– Senedd Cymru ar 7 Chwefror 2023.
Symudwn ymlaen at eitem 4 nawr, dadl ar y gyllideb ddrafft 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch o agor y drafodaeth y prynhawn yma ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Ers i ni gael cyfle i drafod y gyllideb ddrafft am y tro cyntaf yn y Senedd ar 13 Rhagfyr, mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn brysur yn craffu ar ein cynlluniau gwariant. Rwy'n croesawu'r sesiynau adeiladol iawn a gefais gyda'r Pwyllgor Cyllid a'r rhai a gafodd fy nghyd-Weinidogion gyda'u priod bwyllgorau. Cyn i mi gyflwyno rhai myfyrdodau cynnar ar y themâu sy'n deillio o'r gwaith craffu, mae'n bwysig cydnabod eto y cyd-destun heriol y mae'r gyllideb ddrafft hon yn cael ei pharatoi ynddo. Mae hon wedi bod yn flwyddyn pan welsom effeithiau parhaus chwyddiant, tri Phrif Weinidog, tri Changhellor, a'r gamreolaeth ysgytwol o arian cyhoeddus gan Lywodraeth y DU. Cawsom ddatganiad yn yr hydref gan y Canghellor diweddaraf a fethodd â chyrraedd y nod o bell fordd o ran yr ymyraethau sydd eu hangen i ymateb i'r heriau yr ydym yn eu hwynebu. Ond, er gwaethaf hyn, gan adeiladu ar ein hadolygiad gwariant tair blynedd, mae'r gyllideb ddrafft yn cydbwyso ein hymateb i'r argyfwng uniongyrchol ochr yn ochr â buddsoddi mewn newid tymor hirach. Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd, ond fe wnaethon ni hynny mewn ysbryd o gydweithio a thryloywder a rhoi pobl a chymunedau Cymru yn gyntaf.
Ein prif flaenoriaethau ar gyfer cyllideb 2023-24 yw diogelu gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a'n huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol, gan barhau i helpu'r rhai yr effeithir arnyn nhw fwyaf gan yr argyfwng costau byw, a chefnogi ein heconomi drwy gyfnod dirwasgiadol. Yn wahanol i'r hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi ei nodi yn eu gwelliant, rydyn ni'n credu mai'r blaenoriaethau hynny—amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl—yw blaenoriaethau pobl yng Nghymru. Gan adeiladu ar y cynnydd sylweddol mewn cyllid a ddarparwyd gennyf yn ein hadolygiad gwariant, yng nghyllideb 2023-24, rwyf wedi dyrannu £165 miliwn i'r GIG, £70 miliwn i ddarparu'r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gofal cymdeithasol, a £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol. Bydd cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn cynyddu 7.9 y cant ar sail gyfatebol, o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol. Ni fydd yr un awdurdod lleol yn cael llai na chynnydd o 6.5 y cant. Ochr yn ochr â'n cefnogaeth i wasanaethau cyhoeddus, byddwn yn parhau i gefnogi'r economi a busnesau gyda buddsoddiad uniongyrchol o £319 miliwn ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig. Mewn ymateb i'r argyfwng costau byw, mae'r gyllideb hon yn anelu cefnogaeth at y rhai sydd ei angen fwyaf, gan gynnwys trwy fuddsoddi yn ein cynllun treialu incwm sylfaenol a'n cronfa cymorth dewisol.
Trof yn awr at y pwyntiau a godwyd gan y gwaith craffu. Roeddwn yn falch o weld y Pwyllgor Cyllid yn cydnabod y cyd-destun anodd yr ydym yn cyflawni'r gyllideb hon ynddo, a byddaf, wrth gwrs, yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i gydnabod effaith gynyddol chwyddiant ac i godi ein cyllideb yn unol â'r datganiad gwanwyn sydd ar ddod. Byddaf yn parhau i alw arnyn nhw i roi'r hyblygrwydd cyllidol sydd ei angen arnom i wneud y defnydd gorau o'n hadnoddau mewn cyfnod anodd. Rwy'n croesawu cefnogaeth y Pwyllgor Cyllid ar gyfer hyn, a byddaf yn ei godi yng nghyfarfod nesaf Y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid, a fydd yn cael ei gynnal yn ddiweddarach yr wythnos hon. Ac ochr yn ochr â fy nghyd-Weinidogion, byddaf yn parhau i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu amrywiaeth o ymyraethau i gefnogi'r rhai sydd angen cymorth fwyaf. Mae'r adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhyng-lywodraethol yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau fel sail i gynnal cysylltiadau rhyng-lywodraethol. Ein gobaith yw y gallwn weithio'n bragmataidd gyda Llywodraeth y DU, trwy'r trefniadau adolygu cysylltiadau rhyng-lywodraethol newydd, cyn bod angen cychwyn y broses o ddatrys anghydfod ffurfiol. Fodd bynnag, ni fyddwn yn oedi cyn defnyddio'r broses honno pan fyddwn yn ystyried ei bod yn angenrheidiol.
Trof yn awr at y gwelliannau a gyflwynwyd gan Blaid Cymru ar godi cyfraddau treth incwm Cymru. Rydym wedi bod yn glir iawn nad nawr yw'r amser i godi cyfraddau treth incwm Cymru. Wrth gwrs, rydym yn ystyried ein holl ysgogiadau treth fel rhan o'n paratoadau cyllideb. Fodd bynnag, mae'r baich treth presennol ar ei lefel uchaf ers dros 70 mlynedd. Mae chwyddiant cynyddol yn effeithio ar bobl ledled Cymru, ac rydyn ni mewn argyfwng costau byw. Ni fyddwn yn gofyn i bobl dalu mwy ar hyn o bryd. Ni fyddai codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol o dreth incwm yn codi digon o arian i wneud gwahaniaeth sylweddol i'n cynlluniau gwariant. Byddai'n rhaid i'r cyfraniad mwyaf ddod gan drethdalwyr y bandiau cyfradd sylfaenol, a gadewch i ni fod yn glir y byddai hyn yn effeithio ar y gweithwyr ar y cyflogau isaf yng Nghymru. A'r un gweithwyr yw'r rhain sy'n chwilio am gymorth gan fanciau bwyd, yr un gweithwyr sy'n gorfod dewis rhwng gwresogi eu cartrefi a bwydo'u teuluoedd. Dylid defnyddio cyfraddau Cymreig o dreth incwm gyda phwyll ac yn strategol.
A gan droi at gyfalaf, does dim arian cyfalaf ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn natganiad yr hydref, felly does dim dyraniadau cyfalaf o fewn y gyllideb hon. Byddaf yn amlinellu rhagor o ddyraniadau cyfalaf trafodiadau ariannol o fewn ein cyllideb derfynol, wedi'u halinio â'n blaenoriaethau.
Gan droi at yr wybodaeth a ddarperir fel rhan o'r pecyn cyllideb eleni, mae'n bwysig iawn cofio ein bod wedi darparu cyllideb aml-flwyddyn hyd at 2025 y llynedd, ochr yn ochr ag adolygiad cwbl gynhwysfawr o ddyraniadau cyfalaf. Cyllideb un flwyddyn oedd eleni yn cadarnhau newidiadau i setliad y gyllideb fel rhan o ddatganiad Llywodraeth y DU yn yr hydref. Dylai'r ddau becyn cyllideb hyn—yr aml-flwyddyn a'r flwyddyn sengl—gael eu hystyried gyda'i gilydd yn glir, a bydd hyn yr un fath ar gyfer y flwyddyn nesaf oni bai bod rhai newidiadau sylfaenol i'n setliad cyllideb. Mae dogfennau'r gyllideb eleni yn canolbwyntio ar y newidiadau pwysig rydyn ni wedi'u gweithredu ar gyfer y rownd gyllideb hon, yn hytrach nag ail-ddatgan yr hyn sydd eisoes wedi ei gyhoeddi, wedi bod yn destun craffu ac wedi ei drafod gan y Senedd hon. Rwyf, wrth gwrs, yn agored i drafodaethau pellach i archwilio pa wybodaeth ychwanegol y mae pwyllgorau a rhanddeiliaid yn credu y byddai'n cynorthwyo'r gwaith craffu.
O ran cyflog, rydym yn cydnabod cryfder y teimladau a fynegwyd gan staff yn y pleidleisiau hyn ar gyfer gweithredu diwydiannol. Credwn y dylai ein holl weithwyr yn y sector cyhoeddus gael eu gwobrwyo'n deg am y gwaith pwysig maen nhw'n ei wneud. Yn anffodus, mae ein setliad ariannol yn llawer is na'r hyn sydd ei angen i ymateb i'r heriau sylweddol iawn y mae ein gwasanaethau cyhoeddus a'n gweithwyr yn eu hwynebu ar draws Cymru. Ni allwn godi digon o gyllid trwy'r pwerau cyfyngedig sydd gennym i ddarparu codiad cyflog sy'n cyfateb â chwyddiant i weithwyr y sector cyhoeddus. Roedd datganiad yr hydref yn gyfle a gollwyd i Lywodraeth y DU i roi codiad cyflog i weithwyr sector cyhoeddus sy'n gweithio'n galed ac atal gweithredu diwydiannol aflonyddgar eang ledled y DU.
Ond rwy'n falch, yn y dyddiau diwethaf, ein bod wedi gwneud cynnydd yn ein trafodaethau gyda phartneriaid undebau llafur sydd wedi arwain at oedi'r rownd bresennol o streiciau iechyd i raddau helaeth tra bod aelodau undebau llafur yn ystyried y cynnig diweddaraf yr ydym wedi'i wneud i ddatrys yr anghydfod. Bu angen gwneud dewisiadau caled i ddod o hyd i'r arian ar gyfer cost y cynnig cyflog hwn am eleni. Rydym wedi tynnu popeth y gallwn ni o gronfa wrth gefn Cymru ac rydym yn chwilio am danwariant o bob rhan o'r Llywodraeth i roi'r cynnig hwn at ei gilydd. Mae defnyddio'r arian yma i gynyddu cyflogau nawr yn golygu ein bod ni'n wynebu dewisiadau anoddach fyth yn y dyfodol, ond rydyn ni'n ffyddiog mai dyna'r peth iawn i'w wneud.
Wrth gloi, hoffwn gynnig fy niolch i bawb sy'n ymwneud â llunio a chraffu ar y gyllideb ddrafft hon. Mae craffu yn rhan hanfodol o'r broses, ac er fy mod yn cytuno gyda'r mwyafrif llethol o argymhellion y Pwyllgor Cyllid, mae rhai y bydd angen i mi eu hystyried yng ngoleuni'r cyfyngiadau yr ydw i wedi'u nodi heddiw. Byddaf i a fy nghyd-Weinidogion yn y Cabinet yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion holl adroddiadau pwyllgor y Senedd cyn y bleidlais ar y gyllideb derfynol ar 7 Mawrth.
I gloi, mae hon yn gyllideb ar gyfer amseroedd caled ac yn un pryd gwnaethpwyd dewisiadau anodd. Fodd bynnag, wrth gefnogi gwasanaethau cyhoeddus, busnesau a phobl, rydym wedi darparu'r sicrwydd a'r eglurder sydd ei angen i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn. Ac rwy'n edrych ymlaen at glywed gan gyd-Aelodau.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Peredur Owen Griffiths.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae’n bleser gen i wneud cyfraniad yn y ddadl bwysig hon ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Cyn i mi droi at feysydd penodol o fewn yr adroddiad, hoffwn ddweud bod y pwyllgor yn llwyr gydnabod yr anawsterau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u hwynebu wrth baratoi ei chynigion cyllidebol. Mae pwysau chwyddiant, costau ynni cynyddol a chynnydd mewn costau byw yn peri ansicrwydd ac yn rhoi pwysau digynsail ar gyllidebau sydd eisoes o dan straen. Mae hyn wedi'i waethygu gan gyfathrebu gwael rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig nad yw'n adlewyrchu perthynas waith effeithiol sy'n sail i sianeli cyfathrebu llyfn sy'n seiliedig ar gyd-barch. Dyna pam rydym ni'n cefnogi'r Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i sefydlu dulliau rhynglywodraethol cadarn i sicrhau y gall uwchgyfeirio anghytundebau yn effeithiol a datrys anghydfodau cyllid.
Fodd bynnag, nid yw'r heriau hyn yn golygu y dylem esgusodi’r Gweinidog neu na ellir gwella'r gyllideb ddrafft. Mewn gwirionedd, fel mae ein hadroddiad yn egluro, gwelsom fod nifer o feysydd lle mae'r gyllideb ddrafft yn siomi a lle y gellir gwneud gwelliannau.
Yn gyntaf oll, roedd y pwyllgor o'r farn bod diffyg eglurder a gonestrwydd ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran nodi lle mae penderfyniadau wedi eu gwneud yn y gyllideb ddrafft i atal, gohirio neu leihau cyllid. O ganlyniad, rydym wedi gwneud llu o argymhellion yn galw am fwy o eglurder yn yr wybodaeth a ddarparwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft. Mae hyn yn cynnwys galw ar y Gweinidog i ddarparu asesiad llawn o'r effaith y bydd chwyddiant uchel yn ei gael ar ei sefyllfa ariannu a'i rhaglen gyfalaf ac i newidiadau gael eu gwneud i'r ffordd y cyflwynir gwybodaeth, fel bod y gyllideb ddrafft yn darparu asesiad o effaith penderfyniadau gwariant ar draws portffolios.
Ar ben hynny, hoffwn nodi, ar ran yr holl bwyllgorau, er ein bod bob amser yn croesawu'r dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig a ddarperir gan Lywodraeth Cymru ar y gyllideb ddrafft, rydym yn credu y gellir gwneud mwy i sicrhau bod pwyllgorau'n cael tystiolaeth o'r fath mewn da bryd. Dyna pam y byddaf yn ymgynghori'n fuan gyda phwyllgorau'r Senedd ynghylch eu profiadau o graffu ar y gyllideb ddrafft eleni a gofyn am ffyrdd ymarferol y gellir gwneud gwelliannau i'r rownd gyllideb nesaf.
Gan droi nawr at ein barn am ddefnydd Llywodraeth Cymru o ysgogiadau cyllidol, er ein bod yn deall penderfyniad y Gweinidog i beidio codi trethi, mae'r pwyllgor yn synnu nad oedd Llywodraeth Cymru wedi cyflawni gwaith manwl ar effaith ymddygiadol amrywio cyfraddau treth incwm Cymru ar draws pob band. Mae hyn yn awgrymu'n gryf nad yw'r Gweinidog wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i newid y cyfraddau yn ystod y rownd gyllideb hon, a oedd yn siomedig, ac rydym yn gofyn i hyn gael ei ystyried yn iawn yn y dyfodol. Clywsom dystiolaeth bod angen diweddaru offer cyllidol Llywodraeth Cymru. Yn benodol, rydym yn cefnogi ymdrechion parhaus y Gweinidog i bwyso ar Lywodraeth y DU i gynyddu terfynau cyffredinol a blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer benthyca a chronfeydd wrth gefn o leiaf yn unol â chwyddiant. Clywsom hefyd fod natur ein pwerau codi trethi yn fwy cyfyngedig na'r rhai a fwynheir gan ein cefndryd yn yr Alban. Er ein bod yn cydnabod bod gwneud hynny ymhell o fod yn syml, hoffem i'r Gweinidog wneud gwaith sylfaenol ar fanteision a pheryglon datganoli pwerau i addasu cyfraddau bandiau a throthwyon treth incwm Cymru.
Un o agweddau allweddol y gyllideb ddrafft hon yw'r gefnogaeth a ddarperir i helpu gyda chostau byw cynyddol. O ran cael mynediad at fudd-daliadau, mae'r pwyllgor wedi hen argymell dull 'dim drws anghywir'. Wrth i'r galw am gefnogaeth o'r fath, yn anffodus, gynyddu, credwn y gellir gwneud mwy i sicrhau bod cael mynediad at gymorth o'r fath mor rhwydd a syml â phosibl. Dyna pam yr hoffem weld Llywodraeth Cymru yn defnyddio gweithdrefn garlam er mwyn cyflwyno system fudd-daliadau unedig, siarter budd-daliadau Cymru, er mwyn ei gwneud hi'n haws a symlach. Credwn hefyd fod angen mân gywiriadau i'r cynlluniau cymorth ariannol presennol, yn enwedig mewn cysylltiad â throthwy cymhwysedd, er mwyn sicrhau eu bod yn aros ar lefelau addas ac nad ydyn nhw'n eithrio'r rhai ar ymylon cefnogaeth. Mae'r pwyllgor hefyd wedi gwneud argymhellion pendant i wella'r hyn sydd eisoes ar gael. Mae hyn yn cynnwys annog ehangu'r model gofal plant am ddim, ystyried cynnydd yng ngwerth lwfans cynhaliaeth addysg, nad yw wedi cael ei gynyddu ers canol y 2000au, a blaenoriaethu datblygu rhaglen Cartrefi Clyd newydd ar frys i atal tlodi tanwydd.
Llywydd, mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn llwyr ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r cyllid ychwanegol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru drwy'r gyllideb ddrafft hon i gefnogi gwasanaethau o'r fath yn gam i'w groesawu, ac mae gennym ddiddordeb arbennig yn y dulliau arloesol sy'n cael eu harchwilio i gynyddu'r arian sydd ar gael, gan gynnwys cyflwyno ardoll gofal cymdeithasol i ariannu cost gynyddol darparu gofal cymdeithasol. Ond mae angen i'r Senedd wybod a yw'r cyllid hwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn sicrhau gwelliannau diriaethol. Rydym felly eisiau i Lywodraeth Cymru egluro'r canlyniadau y mae'n disgwyl i sefydliadau'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol eu cyflawni. Hefyd, er bod Llywodraeth Cymru wedi amlinellu meysydd blaenoriaeth i'r GIG, mae'n llai parod i amlinellu'r meysydd y mae'n disgwyl iddyn nhw golli blaenoriaeth. Fel y dywedodd un rhanddeiliad wrthym, 'Os yw popeth yn flaenoriaeth, yna does dim blaenoriaeth.' Ofer yw ymdrechion o'r fath i nodi blaenoriaethau gwario os na all y Gweinidog egluro hefyd pa feysydd sydd â llai o flaenoriaeth ac o ganlyniad yn derbyn llai o gyllid.
Yn ystod ein digwyddiad rhanddeiliaid yn Sefydliad y Glowyr Llanhiledd fis Mehefin diwethaf, dywedodd cynrychiolwyr o'r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol wrthym fod cynllunio'r gweithlu yn hanfodol er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i fod yn gydnerth ac yn addas i'r diben—thema a gafodd ei hailadrodd yn ystod ein sesiynau tystiolaeth. Er ein bod yn croesawu'r cyhoeddiad hwyr yr wythnos diwethaf o gynllun gweithredu cenedlaethol ar gyfer y gweithlu Llywodraeth Cymru, hoffem ei weld yn cael ei ymestyn ar draws sector cyhoeddus Cymru i ddarparu sefydlogrwydd tymor hir i wasanaethau yn ogystal â chefnogaeth a chyfeiriad. Ni allwn ddisgwyl i wasanaethau wella os nad ydym yn gofalu am y rhai sy'n gweithio mor galed i'w cynnal.
Yn olaf, hoffwn gyfeirio at yr amser a roddwyd i graffu ar y gyllideb ddrafft. Er ein bod yn derbyn nad oes gan Lywodraeth Cymru reolaeth dros amseriad digwyddiadau cyllidol Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae’r ffaith bod yr amserlen ar gyfer craffu ar y gyllideb ddrafft hon wedi ei thocio am y bedwaredd flwyddyn yn olynol yn destun pryder. Nid yw hyn yn deg ar Aelodau o'r Senedd, rhanddeiliaid, na'r cyhoedd yn gyffredinol. Rydym yn gresynu at yr effaith a gaiff hyn ar ein gallu i ymgysylltu ac ystyried cynigion y gyllideb ddrafft.
Wedi dweud hynny, rwy'n croesawu bwriad Llywodraeth Cymru i edrych o'r newydd ar ddiweddaru ein prosesau o ran y gyllideb, ac rwy'n falch bod y Gweinidog yn barod i ystyried ffyrdd o wella cyfleoedd craffu yn y Senedd. Mae hyn yn cynnwys cynnal sesiynau craffu cyn y gyllideb, pan fydd y broses o gyhoeddi'r gyllideb ddrafft wedi'i gohirio. Roeddem yn ystyried y dull hwn yn arbennig o ddefnyddiol eleni, wrth i ni geisio deall y ffactorau y tu ôl i broses Llywodraeth Cymru o lunio'r gyllideb.
I gloi, Llywydd, dywedais wrth Aelodau yn ystod cyllideb ddrafft y llynedd fy mod yn ystyried ymgysylltu â phobl ar draws Cymru, a gwrando ar randdeiliaid, yn flaenoriaeth. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth ac a rannodd eu safbwyntiau gyda ni drwy'r gwaith. Eleni, mae'r pwyllgor wedi sefydlu pont gyswllt glir rhwng ein gwaith ymgysylltu, y drafodaeth o ran blaenoriaethau, a'n canfyddiadau yn yr adroddiad hwn. Ein nod yw adeiladu ar y gwaith hwn ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth i ni edrych ymlaen at gylch cyllideb 2024-25. Diolch yn fawr.
Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig, a galwaf ar Peter Fox yn gyntaf i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Peter Fox.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant yn enw Darren Millar. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Rwy'n cydnabod y cefndir ariannol anodd y mae'r gyllideb eleni wedi'i drafftio ynddo. Er hynny, mae rhai arwyddion cadarnhaol y bydd y lefelau uchel presennol o chwyddiant nawr yn dechrau gostwng yn ystod eleni. Diolch i'r camau pendant a gymerwyd gan Brif Weinidog y DU a'r Canghellor, mae Banc Lloegr bellach yn awgrymu y bydd unrhyw ddirywiad economaidd yn fyrrach ac yn fasach na'r hyn a dybiwyd ar y dechrau.
Roedd rhai o'r penderfyniadau a gymerwyd yn anodd, rydyn ni'n gwybod, ond nhw oedd y feddyginiaeth oedd ei hangen arnom i wella iechyd cyllid y DU. Nawr mae angen i Weinidogion yma, yn y lle hwn, yng Nghymru, ddechrau ymdrin yn iawn â'r heriau enfawr y mae'r wlad hon yn eu hwynebu a rhoi'r gorau i chwilio am bobl eraill i'w beio. Oherwydd gellir goresgyn heriau, ac os ydyn ni'n mynd i greu'r Gymru rydyn ni i gyd eisiau ei gweld, yna mae angen i Lywodraeth Cymru gamu ymlaen a rhoi trefn ar bethau yma.
Llywydd, rydyn ni'n gwybod beth yw'r materion uniongyrchol y mae ein cymunedau yn eu hwynebu. Rydym yn trafod y rhain yma wythnos ar ôl wythnos yn y Siambr hon. Mae'n rhaid i'r gyllideb hon ymdrin â'r pwysau uniongyrchol y mae cymdeithas yn eu hwynebu, felly mae'n rhaid i ni flaenoriaethu ein gweithredoedd a sicrhau ein bod yn cyflawni'r rhain. Rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall hyn, ac mae meysydd yn y gyllideb ddrafft yr wyf i'n eu croesawu yn gyffredinol, fel yr arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl, y rhyddhad ardrethi annomestig ychwanegol i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch, a hefyd y cynnydd yn y setliad llywodraeth leol.
