– Senedd Cymru ar 9 Rhagfyr 2020.
Detholwyd y gwelliannau canlynol i gynnig NNDM7501: gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6 yn enw Darren Millar, gwelliant 10 yn enw Caroline Jones, a gwelliannau 11, 12, 13, 14, 15, 16 a 17 yn enw Siân Gwenllian. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd gwelliannau 1, 7, 8 a 9 a gyflwynwyd i’r cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23(iii), ni ddewiswyd y gwelliannau a gyflwynwyd i cynnig NDM7505.
Cytunwyd bod dadl y Llywodraeth ar y cyfyngiadau coronafeirws newydd a dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfyngiadau coronafeirws mis Rhagfyr yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gyflwyno cynnig y Llywodraeth—Vaughan Gething.
Cynnig NNDM7501 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi:
a) y cynnydd yn y gyfradd dreigl saith niwrnod mewn perthynas â digwyddedd achosion o’r coronafeirws ledled Cymru;
b) y datganiad gan y Prif Weinidog ar 1 Rhagfyr a oedd yn nodi’r mesurau cenedlaethol newydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd a lleihau lledaeniad y coronafeirws; ac
c) y pecyn cymorth busnes £340m a ddarperir drwy’r gronfa cadernid economaidd i gefnogi busnesau yr effeithir arnynt gan y mesurau cenedlaethol newydd.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig y Llywodraeth ger ein bron a byddaf yn mynd i'r afael â phob un o elfennau cynnig y Llywodraeth yn ei dro.
Yn anffodus, mae coronafeirws yn cyflymu ledled Cymru, gan erydu'r enillion a gafwyd o'r cyfnod atal byr. Mae cyfradd dreigl saith diwrnod y coronafeirws ledled Cymru wedi codi i dros 320 o achosion ym mhob 100,000. Ar 7 Rhagfyr, roedd 1,085 o bobl gydag achosion o'r coronafeirws wedi'i gadarnhau yn ein hysbytai. Bellach mae gennym dros 400 yn fwy o bobl yn ysbytai'r GIG yng Nghymru yn cael eu trin ar gyfer coronafeirws o'i gymharu â'r uchafbwynt ym mis Ebrill. Ni ellir gwadu bod y sefyllfa'n ddifrifol. Mae'n galw am ymateb difrifol a chyfrifol gennym i gyd.
Roedd datganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn nodi'r her gynyddol sy'n ein hwynebu. Nododd yr angen dybryd i gymryd camau pellach wedi'u targedu i ddiogelu iechyd pobl a lleihau cyflymder a lledaeniad y feirws. Dylem gofio bod hwn yn feirws sy'n heintus iawn; mae'n ffynnu pan ddown at ein gilydd. Ac mae perygl amlwg, wrth i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu'r Nadolig, y byddant yn dal neu'n lledaenu'r feirws. Felly, yn unol â'r hyn a ddywedodd y prif swyddog meddygol heddiw, yn y cyfnod cyn 23 Rhagfyr, rhaid i bob un ohonom wneud yr hyn a allwn i sicrhau bod cyfraddau heintio'n gostwng ac i leihau ein cysylltiadau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y dystiolaeth ddiweddar gan Grŵp Cynghori Gwyddonol y DU ar Argyfyngau (SAGE), ac yn enwedig eu cyfarfodydd ar 11 a 19 Tachwedd fel rydym wedi dweud. Amlygodd y rhain effeithiau cadarnhaol mesurau yn system lefel 3 yr Alban a chyfyngiadau haen 3 Lloegr. Roedd gennym lawer o'r rhain eisoes ar waith yng Nghymru ac rydym wedi addasu mesurau eraill ar gyfer Cymru. Dyna pam, o 6 o'r gloch ddydd Gwener, y cyflwynwyd cyfyngiadau cenedlaethol newydd ar gyfer lletygarwch ac atyniadau dan do. Felly, mae'n rhaid i dafarndai, bariau, bwytai a chaffis gau am 6 p.m. ac ni chânt weini alcohol. Ar ôl 6 p.m. dim ond gwasanaethau tecawê y cânt eu darparu. Mae mesurau tebyg yn berthnasol i haen 3 yn yr Alban. Rhaid cau lleoliadau adloniant dan do ac atyniadau dan do i ymwelwyr; mae atyniadau awyr agored ar agor ar hyn o bryd. Mae gweddill ein mesurau cenedlaethol yn aros yr un fath, ond nid yw ein neges genedlaethol erioed wedi bod yn bwysicach: mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae os ydym am wrthdroi llif cynyddol y coronafeirws.
Mae rhan olaf cynnig y Llywodraeth yn ymwneud â'r pecyn cymorth pellach gwerth £340 miliwn i fusnesau rydym yn ei wneud drwy'r gronfa cadernid economaidd. Mae hyn yn cynnwys £180 miliwn wedi'i dargedu at fusnesau lletygarwch a thwristiaeth. Mae hyn, wrth gwrs, yn ychwanegol at y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael drwy Lywodraeth y DU. Cafwyd nifer fawr o welliannau i gynnig y Llywodraeth ac ni fydd yn bosibl i mi roi sylw manwl i bob un ohonynt, ond rwyf am drafod y themâu y maent yn eu codi.
Ceir tystiolaeth wyddonol ac arsylwadol gynyddol sy'n amlygu rôl lletygarwch yn trosglwyddo clefyd. Cynigiwyd briffiau i lefarwyr iechyd y Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yr wythnos diwethaf gyda'r prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd. Yn ogystal â hyn, ceir tystiolaeth gynyddol o ymddygiad sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys herio'r rheolau. Mae cyfraddau heintio yn codi ledled Cymru mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol heddiw. Rydym wedi cael cyngor eglur dro ar ôl tro gan y grŵp cynghori technegol mai dull gweithredu cenedlaethol sydd fwyaf tebygol o fod yn effeithiol ar hyn o bryd. Ddydd Llun, cyhoeddwyd adroddiad pellach gan y grŵp cynghori technegol, gyda chyngor a lywiodd benderfyniad y Llywodraeth i gyflwyno'r cyfyngiadau lletygarwch newydd ledled Cymru. Dylwn ddweud ar y pwynt hwn y byddwn yn cefnogi gwelliannau 5 a 6.
Mae gwelliannau Plaid Cymru i raddau helaeth yn ymdrin â manylion y cyfyngiadau lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau ar y sector lletygarwch, gan gynnwys gwerthu alcohol, yn elfen allweddol o'r ymyriadau y mae SAGE yn ystyried eu bod yn cael yr effaith fwyaf ar y feirws. Er bod y cyfyngiadau ar archfarchnadoedd a siopau diodydd sy'n gwerthu alcohol ar ôl 10 p.m. yn parhau ar waith, nid wyf yn credu ei bod yn gymesur gosod cyfyngiadau pellach ar allu pobl i brynu alcohol i'w yfed yn eu cartrefi eu hunain, ond mae'r negeseuon gan y Llywodraeth ynglŷn â sut rydym yn gofyn i bobl ymddwyn, i wneud y peth iawn, yn parhau'n glir.
Mewn ymateb i welliannau 16 a 17, dylwn ddweud bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi dod â rheoliadau i'w trafod a'u penderfynu i'r Senedd yn unol â rheolau'r Senedd hon. O ystyried pwysigrwydd ymateb yn gyflym i'r bygythiad sylweddol i iechyd y cyhoedd, bygythiad sy'n newid, bydd angen inni barhau i weithredu'n gyflym, pryd bynnag y bydd angen, i gadw Cymru'n ddiogel. Er fy mod yn gwrthod y gwelliannau sy'n gysylltiedig â lletygarwch, nid wyf yn bychanu'r effaith negyddol iawn y bydd y cyfyngiadau hyn yn ei chael ar fusnesau ledled Cymru. Dyna pam ein bod wedi darparu'r pecyn mwyaf hael o fesurau yn unrhyw ran o'r DU. Rwy'n cydnabod y gwaith caled yn y sector i gyflwyno mesurau lliniaru, ond yn anffodus, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud dewisiadau anodd ac annymunol iawn i gyflwyno cyfyngiadau pellach. Mae'r penderfyniadau a wnaed gennym wedi'u cefnogi gan gyngor SAGE a'r grŵp cynghori technegol, y cyfeiriais ato'n gynharach, a datganiadau cyhoeddus a chyngor ein prif swyddog meddygol ein hunain.
Mae cynnig y Ceidwadwyr yn galw am yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel 'dull wedi'i dargedu', heb nodi'n glir beth fyddai hynny na'r cyngor a'r dystiolaeth sy'n sail i'r alwad honno am ddull amgen. Yr hyn a glywsom mewn datganiadau cyhoeddus gan y Ceidwadwyr yw'r awydd i gael mwy o gyfyngiadau ar grwpiau unigol o bobl, yn enwedig pobl hŷn. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw fel un anymarferol nid yn unig gan SAGE, ond gan ein grŵp ein hunain, y grŵp cynghori technegol. Gwrthodwyd y cyngor hwnnw ac ni chafodd ei ddilyn gan Weinidog iechyd Plaid Genedlaethol yr Alban yn yr Alban, Gweinidog iechyd Unoliaethwyr Ulster yng Ngogledd Iwerddon a'r Ysgrifennydd Gwladol Ceidwadol dros iechyd sy'n gweithredu dros Loegr. Mae hefyd yn ddull sydd wedi'i wrthod gan bob un o'r pedwar prif swyddog meddygol ledled y DU. Mater i'r Ceidwadwyr, wrth gwrs, yw a ydynt yn dal i ddymuno hyrwyddo'r dull gweithredu hwnnw, ond nid yw'r Llywodraeth hon yn credu ei bod yn ffordd gywir o weithredu i gadw Cymru'n ddiogel.
Roedd pob un ohonom yn gobeithio y byddai'r cyfnod atal byr, a mesurau cenedlaethol wedyn, yn rhoi llwybr i ni hyd at y Nadolig. Yn anffodus, mae'n amlwg nad yw hynny wedi digwydd. Dyna pam y mae angen inni gymryd camau pellach yn awr fel cenedl i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Rwy'n gobeithio y bydd y ffigurau sobreiddiol, cythryblus a difrifol iawn yn ddi-os yn ystod y dyddiau diwethaf wedi gwneud i bob Aelod oedi ac ystyried. Wrth inni wynebu'r posibilrwydd o fwy o niwed, wrth inni wynebu'r posibilrwydd o aeaf caled, anodd ac angheuol o'n blaenau heb newid pellach, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau, yn wyneb y posibilrwydd hwnnw, yn ystyried a ddylai'r Senedd hon bleidleisio heddiw i lacio'r cyfyngiadau. Credaf y bydd gwneud hynny'n sicr o achosi mwy fyth o niwed, ac yn sicr o arwain at farwolaethau y gellir eu hosgoi ymhlith y bobl rydym yn eu gwasanaethu. Ni chredaf fod hwnnw'n ddewis cyfrifol, gan fod yn rhaid i bob un ohonom daro'r cydbwysedd rhwng y niwed o weithredu a'r niwed llawer mwy o wneud dim. Rwy'n gwneud y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Rwyf wedi dethol gwelliannau 2, 3, 4, 5 a 6, a gwelliannau 10 i 17, sydd wedi'u cyflwyno i gynnig y Llywodraeth. Galwaf yn awr ar Darren Millar i gyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig a gwelliannau 2 i 6 i gynnig y Llywodraeth. Darren.
Cynnig NDM7505 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi'r cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do yng Nghymru o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.
2. Yn gresynu at effaith andwyol y cyfyngiadau ar fusnesau a swyddi yng Nghymru.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) atal y cyfyngiadau ar unwaith; a
b) mabwysiadu dull mwy cymesur wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru.
Gwelliant 4 i NNDM7501—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu bod y cymorth ariannol sydd ar gael i fusnesau y mae'r cyfyngiadau'n effeithio arnynt yn annigonol, yn enwedig pan fo cwmnïau wedi gwario symiau enfawr ar sicrhau bod eu safleoedd yn ddiogel i staff a chwsmeriaid o ran COVID-19.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno cynnig y Ceidwadwyr Cymreig ar y papur trefn heddiw a'r holl welliannau a gyflwynwyd i gynnig y Llywodraeth sydd wedi'u cyflwyno yn fy enw i. A gaf fi gofnodi ar ddechrau'r ddadl hon ein bod ni ar feinciau'r Ceidwadwyr Cymreig yn llwyr gydnabod difrifoldeb yr argyfwng iechyd cyhoeddus, nid yn unig yma yng Nghymru, ond ledled y DU ac yn rhyngwladol, a'n bod hefyd yn cydnabod yr angen i weithredu i leihau cyfraddau heintio coronafeirws?
Yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i osod cyfyngiadau newydd ar y sector lletygarwch yn y cyfnod cyn y Nadolig, daeth yn amlwg iawn i ni fod angen dadl ar yr effaith y byddai'r penderfyniad hwn yn ei chael ac i roi cyfle i Senedd Cymru ddweud ei dweud. Ond er gwaethaf hyn, gwrthododd Llywodraeth Cymru hwyluso dadl cyn dechrau'r rheoliadau ddydd Gwener. A bod yn onest, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu ei bod yn warthus nad yw Llywodraeth Cymru wedi galluogi'r Senedd i gynnal pleidlais ystyrlon ar y cyfyngiadau tan heddiw, nifer o ddyddiau ar ôl eu gosod. Y Blaid Lafur yw'r blaid gyntaf i gwyno yn San Steffan os yw'r DU yn cyflwyno rheoliadau cyn pleidlais, beth sy'n wahanol yma? Mae angen iddynt arfer yr hyn y maent yn ei bregethu a sicrhau ein bod yn cael cyfle i bleidleisio yn y Senedd hon pryd bynnag y bydd newidiadau sylweddol yn ei dull o reoli'r coronafeirws. Rhaid inni sicrhau bod pob newid sylweddol yn destun pleidlais cyn ei osod.
Credwn nad yw'r penderfyniad i osod cyfyngiadau difrifol ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant ledled Cymru yn gymesur nac yn rhesymol. Nid yw'r dull gweithredu ledled Cymru a fabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru yn rhoi unrhyw ystyriaeth i'r ffaith bod y feirws yn cylchredeg ar gyfraddau gwahanol iawn mewn gwahanol rannau o Gymru. Prin yw'r dystiolaeth mai'r diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do sy'n gyfrifol am y cynnydd sylweddol yn y cyfraddau heintio mewn rhai rhannau o Gymru, ac mae'n ymddangos nad yw'r dystiolaeth yn bodoli fod atal pobl rhag cael diod alcoholig cyn 6 o'r gloch gyda phryd o fwyd yn fwy peryglus na chael diod feddal gyda'r pryd hwnnw. Ymddengys hefyd nad oes fawr o gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru i bwysigrwydd hanfodol y sector lletygarwch i economi Cymru.
Nawr, rwy'n cydnabod yr hyn y mae'r Gweinidog newydd ei ddweud am annigonolrwydd cymorth ariannol, ac rwy'n croesawu'r ffaith y bydd y gwelliant a gyflwynwyd gennym yn cael cefnogaeth y Llywodraeth. Nid yw'n syndod, o ystyried y diffyg cymorth ariannol digonol gan Lywodraeth Cymru, mai ar nifer gyfyngiedig iawn o achlysuron y gwelwyd Ken Skates yn y dyddiau diwethaf. Yn wir, gwelwyd mwy o—[Torri ar draws.] Gwelwyd cathod mawr yn amlach—er gwaethaf y ffaith iddo ddod i ateb cwestiynau heddiw, gwelwyd cathod mawr yn amlach yn ardaloedd gwledig gogledd Cymru a bod yn onest nag y gwelwyd Gweinidog yr economi.
Nawr, gwyddom na fydd y rhan fwyaf o'r pecyn cymorth ariannol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gael tan fis Ionawr yn anffodus, ac rwy'n gresynu y bydd llawer o gwmnïau ledled Cymru—a nifer fawr ohonynt eisoes wedi bod yn ei chael hi'n anodd goroesi o ganlyniad i'r cyfyngiadau teithio difrifol—wedi mynd i'r wal erbyn hynny. Drwy gydol y pandemig, mae'r Llywodraeth, ar sawl achlysur, wedi ei chael hi'n anodd esbonio i'r cyhoedd sut y mae wedi cydbwyso ei chyfrifoldebau i ddiogelu bywydau a bywoliaeth pobl. Wrth gwrs, mae'n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud penderfyniadau cymesur sy'n rhesymol, ac mae ganddynt rwymedigaeth foesol i ddangos sut y maent wedi bodloni'r profion hynny i bobl Cymru. Ond mae arnaf ofn eu bod wedi methu dangos eu bod wedi bodloni'r profion hynny mewn perthynas â'r mesurau hyn. Mae'r ardaloedd o Gymru megis gogledd Cymru yn arbennig, lle mae'r cyfraddau heintio yn llawer is nag mewn rhannau eraill o'r wlad, lle mae'n ymddangos eu bod yn mynd allan o reolaeth, i'w gweld yn awgrymu bod arnom angen dull gweithredu gwahanol mewn gwahanol rannau o'r wlad. Clywais yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am Weinidogion Llywodraeth y DU yn gwrthod y math o ddull rydym wedi'i awgrymu yma yng Nghymru. Rydych yn anghofio bod ganddynt ddull haenog yn yr Alban a Lloegr, maent yn mabwysiadu dull gwahanol sydd wedi'i dargedu at wahanol rannau o'r wlad oherwydd bod gwahanol gyfraddau o'r feirws yn cylchredeg. Dyna pam y mae ganddynt yr haenau hynny yn eu system.
Mae'r cyfraddau heintio a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn awgrymu bod gan Wynedd gyfradd gylchredeg o'r feirws, cyfradd bositif, o 37.7 o achosion positif ym mhob 100,000 o'r boblogaeth dros y saith diwrnod diwethaf, ac mae'r gyfradd honno'n gostwng. Pan gymharwch hynny â Chastell-nedd Port Talbot yn ne Cymru, lle mae gennym 693.6 achos ym mhob 100,000 yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'n eithaf clir fod arnom angen dull gweithredu gwahanol yn y ddwy ardal honno. Yn wir, Castell-nedd Port Talbot sydd â'r gyfradd heintio waethaf yn y DU gyfan, ac mae naw o'r 10 awdurdod lleol sydd ar y brig o ran y cyfraddau heintio yng Nghymru, a chredaf fod honno'n sefyllfa dorcalonnus sy'n galw am ddull gweithredu wedi'i thargedu'n well o ran yr awdurdodau lleol sydd â risgiau mor fawr yn gysylltiedig â hwy. Nid yw'r gwahaniaethau'n fach, maent yn enfawr, a dyna pam rydym am weld dull gwahanol yn y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r materion hyn, nid y dull cyffredinol ledled Cymru sydd gennym ar hyn o bryd.
Ac yna, ceir yr aelodau o'r cyhoedd sy'n gwneud y peth iawn—maent yn golchi eu dwylo, maent yn gwisgo masg, maent yn aros gartref, maent yn cadw pellter cymdeithasol—a chredwn y dylid eu gwobrwyo am y gwaith caled hwnnw pan fydd gennym sefyllfa lle mae'r feirws dan reolaeth well, ac eto mae Gweinidogion wedi dewis gosod cyfyngiadau difrifol ar bob person yn y wlad oherwydd lleiafrif bach yn rhai o'n cymunedau na fydd byth yn ufuddhau i'r rheolau, ni waeth beth ydynt.
Mae'r diffyg tystiolaeth gan y Llywodraeth hefyd mewn perthynas â'r diwydiant lletygarwch yn peri gofid. Rwy'n nodi, wrth gwrs, fod gwybodaeth bellach wedi'i rhannu yr wythnos hon. Credaf ei bod yn ymwneud â thystiolaeth o fis Ebrill, a oedd yn amlwg yn amser llawer cynharach yn ystod y pandemig ac mae'n debyg ei bod wedi dyddio. Ond nid yw'r dogfennau cyngor diweddaraf hynny a gyhoeddwyd gan Weinidogion yn galw am y math o gyfyngiadau y mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu eu gosod. Nid ydynt yn cyfeirio at y rheol fympwyol 6 p.m. ar gyfer cau safleoedd wedi'u rheoleiddio, na gwahardd gwerthu alcohol. Ac nid yw canlyniadau anfwriadol y rheolau hynny, megis pobl yn cymysgu yng nghartrefi pobl ac yn yfed gyda'i gilydd, gan achosi mwy fyth o heintiau, yn cael eu nodi o gwbl yn y dogfennau hynny.
Mae prif gynghorydd gwyddonol Llywodraeth y DU, Syr Patrick Vallance, wedi cydnabod yr wythnos hon nad oes tystiolaeth gadarn i gyfiawnhau cyrffyw lletygarwch. Ac roedd y Gweinidog yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai gwahaniaethau yn ymagwedd y Ceidwadwyr Cymreig o gymharu â Llywodraeth y DU. Dyna hanfod datganoli, oherwydd rydym am gael ateb i Gymru, nid ateb i Loegr, fel y mae Llywodraeth y DU, wrth gwrs, yn gorfod ei osod. Ond yn wyneb yr holl dystiolaeth hon, neu'r diffyg tystiolaeth, mae'r cyfyngiadau newydd yn fwy chwerw fyth, yn enwedig i'r busnesau lletygarwch sydd wedi cael trafferth i oroesi'r pandemig hyd yma ac sydd wedi gweithio'n galed iawn ac wedi gwario miloedd lawer o bunnoedd i weithredu amgylcheddau diogel rhag COVID ar eu safle er mwyn cadw eu staff a'u cwsmeriaid yn ddiogel.
