– Senedd Cymru am 3:31 pm ar 16 Chwefror 2022.
Yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar etholiadau llywodraeth leol. Dwi'n galw ar Rhys ab Owen i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM7881 Rhys ab Owen, Llyr Gruffydd, Jane Dodds
Cefnogwyd gan Cefin Campbell, Heledd Fychan, Luke Fletcher, Mabon ap Gwynfor, Peredur Owen Griffiths, Rhun ap Iorwerth, Siân Gwenllian, Sioned Williams
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau Cymru 2021 yn ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru, yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol, ac yn galluogi cynghorau i gael gwared ar system y cyntaf i'r felin i ethol cynghorwyr;
b) y defnyddir system fwy cyfrannol mewn etholiadau lleol yn yr Alban, gan leihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth, a sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorau newydd a etholir ym mis Mai 2022 i sicrhau bod dull mwy cynrychioliadol a system genedlaethol unffurf yn cael eu defnyddio i ethol cynghorwyr ledled Cymru erbyn 2027.
Diolch yn fawr ichi, Llywydd. Fel y gwyddoch chi, bawb yn y Siambr hon, gair Groegaidd yw 'democratiaeth'. Gwraidd y gair yw'r geiriau 'demos' a 'kratia' sy'n golygu 'rheolaeth gan y bobl'. Ond meddylfryd 'winner takes all' sy'n dra arglwyddiaethu yng Nghymru ac yn enwedig yn Lloegr ar hyn o bryd—system lle mae un blaid yn dueddol o ennill popeth, a'r lleill yn dueddol o golli'r cwbl. Mae hyn yn arwain felly at y mwyafrif o bobl yn teimlo mai gwastraff amser llwyr yw eu pleidlais ac nad yw taro'r groes yn y blwch yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.
I ddangos nad ydw i'n ceisio gwneud pwynt pleidiol fan hyn, gadewch inni ddechrau gyda Chyngor Gwynedd nôl yn 2017. Yn yr etholiad yna, enillodd Plaid Cymru 55 y cant o'r seddi drwy dderbyn dim ond 39 y cant o'r bleidlais. Yn sir Fynwy, enillodd ein cyfaill Peter Fox a'r Torïaid 58 y cant o'r seddi gydag ond 46 y cant o'r bleidlais. Ac yma yng Nghaerdydd, enillodd Llafur 52 y cant o'r seddi gyda 39 y cant o'r bleidlais. Ac er mwyn i fi gynnwys pawb yn y Senedd yma, fe aeth y tair sedd yn y ward lle ces i fy ngeni, ym Mhen-y-lan yng Nghaerdydd, i’r Rhyddfrydwyr—pob un o'r seddi, ond dim ond 25 y cant o'r bleidlais.
Term sydd wedi ei drwytho ynom ni, y Cymry, yn ein ideoleg ni ac yn ein ieithwedd ni, yw 'chwarae teg'.
Fe fyddwch yn clywed pobl ddi-Gymraeg, wrth siarad Saesneg, yn defnyddio'r term 'chwarae teg'. Yn sicr, nid oes chwarae teg yn y system bresennol. Mae gennym bleidiau yng Nghymru heddiw sy’n ennill llai o lawer na hanner y bleidlais, ond sy’n ennill rheolaeth ar 100 y cant o’r weithrediaeth. Rwy’n hyderus fod pob Aelod o’r Senedd hon yn llawer mwy o ddemocrat nag unrhyw deyrngarwch pleidiol. Er mwyn i ddemocratiaeth ffynnu yng Nghymru, ac er mwyn ymgysylltu â phobl Cymru, mae angen iddi fod yn llawer mwy cynrychioliadol o'n cymunedau, a'u hadlewyrchu'n well.
Fel dywed yr hen ddihareb Cymraeg, cymuned o gymunedau yw Cymru, ond er mwyn i ddemocratiaeth fod yn gadarn yn ein gwlad ni, mae'n rhaid i gymunedau deimlo eu bod nhw'n cael eu cynrychioli a bod eu lleisiau yn cael eu clywed a'u gwrando.
Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.
Ymyriad, Gareth Davies.
Diolch, Rhys. Wrth edrych ar fanylion y cynnig, mae’n dweud,
'lleihau nifer y seddi lle nad oes cystadleuaeth'.
Sut y byddai newid y system bleidleisio yn cyflawni hynny pan fo pwy sy'n llenwi pa seddi yn fater i'r aelodau neu'r pleidiau ei benderfynu fel arfer?
Os gwrandewch am ychydig eto, Gareth Davies, fe gewch wybod—rwyf ar fin dod at hynny.
Fel dywed yr hen ddihareb, cymuned o gymunedau, ond mae'n rhaid bod eu lleisiau nhw yn cael eu gwrando.
Un enghraifft arall o etholiadau lleol 2017: yn ward yr Eglwys Newydd a Thongwynlais yng ngogledd Caerdydd, enillodd y Blaid Geidwadol y pedair sedd, er na phleidleisiodd 60 y cant o’r pleidleiswyr dros y Ceidwadwyr. Pob un sedd, 40 y cant yn unig o'r bleidlais, cafodd 4,092 o bleidleisiau yn yr un ward honno eu gwastraffu. Ni ddylai hyn ymwneud â gwleidyddiaeth bleidiol, ni ddylai hyn ymwneud ag ennill pŵer, dylai ymwneud â thegwch. Os ydym yn galw ein hunain yn ddemocratiaid, dylem fod eisiau i fwyafrif helaeth y papurau pleidleisio gyfrif. System gyfrannol yw'r unig ffordd o gyflawni hyn. Mae'n caniatáu i luosogaeth ffynnu, lluosogaeth o ran dewis, lluosogaeth o ran pleidleisiau a lluosogaeth o ran canlyniadau.
Dwi'n falch bod Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn galluogi system fwy cyfrannog i gael ei defnyddio mewn etholiadau lleol o fis Mai yma ymlaen. Ond mae angen arweiniad cenedlaethol arnom ni neu fe ddaw yr hen cliché diflas Saesneg, turkeys voting for Christmas i'r meddwl.
Yr Alban—ac rwy’n dod at eich pwynt cyn bo hir, Gareth—cyflwynodd yr Alban system y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn 2007 ar draws pob awdurdod lleol, ac mae’r newid wedi bod yn ddramatig. Mae consensws wedi dod yn rhywbeth arferol, gyda chynghorwyr yn gweithio ar y cyd er budd eu hetholwyr. Yn ogystal â hynny, mae democratiaeth leol wedi’i chryfhau. Yn 2003, yn yr Alban, roedd 61 sedd ddiymgeisydd, a beth yw’r ffigwr bellach, Gareth? Chwe deg un sedd ddiymgeisydd yn 2003; yr ateb nawr, Gareth, yw dim un. Mae pob sedd yn yr Alban, ers cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol, wedi cael ei hymladd.
Nawr, yng Nghymru, yn 2017—maddeuwch i mi am eiliad, Sam—safodd bron i 100 o gynghorwyr yn ddiwrthwynebiad yma yng Nghymru, gydag un cynghorydd ym Mhowys yn parhau'n ddiwrthwynebiad ers 37 mlynedd. Mae’r dyn hwnnw bellach wedi bod yn gynghorydd ers bron i 40 mlynedd, heb wynebu'r un gwrthwynebydd. [Torri ar draws.] Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad.