Ond, er gwaethaf hyn, mae meysydd yn y gyllideb ddrafft lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi cymaint o bobl, fel yr ydym newydd glywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, fel y toriad mewn termau real yn y gyllideb addysg. Yna mae'r toriad mewn termau real yn y cyllidebau iechyd a gofal cymdeithasol. A pheidiwn ag anghofio mai'r unig Lywodraeth ym Mhrydain i dorri cyllideb y GIG mewn gwirionedd oedd Llywodraeth Lafur yma yng Nghymru yn 2012. Ac rydyn ni'n gwybod hyd yn oed cyn y pandemig, fod y Llywodraeth Lafur dim ond yn gwario tua £1.05 o'r £1.20 roedden nhw wedi'i dderbyn gan Lywodraeth y DU am bob £1.00 oedd yn cael ei wario yn Lloegr, ar addysg a'r gwasanaethau iechyd yma. Mae pobl Cymru angen gwybod lle mae'r arian ychwanegol yna wedi cael ei wario.
Ceir cyhoeddiadau llawn bwriadau da, megis y cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chodiad cyflog athrawon, ond gwyddom y bydd disgwyl i gynghorau ariannu'r mwyafrif helaeth o'r cynnydd hwn o'r grant cymorth refeniw, yn hytrach na bod Llywodraeth Cymru yn camu i mewn a darparu cyllid uniongyrchol i alluogi'r rhain, sy'n golygu y bydd adnoddau y mae mawr eu hangen yn cael eu cyfeirio oddi wrth wasanaethau rheng flaen. Unwaith eto, mae hwn yn fater sydd wedi ei godi gan gynghorau ar sawl achlysur pan ddywedir wrthyn nhw, 'Mae yn eich setliad chi', sydd dim ond yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb i awdurdodau lleol.
Ac yna mae cyllid arferol hoff brosiectau, megis: y comisiwn cyfansoddiadol—siop siarad un ffordd; miliynau yn cael eu gwario ar botsian diangen ynghylch y polisi etholiadau a mwy o wleidyddion, sy'n tynnu arian o wasanaethau cyhoeddus a'i ganolbwyntio yma ym Mae Caerdydd; heb sôn am bethau fel cynlluniau treialu incwm sylfaenol cyffredinol a chyfyngiadau cyflymder 20 mya diofyn cyffredinol. O fod yn Llywodraeth sydd wedi galw'r union gyllideb hon yn 'Gyllideb ar gyfer amseroedd caled', nid yw'n ymddangos fel pe bai Gweinidogion yn canolbwyntio'n llwyr ar yr amseroedd caled hyn, nag yw hi?
I'w roi'n syml, Llywydd, mae angen cynllun sy'n canolbwyntio ar y problemau uniongyrchol y mae pobl a busnesau Cymru yn eu hwynebu a dyma lle mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn credu y gall y gyllideb ddrafft wella. Gwyddom, o ganlyniad i gyllideb hydref 2022, y bydd Llywodraeth Cymru yn cael £1.2 biliwn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf. Gadewch i ni wario'r arian hwnnw ar gyflawni blaenoriaethau pobl yn lle ar yr hyn rydw i wedi'i grybwyll yn gynharach.
Yn ei chyllideb ddrafft, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ailflaenoriaethu tua bron i £90 miliwn o gynlluniau adrannol presennol er mwyn, a dyfynnaf,
'ailbennu ffocws ein hadnoddau cyfyngedig i roi sylw i’r meysydd â'r angen mwyaf.'
Mewn cyllideb o bron i £23 biliwn, credwn y gallai'r gwaith ailflaenoriaethu hwn fod wedi mynd ymhellach i alluogi ffrydiau ariannu presennol i wneud mwy. Fel grŵp, rydym wedi nodi ffrydiau ariannu ychwanegol gwerth dros £100 miliwn dros y ddwy flynedd nesaf y gellid eu hailganolbwyntio yn y tymor uniongyrchol, ynghyd ag addasiadau i rai cyllidebau presennol a fyddai'n gost niwtral, ond yn helpu'n sylweddol tuag at helpu pobl gyda'r heriau costau byw, cefnogi busnesau i greu swyddi a ffynnu, a chlirio'r ôl-groniadau yn ein gwasanaeth iechyd. Mae angen ailflaenoriaethu rhai ffrydiau ariannu presennol nes bod y pwysau sy'n ein hwynebu yn dechrau lleddfu a bod gwasanaethau mewn sefyllfa sefydlog unwaith eto.
Er hynny, mae'n anodd canfod lle mae'r holl arian yma'n cael ei wario. Yn sicr dwi wedi ei chael hi'n anodd gweld glo mân y gyllideb hon. Yn fy rôl flaenorol o fewn y cyngor, gallwn ddeall pob elfen o'r gyllideb, ond dim ond Gweinidogion yma sy'n gwybod lle mae pocedi cyllid ychwanegol posib yn gorwedd. Ond gadewch i ni fod yn onest, faint o'r £350 miliwn o gyllid gweinyddu canolog a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft sy'n cael ei wario ar gyflawni blaenoriaethau pobl mewn gwirionedd? Sut mae gwario £6 miliwn ar bolisi etholiadau, £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol, neu dros £8 miliwn ar gysylltiadau rhyngwladol—
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Iawn, fe wnaf i.
Dywedaf wrth Peter Fox, nid wyf yn ceisio sgorio pwynt gwleidyddol yma. Hoffwn ofyn—[Torri ar draws.] Na, dydw i wir ddim. Beth yw polisi'r Ceidwadwyr nawr ar brydau ysgol am ddim cyffredinol? Beth yw eich barn bresennol ar y polisi penodol hwnnw?
Dydw i ddim yn myfyrio ar hynny ar hyn o bryd.
Hoffwn i wybod beth yw e. Hoffwn i wybod beth yw e, dyna'i gyd. Ac nid yw—.
Fy marn bersonol i yw bod yna lawer o bobl yng Nghymru sy'n gallu fforddio talu am brydau bwyd i'w plant yn iawn. A fyddech chi'n disgwyl prydau am ddim i'ch plant chi? A fyddwn i? Dydw i ddim yn credu. Felly, gadewch i ni fod yn onest, ac fe af yn ôl eto.
Felly, faint yw hynny? Ble mae'r gwariant o £6 miliwn ar bolisi etholiadol, ble mae'r £2 filiwn ar gomisiwn cyfansoddiadol a £8 miliwn ar gysylltiadau rhyngwladol—heblaw, wrth gwrs, rhaglen Cymru ac Affrica, yr ydym yn ei chefnogi—yn darparu gwasanaeth iechyd mwy cynaliadwy, mwy o swyddi a thalu biliau?
Ac nid yw cynllun gweithredu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ceisio cynyddu treth incwm i bobl sy'n gweithio'n galed y mae eu cyllidebau eisoes dan straen, yr hyn y mae Plaid yn bwriadu ei wneud, ac rwy'n cytuno â'r Gweinidog ar hyn. Gallant esgus y byddai eu cynlluniau'n effeithio ar yr enillwyr uchaf fwyaf, ond rydym i gyd yn gwybod mai pobl sy'n talu'r dreth incwm sylfaenol, sef y rhan fwyaf o drethdalwyr Cymru, fydd yn talu'r bil o dan gynlluniau Plaid.
Llywydd, gyda'r cyllid yr ydym wedi ei nodi fel grŵp, rydym wedi edrych ar chwe maes allweddol y gellid eu hariannu i gyflawni blaenoriaethau pobl yn well. Byddem yn cymryd camau ar unwaith i atal blocio gwelyau, agor ysbytai a rhoi diwedd ar y sefyllfa warthus o ambiwlansys yn ciwio y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys trwy gyflwyno gwestai gofal. Cyflwynwyd y rhain mewn mannau eraill yn y DU yn ystod y pandemig—yn wir, yn Nyfnaint, maen nhw'n dal i gael eu defnyddio—ac maen nhw wedi'u cynllunio i ddiogelu capasiti acíwt mewn ysbytai, gan ddarparu cyfleusterau cam-i-lawr ar gyfer pobl sydd angen cymorth ond nid gofal ysbyty.
Byddai hybiau llawfeddygol hefyd yn cael eu sefydlu ym mhob rhanbarth, er mwyn rhoi rhyddhad ychwanegol i system iechyd Cymru—maen nhw wedi cael eu trafod, ond dydyn nhw ddim yn cael eu cyflawni—creu mwy o theatrau llawdriniaethau, sy'n golygu y gallwn ddechrau mynd i'r afael â'r rhestrau aros annerbyniol o hir, gydag un o bob pedwar o bobl yng Nghymru yn daer am driniaeth, yn enwedig ym maes orthopaedeg, yr ydym yn gwybod bod y sector proffesiynol wedi gwneud llawer o awgrymiadau yn ei gylch.
Er mwyn cefnogi'r economi, byddai cronfa cymorth i ficrofusnes yn galluogi busnesau i ddechrau gweithredu ac ehangu trwy eu helpu gyda thalu cyfraniadau yswiriant cenedlaethol dau aelod newydd o staff. Byddai cynllun prawf yn cael ei sefydlu i roi cymhorthdal tuag at gost paneli solar i fusnesau bach, eu helpu nhw i leihau eu biliau ynni a chyfrannu at uchelgais sero net Cymru.
Byddem yn ehangu ar gynllun tai gwag y Llywodraeth trwy ei droi'n gynllun cymorth i brynu cartrefi gwag a'r rhai sydd angen eu hadnewyddu, fel y gallwn helpu pobl ar yr ysgol eiddo a datgloi bron i 20,000 o gartrefi sy'n sefyll yn wag yng Nghymru.
Yn olaf, byddem yn datgloi'r swm enfawr o dros £2.5 biliwn o gronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio sydd ar hyn o bryd yn eistedd mewn cyfrifon banc awdurdodau lleol, fel y gallwn rewi'r dreth gyngor yn y dyfodol agos, gan roi cymorth ychwanegol i'r rheini i ymdrin â'r argyfwng costau byw.
A wnewch chi gymryd ymyriad, Peter?
I wneud hynny—. Fe orffennaf y pwynt yma, Mike, os caf i. I wneud hynny, byddai fformiwla yn cael ei ddefnyddio gan Lywodraeth Cymru er mwyn galluogi addasu'r grant cynnal ardrethi, pryd mae cynghorau'n dal cronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio uwchben trothwy penodol. Byddai'r arian sy'n cael ei addasu o'r grant cynnal ardrethi dros y trothwy yn cael ei ailddosbarthu er mwyn creu cyllid gwaelodol ar draws y sector er mwyn galluogi pob cyngor i gadw lefelau treth y cyngor ar y lefelau presennol. Rydym yn gweld rhai awdurdodau sydd â chronfeydd wrth gefn y gellir eu defnyddio o £270 miliwn. Mae hynny'n annerbyniol. Rwy'n hapus i gymryd ymyriad nawr.
Roeddwn i'n mynd i ddweud ei fod wedi'i seilio ar yr asesiad gwariant safonol, y grant cynnal ardrethi, gan ystyried gallu cynghorau i godi arian. A fyddai'n rhaid i chi hefyd newid yr asesiad gwariant safonol er mwyn newid y grant cynnal ardrethi?
Yr hyn rwy'n ei awgrymu yn y fan yma yw rhywbeth nad yw'n annhebyg i'r hyn y byddem yn ei wneud pe byddem yn arwain cynghorau a gweld ein hysgolion yn cronni balansau enfawr gan beidio â defnyddio'r rheini i'r diben y cawsant eu creu ar ei gyfer, yr adnodd hwnnw i helpu i addysgu ein plant ifanc. Awgrym yn unig yw hwn, pan fo cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn sylweddol uwchben trothwy, byddai addasiad bach o £150,000 am bob £1 miliwn dros y trothwy hwnnw yn cael ei ddal yn ôl yn y grant cynnal ardrethi a'i ddosbarthu fel cyllid gwaelodol i ganiatáu i bob awdurdod arbed pobl rhag talu'r dreth gyngor ormodol sydd unwaith eto'n cael ei chynnig.
I grynhoi, Llywydd, rwy'n cydnabod bod Llywodraeth Cymru, fel pob Llywodraeth, yn wynebu heriau sylweddol yn y tymor agos, ond heddiw rydym wedi cyflwyno cynllun gweithredu'r Ceidwadwyr Cymreig, a fydd yn helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau uniongyrchol y mae ein pobl a'n busnesau yn eu hwynebu, ac i gyflawni cymunedau a gwasanaethau cyhoeddus mwy cydnerth, gan ddefnyddio'r adnoddau presennol, oherwydd mae angen i ni ddyblu ein hymdrechion i fynd i'r afael â'r materion mwyaf dybryd yr ydym yn eu hwynebu ar hyn o bryd a chyflawni yfory gwell i bobl heddiw.
Gwelliant 2 nawr, i'w gynnig gan Adam Price.
Gwelliant 2—Siân Gwenllian
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu'r gyfradd dreth sylfaenol gan 1 geiniog, y gyfradd dreth uwch gan 2 geiniog, a'r gyfradd dreth ychwanegol gan 3 ceiniog er mwyn cynyddu'r gyllideb sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng iechyd a gofal a rhoi help ariannol i bobl sydd â'r anghenion mwyaf.
Diolch, Llywydd. Does dim dwywaith nad oes gan Lywodraeth Cymru yr arian sydd ei angen arni i wneud yr hyn sy'n angenrheidiol i adeiladu'r math o gymdeithas deg yr ydym eisiau ei gweld. Mae hynny'n fwy gwir nawr nag y bu erioed, rwy'n credu. Yn y pen draw, mae'r diffyg arian hwnnw'n deillio o'n diffyg pŵer ni. Nid oes gennym y pwerau sydd eu hangen i dyfu ein heconomi yng Nghymru, sy'n ffordd gwbl hanfodol i gynhyrchu'r refeniw sy'n angenrheidiol i greu'r math yna o gymdeithas. Nid oes gennym chwaith y pwerau ariannol i reoli ein polisi cyllidol ein hunain—y pwerau benthyca, y pwerau amrywio trethi—i'n galluogi ni i godi'r adnoddau sydd eu hangen arnom, ac i wneud hynny'n deg. Mae ein dadl yfory, er enghraifft, yn ymwneud â rhoi'r grym i Gymru bennu'r bandiau treth incwm a'r trothwyon er mwyn i ni gael yr hyblygrwydd y mae'r Alban yn ei fwynhau ar hyn o bryd. Ein datrysiad i'r dilema hwn, wrth gwrs, yn y pen draw, a chyn gynted ag y gallwn ni, yw dod yn genedl annibynnol, fel bod gennym ni yr holl offer a'r ysgogiadau sydd ar gael i ni i greu'r gymdeithas honno yr ydym eisiau ei gweld. Ond nid dyna ein safbwynt ni ar hyn o bryd.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf, yn siŵr.
O ystyried yr ansicrwydd ynghylch y datganiad diwethaf yna am annibyniaeth, onid yw hynny'n un o'r risgiau mwyaf y gallech chi ei gymryd gyda'r economi?
Rydym yn anghytuno'n llwyr. Rydyn ni'n eich annog i ddarllen adroddiad Melin Drafod, a gafodd ei ddrafftio gan aelodau o'r Blaid Lafur, yn ogystal ag aelodau o Blaid Cymru a phobl nad oedden nhw o unrhyw blaid, a ddaeth i'r casgliad nad oes unrhyw rwystr cyllidol i Gymru rhag dod yn genedl annibynnol mewn gwirionedd, a bod manteision enfawr o ran y math o gymdeithas deg a ffyniannus yr ydym eisiau ei gweld. Ond nid dyna yr ydym yn ei drafod heddiw, Llywydd.
Ar hyn o bryd, ein safbwynt ni yw hyn: y dewis yr ydym yn ei wynebu yw a ddylid defnyddio'r pwerau sydd gennym, neu dim ond derbyn yr amlen ariannol a basiwyd i ni o San Steffan yn y bôn. Y broblem gyda'r llwybr olaf yw, i bob pwrpas, ein bod ni'n wynebu naill ai'r senario gwaethaf—cyni rhif 2 o dan y weinyddiaeth Geidwadol bresennol—neu, ar y gorau, gyda newid Llywodraeth, gwariant cyhoeddus gwastad. Ar ôl degawd a mwy o gyni, pan fo ein gwasanaethau cyhoeddus yn crefu am fuddsoddiad, mae Syr Keir Starmer wedi dweud, onid yw e, yn ddiweddar, ar wahân i'r ymrwymiadau cyfalaf uchelgeisiol, rhaid cyfaddef, o ran buddsoddiad yn yr economi werdd, ni fydd arian newydd—nid fy ngeiriau i, ei eiriau ef—a bod angen i bobl feddwl am agenda Llafur fel un degawd, oherwydd ni fydd buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn y pum mlynedd gyntaf. Mae hwnnw'n ogwydd mwy ceidwadol hyd yn oed na Llafur Newydd ym 1997, a oedd yn addo cadw at gynlluniau gwario'r Torïaid am y ddwy flynedd gyntaf. Yn y bôn, mae'n bum mlynedd o ddim arian sylweddol ychwanegol.
Mae Llafur a'r Ceidwadwyr yn San Steffan yn agosach nag y maen nhw'n cyfaddef o ran y brif her ariannol yr ydym yn ei hwynebu; maen nhw'n cynnwys gwahanol fathau o obaith ofer. Mae'r Torïaid yn esgus ei bod hi'n bosib torri trethi, ac ar yr un pryd, cynnal 'ansawdd' gwasanaethau cyhoeddus—rwy'n rhoi hwnnw mewn dyfynodau. Mae Llafur yn dweud y gall wella gwasanaethau cyhoeddus heb wario na threthu yn fwy. Nid yw'r naill blaid na'r llall yn barod i ddweud y gwir anodd, hyd yn oed gyda diwygiad—diwygiad angenrheidiol—ac arloesedd yn ein gwasanaethau cyhoeddus, mae'r iechyd a'r gofal sydd ei angen ar boblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym yn gofyn am fuddsoddiad. Rydym wedi cael system gofal cymdeithasol sydd wedi'i thanariannu'n ofnadwy, ac mae wedi bod mewn argyfwng ers cenhedlaeth. Rydym wedi llwyddo rywsut gyda system gofal iechyd sy'n dirywio'n raddol hyd at yn ddiweddar. Roedd y GIG yn fregus ac yn gwaethygu—argyfyngau'r gaeaf yn dod yn rhywbeth arferol, y cynnydd mewn disgwyliad oes yn arafu, marwolaethau y gellir eu hosgoi yn codi, anghydraddoldebau iechyd yn gwaethygu. Roedd y GIG yn ei hanfod, er ei fod yn ei chael hi'n anodd, yn dal i allu cymryd y straen i raddau helaeth, yn bennaf oherwydd ymdrechion arwrol y gweithlu. Ond mae'r cyfuniad o'r pandemig a'r argyfwng costau byw, ynghyd â 12 mlynedd o gyni, yn golygu bod y system iechyd a gofal gyfan nawr yn gwegian, ac oni bai ein bod yn gwneud rhywbeth radical, mae'n mynd i chwalu. Dyna'r gwir plaen.
Dyna'r gwir plaen sydd wrth wraidd yr anghydfod cyflog presennol, nad yw'n ymwneud â chyflog yn unig, neu hyd yn oed â chyflog yn bennaf, os siaradwch chi â'r bobl ar y llinellau piced; mae'n ymwneud â system gofal iechyd sy'n fregus a gweithlu ym maes iechyd a gofal sydd wedi blino'n lân ac sydd ar dorri. Mae 12 mlynedd o gyni wedi golygu gostwng cyflogau real i'r gweithlu a salwch cynyddol i'r cleifion, ac erbyn hyn y GIG ei hun sydd â salwch cronig. Gyda'r boblogaeth sy'n heneiddio ac yn clafychu'n gyflym, gyda degawd o danfuddsoddi mewn technoleg, a bellach rhestrau aros yn chwyddo, a gweithlu sy'n teimlo nad yw'n cael ei werthfawrogi, rydym wedi creu ein hargyfwng ein hunain. Roedd yno i'w weld, onid oedd? Rydyn ni i gyd yn gwybod hyn. Roedd yno'n amlwg yn y pandemig o ran diffyg capasiti yn y GIG, y prinder gwelyau, y prinder offer, y prinder gweithwyr a'n harweiniodd i sgrialu i wneud yn iawn am y diffygion hyn, sy'n sicr wedi cyfrannu at y cyfraddau marwolaeth uwch a welsom yma o'u cymharu â'n cymdogion Ewropeaidd.
Er mor anodd, credwn mai nawr yw'r amser, Gweinidog, i fod yn onest gyda'r bobl. Nid arian yn unig, fe wyddom, yw'r ateb, ond hebddo, nid oes unrhyw ffordd allan o'r argyfwng hwn. Y bobl a fydd yn talu'r pris uchaf yn y pen draw fydd yr union rai ar yr incwm isaf—nhw sydd bob amser yn fwyaf dibynnol ar ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus. Edrychwch ar yr holl dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru mewn gwirionedd yn ei chynhyrchu yn nhermau anghydraddoldebau iechyd. Mae toriadau ym maes iechyd a gofal yn effeithio ar y rhai sydd ar incwm is yn fwy na neb arall; dydyn nhw ddim yn gallu dianc rhag eu dibyniaeth ar wasanaeth cyhoeddus, dydyn nhw ddim yn gallu mynd yn breifat. Byddan nhw'n talu os na fyddwn ni'n gweithredu nawr. Byddan nhw'n talu, nid gydag arian, ond gyda bywydau byrrach a gyda bywydau mwy poenus. Dyna'r realiti plaen, ac mae'n rhaid i ni fuddsoddi ar eu cyfer nhw.
Rwy'n cael trafferth deall eich syniadaeth chi ynghylch hyn, mewn gwirionedd, oherwydd yr wythnos diwethaf gwelais yn y wasg fod Plaid Cymru eisiau codi trethi ledled Cymru. Sut bydd hynny'n helpu'r bobl sy'n derbyn y cyflogau isaf yn y wlad?
Rwyf newydd egluro'n union i chi. Mewn gwirionedd, y rhai sydd ar yr incwm is sy'n mynd i ddioddef fwyaf o'r toriadau mewn gwasanaethau cyhoeddus ar draws y meysydd, ac mae hynny'n wir ym maes iechyd hefyd. Felly, os nad ydyn ni'n buddsoddi, y bobl hynny ar yr incwm is fydd yn dioddef disgwyliad oes yn gostwng, bywydau byrrach, bywydau mwy poenus. Dyna pam mae'n rhaid i ni ei wneud e.