Ofnaf fod angen atgoffa'r Llywodraeth o'r cyfraniad enfawr y mae'r sector penodol hwn yn ei wneud i'n heconomi a'n cymunedau bob blwyddyn. Mae'r sector lletygarwch yng Nghymru yn cyfrannu £3 biliwn y flwyddyn i'n heconomi. Mae'n cyflogi dros 140,000 o bobl yng Nghymru yn uniongyrchol, a 40,000 arall yn anuniongyrchol. Ac yn ôl prif weithredwr UKHospitality Cymru, y sector lletygarwch yng Nghymru yw'r cyflogwr sector preifat mwyaf ond dau. Mae hynny'n fwy na'r diwydiannau fferyllol, modurol ac awyrofod yng Nghymru gyda'i gilydd. Felly, o ystyried y ffeithiau hyn, mae'n anodd iawn deall pam y mae Llywodraeth Cymru wedi dewis targedu'r diwydiant penodol hwn yn y ffordd y gwnaeth. Byddai unrhyw un sy'n mynychu tafarndai, bwytai a chaffis yn deall y niwed sylweddol y mae'r cyfyngiadau hyn yn ei achosi, felly pam nad yw Llywodraeth Cymru i'w gweld fel pe bai'n deall? Ac mae'n gas gennyf ei ddweud, ond ni allaf beidio â theimlo, pe bai'r cyfyngiadau hyn yn fygythiad mawr i swyddi yn y diwydiant dur, y byddai ymagwedd wahanol iawn gan Weinidogion.
Yn olaf, ar gymorth busnes, mae arnaf ofn ei fod yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Rhy ychydig gan na fydd yn agos at fod yn ddigon i dalu am golli refeniw ar gyfer cyfnod y Nadolig i'r bobl sy'n dioddef nawr, ac yn rhy hwyr, oherwydd ni fydd pobl yn gallu cael y cymorth sydd ei angen arnynt tan fis Ionawr, ac erbyn hynny bydd llawer o fusnesau wedi mynd i'r wal a bydd miloedd lawer o swyddi wedi'u colli.
Felly, wrth gloi, rydym yn deall yr angen i reoli'r feirws ac i ddiogelu bywydau. Dyna pam ein bod wedi cefnogi—ac rwyf am bwysleisio hyn—y rhan fwyaf o'r rheoliadau coronafeirws a osodwyd gerbron y Senedd hon. Ni fyddech yn meddwl hynny pan fyddwch yn gwrando ar y Llywodraeth, ond mae'n ffaith. Rydym wedi cefnogi'r cyfyngiadau hynny oherwydd eu bod wedi'u seilio ar dystiolaeth ac am eu bod yn gymesur, ac wedi'u targedu, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir am y rhain, a dyna pam ein bod yn galw am eu hatal ar unwaith ac eisiau dull mwy cymesur wedi'i dargedu, wrth symud ymlaen. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig.
Diolch. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.23, nid wyf wedi dethol y gwelliannau a gyflwynwyd i gynnig y Ceidwadwyr Cymreig. Galwaf yn awr ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 10 i gynnig y Llywodraeth, a gyflwynwyd yn ei henw ei hun. Caroline.
Gwelliant 10 i NNDM7501—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu:
a) at y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi mynd ar drywydd camau gweithredu yn seiliedig ar dystiolaeth gyfyngedig iawn o'r sefyllfa yng Nghymru;
b) at y ffaith mai effaith gyfyngedig iawn a gaiff y cyfyngiadau ar gyfraddau heintio yng Nghymru;
c) at y ffaith y bydd y cyfyngiadau hyn yn cael effaith barhaol ar swyddi a bywoliaethau ac y byddant yn achosi niwed parhaol i'r sector lletygarwch yng Nghymru.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Cyn imi symud ymlaen i ymdrin â'r cynnig ei hun, rhaid imi gofnodi fy siom ynglŷn â'r ffordd y mae'r sefydliad hwn wedi cael ei drin. Etholwyd y Senedd hon i ddeddfu er budd gorau pobl Cymru, ond oherwydd y dirmyg a ddangoswyd gan Lywodraeth Cymru, mae galw arnom unwaith eto i amenio penderfyniadau sydd eisoes wedi'u gwneud. Cawsom ein hethol i gynrychioli ein hetholwyr, sy'n colli eu swyddi a'u busnesau o ganlyniad i'r penderfyniadau a wneir gan Weinidogion Cymru, ac eto, ni chawsom bleidleisio ar y cyfyngiadau cyn iddynt ddod i rym. Yn hytrach, cawn bleidleisio ar gynnig di-fflach. Nid democratiaeth yw hyn; mae bellach yn unbennaeth etholedig, ac nid yw'n syndod bod y sector cyhoeddus a busnes ehangach yn colli ffydd yn y sefydliad hwn.
Gan symud ymlaen at fy ngwelliant—gwelliant rwy'n ei gynnig yn ffurfiol—nid ydym yn cefnogi penderfyniadau Llywodraeth Cymru, ond o'r blaen, cofnodais fod y Prif Weinidog wedi cael fy nghefnogaeth i reoliadau, ond bellach, yn anffodus, mae'r Prif Weinidog wedi ein gosod ar lwybr a fydd yn effeithio'n fawr ar ein sector lletygarwch, ac na fydd yn cael fawr o effaith ar y pandemig yma yng Nghymru. A bydd y camau gweithredu hyn, a allai gael effaith gyfyngedig ar ledaeniad COVID-19 neu beidio, yn dinistrio'r sector lletygarwch yng Nghymru heb unrhyw amheuaeth. Caeodd llawer o dafarndai eu drysau nos Wener am y tro olaf, a gorffennodd llawer gormod o staff eu sifft olaf gan wynebu'r Nadolig heb swydd, ac mae rhai busnesau wedi dweud wrthyf eu bod yn dal i aros am gymorth ariannol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ac rwy'n ofni bod Cymru'n gweld marwolaeth araf ein heconomi mewn ymdrech ofer i atal y pandemig. Felly, er gwaethaf mesurau sydd wedi difetha rhannau helaeth o'n sectorau twristiaeth a lletygarwch, yn ogystal â manwerthwyr nad ydynt yn gwerthu bwyd, mae gennym y cyfraddau heintio gwaethaf yn y DU. Nid wyf yn arddel yr athroniaeth 'gadewch iddo redeg ei gwrs', oherwydd gall y feirws hwn ddinistrio bywydau, ac mae'n gwneud hynny. Ac eto, ar yr un pryd, ni allwn gau popeth nes bod gennym ddigon o gyflenwadau o'r brechlyn.
Gallai'r effaith hirdymor fod yn llawer gwaeth nag effaith uniongyrchol COVID-19. Faint o gyfleoedd bywyd sydd wedi'u difetha o ganlyniad i'r camau hyn? Faint o bobl fydd yn cael eu condemnio i fywyd o dlodi gan y bydd yn cymryd degawdau i'n heconomi wella? Nid yw heintiau'n cael eu lledaenu mewn sefydliadau lletygarwch, sefydliadau sydd wedi gwario miliynau o bunnoedd i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID ac sy'n sicrhau diogelwch y cyhoedd. Mae'n cael ei ledaenu mewn digwyddiadau mawr dan do gan bobl sy'n credu nad yw'r rheolau ar eu cyfer hwy, crynoadau mawr o 20 o bobl a mwy, yn chwarae ym meysydd parcio archfarchnadoedd; dim masgiau, dim cadw pellter cymdeithasol, ac eto, yn mynd adref at eu teuluoedd wedyn.
Mae llawer o bobl yn cwyno am y negeseuon cymysg nad ydynt yn eu deall; mae pobl yn cael eu drysu gan y rheolau ac yna'n penderfynu anwybyddu'r rheolau'n gyfan gwbl. Maent yn dweud, 'Os yw'n iawn i gyfarfod â phedwar ffrind yn y dafarn, pam ddim gartref?' Rhaid inni gael mwy o eglurder a llai o ddryswch, oherwydd mae rhai pobl yn torri'r rheolau'n anfwriadol. Dylem fod yn anfon neges glir y dylai pobl osgoi pob cysylltiad â phobl nad ydynt yn rhan o'u haelwyd hyd nes y cawn stociau digonol o'r brechlyn. Mae arnom angen system profi, olrhain a diogelu sy'n cynnal profion rheolaidd ar draws y boblogaeth ac yn ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio. Pam ein bod yn methu mynd i'r afael â phobl sy'n torri'r rheolau'n fwriadol, ac yn defnyddio'r sector lletygarwch fel bwch dihangol ynghyd â'r bobl sy'n cydymffurfio â'r gyfraith? Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant. Diolch yn fawr. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 11 i 17 i gynnig y Llywodraeth, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian?
Gwelliant 14 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i amlinellu
a) yr amcanion penodol y mae'n gobeithio y bydd y cyfyngiadau cenedlaethol newydd a amlinellwyd yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn eu cyflawni; a
b) beth fydd y trothwy ar gyfer llacio'r mesurau hynny.
Gwelliant 15 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.
Gwelliant 16 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cytuno y dylai Llywodraeth Cymru fabwysiadu rhagdybiaeth o blaid cynnal pleidlais ystyrlon yn y Senedd cyn y bydd unrhyw gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach a gaiff yr un fath o effaith â'r rhai a amlinellir yn natganiad y Prif Weinidog i'r Senedd ar 1 Rhagfyr yn dod i rym.
Gwelliant 17 i NNDM7501—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfle i'r gwrthbleidiau wneud ceisiadau rhesymol am fodelu annibynnol gan y gell cyngor technegol ar gynigion amgen mewn perthynas â materion fel cau'r sector lletygarwch ac ymyriadau eraill nad ydynt yn rhai fferyllol.
Diolch yn fawr, Dirprwy Llywydd.
Rydym ar adeg dyngedfennol arall yn stori'r pandemig hwn; mae hynny'n glir. Dylai clywed am uwch weithredwyr iechyd neu feddygon yn siarad am eu hofn ynglŷn â'r hyn sydd o'n blaenau beri pryder i bob un ohonom. Gallem dreulio llawer o amser yn edrych yn ôl ar yr hyn sydd wedi digwydd. Mae'r Ceidwadwyr, rwy'n gwybod, wedi dadlau yr wythnos hon er enghraifft, fod y cyfnod atal byr wedi methu. Nid wyf i'n credu bod y cyfnod atal byr wedi methu mewn gwirionedd. Yr hyn a aeth o'i le oedd diffyg strategaeth newydd ar gyfer ar ôl y cyfnod atal byr, a llacio llawer rhy sydyn wedi'r cyfnod atal byr. Nawr, yn anffodus, rydym yn ymdrin â chanlyniadau hynny, ond gadewch inni ganolbwyntio ar edrych ymlaen.
Rwy'n sicr yn sylweddoli bod y Llywodraeth yn gweithio mewn amgylchiadau eithriadol o anodd yma, ond daw ein gwaith craffu'n bwysicach ar adeg fel hon. Mae'n ymwneud â cheisio annog gwell penderfyniadau, felly gadewch imi fynd drwy ein gwelliannau i gynnig y Llywodraeth. Mae'r tri cyntaf yn ymdrin â'r meysydd sydd wedi bod yn fwyaf o dân ar groen rhan sylweddol o'r farn gyhoeddus—y rheolau ynghylch lletygarwch. I fod yn glir, ni fyddwch yn fy nghlywed i, nac unrhyw un o fy nghyd-Aelodau'n dweud y dylai'r cyfnod cyn y Nadolig fod yn unrhyw beth tebyg i normal. Nid wyf yn clywed y sector lletygarwch yn dweud hynny ychwaith, a chyda lefelau heintio a chyfraddau profion positif yn codi fwy neu lai ym mhobman, mae'n rhaid inni edrych ar sut y mae pob agwedd ar y ffordd rydym yn byw ein bywydau yn effeithio ar ledaeniad y feirws, o waith i deithio i hamdden ac ie, y ffordd rydym yn rhyngweithio â'r sector lletygarwch ac yn ei fwynhau. Mae cyfyngu ar gyswllt personol a chysylltiad posibl rhwng pobl, yn enwedig yn hwyr yn y nos pan fo'r hwyliau'n well, gadewch i ni ddweud, yn gwneud synnwyr mewn sawl ffordd.
Ond graddau'r cyfyngiadau rydym yn eu cwestiynu yma. Rydym yn cwestiynu a yw'r Llywodraeth wedi gwneud pethau'n iawn. Mae'r gwaharddiad llwyr ar alcohol, er enghraifft, wedi gwneud i lawer o bobl gwestiynu'r rhesymeg, a gall hynny arwain at danseilio ymddiriedaeth. Gall unigolion o bedair aelwyd gyfarfod am goffi. Ni all hyd yn oed un unigolyn gael peint tawel yn yr un sefydliad. Nawr, rwy'n gwybod nad pobl sy'n cael peint tawel yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn poeni amdano, ond maent yn dal i gael eu heffeithio hefyd, ac mewn cyferbyniad llwyr, gall archfarchnadoedd ddal i werthu cymaint o alcohol ag y maent yn ei ddymuno tan yn hwyr gyda'r nos. Unwaith eto, gall pobl o bedair aelwyd gael cinio, ond ni all pâr sy'n byw gyda'i gilydd gael pryd o fwyd gyda'r nos. Rydym yn awgrymu efallai nad oes angen gwaharddiad llwyr ar alcohol. Gellir caniatáu prydau gyda'r nos hyd at 8 o'r gloch, dyweder, gan ganiatáu i rywfaint o fasnach ddigwydd. A chofiwch fod y sector cyfan wedi gweithio'n galed tu hwnt ac wedi buddsoddi'n helaeth hefyd, i geisio gweithio'n ddiogel rhag COVID.
Ond dyma'r allwedd—a chyfeiriaf at ein gwelliant arall: beth yw'r dystiolaeth, y dystiolaeth benodol, ar y niwed a achosir gan fwytai er enghraifft? Ar y rheswm pam y mae cau'r holl letygarwch am 6 o'r gloch yn cyfrannu at y nodau cyffredinol, yn hytrach nag amser diweddarach efallai? Beth yw'r nodau hynny—yr amcanion penodol? Beth yw'r trothwyon y gallwn edrych ymlaen atynt ar gyfer llacio mesurau? Mae ein gwelliant 15 yn dweud,
'y dylid cyhoeddi cyngor diweddaraf cell cyngor technegol Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r holl ddata sy'n cefnogi'r penderfyniadau polisi, ochr yn ochr ag unrhyw gyhoeddiad ar gyfyngiadau coronafeirws cenedlaethol pellach, neu cyn cyhoeddiad o'r fath.'
Mae hyn mor bwysig, ac mae wedi bod yn dda clywed galwadau am gyhoeddi tystiolaeth yn amserol oddi ar feinciau ochr y Llywodraeth hefyd.
Cyfeiriaf hefyd at welliant 17. Rydym yn gwneud rhai awgrymiadau heddiw yn seiliedig ar ymchwil, onid ydym? Ar arfer gorau mewn mannau eraill, ac yn y blaen. Ond rydym yn gofyn yma am allu cael modelau gan wyddonwyr a chynghorwyr y Llywodraeth ar ein cynigion amgen. Mae'n amlwg fod hwn yn welliant yn yr ysbryd o sicrhau, neu geisio cyflawni, y canlyniadau gorau i Gymru—rhywbeth y dylem i gyd fod yn ei geisio.
Mae apêl i'r Ceidwadwyr yno hefyd: dewch â'ch cynigion at y bwrdd. Nid yw siarad gwag a brygowthan yn gwneud y tro yn y pandemig hwn, ac mae bychanu risgiau i iechyd yn cynyddu risgiau i iechyd. Gwae chi os gwnewch chi hynny. Byddwn yn pleidleisio o blaid eich gwelliannau heddiw. Mae nifer ohonynt, fel ein rhai ni, yn galw am fwy o dystiolaeth er enghraifft, ond rwy'n rhoi un cafeat mawr. Rydym yn pleidleisio dros welliant 2 oherwydd ein bod yn gweld yr angen i ymateb mewn gwahanol ffyrdd mewn gwahanol rannau o Gymru, ond gall hynny fynd y ddwy ffordd. A dweud y gwir, ar hyn o bryd mae hynny'n debygol o olygu'r angen am fesurau ychwanegol mewn rhai mannau, mwy o gymorth i hunanynysu, mwy o adnoddau i helpu cymunedau lle ceir nifer uchel o achosion o'r feirws.
Byddwn yn ymatal ar gynnig dadl y Ceidwadwyr ei hun. Rwy'n credu ein bod wedi mynegi ein safbwynt yn eithaf clir yn y ffordd rydym yn pleidleisio ar y gwelliannau eraill, ac er ein bod yn gytûn ar rai elfennau rwyf wedi'u hamlinellu yno, ni all hyn ymwneud ag atal cyfyngiadau'n gyfan gwbl. Nid wyf yn meddwl bod neb ym maes lletygarwch hyd yn oed, fel y dywedais, yn galw am hynny mewn gwirionedd. Yr hyn rydym ei eisiau yw ailfeddwl ynglŷn â rhai elfennau, ac mae'n amlwg y byddai awgrymu codi'r holl gyfyngiadau nawr yn niweidiol i iechyd. Nid dyma'r adeg, fel y clywsom rai ar feinciau'r Ceidwadwyr yn awgrymu, i esgus bod rhannau o Gymru rywsut yn ddiogel rhag y feirws hwn—nid yw hynny'n wir—a diolch byth, mae rhannau o'r wlad yn gwneud yn well nag eraill, gan gynnwys fy etholaeth i, ond mae atal yn well na gwella yn amlach na pheidio.
A wnewch chi ddechrau dirwyn i ben?
I orffen felly, fodd bynnag, credwn fod y Llywodraeth yn anghywir am elfennau o'r cyfyngiadau cenedlaethol hyn, felly rydym yn gofyn iddynt ailfeddwl. Ac mae'n teimlo'n anghywir iawn, rwy'n meddwl, mewn rhannau o Gymru lle mae llai o achosion o'r feirws. Rydym yn galw am ailfeddwl ynglŷn â rhai elfennau. Rydym yn gofyn eto, ar bob cam o'r stori hon, i chi ddangos yn glir i ni a'r cyhoedd yng Nghymru ar ba sail y gwneir penderfyniadau.
Diolch. Mae gennyf nifer o siaradwyr yn y ddadl hon, neu'r ddwy ddadl sydd wedi'u grwpio, felly os gwnaf apêl i chi i gyd ystyried eich cyd-Aelodau ac os gallwch dorri rhai eiliadau neu rai brawddegau o'ch cyfraniad, efallai y gelwir ar eich holl gyd-Aelodau eraill. Os na, nid wyf yn credu y bydd gennym ddigon o amser. Felly, gadawaf hynny i gydwybod pawb gyda'r Nadolig ar y ffordd. Alun Davies.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a byddaf yn sicr o nodi'r hyn rydych wedi'i ddweud. Rydym yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus go iawn wrth gwrs, ac nid oes yr un ohonom wedi profi ei debyg o'r blaen, ond credaf fod gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn ymdrin â'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Mae gennym argyfwng hefyd o ran sut rydym yn trafod ac yn cyfathrebu â'n gilydd. Ddirprwy Lywydd, rydym yn trafod llawer o faterion yma yn y Senedd hon, ond mae gennym gyfrifoldebau sylweddol yn y materion penodol hyn, ac mae'n rhaid i mi ddweud mai anaml yn y blynyddoedd y bûm yn eistedd yma y teimlais bwysau'r cyfrifoldeb hwnnw mor drwm ar ein hysgwyddau ag y mae heddiw ac yn y cyfnod hwn.
Mae'n amlwg i mi fod y feirws yn lledaenu'n gyflym ac felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gymryd camau brys i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gael rhyddid i gymryd camau o'r fath. Clywaf yr hyn a ddywed Aelodau amdanom yn pleidleisio ar y materion hyn, ac rwyf bob amser wedi bod gyda'r mwyaf awyddus i amddiffyn hawliau'r Senedd hon, ond rhaid i'r Llywodraeth allu gweithredu pan fo angen hefyd.
A dywedaf hyn wrth y Ceidwadwyr: gwrandewais ar lefarydd y Ceidwadwyr a'm siomodd am yr eildro heddiw, mae arnaf ofn. Yr wythnos diwethaf, rwy'n credu, gofynnais i'r Llywodraeth ynglŷn â'r cyngor y maent yn ei ddilyn ar gyfer gwneud penderfyniadau ar letygarwch. Gwneuthum ymyriad ar y Prif Weinidog i ddweud bod angen inni sicrhau bod y cyngor hwn yn cael ei gyhoeddi ochr yn ochr â'r penderfyniad. Mae'r cyngor hwnnw wedi'i gyhoeddi ac yn wahanol i'r Ceidwadwyr, rwyf wedi cymryd peth amser i ddarllen y cyngor hwnnw a'i ddarllen yn fanwl. Ac mae'n rhaid i mi ddweud hyn: mae'r cyngor gan y gymuned wyddonol, y cyngor gan y gymuned feddygol i'r Llywodraeth yn sicr yn cyfiawnhau'r penderfyniadau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud. Mae'r cyngor hefyd yn glir iawn nad oedd y dull rhanbarthol a brofwyd yn gynharach eleni yn cael yr un effaith â rheoliadau cenedlaethol. Roedd hynny hefyd yn y cyngor. Roedd y cyngor hefyd yn glir iawn yn yr hyn a ddywedai am letygarwch. Rwyf wedi rhannu'r cyngor hwn gyda thafarnwyr yn fy etholaeth fy hun. Maent wedi rhoi amser i'w ddarllen ac maent yn ei ddeall. Nid yw'n ormod gofyn, Ddirprwy Lywydd, i'r brif wrthblaid yma wneud yr un peth.