Diolch, Rhys. Ar y pwyntiau ynglŷn â'r Alban a chyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, roeddech yn iawn i dynnu sylw at y newid mewn seddi diymgeisydd. Ond hefyd, ers cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, mae'r ganran sy'n pleidleisio wedi bod yn sylweddol is. Felly, yn y ddwy flynedd cyn y bleidlais sengl drosglwyddadwy, roedd oddeutu 54 y cant yn pleidleisio, ac ers hynny, mae oddeutu 46 y cant yn pleidleisio. Felly, sut y byddech yn cefnogi hynny mewn perthynas ag ymgysylltu â democratiaeth leol, sydd mor hanfodol bwysig, ac sy'n dechrau gyda phobl yn dod allan i bleidleisio?
Rwy'n falch eich bod eisoes yn darllen eich holl ymyriadau a baratowyd ymlaen llaw. Gadewch imi ateb: mae'r syniad hwn fod y ganran sy'n pleidleisio yn is mewn system gynrychiolaeth gyfrannol yn gwbl chwerthinllyd. Yn Awstralia, mae bron yn 100 y cant; yn Wcrain, mae dros 90 y cant; ym Malta, mae dros 90 y cant. Nid yw'r ganran sy'n pleidleisio yn gostwng ar ôl cyflwyno cynrychiolaeth gyfrannol.
Mae pleidleisio cyntaf i'r felin yn arwain at bleidleisio tactegol, ac mae hynny yn ei hanian yn beth gwael, yn beth niweidiol i ddemocratiaeth. Pleidleisio i gadw rhywun mas, yn hytrach na phleidleisio dros bwy maen nhw wirioneddol ei eisiau. Pleidleisio dros blaid sy'n fwy yn aml, yn hytrach na phleidleisio dros blaid maen nhw'n wirioneddol eisiau ei chefnogi, fel y Gwyrddion er enghraifft.
Rydym yn cyfyngu ar ryddid pobl i ddewis drwy gadw system hynafol y cyntaf i’r felin, sydd bellach bron yn 150 mlwydd oed. Nid yn unig fod dadl foesol dros gyflwyno system gyfrannol, ceir rhesymau ymarferol cryf dros wneud hynny hefyd. Mewn llawer o gynghorau yng Nghymru a Lloegr, mae un blaid yn llenwi dros 75 y cant o'r seddi. Gall hyn roi rhwydd hynt i gynghorau a gweinyddiaethau mewn perthynas â busnes swyddogol. Yn ei dro, mae hyn yn arwain at lai o atebolrwydd, sy’n effeithio ar gaffael cyhoeddus, sydd yn ei dro yn effeithio ar y ffordd y gwerir arian trethdalwyr.
Mae cynghorau un blaid yn fath modern o faenoriaeth, lle na cheir fawr ddim craffu ar bwyllgorau craffu sy’n adolygu gwerth miliynau o bunnoedd o gontractau llywodraeth. Canfu’r Gymdeithas Diwygio Etholiadol, yn 2015, fod cynghorau un blaid yn gwastraffu cymaint â £2.6 biliwn y flwyddyn oherwydd diffyg craffu. Yn aml, caiff penderfyniadau yn y cynghorau hyn eu gwneud ymlaen llaw, mewn cyfarfodydd preifat gyda grwpiau mwyafrifol y tu ôl i ddrysau caeedig, cyn eu taflu at weddill y cyngor ar fyr rybudd. Nid yw eu pleidlais, eu barn, eu syniadau yn cyfrif.
Edrychodd astudiaeth y Gymdeithas Diwygio Etholiadol ymhellach ar filoedd o gontractau'r sector cyhoeddus a chanfu fod y cynghorau un blaid hyn oddeutu 50 y cant yn fwy tebygol o ymroi i arferion llwgr na chynghorau gwleidyddol gystadleuol. Mae hynny'n ddrwg i ddemocratiaeth, yn ddrwg i bleidleiswyr ac yn ddrwg i bwrs y wlad. Mae dwsinau o wledydd wedi gwneud y newid, ac nid oes unrhyw un wedi newid yn ôl. Awstralia, Seland Newydd, Wcrain: mae pob un ohonynt wedi newid o system y cyntaf i'r felin i system fwy cyfrannol.
A dwi'n edrych ymlaen at glywed cyfraniad fy nghyfaill Heledd Fychan mewn ychydig, o'i phrofiad hithau yng Ngweriniaeth Iwerddon. Pam does neb wedi symud yn ôl i'r system cyntaf i'r felin? Wel, oherwydd dyw'r system yna ddim yn ffit i ddemocratiaeth fodern. Mae'n rhaid inni symud o'r syniad bod gwleidyddiaeth yn frwydr, bod gan wleidyddiaeth enillwyr a chollwyr. Yn y teyrngedau hyfryd i Aled Roberts ddoe, gwnaeth pawb ei ddisgrifio fel gwleidydd trawsbleidiol, gwleidydd oedd yn barod i gydweithio ag eraill, a hynny sydd yn iawn, oherwydd proses, nid brwydr yw gwleidyddiaeth. Proses o rannu syniadau, proses o gydweithio, proses o adeiladu consensws rhwng grwpiau a phobl er mwyn ffeindio'r tir cyffredin yna er mwyn gwella bywydau pobl ein cymunedau ni.
Ac mae cydweithrediad, fel rwy’n falch o weld, wedi bod yn ganolog i'r Senedd hon o’r dechrau. Ni fu mwyafrif yn y Senedd hon erioed, gyda chlymbleidiau a chydweithredu yn rhan o'r patrwm arferol. Ac rwy’n falch o weld mai cytundeb cydweithio Plaid Cymru a Llafur yw’r ymgorfforiad diweddaraf o hynny. Yn ystod yr etholiad yn 2021, gwn fod llawer o sylwebwyr a llawer o wleidyddion yn Lloegr yn synnu at hyn, ond mae hon yn broses normal mewn gwirionedd. Mae cydweithredu'n broses normal mewn llawer o wledydd ar yr ynysoedd hyn, ledled Ewrop ac ar draws y byd. Mae'n arwain at lywodraethau gwell.
Fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy’n ymwybodol iawn y bydd cynghorau yng Nghymru yn cael dewis mabwysiadu system wahanol os ydynt yn dymuno gwneud hynny ar ôl yr etholiad ym mis Mai eleni. Ond bydd hyn yn creu system ddwy haen rhwng cynghorau, gyda rhai yn fodlon mabwysiadu a diwygio ac eraill yn dweud 'na'. Mae'n debyg fod rhai ohonoch yn y Senedd hon yn ddigon hen bellach i gofio pan oedd yn rhaid i bobl groesi ffiniau sirol i gael peint ar ddydd Sul. Roedd pobl o'r Hendy yn arfer croesi pont Llwchwr i gael peint ym Mhontarddulais. Wel, bydd rhywbeth tebyg yn digwydd eto yn awr. Bydd gennych un pentref lle mae'r papur pleidleisio yn cyfrif, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, a phentref draw acw lle nad yw'n cyfrif i'r un graddau.
Rydym ni'n aml yn clywed yn y lle hwn am y diffyg sy’n pleidleisio, ac mae apathi gwleidyddol yn amlwg yn ein gwlad. Mae Sam Rowlands yn aml yn sôn am y diffyg pobl sy'n pleidleisio yn etholiadau'r Senedd. Ond un ffordd o ddelio â hynny yw sicrhau bod democratiaeth Cymru yn cael ei hadlewyrchu llawer yn well yn ein llefydd grym ni.