Dyna pam rydyn ni'n gwneud y cynnig hwn sydd, ydi, yn cynnwys cynnydd yn y gyfradd sylfaenol hefyd. Fe fyddem yn dymuno bod â'r pwerau sydd ganddyn nhw yn yr Alban, fel y gallem gael cyfradd gychwynnol, a fyddai'n is, gallem gael cyfraddau canolradd, a dyna beth rydyn ni'n canolbwyntio arno yfory. Ond mae'n rhaid i ni weithio o fewn y cyfyngiadau sydd arnom ni. Ond hyd yn oed wedyn, os yw'r Llywodraeth yn anghytuno â ni, yna, fel y dywedodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru, o leiaf defnyddiwch y gyfradd ychwanegol neu'r gyfradd uwch, fel y dywedais i'n gynharach. Byddai ei godi i lefel yr Alban mewn gwirionedd yn codi £72 miliwn y flwyddyn nesaf, £76 miliwn y flwyddyn ganlynol. Byddai hynny o leiaf yn caniatáu i chi godi cyfraddau gweithwyr gofal i £12 yr awr, a fyddai'n cael effaith sylweddol ar argyfwng swyddi gwag yn y sector hwnnw. Rwy'n clywed yr ymadrodd hwn, 'y cyfraddau treth uchaf ers 70 mlynedd'. Mae'n rhyfedd clywed geiriau Cynghrair y Trethdalwyr ar wefusau Gweinidogion Llafur. Ond rwy'n credu, mewn gwirionedd, yn y llyfrau hanes, ac wrth wneud y fathemateg, 70 mlynedd yn ôl roedd hi'n Lywodraeth Lafur Clement Attlee—oedd hynny'n gyfnod ofnadwy o ran yr hyn roedden ni'n gallu ei wneud, gan ddod allan o'r ail ryfel byd a'r baich enfawr yr oeddem yn ymdrin ag ef? Yn union fel roedden ni'n penderfynu yn y pandemig a fydden ni—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn cymryd ymyriad; rwyf wedi cymryd un oddi wrthoch chi'n barod.
Fe benderfynon ni, oni wnaethon ni, allan o'r pandemig, ein bod ni'n mynd i adeiladu cymdeithas well, roedden ni'n mynd i adeiladu'n ôl yn well, ac mae'n ymddangos ein bod ni wedi anghofio hynny i gyd. Rydym wedi anghofio'r holl glapio a wnaethom i gydnabod y gweithwyr allweddol. A phan edrychwn ar draws y byd, mae gennym gyfradd is o dreth na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac eto rydym yn parhau i ddweud wrth bobl y gallwch gael ansawdd lefel Sgandinafaidd o wasanaethau cyhoeddus a disgwyl talu lefel Americanaidd o drethiant. Mae'n rhaid i ni fod yn onest â'r bobl, mae'n rhaid i ni ei wneud nawr, ac mae'n rhaid i ni ei wneud ar frys, oherwydd does dim opsiynau di-gost yma, Gweinidog, ac os ydyn ni'n parhau ar hyd y llwybr yr ydyn ni arno, yna rwy'n poeni, a dweud y gwir, ynghylch dyfodol ein cenedl.
Rwyf am siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Hoffwn ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am ddod i sesiynau tystiolaeth y pwyllgor.
Fel pwyllgor, Llywydd, gwnaethom gydnabod bod gosod cyllideb ddrafft yn wyneb pwysau economaidd eithafol yn her anodd i Lywodraeth Cymru. Roeddem yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid i bob awdurdod lleol, ac yn arbennig bod y cynnydd cyffredinol yn uwch na'r ffigurau dangosol a ddarparwyd y llynedd. Ond er gwaethaf hyn, wrth gwrs, mae'r cynnydd yn is na chyfradd chwyddiant, ac rydym yn pryderu fod pwysau chwyddiant yn golygu y bydd awdurdodau lleol yn dal i wynebu penderfyniadau anodd a allai effeithio ar ddarparu gwasanaethau.
Dywedodd llywodraeth leol wrthym am orwariant o £200 miliwn ar draws awdurdodau Cymru yn y flwyddyn ariannol bresennol, y bydd yn rhaid ei adfer o gronfeydd wrth gefn, a hynny er gwaethaf y cynnydd mewn cyllid a ddarparwyd ar ddechrau'r flwyddyn. Nid yw dibynnu ar gronfeydd wrth gefn i dalu am orwario yn gynaliadwy, wrth gwrs, a dywedodd awdurdodau lleol wrthym eu bod eisoes yn poeni am adnoddau sydd ar gael ar gyfer y blynyddoedd i ddod. Credwn ei bod yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn paratoi nawr ar gyfer pwysau parhaus ar gyllidebau awdurdodau lleol er mwyn lleihau mwy o doriadau i wasanaethau sydd eisoes dan bwysau. Rydym felly wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn amlinellu sut mae'n gweithio gyda llywodraeth leol i baratoi ar gyfer pwysau parhaus yn ystod y blynyddoedd i ddod.
Mae gennym bryder penodol ynghylch yr arian cyfalaf i awdurdodau lleol. Rydym yn croesawu'r cynnydd mewn cyllid cyfalaf cyffredinol, ond rydym yn ymwybodol eto bod pwysau chwyddiant yn golygu na fydd awdurdodau'n gallu gwneud cymaint â'r cyllid hwnnw. Yn ôl yr awdurdodau lleol, unwaith yn rhagor eleni, mae cynnal a chadw priffyrdd yn dal i fod yn bwysau i'r rhan fwyaf o gynghorau. Mae'n siomedig felly nad oes arian cyfalaf priffyrdd penodol yn ei le. Cyn cwblhau'r gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, hoffem i Lywodraeth Cymru edrych eto ar y dyraniadau cyffredinol ar gyfer y gronfa trafnidiaeth leol a sicrhau bod digon o arian cyfalaf i awdurdodau lleol gynnal a chadw'r rhwydwaith priffyrdd a ffyrdd yn ddigonol.
Pryder arall cyson a basiwyd ymlaen i ni gan lywodraeth leol oedd yr her barhaus i recriwtio a chadw staff i weithio yn y sector gofal cymdeithasol. Bydd cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn siarad, fe wn, am eu pryderon ynglŷn â'r mater hwn. Rydym yn cefnogi argymhelliad y pwyllgor hwnnw y dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i ddarparu diweddariadau chwe mis ar waith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol.
Llywydd, roeddem yn pryderu bod yr arian a ddyrannwyd i'r grant cyfalaf ar gyfer safleoedd Sipsiwn a Theithwyr yn is nag mewn blynyddoedd blaenorol, yn enwedig oherwydd yn ystod ein hymchwiliad i ddarparu safleoedd, fe glywsom a gwelsom fod angen cynnal ac adnewyddu rhai safleoedd awdurdod lleol ar frys. Ond, fel pwyllgor, roeddem hyd yn oed yn fwy pryderus o ddysgu na fu unrhyw wariant o'r grant cyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol hon ac ni ragwelir y bydd yr un ohonyn nhw'n digwydd cyn diwedd mis Mawrth. Rydym yn credu bod hwn yn ddarlun plaen o'r rheswm pam y gwnaethom benderfynu ymgymryd â'n gwaith o ddarparu safleoedd ar gyfer Sipsiwn, Roma a Theithwyr yn y lle cyntaf ac mae'n taflu goleuni ar faint y problemau wrth ddarparu llety digonol ac addas ar gyfer y cymunedau hyn. Mae'n ymddangos ei fod yn flaenoriaeth rhy isel i Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, ac mae'n rhaid i hyn newid. Rydym wedi gwneud argymhelliad ar y cyd gyda'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ac rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru nodi'r rhesymau dros ddiffyg cynnydd yn y defnydd o grant cyfalaf safle Sipsiwn a Theithwyr a sut mae'n bwriadu gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn manteisio ar y cyllid pwysig hwn. Dylai hefyd egluro beth fydd yn digwydd i'r tanwariant o gyllideb y llynedd.
Mae digartrefedd a gwasanaethau cymorth cysylltiedig yn faes arall sy'n peri pryder i ni yn y gyllideb ddrafft hon. Mae nifer digynsail o bobl mewn llety dros dro yng Nghymru ar hyn o bryd, ac mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi pwysau adnoddau difrifol ar wasanaethau cymorth. Mae cyllid refeniw ychwanegol o £10 miliwn wedi'i ddyrannu ar gyfer atal digartrefedd, ond rydym yn poeni nad yw hyn yn ddigon i ymdrin â'r heriau presennol. Mae'r dyraniad grant cymorth tai yn parhau i fod yn £166.8 miliwn mewn termau arian parod. Mae hyn yn ostyngiad mewn termau real. Mae gwasanaethau sy'n cael eu hariannu gan y grant hwn yn hanfodol i atal a lleddfu digartrefedd. Rydym yn pryderu felly am yr effaith y bydd y toriad hwn yn ei chael ar y gwasanaethau hyn ar adeg pan fyddwn yn dibynnu arnyn nhw yn fwy nag erioed. Mae'n destun pryder hefyd bod staff rheng flaen, sy'n gweithio'n hynod o galed, yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Rydym yn gwerthfawrogi'r her y mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn ei hwynebu wrth bennu'r gyllideb ddrafft, ond rydym yn argymell bod rhaid i Lywodraeth Cymru ei gwneud hi'n flaenoriaeth i ddarparu cyllid ychwanegol ar gyfer y grant cymorth tai cyn y gyllideb derfynol. Mae'n faes allweddol o wariant ataliol. Rydym hefyd yn pryderu am nifer y bobl mewn llety dros dro a'r 22,000 o eiddo gwag hirdymor yng Nghymru, ac rydym yn credu bod yn rhaid rhoi mwy o flaenoriaeth iddyn nhw unwaith eto. Ac wrth gwrs, yr 20,000 o gartrefi ychwanegol, Llywydd, er na fydd y rhain i gyd yn adeiladau newydd, rydym yn pryderu'n fawr y bydd yn anodd cyrraedd y targed hwn, o ystyried cost deunyddiau a phroblemau gyda'r gadwyn gyflenwi a'r gweithlu.
Datgarboneiddio yw maes olaf pryder y pwyllgor, Llywydd. Ond rydym yn gefnogol iawn i benderfyniad y Gweinidog i beidio â thynnu'n ôl ar safonau tai fel mesur arbed costau. Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd, a dyna'r penderfyniad cywir. Diolch yn fawr.
Rydych chi'n lwcus eich bod yn nosbarth '99, John Griffiths [Chwerthin.] Roeddwn i'n arbennig o hael yn y fan yna. Russell George. Dydych chi ddim—dydych chi ddim.
Rwyf i yn nosbarth 2011, Llywydd.
Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Nawr, y llynedd, agorais fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddiolch i bawb a weithiodd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys gwirfoddolwyr a gofalwyr di-dâl ledled Cymru, am eu hymroddiad a'u hymrwymiad. Mae misoedd y gaeaf, fel rydyn ni'n gwybod, bob amser yn heriol yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn anffodus, nid yw'r gaeaf hwn yn eithriad o gwbl—ymhell ohoni. Felly, ar ran y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, diolch iddyn nhw'n ddiffuant iawn, unwaith eto, am bopeth maen nhw'n ei wneud.
Nawr, mae'r gyllideb ddrafft yn cynnwys mwy na £10 biliwn ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, yn ogystal â'r ddarpariaeth ar gyfer gofal cymdeithasol o fewn y setliad llywodraeth leol, wrth gwrs, ac rydyn ni, fel pwyllgor, wedi archwilio sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu defnyddio'r ysgogiadau ariannol sylweddol hyn i gyflawni ei chanlyniadau a'i huchelgeisiau a ddymunir ar gyfer ein gofal iechyd a chymdeithasol. Mae'r cyd-destun ariannol, wrth gwrs, yn heriol. Mae'n rhaid cydnabod hynny, ac wedi ei gyfyngu, wrth gwrs, gan chwyddiant uchel a chostau ynni uchel, ac wrth gwrs mae effaith y pandemig a chostau byw yn parhau i effeithio ar staff a gwasanaethau. Ac mae ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, wrth gwrs, yn ymrafael â mwy o alw, o ran mynd i'r afael â'r ôl-groniad amseroedd aros ac ymdrin â materion yn ymwneud â'r gweithlu hirsefydlog. Yn anochel, mae hyn yn effeithio ar yr ystod o weithgareddau y gellir eu darparu, ac o bosibl amserlenni gweithgaredd a chanlyniadau.
Rydym yn croesawu, fel pwyllgor, chwe blaenoriaeth y Gweinidog ar gyfer y byrddau iechyd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr, ac os gellir gwneud cynnydd yn y meysydd allweddol hyn, dylai ddatgloi capasiti a rhyddhau adnoddau i alluogi gwneud cynnydd mewn meysydd eraill yn y tymor hirach. Fodd bynnag, os blaenoriaethau yw'r rhain, yn ôl diffiniad, nid yw meysydd eraill yn flaenoriaethau, ac mae gennym rai pryderon efallai na chafodd byrddau iechyd ganllawiau clir ynghylch pa feysydd y mae'r Gweinidog yn eu hystyried fel rhai y mae'n dderbyniol yn wleidyddol iddyn nhw dynnu'n ôl ohonyn nhw. Felly, dywedodd y Gweinidog wrthon ni mewn pwyllgor y bydd hi'n adolygu cynlluniau tymor canolig integredig y byrddau iechyd ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno i weld a yw hi'n gyfforddus â'r penderfyniadau y maen nhw wedi eu gwneud. Ond, rydym i gyd yn gwybod y gallai penderfyniadau i leihau cyllid neu bwyslais fod yn heriol neu'n amhoblogaidd yn ogystal ag yn angenrheidiol, ac efallai na fydd cyfleoedd posibl i dynnu nôl mewn rhai meysydd ar lefel leol ond yn amlwg os rhoddir ystyriaeth lawn i opsiynau rhanbarthol neu genedlaethol. Felly, mae ein hadroddiad yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am drafodaethau â byrddau iechyd, gan gynnwys unrhyw bryderon y mae byrddau iechyd wedi eu codi, ac unrhyw ganllawiau pellach y mae Gweinidogion wedi eu rhoi ynghylch y modd y mae disgwyl i fyrddau iechyd liniaru unrhyw effaith sy'n deillio o hynny ar y meysydd nad ydyn nhw ymhlith y chwe blaenoriaeth.
Cyfeiriais at y pwysau yr ydym wedi'i weld mewn iechyd a gofal cymdeithasol y gaeaf hwn, ac rydym yn cytuno â'r Gweinidog bod mynd i'r afael â'r materion hyn sy'n ymwneud â llif cleifion ac oedi cyn trosglwyddo gofal yn hanfodol i ddatgloi'r dagfa yr ydym wedi'i gweld yn y system. Nawr, mae'n rhaid i ran o'r ateb ddatrys y materion gweithlu gofal cymdeithasol hirsefydlog yr ydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw, ac rydym yn cefnogi ymrwymiad y Llywodraeth i'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol—rwy'n llwyr gefnogi hynny fy hun—ond rydym yn cytuno hefyd â'r Dirprwy Weinidog na fydd yn ddigon ar ei ben ei hun i fynd i'r afael â phrinder cynyddol acíwt. Felly, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn deall brys y materion, megis gwella mynediad at dâl salwch, gwreiddio gweithwyr gofal cartref mewn timau amlddisgyblaethol a mynd i'r afael â'r anghysondebau mewn cyflog ac amodau i weithwyr gofal cymdeithasol a'r gwasanaeth iechyd. Ond nid ydym eto wedi ein perswadio bod gwaith y fforwm gwaith teg gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu ar y cyflymder sydd ei angen, bod mesurau gwirfoddol ar gyfer cydfargeinio neu strwythurau cyflog yn ddigonol, neu fod digon o eglurder ynghylch sut y bydd argymhellion y grŵp arbenigol gwasanaethau gofal cenedlaethol yn cael eu datblygu i gyflawni uchelgeisiau tymor hirach Llywodraeth Cymru ar gyfer gofal cymdeithasol. Felly, er mwyn ein helpu i fonitro'r maes hwn, rydym wedi gofyn i'r Gweinidog ymrwymo i ddarparu diweddariadau chwe mis rheolaidd i ni, trwy ein hargymhelliad 9.
Felly, rwy'n diolch i fy nghyd-Aelodau ar y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a hefyd y tîm clercio a'r tîm integredig ehangach hefyd am eu holl gefnogaeth o ran drafftio ein hadroddiad. A, Dirprwy Lywydd, a minnau'n aelod da o garfan 2011, fe welwch fy mod wedi cymryd pum munud ar ei ben. [Chwerthin.]
Ocê. Delyth Jewell.
Diolch, Llywydd. Rwy'n hapus i gyfrannu ar ran y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, a diolch i’r tîm clercio ac i’r Aelodau a phawb sydd wedi rhoi gwybodaeth inni sydd wedi bwydo i mewn i’n hargymhellion ni.
Yn ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft, ein prif neges yn llythrennol yw: diwedd y gân yw’r geiniog. Yn anffodus, mae gennym gryn bryder y bydd y setliad ariannol presennol un ai yn cyfyngu, neu’n waeth, yn dod i derfyn â sawl gwasanaeth pwysig y mae nifer o bobl yng Nghymru yn ddibynnol arnynt. Yn dilyn ein hadroddiad effaith costau cynyddol yn Tachwedd y llynedd, mae’n amlwg i ni fel pwyllgor bod yna fwy sydd angen ei wneud. Mae angen cymorth ychwanegol ar ein sectorau diwylliant a chwaraeon i ymdopi â’r argyfwng costau byw. Maent yn dal i wynebu effeithiau'r pandemig o ran cyfranogiad ac hefyd o ran eu hiechyd ariannol, ac felly, nid ydynt mewn sefyllfa i oroesi'r storm rydym ni i gyd yn ei hwynebu ar hyn o bryd.
Dywedodd y llyfrgell genedlaethol wrthym y byddai gostyngiad parhaus mewn cyllid cyfalaf yn peri risg parhaus i’n trysorau cenedlaethol, tra gwnaeth y cyngor celfyddydau ddweud y byddant yn croesawu’n frwd unrhyw arian ychwanegol y gellir ei roi i'r sector. Ar yr un adeg, mae un o'r deisebau mwyaf poblogaidd ar wefan y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gefnogi pyllau nofio drwy ddarparu pecyn o gymorth ariannol wedi’i neilltuo y tu hwnt i’r setliad terfynol ar gyfer llywodraeth leol i sicrhau bod pyllau nofio’n gallu aros ar agor.
Cafodd Llywodraeth Cymru ganmoliaeth haeddiannol am fuddsoddi dros £140 miliwn yn y sectorau hyn i sicrhau eu bod yn goroesi yn ystod y pandemig. Yn anffodus, rydym ni o’r farn nad yw’r cymorth pellach sydd wedi ei amlinellu ar gyfer eleni a’r flwyddyn ariannol nesaf yn ddigonol, ac yn anffodus, dyw ein pryderon ddim yn stopio gyda’r sectorau diwylliant a chwaraeon. Rydyn ni i gyd yn ymwybodol o sefyllfa fregus y Gymraeg yn dilyn cyhoeddi canlyniadau siomedig y cyfrifiad cyn y Nadolig. Rydyn ni'n bryderus am effaith sylweddol chwyddiant ar allu darparwyr gweithgarwch cymunedol cyfrwng Cymraeg i barhau gyda lefelau presennol gwasanaethau. O ystyried sefyllfa fregus y Gymraeg, ac er mwyn helpu adfer wedi’r pandemig, rydyn ni eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn adolygu lefel y cyllid sydd ei angen er mwyn cynnal a hefyd gwella cyfleoedd ar gyfer gweithgarwch cyfrwng Cymraeg mewn cymunedau lleol ledled Cymru, o ganlyniad i gostau byw uwch. Mi fydd y pwyllgor yn edrych eto ar ganlyniadau’r cyfrifiad pan fydd mwy o ddata wedi ei gyhoeddi maes o law.
Felly, fel dywedais ar y dechrau: diwedd y gân yw’r geiniog. Rydym yn erfyn ar Lywodraeth Cymru i sicrhau mai nid dyma’r stori ar gyfer y sectorau yma trwy sicrhau cymorth pellach i roi hwb i'r sectorau hyn, a sicrhau nad yw’r buddsoddiad a wnaed yn ystod y pandemig yn cael ei wastraffu. Diolch.
Byddaf yn pleidleisio dros y gyllideb hon, er bod gen i bryderon difrifol iawn am y peth. Pe na bai'r Senedd yn gallu gosod cyllideb, does dim prinder aelodau o Lywodraeth San Steffan fyddai ond yn rhy hapus i ddweud, ‘Nid yw datganoli’n gweithio. Gallwn ni osod y gyllideb ar eu cyfer nhw oherwydd dydyn nhw ddim gallu ei wneud eu hunain.'
O ran codi treth incwm, fel yr awgrymir gan Blaid Cymru, er fy mod yn ddeallusol o blaid codi cyfradd y dreth incwm ar y ddau fand uchaf, mae yna anawsterau ymarferol os ydyn ni'n gwneud hynny ar ein pennau ein hunain, gan gynnwys pobl yn cofrestru fel trethdalwyr yn Lloegr. Mae yna lawer o ffyrdd i bobl sy'n ennill cyflogau uchel osgoi treth incwm, ond y ffordd hawsaf a symlaf yw talu mewn difidendau, gan fod incwm difidend yn cael ei drethu ar gyfradd is. Mae hyn, yn anffodus, y tu hwnt i reolaeth y Senedd, ond mae angen i'r Llywodraeth nesaf yn San Steffan fynd i'r afael â hyn. Byddai ychwanegu 1c at y gyfradd sylfaenol yn golygu y byddai'r trethdalwyr cyfradd sylfaenol yn talu £5 yn ychwanegol am bob £100 maen nhw’n ei dalu ar hyn o bryd. Fel y byddai fy etholwyr yn gallu dweud wrthych chi a gallaf i ddweud wrthych chi, mae hyn yn cyfateb i dorth fawr o fara, hanner pwys o fenyn a photel fawr o laeth. Ar adeg pan fo pobl yn wynebu argyfwng enfawr costau byw, nid yw cynnydd mewn treth sy'n tynnu arian allan o bocedi pobl gyffredin yn gam blaengar.
O ble all Llywodraeth Cymru gael arian ychwanegol? Mae gen i rai awgrymiadau. Yn gyntaf, capio taliadau fferm sylfaenol. Mae hyn yn cael ei gefnogi gan yr undebau amaethwyr yng Nghymru. Difidend Brexit yw hwn, rydyn ni allan o'r polisi amaethyddol cyffredin, felly nid oes angen talu'r taliadau hyn mwyach. Y taliad fferm cyfartalog yng Nghymru yw £15,000, ac rwy'n galw am sicrhau mai dyma yw’r lefel y mae'n cael ei chapio arni. Nid wyf yn gallu cael ffigwr a gyfer Cymru, ond o ffynonellau sydd wedi eu cyhoeddi, mae dros £100,000 yn cael ei dalu i lawer o ffermwyr ym Mhrydain, llawer ym Mhrydain nad oedd o reidrwydd yn ffermwyr gweithredol. Faint o fusnesau ffermydd sy'n cynnwys aelodau cyfredol neu gyn-Aelodau o'r Senedd sydd wedi derbyn dros £1 miliwn ers sefydlu'r Senedd?
