebecca Evans.
Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd, yn fy marn i, wedi bod yn ddadl wirioneddol ddefnyddiol. A chafwyd rhai cyfraniadau hynod adeiladol, y gwn y byddaf i a fy nghyd-Weinidogion, a fydd wedi bod yn gwrando'n astud, yn myfyrio arnynt wrth i ni symud tuag at y gyllideb derfynol a symud tuag at benderfyniadau pellach y mae angen i ni eu gwneud o ran cynorthwyo pobl yng Nghymru drwy'r argyfwng costau byw. Ac, fel y dywedais i yn fy sylwadau rhagarweiniol, rwy'n bwriadu dweud mwy am ein dull o wneud hynny'n fuan iawn.
Ond mae cymaint o bwyntiau pwysig wedi'u codi yn y ddadl, ac yn amlwg nid wyf yn mynd i allu ymdrin â nhw i gyd yn fy sylwadau cloi, ond yr hyn yr wyf i'n ymrwymo i'w wneud yw sicrhau bod fy nghyd-Aelodau i gyd a minnau'n ymateb yn llawn i argymhellion y pwyllgor cyn y ddadl derfynol ar y gyllideb, ac edrychaf ymlaen at allu gwneud hynny.
Felly, rwyf eisiau ymateb i rai o'r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â'r cyd-destun yr ydym yn ein cael ein hunain ynddo. Wrth gwrs, mae'n gadarnhaol bod gennym ragolwg gwariant tair blynedd, ond nid yw'r ffigurau sydd gennym yn dadwneud y degawd hwnnw o gyni. Ac mae nifer o gydweithwyr wedi cyfeirio at y ffaith bod proffilio'r gwariant dros y tair blynedd nesaf yn anodd iawn, yn enwedig gyda'r proffil adnoddau sy'n gwyro'n drwm at ddechrau'r cyfnod, a'r ffaith bod ein cyllid adnoddau yn cynyddu llai na 0.5 y cant mewn termau real rhwng 2022-23 a 2024-25. Wyddoch chi, mae hynny'n mynd i fod yn heriol i wasanaethau cyhoeddus wrth i ni symud ymlaen, ac mae nifer o gyd-Aelodau wedi mynegi pryderon am hynny, ac rwy'n rhannu'r pryderon hynny.
Rydym wedi clywed llawer o alwadau am wariant cyfalaf ychwanegol—llawer o fynegi pryderon ar feinciau'r Ceidwadwyr o ran y dyraniadau cyfalaf a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Ond, mae'r ffaith nad ydym wedi gallu dyrannu cymaint o gyfalaf ag y byddem yn dymuno yn adlewyrchiad o'n cyllideb gyfalaf a roddwyd inni gan Lywodraeth y DU. Yn gyffredinol, bydd ein cyllid cyfalaf yn gostwng mewn termau arian parod ym mhob blwyddyn o'n cyfnod adolygu gwariant tair blynedd, a bydd 11 y cant yn is yn 2024-25 nag ydyw yn y flwyddyn bresennol. Felly, wyddoch chi, os yw cyd-Aelodau Ceidwadol eisiau gwybod pam nad ydym ni'n buddsoddi mwy mewn cyfalaf mewn llywodraeth leol ac ym maes iechyd, mae'r ateb yn adolygiad gwariant Llywodraeth y DU.
Mae cyd-Aelodau ym Mhlaid Cymru wedi nodi y prynhawn yma y bydd ein cyllideb yn 2024-25 bron £3 biliwn yn is na phe bai wedi cynyddu yn unol â'r economi ers 2010-11. Dychmygwch y gyllideb y gallem ni fod yn ei thrafod y prynhawn yma pe bai'r cyllid hwnnw ar gael i ni. Ac, wrth gwrs, nid yw hynny hyd yn oed yn ystyried yr heriau o ran diffyg cyllid newydd yr UE.
