– Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2017.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw’r ddadl ar ‘Diogelu Dyfodol Cymru’, trefniadau pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop. Galwaf ar y Prif Weinidog i wneud y cynnig—Carwyn Jones.
Cynnig NDM6228 Jane Hutt, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl eto i ddangos sut y dylai'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a sut berthynas fydd rhyngddi a gweddill Ewrop yn y dyfodol.
2. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
3. Yn croesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn, Diogelu Dyfodol Cymru.
4. Yn cymeradwyo'r blaenoriaethau sy'n cael eu nodi ynddo a'r dull gweithredu sy'n cael ei ddisgrifio.
5. Yn credu y dylai Llywodraeth y DU lwyr barchu blaenoriaethau Cymru, fel y'u nodir yn y Papur Gwyn, o fewn safbwynt negodi'r DU yn gyfan, ac yn cefnogi'r ymdrechion parhaus gan Lywodraeth Cymru drwy'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion i ddarbwyllo Llywodraeth y DU am fanteision y dull gweithredu hwn.
6. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i danio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
7. Yn ailddatgan pwysigrwydd hanfodol Confensiwn Sewel, ac yn credu y dylai hyn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig a cheisio'u cymeradwyaeth i'w safbwynt negodi, cyn ac yn ystod y negodiadau, a'u cymeradwyaeth i unrhyw gytundeb terfynol â'r Undeb Ewropeaidd.
8. Yn mynnu y dylai unrhyw fargen derfynol gael ei datblygu er budd pennaf ein heconomi a'n cymdeithas, ac nid ei llunio o amgylch buddiannau gwleidyddol cul.
Diolch, Lywydd. Rwy’n symud y cynnig hwnnw.
On 24 January, I presented to the Chamber our White Paper, ‘Securing Wales’ Future’. It sets out the priorities for Wales as we approach the UK’s exit negotiations from the EU. I’ve been pleased by the support that Members from different parties and others more widely have given to that paper. It shows how packed and fast the agenda is that, in the fortnight since then, there have been some rather significant developments. In no particular order we’ve seen a very helpful report from the External Affairs and Additional Legislation Committee on the impact of leaving the EU, a Supreme Court judgment that the UK Government could not use the royal prerogative to invoke article 50, we’ve seen the meeting of the Joint Ministerial Committee here in Cardiff, the introduction of a UK Bill to allow the UK Government to trigger article 50, a surprise commitment from the Prime Minister to a UK Government White Paper, and, hot on the heels of that announcement, the publication of that White Paper. But, sadly, what we are still waiting for is a clear and detailed explanation of what the UK Government’s position really is. The UK Government White Paper is a small step in that direction, but I still fear that the UK Government has not yet worked out a comprehensive strategy as to how it wants to deal with the challenges ahead and what sort of journey it wishes to get onto. I’ve seen little evidence of these issues being addressed.
As ever, each development answers some questions and raises many others, but there is one fixed certainty in this: as I have said many times since 24 June, the UK is leaving the EU; that debate is over. But I want to stress again that my role is to lead the Welsh Government and to speak to the UK Government on Wales’s behalf to secure the best outcome for the people of Wales. Overall, I am very confident that the positions and principles we set out in the White Paper two weeks ago will remain highly relevant throughout the negotiations. We’ve articulated them in discussions with the UK Government, and will continue to do so. Without betraying confidences, it’s fair to say that the UK Government, and particularly the Secretary of State for Exiting the European Union, have said clearly that they share many of our objectives. Llywydd, I hope Members will now have had a chance to consider them in detail and will see them as the firm basis to support the resolution.
So, let me set out our priorities once again, and I’ll reference the UK Government’s position where I can.
First, let me reiterate our overriding economic priority. We need to continue to have full and unfettered access to the single market. That access is key to attracting and retaining investment, it’s fundamental to so many jobs—and, in particular, so many highly paid, highly skilled jobs here in Wales—it’s fundamental to our economic future, so why would we want to walk away from it?
A wnewch chi ildio?
Gwnaf.
Ar y pwynt hwn, mae'r Prif Weinidog yn gwybod bod y Papur Gwyn o San Steffan yn sôn am fasnach ddiffrithiant bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau. A oes ganddo unrhyw syniad beth yw ystyr diffrithiant yn y cyd-destun hwnnw?
Na. Gallaf ddyfalu ei fod yn golygu, am wn i, mynediad i’r farchnad ar yr un telerau ag yn awr, ond dyfalu yw hynny. Nid oes neb wir yn gwybod beth yw ystyr yr ymadrodd hwn. Yn wir, i roi'r cymal llawn i'r Siambr, mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd a mwyaf diffrithiant bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau yn yr UE. Wel, y gair allweddol yno yw 'bosibl'. Bydd yn rhaid inni aros i weld beth yw ystyr hynny. Mae'r Papur Gwyn yn methu â’i gwneud yn glir sut y bydd Llywodraeth y DU yn blaenoriaethu rhwng ei gwahanol amcanion, a fydd weithiau yn cystadlu â’i gilydd. Nid yw Papur Gwyn Llywodraeth y DU ychwaith yn cydnabod y gallai’r DU golli llawer yn fwy difrifol o godi unrhyw rwystr â thariff neu heb dariff rhag masnachu nag unrhyw un o'n partneriaid Ewropeaidd. Wrth gwrs, mae gan wledydd eraill yr UE orchmynion gwleidyddol, yn union fel sydd gan y DU. Fel y nodwyd yn adroddiad Reuters y diwrnod o'r blaen, mae gwneuthurwyr ceir yr Almaen yn paratoi i addasu i’r effeithiau negyddol ar eu model busnes o ganlyniad i gyflwyno tariffau ar y DU.
Yn yr un modd, rydym ni’n credu y dylai'r DU barhau i fod yn rhan o'r undeb tollau, o leiaf am y tro. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i'r UE, ac mae cymryd rhan yn yr undeb tollau hefyd yn galluogi masnach rydd gyda mwy na 50 o wledydd eraill y tu hwnt i'r UE. Ystyriwch, hefyd, sefyllfa Ynys Manaw, Jersey, a Guernsey, nad oes ganddyn nhw, er eu bod y tu allan i'r UE, ond yn yr undeb tollau, reolaeth ar faterion tramor a masnach ac a gaiff felly eu tynnu allan o'r undeb tollau, o bosibl, heb gael dweud eu dweud o gwbl, neu heb i neb erioed ofyn iddyn nhw.
Mae Llywodraeth y DU yn methu â chydnabod y dystiolaeth bod manteision cryfaf masnach rydd yn dod pan fo’r partïon dan sylw yn ddaearyddol agos ac yn debyg i’w gilydd o ran lefelau datblygiad. Mae un astudiaeth yn amcangyfrif y byddai cyfres o gytundebau masnach rydd â'r Unol Daleithiau, Canada, Awstralia a Seland Newydd gyda’i gilydd yn cynyddu masnach cyffredinol y DU 3 y cant, ond dim ond degfed rhan yw hynny o'r gostyngiad yn ein masnach gyffredinol a fyddai'n digwydd pe byddem yn gadael y farchnad sengl ar delerau Sefydliad Masnach y Byd.
Mae amcan Llywodraeth y DU o sicrhau trefniant tollau â’r UE sydd o fudd i'r ddwy ochr yn aneglur, ac yn sicr yn edrych fel ymdrech i’w chael hi bob ffordd, ac nid yw'n glir beth mae hynny'n ei olygu i’r ffin tir y bydd gan y DU â’r UE yn Iwerddon, ac, yn wir, â Sbaen.
Beth felly am y wobr fawr, y mae Llywodraeth y DU yn credu y dylem ni ildio ein cyfranogiad yn yr undeb tollau er ei mwyn: cyfnod newydd o gytundebau masnach dwyochrog gyda marchnadoedd newydd a marchnadoedd sy’n ehangu? Nawr, ni ddylem ein twyllo ein hunain y bydd yn hawdd ffurfio cytundebau masnach da. Mae'n debygol o gymryd blynyddoedd, efallai blynyddoedd lawer, ac mae’n ddigon posibl y bydd cytundebau newydd, yn enwedig os yw ein cefnau yn erbyn y wal oherwydd camdrafod y trafodaethau Brexit, yn ein gwneud ni’n ysglyfaeth hawdd i wledydd sydd eisiau inni gofrestru ar gyfer cytundebau masnach neo-ryddfrydol sy'n tanseilio safonau cyflogaeth a safonau amgylcheddol.
Yn ail, rydym ni wedi cydnabod yn glir bod pryderon am fudo wedi bod yn rhan o'r rheswm pam y pleidleisiodd rhai pobl dros ‘adael’, ac mae ein safbwynt yn glir: mae’n rhaid bod cysylltiad clir rhwng yr hawl i ddinasyddion yr UE nad ydyn nhw’n fyfyrwyr nac yn economaidd hunangynhaliol i ddod i’r wlad hon ar ôl Brexit, a gwaith. Ochr yn ochr â hyn, mae angen inni weld ymrwymiad llawer cryfach gan Lywodraeth y DU i weithredu deddfwriaeth bresennol a ddylai diogelu gweithwyr, boed o Benfro neu o Boznań, rhag cael eu twyllo a’u hecsbloetio. Nawr, mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn fylchog iawn ynglŷn â sut yr hoffai ymdrin â hyn; nid yw’n rhoi dim eglurder ynghylch beth yw ystyr rheoli ein ffiniau mewn gwirionedd, heblaw y bydd y ffin yn agored o ran y ffin tir â’r UE. Nid yw'n rhoi’r sicrwydd diamwys yr ydym wedi galw amdano i hawliau dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw ac yn gweithio yma.
Yn drydydd, mae angen cydnabyddiaeth briodol arnom gan Lywodraeth y DU y dylai Cymru barhau i gael yr arian sydd ei angen arni i weithredu polisi datblygu rhanbarthol a gwledig yn seiliedig ar ein hanghenion gwrthrychol, ac rwy’n disgwyl y bydd Aelodau yn gallu rhoi cefnogaeth gadarn iawn imi ar y pwynt hwn.
Yn bedwerydd, mae arnom angen archwiliad trylwyr o ddyfodol datganoli yn y DU, ar ôl Brexit. Rydym ni’n disgwyl i Lywodraeth y DU barchu canlyniadau'r refferenda a gyflwynodd ddatganoli yn y DU, yn ogystal â’r un ar 23 Mehefin y llynedd. Ni allan nhw ddewis a dethol pa refferenda y maen nhw’n dymuno eu parchu. Mae'n gwbl glir, yn 2011, bod y mwyafrif llethol o bobl Cymru wedi penderfynu eu bod yn dymuno gweld pwerau llawn yn cael eu rhoi i'r Cynulliad hwn yn y meysydd a oedd wedi’u datganoli, yn ddiamod. Rwy’n croesawu’r ymrwymiad y gwnaeth y Prif Weinidog imi yr wythnos diwethaf na fydd dim cipio tir ar gymwyseddau datganoledig, ond mae'r Papur Gwyn yn portreadu diffyg dealltwriaeth o'r ffordd y bydd Brexit yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Felly, mae sôn am ddychwelyd pwerau o Frwsel yn gamarweiniol iawn, fel y mae’r Goruchaf Lys eisoes wedi ei gwneud yn glir, oherwydd unig effaith gadael yr Undeb Ewropeaidd ar gymwyseddau datganoledig fydd cael gwared ar gyfyngiadau sydd ar hyn o bryd yn atal y Cynulliad Cenedlaethol rhag deddfu yn groes i gyfraith yr UE. Felly, i ddyfynnu’r llys:
'Bydd cael gwared ar gyfyngiadau’r UE ar dynnu'n ôl o Gytuniadau’r UE yn newid cymhwysedd y sefydliadau datganoledig oni fydd cyfyngiadau deddfwriaethol newydd yn cael eu cyflwyno. Yn absenoldeb cyfyngiadau newydd o'r fath, bydd tynnu'n ôl o’r UE yn gwella’r cymhwysedd datganoledig.'
Mewn geiriau eraill, pan fydd pwerau’n dychwelyd o Frwsel, byddan nhw’n dod yn syth yma. Ni fyddan nhw’n oedi ychydig, nac, yn wir, yn aros, yn Whitehall.
Nawr, gadewch imi fod yn gwbl glir: nid oes gen i ddim bwriad o gwbl i argymell i'r Cynulliad hwn ein bod yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i unrhyw gyfyngiadau deddfwriaethol newydd a fyddai i bob diben yn golygu bod San Steffan yn dwyn pwerau gan Gaerdydd.
Yn bumed, mae llawer o fanteision yn deillio o aelodaeth o'r UE neu’n cael eu cryfhau ganddyn nhw. Maen nhw’n ymdrin â meysydd mor amrywiol ag amddiffyn cyflogaeth, cydraddoldeb, hawliau defnyddwyr a gwella ein hamgylchedd. Byddwn yn gweithio i gadw’r manteision hyn yn y trafodaethau gadael. Er fy mod i’n croesawu'r sicrwydd ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU y byddan nhw’n diogelu hawliau cyflogaeth, mae eto’n aneglur sut y mae’r flaenoriaeth hon yn gydnaws ag amcanion eraill, fel cwblhau cytundebau masnach rydd newydd, a allai arwain yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol at eu gwanedu.
Yn chweched, rydym yn pwysleisio ei bod yn debygol y bydd angen cyfnod pontio, fel y gall y trefniadau presennol fod yn berthnasol am gyfnod ar ôl i'r DU adael yr UE. Mae'n hanfodol, fel egwyddor, ein bod yn cydnabod bod angen rheoli’r ymadael hwnnw mewn ffordd sy'n peri'r tarfu lleiaf. Ni allaf weld dim rheswm da pam y mae Llywodraeth y DU yn gwrthwynebu hynny, ond ar hyn o bryd mae'n ymddangos eu bod.
Felly, er ein bod mewn rhai ffyrdd yn croesawu Papur Gwyn y Llywodraeth y DU, ar y cyfan mae’n dipyn o siom. Mae'n dweud yn y bôn, 'Mae hyn yn fwy cymhleth nag yr oeddem ni’n meddwl y byddai ac nid oes gennyn ni ddim atebion eto.' Ond mae angen dod o hyd i’r atebion hynny, ac yn fuan. Nid gêm o ‘poker’ yw hon lle mae gennym ni law hap yn Texas hold 'em ac nid yw’r ochr arall yn gwybod dim am gryfder y llaw; mae'n drafodaeth aeddfed lle gall y ddwy ochr wneud asesiad eithaf da, yn seiliedig ar ddata a thystiolaeth, o'r hyn sy'n debygol o fod yn bwysig i'r llall. Ar ryw adeg, cyn bo hir, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU nodi'n glir yr hyn maen nhw ei eisiau mewn gwirionedd, ac efallai, yn anad dim, bod yn glir ynghylch pa gyfaddawdau y maen nhw’n fodlon eu derbyn rhwng eu gwahanol ofynion. P'un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU roi eu gofynion i gyd mewn un Brexit. [Chwerthin.] Mae'n rhaid cael gair mwys yn ei ganol.
Nawr, gadewch imi roi sylw i’r cwestiwn am y gwelliant a gynigiwyd gan Blaid Cymru. Roeddwn i, ac rwy’n dal i fod, yn falch bod Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi datblygu ein Papur Gwyn a’i gymeradwyo ar y cyd, ac wedi cyflwyno'r cynnig o sylwedd sydd ger ein bron ar y cyd. Mae'n hanfodol bod y Cynulliad Cenedlaethol yn siarad dros Gymru â llais cryf ac unedig. Rwy’n ei gwneud yn glir: ni wnaf i gymeradwyo Brexit nad yw'n sicrhau mynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl, boed hynny drwy'r llwybr EFTA neu'r llwybr AEE, neu drefniant pwrpasol. Mae Llywodraeth y DU yn dweud bod hynny’n flaenoriaeth iddyn nhw hefyd, er eu bod yn gwneud hynny mewn iaith wahanol. Ond nid yw’n glir a all Llywodraeth y DU gyflawni’r canlyniad hanfodol hwn, ynghyd â rhai o'i 11 o amcanion eraill. Yn bersonol, rwy'n amheus. Rydym yn aros i weld. Ond ni fydd yn dod yn glir nes bod y trafodaethau ar y gweill. Dim ond bryd hynny y gallwn ni fod yn siŵr a yw Llywodraeth y DU wir yn barod i aberthu ein heconomi am ideoleg ac egwyddorion cyfansoddiadol haniaethol. Os bydd hynny'n digwydd, byddaf i a Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ein gallu i’w hatal rhag gwneud hynny.
Felly rwy'n glir: er fy mod, fel Plaid Cymru, yn cefnogi'n gryf ymdrechion yn San Steffan i ddiwygio’r Bil drafft, ni allwn ac ni ddylem geisio rhwystro’r trafodaethau hynny rhag dechrau. Hynny, wedi'r cyfan, oedd diben y refferendwm. Mae'n rhaid parchu’r canlyniad a dyna pam y bydd y grŵp Llafur yn pleidleisio yn erbyn y gwelliant.
Felly gadewch imi fod yn glir i gloi: rydym ni o’r farn bod ein Papur Gwyn yn cynnig safbwynt mwy realistig a manwl, wedi’i seilio ar dystiolaeth, nag unrhyw beth y mae Llywodraeth y DU wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn. Byddwn ni’n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ystyried ei negeseuon, ac i gadw at yr ymrwymiad y maen nhw wedi ei wneud i geisio consensws rhyngddyn nhw eu hunain a'r gweinyddiaethau datganoledig ar amcanion trafod y DU. Hoffem ni weithio gyda Llywodraeth y DU a phawb sydd â budd i ddod o hyd i ffordd ymlaen sy'n dda i Gymru ac yn dda i’r DU. Lywydd, byddwn ni’n parhau i wneud hynny.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i’r cynnig, ac rwy’n galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Mark Isherwood.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd.
2. Yn croesawu 12 o amcanion negodi Llywodraeth y DU ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd a chyhoeddi ei Phapur Gwyn.
3. Yn nodi cyhoeddi Papur Gwyn Llywodraeth Cymru.
4. Yn nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio Erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth.
5. Yn cydnabod cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac yn croesawu ymrwymiad parhaus Prif Weinidog y DU i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Diolch, Lywydd. Er ein bod ni’n cytuno bod yn rhaid datblygu unrhyw gytundeb terfynol gyda phwyslais pennaf ar les gorau economi a chymdeithas Cymru, mae digwyddiadau wedi mynd yn drech na’r cynnig hwn gan Lywodraeth Cymru. Rwyf i felly yn cynnig gwelliant 1 i ddisodli hwn â chynnig i gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r UE; i groesawu 12 amcan negodi Llywodraeth y DU ar gyfer tynnu allan o’r UE a chyhoeddi eu Papur Gwyn; i nodi cyhoeddiad Papur Gwyn Llywodraeth Cymru; i nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio tanio erthygl 50 erbyn diwedd mis Mawrth; i gydnabod y cyfarfod Cydbwyllgor y Gweinidogion a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ac i groesawu ymrwymiad parhaus y Prif Weinidog i ymgysylltu â'r gweinyddiaethau datganoledig a sicrhau'r fargen orau i Gymru a'r Deyrnas Unedig.
Roedd y neges gan y cyhoedd cyn ac yn ystod ymgyrch y refferendwm yn glir: mae’n rhaid i Brexit olygu rheolaeth dros nifer y dinasyddion o’r UE sy'n dod i'r DU. Byddwn ni’n parhau i ddenu'r mwyaf disglair a'r goreuon, gan ganiatáu i DU sofran bennu a diwallu anghenion gweithlu ein heconomi a'n cymdeithas, boed yn beirianwyr, yn wyddonwyr, yn weithwyr iechyd proffesiynol, yn ofalwyr neu’n weithwyr fferm. Ond roedd llais y bobl yn glir; mae’n rhaid cael rheolaeth. [Torri ar draws.] Cymeraf un ymyriad.
Diolch am ildio, Mark. Rwy’n dweud hyn â phob rhesymoldeb: os, o'r ddau amcan hynny, yw’r un o geisio gosod cap ar fudo naill ai oddi mewn yr UE neu'n allanol yn gwrthdaro â'r syniad o ganfod a recriwtio’r bobl fedrus hynny a fydd yn gyrru ein heconomi, ein prifysgolion a’n swyddi, pa un sy’n cael blaenoriaeth? Oherwydd byddwn i’n meddwl bod hyd yn oed y Prif Weinidog yn dechrau sylweddoli bod y ddau’n gwrthdaro.
Na, y cyntaf yw'r ffordd i'r ail.
Er bod Papur Gwyn Llafur a Phlaid Cymru yn galw am fynediad llawn a dilyffethair i farchnad sengl yr UE, ac er bod rheolau'r UE yn gwneud hyn yn amhosibl ar ôl adfer rheolaeth ffiniau i'r DU, nid yw hyn yn anghyson â dymuniad Llywodraeth y DU am gytundeb masnach rydd heb aelodaeth. Mae'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ei bod hi eisiau cytundeb pwrpasol sy'n gweithio dros y DU gyfan, gan groesawu’r fasnach fwyaf di-dariff a di-rwystr bosibl gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Roedd yn ymddangos bod Prif Weinidog Cymru yn cydnabod bod angen cytundeb pwrpasol pan ddywedodd wrth y pwyllgor materion allanol ddoe nad oedd yn awgrymu bod model mudo Norwy yn 100 y cant addas i’r DU, ond, yn hytrach, bod yna ddewisiadau eraill. Ac, fel y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud, 'Mae gennym ni feddwl agored ynglŷn â sut i wneud hyn.'