Yr ail yw peidio â rhoi rhyddhad ardrethi ychwanegol i gwmnïau mawr: gweithredwyr bwyd cyflym, cadwyni coffi, cadwyni gwestai, cadwyni tafarndai a chanolfannau siopa y tu allan i'r dref. Mae cyfraddau busnes yn un o ddwy dreth mae busnesau’n eu casáu'n fawr. Ni allwch chi eu hosgoi, tra bod y dreth gorfforaeth wedi dod yn gyfraniad gwirfoddol i bob pwrpas gan fusnesau mawr. Ffordd arall o arbed arian fyddai cyflwyno deddfwriaeth na fyddai’n costio arian i wasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Yn olaf, cael gwared ar barthau menter. Nid oedd angen yr arian ychwanegol ar Ganol Caerdydd a Glannau Dyfrdwy i ddenu buddsoddiad, ac roedd y ffigyrau diwethaf a welais gan y lleill yn dangos mai ychydig iawn o swyddi oedd wedi’u creu a llai fyth heb adleoli. Wedi rhyddhau'r arian yma, tlodi, tai ac addysg ddylai’r flaenoriaeth fod. Addysg yw'r offeryn datblygu economaidd gorau sydd gennym ni. Mae'n buddsoddi yn ein plant a'n pobl ifanc. Mae gwariant ar ysgolion ac addysg bellach ac addysg uwch yn dod â mwy o wobr economaidd nag unrhyw wariant arall ar ddatblygiad economaidd. Pam mae'r ardaloedd hynny sydd ag unigolion cymwys iawn yn denu busnesau o'r tu allan a busnesau newydd? Drwy ddarparu cyflogaeth fedrus a chyflogau uchel heb orfod llwgrwobrwyo cwmnïau i ddod â'u ffatrïoedd cangen, sydd wedyn ar gau yn weddol rheolaidd ar ôl i amser redeg allan.
Mae Fferm Gilestone yn codi'r cwestiwn pellach: a ddylai Llywodraeth Cymru wario adnoddau prin ar gefnogi digwyddiadau nad ydynt o fudd i economi Cymru, lle nad yw mwyafrif y contractwyr yn rhai o Gymru, neu a ddylai Llywodraeth Cymru fod yn defnyddio arian o gwbl i gefnogi atyniadau twristiaeth? Os ydy pobl eisiau atyniad i dwristiaid, maen nhw'n mynd i'r banc, maen nhw'n benthyg ac maen nhw'n ei redeg fel busnes. Yn rhy aml o lawer, y diffiniad Cymreig o gyfalafiaeth yw, 'Faint o arian allwn ni ei gael allan o Lywodraeth Cymru?'
Roedd tai yn arfer bod o dan iechyd yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Roedd Attlee a Llywodraeth Lafur 1945-51 yn deall pwysigrwydd tai i iechyd. Ydy hi'n syndod bod pobl sy'n byw mewn cyflyrau oer, llaith yn fwy tebygol o ddioddef problemau iechyd? Bydd adeiladu tai cyngor, gan ddefnyddio cyfalaf trafodion i gefnogi landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, yn cynyddu maint y tai o ansawdd da i'w rhentu ac yn gwella iechyd cyffredinol y bobl sy'n byw yma.
Yn olaf, ar dlodi, mae nifer fawr o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi cymharol ac yn defnyddio banciau bwyd yn rheolaidd, ynghyd â thorri nôl ar wres a goroesi ar fwyd oer. Nid oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o bŵer i ddelio â thlodi, ond mae yna bethau y gellir eu gwneud. Fel y dywedodd Peredur Owen Griffiths yn gynharach, byddai cynyddu EMA yn unol â chwyddiant yn helpu plant o'r teuluoedd tlotaf i barhau ag addysg. Byddai darparu prydau ysgol am ddim i bob plentyn y mae eu rhieni ar fudd-daliadau yn helpu iechyd ac addysg. Ac er nad yw'n fater cyllideb, mae angen i Lywodraeth Cymru barhau i bwyso am ddod â thaliadau sefydlog i ben ar ddiwrnodau pan nad oes ynni'n cael ei ddefnyddio. Mae hyn yn rhywbeth mae hyd yn oed yr Observer bellach wedi cymryd diddordeb ynddo. Diolch.
Mae'r ddadl heddiw yn un hollbwysig. Ar ôl clywed penawdau cychwynnol y datganiad nôl ym mis Rhagfyr, roeddwn i'n meddwl bod Llywodraeth Cymru wedi cael epiffani o'r diwedd a sylweddoli ei bod hi'n bryd ariannu a chefnogi ein system addysg yn iawn ar ôl blynyddoedd o esgeulustod. Yn anffodus, fel mae'n digwydd, nid yw hyn yn wir, ac, mewn gwirionedd, mae pethau'n mynd i waethygu i'n hysgolion, ein haddysgwyr a'n disgyblion.
Ym mis Tachwedd y llynedd, fe welsom ni ddatganiad Llywodraeth y DU ar gyfer yr hydref yn rhoi pobl ifanc ar flaen eu hagenda, gyda chynnydd mewn cyllid ar gyfer addysg. Fe wnes i alw am gyfateb hyn yng Nghymru yr wythnos ar ôl i ddatganiad yr hydref gael ei gyhoeddi. Felly, i ddechrau, roeddwn i wrth fy modd o glywed y byddai'n cael ei gyfateb yng Nghymru, mae'n debyg. Fodd bynnag, ar ôl darllen ymhellach, daeth yn amlwg, Gweinidog, os yw'r ffigwr o £117 miliwn yn y gyllideb yn gostwng gyda'r £227 miliwn ar gyfer llywodraeth leol, nid yw'r £117 miliwn ychwanegol yn cael ei glustnodi'n benodol ar gyfer addysg ac felly ni ellir ei gyfrif i fynd tuag at addysg—gellir ei wario mewn mannau eraill, ac nid yw o reidrwydd yn mynd lle mae ei angen yn daer, sef rheng flaen addysg, ar adeg pan fo cyllidebau ysgolion yn cael eu hymestyn i'r eithaf ac mae llawer o bwysau ychwanegol ar addysg yng Nghymru.
Os nad oedd hyn yn ddigon drwg, gwelwyd bod y gyllideb ddrafft ar gyfer addysg a'r Gymraeg yn 2023-24 yn golygu toriad mewn termau real o £6.5 miliwn i'r gyllideb. Pan fyddwch chi’n mynd dros y manylion, mae'n dod yn fwy pryderus fyth, gyda gostyngiad o 6.3 y cant mewn grantiau cymorth i fyfyrwyr. Yn ôl data ledled y DU gan Ymddiriedolaeth Sutton, mae 27.8 y cant o fyfyrwyr wedi methu prydau bwyd i arbed ar gostau bwyd, ac mae 16.4 y cant o fyfyrwyr wedi teithio llai i'r campws i leihau costau, sy'n debygol o effeithio'n sylweddol ar eu cyrhaeddiad addysgol. Mae hyn hyd yn oed yn fwy pryderus o’i gyplysu â'r 24 y cant o fyfyrwyr sy'n credu eu bod nhw ychydig, neu lawer, yn llai tebygol o orffen eu gradd oherwydd y costau.
Rydym ni hefyd yn gweld gostyngiad o 6.5 y cant yn y grant datblygu disgyblion. Mae Llywodraeth Cymru'n lleihau'r unig arian wedi'i dargedu sydd ar gael ar gyfer teuluoedd incwm isel. Mae'r toriad yn dod wrth i'r £100 ychwanegol sy'n cael ei roi eleni gael ei ddileu, er bod y byd mewn argyfwng costau byw. Yn sicr, nid cyllideb ar gyfer adegau caled yw hon.
Yn adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, gwelwn ostyngiad o 3.9 y cant mewn cymorth athrawon a datblygu, er, yn adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn, roedd sôn sylweddol fod angen blaenoriaeth lwyr ar recriwtio a datblygu staff. Mae'r gyllideb wedi amlinellu cynnydd o 2.6 y cant mewn seilwaith addysg, ond eto mae pryderon dilys ynghylch i ba raddau y bydd hyn yn cefnogi ysgolion, yn enwedig wrth gyflwyno prydau ysgol am ddim. Bydd llawer o gynghorau yn gorwario'n sylweddol ar gyflwyno'r diwygiadau hyn—llawer mwy na'r rhandaliad cyntaf o gyllid a ddyrannwyd. Er enghraifft, rhagwelir y bydd Cyngor Sir y Fflint yn gwario £1.8 miliwn eleni—mwy na £500,000 yn fwy na'u dyraniad cychwynnol—disgwylir i Gyngor Gwynedd wario £1.6 miliwn, gan ei gwneud yn agos at orwariant o £500,000, a bydd cyngor Casnewydd yn gwario mwy na'r £1.3 miliwn a ddyrannwyd i sicrhau eu bod yn cyflawni.
At ei gilydd, Gweinidog, rydych chi wedi cyflwyno cyllideb i ni nad yw'n esgeuluso addysg yng Nghymru yn unig, mae'n ei niweidio'n weithredol, am fod toriad mewn termau real. Dylai hon fod wedi bod yn gyllideb i ddechrau atgyweirio'r difrod rydych chi wedi'i wneud dros 23 mlynedd mewn grym, sy'n golygu bod Cymru ar waelod rhaglen ar gyfer sgoriau Asesu Myfyrwyr Rhyngwladol yn y DU. Mae PISA wedi bod yn newyddion drwg i'r Llywodraeth hon ers i ni ymuno yn 2006, ac rydym ni wedi bod yn israddol yn y DU ym mhob cyfran ers hynny. Mae pob Gweinidog, ers i ni ymuno, wedi cael targed PISA maen nhw bob amser yn ei fethu. Nid yw'r gyllideb yn gwneud dim i atal y gwaethygiad ac nid yw'n gwneud dim i sicrhau ein bod yn denu'r athrawon disgleiriaf a’r gorau i'n system addysg.
Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn 2011, ein bod ni wedi gweld gostyngiad o bron i 10 y cant yn niferoedd athrawon wrth iddyn nhw adael y proffesiwn yn eu heidiau. Mae'r gyllideb hon yn methu ar bob metrig, ac rwy'n eich annog chi heddiw, Gweinidog, i fynd yn ôl ac ailfeddwl a rhoi cynnig arall arni, gan eich bod chi wedi methu addysg Gymraeg llawer gormod o weithiau erbyn hyn. Mae Cymru'n haeddu gwell. Mae ein dysgwyr yn haeddu gwell. Ac fel dywedodd Mike Hedges, dylen ni fod yn buddsoddi yn ein plant.
Diolch i'r Gweinidog a'i chydweithwyr am lunio'r gyllideb hon.
Byddwn i hefyd yn diolch iddi am gymryd yr amser yr wythnos diwethaf i sgwrsio am y sefyllfa gyllidebol. Ac fe hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid hefyd am ei waith craffu, a dydw i ddim yn dweud hynny oherwydd bod Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid yn eistedd wrth fy ymyl yn unig. Gan droi at y gwaith hwnnw, roedd diffyg manylder amlwg iawn yn y dystiolaeth a gyflenwyd gan Lywodraeth Cymru i'r pwyllgor yn ymwneud ag ail-flaenoriaethu cyllidebau lle gallai hynny fod wedi arwain at leihau cynlluniau gwariant neu hyd yn oed roi cynlluniau gwreiddiol o’r neilltu. Gall hyn, wrth gwrs, arwain at ganlyniadau ymhellach i lawr y lein, felly byddwn i’n ddiolchgar pe bai'r Llywodraeth yn gallu cyhoeddi'r manylion hynny. Fe wnaf i roi enghraifft: yr arian ar gyfer y cynllun argyfwng bysiau. Fe'i cyflwynwyd i gefnogi parhad gwasanaethau bysiau yn ystod y pandemig, ac mae'n rhywbeth mae gwasanaethau gwledig, yn arbennig, yn dibynnu arno. Nawr, nododd y dystiolaeth a gyflenwyd gan y Llywodraeth i'r Pwyllgor Cyllid i ddechrau y byddai'r £28 miliwn a ddyrannwyd i'r BES yn 2022-23 yn cael ei gario drosodd i 2023-24 heb unrhyw addasiad mewn cyllid, ond mae wedi dod i'r amlwg o ohebiaeth rwyf i wedi’i derbyn gan randdeiliaid bod yr ymrwymiad hwn bellach dan amheuaeth ar y cam hwyr iawn hwn. Felly, byddwn i'n gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ar hyn. Mae bysus yn hanfodol bwysig fel gwasanaeth i'n cymunedau.
Wrth symud ymlaen i swyddi gwyrdd, mae TUC Cymru wedi awgrymu y gallai 60,000 o swyddi gwyrdd newydd gael eu creu yng Nghymru os ydyn ni'n buddsoddi'n iawn. Yn anffodus, mae mynediad cyfyngedig i gyllid, gweithwyr medrus a gallu ar linellau pŵer yn arafu symudiad tuag at ynni adnewyddadwy. Dywedodd 70% o gyflogwyr y DU mewn arolwg o Fwrdd Hyfforddi'r Diwydiant Adeiladu fod ganddyn nhw ddealltwriaeth dda o sut y bydd angen iddyn nhw newid eu busnes i ddatgarboneiddio, roedd 88 y cant yn fodlon arallgyfeirio i ddatgarboneiddio, a byddai 90 y cant yn fodlon ailhyfforddi pe bai angen. Fodd bynnag, mae mwy na 78 y cant o gyflogwyr a ymatebodd i arolwg CITB yn credu bod prinder sgiliau yn yr alwedigaeth benodol i ddatgarboneiddio ar hyn o bryd.
Nawr, mae'r Llywodraeth wastad wedi bod yn awyddus i siarad am greu prentisiaethau newydd, ac yn croesawu eu creu, ond, fel y dywedais i o'r blaen, mae cadw myfyrwyr yn allweddol i fynd i'r afael â'r prinder sgiliau. Gadewch i ni gymryd y sector adeiladu fel enghraifft—mae'r CITB yn amcangyfrif bod 1,400 o fyfyrwyr, o flwyddyn i flwyddyn, yn astudio cwrs adeiladu. Nawr, mae sgyrsiau rydw i wedi'u cael gyda'r sector i gyd yn dilyn yr un patrwm—pe bai'r nifer hwnnw o fyfyrwyr o flwyddyn i flwyddyn yn cwblhau eu cwrs, ni fyddai gennym ni brinder sgiliau yn y maes adeiladu. Felly, yn amlwg iawn, mae yna ostyngiad o fyfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw data'n cael ei gasglu gan y Llywodraeth ar faint o fyfyrwyr sy'n gadael addysg yng nghanol cwrs. Mae angen i hynny, wrth gwrs, newid, ond beth fydd yn help yw'r gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i fyfyrwyr. Roedd croeso mawr i'r cynnydd i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys myfyrwyr mewn colegau, yn y chweched dosbarth, nac ar brentisiaethau. Nawr, bydd y Gweinidog yn ymwybodol o fy ymgyrch i gynyddu taliadau lwfans cynhaliaeth addysg a'r trothwy. Byddai hynny'n sicr yn helpu, yn enwedig yn ystod yr argyfwng costau byw hwn, lle mae myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd iawn i wneud i'r £30 yr wythnos honno fynd yn bell. Mae cludiant ar ei ben ei hun yn defnyddio’r £30 hwnnw. Cyplyswch hyn â bwyd, adnoddau ar gyfer cyrsiau, ac mewn rhai achosion—achosion rydw i wedi'u codi yn ystod fy ymgyrch—talu am filiau cartref, ac mae addysg yn dod yn anghynaladwy iawn yn gyflym iawn i gynifer.
Nawr, rydyn ni'n dweud wrth fyfyrwyr—ac fe gyffyrddodd Mike ar hyn—yn enwedig myfyrwyr o aelwydydd incwm isel, bod addysg yn fuddsoddiad ac y dylen nhw edrych ar ba fantais fydd yn ei rhoi iddyn nhw yn y dyfodol. Wel, i fyfyrwyr incwm isel, y dyfodol, yn amlach na pheidio, yw yfory. P'un a fyddan nhw'n gallu fforddio bwyta ai peidio, a fyddan nhw'n gallu fforddio teithio, a fyddan nhw'n gallu fforddio byw—nid ymhen pum mlynedd. Nid dim ond ar gyfer myfyrwyr llawn amser sy'n astudio ar y campws mae hyn, gyda llaw. Mae hyn yr un mor berthnasol i'r rhai ar brentisiaethau, a byddwn i’n annog y Llywodraeth i ystyried isafswm cyflog prentisiaeth.
Nawr, mae achos clir dros roi hwb i fuddsoddiad yn y maes hwn. Argymhellodd y Pwyllgor Cyllid y dylai'r Llywodraeth ystyried cynyddu'r lwfans cynhaliaeth addysg. Cawsom dystiolaeth yn y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ynghylch cefnogaeth i fyfyrwyr—felly hefyd mewn pwyllgorau eraill. Felly, mae'n anffodus nad yw hyn yn cael ei adlewyrchu'n ddigonol yn y gyllideb ddrafft. Ond byddwn i'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ceisio mynd i'r afael â hyn pan fyddan nhw'n dod â'r gyllideb yn ôl, ac rwy'n fwy na pharod i chwarae fy rhan i'w wireddu.
Rydw i'n mynd i siarad yn y lle cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac yna symud ymlaen at rai pethau sy'n faterion llosg yn fy etholaeth i. Fe wnaethom ni edrych ar y gyllideb cyfiawnder cymdeithasol, yn amlwg o safbwynt ceisio nodi sut rydyn ni'n mynd i gefnogi'r rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas.
Un o'r pethau oedd yn ein poeni ni’n fawr oedd bod y dyraniad untro nad yw'n rheolaidd o £117 miliwn o ganlyniad i benderfyniad Llywodraeth y DU i roi arian i bawb i sybsideiddio costau erchyll o uchel cwmnïau ynni wedi codi yn arwain at oblygiadau difrifol i sut mae teuluoedd bregus yn mynd i oroesi'r gaeaf nesaf, oherwydd mae cynllun cymorth tanwydd £200 Cymru wedi bod yn bwysig iawn i lawer o bobl, ac os nad yw hynny'n bodoli yn y flwyddyn ariannol nesaf, yna mae'n rhaid i ni feddwl o ddifrif iawn am sut rydyn ni'n mynd i alluogi teuluoedd i oroesi yn yr hyn a allai fod yn sefyllfa hyd yn oed yn fwy enbyd y flwyddyn nesaf. Felly, rydyn ni eisiau gweld rhywfaint o feddwl o ddifri ar sut rydyn ni'n mynd i wneud hyn, ac rydyn ni eisiau gweld hynny erbyn mis Gorffennaf eleni, oherwydd nid yw'n dda i ddim cynhyrchu cynllun pan fyddwch chi eisoes yng nghanol y gaeaf.
Rydyn ni'n credu bod y gronfa cymorth yn ôl disgresiwn wedi bod yn ddull pwysig ar gyfer sicrhau bod y rhai sydd mewn sefyllfaoedd enbyd, a all gael eu hachosi gan naill ai orfod ffoi rhag sefyllfa trais yn y cartref neu'n syml gan beiriant golchi yn torri i lawr—. Mae'r pethau syml iawn yma rwy'n credu wedi bod yn wych o bwysig i bobl, ac mae'r ffaith ei fod yn cael ei weinyddu gan yr holl asiantaethau cronfa gynghori sengl yn sicrhau bod pawb yn gallu cael gafael arni. Ond ychydig iawn o syniad sydd gennym ni beth fu effaith y gronfa hon, ac felly rydym ni wir yn teimlo bod angen i ni wybod pwy sydd wedi elwa ohoni ym mha rannau o Gymru, pa awdurdodau lleol sydd wedi llwyddo i'w hyrwyddo. Gan fod cyllidebau wedi'u cyfyngu gymaint yn y gyllideb eleni ac mae'n debygol o fod hyd yn oed yn anoddach yn un y flwyddyn nesaf, mae gwir angen i ni gael rhywfaint o eglurder ynglŷn â phwy yn union sy'n mynd i elwa a p’un a yw'r DAF yn mynd i fod yn ddigonol.
Rwy'n meddwl mai un o'r pethau sy'n ein poeni ni yw ei fod yn dal yn bryderus iawn nad yw llawer o bobl yn gwybod beth mae ganddyn nhw hawl iddo. Dim ond ddoe roeddwn i'n eistedd gyda rhai teuluoedd oedd â phlant ag anghenion arbennig. Yn syml, doedden nhw ddim yn gwybod am y cynllun cymorth tanwydd gwerth £200 y mae Llywodraeth Cymru yn ei weithredu, oherwydd yn syml iawn, doedd eu gweithiwr cymdeithasol ddim wedi trafferthu gofyn iddyn nhw a oedden nhw wedi ei gael, ac mae hynny'n sefyllfa annerbyniol, yn union fel mae'n annerbyniol i ymwelwyr iechyd ddweud nad oes ganddyn nhw amser i helpu teuluoedd i lenwi talebau Cychwyn Iach. Ar ba sail nad ydyn nhw’n canolbwyntio ar allu teulu i allu prynu bwyd sy'n maethu eu teuluoedd, yn hytrach na bwyd sothach sy'n gallu eu lladd? Felly, mae gwir angen i ni sicrhau bod pob gweithiwr rheng flaen, boed yn weinyddwr yr ysgol, y gofalwr, neu'r gweithwyr iechyd a chymdeithasol prysur hynny—mae'n gwbl hanfodol.
Cefais fy syfrdanu o glywed Peter Fox yn dweud bod y cynllun treialu incwm sylfaenol i bobl sy'n gadael gofal yn wastraff arian. Mae hwn yn fesur buddsoddi i arbed. Dyma ein cyfrifoldeb cyfunol. Dyna mae bod yn rhiant corfforaethol yn sefyll amdano. Felly, rydym ni’n cefnogi'r buddsoddiad i arbed yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, ac rwy'n credu bod croeso mawr i'r parhad a'r cynnydd yn yr arian hwnnw.
Rwyf i nawr eisiau cyfeirio at faterion sy'n gwbl hanfodol i les fy etholwyr fy hun yng Nghanol Caerdydd, gan godi yr hyn yr oedd Luke Fletcher yn ei ddweud am barhad y cynllun argyfwng bysiau, oherwydd mae Cyngor Caerdydd wedi rhoi gwybod i mi y gallai dod â'r cynllun argyfwng bysiau i ben, yn hytrach na chael yr arian pontio £20 miliwn hwnnw, arwain at doriadau o draean o'r holl lwybrau o leiaf, neu, fel arall, bysiau llai aml ar bob un o'r llwybrau. A bydd hefyd yn cael effaith ar ei allu i ddarparu cludiant ysgol i ysgolion. Felly, mae hwn yn fater difrifol iawn. Cafodd hyn ei drafod yn y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith, ac fe wnaeth y Dirprwy Weinidog gydnabod bod tlodi trafnidiaeth yn fater sy'n wirioneddol arwyddocaol. Mae'n rhaid i chi gofio, mewn rhannau o fy etholaeth i, nad oes gan dros hanner y cartrefi fynediad at gar ac mae'n debyg bod gan o leiaf 25 y cant o ddefnyddwyr bysiau anabledd neu salwch hirdymor, felly mae'n debyg nad yw mynd ar feic yn opsiwn iddyn nhw. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater arwyddocaol iawn ac yn rhywbeth mae angen i ni roi llawer mwy o sylw iddo. Mae angen i ni feddwl 'ie' am ddileu tlodi bwyd, 'ie' i gael atebion hirdymor i dlodi tanwydd, yn enwedig gyda'r angen i gyflwyno'r fersiwn nesaf o'r rhaglen Cartrefi Clyd, ond mae'n rhaid i ni hefyd edrych ar dlodi trafnidiaeth; mae wir yn atal pobl rhag cyrraedd eu gwaith neu eu haddysg.