Mae democratiaeth dda yn adlewyrchu dewisiadau ei phleidleiswyr, nid 40 y cant ohonynt yn unig, ond cymaint ohonynt â phosibl. Os ydym am frwydro yn erbyn difaterwch gwleidyddol, mae angen inni helpu pobl i wneud y gorau o'u pleidleisiau a'u lleisiau.
Dywedodd John Stuart Mill—.
Dywedodd John Stuart Mill, yn ôl ym 1861, mai egwyddor gyntaf democratiaeth yw hyn: cynrychiolaeth yn gyfrannol â’r niferoedd. Heddiw, gadewch i ni, yn y Senedd hon, beidio â chaniatáu syniadau hen ffasiwn, peidio â chaniatáu rhagfarnau, peidio â chaniatáu i’r uchelgais am bŵer rwystro’r egwyddor ddemocrataidd sylfaenol hon. Diolch yn fawr.
Diolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r ddadl Aelodau heddiw, a hefyd i Llyr Gruffydd a Jane Dodds am ei chyd-gyflwyno. Byddai'n well imi ddatgan buddiant yn awr fel cynghorydd sir presennol yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Fel y gŵyr llawer o'r Aelodau, rwy’n frwd fy nghefnogaeth i lywodraeth leol, ac rwy’n falch iawn fod y maes pwysig hwn wedi’i godi yn y Senedd yma heddiw. A bod yn onest serch hynny, nid oeddwn lawn mor frwdfrydig pan welais gynnwys y ddadl o'n blaenau. Fel y dywed y cynnig, mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn sicrhau dyletswydd i annog pobl leol i gymryd rhan mewn llywodraeth leol. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn cytuno pa mor hanfodol yw hyn—gweld llawer o bobl yn cymryd rhan. Ac nid wyf wedi clywed o eto sut y mae gostyngiad yn y ganran sy’n pleidleisio yn yr Alban ers cyflwyno'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn beth da i ddemocratiaeth leol. Ond efallai y bydd yr Aelod am egluro hynny ychydig yn ddiweddarach.
Fe wnaf ei egluro yn awr, os hoffwch chi.
Fe dderbyniaf ymyriad, Lywydd, os oes ganddo ddiddordeb.
Nid oes gan y ffaith bod y bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi'i chyflwyno yn yr Alban unrhyw beth i'w wneud â'r ffaith bod nifer y bobl sydd wedi pleidleisio wedi gostwng. Nid oes cysylltiad rhyngddynt o gwbl.
Mae’n gyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn, os felly, Lywydd, cyd-ddigwyddiad rhyfedd iawn fod y ganran sy'n pleidleisio wedi gostwng yn ddramatig ar yr adeg honno.
O ran mynd i'r afael â seddi diymgeisydd, sy’n rhan bwysig o’r cynnig hyd y gwelaf, ac sy'n sicr yn rhywbeth y credaf fod angen mynd i’r afael ag ef, credaf mai fy mhryder mwyaf gyda’r cynnig heddiw yw ei fod yn ymddangos fel pe bai’n ceisio mynd i'r afael â'r symptom yn hytrach na'r achos. Mae’n rhaid inni ddeall pam y ceir seddi diymgeisydd yma yng Nghymru. Ni chredaf mai'r ffaith bod gennym system y cyntaf i'r felin sydd ar fai. Ai'r system sy'n atal pobl rhag sefyll etholiad? Nid wyf yn siŵr am hynny o gwbl. Pe cynhelid arolwg o bobl Cymru yn gofyn beth yw rôl y cyngor, rwy'n siŵr y byddai llawer o bethau yno lle nad yw pobl yn gwerthfawrogi'r hyn y mae'r cyngor yn ei wneud ac yn gallu ei wneud drostynt a thros eu cymunedau. Y cynghorau sy'n darparu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ac os gallwn ysbrydoli pobl i fod eisiau sefyll a chynrychioli eu cymuned, dyna fydd yn atal seddi diymgeisydd. Felly, yn fy marn i, yn hytrach nag edrych ar system etholiadol gwbl newydd yng Nghymru, dylem ganolbwyntio ein hymdrechion ar annog pobl i sefyll a gwneud gwahaniaeth i'w cymuned—pobl o bob cefndir. Dylem sôn am y rôl y gall unigolion a etholir yn lleol ei chwarae yn rhedeg eu hysgolion, yn sicrhau bod y rheini sy'n fwyaf agored i niwed yn cael eu cefnogi a sicrhau bod gan bobl fynediad gwych at fannau agored hyfryd. Bydd ysbrydoli pobl i wneud gwahaniaeth yn eu cymuned yn lleihau nifer y seddi diymgeisydd.
Yn ogystal â hyn, rwy’n pryderu am rywfaint o’r gwrthddweud yn y cynnig heddiw, gan fod rhan o’r cynnig yn galw am system genedlaethol unffurf i ethol aelodau. Mae honno'n bodoli eisoes. Mae gennym system genedlaethol unffurf ar gyfer ethol cynghorwyr, sef system y cyntaf i'r felin. Mae pwynt 2 yn y cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n agos gyda chynghorwyr newydd a etholir ym mis Mai 2022. Mae hynny, wrth gwrs, yn hollbwysig er mwyn caniatáu i gynghorau gael y trafodaethau iawn gyda Llywodraeth Cymru, ac yn sicr, byddwn yn cefnogi’r ymgysylltu parhaus hwnnw. Fodd bynnag, mae’r cynnig yn sôn wedyn am sicrhau dull cynrychioliadol, a oedd braidd yn ddryslyd i mi, a dweud y gwir. Hoffwn ddeall sut nad yw ein dull etholiadol yn gynrychioliadol ar hyn o bryd. Mae ein system etholiadol yn caniatáu i bobl o bob cefndir sefyll etholiad yn eu ward leol ac yn ardal eu cyngor lleol. Yn ogystal â hyn, mae system bresennol y cyntaf i'r felin yn sicrhau atebolrwydd clir. Mae pobl yn gwybod dros bwy y maent yn pleidleisio. Gallai newid etholiadol atal pobl ymhellach rhag cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol. Rwy’n sicr yn cytuno bod angen gwneud mwy i sicrhau ein bod yn gweld pobl o bob cefndir mewn llywodraeth leol. Fodd bynnag, nid oes gan hyn unrhyw beth i'w wneud â'n system etholiadol. Yn hytrach, fel rwyf eisoes wedi'i nodi, mae angen inni sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb gwirioneddol a rôl bwysig y cynghorau, a'r boddhad y gall cynrychioli eich cymuned leol ei gynnig.
I gloi, Lywydd, mae'r cynnig hwn yn ymdrin â symptomau yn hytrach nag achos rhai o’r heriau a welwn mewn democratiaeth leol. Nawr yw’r amser i ganolbwyntio ein holl ymdrechion ar sicrhau bod pobl yn ymwybodol o gyfrifoldeb a chyfleoedd cynghorau a’r gwaith ardderchog y maent yn ei wneud ac y gallant ei wneud. Felly, mae angen inni annog pob rhan o gymdeithas i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth leol a’r boddhad o gynrychioli eu cymunedau lleol. Yng ngoleuni hyn, Lywydd, ar yr ochrau hyn i’r meinciau, byddwn yn pleidleisio yn erbyn y cynnig hwn heddiw. Diolch yn fawr iawn.