Mae'n bwysig fod Llywodraeth Cymru yn parhau i gyhoeddi a rhoi cymaint o wybodaeth ag sy'n bosibl i'r cyhoedd ar yr adeg y mae'n gwneud penderfyniadau ar reoliadau. Mae pobl Blaenau Gwent yn wynebu un o'r sefyllfaoedd anoddaf y mae ein cymuned wedi'i hwynebu. Rydym yn gweld ac yn deall difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Mae ystadegau heddiw yn dweud wrthym fod 574 o achosion ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn adlewyrchu'r hyn a ddywedwyd wrthym yr wythnos diwethaf gan y bwrdd iechyd. Dywedodd y bwrdd iechyd wrthym fod ein hysbytai yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Mae'r bobl rydym yn dibynnu arnynt ac yn ymddiried ynddynt i staffio'r ysbytai hynny dan fwy o bwysau heddiw nag y buont ar unrhyw adeg. Mae mwy o bobl heddiw yn yr ysbyty yng Ngwent o ganlyniad i'r coronafeirws nag a fu ar unrhyw adeg dros y naw mis diwethaf. Nid yw'r rhain yn faterion y gallwn gael gwared arnynt drwy ddymuno hynny'n unig, ac nid ydynt yn faterion y gallwn eu hanwybyddu oherwydd ei bod yn wleidyddol hwylus inni wneud hynny. Roedd y bwrdd iechyd yn glir, wrth siarad â ni fel cynrychiolwyr etholedig, eu bod yn cefnogi'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, ac mewn gwirionedd maent am i Lywodraeth Cymru symud ymhellach yn gyflymach. Mae'n bryd inni wrando ar yr hyn y mae'r meddygon a'r staff meddygol a'r gymuned wyddonol yn ei ddweud wrthym. Mae gan unrhyw un sy'n ceisio swydd etholedig, ac unrhyw un sy'n ceisio llywodraethu'r wlad hon, gyfrifoldeb arbennig i wrando ar y cyngor hwn, ac ymateb iddo a'i ddilyn.
Mae pobl Blaenau Gwent yn teimlo hyn yn drwm iawn. Rwy'n siarad ac maent yn deall beth sy'n digwydd yma yng Nghymru. Maent hefyd yn deall y cyfyngiadau sy'n digwydd mewn mannau eraill ar draws yr Undeb Ewropeaidd a ledled y Deyrnas Unedig. Maent yn deall y cyfyngiadau haen 3 yn Lloegr. Maent yn deall beth y mae lefel 3 a beth y mae lefel 4 yn yr Alban yn ei olygu. Maent yn gwybod beth rydym ni yn ei wynebu. Rhaid i'r Llywodraeth weithio gyda hwy i esbonio a chyhoeddi'r wybodaeth, a rhaid i'r gwrthbleidiau gefnogi'r hyn sy'n iawn a pheidio â cheisio sgorio pwyntiau mewn dadl wleidyddol ddiffrwyth. Mae'n bryd i ni fel gwlad sefyll gyda'n gilydd, ac mae'n bryd i ni fel gwlad ddiogelu'r gwasanaeth iechyd gwladol, nid curo dwylo'n unig, ac mae hynny'n golygu pleidleisio dros y penderfyniadau anodd y cafodd pawb ohonom ein hethol i'w gwneud.
Fel y dywed ein cynnig, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu dull mwy cymesur ac wedi'i dargedu o fynd i'r afael â'r coronafeirws yng Nghymru. Maent yn datgan bod eu gweithredoedd yn seiliedig ar gyngor y grŵp cynghori technegol, ond er bod datganiad y grŵp ar 2 Rhagfyr yn cydnabod ymdrechion y diwydiant i greu amgylcheddau sy'n ddiogel rhag COVID, mae'n canolbwyntio yn lle hynny ar gamau gorfodi yn erbyn y gyfran fach iawn o safleoedd lletygarwch yng Nghymru sy'n torri'r cyfyngiadau. Felly, er bod ymyriadau wedi'u targedu o'r fath yn gweithio, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio dull bras a llym o weithredu.
Fel y clywsom yng ngrŵp trawsbleidiol mis Hydref ar gwrw a'r dafarn, mae tafarndai yng Nghymru mewn cyfnod anodd tu hwnt. Mae eu hyder i fasnachu yn fregus iawn, mae nifer eu staff eisoes wedi gostwng dros chwarter yn ystod y pandemig, maent yn hyderus bod rheolaethau COVID ar waith yn eu hadeiladau, ac mae angen i lunwyr polisi edrych ar y dystiolaeth sy'n dangos mor isel yw cyfraddau heintio COVID-19 mewn safleoedd trwyddedig. Fel y dywedodd Sefydliad Tafarnwyr Prydain y mis hwn,
Roedd ein tafarndai ymhlith lleoliadau lletygarwch a groesawodd 60 miliwn o ymwelwyr yr wythnos yn ddiogel drwy gydol yr haf, heb unrhyw effaith amlwg ar gyfraddau heintio cenedlaethol. Yna, creodd mis Medi storm berffaith i dafarndai... gyda thafarndai a lletygarwch yn cael eu beio'n annheg.
Wrth siarad yn y Cyfarfod Llawn bedair wythnos yn ôl, tynnais sylw at arolwg twristiaeth gogledd Cymru ar effaith cyfyngiadau symud ar y sectorau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu a hamdden a'u cadwyni cyflenwi yng ngogledd Cymru, a ganfu y byddai 39 y cant o fusnesau twristiaeth, lletygarwch, manwerthu a hamdden yng ngogledd Cymru'n rhoi'r gorau i fasnachu pe bai unrhyw gyfyngiadau symud cenedlaethol neu leol pellach. Pwysleisiais eu galwad ar Lywodraeth Lafur Cymru i ymgysylltu'n ystyrlon, yn rhanbarthol ac yn lleol â busnesau cyn gosod rhagor o gyfyngiadau symud—ac eto cawsant eu hanwybyddu.
Ar ôl ymyriadau blaenorol y Prif Weinidog, Cymru oedd yr unig ran o'r DU lle nad oedd heintiau'n gostwng ar ddiwedd mis Tachwedd. Yr wythnos diwethaf, anfonwyd llythyr agored at y Prif Weinidog gan Gyngor Busnes Gogledd Cymru Mersi a'r Ddyfrdwy ar ran dros 150 o fusnesau ledled gogledd Cymru. Fel y dywed, fel busnesau ledled Cymru a'r DU ehangach,
Mae ein busnesau... wedi... buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian i wneud eu lleoliadau a'u busnesau'n ddiogel rhag Covid ac mae'n ymddangos nad oes enghreifftiau'n bodoli o dystiolaeth uniongyrchol fod cysylltiad rhyngddynt ag unrhyw raddau sylweddol o drosglwyddiad Covid-19.... Yn yr ychydig ddyddiau ers cyhoeddi cyfyngiadau ychwanegol yng Nghymru, bu'n rhaid i nifer fawr o fusnesau ganslo archebion gwerth degau o filoedd o bunnoedd iddynt, gan ddileu unrhyw obaith gwirioneddol o ffynhonnell olaf o refeniw ar ddiwedd blwyddyn drychinebus, gan ddisgwyl rhagor o'r un peth ar gyfer y misoedd i ddod.
Mae llythyr gan gyfreithiwr sy'n cynrychioli busnes lletygarwch yn nodi bod busnesau mewn ardaloedd gwledig yn cael eu rhoi dan anfantais oherwydd gwrthodiad Llywodraeth Cymru i ystyried system haenau neu fesurau mwy lleol i ymladd COVID-19 a'i reoli. Ysgrifennodd Cynllun Gwylio Tafarndai Gorllewin Conwy at y Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu:
Mae eich penderfyniad diweddaraf i gadw tafarndai Cymru ar agor heb ganiatáu i ni weini alcohol yn jôc llwyr nad yw'n gwneud unrhyw synnwyr. Mae'r ffaith eich bod wedi cael caniatâd, wedi eich annog hyd yn oed, i wneud hyn yn ffiaidd.
Dywedodd tafarndai yn Wrecsam a Sir y Fflint fod gweithredoedd y Prif Weinidog yn cyfleu'r neges i'r cyhoedd, 'Peidiwch ag yfed yng Nghymru i achub bywydau, ond teithiwch i Loegr ychydig dros y ffin oddi wrthym, am beint a sglodion yn lle hynny, gan amddifadu economi Cymru ar adeg niweidiol o'r flwyddyn a'i drosglwyddo i economi Lloegr.' Fel y dywedodd un, y broblem yw'r strategaeth o dargedu lletygarwch yn ei gyfanrwydd, ac rydym wedi rhoi cymaint o amser, arian a phwyslais ar gadw pellter cymdeithasol, glanweithdra a goruchwyliaeth. Fel y dywedodd un arall, ac rwy'n dyfynnu:
Mae Llywodraeth Mr Drakeford wedi colli cysylltiad, yn anghyson ac yn ymylu ar unbennaeth.
Dyfyniadau a gafwyd gan feddygon yw fy sylwadau terfynol. Meddygon a wnaeth y sylwadau hyn:
Bydd rheoleiddio cynyddol gaeth nad yw'n seiliedig ar dystiolaeth yn dieithrio'r rhai sy'n deall yr angen am rai cyfyngiadau a newidiadau i fywyd am gyfnod, ac yn eu hannog i anwybyddu'r cyfyngiadau.
Un arall:
Gwyliais y diweddariad y prynhawn yma. Am ddatganiad di-fflach, anwybodus ac yn amlwg wedi arfer gwneud esgusodion. A oes gan Lywodraeth Cymru gynllun?
Ac:
Yn hytrach na chosbi pobl weithgar, mae angen i'r Prif Weinidog wrando ar eu galwadau ac adolygu ei fesurau didrugaredd ar frys cyn y bydd hi'n rhy hwyr arnynt.
Meddygon sy'n dweud hyn wrthyf.
Hoffwn siarad yn bennaf am ein gwelliannau 11, 12 a 13, ac rwyf am ddechrau, os gallaf, gyda gwelliant 12. Mae'n ymddangos i ni fod cymaint o reswm, os nad mwy, dros bryderu am ledaeniad y feirws yng nghartrefi pobl os oes llawer iawn o alcohol yn cael ei yfed, nag sydd o reswm dros boeni am ledaeniad y feirws mewn lleoliadau lletygarwch. Nid oes neb am gael ymateb anghymesur i'r argyfwng, rwy'n siŵr, ond rwy'n teimlo, ac rydym yn credu, fod achos dros gyfyngu—. Os oes achos dros gyfyngu ar werthu alcohol yn gyfan gwbl mewn safleoedd trwyddedig, lle mae pobl o leiaf yn bwyta bwyd ac yn yfed alcohol dan oruchwyliaeth o bosibl, fel y mae eraill wedi dweud, mae angen ystyried a ddylem geisio sicrhau bod modd osgoi'r senario lle mae pobl yn cael eu potel o win gyda swper ac yna'n penderfynu mynd i siop y gornel i brynu dwy neu dair arall. Gallaf ddeall amharodrwydd Gweinidogion i ymyrryd yn anghymesur yn ymddygiad pobl yn eu cartrefi eu hunain—rwy'n deall hynny—ond os ydym yn dweud wrth ein busnesau lletygarwch fod angen iddynt ddioddef ergyd anghymesur ar hyn, credaf y dylai'r Llywodraeth ystyried o bosibl a ddylai'r ergyd honno gael ei gwasgaru'n fwy cyfartal os yw ein pryderon—. Mae'n debyg mai un o'n pryderon—a dof at hyn mewn munud—ynglŷn â chyfyngu'r holl werthiannau alcohol mewn lletygarwch yw y bydd yn mynd i mewn i gartrefi pobl lle mae llai o allu i reoli faint o alcohol a yfir ac felly'r risg o leihau ataliad a hyrwyddo'r lledaeniad.
Dylwn ddweud, cyn imi fynd ymlaen at welliannau 11 a 13, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, nid oes neb ar y meinciau hyn, nid oes neb ym Mhlaid Cymru yn bychanu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa hon ac nid oes neb yn awgrymu y dylem ddileu'r holl gyfyngiadau. Ond rydym yn annog Llywodraeth Cymru i edrych eto i weld pwy y mae'r cyfyngiadau penodol hyn yn effeithio arnynt. Ac wrth wneud hynny, gadewch imi ddweud wrthych am Phillip. Plymwr yw Phillip. Cyfarfûm ag ef a chawsom sgwrs gan gadw pellter cymdeithasol ar y stryd yn Llanelli ddydd Sadwrn diwethaf. Mae'n hunangyflogedig, mae'n byw ar ei ben ei hun ac ni fydd yn treulio'r Nadolig hwn gyda'i rieni oedrannus oherwydd eu bod wedi gorfod penderfynu pa rai o'u plant a phlant eu plant y gallant fod gyda hwy, ac mae gan frodyr a chwiorydd eraill Phillip wyrion y mae eu rhieni am eu gweld. Felly, mae wedi penderfynu'n hapus—wel, yn derbyn—na fydd yn gallu eu gweld. Ddwy neu dair gwaith yr wythnos, weithiau bedair gwaith, ar ei ffordd adref o'r gwaith, mae Phillip yn aros yn y dafarn am un, efallai dau beint o gwrw—anaml iawn y caiff fwy na hynny oherwydd mae'n rhaid iddo godi'n gynnar yn y bore. Ni all wneud hynny nawr. Gan nad yw ei dafarn leol yn cael gwerthu alcohol, nid yw'n ymarferol iddynt agor, ac oherwydd bod yn rhaid iddi gau am 6 o'r gloch a'i fod ef yn gorffen gweithio am hanner awr wedi pump, nid oes amser iddo gyrraedd adref, ymolchi a chyrraedd yno. Felly, rwy'n annog Llywodraeth Cymru, pan fyddant yn adolygu'r cyfyngiadau, i feddwl pwy mae'r cyfyngiadau hynny'n effeithio arnynt a pha effaith y maent yn ei chael ar fywydau'r bobl hynny.
Mae Phillip yn ofalus iawn i gadw ei bellter pan fydd yn gweithio yng nghartrefi pobl. Byddai llawer o'i gyswllt cymdeithasol yn y gorffennol wedi cynnwys sgwrsio gyda'i gwsmeriaid yn ogystal â dweud helo mewn ffordd sy'n cadw pellter cymdeithasol wrth ei ddau neu dri ffrind yn y dafarn. Mae bellach mewn sefyllfa lle na all gael dim o hynny. Felly, gall menywod sy'n ciniawa, nad ydynt yn y gwaith ac sy'n gallu mynd allan i gael eu pryd o fwyd amser cinio, o leiaf gwrdd â'i gilydd, hyd yn oed os na allant gael diod pan fyddant yn cwrdd â'i gilydd. Ond ni all Phillip weld neb, ac eithrio ar benwythnosau, oherwydd y ffordd y mae ei waith wedi'i strwythuro. Nawr, nid wyf yn meddwl am funud fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi pobl fel Phillip mewn sefyllfa lle maent yn fwy unig, ond rwy'n eu hannog i ystyried sut y mae pobl yn byw eu bywydau ac i feddwl, pan fyddant yn edrych ar y cyfyngiadau eto, a allem ganiatáu i un neu ddau o ddiodydd alcoholig gael eu hyfed, fel sydd wedi'i wneud mewn gwledydd eraill. A allem ganiatáu i letygarwch agor am awr neu ddwy ar ôl i'r rhan fwyaf o bobl orffen gweithio, fel y gall pobl fel Phillip, gyda llawer ohonynt yn ddynion sy'n byw ar eu pen eu hunain mewn gwirionedd, gael y lefel honno o gyswllt cymdeithasol?
Nid wyf am funud yn awgrymu, Ddirprwy Lywydd, fod unrhyw un o'r dewisiadau hyn yn hawdd, ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych fy mod wedi adnabod Phillip ers tipyn ac mae wedi dilyn y rheolau i'r llythyren. Wyddoch chi, mae'n camu naill ochr fel y gall ei frodyr a'i chwiorydd dreulio amser gyda'u rhieni dros y Nadolig. Gofynnodd imi ofyn pam—pam y mae'r rheoliadau wedi'u strwythuro fel y maent. Er bod tystiolaeth o ledaenu'r feirws mewn lletygarwch, nid wyf yn siŵr a oes tystiolaeth fod y feirws yn lledaenu o fewn lletygarwch mewn tafarndai a reoleiddir yn briodol fel tafarn leol Phillip, gyda phobl yn cael un neu ddau o ddiodydd yn gynnar gyda'r nos. Mae'n wir, fel y mae eraill wedi dweud, fod lleiafrif bach o dafarnwyr yn y sector lletygarwch wedi caniatáu ymddygiad amhriodol. Mae'n wir bod rhai unigolion wedi bod yn anghyfrifol, ond mae llawer mwy o unigolion wedi cadw at y rheolau ac maent wedi'i chael hi'n anodd. Rwy'n gobeithio y gall y Llywodraeth ystyried—
A gaf fi ofyn i chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, rwyf am orffen gyda hyn: gofynnaf i'r Llywodraeth ystyried a allwn amrywio'r bobl y mae'r cyfyngiadau hyn yn effeithio arnynt, oherwydd mae gan rai pobl fwy o opsiynau a mwy o ddewisiadau nag eraill. Y cyfan y mae angen inni ei wneud yw dangos ychydig o drugaredd ac ychydig o ddealltwriaeth ynglŷn â sut y mae pobl yn byw eu bywydau, yn ogystal â blaenoriaethu camau i leihau lledaeniad y feirws, wrth gwrs.
Diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl heddiw ac i gefnogi'r camau pellach sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i gadw pobl yn ddiogel yn yr argyfwng iechyd cyhoeddus digynsail hwn. Mae fy nghalon yn gwaedu dros y rhai yn y diwydiant lletygarwch sydd wedi gweithio'n galed i geisio gwneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID, ond rwy'n credu, fel y gwneuthum drwy gydol y pandemig hwn, mai diogelu iechyd y cyhoedd yw'r brif flaenoriaeth. Fel y dywedodd Alun Davies, mae sefyllfa iechyd y cyhoedd yng Ngwent yn llwm ac mae'r pwysau ar ein GIG yn aruthrol. Ar hyn o bryd mae mwy o gleifion yn yr ysbyty yng Ngwent nag ar unrhyw adeg arall yn ystod y pandemig. Ceir heriau staffio enfawr, gydag absenoldeb staff bron yn 10 y cant. Golyga hynny fod tua 1,250 o bobl bob dydd heb fod ar gael i weithio. Yr wythnos diwethaf, gorfodwyd gwasanaeth ambiwlans Cymru i ddatgan digwyddiad o bwys yn ne-ddwyrain Cymru.
Mae'r sefyllfa hon yn debygol o waethygu os bydd heintiau'n parhau ar eu llwybr presennol. Rydym yn gweld nifer uchel a chynyddol o heintiau mewn cartrefi gofal ledled Gwent. Yn yr ail don hon, mae fy etholaeth i, sef Torfaen, wedi cael ei tharo'n wael, gyda 271 o achosion mewn cartrefi gofal. Y tu ôl i bob un o'r ystadegau hynny mae teulu wedi'i effeithio gan COVID. Rydym i gyd wedi adnabod pobl sydd wedi colli pobl yn drasig i COVID yn yr amgylchiadau mwyaf ofnadwy. Yn onest, ni allaf ddychmygu dim sy'n anoddach na cholli rhywun annwyl heb fod yno i ddal eu llaw.
Rhaid inni beidio byth ag anghofio effaith barhaus yr argyfwng hwn ar staff ein GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio dan bwysau anhygoel ers mis Mawrth. Mae gennym ddyletswydd gofal i'r rheini y gofynnwn iddynt weithio ar y rheng flaen yn yr argyfwng hwn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i dalu teyrnged i'r holl staff GIG a gofal cymdeithasol sydd wedi gweithio'n ddiflino ac sydd wedi aberthu cymaint yn y pandemig hwn. Nid yw'r aelodau hynny o staff angen Aelodau o'r Senedd sy'n fodlon clapio ar garreg eu drws. Nid ydynt angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i chwarae gwleidyddiaeth gyda'r argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf a welsom ers 100 mlynedd. Maent angen Aelodau o'r Senedd sy'n barod i wneud y penderfyniadau anodd sy'n angenrheidiol i gadw pobl yn ddiogel.
Gan ein bod hefyd yn trafod cynnig y Ceidwadwyr Cymreig heddiw, hoffwn ddweud ychydig eiriau amdanynt. Gwn fod llawer o'r Aelodau yn y blaid gyferbyn yn cydnabod ein bod yn wynebu argyfwng iechyd cyhoeddus na welwyd ei debyg o'r blaen ac sydd am weithio'n adeiladol ar draws pleidiau gwleidyddol i gadw pobl Cymru'n ddiogel. Ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn ystyried bod ymagwedd arweinydd yr wrthblaid a pharodrwydd llefarydd iechyd y Ceidwadwyr Cymreig i chwarae gwleidyddiaeth gydag iechyd y cyhoedd yn ddychrynllyd yn ddiweddar. Ddoe ddiwethaf roedd arweinydd yr wrthblaid yn trydar bod preswylwyr mewn cartrefi gofal wedi cael eu hanwybyddu yn ymgyrch frechu COVID Llywodraeth Cymru, er ei fod yn gwybod yn iawn fod gofynion storio'r brechlyn Pfizer yn golygu na allwn ddarparu'r brechlyn yn ddiogel mewn cartrefi gofal eto. Felly, gyda phob parch, hoffwn atgoffa arweinydd yr wrthblaid, nad yw wedi dileu'r trydariadau hynny, fod y gwirionedd yn nwydd hanfodol mewn argyfwng iechyd cyhoeddus.