Gall dinasyddion yr UE hawlio’r hawl i breswylio'n barhaol, heb ddim amodau, os ydyn nhw wedi byw yma’n gyfreithlon am bum mlynedd yn barhaus. Tra bo’r DU yn dal i fod yn yr UE, mae dinasyddion yr UE yma yn parhau i fod â’r un hawliau ag sydd ganddyn nhw nawr. Mae'r Prif Weinidog hefyd wedi bod yn glir ei bod yn dymuno diogelu statws dinasyddion yr UE yma, fel ninnau, ac mae hi'n dweud mai'r unig amgylchiadau lle na fyddai hynny'n bosibl yw os na chaiff hawliau dinasyddion y Deyrnas Unedig mewn aelod-wladwriaethau eraill yr UE wedi eu diogelu yn gyfnewid.
Nid oes gennyf amser.
Rwy’n croesawu’r ffaith bod Sbaen, er enghraifft, yn dweud y bydd hyn yn flaenoriaeth o ran trafodaethau, oherwydd eu bod yn derbyn bod angen rhoi sylw i hyn hefyd.
Fel mae Papur Gwyn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn ei ddweud, dylai cydweithredu trawsffiniol mewn ymchwil a datblygu, fel Horizon 2020, a rhaglenni cyfnewid rhyngwladol, fel ERASMUS +, barhau ar ôl i'r DU adael yr UE. Rydym ni felly'n croesawu'r ffaith bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn cyfeirio at ymgysylltu agos â'r gronfa gwyddoniaeth ac ymchwil, gan gynnwys gweithgor rhanddeiliaid lefel uchel ar adael yr UE, prifysgolion, ymchwil ac arloesi, i sicrhau bod y DU yn adeiladu ar ei safle byd-eang cryf o ran rhagoriaeth mewn ymchwil ac arloesedd.
Mae Papur Gwyn Llywodraeth y DU hefyd yn nodi na chaiff dim penderfyniadau a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig eu cymryd oddi arnyn nhw ac, yn wir, y bydd rhagor o benderfyniadau yn cael eu datganoli. Mae Papur Gwyn y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn galw am fframwaith i’r DU i ddarparu sail gyfreithiol i reoleiddio materion megis yr amgylchedd, amaethyddiaeth a physgodfeydd yn effeithiol—materion sy'n cael eu llywodraethu’n drwm gan gyfraith yr UE.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig o blaid archwilio a chreu fframweithiau i’r DU gyfan ar gyfer y materion hyn ac eraill, gan gynnwys cronfeydd strwythurol ac addysg uwch. Mae angen i'r fframweithiau hyn ystyried yr holl genhedloedd yn y DU a diogelu'r cyllid a'r adnoddau angenrheidiol i sicrhau y gallan nhw gyflawni dros Gymru.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn glir: fel yr adleisiodd y Prif Weinidog, ni fydd dim cipio tir o ran cymwyseddau sydd o dan bŵer presennol y gweinyddiaethau datganoledig. Mae’n rhaid i hyn barchu’r setliad datganoledig presennol wrth i gyllid, cynlluniau a mentrau ddychwelyd o’r UE. Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi ysgrifennu at y Prif Weinidog i wneud yr achos o blaid rhoi blaenoriaeth i amaethyddiaeth yn y trafodaethau gadael. Ac wrth siarad yng Nghymru yr wythnos diwethaf, dywedodd Ysgrifennydd DEFRA y DU ei bod yn benderfynol o sicrhau marchnadoedd allforio i gynnyrch Cymreig o ansawdd uchel ar ôl inni adael yr UE.
Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei haraith yn Lancaster House fis diwethaf,
Rwyf i eisiau i ni fod yn Brydain wirioneddol Fyd-eang—y ffrind a’r cymydog gorau i'n partneriaid Ewropeaidd, ond gwlad sy'n ymestyn y tu hwnt i ffiniau Ewrop hefyd. Gwlad sy'n mentro i'r byd i greu perthynas â hen ffrindiau a chynghreiriaid newydd fel ei gilydd. Hoffwn i Brydain fod yr hyn y mae gennym y potensial, y dalent a’r uchelgais i fod. Cenedl wych, sy’n masnachu’n fyd-eang ac sy'n cael ei pharchu o amgylch y byd ac sy’n gryf, yn hyderus ac yn unedig gartref.
Nid dim ond oherwydd bod ein hanes a'n diwylliant yn hollol ryngwladol, er mor bwysig yw hynny. Mae llawer ym Mhrydain erioed wedi teimlo bod lle’r Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd wedi dod ar draul ein cysylltiadau byd-eang, ac ar draul bod yn fwy beiddgar wrth gofleidio masnach rydd â'r byd ehangach.'
Dywedodd:
'Fel blaenoriaeth, byddwn yn mynd ar drywydd cytundeb masnach rydd beiddgar ac uchelgeisiol â'r Undeb Ewropeaidd. Dylai'r cytundeb hwn ganiatáu ar gyfer y fasnach fwyaf rhydd bosibl mewn nwyddau a gwasanaethau rhwng Prydain ac aelod-wladwriaethau’r UE. Dylai roi’r rhyddid mwyaf posibl i gwmnïau Prydeinig fasnachu â marchnadoedd Ewrop a gweithredu oddi mewn iddyn nhw—a gadael i fusnesau Ewropeaidd wneud yr un peth ym Mhrydain.
'Ond rwyf am fod yn glir. All yr hyn yr wyf yn ei gynnig ddim golygu aelodaeth o’r farchnad sengl. Mae arweinwyr Ewropeaidd wedi dweud droeon bod aelodaeth yn golygu derbyn y '4 rhyddid' sef nwyddau, cyfalaf, gwasanaethau a phobl. A byddai bod allan o'r UE, ond yn aelod o'r farchnad sengl, yn golygu cydymffurfio â rheolau a rheoliadau’r UE sy'n gweithredu'r pedwar rhyddid hynny, heb inni gael pleidlais ar beth yw’r rheolau a'r rheoliadau hynny. Byddai'n golygu derbyn swyddogaeth i Lys Cyfiawnder Ewrop a fyddai'n golygu bod ganddo awdurdod cyfreithiol uniongyrchol yn ein gwlad o hyd. Byddai i bob pwrpas yn golygu peidio â gadael yr UE o gwbl. A dyna pam y pwysleisiodd y ddwy ochr yn ymgyrch y refferendwm y byddai pleidlais i adael yr UE yn bleidlais i adael y farchnad sengl.'
Dywedodd:
"Felly nid ydym yn gofyn am aelodaeth o’r farchnad sengl. Yn hytrach, rydym yn gofyn am gymaint â phosibl'—[Torri ar draws.] Rydych yn byw ym mro breuddwydion. [Torri ar draws]
'Yn hytrach, rydym yn gofyn am gymaint â phosibl o fynediad iddi yn unol â chytundeb masnach rydd newydd, cynhwysfawr, beiddgar ac uchelgeisiol'—[Torri ar draws.]
Gadewch inni glywed yr Aelod.
'Gallai’r cytundeb hwnnw gynnwys elfennau o drefniadau presennol y farchnad sengl mewn rhai meysydd—ar allforio ceir a lorïau er enghraifft, neu’r rhyddid i ddarparu gwasanaethau ariannol ar draws ffiniau cenedlaethol—oherwydd dydy hi ddim yn gwneud dim synnwyr dechrau o'r dechrau eto pan fo Prydain a’r Aelod-wladwriaethau eraill wedi cadw at yr un rheolau ers cynifer o flynyddoedd.'
Ond mae hi’n parchu, meddai hi, y safbwynt a gymerodd arweinwyr Ewropeaidd sydd wedi bod yn glir am eu safbwynt, yn union fel y mae hi’n glir am ei safbwynt hi.
'Felly, rhan bwysig o'r bartneriaeth strategol newydd yr ydym yn ei cheisio â’r UE fydd ceisio sicrhau’r mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, ar sail gwbl ddwyochrog, drwy gytundeb masnach rydd cynhwysfawr.'
Diwedd y dyfyniad. Wedi'r cyfan, y DU yw cwsmer mwyaf yr UE ac mae cytundeb masnach rydd sydd o fudd i’r naill a’r llall â’r UE—sy’n farchnad sengl—yn golygu, drwy ddiffiniad, mynediad i’r farchnad sengl honno.
Er gwaethaf sylwadau Llywodraeth Cymru yn yr apêl i mewn i benderfyniad yr Uchel Lys bod yn rhaid i’r Senedd bleidleisio ar y broses i dynnu’r DU allan o'r UE, gwnaeth y Goruchaf Lys hi’n glir nad oedd angen caniatâd y gweinyddiaethau datganoledig cyn tanio erthygl 50. Mae'r Uchel Lys hefyd ers hynny blocio wedi her gyfreithiol a oedd yn dadlau bod yn rhaid i’r Senedd hefyd gymeradwyo bod y DU yn gadael yr Ardal Economaidd Ewropeaidd.
Mae’n rhaid parchu pleidlais y bobl i adael yr UE yn y refferendwm fis Mehefin diwethaf—gan gynnwys ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Rhondda Cynon Taf. Yn ystod y misoedd dilynol, fodd bynnag, rydym wedi dioddef proffwydoliaethau o ofid a gwae gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru ddydd ar ôl dydd, yn hytrach na’r geiriau hyderus a gobeithiol yr oedd eu hangen. [Torri ar draws.] Byddwch yn creu proffwydoliaeth hunangyflawnol. Mae’n rhaid ei bod yn rhwystredig i Brif Weinidog Cymru sydd yn aml wedi swnio fel Private Frazer gwleidyddiaeth Cymru, ac i 'Blaid Gremlin' draw fan’na, sydd ond yn bodoli i wanhau a rhannu ein hynys drwy ddinistrio ein Teyrnas Unedig—[Torri ar draws.]—bod Banc Lloegr wedi codi eu rhagolwg ar gyfer economi'r DU eleni, gyda thwf cyflymach, llai o ddiweithdra a chynnydd chwyddiant mwy cymedrol. Mae pobl Prydain, gan gynnwys Cymru, wedi penderfynu gadael yr UE, ac mae Llywodraeth y DU yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni hynny. Fodd bynnag, fel y mae pob Llywodraeth gyfrifol yn ei wybod, dydych chi ddim yn dangos eich cardiau cyn i drafodaethau ddechrau.
Rwy’n galw ar Leanne Wood i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Leanne Wood.
Diolch, Lywydd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut y gallaf ddilyn hynny. Rwy’n cynnig gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Ers y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd ar 23 Mehefin y llynedd, mae Plaid Cymru wedi blaenoriaethu budd cenedlaethol Cymru. Ni fydd yn syndod i neb—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i fod yn genedlaetholwr Cymreig o'i gymharu â’ch cenedlaetholdeb Brydeinig chi, diolch yn fawr iawn. Ni fydd yn syndod i neb yn y Siambr hon bod fy mhlaid yn dal i fod o blaid cyfranogi yn y farchnad sengl Ewropeaidd—rhywbeth sydd yn bosibl, naill ai o’r tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd neu o'r tu allan iddo. Nawr, rydym yn gwybod bod ardaloedd a chytundebau masnach rydd mawr yn gallu dod â pheryglon i gymdeithasau, ond mae'r farchnad sengl Ewropeaidd wedi gweithio'n dda i Gymru. Mae cymryd rhan ynddi wedi helpu i greu swyddi tra medrus â chyflogau uchel. Mae tua 200,000 o swyddi yng Nghymru yn gysylltiedig â'r farchnad honno. Ac yn hanfodol, mae'r farchnad sengl Ewropeaidd yn seiliedig ar safonau uchel, ac mae’n seiliedig ar ragoriaeth, arloesi a diogelu’r amgylchedd. Ar y naill law, mae'n cael gwared ar rwystrau rhag masnach. Ac ar y llaw arall, mae'n gwella ac yn hyrwyddo ansawdd. Mae gan y farchnad sengl Ewropeaidd rai o'r safonau diogelwch defnyddwyr gorau yn y byd. Bydd llawer o bobl yn gyfarwydd â'r marc CE a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd i fod yn berthnasol i nwyddau ledled yr Ardal Economaidd Ewropeaidd, neu’r AEE. O deganau plant i’r nwyddau gweithgynhyrchu o’r ansawdd uchaf, mae’r marc CE yn golygu bod yn rhaid i gynnyrch fodloni’r safonau diogelwch ac amgylcheddol uchaf posibl.
Ond nid dim ond nwyddau cartref sydd ar gael yn y farchnad sengl. Mae hefyd yn cynnwys enwau cyfarwydd: Airbus; Ford ym Mhen-y-bont; Siemens yn Llanberis; cig oen Cymru—90 y cant o'n hallforion cig oen; Halen Môn. Mae pob un o'r cwmnïau neu’r sectorau hyn naill ai wedi cefnogi’r farchnad sengl neu’n dibynnu arni am eu hallforion rhyngwladol. Rydym wedi clywed sôn am yr angen i’r sectorau hyn ddod o hyd i farchnadoedd eraill, ond pam y byddem yn cerdded i ffwrdd oddi wrth y farchnad fwyaf yn y byd pan mae ar ein stepen drws yn barod? Dylen ni yng Nghymru feddwl yn ofalus iawn am ein hawliau defnyddwyr, ein hallforion, ein hamgylchedd, ein hawliau gweithwyr wrth inni ystyried yr hyn sy'n cael ei gynnig fel dewis arall.
Mae amryw o Geidwadwyr wedi amlinellu dewis arall i aros yn y farchnad sengl. Rwyf wedi eu clywed yn dweud y bydd rywbeth yn debyg i Singapore. Wel, nid oes gennyf unrhyw broblem â Singapore, ond byddai mewnforio model o'r fath i'r DU yn annerbyniol i ni. Nid ydym am weld Cymru yn cael ei llusgo i mewn i fyd Eingl-Americanaidd o breifateiddio, lle y byddem mewn perygl o wynebu diwedd nawdd cymdeithasol a diwedd y GIG. Byddai fersiwn newydd, ac yn ôl pob tebyg yn waeth, o TTIP o dan y cytundebau masnach rydd, a byddai hynny’n israddio hawliau gweithwyr a mesurau i ddiogelu ein hamgylchedd. Byddai'n rhaid i ffermwyr Cymru gysoni safonau amaethyddol â’r Unol Daleithiau, neu weld agor ein marchnadoedd i fwy o gig oen o Seland Newydd. Mae'r rhain yn bosibiliadau y bydd Plaid Cymru yn eu gwrthwynebu ar bob cyfle.
Clywsom hefyd y Brexiteers yn cynnig dewis arall gwahanol yn ystod ymgyrch y refferendwm.
Nid oes neb o gwbl yn sôn am fygwth ein lle yn y farchnad sengl, meddai Daniel Hannan o Vote Leave.
'Dim ond gwallgofddyn fyddai’n gadael y farchnad mewn gwirionedd.'
Nid yw'r rhain yn eiriau y byddwn i’n eu dewis, ond geiriau Owen Patterson ydyn nhw. A
'A fyddai mor ddrwg i fod fel Norwy?'
Dyfalwch pwy ddywedodd hynny. Nigel Farage. Doedd Brexit caled y tu allan i'r farchnad sengl yn ogystal â'r UE ddim yn gwestiwn a oedd ar y papur pleidleisio. Cyplwch hynny â'r addewid i fuddsoddi cannoedd o filiynau o bunnoedd bob wythnos mewn gwasanaethau cyhoeddus, yn benodol y GIG, ac mae’n dod yn amlwg bod gwir angen i ddal yr ochr 'gadael' i gyfrif am eu haddewidion ac am eu llwon. Rwy’n cynrychioli etholaeth a bleidleisiodd i adael. Mae'r Rhondda wedi colli meddygfeydd teulu. Mae rhai cymunedau’n diboblogi ac felly yn dioddef o niferoedd yn gostwng, cau ysgolion. Mae gormod yn cael trafferth â phroblemau cymdeithasol. Roedd yr addewidion hynny o arian ychwanegol yn ddeniadol iawn, ac mae yna bobl a gynigiodd yr addewidion hynny yn bresennol yn y Siambr hon heddiw, ac maen nhw’n bresennol yn Llywodraeth y DU hefyd.
Mae Plaid Cymru wedi gwrthod rhoi siec wag i Lywodraeth y DU i danio erthygl 50, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno ein gwelliant heddiw, yn ogystal â'n gwelliant a gyflwynwyd neithiwr yn Nhŷ'r Cyffredin. Lywydd, mae gennym gynnig ger ein bron heddiw sy'n cydnabod canlyniad y refferendwm ac yn nodi cynllun manwl ar gyfer Cymru, a bydd Plaid Cymru yn cefnogi'r cynnig hwnnw, hyd yn oed os yw ein gwelliant yn methu. Mae'r cynnig yn iawn i nodi bod Llywodraeth y DU wedi methu ag amlinellu cynllun manwl. Mae hyn yn rhan o'n problem.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rydym wedi gweld nawr bod Papur Gwyn Llywodraeth y DU yn bodoli, ond mae'n ddogfen llawn gwrthddywediadau, a dydyn ni dal ddim yn gwybod beth mae Brexit yn ei olygu mewn gwirionedd. Gwnaf.
Diolch yn fawr iawn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, fel yr ydych wedi’i ddweud, bod cymaint o undod â phosibl ar draws y Siambr ar y cynnig hwn a'n bod yn dod at ein gilydd ar ran budd cenedlaethol Cymru. Ar ôl negodi cynnig ar y cyd â Llywodraeth Cymru, a allwch esbonio pam yr ydych wedyn yn cyflwyno cynnig ar wahân sy’n rhoi signal o dacteg wahanol i'r hen gynnig yr oeddech wedi cytuno arno? A oes gan hyn fwy i’w wneud â’ch rhaniadau gwleidyddol mewnol eich hun, yn hytrach na budd cenedlaethol Cymru?
Nid oes gennym ni ddim anawsterau mewnol o fewn Plaid Cymru ar hyn. Nid oes dim sôn am danio erthygl 50 yn y Papur Gwyn. Rydym ni’n ymrwymo'n llwyr i'r Papur Gwyn, ond mae gennym ein safbwynt ein hunain ynglŷn ag erthygl 50, a dyna pam yr ydym wedi cyflwyno'r gwelliant hwn heddiw. Ond, fel yr wyf newydd ei ddweud, byddwn yn cefnogi'r cynnig, hyd yn oed os bydd ein gwelliant hunain yn methu.
Nawr, mae Papur Gwyn y DU yn disgrifio sefyllfa masnach nad yw'n adlewyrchu amgylchiadau Cymru. Er enghraifft, dim ond 11 y cant o nwyddau'r DU sy’n cael eu hallforio i'r Almaen, ond ar gyfer Cymru, mae'r ffigur yn 24.8 y cant. Mae Cymru yn allforio 13.7 y cant o'i nwyddau i Ffrainc, ond ar gyfer y DU, dim ond 6.5 y cant yw’r ffigur. Nid wyf yn petruso cymeradwyo'r Papur Gwyn ar y cyd rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel disgrifiad cywir o fudd cenedlaethol Cymru ar gyfer y trafodaethau i ddod. Rwy’n cymeradwyo’r blaenoriaethau polisi yn ogystal â'r dull a awgrymwyd. Mae ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’ yn amlinellu math o bontio a gâi gefnogaeth tair o'r prif bleidiau gwleidyddol yng Nghymru. Mae'n sicrhau bod gan Gymru ei safbwynt ei hun a llwyfan ar wahân i'r JMC a thrafodaethau eraill y tu mewn i'r DU. Mae'n amlinellu’r berthynas agosaf a mwyaf cadarnhaol y gallem ei chael â'r Undeb Ewropeaidd o'r tu allan, ar ôl Brexit. Mae'n nodi cysylltiadau ag Iwerddon fel blaenoriaeth strategol i’n cenedl, ac mae'n amlinellu’r rhannau hanfodol o’n cymdeithas y mae angen eu diogelu a’u hamddiffyn rhag unrhyw darfu, ac yn arbennig mewn amaethyddiaeth ac yng nghefn gwlad Cymru.
Rwyf hefyd yn cymeradwyo'r eglurhad a’r disgrifiad yn y Papur Gwyn o gyfranogi yn y farchnad sengl. Mae'r opsiynau ar gyfer hyn yn dal i fod ar agor, p'un ai drwy fod yn aelod o EFTA a chyfranogi yn yr AEE, neu drwy gytundeb pwrpasol a drafodwyd, ar yr amod, wrth gwrs, bod cytundeb o'r fath yn diystyru tariffau ac yn cadw ein rheoliadau’n gydnaws â rhai’r farchnad sengl. Byddai unrhyw gytundeb nad yw'n cyflawni'r amodau a gymeradwywyd gan Bapur Gwyn Cymru yn anfanteisiol i Gymru ac yn rhoi ein heconomi mewn perygl.
Lywydd, mae Cymru ar dir newydd. Mae'r ddadl yn parhau i esblygu, a bydd Plaid Cymru yn cyfrannu ein syniadau a'n hegni wrth i'r broses Brexit fynd rhagddi. Byddwn yn parhau i weithio gydag eraill lle mae’r budd cenedlaethol yn mynnu hynny a lle ceir tir cyffredin, yn union fel y bydd Cymru yn gweithio gyda’r gweinyddiaethau datganoledig eraill. Ond mae Plaid Cymru yn dal i fod yn wyliadwrus o Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn awyddus i ddweud y byddan nhw’n gwrando ar bob un o'r gweinyddiaethau datganoledig. Yr hyn nad ydym yn ei wybod eto yw a ydyn nhw mewn gwirionedd yn bwriadu gwneud hyn, ynteu dim ond ceisio creu’r argraff eu bod yn gynhwysol a theg. Pleidleisiodd Cymru o drwch blewyn i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond yn yr Alban a Gogledd Iwerddon roedd y bleidlais yn wahanol. Gallai unrhyw ymagwedd at adael yr Undeb Ewropeaidd sy'n gwrthod dyheadau’r tiriogaethau datganoledig hynny arwain at ddiwedd y Deyrnas Unedig. Gallai unrhyw ddull sy'n anwybyddu llais Cymru ddwyn anfri ar Lywodraeth y DU a niweidio perthynas Cymru â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'r Papur Gwyn ar y cyd yn nodi ffordd o osgoi’r difrod hwnnw ac i gadw’r cysylltiadau pwysig a buddiol hynny ag Ewrop, gan gydnabod canlyniad y refferendwm. Mae er budd cenedlaethol Cymru i gymeradwyo'r Papur Gwyn hwn heddiw. Diolch yn fawr.