Mae'r system bresennol yn golygu wardiau cymharol fach ar y cyfan a mwy o gyswllt rhwng yr etholwyr a'r etholedig. Mae'n golygu, pan fyddwch yn mynd allan i brynu eich papur newydd, yn mynd i siopa, yn ymweld â chlwb chwaraeon lleol, neu'n cerdded ar hyd y stryd, eich bod yn rhyngweithio â phleidleiswyr. Mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system etholiadol a hyrwyddir gan lawer sydd o blaid math o gynrychiolaeth gyfrannol. Fe'i defnyddir ar gyfer etholiadau cyngor yr Alban ac etholiadau Senedd Iwerddon, y Dáil. Wrth ethol mwy nag un ymgeisydd, mae system y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn mynd yn gymhleth, ond un ymgeisydd yn unig sy'n cael ei ethol yn system y bleidlais amgen. Gwendid mwyaf y bleidlais sengl drosglwyddadwy i bleidiau gwleidyddol yw bod yn rhaid ichi ddyfalu faint o seddi y gallwch eu hennill wrth enwebu ymgeiswyr.
Mae gan y dewis olaf y bydd pleidleisiwr yn ei wneud, os caiff eu holl ddewisiadau uwch eu diystyru, yr un gwerth â dewis cyntaf pleidleisiwr arall. A yw'n gweithio fel system gyfrannol? Wel, yn etholiad cyffredinol Iwerddon yn 2020, ni wnaeth Sinn Féin ennill mwyafrif o'r seddi er iddynt gael y nifer fwyaf o bleidleisiau dewis cyntaf ledled y wlad. Er iddynt guro Fianna Fáil o 535,995 i 484,320, cawsant un sedd yn llai yn y pen draw. Cymerodd 12,745 o bleidleisiau i ethol pob Aelod o Fianna Fáil, ond 14,476 i ethol Aelod o Sinn Féin. Disgrifiodd y newyddiadurwr Gwyddelig, John Drennan, y sefyllfa fel 11 sedd a adawyd ar ôl gan Sinn Féin am nad oedd ganddynt ddigon o ymgeiswyr. Fe wnaethant ddyfalu'n anghywir faint o seddi y gallent eu hennill, ond pe byddent wedi dyfalu'n anghywir y ffordd arall, gallent fod wedi cael llai o seddi yn y pen draw.
Felly, mae'r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn fwy o gêm ddyfalu gelfydd na system gyfrannol, lle mae gwneud pethau'n anghywir yn gallu golygu llai o seddi nag y dylech eu cael yn gyfrannol. A oes unrhyw syndod fod yr Alban yn ei defnyddio ar gyfer etholiadau cyngor ond wedi penderfynu peidio â'i defnyddio ar gyfer Senedd yr Alban? Os ewch i wefannau cynghorau'r Alban, gallwch weld pa mor fawr yw seddi cyngor o ran arwynebedd a phoblogaeth. O'r 21 ward yn ardal Cyngor yr Ucheldir, Wester Ross, Strathpeffer a Lochalsh yw'r enghraifft orau o faint y wardiau cyngor sydd eu hangen mewn ardaloedd gwledig o dan y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Dyma'r ward etholiadol fwyaf yn y DU, ac mae hefyd yn fwy ar ben ei hun o ran arwynebedd na 27 o'r 32 o gynghorau yn yr Alban. Mae'n bron yn un rhan o bump o holl arwynebedd Cyngor yr Ucheldir, ac mae oddeutu'r un maint â Trinidad a Tobago.
Yn lle ucheldiroedd yr Alban, meddyliwch am Bowys, meddyliwch am Geredigion, meddyliwch am Wynedd. Meddyliwch am rai o'r ardaloedd hyn—a sir Benfro—lle mae'r boblogaeth yn wasgaredig, ac yna am y boblogaeth sydd ei hangen yn y wardiau hyn i alluogi'r bleidlais sengl drosglwyddadwy i weithredu'n effeithiol. Mae gan ward 1 Glasgow, Linn, boblogaeth o 30,000, sef oddeutu dwy ran o dair o boblogaeth etholaeth Aberconwy yn y Senedd. Yn Glasgow Govan, etholwyd pedwar ymgeisydd, gyda Llafur yn dod i'r brig yn weddol gyfforddus gyda 1,520 o bleidleisiau, a'r SNP yn dod yn ail ac yn drydydd gyda 1,110 a 1,096 o bleidleisiau yr un. Curodd ymgeisydd y blaid Werdd yr ail ymgeisydd Llafur, a gafodd 572 o bleidleisiau dewis cyntaf, i ennill y bedwaredd sedd. Er bod yr SNP, yn effeithlon, wedi cael y dewis cyntaf ar gyfer y ddau ymgeisydd yn agos iawn at ei gilydd, ni lwyddodd Llafur i wneud hynny, ac felly, er iddynt dod i'r brig yn gyfforddus, un o'r pedair sedd yn unig a gawsant yn y pen draw.
Mae'r system yn golygu bod aelodau o'r un blaid yn ymladd yn erbyn ei gilydd, neu bleidiau'n derbyn un sedd yr un mewn wardiau tri aelod. Nid democratiaeth yw hynny. Mae hyn yn wir am etholiadau cyngor ledled yr Alban. Mae'n rhaid penderfynu 'ble y gallwn ennill un neu ddwy sedd?', ond os ydych yn mynd am ddwy neu dair, mae'n bosibl y gallech gael un neu ddim yn y pen draw, oni bai bod eich pleidleiswyr yn pleidleisio’n effeithlon, fel a ddigwyddodd gyda'r SNP yn Govan.
I grynhoi, mae angen i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy gwmpasu ardal ddaearyddol fawr, mae angen poblogaeth fawr arni, mae'n golygu dyfalu nifer y seddi yr ydych yn mynd i'w hennill, pleidleiswyr yn pleidleisio'n effeithlon dros y blaid, ac mae'n ei gwneud yn llawer anos i etholwyr adnabod yr ymgeiswyr. O ran wardiau bach, cynrychiolais ward sirol o ychydig dros 4,000 o etholwyr ac roeddwn yn adnabod eu chwarter, mae'n debyg. Pan fydd gennych wardiau o 30,000, nid oes unrhyw un yn mynd i gyrraedd y lefel honno. Mae gennych sedd yn yr Alban, ac nid yr un a grybwyllais—un arall—lle mae'n cymryd tair awr i fynd o'r orsaf bleidleisio bellaf i leoliad y cyfrif, ac mae'n cynnwys un daith ar gwch hefyd. Credaf fod hynny'n chwerthinllyd. Rydym eisiau system sy'n gweithio, ac sy'n gweithio i ni. Mae'n bwysig iawn ei gwneud yn anos i etholaethau fethu cael ymgeiswyr—mae ymgeiswyr yn bwysig. Nid dim ond cario baner y pleidiau y maent yn ei wneud.
Yn olaf, fel y mae Iwerddon wedi'i ddangos, nid yw'n gyfrannol â'r bleidlais. Yn dilyn yr hyn a ddywedodd Sam Rowlands, a ydych yn cofio pan gawsom ostyngiad mawr yn y ganran a bleidleisiodd? Roedd hynny ar gyfer etholiadau Ewrop pan aethom o system etholaethau i system Cymru gyfan. Yn fy ardal i, roedd pobl yn adnabod Dai Morris. Cyrhaeddodd bwynt cyn iddo orffen lle nad wyf yn credu y gallai unrhyw un fod wedi enwi pob un o bedwar cynrychiolydd Cymru oni bai eu bod yn hynod weithgar yn wleidyddol.