Ddoe, gyda dechrau'r rhaglen frechu, cawsom lygedyn o obaith ym mhen draw'r twnnel hir a thywyll rydym i gyd wedi bod ynddo—gobaith y bydd bywyd yn edrych yn wahanol iawn y flwyddyn nesaf, nid ar unwaith efallai, ond yn y gwanwyn neu'r haf. Ar ddechrau'r hyn sydd, gobeithio, yn ddechrau'r diwedd ar y pandemig hwn, a ydym mewn gwirionedd am golli bywydau y gallem eu hachub drwy wneud penderfyniadau anodd nawr? Yn sicr, nid wyf fi eisiau hynny, a dyna pam rwy'n cefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Nid yw'r penderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yng Nghymru ynghylch rheoli'r ymateb i'r pandemig yn rhai du a gwyn. Yn fy marn i, nid yw'n ymwneud â bywydau neu fywoliaeth, ond yn hytrach, bywydau a bywoliaeth, ac mae fy nghyfraniad i'r ddadl hon yn ceisio gwyntyllu'r farn honno. Nid oes amheuaeth nad yw COVID-19 yn ddinistriwr. Mae'r holl broses o heintio, iechyd yn dirywio a mynd i'r ysbyty wedi rhoi straen pellach ar ein systemau GIG a gofal cymdeithasol sydd eisoes dan straen, ac mae natur heintus y clefyd yn golygu bod nifer o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol i ffwrdd o'r gwaith am eu bod yn sâl neu am fod yn rhaid iddynt ddilyn mesurau hunanynysu rhagataliol. Felly, rwy'n deall y pwysau a deimlir gan y gwasanaethau iechyd a gofal.
Ond i'r rhai sy'n llwyddo i ddianc rhag cyrhaeddiad COVID, neu sy'n ei ddal ond yn gwella, mae yna edefyn arall yr un mor bwysig i wead pethau—y gallu i ennill bywoliaeth, i fod â phwrpas, i allu parhau â bywyd sydd, rhaid cyfaddef, wedi newid. Mae gweithio gartref, mesurau cadw pellter cymdeithasol, gwahanol ddulliau teithio, ufuddhau i reoliadau, dilyn canllawiau, cyfyngu ar weithgareddau, siopa'n wahanol, diheintio erwau o Perspex i gyd yn dod yn rhan annatod o'n bywydau arferol. Ac er clod mawr i'r ddynoliaeth, rydym wedi ceisio achub bywydau. Mae gwyddonwyr wedi gwneud eu gorau, mae cymunedau wedi cydweithio, ac mae llawer o unigolion wedi camu i'r adwy, wedi dod yn fwyfwy arloesol, ac wedi gofalu am eu cymydog, eu ffrind a'r dieithryn i lawr y ffordd.
Ond mae'n rhaid i ni hefyd geisio cynnal bywoliaeth pobl, a hynny am nifer o resymau: canlyniadau macro-economaidd cael economi sydd wedi methu; lliniaru baich y cymorth gan y Llywodraeth, a fydd yn cael llawer o alwadau eraill am arian; cadw swyddi, gyrfaoedd a chyflogau pobl; sefydlogi'r sylfaen drethi; galluogi cyfle i gael synnwyr o bwrpas, ar gyfer addysg a hyfforddiant a hunangyflawniad; ac yn anad dim, cydnabod bod gennym yng Nghymru nifer anghymesur o uchel o fusnesau sy'n perthyn i'r categori micro neu'r categori BBaChau—busnesau sy'n aml yn cael eu rhedeg gan deuluoedd neu sy'n cynnwys gweithwyr o ardal ddaearyddol dynn, a phan fydd y busnesau hynny wedi mynd, bydd yn anodd iawn cael rhai newydd yn eu lle. Gwyddom eisoes fod cynnydd o 41 y cant wedi bod mewn diweithdra yng Nghymru, o'i gymharu â dim ond 18 y cant yn Lloegr. Felly, mewn termau real, mae hynny'n golygu bod 20,000 o bobl ychwanegol yn chwilio am waith yng Nghymru. Mae ar fusnesau angen yr amgylchedd iawn, ac os yw'r amgylchedd hwnnw'n mynd yn anghynaliadwy, ni fydd yn cynnal busnes, nid colli diwrnod o gyflog neu ychydig wythnosau o gyflog fydd pobl, ond eu swydd gyfan neu eu buddsoddiad mewn busnes, eu cynilion oes, y morgais ar y tŷ a dyfodol i'r plant. Mae'r sector lletygarwch yn crisialu'n berffaith y cydbwysedd y mae angen i Lywodraeth Cymru ddod o hyd iddo rhwng sicrhau bod COVID-19 yn cael ei lethu heb lethu ein bywyd economaidd. Ond rwy'n credu nad yw Llywodraeth Cymru wedi cael y cydbwysedd hwnnw'n iawn eto.
Cafodd y cyfyngiadau coronafeirws a osodwyd ar y diwydiannau lletygarwch ac adloniant dan do o 4 Rhagfyr eu cyfarch â sioc a dicter gan lawer o'r busnesau yn fy etholaeth—busnesau sydd wedi gwario arian ac wedi treulio amser yn sicrhau eu bod wedi glynu at bob canllaw a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Teimlant fod y rheoliadau sydd mewn grym ar hyn o bryd yn anghymesur ac yn afresymegol. Maent yn gofyn, 'Ble mae'r dystiolaeth?' Ble, yn wir? Weinidog, mae eich Llywodraeth wedi methu darparu tystiolaeth yn sail i'r cyfraddau trosglwyddo yn y diwydiant lletygarwch. Wrth ddarparu tystiolaeth ar gyfer ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol y Llywodraeth, ysgrifennodd y grŵp cynghori technegol y byddai cau bariau, tafarndai, caffis a bwytai yn cael effaith ganolig, gyda gostyngiad posibl mewn cyfraddau trosglwyddo R o 0.1 i 0.2.
Nawr, ychydig wythnosau'n ddiweddarach, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn nodi, a hynny'n briodol, fod nifer yr achosion yn codi ledled Cymru, ac felly'r angen am fesurau cenedlaethol. Ond gadewch i ni fod yn glir: ceir amrywiadau enfawr o hyd, ac nid wyf yn credu ei bod y tu hwnt i'r dadansoddiad i edrych ar sut i gyflwyno cyfyngiadau symud wedi'u targedu i ymdrin â mannau problemus, gan ganiatáu i'r ardaloedd â rhifau R isel barhau i fasnachu mewn modd mwy cyfannol. Ac mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gofio bod y diwydiant lletygarwch hanfodol hwn, sy'n bodoli ar gymaint o ffurfiau arloesol, yn cefnogi cadwyn gyflenwi sydd hefyd wedi'i distrywio.
Mae llawer yn siarad am y diffyg sicrwydd cronig yn y sector lletygarwch. Hoffent gael gwell golwg ar y dyfodol nag ychydig wythnosau ar y tro. Bydd gan lawer o fusnesau archebion ar gyfer y flwyddyn newydd a bydd angen iddynt gynllunio, yn enwedig o ran staffio a chysylltu â chyflenwyr. Mae busnesau hefyd yn codi mater iechyd meddwl staff, gan fod llawer yn poeni'n ddyddiol a fydd angen iddynt ddod i'r gwaith yr wythnos nesaf. Ac wrth gwrs, mae methiant Llywodraeth Cymru i roi cymorth i'r diwydiant lletygarwch cyn mis Ionawr yn arwydd pellach mai ffrind tywydd teg yw Llywodraeth Cymru i'r gymuned fusnes.
Weinidog, gadewch i ni fod yn glir. Roedd y ffordd y cafodd y grant datblygu ei gyflwyno ym mis Tachwedd yn drychinebus. Mae angen dysgu gwersi a bydd angen i fusnesau gael gafael ar y cyllid hwn mewn ffordd deg a chyfartal. Rydym wedi gweld misoedd o ansicrwydd, penderfyniadau munud olaf a'r modd gwael y cyflwynwyd cyllid gan y Llywodraeth. Mae angen gwell cydbwysedd yn ymateb Llywodraeth Cymru i bandemig COVID-19. Mae angen i Lywodraeth Cymru warchod bywydau a bywoliaeth pobl, Weinidog, ac rwy'n annog y Senedd i gefnogi ein cynnig.
Nawr, mae hinsawdd y pandemig COVID yma wedi newid cryn dipyn dim ond yn y dyddiau diwethaf yma, ac mae'r sefyllfa yn ddifrifol iawn rŵan. Mae yna dros 2,000 o achosion newydd heddiw, ac mae'r sefyllfa yn bryderus iawn yma ym Mae Abertawe, gyda lefelau uchel o achosion yng Nghastell Nedd Port Talbot a hefyd yma yn Abertawe, gyda'r lefelau'n cynyddu'n gyflym ac yn berig o fynd allan o bob rheolaeth, a nifer fawr ohonyn nhw mewn ysgolion. Felly, buaswn i'n hoffi gofyn i'r Llywodraeth: beth yn ychwanegol mae'r Llywodraeth yn ei wneud am hyn? Sut maen nhw'n edrych ar ysgolion nawr, yn enwedig wrth wynebu y Nadolig a'r lefelau cynyddol o achosion yn gysylltiedig ag ysgolion, gyda'r holl ddisgyblion yn gorfod cael eu hanfon gartref? Mae 700 o staff bwrdd iechyd Bae Abertawe sydd ddim yn y gwaith achos COVID.
Ac, wrth gwrs, y farn feddygol ydy taw cymysgu â phobl eraill yn y cartref, yn y stryd, yn y gwaith, efo ffrindiau ac efo pobl ddieithr—dyna sy'n gyrru'r cynnydd yn y COVID. Felly, dydy'r cyngor sylfaenol ddim wedi newid. Hynny yw: arhoswch gartref os gallwch chi, ymbellhau yn gymdeithasol, golchi'ch dwylo yn gyson, gwisgo mygydau, ac osgoi cymysgu â phobl eraill.
Peidiwch â chymysgu—dyna'r cyngor meddygol syml. Dyna a glywsom gan swyddogion ddoe. Peidiwch â chymysgu; ceisiwch aros gartref. Mae ffigurau COVID yn codi eto ac mae'n ymddangos eu bod allan o reolaeth. Mae meddygon rwy'n siarad â hwy wedi'u dychryn yn wirioneddol gan y sefyllfa; dyma bobl nad ydynt fel arfer yn cael braw. Byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i fynd am brofion torfol, fel y gwnaeth Slofacia. I'r rhan fwyaf o'i phoblogaeth—dros 3 miliwn—cynhaliwyd profion mewn un penwythnos. Mae Slofacia wedi gweld gostyngiad dramatig o 60 y cant yn yr achosion o COVID—gyda chymorth, yn amlwg, neu fel arall ni fydd pobl yn cael prawf os na allant ynysu. Felly, hefyd, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu ynysu â chymorth ar lefel lawer mwy radical nag y gwnaeth hyd yma, neu fel arall ni all pobl hunanynysu.
Mae angen i'r Llywodraeth ystyried tlodi fel cyflwr sy'n bodoli'n barod sy'n arwain at ganlyniadau andwyol mewn COVID, yn debyg iawn i glefyd yr ysgyfaint, clefyd y galon a'r gweddill i gyd. Rydym bob amser wedi gwybod, os ydych chi'n dlawd, fod y strôc a gewch yn waeth os ydych chi'n dlawd na phe na baech chi'n dlawd; os cewch drawiad ar y galon, mae'r trawiad ar y galon a gewch yn waeth os ydych yn dlawd na phe na baech yn dlawd. Mae hynny'n wir am COVID hefyd, a dyna pam y mae angen ynysu â chymorth arnom. Gall y Llywodraeth wneud rhywbeth nawr ynglŷn â mynd i'r afael â thlodi yn y pandemig hwn, drwy sicrhau y gall pobl hunanynysu er lles pob un ohonom. Gallai'r Llywodraeth gynnig llety am ddim a chyflogau di-dor i bobl sydd â thlodi'n gyflwr sy'n bodoli'n barod allu hunanynysu. Mae llawer o westai'n wag. Meddyliwch am hyn fel sbardun economaidd, yn ogystal â chynnig cymorth ystyrlon i fynd i'r afael â'r tlodi isorweddol ac yn y pen draw, i achub bywydau rhag COVID. Gadewch i ni gael ynysu â chymorth priodol, fel y mae sawl gwlad arall eisoes wedi'i wneud, er lles pob un ohonom. Diolch yn fawr.
Rwy'n dechrau fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy gydnabod dewrder personol y Prif Weinidog dros y chwe mis diwethaf yn cyflwyno deddfwriaeth, y gwyddai y byddai, ar y cyfan, yn amhoblogaidd iawn gyda'r cyhoedd yng Nghymru. Lle rwy'n anghytuno ynglŷn â dull y Prif Weinidog o weithredu yw'r wyddoniaeth, neu'r hyn a elwir yn wyddoniaeth, y mae wedi gweithredu arni. [Torri ar draws.] Ond gadewch i mi wneud hyn yn glir: nid wyf yn seilio fy ngwrthwynebiad ar fy ngallu personol i ddehongli effaith y feirws COVID-19, ond ar farn a safbwyntiau carfan fawr iawn o wyddonwyr sydd yr un mor gymwys â'r rhai y mae ef yn dilyn eu cyngor, ac mae'n wir dweud bod eu barn yn gwbl groes i farn cynghorwyr y Prif Weinidog. [Torri ar draws.] Fe ddywedaf hyn: mae'n ymddangos bod llawer o gynghorwyr y Prif Weinidog ymhlith y rhai a fynegodd farn ar ganlyniadau enbyd pandemigau eraill, megis ffliw adar, ffliw moch a SARS, lle dywedwyd bod gan bob un duedd i fynd drwy'r boblogaeth fel rhyw fath o bla canoloesol. Ni all yr un gwyddonwyr esbonio hyd yn oed heddiw pam y daethant i ben heb ddim o'r canlyniadau enbyd a ragwelwyd, heb yr ymyriadau enbyd rydym wedi'u profi ar gyfer COVID-19. I gyfran fach iawn o'r boblogaeth y mae coronafeirws yn bygwth bywyd. Mae bron bawb sydd wedi marw o'r salwch hwn dros 80 mlwydd oed, a'r rhan fwyaf ohonynt ag afiachedd hirsefydlog. [Torri ar draws.] Mae'r Gweinidog yn dweud bod 400 o achosion COVID yn ein hysbytai; mae miloedd yn fwy yn ein hysbytai gyda symptomau ffliw difrifol. Mae'r ffliw yr un mor farwol â COVID i'r rhai sy'n hen ac yn eiddil.
[Torri ar draws.] Os cawn droi yn awr at y rheoliadau a'r cyfyngiadau diweddaraf sy'n targedu'r sector lletygarwch yn bennaf.
Mae'n ddrwg gennyf, rhaid i bobl gael eu clywed. Mae'n ddrwg gennyf.
Ar ba ddata gwyddonol y mae cynghorwyr y Prif Weinidog yn dibynnu? Mae prif weithredwr bragdy Brains, y mwyaf yng Nghymru, yn dweud, o'r 100 a mwy o dafarndai y mae'n berchen arnynt, mai dim ond tri sydd wedi bod yn rhan o'r fenter profi ac olrhain. Ni fu unrhyw achosion pellach ar ôl cyflawni mesurau glanhau dwfn ar y tafarndai hynny. Aeth ymlaen ymhellach i ddweud, o'r 150,000 neu fwy o gwsmeriaid a wasanaethwyd, mai dim ond chwech y nodwyd bod ganddynt COVID. Brif Weinidog, mae'r diwydiant lletygarwch wedi bod yn rhagorol yn cynnal y rheolau a'r rheoliadau a osodwyd dros y chwe mis diwethaf. Yn amlwg, nid hwy yw prif ffynhonnell heintiau. Mae'r gwaharddiad ar werthu alcohol, nad yw'n wahanol iawn i'r rhai a osodwyd yn America yn y 1930au, yn wirioneddol hurt pan fo alcohol ar gael yn rhwydd yn ein harchfarchnadoedd. Gall unrhyw un gael faint bynnag a ddymunir o alcohol, mynd ag ef adref, a gwahodd ffrindiau i yfed alcohol heb unrhyw reoliadau ar waith. [Torri ar draws.] Rydym yn cydnabod bod lleiafrif bach iawn sy'n anufuddhau i reoliadau pan fyddant wedi yfed llawer iawn o alcohol, ond a yw hynny'n golygu bod angen atal rhywun rhag cael gwydraid o win gyda phryd o fwyd mewn bwyty? Nid ydym yn chwarae gwleidyddiaeth plaid; yn syml iawn, rydym yn gwrthwynebu cyfyngiadau symud hurt. [Torri ar draws.]
Brif Weinidog, fel y dywedais, rydych wedi dangos dewrder yn eich dull o weithredu yn ystod yr argyfwng COVID, nawr dangoswch yr un dewrder, a gostyngeiddrwydd efallai, drwy godi'r cyfyngiadau dinistriol diweddaraf hyn ar y sector lletygarwch.
Nid wyf yn credu bod unrhyw fater wedi achosi cymaint o ddadlau â hyn ers amser maith, y gwaharddiad hwn ar alcohol mewn tafarndai a bwytai. Cefais lu o negeseuon e-bost a galwadau ffôn am hyn dros y dyddiau diwethaf, a gwn fod llawer o'r Aelodau o'r Senedd wedi bod mewn sefyllfa debyg. A gaf fi ddechrau drwy ei gwneud yn glir fy mod yn llwyr ddeall difrifoldeb y sefyllfa y mae Cymru'n ei hwynebu, oherwydd gwn fod rhai Gweinidogion wedi codi hynny ddoe, a'r Prif Weinidog. Ac rwy'n cydnabod hefyd nad oes unrhyw benderfyniadau hawdd yn y sefyllfa hon. Nid oes atebion hawdd yma. Felly, nid yw'n ymwneud â gwrthwynebu'r holl fesurau sy'n cael eu cyflwyno, neu gefnogi'r holl fesurau a gyflwynir yn wir. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wrando ar y cyngor y mae'n ei gael gan arbenigwyr. Mae hynny'n glir. Rhaid iddi edrych ar y dystiolaeth a gwneud penderfyniadau cytbwys sy'n ystyried cyfraddau trosglwyddo a'r effeithiau ar yr economi. Dyna waith Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ein gwaith ni fel yr wrthblaid yw craffu ar Lywodraeth Cymru a'i dwyn i gyfrif am y penderfyniadau hynny a nodi ble y credwn y gellid gwneud pethau'n well.
Ond ffactor allweddol arall yn hyn oll, wrth gwrs, yw mynd â'r cyhoedd gyda ni—a dywedaf 'ni', oherwydd nid Llywodraeth Cymru yn unig y mae pobl yn eu dwyn i gyfrif am y rheoliadau a'r rheolau hyn wrth gwrs, ond pob un ohonom fel Aelodau o'r Senedd. Dyna sut y mae'r cyhoedd yn meddwl. At ei gilydd, digwyddodd gyda'r cyfyngiadau symud cyntaf a hyd yn oed y cyfnod atal byr, ond mae'n ymddangos bod y cyhoedd wedi colli ffydd y tro hwn, heb sôn am y mater cau'n gynnar, heb sôn am y gwaharddiad ar werthu alcohol. Felly, beth aeth o'i le? Rwy'n credu mai'r broblem yw nad yw'n cyd-fynd â chanfyddiad y cyhoedd o synnwyr cyffredin. Pam y dylai cael gwydraid o win neu gwrw gyda chinio a dilyn rheolau cadw pellter cymdeithasol a rheolau a chanllawiau hylendid eraill er enghraifft, fod mewn mwy o berygl o drosglwyddo'r feirws na phe bai pobl yn yfed diodydd meddal? Nawr, mae Llywodraeth Cymru yn amlwg yn credu bod y dystiolaeth yno i gefnogi hyn, felly rwy'n credu bod angen i bob un ohonom ei gweld. Gwn fod Alun Davies wedi galw am hyn, ac mae Aelodau eraill o'r Senedd wedi gwneud hynny hefyd. Mae angen sicrwydd ar berchnogion bwytai a thafarndai sydd wedi gweld elw'n disgyn yn enbyd dros yr wythnosau diwethaf ac mewn llawer o achosion yn gorfod aros ar gau nad yw'r camau hyn yn anghymesur, ac y byddant yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19, yn enwedig cyn y Nadolig, os yw'r cyfyngiadau'n mynd i gael eu llacio dros gyfnod y Nadolig.
Nawr, mae'r Gweinidog wedi gwneud rhai dadleuon da dros y gwaharddiad fel ffordd o gydbwyso anghenion busnesau â mynd i'r afael â phandemig COVID-19, ond y ffaith amdani yw nad yw llawer o dafarndai a bwytai, yn sicr yn fy etholaeth i ac yn etholaethau Aelodau eraill hefyd, rwy'n gwybod, yn gweld unrhyw ddewis ond cau oherwydd y broblem elw. Yn lleol, yr Angel yn y Fenni, y Black Bear ym Metws Newydd, y Raglan Arms yn Llandenni, y Star yn Llan-soe; gallwn fynd ymlaen. Dyma dafarndai, gwestai a bwytai a allai aros ar agor yn gyfreithiol a gweini bwyd ond nid alcohol, ond maent wedi penderfynu nad yw'n hyfyw. Yn achos yr Angel yn y Fenni, maent yn aros ar gau tan ganol mis Ionawr, oherwydd mae'n rhaid iddynt wneud eu harchebion ymhell ymlaen llaw. Felly, mae hwn yn bris trwm i'w dalu, a dyna pam y mae angen sicrwydd arnom mai dyma'r ffordd gywir o weithredu.