Rwy’n gwerthfawrogi jôc y Prif Weinidog am beidio â rhoi ein hwyau mewn un Brexit, ond rwy’n ofni nad comedi yw ei siwt gryfaf oherwydd mae mor felodramatig yn y dadleuon hyn. Mae’r gofid a’r gwae sy’n dod allan o'i geg wir yn eithaf rhyfeddol, ac mae, rwy’n credu, yn ei fodelu ei hun yn fwy ar Private Frazer yn ‘Dad’s Army’—‘We’re doomed, we’re doomed’. Mae ei gydweithiwr ar draws y Siambr, yn fy marn i, yn ei modelu ei hun ar y cymeriad comig o'r sioe radio 'ITMA', Mona Lott, y ferch ddigalon yn y golchdy—‘Bod mor siriol sy’n fy nghadw i fynd’. Mae cwmwl du i bob ymyl arian yw’r ffordd y maen nhw’n edrych ar y peth, a dyma'r peth rhyfeddol: nid oes ond yn rhaid ichi ddarllen y ddogfen hon, y Papur Gwyn, i weld o ble mae hynny'n dod. Yn y dechrau un, bron:
'gallai disodli cyfranogiad yn y Farchnad Sengl â rheolau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) arwain at economi'r DU sydd hyd at 8 i 10 y cant yn llai nag y byddai fel arall'—
A wnewch dderbyn ymyriad?
Gwnaf, wrth gwrs.
Rydym yn dal i aros am eich cynllun. Ble mae e?
Ie, wel, byddaf yn cyrraedd hyn mewn munud yn yr araith hon. Sut ar y ddaear y gallai symud i reolau WTO o reolau’r farchnad sengl, lle byddai’r tariff cyfartalog yn llai na 3.5 y cant, gynhyrchu gostyngiad 10 y cant ym maint ein hincwm cenedlaethol, o gofio nad yw cyfanswm ein hallforion i'r UE ond 12 y cant o’n cynnyrch mewnwladol crynswth? Mae hyn yn hollol economaidd anllythrennog, ac mae gwacter y ddogfen hon, a dweud y gwir, y tu hwnt i ddisgrifiad. Mae'r syniad bod hwn yn gynllun, fel y mae’r wraig anrhydeddus yn ei ddweud, yn gwbl hurt. A gaf i ei hatgoffa bod y Llywodraeth wedi nodi ei safle trafod yn fras, ac fel y nododd strategydd milwrol mawr yr Almaen Helmut von Moltke unwaith,
‘Kein Plan überlebt die erste Feindberührung’.
Dyna ddangos fy nghymwysterau Ewropeaidd: 'nid oes dim cynllun brwydr yn goroesi’r cyswllt cyntaf â'r gelyn'. Felly, nid oes dim pwynt ceisio llunio cynllun wedi’i ystyried yn ofalus iawn ar gyfer y trafodaethau hyn. Safbwynt bras y Llywodraeth yw'r un synhwyrol, ac, yn ôl pob golwg, mae cytundeb ar draws y Cynulliad hwn ag ef—mai’r hyn yr ydym eisiau ei gyflawni, yn y geiriau a ddyfynnodd y Prif Weinidog, yw masnach ddiffrithiant rhwng yr UE: pethau’n debyg iawn i sut y maen nhw yn awr o ran masnach rhyngom. Mae'n bendant er budd yr UE i hynny ddigwydd. Roedd gennym ddiffyg masnach o £61 biliwn gyda’r UE yn 2015. Mae'n llawer iawn mwy er eu lles nhw nag er ein lles ni i gadw masnach rydd rhwng Prydain a gweddill Ewrop. [Torri ar draws.] Rwy’n ildio.
Diolch yn fawr iawn am ildio. A wnewch chi dderbyn, fodd bynnag, bod y Papur Gwyn hwn yn ceisio ymdrin â’r cyd-destun Cymreig penodol i adael yr UE, gan gynnwys y pwynt bach hwnnw bod Cymru yn allforiwr net i'r Undeb Ewropeaidd?
Wrth gwrs, bydd gadael yr UE yn effeithio ar wahanol farchnadoedd a gwahanol gynnyrch oni bai ein bod yn parhau â'r trefniadau masnachu sydd gennym ar hyn o bryd. Dyna pam mae, wrth gwrs, yn iawn bod Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at y broses negodi. Ond nid oes gan Lywodraeth Cymru ddim diddordeb, a dweud y gwir, mewn cyfrannu at y broses negodi hon, oherwydd maen nhw’n dechrau o ben arall y negodi cyn belled ag y mae Llywodraeth Prydain dan sylw. Maen nhw’n dweud yn y ddogfen hon
'byddai unrhyw gyfyngiadau ar symudiad rhydd gweithwyr yn effeithio’n ddifrifol ar allu Cymru i gael mynediad at' bob math o bethau. A diwedd y gân i’r Prif Weinidog, ac rwy’n tybio i Blaid Cymru hefyd, yw bod yn rhaid i weithwyr gael symud yn rhydd ledled yr Undeb Ewropeaidd. Dylai eu gallu fod yn ddilyffethair i ddod i'r wlad hon, nid dim ond i dderbyn cynigion o waith, ond hefyd i chwilio am waith. Dyna'r hyn y mae symud rhydd yn ei fynnu o dan reolau’r AEE. Dyma beth sy'n digwydd yn Norwy, ac mae Norwy wrth gwrs yn rhan o'r cytundeb Schengen yn ogystal. A dweud y gwir, byddai'n gwneud pethau'n waeth pe baem yn mabwysiadu model Norwy, fel yr argymhellodd y Prif Weinidog y diwrnod o'r blaen.
Mae'n rhaid ichi dderbyn bod canlyniad y refferendwm ar 23 Mehefin wedi’i ysgogi i raddau mawr gan ofnau ar ran y cyhoedd ym Mhrydain a'r cyhoedd yng Nghymru am fudo. Os ydych yn anwybyddu hynny, byddwch yn ei anwybyddu ar berygl i chi eich hun. Rhoddaf y darn hwnnw o gyngor ichi am ddim. Dydyn ni ddim yn gwybod a yw'r UE yn mynd i wneud y peth synhwyrol. Mae'r bêl yn eu cwrt nhw, nid yn ein un ni. Rydym wedi dweud beth rydyn ni eisiau ei wneud: hoffem barhau i fasnachu gyda nhw mewn ffordd mor rhydd ag yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd.
Yn bron bob un sector yn ein masnach gyda'r UE, mae gan Brydain warged mawr. Gadewch inni sôn am gig oen, rhywbeth y soniodd y wraig anrhydeddus amdano yn ystod ei haraith. Mae'r ffigurau ar gynhyrchion amaethyddol yn ddadlennol iawn, a dweud y gwir. Mae ein hallforion cig oen i'r UE—dim ond ffigurau'r DU sydd gennyf, nid oes gen i ddim ffigurau Cymru. Ond, ffigurau’r DU yw £392 miliwn y flwyddyn o fewnforion o gig oen o’r UE a £302 miliwn o allforion. Mae gennym ddiffyg o £90 miliwn y flwyddyn mewn cig oen.
Gallem fforddio, gyda'r difidend Brexit—yr £8 biliwn yr ydym yn ei roi i Frwsel ar hyn o bryd i’w wario ar amaethyddiaeth a phethau eraill mewn rhannau eraill o'r UE—gallem fforddio prynu cig oen i bawb yn y wlad hon a'i roi allan am ddim, pe baem yn dymuno. Dyna beth—. Mae'n opsiwn a fydd gennym ni, fel deddfwyr etholedig. Byddwn yn gyfrifol am ein penderfyniadau yn y lle hwn, ac am y rhai yn San Steffan, a byddwn yn atebol i'r bobl. Mae hynny'n rhywbeth sydd, wrth gwrs, yn ddiffygiol o ganlyniad i ddiffyg democrataidd yn yr UE. Ildiaf.
Diolch am ildio. A allwch egluro imi sut mae rhoi cig oen am ddim yn cynhyrchu marchnad gynaliadwy i fy ffermwyr mynydd?
Mae ffermwyr mynydd Dafydd Elis-Thomas yr un rhai â fy ffermwyr mynydd i. Dydw i ddim wir—[Torri ar draws.] Wel, mae Canolbarth a Gorllewin Cymru, os nad yw’r wraig anrhydeddus wedi ei ddarganfod, yn cynnwys Dwyfor Meirionnydd ac felly—
A gaf i ddweud, yn y fan hon, mai dyna’r trydydd tro i chi sôn am wraig anrhydeddus? Nid oes neb yn anrhydeddus yn y Siambr hon. Rydym i gyd yn gyfartal. [Chwerthin.]
Lywydd, rwy’n credu mai dyna ddyfyniad y degawd, ac rwyf wedi fy ngheryddu’n briodol.
Wrth gwrs, doedd hwnnw ddim yn awgrym synhwyrol; roeddwn yn mynd â’r ddadl i'r pen pellaf hurt. Yr unig beth yr wyf yn ei ddweud yw y bydd gennym y rhyddid i wneud rheolau a rheoliadau i benderfynu ar ein polisïau mewnol ein hunain. Os byddwn yn dewis rhoi rhyw fath o gymorth i un sector yn hytrach nag un arall, mae hynny nawr o fewn ein gallu ni i wneud penderfyniadau, nid gallu rhyw gasgliad afloyw ac amhosibl ei adnabod o weision sifil rhyngwladol wedi’u lleoli ym Mrwsel, nad yw’r mwyafrif llethol o bobl yn gwybod pwy ydyn nhw. [Torri ar draws.] Nid wyf i’n credu, Lywydd, bod gen i amser—rwyf i wedi ildio dair gwaith yn barod, sy’n eithaf hael, yn fy marn i.
Yr oll a ddywedaf wrth yr Aelodau yn y ddadl hon yw: wrth gwrs, mae pob newid yn cynhyrchu heriau a risgiau. Dyw hi ddim fel pe nad oedd dim risgiau i aros yn yr UE ar y telerau a fu gennym am y 40 mlynedd diwethaf. Yn ystod 43 mlynedd, rydym wedi gweld newidiadau a dirdyniadau enfawr yn digwydd ym mywydau ffermwyr mynydd, er enghraifft, neu gynhyrchwyr llaeth, ac yn y blaen ac yn y blaen. Mae'r byd bob amser yn enigma, ond yr hyn y mae’r cyfle hwn yn ei roi inni yw’r rhyddid i wneud penderfyniadau drosom ein hunain fel gwlad, gan wleidyddion etholedig sy’n atebol i'r bobl yn rheolaidd, a bydd yn rhaid inni fod yn atebol am ein penderfyniadau iddyn nhw, sy'n rhywbeth nad yw'n digwydd ar hyn o bryd.
O ystyried ein bod mewn diffyg mor sylweddol yn ein masnach â'r UE, ac mewn gwarged yn ein masnach gyda gweddill y byd, byddai bod yn rhan o'r undeb tollau, a dweud y gwir, yn ataliad enfawr ar y rhyddid y mae Brexit yn ei roi. Nid yn unig ydw i’n credu y byddai'n ffôl inni aberthu masnach rydd yn yr UE, er nad yw hynny o fewn ein gallu i’w reoli—penderfyniad i’r UE yw hwnnw, ac efallai y gallai'r Prif Weinidog gynorthwyo Llywodraeth Prydain i’w gyflawni drwy fod mewn cysylltiad â’i gyd-sosialwyr ar y cyfandir—. Bydd ffrynt unedig ar ran pob plaid yn y trafodaethau hyn yn fanteisiol inni. Ond, o ran masnach gyda gweddill y byd, byddai bod yn yr undeb tollau yn golygu y byddai'n amhosibl inni gwblhau unrhyw fath o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau, rhywbeth y mae’r Arlywydd Trump—beth bynnag yr ydych yn ei feddwl amdano—yn ymddangos yn awyddus i’w ffurfio, a llawer o wledydd eraill hefyd, boed yn Awstralia neu Seland Newydd. Mae India a Tsieina hefyd yno i ddechrau trafodaethau â hwy. Mae hwn yn gyfle enfawr. Nid wyf yn credu ei fod yn ddim byd i'w ofni. Beth yw diben plaid genedlaethol wedi'r cyfan, os nad sicrhau bod y bobl sy'n rhedeg eu cenedl eu hunain yn gwneud y penderfyniadau allweddol? Beth sy’n genedlaetholgar am ddymuno cael eich llywodraethu gan weision sifil di-draidd sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel, yn anatebol i bobl Cymru? Dyna'r union wrthwyneb i blaid genedlaetholgar yn fy marn i. Ond rwy'n credu bod yn rhaid imi gloi fy sylwadau nawr oherwydd er bod hon yn ddadl dwy awr, mae’n rhaid imi beidio â chymryd mwy o amser nag yr wyf eisoes wedi ei gymryd. Dydw i ddim yn gwybod a gawn ni fwy o'r dadleuon hyn, ond rwy'n siŵr y bydd y pwyntiau’n codi eto, er hynny.
Felly, yr oll y byddwn yn ei ddweud yw bod hwn yn gyfle inni, nid bygythiad. Ni fydd yn gwneud y gorau ohono, neu’r gwaethaf ohono. Os awn i mewn i'r trafodaethau ac os awn i mewn i'r dyfodol ag ysbryd o besimistiaeth—'O, na, allwn ni ddim gwneud hyn; all y bumed economi fwyaf yn y byd ddim goroesi ar ei chryfderau ei hun’—wrth gwrs, chawn ni mo’r gorau ohono. [Anghlywadwy.] Rhun ap Iorwerth, o’i eistedd, 'Beth am Gymru?' Os nad yw wedi sylwi, mae Cymru yn rhan o'r Deyrnas Unedig ac yn debygol o aros felly ac, felly, mae’n rhaid i Gymru dderbyn y realiti ein bod yn rhan o drafodaeth ehangach. Mae'r syniad y gallai’r Alban fod yn annibynnol at y dibenion hyn yn hurt ac mae’r awgrym chwerthinllyd o gael trefn fisa i Gymru, fel y soniwyd amdano yn gynharach, wrth gwrs, yn gwbl anymarferol. Os—
Mae angen ichi ddirwyn i ben yn awr.
Oes. Ac mae hynny oherwydd, fel rhan o wladwriaeth unedol, er ei bod yn cynnwys Seneddau a Chynulliadau datganoledig, bod yn rhaid inni dderbyn bod y Deyrnas Unedig yn negodi ar ran y wlad i gyd. Ond mae gan Gymru popeth i obeithio amdano, rwy’n credu, a phopeth i'w ennill o agwedd gadarnhaol tuag at y trafodaethau Brexit a'r cyfleoedd sydd ar gael yn y byd ehangach.
Pan siaradais yn y Siambr hon rai dyddiau ar ôl pleidlais y refferendwm, roeddwn yn mynegi siom enfawr wrth y canlyniad, ond gan ychwanegu bod yn rhaid inni dderbyn y canlyniad a dyna yw fy safbwynt o hyd. Ac mae hynny er gwaethaf y ffaith bod 62 y cant o bleidleiswyr ym Merthyr Tudful naill ai wedi pleidleisio i aros neu heb bleidleisio o gwbl. Yn anffodus, doedd trothwy pleidleisio’r undebau llafur ddim yn berthnasol yn y refferendwm, felly y mwyafrif pleidleisio syml ar y diwrnod hwnnw oedd yn ennill. Ond ac ystyried y rhaniad barn clir hwnnw, byddaf yn derbyn fy nghyfrifoldeb i ystyried beth sydd er pennaf les fy holl etholwyr. Yn fwy na dim, yr hyn sydd ei angen ar bawb yw i’r Llywodraeth roi terfyn ar yr ansicrwydd. Ond saith mis yn ddiweddarach, mae’r ansicrwydd hwnnw’n parhau.
Lywydd, roeddwn yn fwy trist nag wedi fy syfrdanu wrth ganlyniad y refferendwm, nid oherwydd yr hyn oedd yn ei olygu i mi yn bersonol, ond oherwydd yr hyn y byddai'n ei olygu i bobl yn un o ardaloedd mwyaf difreintiedig y Deyrnas Unedig. I lawer, roedd pleidleisio ‘gadael’ yn bleidlais daer dros newid, pleidlais dros rywbeth gwell gan bobl a oedd wedi dioddef darnio eu cymunedau yn yr 1980au a'r 1990au, gan arwain at aelwydydd heb waith am ddegawdau, ac yn y pen draw daeth yr union gymunedau hynny yn ddioddefwyr y mesurau cyni a osodwyd gan y Torïaid. Ond fy ofn gwirioneddol yw, ar ôl Brexit, na fydd yn dod â'r newid y mae pobl yn erfyn amdano, ac mai’r union bobl a bleidleisiodd i adael yw'r union bobl sydd ag angen y gefnogaeth yr oedd yr UE yn ei darparu fwyaf.
Daeth yn amlwg hefyd bod llawer o bobl wedi pleidleisio i adael oherwydd ystod o bethau yr oedden nhw’n credu y bydden nhw’n deillio o adael yr UE, gan gynnwys terfyn ar fewnfudo. Ond pan gefais sgyrsiau â llawer o'r bobl hyn, nid oedd eu pryderon am fewnfudo wedi’u hategu gan unrhyw brofiadau personol ac nid oedden nhw ychwaith, yn wir, yn gallu dweud gydag unrhyw sicrwydd sut yr oedd mewnfudo wedi effeithio'n andwyol arnyn nhw. Fodd bynnag, wedi’u gwysio gan y celwyddau a'r propaganda Goebbels-aidd gan y cyfryngau adain-dde, cafodd mewnfudwyr eu pardduo fel achos yr heriau yr oedden nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd. Ond, wrth gwrs, nid y celwyddau am fewnfudo oedd yr unig rai o bell ffordd. Roedd yr holl ymgyrch ‘gadael’ yn seiliedig ar gelwyddau ac addewidion ffug, boed yr addewid i ail-fuddsoddi £350 miliwn yn y GIG neu'r cyfoeth a fyddai'n deillio o gytundebau masnach newydd, y cyfeiriodd Ken Clarke atyn nhw yr wythnos diwethaf fel 'ffantasïau Alice in Wonderland'.
I mi, fodd bynnag, canlyniad mwyaf trallodus y bleidlais ‘gadael’ fu'r cynnydd helaeth mewn achosion o hiliaeth agored a chyhoeddus a normaleiddio ymddygiad o'r fath. Yn anffodus, nid yw hyn wedi dangos llawer o arwyddion o arafu, a phan fyddwch yn cyplu hyn â'r hyn yr ydym wedi ei weld gan Donald Trump ac esgyniad yr adain dde hiliol mewn rhannau eraill o Ewrop, mae’n rhaid i hyn beri pryder inni i gyd.
Am eiliad, a gaf i ganolbwyntio ar yr effaith bersonol ar ddinasyddion yr UE sydd wedi eu dal yn yr ansicrwydd presennol, yma ac yn Ewrop? Dysgais yn ddiweddar am un o ddinasyddion yr UE—Almaenwr—a ddaeth i'r DU 40 mlynedd yn ôl. Mae'n byw yng Nghymru gyda'i bartner ac mae wedi sefydlu rhaglen fach, lwyddiannus sy'n seiliedig ar y celfyddydau. Er gwaethaf yr hyn yr ydym wedi’i glywed o feinciau'r Ceidwadwyr yma, mae ef, ei wraig a'i fab bellach yn wynebu ansicrwydd ynghylch a fyddan nhw’n gallu aros gyda'i gilydd, yn byw yn y wlad hon, ac mae'n credu bod ei deulu ac eraill mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu defnyddio fel sglodion bargeinio yn nhrafodaethau Brexit Theresa May. A beth am ddinasyddion y DU sy'n byw yn Ewrop? Beth sy'n digwydd iddyn nhw? Mae hynny'n dal i fod yn anhysbys.
Os oes angen argyhoeddi unrhyw un o hyd pa mor daer yw hyn, edrychwch ar y ffigurau gan y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth sy'n dangos bod cofrestru staff nyrsio Ewropeaidd yn y DU wedi gostwng yn syfrdanol o 90 y cant ers y refferendwm.
Felly, wrth inni symud ymlaen, beth ydyn ni ei eisiau gan Brexit? Yn fwy na dim arall, i bobl Merthyr Tudful a Rhymni, ni waeth sut y gwnaethon nhw bleidleisio yn y refferendwm, hoffwn i weld tai boddhaol, fforddiadwy; gwell gwasanaethau; twf busnes; swyddi cynaliadwy sy’n talu’n dda; terfyn ar dlodi; a chymunedau bywiog a ffyniannus. Mae arian yr UE wedi cyfrannu’n aruthrol at drawsnewid fy etholaeth i dros y blynyddoedd, ac er nad yw pobl bob amser wedi teimlo’r manteision uniongyrchol o ganlyniad i effeithiau’r mesurau cyni, mae’n rhaid i rywbeth gymryd lle arian yr UE sydd wedi cael ei fuddsoddi mewn cymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni, oherwydd mae’r amgylchedd lle mae pobl yn byw yn hanfodol i ansawdd eu bywyd ac mae’n mynd law yn llaw â buddsoddiadau economaidd eraill.