Credaf mai’r cwestiwn allweddol i mi yn y ddadl hon yw: a yw ein democratiaeth yn gweithio yn awr? [Torri ar draws.] Byddwn yn dadlau nad ydyw, gan nad yw’n gynrychioliadol o’r boblogaeth. Credaf fod angen inni ofyn beth y mae’r system yn ei olygu os yw'n atal pobl rhag sefyll. Sam, rydych wedi siarad yn nhermau 'a fyddai hyn yn gwneud gwahaniaeth?' Wel, mewn gwirionedd, pan ofynnwch i grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol pam nad ydynt yn teimlo'n ddigon cyfforddus i sefyll, mae hynny'n aml oherwydd y dull ymosodol o gynnal ymgyrchoedd etholiadol, neu oherwydd eu bod yn credu nad oes diben iddynt sefyll. Oherwydd bob tro y gwelwn y math o ddull cyntaf i’r felin, mae’n ymwneud â dychryn pobl i geisio pleidleisio mewn ffordd benodol drwy ddweud, 'Nid oes diben pleidleisio dros y blaid honno. Pleidleisiwch fel hyn.' Mae'n ddull gwahanol iawn o ymgyrchu os oes angen ichi frwydro am yr ail, y trydydd, a'r pedwerydd dewis.
Hefyd, i ymateb i’ch pwynt, ar etholiadau’r Alban a’r ganran sy'n pleidleisio, fe fyddwch yn gwybod na allwn ddewis a dethol ein ffeithiau. Cynhaliwyd etholiad 2007 ar yr un pryd ag etholiadau seneddol yr Alban, felly roedd bob amser yn mynd i fod yn is, ac roedd hynny i’w ddisgwyl. Mewn gwirionedd, roedd y ganran a bleidleisiodd yn uwch na’r disgwyl, a gallwn weld o nifer y pleidleisiau a ddifethwyd yno fod pobl yn deall y system, gan ei bod yn llawer haws deall y gallwch roi eich dewis cyntaf i’r blaid, hyd yn oed os yw’n annhebygol o ennill, fel arfer—y gallwch bleidleisio â'ch calon a'ch cred, yn hytrach na cheisio dyfalu pa ganlyniad y gallai'r system arwain ato.
Fel y soniodd Rhys ab Owen wrth agor y ddadl hon, mi gefais brofiad o system fwy cyfrannol pan oeddwn i'n byw yn Iwerddon ac yn sefyll mewn etholiadau yno ar gyfer etholiadau swyddogion sabothol undeb myfyrwyr fy mhrifysgol a hefyd undeb myfyrwyr cenedlaethol Iwerddon. System STV oedd honno, oedd yn golygu bod yn rhaid ymgyrchu mewn modd hollol wahanol i sut rydym yn arfer ymgyrchu mewn system cyntaf i'r felin. Roedd yn rhaid gweithio'n galed am bob un bleidlais, ac nid dim ond y bleidlais gyntaf ond hefyd pob un arall ar ôl hynny. Mae hi'n arddull hollol wahanol o ymgyrchu ac yn gorfodi rhywun i fod llawer mwy cadarnhaol oherwydd mae'n rhaid ichi berswadio hyd yn oed pobl sydd ddim yn mynd i roi'r bleidlais gyntaf yna ichi eich bod chi'n haeddu'r ail.
Mewn system cyntaf i'r felin, yn aml—ac mae pob plaid yn euog o hyn—mae yna duedd i drio pwyso'r bobl i beidio â gwastraffu'r un bleidlais sydd ganddynt, gan geisio eu hannog neu eu dychryn i bleidleisio dros blaid sydd yn fwy tebygol o atal y blaid maen nhw'n anghytuno gyda fwyaf rhag cael eu hethol. Rydyn ni i gyd wedi gweld y posteri, 'Only the Lib Dems, Labour or Plaid Cymru can win here to keep the Tories out', er enghraifft. Mae pob plaid yn gwneud hyn. Rydyn ni i gyd wedi eu gweld nhw. Ac mae hyn, yn aml, yn gweithio, yn anffodus, neu'n golygu—a dyma'r pwynt pwysig—nad yw pobl yn trafferthu pleidleisio oherwydd dydyn nhw ddim yn gweld pwynt pleidleisio dros y blaid maen nhw'n teimlo'n agosaf ati. Maen nhw'n meddwl ei bod hi'n done deal a bod yna ddim diben pleidleisio. Ydy hyn yn ddemocrataidd? Nac ydy. Os ydym o ddifrif o ran creu democratiaeth sy'n fwy cynrychioliadol ac sy'n ysgogi pobl i fod eisiau pleidleisio ac yn gweld pwynt pleidleisio ac sydd eisiau sefyll i fod yn ymgeisyddion, yna byddai hyn yn gam enfawr ymlaen. A heb os, os yw am weithio, mae angen system genedlaethol unffurf fel bod cysondeb ledled y wlad.
Mae cysondeb yn bwysig. Wedi'r cyfan, fe welsom anghysondeb mawr o ran y niferoedd o bobl ifanc oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ym Mai 2021, yn amrywio o 68.6 y cant ym Mro Morgannwg i 31.73 y cant yn Abertawe, gan olygu nad oedd 54 y cant o bobl ifanc wedi pleidleisio. Anogaf fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn heddiw am y rhesymau hyn. Dydy'r system bresennol ddim yn gweithio. Mae gennym ni gyfle i wneud system sy'n fwy cyfrannol, yn dod â mwy o bobl i mewn i'n gwleidyddiaeth ni ac yn gwneud i bobl fod eisiau pleidleisio. Diolch i Rhys am ddod â'r mater gerbron y Senedd.
Rydym wedi clywed llawer o ddadleuon, ond credaf fod angen inni fynd yn ôl. Cafodd pobl ifanc 16 ac 17 oed bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021 am y tro cyntaf, ac eleni, wrth gwrs, fydd y tro cyntaf y byddant yn gallu pleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Os edrychwch ar y ffigurau, o'r 65,000 o bobl ifanc 16 i 17 oed a oedd yn gymwys i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd yn 2021, ychydig llai na'u hanner a gofrestrodd i bleidleisio, ac mae hynny’n hynod siomedig. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni atgoffa ein hunain ein bod yn dal i fod, a'n bod bryd hynny, ynghanol pandemig byd-eang, a byddai hynny, wrth gwrs, wedi cael effaith ar nifer y bobl ifanc a gofrestrodd ac a bleidleisiodd wedi hynny. Yn ogystal, roedd cyfyngiadau ar waith a'i gwnaeth yn anos, yn ddealladwy, i ymgysylltu â phobl ifanc. Felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod yn gwneud popeth a allwn i annog pobl ifanc i gymryd rhan ac i bleidleisio yn yr etholiad penodol hwn, yr un cyntaf y mae ganddynt gyfle i i wneud hynny.