A wnewch chi, neu a wnaiff Llywodraeth Cymru neu'r Gweinidog ymrwymo i ddal ati i adolygu hyn? O leiaf, credaf fod angen inni weld mwy o dystiolaeth sy'n ei gefnogi. Gwn fod rhai o'r Aelodau o'r Senedd wedi dweud eu bod wedi gweld y dystiolaeth a'u bod wedi cael sicrwydd ganddi, ond allan yno, credaf nad yw pobl y byddaf yn siarad â hwy'n ymwybodol fod y dystiolaeth honno'n bodoli neu'n cynnig cyfiawnhad angenrheidiol dros y camau sy'n cael eu cymryd. Hyd yn oed os yw Llywodraeth Cymru yn iawn ar hyn, ac nid oes gennyf reswm i amau nad yw Llywodraeth Cymru yn credu ei bod yn cymryd y camau cywir yma, y perygl yw y bydd y cyhoedd yn colli hyder, a chredaf fod David Rowlands wedi sôn am hyn. Os bydd y cyhoedd yn colli hyder yn y mesurau ac yn esgeuluso'r canllawiau fwyfwy, bydd hynny'n caniatáu i'r feirws gael troed yn y drws a bydd yn ymestyn y cyfnod y mae'n ei gymryd i ostwng y cyfraddau trosglwyddo. Gwyddom fod y sefyllfa, yn Abertawe, wedi'i disgrifio fel un 'drychinebus', felly mae'n amlwg fod problem iechyd cyhoeddus enfawr yma y mae angen mynd i'r afael â hi, ac mae angen mynd i'r afael â hi drwy ganllawiau, ond os nad ydym yn mynd â'r cyhoedd gyda ni ar hyn, mae perygl y byddwn yn cronni mwy o broblemau ar gyfer y dyfodol. A gadewch i ni beidio ag anghofio, mae gennym frechlyn nawr, rownd y gornel gobeithio, i ymdrin â'r pandemig, felly nid ydym am wneud pethau'n waeth nawr.
Felly, i gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu bod angen datrys hyn. Rwy'n credu bod angen adolygu'r penderfyniad. Mae angen inni weld y dystiolaeth a nodwyd ar gyfer y mesurau hyn. Mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni, yn enwedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, os ydym am lacio'r mesurau hynny dros gyfnod y Nadolig, fel y gallwn i gyd ddod at ein gilydd a chanolbwyntio ar ymladd y pandemig ac adeiladu nôl yn well.
A gaf fi ddiolch i chi am fy ngalw, Ddirprwy Lywydd? Er na allwn fynd yn ôl, roedd caniatáu i Ŵyl Cheltenham a Lerpwl yn erbyn Atlético Madrid fynd yn eu blaen yn gynharach eleni yn gamgymeriad difrifol iawn gan Lywodraeth San Steffan, a fyddai wedi arwain at ymddiswyddiadau gweinidogol mewn cyfnod gwleidyddol arferol. Rwy'n mynd i ddyfynnu o bapur a adolygwyd gan gymheiriaid yn The Lancet:
Mae syndrom anadlol acíwt difrifol coronafeirws 2 (SARS-CoV-2) yn achosi COVID-19 ac mae'n cael ei ledaenu o berson i berson drwy gysylltiad agos... Mae canfyddiadau'r adolygiad a'r meta-ddadansoddiad systematig hwn yn cefnogi mesurau cadw pellter corfforol o 1m neu fwy ac yn darparu amcangyfrifon meintiol ar gyfer modelau ac olrhain cysylltiadau i lywio polisi. Dylai'r defnydd gorau posibl o fasgiau wyneb... yn gyhoeddus... gael ei lywio gan y canfyddiadau a'r ffactorau cyd-destunol hyn.
Dangosodd y canfyddiadau ostyngiad yn y risg o 82 y cant gyda phellter corfforol o 1m mewn lleoliadau gofal iechyd a chymunedol. Mae pob metr ychwanegol o ymwahaniad yn mwy na dyblu'r diogelwch cymharol. Mae'r dystiolaeth hon yn bwysig i gefnogi canllawiau cadw pellter corfforol yn y gymuned ac mae'n dangos bod lleihau risg yn ymarferol drwy fesurau cadw pellter corfforol.
Yn y bôn, pe bai pawb yn cadw 2m o bellter, yn gwisgo masgiau mewn siopau a mannau eraill lle dônt i gysylltiad posibl ag eraill, yn golchi eu dwylo ac yn diheintio'n rheolaidd, byddai cynnydd sylweddol yn cael ei wneud tuag at ddileu'r feirws hwn. Pe bai pobl yn hunanynysu pan ddywedir wrthynt am wneud hynny, unwaith eto byddai cynnydd yn cael ei wneud. Rydym yn gweld y gwrthwyneb. Mae'r gyfradd heintio, yn enwedig ymhlith pobl iau, yn cynyddu, ac felly hefyd y gyfradd farwolaethau, yn anffodus. Er y bydd rhai o'r Ceidwadwyr yn anghytuno â mi, credaf fod pob marwolaeth gynamserol a achosir gan COVID yn drasiedi. Un o anawsterau COVID-19 yw ei fod yn effeithio ar bobl yn wahanol, o beidio â chael unrhyw symptomau o gwbl i salwch difrifol a marwolaeth.
Ble mae pobl yn ymgynnull yn agos am gyfnod hir? Yn gyntaf, yn y gweithle, ac er bod Llywodraeth Cymru yn cynghori pobl i weithio gartref os yw'n bosibl, nid yw pob cyflogwr yn gadael i'w staff wneud hynny. Yn ôl yr Evening Post, heintiwyd nifer fawr o weithwyr y DVLA yn Abertawe. Mae rhai'n mynd yn sâl oherwydd straen; maent yn honni nad yw mesurau cadw pellter cymdeithasol yn cael eu dilyn ar y safle. Nid yw'r gegin a'r ystafelloedd ymolchi a rennir yn cael eu glanhau'n ddwfn ar ôl i achos gael ei nodi, dim ond eu glanhau. Y mis diwethaf, roedd mwy na 40 o weithwyr yn hunanynysu yn y DVLA ar ôl i gydweithwyr brofi'n bositif am coronafeirws. Cefais bump o bobl yn ffonio fy swyddfa ddoe, nifer ohonynt yn eu dagrau, yn ofni mynd i'r gwaith ac yn ofni colli eu swydd yn y DVLA. Sefydliad y Llywodraeth yw hwn, er nad yw'n un o sefydliadau Llywodraeth Cymru. Os na allwn gadw pobl yn ddiogel mewn sefydliadau sy'n cael eu rhedeg gan y Llywodraeth, pa obaith sydd gennym gyda'r sector preifat?
Rwyf hefyd wedi cael cwynion gan bobl sy'n gweithio mewn canolfannau galwadau, cwmnïau cludo nwyddau, a nifer o unedau gweithgynhyrchu, lle mae pobl yn gweithio o fewn metr i'w gilydd, lle nad yw masgiau'n cael eu gwisgo. Mae hyn yn rhoi pobl mewn perygl. Rwy'n teimlo dros y bobl hyn. Fel y dywedodd un fenyw a ffoniodd ddoe wrthyf, 'Mae gennyf ddau ddewis: gallaf naill ai golli fy swydd neu beryglu fy mywyd'. Ac rwy'n credu bod honno'n sefyllfa drist iawn rydym yn rhoi pobl ynddi, neu'n caniatáu i bobl gael eu rhoi ynddi.
Yn ail, ysgolion. Pwy sy'n cofio pan oedd y cyngor gwyddonol yn dweud nad oedd plant dan 11 oed yn gallu cael COVID? Mae ysgolion yn sicr yn cael achosion, gan gynnwys dosbarthiadau meithrin a derbyn. A gaf fi ymuno â'r rhai sy'n gofyn i ysgolion gau wythnos ynghynt, pe bai ond i amddiffyn perthnasau hŷn dros y Nadolig?
Y trydydd maes yw lletygarwch. Dyna'r maes y mae'r Llywodraeth yn ei gau, a gallaf ddeall pam. Ond os yw'r sector a reoleiddir—h.y. pobl sy'n yfed mewn tafarndai a chlybiau—ar gau, beth fydd yn cael ei wneud am gynulliadau heb eu rheoleiddio? Sut y gellir atal hynny?
Y pedwerydd maes yw cynulliadau ar y stryd y mae pobl ifanc yn bennaf yn cymryd rhan ynddynt. Bydd llawer o'r rhain yn asymptomatig ond gallant drosglwyddo COVID i eraill.
Mae gennyf nifer o geisiadau: cau ysgolion wythnos yn gynnar; ailagor tafarndai a bwytai cyn gynted â phosibl, ond bod unrhyw un sy'n torri rheolau diogelwch yn cael eu cau am o leiaf fis; pennu uchafswm sy'n cael ymgynnull ar strydoedd a gwasgaru niferoedd mwy; gweithio gyda Llywodraeth San Steffan i orfodi gweithwyr y sector cyhoeddus i weithio gartref os oes modd; gweithio gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch i ymweld â chwmnïau sector preifat lle mae pryderon yn cael eu mynegi; ac yn olaf, dal ati i hyrwyddo'r 2m, golchi dwylo a diheintio, a gwisgo masg. Rhaid ichi barhau i wneud hynny. Pan fydd y Llywodraeth yn rhoi'r gorau i'w ddweud, mae pobl yn meddwl nad oes raid iddynt wneud hynny mwyach. Ni allwch ddweud hynny'n rhy aml. A gaf fi annog y Llywodraeth i barhau i gyfleu'r neges honno? Oherwydd mae yna bobl sydd heb ei chlywed ers wythnos neu bythefnos sydd bellach yn meddwl bod y neges honno wedi mynd.
Rydym mewn sefyllfa wirioneddol anodd. Byddaf yn cefnogi'r Llywodraeth oherwydd maent yn mynd i'r afael ag un o'r pethau sy'n achosi trosglwyddiad, ond a gawn ni ddechrau ymdrin â chyflogaeth? Yn enwedig cyflogaeth mewn swyddfeydd sector cyhoeddus, lle mae pobl yn aml ddim ond hanner metr ar wahân yn llythrennol.
A gaf fi ychwanegu fy llais at y rhai sydd wedi dweud ein bod, wrth gwrs, yn deall difrifoldeb y sefyllfa yng Nghymru? Rydym yn siarad â'n byrddau iechyd ac rydym yn darllen y dystiolaeth—pan gawn ei gweld. Deallwn hefyd nad yw penderfyniadau i reoli'r feirws hwn yn hawdd i'w gwneud, ond ein dyletswydd ni yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif pan gredwn eu bod wedi gwneud y penderfyniad anghywir, a dyna a wnawn. Roedd ymateb y Prif Weinidog i gwestiwn Laura Anne Jones ddoe mor bell ohoni fel ei fod yn fy nharo fel arwydd o'r lludded yn Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a phan fydd pobl wedi blino'n lân, gallant wneud camgymeriadau.
Nawr, Alun Davies, byddech am i ni gredu y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn taflu poblogaeth gyfan Cymru i bwll calch er mwyn cael pennawd. Rwy'n credu bod angen i chi ystyried y cyhuddiad hwnnw, oherwydd er ei fod yn amlwg yn anghywir wrth gwrs, mae'n safbwynt peryglus iawn i blaid sy'n Llywodraeth ei arddel pan fo'n ceisio perswadio pobl Cymru fod y Llywodraeth honno'n haeddu parch ac ymddiriedaeth. Mae unrhyw blaid sy'n Llywodraeth sy'n dweud ei bod yn amharod i dderbyn bod eu penderfyniadau'n agored i graffu yn cymryd y risg honno.
Rwy'n cydnabod y rhwystredigaeth. Mae'r Llywodraeth wedi rhoi cynnig ar bob math o ffyrdd ymlaen, a'r rhan fwyaf ohonynt wedi cael cefnogaeth, ac eto mae'r feirws yn parhau i ledaenu. Heb roi pob un ohonom dan glo hyd nes y daw ein hapwyntiad brechu drwodd, ni fyddwn yn ei guro. Gan ein bod i gyd yn cydnabod na allwn fyw yn y ffordd honno, rhaid inni fyw gyda'r feirws mewn ffordd sy'n cydbwyso'r risg o haint gyda'n hiechyd meddwl, ein bywoliaeth, addysg barhaus ein plant a'r modd o greu cyfoeth i gadw ein gwasanaethau cyhoeddus i fynd. Bydd etholwyr yn derbyn rheoliadau pan welant y cysylltiad rhwng gweithredu a diben—cadw pawb yn ddiogel. Cafwyd penderfyniadau y maent wedi'u derbyn yn ddigalon, ond y maent yn credu ynddynt. Ond ers hynny cawsom y rheol 5 milltir, y cyhoeddiad am nwyddau nad ydynt yn hanfodol, amseroedd cau ar hap, y cyfyngiadau cyffredinol pan nad yw'r feirws yn ymddwyn yn yr un ffordd ledled Cymru, ac yn awr, wrth gwrs, hurtrwydd y gwaharddiad ar werthu alcohol, oherwydd mae'n debyg fod un gwydraid o seidr amser cinio yn ddigon grymus i'ch amddifadu o'ch pwyll, tra bod gwydraid o lemonêd yn creu rhyw fath o faes grym sy'n cadw eich dwylo'n lân a 2m oddi wrth eich ffrindiau. Nid yw hynny'n swnio'n wyddonol iawn i mi.
Oes, mae yna bobl sy'n diystyru'r rheolau—weithiau'n fwriadol, weithiau ddim. Mae pobl wedi blino, fel y mae'r Prif Weinidog wedi deall wrth iddo geisio egluro lledaeniad y clefyd. Ond mae angen i chi feddwl nawr sut i fynd i'r afael â dau fygythiad newydd, sef anghrediniaeth a drwgdeimlad. Nawr, wrth gwrs, roedd etholwyr yn anghrediniol ynglŷn â'r gwaharddiad ar alcohol, nid am ein bod yn genedl o yfwyr, ond oherwydd bod y brif ffynhonnell elw wedi'i thorri i fusnesau bach sydd eisoes wedi cael eu taro, a hynny heb gyfiawnhad gwyddonol, tra'n gwobrwyo'r archfarchnadoedd unwaith eto. Ni welwyd pwl o sobreiddiwch a chadw pellter cymdeithasol o ganlyniad—yn hytrach, cafwyd newid herfeiddiol braidd i gyfarfod dan do â ffrindiau na ddylent fod yno, driphlith-draphlith, a'r alcohol lleiaf poblogaidd yn y tŷ fydd y glanweithydd.
Yna ceir y drwgdeimlad. Mae'n amlwg fod y gair 'cosb' wedi peri anifyrrwch i'r Prif Weinidog ddoe, ac rwy'n siŵr nad yw'n bwriadu cosbi neb. Gadewch imi wneud hynny'n glir. Ond ni cheir cydnabyddiaeth wirioneddol i sut y mae etholwyr yn teimlo am yr hyn y maent bellach yn ei weld fel datgysylltiad rhwng nod, gweithrediad a chyflawniad. Ac nid dim ond y rhai sydd wedi gwneud eu gorau i ddilyn y rheolau, er eu bod wedi'u hamddifadu o'r cyswllt sydd wedi golygu cymaint iddynt, ond yn benodol y busnesau lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID y mae eraill eisoes wedi sôn amdanynt heddiw. Weinidog, gwn y byddwch yn cyfeirio at y cymorth ariannol yn eich ymateb. Mae'n sicr yn cael ei werthfawrogi, ond fel y clywsom eisoes, nid yw'n ddigon, ac nid dyna beth y mae'r busnesau hyn a'u cleientiaid yn credu sy'n gweithio nawr. Maent am allu cyflogi pobl a masnachu'n ddiogel.
Rwyf am sôn am un dafarn yn fy rhanbarth, tafarn a brynwyd gan ei pherchnogion gydag arian diswyddo'r gŵr a morgais pan gaeodd ei bwll glo. Nid yw'n lle mawr crand, ond maent wedi gwario arian arno, ac wrth gwrs maent wedi sicrhau ei fod yn cydymffurfio â mesurau COVID 100 y cant. Mae'n dafarn leol sy'n boblogaidd gyda'i mynychwyr rheolaidd hŷn, a llawer ohonynt yn byw ar eu pennau eu hunain. Credaf fod Helen Mary Jones wedi sôn am bobl mewn sefyllfa debyg. Maent wedi cael un grant, ac roeddent yn ddiolchgar amdano. Maent wedi gwneud cais am gyllid y gronfa cadernid economaidd ac maent yn dal i aros i glywed a ydynt yn mynd i'w gael. Maent wedi gofyn am gyllid dewisol gan y cyngor lleol, ond mae enw gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn lleol am fod yn hwyrfrydig ac am eu gofynion rhwystrol ar gyfer y math hwn o ryddhad. Maent wedi defnyddio eu cynilion, a nawr maent ar gau am nad ydych chi'n gadael iddynt werthu eu cynnyrch. Nid ydynt yn hyderus eu bod yn mynd i ailagor. A'r dafarn hon yw eu cartref hefyd. Felly, beth sy'n digwydd os bydd y banc yn blaen-gau? Beth sy'n mynd i ddigwydd i'r pâr hwn yn eu chwedegau? Dyna pam y credaf fod y cydbwysedd yn anghywir yma, Weinidog. Nid ydym eisiau i bobl ledaenu COVID—wrth gwrs nad ydym—ond nid ydym eisiau iddynt gael eu gwneud yn ddigartref chwaith.
Llawn yw uffern o fwriadau da, ac os arhoswch gyda hyn, mae pobl yn mynd i roi'r gorau i wrando arnoch, bydd y gwelyau GIG yn parhau i lenwi a, Lynne, ni fydd iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu.
Rwyf am fynd i'r afael â'r materion sy'n wynebu'r sector lletygarwch, yn benodol y cau am 6 p.m. a gwahardd gwerthu alcohol mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, gan wybod, a dweud y gwir, eu bod wedi bod i uffern ac yn ôl eleni. Cawsant eu cau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf, yna fe wnaethant ailagor ac roeddent yn gweithio yn ôl rheoliadau newydd, fe wnaethant fuddsoddi mewn mesurau diogelwch COVID a chyfarpar diogelu personol a mannau awyr agored newydd, ac yna fe wnaethant gau eto yn ystod y cyfnod atal byr yn yr hydref ac mae llawer ohonynt ar gau i bob pwrpas ar hyn o bryd. Felly, mae eu pryderon yn real ac yn ddealladwy, a rhaid eu cyfleu yn Siambr y Senedd heddiw.
Ond dylid cyfleu'r rhesymau sy'n sail i'r mesurau llym hyn hefyd a'r risg i fywydau ac i'n GIG hebddynt. O heddiw ymlaen, mae gan Gastell-nedd Port Talbot, yr etholaeth sy'n ffinio â fy etholaeth i, 693 o achosion ym mhob 100,000 yn ystod yr wythnos ddiwethaf; dyma'r uchaf yng Nghymru. Mae'r sir hefyd yn un o'r pedair ardal cyngor sydd â chyfradd uwch na 20 y cant o achosion positif. Ond mae 11 awdurdod lleol arall, o Geredigion i Sir Fynwy, hefyd â chyfradd uwch nag erioed o achosion positif. Mae 21 o'r 22 awdurdod lleol yn codi'n beryglus, a Chaerau—Caerau fach ger fy nghartref ym Maesteg—sydd â'r gyfradd uchaf o achosion lleol, bron 1,780 ym mhob 100,000 am y saith diwrnod diwethaf, a 126 o achosion. Ac mae sir ehangach Pen-y-bont ar Ogwr yr oedd Suzy yn sôn amdani hefyd wedi cyrraedd ei chyfradd uchaf o achosion.
Ddydd Mawrth, dywedodd cynghorwyr Llywodraeth Cymru fod nifer y bobl yng Nghymru a oedd yn marw gyda'r feirws yn uwch na'r hyn a oedd ganddynt fel senario waethaf. Felly, mae'n ddyletswydd ar bob cynrychiolydd etholedig cyfrifol yn y Siambr hon i ymgodymu'n onest â'r dystiolaeth wyddonol a meddygol, i beidio â chwarae i'r oriel boblyddol, ac i fod yr un mor benderfynol a difrifol ynghylch diogelu bywydau eu hetholwyr yn ogystal â'u bywoliaeth. Ac mae'n rhaid i bob Aelod yma, gan gynnwys Aelodau'r gwrthbleidiau, gydnabod bod y cyngor a roddir i Weinidogion gan SAGE a chan y gell cyngor technegol a chan y prif gynghorwyr meddygol a gwyddonol yn llwm—y byddai unrhyw beth llai na'r mesurau sydd bellach ar waith yn arwain at berygl o golli rhwng 1,000 a 1,700 o fywydau.