Felly, mae’n rhaid i Lywodraeth y DU ymdrin yn awr â'r ansicrwydd sy'n parhau; cydnabod pwysigrwydd cyllid yr UE, yn hanesyddol, i sawl rhan o Gymru; ystyried dymuniadau ac anghenion cenhedloedd datganoledig mewn unrhyw drafodaethau i sicrhau nad yw ein cymunedau ni yma yng Nghymru ar eu colled o ganlyniad i Brexit; a dod o hyd i ffordd o droi hyn yn ffordd gadarnhaol ymlaen ar gyfer yr ardaloedd difreintiedig hynny sydd wedi cael eu gadael ar ôl yn flaenorol. Am y rhesymau hyn, Lywydd, ynghyd â llawer o rai eraill nad wyf wedi cael amser i roi sylw iddyn nhw heddiw, rwy’n cefnogi’r cynnig a Phapur Gwyn Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, ‘Sicrhau Dyfodol Cymru’.
Rwy’n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Mae ychydig yn swreal, i fod yn onest gyda chi, oherwydd mae gennym gynnig ger ein bron sydd wedi cael ei gymeradwyo gan y ddwy blaid sydd wedi llunio’r cytundeb ac yna welliant wedi’i gyflwyno sydd mewn gwirionedd yn gwrthwynebu tanio erthygl 50 oni bai bod amodau penodol yn cael eu bodloni. Felly, rwy’n ei chael braidd yn rhyfedd na allwn gael y cytundeb hwnnw ar y cynnig syml sydd ger ein bron, heb sôn, efallai, am rai o'r pwyntiau ehangach yn y ddogfen sydd ger ein bron i'w thrafod heddiw. Rwy’n nodi bod arweinydd Plaid Cymru wedi sôn am hybu hunan-benderfyniad cadarnhaol, sy'n air arall—tri gair—am annibyniaeth. Os ydyn nhw’n mynd i wneud hynny, sut y gallan nhw gytuno â’r sylwadau a’r dyheadau yn y ddogfen sy'n sôn am y Deyrnas Unedig a fframweithiau’r Deyrnas Unedig a fyddai'n deillio ar ôl inni adael yr Undeb Ewropeaidd? Oherwydd os ydych yn hyrwyddo hunan-benderfyniad cadarnhaol, yn y pen draw, pam na wnewch chi jyst defnyddio'r gair 'annibyniaeth'? Rwyf wedi gofyn i'r Prif Weinidog beth yn union yw ystyr y gair 'cyfranogiad' yng nghyd-destun y farchnad sengl, oherwydd mae’n ymddangos bod hwnnw bron yn safbwynt cyfaddawd y mae’r ddwy blaid wedi ei gyrraedd, ac onid yw pob—
A wnaiff yr arweinydd ildio?
Ewch ymlaen.
Efallai y gallaf fod o gymorth iddo. [Chwerthin.] Fy nealltwriaeth o 'hunan-benderfyniad' yw hynny yn union: gallai grŵp o bobl sy’n cael eu cydnabod fel cenedl neu gymuned hunan-benderfynu aros yn y sefyllfa sydd ohoni. Ar y llaw arall, gallai hunan-benderfyniad fod yn rhywbeth ymhellach. Felly, dydy’r ddau beth ddim yn gyfystyr, yn fy marn fach i.
Dydw i ddim yn hollol siŵr ai dyna beth mae arweinydd Plaid Cymru yn credu ydyw, ac rwy’n credu, yn amlwg, bod y teimlad yn ymwneud ag annibyniaeth. Ond fe wnes i glywed yr Ysgrifennydd materion gwledig yn dweud bod arnaf angen rhywfaint o help i ddeall y materion hyn. Byddwn yn gofyn i'r Ysgrifennydd materion gwledig, os yw'n dymuno rhoi sylwadau o’i heistedd, pam nad yw hi nawr yn cymeradwyo amaethyddiaeth y DU, pan, yn Sioe Frenhinol Cymru, dewisodd hi ddweud nad oedd y fath beth ag amaethyddiaeth y DU? Pam, os mae ganddi gymaint o ddiddordeb—[Torri ar draws.] Os oes ganddi gymaint o ddiddordeb mewn amaethyddiaeth a chefnogi'r diwydiant amaethyddol yn y wlad, pam nad yw hi’n gwneud cynnydd ar TB mewn gwartheg, lle mae Cymru mewn perygl o gael eu dynodi fel 'endemig', gwlad endemig, a fydd yn cau marchnadoedd allforio i Gymru? [Torri ar draws.] Mae hynny'n ffaith. Nawr, os ydych am wneud sylwadau o’ch eistedd, ceisiwch ddweud rhywbeth cadarnhaol yn hytrach na chwilio am benawdau syfrdanol.
Rwyf wedi—[Torri ar draws.] Pan gafodd y ddogfen hon ei chyhoeddi, edrychais yn fanwl arni ac edrych ar rai o'r meysydd lle gallem ddod o hyd i dir cyffredin, fel y fframwaith a fyddai'n cefnogi mesurau pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd fel y DU; rwy'n credu y byddem wedi gallu dod i gytundeb ar hynny. Roedd Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, wrth ymateb i'r datganiad a gawsom ryw bythefnos yn ôl, yn cydnabod bod yna rai meysydd y gallwn, fel Cynulliad, weithio'n gadarnhaol â nhw.
Yr un maes lle’r wyf i’n credu bod angen i’r Cynulliad hwn wneud gwaith sylweddol yw'r trefniadau pontio, oherwydd rydym yn edrych ar y trefniadau pontio o ran Ewrop i'r Deyrnas Unedig, ond mae llawer o waith i’w wneud i benderfynu ar y trefniadau trosglwyddo o fewn y Deyrnas Unedig ei hun fel na chawn y gwahaniaethau hynny. Unwaith eto, rwy’n credu y gallai hynny fod wedi bod yn ddarn cadarnhaol iawn o waith y gallem fod wedi ei wneud a dod i gytundeb cyffredin drosto. Ond rwyf wedi gwrando ar y sylwadau sydd wedi'u cyflwyno, yn enwedig gan brif siaradwr grŵp y Blaid Lafur yn sôn am drigolion Merthyr Tudful, ac rwy’n atgoffa'r Aelodau yn y Siambr hon bod y nifer a bleidleisiodd yn y refferendwm yn 71 y cant. Saith deg un y cant o bleidleiswyr—[Torri ar draws.] Fe gymeraf yr ymyriad mewn munud, ond—[Torri ar draws.] Wel, os gallwn i orffen y pwynt yr wyf yn ei wneud, byddaf yn hapus i gymryd yr ymyriad.
Fe wnaeth saith deg un y cant o bleidleiswyr Cymru gymryd rhan yn y refferendwm. Nid yw hynny'n golygu y dylem anwybyddu'r 48/49 y cant o bleidleiswyr a bleidleisiodd i aros. Mae hwnnw'n nifer sylweddol yn yr hafaliad. Ond gwnaethpwyd penderfyniad allweddol yma yng Nghymru ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig y mae angen ei barchu, ac mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bwrw ymlaen â hynny, ac, a dweud y gwir, drwy'r broses o fwrw ymlaen ag tanio erthygl 50, y dadleuon yn Nhŷ'r Cyffredin, yr achos ei hun yn y Goruchaf Lys—ac, mae’n rhaid cyfaddef, aethpwyd â hwy i'r Goruchaf Lys, ond dyna sut yr ydym yn byw; rydym yn byw o dan rym y gyfraith, mae gan bobl hawl i fynd yno. Ond mae angen i ni fel gwleidyddion weithredu’r hyn y mae'r bobl yn ein hanfon ni yma i'w gyflawni, a phleidleisiodd Cymru i ddod allan.
Yr hyn y mae angen inni fod yn ei wneud nawr yn gwneud y gwaith gorau posibl i wneud yn siŵr bod y trafodaethau hynny o fudd nid yn unig i Gymru, ond i'r Deyrnas Unedig gyfan. Ac mae'r materion hynny’n mynd i fod yn gymhleth, mae’r trafodaethau hynny’n mynd i fod yn hir, ond, yn y pen draw, mae gennym amserlen: 730 diwrnod ar ôl gweithredu erthygl 50. Yn hytrach na rhai o'r safbwyntiau cul sydd wedi ceisio dyblygu canlyniad y refferendwm a ddigwyddodd ar 23 Mehefin, gadewch inni symud y tu hwnt i hynny. Gadewch inni weithio drwy rai o'r materion hyn mewn gwirionedd.
Byddaf yn parhau i wneud y cynnig hwnnw o feinciau'r Ceidwadwyr, y byddwn yn gweithio gydag unrhyw blaid ac unrhyw unigolyn i sicrhau'r fargen orau bosibl i Gymru a'r Deyrnas Unedig. Ond roedd un mater yn glir iawn o’r refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin, sef y neges a roddodd pobl y Deyrnas Unedig a Chymru i wleidyddion: cymerwch yr awenau unwaith eto. A dyna’r cyfarwyddyd.
Diolch, Lywydd. Hon yw’r ddadl gyntaf am yr Undeb Ewropeaidd yr wyf wedi siarad ynddi yn y Cynulliad hwn. Yn sicr, ni fyddwn yn fy nisgrifio fy hun fel Europhile. Rwy’n siarad fel rhywun a bleidleisiodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ond, yn fy arddegau yn 1975, pleidleisiais i beidio ag aros i mewn. Mae'n rhaid inni gydnabod bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael. Roeddem yn disgwyl i bawb dderbyn canlyniad refferendwm 1997 ar greu’r Cynulliad Cenedlaethol, er bod y bleidlais honno’n agosach. Mae’n rhaid inni dderbyn bod y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac ym Mhrydain am inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’n rhaid inni gofio, er nad yw’r mwyafrif yn iawn bob amser, eu bod bob amser yn fwyafrif. Mae hefyd yn ymddangos i mi, fodd bynnag, yn annirnadwy nad yw pobl yn dymuno parhau i fasnachu â’n marchnad allforio fwyaf. O'r deddfau ŷd ymlaen, dim ond pobl gyfoethog sydd wedi elwa ar ddiffyndollaeth. Un o effeithiau uniongyrchol canlyniad y refferendwm oedd gostyngiad sydyn yng ngwerth y bunt. Er y bu rhywfaint o amrywiad, mae'r cyfeiriad wedi bod tuag i lawr ac i lawr. Mae dibrisiad, wrth gwrs, yn gwneud dau beth: mae'n rhoi hwb tymor byr i'r economi. Pe bai’r ymateb yn un tymor hir, byddai’r gyfres o ddibrisiadau ar ôl y rhyfel yn erbyn y ddoler yn golygu y byddai economi Prydain yn ffynnu. Rydym wedi mynd i lawr o dros $4 i'r bunt i ychydig dros $1.2. Mae hefyd yn arwain at gynnydd ym mhrisiau nwyddau sy’n cael eu mewnforio fel olew, gan arwain at gynyddu prisiau petrol, fel y mae pobl yn ôl pob tebyg wedi ei weld wrth roi petrol yn eu ceir yn yr orsaf betrol.
Mae hefyd yn arwain at gynyddu cost defnyddiau crai wedi’u mewnforio ar gyfer gweithgynhyrchu, ac, felly, mae rhai o fanteision y dibrisio yn cael eu colli. Ar ba werth i’r bunt at y ddoler y bydd Banc Lloegr yn ymyrryd i ddiogelu'r arian cyfred? A wnânt adael i’r bunt fynd yn is na chydraddoldeb â’r ewro neu'r ddoler Americanaidd? Mae'r ddau yn debygol, ac yn ôl pob tebyg yn debygol eleni, heb ddim ymyrraeth. Er bod dibrisio yn golygu—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Os gwelwch yn dda.
Rwy’n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Ac ystyried yr ehangu yn economi'r DU, fel y nodwyd gan Fanc Lloegr, ac o gofio’r sylwadau gan y rhan fwyaf o economegwyr mawr sy'n dweud, mewn gwirionedd, y caiff y bunt ei hailbrisio wrth inni fynd ymhellach i mewn i'r flwyddyn, ac ystyried cadernid y DU economi, hoffwn ddeall pa ddadl economaidd y mae'n ceisio ei datblygu neu pa brofiad economaidd sydd ganddo i wrthsefyll y dadleuon a gyflwynodd Banc Lloegr a’r rhan fwyaf o uwch economegwyr am gyflwr y bunt yn y flwyddyn hon.
Ai’r rhain yw’r un economegwyr a gafodd eu galw’n arbenigwyr na ddylem wrando arnyn nhw? Y cyfan a ddywedaf, os edrychwch ar hanes y bunt, roedd yn werth dros $4 ar ddiwedd yr ail ryfel byd, mae'n werth tua $1.20 awr, mae wedi symud i lawr yn gyson, a’r hyn yr wyf yn ei ddweud yw mai’r tebygolrwydd yw y bydd yn parhau i'r cyfeiriad hwnnw. Er bod yr economi wedi cael y sbonc tymor byr hwnnw gan y dibrisio, bydd symud allan o'n prif farchnad allforio, os yw hynny'n digwydd, yn cael effaith ddifrifol ar economïau Prydain a Chymru.
Er bod dibrisio’n golygu na fydd tariffau bach yn anorchfygol—er, os wyf yn gwrando ar Andrew R.T. Davies, bydd tariffau bach yn anorchfygol, ond gan dybio nad ydyn nhw’n anorchfygol—y rhwystrau di-dariff, bodloni safonau Ewropeaidd, a chael eich gwirio eich bod yn gwneud hynny, a allai gynnwys datgymalu rhannol fel bod yn rhaid ailadeiladu eitemau wrth iddyn nhw gyrraedd—. Pam wnes i ddweud hynny? Gofynnwch i'r Japaneaid, pan oedden nhw’n allforio i Ffrainc a phan wnaeth y Ffrancwyr yn union hynny. Fe wnaethon nhw ddatgymalu eu nwyddau ac yna roedd yn rhaid eu rhoi at ei gilydd eto.
Bydd llawer o gydweithwyr wedi siarad, ac rwy'n siŵr y bydd mwy yn gwneud, am fuddiannau amgylcheddol a buddiannau cyflogaeth yr Undeb Ewropeaidd, a phwysigrwydd cadw’r buddiannau hynny. Rwy’n cytuno’n llwyr â hynny. Ni ddylem fod yn colli’r manteision sydd gennym.
Mae gen i bryder arall am bobl sydd eisiau cytundebau masnach rydd gyda ni. Mae bron fel pigo ar y gwannaf. Mae Seland Newydd eisiau codi prisiau is am gig oen na phris cig oen Cymru, mae’r Unol Daleithiau ac eraill eisiau codi prisiau is am gig eidion na phris cig eidion Cymru, mae Tsieina eisiau codi prisiau is am weithgynhyrchu na phris gweithgynhyrchu yng Nghymru, gan gynnwys dur—ydych chi'n credu y byddai diwydiant gweithgynhyrchu Cymru yn goroesi cytundeb masnach rydd gyda Tsieina a gallu Tsieina i ddympio nwyddau ar unrhyw wlad yn y byd? Mae'r Tsieineaid wedi defnyddio eu heconomi yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweld yr hyn sydd wedi digwydd gyda dur eisoes gyda dympio Tsieineaidd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gofalu am ein diwydiannau ein hunain.
Gallwn fynd ymlaen am y problemau, ond rwy’n mynd i orffen ar nodyn cadarnhaol. Gallwn ymdrin â phrisiau mewnol trosglwyddo cwmnïau o fewn yr Undeb Ewropeaidd sy'n osgoi treth gorfforaeth Brydeinig, yr hen drefniant dwbl Gwyddelig neu symud arian o gwmpas Ewrop drwy drosglwyddo cyfalaf yn rhydd. A fydd y bobl hynny sydd o blaid dod allan o Ewrop am ymdrin â hynny?
Gellir gwneud contractau sy'n pennu ymgeiswyr lleol yn unig a bydd yr angen i hysbysebu ar draws Ewrop yn diflannu. A fydd pobl yn cefnogi hynny? Gallwn ddefnyddio tariffau i ddiogelu diwydiannau allweddol, oherwydd, os ydym ni’n masnachu ag Ewrop ar amodau masnach y byd, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud yr un peth gyda ni. Gallwn hefyd sicrhau bod symudiad rhydd llafur yn dod i ben a’n bod yn atal cyflogwyr diegwyddor rhag dod â llafur rhad i mewn—mae rhai yn cael eu talu, i bob pwrpas, llai na’r isafswm cyflog—i leihau cyflogau a thelerau ac amodau. Nid y gweithwyr o ddwyrain Ewrop sy'n cael eu hecsbloetio yw’r broblem i mi, ond y cyflogwyr sy’n eu hecsbloetio a'u defnyddio i ymosod ar gyflogau a thelerau ac amodau gweithwyr Cymru.
I gloi, rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae angen inni amddiffyn ein hamgylchedd a hawliau gweithwyr. Rydym wedi pleidleisio i ddod allan o'r Undeb Ewropeaidd, nid i fod yn dlotach naill ai fel unigolion nac fel gwlad.
Cyn troi at fanylder y Papur Gwyn, hoffwn i ddweud ychydig eiriau am y cyd-destun gwleidyddol cyffredinol a sut rydym ni’n trin ein gilydd fel dinasyddion, ar ôl mynd trwy ymgyrch a phroses ‘binary’ fel y refferendwm llynedd. Ar brydiau, mae tôn y ddadl gyffredinol wedi bod yn ffiaidd, a hyd yn oed yn dreisgar ar adegau. Mae’n iawn, wrth gwrs, mewn cymdeithas ddemocrataidd inni ddadlau a dadlau’n frwd, ond ni ddylem ni fyth stopio parchu gwahaniaethau barn a thrin ein gilydd mewn ffordd barchus a hyd yn oed caredig, a dylai gwleidyddion, efallai, ddangos esiampl ar hyn.
Ond, a throi at y Papur Gwyn, i Blaid Cymru, mae’n hymateb i ganlyniad y refferendwm wedi ei seilio ar egwyddorion cyson, ac rwy’n falch bod y rhain wedi eu hadlewyrchu ym Mhapur Gwyn cenedlaethol Cymru. Yn gyntaf, tra bod mandad i adael yr Undeb Ewropeaidd, nid oes mandad i adael y farchnad sengl, a dylai buddiannau economaidd Cymru, yn cynnwys amaeth a diwydiant, gael eu diogelu, yn ogystal, wrth gwrs, ag ariannu i gymunedau tlawd. Yn ail, nid oes yn bendant dim mandad i dynnu nôl ar ddatganoli. Yn drydydd, dylai Cymru gael rôl glir yn y negodi gyda’r Undeb Ewropeaidd. Yn bedwaredd, dylai Cymru adnewyddu ei phroffil rhyngwladol er mwyn sicrhau nad oes dehongliad ein bod ni fel cenedl am ynysu ein hunain o’r byd. Yn bumed, ni ddylai pobl ifanc Cymru golli’r cyfleoedd sydd ganddyn nhw nawr yn nhermau cael profiad o fywyd tramor neu yn nhermau astudio tramor ychwaith. Ac, yn olaf, ni ddylai fod yna gost ddynol i adael yr Undeb Ewropeaidd, naill ai drwy golli hawliau i weithwyr yng Nghymru neu golli safonau amgylcheddol, nac ychwaith hawliau i ddinasyddion o wledydd eraill Ewrop sydd yn byw yma i aros yma.
Rwy’n falch bod yr egwyddorion yma i gyd wedi eu plethu drwy’r Papur Gwyn cenedlaethol Cymreig ac wedi eu gosod yn glir. Mae’n biti, yn wir, bod Papur Gwyn San Steffan ddim llawer mwy na chyfres o ddisgrifiadau o’r problemau, yn hytrach na chynnig ar atebion, ond, yn nhermau’r camau nesaf, beth sydd yn hollbwysig nawr yw nad yw Llywodraeth Cymru yn penderfynu eistedd yn ôl a gwylio datblygiadau yn digwydd o’u blaenau. Rhaid iddyn nhw benderfynu siapio’r dyfodol yn hytrach nag aros i’r dyfodol eu siapio nhw.
Mae’r Papur Gwyn yn cynnwys nodau y gall Llywodraeth Cymru weithredu arnyn nhw yn syth, heb orfod aros i unrhyw Lywodraeth arall. Er enghraifft, gall Llywodraeth Cymru gyhoeddi polisi rhyngwladol newydd i hyrwyddo Cymru yn fydol, a gallan nhw wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau proses i geisio ymaelodi â chyrff rhyngwladol sydd yn ymwneud â materion sydd yn disgwyl cael eu trosglwyddo o’r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Gall Llywodraeth Cymru ddatgan ei bwriad i sicrhau partneriaeth swyddogol newydd gyda Gweriniaeth Iwerddon i sicrhau cydweithio yn y dyfodol. Gall Llywodraeth Cymru gynnig cynnal confensiwn cyfansoddiadol a gwahodd Llywodraethau’r ynysoedd yma i ddod a chymryd rhan, yn enwedig ar fater y farchnad sengl Brydeinig a’i dyfodol y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd. Gall Llywodraeth Cymru ddechrau ymgynghoriad ar bolisi rhanbarthol newydd i Gymru a gall y Llywodraeth wneud hyn nawr. Gall Llywodraeth Cymru ddatgelu fframwaith newydd ar gyfer dyfodol ein cymunedau amaethyddol.