Rwyf eisiau troi at fenthyca a'n rhaglen gyfalaf. Hoffwn gadarnhau bod y gyllideb ddrafft yn adlewyrchu ein cynlluniau i wneud y mwyaf o'n benthyca cyfalaf, gan dynnu i lawr yr uchafswm blynyddol mwyaf y ceir ei dynnu i lawr sef £150 miliwn y flwyddyn, gan fenthyca £450 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25. A dyna'r uchafswm y cawn ei gael ar hyn o bryd yn y fframwaith cyllidol fel y mae, ac wrth gwrs rydym yn parhau i bwyso am hyblygrwydd pellach yn y maes penodol hwnnw oherwydd mae'n bwysig iawn ein bod yn manteisio i'r eithaf ar yr holl adnoddau sydd ar gael i ni. A byddwn yn cynnal ein dull o ariannu buddsoddiad drwy dynnu i lawr y mathau lleiaf drud o gyfalaf yn gyntaf. Felly, fel y disgrifiais, fel arfer yn defnyddio ein setliad grant bloc yn gyntaf ac yna'n ceisio benthyca. Ond dim ond wedyn y byddwn yn symud ymlaen i ddefnyddio'r mathau drutach hynny o ariannu cyfalaf unwaith y byddwn wedi disbyddu ein cyfalaf cyffredinol, wrth gwrs. A modelau cyllid arloesol, er eu bod yn amlwg o ddiddordeb i ni, fel y byddwch wedi'i weld drwy'r model buddsoddi cydfuddiannol, byddem yn ceisio defnyddio'r rheini hefyd, ond dim ond i wneud hynny mewn ffordd briodol. A dyma'r tro cyntaf i ni ddefnyddio gorddyraniad cyfalaf cyffredinol. Mae hynny, fel y disgrifiodd Mike Hedges, yn rhoi cyfle i ni, rwy'n credu, ymestyn pob punt sydd ar gael i ni, ond mae'n ddull gwahanol o gymharu â'r rhai hynny yr ydym wedi'u cymryd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Ac, unwaith eto, rydym ni'n mabwysiadu dull gwahanol o ran ein dull o ymdrin â chronfeydd wrth gefn. Felly, fel rhan o'r gyllideb aml-flwyddyn, mae gennym strategaeth ariannol newydd i sicrhau'r cyllid mwyaf posibl ar yr ochr adnoddau. Yn wahanol i'r blynyddoedd blaenorol pan fydd cynlluniau gwariant wedi defnyddio'r terfyn tynnu i lawr blynyddol o £125 miliwn yn llawn, nid yw ein cynlluniau'n cymryd y terfyn tynnu i lawr llawn o gronfa Cymru o 2023-24, a hynny oherwydd y byddwn yn defnyddio'r gronfa Cymru honno i reoli'r sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn heb ddal unrhyw DEL heb ei neilltuo, a bydd symiau tynnu i lawr yn cael ei gynnwys o fewn y cyllidebau atodol priodol.
Rwy'n sôn am hynny oherwydd, mewn gwirionedd, nid oes cronfa arian ar wahân yn awr i ddyrannu arian ychwanegol ohoni. Felly, rydym wedi clywed llawer o alwadau, yn enwedig gan y Ceidwadwyr, am feysydd eraill lle yr hoffent i ni fuddsoddi, lle nad ydym wedi mynd yn ddigon pell, ond mae gwir angen y cynigion amgen hynny arnom ni yn awr i gael eu cyflwyno o ran ble y byddai'r Ceidwadwyr yn buddsoddi ac o ble y byddent yn cymryd yr arian, oherwydd allwch chi ddim bod â dim ond un ochr i'r stori honno. Cyfeiriodd llefarydd y Ceidwadwyr at gynlluniau wedi'u costio. Ewch ymlaen a chyhoeddi'r cynlluniau hynny wedi'u costio, oherwydd byddem ni wir yn awyddus iawn i'w gweld ac i weld ble y byddai'r toriadau hynny'n dod a ble na fyddech yn rhannu ein blaenoriaethau o fewn y gyllideb.
Yn fyr, am golli cyllid yr UE, o dan gronfa adnewyddu cymunedol Llywodraeth y DU, dim ond £46 miliwn a gawn eleni, ac mae hynny o'i gymharu ag o leiaf £375 miliwn y byddem wedi'i gael o gronfeydd strwythurol yr UE o fis Ionawr 2021. Yn amlwg, nid yw gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gweithio i Gymru, ac mae angen i Lywodraeth y DU gadw at yr addewidion y mae wedi'u gwneud.