Marwolaethau y gellir eu hatal yw'r rhain, marwolaethau diangen, marwolaethau ein hetholwyr, ein cymdogion, ein teuluoedd a'n ffrindiau. Felly, pa un ohonom sy'n barod i fynd yn ôl at ein hetholwyr, sydd hefyd wedi bod i uffern ac yn ôl dros y flwyddyn ddiwethaf, a dweud yr anwybyddwn y cyngor meddygol a gwyddonol a pheryglu eu bywydau, a chysgu'n sownd wedyn ar ôl gwneud hynny? Nid tafarndai a chlybiau ac adeiladau trwyddedig yw'r unig fannau lle ceir risg wrth gwrs, ac nid yw atal gwerthu alcohol ar ei ben ei hun yn ateb hud. Ond nid dim ond model neu ragolwg o'r hyn a allai ddigwydd yw'r dadansoddiad a ddogfennwyd o'r risg o drosglwyddo yn y sector lletygarwch, dadansoddiad sydd ar gael i'r cyhoedd—mae'n archwilio'r hyn sydd wedi digwydd dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n dweud yn hollol glir, ac rwy'n dyfynnu,
Y darlun cyffredinol yn y DU (a thramor) yw na fu modd cael R o dan 1 yn gyson heblaw mewn mannau lle bu cyfyngiadau sylweddol ar letygarwch. Canfu dadansoddiad SAGE o haenau, cyfnodau atal byr ac ymyriadau eraill ym mhedair gwlad y DU fod epidemigau'n crebachu ym mhob ardal sy'n ddarostyngedig i Haen 3/3+ yn Lloegr neu gyda'r cyfyngiadau cenedlaethol yng Ngogledd Iwerddon. Dilynwyd pob ymyrraeth arall gan ddarlun mwy cymysg.
Yn ogystal, mae dadansoddiad gwyddonol manwl ar wahân o'r gwahanol ymyriadau ym mhedair gwlad a rhanbarth y DU dros gyfnod yr hydref yn dangos eto pa mor effeithiol yw'r mesurau llym yn unig wrth fynd i'r afael â thwf a lledaeniad y feirws. A hyn er gwaethaf yr ymdrechion anhygoel sy'n cael eu gwneud gan gynifer yn y sector trwyddedig i wneud eu lleoliadau'n ddiogel rhag COVID. Yn anffodus, mae'r dystiolaeth yn dangos bod lleoliadau lletygarwch, a'r ymddygiad cyhoeddus sydd weithiau'n deillio o alcohol yn y lleoliadau hyn, yn cyfrannu at y risg uwch o drosglwyddo.
Weinidog, mae fy nhafarndai a fy nghlybiau a fy mwytai eisiau gwybod mwy yn awr am y cymorth sydd ar gael iddynt, gan gydnabod bod graddau'r cymorth yng Nghymru, ar £340 miliwn, ymhell y tu hwnt i'r swm o £40 miliwn a ddarparwyd gan Lywodraeth San Steffan ar gyfer Lloegr gyfan. Maent am wybod: pa mor gyflym y gellir talu'r arian hwn? Pa mor syml y gellir gwneud y gweithdrefnau ar eu cyfer? Pa gymorth y gellir ei roi iddynt i nodi'r ffrwd ariannu gywir ac i lenwi'r ffurflenni ar-lein angenrheidiol? A ydynt yn cael apelio os cânt eu gwrthod neu os ydynt yn gwneud camgymeriad syml? A fydd mwy o gymorth ariannol ar gael ar gyfer costau trwyddedu neu ardrethi busnes? Weinidog, beth arall y gellir ei wneud i helpu'r busnesau hyn i ddod trwy'r argyfwng?
Ac yn olaf, a gaf fi dalu teyrnged i'r tafarndai a'r clybiau a'r bwytai, yn fy ardal i ac yng Nghymru, sydd wedi gwneud eu gorau glas i weithredu eu busnesau'n ddiogel a chadw swyddi i fynd er gwaethaf y feirws? Gofynnaf i Lywodraeth Cymru barhau i roi pob mesur posibl ar waith i gefnogi'r sector fel bod y swyddi a'r busnesau hyn yn dal yno pan fyddwn wedi troi'r llanw ar y feirws hwn a gallwn gyfarfod eto, cyn gynted â phosibl, dros beint—neu efallai fwy na hynny.
Diolch. Rwy'n gwneud yr apêl eto. Mae gennym nifer fawr o bobl o hyd sydd am allu siarad, felly hoffwn ofyn i chi, hyd yn oed os mai dim ond 10 eiliad fyddwch chi'n mynd dros yr amser, nid oes ond angen i rai ohonoch fynd 10 eiliad dros yr amser a byddwn yn colli amser, felly os yw pawb ohonoch am gael eich galw, a gaf fi ofyn i chi feddwl am hynny o ddifrif? Laura Anne Jones.
Diolch am fy ngalw, heddiw. Nid oeddwn yn ei ddisgwyl, oherwydd roeddech chi'n ceisio cael pawb arall i mewn, ond mae hynny'n wych—diolch yn fawr iawn. Cefais fy nigalonni braidd gan ymateb y Prif Weinidog ddoe, a drodd yn ymosodiad personol arnaf, yn hytrach nag ateb cwestiwn syml—cwestiwn rhesymol—i ofyn iddo ddarparu'r dystiolaeth y seiliwyd y cyfyngiadau diweddaraf arni. Dyna yw ein gwaith ni. Rydym yn Aelodau o'r gwrthbleidiau. Rydym mewn democratiaeth, a'n gwaith ni yw craffu ar y Llywodraeth a'i dwyn i gyfrif. Dyna roeddwn yn ei wneud. Nid wyf yn deall pam y byddech yn gwylltio ynglŷn â hynny mewn pandemig cenedlaethol, pan fo'n fwy hanfodol nag erioed ein bod yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif a thrafod y cyfyngiadau hyn sy'n dod yn weithredol a sicrhau mai dyma'r cyfyngiadau gorau posibl i gael yr effaith fwyaf bosibl.
Roedd Nick Ramsay yn llygad ei le'n gynharach; mae angen inni fynd â'r cyhoedd gyda ni. Mae'n wirioneddol hanfodol. Ond drwy wneud cyfyngiadau heb eu cefnogi gan dystiolaeth, nid ydym yn mynd i fynd â'r cyhoedd gyda ni. Nid ydym yn mynd â'r cyhoedd gyda ni, ac mae hynny'n beryglus, oherwydd bydd pobl yn parhau i yfed mewn niferoedd mawr yn eu tai, efallai, ac rydych yn ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ei weld ar y cyfryngau cymdeithasol; rwy'n siŵr fod pawb arall wedi'i weld. Dyma'r math o beth sy'n digwydd. Dyma sy'n gyfrifol am rywfaint o'r cynnydd yn y niferoedd o bosibl. Pwy â ŵyr? Rydym eto i weld y dystiolaeth sy'n dangos a yw'r cyfyngiadau diweddaraf hyn yn gweithio ai peidio, a'r effaith.
Ond mae'n rhaid cael rhyw fath o wiriad i weld a yw'r cyfyngiadau hyn yn gweithio. Maent mor niweidiol i'n busnesau, sydd wedi gweithio mor galed i wneud eu busnesau'n ddiogel i bawb ddod i fwynhau pryd o fwyd a gwydraid neu ddau o win. Pam cosbi'r lluoedd oherwydd yr ychydig bobl sy'n diystyru'r rheolau? Nid dyma'r ffordd o fynd ati, yn fy marn i. Nid wyf yn credu bod y cyfyngiadau hyn yn gwneud synnwyr. Gofynnaf i'r Gweinidog a'r Prif Weinidog edrych eto ar y cyfyngiadau hyn, a naill ai eu cyfiawnhau drwy roi tystiolaeth gadarn, a chael cefnogaeth y cyhoedd a'r busnesau, neu efallai feddwl am eu newid, a meddwl eto, a meddwl beth sydd orau i'n gwlad.
Rydym i gyd yn pryderu'n fawr wrth gwrs am y niferoedd cynyddol ledled fy rhanbarth yn ne-ddwyrain Cymru, ledled Cymru gyfan, ledled y DU. Mae'n gyfnod pryderus iawn, ac mae'r brechiadau'n dod, ond rhaid inni barhau i ledaenu'r neges fod angen i bobl gadw'n ddiogel, golchi dwylo, cadw pellter, gwisgo masgiau, a'r math hwnnw o beth, ond ar wahân i hynny, mae'n rhaid i'r cyfyngiadau fod yn rhesymol. Mae'n Nadolig. Mae pobl eisiau gweld ei gilydd. Wrth gwrs eu bod, ac rwy'n gwybod bod pobl eisiau cyfarfod a chael cwtsh, a hyn a'r llall, ond maent yn deall, ac rwy'n siŵr fod y rhan fwyaf o bobl yn deall, na allant wneud hynny. Maent yn gwybod nad mynd yn wirion ac yfed llawer o alcohol yw'r ffordd ymlaen. Bydd rhai pobl bob amser yn diystyru'r rheolau, ond nid yw'r mwyafrif yn gwneud hynny a'n busnesau, ar adeg cyn y Nadolig pan allant wneud rhywfaint o'r arian yn ôl, fel y dywedwyd eisoes, ar adeg o'r flwyddyn sy'n adeg dda o'r flwyddyn iddynt—. Nid wyf yn gweld pam fod angen cosbi'r busnes lletygarwch fel hyn, ac rwy'n defnyddio'r gair 'cosbi'—nid wyf yn credu eich bod yn bwriadu eu cosbi, fel y dywedodd Suzy, ond rydych yn eu cosbi ac nid ydynt wedi gwneud dim byd heblaw cadw at y rheolau a gwneud popeth yn wych yn fy marn i, gan roi llawer iawn o arian, amser ac ymdrech i geisio achub eu busnesau.
Felly, os gwelwch yn dda, rwy'n gofyn i chi unwaith eto: Weinidog, a wnewch chi ddarparu'r dystiolaeth gadarn pam oedd yr union gyfyngiadau hyn mor angenrheidiol? Diolch.
Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, eisoes wedi ein rhybuddio, fel Aelodau o'r Senedd, ar 1 Rhagfyr, fod arbenigwyr gwyddonol a meddygol wedi datgan yn glir—ac rwy'n ailadrodd—y gallai cyfanswm nifer y bobl â COVID yn yr ysbyty godi i 2,200 erbyn 12 Ionawr oni bai ein bod yn ymateb nawr. Ychwanegodd y Prif Weinidog y gallai fod rhwng 1,000 a 1,700 o farwolaethau y gellid eu hatal dros y gaeaf. Felly, mae cyfyngiadau coronafeirws Llywodraeth Cymru—y cyfyngiadau newydd—yn llym ac maent yn llym oherwydd bod angen iddynt fod. Ac er bod y golau ym mhen draw'r twnnel hwn i'w weld erbyn hyn, fel y mae llawer wedi sôn, rydym yn dal i fod yn y twnnel, a chyda'r tywyllwch hwnnw ym mhobman, ni fydd y Nadolig hwn fel Nadoligau eraill yn ystod cyfnod o heddwch yng Nghymru, ond ar ôl y Nadolig sy'n peri'r pryder enfawr, a gallai hynny'n hawdd, heb weithredu, ymestyn hyd y twnnel COVID hwn yn fawr.
Tanlinellir difrifoldeb y sefyllfa hon ymhellach gan grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru sy'n datgan, ac rwyf am ei ddweud yn araf, os gall pobl osgoi gweld eraill dros gyfnod y Nadolig, gan ohirio dathliadau tan yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf o bosibl neu gyfarfod o bell, rydym yn cynghori hyn yn gryf. Am neges sobreiddiol a sobr sy'n rhaid i bob un ohonom ei hystyried y Nadolig hwn.
Felly, i grynhoi a bod yn fyr, Ddirprwy Lywydd, mae'r cyfyngiadau hyn yn deillio o dystiolaeth wyddonol, yn gymesur, yn gyfreithlon ac yn gytbwys iawn, ac maent yn ymdrechu'n ddewr i wrthsefyll y peryglon digynsail ac amlochrog y mae ein gwlad yn eu hwynebu. Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ni allaf ddeall—rwy'n methu deall—pam na fyddai unrhyw berson ymwybodol yn y lle hwn yn cefnogi diogelwch y bobl y maent yn eu cynrychioli, ac ymwrthod yn lle hynny â phrif ddyletswydd, dyletswydd gyntaf un llywodraeth, sef cadw ein pobl yn ddiogel. Diolch.
Rwy'n credu ei bod yn dda ein bod yn cael y ddadl hon o'r diwedd. Un o broblemau'r pandemig yw ein bod yn cael mesurau wedi'u pasio'n gyson gan Lywodraeth Cymru nad ydynt erioed wedi cael eu cymeradwyo gan y Siambr hon. Gwnaeth Caroline Jones y pwynt ein bod ni yma yng Nghymru, yn ein sefydliad datganoledig, ymhell o fod yn ddemocratiaeth, a'n bod yn dod yn unbennaeth etholedig mewn gwirionedd.
Nawr, rwy'n derbyn yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am y pwynt hwn yn ei ddatganiad agoriadol. Mesurau brys yw'r rhain, ond rhaid bod rhagdybiaeth ein bod yn trafod yn gyntaf cyn cyflwyno rheolau dadleuol. Ar y pwynt hwnnw, rydym ni ym Mhlaid Diddymu Cynulliad Cymru yn cefnogi gwelliant 16 Plaid Cymru heddiw. Rydym hefyd yn cefnogi'r rhan fwyaf o bwyntiau'r Ceidwadwyr.
Nawr, ar y mesurau penodol rydym yn eu trafod, nid wyf wedi dweud llawer am y cyfyngiadau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno. Fy mhrif fyrdwn oedd pwysleisio mai dull cydgysylltiedig ledled y DU fyddai'r ffordd fwyaf effeithiol o ymdrin â'r argyfwng cenedlaethol hwn. Byddai'n rhaid i Lywodraeth y DU arwain hyn, wrth gwrs. Nawr, mae llawer o bobl yng Nghymru yn amau bod y Prif Weinidog yn defnyddio'r pandemig fel ffordd o wthio ei agenda ei hun o blaid datganoli. Mae llawer o bobl y tu allan i'r lle hwn wedi dweud wrthyf eu bod yn credu mai dyma y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud. Nid wyf yn cynnig unrhyw farn i'r bobl hyn, dim ond gwrando. Dywedant wrthyf fod y Prif Weinidog yn benderfynol o wneud pethau'n wahanol yng Nghymru yn syml am ei fod yn cael gwneud hynny. Maent yn awgrymu wrthyf mai'r rheswm am hyn yw ei fod am roi cyhoeddusrwydd a chael mwy o gefnogaeth gyhoeddus i'w ymerodraeth ei hun yma ym mae Caerdydd, ac maent yn dweud wrthyf eu bod wedi cael mwy nag ychydig o lond bol arno.
Ond beth y mae ei benderfyniadau wedi arwain ato mewn gwirionedd? Cymru sydd â'r gyfradd heintio uchaf o bell ffordd o bedair gwlad y DU. Mae'r cyfnod atal byr fel y'i gelwir, y bwriadwyd iddo gynnig achubiaeth i fusnesau a allai obeithio masnachu'n llwyddiannus yn y cyfnod cyn y Nadolig, wedi bod yn fethiant llwyr. Gallai'r cau newydd hwn fod yn hoelen olaf yn yr arch i lawer o dafarndai a bwytai. Yr hyn sy'n waeth yw bod tafarndai wedi gwario miloedd o bunnoedd yn cydymffurfio â rheoliadau blaenorol COVID, ac eto cânt eu gorfodi yn awr i gau eu drysau eto. Mae arnaf ofn fod y syniad y gallant aros ar agor tra'n cael eu gwahardd rhag gweini alcohol yn jôc sâl. Pwynt gwerthu unigryw tafarn yw ei bod yn gwerthu alcohol; os nad yw'n gwneud hynny, prin ei bod yn dafarn.
Nawr, dywedir wrthym yn ddiddiwedd gan y Prif Weinidog fod yr holl fesurau y mae'n eu cyflwyno yn gorfod digwydd; nid oes unrhyw ddewis arall. Ymddengys bod y Prif Weinidog yn dweud bod unrhyw un sy'n anghytuno naill ai'n siarlatan, yn gelwyddgi neu'n ffŵl. Pan ofynnodd Laura Jones gwestiwn hollol ddilys iddo ddoe, dywedodd fod ei hymddygiad, ac ymddygiad y Ceidwadwyr, yn warthus. Mae'n ymddangos ei fod yn dweud wrthym mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r ffordd gywir oherwydd mai ef yn unig sy'n gwybod beth yw'r cyngor gwyddonol. Y broblem yw bod y cyngor gwyddonol hwn mor gymhellol fel nad yw hyd yn oed yn ei rannu â ni.
Yr hyn a wyddom o'r ystadegau sydd ar gael yw bod llai na 5 y cant o heintiau COVID yn digwydd mewn tafarndai neu mewn safleoedd lletygarwch; mae llawer mwy yn digwydd mewn archfarchnadoedd mewn gwirionedd. Pe bai'r Prif Weinidog wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw nes cau eu drysau am 6.00, byddai hynny wedi gwneud rhywfaint o synnwyr. Ond mae'r Prif Weinidog yn dweud bod pobl yn dechrau ymddwyn mewn modd mwy diofal ar ôl yfed alcohol. Mae'n ymddangos ei fod yn meddwl bod pobl mewn tafarndai'n gwegian ar eu traed ar ôl peint neu ddau o gwrw. Efallai y dylai ymweld â thafarn un diwrnod fel y gall weld nad yw'r ddelwedd hon sydd ganddo o yfwyr cwrw yn ddarlun cywir mewn gwirionedd.
Nid yw pobl ifanc, a allai fod yn fwy tebygol o fod eisiau parti, yn mynd allan cyn 6 o'r gloch at ei gilydd. Felly, byddai'r mwyafrif llethol o bobl sy'n yfed mewn tafarndai yn y prynhawn yn gwneud hynny'n synhwyrol. Felly, gallem fod wedi caniatáu i dafarndai barhau i weini cwrw yn y prynhawn; mae synnwyr cyffredin yn dweud hynny wrthym, ond nid oes synnwyr cyffredin gan y Llywodraeth hon yng Nghymru. Bydd pobl yn parhau i brynu cwrw mewn archfarchnadoedd a bydd mwy o bobl nawr yn mynd ag alcohol adref ac yn ei yfed mewn lleoliadau preifat, heb reolaeth, sy'n debygol o arwain at gyfradd heintio uwch.
Fel y dywedodd Tim Martin o gadwyn JD Wetherspoon, mae'r Prif Weinidog yn siarad rwtsh. Ble mae'r dystiolaeth? Ble mae'r rhesymeg? Nid yw'n ateb ei feirniaid mewn unrhyw ffordd synhwyrol. Y cyfan mae'n ei ddweud yw ei bod yn gywilyddus ein bod yn codi'r materion hyn; dyna mae bob amser yn ei ddweud. Ond os yw'n gywilyddus ein bod yn codi'r cwestiynau hyn am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud, mae llawer iawn o bobl gywilyddus allan yno yng Nghymru sy'n gofyn yr un cwestiynau'n union. Diolch yn fawr iawn.
Mae trigolion Aberconwy yn iawn i holi sut y mae'n deg fod sir Conwy, gyda chyfradd y 100,000 sydd bron naw gwaith yn is na Chastell-nedd Port Talbot, yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau gwaharddol. Yn wir, mae gwelliant Darren Millar yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith nad yw dull gweithredu ar gyfer Cymru gyfan yn rhesymol nac yn gymesur o ystyried bod COVID yn cylchredeg ar wahanol gyfraddau mewn gwahanol rannau o Gymru.
Nawr, cafwyd ceisiadau am dystiolaeth, a rhaid imi ategu'r sylwadau ynglŷn â pha mor anghwrtais, ymosodol ac amddiffynnol oedd y Prif Weinidog yn ei ymateb i Laura Anne Jones ddoe. Nawr, y dystiolaeth rydym i gyd wedi bod yn gofyn amdani, cawsom ein cyfeirio at y gell cyngor technegol. Mae hon yn eich hysbysu bod niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi yn bennaf mewn cartrefi gofal preswyl ac ysgolion.
Ysgrifennodd y Cynghorydd Sam Rowlands, sydd â'i fys ar y pwls fel arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, at Lywodraeth Cymru, yn esbonio bod:
lledaeniad y feirws rydym yn ei weld ar hyn o bryd yn digwydd drwy drosglwyddiad yn y cartref,
—yr un trosglwyddiad yn y cartref rydych bellach yn ceisio ei gynyddu oherwydd eich bod yn gyrru pobl o fusnesau lletygarwch sy'n cydymffurfio â mesurau COVID ac sy'n cael eu rheoleiddio. Nid yw'r awdurdod lleol na'r gell gyngor wedi cyfeirio at unrhyw dystiolaeth fod niferoedd uchel o ddigwyddiadau'n parhau i ledaenu oherwydd y sector lletygarwch a hamdden. Yn wir, yr hyn y mae'r rheoliadau wedi llwyddo i'w wneud yw gyrru rhai o fy etholwyr a thrigolion eraill Cymru i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i groesi'r ffin i Loegr i fwynhau gwydraid o win neu gwrw gyda'u pryd bwyd. Mae eich camau gweithredu chi'n llenwi pocedi busnesau lletygarwch dros y ffin ac yn gadael ein rhai ni'n wynebu ansicrwydd economaidd difrifol, a phryderon iechyd meddwl posibl. Ddoe, dadleuodd y Prif Weinidog yn ei amddiffyniad fod iechyd a lles a bywoliaeth fy mherchnogion busnes i'w hystyried yn ddibwys ac yn ymylol. Wel, rwy'n gwrthod y farn honno.