Fy apêl i yw i wneud popeth y gallwn ni i roi cryfder i Gymru drwy gymryd yr awenau ein hunain. Bydd y fath agwedd nid yn unig o fudd i’n heconomi ni a’n cenedl ni, ond hefyd bydd yn ddull gwerthfawr i ddod â’n gwlad ni yn ôl at ei gilydd ar ôl cyfnod o ymraniad niweidiol iawn.
Mae gadael yr UE wedi bod yn fater hynod rwygol yma yng Nghymru a ledled y DU. Rwy’n credu mai ein gwaith ni yma yw gwneud ein gorau, gan weithio gyda'n gilydd, rhwng cynifer o bleidiau ag y gallwn ddod â nhw at ei gilydd, i geisio uno pobl Cymru â chynllun gweithredu i fynd â ni ymlaen dan yr amgylchiadau anodd iawn hyn. Rwy’n teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom yma yn y Cynulliad i wneud hynny.
Rwy'n ymwybodol iawn bod mwyafrif llethol o fy etholaeth yng Ngogledd Caerdydd wedi pleidleisio i aros yn yr UE ar 23 Mehefin. Pleidleisiodd Caerdydd ei hun 60 y cant i aros, ychydig bach o flaen sut y pleidleisiodd Llundain, ac rwy’n gwybod, yng Nghaerdydd, nad oedd y bleidlais wedi'i chyfyngu i'r ardaloedd mwy cyfoethog. Yng Ngogledd Caerdydd, prin iawn oedd yr ardaloedd lle na fu pleidlais fawr i aros. Felly, rwy’n teimlo bod gen i fandad gan fy etholaeth i wneud popeth yn fy ngallu, cyn belled ag y mae'n bosibl, i gadw elfennau allweddol yr hyn yr oedd aelodaeth o'r UE yn ei olygu i fy etholwyr. Rwy’n credu bod Papur Gwyn Cymru yn symud i'r cyfeiriad hwnnw. Rwy'n credu ei fod yn safbwynt da ar gyfer trafodaethau. Fodd bynnag, er bod mwyafrif llethol o Ogledd Caerdydd wedi pleidleisio i aros, rwy'n gwybod bod gennych chi fynydd Caerffili ac, ewch heibio i’r Traveller’s Rest ac ewch i lawr yr ochr arall—[Torri ar draws.] Ydy. Mae'n ddarlun cwbl wahanol, a phleidleisiodd etholaethau’r Cymoedd 'na', dim ond ychydig iawn o filltiroedd i ffwrdd. Rwy'n parchu eu pleidlais, ac rwy’n parchu'r ffaith mai dyna oedd y bleidlais mwyafrif a enillodd ledled Cymru. Ond, rwy’n tybed pam digwyddodd hyn. Hynny yw, mae pobl Gogledd Caerdydd yn bobl sydd wedi symud i lawr o'r Cymoedd, fel y gwnaeth fy nheulu fy hun. Yn wir, cafodd cyfoeth Caerdydd ei adeiladu ar gludo glo i lawr o'r Cymoedd, a mynd ag ef allan i lefydd fel Aden a Singapore, yn ogystal â gogledd Ffrainc, Bordeaux a Nantes. Mae wedi bod yn ddinas ryngwladol erioed, Caerdydd, ac mae pobl yng Nghaerdydd yn dod o bob cwr o'r byd, yn ogystal ag o'r Cymoedd, gorllewin Cymru, gogledd Cymru ac Iwerddon. Rwy’n credu bod y Prif Weinidog wedi dweud mewn araith flaenorol a wnaeth bod pob un ohonom yn ddisgynnydd i fewnfudwyr. Felly, tybed a wnaeth Caerdydd bleidleisio 'ie' oherwydd ei chysylltiadau rhyngwladol a’r diwylliant cosmopolitan sydd wedi dod yma oherwydd bod cynifer o’r bobl yma’n dod o gynifer o wahanol rannau.
Ond rydym yn gwybod bod mudo yn fater mawr yn y refferendwm. Felly, sut ydym ni’n cysoni manteision enfawr mudo i Gymru, sy’n rhywbeth yr wyf i’n credu y mae’n rhaid inni i gyd ei gydnabod, â’r gwahanol safbwyntiau amdano mewn gwahanol rannau o Gymru? Mae'r ystadegau'n dangos mai’r ardaloedd â'r nifer lleiaf o ymfudwyr oedd â'r bleidlais fwyaf i adael. Felly, sut y gallwn dalu sylw i’r 52 y cant a bleidleisiodd i adael ac i’r 48 y cant a bleidleisiodd i aros? Rwy’n credu bod y Papur Gwyn yn gwneud ymgais dda yn hynny o beth. Mae'n cydnabod pwysigrwydd mewnfudwyr i economi Cymru. Nid wyf i’n credu y gallai neb wadu eu cyfraniad at y prifysgolion, y gwasanaeth iechyd na’r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Maen nhw’n gwneud cyfraniad enfawr yma. Mae'n galw am sicrwydd ar unwaith y bydd ymfudwyr o’r UE sy'n byw yng Nghymru yn gallu aros ac y perchir eu hawliau. Rwy'n credu bod hyn yn gwbl hanfodol—bod yn rhaid inni drin ein holl ddinasyddion sy'n byw yng Nghymru â pharch. Mae'r ansicrwydd y mae’r teuluoedd hynny yn ei brofi yn anfaddeuol, ac rwy’n credu bod yn rhaid inni alw yma o'r Cynulliad hwn ar y Prif Weinidog i roi'r sicrwydd sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw yn ei haeddu iddyn nhw ar unwaith. Rwy’n gobeithio bod hynny'n rhywbeth a gaiff ei ystyried.
Rwy’n cefnogi’r ffaith bod y Papur Gwyn yn cynnig bod myfyrwyr ac ymchwilwyr yn rhydd i symud. Rydym yn gwybod pa mor gwbl hanfodol yw hi bod ymchwil wedi ei seilio ar sail ryngwladol a pha mor bryderus yw’r prifysgolion am adael yr UE. Mae angen y myfyrwyr Ewropeaidd arnom. Mae angen y myfyrwyr rhyngwladol arnom. Rydym eisoes yn gwybod y bu gostyngiad mewn ceisiadau gan fyfyrwyr o’r UE—rwy’n credu ei fod tua 7 y cant. Mae hynny wedi digwydd eisoes. Ymwelais â Phrifysgol Caerdydd yn fuan iawn ar ôl pleidlais y refferendwm, ac roedd y staff yn ddigalon iawn am y canlyniad. Roedden nhw’n arbennig o ddigalon gan fod ymchwilydd o'r Eidal a oedd wedi cael cynnig swydd allweddol fel yr ymgeisydd gorau am y swydd newydd dynnu'n ôl oherwydd ei fod eisiau byw yn yr UE. Rwy’n gwybod bod nifer o enghreifftiau felly yng Nghymru. Mae'r Papur Gwyn yn cynnig y gallai mudo fod yn gysylltiedig â chyflogaeth—naill ai symud i swydd a gafwyd eisoes, neu efallai gyfnod cyfyngedig i chwilio am swydd. Fy marn i yw fy mod o blaid symud yn rhydd fel sydd gennym nawr, ond rwy’n credu bod hyn yn ffordd o wneud cynnig ymarferol am ffordd y gallem symud ymlaen, a byddai'n bwysig iawn ei drafod yn y trafodaethau.
Yn olaf, hoffwn wneud dau bwynt cyflym. Rydym wedi siarad llawer am fynediad llawn a dilyffethair i’r farchnad sengl. Rwy’n credu bod hynny'n gwbl hanfodol, ac rwyf hefyd yn credu na allwn gefnogi Brexit os nad yw hynny'n cael ei gyflawni yn ystod y trafodaethau. Yn olaf, pwysigrwydd cronfeydd strwythurol a buddsoddi Ewropeaidd, sy’n hynod o bwysig i ni yma yng Nghymru.
Efallai mai’r cwestiwn cyntaf am y ddogfen hon yw pam dewisodd y Prif Weinidog ac arweinydd Plaid Cymru, the Party of Wales, ei lansio yn Llundain, o ystyried y dymuniad y maen nhw’n ei ddatgan yn fynych i ddangos annibyniaeth y Cynulliad ar sefydliad Llundain. Gallwn hefyd nodi yn y fan hon na chafodd y ddwy blaid arall yn y Cynulliad olwg hyd yn oed ar y ddogfen aruthrol bwysig hon i Gymru, heb sôn am gael cyfrannu at ei chynnwys, a oedd i bob pwrpas yn difreinio’r miloedd lawer o bleidleiswyr a bleidleisiodd dros y pleidleisiau hynny a dros Brexit.
Yna, rydym yn craffu ar sylwadau ail lofnodwr y ddogfen hon, sy’n datgan yn ei chyflwyniad ei bod yn cadarnhau'r rhyddid i symud ac yn gyson â chyfranogiad llawn yn y farchnad rydd—mewn geiriau eraill, mewnfudo llawn heb ei reoli. Ond wrth gwrs, mae hyn yn ddealladwy wrth iddi fynd ymlaen i ddweud:
'Ni waeth sut y pleidleisiodd pobl yn y refferendwm.'
Mae'n arwydd clir bod Plaid yn benderfynol o anwybyddu ewyllys y Cymry.
O ran y ddogfen ei hun, mae’n bell o fod yn lasbrint ar gyfer datblygu economaidd Cymru—mae ganddi, mewn gwirionedd, dôn o ofid, gwae ac anobaith di-ildio. Mae'n frith ag ymadroddion fel
'i osgoi'r anhrefn a’r ansicrwydd',
'ymadawiad "ymyl y clogwyn"’,
'mae disgwyl i'r effaith economaidd gyffredinol fod yn negyddol' a llawer o sylwadau eraill o'r fath, y mae llawer ohonyn nhw wedi cael eu hailadrodd gan y Prif Weinidog yn ei gyflwyniad heddiw, ac y mae pob un ohonyn nhw’n seiliedig ar y cynsail ffug na chawn fynediad anghyfyngedig i farchnadoedd economaidd Ewrop. Neu, mewn geiriau eraill, byddwn, oni bai ein bod yn ofalus iawn i beidio â derbyn gwleidyddion Ewrop, yn cael ein cloi allan o’r farchnad sengl. Wel, pryd fydd y remoaners yn sylweddoli mai diwydianwyr mawr Ewrop a fydd yn penderfynu ein telerau masnach â’r Undeb Ewropeaidd ac nid gwleidyddion? Mae tystiolaeth o hyn, i unrhyw un sy’n trafferthu i gymryd sylw, yn y nifer o ddatganiadau gan gewri diwydiannol Ewrop ers Brexit. Bydd pob diwydiant yn Ewrop yn awyddus iawn i barhau â'r fasnach ddilyffethair, iddyn nhw eu hunain â marchnadoedd y DU ac, yn ymarferol, i fusnesau’r DU â'r UE.
Roedd ymweliad y Prif Weinidog â Norwy i archwilio eu perthynas â'r UE—ac rwy’n mynd i roi hyn mor ofalus ag y gallaf—yn anaddas. Efallai nad yw ef na’i gynghorwyr wedi sylwi ar y gagendor enfawr o wahaniaeth rhwng masnach Norwy ag Ewrop a’n masnach ni ag Ewrop. Mae Norwy yn masnachu mewn gwarged mawr ag Ewrop, felly mae o fudd iddyn nhw dalu i allu masnachu'n rhydd gyda'r UE ac, yn wir, i gytuno â rhai rheoliadau eraill a bennir gan Frwsel. Mae hyn yn gwbl wahanol i'r DU, sy'n masnachu mewn diffyg enfawr gyda'r UE o tua £61 biliwn y flwyddyn. Gall unrhyw bragmatydd weld bod hyn yn arf bargeinio enfawr i sicrhau y cawn gytundeb â'r UE a fydd yn fanteisiol iawn inni. Mae peidio â chydnabod hyn—
A wnewch chi ildio?
Mi wnaf; mewn un eiliad. Mae peidio â chydnabod hyn, a dweud y gwir, yn ffolineb o'r math mwyaf. Y ffaith amdani yw bod ar Ewrop ein hangen ni lawer mwy nag y mae eu hangen nhw arnom ni. Iawn, gwnaf gymryd ymyriad nawr.
Rwy’n ddiolchgar iawn ichi am gymryd fy ymyriad. Nawr, mae semanteg a geiriau yn bwysig. Heddiw, rwyf wedi gwrando ac rwyf wedi clywed y geiriau 'ni', 'y wlad hon' ac 'ein'. Rwy'n credu mai’r hyn yr ydym yn ei glywed heddiw yw'r gwahaniaeth rhwng cenedlaetholdeb Prydeinig pobl yn y Siambr hon a'r cenedlaetholdeb Cymreig sydd ar yr ochr hon, oherwydd pan fyddwn ni’n sôn am ein gwlad, rydym ni’n golygu Cymru. Mae'r DU yn cynnwys Lloegr, Yr Alban, Cymru a gogledd Iwerddon. Dyna'r peth pwysig i'w gofio—ac rwy’n credu mai dyna ddiwedd fy ymyriad. Diolch.
Pleser. Pleidleisiodd Cymru i adael yr UE. Derbyniwch hynny, cofleidiwch ef a symudwch ymlaen yn gadarnhaol, gan ymddiried ym mhobl Cymru i gyflawni hynny. Diolch.
A gaf i longyfarch y Prif Weinidog ar y Papur Gwyn ac ychwanegu y byddaf i’n cefnogi'r cynnig heddiw, er fy mod yn gresynu at y ffaith nad yw’n cyfeirio’n benodol at gynnal safonau cymdeithasol ac amgylcheddol yr UE pan fyddwn yn gadael yr UE? Mae’r cyhoedd yng Nghymru yn haeddu sicrwydd ar faterion sy'n ymwneud â hawliau gweithwyr a gwarchod yr amgylchedd, ac mae'n drueni nad oedd hynny yn y cynnig. Ond rwy’n falch bod y Papur Gwyn yn sôn am hyn; rwy’n credu ei fod yn rhoi dadansoddiad cynhwysfawr o'r heriau sy'n wynebu Cymru yn wyneb y bleidlais Brexit honno. Ac rwy’n credu mai’r rhannau mwyaf diddorol o'r Papur Gwyn yw’r atodiadau, oherwydd dyna lle mae’r sylfaen dystiolaeth i gefnogi'r honiad y câi economi Cymru ei difrodi’n aruthrol pe byddem yn gadael y farchnad sengl o dan unrhyw un o'r modelau eraill o aelodaeth o'r UE . Byddwn yn awgrymu i arweinydd UKIP y dylai ddarllen yr atodiadau a sylwi, oherwydd maen nhw’n seiliedig ar dystiolaeth, nid ar ryw gynllun gobeithiol y bydd pobl yn llwyddo i ffurfio cytundebau masnachu yn y dyfodol.
Rwy'n credu ei bod yn iawn i’r Prif Weinidog bwysleisio'r ffaith bod angen parchu’r bleidlais Brexit, pa mor anodd bynnag yw hynny i Ewro-selogion fel fi. Ond nid yw hynny'n golygu y dylem dorri garddyrnau economi Cymru a gwylio ein gwlad yn dilyn llwybr di-ildio at dlodi. Yr hyn y mae angen i bobl Cymru ei ddeall yw nad dim ond y rhagolygon swyddi a’r cyfleoedd i'n plant sydd o dan fygythiad gan Brexit, ond hefyd ein gallu i ddarparu gwasanaethau o ansawdd i bobl Cymru. Rydym ni wedi clywed sôn heddiw am y difidend Brexit £8 biliwn hwn. Gadewch imi ddweud wrthych beth yw cost gadael yr UE.
Yn gyntaf oll, y llynedd casglodd y Llywodraeth £90 biliwn—anghofiwch yr UE, mae hyn cyn i ni ddechrau—fe gasglon nhw £90 biliwn yn llai mewn treth incwm nag a wnaethant yn y flwyddyn flaenorol. Eisoes, mae gennym fanciau'r Ddinas yn ceisio adleoli rhannau o'u gweithgaredd i'r cyfandir o ganlyniad i Brexit. Nid dim ond Dinas Llundain fydd yn gweld effaith hynny. Bydd y lleihad hwnnw yn y dreth a gesglir yn golygu y bydd gennym lai i'w wario ar ein hysgolion a'n hysbytai yma yng Nghymru. Rydym yn gwybod y bydd angen i’r Llywodraeth fenthyca £58 biliwn i dalu am dwll du Brexit, a bydd dirywiad o £220 biliwn yn nhermau'r ddyled genedlaethol o ganlyniad i Brexit yn ystod y Senedd hon.
Gwyddom y bydd bil ysgariad a fydd rhywle rhwng £35 biliwn a £60 biliwn, ac rydym yn gwybod eu bod yn bygwth cymodi yn awr a gwneud bargen â'r UE—rhowch i ni yr hyn yr ydym ei eisiau neu byddwn yn torri’r dreth gorfforaeth'. Os ydym am gystadlu o ddifrif yn y ffordd honno, byddai'n rhaid i ni ddod i mewn dan lefel treth gorfforaeth Iwerddon—12 y cant. Mae hynny'n golygu £100 biliwn arall yn cael ei stwffio i mewn i bocedi’r cyfoethog, a llai o arian i’n gwasanaethau cyhoeddus ni. Nid dyna’r math o wlad yr wyf yn dymuno byw ynddi.
Yn awr, gwnaed addewidion yn ystod y refferendwm—addewidion y dechreuodd y Brexiteers sleifio allan ohonynt o'r foment y gwnaeth y polau refferendwm gau. Un o'r bobl a wnaeth yr addewidion hynny oedd arweinydd y blaid Dorïaidd yn y Cynulliad. Yn awr, fe wnaeth llawer o ffermwyr ei ddilyn fel ŵyn i'r lladdfa gyda'i addewid o gymorthdaliadau parhaus. Wel, maent yn awr yn deffro i realiti: y bydd yn rhaid iddynt am y tro cyntaf gystadlu â iechyd am eu cyllid. Pan fydd y ffermwyr yn sylweddoli eu bod wedi cael eu twyllo gan ei addewidion ffug— arweinydd y Torïaid—byddant yn troi arno. [Torri ar draws.] Gadewch imi orffen. Byddant yn troi arno a bydd yn mynd o Brexit i ‘bricks it'. Nawr gallwch ymyrryd.
Rwy’n gresynu’r iaith y mae’r Aelod wedi’i defnyddio, o dorri garddyrnau i ŵyn i'r lladdfa, mewn dadl y mae hi fwy na thebyg yn ei chael yn anodd dod i delerau â hi. Fel y dywedais, mae’r refferendwm wedi digwydd. Mae angen i ni symud ymlaen.
Rydych yn iawn: pleidleisiodd mwyafrif y ffermwyr i ddod allan o Ewrop gan fod gennym oedran cyfartalog o 62 yn y diwydiant amaethyddol, a dim cyfle am olyniaeth ac ychydig neu ddim cyfle am ddatblygiadau newydd. Bydd gennym ddiwydiant amaeth a byddwn yn llwyddo. Ond eich Llywodraeth chi sy'n methu â mynd i'r afael â materion bara menyn TB gwartheg a datblygu gwledig.
Gadewch i mi ddweud wrthych am TB gwartheg. Ydych chi'n gwybod o ble y daw'r iawndal i dalu ffermwyr o ran TB gwartheg? Mae'n dod o Ewrop. A ydych yn addo gwneud iawn am hynny hefyd? Dewch ymlaen. Mae'n rhaid i chi beidio â thwyllo eich hun a deall eich bod wedi gwneud addewidion nad oes modd eu cadw i’r ffermwyr hynny.
Last night in Westminster, the Government refused even to agree to produce a report that would outline the effect of Brexit on public spending in Wales. We would not accept in Wales a situation where those who have the least pay the largest price for Brexit. There is not one expert in commerce that thinks that it’s possible for the UK to create an agreement within two years, and this uncertainty will mean less investment, and will have an impact on jobs.
The tables in the White Paper show clearly the dependence of industry in Wales on people from the European Union, and it’s true that tourism, that contributes £3 billion to the Welsh economy, will be one of those areas that would suffer most if there was too much restriction on the number of people from the EU who were able to work here.
We have to remember also that 6 per cent of our doctors are trained in the EU. We need more of those, not less.
Mae’n rhaid ichi ddod â’ch sylwadau i derfyn nawr. Yn wir, mae’n rhaid i chi orffen. Diolch.
Diolch yn fawr. Fe wnaf i orffen yn fanna.
Diolch. David Melding.
Diolch fawr, Lywydd. Nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylem aros yn yr UE. Rydym i gyd wedi symud ymlaen o hynny. Rwy'n gresynu’r canlyniad yn fawr, ond y canlyniad yw’r canlyniad. Yn awr, mae gennym nod cyffredin, sef sicrhau Brexit llwyddiannus. Ceir heriau sy'n wynebu'r DU a Chymru yn y cyd-destun hwnnw. Rwy'n credu y bydd angen diwygio rhai o fecanweithiau’r Llywodraeth a gwaith rhyng-lywodraethol yn arbennig o fewn y DU. Hoffwn i ddweud ychydig eiriau am hynny. Hoffwn ddweud ychydig eiriau am ein cysylltiadau â'r UE, ac yna mae rhai buddiannau sy’n benodol i Gymru.