Credaf ei bod hefyd yn bwysig fod ein negeseuon yn glir iawn eu bod yn pleidleisio ar eu dyfodol eu hunain, a bod eu llais yr un mor bwysig â llais eu rhieni neu eu neiniau a'u teidiau. Dywedwyd yma heddiw eisoes fod llywodraeth leol yn rheoli cyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, ac mae hynny oll yn effeithio ar bobl ifanc yn uniongyrchol. Mae'n bwysig eu bod yn cael dweud eu barn ar sut y caiff y cyllidebau hynny a'r materion hynny eu blaenoriaethu ar lefel leol, ac yn anad dim, eu bod yn gallu cyfrannu at hynny drwy fynegi barn yn y blwch pleidleisio.
Rwyf am drafod y rhesymau pam nad yw pobl yn pleidleisio. Felly, yn dilyn etholiadau’r Senedd yn 2021, ysgrifennwyd adroddiad Prifysgol Nottingham Trent, ‘Making Votes-at-16 Work in Wales’, ac roedd yn awgrymu nifer o argymhellion i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc, mewn etholiadau llywodraeth leol ac etholiadau’r Senedd. Ac un ohonynt oedd cael gwared ar y rhwystrau ymarferol i bleidleisio sy’n benodol i bleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais, a’i gwneud yn haws i’r bobl ifanc hynny bleidleisio. Er enghraifft, meddent, treialu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig, osgoi trefnu etholiadau yn ystod cyfnodau arholiadau, a lleoli gorsafoedd pleidleisio mewn ysgolion neu golegau. Felly, rwy'n awyddus i wybod a yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi sylw i'r argymhellion penodol hynny.
Ond credaf ei bod yn bwysig crybwyll Bil Etholiadau Llywodraeth y DU 2021-22 hefyd, gan ein bod yn sôn am etholfreinio pobl, nid eu difreinio. Ac os yw'r Bil hwnnw'n llwyddo, byddant yn sicrhau bod yn rhaid i bobl gael cerdyn adnabod â llun er mwyn pleidleisio, ac mae'n mynd i 'helpu i gael gwared ar dwyll pleidleiswyr'. Wel, credaf fod hynny ychydig yn anghymesur o ystyried, o'r 58 miliwn o bobl a bleidleisiodd—58 miliwn—mai dim ond 33 o honiadau o bersonadu mewn gorsafoedd pleidleisio a gafwyd yn 2019. Ni allaf feddwl am enghraifft well o ddefnyddio morthwyl i dorri cneuen. Felly, ni fydd y Bil hwnnw’n berthnasol, wrth gwrs, yn yr etholiadau llywodraeth leol neu etholiadau’r Senedd, ond bydd yn berthnasol i Gymru yn yr etholiad cyffredinol nesaf.
Felly, rydym yn sôn yma heddiw am etholfreinio pobl. Mae angen inni edrych ar beth sy’n eu difreinio, ac rwy'n cytuno bod angen inni edrych ar y system bleidleisio. Ni fyddaf yn cefnogi'r cynnig heddiw gan fy mod am gael—[Torri ar draws.] Wel, rwyf am gael trafodaeth bellach yn ei gylch, ond hoffwn ddweud yn glir fy mod yn agored i’r trafodaethau pellach hynny, ac nid yw bob amser yn wir y bydd un system yn cynhyrchu canlyniad gwahanol. Ac mae’n wir fod rhai pobl yn teimlo eu bod wedi’u difreinio’n llwyr rhag sefyll, ac mae menywod yn brin, fel y mae pobl ifanc, mewn llywodraeth leol. Ac mae angen inni edrych ar y rhesymau am hynny.
Fel y gwyddoch, roeddwn yn gynghorydd yn sir Benfro, a fi oedd yr unig fenyw am y ddau dymor cyntaf—naw mlynedd—ym Mhreseli Sir Benfro. Ac rwy'n cofio curo ar y drws a dynes yn dweud wrthyf, 'Roeddwn yn aros i'r dyn alw', a dywedais wrthi, 'Wel, fi sydd gennych chi.' [Chwerthin.] A chefais lwyddiant mewn etholiad agos. Felly, gadewch inni newid y ddadl.
Diolch i Rhys ab Owen am gyflwyno'r cynnig yma heddiw. Ni fydd yn synnu neb fy mod i'n siarad o blaid y cynnig yma.
Nid oes yr un ohonom am gael system etholiadol sy'n gwarantu seddi diogel, yn gwarantu mwyafrifoedd enfawr am lai na 50 y cant o'r bleidlais, a system sy'n meithrin rhaniadau gwleidyddol a diffyg diddordeb mewn pleidleisio. Mae pawb ohonom am sicrhau bod pob pleidlais yn cyfrif. Ac rydym i gyd yn gweithio'n galed i gael pobl i sefyll, ac i sicrhau eu bod yn cymryd rhan mewn etholiadau ac yn pleidleisio. Felly, rwy'n herio pwyntiau Sam Rowlands. Rydym yn gweithio'n galed iawn, ac rydym wedi gwneud hynny ers blynyddoedd, er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb pobl.
Ac fel rydych wedi clywed ar yr ystadegau, nid yw'n helpu mewn gwirionedd. Yn syml, mae trefn y cyntaf i'r felin yn amddifadu pleidleiswyr o gynrychiolaeth ystyrlon go iawn, a hefyd yn eu difreinio rhag pleidleisio. Gall system fwy cyfrannol ar gyfer pob etholiad, gan gynnwys etholiadau cyngor, feithrin mwy o gydweithio, mwy o atebolrwydd a bydd yn sicrhau bod llais pawb yn cael ei glywed. Credwn fod diwygio etholiadol, newid i'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, yn rhan hanfodol o'r hyn sydd ei angen i sicrhau bod pobl yn cymryd mwy o ran yn ein democratiaeth. Ac nid pleidleisiau mewn blwch pleidleisio yn unig sy'n gwneud democratiaeth. Gallwn fynd ymhellach. Beth am gynulliadau a rheithgorau dinasyddion, a chyllidebu cyfranogol hefyd? Gallant ddod â phobl yn nes at gymryd rhan mewn democratiaeth.
Gadewch inni gyd wneud yn siŵr bod pob pleidlais yn cyfri.
Rydym i gyd am weld pob pleidlais yn cyfrif, a sicrhau bod pobl yn fwy hyderus yn eu democratiaeth. Diolch yn fawr iawn.
Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol nawr i gyfrannu at y ddadl—Rebecca Evans.
Diolch, Lywydd. Mae hon wedi bod yn ddadl ragorol iawn, ac rwyf wedi mwynhau gwrando ar y gwahanol safbwyntiau. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i siarad am Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae'r Ddeddf yn ei olygu i ddemocratiaeth leol yma yng Nghymru, gan ddarparu, fel y gwna, ar gyfer sefydlu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer etholiadau llywodraeth leol, democratiaeth, perfformiad a llywodraethu.
Mae'r egwyddorion sy'n sail i'r Ddeddf yn seiliedig ar alluogi, annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol, ac i roi mwy o hyblygrwydd yn y ffordd y caiff etholiadau eu cynnal. Byddai'r hyn sy'n cael ei awgrymu yma heddiw yn gosod un system etholiadol ar brif gynghorau, beth bynnag y bo barn y cyngor hwnnw neu'r cymunedau y maent yn eu cynrychioli.