Yr wythnos hon, mae Lee Waters AS wedi dweud bod y Cabinet wedi trafod dull gweithredu rhanbarthol—felly, mae rhywfaint o synnwyr yno—gan ystyried lefelau is yng ngogledd-orllewin Cymru a siroedd fel Sir Benfro. Yn ôl yr hyn a ddywed ef hyd yn oed, mae dull rhanbarthol yn parhau'n opsiwn. Mae hefyd wedi'i ddyfynnu yn y cyfryngau yn dweud bod Aelodau Llafur gogledd Cymru, Ken Skates, Lesley Griffiths a Hannah Blythyn yn gofyn cwestiynau ynglŷn â dull rhanbarthol ar gyfer gogledd Cymru drwy'r amser. Felly, mae'n debyg nad yw Llywodraeth Cymru yn fyddar. Felly, a yw'n wir fod eich tri Aelod rhanbarthol yng ngogledd Cymru o bosibl yn cefnogi dull gweithredu haenog rhanbarthol, neu a fyddant yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw?
Mae llythyr digynsail wedi'i lofnodi gan fwy na 150 o fusnesau o bob rhan o ogledd Cymru yn tynnu sylw at y ffaith bod eu busnesau ar draws y rhanbarth wedi buddsoddi cryn dipyn o amser ac arian i wneud eu lleoliadau a'u busnesau yn ddiogel rhag COVID. Mae'r llythyr yn glir fod problemau difrifol gyda'r pecyn cymorth ariannol sy'n cael ei gynnig. Yna cawsom y drafferth gyda'r amseru, gyda Busnes Cymru yn dweud na fydd busnesau'n dechrau cael taliadau drwy gronfa gyfyngiadau'r gronfa cadernid economaidd tan fis Ionawr, ac ni ellir gwneud ceisiadau am gymorth i sectorau penodol y gronfa cadernid economaidd tan ganol mis Ionawr. Mae fy musnesau a busnesau eraill ledled Cymru yn colli arian wrth inni siarad, gan wynebu ansicrwydd a methdaliad o bosibl.
Gwn am un gwesty yn Aberconwy sydd wedi gweld colled net o £490,000 o drosiant ers 1 Hydref. Yn amlwg, dylem i gyd gefnogi'r galwadau i chi sicrhau bod digon o gymorth ariannol ar gael i fusnesau mewn modd amserol. Felly, a wnewch chi ddarparu gwybodaeth i'n busnesau fel eu bod yn gwybod beth y gallant ac na allant ei wneud dros gyfnod y Nadolig? Mae gennyf westai ar hyn o bryd lle mae gwesteion yn ffonio i ofyn, 'A gaf fi wydraid o win gyda fy nghinio Nadolig?', ac oherwydd yr ansicrwydd, maent yn canslo'u harchebion nawr. Rhowch rywfaint o gyngor inni, fel y gallant o leiaf wneud y cynlluniau hynny. Eglurwch pam eich bod yn canolbwyntio ar letygarwch, er bod y cyngor a roddwyd i chi'n tynnu sylw at gartrefi gofal preswyl ac ysbytai fel y mannau lle mae niferoedd uchel o achosion yn parhau i gael eu cofnodi.
Mae arnom angen dull lleol sy'n adlewyrchu'r gwahaniaethau enfawr yn y cyfraddau yn ardaloedd yr awdurdodau lleol. Erfyniaf ar bob Aelod i fod yn rhesymol ac i bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn heddiw. Byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ar ran Llywodraeth Cymru: pa mor hyderus ydych chi i ddefnyddio arian trethdalwyr i amddiffyn eich gweithredoedd mewn perthynas â fy awdurdod lleol pe bai adolygiad barnwrol ar ei ffordd? Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd.
Pwy fyddai wedi meddwl yr haf diwethaf y byddai dinasyddion y DU yn cael caniatâd y Llywodraeth i ymgynnull mewn grwpiau teuluol ar gyfer Nadolig 2020? Ac yma yng Nghymru, pwy fyddai wedi meddwl y byddem yn cael gwybod beth y gallem ei brynu, ble, ac na allwn aros mewn tafarn neu fwyty ar ôl 6 p.m. a chael diod alcoholig gyda'n pryd bwyd cynnar? Y cyfyngiadau diweddaraf hyn yw testun y ddadl hon.
Y siom a deimlir gan berchnogion busnes sydd wedi gwneud eu gorau glas i fod yn ddiogel rhag COVID, sydd wedi llwyddo i ddal eu gafael o drwch blewyn, ac eto sydd wedi cael ergyd enfawr arall gan y Llywodraeth hon. Mae'r teimladau yng ngogledd Cymru mor gryf fel bod grŵp o fusnesau wedi gwahardd y Prif Weinidog o'u sefydliadau, ac ni allaf eu beio. Bydd llawer mwy yn gwneud hynny hefyd. Er fy mod yn nodi'r pwyslais yn y cynnig ddoe ar y cymorth ariannol sydd ar gael, mae pobl yn y sector am gael yr urddas o ennill eu bywoliaeth eu hunain heb fynd drwy'r straen pellach o orfod cyfiawnhau eu hunain, eu hincwm a'u gwariant, a defnyddio porth anhrefnus a allai gau mewn rhai oriau oherwydd galw gormodol.
A'r cyhoedd: mae'r ymateb yno i'w weld ar unrhyw bostiad neu drydariad gan Lywodraeth Cymru. Yn groes i farn rhai yn y Siambr hon, nid yw'r cyhoedd yng Nghymru allan ar sesiwn yn barhaus, ac angen eu gwarchod. Weinidog, rydych wedi creu hinsawdd o ofn yng Nghymru. Mae'r ffocws ar y cyfrif marwolaethau dyddiol yn destun tristwch, am bob un annwyl a gollwyd, ie, ond hefyd y pwyslais ar farwolaethau COVID: mae pobl yn marw yn eu miloedd bob wythnos ac nid yw'r rhan fwyaf ohonynt yn marw o COVID. Yn wir, mae'r rhan fwyaf o bobl sydd â COVID yn gwella mewn gwirionedd. Pam nad ydych chi'n canolbwyntio ar y niferoedd hynny?
Gwrandewais gyda siom ar yr iaith a ddefnyddiodd y Gweinidog iechyd yn y gynhadledd i'r wasg ddoe, pan ddywedodd wrthym yn y bôn fod angen inni fihafio, neu ni fydd Nain yn gallu dathlu nos Calan am y bydd hi wedi marw. Mae cynnig y Ceidwadwyr yn sôn am gymesuredd ac ymyriadau wedi'u targedu; yn sicr, nid yw cau'r lleoedd sydd â'r lefel isaf o achosion COVID yn gymesur. Rydych yn fwy tebygol o ddal y feirws mewn archfarchnad neu ysbyty nag mewn tafarn neu fwyty, oni bai bod y Llywodraeth wrth gwrs yn gallu darparu tystiolaeth i'r gwrthwyneb.
Ym mis Hydref—dyma rywfaint o dystiolaeth i chi, Weinidog, os ydych am nodi peth—gwnaeth cennad COVID arbennig Sefydliad Iechyd y Byd apêl i Lywodraethau roi'r gorau i ddefnyddio cyfyngiadau symud fel ffordd o geisio rheoli'r feirws. Cawsom gyfnod atal byr; mae'n amlwg na weithiodd. Felly pam y mae'r Llywodraeth hon, i bob pwrpas, yn gwneud yr un peth ac yn disgwyl canlyniad gwahanol? Mae'n bryd ymddiried yn ein dinasyddion i wneud yr hyn sy'n iawn iddynt hwy, eu hanwyliaid, a'u hamgylchiadau unigryw. Mae'n bryd diogelu'r rhai sy'n agored i niwed, os ydynt eisiau cael eu diogelu. Ac mae'n bryd caniatáu i fusnesau cyfrifol agor a ffynnu unwaith eto. Diolch.
Diolch. Ac yn olaf, Neil Hamilton.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wel, mae'r cyfyngiadau un maint addas i bawb hyn yn amlwg yn afresymol ac nid ydynt wedi'u seilio ar unrhyw dystiolaeth ystadegol gredadwy. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud llawer iawn o gamgymeriadau polisi yn yr wyth mis diwethaf, ac mae'r rhagfynegiadau a wneuthum pan feirniadais bob un ohonynt i gyd wedi dod yn wir. Ni weithiodd y cyfnod atal byr, ac ni allai weithio ychwaith—y cyfan y gallai ei wneud oedd gohirio trosglwyddiad y clefyd ar y gorau. A bydd y cyfyngiadau symud hyn yn union yr un fath. Os mai'r cyfiawnhad dros y cyfyngiadau symud hyn yw bod rhaid i ni gael achub bywydau yn brif amcan, ni ddylem fod yn agor eto ar gyfer y Nadolig; yn wir, ni ddylem fod yn agor eto o gwbl nes bod gennym frechlyn effeithiol y profir ei fod yn gweithio. Ond yn amlwg, ni allwn gau'r economi gyfan, neu fel arall bydd cynifer o broblemau eraill yn deillio o hynny. Ond pam ein bod yn canolbwyntio ar fesurau sy'n amlwg yn mynd i gael cyn lleied o effaith, os o gwbl, ar drosglwyddo'r feirws, gan fod pawb sydd wedi siarad yn y ddadl hon yn erbyn y rheoliadau wedi dweud yn rymus mai tafarndai ac amgylcheddau eraill a reoleiddir yw'r amgylcheddau lleiaf tebygol y bydd y clefyd yn cael ei drosglwyddo ynddynt? A'r dewis arall yw yfed gartref ac mewn amgylchiadau eraill lle ceir risg uwch o drosglwyddiad. Fel arfer, mae'r Llywodraeth yn defnyddio gordd i dorri cneuen.
Bob wythnos, yn ne-orllewin Cymru rydym yn cael cyfarfod gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, ac maent wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Yr wythnos diwethaf, roedd 89 o bobl yn yr ysbyty yn y tair sir, Ceredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, 89 yr wythnos cynt, ac 85 yr wythnos cyn honno. Ble mae'r dystiolaeth ystadegol fod angen y mesurau hyn yn yr ardaloedd hynny? Ddeuddydd yn ôl, cyhoeddodd Iechyd Cyhoeddus Cymru restr o'r 22 awdurdod yng Nghymru a'r cyfraddau heintio a'r cyfraddau marwolaethau a'r cyfraddau canrannol o brofion positif. A beth yw'r synnwyr cyffredin y tu ôl i bolisi sy'n trin Gwynedd, gyda chyfradd o 40 o bobl ym mhob 100,000 wedi'u heintio gan COVID, yn yr un ffordd â Chastell-nedd Port Talbot, gyda chyfradd o 621 ym mhob 100,000? Mae'r gwahaniaeth rhyngddynt yn ffactor o 15. Yn amlwg, nid oes sail resymegol dros bolisi sy'n cymhwyso'r un cyfyngiadau'n union i ardaloedd lle ceir angen cynyddol i roi rhai mesurau ar waith ac ardaloedd lle nad oes angen amlwg o gwbl.
Ac mae'r gwaharddiad ar alcohol mewn tafarndai a bwytai cyn 6 o'r gloch yn amlwg yn gwbl hurt ac yn mynd yn groes i synnwyr cyffredin, sydd, fel y nododd llawer o'r Aelodau yn y ddadl hon, yn dangos pam fod rhwystredigaeth gynyddol ynghylch anallu Llywodraeth Cymru i ymateb naill ai i'r apeliadau a wneir ar ran y busnesau niferus a fydd yn mynd i'r wal o ganlyniad i'r cyfyngiadau symud parhaus hyn neu'n wir, y cyhoedd sydd am gael rhyw fath o fywyd cymdeithasol sy'n cyd-fynd â rheoli'r feirws, neu fesurau rheoli rhesymol ar gyfer y feirws.
Ac mae'r tafarndai a'r bwytai wedi gwario miloedd ar filoedd o bunnoedd ar geisio sicrhau bod eu busnesau'n cydymffurfio â mesurau COVID, ac erbyn hyn mae'r holl arian hwnnw wedi'i wastraffu. Ac os bydd yn rhaid iddynt aros am fisoedd er mwyn cael unrhyw fath o iawndal ariannol, bydd hynny'n cynyddu nifer y rhai a fydd yn mynd i'r wal.
Mae'n amlwg mai tafarndai ar y ffin, neu o fewn pellter rhesymol i'r ffin rhwng Cymru a Lloegr, sydd o dan yr anfantais fwyaf a beth yw'r budd yng ngogledd-ddwyrain Cymru neu'r holl ffordd i lawr ardaloedd y ffin—i lawr i Gas-gwent—o gau pob sefydliad ar un ochr i'r ffin pan fyddant yn dal i fod ar agor ar yr ochr arall? Mae'n amlwg yn syniad hurt fod rhaid i ni gael un polisi sydd yr un mor berthnasol i bob rhan o'r wlad er gwaethaf y gwahaniaethau amrywiol a gwahanol rhwng y ffordd y trosglwyddir y clefyd ac yn wir y lleoedd y caiff ei drosglwyddo ynddynt.
Oherwydd na roddodd Llywodraeth Cymru fawr o rybudd, mae'n amhosibl i fusnesau gynllunio ymlaen llaw er mwyn ceisio lliniaru effeithiau'r cyfyngiadau symud. Mae wedi bod yn amhosibl i fusnesau gynllunio ym maes lletygarwch oherwydd bod cwrw'n troi ac felly, os na allwch ei werthu, rhaid i chi gael gwared arno, ac rydym wedi gweld hynny. Yn ôl y sôn, mae'r Glamorgan Brewing Company, sydd wedi'i leoli yn Llantrisant, wedi arllwys 40,000 peint o gwrw i lawr y draen yr wythnos diwethaf, ac mae llawer o rai eraill yn yr un sefyllfa'n union. Mae cadeirydd yr Ymgyrch dros Gwrw Go Iawn wedi dweud nad oes unrhyw dystiolaeth y bydd gwaharddiad llym ar alcohol yn atal lledaeniad COVID-19. Yr hyn sy'n amlwg yw bod ein diwylliant tafarn yn cael ei ddefnyddio fel bwch dihangol cyfleus o ran lledaeniad y pandemig.
Ac wrth gwrs, mae'n ymddangos bod gan Lafur Cymru hanes da o ddinistrio busnesau lleol o blaid cwmnïau rhyngwladol mawr. Yr un person yn y byd sydd wedi gwneud fwyaf yn sgil COVID yw Mr Jeff Bezos, oherwydd mae Amazon wedi cynyddu ei fusnes yn sylweddol o ganlyniad i'r pandemig. Bydd y gwaharddiad ar alcohol mewn tafarndai a bwytai a bariau lleol ond o fudd i'r archfarchnadoedd ac yn anfanteisiol i fusnesau annibynnol yng Nghymru. Nid yw'n syndod fod ein Prif Weinidog wedi'i wahardd o dros 100 o dafarndai ledled Cymru a heb amheuaeth, bydd llawer mwy'n gwneud yr un peth.
Mae'r Prif Weinidog wedi symud y pyst gôl ar gyfer y tafarndai sydd wedi treulio llawer o amser a miloedd o bunnoedd ar wneud eu safleoedd yn ddiogel rhag COVID. Dywedodd Llywodraeth Cymru wrth dafarndai y gallent agor pe baent yn gwneud eu safle yn ddiogel rhag COVID, ond cyn gynted ag y cawsant ganiatâd i agor, cawsant eu cau eto dros y cyfnod atal byr o bythefnos. Ac ar ôl i hynny gael ei godi, caeodd Llywodraeth Cymru dafarndai'n llechwraidd, drwy osod mesurau heb unrhyw dystiolaeth, a'i gwnâi'n anymarferol i lawer o dafarndai agor. Felly, ni fyddaf yn petruso rhag pleidleisio yn erbyn y mesurau hyn unwaith eto heddiw, gan fy mod yn credu y dylid cael—
Mae angen i chi ddod â'ch sylwadau i ben nawr. Rwyf wedi bod yn hael iawn, Neil Hamilton.
Diolch, Lywydd. Os yw rheoliadau i gael eu cyflwyno, credaf y dylai fod rhyw sail ystadegol gadarn iddynt, ac felly, mae'n ddyletswydd ar y Llywodraeth i gyhoeddi hynny. Ac oherwydd fy mod yn credu nad oes sail o'r fath—
Gofynnais ichi ddod â'ch sylwadau i ben. Un frawddeg olaf, os gwelwch yn dda.
Ac ar y sail honno, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn.
Diolch. Andrew R.T. Davies i ymateb ar ran y Ceidwadwyr Cymreig.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu yn y ddadl hon? Credaf fod y nodyn gan y Dirprwy Lywydd, a gadeiriodd y cyfarfod, wedi dweud bod cyfanswm o 17 o gyfranogwyr yn y ddadl i gyd. Felly, ni allwn wneud cyfiawnder â phawb a gymerodd ran, ond diolch i chi i gyd, a chredaf y dylai'r Llywodraeth nodi'r lefel honno o ryngweithio sydd wedi digwydd yma y prynhawn yma. Ac yn benodol—ac mae hon yn apêl y credaf y dylai'r Llywodraeth wrando arni—wrth ddod â'r rheoliadau hyn gerbron y Cynulliad fel y gallwn bleidleisio arnynt, dyna un o'r pethau mawr y cysylltodd llawer o etholwyr â mi yn eu cylch—. A gallwch ddadlau a yw'r rheoliadau'n iawn neu'n anghywir, ond ni allant ddeall o gwbl pam na fu pleidlais ar y rheoliadau hyn.
A'r Gweinidog, yn ei sylwadau agoriadol—ac nid wyf yn anghytuno â rhai o'r pwyntiau a wnaeth a'i angerdd yn eu cyflwyno, oherwydd rydym i gyd yn cytuno ei fod yn epidemig iechyd cyhoeddus. Rydym i gyd yn pryderu am y niferoedd cynyddol. Gadewch inni ei wynebu, wrth inni sefyll yma heno—wrth inni sefyll yma heno—Cymru sydd â'r gyfradd uchaf o farwolaethau yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, hi sydd â'r gyfradd heintio uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, ac fel y dywedodd Darren Millar, a agorodd y ddadl, o'r 10 awdurdod lleol sydd â'r nifer fwyaf o achosion ledled y Deyrnas Unedig, mae naw ohonynt yma yng Nghymru.
Felly, nid oes neb, o unrhyw blaid wleidyddol, yn anghytuno ynglŷn â difrifoldeb yr hyn y mae'r wlad yn ei wynebu, ond mae'n gwbl resymol inni ddod i'r Siambr hon a thrafod dewisiadau amgen a chynnig dewisiadau amgen, oherwydd pan edrychwn ar yr hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i gyflwyno dro ar ôl tro i'r Siambr hon—a phe bawn yn mynd drwy reoliadau'r hydref yn ystod y 12 wythnos diwethaf a ddygwyd i'r Siambr hon—rydym wedi cael cyfyngiadau yn ôl ardaloedd cynghorau wedi'u rhoi ar waith, heb iawndal ariannol i fusnesau, gallwn ychwanegu; rydym wedi cael y cyfyngiadau teithio rhwng Cymru a Lloegr; rydym wedi cael y cyfyngiadau symud/cyfnod atal byr a oedd yn mynd i wneud gwahaniaeth mor enfawr ac mae'n amlwg nad yw wedi gwneud hynny. Ar ôl y cyfnod atal byr, cawsom deithio digyfyngiad ar sail Cymru gyfan, felly ni wnaeth unrhyw wahaniaeth beth oedd y gyfradd heintio ym mha ran bynnag o Gymru rydych chi'n dod ohoni; gallech deithio neu beth bynnag roeddech am ei wneud. Bellach mae lletygarwch wedi'i gau, ond eto gallech neidio i mewn i'ch car oherwydd yr wythnos diwethaf codwyd y cyfyngiadau teithio a gallech fynd draw i Loegr i ardal haen 2 neu haen 1 a chael peint o gwrw a mwynhau lletygarwch yn yr ardaloedd hynny a dychwelyd i Gymru. A nawr mae'r cyfyngiadau'n llacio ar gyfer y Nadolig, a dywedir wrthym mewn datganiadau gan y Gweinidog iechyd a'r Prif Weinidog, a phawb arall sy'n cynghori, y bydd cyfyngiadau dramatig ar y wlad pan ddaw'r Nadolig. A oes ryfedd fod hyder y cyhoedd yn yr hyn y mae'r gwleidyddion yn ei ddweud yn lleihau?
Rwyf am holi'r Gweinidog iechyd am ei gyfeiriad at y briff a gafodd Rhun ap Iorwerth a minnau yr wythnos diwethaf. Dyna'r briff uniongyrchol cyntaf i lefarwyr a gynigiwyd i mi gan y Gweinidog iechyd ers i mi ymgymryd â'r rôl hon ym mis Gorffennaf. Dyna'r tro cyntaf. Nawr, pan fyddaf yn cymharu'r rhyngweithio'n wleidyddol rhwng y Llywodraeth mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig a'r gwrthbleidiau i'w hysbysu—. Os cymerwch y cyfyngiadau symud a gyflwynwyd yn Lloegr, cafwyd trafodaethau cynhwysfawr rhwng y gwrthbleidiau a rhannu gwybodaeth. Mae'n ddigon posibl y bu anghytundeb, ond o leiaf roedd pobl yn deall beth oedd yn digwydd. Heddiw, yma yng Nghymru, rhaid inni edrych ar y gynhadledd i'r wasg sy'n digwydd am 12:30 neu 12:15 ar ddydd Llun, dydd Mercher neu ddydd Gwener, yn hytrach na chael datganiadau yn y Senedd hon. A'r Senedd a ddylai fod â rôl benderfynu yn unrhyw rai o'r cyfyngiadau y mae'r Llywodraeth yn eu cyflwyno.