A gaf i i ddechrau, felly, gyda strwythur Llywodraethu y DU? Rwy’n credu ein bod wedi sylweddoli ers amser hir y byddai gweithio rhynglywodraethol gwell yn cryfhau cyfansoddiad Prydain, ac yn awr y broses Brexit ei hun, ac yna ymdrin â gwleidyddiaeth pan fyddwn wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd—mae angen gweithio rhynglywodraethol llawer mwy effeithiol ar y pethau hyn. Gallwn edrych ar gyd-bwyllgor y gweinidogion, yn enwedig Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop, o ran y ffordd y mae wedi gweithio yn y gorffennol, fel rhyw fath o fodel gorau, ond mae angen i ni fynd hyd yn oed ymhellach na hynny. Fe wnaeth Cyd-bwyllgor Gweinidogion Ewrop weithio’n weddol effeithiol am eu bod wedi cynhyrchu—mae’n ddrwg gen i fod yn dechnegol—nodyn siarad ar ran Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn Ewrop, ac roedd angen llawer o gydweithrediad yn hynny o beth rhwng y Llywodraethau, ac yn enwedig y swyddogion. Dyna'r math o beth yr ydym yn mynd i fod angen ei ailadrodd.
Mae’r Prif Weinidog, yn y Papur Gwyn, yn gwneud rhai awgrymiadau beiddgar iawn, yn fy marn i, y dylem fynd o Gydbwyllgorau Gweinidogion i Gyngor Gweinidogion. Rwy'n credu ei fod yn iawn i bwyso am hynny. Rwy’n gobeithio bod ganddo gynghreiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon gan eu bod yn mynd i fod yn allweddol. Ac mae wedi galw am gyflafareddu annibynnol—nawr, fel ffederalydd mawr, dymunaf yn dda iddo ac, yn arbennig, rwy’n dymuno mwy o ddylanwad iddo nag yr wyf i erioed wedi ei gael ar y Llywodraethau Ceidwadol sy'n penderfynu ar y materion hyn. Byddai cyflafareddu, rwy’n tybio, yn bosibl ar system grantiau’r Trysorlys. Mae hynny'n cael ei weld yn bendant mewn gwladwriaethau ffederal eraill. Ond rwy’n credu y gall cyflafareddu ar draws y fframwaith polisi, lle mae gennym bolisïau ar y cyd yn y DU, fod yn anodd ei gyflawni. Ond os llwydda i gyflawni hynny, byddai'n sicr o fudd i ni yma yng Nghymru.
Rwy’n credu bod yr hyn a welwn yn y Papur Gwyn ynghylch yr angen am rai polisïau ar draws y DU—yn ôl pob tebyg amaethyddiaeth, yr amgylchedd, ac efallai y bydd materion cymdeithasol a pholisi rhanbarthol hefyd. Ni ddylai'r un ohonom anghofio hynny, ac rwy’n gwerthfawrogi’r holl bleidiau sydd wedi cydnabod hynny.
A gaf i yn awr droi at gysylltiadau â'r UE? Yma, rwy’n credu bod angen i’r Brexiteers ddatrys eu dadl yn weddol gyflym, oherwydd mae rhai ohonyn nhw’n sôn yn llawen am y posibilrwydd o’r UE yn dymchwel gyda'r farchnad sengl a'r ewro. Maent wedi clymu eu hunain at y teigr Trump, sydd wedi dweud rhai pethau llac iawn yn y cyfeiriad hwn. Ac i ble y bydd y teigr yn mynd â ni, wel, ‘does neb a ŵyr eto, ond rwy’n credu y bydd yn daith braidd yn anghyfforddus. Mae angen i ni ddweud ein bod am i'r UE ffynnu. Dyna pam mae angen i ni gael Brexit da ac effeithiol. Mae angen iddynt gael y cyfle nawr i fwrw ymlaen â'u hamcanion eu hunain a’u hangen eu hunain am ddiwygio, sydd yno—mewn unrhyw sefydliad, unrhyw wladwriaeth, mae angen gwaith cyson o ddiwygio. Mae angen i ni gael y rhethreg yn iawn yn hyn o beth. Nid yw gwneud bargen â nhw, a ninnau’n eu beirniadu nhw neu’n ymddangos i’w beirniadu, beth bynnag, yn ffordd dda o symud ymlaen. [Torri ar draws.] Ildiaf.
Nid wyf yn credu bod neb ar ochr Brexit yn ddigon ffôl i feddwl bod modd cael mantais i Brydain a mantais i Gymru trwy achosi’r UE i ddymchwel. Ond y broblem fawr gyda'r UE yw ei fod, yn y bôn, yn brosiect gwleidyddol ac nid yn brosiect economaidd. Ac mae'r gwleidyddion sy'n benderfynol o geisio sicrhau llwyddiant Brexit yn ofni, os ydym yn gwneud Brexit yn llwyddiant economaidd, fod hynny yn tanseilio eu prosiect gwleidyddol eu hunain, ac mae hynny’n benbleth gwirioneddol. Dyna pam mae angen undod rhwng y pleidiau i geisio goresgyn y rhwystr hwnnw.
Wel, rwy’n credu eich bod wedi gwneud fy mhryder yn waeth yn hytrach na gwneud unrhyw beth i’w dawelu. [Chwerthin.]
A gaf i ddweud hyn? Rwyf i o’r farn bod angen rhyw fath o fecanwaith, efallai rhywbeth tebyg i’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, rhwng Llywodraeth y DU a sefydliadau’r UE, sy’n cynnwys y Llywodraethau datganoledig. Rwy'n credu y byddai proses o’r fath yn anfon neges gadarnhaol iawn ein bod ni am fod yn bartneriaid effeithiol mewn meysydd o ddiddordeb cyffredin.
A gaf i gloi drwy sôn am rai buddiannau Cymru? Rydym yn agored i niwed. Does dim dwywaith am hynny, dim ond oherwydd yr adnoddau a gawsom gan yr UE a dibyniaeth ein diwydiant ein hunain ar farchnadoedd Ewrop. Mae angen i ni gydnabod hynny a gwneud cymaint ag y bo modd i amddiffyn yr amlenni o adnoddau yr ydym yn eu cael ar hyn o bryd o ffynonellau UE. Mae llawer o Brexiteers wedi dweud pethau eithaf eangfrydig am hyn, ac, fe wyddoch, gallaf sicrhau cydweithwyr yma y byddaf yn cofio hynny ac yn dadlau gyda nhw ar eu cyfrifoldeb moesol. Mae angen i ni gael y mynediad mwyaf posibl i'r farchnad sengl, y tariffau isaf posibl, ac rwy'n gobeithio y bydd yr hyblygrwydd yno i gyflawni hynny.
Ac yn olaf, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod cyfleoedd yno hefyd a allai fod o fantais ni, ond mae'n rhaid i ni wynebu realiti ein sefyllfa heriol hefyd.
Diolch i chi, David, am eich cyfraniad ystyriol iawn.
Does dim byd yn fwy deniadol, ond camarweiniol, na’r slogan hwn o gymryd rheolaeth yn ôl, ac un o'r pethau y mae'n rhaid i'r Brexiteers ei wneud yn awr yw, fel y dywed David, diffinio'r hyn yr ydym mewn gwirionedd yn ei olygu wrth hynny. Ac ymhell o gymryd rheolaeth yn ôl, rwy’n teimlo y gallwn golli’n llwyr reolaeth dros rywbeth sy’n hynod bwysig i bob un ohonom, sef ansawdd a diogelwch bwyd. Am ddegawdau, mae’r bwyd ar ein plât wedi cael ei ddiogelu gan ein haelodaeth o'r UE. Beth sydd bellach yn mynd i ddigwydd i safonau bwyd, a phwy fydd yn eu rheoleiddio ym Mhrydain Brexit? Sut ydym ni’n mynd i osgoi sgandal cig ceffyl arall?
Rydym ni yng Nghymru yn falch iawn o'r bwyd Cymreig a gynhyrchwn ac yr ydym yn ei allforio, ynghyd ag anifeiliaid byw, i'r UE, a gobeithio y gallwn barhau i wneud hynny. Ond, mewn termau crynswth, mae’r swm dan sylw yn fach iawn o'i gymharu â'r nwyddau diwydiannol a weithgynhyrchwyd neu wasanaethau sy'n cyfrannu at ein mantolen fasnach. Edrychais yn ofer am y rhestr o fwydydd yn y tabl o nwyddau a allforiwyd ym Mhapur Gwyn Cymru, ac wrth gwrs nid yw yno, oherwydd bod y symiau dan sylw yn is na'r 25 uchaf. Felly, mae'n berygl gwirioneddol y bydd diogelwch bwyd yn cael ei fasnachu gan rymoedd llawer mwy pwerus eraill a fydd yn dylanwadu ar y ffordd y bydd Theresa May yn mynd o gwmpas y trafodaethau hyn.
Yn awr, mae Theresa May wedi datgan yn glir iawn nad yw hi am i’r DU aros yn y farchnad sengl. Ac mae'n edrych yn fwyfwy tebygol y bydd tariffau yn cael eu gosod ar nwyddau’r DU, wrth i ni ddod at ddiwedd y broses ddwy flynedd. Mae hynny'n golygu y bydd y DU yn gosod tariffau ar nwyddau’r UE er mwyn dial. Fodd bynnag, nid wyf yn credu mai tariffau yw'r prif risg i amaethyddiaeth Cymru. Mae'r gostyngiad yn y bunt eisoes wedi cynhyrchu hwb ôl-Brexit i allforion Cymru, sydd i'w groesawu. Ond mae llawer mwy o berygl i amaethyddiaeth yng Nghymru, sef llif o fewnforion rhad o rannau eraill o'r byd, heb ddim o'r mesurau diogelu ar ansawdd bwyd yr ydym yn dibynnu arnynt o fewn yr UE.
Mae Theresa May yn ymddangos i fod yn hynod o awyddus i daro bargen ar draws y dŵr gyda Donald Trump, ac mewn cyfweliad ar radio’r BBC ychydig wythnosau yn ôl, eglurodd prif economegydd Ffederasiwn Biwro Ffermydd America yn hollol glir y byddai unrhyw gytundebau masnach yr Unol Daleithiau a fyddai’n cael eu gwneud gan Theresa May o bosib yn amodol ar weld cyhoedd y DU yn stumogi mewnforion bwydydd o’r Unol Daleithiau yr ydym wedi’u gwrthod yn flaenorol. Rydym yn siarad am gig eidion sy’n dod o wartheg lle mae hormonau twf wedi’u mewnblannu, cywion ieir wedi’u golchi â chlorin, a bwydydd heb eu labelu a addaswyd yn enetig. Byddai'n rhaid i ni lyncu’r 82 o blaladdwyr a ddefnyddir yn yr Unol Daleithiau sy'n cael eu gwahardd yn yr UE ar sail amgylcheddol ac iechyd. Ymysg y rhain y mae atrasin, chwynladdwr y tybir sy’n effeithio ar y system imiwnedd ac sy’n gysylltiedig â namau geni. A siarad am fwydydd GM, yn yr UE rydym yn cael ein diogelu gan y ffaith bod unrhyw un sy'n gwneud bwyd gan ddefnyddio cynhwysion GM yn gorfod labelu hynny’n glir. Yr unig fwydydd GM ar silffoedd Prydain ar hyn o bryd yw bwydydd sothach Americanaidd melys fel popgorn ac olewau coginio rhad wedi’u hanelu at y fasnach arlwyo. Yn yr Unol Daleithiau, mae GM ym mhobman ac nid oes rhaid iddo gael ei labelu. Yr unig ffordd y gallwch osgoi bwyta cynhwysion GM yw prynu bwyd organig, coginio yn y cartref a byth bwyta allan.
Felly, mae’r Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru i gyd wedi gwahardd amaethu GM i bob pwrpas; dyna ein penderfyniad gwleidyddol ni. A pha berthnasol fydd confensiwn Sewel os yw Theresa May yn taro bargen gyda'r Unol Daleithiau, sy'n golygu llif o fwydydd GM yn dod i mewn i'r farchnad yn y DU? Bydd yn amhosibl cynnal y polisi hwnnw. Felly, mae'n rhaid i ni sylweddoli y bydd yna bosibilrwydd y gwelwn yr holl fwydydd difwynedig hyn yn gorlifo ein marchnad ac yn sicr gallai ein busnesau amaethyddiaeth fynd i’r wal. Mae hynny'n gwbl frawychus i mi.
O ran ein trafodaethau ar Brexit, mae'n golygu y gallem gael ein diarddel o'r rhwydwaith o asiantaethau sy'n rheoleiddio ac yn darparu gwybodaeth mewn perthynas â gweithgareddau difwyno bwyd. Rydym eisoes yn wynebu heriau mawr o ran ein bwyd ac mae angen i ni fod yn wirioneddol ymwybodol o sut y gallwn ddiogelu ein defnyddwyr drwy aros yn rhan o Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop, ac rwy’n deall y gallwn wneud hynny hyd yn oed os ydym yn cael ein taflu allan o'r farchnad sengl. Mae'n rhaid i ni gofio, ar hyn o bryd, y gallem fod yn ysgwyddo mwy o gyfrifoldeb am orfodi bwyd priodol pan fo adnoddau awdurdodau lleol ar reolaethau diogelwch bwyd eisoes dan straen, ac mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi cael ei chyfyngu ar hyn o bryd, ac nid oes ganddi bellach y math o arbenigedd y byddai ei hangen ar yr hyn sydd eisoes yn ddiwydiant byd-eang.
Felly, mae'r rhain yn bryderon mawr yr wyf yn gobeithio y bydd yn cael eu hystyried gan Lywodraeth Cymru a chan Senedd y DU.
Rwy'n credu bod y rheswm dros welliant Plaid Cymru i’r ddadl heddiw, er ein bod yn cytuno â'r Papur Gwyn, yn eithaf clir, ac mae wedi ei fynegi’n well gan Gerry Holtham i'r Arglwyddi y bore yma, mewn gwirionedd, wrth archwilio hyn pan ddywedodd:
Heb amddiffyniad cyfansoddiadol bydd buddiant Cymru yn cael ei anwybyddu
Ac aeth ymlaen i ddweud hefyd:
Y realiti gwleidyddol creulon yw mai ychydig o seddi ymylol sydd gennym ac nid ydym yn bwysig.
Wel, mae'r gwelliant hwn, a’r hyn y mae Plaid Cymru yn siarad amdano, yn gwneud yn siŵr ein bod yn bwysig, ac er na allwn wneud y gwarantau yn y Cynulliad o fesurau diogelu ynghylch osgoi llanast yn cael ei wneud o Brexit gan Theresa May a'r Ceidwadwyr, gallwn roi rhybudd—rhybudd na fyddwn yn maddau i’r rhai sy'n negodi ar ein rhan am fargen wael i Gymru.
Gallwn hefyd anfon neges gref iawn gyda’r gwelliant hwn a’r ddadl hon heddiw. Am 20 mlynedd, mae'r Eurosceptics wedi beio'r Undeb Ewropeaidd ac ymfudwyr am bob peth drwg ac am bob sarhad canfyddedig. Ac er bod y rhan fwyaf o'r penderfyniadau sydd wedi gadael llawer o'n cymunedau yn garpiog ac yn wag wedi cael eu gwneud gan Lywodraethau San Steffan, mae hefyd wedi bod yn gyfleustra gwleidyddol mawr, hyd yn oed i’r rheini o blaid yr UE, i wyro tân gwleidyddol ar sefydliadau'r UE yn hytrach na nhw eu hunain. Ac ym mis Mehefin gwnaethom dalu’r pris am y ffolineb hwnnw a’r anghyfrifoldeb hwnnw.
Wel, nid yw Brexit yn dod â hynny i ben. Ni yn awr yw’r rhai fydd yn plagio, yn pwyso ar, ac yn dal i gyfrif y rhai a ddaeth â ni i'r sefyllfa hon, a'r rhai a wnaeth yr addewidion a ddaeth â ni i’r sefyllfa hon: £350 miliwn bob wythnos i’r GIG; dim lleihau pwerau’r Cynulliad; cadw pob ceiniog i’r ffermwyr; arian cymorth rhanbarthol yn cael ei gyflenwi gan Lywodraeth ganolog. Ni fyddaf yn anghofio’r addewidion hynny. Nid wyf yn obeithiol iawn y byddant yn cael eu cadw, ond ni fyddaf yn eu hanghofio. A dim ond neithiwr, cafodd gwelliant Plaid Cymru, a oedd yn sicrhau bod ymgyrchwyr ‘gadael’ fel Boris Johnson a Michael Gove yn cadw eu haddewidion, ei drechu yn Nhŷ’r Cyffredin gan Boris Johnson, Michael Gove et al. I fod yn deg neu—[Torri ar draws.] Mewn eiliad; roeddwn yn gwneud rhywfaint o gynnydd. I fod yn deg, pleidleisiodd y rhan fwyaf o Aelodau Seneddol Cymru o blaid y gwelliant hwnnw, ond unwaith eto, cafodd anghenion Cymru eu hysgubo o'r neilltu gan elit gormesol San Steffan. Byddaf yn ildio i'r Aelod.
Rwy'n ddigon ffodus i fod yn ddigon hen i fod wedi clywed yr addewidion a aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, a gallaf eich sicrhau bod y celwyddau a aeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd yn fwy na’r celwyddau hyn sydd wedi mynd â ni allan. [Torri ar draws.] Mae’r celwyddau hynny, fel yr ydych yn dweud maent yn gelwyddau, a aeth â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd yn ddibwys o’u cymharu â’r celwyddau a ddaeth â ni i mewn i'r Undeb Ewropeaidd, megis dim colli sofraniaeth, dim colli ein tiroedd pysgota, ac na, ni fyddai’n ofynnol inni ymuno â’r arian sengl. Aeth pob un o’r celwyddau hynny â ni i mewn i Ewrop.
[Anghlywadwy.] —gloddio eich twll eich hun, Lywydd. [Chwerthin.] Mae'n fy atgoffa i o'r hyn a ddywedodd Eurosceptic wrth fy nghydweithiwr Jonathan Edwards heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, y byddant yn dweud unrhyw beth i ennill y ddadl, ac rydym newydd ei glywed o geg yr ymgyrch ei hun.
Dyma’r math o ddichell sydd wedi cael gwleidyddiaeth i mewn i'r byd ofnadwy ôl-wirionedd, ffeithiau amgen yr ydym yn byw ynddo. Dyna ni, roeddwn wedi ei ysgrifennu i lawr, yn barod i’r Aelod ddod i mewn gyda’r ymyriad hwnnw. Yn awr, Papur Gwyn Theresa May ei hun ar Brexit yw'r peth mwyaf tila a dienaid. Does bosib, na fydd unrhyw un ohonom sy'n poeni o ddifrif am ein cenedl yn chwilio am dri ymrwymiad allweddol mewn unrhyw Bapur Gwyn o’r fath. Y cyntaf yw y gallai ffermwyr, cynhyrchwyr a masnachwyr Cymru barhau i gael mynediad at y farchnad sengl heb rwystrau neu dariffau. Rydym eisoes, fel Cynulliad, wedi pleidleisio o blaid aelodaeth o'r EFTA neu Ardal Economaidd Ewropeaidd fel y ffordd orau o gyflawni hyn, ond efallai fod dewisiadau eraill ar gael—gadewch i ni eu gweld. Nid yw’r Papur Gwyn, fodd bynnag, yn cynnig dim ond sothach diystyr:
yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau'r fasnach fwyaf rhydd a mwyaf llyfn posibl mewn nwyddau a gwasanaethau rhwng y DU a'r UE.
Mae rhagdybiaeth ddiofal yma, yr ydym wedi’i chlywed drwy gydol y ddadl hon, fod diffyg masnach y DU mewn nwyddau—er nad oes gan Gymru ddiffyg masnach ond mae ganddi fasnach dros ben—yn golygu bod bargen masnach dda yn anochel. Wel, mae masnach bob amser wedi bod yn offeryn rhyfela gwleidyddol. Mae wedi dinistrio pleidiau gwleidyddol yn y gorffennol a gwneud cenhedloedd yn dlawd. Rydym yn gwybod na allwn ddisgwyl i Lywodraeth San Steffan ddatgelu ei llaw o flaen llaw, ond mae'r UE wedi datgelu ei law ymlaen llaw. Maent yn glir: ni all unrhyw fargen i adael yr UE fod yn well nag aros yn yr UE. Ymhlyg yn yr awgrym hwn yw bod yn rhaid bod y fargen yn waeth. Rydym wedi gweld eu llaw, ac mae’r asau i gyd ganddyn nhw. Yr unig beth sydd gennym ni yw tri jocer Brexiteer.
Yn ail, fel y crybwyllais eisoes, mae'n rhaid i ni gael sicrwydd y bydd y cyllid yn parhau ar gyfer Cymru. Yn awr, mae’r Papur Gwyn yn ddadlennol iawn yma. Mae'n dweud, ar ôl datganiad hydref 2016, y bydd y prosiectau yn cael eu hanrhydeddu os ydynt yn unol â blaenoriaethau strategol domestig. Blaenoriaethau strategol domestig pwy? Blaenoriaethau strategol domestig Theresa May a’r Llywodraeth Geidwadol—dyna pwy. Felly, rydym yn symud ein polisi datblygu rhanbarthol allan o Gymru ac i ddwylo’r Ceidwadwyr.