Yn amlwg, hoffwn fynd i'r afael â fy mhryderon am y gyllideb o ran y portffolio. Os ydym ni ond yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru wedi llwyr anwybyddu llawer o rybuddion rydyn ni wedi'u gweld mewn adroddiadau pwyllgorau ac ymchwiliadau nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei ariannu'n ddigonol, ac eto, maen nhw wedi dewis cynnal ei lefel bresennol o gyllid. Felly, mae'n parhau i ddyrannu £60.1 miliwn yn y gyllideb ddrafft iddo, ond eto mewn cyferbyniad, derbyniodd y corff hwn £69 miliwn yn 2021-22. Er y pryderon hyn am danariannu, mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd wedi dweud bod cyllid y corff yn 'ddigonol ar gyfer eu cyfrifoldebau statudol', er y byddai
'yn well ganddi roi cael cyllideb fwy iddyn nhw', wrth graffu ar gyllideb 2022-23. Mae hynny ar y cofnod. Felly, gyda'r angen am oruchwyliaeth amgylcheddol yn bwysicach nag erioed nawr, bydd y geiriau hyn yn sicr yn eiriau gwag i lawer.
O ran targedau amgylcheddol Llywodraeth Cymru, bydd cyllid ynni glân yn gostwng 6 y cant, er gwaethaf targed sero-net Llywodraeth Cymru ei hun. Roedd Llywodraeth Cymru wedi bwriadu dyrannu £10.4 miliwn at ynni glân, er bod y gyllideb bellach yn dangos bod hyn wedi gostwng i £9.8 miliwn. Mae'r arian yn cael ei ddefnyddio tuag at ddatblygu polisi, cefnogaeth ariannol i ynni adnewyddadwy, gan gynnwys y cynllun grant ynni lleol a'r rhaglen cynllunio ynni. Felly, er bod arian hefyd yn mynd tuag at mynd ar drywydd datganoli rheolaeth Ystad y Goron yng Nghymru, rwy'n gobeithio bod y toriad mewn cyllid i'w ddisgwyl nawr a bod y syniad polisi chwerthinllyd hwn yn cael ei ddileu.
Efallai fod yr Aelodau'n gwybod bod cynllunio morol yn fater rydw i, ynghyd â fy nghydweithiwr Joyce Watson, wedi'i godi'n gyson, materion ynghylch cynllunio morol a'n cynigion deddfwriaethol ar gyfer cynllun datblygu gofodol morol llawn i Gymru. Felly, rydyn ni'n siomedig fod Llywodraeth Cymru wedi lleihau'r gwariant cyfalaf disgwyliedig ar ynni morol ar gyfer 2023-24. Mae disgwyl i'r cyllid cyfalaf gael ei dorri o 30 y cant, gyda £10 miliwn wedi'i gynllunio'n wreiddiol yn y gyllideb ddangosol, er bod hyn bellach wedi'i leihau i £7 miliwn.
A wnewch chi gymryd ymyriad?
Gwnaf.
O ran diffyg cyllid cyfalaf llwyr i Gymru a'r diffyg cyllid seilwaith llwyr dros y 10 mlynedd diwethaf, sut allwch chi esbonio hynny?
Wel, rwy'n anghytuno bod diffyg llwyr o'r cyllid hwn. Ar ddiwedd y dydd, rydym ni wedi bod â datganoli yma yng Nghymru ers 25 mlynedd. Mae gennym ni boblogaeth o ychydig dros 3 miliwn. Y biliynau sy'n dod i mewn i Gymru—£18 biliwn? Chi sy’n amhriodol yn hyd yn oed gofyn cwestiwn fel yna.
Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru egluro sut mae hyn wedi'i leihau, er gwaetha'r targed i ddiwallu 100 y cant o'i anghenion trydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2035. Mae'r arian sy'n mynd tuag at yr her morlyn, prosiect morlyn, seilwaith porthladdoedd, tonnau a llanw, yn peri penbleth pam mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu lleihau gwariant ar y portffolio yma erbyn hyn.
Nawr, gadewch i ni droi at fater tai. Er bod Llywodraeth Cymru yn canmol yn haeddiannol y gefnogaeth a gynhyrchir trwy'r grant cymorth tai, nid yw'n blaenoriaethu hyn fel maes. Mae Llywodraeth Cymru'n honni ei bod yn cynyddu ei phwyslais ar y grant cymorth tai. Maen nhw'n dweud hynny, ar y naill law ac eto, mewn termau real, mae wedi cael toriad o 8 y cant. Mae disgwyl i'r cyllid aros yr un fath â'r llynedd, gyda £166.7 miliwn wedi'i ddyrannu. Mae hyn yn arbennig o bryderus, gan fod y grant yn ceisio helpu pobl fregus gyda phroblemau maen nhw’n eu hwynebu, a gallwn ni weld eu bod nhw nawr yn gwaethygu’r risg o ddigartrefedd. Gallwn hefyd weld risg o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Gan symud ymlaen at gyllid diogelwch adeiladau: mae hynny ar fin derbyn gostyngiad o 37 y cant mewn adnodd o'r gyllideb ddangosol, er gwaethaf y gyllideb ddangosol yn neilltuo £9.5 miliwn ar gyfer 2023-24. Mae'r gyllideb ddrafft hon bellach yn dangos bod dyraniad wedi gostwng i £6 miliwn. Mae'n gwneud honiad Llywodraeth Cymru bod diogelwch adeiladau'n brif flaenoriaeth yn destun gwawd. Os mai dyna un o'ch prif flaenoriaethau, wel, fyddwn i ddim yn hoffi gweld unrhyw beth arall yn is ar y rhestr honno. Gyda 261 o ddatganiadau o ddiddordeb wedi eu derbyn ar gyfer cronfa diogelwch adeiladau Cymru, a 163 o'r rheiny angen arolygon dwys, mae maint y risg o dân yng Nghymru yn glir. Er bod angen y £135 miliwn mewn cyfalaf ar gyfer diogelwch adeiladau, rhaid i Lywodraeth Cymru gyfateb ei geiriau a thrin diogelwch adeiladau fel un o'ch prif flaenoriaethau. Mae ond yn deg bod gan ein hetholwyr le diogel i fyw.
Mae hyn, wrth gwrs, gweithredoedd Llywodraeth Cymru, bellach yn sefyll mewn cyferbyniad llwyr ag wltimatwm newydd caled Llywodraeth y DU ar gladin, gan roi terfynau amser caled i ddatblygwyr dalu i drwsio adeiladau anniogel. Bydd y farchnad cynllun grant tai gwag cenedlaethol ond yn dod â 2,000 o dai gwag yn ôl i ddefnydd. Gyda 22,140 o eiddo gwag tymor hir yng Nghymru, mae hyn—wel, mae'n ffigwr nad yw'n realistig. Nid oes uchelgais, nid oes dyhead i gael y cartrefi gwag hynny yn ôl i ddefnydd gan bobl sydd wir eu hangen.
Janet, mae angen i chi ddod i ben nawr, os gwelwch yn dda.
Iawn. Pum miliwn ar hugain o bunnoedd mewn arian cyfalaf tuag at gostau gwaith adferol i wneud eiddo yn arferadwy. Mae angen i Lywodraeth Cymru amlinellu sut mae'n ceisio hybu tai gwag. Yn rhy aml, rydyn ni'n gweld y blaenoriaethau anghywir yn cael arian.
Beth bynnag, dyna fy marn i ar hyn. Rwy'n credu bod y gyllideb hon yn wael iawn. Rwy'n credu nad yw'n uchelgeisiol o gwbl. Rydyn ni'n gwybod bod heriau, fodd bynnag, mae gwir angen i chi fod yn llawer mwy anturus gyda'ch nodau cyllideb. Diolch.
Wrth gyflwyno'r gyllideb ddrafft i'r Senedd, fe soniodd y Gweinidog mai hon oedd un o'r cyllidebau anoddaf ers datganoli. Mae hynny am ei bod yn gyfnod o gyni, yn gyfnod o dlodi, ac yn gyfnod o argyfwng nas gwelwyd ei debyg ers degawdau.
Yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain, mae nyrsys ac athrawon ymhlith y miloedd sy'n gorfod troi at fanciau bwyd. Mae mwy a mwy o bobl yn syrthio i ddyled, dyled argyfyngus. Dywed Cyngor ar Bopeth Cymru nad ydyn nhw erioed wedi gweld cyfran uwch o bobl mewn diffyg o ran eu cyllidebau aelwyd—bron i hanner y rhai sy'n dod atynt am gyngor.
Mae nifer y rhai sy'n ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref yn arwydd arall o'r cyflwr yma o argyfwng. Fe wnaeth Cyngor ar Bopeth helpu mwy o bobl gyda digartrefedd eleni nag yn y bum mlynedd diwethaf. Mae menywod, plant, pobl anabl, pobl â chyflwr iechyd, gofalwyr, rhieni sengl, pobl ddu, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn dioddef anghydraddoldebau economaidd mewn modd anghymesur.
Ydy, mae'n anodd sicrhau bod y gefnogaeth yno i'r rhai sydd fwyaf ei hangen, bod gan y gwasanaethau sy'n darparu'r gefnogaeth honno yr adnoddau sydd eu hangen i gyflawni hynny, bod y tyllau enfawr sy'n bodoli yn y rhwyd ddiogelwch, sydd wedi ei rhwygo'n racs gan Dorïaid didostur a diegwyddor San Steffan, yn cael eu llenwi. Ydy, mae'n anodd. Ond, gwneud y penderfyniadau anodd yw swyddogaeth llywodraeth, a swyddogaeth Llywodraeth Cymru yw gwasanaethu pobl Cymru, ystyried eu hanghenion, gwarchod eu hiechyd a'u hurddas, a sicrhau eu bod yn cael mynediad cyfartal at bob cyfle a gwasanaeth, gan gynnwys gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
Drwy'r lens yma rhaid craffu ar y gyllideb ddrafft sydd ger ein bron. Dyna pam y mae ein gwelliant ni'n galw am roi'r modd i ni wneud mwy o'r hyn sydd angen ei wneud. Y rhai sy'n dibynnu fwyaf ar y gefnogaeth y mae ein gwasanaeth iechyd a gofal yn ei chynnig a chymorth ariannol ychwanegol yw'r rhai sydd mwyaf mewn angen, y rhai sydd heb ddewisiadau, heb gronfa fach wrth gefn, neu ail dŷ, heb fodd i gadw pen uwchben y dŵr sydd mor ofnadwy o uchel.
Mae'r Llywodraeth wedi datgan bod y gyllideb hon yn un sy'n blaenoriaethu'r rhai sydd mwyaf mewn angen. Mae gwariant pob ceiniog felly yn gwbl dyngedfennol, achos mae bywydau pobl bellach mewn perygl. Dyna farn ymchwil Which? ar effaith yr argyfwng costau byw yng Nghymru a gyhoeddwyd ddoe ac a drafodwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hawliau defnyddwyr rwy'n ei gadeirio. Mae 78 y cant o bobl yng Nghymru'n torri lawr ar wres, a 18 y cant yn bwyta llai o brydau poeth.
Yn yr un drafodaeth, fe fynegwyd pryder bod y cynnydd yn lefel y gronfa cymorth dewisol, er i'w groesawu, yn gyllid i helpu pobl mewn argyfwng, a bod angen blaenoriaethau hefyd gwariant ataliol—cynlluniau fel cynllun cymorth tanwydd Cymru, sydd wedi cael ei dorri'n gyfan gwbl. Rhybuddiwyd, er bod y cynllun yn dod i ben, nid yw'r angen yn dod i ben, ac fe fydd yr angen yn un mwy dybryd y gaeaf nesaf, yn ôl rhagolygon Cyngor ar Bopeth. A bydd goblygiadau'r dyfnder yna o angen a'i effaith ar iechyd a lles pobl gyda ni am genedlaethau. Nid yw'r gyllideb hon yn cyflwyno cynllun i atal hynny.
Siomedig hefyd yw gweld diffyg buddsoddiad yn ein pobl ifanc mwyaf anghenus sydd am barhau â'u haddysg. Byddai ein gwelliant yn medru sicrhau bod y lwfans cynhaliaeth addysg, er enghraifft, yn gallu cynnig lefel weddus o gefnogaeth. Ac er bod cynnydd wedi bod yn y grant cynhaliaeth, dyw myfyrwyr ddim yn medru cael cymorth gan nifer o'r taliadau cymorth costau byw eraill sydd ar gael. Sôn am fysus, os ŷch chi'n fyfyriwr dros 21 oed, cewch chi ddim gostyngiad o gwbl ar eich tocyn bws, ac mae rhent myfyrwyr, wrth gwrs, yn parhau i godi gan greu argyfwng costau addysg.
Mae ein galwadau i ehangu a chynyddu'r EMA wedi eu hadleisio gan adroddiad craffu y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac wrth sôn am y bwlch sydd yna mewn gwariant ar gefnogaeth costau byw eleni, sef £116 miliwn, mae adroddiad craffu’r Pwyllgor Cydraddoldebau a Chyfiawnder Cymdeithasol yn nodi bod
'angen amlwg i edrych ar atebion cynaliadwy, tymor hwy i’r argyfwng costau byw', fel soniodd Jenny Rathbone, ein Cadeirydd.
Rwyf wedi dadlau ac, yn wir, rwyf wedi cael cefnogaeth gan y Senedd hon i'r alwad am system fudd-daliadau gydlynol Gymreig. Nawr yw'r amser i gyflymu'r gwaith o sicrhau bod pob ceiniog o gefnogaeth yn cyrraedd pocedi'r rhai sydd ei angen, a hynny yn ddi-ffael ac yn ddiffwdan.
Wrth gloi hoffwn dynnu sylw at gasgliadau mwyaf difrifol y ddau bwyllgor dwi'n eistedd arnynt, sef hwn gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef bod yna ddiffyg eglurder sut y bydd y gyllideb yn cefnogi plant a phobl ifanc sydd yn arbennig o debygol o gael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw. Hyn yn y genedl ble mae tlodi plant ar ei lefel uchaf yn y Deyrnas Gyfunol.
Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru—
Sioned, rhaid i ti orffen nawr.
Gyda San Steffan yn amddifadu Cymru o'r adnoddau a'r grymoedd sydd eu hangen arnom, oes, mae angen gwneud penderfyniadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud y penderfyniadau hynny yn anos drwy beidio â sicrhau yr adnoddau sydd angen arni drwy drethiant teg, cymesur a chyfiawn i oresgyn y caledi cywilyddus sy'n creithio ein cymunedau. Rwy'n erfyn ar Aelodau i gefnogi ein gwelliant.
A gaf i atgoffa Aelodau, os gwelwch yn dda, o bob grŵp, eich bod, wrth i chi fynd y tu hwnt i'r amser, yn cymryd amser oddi wrth eich cyd-Aelodau sy'n dymuno siarad? Felly, cadwch at eich terfynau amser. Hefin David.
Fe wna i geisio cadw hyn yn fyr, Dirprwy Lywydd. Efallai na fyddaf i'n llwyddo. Mae hon yn ddadl mewn dwy ran mewn gwirionedd, onid yw? Mae'n ddadl sy'n dod o ymatebion y pwyllgorau i'r gyllideb ddrafft, a'r pwyllgorau sy'n gwneud pwyntiau rhesymol, trawsbleidiol, sydd wedi'u gwneud yn dda. Pered oedd y cyntaf i siarad o'i bwyllgor, a chyfraniad trawiadol iawn oedd hwnnw. Rwy'n credu mai dyna lle ddylai'r ddadl hon fod.
Doeddwn i ddim yn mynd i wneud araith, mewn gwirionedd, tan i'r gwelliannau ddod i mewn. Rwy'n credu mai'r gwelliannau yw ail hanner y ddadl, sy'n gwbl wleidyddol, i sgorio pwyntiau, ac yn hollol ddibwrpas. Yr hyn yr oeddwn i eisiau ei wneud oedd siarad yn benodol, oherwydd rwy'n credu, weithiau, mae yna welliant yr ydych chi eisiau sôn amdano, oherwydd rydych chi eisiau egluro i bobl a allai fod yn gwylio pam eich bod chi'n pleidleisio yn ei erbyn, ac rwy'n mynd i bleidleisio yn erbyn gwelliant 2 Plaid Cymru. Mae'r rheswm dros hyn, rwy'n credu, eisoes wedi'i gyflwyno'n dda iawn heddiw ar y rhaglen Today gan y Gweinidog, a wnaeth gyfraniad ardderchog y bore 'ma, ond hefyd mae wedi ei gyflwyno gan wleidyddion yng Nghaerffili. Hoffwn ddarllen y datganiad hwn i chi.
'Siawns na all fod cyfiawnhad yn yr hinsawdd bresennol dros gynyddu'r baich treth ar drigolion Caerffili sydd dan bwysau mawr.'
Daw hwn gan Lindsay Whittle, arweinydd Plaid Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Ac roedd arweinydd Plaid Cymru ychydig yn flin pan wnes i geisio ymyrryd ynghynt, felly rwy'n hapus i gymryd ymyrraeth nawr os ydy e am gywiro Lindsay Whittle. Ond fe wnaeth Lindsay ddweud hynny. Ewch amdani.
Mae'n cyfeirio at y dreth fwyaf atchweliadol ohonyn nhw i gyd, wrth gwrs, y dreth gyngor, a dyna pam mae diwygio hynny yn y cytundeb cydweithio, ac mae angen i ni fwrw ymlaen â hynny cyn gynted â phosib.
Rwy'n cytuno'n llwyr â diwygio'r dreth gyngor, ond, ar eiddo band B, y cynnydd arfaethedig yng Nghaerffili—y dreth gyngor isaf yng Ngwent gyfan, os nad Cymru gyfan—yw £1.91 yr wythnos. Mae'r cynnig mae'n ei gyflwyno ar gyfer cyfradd sylfaenol o dreth incwm gan yr un gweithwyr tua £2.50 yr wythnos. Felly, mewn gwirionedd, bydd canlyniadau ei gynnydd yn y dreth yn uwch i'r bobl hynny y mae Lindsay Whittle yn dweud sy'n wynebu
'costau bwyd, ynni a morgeisi uwch ac mae nifer bellach yn gorfod troi at fanciau bwyd'.
[Torri ar draws.] Fel y dywedodd wrthyf i, dydw i ddim yn cymryd ymyrraeth arall. [Chwerthin.] Pe byddai wedi cymryd ymyrraeth gen i eilwaith, gallai fod wedi dod i mewn, gallem fod wedi cael dadl hyfryd, ond gadewch i ni chwarae yn ôl rheolau a osodwyd ganddo.
Mae Plaid Cymru yn ei gwneud yn glir iawn yng Nghaerffili nad ydyn nhw'n derbyn unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor o gwbl. Yn wir, beth maen nhw wedi ei ddweud—. Efallai byddech chi eisiau siarad gyda'ch grŵp Plaid Cymru. Rydyn ni'n gwybod nad ydyn nhw yn eu iawn bwyll yng Nghaerffili. Ond maen nhw wedi dweud:
'Rydyn ni'n cynnig cynnydd sero yn y dreth gyngor' yng Nghaerffili, ac o ran cynnydd yn y dreth gyngor
'ni ellir ei gyfiawnhau a dylid rhewi biliau ar gyfer trigolion.'
[Torri ar draws.] Dwy eiliad. Rwy'n credu mai'r hyn maen nhw'n ei wneud yw chwarae gwleidyddiaeth, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n digwydd gyda Phlaid Cymru yma yn y Senedd—[Torri ar draws.] Heledd, mi ddof i atat chi mewn eiliad. Yr hyn y maen nhw'n ei wneud yma yn y Senedd yw cynnig y cynnydd hwn yn y dreth gyngor er mwyn iddyn nhw wneud cymaint o gynigion nad ydynt wedi'u costio ar gyfer y gyllideb bresennol ag y mynnant, y tu allan i'r cytundeb cydweithio, ac yna dweud, 'Ie, ond roeddem ni am godi'r dreth gyngor i dalu amdano, felly dylech chi godi'r dreth gyngor.' Dyma lle mae'r cytundeb cydweithio yn methu. Mae'n bŵer heb gyfrifoldeb. Rwy'n credu y dylai naill ai fod yn Lywodraeth glymblaid neu dylai fod yn hyder a chyflenwi. Beth sydd gennym ni o'r fargen hon yw Plaid Cymru'n cael y gwaethaf o'r ddau fyd a gallu gwneud y pwyntiau hyn. Heledd, gallwch chi ei amddiffyn os ydych chi eisiau.
Rwy'n credu bod angen pwynt o drefn yma, oherwydd dydyn ni ddim yn trafod y cytundeb cydweithio; rydyn ni'n trafod y gyllideb ddrafft. Ac os oes unrhyw un yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol, fe fyddwn i'n dweud mai ein cyd-Aelod Hefin David sy'n gwneud hynny. Dydw i ddim yn gweld perthnasedd hyn o ran y gyllideb ddrafft. Hoffwn wybod pam eich bod chi'n meddwl bod ein gwelliant ni'n ddibwrpas. Mae'n gynnig. Mae'n ymwneud â defnyddio'r pwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru i wneud rhywbeth, i wneud rhywbeth yn wahanol. Pam ydych chi'n galw'r awgrym hwnnw'n ddibwrpas pan oedd yn awgrym o ddifrif?
Dyma beth wnaf fi, fe wnaf fi dynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl. Fyddwn i ddim eisiau bod yn destun pwynt o drefn yn nes ymlaen heddiw. Rwy'n tynnu'r gair 'dibwrpas' yn ôl ac rwy'n ymddiheuro am hynny. Yr hyn y dylwn i fod wedi'i ddweud oedd 'cyfleus yn wleidyddol', oherwydd yr hyn maen nhw'n ei wneud yw defnyddio'r cynnydd arfaethedig hwn yn y dreth gyngor, a fydd yn taro'r bobl dlotaf, er mwyn cyfiawnhau gwariant nad yw wedi'i gostio yn ystod gweddill tymor y Senedd hon, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth sydd angen ei herio.
Gadewch i ni edrych ar rai o'r cynigion sydd wedi bod ganddyn nhw drwy'r dadleuon rydyn ni wedi'u cael hyd yma: prydau ysgol am ddim cynhwysfawr, gofal plant cyffredinol, rhewi rhent, lwfans cynhaliaeth addysg, a'r twll mawr du hwnnw nad ydym yn gwybod unrhyw beth amdano—annibyniaeth. Mae'r rhain yn bethau maen nhw'n eu cyflwyno i'r Siambr hon, ac er gwaethaf bod yn y cytundeb cydweithio, lle mae ganddyn nhw ymrwymiadau gwario, maen nhw'n gofyn am hyn hefyd, sydd, yn fy marn i, yn wleidyddol annerbyniol. Mae effeithiau, wedyn, fel sydd wedi'i grybwyll yn barod, ar bethau megis trafnidiaeth gyhoeddus, prentisiaethau, datblygu canol trefi, cyllid cyfalaf awdurdodau lleol, datgarboneiddio a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae'r rhain i gyd yn ganlyniadau sy'n arwain at ganlyniad uniongyrchol, o ganlyniad i rai o'r penderfyniadau sydd wedi eu gwneud.