Ni allaf weld pam na allai neb bleidleisio dros y cynnig y mae'r Ceidwadwyr wedi'i roi ar y papur trefn heddiw, oherwydd credaf fod pob Aelod, gan gynnwys Aelodau'r Llywodraeth, yn codi eu hanesmwythyd ynghylch y cyfyngiadau sydd wedi'u gosod ar y sector lletygarwch. Y cyfan rydym yn galw amdano yw atal y cyfyngiadau presennol a gweithredu rheoliadau mwy cymesur yn eu lle. Credaf fod pob un Aelod—. Dywedodd Mike Hedges o Abertawe ei fod am i'r tafarndai agor cyn gynted â phosibl, ond mae am i gamau gael eu cymryd yn erbyn y rhai sy'n camdrin y system. Credaf y byddem i gyd yn cytuno â hynny, ac rydym i gyd am sicrhau, lle mae arferion gwael yn cael eu gweithredu, fod yr arferion hynny'n cael eu dileu, oherwydd yr union ffigurau y soniais amdanynt yn fy sylwadau agoriadol—y cyfraddau marwolaeth uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, y cyfraddau heintio uchaf yn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Mae'r rheini'n broblemau go iawn y mae'n rhaid inni fynd i'r afael â hwy, ac ni allwn droi ein cefnau ar y gweision cyhoeddus ymroddedig sy'n gweithio'n ddiflino yn ein systemau iechyd a gofal ac yn ein hawdurdodau lleol i sicrhau bod pobl yn ddiogel yn eu cymunedau neu mor ddiogel ag y gallant fod.
A bydd yn dibynnu ar bobl yn ysgwyddo eu cyfrifoldebau'n unigol ac yn bod o ddifrif yn eu cylch, oherwydd er ei fod yn teimlo fel pe bai hyn wedi bod yn digwydd ers canrifoedd, rydym o fewn pellter cyffwrdd, gyda'r brechlyn nawr, i ddyfodol mwy gobeithiol. Roedd yn braf gadael y tŷ y bore yma gyda'r newyddion brecwast yn llifo o bob cwr o'r byd yn nodi'r ffaith mai Prydain, y Deyrnas Unedig, oedd y wlad gyntaf i frechu ei phoblogaeth gyda brechlyn cymeradwy sydd wedi mynd drwy dreialon meddygol. Mae honno'n stori newyddion gadarnhaol y dylem fod yn ei chroesawu. Ond mae'r rheoliadau hyn y mae'r Llywodraeth wedi'u rhoi ar y bwrdd ers wythnos diwethaf sy'n cosbi rhan bwysig o'n heconomi—rhan o'n heconomi sydd wedi codi ei gêm, wedi mabwysiadu'r cyfyngiadau ac wedi buddsoddi i greu amgylchedd diogel i bobl gael cysur lletygarwch a rhyngweithio mewn amgylchedd wedi'i reoleiddio—wedi mynd yn rhy bell, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw.
Cefais fy meirniadu gan yr Aelod dros Dorfaen am wleidyddoli sefyllfa COVID. Nid wyf yn ymddiheuro am roi dewis arall pan gredaf fod y Llywodraeth yn anghywir. Rwyf wedi amlinellu yn fy sylwadau fy mod yn credu bod y Llywodraeth yn anghywir, a chyfeiriaf at y ffaith bod y bwrdd iechyd sy'n eich gwasanaethu chi a minnau, pan gefais fy sesiwn friffio gyda hwy'n ddiweddar, wedi tynnu sylw at y ffaith mai wyth o bobl a oedd mewn uned gofal dwys ar gyfer 88. Pan oeddwn yn dod i mewn i'r Siambr hon ac yn cael gwybod fy mod yn gwneud anghymwynas â'r GIG—. Gyda phob parch, ni fyddwn yn dweud bod unrhyw un yn y Siambr hon yn gwneud anghymwynas â'r GIG. Gall pobl roi dewisiadau amgen, oherwydd democratiaeth yw hi, ac rwy'n gresynu at y sylwadau a gyfeiriodd ataf fel Gweinidog iechyd yr wrthblaid ac at arweinydd yr wrthblaid heddiw. Mae democratiaeth yn dda i unrhyw wlad, a dyna pam ein bod yn trafod y pwyntiau hyn, a dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pobl yn cefnogi'r cynnig ar y papur trefn heddiw yn hytrach na dweud bod pobl yn gwneud pwyntiau gwleidyddol rhad, oherwydd nid ydynt yn gwneud hynny, a gwyddom ei werth. A gallaf eich gweld yn dweud ein bod, a byddwn yn falch o ddadlau ar unrhyw lwyfan a ddymunwch.
Galwaf ar y Gweindiog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol nawr i ymateb i'r ddadl ar ran y Llywodraeth—Vaughan Gething.
Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau yn y ddadl. Fe geisiaf fynd i'r afael â phrif fyrdwn y dadleuon a gyflwynwyd gan grwpiau o bobl yn hytrach nag yn unigol, o ystyried nifer y bobl a siaradodd.
Mae'r Ceidwadwyr wedi dweud yn gyson yn ystod y ddadl hon eu bod yn cydnabod difrifoldeb y sefyllfa sy'n ein hwynebu. Yr hyn y gwnaethant ofyn i'r Senedd hon ei wneud wedyn yw pleidleisio i lacio'r cyfyngiadau yn wyneb llif cynyddol o heintiau coronafeirws. Nid yw hwnnw'n safbwynt rhesymegol na chynaliadwy i'w fabwysiadu. Maent wedi mynnu mwy o dystiolaeth yn rheolaidd; maent wedi mynnu tystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio, ac mae arnaf ofn, fel y gwnaeth Alun Davies a Huw Irranca-Davies wrth ystyried y dystiolaeth honno a dyfynnu ohoni, ei bod yn ymddangos bod bron pob siaradwr Ceidwadol wedi dewis peidio ag ymwneud â'r dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio ar draws y Deyrnas Unedig. Mae'r dystiolaeth honno'n dystiolaeth rydym wedi'i hystyried ac rydym bellach yn ei chymhwyso i Gymru, ac mae'n ddrwg gennyf nad yw Aelodau eraill yn credu bod honno'n gymhellol, ond nid yw'r dystiolaeth gan SAGE, nid yw'r dystiolaeth gan y grŵp cynghori technegol i'w hanghofio na'i gwthio o'r neilltu am nad yw Aelodau eraill yn cytuno â hi. Ac yn y bôn, safbwynt mainc flaen yr wrthblaid swyddogol yw y dylid ymddiried yn Darren Millar, Paul Davies ac Andrew R.T. Davies i roi cyngor i'r wlad ar iechyd y cyhoedd, ond ni ddylai ein grŵp cynghori technegol, ni ddylai SAGE, ac ni ddylai pob prif swyddog meddygol yn y Deyrnas Unedig wneud hynny. Dylid rhoi'r cyngor hwnnw o'r neilltu o blaid cynigion nad ydynt wedi'u nodi mewn unrhyw ffordd ystyrlon yn y ddadl heddiw. Ni chredaf fod hwnnw'n safbwynt rhesymol a chyfrifol i'r Llywodraeth hon ei gymryd.
Ac o ran yr her a nodwyd gan Andrew R.T. Davies ar ddiwedd ei sylwadau, roedd yn ymddangos i mi fod adegau yn ystod y ddadl hon pan oedd fel pe na bai argyfwng iechyd cyhoeddus yn bodoli mewn gwirionedd, mewn amryw o'r sylwadau a wnaed gan siaradwyr Ceidwadol yn bennaf, yn y galwadau am lacio mwy ar gyfyngiadau, yn yr honiadau nad oes angen arfer y dull hwn o weithredu, ac yna yn yr honiad nad oes elfen o wleidyddiaeth yn hyn. Ond pan ddywedodd arweinydd yr wrthblaid ddoe fod Llafur wedi anwybyddu preswylwyr cartrefi gofal ar gyfer y brechlyn yma yng Nghymru, gallaf ddweud wrthych nad oedd y datganiad hwnnw'n wir, ac mae arweinydd yr wrthblaid yn gwybod nad yw'r datganiad hwnnw'n wir. Nid yn unig y mae'n gwneud anghymwynas â'r Ceidwadwyr Cymreig fod eich arweinydd yn gwneud datganiadau anwir—bwriadol anwir—mae'n gwenwyno ymddiriedaeth y cyhoedd. Ac yn yr argyfwng sy'n ein hwynebu, mae angen inni gael gonestrwydd ac uniondeb rhyngom, hyd yn oed wrth inni anghytuno. Ac nid wyf yn anghytuno â hawl Aelod i anghytuno â'r Llywodraeth, ond mae angen i bob un ohonom fod yn gyfrifol yn y ffordd yr awn ati i wneud hynny.
Er fy mod yn nodi sylwadau Rhun ap Iorwerth—ac edrychwch, rwy'n anghytuno â safbwynt Plaid Cymru—credaf fod tystiolaeth SAGE yn glir. Mae'n glir ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio yn y Deyrnas Unedig, mae'n glir ynglŷn â'r mesurau sydd wedi gweithio yn yr Alban ac yn Lloegr, mae'n glir ynglŷn â'r dystiolaeth o'r hyn sydd wedi gweithio yng Ngogledd Iwerddon, ac ni allwn lunio polisi drwy ddewis a dethol. Rydym yn edrych ar yr hyn sydd wedi gweithio, rydym yn edrych ar y dystiolaeth o sut y mae hynny wedi gweithio, ac rydym yn ei gymhwyso. Ac rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth sylweddol yn sail i'r safbwynt rydym wedi'i gymryd, ac mewn gwirionedd, fel y gwyddoch, yn yr Alban, mae'r Llywodraeth yno a arweinir gan Blaid Genedlaethol yr Alban wedi mabwysiadu'r un mesurau ag y gwnaethom ni eu cyflwyno fwy neu lai, y mesurau rydym yn eu trafod heddiw.
Mae'r grŵp cynghori technegol—unwaith eto, mae hwn yn bwynt a wnaed gan nifer o'r Aelodau—wedi rhoi cyngor dro ar ôl tro inni ar symud o gyfyngiadau lleol a oedd gennym cyn y cyfnod atal byr at set symlach o fesurau cenedlaethol. Dyna'r sefyllfa rydym ynddi. Efallai y bydd dull rhesymol yn bosibl yn y dyfodol, ond y cyngor clir ar hyn o bryd yw cadw at set symlach o fesurau cenedlaethol. A byddwn yn parhau i gyhoeddi'n agored y cyngor a gawn gan y gell cyngor technegol. Rydym wedi gwneud hynny ers dechrau'r pandemig. Roedd hwnnw'n benderfyniad cynnar a wneuthum o fewn y Llywodraeth, gyda chefnogaeth pob Gweinidog yn y Llywodraeth, oherwydd rydym am gael cyflenwad rheolaidd o wybodaeth y gellir ymddiried ynddi i'r cyhoedd ei gweld yn agored, gweld y wybodaeth a'r cyngor a gawn, a gwneud dewisiadau ynglŷn â sut rydym am gadw'r wlad yn ddiogel.
Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod nifer o'r Aelodau wedi cyfeirio at y briffiau a gawsant gan fyrddau iechyd a difrifoldeb y sefyllfa—difrifoldeb y sefyllfa, boed yn Aneurin Bevan, Cwm Taf, Hywel Dda neu'n wir, yn Betsi Cadwaladr hefyd.
Ni ddylem fod yn fodlon â chyfraddau coronafeirws mewn unrhyw ran o'r wlad. Fe'n hanogir yn rheolaidd i wrando ar amrywiaeth o bobl, rhywbeth y cyfeiriodd siaradwyr eraill ato. Rwy'n credu y dylai pobl wrando ar Dave ac ar Lisa, yr ymgynghorydd gofal critigol a'r nyrs arweiniol a siaradodd ar newyddion Channel 4 neithiwr am y sefyllfa yn Ysbyty'r Tywysog Siarl. Rhan o'r hyn y mae'n rhaid inni berswadio ein gwlad i'w wneud yw helpu ein GIG i'n helpu ni. Mae hynny'n ymwneud â newid ymddygiad, byw ein bywydau'n wahanol, a chydnabod nad yw'n fater o'r effaith ar nifer y gwelyau sy'n cael eu llenwi gan gleifion coronafeirws yn unig, mae'n ymwneud â'r effaith uniongyrchol ar ein staff, yr hyn y maent wedi mynd drwyddo eleni, a'r effaith a gaiff hynny arnynt hwy a'u parodrwydd a'u gallu i barhau i'n gwasanaethu am flynyddoedd yn y dyfodol.
Nid wyf am roi sylw difrifol i'r sylwadau mewn Senedd ddemocrataidd am y Llywodraeth yn gweithredu fel unbennaeth; mae rhywfaint o eironi yno nad wyf yn credu bod y rhai a grybwyllodd y gair yn ei ddeall fel y cyfryw.
O ran targedu'r cyfyngiadau symud—y sylwadau a wnaeth Angela Burns—a bod yn deg, ar ôl iddi adael y briff iechyd, mae'r Ceidwadwyr wedi gwrthwynebu'n fras y mesurau rydym wedi'u cyflwyno ac wrth gwrs, cyngor y grŵp cynghori technegol ar fesurau cenedlaethol. A gallaf ddweud bod y cydbwysedd rhwng bywydau a bywoliaeth pobl yn parhau i fod yn sail i'n dull o weithredu. Dylwn ddweud bod Andrew R.T. Davies wedi cyfeirio at gael un sesiwn friffio iddo ef a Rhun ap Iorwerth fel llefarwyr; rwyf wedi darparu sesiynau briffio rheolaidd i'r pwyllgor iechyd ers peth amser bellach, ac mae'n ffaith bod Andrew R.T. Davies wedi dewis peidio â mynychu mwy na hanner y sesiynau briffio hynny. Prin y gall gwyno am beidio â chael mynediad at wybodaeth gennyf fi, y prif gynghorydd gwyddonol a'r prif swyddog meddygol os yw'n dewis peidio â bod yn bresennol. I fod yn deg â Rhun ap Iorwerth a Dai Lloyd ac aelodau eraill o'r pwyllgor, maent yn mynychu ac yn cymryd rhan yn y sesiynau briffio hynny'n rheolaidd.
Rwy'n falch fod Dai Lloyd wedi sôn am elfen economaidd-gymdeithasol COVID—mae hynny'n wir iawn. Mae'n fater o ffaith bod gennym, dros y mis diwethaf, gyfraddau marwolaethau ychwanegol uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Mae hynny'n sicr yn wir, ac mae hynny'n sail i ddifrifoldeb ein safbwynt a pham ein bod yn gweithredu a pham y gallai fod angen inni roi mwy o gamau ar waith yn y dyfodol. Ond mewn gwirionedd, yn ystod y pandemig hwn, byddech wedi disgwyl i Gymru fod wedi cael cyfraddau marwolaeth uwch na Lloegr oherwydd, o'i chymharu â Lloegr gyfan, mae Cymru'n hŷn, yn dlotach ac yn fwy sâl—pethau sydd oll yn ffactorau arwyddocaol yn y marwolaethau COVID. Ac eto, mewn cyfraddau marwolaethau ychwanegol yn ystod y pandemig, ceir gwahaniaeth sylweddol, gyda Chymru â chyfradd marwolaethau ychwanegol is na Lloegr, a dyna realiti holl gwrs y pandemig hwn. Ac unwaith eto, rhan o'r rheswm dros weithredu yw sicrhau nad oes gennym lanw cynyddol o farwolaethau ychwanegol dros aeaf hir ac anodd.
Teimlwn fod y sylwadau gan David Rowlands yn beryglus, yn anghyfrifol, ac roedd bron bob ffaith neu honiad a wnaeth yn anghywir. Un o'r rhai allweddol i dynnu sylw ati yw bod COVID yn llawer mwy marwol na'r ffliw, ac mae honiadau i'r gwrthwyneb yn gwbl anghywir.
Rwy'n croesawu sylwadau difrifol at ei gilydd Suzy Davies a Nick Ramsay. Nid oes atebion hawdd, fel y soniodd Nick Ramsay. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrando ar gyngor arbenigol ac yna'n penderfynu, fel rydym ni wedi'i wneud. Rydym wedi cyhoeddi tystiolaeth y grŵp cynghori technegol, a dylid ystyried honno ac nid ei diystyru. O ran y dystiolaeth a gawn, daw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, pob cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus a'n prif swyddogion meddygol a'r grŵp cynghori technegol ei hun.
Rwy'n croesawu'r sylwadau a wnaeth Huw Irranca-Davies am y dadansoddiad a'r marwolaethau y gellir eu hatal. Gwn ei fod yn siarad fel rhywun sy'n gyn-drwyddedai, felly rhywun sy'n deall llawer am y fasnach a'r sefyllfa anodd y mae llawer o bobl ynddi. Rydym yn gwneud mwy—a Ken Skates, yn gwneud mwy—am y gwaith rydym yn ei wneud i gael taliadau awtomatig, ar y cyd â'r Gweinidog llywodraeth leol, ac mae trefniadau ar waith i wneud hynny. Roeddwn yn meddwl ei fod yn bwynt arbennig o isel yn y ddadl pan ddewisodd Darren Millar fod yn bersonol sarhaus wrth Ken Skates, sy'n gweithio'n eithriadol o galed, fel y mae Gweinidogion eraill, yn ystod y cyfnod digynsail hwn.
Dylwn dynnu tua'r terfyn, Lywydd, oherwydd er bod yr Aelodau i gyd wedi cael gwneud cyfraniadau, rwy'n credu ei bod yn deg dweud na fydd neb yn y Senedd, ar unrhyw ochr i'r ddadl hon, yn croesawu'r cyfyngiadau newydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'u rhoi ar waith, gan gynnwys y rhai ar y sector lletygarwch. Mae'r cyfyngiadau'n dangos yr hyn roeddem i gyd yn ei ofni: na fydd y cyfnod cyn y Nadolig eleni yn normal. Mae hwn yn benderfyniad anodd iawn, ond rwy'n glir mai cyflwyno'r cyfyngiadau newydd hyn oedd y penderfyniad cywir. Nid yw'n benderfyniad rwyf fi nac unrhyw Weinidog arall wedi'i fwynhau ar unrhyw adeg, oherwydd rydym yn deall yr effaith, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod ymateb i gynnydd yn nifer yr achosion mewn ffordd y mae SAGE yn ei hargymell yn glir, yn seiliedig ar ystyriaeth o'r dull yn Lloegr a'r Alban o'r hyn sydd wedi gweithio mewn gwirionedd. Ac wrth ailystyried y difrifoldeb, gadewch i ni atgoffa ein hunain eto: y gyfradd heddiw yng Nghymru yw 348 ym mhob 100,000. Mae 400 yn fwy o welyau yn ein gwasanaeth iechyd gwladol yn trin pobl â'r coronafeirws o gymharu ag uchafbwynt mis Ebrill.
Gwn y bydd y cyfyngiadau ar fusnesau'n achosi niwed a rhwystredigaeth, ac fel Gweinidog iechyd, gwn fod y niwed hwnnw'n real iawn, ac nid wyf byth yn anghofio'r realiti y bydd niwed economaidd yn arwain at niwed i iechyd. Dywedodd Angela Burns efallai na fydd busnesau'n dod yn ôl, ac mae hi'n iawn. Fodd bynnag, y cydbwysedd y mae'n rhaid inni ei daro yw'r realiti mai'r cyngor clir a gawn yw y bydd llawer o fywydau'n cael eu colli os na fyddwn yn gweithredu, bywydau nad oes angen eu colli, bywydau na allwn eu cael yn ôl, yn wahanol i fusnesau.
Rydym yn ystyried yn rheolaidd ac yn agored beth fydd effaith pob un o'n cyfyngiadau ar wahanol bobl—nid yn yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb yn unig y gwnawn hynny, ond o ran yr ystod o bobl a gweithgareddau, a'r ymyrraeth a wnawn ym mywydau pobl. Daw niwed ynghlwm wrth bob dewis. Rhaid i Weinidogion ddewis, fel y mae'n rhaid i'r Senedd ddewis—ac fe ddof i ben yma, Lywydd—ac rwy'n meddwl yn arbennig o ofalus am sylwadau Alun Davies am deimlo pwysau'r cyfrifoldeb ar ei ysgwyddau fel Aelod o'r Senedd hon, a gallaf ddweud wrthych fod hwnnw'n bwysau y mae pob Gweinidog yn y Llywodraeth hon yn ei deimlo wrth ddeall effaith y dewisiadau a wnawn ar y bywydau rydym yn ceisio eu hachub, a cheisiwn berswadio pobl i ymddwyn yn wahanol. Wrth i'r brechlyn ddod ar gael i helpu i achub bywydau ac i ddiogelu pobl, dylai'r amser y bydd hynny'n ei gymryd gryfhau ein hymrwymiad cyfunol ledled y wlad i wneud yr hyn y dylem ei wneud i gadw ein hunain a'n gilydd yn ddiogel drwy'r cyfan y dylem ei wneud i gadw Cymru'n ddiogel. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r Llywodraeth heddiw.
Y cwestiwn cyntaf yw: a ddylid derbyn gwelliant 2 i gynnig y Llywodraeth o dan eitem 7? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hyn? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly mae pob pleidlais o dan eitem 7 yn cael ei ohirio tan y cyfnod pleidleisio.
Y cwestiwn nesaf yw: a ddylid derbyn cynnig y Ceidwadwyr Cymreig o dan eitem 8 heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu hynny? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld a chlywed y gwrthwynebiad i hynny, ac felly mae'r eitem yna wedi ei gohirio hefyd tan y cyfnod pleidleisio.