Yn drydydd, ac yn olaf, dylai hawliau dinasyddion yr UE yng Nghymru gael eu diogelu. Maent yn pleidleisio i ni fel Aelodau'r Cynulliad, felly ni allwn ganiatáu iddynt gael eu defnyddio fel porthiant i’r gynnau mawr yn rhyfel y Torïaid yn erbyn yr UE. Nid yw’r Papur Gwyn yn cynnig unrhyw sicrwydd ar eu rhan o gwbl. Mae'r Bil i sbarduno erthygl 50 yn ddryll wedi’i lifio o Fil—dim cyfeiriad, pin gwasgaru yn tanio pelenni i bob cyfeiriad heb unrhyw nod a dim targed clir yn y golwg. Mae mor debygol o niweidio'r rhai sy’n tynnu’r glicied ag ydyw o daro unrhyw darged. Os ydym yn cytuno i'r gwarantau hyn, ac nid ydym yn cymryd rheolaeth yn ôl, rydym yn ildio i gabál adain dde sydd heb unrhyw ddiddordeb yng Nghymru, sy’n esgus cefnogi ein hanghenion, ond yn pleidleisio dro ar ôl tro i wadu adnoddau, rheolaeth a thegwch i Gymru.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw, a byddaf yn ceisio cadw yn gryno ar Brexit, gan gadw mewn cof ei bod yn iawn caniatáu i gynifer ohonom â phosibl gael cyfle i gyfrannu at y ddadl hon ar fater, heb amheuaeth, sydd yn mynd i fod yn un o faterion mwyaf diffiniol ein cyfnod. Mae’r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru’ yn amlinellu rhywfaint o eglurder ac yn darparu pwrpas sydd yn rhy aml wedi bod, yn anffodus, yn absennol yn y ddadl ar beth sy'n digwydd nesaf, ar ôl canlyniad y refferendwm Undeb Ewropeaidd. Yn wir, mewn llawer man, mae wedi bod yn ddadl a ddifethwyd gan ddyfroedd mwdlyd ansicrwydd a rhethreg sydd wedi cyfleu nid yn unig ffeithiau amgen, ond wedi hybu realiti amgen. Dywedwyd wrth Gymru na fyddem yn colli ceiniog os byddai’r DU yn pleidleisio i adael yr UE. Os yw hon yn addewid a gaiff ei thorri, gallai fod canlyniadau pellgyrhaeddol i’n gwlad. Mae'n iawn, felly, ein bod ni fel cenedl, Cynulliad a Llywodraeth yn cyhoeddi hyn ac yn pwyso am y gorau ar gyfer ein dyfodol.
Y brif ddadl dros gyfranogiad yn y farchnad sengl yw atal colli swyddi a buddsoddiad. Mae hyn yn hanfodol i'n diwydiant dur sylfaenol ac i'r sector gweithgynhyrchu uwch sy'n ganolog wrth ddarparu cyflogaeth â sgiliau a ffyniant economaidd yn y gogledd-ddwyrain. Mae arnom angen y mecanweithiau sydd ar waith i sicrhau ein bod yn adeiladu ar y sylfeini economaidd hyn, nid eu dinistrio: Tata Steel yn Shotton, Airbus, Toyota, Kingspan, Kimberly-Clark—mae'r rhestr yn ddiddiwedd—a heb anghofio'r nifer o fusnesau bach a chanolig y mae gallu mewnforio ac allforio heb dariff yn allweddol iddynt. Wrth gwrs, mae’r sector amaethyddol yng Nghymru, a’n cymunedau gwledig o ganlyniad, yn wynebu ansicrwydd enfawr yn dilyn canlyniad y refferendwm ac yn y rhes flaen os digwydd i Gymru beidio â sicrhau cyfranogiad yn y farchnad sengl.
Ni ddylai gadael yr UE arwain at ras i'r gwaelod pan ddaw at ddiogelwch a hawliau gweithwyr. Mae'n hollol gywir bod yn rhaid inni gael deddfwriaeth i atal gweithwyr rhag cael eu hecsbloetio. Mae modd proffwydo hyn yn fwy pan ystyriwn y gall llawer o'r pryderon a leisiwyd gan nifer o fy etholwyr i ar fewnfudo fod yn gysylltiedig ag ecsbloetio a thalu cyflogau is gan gyflogwyr diegwyddor. Mae cyfres o hawliau sy'n amddiffyn gweithwyr bob dydd wedi deillio o ddeddfwriaeth yr UE, a rhaid inni beidio â chael ein dal gan gamsyniad y rhethreg adain dde reolaidd sy'n dweud y bydd dadreoleiddio’r hawliau hyn yn arwain at fwy o gynhyrchiant. Bydd gostwng yr hawliau hyn yn dod ar draul y gweithwyr yng Nghymru, ac mae’n llwybr unffordd at gyflogau isel, ansicrwydd swyddi a gwahaniaethu.
Ymgyrchais i a phleidleisiais i aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd y rhan fwyaf o fy etholwyr yn Nelyn i adael, ac roedd canlyniad y refferendwm yn Sir y Fflint yn adlewyrchu yn fras ganlyniad cyffredinol y DU. Bellach mae gennyf etholwyr sydd yn cysylltu â mi, yn rhwystredig nad ydym eisoes ymhellach drwy'r drws allan, ond rwy'n cael yr un faint o e-byst gan etholwyr sydd yn ofni am ein dyfodol, a dyfodol Cymru yn arbennig, a byddai’n well ganddynt droi yn ôl ar y refferendwm. Er bod llawer ohonom yn y Siambr hon ac yn y wlad hon yn drist—a dweud y lleiaf—gan ganlyniad refferendwm yr UE, ni allwn adael i sut yr ydym yn bwrw ymlaen ar ôl y refferendwm hybu diffyg ymddiriedaeth, diffyg diddordeb ac ymddieithriad pellach mewn gwleidyddiaeth. Ond ni ddylem chwaith, fodd bynnag, gyfaddawdu ar werthoedd cwrteisi, amrywiaeth a chydraddoldeb y mae llawer ohonom wedi ymladd o’u plaid a’u hyrwyddo dros nifer o flynyddoedd.
Rwy’n credu y gallwn ni fynd i'r afael â'r tensiynau a arweiniodd at bobl yn ymosod ar system yr oeddent yn teimlo nad oedd yn gwneud, nac yn cyflwyno, dim byd iddynt—ansicrwydd yn eu swyddi, cyflogau isel, ecsbloetio, yr hyn a welir yn ddiffyg cyfle i fynd ymlaen mewn bywyd ac i ffynnu—heb bwyso i lawr ar yr elfen fwyaf elfennol o drafodaeth. Fel y dywedais yn ystod y ddadl ar gydraddoldeb yr wythnos diwethaf, ymddengys bod naws y ddadl wleidyddol yn anffodus wedi newid. Nid yw dweud bod hyn yn annerbyniol yn ymwneud â mygu rhyddid barn neu gywirdeb gwleidyddol; mae'n ymwneud â Chymru yn wlad gynhwysol, gynnes a chroesawgar, lle’r ydym yn ymddwyn gydag urddas a pharch tuag at ein gilydd fel bodau dynol.
Gadewch i ni fod yn glir: nid cynnydd ar hawliau cyfartal i fenywod, pobl LGBT, y gymuned Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ag anableddau yw gweld swyddi â sgiliau a chyfleoedd diwydiant yn cael eu difrodi a chynnydd mewn tangyflogaeth cyflog isel, ansicr. Rhaid inni gael yr ewyllys gwleidyddol a'r cymhelliant i fynd i’r afael a datblygu’r olaf heb fynd yn ôl ar yr hawliau a chreu ofn ar y cyntaf, i sicrhau dyfodol i Gymru sy'n un o degwch a ffyniant economaidd, ond hefyd yn un sy’n amddiffyn ac yn ymestyn cyfiawnder cymdeithasol.
Gofynnir i ni ddweud nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu cynllun manwl. Dydw i ddim yn siŵr a yw hynny’n gwbl deg. Roeddwn yn teimlo bod araith y Prif Weinidog yn eithaf sylweddol yn ei 12 pwynt a beth mae hi'n ei roi y tu ôl i hynny, ac yna fe gawsom Bapur Gwyn, yn rhoi ychydig mwy o fanylion am hynny. Yna, gofynnir i ni gydnabod canlyniad y refferendwm ar aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy’n hapus iawn yn wir i wneud hynny.
Yna gofynnir i ni gydnabod canlyniad y refferendwm am aelodaeth y DU o'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n hapus iawn yn wir i wneud hynny. Fel arfer pan fyddaf yn clywed yr ymadrodd hwnnw yn deillio o ffynhonnell Lafur, mae'n cael ei ddilyn gan y gair 'ond'. Yn yr achos hwn, yn hytrach na'r gair 'ond', mae gennym bwynt 3 a 4: i groesawu cyhoeddi'r Papur Gwyn ‘Diogelu Dyfodol Cymru' ac i gadarnhau ei flaenoriaethau. Rwyf wedi siarad o'r blaen am rai o'r anghysonderau rhwng 'mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl a 'chyfranogiad llawn' yn y farchnad sengl. Cefais sicrwydd gan Lesley Griffiths, rwy’n credu, ddydd Iau fod y ddau ymadrodd yn golygu’r un peth. Felly, byddaf yn derbyn tôn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog, yn y Papur Gwyn ac yn gynharach. Dywedodd ei fod yn dymuno aros yn y farchnad sengl, rwy’n credu, ac yn yr undeb tollau. Mae eisiau gweld marchnad lafur agored lle gall unrhyw un o’r UE ddod i'r wlad hon o hyd gyda chynnig am swydd, neu yn wir gall unrhyw un ddod i chwilio am swydd yn unig, er bod hynny o fewn cyfnod o amser. Mae'n dweud ei fod eisiau parhau i gyfrannu i'r gyllideb, ac mae eisiau cyfnod trosiannol hir cyn i unrhyw beth newid rhyw lawer.
Yn fy marn i mae Julie Morgan efallai yn fwy gonest am yr hyn y mae’r sefyllfa honno yn ei awgrymu. Mae'n awgrymu, yn ei geiriau hi, cadw holl elfennau allweddol yr UE. Nawr, efallai ei bod am wneud hynny yn cynrychioli ei hetholwyr yng Ngogledd Caerdydd, ond mae'r Prif Weinidog i fod cynrychioli pobl Cymru, a 52 y cant wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ofnaf nad yw wedi deall pam y pleidleisiodd llawer o bobl 'na'. Rwy'n credu bod llawer o resymau da am fasnachu—nifer o resymau da am agor ein heconomi a masnachu rhydd gyda'r byd i gyd, yn hytrach na dim ond ag un rhan ohono sy’n dirywio yn ôl un set o reoliadau y mae'n rhaid i bawb ufuddhau iddynt er mwyn masnachu o gwbl. Ond credaf fod y syniad, yn syml, o gael rhai cyfyngiadau ar fudd-daliadau, neu gyfyngu ymhellach ar ecsbloetio gweithwyr, a thalu’n llai na’r isafswm cyflog, er bod y rheini’n bwysig ac y dylem eu cefnogi, nid ydynt yn ddigon. Rwy’n credu, i lawer o bobl, y broblem yw bod niferoedd diddiwedd o bobl o economïau cyflog llawer is yn gallu dod i mewn i'n gwlad a chystadlu am gyfle i weithio am yr hyn a allai fod yn swm uwch na'r isafswm cyflog. Yn gyflym, daw'r isafswm cyflog yn uchafswm cyflog.
Ac ymddengys ei fod wedi penderfynu o'r diwedd, ar ôl cyfnod o ddiffyg penderfyniad, a rhywfaint o gynnydd, dweud ei fod eisiau bod yn y farchnad sengl, hyd yn oed os yw hynny’n golygu nad ydym yn gallu symud i ffwrdd oddi wrth ryddid i symud llafur. Dyna ei benderfyniad. Ond rwy'n credu ei bod yn ei gwneud yn anodd iawn i'r Prif Weinidog a'r Cynulliad hwn, neu yn sicr ei Lywodraeth, ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU os mai llinell waelod Llywodraeth Cymru, yn ei hanfod, yw aelodaeth o’r farchnad sengl a'r holl ffactorau a restrais. Mae hynny'n amlwg iawn yn groes i ble mae Llywodraeth y DU yn awr. Mynediad llawn a dilyffethair—gallem edrych ar hynny, ynghyd â masnach rydd a llyfn; aelodaeth o EFTA fel y ffordd ymlaen.
Efallai y gallai fod wedi dod o hyd i dir cyffredin gyda phleidiau eraill yn y Cynulliad hwn. Fodd bynnag, yn hytrach, mae wedi dewis ceisio dod i gytundeb â Phlaid Cymru, yr ymddengys, yn eu gwelliant, y maent wedi tynnu’n ôl arno. Mae rhywfaint o negodi mawr ac, ym mhwynt 6, gofynnir i ni nodi bwriad Llywodraeth y DU i geisio sbarduno erthygl 50. Mae hyd yn oed Jeremy Corbyn, yn San Steffan, yn chwipio ei Aelodau Seneddol i gefnogi sbarduno erthygl 50. Eto i gyd nid yw’r Prif Weinidog a'i lu yn gallu gwneud hynny. Yn hytrach, maent yn ceisio rhyw fath o gyfaddawd i guddio’r craciau gyda Phlaid Cymru, ac yn ei nodi yn unig, ac yna mae Plaid yn dod ymlaen ac yn cynnig y gwelliant hwn yn erbyn ysbryd yr hyn yr oeddent yn credu iddynt gytuno arno.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
A fyddai'r Aelod yn cytuno y byddai'n haws efallai dod i gytundeb penodol pe byddem yn deall beth oedd bwriad Llywodraeth y DU o ran y farchnad sengl a mynediad parhaus i hynny? Er enghraifft, mae'n gwybod—gan ei fod newydd ysgrifennu at aelodau'r pwyllgor yr ydym ein dau yn gwasanaethu arno—bod George Eustice heddiw wedi dweud na fydd yn dod i gael ei holi yn y pwyllgor ddydd Iau, am yr hyn y mae’r farchnad sengl yn ei olygu.
Diolch i'r Aelod yn fawr iawn am ddod â mi at yr hyn oedd yn mynd i fod yn bwynt nesaf. Mae gen i bryder penodol ynghylch yr hyn a ddywedodd David Davis, sef, yng nghyd-destun datganoli, y bydd pwerau yn dod o'r UE, a bydd yn rhaid i ni benderfynu lle y byddant yn glanio’n fwyaf priodol—boed hynny yn San Steffan, Holyrood, neu ble bynnag. Nid yw hynny'n wir. Caiff y cyfyngiad ar ein hawl i ddeddfu mewn cyd-destun datganoledig ei godi pan fyddwn yn gadael yr UE, fel y mae’r Prif Weinidog yn glir ac yn briodol iawn wedi’i ddweud.
A byddem wedi hoffi holi’r Gweinidog DU hwnnw am yr hyn yr oedd hynny yn ei olygu, yn enwedig ym maes y pwyllgor yr wyf y yn ei gadeirio, lle mae llawer o'r meysydd hynny yn eithriadol o bwysig i Gymru. Mae’r cyfle hwnnw bellach wedi cael ei golli. Rwyf wedi’ch copïo chi, Lywydd, i mewn i’r nodyn hwnnw. Ac rwy’n credu ei fod o leiaf yn ymddangos fel diffyg parch at y Cynulliad a’n pwerau datganoledig. Rwy’n gobeithio na fydd hynny yn parhau i ddigwydd; rwy'n gobeithio y bydd arweinydd yr wrthblaid yn defnyddio'i ddylanwad da i helpu i sicrhau hynny. Ond, yn sicr, pan fydd y Prif Weinidog yn siarad yn glir ar hynny, bydd yn cael cefnogaeth ein plaid i wneud hynny.
Yn awr, os caf i ddirwyn i ben, mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi nodi dull gweithredu eithaf clir, yn fy marn i. Mae hi wedi dweud, os oes angen, y bydd yn rhoi blaenoriaeth ar gyfyngu rhyddid i symud uwchben y farchnad sengl. Rydym yn credu ei bod yn iawn i wneud hynny, credwn ei bod yn siarad ar ran pobl Cymru, yn ogystal â phobl y DU gyfan, ac rwy’n credu ei bod wedi ennill yr hawl i gael rhyddid a hyblygrwydd i drafod hynny unwaith y bydd erthygl 50, yr ydym yn ei gefnogi, wedi ei sbarduno.
Rwyf yn cyfyngu fy nghyfraniad i’r hyn yr ydym yn ei gydnabod fel cydraddoldeb. Fy sylw cyntaf yw, yn wahanol i Bapur Gwyn Cymru a Phapur Llywodraeth yr Alban, nad yw Papur Gwyn y DU yn trafod y goblygiadau yn uniongyrchol i gydraddoldeb Brexit. Ac, i mi, mae hynny'n hepgoriad amlwg ond yn un sy’n peri gofid. Efallai y gallai'r Prif Weinidog fod wedi tynnu sylw ato pe byddai Llywodraeth y DU wedi darparu drafft cyn y cyhoeddiad hwn. Serch hynny, a fyddech yn ei godi yng nghyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, os nad cyn hynny, Brif Weinidog?
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y bydd yn datblygu deialog â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, i ystyried y manylion a'r goblygiadau o ran cydraddoldeb o adael yr UE. Ac rwy’n croesawu’r ymrwymiad hwnnw eto. Ond rwy’n apelio atoch i annog y Prif Weinidog ac Ysgrifennydd Brexit i ddilyn esiampl Cymru a chynnal yr un trafodaethau hynny â'r EHRC oherwydd bod y goblygiadau i gydraddoldeb Brexit yn bwysig. Mae canlyniadau ac ystyriaethau uniongyrchol, yn ogystal â syniadau diwylliannol ehangach o amgylch hynny. Mae cyllid uniongyrchol, er enghraifft, ar gyfer y cyfnod 2014-20 trwy ymgysylltiad strategol y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer rhaglenni cydraddoldeb rhywiol. Mae'r UE wedi dyrannu mwy na €6 biliwn i gyflawni targedau ac amcanion cydraddoldeb rhywiol. Yr hyn y mae angen i ni ei wybod yw a fydd y ffrydiau ariannu hynny yn sychu, ac os byddant, beth yw canlyniadau hynny?
Y bore yma, cyfarfûm â Chwarae Teg, ac un o'r materion a drafodwyd gennym oedd dyfodol eu prosiect Cenedl Hyblyg 2 sy'n helpu i wella sefyllfa menywod yn y gweithlu ar draws naw sector blaenoriaeth yng Nghymru. Mae’r cynllun hwnnw’n cael ei ariannu, yn rhannol, gan Lywodraeth Cymru a hefyd gan gronfa gymdeithasol Ewrop, a dyna un enghraifft yn unig. Fel y mae Papur Gwyn Llywodraeth Cymru yn ei nodi, rhaid rhoi ystyriaeth i effaith bosibl colli arian yr UE ar gydraddoldeb a lles pobl â nodweddion gwarchodedig. Yn San Steffan, mae Harriet Harman, gyda chefnogaeth clymblaid drawsbleidiol o ASau, wedi cyflwyno gwelliant yn galw ar y Llywodraeth i ddiogelu hawliau menywod yn ystod ac ar ôl Brexit. Mae Papur Gwyn y DU yn nodi y bydd y Bil diddymu mawr yn cynnal y mesurau gwarchod a'r safonau sydd o fudd i weithwyr ac, ar ben hynny, mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo nid yn unig i ddiogelu hawliau gweithwyr a nodir mewn deddfwriaeth Ewropeaidd, ond eu gwella. Rwy'n hynod o falch o glywed hynny, ond dydw i ddim wedi fy argyhoeddi’n llwyr ganddo. Clywsom lawer iawn o addewidion ar hyd y ffordd ac mae hwn yn ymddangos i fod yn un arall o'r rheini.
Un o'r materion yr wyf yn wir yn poeni amdano, fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar fasnachu mewn pobl, yw beth yn union y mae Brexit yn ei olygu ar gyfer cydweithrediad y DU â chyrff yr UE fel Eurojust ac Europol. Mae'r Papur Gwyn yn dweud:
Byddwn yn parhau i weithio gyda'r UE i warchod diogelwch Ewropeaidd, i ymladd yn erbyn terfysgaeth, ac i gynnal cyfiawnder ar draws Ewrop.
Ond nid yw hyd yn oed yn sôn am Eurojust ac uned cydweithrediad barnwrol yr UE. Rwy'n ymwybodol o’r amser ac fe wnes i addewid y byddwn yn gryno, felly, byddaf yn gorffen trwy ddweud hyn: mae'n drist bod rhywfaint o'r ddadl yr ydym wedi ei chael—nid y ddadl yma heddiw, ond yr hyn sydd wedi ein harwain at ble yr ydym—wedi rhoi bywyd newydd i hen ragfarn ac ofnau a hagrwch. Rwy’n teimlo ei bod yn bwysicach nag erioed ein bod yn ddiamwys yn y neges yr ydym yn ei hanfon i leiafrifoedd a grwpiau eraill sy'n agored i niwed, y dylai Llywodraeth y DU, yn gyntaf, weithredu yn awr yn hynny o beth, a rhaid iddi warantu statws dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yma yn yr UE ac nid eu defnyddio—ac mae wedi digwydd heddiw—fel tsips bargeinio ar gyfer y dyfodol.
Rwy’n falch i gymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig yma ac i longyfarch y sawl sydd wedi dod â’r Papur Gwyn, ‘Diogelu Dyfodol Cymru: Pontio o'r Undeb Ewropeaidd i berthynas newydd ag Ewrop’, i fodolaeth ar y ddwy ochr: ym Mhlaid Cymru ac yn Llafur. Hefyd, hoffwn longyfarch sawl cyfraniad eisoes y prynhawn yma ynglŷn ag aeddfedrwydd y ddadl sydd o’n blaenau ni: Steffan Lewis yn enwedig, ond hefyd Eluned Morgan, Hannah Blythyn, Julie Morgan—mi allwn ni gario ymlaen; a David Melding, hyd yn oed. Rwyf yn eich llongyfarch chi i gyd—ac hefyd Leanne Wood a Simon Thomas. Ond dim ond pum munud sydd gen i, so fe wnaf i stopio yn fanna yn naturiol.