A fy mhwynt olaf, Dirprwy Lywydd, os wnewch chi ganiatáu i mi, oherwydd yr ymyriadau: fe wnes i ofyn y cwestiwn hwnnw'n gynharach i Peter Fox, sut roedd yn teimlo am brydau ysgol am ddim cyffredinol. Pan gynhaliwyd y ddadl honno yn y Senedd flaenorol ac ar ddechrau'r Senedd hon, nid oedd yn ddadl iach. Roedd yn ddadl a gynhaliwyd drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Ymosodwyd arnom, y rhai ohonom wnaeth bleidleisio yn ei erbyn. Rwy'n credu mewn prydau ysgol am ddim cyffredinol, ond rwy'n dal yn amheus am y peth fel blaenoriaeth ar hyn o bryd. Pe byddai gennym ni arian ychwanegol, dylai fynd tuag at Dechrau'n Deg cyffredinol, ac os nad oedd yr arian hwnnw gennym ni, dylai fynd tuag at y pethau hynny yr ydym ni eisoes yn eu gwarchod. Rwy'n credu bod perygl gwirioneddol o ran gwthio'r polisi hwnnw'n galetach ac yn galetach pan fo blaenoriaethau eraill mae'n rhaid i ni eu bodloni, fel y cynllun argyfwng bysiau, nad ydynt yn cael eu bodloni o ganlyniad i'r gyllideb hon. Mae llawer o—
Rwyf i wedi rhoi'r amser ychwanegol y gwnaethoch chi ofyn amdano nawr.
Mae yna lawer o anhawster, rwy'n credu, gydag agwedd Plaid Cymru tuag at hyn, ac mae'n anghyson â'r hyn maen nhw'n ei ddweud yn lleol.
Rwyf wedi cael cais am bwynt o drefn gan yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Os yw'n iawn, mi fydda i'n ei gymryd ar ddiwedd y ddadl, yn hytrach na nawr. Ond byddaf yn rhoi'r pwynt o drefn i chi ar y diwedd.
A fyddwch chi'n rhoi dyfarniad hefyd?
Mwy na thebyg. Tom Giffard.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Dydw i ddim yn hollol siŵr sut i ddilyn hynny, ond rwy'n addo cyfraniad byr. Rwy'n gwybod bod Hefin wedi addo hynny ac ni wnaeth lwyddo yn hynny o beth, felly byddaf yn trio fy ngorau i ganolbwyntio ar ambell bwynt allweddol, a fydd, gobeithio, yn gwneud i'r Gweinidog oedi i feddwl.
Wythnos diwethaf, fe wnaethom ni drafod adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol, y mae Hefin a minnau ein dau yn eistedd arno, ar gostau cynyddol. Roedd yn amlwg o'r dystiolaeth y gwnaethom ni ei chlywed y dylid rhoi mwy o gefnogaeth i amwynderau fel canolfannau hamdden i helpu gyda'r cynnydd yno mewn costau ynni ac atal y gwasanaethau allweddol hynny mae llawer o bobl yn dibynnu arnynt rhag cau. Wrth ymateb i'r ddadl honno, er bod geiriau cynnes, yn fy marn i, gan y Dirprwy Weinidog, mae cefnogaeth ychwanegol wedi'i dargedu yn ddiffygiol. Mae'n destun pryder hefyd bod Cymru, fel cenedl, ond yn gwario £18 y pen ar gyfranogiad chwaraeon, o'i gymharu â £51 y pen yn Norwy.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod ni'n cyrraedd ardaloedd difreintiedig fel y gall pawb gael y gweithgaredd corfforol rheolaidd hwnnw, ond mae'n siomedig gweld nad yw Llywodraeth Cymru, trwy fethu â chynyddu'r gefnogaeth i hyn yn y gyllideb, yn bwriadu newid ei dull gweithredu. Rwy'n gwybod y bydd Gweinidogion yn dweud, 'Wel, o ble mae'r cyllid hwn yn dod?' Ond mae cydweithwyr ar y meinciau yma, fel y clywsom ni gan Peter Fox, wedi canfod £100 miliwn y gellir ei ddargyfeirio o feysydd eraill i feysydd o bwys, i'r meysydd hynny sy'n flaenoriaethau i bobl Cymru. Felly, gobeithio y byddwch chi'n gwrando, Gweinidog, ar awgrymiadau Peter Fox, ac yn eu cymryd nhw o ddifrif iawn, iawn yn wir.
Ac yn olaf, rwyf i hefyd yn pryderu am y potensial am drethi llechwraidd a allai dagu ein diwydiant twristiaeth. Mae hon yn ddadl sy'n cael ei gwneud yn aml ond mae'n bwysig iawn, ond rydyn ni wedi cyrraedd y cam lle mae adferiad yn dilyn COVID-19 yn y sector hwn yn hynod fregus. Ni fydd cynnig treth twristiaeth ar hyn o bryd ochr yn ochr â newidiadau i reolau llety hunanarlwyo yn helpu'r adferiad yn y rhan hanfodol honno o'n heconomi. Mae'n rhaid i ni, yn y pen draw, dderbyn yr elw er mwyn gallu ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau hyn mewn blynyddoedd i ddod. Gobeithio y byddwch chi'n rhoi sylw i'r pwyntiau hynny, Gweinidog, a diolch, Dirprwy Lywydd; roedd hynny'n llai na dau funud.
Oedd, yn wir. Heledd Fychan.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu, yn glir iawn, wrth wrando ar y ddadl hon, bod dau beth yn fy nharo i: yn gyntaf, yn sicr y risg fwyaf i Gymru a'i dinasyddion yw parhau i fod yn rhan o'r DU a pheidio â bod â'r ysgogiadau hyn o dan ein rheolaeth, ac yn ail mai celwyddau oedd yr holl addewidion difidend Brexit. Nid ydyn ni yn gweld hynny'n cael ei adlewyrchu yn y realiti yma yng Nghymru.
Neithiwr, fe es i i gyfarfod cyhoeddus a oedd wedi'i drefnu gan y rhai sy'n gwrthwynebu'r cynigion gan Gyngor Caerdydd i gau Amgueddfa Caerdydd, preifateiddio Neuadd Dewi Sant a lleihau gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus. Gwnaethon ni glywed nifer o areithiau pwerus, yn arbennig gan y rhai y mae eu bywydau wedi'u trawsnewid gan y cyfleusterau gwych hyn, gan brofi nad yw asedau diwylliannol ond yn braf i'w cael, ond yn gwbl hanfodol ar gyfer iechyd a lles ein cymunedau. Pan ydw i eisoes wedi codi pryderon yn y Senedd am y posibilrwydd o golli ased diwylliannol a chyfleusterau hamdden—gan gynnwys pyllau nofio—, rwyf i wedi cael gwybod dro ar ôl tro mai mater i awdurdodau lleol yw hynny a bod eu setliad yn well na'r disgwyl yn y gyllideb ddrafft. Ond rwy'n ofni bod hynny'n tynnu oddi ar y gwirionedd yr ydyn ni'n ei weld ledled Cymru ar hyn o bryd, gyda—fel y mae pawb yn gwybod—Andrew Morgan, arweinydd CLlLC, yn datgan yn ddiweddar bod y rhagolygon economaidd i gynghorau yn edrych yn llwm, ac mae cynghorau'n gorfod gwneud penderfyniadau anodd i lenwi bylchau cynyddol yn y gyllideb oherwydd biliau ynni, chwyddiant a chostau cyflog.
Un cwestiwn a ofynnwyd yn y cyfarfod cyhoeddus neithiwr—ac rwy'n credu ei fod yn berthnasol i'r ddadl heddiw—oedd pam mae cymaint o wleidyddion yn ein Senedd ni ac yn ein hawdurdodau lleol ni nad ydyn nhw'n gwneud mwy i wrthsefyll yr agenda cyni, ac nad ydyn nhw ar y strydoedd i wrthod naratif y Torïaid nad oes arian ar gael. [Torri ar draws.] Na. Dro ar ôl tro yma, rydyn ni'n clywed Gweinidogion yn dweud mai bai Llywodraeth y DU yw hi bod yn rhaid gwneud y penderfyniadau anodd hyn, ond un peth yr hoffwn i ei ofyn heddiw yw: beth rydych chi'n ei wneud mewn termau ymarferol, y tu hwnt i ysgrifennu llythyrau neu wneud datganiadau cyhoeddus, i fynnu'r cyllid yr ydyn ni ei angen ac yn ei haeddu? Oni bai bod rhywbeth sylweddol yn newid, ac yn gyflym, bydd Cymru'n cael ei dinoethi o lawer o'i gwasanaethau a'i chyfleusterau cyhoeddus hanfodol, ac rwy'n gofidio weithiau, ein bod ni'n anghofio yn y fan yma fod y rhain o ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol wedi'u gwneud gan Lywodraeth y DU. Mae Llywodraeth y DU yn dilyn agenda polisi sy'n gwobrwyo'r cyfoethog neu'r hynod gyfoethog ac yn cosbi'r mwyafrif.
Mae'n bryd i ni uno gyda'n cymunedau ac anfon neges glir i San Steffan mai digon yw digon a'n bod ni'n anfodlon parhau i weithredu agenda gyni ar eu rhan. Mae gennym ni gyfle felly yn y gyllideb hon i amlinellu'r math o Gymru yr ydyn ni eisiau'i gweld, a defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael i ni i'w blaenoriaethu. Mae fy nghyd-Aelod, Adam Price, wedi amlinellu ein blaenoriaethau o ran y GIG, ac mae ein cynnig yn golygu y gall arian ychwanegol fod ar gael. Amlinellodd fy nghyd-Aelod Sioned Williams yr heriau gwirioneddol iawn a'r risgiau sy'n gysylltiedig â rhai o'r toriadau yr ydyn ni'n eu gweld yn y gyllideb ddrafft, yn enwedig yn effeithio ar blant a phobl ifanc sy'n byw mewn tlodi yma yng Nghymru, ac mae mwy o blant a phobl ifanc mewn tlodi gyda phob mis sy'n mynd heibio.
Hoffwn i ofyn dau gwestiwn arall hefyd. Yn gyntaf, sut mae'r gyllideb ddrafft hon yn ymdrin â'r mater o recriwtio a chadw athrawon? Mae'n rhywbeth y cododd Laura Anne Jones. Rydyn ni wedi clywed rhybuddion gan benaethiaid, oni bai bod cyllid ychwanegol ar gael, byddwn ni'n colli athrawon a chynorthwywyr addysgu a bydd gwasanaethau cymorth ychwanegol yn cael eu colli. Felly, pa ystyriaethau sydd wedi'u rhoi i hyn yn y gyllideb?
Yn ail, os caf i droi at y Gymraeg, dyma'r gyllideb ddrafft cyntaf ers cyhoeddi canlyniadau'r cyfrifiad, fel y soniodd Delyth Jewell, a gwyddom fod angen buddsoddiad sylweddol mewn nifer o feysydd os am gyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Serch hynny, mae toriad termau real o 2.4 y cant mewn gwariant ar y Gymraeg yn y gyllideb hon. Pa asesiad sydd wedi ei wneud o ran beth fydd effaith hyn ar y targed o filiwn o siaradwyr?
Yn bellach, er llwyddiant buddsoddi mewn mynediad am ddim i Eisteddfod yr Urdd y llynedd a 15,000 o docynnau am ddim i'r Eisteddfod Genedlaethol, oes bwriad cynnig cefnogaeth pellach i alluogi hyn yn y dyfodol? Mae'r math yma o ddigwyddiadau yn eithriadol o bwysig, a rydyn ni wedi gweld rhybudd gan yr Eisteddfod Genedlaethol wythnos diwethaf y bydd rhaid iddyn nhw edrych eto ar bris mynediad. Felly, sut ydyn ni am sicrhau nad ydy diwylliant yn rhywbeth jest i'r rhai sy'n gallu ei fforddio fo? Mae gennyn ni Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yma yng Nghymru; mae'n rhaid sicrhau mynediad cydradd i holl gyfoeth bywyd, ac mae hynny'n cynnwys diwylliant. Hoffwn wybod sut mae'r gyllideb hon am sicrhau hynny.
Rwy'n siarad y prynhawn yma yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Fel pwyllgor, rydyn ni i gyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau ariannol sylweddol sy'n wynebu'r Gweinidogion wrth osod y gyllideb eleni. Rydyn ni'n gwybod bod yr argyfwng costau byw yn effeithio'n anghymesur ar blant a grwpiau eraill o bobl agored i niwed. Mae tua 31 y cant o blant Cymru'n byw mewn tlodi cymharol.
Mewn arolwg o 7,873 o blant a phobl ifanc fis Tachwedd diwethaf, gwnaeth y comisiynydd plant ddarganfod fod 45 y cant o blant rhwng saith ac 11 oed, a 26 y cant o bobl ifanc rhwng 12 ac 18 oed, yn dweud eu bod yn poeni am gael digon i'w fwyta. Dyma'r gwir plaen o sut mae tlodi'n effeithio ar blant, a'r cefndir y mae Llywodraeth Cymru yn gosod ei chyllideb ddrafft ar gyfer 2023-24 yn ei erbyn. Mae'n dangos pam mae hi mor bwysig i Lywodraeth Cymru roi cyfran deg o adnoddau i blant a phobl ifanc.
Wrth wraidd craffu'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru y mae'r cwestiwn allweddol hwn: a yw Llywodraeth Cymru wedi clustnodi digon o adnoddau i blant a phobl ifanc? Yn anffodus, nid ydyn ni'n gwybod yn sicr. Unwaith eto, ni wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi asesiad effaith ar hawliau plant o'i chyllideb ddrafft. Mae ein pwyllgor ni'n glir yn ein hargymhelliad ar hyn: mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydymffurfio â'i dyletswydd i roi sylw dyladwy i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth bennu ei chyllideb ddrafft.
Gwnaethon ni ofyn am lawer o wybodaeth wrth baratoi ar gyfer ein gwaith craffu, ac rydyn ni'n ddiolchgar am gydweithrediad Gweinidogion a swyddogion ar hyn. Yn anffodus, nid oedd yr holl dystiolaeth ysgrifenedig y gwnaethon ni ei chael i gefnogi ein craffu'n glir, ac edrychwn ni ymlaen at ymgynghoriad y Pwyllgor Cyllid sydd i ddod. Er gwaethaf yr heriau hynny o ran gweld yr hyn sy'n cael ei wario ar blant, rydyn ni wedi gwneud cyfres o argymhellion i Lywodraeth Cymru eleni, a rhai ohonyn nhw'n â'r nod o liniaru effaith yr argyfwng costau byw ar blant a phobl ifanc ledled Cymru.
Dylai'r rhaglen prydau ysgol am ddim i blant, sydd i fod i ddod i ben ar ôl hanner tymor mis Chwefror, gael ei hymestyn. Ni ddylai plant yng Nghymru orfod poeni am fod â digon i'w fwyta. Mae'r rhaglen prydau ysgol yn ffordd effeithiol o liniaru effaith tlodi bwyd ar ein hunigolion mwyaf agored i niwed. Rydyn ni'n croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i ymestyn y cynllun hyd yma ac yn ei hannog i wneud hynny eto.
Mae nifer o Aelodau eisoes wedi sôn am y lwfans cynhaliaeth addysg, ac rydyn ni'n credu bod yr amser wedi dod i'r lwfans cynhaliaeth addysg gael ei adolygu'n briodol. Yn ei hymateb i'n hadroddiad cyllideb ddrafft y llynedd, dywedodd Llywodraeth Cymru wrthym nad yw wedi adolygu'r lwfans cynhaliaeth addysg yn rhannol oherwydd bod adolygiad yn 2014 yn awgrymu
'mai dim ond i leiafrif o fyfyrwyr yr oedd yr LCA yn ffynhonnell hanfodol o gymorth ariannol.'
Mae'r adolygiad hwnnw bron yn ddegawd oed erbyn hyn. Mae llawer iawn wedi newid ers hynny. Yn y cyfamser, gan nad yw trothwy cymhwysedd y lwfans cynhaliaeth addysg na'r gyfradd gymorth wedi'u diwygio ers 2011-12, mae'r lwfans cynhaliaeth addysg gwerth llai mewn termau real i lai o fyfyrwyr bob blwyddyn.
Mae'r argymhellion hyn, ochr yn ochr ag eraill, yn cyfrannu at argymhelliad terfynol ein hadroddiad. Eleni, rydyn ni'n ymuno â'r comisiynydd plant, Archwilio Cymru a llawer o rai eraill wrth alw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun gweithredu ar dlodi plant gyda chamau clir, wedi'u costio, y mae modd eu cyflawni, eu mesur ac sydd yn gyfyngedig o ran amser. Rydyn ni'n deall bod y prif ysgogiadau ar gyfer lliniaru tlodi plant yn nwylo Llywodraeth y DU. Ond nid yw hynny'n nacáu'r angen i Lywodraeth Cymru nodi'n glir sut y bydd yn defnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi, a'r arian sydd ganddi, i leihau tlodi plant yma yng Nghymru. Ac rwy'n gwybod nad ni yw'r unig rai fydd yn rhoi sylw manwl i ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhelliad hwnnw, yn benodol.
Ac yn olaf, hoffwn i ddiolch i fy nghyd-Gadeiryddion pwyllgorau yn y Senedd ac i aelodau'r pwyllgor am eu cefnogaeth a'u cydweithrediad eleni. Mae hi mor bwysig bod y Senedd mor gyfannol â phosibl wrth graffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â defnyddio arbenigedd a gwaith ymgysylltu rhagorol y Pwyllgor Cyllid, rwy'n gwybod bod gan rai adroddiadau pwyllgor eleni—gan gynnwys ein rhai ni—argymhellion ar y cyd â phwyllgorau eraill sydd wedi rhannu meysydd o ddiddordeb. Rwy'n gobeithio'n fawr ein bod ni'n parhau i adeiladu ar y dull cydweithredol hwn o graffu mewn blynyddoedd i ddod. Diolch yn fawr.
Hoffwn i roi rhagair i fy nghyfraniad i'r ddadl hon drwy ddweud diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog. Rwyf i wedi dweud droeon ei bod hi mewn swydd y byddwn i'n rhedeg miliwn o filltiroedd oddi wrthi—i osod cyllideb gwerth £19 biliwn. Hoffwn i ddiolch iddi hi am y trafodaethau yr ydyn ni wedi'u cael, ac am y cyfle i ystyried meysydd penodol yn fanwl. Diolch. Diolch yn fawr iawn.
Beth yw cyllideb Llywodraeth, oni bai ei bod yno i gefnogi ein pobl dlotaf a'n plant? Mae yna gân—wna i ddim ei chanu—ond rwy'n credu ei bod hi'n mynd rhywbeth fel hyn:
'Rwy'n credu mai plant yw ein dyfodol'.
Yn wir, y maen nhw, onid ydyn nhw? Rwy'n falch iawn o weld cymaint yn y gyllideb hon sydd wir yn canolbwyntio ar blant. Rwy'n adleisio llawer o'r datganiadau gan Jayne Bryant. Mae gennym ni brydau ysgol am ddim. Mae hynny'n ymwneud â bwydo'n plant—ein plant ni i gyd, beth bynnag yw eu cefndir. Mae'n ymwneud â gwneud yn siŵr nad yw ein plant â phrofiad o fod mewn gofal, yr ydyn ni'n gyfrifol amdanyn nhw—ni yw eu rhieni corfforaethol—yn mynd heb unrhyw beth drwy'r cynllun treialu incwm sylfaenol cyffredinol gwych ar gyfer plant â phrofiad o fod mewn gofal.
Ym myd addysg—ac mae'n rhaid i mi ddweud yma fod Kirsty Williams wedi gweithio ar hwn—y grant datblygu disgyblion, sydd mewn gwirionedd yn ystyried targedu'r plant hynny sydd fwyaf agored i niwed ac sydd angen ein cefnogaeth o ran addysg. Dyna beth ddylai diben cyllideb fod. Mae hi'n gymaint o demtasiwn, on'd yw hi, i restru'n union beth yr ydyn ni'i eisiau yn ychwanegol, ond dyna mewn gwirionedd yw beth fydda' i'n ei wneud yn ystod y munudau nesaf. Dof at rywbeth arall ar y diwedd, ond rydw i eisiau siarad am rai o'r pethau yr hoffwn i eu gweld ac sydd eisoes yn y gyllideb hefyd.
Deintyddiaeth. Mae llawer ohonoch chi'n gwybod fy mod i wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ym Mhowys, mae gennym ni 5,000 o bobl ar y rhestr aros deintyddol, gydag 800 o blant yn dal i fethu dod o hyd i ddeintydd GIG. Mae angen i ni ystyried cyllid—nid dyna'r unig fater—ac rwy'n ddiolchgar, yn fy nhrafodaethau â'r Gweinidog, i edrych ar ddatblygiadau arloesol yr ydyn ni wedi'u cael. Ond mae angen mynd ymhellach ac yn gyflymach, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed mwy am hynny.
Gofal cymdeithasol. Rydyn ni'n gwybod bod hynny'n broblem fawr iawn. Rwy'n falch o weld bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £70 miliwn i'r sector gofal cymdeithasol, a fydd yn ariannu'r ymrwymiad cyflog byw hwnnw. Ond, fel rwy'n sicr bod pawb yn y Siambr yma heddiw yn ei wybod, mae angen mynd ymhellach; dim ond cam ydyw tuag at helpu i liniaru llawer o'r materion o ran gofal cymdeithasol.
Y trydydd maes yw ynghylch datgarboneiddio. Yr argyfwng hinsawdd yw'r peth pwysicaf sy'n ein hwynebu ni. Mae gennyf i ddiddordeb mewn dysgu pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer fersiwn newydd y rhaglen Cartrefi Clyd. Rydyn ni wedi bod yn aros ychydig o amser am hynny, ond mae hynny'n hanfodol er mwyn gwneud yn siŵr bod biliau pobl yn is, a'n bod ni'n ymdrin â'n hargyfwng hinsawdd. Rydych chi wedi clywed Luke Fletcher yn sôn am y cynllun cymorth brys i fysiau a phryderon ynghylch hynny, ac rwy'n rhannu'r rheini. Ond rydyn ni eisiau gweld trafnidiaeth gyhoeddus am ddim i bawb dan 25 oed. Byddai hynny'n helpu i ymdrin â'r argyfwng hinsawdd ac i helpu ein pobl ifanc.
Hoffwn i orffen drwy ddweud ein bod ni i gyd wedi sôn—gan gynnwys fi—am beth arall yr ydyn ni eisiau'i weld yn cael ei wario. Ond mae angen i ni ystyried incwm hefyd. Mae angen i ni ystyried sut yr ydyn ni'n mynd i ariannu'r hyn sydd ei angen arnon ni, yn enwedig yng ngoleuni Llywodraeth Geidwadol drychinebus a chyllideb hollol gywilyddus Liz Truss, sy'n rhoi cymaint o bobl mewn sefyllfa ansicr. Mae angen i ni ystyried yng Nghymru yr hyn y gallwn ni ei wneud. Ac er na fyddaf i'n cefnogi gwelliant Plaid Cymru, rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael. Fy mhryder i yw na allaf i gefnogi cynnig sy'n ceisio ychwanegu baich treth ychwanegol ar y rhai sy'n ennill lleiaf, yn enwedig ar adeg argyfwng costau byw. Ond rwy'n credu bod trafodaeth i'w chael, ac rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn agored i hynny, i ystyried sut y gallwn ni drethu'r rhai sy'n ennill y cyflogau uchaf, oherwydd nhw yw'r bobl sy'n gallu fforddio cefnogi pawb yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, ni fyddaf i'n cefnogi gwelliant y Ceidwadwyr. Mae'n amlwg i bawb nad yw eu Llywodraeth nhw'n cyflawni ar flaenoriaethau pobl Cymru. Diolch yn fawr iawn.