Felly, yn y cyd-destun hwn, mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn nodi'r darpariaethau sy'n ymestyn y bleidlais mewn etholiadau lleol i bobl ifanc 16 ac 17 oed, a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Dyma ddau o'r newidiadau pwysicaf y mae'r Ddeddf wedi'u cyflwyno. Gall rhai 16 ac 17 oed adael cartref ac ymuno â'r fyddin, ac felly mae'n gywir ac yn gyfiawn ein bod yn rhoi llais iddynt ar y materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae gostwng yr oedran pleidleisio i 16 yn rhoi cyfle gwerthfawr inni osod unigolyn ifanc ar ddechrau'r daith ddemocrataidd gyda'r offer cywir.
Barn Llywodraeth Cymru yw y dylai pobl sy'n cyfrannu at fywyd economaidd a diwylliannol ein cymunedau gael llais yn nyfodol y gymuned honno. Credwn mai'r prawf i ddangos a yw rhywun yn cael cymryd rhan mewn etholiadau lleol yw a ydynt yn preswylio'n gyfreithlon yma yng Nghymru, ac eisiau cyfrannu at ein cymdeithas. Nid oes angen i ddamweiniau dinasyddiaeth fod yn ystyriaethau perthnasol i'r prawf hwn.
Yn bwysig, am y tro cyntaf, cyflwynodd Deddf 2021 ddyletswydd ar lywodraeth leol hefyd i annog y cyhoedd i gyfrannu eu safbwyntiau ar benderfyniadau i'w cynghorau, gan gynnwys y broses o ddatblygu polisi. Mae democratiaeth yn fwy nag etholiadau, ac mae tystiolaeth yn dangos cysylltiad rhwng y canfyddiadau o allu cyfyngedig i ddylanwadu ar ganlyniadau a nifer isel o bleidleiswyr. Nod y Ddeddf yw mynd i'r afael â hyn drwy osod dyletswyddau penodol ar brif gynghorau a fydd yn cynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn democratiaeth leol ac yn gwella tryloywder.
Fel y dywedais, mae'r Ddeddf yn seiliedig ar egwyddorion hwyluso cyfranogiad a dewis mewn democratiaeth. Yn unol â hyn, mae'n galluogi prif gynghorau i newid y system bleidleisio y maent yn ei defnyddio. Prif gynghorau, pobl leol a chymunedau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu orau i anghenion eu cymunedau. Mae cyflwyno dewis lleol yn cefnogi'r egwyddor o wneud penderfyniadau ar lefel fwy lleol, ac yn caniatáu i gynghorau adlewyrchu'r gwahanol anghenion a demograffeg ar draws rhannau o Gymru.
Ar ôl etholiadau llywodraeth leol 2022, bydd prif gynghorau'n cael dewis pa system bleidleisio y maent am ei defnyddio—naill ai'r cyntaf i'r felin, neu system y bleidlais sengl drosglwyddadwy. Bydd pob cyngor yn parhau i ddefnyddio system y cyntaf i'r felin oni bai eu bod yn penderfynu newid. Byddai newid o'r fath yn gofyn am fwyafrif o ddwy ran o dair, sydd yr un fath â'r hyn sy'n ofynnol i newid system bleidleisio'r Senedd. Yna, byddai angen i unrhyw gyngor sy'n dewis newid ddefnyddio'r system newydd ar gyfer y ddwy rownd nesaf o etholiadau arferol, ac ar ôl hynny gallai benderfynu a ddylid newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol.
Byddai'r gweithdrefnau a nodir yn Neddf 2021 hefyd yn gymwys pe bai'r cyngor yn argymell newid yn ôl i'r system bleidleisio flaenorol. Mae'n bwysig nodi y byddai'n rhaid i brif gyngor ymgynghori â'r bobl yn eu hardal sydd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad llywodraeth leol, pob cyngor cymuned yn yr ardal, a phobl eraill y mae'n ystyried ei bod yn briodol ymgynghori â hwy, cyn y gall arfer ei bŵer i newid systemau pleidleisio.
Rydym yn credu mewn dewis lleol. Ar ôl rhoi'r gallu i brif gynghorau, gan weithio gyda'u cymunedau, ddewis pa system bleidleisio sy'n gweithio orau iddynt, byddai'n amhriodol i Lywodraeth Cymru gamu i mewn a phenderfynu pa system bleidleisio sy'n gweithio orau, a gosod y system honno ledled Cymru heb ystyried safbwyntiau lleol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Diolch. Ar y pwyntiau yr ydych newydd eu codi am yr ymgynghoriad hwnnw, gwnaeth Mike Hedges rai pwyntiau pwysig iawn ynghylch pa mor denau eu poblogaeth y gallai rhai o'r ardaloedd hyn fod, ac felly'r risg, gyda chynrychiolaeth gyfrannol, o golli'r cyffyrddiad lleol hwnnw, oherwydd, mewn gwirionedd, mae'n ardal mor fawr ei chwmpas, ac mae hanfodion cynghorau a chynghorwyr mewn gwirionedd yn ymwneud â bod mewn cysylltiad â'u cymunedau. A fyddech yn derbyn bod honno'n risg gyda'r cynigion a glywsom heddiw?
A yw honno'n risg gyda'ch sedd chi, Sam—yn rhanbarth Gogledd Cymru?
Yn bendant. Mae'n bendant yn risg, ydy.
Gadewch i'r Gweinidog ymateb i'r ymyriad.
Lywydd, rwy'n mynd i wrthsefyll y demtasiwn i siarad yn fy ymateb am y manteision neu'r anfanteision a welaf gyda'r naill system bleidleisio neu'r llall, oherwydd credaf yn wirioneddol mai mater i awdurdodau lleol yw penderfynu drostynt eu hunain, ond wrth gwrs, bydd y materion y mae Sam Rowlands wedi'u disgrifio ym meddwl yr awdurdodau lleol hynny, fel y bydd y materion eraill a godwyd y prynhawn yma.
Mae'r cynnig yn gwneud sylw ar y system etholiadol ar gyfer etholiadau lleol yr Alban, ac wrth gwrs, gwnaeth Senedd yr Alban eu dewis, a byddem yn parchu hynny wrth reswm, ond rydym wedi deddfu yma yng Nghymru i ganiatáu i bob awdurdod lleol bwyso a mesur y dadleuon hynny drostynt eu hunain a dewis a yw'n well ganddynt y bleidlais sengl drosglwyddadwy neu system y cyntaf i'r felin, a chredaf fod y dewis lleol hwnnw'n hollbwysig yma.
Felly, i gloi, drwy Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu ar gyfer mwy o amrywiaeth a dewis mewn democratiaeth leol, ac mae hyn yn cynnwys ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau lleol, cyflwyno dyletswydd ar lywodraeth leol i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau, a rhoi'r dewis i bob prif gyngor pa system bleidleisio sy'n gweddu orau i anghenion eu cymunedau. Byddai ein cydweithwyr mewn llywodraeth leol a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu am gadw'r dewis hwnnw, a chredaf y byddai'n gwbl groes i'n hegwyddorion diwygio etholiadol i geisio hyrwyddo neu osod un system sengl ledled Cymru gyfan. Diolch i fy nghyd-Aelodau am ddadl ragorol iawn.
Llyr Gruffydd nawr i ymateb i'r ddadl.
Gaf i yn y lle cyntaf ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu i'r ddadl yma? Dwi'n ymwybodol bod y cloc yn fy erbyn i, braidd, ond fe wnaf i drio ymateb i rai o'r pwyntiau sydd ddim wedi cael ymateb iddyn nhw.