We’ve heard a lot about respecting the result of the referendum on 23 June, and we do. The debate around triggering article 50 is not about rerunning that referendum campaign—that’s done and dusted; it’s about having a detailed plan to exit Europe. That’s what the debate is about.
A lot has been said about the need to heal a divided society. Healing—and I know a bit about healing—but healing on the part of the UK Government, I would suggest, should take the form of naturally respecting the views of the 52 per cent and, at the same time, doing your best to accommodate the 48 per cent, because serial triumphalism is not particularly endearing or healing. Rubbing the noses of the 48 per cent who voted ‘remain’ continuously in it because they lost, by now pushing for the hardest possible Brexit: how is that healing a divided society? Surely a soft Brexit, closer to the views of the 48 per cent, while respecting the views of the 52 per cent, would fit the bill. Making the best of a bad job. Huw.
Diolch. Diolch i chi am ildio. Ymddengys ei fod wedi darllen yn glir y bore yma y llw Hippocratic gwreiddiol, sy'n dweud, yn gyntaf oll, 'Na wna niwed'. [Chwerthin.]
Rwy'n falch i chi fy atgoffa i o un o fy hen lwon, Huw. Mae gwneud y gorau o'r gwaethaf yn y sefyllfa bresennol hon, wrth adael yr UE, yn golygu mewn gwirionedd ceisio aros yn y farchnad Ewropeaidd sengl, fel Norwy lewyrchus—y tu allan i'r UE, ond yn y farchnad sengl. Oherwydd mae’r farchnad sengl, fel y clywsom, yn hanfodol i Gymru. Mae chwe deg wyth y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE; mae 200,000 o swyddi Cymru wedi eu clymu i’r farchnad sengl honno. Yr holl gyllid cymorth rhanbarthol Ewrop hwnnw: beth sy'n mynd i ddigwydd iddo? Peidiwch â dal eich anadl; nid yw'n mynd i ddod o Senedd y DU. Mae hyn i gyd mewn perygl o gael ei daflu i ffwrdd os ydym ond yn rowlio drosodd a phleidleisio i sbarduno erthygl 50, heb gymaint â gwich, gan roi cynfas gwag i Theresa May i gwtsho lan at Donald Trump mewn ymgais anobeithiol i daro bargen fasnach gyda rhywun.
Yn awr, dim ond syniad: dan y Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 bresennol, nid yw cysylltiadau gyda'r UE yn cael eu rhestru fel pwnc o gymhwysedd neu eithriad. Arhoswch gyda mi yn awr, dîm, iawn; mae'n bwnc tawel. Mae gan y Cynulliad gymhwysedd yn awr i ddeddfu ar bynciau tawel, ar yr amod bod y ddeddfwriaeth dan sylw hefyd yn berthnasol i bwnc datganoledig, fel amaethyddiaeth, y mae arweinydd y Ceidwadwyr mor awyddus i arwain ein ffermwyr i lawr pa bynnag lôn wledig sy’n dod i ben yn bengaead. Felly, bydd y DU yn tynnu'n ôl o'r UE yn golygu diwedd i’r polisi amaethyddol cyffredin ac yn cael effaith enfawr ar ein hamaethyddiaeth, sydd yn bwnc a roddwyd yn awr, wedi’i ddatganoli i Gymru. Gellid dadlau bod gan y Cynulliad hwn y cymhwysedd yn awr i ddeddfu ar y mater o p'un a ddylid rhoi hysbysiad dan erthygl 50 yn awr. Fel y dywedais, dim ond syniad.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Rhun.
Yn ogystal â chefnogi’r Papur Gwyn hwn heddiw, a yw'r Aelod yn cytuno y dylai Aelodau yma yn y Siambr hon hefyd gefnogi gwelliant Plaid Cymru er mwyn dangos ein bod yn ddigon penderfynol yma am bwysigrwydd sicrhau bod llais Cymru yn cael ei glywed a'i barchu, ein bod yn dweud na allwn gefnogi erthygl 50 yn awr hyd nes y byddwn yn cael y diogelwch a hyd yn oed y fframwaith sydd eu hangen arnom, ac mae honno’n dyletswydd arnom i bobl, pa bynnag ffordd y gwnaethant bleidleisio yn y refferendwm?
Yn union, ac wedi’i fynegi yn dda. Mae ar Gymru angen cynllun manwl— [Torri ar draws.] does gen i ddim amser, dîm, yn enwedig i Andrew R. T. Davies. Mae ar Gymru angen cynllun—cynllun manwl—i adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae Llafur a Phlaid Cymru yma wedi cynhyrchu un. Mae’n werth ei ddarllen, gan gynnwys yr atodiadau—‘Diogelu Dyfodol Cymru’. Oherwydd—ac rwyf ar fin dod i ben yn awr—wrth siarad â nifer o bobl, yn enwedig ein pobl ifanc, maent yn teimlo eu bod wedi’u bradychu. Mae eu dyfodol fel Ewropeaid wedi mynd, oni bai ein bod yn gallu gwarantu teithio, addysg ac astudio yn Ewrop am ddim ar gyfer ein pobl ifanc. I gyd oherwydd cyni, dicter a ffeithiau amgen, a dim cynllun. Mae’r £350 miliwn hwnnw ar ochr bws yr un fath â’r arfau dinistr torfol. Nawr, rydym yn daer—rydym yn mynd i fod yn daer am fargeinion masnach. Theresa May yn cwtsho lan at Donald Trump. Na. Fel Rhun, fel grŵp Plaid, byddaf yn pleidleisio yn erbyn sbarduno erthygl 50. Gallem wneud hynny ac mae angen i ni wneud hynny oherwydd bod angen i lais Cymru gael ei glywed. Diolch yn fawr.
Rwyf nawr yn galw ar y Prif Weinidog i ymateb i’r ddadl.
Diolch, Lywydd. Gwn fod amser yn brin, ond a gaf i ddechrau drwy ddweud bod rhai mythau sydd angen eu chwalu yma? Yn gyntaf oll, nid yw hon yn ddadl ynghylch a ddylai canlyniad y refferendwm gael ei barchu. Mae'n mynd i ddigwydd. Dyna ni. Mae'r cwestiwn wedi ei setlo. Ond gadewch i ni beidio ag esgus bod pleidlais o fwyafrif llethol i adael yr UE. Roedd yn 52 y cant. Gadewch i ni beidio ag esgus mai'r unig reswm pam y pleidleisiodd pobl i adael oedd mewnfudo. Siaradodd yr un faint o bobl â mi am fewnfudo ag a siaradodd â mi am eisiau rhoi cic i David Cameron. Dyna oedd un o'r rhesymau a glywais ar garreg y drws.
Rwy’n cofio, ym 1997,cafodd y lle hwn ei sefydlu ar ganran tebyg o’r bleidlais. Roedd rhai yn y Blaid Geidwadol a oedd eisiau anwybyddu'r refferendwm ar y pryd. Dadleuodd John Redwood, pan gafodd ei holi am ganlyniad refferendwm yr Alban, sef 3: 1 o blaid, na ddylai datganoli ddigwydd yn yr Alban gan nad oedd y rhan fwyaf o'r etholwyr wedi pleidleisio o blaid. Gwelwn yn awr, wrth gwrs, y safonau dwbl sydd ganddo. Gan fy mod i wedi ymladd yn frwd yn erbyn unrhyw syniad bod canlyniad y refferendwm, bryd hynny, ni waeth pa mor gul yr oedd, yn cael ei anwybyddu, ni allaf ddadlau dros anwybyddu canlyniad y refferendwm y llynedd, er mor agos yr oedd.
Felly, mae’r mater hwnnw wedi ei ddatrys. Ond, mae awgrymu ei bod rhywsut yn bleidlais ar gyfer Brexit caled yn absenoldeb unrhyw gwestiwn penodol yr un fath ag awgrymu bod y bleidlais ym 1997 yn bleidlais dros annibyniaeth. Yn amlwg, roedd yn bleidlais am ffurf gyfyngedig, bryd hynny, o hunanlywodraeth. Y wers i'w chofio yw hyn, ac fe wnaeth Dai Lloyd gyfeirio at hyn: gwnaeth y rhai ohonom a oedd ar yr ochr fuddugol ym 1997 weithio i ennill pobl drosodd ar ôl hynny, a dyna pam mae mwy na 80 y cant o bobl Cymru yn cefnogi datganoli bellach. Wnaethom ni ddim eu sarhau. Doedden ni ddim yn awgrymu eu bod yn fradwyr. Wnaethom ni ddim dweud eu bod yn dwp. Buom yn gweithio gyda nhw. Ac mae honno’n wers i'r Brexiteers caled, nid y rhai yn y Siambr hon, ond rhai y tu allan sy'n credu mai'r ffordd orau i gael eu ffordd yw drwy sarhau.
O ran rhai o'r pwyntiau eraill a wnaethpwyd, mae'n hollol iawn y dylai fod gwaith tuag at fframwaith y DU ar gyfer rhai meysydd, megis amaethyddiaeth. Mae'n bosib iawn ei fod yn gwneud synnwyr. Iechyd anifeiliaid—mae'n gwneud synnwyr i gael polisi cyffredin ar draws Prydain Fawr. Ond y pwynt yw hyn: dylai’r fframweithiau hynny gael eu cytuno nid eu gorfodi gan un Llywodraeth dros y tair arall. Mae amaethyddiaeth wedi'i ddatganoli. Atalnod llawn. Diwedd y stori. Pleidleisiodd pobl yn 2011 dros hynny o 2: 1 mewn refferendwm. Nid oes gan Lywodraeth y DU unrhyw hawl i newid hynny. Pan ddaw’r pwerau hynny yn ôl o Frwsel, maent yn dod yma. Nid ydynt yn aros yn Llundain. Mae'n hynod bwysig bod y trafodaethau hynny am fframweithiau yn parhau ac mae hynny'n rhywbeth y byddem ni, wrth gwrs, eisiau ei weld yn digwydd.
A gaf i atgoffa'r rhai sy'n honni nad oedd model Norwy ar y bwrdd yn y refferendwm bod Arron Banks yn ei gefnogi, Daniel Hannan ei gefnogi a'r 'Daily Express' yn ei gefnogi? Felly, roedd model Norwy yn fawr iawn ar y bwrdd ar y pryd, a dyna pam yr es i yno. Mae'n fodel y gallwn edrych arno. Nid yw'n berffaith. Mae Norwy yn wlad ffyniannus—mae hanner olew y DU yn dod o Norwy—ac mae'n hapus i fod yn rhan o'r farchnad sengl er nad yw'n rhan o'r UE.
Clywais yr hyn oedd gan Neil Hamilton i'w ddweud. Mae'n rhoi llawer o ffydd mewn cytundeb masnach gyda Llywydd yr Unol Daleithiau, a etholwyd ar fandad gwarchodol, sydd wedi dweud bod pob gwlad yn y byd wedi manteisio ar yr Unol Daleithiau. Nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth y bydd gennym fargen masnach rydd gydag America sydd yn unrhyw beth ond da i America. Dyna'r hyn y cafodd ei ethol i'w wneud. Ni allwn gwyno am hynny. Mae'n Llywydd gwarchodol. Felly, nid wyf yn rhannu ei optimistiaeth yn hynny o beth. Gwrandewais yn astud ar ei gynllun. Siaradodd am union 11 munud a 30 eiliad ac ni chlywais unrhyw beth. Rhaid i’r dyddiau hynny fynd. Mae'n rhaid i ni ddechrau clywed mwy gan y rhai sydd ar ochr galetach Brexit.
Gwrandewais yn ofalus ar Andrew R. T. Davies. Mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, ar ôl y refferendwm, yr oedd yn y cyfryngau yn awgrymu y dylai rhai meysydd gael eu rhoi yn ôl i San Steffan. Os cafodd ei gamddyfynnu, dylai fod wedi ymdrin â hynny yn y cyfryngau. Roedd yn dweud y dylai amaethyddiaeth a datblygu economaidd rhanbarthol fod yn gyfrifoldeb San Steffan. Nid dyna beth y pleidleisiodd pobl Cymru amdano. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwyf wedi parhau â’r ddadl a wneuthum ar ôl y refferendwm bod angen cael fframweithiau y DU ar amaethyddiaeth, cronfeydd strwythurol a chyllid prifysgolion oherwydd mai dyna'r ffordd orau o sicrhau llinellau cyllideb penodol allan o Drysorlys y DU—i wneud yn siŵr bod yr arian sydd ei angen arnom yn llifo i Gymru. Gofynnaf ichi gefnogi'r safbwynt hwnnw oherwydd pan fy mod wedi cyflwyno’r safbwynt hwnnw, rydych chi wedi ceisio ei ddilorni. Rwy’n synhwyro eich bod yn symud at y tir hwnnw yn awr, Brif Weinidog.
Na. Rwy’n cytuno. Y cwestiwn yw hyn: a yw'n credu y dylai Llywodraeth y DU orfodi’r fframweithiau hyn neu a yw'n credu y dylent gael eu cytuno gan y pedair Llywodraeth?
Dylid eu cytuno.
Rwy'n ddiolchgar am yr eglurhad ar hynny, oherwydd nid dyna ddywedodd yn y refferendwm y llynedd. Mae wedi dweud, er tegwch iddo, ei fod yn credu y dylai’r fframweithiau hynny gael eu cytuno erbyn hyn, nid eu gorfodi gan Lywodraeth y DU. Rwy’n croesawu hynny. Rwy’n croesawu hynny. Dywedodd hefyd fod 730 diwrnod i ymdrin ag effaith—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na. Mae wedi cael un ymyriad eisoes. Mae ar y cofnod. Croesawaf yr hyn y mae wedi'i ddweud.
Na, na. Ni allwch wneud y cyhuddiad hwnnw.
Mae wedi dweud bod yna 730 diwrnod i ymdrin â Brexit—mae’n llai na hynny, oherwydd mewn gwirionedd, fydd dim yn digwydd cyn mis Medi, unwaith y bydd etholiadau Ffrainc a’r Almaen allan o'r ffordd, felly, mewn gwirionedd, mae’r amserlen yn cael ei gwasgu ychydig yn fwy.
Gwrandewais ar yr hyn oedd gan David Rowlands i'w ddweud. A gaf i ddweud wrtho nad gweiddi ar dramorwyr yw'r ffordd orau ymlaen? Os ydych yn dweud wrth yr UE, ‘Mae ein hangen ni arnoch chi yn fwy nag y mae eich angen chi arnom ni', byddant yn dweud wrthych ble i roi’r farn honno, yn yr un modd â phe byddai’r UE yn dweud hynny wrth y DU—byddai ef yn dweud yn union yr un peth, pe cai ei ddweud am y Deyrnas Unedig. Mae'n rhaid iddo gofio bod y DU wedi ymuno â'r UE, neu'r farchnad gyffredin ar y pryd, oherwydd ei bod yn awyddus iawn i ymuno, gan fod economi'r DU yn llanast. Ac, yn ei eiriau ef, roedd y celwyddau a aeth â ni i mewn yn fwy na'r celwyddau a aeth â ni allan. [Chwerthin.] Mae hynny’n fater iddo ef ei esbonio.
Y pwynt arall y mae’n rhaid i mi ddweud wrtho amdano yw hyn. Ydy, wrth gwrs, mewn termau ariannol, mae'r UE yn allforio mwy i'r DU nag y mae’r DU yn allforio i’r UE; byddai'n rhyfedd pe na fyddai, oherwydd bod yr UE bron 10 gwaith maint y DU. Ond, fel canran, mae 67 y cant o allforion Cymru yn mynd i'r UE, 7 y cant o allforion yr UE yn mynd i'r DU. A dweud y gwir, o ran canran, rydym yn llawer mwy dibynnol ar y farchnad Ewropeaidd nag y mae’r farchnad Ewropeaidd arnom ni. Rwy’n erfyn arno i feddwl yn ofalus am hon fel cytundeb synhwyrol rhwng rhai cydradd ac nid ceisio dweud eu bod nhw fwy o’n hangen ni nag yr ydym ni eu hangen nhw. Nid yw hynny yn wir. Mae angen ein gilydd arnom ni yn Ewrop i wneud yn siŵr ein bod i gyd yn ffynnu.
Rwy’n cytuno â'r hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud. Ond y pwynt yma, siawns, yw bod masnach yn cyfoethogi'r ddau barti ac, ar hyn o bryd, mae cydbwysedd y fasnach â'r UE ac ag aelodau unigol o'r UE yn fawr iawn o'u plaid nhw. Felly, y cyfan y mae hynny yn ei wneud yw dangos ei bod er eu lles nhw eu bod yn dod i gytundeb masnach rydd gyda ni i barhau â’r trefniadau sydd gennym yn barod. Nid yw'n gwestiwn ohonom ni yn eu gorchymyn nhw i wneud rhywbeth, neu’n mynnu rhywbeth; mae er eu lles nhw yn gymaint â’n lles ni.
Wel, rhaid i mi ddweud nad dyna'r argraff a roddir gan rai yn UKIP. Mae newydd gael ei ddweud bod ar yr UE ein hangen ni yn fwy nag y mae arnom ni eu hangen hwy. Mae arnom angen ein gilydd; dyna realiti'r sefyllfa. Ac, fel y dywedodd David Rowlands, nid ydym eisiau cael ein cloi allan o'r farchnad sengl. Nid ydym yn dymuno cael ein cloi allan o'r farchnad sengl—mae’n rhaid i ni fod yn y farchnad sengl. Mae'n dangos rhywfaint o’r meddwl dryslyd sy'n digwydd yma.
Rwy'n gwybod bod amser yn brin, Lywydd, ond rwyf wedi cymryd ymyriadau, gyda’ch goddefgarwch. David Melding, fel bob amser, bob amser yn werth gwrando arno—yn fyr, mae angen cyngor o Weinidogion arnom sy'n debyg i'r un sy'n bodoli yn yr UE; mae angen iddo fod yn gyngor o Weinidogion sy'n cytuno ar bolisïau a fframweithiau cyffredin. Os bydd cymorth gwladwriaethol yn y DU, bydd yn rhaid cytuno arno. Mae rhai fydd yn dadlau na ddylid cael unrhyw reolau cymorth gwladwriaethol o gwbl. Yn yr achos hwnnw, mae'n ysgarmes yn y DU ac rydych yn dechrau rhyfel masnach o fewn y DU. Nid yw hynny, yn sicr, o fudd i unrhyw un. Mae angen cael mecanwaith cyflafareddu annibynnol—llys yn ôl pob tebyg—i gymrodeddu anghydfod pan ddaw i ddehongli’r rheolau cymorth gwladwriaethol hynny. Ni all Llywodraeth y Deyrnas Unedig ei wneud; mae ganddi wrthdaro buddiant clir.
Rwyf wedi siarad â Llywodraethau eraill. Byddaf yn troi at yr hyn y mae Steffan Lewis wedi ei ddweud yn gyflym iawn.
Well, it’s not true to say that we haven’t done anything. We have been asking for a constitutional convention for a while. Scotland has no interest; they want independence. There is no way of getting any sort of agreement with Northern Ireland because of the situation there. We are internationally focused. I’ll be in America later this month to ensure that we still develop the business relationships between ourselves and America. I’ve spoken to the Prime Minister of Gibraltar, the Isle of Man, Jersey, Guernsey, the Taoiseach in the Republic of Ireland, and also Scotland and Northern Ireland. It’s not true to say, therefore, that nothing has happened in the meantime.
Yn olaf, gan ymdrin â'r pwynt a wnaeth Mark Reckless, un o'r pethau yr oedd gennyf ddiddordeb ynddo yw’r hyn a ddywedodd am ddefnyddio EFTA yn ffordd bosib ymlaen. Nid wyf eisiau ei gamddyfynnu; dyna beth a ddywedodd. Rwy’n croesawu hynny. Mae gan EFTA, wrth gwrs, lys sy'n llywodraethu'r cysylltiadau masnach rhwng aelodau EFTA ac felly byddai’r DU yn atebol i’r llys hwnnw. Mae'n nodio, felly rwy'n falch o’r eglurhad hwnnw.
Y mater arall nad yw erioed wedi cael sylw—ac mae'n berthnasol i Gymru—yw mater y ffin. Y realiti yw y bydd gan y DU ffin tir agored gyda gwlad arall yn yr UE. Nid oes unrhyw ffordd y mae'r UE yn mynd i ddweud, os oes gennych basbort coch gyda thelyn arno, mae gennych chi ryddid i symud i mewn i'r DU, ond, os oes gennych basbort coch gydag unrhyw arwyddlun arall arno, nid yw’r rhyddid gennych. Does neb yn mynd i gytuno i hynny. Felly, mae mater Iwerddon yn dal i fod heb ei ddatrys o bell ffordd. Mae'n effeithio arnom ni yng Nghymru, oherwydd y cysylltiadau masnach sydd gennym drwy'r tri phorthladd i mewn i borthladdoedd Iwerddon. Rydym yn dal heb gael ateb ynghylch a fydd gorsaf dollau, fel yr oedd, gorsafoedd ffin—ni fu rhai yn y gorffennol—yno yn y porthladdoedd hynny, gyda'r effaith a gaiff hynny ar fasnach.
Yn olaf, Lywydd, dim ond i ddweud hyn: rydym wedi symud ymlaen o’r ddadl am y refferendwm bellach. Mae'r refferendwm wedi digwydd. Mae angen cael realaeth ar y ddwy ochr; mae angen i ni bellach weithio tuag at ateb synhwyrol. Felly, i mi, mae’n rhaid mai neges heddiw yw bod angen i ni roi'r gorau i siarad am Brexit caled neu Brexit meddal, ond gadewch i ni gael, cyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, Brexit synhwyrol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rydw i’n gohirio’r bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.