A gaf i ddiolch hefyd i Weinidog Llywodraeth Cymru am gyflwyno'r drafodaeth heddiw ar gyllideb ddrafft 2023-24? Wrth gwrs, mae'n cael effaith hynod bwysig ar ein cymunedau, ar bawb yng Nghymru, ac mae'n rhywbeth, rwy'n siŵr, y mae pawb wedi bod yn aros amdani'n eiddgar. Mae'n amlwg o'n hochr ni y meinciau a thrwy gydol y cyfraniadau hyd yma, ynghyd â'n gwelliant i'r ddadl yn y gyllideb heddiw, nad yw'r gyllideb hon gan Lywodraeth Cymru yn mynd yn ddigon pell wrth gyflawni ar flaenoriaethau pobl Cymru. Ac un o'r blaenoriaethau hyn yw'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan ein cynghorau a'n cynghorwyr gwych ar hyd a lled Cymru. Ni fydd hi'n syndod i ni yma y byddaf i'n dechrau fy nghyfraniad yn hyn o beth.
Fel sydd eisoes wedi'i amlinellu, mae'r setliad llywodraeth leol yn cynnig cynnydd o 7.9 y cant, sydd tua £227 miliwn yn cael ei ddarparu i lywodraeth leol, sydd, wrth gwrs, wedi cael croeso gochelgar. Ond yn amlwg nid yw hi wedi bod yn ddigon iddyn nhw ddarparu'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl. Mae'n anodd iawn gweld sut bydd y cynnydd hwn yn y setliad wir yn arwain at gymunedau lleol yn cael gwell gwasanaethau. Rydyn ni'n gwybod bod cynghorau ar hyn o bryd yn gorfod ymrafael â chyllidebau a phenderfyniadau anodd dim ond i oroesi bwrw ymlaen fel arfer, heb sôn am weld gwasanaethau ychwanegol yn cael eu cyflawni.
Ond rydyn ni'n byw gyda ac yn ymdrin ag ychydig o baradocs ar y mater hwn, oherwydd yng ngoleuni'r setliad cyllido hwn o 7.9 y cant, mae llawer o gynghorau ar hyd a lled Cymru yn cynllunio codi'r dreth gyngor yn sylweddol iawn i ymdopi ag ef, ond mae hyn er eu bod yn eistedd ar gronfeydd wrth gefn enfawr, y tynnodd fy nghydweithiwr Peter Fox sylw ato. Yn fy marn i, nid yw hi'n iawn bod trigolion ledled Cymru yn debygol o wynebu cynnydd sylweddol yn y dreth gyngor, yn enwedig yn ystod cyfnod pan fo'u pocedi eisoes yn dioddef, pan mae rhai cynghorau'n eistedd ar werth cannoedd o filiynau o bunnoedd wrth gefn. Mae'n anodd cyfiawnhau'r safbwynt moesol ar hyn, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried y sylwadau y cyflwynodd Peter Fox ar hyn hefyd.
Yn ail, mae Aelodau eraill wedi sôn am y pwynt hwn, ac mae ynghylch materion tai a'r heriau y mae ein cynghorau yn eu hwynebu. Rwyf i wedi cael gohebiaeth sylweddol ar hyn, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill wedi hefyd, ac mae'n ymwneud â'r grant cymorth tai, yr ydym ni'n ymwybodol ei fod yn ariannu'r mwyafrif helaeth o gefnogaeth i'n cymorth i ddigartrefedd a thai yng Nghymru, gyda thua 60,000 o bobl bob blwyddyn yn cael eu cefnogi. Cafodd cymorth pwysig iawn ei ddarparu drwy gydol y pandemig, ond ar hyn o bryd mae o dan fwy o bwysau nag erioed. Gwyddom ni, yn ystod y degawd diwethaf, fod y grant cymorth tai wedi lleihau mewn termau real o ble'r oedd ar £139 miliwn tua 10 mlynedd yn ôl, a ddylai gyfateb i tua £181 miliwn heddiw. Ond mewn gwirionedd, mae'n £167 miliwn, felly mae tua £14 miliwn o doriad mewn termau real i faes sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw. Ac mae'r toriad termau real hwn yn cael effaith sylweddol ar y gweithlu grantiau cymorth tai, ac mae'n amlwg bod diffyg unrhyw gynnydd i'r gyllideb hon yn golygu bod darparu gwasanaethau mewn perygl, ac yn y pen draw bydd yn costio mwy i'r trethdalwr yn y pen draw, oherwydd nid yw'r gwasanaeth ataliol hwn yn cael ei gefnogi'n gywir.
Yn ogystal â hyn, rydyn ni'n gweld her enfawr wrth recriwtio a chadw staff yn y gwasanaethau hyn, ac rydyn ni wedi cael gwybod y bydd 29 y cant o staff sy'n gweithio mewn cymorth tai yn cael llai o dâl na'r cyflog byw gwirioneddol newydd. Ni all fod yn iawn nad yw cyllideb Llywodraeth Cymru ei hun ar gyfer gwasanaethau cefnogi tai yn eu galluogi i dalu'r cyflog byw gwirioneddol, er gwaethaf ymrwymiad Llywodraeth Cymru ei hun i dalu'r cyflog byw gwirioneddol. Mae rhagrith gwirioneddol yno yn y broses o osod gwasanaethau cymorth tai gan Lywodraeth Cymru.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
Ydych chi'n rhannu fy mhryder bod toriadau neu rewi yn y grant cymorth tai wedi cael eu cynnig bron fel offrwm aberthol yn bron pob cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru am o leiaf y degawd diwethaf, er gwaethaf canlyniadau mwy o bwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys y GIG, a gwasanaethau golau glas? Ac a ydych chi'n cytuno na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn dilyn yr economïau ffug hyn, ac yn hytrach y dylent fod yn cael gwared ar y miliynau o bwysau ychwanegol o ran costau ar wasanaethau statudol y bydden nhw'n eu hachosi?
Yn hollol. Mae Mark Isherwood yn codi pwynt pwysig o'i brofiad yma yn y Senedd, ac rwy'n cytuno'n llwyr â phob pwynt y mae ef wedi'i wneud yn y fan yna oherwydd mae pwynt ehangach yma ynghylch gwasanaethau ataliol nad ydyn nhw'n cael eu cefnogi'n iawn, a'r effaith ganlyniadol ar gyllidebau mewn mannau eraill o fewn rheolaeth Llywodraeth Cymru.
Wrth gwrs, mae'n deg dweud bod y gyllideb hon wedi dod ar adeg heriol. Ond rwy'n credu bod agweddau clir o'r hyn sy'n gadael sawl rhan o Gymru i lawr, ac mae angen ymdrin â hi ar frys. Rwyf i wedi tynnu sylw at ddau yn unig yma y prynhawn yma. Felly, wrth gloi, hoffwn i ddiolch eto i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw, ynghyd â'i hymgysylltiad parhaus ag aelodau ein pwyllgor ni—rwy'n eistedd ar y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai. Rwy'n edrych ymlaen at gyfraniadau eraill o bob rhan o'r Siambr ac yn galw ar bob Aelod i gefnogi ein gwelliant 1 gan y Ceidwadwyr Cymreig. Diolch yn fawr iawn.
Nawr, rwy'n deall ei bod hi'n amhosibl drafftio cyllideb sy'n plesio pawb, yn enwedig yn yr hinsawdd sydd ohoni. Mae cyllideb yn adlewyrchiad o'ch gwleidyddiaeth, ac mae gwleidyddiaeth, wedi'r cyfan, yn ymwneud â blaenoriaethau. A hoffwn siarad am un o'r blaenoriaethau hynny sy'n cael ei arddel yn aml—sef mynd i'r afael â digartrefedd. Mae digartrefedd yn bla a ddylai neb mewn gwlad ddatblygedig a theg gael ei adael yn ddigartref, ond y gwir trist yw bod pobl yn ddigartref yma yng Nghymru. Dim ond yr wythnos diwethaf, roedd fy nghymhorthfa yn llawn apwyntiadau o bobl a oedd yn dod i ddweud eu bod yn ddigartref, o deuluoedd ifanc i bobl yn eu hwythdegau. Mae mynd i'r afael â digartrefedd a’i atal nid yn unig yn beth da ynddo'i hun, ond mae hefyd yn fesur ataliol sy'n arbed arian, boed yn arian yn ein hawdurdodau lleol neu arian yn y gwasanaeth iechyd ac yn rhywle arall. Mae ymchwil wedi dangos bod y gwasanaethau grant cymorth tai yn darparu arbediad net—
A wnaiff yr Aelod dderbyn ymyriad?
Ie, ewch amdani, Janet.
Diolch, Mabon. Diolch, Mabon, yn fawr iawn. Mae yna rywfaint o eironi yma, onid oes? Y rhesymau pam y mae'r niferoedd sy'n ddigartref yn cynyddu, mewn gwirionedd, yw o ganlyniad i lawer o landlordiaid preifat—ac rwy'n datgan buddiant—mewn gwirionedd yn cyflwyno ffurflenni adran 21. Rydych chi wedi cefnogi'r holl feichiau rheoleiddio ychwanegol hynny sydd wedi'u gosod ar landlordiaid preifat sydd bellach yn gorfodi pobl allan o gartrefi cyfforddus ac i mewn i ystafelloedd mewn gwesty; erbyn hyn mae 19 o ystafelloedd mewn gwesty yn sir Conwy â llawer o bobl ddigartref yn byw mewn llety dros dro, ond maen nhw yno ers misoedd.
Does dim tystiolaeth o gwbl i awgrymu bod y rheoliadau newydd yn cyfrannu at adran 21, ond rwyf yma i siarad am bobl ddigartref, nid i amddiffyn y landlordiaid.
Felly, mae tystiolaeth i ddangos bod y grant cymorth tai, y gwasanaethau a ddarperir gan y cyllid ar gyfer y grant hwnnw, yn darparu arbediad net o £1.40 am bob £1 a fuddsoddwyd drwy atal digartrefedd. Mae'r grant cymorth tai yn ariannu'r mwyafrif helaeth o wasanaethau digartrefedd a chymorth tai, gan gefnogi dros 60,000 o bobl bob blwyddyn trwy ddarparu cymorth tenantiaeth sy'n atal digartrefedd ac yn cadw pobl yn eu cartrefi; llety â chymorth ar gyfer ystod o grwpiau cleientiaid, gan gynnwys lloches i oroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; prosiectau tai yn gyntaf sy'n cefnogi pobl â hanes o ddigartrefedd dro ar ôl tro i gael gafael ar denantiaeth a'i chynnal.
Mae'r sector digartrefedd dan fwy o bwysau nag erioed o'r blaen, gyda thua 9,000 o bobl mewn llety dros dro a bron i draean ohonyn nhw â phlant dibynnol. Ond ni fydd y grant cymorth tai, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn gweld cynnydd eleni. Mae hwn yn doriad termau real ar adeg pan fo'r galw'n cynyddu'n esbonyddol. Mae'r gallu i ddarparu gwasanaethau bellach mewn perygl. Mae awdurdodau lleol a darparwyr cymorth yn pryderu'n ddifrifol am gost rhedeg gwasanaethau a'u gallu i recriwtio a chadw staff, ac mae darparwyr cymorth nawr yn mynd ati i ystyried cerdded i ffwrdd o'r contractau presennol, ac mae'n bosib na allant gynnig am gontractau pan fyddan nhw'n cael eu hail-dendro. Felly, a wnaiff y Gweinidog cyllid edrych eto ar yr arian ar gyfer y grant cymorth tai a sicrhau ei fod yn gweld cynnydd, fel y gall y gwasanaethau hanfodol y mae'n eu hariannu barhau a chadw Cymru ar y trywydd iawn i ddileu digartrefedd?
Yn ail, gwyddom i gyd am yr heriau difrifol sy'n wynebu cymdeithas mewn sawl maes. Mae newid hinsawdd yn golygu bod angen i ni ddatgarboneiddio'n gyflym ac mae tai gwael yn bygwth iechyd a llesiant llawer o'n dinasyddion. Os ydyn ni am gyrraedd ein targedau a datgarboneiddio ein stoc dai wrth sicrhau bod gan bobl dai o ansawdd da, yna dylem ddisgwyl gweld y Llywodraeth yn ariannu'r prosiect datgarboneiddio hwn i werth tua £170 miliwn y flwyddyn. Ond, fel y mae pethau ar hyn o bryd, dim ond £184 miliwn y bydd y gyllideb hon yn ei darparu dros ddwy flynedd ar adeg o chwyddiant sy'n cynyddu'n sylweddol yn y sector a phrinder llafur. Mae angen edrych ar hyn os ydym am gyrraedd targedau cymedrol, heb sôn am rai uchelgeisiol.
Gyda'r argyfwng costau byw presennol a chynnydd mawr mewn cyfraddau llog morgeisi, mae disgwyl y bydd tua 220,000 o aelwydydd yng Nghymru yn wynebu trafferthion wrth dalu eu morgeisi eleni. Arweiniodd Cymru'r ffordd o ran cyflwyno pecyn achub morgeisi yn ôl yn 2008, ac mae angen i ni weld cynllun tebyg yn cael ei gyflwyno eto. Does dim llinell gyllideb ar gyfer hyn hyd yma, felly hoffwn ofyn i'r Llywodraeth ystyried hyn, wrth symud ymlaen.
Yn olaf, nid oes cyfeiriad yn y gyllideb at ail fersiwn safonau ansawdd tai Cymru, a fydd, er bod croeso iddynt, yn sicr yn golygu costau ychwanegol sylweddol i ddarparwyr tai cymdeithasol, pan na fydd gan y sector preifat unrhyw safon o'r fath wedi'i phennu mor uchel. Felly, a all y Gweinidog roi eglurhad ar hyn? Diolch.
Rydyn ni bellach wedi mynd y tu hwnt i'r amser a ddyrannwyd i'r eitem hon ar yr agenda, ond mae busnes y gyllideb yn bwysig iawn. Mae gen i dri siaradwr arall. Byddaf yn galw'r tri, ac yna'r Gweinidog i ymateb. Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac rwy'n siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, ond, os oes gen i amser ar y diwedd, mae gen i un pwynt arall i'w ychwanegu, gan dynnu'r het honno.
Gosododd ein pwyllgor ein hadroddiad ar y gyllideb ddrafft brynhawn ddoe, a diolch i aelodau'r pwyllgor a'n tîm clercio am eu craffu cyflym a diwyd. Roedd ein gwaith craffu ar gynigion drafft Llywodraeth Cymru ar gyfer y gyllideb yn canolbwyntio'n bennaf ar wariant ar gyfiawnder. Fodd bynnag, fe wnaethom hefyd ystyried yn fanwl a oes gan Lywodraeth Cymru'r gallu i ddeddfu o fewn y cyd-destun cyfansoddiadol presennol, ac rydym yn ddiolchgar iawn i'r Cwnsler Cyffredinol am fynychu ein cyfarfod ar 16 Ionawr i ystyried y meysydd hyn yn fanwl.
Mewn termau cymharol, o'i gymharu â chyfrifoldebau eraill Llywodraeth Cymru, mae gwariant ar gyfiawnder o fewn y gyllideb ddrafft yn gymharol gyfyngedig, ac mae'n adlewyrchu pwerau cymharol gyfyngedig Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, mae ei effaith yn eang ac felly rydym yn cadw llygad barcud ar wariant arfaethedig y Llywodraeth yn y maes hwn. Nodwyd gostyngiadau bach i'r dyraniadau o fewn y gyllideb ddrafft sy'n cefnogi rhaglen trawsnewid cyfiawnder Llywodraeth Cymru, a hefyd i dribiwnlysoedd Cymru. Roeddem yn ddiolchgar i gael sicrwydd gan y Cwnsler Cyffredinol nad oedd y gostyngiadau hyn yn arwydd bod y meysydd hyn yn gostwng o ran eu blaenoriaeth. Yn benodol, yn achos tribiwnlysoedd Cymru, clywsom y byddai Llywodraeth Cymru'n monitro effaith unrhyw gynnydd mewn achosion neu wrandawiadau wyneb yn wyneb ar yr adnoddau sydd eu hangen ar y tribiwnlysoedd, ac felly argymhellwyd y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi diweddariadau amserol i ni ynghylch ei waith yn monitro hynny. Clywsom hefyd am y gwaith pwysig sydd ar y gweill i ddiwygio tribiwnlysoedd Cymru, yn dilyn argymhellion a wnaed gan Gomisiwn y Gyfraith. Hoffem weld mwy o fanylion am raddfa’r gwaith hwn, ac felly fe wnaethom argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol roi manylion i ni am yr adnoddau tebygol fydd eu hangen i ddatblygu'r cynigion hyn.
Mae'n bwysig iawn i ni, yn ogystal â Senedd Cymru, allu mesur canlyniadau gwariant Llywodraeth Cymru. Clywsom, yn ystod ein sesiwn gyda'r Cwnsler Cyffredinol, y dylai adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar ei rhaglen sicrhau cyfiawnder i Gymru gynnwys manylion am wariant Llywodraeth Cymru ar gyfiawnder a gwerthusiadau o ganlyniadau'r gwariant hwnnw. Gan y bydd cynnwys yr adroddiad blynyddol yn debygol o gyffwrdd â'n cylch gwaith ni a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, byddwn yn archwilio cyfleoedd i graffu ar y cyd ar yr adroddiad blynyddol.
Nawr, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r pryderon sydd gennym fel pwyllgor am y cynnydd yn nifer Biliau seneddol y DU sy'n destun memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym yn hollol glir bod, yn wir, digon o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i gyflawni ei rhaglen ddeddfwriaethol. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y nifer cynyddol hwn o femoranda cydsyniad deddfwriaethol, nid yw'n glir i ni fel pwyllgor a oes gan Lywodraeth Cymru ddigon o adnoddau i gyflawni'r holl ddeddfwriaeth y gall benderfynu ar unrhyw adeg eu bod yn angenrheidiol. O ganlyniad, rydym yn pryderu y gallai Llywodraeth Cymru, yn wir, fod yn defnyddio rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU i weithredu rhai o'i hamcanion polisi oherwydd efallai y bydd angen defnyddio llai o'i hadnoddau ei hun, sy'n cael yr effaith ychwanegol ar ddeddfwriaeth mewn meysydd datganoledig sy'n destun craffu llai manwl gan y Senedd. Nawr, rwy'n nodi bod y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai hefyd wedi codi pryderon ar ôl clywed tystiolaeth mai'r her fwyaf wrth ddarparu rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru, mewn dyfyniadau, yw'r 'adnodd medrus sydd ei angen'.
Rydym hefyd yn poeni'n benodol am Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Mae effaith y Bil hwn ar adnoddau Llywodraeth Cymru os caiff ei ddeddfu fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn debygol o fod yn sylweddol. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol wrthym fod Llywodraeth Cymru yn parhau i ganfod pa feysydd fydd angen sylw o dan ofynion y Bil. Rydym o'r farn ei bod yn hanfodol bod y darlun llawn o'r asesiad hwnnw'n cael ei rannu â ni ac â'r Senedd. Os yw Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir yn dod yn gyfraith, dylai Llywodraeth Cymru wneud hynny'n union. Rydym wedi argymell yn ein hadroddiad y dylai'r Cwnsler Cyffredinol adrodd o fewn mis i basio'r Bil, ac yn fisol wedi hynny.
Yn olaf, fe wnaethon ni ystyried gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar ei rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Dywedwyd wrthym y cwrddir â'r costau i gyflawni'r rhaglen hon o bob rhan o bortffolios, a bod costau staffio ychwanegol dangosol o'r gwaith hwnnw wedi'u nodi yn y memorandwm esboniadol i Fil Deddfwriaeth (Cymru). Gan ei bod hi bellach dros dair blynedd ers i'r Bil ddod yn Ddeddf, rydym wedi gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol am ddadansoddiad o ba un a yw'r costau hynny'n profi i fod yn gywir.
Yn yr 20 eiliad olaf sydd gen i, os caf dynnu fy het, fe ddechreuais gyda chyfiawnder, ac rwyf eisiau gorffen gyda chyfiawnder cymdeithasol ac adleisio'r geiriau a gafwyd gan ambell gyd-Aelod, ein pryder am y gefnogaeth i gludiant bysiau yng Nghymru. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. Rwy'n poeni bod y wasgfa ar y gyllideb hon—ac mae gwasgfa ddiamheuol ar y gyllideb hon—yn mynd i olygu, pan ffrwydrodd Liz Truss yr economi, efallai ei bod wedi ffrwydro rhannau o'n hagenda polisi, gan gynnwys diwygiadau radical ar y bysiau—[Torri ar draws.] Na, dydw i ddim yn siarad fel Cadeirydd. Fe wnes i hynny'n glir, yn hollol glir, yn gwbl glir. Fel meinciwr cefn.
Mae'n bleser cymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma, er fy mod yn teimlo ychydig fel DJ ar y radio ar raglen brecwast cynnar nawr, gan ein bod ni ar y shifft hwyr. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, fel arfer rwy'n mynd ychydig bach yn siomedig hefyd, achos mae gen i'r llun yma bob amser yn fy meddwl ein bod ni'n mynd i fod yn eistedd yma fel Charles Babbage gyda chyfrifianellau, gan fynd llinell ar ôl llinell drwy'r ffigurau, ond rwy'n deall nad fel yna y mae ac mae'n rhaid i ni fod ychydig yn fwy amwys a goddrychol am rai o'r pethau rydyn ni'n sôn amdanyn nhw mewn ffordd anuniongyrchol.
Fel mae'r gyllideb hon wedi dangos, mae Llywodraeth Cymru'n parhau i danbrisio gofal cymdeithasol, ac nid oes ganddi ei blaenoriaethau yn y drefn iawn. Mae'r orddibyniaeth ar weithwyr asiantaeth a'r prinder sgiliau sy'n gwaethygu yn gadael y sector mewn sefyllfa sy'n golygu na all weithio'n iawn. Yn hytrach na chymryd cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi'r bai ar awdurdodau lleol, gan eu gorfodi i ystyried toriadau sy'n effeithio ar y bobl fwyaf agored i niwed. Achos diweddar o hynny oedd fy nghyngor fy hun yn sir Ddinbych. Adroddwyd yn eang eu bod yn trafod lleihau ffioedd cartref gofal ein preswylwyr mwyaf agored i niwed yn yr etholaeth y tu ôl i ddrysau caeedig, heb graffu cyhoeddus. Felly, dydw i ddim yn cytuno â phenderfyniad yr arweinwyr i wneud hynny, ac rwy'n credu y dylid ei drafod mewn lleoliad cyhoeddus, lle gall yr holl randdeiliaid fod yn rhan o'r broses. Hyd yn oed pan fo'r Llywodraeth wedi cymryd rhywfaint o gyfrifoldeb, mae wedi bod yn ymateb brawychus o wael i anghenion gofal cymdeithasol, a dim ond £400,000 sydd wedi'i ddyrannu i brentisiaethau, ac nid oes ateb yn ynghylch sut i lenwi'r bylchau.