Mae'n eithaf anhygoel clywed Ceidwadwyr yn sôn am gefnogi ein cymunedau gwledig pan fydd ffermwyr a chymunedau gwledig Cymru ar eu colled o leiaf £106 miliwn o gyllid newydd yr UE dros gyfnod yr adolygiad o wariant, ac mae hynny ar ben y £137 miliwn nad yw'n cael ei ddarparu gan Lywodraeth y DU yn y flwyddyn ariannol hon. Felly, yn amlwg, mae diffyg cydlyniad rhwng yr hyn yr hoffai'r Ceidwadwyr ei weld ar gyfer y Gymru wledig a'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn caniatáu i gael ei gyflawni.
Mae sawl cyd-Aelod wedi sôn am ddadansoddiad carbon y gyllideb. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn rhoi'r argyfwng hinsawdd a natur ar waith yn ganolog iddi, fel yr ydych wedi'i weld o fewn y gyllideb, ac rwy'n credu y byddwn i'n cyfeirio cyd-Aelodau at yr ystod o ddogfennau a gyhoeddir ochr yn ochr â'r gyllideb, ond hefyd wedyn i'r cynllun cyflawni sero-net, felly dyna ble y gwelwch chi yr effeithiau carbon hynny a'r camau yr ydym yn eu cymryd, defnyddio'r holl ysgogiadau hynny, gyda rôl y gyllideb wedyn i eistedd ochr yn ochr â hynny ac ariannu'r camau gweithredu hynny lle mae'r dystiolaeth yn cefnogi'r angen i fuddsoddi.
Rydym hefyd wedi adeiladu ar yr hyn a oedd yn waith gwirioneddol dda, a gyhoeddwyd gennym ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft y llynedd, yn adroddiad y prif economegydd. Gwnaeth hynny ein harwain i ystyried yr angen i gael adolygiad o'r newydd o'n cyllidebau cyfalaf cyffredinol ac yna sefydlu strategaeth seilwaith a buddsoddi 10 mlynedd newydd i Gymru. A ni yw'r unig ran o'r DU i fod wedi gwneud adolygiad o'r newydd o gyllidebau cyfalaf, ac mae'n beth anghyfforddus iawn i'w wneud, oherwydd rydych chi'n cael sgyrsiau anodd iawn gyda chyd-Aelodau yn y pen draw oherwydd nid oes rhagdybiaeth y bydd cyfalaf blaenorol yn cael ei gyflwyno, ond dyma'r peth iawn i'w wneud yn yr ystyr o sicrhau bod ein cyllidebau cyfalaf yn cyd-fynd yn well â'n huchelgeisiau ym maes yr amgylchedd.
Ac, yn yr un modd, mae cyllidebu ar sail rhyw yn rhan bwysig iawn o'n dull yn awr at ein cyllideb. Rydym yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod Trysorlys Cymru yn ysgogi hyn, ond hefyd mae gennym uchelgeisiau i fod ymhlith yr arweinwyr byd hynny, ac rydym yn ymgysylltu'n aml iawn â'r gwledydd Llychlynnaidd, gyda Seland Newydd ac eraill sydd â diddordeb yn y maes hwn, i sicrhau ein bod yn dysgu o arfer da mewn mannau eraill a'n bod yn dechrau ymgorffori'r dull gweithredu yn wirioneddol. Felly, y llynedd, gwnaethom ddechrau'r gwaith pwysig hwn drwy'r cyfrifon dysgu personol, ac mae hynny'n parhau, ond yn awr rydym yn bwriadu bwrw ymlaen â'r gwaith yn y maes hwn gyda dau gynllun treialu arall y byddwn yn ymgymryd â nhw ym maes teithio llesol a hefyd y gwarant pobl ifanc. Felly, mae llawer o waith pwysig iawn ar gyllidebu ar sail rhyw. Ond, gyda chyllidebu ar sail rhyw a gydag asesiadau effaith carbon, gwn ein bod mewn gwirionedd ar ddechrau taith bwysig iawn, ac yn awyddus, rwy'n credu, i fynd ar hyd y daith honno gydag Aelodau'r Senedd hon sydd â diddordeb cyffredin yn yr agendâu hyn, oherwydd maen nhw mor bwysig ac felly'n cael eu rhannu, rwy'n credu.