Mae'n dda gweld bod Gareth Davies wedi dod nôl i'r Siambr ar ôl gadael am y rhan fwyaf o'r drafodaeth ar ôl gwneud ei ymyriad. Mi fyddai wedi bod yn handi ichi fod yma i glywed y ffaith, wrth gwrs, taw dim ond tair sedd sydd wedi cael eu hymladd yn ddiwrthwynebiad—wel, dydych chi ddim yn ymladd seddi, ond rŷch chi'n gwybod beth dwi'n meddwl—yn yr Alban ers 2007. Pymtheg mlynedd—tair sedd ddiwrthwynebiad. Cawsom ni bron i 100 o seddi diwrthwynebiad yng Nghymru dim ond yn yr etholiad diwethaf. Felly, mae e yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol pan fo'n dod i hynny, ac mae hi yn siomedig bod Sam Rowlands wedi trio camddehongli, efallai, dywedwn ni, ie, y cwymp yn y bleidlais, fel esboniodd Heledd Fychan. Fe allaf i rannu dadansoddiad gan yr LSE os ydy e eisiau—
Oes gen i'r amser i gymryd ymyriad, Llywydd?
Iawn, fe gewch chi amser ychwanegol i gymryd ymyriad.
Mae'n ddrwg gennyf am ymyrryd eto, ond rwyf am fod yn glir: roedd y niferoedd a rannais ar gyfer cyfnod o bedair blynedd. Nid oeddwn yn dewis blynyddoedd unigol. Felly, y gwahaniaeth rhwng y ddwy flynedd flaenorol, neu'r ddau etholiad cynt a'r ddau etholiad wedyn oedd y niferoedd y dyfynnais 8 y cant ar eu cyfer.
Wel, gallaf ddyfynnu Ysgol Economeg Llundain yn ôl atoch, ond fe rannaf y ddolen â chi, ac mae'n eithaf clir mai'r honiad cyntaf a wneir yn aml yw bod y defnydd o'r bleidlais sengl drosglwyddadwy wedi arwain at nifer isel o bleidleiswyr, ac mae hynny'n gwbl anghywir. Felly, mae'n debyg ei fod yn fater o gelwyddau, celwyddau melltigedig, ac ystadegau yn ein hachos ni'n dau, felly, onid yw?
Clywaf yr hyn y mae pobl yn ei ddweud am faint wardiau, ond wyddoch chi beth, edrychwch ar yr hyn a ddigwyddodd yn Ynys Môn? Nawr, gwn nad yw'n gynrychiolaeth gyfrannol, ond oherwydd y sefyllfa yr oedd Ynys Môn ynddi flynyddoedd yn ôl, gyda wardiau un aelod ac yn y blaen, a'r math o faenoriaethau a oedd yn llesteirio'r cyngor mewn gwirionedd, y Llywodraeth Lafur hon a ymyrrodd. Ni roesant ddewis iddynt symud neu newid. I bob pwrpas, cawsant eu rhoi dan drefn mesurau arbennig fel cyngor, ac fe'u gorfodwyd i gyflwyno wardiau aml-aelod ar ôl troed llawer mwy. A wyddoch chi beth? Mae'r cyngor wedi'i drawsnewid o ran democratiaeth. Mae wedi'i drawsnewid. Mae wedi gwella ychydig o ran cynrychiolaeth—nid yw lle mae angen iddo fod. Ac mae gennych chi wardiau tri aelod. Maent yn fwy, ond mae Ynys Môn yn ardal eithaf gwledig hefyd, felly nid wyf yn credu bod angen i hynny fod yn unig reswm dros beidio â symud tuag at fath gwahanol o ôl troed, a chredaf efallai fod angen inni ystyried rhai o'r penderfyniadau a wnaeth Llywodraethau Llafur blaenorol yn y ddadl hon hefyd.
Dechreuodd Jane Dodds drwy ofyn, 'Nid oes yr un ohonom am gael system sy'n gwarantu seddi diogel.' Mae'n swnio yn debyg i hynny i mi ar adegau, braidd, ond—.
Mi basiwyd Deddf Llywodraeth—
Na, mae'n ddrwg gennyf, Mike—rwy'n brin o amser, mae arnaf ofn.
Mi basiwyd y Ddeddf, sy'n caniatáu symud i gynrychiolaeth gyfrannol, dwi'n deall hynny, ond y cwestiwn dwi'n ei ofyn, a beth dwi ddim wedi'i glywed gan y Gweinidog yn ei hymateb, yw: so beth sy'n mynd i yrru'r newid yna? Ble mae'r cymhelliad i gynghorau i fynd i'r afael â hyn go iawn? Mi glywyd y term 'twrcis a Nadolig', ac mae’n wir, ond yw e? Opsiwn yw e, a dwi'n ofni ei bod hi'n annhebygol o ddigwydd, a lle mae e'n digwydd, bydd e'n digwydd yn ynysig; mi fydd e'n golygu bod un rhan o, efallai, rai cymunedau yn defnyddio un system a rhan arall yn defnyddio system arall.
Ac un peth rŷn ni yn gwybod, os oes shifft yn digwydd i gyfundrefn arall, mae yna broses, ac mae angen gwaith addysgu pobl i sicrhau bod pobl yn deall beth yw'r broses newydd. Wel, os oes un rhan yn gwneud un peth a rhan arall yn gwneud rhywbeth arall, mae'n gwneud hynny lawer iawn yn anoddach, sy'n golygu bod y broses i raddau yn cael ei thanseilio ychydig cyn ei bod hi'n cychwyn, ac mae hynny'n mynd i olygu bod awdurdodau lleol hyd yn oed yn llai parod i newid.
Felly, mi ellid fod wedi annog a sicrhau bod awdurdodau lleol yn symud i’r model yna, ond mi fethwyd, ac rŷn ni yn gorffen, wrth gwrs, gyda sefyllfaoedd—fel y mae sawl siaradwr wedi dweud—lle mae pleidlais mewn un gymuned yn cyfrif mwy na phleidlais mewn cymuned arall, ac mae pobl yn mynd i bleidleisio nid o blaid yr ymgeisydd A y maen nhw eisiau ei gefnogi, ond o blaid ymgeisydd B, oherwydd mae hynny'n golygu dyw ymgeisydd C ddim yn mynd i ennill. Felly, maen nhw'n pleidleisio yn erbyn rhywun, yn hytrach nag o blaid rhywun arall. Mi gollwyd cyfle gyda'r Ddeddf.
A jest i gloi, felly, dwi eisiau gweld ambell i beth yn dod o gyfeiriad y Llywodraeth nawr, achos, yn amlwg, dŷch chi ddim yn mynd i gefnogi'r cynnig yma. Mae angen cefnogi a chreu cymhelliad i gynghorau i newid eu system bleidleisio. Mae angen i’r Llywodraeth yrru'r sgwrs a'r drafodaeth yma, yn hytrach na jest gadael e i ddrifftio. Mae angen hefyd wedyn ymrwymo i gefnogi’r gofynion gweinyddol fydd yn dod yn sgil y newid a’r costau fydd yn dod yn sgil y newid yn y lle cyntaf, nes eu bod nhw wedi cael eu 'embed-o' mewn i fod yn rhan o broses ehangach, a hefyd mae yna job o waith i’w wneud i gyfathrebu i etholwyr lle mae yna newid yn digwydd. A man lleiaf, ar gefn y ddadl yma, mi fyddwn i'n gobeithio bod y Llywodraeth yn barod ymrwymo i hynny.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.