Mae hynny'n dod a fi at y cyfleoedd hyfforddi. Rwy'n credu, mewn gofal cymdeithasol, nad yw'n ymwneud â chyflog bob tro, er bod hynny'n bwysig iawn. Mae hefyd yn ymwneud â'r hyfforddiant a phobl yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi yn eu rolau, fel bod ganddyn nhw lwybr gyrfa a rhywbeth i anelu ato. Rwy'n credu bod hynny'n beth mawr o ran cadw a recriwtio staff gofal cymdeithasol o fewn gwahanol leoliadau. Yn fy etholaeth i fy hun, rydw i wedi gwneud rhaglen o ymweliadau cartrefi gofal, ac nid yw llawer ohonyn nhw yn gweithredu ar lefel y capasiti. Efallai fod ganddyn nhw, er enghraifft, ddyraniad o 50 gwely, ond dim ond ar efallai 25 i 30 y gallant weithredu oherwydd nad oes ganddyn nhw'r staff ar gael, ac yna mae hynny wedyn yn achosi ôl-groniad yn system y GIG ac yn cyfrannu at rai o'r amseroedd aros rydym yn eu gweld a blocio gwelyau, er nad wyf yn rhy hoff o'r math hwnnw o eiriad, ond ni allaf feddwl am eiriad gwell ar hyn o bryd.
Yn yr un modd, er bod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod rôl gofalwyr di-dâl, rwy'n bryderus iawn nad yw Llywodraeth Cymru'n gweld hyn, gan roi cymorth ariannol iddyn nhw, fel blaenoriaeth. Mae'r gyllideb hon yn parhau i danbrisio, tan-wobrwyo a thanariannu ein gofalwyr, ac mae hyn i gyd yn dangos, tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn codi'r gwastad, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn gwneud llanast.
Gweinidog, mae rheoli cyllid cyhoeddus ar ôl i Liz Truss chwalu'r economi yn hynod o anodd ac rwy'n siŵr bod gennych chi gydymdeimlad llawer o Aelodau yn y Senedd yn y dasg anodd iawn hon.
Mae aelodau eisoes wedi codi nifer o bwyntiau yr oeddwn i'n bwriadu eu codi, felly dim ond dau bwynt sydd gennyf yr hoffwn i chi eu hystyried yn eich ymateb heddiw. Yn gyntaf oll, a yw'n wir y bydd yr holl gyllid a fyddai wedi cael ei wario ar y cysylltiad awyr rhwng y gogledd a'r de ac a addawyd ar gyfer gwelliannau mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd, yn wir yn cael ei wario ar welliannau trafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd, gan gynnwys Porth Wrecsam? Ac yn ail, a ydych chi'n cytuno, ymhlith y blaenoriaethau lawer sydd gan Lywodraeth Cymru yn briodol, fod gwella iechyd meddwl pobl ifanc yn gorfod bod yn bryder allweddol i bob Gweinidog pan fyddan nhw'n pennu eu cyllidebau? Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, a diolch i'r holl gyd-Aelodau am yr hyn sydd wedi bod yn ddadl ddefnyddiol iawn, yn fy marn i. Rydyn ni wedi clywed cymaint o flaenoriaethau gwahanol yn cael eu cyflwyno: deintyddiaeth, diogelwch adeiladau, chwe blaenoriaeth y Gweinidog Iechyd ar gyfer iechyd, y lwfans cynhaliaeth addysg, gweithlu gofal cymdeithasol, priffyrdd, ynni adnewyddadwy, cymorth i'r rhai sy'n gadael gofal, y Gymraeg, gwasanaethau bysiau, darpariaeth digartrefedd, cyllid fferm, iechyd meddwl a phyllau nofio. Ac rwy'n gwybod bod llawer o'r materion penodol hyn yn destun rhai argymhellion penodol gan bwyllgorau. Felly, efallai y gwnaf adael fy nghyd-Aelodau i ymateb i'r rhai hynny drwy eu hymatebion i'r pwyllgorau, ac rwy'n gwybod y byddwn ni'n anelu at gyrraedd Cadeiryddion y pwyllgorau o leiaf mewn pryd ar gyfer y ddadl ar y gyllideb derfynol. Ac roeddwn i'n meddwl efallai y byddwn i'n canolbwyntio fy sylwadau i yn fwy ar y broses, yr ymarfer ail-flaenoriaethu a gyflawnwyd gennym ac, wrth gwrs, rhai sylwadau ar dreth hefyd.
Felly, roeddwn i'n meddwl y byddwn i'n dechrau drwy gyfeirio at y sylwadau gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd yn awgrymu bod y pwyllgor wedi'i synnu ac yn poeni am y diffyg eglurder yn y gyllideb ddrafft. Rwy'n cymryd yr awgrym hwnnw o ddifrif, oherwydd rydym bob amser wedi mabwysiadu dull agored, tryloyw a chydweithredol o baratoi ein cyllideb ddrafft a'n cyllideb derfynol. Rwy'n falch iawn, fel Llywodraeth, ein bod yn cyhoeddi cyfres enfawr a helaeth o ddogfennau ochr yn ochr â'r gyllideb, ac mae hynny'n cynnwys manylion ein cynlluniau gwariant ar draws y Llywodraeth gyfan, effeithiau ein penderfyniadau, y cyd-destun economaidd yr ydym yn gwneud y penderfyniadau hynny ynddo, yn ogystal â chynhyrchion treth newydd, megis y canllaw cyflym.
Ac mae dogfennau eleni, wrth gwrs, yn datblygu yr hyn a ddarparwyd gennym ar gyfer adolygiad gwariant aml-flwyddyn 2022, ac roedd hynny hefyd yn cynnwys dadansoddiad dosbarthiadol o'n gwariant, ac roedd hwnnw'n ddarn o waith sylweddol iawn, sy'n ein helpu nid yn unig fel Llywodraeth, ac yn helpu'r Senedd hefyd, ond hefyd ein partneriaid yn y sector cyhoeddus a'r trydydd sector. Rydyn ni hefyd, wrth gwrs, yn darparu taflen gyllideb, ac mae honno'n darparu ffordd hawdd a hygyrch iawn i'n dyraniadau lefel uchel, ac rydyn ni wedi darparu taflen gyllideb i blant a hefyd animeiddiad gwych, sy'n nodi o ble mae ein harian yn dod a'r hyn y mae'n cael ei wario arno. Ac mae rhai o'r cynhyrchion hyn wedi'u datblygu ar y cyd â'n partneriaid a'n rhanddeiliaid, gan gynnwys plant, ac wrth gwrs, rydym wedi ceisio cael adborth gan gyd-Aelodau yn y Senedd dros y blynyddoedd, gan gynnwys y Pwyllgor Cyllid.
Felly, trwy gydol y gwaith o gynhyrchu'r gyllideb eleni, rwyf wedi croesawu'r ymgysylltu a'r cydweithio adeiladol yr ydym wedi'i gael gyda'r Pwyllgor Cyllid a gyda'r Cadeirydd yn benodol, ac rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda'r pwyllgor i roi manylion ein blaenoriaethau, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor o ran yr amgylchiadau heriol yr ydym yn eu hwynebu, a hefyd mynd ati i ddilyn rhai arferion gwaith cydweithredol, a dyna pam yr oeddwn i'n pryderu am y sylwadau yn sôn am eglurder. Rwy'n credu y gallai hynny gael ei ddehongli gan y cyhoedd fel ymgais i wneud y broses graffu yn aneglur, ac rwy'n credu na allai hynny fod ymhellach o'r gwir. Rwyf bob amser wedi cydnabod pwysigrwydd y broses graffu, yn enwedig ar adegau pan fo cyllid mor gyfyngedig, ac rwy'n awyddus i barhau â'r gwaith agored a chydweithredol hwnnw, ac wrth gwrs rwy'n agored i ddeall pa wybodaeth ychwanegol sydd ei hangen ar bwyllgorau i gwblhau eu gwaith craffu, ac yn edrych ymlaen at barhau â'r berthynas gynhyrchiol honno.
Un maes rwy'n credu y gwnaeth y pwyllgor ei nodi fel un y gallem ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach yn y dyfodol oedd ochr yn ochr â'r cyfrifiadau sy'n ymwneud â'r addasiad grant bloc. Felly, yn sicr, byddwn ni'n edrych i weld beth arall y gallwn ni ei ddarparu. Er bod naratif y gyllideb ddrafft yn cynnwys manylion sylweddol ar yr addasiad grant bloc, rwy'n cydnabod ei fod wedi dod yn fwy cymhleth dros amser a byddai budd, rwy'n credu, i gyflwyniad manylach o'r wybodaeth honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'r Pwyllgor Cyllid ar yr agwedd benodol honno hefyd.
Felly, wrth feddwl am yr ymarfer ail-flaenoriaethu, mae'n werth ail-bwysleisio, rwy'n credu, bod y gyllideb hon, wrth gwrs, yn adeiladu ar ein cynlluniau sydd eisoes wedi'u cyhoeddi fel rhan o'n hadolygiad gwariant tair blynedd. Felly, dim ond dros ddwy flynedd ariannol y mae'r gyllideb hon yn dyrannu £1.2 biliwn. Wrth gwrs, buom yn craffu ar adolygiad gwariant tair blynedd y llynedd. Ac, fel rhan o hynny, wrth gwrs, fe wnaethon ni ddyrannu £1.3 biliwn yn ychwanegol dros y cyfnod adolygu gwariant hwnnw i iechyd, a bron i £0.75 biliwn yn ychwanegol i lywodraeth leol, ac rwy'n credu bod angen i ni gofio hynny yng nghyd-destun yr hyn yr ydyn ni'n craffu arno yma hefyd.
Wrth gwrs, mae ein cyllideb gyfalaf yn gostwng 8 y cant mewn termau real yn y flwyddyn ariannol nesaf, felly mae clywed am syniadau ychwanegol o'r meinciau Ceidwadol ynglŷn â sut y gallem fod yn gwario cyfalaf yn anodd ei lyncu pan nad oedd yr un geiniog ychwanegol o gyfalaf yn dod yn natganiad yr hydref. Wrth gwrs, mae gan y Canghellor gyfle i unioni hynny yn natganiad y gwanwyn, ac edrychwn ymlaen at barhau i bwyso ar y Canghellor am arian ychwanegol yn hynny o beth.
Gan feddwl, yn awr, am yr ymarfer ail-flaenoriaethu, i'n helpu i ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen a chefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw, gwnaethom ymgymryd â'r ymarfer ail-flaenoriaethu hwnnw i ryddhau £87.4 miliwn o fewn y cyllidebau presennol hynny, yr wyf wedi cyfeirio atynt fel rhai y cytunwyd arnynt fel rhan o'n hadolygiad gwariant. Fe wnes i roi rhywfaint o amddiffyniad i rai meysydd, felly cafodd gwasanaethau iechyd rheng flaen, llywodraeth leol drwy'r grant cynnal refeniw, a rhan o'r gyllideb addysg eu hesgusodi o'r ymarfer hwnnw i geisio ail-flaenoriaethu ar draws y Llywodraeth, ond, wyddoch chi, mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn ymarfer mor anodd. Gofynnwyd i ni pam na allem ail-flaenoriaethu mwy o swm, ond mewn gwirionedd ar ôl i ni ddatrys hynny gwnaethon ni yn wir fynd i faes trafod torri rhai o'r rhaglenni sy'n helpu'r bobl fwyaf agored i niwed, ac rydych chi yn y pen draw yn mynd yn llwyr yn erbyn y math o agenda ataliol yr ydym ni i gyd am ei groesawu drwy dorri rhai o'r cynigion hynny.
Wrth benderfynu pa feysydd i'w hail-flaenoriaethu, roedd Gweinidogion ar draws y Llywodraeth yn chwilio am feysydd a oedd efallai'n cael eu harwain gan y galw, lle y gallen nhw, gyda risg, roi swm bach yn y cyllidebau hynny i ryddhau rhywfaint o gyllid. Roedd opsiynau eraill yn cynnwys edrych a fyddai modd terfynu neu ailddatblygu contractau neu eu lleihau o ran cwmpas. Er enghraifft, gwnes i hynny yn fy mhrif grŵp gwariant fy hun drwy ailgyhoeddi ein contract e-gaffael, a hefyd gwnaed rhywfaint o waith yn y maes hwnnw mewn cysylltiad ag apwyntiadau cyhoeddus.
Rwy'n gwybod bod Gweinidogion portffolio wedi cael rhywfaint o waith craffu da a thrylwyr iawn yn eu pwyllgorau eu hunain ar y dewisiadau a wnaethant, ond fe wnaf roi ychydig o enghreifftiau yn unig i'w rhoi ar y cofnod. Felly, yn y prif grŵp gwariant materion gwledig, roedd ail-flaenoriaethu'r gyllideb wedi'i gyfyngu i gyllid fferm y tu allan i'r cynllun talu sylfaenol. Felly, rhoddodd y Gweinidog amddiffyniad i'r cynllun taliad sylfaenol, a gwelsom bryd hynny, wrth gwrs, er hynny, ostyngiad i'r llinell gyllideb economaidd a chynaliadwyedd wledig. Er hynny, cafodd y prif grŵp gwariant hwn gynnydd o £63 miliwn drwy'r setliad aml-flwyddyn y llynedd. Mae hynny bellach wedi'i leihau ychydig o dan £9 miliwn i £54 miliwn, ac rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn gweithio drwy'r dewisiadau anodd nawr y mae hynny'n ei achosi iddi o ran rhai o'r gweithgareddau ffermio a rheoli tir. Dyna un enghraifft yn unig o'r dewisiadau anodd rydyn ni'n sôn amdanyn nhw.
Ym maes iechyd, roedd nifer o feysydd lle cafodd cyllid aildrefnu i sicrhau y gallai adnoddau ganolbwyntio ar ein gwasanaethau rheng flaen cyn belled ag y bo modd. Mae'r rheiny, er enghraifft, yn cynnwys newidiadau i'r cynlluniau ar gyfer sefydlu gweithredwr GIG, felly bydd gostyngiad nawr o ran cwmpas a chapasiti dros y tymor byr, er mwyn aildrefnu rhywfaint o'r cyllid ar gyfer y gwasanaethau rheng flaen.
Mewn meysydd eraill, rydyn ni wedi gorfod adolygu'r amserlen gyflawni, oherwydd pwysau chwyddiant, ond nid graddfa'r uchelgais, ac er enghraifft byddai hynny tra bod cynnydd rhagorol wedi'i wneud o ran cynnal y rhaglen cymunedau cynaliadwy ar gyfer dysgu, ein rhaglen i wella a datblygu ysgolion a cholegau yng Nghymru, mae'r deunyddiau adeiladu a llafur sydd ar gael wedi gweld costau'n codi tua 15 y cant, felly mae'n anochel y byddwn yn darparu llai gyda'r rhaglen honno er y bydd y swm yr ydym yn bwriadu ei wario yr un fath.
Ac, wrth gwrs, byddwch wedi clywed fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn sôn am yr ymrwymiad mewn perthynas â 20,000 o gartrefi cymdeithasol. Bydd hynny nawr yn cynnwys elfen o gartrefi y tu hwnt i adeiladau newydd sy'n cydymffurfio â gofynion ansawdd datblygu, ond mae'n amlwg, o ystyried yr heriau lluosog yn y sector a'r cynnydd mewn costau yn y gadwyn gyflenwi, a'r cyfraddau chwyddiant sy'n ein hwynebu, y gwelwn yn awr o bosibl, o reidrwydd, mwy o gartrefi yn cael eu dwyn i'r sector cymdeithasol drwy lwybrau nad ydynt yn adeiladau newydd. Ond rwy'n credu bod hynny'n rhoi cyfle da i ni gymryd camau pellach o ran tai gwag.
Yn ogystal ag ail-flaenoriaethu, byddai cael mwy o hyblygrwydd wrth gwrs yn ein cynorthwyo ni. Mae nifer o bobl wedi sôn am y taliad cymorth tanwydd. Wel, roedd hwnnw'n rhywbeth yr oedden ni'n gallu ei wneud oherwydd ein bod yn cario arian drosodd a oedd wedi cyrraedd yn hwyr iawn yn y flwyddyn ariannol yn 2021-22. Roedden ni'n gallu cario hwnnw drosodd y tu allan i gronfa wrth gefn Cymru. Roedd hwnnw'n benderfyniad pragmataidd ar ran Llywodraeth y DU, ond pe bai'r math yna o gario drosodd o gyllid canlyniadol hwyr iawn yn gallu dod yn rhan o'n ffordd arferol o weithio, byddai hynny'n ein helpu ni i wneud llawer iawn.
Does gen i ddim llawer o amser ar ôl, ond rwyf eisiau dweud ychydig eiriau ar dreth, er fy mod yn gwybod y bydd gennym lawer mwy o gyfle i siarad am hyn mewn llawer mwy o fanylder pnawn yfory. Ond mae yna argymhelliad gan y Pwyllgor Cyllid ein bod yn siarad yn fwy am y gwaith rydyn ni wedi bod yn ei wneud i ddeall y defnydd posib o wahanol bwerau codi trethi. Wrth gwrs, gwnaethom gyhoeddi ein canllaw cyflym ar dreth incwm ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, ac mae hynny'n ystyried effeithiau ymddygiadol newidiadau i'r dreth. Mae'n defnyddio amcangyfrifon Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi ar gyfer rhai elfennau, ond mae hefyd yn cynnwys rhai amcangyfrifon ychwanegol ar gyfer effaith mudo posibl ar gyfraddau treth incwm amrywiol o fewn y DU. Roedd y rheiny'n seiliedig ar astudiaeth academaidd o'r Swistir, oherwydd dyma'r procsi mwyaf priodol ar gyfer y sefyllfa yng Nghymru, er nad yw'n berffaith, ond rydym yn cynnwys hwnnw yn ein canllaw cyflym i ddeall beth fyddai'r effaith pe byddem yn codi'r cyfraddau uwch ac ychwanegol hynny o gyfraddau treth incwm yng Nghymru. Rydyn ni'n gwybod bod y newidiadau diweddar i gyfraddau treth incwm a throthwy yn Yr Alban yn rhoi'r enghraifft gyntaf honno i ni nawr o bolisïau amrywio trethi incwm o fewn y DU, ac wrth i'r manylion perthnasol ddod ar gael nawr o ran effeithiau hynny, gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o wybodaeth bellach i ni helpu i lywio ein polisi yn y maes hwn yn y dyfodol.
Ac yna, ar y cyfraddau a'r bandiau, byddai datganoli pwerau i amrywio trothwyon treth incwm yn arf polisi ychwanegol, ond rwy'n credu y byddai'n anodd iawn gwneud hynny heb ddatganoli yn llawn yr holl dreth incwm ar incwm nad yw'n gynilion, incwm nad yw'n ddifidend, a byddai hynny'n gam y byddai cyfrifoldebau trethi datganoledig Llywodraeth Cymru yn ei gymryd, ond byddai'n arwain at newid mawr iawn, iawn a llawer mwy o amlygiad i'r risg o dwf cymharol yn sail i dreth yng Nghymru a gweddill y DU. Felly, rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth y byddwn ni'n ei drafod mewn llawer mwy o fanylder yfory, ond eto, pryd bynnag yr ydym yn sôn am ddatganoli pwerau treth ymhellach, mae'n rhaid i ni wneud hynny yng nghyd-destun cydbwyso'r risg a'r budd, ond edrychaf ymlaen at ddadl yfory ar hynny.
Yn olaf, diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma. Rwy'n gwybod y bydd fy nghyd-Aelodau i gyd yn ymateb i adroddiadau'r pwyllgorau hynny, ond hefyd yn rhoi rhywfaint o feddwl a myfyrdod i'r pwyntiau pwysig a godwyd y prynhawn yma.
Cyn i mi symud ymlaen i'r busnes arall, dywedais wrth yr Aelod dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr y byddwn i'n derbyn ei bwynt o drefn ar ddiwedd y ddadl. Rwy'n deall y caiff y pwynt o drefn nawr ei godi gan yr Aelod dros Ganol De Cymru, Heledd Fychan.
Ie. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Dim ond eisiau gwirio oeddwn i, mewn gwirionedd, fy mod i wedi clywed yn gywir yn gynharach, a hoffwn ofyn am ddyfarniad, Dirprwy Lywydd, ynglŷn ag a oedd yr iaith a ddefnyddiwyd ac un ymadrodd yn benodol a ddefnyddiwyd gan Hefin David yng nghwrs y ddadl yn dderbyniol. Wna i ddim ailadrodd y geiriau, ond roedden nhw'n eithafol, yn ansensitif, ac mewn lleoliad gweithle, gellid dadlau eu bod yn gwahaniaethu. Mewn gwirionedd, dyfarnodd barnwr tribiwnlys cyflogaeth yn 2021 bod yr union yr un sylw yn amhriodol ac amhroffesiynol. Bu iddo iselhau'r ddadl, yn fy marn i, a nodweddid fel arall gan anghytundeb parchus ac mae'n sarhad ar urddas y Senedd a'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.
Rwyf wedi cael cyfle i adolygu'r trawsgrifiad ac rwyf o'r farn bod yr iaith a ddefnyddir yn gwbl amhriodol gan yr Aelod, ac ni ddylai unrhyw Aelod o'r Senedd hon ddefnyddio iaith o'r fath, ac felly rwy'n galw ar yr Aelod i dynnu ei ddatganiad yn ôl ac ymddiheuro am wneud y fath gyfeiriad yn ei gyfraniad heddiw.
Rwy'n tynnu'n ôl yn ddiffuant ac yn ymddiheuro am ddefnyddio'r term hwnnw. Y bwriad, yng ngwres y ddadl, oedd gwneud pwynt gwleidyddol. Roedd yn wamal ac yn wir roedd yn amhriodol. Yn wir, o ystyried y ffaith y tynnwyd llun un o gynghorwyr Plaid Cymru yng Nghaerffili yn dal dryll, yn bygwth saethu Saeson, y gair y dylwn i fod wedi'i ddefnyddio oedd 'gwarthus'.
Rwy'n siomedig bod yr Aelod wedi cynnwys y cyfeiriad olaf. Rwy'n derbyn ei fod yn tynnu'r datganiad yn ôl, a byddwn yn annog pob Aelod i beidio â defnyddio iaith o'r fath, ond wrth wneud hynny, peidiwch â dod â materion eraill fel yna i mewn. Rwy'n credu bod hyn wedi'i seilio'n llwyr ar yr iaith a ddefnyddiwyd yn y ddadl hon, ac nid wyf yn credu bod iaith o'r fath yn briodol mewn unrhyw ddadl yn y Siambr hon, a byddwn yn annog pob Aelod i wneud yn siŵr nad yw eu cyfraniadau'n cynnwys iaith o'r fath yn y dyfodol.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Felly, gohiriaf y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen. Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24, oni bai bod Aelod yn gwrthwynebu, caiff y ddau gynnig o dan eitem 5 a 6 eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Gwelaf nad oes unrhyw wrthwynebiad.