Felly, dim ond i ymateb i rai o'r pwyntiau penodol yn awr o ran dyraniadau, rwyf eisiau sôn am iechyd oherwydd yn amlwg dyna'r rhan fwyaf o'r gyllideb. Rydym yn ymrwymo £170 miliwn yn rheolaidd i gefnogi trawsnewid gofal wedi'i gynllunio i helpu i fynd i'r afael â'r ôl-groniad o gleifion y mae eu triniaethau wedi'u gohirio o ganlyniad i'r pandemig, a £20 miliwn arall yn rheolaidd i gefnogi'r pwyslais ar ofal iechyd sy'n seiliedig ar werth, gan gyflawni'r canlyniadau sy'n wirioneddol bwysig i gleifion.
Roedd llawer o gyd-aelodau yn pryderu'n gwbl briodol am ofal cymdeithasol. Felly, rydym wedi ymrwymo i flaenoriaethu gofal cymdeithasol, ac rwy'n credu y gallwch chi weld hynny yn y gyllideb hon gyda'r £60 miliwn ychwanegol o arian uniongyrchol ychwanegol i fwrw ymlaen â'r diwygiadau hynny. Yn 2022-23 yn unig, rydym yn darparu dros £250 miliwn yn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ac mae hynny'n cynnwys £180 miliwn o fewn y setliad llywodraeth leol a buddsoddiad uniongyrchol o £45 miliwn ynghyd â £50 miliwn o gyfalaf gofal cymdeithasol ychwanegol o'i gymharu â 2021-22. Felly, rwy'n credu bod ein hymrwymiad i ofal cymdeithasol yno yn sicr ac mae'n glir iawn, iawn.
Mae iechyd meddwl, unwaith eto, yn rhywbeth sydd wedi dod drwy'r ddadl yn gwbl briodol fel maes hollbwysig i lawer o gyd-Aelodau. Rydym wedi dyrannu £100 miliwn ychwanegol hyd at 2024-25 i flaenoriaethu iechyd meddwl a lles, ac mae hynny'n cynnwys pecyn ychwanegol o £50 miliwn yn 2022-23, ac mae'n cynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi gweithredu cynllun y gweithlu iechyd meddwl, ac, wrth gwrs, cyllid ychwanegol ar gyfer iechyd meddwl pobl ifanc.
Mae'n debyg fy mod yn profi amynedd y Llywydd ychydig oherwydd fy mod ar fin mynd dros fy amser—
Bron iawn.
—ond rwyf eisiau cloi drwy gyfeirio unwaith eto at y cyhoeddiadau costau byw y byddaf yn eu gwneud cyn gynted ag y gallaf o ran sut y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi'r unigolion hynny sydd wedi'u heffeithio ganddo. A hefyd, i ddiolch eto i'r pwyllgorau am y gwaith sydd wedi'i wneud wrth graffu ac i dynnu sylw at y ffaith y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau'n ymateb i lawer o'r cwestiynau manwl a godwyd drwy gydol y ddadl y prynhawn yma.
Diolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r gwaith o baratoi'r gyllideb ddrafft. Rwy'n credu bod hyn yn arwydd o bartneriaeth waith gref ar draws y Senedd, lle mae gennym bobl flaengar sydd eisiau dangos i Gymru gyfan ein bod yn barod i gydweithio ac i ddod o hyd i dir cyffredin i gyflawni'r hyn sydd ei angen ar gyfer Cymru.
Felly, i gasglu ac i gloi, rwy'n credu bod y gyllideb hon yn cyflawni ein gwerthoedd a'n haddewidion uchelgeisiol i bobl yng Nghymru, ac mae'r pecyn cyllid a amlinellir yma yn defnyddio pob sbardun i ddarparu'r sylfeini ar gyfer ein hadferiad ac i'n symud tuag at Gymru gryfach, decach a gwyrddach. Diolch, Llywydd.
Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn y gwelliant? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad, felly fe wnawn ni ohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
A dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Fe wnawn ni gymryd egwyl fer nawr i baratoi'n dechnegol ar gyfer y pleidleisiau hynny.